Caniadau (T. Gwynn Jones)/Eryri Wen
Gwedd
| ← Ar y Ffordd | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Breuddwyd Dafydd Rhys → |
ERYRI WEN
Eryri wen, Eryri wen,
Hen gaer fy nhadau gynt,
Yn huno dan yr heulwen lân
Yng nghân yr awel wynt;
Pan fo'r dydd yn hir,
Yn yr wybren glir,
A'r goleuni ar dy ben,
Mynnwn huno yn dy dirion des
Am byth, Eryri wen.
Eryri wen, Eryri wen,
Dan gannaid eira oer,
Yn huno yn yr heulwen lân
Neu olau'r welw loer;
Pan fo'r nos yn hir
Hyd yr wybren glir
Y cyfodi di dy ben;
Mynnwn huno yn dy oerni glân
Am byth, Eryri wen.