Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Pelydryn

Oddi ar Wicidestun
← Chwalu Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Gynt ac Eto →

PELYDRYN

Rhedodd allan o ryw lôn gefn gul,
Yn bennoeth, drwy'r gwynt a'r glaw;
Gwallt bach melyn, a llygad glas;
Balŵn fach with linyn yn ei llaw.

"Datod!" meddai, a'i phen bach yn gam,
Ac estyn y belen i mi;
Cwlwm go ddyrys, ond daeth yn rhydd
Ymhen rhyw ddau funud neu dri.

Un wên a gefais, fel heulwen haf,
Ac yna, i ffwrdd â hi;
Byrr fydd ei chof am y peth, mi wn,
Ond byth nid anghofiaf i.


Nodiadau

[golygu]