Caniadau Elfed (testun cyfansawdd)
| ← | Caniadau Elfed (testun cyfansawdd) gan Howell Elvet Lewis (Elfed) |
Pennod Nesaf → |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Caniadau Elfed |


CANIADAU
ELFED.
(Copyright).
LIVERPOOL
ISAAC FOULKES
BRUNSWICK STREET.
MD CCC XCV.
Ail Argraphiad.
Rhag-Nodiad.
GYDA'R Caniadau hyn rhoddir Pryddest "Gorsedd Gras," am nad oedd i'w chael ond mewn rhifyn o'r Dysgedydd; a chyhoeddir Rhiangerdd "Llyn y Morwynion," o gyfrol Gweithrediadau Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam, trwy garedigrwydd Cymdeithas yr Eisteddfod.
Y Cynwysiad
Canu gobaith
Gorsedd Gras: (Pryddest)
Hwyr a Boreu
Yn Hen cyn Ei amser
Aros a Myned
Peidiwch Holi Heddyw
Os bydd Iesu yn y Llong
Cartre'r Plant
Beth yw Gwirionedd?—(Ymson Pilat dranoeth y Croeshoeliad)
Angladd Ddiwrnod Cynhauaf
Fy Arglwydd yn yr Ardd
Y Seren a'r Mynydd
Y Gyllell Ddi-Garn
Y Llanw
Saith Tymhor Dyn
Carol Blodau'r Gwanwyn
Ar lanau y Towy
Carol Nadolig
Pan ddaw'r Nos
Colled y Bardd
Mab yr Awenau—(Der Musensohn—Goethe)
Yr Enill—(Gefunden—Goethe)
Y Gân Brydlon
Dolur Disgwyl
Newid Cywair
Olion Hanes
Nerth Bywyd Annherfynol
Yr Awr Euraidd
Eisiau Gwybod
Cymdeithion Annghofiedig
Buddug
Breuddwyd Gobaith—(In Memoriam: liv)
Penillion
Darluniau ar Gynghanedd—
Noswaith Loergan
Briallen ddiwedd Tachwedd
Diwedd Dedwydd
Nid da rhy o ddim
Yr Ywen
Pethau Gwell
Rhagorfraint y Gweithiwr
Deuoedd―
Gauaf a Chynhauaf
Poen a Phrydferthwch
Ffydd a'r Niwl
Y Nos a'i Bendith
Dau fath o Gynghor
Y Tair Rhodd—(Chwedl Arabaidd)
Dewiniaeth Olwen
Dau Ddewis
Blodeuyn yw'r Byd
Y Drws Cauedig
Englynion—
Addewid Felus
I Dduw'r Sêr, nid ofer dim
Bydolrwydd
I ba le?
Gobaith Dibrofiad
Llyn y Morwynion: (Rhiangerdd)
Coll Gwynfa
Y Ddau Frawd
Du a Gwyn
Rosalind
Adnodau'r Môr: (Cywydd)
Tri Chyfnod—
I Boreuddydd yn Eden
II Prydnawngwaith y Ddaear
III Boreuddydd arall
Ghaoil ma Chree
Mewn Tair Pennod
Machlud Haul yn Ionawr
Yn unig, Cred
Y Creulon Bach: (Breuddwyd)
EMYNAU―
I Ymdrech Deg
II Rhagorfreintiau'r Nefoedd
III "Megys yn y Nef, felly ar y Ddaear"
IV Gweinidogaeth Mab y Dyn
V Llawenydd yn ngwaith Duw
VI Angau'r Iesu
VII Ymhyfrydu yn Nuw
VIII Dyoddefaint Crist yn gysur i'w Bobl
IX Pwyso ar Iesu
X Er mwyn yr Oen
XI Y Deyrnas Newydd
Cerddi Cymru
Penyd y Bardd
Arthur gyda ni
Goleu'r Bryn yn y Glyn
Bara ar y Dyfroedd
Sub Rosa
Nodiadau
CANIADAU ELFED.
CANU GOBAITH.
NID yw'r nos—arwaf nos—
Yn difwyno glâs y nefoedd;
Nis gall canrif o dymhestloedd
Ddatod pabell seren dlos.
Nid yw'r ia, —oeraf ia,—
Yn dileu dyfodol rhosyn:
Wedi'r llwydrew, llifa'r dyffryn
Drosto i gyd yn feillion ha'.
Wedi oes—nychlyd oes,—
O anmheuon a phryderon,
Gwena oes o ddyddiau tirion
Heibio Nazareth a'r Groes.
Dad yr haf Dad y wawr!—
Ti yw Awdwr y tragwyddol:
Gad im' deimlo drwy y marwol
Gyffröadau'r eilfyd mawr.
Dysg i mi—gyda Thi,—
Ganu gobaith ar y bryniau;
Ganu am addfwynach borau
Yn ffurfafen Calfari!
GORSEDD GRAS (PRYDDEST).
(Buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Abermaw, Gwyl Dewi, 1888).
i.
A Gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd.
CYN i angel ieuanc sibrwd yn nystawrwydd pell y nef,
Cyn i flodau'r byd tragwyddol ysgwyd dan ei aden gref,
Plygodd Duw foreuau gwyn Ei feddwl yn orseddfainc fawr;
Ac eisteddodd Ei Gyfiawnder yn eneiniog yno i lawr:
Mewn goleuni digymylau aros byth mae'r orsedd hon
Llosgai'r nos ei haden ddu pe deuai unwaith ger ei bron;
Yn ei hymyl heulfyd clir yw amser a'i gysgodion oer,
Fel y dòn yn troi yn flodau arian yn ngoleuni'r lloer.
F'e arosai Gorsedd arall yn arfaethau meddwl Duw
Nid oedd dydd sylfaenu hono, nes i bechod ddechreu byw.
Nes i bechod ddechreu byw o fewn y galon ddynol wan,
Safai dyn yn ngwydd Cyfiawnder yn ddibryder, 'yn ei ran.'
Yn yr ardd mewn diniweidrwydd rhodiai Adda gyda Duw
Heb un ofn o fewn ei fynwes, a'i gydwybod heb un briw:
Ar bell lanau'r byd tragwyddol gwelai ddydd Cyfiawnder gwyn;
Hedd lonyddai yn ei enaid fel yr haf ar heulog fryn,
Ond daeth diwrnod arall drosto, diwrnod o gyfyngder dwys
Mellt y ddeddf, a fflam y farn, a chur cydwybod dan y pwys!
Uwch ei ben cymylau melldith oedd yn nosi'r wybren las
Dyna'r dydd dadguddiodd Duw golofnau talgryf Gorsedd Gras.
Plygodd seithliw dwfn yr enfys i'r orseddfainc hawddgar hon
Iawn, a chariad, a chyfamod ynddi hi ddysgleiriai'n llon:
A mwy llariaidd oedd ei llewyrch na thynerwch angel gwyn
Yn cysuro enaid ofnus obry'n nychrynfeydd y Glyn!
Gorsedd wen Cyfiawnder losgodd Wynfa gyntaf dyn i'w sail;
Gorsedd Gras sydd yn goleuo Gwynfa Newydd Adda'r ail;
Hyd gyflawnder amser Duw, pan ddaw gorseddau'r nef yn un,
A'r holl frenhiniaethau sanctaidd oll yn oll yn Nuw Ei hun.
ii.
Y mae i ni Eiriolwr gyda'r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn
WEDI i ddynoliaeth golli gwyneb Duw a gwanwyn hedd,
Gan oer grwydro yn amddifad heb un cartref ond ar fedd,
Duw agorodd lwybrau newydd o bellderau'r anial cras,
A phob llwybr yn cydgyfarfod o dan gysgod Gorsedd Gras.
O gael gorsedd, pwy yw'r brenin a gaiff eistedd ynddi hi?
Pwy gaiff ddal y deyrnwialen aur, i'w hestyn atom ni?
Ai Sandalphon loyw-galon? Y mae ef, archangel tlws,
Byth yn aros yn agosaf o'r holl engyl at y drws:
Tra maent hwy yn difyr hedfan ar adenydd llathr y wawr,
Ac yn cyffro rhyw bell dònau yn y tragwyddoldeb mawr,
Erys yntau ar y trothwy yn swn gruddfan dynolryw
Ac ni dd'wedodd air erioed, am gael swyddogaeth well, wrth Dduw!
Angel mawr yw'r angel hwnw ymostynga yn ddi fraw
Er mwyn codi dail syrthiedig hydref enaid yn ei law!
O Sandalphon ffyddlawn, ffyddlawn! caredigrwydd Duw a'r Oen!
Troi ei gefn ar fyd angylion i wynebu byd o boen!
Ni all telyn aur y seraph swyno ei dosturiol glust
Gwell yw ganddo glywed trydar torcalonus enaid trist.
Yn ei law pob gweddi egwan sydd yn troi'n flodeuyn hardd,
A'r perarogl yn gwasgaru'n esmwyth o dan brenau'r ardd.
Sanga ar y palmant aur, a'i galon gyda ni o hyd!
Yn ei lygad mae y wawr, ac yn ei law ofidiau'r byd!
Iesu, Ti yw ein Sandalphon! Archoffeiriad Calfari!
Nid oes all annghofio'r nef er mwyn trueiniaid ond Tydi!
Nid rhy arw oedd y ffordd bob cam i breseb Bethlehem,
Er mwyn casglu enaid—flodau wywent yn yr awel lem.
Clywaist weddi'r dall a'r byddar, clywaist lefain ar y môr,
Clywaist ocheneidiau'r byd yn araf—ruddfan heibio'r ddôr:
Ar y croesbren clywaist leidr yn holi am Baradwys wen,
Pan oedd llaw auafol Angeu wedi aros ar Dy ben.
Ti yw'r Brenin a'r Eiriolwr yn y nef ar Orsedd Gras
Ië, Brenin, er i Ti gymeryd arnat agwedd gwas:
Ti enillaist i ni'r Orsedd, —ar Dy enw y mae hi,
Uwch ei phen mae cysgod gwyn y Groes wnaeth nos ar Galfari;
Heb y Groes ni fyddai'r Orsedd ond drychiolaeth yn y wlad,
Lle i blentyn dori calon wedi methu gwe'd ei Dad!
Gwaed yr hen allorau gynt ddyferodd ar Orseddfainc Gras,
Aden gweddi oedd yn goch gan waed y pechaberthau bras:
Ond diflana'r gwaed dan dywyniadau coeth Cyfiawnder pur,
Fel yr eira yn Mehefin dan belydrau'r heulwen glir.
Ond pan ddaeth ein Harchoffeiriad wrth gyfamod dwyfol drefn,
Cosbedigaeth fawr ein heddwch bwysodd ar Ei sanctaidd gefn:
Plygodd dan y gofid du fel Sinai dan ddisgyniad Duw,
Rhoddodd waed Ei fron yn bridwerth dros bechodau dynol ryw.
Dyna'r gwaed sydd ar yr Orsedd yn y nef yn ngwydd y Tad,
Byth yn eiriol dros bechadur, byth yn hawlio ei ryddhad:
Ni ddiflanodd, ni ddiflana dafn o waed yr addfwyn Oen,
Tra bo oriau gwynddydd araf yn sirioli'r byd di boen.
Dyna'r gwaed sydd ar yr orsedd: a phan blyga gweddi wan
Ei hadenydd ar ei hymyl, wedi d'od o'r dwfn i'r làn,
Yn yr olwg ar y gwaed y mae esmwythder a rhyddhad;
Ac mae'r weddi ofnus, glwyfus, am gael aros yn y wlad!
Dyna'r gwaed, a dyna'r Brenin sydd yn cadw Gorsedd Gras,
Dyna'r weddi dafia flodau bendith 'nol i'r anial cras:
Pe dystawai sibrwd gweddi o fewn pyrth Paradwys bur,
Safai'r dorf yn fud, i glywed Awr y Farn yn taro'n glir;
Pe darfyddai cof Calfaria yn y pell ganrifoedd claer,
Wylai'r sant, a chrynai llaw yr angel ar ei delynaur.
iii.
Heb Ffydd anmhosibl yw rhyngu Ei fodd Ef.
Ni cha neb fyn'd at yr Orsedd ond yr hwn sy'n berchen ffydd,
Nid oes un anmheuaeth gwyneb—welw'n tramwy gwlad y dydd:
Credu Duw, a chredu'r Iesu, credu'r nefoedd wrth y Groes,
Dyna'r credu ddeil yr enaid blin i'r làn o dan ei loes.
Ni cha'r enaid lonydd funyd gan yr anfeidrolder syn
Sydd yn sangu brig dirnadaeth, fel y chwa ar wenith gwyn:
Holi'n ddwys—Pa beth yw dyn? a holi'n ddwysach—P'le mae Duw?
Mewn rhyw fyd o ofyniadau sobr yr ydym ni yn byw!
Ond mae greddf yn troi yr enaid byth i edrych fynu fry;
Y mae ffydd yn dangos iddo'r goleu yn ffenestri'r Tŷ!
Holi, chwilio, edrych fynu—gweled y goleuni pell
Teimlo anadl anfeidrolder, a hudoliaeth gobaith gwell:
Dyna'r cyffyrddiadau dwyfol sy'n cynhyrfu ffydd o hyd,
Fel mae cusan gwyn y wawr yn agor llygaid blodau'r byd:
Dyna'r cyffyrddiadau dwyfol sydd yn rhoi i weddi nerth
I annghofio ei distadledd yn yr uchelderau serth;
Ac i fyn'd at borth Trugaredd ar ei nheges yn ddi-ofn,
Wedi dysgu iaith ei Thad trwy reddf ysbrydol, gyfrin, ddofn.
Gorsedd Gras a gweddi'r ffydd yw cyfatebiaeth dwyfol Drefn:
Gras sy'n siglo cryd pob gweddi, fel y lloer y wendon lefn.
iv
Gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau.
CLYWAF lais yr oes yn holi, o dan bwys o bryder lleddf
Pa le mae swyddogaeth gweddi o fewn brenhiniaethau Deddf?
A all dyn a'i ofyn eiddil newid cyfundraethau Duw?
A all ef â'i law arafu tanllyd gylch olwynion byw?
Deddf, O Ddeddf! Y mae ei chylchdro mor ddiwyro ar ei chant
Ag yw ergyd croyw'r seraph ar ryw hoff lesmeiriol dant:
Mae y bydoedd ar ei braich yn syllu'n myw ei llygad clir
Ar ei haeliau ni ddisgynodd cysgod cwsg trwy'r oesau hir.
Croesodd drothwy tragwyddoldeb gyda'r 'Bydded' ysgafn-droed,
Ac ni ŵyr pa beth yw oedran fel mae rhai yn
cyfrif oed: Ffurfafenau ansigledig yw ei thabernacl hardd,
Cerdda drwyddynt yn fyth-ieuanc megys Efa yn yr ardd.
Hi sy'n dysgu llaw y lloer i siglo cryd y cefnfor mawr,
Hi bob dydd sy'n agor drws y dwyrain i'r fyth wylaidd wawr;
Hi sy'n cerdded llwybrau'r gwanwyn ac yn galw'r blodau 'nol,
Hi sy'n gloywi brig y gwenith, hi sydd yn gauafu'r ddol.
