Neidio i'r cynnwys

Caniadau (T. Gwynn Jones)/Ystrad Fflur

Oddi ar Wicidestun
Ynys Enlli Caniadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Crinddail

YSTRAD FFLUR

Mae daily coed yn Ystrad Fflur
Yn murmur yn yr awel,
A deuddeng Abad yn y gro
Yn huno yno'n dawel.

Ac yno dan yr ywen brudd
Mae Dafydd bêr ei gywydd,
A llawer pennaeth llym ei gledd
Yn ango'r bedd tragywydd.

Er bod yr haf, pan ddêl ei oed,
Yn deffro'r coed i ddeilio,
Ni ddeffry dyn, a gwaith ei law
Sy'n distaw ymddadfeilio.

Ond er mai angof angau prudd
Ar adfail ffydd a welaf,
Pan rodiwyf ddaear Ystrad Fflur,
O'm dolur ymdawelaf.


Nodiadau

[golygu]