Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Cwm Penmachno

Oddi ar Wicidestun
Cyfaill Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Ennyd

CWM PENMACHNO

Deilos haf yn fedlai sydd
Ar fedw lle bu'r Hafodydd,
A llwch fy nhadau'n llechu
Yn hir o dan yr yw du,
A mi yno am unwaith,—
Un iâs ferr rhwng dwy nos faith.


Nodiadau

[golygu]