O frenhiniaeth faith, ddigyffro! Dystaw-ddwfn fel arfaeth Duw!
Heb wrthryfel yn ei hanes, heb annghydsain yn ei chlyw;
Heb un sibrwd teyrnfradwriaeth byth yn cyffro ar ei ffin
Yr eangder yw ei chartref, ac ni ŵyr am fod yn flin.
Weddi fechan, ofnus, beth yw dy feiddgarwch rhyfedd di?
Beth yw'r reddf ysbrydol sydd yn creu'r fath yni ynom ni?
Dyn yn codi llaw i fynu fel i arfer dwyfol drais,
Ac yn galw Deddf o'r eangderau i wrando ar ei lais!
Mae gan Dduw Ei gyfrinachau—dyddiau gwyn heb dd'od i wawr;
Yn Ei feddwl maent yn harddach na'r dadguddiad hardda'n awr:
Nid oes un amgyffred all esbonio Duw ond Duw Ei hun
Digon yw fod tragwyddoldeb goleu'n gwenu ar Ei lin;
Byth yn gwenu ac yn edrych yn Ei wyneb yn ddi-ofn,
Heb un cysgod nosddu'n agos i fwriadau'r Arfaeth ddofn.
Ac yn rhywfodd yn y canol, rhwng fflam-gylch. oedd terwyn Deddf,
Y mae lle i Orsedd Gras, a lle i weddi yn ei greddf!
Drefnodd Duw na chollid fflachiad seren bell, na berw'r nant,
Gan annghofio rhoddi deddf a lle i weddi ffydd Ei blant?
Mae gan weddi ddeddf, a'i hurddas yn ddilychwin gerbron Duw;
Mae yn troi ar gant soniarus yn mysg yr olwynion byw.
Onibai fod deddf i weddi, a braint ddwyfol ddinacâd,
Byth ni ddysgai'r Iesu i ddynion ar eu deulin ddweyd—'Ein Tad:'
Onibai fod gweddi gywir yn ei gwisg o lian main
Yn cael drws y nef yn agor, ofer loes y goron ddrain!
Awn gan hyny yn hyderus-wylaidd at Orseddfainc Gras,
Iesu Grist a ddododd hon yn gysgod rhag pob pechod cas:
Gwyddai Ef feddyliau Duw—edrychodd i'w gorddyfnder claer
Bu'n rhy hir yn mynwes Duw i wneud camsyniad mewn un gair.
Draw cyn dechreu pob bodolaeth clywodd Duw weddiau'r byd,
Clywodd lais yr oesau'n gruddfan yn y llaith dywyllwch mud;
Dododd y gweddiau oll o fewn Ei gyfundraethau pur;
Ac wrth garu'r byd, dwyfolodd holl ruddfanau dynol gur.
v
Rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio.
GORSEDD dirion, Gorsedd anwyl, Gorsedd afradloniaid ffol,
Gorsedd lle disgwylia Cariad am y rhai sy'n d'od yn ol:
Nos na dydd ni ddaw neb yno heb fod croesaw iddo ef
Nid oes porth na chauir rywbryd ond trugarog borth y Nef!
Nid oes cau ar hwn: mae Duw'n rhy hoff o wel'd Ei blant i'w gau;
A pho amlaf deuant, mwyaf yw Ei ras yn amlhau:
Mae yn caru'r llaw sy'n curo'n fynych, fynych, wrth y drws,
Ac mae'r fendith wrth ei chadw'n hir yn myned yn fwy tlws.
'Briwsion!'—llefai'r wraig o Ganaan, o dan gur ei phryder trwm;
Ond i enaid mor urddasol yr oedd briwsion yn rhy lwm!
Cadwodd Iesu'r briwsion, er i'w chalon dori bron yn ddwy,
Rhoddodd fara'r nefoedd iddi—ac ni welodd eisiau mwy!
Blinai'r galon oreu i wrando ar weddiau dynolryw;
Ond anamlder y gweddïau—dyna sydd yn blino Duw!
Y mae Cariad byth yn chwilio am gael lle i drugarhau,
Mae yn lloffa'r weddi olaf ar gynhauaf—feusydd gwae.
O! gall ffydd ddyoddef aros yn hir iawn, a gwneud yn dda:
Onid oes ar gof a chadw hanes gweddi Monica?
Draw yn nghanrifoedd boreu'r Groes
Eiriolodd Monica:
O wlad i wlad, o oes i oes,
Ei henw a barha.
'Roedd gan y fam ei chalon friw—
'Roedd ganddi fachgen drwg!
A meddwl wnaeth am gariad Duw,
Ond cofiodd am Ei wg!
Hi drodd ei gwyneb at y nef,
A gwelodd Fab y dyn;
Os nad oedd arall glywai'i llef,
Hi wyddai mwy fod Un.
Dirmygai'r mab, gweddïai'r fam,
A gwelai Duw y ddau:
Bu'n hir wrth ddrws ei Thad—ond pa'm
Bu'r drws mor hir yn nghau?
Nid oedd yn nghau! Ond Cariad gwyn
A safai'n nrws y Ty;
A phlygai lawr i wrando'n syn
Ar enaid gwan mor gry'!
Ni chai y nef annghofio'i chur,
Na'i mhab annghofio'i serch:
Trwy flwyddi maith o ddisgwyl pur
Arweiniodd Duw Ei ferch.
Bu'n wylo'r nos, bu'n wylo'r dydd,
A'i mhab heb Dduw o hyd;—
A ydoedd diwrnod olaf ffydd
Yn nosi ar y byd?
Wrth ddrws y nef angylion llon
A'i cyfarfyddent hi;
Yn syn gofynent—'Pa'm mae hon
Mor fynych gyda ni?'
Ond dal mae'r bachgen yn ddi—dduw,
Gan rodio'r llwybyr cam;
Mae'n gwawdio'r fam sy'n caru Duw,
Mae'n gwawdio Duw ei fam.
Oh, ofyn mawr! Oh, gredu mwy!
Oh! gyfrinachau Duw!
Er caru'r plant, rhaid iddynt hwy
Hir gynal calon friw!
Blynyddau oer fu'n myn'd a d'od
Dros ben gweddïau'r fam;
A hithau'n cadw at y nod
Wrth rodio'r ffordd bob cam.
Ust! beth yw'r swn sy'n deffro'r oes
Fel udgorn arian clir?
Mae tafod newydd dros y Groes,
A braich o blaid y Gwir!
Mae'r gwawdiwr yn rhoi heibio'i wawd,
I ganmol 'Dinas Duw;'
Mae'n galw Iesu'r fam yn Frawd,
Ac er Ei fwyn yn byw.
Mae plentyn hoff gweddïau'r fam
Yn blentyn Duw yn awr:
Anwylyd nef! ni chafodd gam
Er maint ei disgwyl mawr.
Mae'r bachgen drwg yn sant di nam
Yn canu am iachâd;
Ac mae'r gweddïau gyda'r fam
Yn awr yn Nhŷ ein Tad!
vi.
Pwy bynag a ddel.
DYMA Orsedd fel yr wybren, byth y'ngolwg yr holl fyd:
Mae ei deiliaid hi yn mhobman lle mae enw'r Iesu drud:
Ni wyr hi am dderbyn wyneb fwy na wyr yr haul a'r haf,
Mae ei llewyrch hynaws hi yn disgyn ar bob enaid claf.
Mae mor uchel nis gall cerub hedfan dros ei phinacl gwyn,
Mae mor isel gall y gwanaf bwyso arni'n nwfn y Glyn;
Gall y plentyn roi ei law i bwyso arni heb un nam,
Pan yn sisial yn y nos y weddi ddysgodd gan ei fam.
Dyna ryw amddifad bychan, unig, oer, fel grug y rhos,
Heb orweddfan ond yr heol, heb un cartref ond y nos:
Ar y gareg galed arw dyry'n nychlyd bwys ei ben,
Hed o'i fron rhyw weddi fach anhyddysg i'r tu fewn i'r llen!
Cysga'r ddinas fawr o'i gylch heb feddwl am ei oerni ef;
Mae y lloer yn dlws, ond nid yw hithau'n gwrando ar ei lef!
Oer yw'r byd a'r wybren lasliw, oer yw calon fawr y dref—
Ond mae'r weddi fach weddïodd yn cael cartref yn y nef.
Ac etifedd bri a chyfoeth, sydd yn d'od o uchel dras,
Ga'r un croesaw ar ei ddeulin gerbron Gorsedd Dwyfol Ras.
Dyma Orsedd yn y dymhestl sydd yn nes na'r farwol dòn;
Ni all gauaf ein gofidiau guddio llewyrchiadau hon.
Yn y tân ar ddyffryn Dura yr oedd hi yn nes na'r fflam,
Yn ei chysgod 'roedd y tri fel plentyn bach ar fron ei fam.
Treiddia'i goleu trwy y carchar i'r erchyllaf, dduaf gell,
Nes yw'r carchar a phob drws yn agor i'r Baradwys well:
Yn ei hymyl aeth yn nef ar garcharorion Philippi—
Ni allasai gorsedd Cesar sefyll rhyngddynt hwy a hi!
A oes ardal yn y famwlad, mynydd llwm neu ddyffryn bras,
Lle na fu, fel enfys Ebrill, oleu addfwyn Gorsedd Gras?
Cedyrn diwygiadau Cymru—cedyrn Gorsedd Gras i gyd
Rhai cyfarwydd iawn a Duw—anwyliaid yr ysbrydol fyd!
Mae gweddïau hen weddïwyr fel angylion yn y gwynt;
Pwy a wyr sawl bendith heddyw sydd yn d'od o'r amser gynt?
vii.
Mawr yw Dy drugaredd oddiar y nefoedd.
TRETHU mae gorseddau'r ddaear, ar eu deiliaid maent yn byw;
Parchu'r cryf a gwasgu'r gwan, a gwneuthur arfer hen yn dduw;
Cul yw'r ffordd i lys brenhinoedd, anghynefin iawn i'r tlawd;
A'r hwn sydd yn berchen llawer yno sydd yn fawr ei ffawd.
Ond am Orsedd Gras, ar roddi y mae hi erioed yn byw:
Y llaw wag yn gofyn llawer yw y llaw sy'n hoff gan Dduw!
Dyma Orsedd heb un hanes ond ei bod yn hael o hyd,
Rhamant o dosturi yw pob penod yn ei hanes drud:
Mae croniclau gweddi'n gwneuthur un o feiblau Ty ein Tad,
Ac angylion yn eu hadrodd wrth eu gilydd mewn mwynhad:
Gras yr Orsedd sydd mor aml a salmau'r Oen ar delyn sant
Milfil o fendithion goreu Duw yn llanw Nef ei blant
viii
Sicrheir HI yn dragywydd fel y lleuad.
LLAWER gorsedd fu yn dalgryf dan ymherodraethau'r byd,
Nid oes heddyw ond ei henw, fel drychiolaeth welw, fud:
Chwelir meinciau y gormesdeyrn, sethrir balchder Pharao'n sarn,
Sanga Annghof ar ei fedd nes ä ar goll hyd ddydd y farn.
Ond mae Gorsedd Gras yn aros heb un llwydni ar ei gwedd;
Mae ei harddwch yn ddigwmwl a'i gogoniant yn ddi-fedd:
Ni all bysedd llwydion amser byth dywyllu ei dwfn-liw aur,
Mwy na all adenydd eryr dori bwa'r enfys claer.
'Roedd yr un wrth ddrws yr arch pan sangodd Noah newydd fyd,
Ag yw heddyw i'r fam ieuanc sy'n gweddïo uwch y cryd;
Fel pelydrau gloew'r haul yw'r Ysgol fawr a'i heuraidd ffyn,
Byth ni siglant, byth ni threuliant dan sandalau engyl gwyn.
Fe ddaw dydd i deulu'r ddaear wel'd yr Orsedd yn fwy clir;
Ac un droed fydd ar y moroedd, ac un arall ar y tir:
Daw yr holl genedloedd i gyfarfod gweddi mawr y byd:
Bydd un gorlan, ac un Bugail, gerllaw'r dyfroedd tawel, clyd.
Ond ofnadwy iawn fydd y cyfarfod gweddi olaf oll,
Pan fydd dyn yn fud gerbron y Farn—a Gorsedd Gras ar goll!
Dyna'r pryd y daw Cyfiawnder Duw a'i Ras yn un; a syrth
Ymyl amser i'r tragwyddol llonydd. Eiddo Duw yw'r wyrth!
Ni bydd gweddi yn y nefoedd: pwy fydd yno eisiau'r hawl?
Pe bai rhywun yn gweddïo, ar ei wefus troai'n fawl;
Fel y mellt yn troi yn wlith yn nghlir dawelwch hafaidd nos,
Felly pob drychfeddwl ieuanc dry'n y nef yn emyn dlos.
HWYR A BOREU.
1.—Hwyr.
BU'M yn crwydro, Duw a ŵyr,
Yn Nghaer Salem gyda'r hwyr;
Bu'm yn holi yn mhob man
Am y Gwr sy'n caru'r gwan:
Nid oedd genyf—eiddil, gwyw,
Obaith arall am gael byw;—
O! na chawn Ei weled Ef,
Dyna ddigon dan y nef.
Aethum i Galfaria fryn,
Wedi nosi erbyn hyn;
Gwelais fan y farwol loes—
Nid oedd f'Arglwydd ar y Groes:
O! fy Iesu—meddwn i—
Beth wna f'enaid hebot Ti?
Pe cawn ddim ond gwel'd Dy glwy'
Ni arosai'r pechod mwy.
Yn y boreu gyda'r wawr
Gwelais fedd fy Arglwydd mawr;
Nid oedd yntau yn y bedd—
Wylais yno'n wael fy ngwedd:
Troais, gwelais Iesu hardd
Eto'n fyw rhwng blodau'r ardd;—
Cododd haul dros Galfari,
A goleuodd arnaf fi.
II.—Boreu.
AETHUM i'r Ardd yn llwm fy ngwedd,
I wel'd fy Arglwydd yn Ei fedd;
Ac meddwn— Dyna fangre ddu!'
Ond man mor wyn erioed ni fu.
Dywedwn ar y ffordd—Mae hi
Yn gynar iawn i un fel fi!
Ond canaf mwy tra byddwy' byw
'Does neb mor gynar a Mab Duw
Cymerais ber—aroglau drud, ——
Nid oedd mo'u heisieu yn y byd!
Yr oedd Ei ddwylaw Ef yn llawn
O flodau gwynion Dwyfol lawn.
Edrychais ar yr heulwen dlos
Yn araf wynu brig y nos;
A goleu llawer gwell na hyn
Yn dyddio ar rodfeydd y Glyn.
Gwelais y blodau dan y gwlith,
Ac angel ieuanc yn eu plith:
Y blod'yn harddaf welais i
Oedd Rhosyn ysig Calfari.
Ni ddaw preswylwyr Gwlad yr Hedd
Ond yn eu gwyn i fin y bedd:
Ond gwynach na'u hadenydd hwy
Yw'r addfwyn Oen fu dan Ei glwy'.
