Caniadau (T. Gwynn Jones)/Crinddail
Gwedd
| ← Ystrad Fflur | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Gwenoliaid → |
CRINDDAIL
Beth sy'n trydar
Wrth y drws?
"Crinddail Hydref,
Ddoe fu'n dlws!"
Och! a glaned
Fuoch gynt,
Dowch i mewn
O'r glaw a'r gwynt!
Yn eich glendid
Ddyddiau gynt,
Cenid eroch
Gân y gwynt,
Wedi myned
Awr eich bri,
Gwael oedd troi
A'ch ymlid chwi!
Pam y daethoch
At fy nrws?
'Am y carut
Bethau tlws!"
Och! a glaned
Fuoch gynt,
Dowch i mewn
O'r glaw a'r gwynt!