Caniadau (T. Gwynn Jones)/Gwir a Gau
Gwedd
| ← Bywyd | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Dirgelwch → |
GWIR A GAU
O dywedi'r gwir didwyll,
Dywed byd nad da dy bwyll.
Oni ŵyr pawb mai gwir pur
Yw popeth fo'n y papur?
Y bryntaf peth a brintir,
Coelia. Nid gwaeth cael nad gwir.
Ofer goel, neu fawr gelwydd,
Coel o fath nas coeli fydd.
E geir Gwell, mewn gwir a gau,
Beth, ai gair, byth, yw Gorau?
O leihau'r bai, gloywir byd,
Heblaw'r bai, b'le'r ai bywyd?
Yn nulliau dyn ni ellir,
Heb rifo ar y gau brofi'r gwir.