O Iesu! Brenin pobpeth hardd,
Lle bynag codi Di, mae gardd;
Ac ni ddaw neb i'th geisio Di,
Na dderbyn fwy na'n daear ni!
YN HEN CYN EI AMSER.
Nid wyt Ti ddengmlwydd a deugain eto.—Ioan viii. 57.
i.
O, FRENIN y blynyddau pell,
Tuhwnt i'n cyfrif amser ni,
Milflwyddi gloywon y wlad well
A welaist ac a dreuliaist Ti
Heb fyn'd yn hen!
Ti welaist y niwl—oleu gwan,
Y cyntaf yn y gwagle mud,
O'r dyddim dwfn yn codi'r lan;
A gwyliaist hwnw'n troi yn fyd,
Heb fyn'd yn hen.
Sefaist uwchben y ddaear lwyd
Ar hyd y mil canrifoedd coll,
Nes tarddodd blodau'n Nyffryn Clwyd,
Ac nes daeth dyn yn ben i'r oll—
Heb fyn'd yn hen.
Edrychaist ar Methuselah
Yn faban bychan glân ei wedd;
Ac wedi milflwydd hirfaith—ah!
Gwelaist y blodau ar ei fedd,
Heb fyn'd yn hen.
Ti glywaist Moses ar y bryn
Yn canu mewn anfarwol fri;
A gwelaist law yr Ysbryd Gwyn
Yn cau y Llyfr yn Malachi,
Heb fyn'd yn hen.
i
Ddwyfoldeb ieuanc nefoedd wen,
Tywyniad y dragwyddol Wawr,
Fath ofid lifodd dros Dy ben!
Mor fuan aethost ar y llawr
Yn hen, yn hen!
Yn ddeg ar hugaint cerddaist Ti
Dros drothwy tawel tŷ Dy fam—
'Mor ieuanc!' meddai'i chalon hi:
'Ei gadw yma wyf fi am,
Nes elo'n hen.'
O oerni rhyfedd! Mae Mab Duw
Yn gwywo 'n ngauaf dynion drwg;
Mae'r Dwyfol fel yn colli Ei liw,
Ac o dan wawd y byd a'i ŵg
Yn myn'd yn hen.
Mor hawdd fu creu y seren dlos,
Mor hawdd ordeinio haul a lloer!
Ond wrth weddïo yn y nos,
Ei hunan, ar y mynydd oer,
Aeth Iesu'n hen!
'Nid wyt Ti ddeg a deugain oed:'—
Na, dwyfol loes a dynol lid,
Fel oerni'r Hydref ar y coed,
Fu'n difa Ei anfarwol wrid,
A'i wneud yn hen!
Nid yw blynyddau'r nefoedd fawr
Yn gwneuthur un yn hen. Y mae
Angylion welsant doriad gwawr
Arfaethau Duw, cyn bod un gwae,
Heb fyn'd yn hen,
a, nid y nef; y ddaear sy'n
Heneiddio pethau goreu Duw:
Fe ddaeth Mab Duw yn Fab y Dyn,
Ac wele Ef o dan Ei friw
Cyn pryd, yn hen!
iii.
Mae pobpeth mawr yn hen. Pa oed
I gariad, i gyfiawnder, sydd?
Yr Orsedd Wen—mae hi erioed:
Mae Nef a Meddwl, Cân a Dydd
I gyd mor hen!
Mae pobpeth mawr yn ieuanc, byth:
Mae holl brydferthion gwlad yr hedd,
Fel meillion Mai o dan y gwlith,
Yn hardd bob dydd ar newydd wedd,
Heb fyn'd yn hen.
O Iesu ieuanc, Fab y Tad!
O Iesu hen, Waredwr byd!
Perffeithiwyd Di mewn poen a brad;
Bu'n prynu ni i Ti mor ddrud
Nes myn'd yn hen!
'Ei wallt Ef oedd mor wyn a'r gwlân,'
A dyna'r gwallt fu ar y groes! '
Ei lygaid oedd fel fflam o dân
'Mae 'n hen, mae 'n ieuanc, wedi'r loes;
Ieuanc, a hen!
AROS A MYNED.
GWELAIS lif y loyw nant
Yn prysuro drwy y pant;
Gwelais wyneb blod'yn bach
Ar ei glàn yn fyw yn iach:
Rhedeg, rhedeg, mae'r afonydd,
Gwell gan flodau fywyd llonydd.
Yn y nos mae canu'r nant
Fwyaf peraidd fel y sant;
Ond heb air o'i wefus dlos
Mae y blod'yn ddydd a nos:
Deddf sy'n sy'n arwain llif afonydd,
Deddf sy'n cadw'r blodau'n llonydd.
Gwelais hafaidd chwerthin haul
Ar y blod'yn gwyn a'i ddail;
Gwelais lif arianlliw'r nant
Yn goleuo drwy y pant:
Glas yw'r nef uwch llif afonydd,
Glas yw'r nef uwch blodau llonydd.
Difyr, difyr, myn'd o hyd,
Newid cân a newid byd;
Melus aros dan y bryn,
A byw gartre'n flod'yn gwyn:
Gwneud eu gwaith y mae'r afonydd,
Gwneud eu gwaith mae'r blodau llonydd.
Y mae pobpeth yn ei le
Pan yn dilyn gole'r ne':
Aros di, a bydd yn fawr;
Brysia dithau, ddydd ac awr:
Llifo at Dduw y mae'r afonydd,
Tyfu at Dduw mae'r blodau llonydd.
"PEIDIWCH HOLI HEDDYW."
—GOLYDDAN, ychydig cyn marw.
Peidiwch holi heddyw!
Gwell clustfeinio'n nghyd
Am furmuron gwylaidd
Yr anfarwol fyd.
Tragwyddoldeb esmwyth
Lifa ger fy mron—
Nid wyf am i awel
Daear grychu'r dòn.
B'le mae holl bryderon
Enaid ieuanc bardd?
Dros bob meddwl heddyw
Lili hedd a dardd.
Bu'm fy hun yn holi,
Lawer tro—Paham?
Pan yn ofni'r gwaethaf,
Pan yn cofio'r cam.
Darfu pob dadleuon;
Rhoddodd Duw ei falm:
Mae pob siomedigaeth
Heddyw'n canu salm.
Nid oes eisieu holi,
Na phryderu dim:
Duw ei hun yw'r ateb,
Mae yn ddigon im'.
Duw yn ateb pobpeth
Dyna ydyw'r nef:
Nid oes eisieu holi
Wedi ei weled Ef!
Peidiwch holi heddyw!
Dydd i farw yw:
Llaith gan wlith dystawrwydd
Yw amrantau'r byw,
Dystaw iawn yw Angau,
Fel yr eira gwyn,—
Prin y sigla dalen
Byth ar lwyni'r Glyn.
Sanctaidd ydyw marw,
Wedi Calfari:
Cyntedd tragwyddoldeb
Yma welaf fi.
Caffed Angau lonydd:
Mudan yw erioed:
Sêl tosturi'r Duwdod
Ar ei dafod roed.
Peidiwch holi heddyw!
Na foed llais na llef;
Rhag i'm henaid golli
Murmur cynta'r nef.
Mae y llen mor agos—
Gall rhyw delyn fawr
Swnio'n wanaidd drwyddo—
Gwell yw gwrando'n awr.
O! dawelwch hudol!—
Peidiwch holi dim!
Dyma gyfrinachau
Byd y seraphim!
Beth ddywedaist, —Iesu?
Methais ddal y gair
O! llefara—eto,
Anwyl Faban Mair!
Ust! dim holi mwyach —
Dyna'i ateb Ef!
Bod yn dawel, dawel,
Dyna ydyw'r nef,
OS BYDD IESU YN Y LLONG.
Os bydd Iesu yn y llong,
Er mor arwed fydd y tònau,
Fe geir gweled, gyda'r wawr,
Blant y tònau ar y glanau:
Taro tant y delyn aur
Bydd y dwylaw dynodd rwyfau.
Dued holl gymylau'r nef,
Cilied gwawr y seren olaf;
Doed gruddfanau Angau mawr
Drwy y niwl o'r dòn agosaf:
Os bydd Iesu yn y llong,
Ganol nos bydd hi oleuaf.
Er fod dychryn yn y nen,
Pan yn cofio'r Duw a ddigiais;
Er fod dychryn dan fy mron,
Pan yn cofio'r pechod bechais:
Os bydd Iesu yn y llong,
Canaf am y gofid gefais.
Wedi wylo ar y dòn,—
Wedi ofni suddo dani, —
Wedi colli'r nef yn llwyr,
Ond yn ngoleu'r mellt ohoni,—
Os bydd Iesu yn y llong,
Gwelir finau wedi croesi.
CARTRE'R PLANT.
CODODD Iesu blant i'w freichiau
Gynt yn Ngalilea wlad!
Rhoddodd hwy yn ol i'w mhamau,
Gyda'i fendith Ef a'i Dad.
Mamau eto sy'n Ei ddilyn,
Ac yn codi'r plant i'w gôl;
Y mae yntau yn eu derbyn—
Weithiau heb eu rhoddi'n ol!
Gyda'r Iesu mae hi orau
I'r rhai bychain hyn o hyd,
Cartre'r plant sy rhwng Ei freichiau,
Yn Ei fynwes gwyn eu byd!
Ond er hardded yw y Bugail
Sydd yn casglu'r wyn i'w gôl,
Adfyd mam a thad yw gadael
Iddynt fyn'd, heb dd'od yn ol!
Ceir eu gweled oll ryw forau
Fry'n yr Ardd ddi-boen, ddi-bla,
Yno'n chwareu rhwng y blodau,
Byth yn nghwmni'r Bugail Da:
Canant iddo am eu codi
O'r tymhestloedd blin i'w gôl;
Ac fe gana eu rhieni
Am na chaed y plan yn ol!
BETH YW GWIRIONEDD?
(YMSON PILAT, DRANOETH Y CROESHOELIAD).
"Efe a ofnodd yn fwy."—IOAN xix. 8.
"BETH yw Gwirionedd?"—gofynais, ddoe, o chwerwder fy mron;
Beth yw Gwirionedd—heddyw, yw gwasgfa y galon hon.
O! fel mae'r niwl yn llwydo bywyd, a'i oriau aur;
A ninau yn gruddfan am oleu, heb neb yn ateb gair.
Ai marw y duwiau oll, heb gofiant na gair o'u hynt?
Ai nid yw Gwybodaeth ond deilen yn siglo a gwywo'n y gwynt?
Paham y bu raid i mi wynebu'r fath berygl mawr?
Ai duw oedd Efe fu mor agos? O! f'enaid, plyg hyd y llawr!
Mae'n farw heddyw. Yn farw! A phwy all ryfela â'r bedd?
Dywedwch fod Pilat yn flin—a chroes yn melldithio ei hedd.
Mae ef yn ei fedd mewn gardd, yn nghwmni y blodau mwyn:
Gadawodd ei groes ar ol, a minau sy'n gorfod ei dwyn.
Mae nos fy ofn yn blygion ar led y wybren dêr,
Ac yn y nos y mae croes yn gwasgu ar wefus y ser.
Ai hwn yw dydd Sul yr Iuddewon?—melldith fo ar eu pen!
Doed arnynt ofid y gŵr a welsant yn friw ar y pren!
Boed swn ei ruddfanau mawr am byth yn eu dilyn hwy!
Ond beth a wnaf fi? p'le troaf am awr o lonyddwch mwy?
Pe cerddwn i fil o filltiroedd, ni cherddwn o olwg ei groes;
Pe croeswn i Acheron oer, annghofiwn i byth mo'i loes.
Ei groes sydd yn lletach na'r byd, ei groes sydd yn uwch na'r haul;
Ei groes sydd ar fy enaid, fel llwydrew'r nos ar y dail.
Iesu o Nazareth! beth yw gwirionedd? ai hyn, i mi,
Fod Pilat i aros byth yn y nos ar Galfari!
Ddoe, O mor ddystaw ydoedd, yn nghyffro y dymhestl gref!
Heddyw, Efe sy'n siarad; ni chlywaf fi neb ond Ef.
Bryderon di-aden, ewch! gadewch i mi weled rhyw ddydd:
Na flinwch ffenestri fy meddwl—fy einioes yn glwyfus sydd.
Ai dyma ddewrder Rhufeiniwr, dan arwydd Cesar fawr?
Ar Iuddew, a chroes, a Barabbas syrthied melldith yn awr!
A melldith ar dduw? Duw! beth os mai duw ydoedd ef?
Beth yw Gwirionedd? Mae'n nos—yn y bydyn y nef!
O, ddoe ddïalw yn ol! O, heddyw'n ofnadwy gan waed!
Yforu—O dduwiau mudan! Yr hyn a wnaed, a wnaed.
ANGLADD DIWRNOD CYNHAUAF.
HEDFAN, hedfan mae yr awel
Dros y gwenith gwyn;
Ac mae'r haul fel cysgod angel
Ar y bryn.
Ond rhaid marw ddydd cynhauaf,
A rhoi'r cryman lawr;
Rhaid i ddyn, pan fo brysuraf,
Gwrdd â'i awr.
Dydd yr angladd! O mor dywyll!
Sabbath Angau yw:
'Heddyw, rhaid i'r gwenith sefyll',—
Medd y byw.
Rhaid i'r beddrod gael ei ddiwrnod,
Yn wythnosau'r byd:
Fe geir awr gyfleus i drallod,
Unrhyw bryd.
Araf, araf cerdda adfyd
Heibio'r gwenith gwyn:
Tra mae'r haul yn taenu hawddfyd
Dros y bryn.
Ust! mor drist yw swn y canu,
Ar y ffordd i'r bedd;
Tra mae'r blodau yn anadlu
Perffaith hedd.
Ar bellderau tragwyddoldeb
Mae fy wyneb—dyna daith!
Ond mae'r Duwdod a'i ffyddlondeb
'R un mor faith.
Yn y glas y mae'r ehedydd,
A'i flodeuog gerdd,
Ar ei ffordd i'r nef, fel salmydd
Daear werdd.
Nês na ni at fyd angylion
Yw'r caniedydd bach;
Nes at fyd y pethau gwynion—
Y byd iach!
Caned yn yr angladd, caned—
Caned uwch y bedd!
Yn y gwenith, heddyw süed
Awel hedd!
****
Erys, er i'r gweithiwr farw,
Ei lafurwaith ef;
Sôn am dano mae pob erw
Wrth y nef.
Aed ei elor heibio'n araf,
Dan yr amwisg ddu:
Ond fe ddywed ei gynhauaf—
'Gweithiwr fu.'
Os yw'r llaw fu'n hau y gwenith,
Yn yr amdo'n gaeth,
D'wed y d'wysen dan ei bendith,
Beth a wnaeth.
Os ei gryman geir yn segur
Heddyw dan y tô,
Gwelir eto ddyddiau prysur
Yn y fro.
Y mae'r byd yn fwy na'r beddrod,
Dyn yn fwy na'i oes;
Ni châ gwaith y gweithiwr ddarfod
Gyda'i loes.
Ar dymhestlog frig y gauaf
Deilia mwynder ha':
Cofia Duw o hyd gynhauaf
Pethau da.
