Caniadau (T. Gwynn Jones)/Y Gynneddf Goll
| ← Argoed | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Ex Tenebris → |
Y GYNNEDDF GOLL
Un dydd o haf hirfelyn ydoedd hi
A'r byd yn llawn o dwrf yr arfau dur,
A haul o'r awyr las yn bwrw ei li
Fel ambr i adfail brydferth Ystrad Fflur,
Breuddwydio yno ennyd 'roeddwn i
Dan gysgod bedwen las a dyfai yn y mur.
Gwelwn yn dyfod ataf Fynach Llwyd,—
A mwyn weld eto un yn Ystrad Fflur,
Ag yn fy ysbryd innau fyth ryw nwyd
O gariad at yr Urdd fu gynt yn bur
I wlad fy nhadau. Rhodiai drwy y glwyd,
A'i ben i lawr a'i gam fel un a wybu gur.
Ai ysbryd oedd efô o'r dyddiau fu
I'w hen gynefin gynt a roddai dro
I weled eto olwg ar y tŷ
Yn ddarnau breg, fu gynt yn addurn bro?
Bron nad amheuwn, ond fod cysgod du
A ddôi, o gam i gam, yn nes i'w ganlyn o.
Mi welwn drem ei lygaid dyfnion dwys,
A chlywais fendith llais oedd fwyn a llawn;
Eisteddodd yntau yno ar fy mhwys,
Ac aeth yr oriau yno'n fuan iawn,
O hawl i ateb, yn y gloywder glwys,
A diau, rhyfedd oedd ei eiriau ef a'i ddawn:
"Hyd lwybrau'r hudol, obry, cerddais gynt,
Yn nwyd fy mreuddwyd am a roddai'r dydd;
Disgynnai golau gobaith ar yr hynt,
A'r antur yno a'm disgwyliai'n gudd;
Peroriaeth rhamant oedd yn sŵn y gwynt―
Ond trist oedd drengi draw dinc olaf clychau'r ffydd.
A glywn i eto fyth y beraidd dôn
Brudd dyner honno, gydag awel hwyr?
Meddyliais. Ond, meddalwch ydoedd sôn
Am gân y gloch, neu fflam y gannwyll gŵyr,
A rhyfedd fyd i'w olrhain hyd y bôn,—
Goresgyn tarth a chlai, a roddai ryddid llwyr!
Tawodd y clychau, a rhyw hanner hud
Ynof yn dal, fel ofn, ei afael ef,
A rhywbeth fel yn sibrwd im o hyd
Fod daear yno'n wir fel darn o nef,
Ond draw o bell y galwai antur byd,
A boddai adlais gwan y gloch, â'i donnog lef.
Ba waeth am ronyn? Yng nghythryflus ru
Y dref, nid oeddwn onid un o fyrdd;
Diau nad unig onid un o lu—
Unig ni bûm erioed ar fynydd gwyrdd;—
A'r golau coch yn ysu'r wybren ddu,
Difwynid hedd y nos yn nydd annistaw'r ffyrdd.
Ymwerthai ynfyd nwyf i anfad nwyd,
A ffynnai gormod rhaib ar orfod rhaid;
Ni huddai nos arwyddion eisiau bwyd
Nag ôi anobaith gwelw wynebau'r haid;
Am ofer bleser, blysiai lawn neu lwyd,
A'i waelod, wedi'r blys, oedd ludw a merfaidd laid.
Ni welwn innau hyn, o ganlyn hud
Fy mreuddwyd ieuanc; rhodiwn ar wahân;
Ceisiais y rhamant, gynt a ddenai 'mryd,
O wylio delw neu lun, neu glywed cân,
A'u nyddu hefyd yn ddihafal fyd
I foddio'r meddwl mau, heb liw ar na bai lân.
A'r duwiau defod, a'r gwroniaid gair,
Poblogais i fy nef â'u nifer maith;
A dysgais innau dermau'r dorf a geir
Yn sôn a dadwrdd, â diystyr iaith,
Am fyd celfyddyd megis byd a bair
I ddyn ymddeol byth o ffin di-addurn ffaith.
A. hir y crwydrais i yn ôl fy mryd
Hyd lannau'r byd a luniais i fy hun,
A hir y brwydrais â'r ymwybod mud
Mai ofer ydoedd myfyr adail dyn,
A bod ei ddelwau'n torri o bryd i bryd,
A'r gân felysaf fu yn troi'n ddiflasaf un.
Am rin y duwiau, mi wrandewais druth,
Hiraethais am eu rhwysg a'i harddwch o;
Am hen wroniaid yn rhodresu'n syth
Yn rhagrith ceisiwr braint neu dreisiwr bro;
Cyd buont rywrai gynt, ag ynddynt chwyth,
Aeth bri eu castiau mân yn druan yn ei dro.
