Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Dyn a Derwen

Oddi ar Wicidestun
Y Bedd Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Y Gennad

DYN A DERWEN

Hwyrddydd haf, dan des yr awyr rywiog,
Bywyd ar ei eithaf yn y fan,
Chwarae'r ydoedd llanc penfelyn bywiog
Dan ganghennau derwen fawr y llan.

Chwarae wnaeth y bachgen nes ei flino,
Yna, distaw orwedd ar y llawr;
Gwelodd gainc o'r dderwen wedi crino,
Meddai: "Faint yw d'oed di, dderwen fawr?"

Hwyrddydd haf dan wybren glir dymherus,
Bywyd eto fyth yn llenwi'r fan,
Eiste'r ydoedd henwr yn flinderus
Dan ganghennau derwen fawr y llan.

Mawr yr oedd yr henwr wedi blino,
Distaw y gorweddodd ar y llawr;
Meddai: "B'le mae'r gainc oedd wedi crino?
Ieuanc ydwyt fyth, O, dderwen fawr."

Heno, hun yr henwr yno'n dawel,
Mae ei garreg fedd yn ddarnau'n awr;
Ond mae'r dail yn dawnsio yn yr awel—
Beth yw dyn i ti, O, dderwen fawr?


Nodiadau

[golygu]