Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Y Gennad

Oddi ar Wicidestun
← Dyn a Derwen Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Daear a Nef →

Y GENNAD

Collais fy ffordd wrth grwydro
Ymhell o'm cynefin dir,
Collais fy ffydd wrth frwydro
A'r gau sydd yn cuddio'r gwir.

O waelod anobaith, llefais
Am olau ar dynged dyn,
A'r unig ateb a gefais
Oedd atsain fy llef fy hun.

Dywedais yn flin nad ydoedd
Bywyd yn werth ei fyw,
Mai damwain oedd bod a bydoedd,
Mai breuddwyd dyn ydoedd Duw.

Chwerddais rhag gorfod wylo
Am nad oedd un dim ond nacâd;
Teimlais law fach im anwylo,
A llais bach yn galw "Fy Nhad!"

Gwelais ryw wawr o'r hyn ydoedd
Mor wir yn fy more iach—
Os mud ydyw'r nef a'r bydoedd,
Mae Duw ym mhob plentyn bach.


Nodiadau

[golygu]