Caniadau (T. Gwynn Jones)/Penmon
| ← Gwlad Hud | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Hydref (1906) → |
PENMON
I W.J.G.
Onid hoff yw cofio'n taith
Mewn hoen i Benmon, unwaith?
Odidog ddiwrnod ydoedd,
Rhyw Sul uwch na'r Suliau oedd
I ni daeth hedd o'r daith hon,
Praw o ran pererinion.
Ar dir Môn, 'roedd irder Mai,
Ar ei min, aerwy Menai
Ddillyn yn ymestyn mal
Un dres o gannaid risial;
O dan draed 'roedd blodau'n drwch,
Cerddem ym mysg eu harddwch;
E fynnem gofio'u henwau
Hwy, a dwyn o'r teca'n dau,
O'u plith, ond nis dewisem,—
Oni wnaed pob un yn em?
Acw o lom graig, clywem gri
Yr wylan, ferch môr heli;
Hoyw donnai ei hadanedd,
Llyfn, claer, fel arfod llafn cledd;
Saethai, hir hedai ar ŵyr
Troai yn uchter awyr;
Gwisgi oedd a gosgeiddig
Wrth ddisgyn ar frochwyn frig
Y don, a ddawnsiai dani;
Onid hardd ei myned hi
Ym mrig crychlamau'r eigion,
Glöyn y dwfr, glain y don.
A'r garan ar y goror,
Draw ymhell, drist feudwy'r môr;
Safai'r glaslwyd freuddwydiwr
Ar ryw dalp o faen, a'r dŵr,
Gan fwrw lluwch gwyn ferw y lli,
O'i gylch yn chwarae a golchi;
Yntau'n aros heb osio
Newid trem, na rhoi un tro,
Gwrandawr gawr beiston goror,
Gwyliwr mud miraglau'r môr.
Cyrraedd Penmon ac aros
Lle taenai'r haf wylltion ros
Ar fieri'n wawr firain,
A gwrid ar hyd brigau'r drain.
Teg oedd y Mynachty gynt,
Ymholem am ei helynt,
Ag o'r hen bryd, ger ein bron,
Ymrithiai'r muriau weithion;
Berth oedd waith ei borth a'i ddôr,
A main ei dyrau mynor;
Nawdd i wan ei neuadd o,
A glân pob cuddigl yno;
Meindwr y colomendy
Dros goed aeron y fron fry
Yn esgyn i hoen ysgafn
Wybren lwys, fel sabr neu lafn;
A than y perthi yno,
A nennau dail arno'n do,
Hun y llyn hen yn llonydd
Is hanner gwyll drysni'r gwŷdd.
Ar y ffin 'roedd oer ffynnon,
Ag ail drych oedd gloywder hon;
Daed oedd â diod win
Ei berw oer i bererin.
Ac yna bu rhyw gân bêr,
Ym mhen ysbaid, mwyn osber;
Cyweirgerdd clych ac organ,
Lleisiau cerdd yn arllwys cân
I lâd nef, gan Ladin iaith;
Ond er chwilio'r drych eilwaith,
Mwy nid oedd namyn y dail
Prydferth hyd dalpiau'r adfail,
A distawrwydd dwys tirion-
Mwy, ni chaem weld Mynaich Môn!