Caniadau Buddug/Fy anwyl ffrynd

Oddi ar Wicidestun
Enw'r Iesu Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Cyfarchiad priodasol

FY ANWYL FFRYND

'RWY'N cenfigenu wrth y bedd
Wrth gofio'i gwyneb dengar,
A meddwl fod ei siriol wedd
Dan glo yng ngraian daear.
O! greulawn fedd, pa bryd, pa hyd,
Cei ddigon o'n hanwyliaid?
Pan gefaist hon, ce'st ddewis byd,
A dewis nef i'th goflaid.

'Rwy'n methu deall ambell dro,
P'odd llygri beth mor buraidd,
Yr ydoedd fel goleuni'r fro,
O'r bron, gan fuchedd sanctaidd.
Ond ha! Wrth gofio'r ysbryd sydd
Yn diogelu'r babell,
Pan gyfyd hwn i 'w elfen rydd,
Rhaid rhoi y pridd i'r briddell.

Wrth fyned heibio'r dawel fan
'Rwy'n methu peidio cwyno,
Er gwybod imi roddi Ann
Mewn diogel obaith yno;
Er credu, pe bae'r gwyntoedd fflwch
Eithafol yn gwasgaru,
Ceid edyn engyl gasglai'i llwch,
Er hyn rhaid im' alaru.

Nid oedd ond ysbaid blwyddyn ferr
Er bore ei phriodas;
Ond angau gyda'i feiddiol herr,
Ar fyrder wnaeth alanas;

'Rwy'n methu sylweddoli'r ffaith
Ond fod rhyw fan neillduol,
Mewn mynwent werdd gerllaw yn llaith
Gan ddagrau ffrynd mynwesol.

Ac nis gall bedd er maint ei rym,
Y dirgel glwm ddad glymu;
Mae argraffiadau serch mor llym,
Nid pridd all eu diddymu;
Ei llygad treiddgar—drych ei bron,
A'i thirion gywir wenau;
Nid ebargofir byth mo hon,
Nes caffo'r beddrod finnau.

Ffarwel, fy anwyl ffrynd ddiffael,
Pan atoch bwy'n dynesu,
Mi wn yn iawn pa le i'ch cael,
Yn rhywle'n ymyl Iesu;
Os gwelwch le yn wag ger llaw,
Pwy wyr nad fi a'i piau,
A dyna fydd ein nefoedd draw,
Cael Iesu Grist a'n ffryndiau.