Dilynais lwybr y Ddynolyddiaeth newydd
A dybiai, ond dynwared byd a aeth,
A sôn am fyw yn nhermau rhyw a rhewydd,
Y byddai ragor rhwng y coeth a'r caeth;
Ond enwi Iau ni ddaw â dyn o'i iewydd,
Ni thry mo'r caeth yn rhydd, na phrydydd dwl yn ffraeth.
Am Ryddid, clywais draethu gobaith clir
Y dôi i'r golau â dirgelwch dyn;
Mynaswn afael ar dangnefedd gwir,
A'i gael efô a'r golau fyth yn un;
Er newid termau'n hoes trwy ymwan hir,
Ni newid hynny oll anwydau dyn ei hun.
O wawdio hanes y dewiniaid fu,
A dangos cam eu coelion hwy i gyd,
Y daeth y Dewin newydd yntau'n hy
I agor dôr ar ddirgelderau byd;
I'r dyfnder obry a'r uchelder fry,
I'w chwilio trwyddyn' oll, y treiddiai hwn o hyd.
O'i amryw ddysg y dygai hwn i ddyn
Ryw lif a alwai ef yn olau gwiw;
Eglurai drwyddo'r bydoedd fry bob un,
I fymryn, rhôi ei le a'i lun a'i liw;
Yna rhyfeddai at ei gamp ei hun,—
Ac eto'r fawrddysg hon a adai'r fron yn friw.
Olrheiniodd gynnydd deunydd dyn, a rhoes
Ei rwydau mân er hudo mellt y nef;
Pellterau maith, a'i gamp yn ddim y troes,
Ag awyr las yn ufudd gario'i lef;
Oni ddôi'r gair a leddfai'r ing a'r loes
Yn nhynged dyn, ryw ddydd, o'i ddawn aflonydd ef?
Yn ôl egluro geni pob rhyw fyd,
A llwyr esbonio nad oes da na drwg,
Tynghedfen, meddai, yw y daw rhyw bryd
Y chwelir bydoedd eto'n darth a mwg,
A'u llunio eilwaith—llyna olaf brud
Dewin y chwalu mawr, o'r chwilio maith i gyd.
Trysorau anian, treisio'u rhinwedd hwy
A wnaeth a'u dwyn i weithio dan ei farn,
A'i wobr fu iddo—ba ryfeddod fwy?
O ddwyfol waith, oedd hafal hyn o ddarn?
Ond pan ddaeth drosto'r hen gynefin glwy,
Troes olud oesau fil o dan ei sodlau'n sarn.
Er nad drwg hanfod o anghenfil dras,
A dringo'n hy drwy angen, ofn, a haint,
Ai nod y dringo oedd fodloni cas
A bâr, na wybu darpar dyn ei faint
Pan gâi ar waed ei elyn greulon flas,
Pan rwygai irgig byw â chrafanc lem neu ddaint?
Er iddo am wareiddiad godi ei lef,
A honni trechu anian â'i hystôr,
Er medru hoyw ehedeg trwy y nef,
A dysgu nofiad is gwaneifiau môr,
Er maint ei lafur, a feistrolodd ef
Namyn cyfeirio grym, drwy gau neu agor dôr?
Yn ôl y boen a'r gamp i gyd, ni bu
Ond difyr fwyniant ofer funud awr,
A byw yn ôl rhyw fân ddefodau lu,
Ai gwneuthur hynny oedd y rhinwedd mawr?—
Fel ewyn a fo loyw, ac yno a ffy,
Neu wawn o'r golwg êl i gyd pan gilio gwawr.
Paham y credais innau'r ofer gri?
I beth y ceisiais i wybodau byd?
Ai fel y byddwn ddoeth, o'm holid i,
A gwenu'n falch, a sôn am goel o hyd?
Bid balch ein hoes. Beth am ei doethrin hi?
Gwybod, a gwedi gwybod, gwadu gobaith drud?
Caseais innau holl eglwysau gwlad,
A'u duw nad oedd ond syniad oer, di-lun,
A wyddai roi i bridd ddi-wae barhad,
A berroes ddall, heb air sy ddim, i ddyn,
Oni ddymuno lunio iddo lad
A meithrin hyder mwy o'i fympwy ef ei hun.
Ac o neuaddau dysg y newydd do,
Am nad oedd imi yno onid siom,
Fel eraill, ciliais innau yn fy nhro
I geisio'r gwir, ar lawer antur lom;
Hir, hir, fydd pob ymaros iddo fo
A chwilio yn y drain a'r gwyll â chalon drom.
Un hwyr gaeafol oedd, a gwyll y nos
Yn toi y byd, a'r gwynt, trwy ddagrau'r glaw,
Yn udo'n greulon hyd yr anial ros,
Megis rhyw ysbryd coll, na wyddai daw,
A'r nef ei hunan megis pedfai ffos
Yn boddi pwll y byd a'i merddwr di-ben-draw.
Ar draws siglennog ros, drwy laid a lli,
Y crwydrwn eto'n chwiliwr trwm ei fryd;
Ni wyddwn amgen, mwy, na'm bod o ri
Cyfeiliorn gad breuddwydwyr tlawd y byd,
A roddes gred ar ryw awyddus gri,
A grym eu hyder hael ar gael y gwir i gyd.