Canwn eto lawnach nodau,
Wrth roi'r corph i lawr:
Bydd—'Bydd myrdd o ryfeddodau,'
Gyda'r wawr!
Dewch yfory â'r crymanau,
Dewch yn gryno i gyd:
Sabbath byr yw Sabbath Angau
Yn y byd!
Dewch—bydd yno law yn eisieu!
Bydd ein gruddiau'n llaith;
Dyna gyfle i ni ddechreu
Mwy o waith!
FY ARGLWYDD YN YR ARDD.
i.
I MEWN dan y coed fy Arglwydd aeth
Yn y nos yn ngoleu'r lloer;
Gweddio'n ddyfalach, ddyfalach, wnaeth
Dan y coed ar noson oer:
Edrychodd, a gwelodd Galfaria gerllaw;
Cymerodd y cwpan—a chrynodd Ei law,
Ar y noson oer, yn ngoleu'r lloer.
ii.
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth
Yn y nos yn ngoleu'r lloer;
'Roedd y byd yn ddrwg—a dyn yn waeth,
Dan y coed ar noson oer:
Dyn yn ddideimlad fu'n rhoddi y briw
I enaid dolurus gofidus fy Nuw,
Ar y noson oer, yn ngoleu'r lloer.
iii.
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth
Yn y nos yn ngoleu'r lloer;
I mewn ar Ei ol y bradwr ddaeth
Dan y coed ar noson oer:
Bu'r cusan yn oerach, yn oerach na'r nos,
Yn llymach na rhew—wynt y gauaf ar ros,
Ar y noson oer, yn ngoleu'r lloer.
iv.
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth
Yn y nos yn ngoleu'r lloer;
O hafddydd Paradwys yr Angel ddaeth
Dan y coed ar noson oer:
'Roedd aden yr Angel mor wyned a'r wawr,
A gwaed fy Ngwaredwr yn goch ar y llawr,
Ar y noson oer, yn ngoleu'r lloer.
v.
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth,
A'r nos yn ofnadwy oer:
Cyn gweled nos arall bu arno'n waeth
Na'r gofid yn ngoleu'r lloer!
Bu farw'r prydnawn—a bu farw ar bren!
Gogwyddodd fy Arglwydd anfarwol Ei ben,
Heb haul na lloer—a'r byd yn fyd oer.
vi.
I mewn dan y coed fy Arglwydd aeth,
Yn y wlad nad yw byth yn oer;
I ganol Paradwys fy Arglwydd ddaeth,
Lle na raid wrth oleu'r lloer:
Y cariad fu'n caru pechadur erioed
Yw cân y mil miloedd dan gysgod y coed,
Heb oleu y lloer, na nos byth yn oer!
Y SEREN A'R MYNYDD.
DYRCHA'r Eiger fry ei ysgwydd wen
I'r wybren;
A phelydra heno, uwch ei ben,
Un seren.
Er mor rhychiog, siriol yw yr hen-
Hen fynydd;
Ac mae'r seren-hynach fyth-a'i gwên
Fel gwawrddydd!
Dan y seren mae yr eira'n lluwch
Tragwyddol;
Tra o'i chylch mae'r mân gymylau'n fluwch
Diflanol.
Ganwaith, rhyngddi hi a'r mynydd, aeth
Tymhestloedd;
Ond ar ol y dymhestl arwaf, daeth
Ail nefoedd.
Gwywa'r cwmwl mellt a'r ddryghin ddu
O'r lasnen;
Ond y mynydd sydd yw'r mynydd fu-
A'r seren.
Pa sawl un, o oes i oes, fel hyn
Fu'n gwylio
Goleu'r seren uwch y mynydd gwyn
Cyn heno?
Aethant hwy; af finau: wedi'r dydd
Daw'r hirnos;
Ond cymundeb nef a mynydd fydd
Yn aros.
Pa ryw frawd i mi, mhen oesau, ddaw
I ieuo
Yr un seren fry a'r mynydd draw,
Fel heno?
Gwn y daw ar frig rhyw ganrif bell,
Oleuach,
I gyfuno natur oll mewn gwell,
Cyfathrach.
Dyn sy dan y nef i agoshau'r
Pellderau;
Yn ei feddwl mae dolenau aur
Yr oesau.
Cilied bànau'r byd a lampau'r nen
Fel cwmwl:
Aros wnant ar fythol ddalen wen
Y Meddwl.
GRINDELWALD, Gorphenaf, 1892.
Y GYLLELL DDI-GARN.
A CHYNEDDF a oedd ar y gyllell . . . i thrigodd carn arni fyth: ac wrth hyny y tyfodd haint ynddo ac o hyny y bu farw.—Culhwch ac Olwen.
BETH er fod y llaw yn hoyw?
Beth er fod y dur yn loyw?
Os na cheir y carn i'w thrin hi,
Melldith fydd y gyllell ini.
Bendith wedi myn'd yn farn
Yw y gyllell fo'n ddi-garn.
Pan fo'r min yn troi'n fradwrus,
A phob ergyd yn llechwrus,
Mae y llaw yn nychu, nychu,
Ac mae'r meddwl yn clafychu.
Bendith wedi myn'd yn farn
Yw y gyllell fo'n ddi-garn.
Beth wna'r dalent ddysglaer, fywiog,
Pan fo'r nwydau yn afrywiog?
Beth all llenor heb gallineb
Ond rhyw gellwair a thrychineb?
Bendith wedi myn'd yn farn
Yw y gyllell fo'n ddi-garn.
Os heb bwyll, ni bydd digonedd
Ond cyfleusdra afradlonedd:
Pan fo'r aur yn pwyso drymaf,
Bydd yr haint yn lladd gyflymaf.
Bendith wedi myn'd yn farn
Yw y gyllell fo'n ddi-garn.
Gall manteision fagu heintiau—
Fe all dynion farw o'u breintiau!
Gall mai ynom mae y gelyn
Rwystra'r llaw i chwareu'r delyn!
Bendith wedi myn'd yn farn
Yw y gyllell fo'n ddi-garn,
Y LLANW.
Mae'r llanw yn d'od i fynu yr afon;
Ac anadl y dòn yn lleitho'r awelon.
Mae'n d'od heb gymaint a gofyn cenad—
Pwy wyr paham, oni ŵyr y lleuad?
Mae'n d'od, mae'n d'od—a blodau'r ewyn,
Megys briallu y môr, yn ei ddilyn.
Mae'n llifo ar led o geulan i geulan,
A'i wynion fanerau yw edyn y wylan.
Mae'r llanw yn d'od; a swn y Werydd
Yn murmur heibio'r pentrefi llonydd.
Mae'r plant yn clywed, wrth chwareu'n ddifyr,
Alwad o bell,—heb ddeall ei hystyr.
Rhaid myn'd rhyw foreu i lawr yr afon,
I wyneb y môr, i frwydrau dynion.
Mae'r llanw yn d'od: a'r llong fu'n segur
Yn codi hwyliau i fyn'd i'w hantur.
Beth ddaw ohoni a'i hwyliau gwynion?
Weithiau ddaw'r llong ddim yn ol i'r afon:
Mae'r llanw yn d'od, a rhai wedi ei golli—
Ac O! fe ga rhywrai adref eu siomi!
Heno bydd llygaid ieuainc yn ddagrau—
Llonach fydd croesaw y llong yn y borau.
Mae'r llanw yn d'od: a'r llong a faeddwyd
Heno'n d'od 'nol, fel afradlon i'r aelwyd.
Beth os yw creithiau y garwfor arni?
Er mor anafus, hyfryd ei gwel'd hi!
Mae'r llanw'n d'od fynu, yn mhellach na'r llongau,
Gan furmur heibio y gwenith a'r blodau.
Yn araf mae'n d'od trwy y dyffryn tawel,
Gan lifo rhwng dail y gangen isel.
Arafa; llonydda; a phaid a llifo—
Bererin y glasfor, wedi blino!—
Yn mhell o gartref, ac wedi blino;
A chysgod y graig megys amdo drosto.
****
Ond ust!—dyna'r môr yn galw adref;
Yn nghanol y bryniau cynhyrfa'r adlef:
Ac adref, adref y llifa'r llanw;
Myn'd adref dan ganu—mae'r môr yn galw!
SAITH TYMHOR DYN.
(Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1880)
1
BABANDOD—byw heb un-don—o ofid
Yn gorlifo'r wenfron;
Yn y golwg mae'r galon
Yn siarad drwy'r llygad llon.
2
Y plentyn i'r dyn sy'n dad, —i'w ysgol
Ymlusga yn ddifrad;
Uwch difyrwch difwriad
Oriau hoen a wertha'n rhad.
3
Ienctyd têr! amser i ymson, —a byw
Mewn byd o freuddwydion:
Darfelydd dry ofalon
O fro haf cariadus fron.
4
Paradwys y priodi—heibio ä,
Daw bywyd o ddifri:
Llwybrauaur, ffordd enill bri,
Lanwant y darlun-leni.
5
Yn oedran ein haddfedrwydd—y profiad
Yw'r prif weinydd ebrwydd;
Rheswm sobr a sioma swydd
A mil-ryw raith gwamalrwydd.
6
Henaint oer sydd yn tori—ei enw
Ar wyneb pob asbri:
Y funyd a fu heini,
Yn ara' iawn 'nawr ä hi.
7
Diweddnod y cyfnodau—rydd arwydd
O oer auaf angau;
Dyn gwyd o fyd breuddwyd brau
I'r byd mawr heb dymhorau!
CAROL BLODAU'R GWANWYN.
MAE'R Gwanwyn yn y berllan,
Mae'r Gwanwyn ar y ddôl;
A swn ei delyn arian
Yn galw'r blodau'n ol.
Y mae'r cymylau trymion
Yn dechreu ysgafnhau;
Ac mae'r boreuau llwydion
I'w gweled yn iachau.
Dan fys y Gwanwyn tirion
Fe egyr dorau'r dail;
Ac o ffenestri gwyrddion
Mae'r blodau'n holi am haul.
Tòn lifa o wyrddlesni
I lawr dros lethrau'r fron;
A gwyn yw blodau'r syfi
Ar frig y werddlas dòn.
Yn ngolwg pethau tlysion
Mae serch yn adfywhau;
Agorir yn y galon
Y drws fu'n hir yn nghau.
Mae yn y nef yn wanwyn,
Mae'n wanwyn ar y bryn:
A chlywir swn ei delyn
Yn nghonglau dyfna'r glyn.
Dyhidla ei lawenydd
Ar fynydd ac ar ddôl,
A salmau'r bywyd newydd
A genir ar ei ol.
Ust! tewi mae y delyn
Yn niwl y bryniau pell:
A murmur ola'r Gwanwyn
Yw—Adgyfodiad Gwell!
AR LANAU Y TOWY
Ar lànau y Towy,
Dan lasiad y dydd,
Mae'r niwl yn y dolydd,
A'r bronydd dan gudd:
Ond gwella mae'r diwrnod
Yn ngwenau yr haul,
A sigla yr awel
Y gwlaw ar y dail:
A llawer i ofid, a llawer i gur,
Newidia'n ei hanes i'r galon sy bur:
Mae'r diwrnod yn gwella, a hindda a gawn;
Daw heulwen a hawddfyd a hafaidd brydnawn
Ar lanau y Towy
Daw gauaf i ben;
Siriola y dolydd
Dan lesni y nen:
Addewid am feillion
A llygaid y dydd,
Yn gwenu drwy'r llwydrew
Ryw foreu a fydd.
A llawer i ofid, a llawer i gur,
Newidia'n ei hanes i'r galon sy bur:
Mae'r diwrnod yn gwella, a hindda a gawn;
Daw heulwen a hawddfyd a hafaidd brydnawn
Ar lanau y Towy,
Trwy gwmwl y nos,
Ceir goleu caredig
Gan seren fach dlos:
Ac wedi hir ddisgwyl,
A'r hiraeth yn fawr,
Mae mwy o drugaredd
Yn nhoriad y wawr.
A llawer i ofid, a llawer i gur,
Newidia'n ei hanes i'r galon sy bur:
Mae'r diwrnod yn gwella, a hindda a gawn:
Daw heulwen a hawddfyd a hafaidd brydnawn.
CAROL NADOLIG.
Os na chawn weled blodau Mai
O gylch ein tai, Nadolig:
Mae'n well na blodau ar bob llwyn
Gael cyfaill mwyn caredig.
Os na ddaw'r wenol yn ei thro
O dan y tô ddydd Calan;
Mae gwel'd y plant sy'n byw yn mhell,
Yn well na'r hâf ei hunan.
Llawenydd sydd ar bobpeth hardd,
Ar flodau gardd, ac adar:
Ond gellir byw heb flodau'n hir,
Lle cedwir calon hawddgar.
Mae carol Bethlehem o hyd
Yn suo cryd gobeithion;
Mae yn Nadolig yn mhob man
Lle genir anian raslon,
PAN DDAW'R NOS.
PAN ddaw'r nos, â'i bysedd tawel
I ddadwneud cylymau'r dydd;
Bydd yr hwyliau yn yr awel,
A meddyliau'n myn'd yn rhydd.
Ni gawn ado'r glànau llwydion,
A phryderon dynion byw;
A bydd gofal ein breuddwydion
Ar yr angel wrth y llyw.
Yn ddidwrf, mewn myrdd o fydoedd,
Nofia'r nefoedd heibio i ni;
A darlunir i'n hysprydoedd
Nefoedd arall yn y lli.
O! mor esmwyth, O! mor dawel
Fydd mordwyo gyda'r nos!
Myn'd o flaen rhyw ddwyfol awel,
Adref at y wawrddydd dlos!
COLLED Y BARDD.
AETH Prydydd un hafddydd
Yn ngoleu yr haul,
I segur rodiana
Rhwng blodau a dail:
Bu'n gwrando ar furmur
Y ffrydiau'n y coed,
Nes clywodd beroriaeth
Na chanwyd erioed;
Bu'n edrych ar swyn
Y rhosynau dan wlith,
Nes teimlodd farddoniaeth
Nad odlir hi byth.
Breuddwydiodd, fel Hywel
Yn nghoed Dinas Bran,
Am ganu ar garu,
Am garu ar gân.
Rhwng pobpeth â'u gilydd,
Annghofiodd ei hun,
Wrth feddwl am flodau,
Am odlau, a mun:
Diofal dan goedydd,
A'r hirddydd mor hardd,
Fe gollodd ei galon
Yn union fel bardd.
Daeth geneth fach hawddgar,
Yn ngoleu yr haul,
I chwilio am drysor
Rhwng blodau a dail:
'Roedd rhosyn Mehefin
Ar ddwyrudd y ferch,
A'i llygaid yn llenwi
O addfwyn swyn serch:
Wrth ganu, fe welodd
Y galon ar goll:
'Gwna degan go lew'—
Meddai hi—dyna'r oll.
Bu dadleu, a llawer
O firi'r un fèl;
Y prydydd o ddifri,
A'r eneth yn ffèl:
Wrth chwareu a dadleu,
Meddyliodd y fun
Mai goreu f'ai cadw
Y galon ei hun:
Ac yntau, beth all'sai
A'r eneth mor hardd?
