Caniadau (T. Gwynn Jones)/Hydref (1906)
| ← Penmon | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Breuddwydion → |
HYDREF(1906)
Gwelais fedd yr haf heddyw,—
Ar wŷdd a dail, hardded yw
Ei liwiau fyrdd, olaf ef,
Yn aeddfedrwydd lleddf Hydref.
Ar wddw hen Foel Hiraddug,
Barrug a roed lle bu'r grug;
A thraw ar hyd llethr a rhos,
Mae'r rhedyn fel marwydos
Yn cynnau rhwng y conion,
A than frig eithin y fron.
Rhoddwyd to o rudd tywyll
Ag aur coch hyd frigau'r cyll;
Mae huling caerog melyn
Wedi'i gau am fedw ag ynn,
A'r dail oll fel euraid len
Ar ddyrys geinciau'r dderwen.
Ba wyrth wir i'r berth eirin
A fu'n rhoi gwawr ddyfna'r gwin,
A rhudd liw gwaed ar ddail gwŷdd
Gwylltion a drain y gelltydd?
O drawster Hydref drostynt,
A waedai'r haf wedi'r hynt?
Ai ufudd oedd ei fodd ef
With edryd i wyrth Hydref
Orau rhwysg ei aur, a rhin
Ei flasus rudd felyswin?
Edrych, er prudded Hydref,
Onid hardd ei fynwent ef?
Tros y tir, os trist ei wedd,
Mor dawel yma'r diwedd!
Nid rhaid i Natur edwi
Yn flin neu'n hagr, fel nyni;
Onid rhaid Natur ydyw
Marw yn hardd er mor hen yw!