O dymestl oer y rhos agored, llwm,
Araf ddisgynnais, yn fy neuryw gur,
I lawr hyd oni ddeuthum trwy y cwm
I gysgod adfail rhyw ardderchog fur,
A grym colledig i'w gadernid trwm,
Ac yno, adnabûm weddillion Ystrad Fflur.
Ymsyniais innau: Yma gynt y bu
Loches fy nhadau, pan dywynnai ffydd
Crist ar eu dawn, cyn dyfod craster du
O'r gogledd oer, a gwywo gloyw ddydd
Y gred a wybu ag euraid obaith, fry
Gyfeirio golwg dyn o garchar priddyn prudd.
A dyma gwrr o'r deml a fyddai gynt
Yn addurnedig gan ddirnadaeth dyn,
Cyn i'w hy wanc lunio di-amcan hynt,
A gwario'i ynni i'w goroni ei hun;
Cyn treisio'r môr, cyn trosi'r mellt a'r gwynt
I ddim ond ennill brys, a blys di-bleser wŷn.
Bu yma gynt gelfyddyd benna'r oes,—
Mor draws fu anfedr heddiw wrthi hi!
Dug lawer delw o grefft a di-ail groes
I ddodi nawdd i'n salw ddyhewyd ni,
Ninnau, o'n bychan barch a'n llymrig foes,
Yn damnio rhoi, er cred, a roem er trais a bri.
I mewn y crwydrais rhwng y ddeufur ddu,—
Oered y gwyll, lle gynt bu wridog wawl!
Lle gynt y dyrchai bêr laswyrau fry,
Drwy frig yr adfail udai'r gwynt di-dawl,
Fel tristion lefau rhyw elynion lu
A flysiai ynof ladd brithgo'r colledig fawl.
Fel y bydd gŵr o'i drymgwsg wrth ddeffrói
Yn prysur geisio cofio'r breuddwyd aeth,
A hwnnw ar ei waethaf eto'n ffoi,
Fel ewyn ton a drengo ar ryw draeth,
Felly y ceisiai f'enaid i grynhoi
Drylliau'r tawelwch pell ryw ddydd i'w ran a ddaeth.
Drylliau'r tawelwch pell. Ardderchog Grist,
A oedd Ef eto'n rhodio'r byd di-ffydd?
Ai ynteu mud oedd yn y ddaear gist
Lle'i rhoes y rhai a'i carai gynt ynghudd,
A'u dagrau'n disgyn ar ei wyneb trist,
Pan oedd hi'n nos, a'r nos fyth mwy heb dorri'n ddydd?
Od oedd ef yn y bedd, gwae fi na bawn
O'm deuryw ing yn amdo'r angof mud,
Ac wedi profi'r rhin pan dorrodd llawn
Ysblander Teyrnas Nefoedd ar y byd;
Teilyngai, onid ydoedd, fod yn iawn,
A gwell ei gam, boed gam, na bywyd gwag i gyd.
Fel cri'n ôl cri, ai ofer gri fu'r Groes?
Ofer y dolur a'r dihalog fyw?
Ba un o'r byd na rôi wybodau'n hoes
Am ennyd awr o'r heddwch mwy nad yw?
Na ddofai lid, er caffael lleddfu loes
A gwae truenus ddyn ym mreuddwyd Teyrnas Dduw?
Drwy wyll y nos, a thrwy y gwynt a'r glaw,
Drwy lam fy nagrau, i'm hunigrwydd mawr,
A ddaeth rhyw lif o ddieithr leufer, draw,
Ai breuddwyd ydoedd? Ofnais. Ar y llawr
Tybygwn weled Croes. Ac yn fy mraw,
Mynaswn droi a ffoi. Fel nos o flaen y wawr.
A welais yn y golau hwnnw wedd
Yn araf ddyfod ataf oddi draw?
Ennyd a roddes imi wybod hedd
A chwâl, pan gaffer, bryder oer a braw;
Ac od oedd yntau eto yn y bedd,
Ba le yr aeth yr ofn, a'r gwyll a'r gwynt a'r glaw?
Druaned oedd na welswn innau wawr
Ei lân oleuni, gynt, ar flaen y daith,
Nid am na phrofais lawer melys awr
Wrth bris y byd; nid er gochelyd chwaith,
Y boen fu hir a'r gofid a fu fawr,
Ond am mai gwir na bu ond gwaeth na gwegi'r gwaith."
Gadewais innau'r fan, a'r haul ar ŵyr,
O dewi'r llais, a bendith yn fy nghlyw;
Ai hud yr adfail hen a'r dwyfol hwyr,
Ai pur wirionedd oedd, o ryfedd ryw?
Ni wyddwn i. Ond gwn roi'r ddawn a ŵyr
I rai, nad dibyn bedd yw eithaf diben byw.