Caniadau (T. Gwynn Jones)/Ynys Enlli
Gwedd
| ← Rhos y Pererinion | Caniadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Ystrad Fflur → |
YNYS ENLLI
Pe cawn i egwyl ryw brynhawn,
Mi awn ar draws y genlli,
A throi fy nghefn ar wegi'r byd,
A'm bryd ar Ynys Enlli.
Mae yno ugain mil o saint
Ym mraint y môr a'i genlli,
Ac nid oes dim a gyffry hedd
Y bedd yn Ynys Enlli.
Na byw dan frad y byd na'i froch,
Fel Beli Goch neu Fenlli,
On'd gwell oedd huno dan y gŵys
Yn nwys dangnefedd Enlli?