Fe gollodd ei galon,
A'r ddadl—fel bardd.
MAB YR AWENAU.
(Der Musensohn—GOETHE).
Trwy'r cae a'r coed rhodianaf,
A'm cân fach a chwibanaf,
Nes gwelir pobpeth hardd
Fel wedi ei drydanu
I gadw amser canu,
I ddilyn odlau'r bardd.
'Rwy'n canu cyn dechreuo
Un ardd na phren flodeuo,
Cyn glasu dim o'r ddôl:
Mae hwyl ar fy mreuddwydion
Yn nghanol dyddiau llwydion
Pan ddelo'r Gaua'n ol.
Trwy'r rhew a'r manau dyrus,
Ond canu'm cân ddifyrus,
Y Gaua'n flodau fydd:
Os gwywa'r blodau hyny,
Fe welir draw'n tywynu
Lawenydd arall ddydd.
Mor effro, ond im' nesu,
Yw'r llanciau a'r llancesi
O dan y llwyfen werdd;
Y penwan a ymchwydda,
A'r eneth swrth ymnydda
I ddawnsio gyda'r gerdd
Mae edyn wrth fy sodlau,
A gyrir fi a'm hodlau
Yn mhell dros fryn a dôl:
Awenau hoff, caredig,
Pa bryd caf fi,'r blinedig,
I'ch mynwes dd'od yn ol!
YR ENILL.
(Gefunden.—GOETHE).
MI ês i'r goedwig
Yn ddiddan fy mryd,
Heb feddwl i geisio
Dim yn y byd.
Blodyn bach welais
Yn y cyhûdd,
Ddisgleiriai fel seren,
Fel llygad o'r pridd.
Meddyliais ei dori;
Ond meddai yn ffèl—
"At wywedigion
Oes raid fy hèl?"
Yn wraidd a chyfan
Cloddiais y tlws,
I'w roi wrth y palas
O flaen y drws;
Plenais ef yno
Mewn man bach clyd
Briga, blodeua,
O hyd, o hyd.
Y GAN BRYDLON.
CANU mae fy hoff aderyn
Ar helygen yn y cwm,
Pan fo'r caeau heb flodeuyn,
A phob pren yn myn'd yn llwm:
Twrf yr afon yn ddigofus
Ruthra dros y gareg wen;
Yntau'n canu mor fin—felus,
Am fod nefoedd uwch ei ben.
Cana eto ryw ben borau,
Pan fo'r gwanwyn yn y coed;
Pan wna'r wyn, a'r plant, a'r blodau
I bob bryn annghofio'i oed;
Deued haf a deued hydref,
Beth yw hyny lle bo hwyl?
Gall pob peth sy'n edrych
Adref Pryd y myno gadw gwyl.
DOLUR DISGWYL.
Alaw:—Y BRYTHON
O GANOL y drain
Yn nghornel y llain,
Mwyalchen ddiofal
Sy'n cynal ei sain;
Dan fendith yr hwyr,
Am ddolur ni ŵyr—
Mae'n canu ar galon iach:
A minau mor brudd,
Mor welw fy ngrudd, —
Ah! gofid pob gofid
Yw'r gofid dan gudd!
Nis gallaf ddweyd pam
Wrth dad nac wrth fam;
Ond gwn mod i'n cerdded
I'r bedd bob yn gam:—
Tawela, galon fach!
Dystawodd y sain
O ganol y drain;
Daw'r hirnos yn ddiddos
Dros flodau y llain:
Ond, boreu neu hwyr,
Fy nghalon ni ŵyr
Beth ydyw curo'n iach.
Pe deuai rhyw un
Anwylaf ei lun,
I'm galw yn eiddo
Am byth iddo'i hun,
Newidiai fy myd
Yn ganu'r un pryd;
Cawn alaw fwy hawddgar
Na'r adar i gyd:—
Tawela, galon fach!
NEWID CYWAIR.
MAE Y dòn yn dawel, dawel,
Tra la la:
Nid oes gwmwl ar y gorwel,
Tra la la:
Ninau'n gadael Cymru lonydd,
Am ardalau newydd, newydd,
Tra la la.
Seren loyw, drwy y nos,
O'th diriondeb gwena arnom;
Gwena hefyd, seren dlos,
Ar y bryniau a adawsom.
Dyma ni yn mhell o Gymru,
Tra la la:
Ac mae'r nos yn arw o'n deutu,
Tra la la:
Mae y dòn yn chwyddo, chwyddo,
Mae y storm yn ocheneidio,
Tra la la.
Seren loyw, mae yn nos,
Pam nad wyt yn gwenu arnom?
Doed a ddelo, seren dlos,
Cofia'r bryniau a adawsom.
Gymru anwyl, croesaw eto!
Tra la la:
Dyma ni'n d'od 'nol o grwydro,
Tra la la:
Mae y môr yn murmur canu,
Ac mae'r dydd yn dechreu glasu,
Tra la la.
Seren loyw, cilia'r nos,
Cilia dithau bryd y mynot:
Er mor hoff wyt, seren dlos,
Hawdd yw 'nabod Cymru hebot!
OLION HANES.
i.
Pwy sy'n d'od i fin y Llwchwr,
Gyda'i gwrwgl ar ei gefn?
Pwy sy'n rhwyfo mor ddi-ddwndwr
Drwy yr afon lydan, lefn?
Pa anwadal ddawn sydd iddo?—
Wedi blino'i fraich wrth rwyfo,
Trŷ, cyn glanio, 'nol drachefn.
Yn ei nwyfus lygaid duon
Mae goleuni'r mabinogion,
Mae'n breuddwydio ar ddihun.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
****
Dyna'r Celt—medd gwefus Hanes:
Medd y bryniau—DYNA DDYN.
ii.
Pwy sy'n d'od i fin y Llwchwr,
Gyda'i darian yn ei law?
Mae ei 'bont' yn croesi'r llifddwr,
Drosti cerdd i'r ochor draw.
Mae ei 'balmant' ar y mynydd,
Mae ei 'aradr' yn y meusydd;
Fel ei 'eryr,' mae'n ddi-fraw.
Ysgrifena ddeddf â'i fysedd,
Bery'n hwy na deg can'mlynedd
Mae am ieuo'r y byd yn un.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
****
Y Rhufeiniwr—meddai Hanes:
Medd y bryniau oesol—DYN.
iii.
Pwy sy'n d'od i Gastell Llwchwr,
Ar ei farch, mewn arfau dur?
Gwêl, yn llygad y breuddwydiwr,
Gyfle i ladrata'i dir!
Gall ddyoddef, heb roi fynu—
Crefft a ddysgodd i orchfygu:
Gŵyr am gael, ni ŵyr am gur.
Y mae gormes yn ei lygaid,
Y mae gweddi yn ei enaid—
Mae am ddeufyd iddo'i hun.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
****
Dyna'r Norman—meddai Hanes:
Medd y bryniau—DYNA DDYN.
iv.
Pwy sy'n rhuthro dros y Llwchwr,
Yn ei drystfawr gerbyd tân?
Gweithia'n lew—ond nid heb ddwndwr;
A mŷn geiniog am ei gân.
Mae ei anadl ar y moroedd,
Mae ei fys ar gyfandiroedd—
Nid yw'r llaw bob dydd yn lân!
Gyda'i gleddyf gỳr ei grefydd;
Ac mae'n disgwyl i'r holl wledydd
Fod yn mhobpeth fel ei hun.
Ond pwy yw beth yw ei neges?
****Dyna'r Sais—medd gwefus Hanes:
Medd y bryniau—DYNA DDYN,
v.
Dyn yw dyn, ar bum' cyfandir;
Dyn yw dyn, o oes i oes:
Dyn—yn esgyn i'r ucheldir;
Dyn—yn fud ar lwybrau loes.
Da im' garu'm gwlad fy hunan;
Gwell yw caru'r ddaear gyfan
'Does i'r ddaear ond un Groes!
Dyn sy'n cario baich y gwledydd;
Dyn a biau'r holl fynwentydd
Dyn, â'i gartref yn y nef.
Dyn yw dyn; byw yw ei neges:
Trwy bob newid yn ei hanes,
Saif y ddaear drosto ef.
'NERTH BYWYD ANNHERFYNOL
LLE treigla'r afon Alun
Dros wely'r gareg galch,
Yn frith o flodau a rhedyn
Ymgyfyd clogwyn balch.
Mewn cyffro rywbryd yno,
Gafaelodd careg fawr
Yn gadarn yn ei ochrau,
Wrth ruthro ar i lawr.
Safodd y gareg laslwyd
Ar lety hedyn pren;
Ond fynai'r bywyd ieuanc
Ddim colli goleu'r nen.
O dan y gareg farw
Ymdrechai, er mor wan,
Gael ffordd o'i lety oerllyd,
I wyneb haul i'r làn.
Yn araf ac yn wyrgam
Ymwthiodd yn ei flaen,
Nes iddo dyfu heibio
I fargod y carchar maen.
O haf i haf äi'n gryfach,
Dan fendith gwlaw a gwres;
Ymwasgai at ochr y gareg
O hyd, o hyd, yn nes.
Nerth bywyd äi'n fwy grymus
Na'i diogi marw hi;
Heb lais, na swn, na murmur,
Codai y pren i fri.
A'r bywyd dystaw, dystaw,
A'i holltodd hi yn ddwy;
Ac yno yn ei chanol
Safai, a thyfai mwy.
Ei wraidd a dreiddiai'n ddyfnach,
A'i frig estynai'n mlaen;
Nes siglai'r gangen werddlas
Ei dail ar wddf y maen.
Y pren buddugol bellach
Fynai ei ffordd yn llwyr—
Ac yn ei gangau canodd
Aderyn, lawer hwyr.
Nerth bywyd annherfynol
Yw nerth cadarna'r byd
Beth yw y bedd ei hunan
Ond cryd—ofnadwy gryd?
YR AWR EURAIDD.
Nid yw hyny ond anfynych iawn: eithr oriau euraidd yw y rhei'ny i mi.—Taith y Pererin.
Ar ganol dyddiau trymaidd
Daw ambell awr, mor euraidd!
Nid hafddydd goreu'r ddaear
All fagu awr mor hawddgar.
Daw'n wyn o dragwyddolfyd,
Gan hedfan drwy ein hadfyd.
Bu'r gwlith sydd ar ei haden,
Un waith ar winwydd Eden.
Dros Fryn y Cariad hedodd—
Ar fraich y Groes disgynodd.
Cyffyrddodd gwaed â'i gwenfron—
A daeth yn nes at ddynion.
Ar ganol dyddiau trymaidd
Mae'n d'od—yr awr nefolaidd:
Ond O! na ddeuai'n amlach,
Ac nad arosai'n hirach!
Daw mil o oriau duon
Am un o'r oriau gwynion:
A'r oriau duaf, duaf,
Sy'n cerdded fwyaf araf.
O! euraidd awr, ddi-gwynfan!—
Na chym'rai bwyll with hedfan!
Tra fyddo hi'n myn'd heibio,
Caiff pobpeth hardd flodeuo.
Di-gamwedd a di-gwmwl
Bryd hyny yw y meddwl.
Mae'r delyn yn ddi-ddagrau,
Rhed nefoedd dros y tànau:
Ac ni wna'r tant iselaf
Ond taro'r llondid dyfnaf.
Mae ofn yn colli ei afael,
A'r sychder yn ymadael.
O, wlithog awr, fendigaid!
Munydau aur yr enaid!
O, ddwyfol awr—ddiafael!
Wrth dd'od, mee'n dechreu'n gadael.
Fe ddaw, heb ini wybod:
Fe ä, wrth ei hadnabod.
O, euraidd awr, ddi-auaf,
Hedfana yn fwy araf!
Neu os oes rhaid it' frysio,
Un weddi wylaidd gwrando:—
Sigla, o'th euraidd aden,
I lawr, un euraidd bluen!
Bydd hono'n dweyd am danat,
Pan na cheir golwg arnat.
Ddilychwin oriau euraidd!
Mor brin! ac mor nefolaidd!
EISIAU GWYBOD.
Pan edy trai gofalon
Y traeth i gyd i serch,
Tramwyir lled y galon
Gan freuddwyd melus merch.
Mor ysgafn-droed ymdeithia
Yn nghwmni'r hafaidd hwyr:—
Pa obaith a obeithia,
'Does undyn byw a ŵyr.
Pob tristyd ga'i annghofio,
All wneud y rudd yn wleb;
A'i henaid sydd yn nofio
Mewn llif na foddodd neb.
Ymgryma, dan sirioli,
I godi cragen ddèl;
A phlyg ei phen i holi
Am ryw gyfrinach ffèl.
Wrth wrando, dim nod hyder
Oedd lon'd ei chalon iach—
Ond murmur môr o bryder
Oedd yn y gragen fach!
CYMDEITHION ANNGHOFIEDIG.
WEDI brwydro'n hir
Dros iawnderau'r Gwir,
Yn yr oerni, wrtho'i hunan,
Pwysai'n glwyfus ar ei darian:
Unig dan y nef,
Heno, ydoedd ef.
Swn y byd o draw
Oedd fel môr di daw:
Gwibiai'r lluaws drwy'r heolydd
Ar ol rhyw Barabbas newydd;
Yntau wrtho'i hun,
Gyda'i enaid blin.
Ar ei gledd, yn oer
Y disgleiriai'r lloer;
Ac ar hyd ei rychiog ruddiau
Ysgafn ddawnsiai ei phelydrau:—
Fynai hithau'r nef
Ei ddibrisio ef?
Crwydrai'n wan a blin
Dros y blodau crin;
Twrf gwatwarwyr draw o'r pellder,
Yn ei enaid fagai bryder;—
Nid y llwydnos brudd
Oedd yn lleithio'i rudd.
'Wedi brwydro'n hir'—
Meddai'dros y Gwir,
Mae fy enaid heno'n unig,
Mae fy nghalon yn anniddig!
Hyn yw bod yn dlawd—
Lled y byd, heb frawd!
Llawer cyfaill droes,
Wedi gwel'd y groes;
Ac ar lawer awr anhapus,
Trodd cysuron yn fradwrus:
Ar adfeilion bedd
Deliais inau'r cledd.
'Meddwn: Cyn bo hir
Gwelir pethau'n glir;
Cyrcha dewrion fyrdd i'r frwydyr
Fy nghymdeithion, a fy mrodyr!
Wele fi, a'm clwy',
Heno!—B'le maent hwy?'
A gostyngai ei ben
Dan y lydan nen;
Ac â'i law gorchuddiai ei lygaid,
Rhag gwel'd noethni a briw ei enaid:
Ar draethellau gwawd
Plygai'n ddyn di-frawd.
Angel dystaw, gwyn,
Ddaeth dros ael y bryn;
Hwnw yn ei ymyl safodd,
Syllodd ar ei ing—a gwenodd:—
'Brodyr iddo ef
Sydd yn llanw'r nef!'
Aeth, heb yngan gair,
Fry i'r Ddinas Aur;
D'wedodd yno wrth fil miloedd
Anfarwolion y canrifoedd,
Am y gŵr di-frawd
Welodd mor dylawd.
