Neidio i'r cynnwys

Caniadau Buddug/Aralleiriad (''The Daffodils'')

Oddi ar Wicidestun
Gwawr (dyfyniad) Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Ar briodas (2)

"THE DAFFODILS."

(Wordsworth)

ARALLEIRIAD

FEL cwmwl ar yr awyr chweg,
Y crwydrais unwaith ar fy hynt;
Canfyddais fyrdd o flodau teg
Yn dawnsio yn y distaw wynt,
Ar fin y lle chwareuent gerdd,
Telynau fyrdd dan goedwig werdd.

Cyrhaeddent dan arweiniad Ner
Hyd lan y môr, fel byddin lu
Barhaol, fel afrifed ser,
Wreichionent yn eu llwybr fry;
Mil filoedd welais ar fy nhaith,
Yn ymwefreiddio ar un waith.

Gerllaw fe ddawnsiai'r tonnau can,
Ond ofer oedd eu hymffrost mwy,
Yr euraidd gatrawd ar y lan,
Fachludodd eu dillynder hwy.
'Roedd raid i'r bardd wrth syllu'n syn
Ymhoeni megis oen ar fryn.

A mynych pan yn gorwedd bwyf
Mewn rhyw anhunedd blin a phrudd,
Yn wael fy nhrem o dan fy nghlwyf,
Melltenant ar fy enaid cudd,
Fy nghalon chwery yn y gân,
A dawnsia gyda'r blodau mân.