Caniadau Buddug/O! Na Byddai'n Haf o Hyd

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Boreu Oes
golwg o afon a choed ar ddiwrnod hafaidd

CANIADAU BUDDUG.

O! NA BYDDAI'N HAF O HYD.

O! NA byddai'n haf o hyd,
Awyr lâs uwchben y byd,
Haul goleulan yn tywynnu;
Adar mân y coed yn canu,
Blodau fyrdd o hyd yn gwenu,
O! na byddai'n haf o hyd.

O! na byddai'n haf o hyd,
Dydd diderfyn ar y byd;
Anian mewn perffeithrwydd gwisgoedd,
Bywyd ar bob dalen bythoedd,
Ninnau'n ieuanc yn oes oesoedd;
O! na byddai'n haf o hyd.

O! na byddai'n haf o hyd,
Gaeaf mewn tragwyddol gryd :
Neb yn ofni tywydd garw,
Neb mewn poen, na nychdod chwerw,
Neb yn cwyno, neb yn marw
O! na byddai'n haf o hyd.