Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Hydref (1914)

Oddi ar Wicidestun
Gwanwyn Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Gwlad Hud

HYDREF(1914)

A hydref yn troi'n waedrudd
Ddail y coed â'i ddwylaw cudd,
A gweu uwch y foel ei goch a'i felyn
Yn gaerog rwydwaith trwy'r grug a'r rhedyn,
A rhoddi ei egroes fel ambr ddagrau,
Am osglau drain y mwsogl darennau;
Ei gwrel masw hyd griawol meysydd,
A'i waedrawn gelyn draw yn ei gilydd;
A'r haul, drwy lasliw'r heli,
Yn bwrw aur lwybr ar ei li,
A'i fân donnau'n llyfn danaf,
Eto o hyd ym mreuddwyd haf,
Ffolais ar rodres a phleser Hydref,
Oni wyddwn drueni anoddef
Yr awr a ddôi i roi ar y ddaear
Efyn a hugan gaeaf anhygar;
Ba ddir wae oedd na byddai ryw addef
I minnau grwydro ym mangre Hydref,
A'i liw'n hon tra gwyliwn i
Yn dal heb ffoi na delwi!

Yna, lliw'r maith orllewin
Melyn, a aeth mal yn win;
Hyd y lan rhoes ei danbaid oleuni
Liw am y don fel pedfai fflam dani;

A hithau'r nos fel i'r ether yn nawsio
O ryw le, na bu wawr i'w oleuo,
A mwng yr hwyr am eang ororau
Yn nyddu'i laith, ebonaidd lywethau,
E ddaeth rhyw hir, ddieithr hedd
I'n daear, megis diwedd
Oes, a wybu ddwys obaith,
Ar dristion amheuon maith;
Ni wylai'r môr islaw ar y marian,
Ni rygnai'i ro, na'i gregin, na'i raean;
Ni ddôi y gwynt yn anniddig, yntau,
Na chwa i ryw igian rhwng drain a chreigiau;
Angau, a'r mawr ddistawrwydd,
Ni suai nos yn ei ŵydd!

Ar ddidro yr oedd Hydref,
Oerwyd ei waed a'i wrid ef;
Ac yno'n gêl, dan y sêr trybelid,
Marw a fu ef heb furmur o ofid;
Oddi ar wŷdd bwriodd ei aur, oedd barod,
O flaen ias gaeaf, fel unnos gawod;
Ildiodd olud ei ddeilos
A'i stôr yn awr ddistaw'r nos;
Dros y tir yn ddidrwst aeth
Lifrai welw ei farwolaeth;
A'r bore, llathrai barrug
Fel dur graen ar flodau'r grug!


Nodiadau

[golygu]