Meddai: 'Meddwl mae,
Yn ei ing a'i wae,
Ei fod heno wrtho'i hunan,
Heb un cyfaill iddo'n unman:
Ond ei frodyr ef
Ydym yn y nef.'
A phob tant drwy'r nen
D'rawodd un Amen;
Nes i'r gerdd, yn risial dònau,
Lifo trwy y pyrth o berlau—
'Arall heddyw gawd
I fyrddiynau'n frawd!'
Obry, is y nen,
Cododd yntau ei ben;
Yn ddi-gysgod dros ei wyneb
Aeth gogoniant tragwyddoldeb:
Meddai—Dros y Gwir
Da yw brwydro'n hir.
Yn swn dynion byw,
Braidd na chollais Dduw;
Ond mae'r nefoedd drwy yr oesau
Dros Wirionedd, a'i iawnderau:
O! fy enaid briw,
Pwysa'n ol ar Dduw!'
Nid oes raid i un
Sefyll wrtho'i hun;
Mae y Duwdod a'i dangnefedd,
Ar ymylon ei unigedd;
Dyna ddechreu'r ne'—
Rhoi i Dduw Ei le.
BUDDUG.
(Cân ei Bardd, cyn y Frwydr Olaf).
MAE Rhyddid dan ei flodau
Ar ol y gauaf blin,
Ac aelwyd werdd, ac argoel dail,
Lle bu'r canghenau crin;
Mae adar haf yn canu
Lle lluwchia'r eira oer,
A'r eos leddf mewn dyrys lwyn
Yn swyno odfa'r lloer:
Rhyw son mae pob blodeuyn
Ar drothwy gwyrdd yr haf,
Am gariad cynes mynwes mam
A'i balm i glwyfau'r claf.
Mae llygad merch yn ddigon
I droi pob byd yn wyn—
Dan aeliau du daw'n oleu dydd,
Frig hwyr, wrth rodio'r bryn:
Os daw i faes y frwydyr,
Ei gwên arweinia gâd;
A gair o'r wefus felus fach
Wna farw yn fwynhad.
O! pan yw'r fam gariadus
Yn trin y glasfin gledd,
Onid yw hen Frythoniaid hyf
Am droi allweddau'r bedd?
Y fam a biau'r aelwyd,
A theyrnas gyntaf serch;
Alaw a hymn ei gofal hi
Yw mwyniant mab a merch:
Ond lledu mae ei theyrnas
Yn lasliw fel y nen;
O dan ei nhawdd daw'r duwiau'n nes—
Daw'n gwlad yn aelwyd wen:
Bydd son am enw Buddug
Tra rhodio haul mewn dydd
Wnaeth ini dŷ y Brython dewr
Trwy'r cyfiawn gledd yn rhydd.
BREUDDWYD GOBΑΙΤΗ.
(In Memoriam: liv).
EIN gobaith yw, mai'r da yw nod
Y drwg, a phob naturiol loes,
Troseddau yr ewyllys groes,
Anmheuon, a phob haint sy'n bod:—
Nad oes i ddim ddi-amcan droed;
Na chollir yr un bywyd drud,
Na'i daflu'n friw i'r gwagder mud,
Pan ddel gwaith Duw i'w gyflawn oed—
Nad ofer—holltir eiddil bryf;
Na chrinir gwyfyn ysgafn-fryd
Mewn tân di-elw, drwy'r holl fyd,
Neu er mwyn budd rhyw arall cryf.
Wele, nis gwyddom ddim. Beth wnaf?
Nis gallaf lai na chredu câ
Pawb, draw yn mhell, o'r diwedd, dda—
Y troir pob gauaf du yn haf.
Dyna fy mreuddwyd. Beth wyf fi?
Baban yn llefain yn y nos,
Llefain am wel'd un seren dlos,
Ac heb un iaith ond galar—gri.
PENILLION.
Pris y Prydferth.
LLYFN a llwyd yw llif yr afon
Tra'n segura rhwng y meillion;
Wrth fyn'd dros y ceryg garwaf
Y mae hi yn llifo wynaf.
Pris Mwynhad.
Dyna'r haul yn machlud eto:—
O! mae'n hawddgar yn noswylio!
Ond wrth wel'd ei wyneb tirion
Syrthiai deigryn yn fy nghalon.
Dolur a Chysur.
Wrth fyn'd heibio'r drain un diwrnod
Cefais bigad heb yn wybod;
Es 'run ffordd yn mhen blynyddau,
'Roedd y llwyn yn wyn o flodau.
Iselfrydedd.
Gan y gwynt fe blygai'r dderwen,
A dyhidlai lawer deilen:
Dani cadwai'r gawnen egwan
Wlithyn gloyw fel yr arian.
Gwahaniacth Barn.
Steddfod, wir!—gwell peidio'i henwi.
Meddai'r gŵr oedd wedi colli: '
Dyna'r 'Steddfod ore eto!'
Meddai'r gŵr â'r gadair ganddo.
Chwaeth.
Gwynt y dwyrain chwytha'n farus,
Caua Cai ei enau'n garcus:
Os clyw enllib am gymydog
Egyr ddeuglust yn dra chwanog.
Gwers y Cwmwl.
'O mor ddisglaer yw yr afon!'
Meddai Gweno wirion, dirion:
Fe ddaeth cwmwl dros y nefoedd,
Gwelodd Gweno lwydni r dyfroedd.
Osgoi Anfarwoldeb.
Tôr dy enw ar y tywod
Pan y gweli'r llanw'n dyfod:
Llifa'r dôn drugarog drosto
Cyn i'r byd gael sangu arno.
Qui s'excuse, s'accuse.
'Does gan Esgus, ar y gorau,
Fawr o glèm ar gauad drysau:
Cymer weithiau oes i gauad
Drws, agorwyd mewn un eiliad.
'Moes, moes!'
Yr oedd ganddo fil o bethau—
Mil ag un oedd arno eisiau;
Ac o eisiau'r unpeth hwnw
'Roedd ei fil i gyd yn chwerw.
Gwerth Ewyllys Da.
Dymuniadau mwyn ehedant,
Heibio i lawer drws y galwant:
Ni chaiff neb un ddimai ganddynt—
Ond mae pawb yn dlotach hebddynt.
Ofer-Weddiau.
'O na bawn i yn lle Arthur!'
Meddai Dafydd, yn ddigysur:
O na bawn i yn lle Dafydd!'
Meddai Arthur, byth a beunydd.
DARLUNIAU, AR GYNGHANEDD.
Noswaith Loergan.
Y LLOER fel ar esgyll arian—heno
Sy yn haner hedfan;
A mil o gymylau mân
Sy yn ceisio un cusan.
Briallen ddiwedd Tachwedd.
AH! gwenu yn rhy gynar—a wnaethost
Ar lawr noeth y ddaear;
Byddi'n unig, unig, ar
Waelod cwm, heb wel'd cymhar.
Diwedd Dedwydd.
Y borau oedd yn bruddaidd, yn y niwl
Bu'r prydnawn afluniaidd;
Ond trwy wê yr hwyrnos traidd
Y nef, a'i glesni hafaidd.
Nid da rhy o ddim.
Trwy y dydd llonydd yw'r llyn:—ai delwau
Yw'r dail ar y brigyn?
Poen yw fy haf—pwy na fyn
Wel'd awel ar flodeuyn?
Yr Ywen.
Ddu faner y beddfeini!—arwyddion
Angau roddwyd arni:
Awel haf yn ei dail hi
A wna sibrwd i'n sobri.
PETHAU GWELL.
(Efelychiad o GEORGE MACDONALD).
GWELL na llymeitian y gloyw win, ydyw anadl y blodau:
Gwell na, fflachiadau y perl, yw murmur cuddiedig ffrydiau.
Gwell na ffafrau Blodeuwedd falch, ydyw cariad dichlyn;
Gwell na chlwm o rosynau yw bywiol had y rhosyn.
Gwell na heulo trwy'r dydd mewn mwynserch, yw caru'n dirion;
Gwell na ffynonau ar fin y ffordd, yw ffynonau'n y galon.
Gwell cael bwyd o law mam, na phrydiau unig o bleser;
Gwell yw ymddiried yn Nuw, na dweyd—Y mae genyf dda lawer!
Gwell na gwybod pob peth, bod yn ddoeth ryw fymryn;
Gwell na chynyg at orchest ddigymhar, yw dysgu plentyn.
Gwell eistedd wrth draed yr athraw, na synu y wlad a'r senedd;
Gwell ofni dy fod yn falch, na bod yn rhy sicr o'th fawredd.
Gwell trem ar fro anweledig, na gwylio helynt y funyd;
Gwell y "Da was" ar y diwedd, na thwrf dy glod drwy yr hollfyd.
Gwell na mwynder diflanol yw'r gofid sy'n fud ac yn llonydd;
Gwell na disgleirdeb y nawn yw'r llwydnos o flaen y wawrddydd.
Gwell na phob uchel ach, yw gorphen ein gwaith cyn ein claddu;
Gwell na brenin y ddaear, yw plentyn yn Nhŷ yr Iesu.
RHAGORFRAINT Y GWEITHIWR.
NID cardod i ddyn—ond gwaith!
Mae dyn yn rhy fawr i gardod:
Mae cardod yn gadael craith,
Mae y graith yn magu nychdod.
I'n weithiwr y cerddodd dyn
Drwy Eden y boreu cyntaf;
A gadael ei waith ei hun
Fu erioed ei golled drymaf.
Y mae Gelyn di-waith ar daith,
I demtio a thwyllo'r gweithiwr:
Ond cryfach yw adnod o waith
Na haner adnodau y Temtiwr.
Gweithwyr yw engyl y nen—
Gweithiant mewn gwisgoedd gwynion;
A chadwant y wisg yn wen
Wrth gadw yn bur o galon.
Disgleiria yr heuliau fyrdd,
Gan weithio yn ngwaith y canrifoedd
Y ser sydd yn gadael eu ffyrdd,
Sydd yn diffodd ar hyd y nefoedd.
Y Gŵr fu'n tawelu y Llyn,
Yntau yn weithiwr a anwyd;
A Gweithiwr ar Galfari fryn
Dd'wedodd wrth farw—Gorphenwyd!"
Gweithiwr a gododd o'r bedd,
Cyn i Angau gyffwrdd â'i wyneb:
Gweithiwr ddyrchafwyd i'w sedd,
Fel yn nghanol tragwyddoldeb.
A ninau, frodyr i gyd,
I waith ein ganwyd, ein galwyd:
I weithwyr y codwyd y byd,
I weithwyr y nef a agorwyd.
Ni chododd Doethineb ei hun
Un blaned ar gyfer segurwyr:
Gwaith ydyw gwaddol pob dyn,
A gwaith yw anrhydedd gweithiwr.
Segurwyr tomenau y byd,
Segurwyr y meinciau arian—
Mae Sinai'n eu herbyn i gyd,
Ac mae yno fellt gyda'r daran!
Mae'r ddaear yn tyfu yn ddrain
Dan droed segurwr yn mhobman;
Ac ni chaiff, wrth ddilyn Cain,
Ond byd dan ei droed yn frwmstan.
Gweithwyr, fy mrodyr, ŷm ni,
Ac offer gwaith yw ein harfau;
Gweithwyr sy'n hollti y lli,
Gweithwyr sy'n dyrnu'r mynyddau:
Gweithwyr, â phin ac â rhaw,
Gweithwyr, â phen ac â dwylo:
Gweithwyr, mewn oerni a gwlaw,
Gweithwyr, heb amser i flino:
Gweithwyr, a phwyntil a gordd,
Gweithwyr, ar bapyr a meini:
Rhaid i weithwyr balmantu'r ffordd
I weithwyr i gerdded drosti.
Gweithwyr sy'n siarad â'r ser,
Gweithwyr sy'n agor ffynonau;
A gweithwyr a'u llygaid at Ner,
Sy'n harddu y byd â themlau.
Mae'r gweithiwr a'i fys ar y mellt,
A'i glust wrth ddrws cyfandir;
Os nad yw ei gnawd ond gwellt,
Y nefoedd gan hwn a dreisir!
Dos di i'r chwarel, fy mrawd,
Gwna'n fawr o dy dymhor gweithio:
Os yw'th wisg a'th damaid yn dlawd,
Drwy hyny cei lai o'th demtio.
Dilyn di'r aradr, fy mrawd,
A'r gwynrew yn cnoi dy fysedd:
Llawer cynhauaf a gawd,
A'r hauwr mewn gro yn gorwedd.
I enau y ffwrn, fy mrawd,
Dos dithau i'th waith cynefin:
Gwell i'r gwres gael ysu dy gnawd,
Na bod rhwd ar flaen dy ewin.
Cana dy gân, fy mrawd;
Cana—a doed a ddelo:
Bu Milton unwaith yn dlawd,
A Pharadwys dan ei ddwylo.
Ac arnat tithau fy chwaer,
"Dydd arall" sy wedi gwawrio
Pwy a ŵyr nad ei, fel Mair,
Ar neges yr angel eto?
Cei fwy o'r byd dan dy law,
A chei odfa well i'th dafod:
Cadw dy hun yn ddifraw:
Gweithia: fe ddaeth dy ddiwrnod.
Rhoddwch i'r gweithiwr ei le,
Ni cheisia ond lle i weithio;
Mae hyny ar lyfrau y ne'
Yn hawl ddigyfnewid iddo.
Rhowch iddo ei dŷ a'i fwyd,
Rhowch iddo ei offer gweithio;
Ac efallai gareg lwyd,
I ddangos y fan mae yn huno.
Ond iddo gael hyn o hawl,
Fe weithia hyd at y nefoedd:
A thrŷ ei lafur yn fawl,
Ar wefus bell y canrifoedd.
I'r gweithiwr mae'r byd i fod,
I'r gweithiwr y daw'n ei gylchdro:
A gwell nag arian a chlod,
I'r gweithiwr, fydd cyfle i weithio.
Ië'n ei waith bydd ei fraint,
A'i waith a fydd iddo yn hawddfyd;
Bydd gweithwyr y byd yn saint,
A'u gwaith yn cyfanu deufyd.
Bydd Gweithiwr hoeliedig y Groes,
Yn gweled o lafur Ei enaid;
A gweithwyr pob gwlad a phob oes,
O i flaen yn addolwyr bendigaid.
Addolwr yw'r gweithiwr i fod,
Addoli fydd gwaith tragwyddoldeb: —
Fy mrodyr, mae diwrnod i dd'od
Bydd gweithwyr y bydoedd mewn undeb!
Mewn undeb â'r Duwdod ei hun,
Heb ludded, na dim i'w blino:
Y wisg fydd yn wyn am bob un,
A'r gwaith fydd yn Sabbath yno.
DEUOEDD.
Gauaf a Chynhauaf.
Y LLWYBRAU oer lle bu'r eira—welaf
Yn argoeli bara;
Ar ddefodol heol iâ
Ymofynir am fanna.
Poen a Phrydferthwch.
Dan ei ofid, y nefol—ddaw yn hardd,
Yn nhir y daearol;
Yn y byd cheir dim, heb ôl
Dyoddef, yn brydweddol.
