Caniadau (T. Gwynn Jones)/Dirgelwch
Gwedd
| ← Gwir a Gau | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
→ |
DIRGELWCH.
Pe gwyddit ti pa beth wyf i,
Neu fi pa beth wyt ti,
Pe gwyddem hynny, dyna ben,
Ni byddit ti na mi.
Pan suddo haul ar hwyrnos haf
I'w wely dros y don,
Fe fydd rhyw hiraeth megis tân
Yn llosgi yn fy mron.
Mi wn, mi wn pa beth yw hyn,
Ond ni wn pwy wyt ti,
Ac er y gwyddom hyn i gyd,
Un dim ni wyddom ni.
Pe gwyddit ti pa beth wyf i,
Neu fi pa beth wyt ti,
Pe gwyddem hynny, dyna ben-
Popeth a wyddem ni.