Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Wrth eu Ffrwythau

Oddi ar Wicidestun
I un ohonynt Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Cwymp Caersalem

WRTH EU FFRWYTHAU

Garw oedd ei wyneb, a chorniog ei law
(Ysgydwais hi, do, syr, er gwaethaf y baw);
Cerddai'n ddidaro a thrwsgl hyd y dre,
Fel un cynefin â llawer lle.

Bu'n cysgu noswaith ym môn y clawdd—
Yno, mae gorwedd a chodi'n hawdd;
Y cwbl oedd ganddo oedd dimai neu ddwy
I dorri cryn newyn, a syched oedd fwy.

Prin oedd ei eiriau, a chras ei lais,
Gwybod cyfeiriad y ffordd oedd ei gais;
Clywodd yn rhywle fod gwaith ger y dref,
Lle'r oedd ar wareiddiad ei eisiau ef.

Atebais. Aeth yntau i'r meysydd draw,
Lle'r ydoedd y rhwbel a chaib a rhaw,
A chyn codi'r barrug, 'roedd yntau'n un
O fyddin y fatog a'r ordd a'r cŷn.

Ei freichiau noethion—nid eiddo grys—
Cyhyrog oeddynt, a gwlyb o chwŷs;
Yn llawn i fyny, yn wag i lawr,
Ni safai ei ferfa funud mewn awr.


Prin oedd ei eiriau, cras oedd ei lais,
Gwybod yr amser yn unig a gais;
Mae cloch yn canu, a phawb yn troi—
Bydd raid i nafi gael tamaid i'w gnoi.

Ceiniog a dimai oedd gan y gŵr,
A bwyty ei ginio o fara a dŵr;
Cinio go fychan," medd un ar draws,
A thaflu i'r estron gilcyn o gaws.

"Hwda!" medd arall, llygatgam, dig,
Ag estyn iddo ryw damaid o gig;
"Yf!" medd y trydydd a'i bot yn llawn,
"Diod go ddiflas yw merddwr mawn!"

A gweithiant felly am wythnos gron,
A'u geiriau'n brinion a gerwin, bron;
Bu un yn Affrig ac India bell,
A gwelodd amseroedd, rhai gwaeth a rhai gwell.

Bu arall, meddai, ym mhellter byd―
Symol" oedd hanes y gwledydd i gyd;
Gair ar ddamwain, a rheg neu ddwy,
A brofai belled eu cerdded hwy.

Daeth nos Sadwrn a chyda hi
Gyflog yr wythnos a deunydd sbri;
Dadlau a dadwrdd a llawer ffrae—
Rhyw fyd bach cymysg rhwng cloddiau cae.


Ar ucha'r helynt, i'r lluest daw
Y gair fod plentyn yn gorff ger llaw,
A'r tad, yng nghanol y dadwrdd i gyd,
Sibryda, "Y bachgen!" a throi yn fud.

A'r estron olaf yn cofio'r cig
A roes ei gymydog llygatgam, dig,
Trwy ganol y siarad a'r sŵn di-daw,
Mae'n mynd o gwmpas a'i gap yn ei law.

Mae pawb yn estyn ei law yn chwap
A hanner tâl wythnos pob un yn y cap;
Ni phaid y dadwrdd, ni dderfydd y broch
(Bydd rhai, syr, yn wylo drwy dyngu'n groch).


Nodiadau

[golygu]