Ffydd a'r Niwl.
Ei llaw wen dry'n ol y lleni—guddiant
Dragwyddol ffenestri:
I'r niwl diwawr, 'nol daw hi
A hanes cartref ini.
Y Nos a'i Bendith.
O! nac ofned neb y cyfnos—tawel,
Ar fyd Duw sy'n aros:
Duw'n Iôr wna, trwy lwydni'r nos,
I wedd engyl ymddangos.
Dau fath o Gynghor.
Daw rhyw gynghor drwg, anghall, —â'i weniaith
I ddifwyno'r deall;
Ond trysor yw cynghor call,
Ddaw yn aur i ddyn arall
Y TAIR RHODD.
(Chwedl Arabaidd.)
O! GWRANDO di, sy'n dda dy fyd,
Pan godo'r tlawd ei lef;—
Mae torf ohonynt ar y ffordd
I orseddfeinciau'r nef.
Ystyria hyn o ddameg, ddaeth
O fröydd Arabi;
A chymer fendith yn dy law
Lle bynag cerddi di.
'Roedd gwraig a chanddi fwy na mwy
O bethau da y byd;
A chalon dyner dan ei bron,
Yn well na'r aur i gyd.
Cwpanaid roddodd o ddw'r oer
I ryw bererin blin;
A'r ffordd o roddi hyny, wnaeth
Y dw'r yn well na gwin.
Rhyw hen, newynllyd, gafodd ran
O fara gwyna'r tŷ:
Aeth hwn i'w ffordd gan ddweyd—Mae Duw
Heb farw eto fry!
Un arall wisgodd hi yn glyd,
Yn nghanol tywydd oer;
Ac fe siriolodd calon hwn,
Fel tòn yn ngoleu'r lloer.
Ond iddi hithau newid ddaeth—
I hon, yn anad un!—
A'r llaw fu'n hau goleuni i bawb,
A aeth heb ddim ei hun.
O'i chartref gyrwyd hi yn mhell
I'r anial diffaeth du:
A'i drygfyd oedd yn gymaint gwaeth,
Wrth gofio'r hyn a fu.
Hi wylodd lawer drosti ei hun,
Ond dros ei phlentyn, fwy;
Ac nid oedd llygad yn y byd
I wel'd eu dagrau hwy.
Trwy dywydd garw cerddai hi,
Bob dydd o ddrwg i waeth:
Ond wele! ar y dduaf awr,
Tri Disglaer ati ddaeth.
Hi fynai guddio rhagddynt hwy
Ei thlodi mawr a'i chur;
Ond nid oedd eisiau cuddio dim
Rhag llygaid oedd mor bur.
Eu dwylaw, fel trugaredd Duw,
Oedd iddi hi yn llawn;
Ac wylodd, wedi'r wylo i gyd,
Fel cawod haf brydnawn!
'Dy gymwynasau ydym ni,'
Meddent, wrth wel'd ei briw:
'Buom yn myd yr engyl gwyn,
A gwelsom wyneb Duw.'
Y dwr, a'r wisg, a'r bara oedd
O'i blaen,—a gwenau'r Tri
Po bellaf cerddo gweithred dda,
Mwyaf fydd ganddi hi.
DEWINIAETH OLWEN.
COCHACH oedd ei deurudd na'r ffuon cochaf.
Pedair meillionen gwynion a fyddai yn ei hol
pa ffordd bynag y delai. —Culhwch ac Olwen.
Yn y gwanwyn, ryw ben borau,
Hei dere ding ding dere di,
Olwen alwodd heibio'r blodau,
Hei dere ding ding dere di:
Gwelodd rosyn ieuanc nwyfus
Liw ei deurudd a'i dwy wefus;
Byth er hyny ceisia yntau
Wrido yr un fèl a hithau:
Hei dere ding ding dere di.
Cododd Olwen, ryw nos lawen,
Hei dere ding ding dere di,
Ei dau lygad glas i'r wybren,
Hei dere ding ding dere di:
Byth er hyny, fynu yno
Llygaid Olwen sy'n disgleirio;
Heb yn wybod, wrth dywynu,
Maent yn dysgu'r byd i garu:
Hei dere ding ding dere di.
Cerddodd Olwen drwy y dyffryn,
Hei dere ding ding dere di,
Heb ysigo glesni'r gwanwyn,
Hei dere ding ding dere di;
Ar ei hol fe darddodd meillion
Yn ddihalog lwybrau gwynion:—
Ac o fewn fy nghalon inau
Olwen fu yn codi blodau:
Hei dere ding ding dere di.
DAU DDEWIS.
FYNI di y maesdir llydan diymylau
Yn ymdòni megys môr o esmwyth erwau?
Lle na welir ond pellderau mud, didalar,
A'r gorwelion glaswyn fel yn myn'd â'r ddaear?
Lle mae godre gwisg ddidwrf yr Annherfynol
Yn awgrymu mor ddidymhestl yw'r tragwyddol;
Ac yn tynu'r meddwl aiddgar, gwan, o gam i gam,
Megys plentyn, wedi blino, 'n llusgo wrth wisg ei fam.
Fŷni di'r llydandra gwastad diymylau,
Sydd yn ffinio â'r anhygyrch eangderau?
Gâd i minau'r cwm
Rhwng y llethrau llwm;
Er mor llwyd ei wedd,
Mae'n lletya hedd:
Os yw'n gul, mae'n glyd:
Os yw'n fach, mae'n fyd!
Digon prin i ddau,
Rhwng y llwyni cnau,
Yw y llwybrau geirwon
Gyda glàn yr afon:
Ond gall ienctyd hoffus
Wneud y rhwystrau'n felus.
Ni cheir yn y nos
Nemawr seren dlos
Wêl i giliau'r cwm
Dan y llethrau llwm,
Ond mae bendith rasol
Yn y prinder nefol:
Gwell cael un, a'i hoffi,
Na chael mil, heb sylwi.
Gâd i mi fy nghwm
Cul, a chlyd, a llwm:
Fe gei dithau y gwastadedd diymylau;
A chei'th ddewis genyf fi o'r eangderau!
BLODEUYN YW'R BYD.
Die Welt ist eine Blume.—HEGEL
UN Meddwl sydd,
A fu, a fydd:
Heb wawr iddo,
Na hwyrnos arno:
Un Meddwl sydd;
A'i oes yn Ddydd,
Anfarwol Ddydd.
Trwy droion maith
Ei gydnerth waith,
Grym un amcan
Reola'r cyfan.
Lliwiau a ffurfiau—
Greddfau a deddfau—
Pelydryn ac awel—
Dyn ac angel—
Cynydd, dadfeiliad—
Bedd, adgyfodiad:—
Mae cyrch y cyfan
At un amcan;
Un Meddwl sydd,
Tragwyddol rydd.
Nid yw y Byd
Cyfan i gyd,
Ond fel blodeuyn,
A'i dŵf heb derfyn,
O bridd ei ddyfnaf sail
Hyd fflam y pellaf haul.
Un yw yr hedyn
A'r undod yn dilyn
I fynu drwy'r cyfan,
Gan agor yn llydan
Ar bob llaw, yn mhob llun;
Ond o hyd yn un:
Yma'n feillionen,
Acw yn seren;
Yn dòn aflonydd,
Neu'n graig dragywydd;
Yn bluen eira,
Neu'n sail y Wyddfa:
Ar bob lle, yn mhob llun,
O hyd yn un.
Mae'r haul yn arddel
Y gwlithyn isel;
A'r dòn yn cerdded,
Wrth fesur planed:
Mae bywyd aderyn
Yn agos i'r plentyn:
Mae deddf
A greddf
Yn ateb i'w gilydd,
Yn odli'n dragywydd:
Un yw yr oll,
Heb gainc ar goll.
Deilen a grina,
Seren a flina:
Daw deilen a seren
I'w lle'n ddiamgen;
Heibio'r dadfeilio
Mae ffordd yr ad-ddeilio:
Dan eira'r gauaf
Mae aur y cynhauaf:
Yn y bedd y mae cryd,
Yn y tân y mae byd.
Crined y ddeilen,
Blined y seren,
Mae'r Blodeuyn ei hun
Yn aros yr un.
Nid yw blynyddoedd
Hirfaith ganrifoedd,
Ond fel un gwanwyn
I godi un blod'yn.
Neges pob deddf,
A swydd pob greddf,
Yw cadw yn fyw
Flodeuyn Duw.
Duw y Blodeuyn,
Biau'r daeargryn:
Efe wnaeth adenydd
I'r holl ystormydd:
Nid oes yn y nen
Un cwmwl dros ben;
Na chorwynt afradlon
Ar lêd yr eigion:
Rhuthra'r comedau
Mewn dwyfol sandalau:—
Gwnant eu gwaith i gyd
Ar Flodeuyn y Byd.
Dwyfol anadliad
Groesa y cread,
O haul i haul,
Fel awel rhwng dail:
Dyhidla ireidd—der
Ar hyd yr eangder;
Anfarwola gynydd
Wrth droi'r hen yn newydd;
Ac nid yw'r newydd
Ond yr hen ddihenydd:'
I Dduw ei hun,
Mae pob oes yn un:
Ei Feddwl Ei hunan
Flodeua drwy'r cyfan—
A Hwnw ni syrth!
Beth yw y wyrth,
Ond dalen wyrddlasach,
O gariad yn llawnach?—
Cysgod Duw yn fwy hardd
Ar fywyd yr ardd!
Mae gwreiddyn y Groes,
Tuhwnt i bob oes,
Yn nhir y Tragwyddol, —
A'i dail yn anfarwol.
Blodeuodd Calfaria
Yn haf y Wynfa:
Rhaid i'r Oen
Weled poen
Er cyn seiliad y byd,
Er mwyn marw mewn pryd!
A minau, ddyn,
Yn fy hawl fy hun,
Gâf le'n y Blodeuyn
Sy' â'i dŵf heb derfyn:
A thrwy ryfedd ras,
Câf ddalen lâs,
Dan y gwlith,
Yn mhlith
Angylion y wawr,
Ryw hafaidd awr.
Y DRWS CAUEDIG.
(MABINOGI Branwen Ferch Llyr.)
"LLE teg brenhinaidd uwch ben y weilgi," yn
Ngwalas: a'r Seithwyr yno ar ben y pedwar
ugain mlynedd gwledda.]
MANAWYDDAN (wrth y bwrdd):
GWELL yw cwmni'r delyn dirion,
Hob y derri dando,
Na phicellau'r gelyn creulon,
Doed hi fel y delo:
Gwell yw aros uwchben digon,
Boed hi fel y bo,
Nac aredig caeau oerion,
Boed fel bo.
(Y SAITH):
Doed hi fel y delo,
Hob y derri dando.
Gwell yw gwrando'r dòn yn sisial,
Hob y derri dando,
Na direidi merch anwadal,
Ddydd a nos i'n blino:
Gwell yw caru'r holl rianod,
Blodau bryn a bro,
Na chael un, a siarad gormod,
Cyn daw co!
(Y SAITH):
Doed hi fel y delo,
Hob y derri dando.
HEILYN (wrtho ei hun, yn fyfyriol):
Mae deuddrws yn agor,
A'r trydydd yn nghau:
Pa eisiau gwel'd rhagor
Na welir trwy'r ddau?
Gwell gadael y trydydd.
Yn ddyogel dan glo,
Tra pery yr haf—ddydd, —
A boed fel y bo..
(Y LLEILL):
Doed hi fel y delo,
Hob y derri dando.
ii.
YNAWG:
Gwell yw peidio gwybod llawer,
Na byrhau tymhorau mwynder:
Fe all dyn wrth holi gormod,
Agor llygaid ei gydwybod.
(Y SAITH):
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd;
Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
Gwell i heddyw fyn'd dan ganu,
Na gofidio erbyn 'foru;
Gwell na wylo dagrau tranoeth,
Chwerthin dipyn bach yn annoeth.
(Y SAITH):
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd:
Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
Pwy a falia agor drysau,
Tra bo digon ar y byrddau?
Pwy a edy hen lawenydd
I fyn'd i chwilio galar newydd?
(Y SAITH):
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd:
Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
HEILYN (fel o'r blaen):
Pa'm mae deuddrws yn agored,
Tra mae'r trydydd eto'n nghau?
Beth anwylach gawn ni weled,
'Nol gwel'd cymaint trwy y ddau?
Agor—peidio? peidio—agor?
P'un o'r ddau?—(ah! mwyn yw'r medd!)
Onid gwell yw ceisio rhagor
Na chael llondid yn y wledd?
(Y SAITH):
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd,
Mwyn yw medd, a haf a'i hedd:
Hela gwan yw hela gofid,
Tra cawn londid yn y wledd.
iii.
PRYDERI (yn gorphwys dan flodau'r ardd):
Dan wybren o rosynau,
Breuddwydiwn am y gorau,
Heb unrhyw gyfrif oriau,
Ger y dòn:
Mae cwmwl gwyn sidanaidd
Yn nofio'r lasnen hafaidd,
A'r awel yn nefolaidd,
Ger y dòn.
Pwy fynai long benchwiban,
I fyn'd yn haerllug allan,
A themtio'r storm sy'n hepian
Ar y dòn?
Mae'n bywyd heb un cyffro,
Yn loew araf lifo;
Yn myn'd—ac heb fyn'd heibio,
Ger y dòn.
(Y LLEILL):
Mwyn yw medd,
Hob y derri dando,
A haf a'i hedd,
Doed hi fel y delo.
HEILYN (o flaen y drws cauedig):
Unwaith mae dyn yn cael diwrnod i weithio:
Unwaith am byth —doed hi fel delo!
Ehêd ei funydau, prysura ei oriau,
Ac wrth sugno eu mêl fe wywa ei flodau.
(Y LLEILL):
Doed hi fel y delo,
Hob y derri dando.
Dan ei law bob munyd mae rhyw gyfleusdra;
Ac yntau yn twyllo ei hun i segura:
Mae drws heb ei agor o hyd yn ei ymyl,
A'r clo yn ei rwystro i ddilyn yr engyl.
(Y LLEILL):
Doed hi fel—
Gwrandewch, fy mrodyr! Doed hi fel delo,
Rhaid agor y drws. A Duw a'n cadwo!
(Y LLEILL):
Agor y drws?
HEILYN:
Mae yr allwedd ynddo.
Clywch dyna dro: mae'r drws yn ddatglo.
(Y LLEILL):
Yn ddatglo?
HEILYN:
Yn ddatglo. Ei agor sy nesa.
(Y LLEILL):
Agor y drws?
HEILYN:
Ei AGOR—fel yma.
iv.
MANAWYDDAN:
O fy nolur! O! fy ngalar!
O ofidiau haint a chledd!
Nid oes blod'yn ar y ddaear
Nad yw'n agor ar ryw fedd:
Do, collasom Brån Fendigaid,
A chollasom eto fwy—
Blagur ienctyd aeth o'r enaid,
A'n gobeithion, b'le maent hwy?
PRYDERI:
Wele'r wybren o rosynau
Wedi duo uwch fy mhen;
A dychwela hen gymylau
Annghofiaswn, 'nol i'r nen!
