Caniadau (T. Gwynn Jones)/Daear a Nef
Gwedd
| ← Y Gennad | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Y Cyfarwydd → |
DAEAR A NEF
ER COF AM FY MRAWD
Hir wyliai chwaer, un noswaith ddu,
With wely angau brawd;
Un arall yno'n gwylio a gaid
Nas gwelai llygaid cnawd.
O bang i bang, gwanycha'i gwyn,
A'u dwyn yn hwy ni all;
"Mae'n myned," ebr y drist ei gwedd,
"Mae'n dyfod," medd y llall.
Un cryndod hir, un isel nad,—
Dduw Dad, lonydded yw!
Medd merch y ddaear, "Marw yw ef!"
Medd merch y nef, "Mae'n fyw!"