Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Y Bedd

Oddi ar Wicidestun
Draoidheacht Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Dyn a Derwen

Y BEDD
"Nox est perpetua una dormienda."—CATULLUS.

Y Bedd, ddu annedd unig, ynot ti
Is tawel ywen frig, mae huno mwyn;
Angof a ddaeth ar ing fu ddig, a chŵyn;
Arefi bob rhyw ryfig; nid oes gri
A gyrraedd trwy dy gaerau, mwy na si
Mân sôn yr awel frau ym mrig y llwyn;
Ni ŵyr dy dduon oriau unrhyw swyn
Na hwyl a bair fwynhau ein horiau ni;
Cariad nid yw yn curo dan y fron,
Nid edwyn frad a fo yn d'angof maith;
Drwg wŷn ni odrig yno, lleddf na llon,
Un dawn nid oes dan do yr argel llaith;
Dim, oni roed mai yn yr adwy hon
Y daw ar ddyn freuddwyd nad edrydd iaith!


Nodiadau

[golygu]