Rhaid yw codi hwyliau eto,
A gwynebu dig y dòn:
Ffarwel, flwyddi tirion Penfro!
Gauaf yw hi dan fy mron.
YNAWG:
Byw yn gul yw byw heb wybod;
Holi ddaw a dyn yn rhydd:
Mwynach fyddai esgeulusdod,
Pe bai'n dala goleu'r dydd!
Y mae'r funyd ddaw o'r diwedd,
Ddaw, er gwaethaf dawn a nerth,
Yn gwneud pedwar ugain mlynedd
O ysmaldod yn ddiwerth!
(Y LLEILL):
Daw cystuddiau y blynyddoedd,
I'n cyfarfod,
Bob yr un:
A mwynderau'r melus wleddoedd
Wedi darfod―
Bob yr un!
HEILYN:
Dewch, fy mrodyr, dros y tônau,
Awn yn gynar gyda'r borau,
Draw mae glenydd Cernyw'n olau—
Dyma'r dydd, a'r awr!
Awn o fyd yr hen ofidiau,
A seguryd hen fwynderau—
Hawl y dewr yw agor dorau,
A gwynebu'r wawr.
Ni ddaw un boreuddydd
Heb gyfleusdra newydd:
Cauad yw drysau Duw,
I'r byw eu hagor beunydd!
Fe aeth blynyddau euraidd heibio,
Ond mae'r haul yn aros eto,
I roi golau i ni deithio—
Trown i'r daith yn awr!
ENGLYNION.
Addewid Felus.
WELE Ebrill a'i lwybrau yn gwynu
Gan brophwydoliaethau;
A daw'r nef i gadarnhau
Y sôn sy am rosynau.
I Dduw'r sêr, nid ofer dim.
Ni thyfodd bodolaeth ofer,—erioed,
Ar draeth anfeidrolder:
Dros bethau gwan, amcan Ner
Daena'n drugaredd dyner.
Bydolrwydd.
I naturiaeth faterol,—gwael ydyw
Goludoedd ysprydol:
ä i ddrws y bedd, ar ol
Duwiau aur y daearol.
I ba le?
Yr haul-fydoedd ar loywaf edyn—a änt,
Yn fintau walltfelyn:
A welant hwy, i'w ddilyn,
Oleu gwell rhyw angel gwyn?
Gobaith dibrofiad
Boreu oes—O! mor brysur—y gwibia
Gobaith ar ei antur:
Canai lai pe gwelai gur
Y blodau, dan y bladur.
LLYN Y MORWYNION:
RHIANGERDD.
(Buddugol yn Eisteddfod Gwrecsam, 1888).
ANFARWOL Serch, ddolurus Serch,
Penyd nefolaidd mab a merch;—
Gwyn yw y llwybrau o dan dy draed,
A'th wefus felus mor goch a'r gwaed:
Pan êi i freuddwydio yn nwfn y nos,
Llawn yw dy lygaid o'r wawrddydd dlos.
Dy gerbyd a blethodd y Tylwyth Teg
O ddail rhosynau Mehefin chweg:
A dwy golomen a'th dynant di,
Mor wyn a'r ewyn ar fron y lli';
A'u hedyn arian mor esmwyth-hardd
Ag odlau hwyr-fyfyrion y bardd.
O! ddolur Serch, O! wynfyd Serch,
Penyd nefolaidd mab a merch!
Paham yr êi di, flodeuog wedd,
I dramwy ar lwybrau di-lais y bedd?
Paham daw'th gerbyd, fel galar y bardd,
I'r lle mae'r gauaf yn crino'r ardd?
A pha'm daw y ddwy golomen wen
I drydar yn glwyfus ar ddeil-noeth bren—
Ar geubren noeth yn y dymhestl erch,
A thithau yn wylo, anfarwol Serch?
O! wynfyd Serch, O! ddolur Serch,
Penyd nefolaidd mab a merch!
****
Canai Gwenddolen yn Nyffryn Clwyd,
Yn y gwanwyn gwyrdd a'r hydref llwyd:
Canai pan ganai y gwew'n y llwyn,
Canai pan wynai yr eira bob twyn:
O dan bob lloer, ac o dan bob nen,
Canu oedd yn ei chalon wen.
Ond ambell waith ar ganol y gân
Collai ei hunan mewn breuddwyd yn lân.
Deunaw o flwyddi oedd ar ei phen,
A'i lliw fel blodau afalau ar bren.
O dan ei bron yr oedd breuddwyd gwyn,
Yn wynach na'r lili yn nyfroedd y llyn:
Yn harddach na hardd-liw y mwswgl-rôs,
Yn loywach na'r lloer ar y dòn yn y nos !
****
Mae'n gweled ei hunan yn blentyn iach,
(A deg o hafau'n ei bywyd bach :)
Mae'n chwareu ar haf-ddydd yn min y llyn,
A'r haul yn blodeuo ochrau y bryn:
Mae ganddi gydymaith-dyna'r hynt !
Cyfrinach Adda ac Efa gynt!
Y bachgen deuddeg, a'r feinwen ddeg;
Chwareuant dan fendith yr heulwen deg;
Y bachgen deuddeg mor llon a'r haul,
A hithau fel awel mis Mai yn y dail.
Chwareu mae'r tònau ar hyd y traeth,
A briwsion yr ewyn mor wyn a'r llaeth;
Chwareu mae'r ddau yn ymyl y llyn,
Chwareu fel tònau, fel ŵyn ar y bryn.
Un fach yw'r llyn, a gloyw ei gwawr,
Ac yn ei chalon mae nefoedd fawr!
Ieuanc yw hi, ieuanc yw ef,
Ond rhodiant dan fwa tynghed gref.
Ar ol y chwareu fe ddaw y ddau
O dan y llwyni i adfywhau.
Wrth blethu blodau, wrth dynu dail,
A chweryl a chwareu bob yn ail,
Y forwyn fechan a dyna'n ffèl
Ddeilen redynen i weled—wel!—
I weled pwy oedd ei chariad i fod—
Mae merch ddigariad yn ferch ddiglod.
A dyna drafferth ddigrif fu hon,
I ddwy galon fechan o dan ddwy fron!
Dal y Dyfodol—y brenhin mud,
A'i dwyllo i adrodd ei hawddgar hud:—
Nid bachgen deuddeg a morwyn ddeg
Yn unig fu'n nhalaeth y Tylwyth Teg!
Dywed y ddengmlwydd wrthi ei hun
Enw ei chariad—gyfrwysbert fun!
"Pwy? d'wedwch pwy!"—meddai ef yn flin:
"Rhywun!"—medd hithau, a gwên ar ei min.
Ymboenai'r bachgen wrth wel'd ei gwên,
A chwarddai hithau—helynt go hên!
Gall merch ddweyd llawer heb siarad gair,
A'i ddweyd wrth ryw un heblaw ei chwaer.
Barddoniaeth ei llygad—dyna gân
Ddarllenir yn hawdd mewn ysgrifen fân,
"Ai fi ydyw Rhywun?" medd ef yn gall:
Ddywedodd hi ddim; ond deallodd y llall.
Yn dirion, yswil, fe ddododd ei law
Ar ysgwydd y feinwen—ond wele hi draw!—
Yn hedfan yn iach yn yr haul a'r gwynt,
Ac yntau'n ei dilyn hi—dyna hynt!
'Roedd yn hawdd ei dal, forwynig hoff—
'Roedd ei chalon fechan yn gloff, yn gloff.
Ei dal a'i chusanu, a dyna'r oll,—
Ond fod dwy galon heb wybod ar goll.
Mae'r nefoedd fawr yn lâs yn y llyn,
A goleu dau fyd ar y ddau fach hyn.
Chwareu yw Serch hyd ddiwedd oes,
Ond chwareu difrifol, anfarwol loes!
A chwareu y plant yn yr haf ger y llyn—
O! ar ol dydd fe ddaw nos dros y bryn!
****
Felly breuddwydiai Gwenddolen lân
Yn Nyffryn Clwyd, ar ganol ei chân.
Ac er fod y breuddwyd yn wyth mlwydd oed,
Ei flas oedd mor felus a'r haf yn y coed.
Y fechan ddengmlwydd, Gwenddolen yw'r fun,
Yn adrodd ei breuddwyd wrthi ei hun.
Ond am y bachgen, pa le mae ef?
Yn rhywle, yn rhywle, yn ngolwg y nef!
A ddaw ef yn ol yn Nghalan—Mai Serch,
Yn ol i chwilio am galon y ferch?
O! neb ni chaiff wybod am galon y fun,
A'r breuddwyd sydd ynddi, ond Edeyrn ei hun.
O! wynfyd Serch, O! ddolur Serch,
Penyd nefolaidd llawer merch.
****
****
Yn Nyffryn Clwyd, Mehefin a'i gân
Siriolai yr adar a'r blodau mân.
Canai y glasgoed a'i filfil dail,
Canai'n lleddf-isel—ni chlywai yr haul.
Canai y blodau, heb wybod i'r byd,
Yn nghlyw yr angelion fu'n gwylio eu cryd.
Canai'r ehedydd ei garol o ras
Uwch crib y Foel Famau yn nghanol y glâs.
Canai yr afon alawon y môr—
A chanai Gwenddolen ei hun gyda'r côr.
Rhodiai'n iach—galon rhwng sibrwd y coed,
A'r glaswellt yn falch o dan gysgod ei throed.
Canai ei breuddwyd, breuddwydiai ei chân'
Roedd gofid a hithau yn byw ar wahân!
Yn nghanol y goedwig eisteddodd i lawr
Dan letty caruaidd hen dderwen fawr.
O, dyna fyd tawel! heb gyffro na si—
Mor dawel a gwynder ei thalcen hi.
Rywfodd, heb feddwl (fel hyny y daw),
Deilen redynen gyrhaeddodd i'w llaw.
Gwenodd, a theimlodd o dan ei bron
Bryder difyrus, dolurus, llon.
Enwodd yr enw oedd iddi yn swyn,
Heb neb yn ei chlywed ond deilos ar lwyn!
Enw Edeyrn a enwodd hi—
"Deua—ni ddeua—deua—ni"—
Ust! beth yw'r swn sydd fel anadl bron?
Pa ryw beroriaeth gyfeiliorn yw hon?
Ai bysedd anfarwol, yn nghôr y dail,
A wlithog delynant ar belydr haul?
Neu ai telynor brenhines ferth
Y Tylwyth Teg, o dan wyrddlas berth,
Sy'n taro ei delyn â'i law fach wen—
A blodyn yr eithin yn gapan i'w ben?
Pwy bynag yw'r cerddor, fe glywa y ferch
Alaw gyfarwydd, "Swyn Hudol Serch."
Mae'r canu yn agos, mae'r canu yn mhell;
O'r glaslwyn yn ymyl, neu—neu o'r wlad well!
Oes adlais rhyw eiriau ar anadl y gwynt,
Mor ysgafn ag adgof yr hen amser gynt?
A ydynt yn sibrwd—Daw Edeyrn yn ol
Cyn gwywo o'r meillion ar wyneb y ddol?
Ymgroesa Gwenddolen, gan alw ar Mair,
A brysia i'w chartref heb yngan un gair.
Ond cynhwrf estronol sydd dan ei bron,
Fel gwynt annghyfarwydd yn crychu y dòn.
Mae'n gwenu, mae'n ofni; mae'n llawen, mae'rbrudd:
Mae ofn yn ei llygad, a gwrid ar ei grudd.
Maer coed fel yn plygu eu penau bob un,
Gan chwerthin a dweyd rhywbeth òd wrth y fun!
Mae'r blodau yn sibrwd cyfrinach fach ffèl
Yn nghlustiau eu gilydd, gan edrych mor ddèl.
Mae'r adar, o ganghen i ganghen ar hynt,
Yn siarad yn ffraeth â phob awel o wynt.
Mae'r blodau a'r adar, ar fryn ac ar ddol,
Yn chwerthin wrth sisial—Daw Edeyrn yn ol.
A fu'r fath ddireidi mewn glasgoed erioed,
I flino—a boddio—merch ddeunaw oed?
Mae'n rhaid mai telynor brenhines wen
Y Tylwyth Teg a wirionodd bob pren.
O! wynfyd Serch, O! ddolur Serch,
Penyd nefolaidd llawer merch!
****
****
Yn Nyffryn Ardudwy, a'r nos yn y nen,
A heddwch yr haf yn llonyddu y pren,
Edeyrn a rodiai'n ei gwmni ei hun,
A blodau a phlant yn noswylio bob un.
O bell yr oedd hwyrol beroriaeth y dòn
Hynawsed a serch—freuddwyd cyntaf y fron.
Meddyliai'n ddiofal am lawer mun,
Ond nid oedd yn meddwl llawer am un!
Mae caru ar lawer yn garu lled ddôf,—
Ac oera fel gwreichion ar eingion y gof.
Rhodiai yn araf, heb feddwl fawr
Fod llaw wen Rhagluniaeth mor agos yn awr.
Gwrandawodd—a chlywodd dan anadl y nos
Sŵn canu mor esmwyth a'r blagur-rôs:
Sŵn canu mor felus a suon y dòn,
Pan huna awelon yr haf ar ei bron.
Neshaodd yn gyflym pan welodd o draw
Delynor, a'i delyn yn frwd dan ei law.
Eisteddai, 'n henafgwr, dan dderwen frau—
Yr oedd llwydni oes wedi nychu y ddau.
Llaw tragwyddoldeb fu'n gwŷnu ei wallt,
A chrino y dderwen ar waelod yr allt.
Ond canai ei delyn mor fwyn ag erioed,
A chanai'r hen dderwen yn nghyngherdd y coed.
Fe ganai ei delyn mor felus, mor fwyn,
Ac Edeyrn wrandawai fel un o dan swyn.
Beth ganai mor felus, beth ganai mor fwyn?
Paham yr oedd Edeyrn yn teimlo'r fath swyn?
"Mae'r g'lomen yn trydar ar ganghen fach werdd,
A'r dail yn rhyfeddu wrth glywed ei cherdd.
"A gwynach ei haden rhwng glesni y dail,
Na blodau y syfi yn ngoleu yr haul.
"Mae'n disgwyl ei chydmar i hedfan yn ol,
Cyn gwywo o'r meillion ar wyneb y ddôl.
"Mae'n trydar, mae'n trydar, ar ganghen fach werdd,
A'r blodau yn synu wrth glywed ei cherdd!"
"Hen gyfaill," medd Edeyrn, "pa gân ydyw hon?
A fuost ti'n nghwmni rhyw feinir lon?"
Gwenai'r henafgwr gyfeillgar wên—
Fe hoffai chwareuaeth, os ydoedd yn hen.
Gwenodd, adroddodd gyfrinach fach dlos:
Ac Edeyrn a wridodd—heb wybod i'r nos.
Yn y coed wedi'r gawod, ryw hafaidd awr,
Mynych yw swn y diferion ar lawr:
Ac wedi cyfrinach a chanu y bardd,
I Edeyrn bu llawer meddylfryd hardd.
Breuddwyd ar freuddwyd, o amryw lun;
Breuddwydion am feinir—a dim ond un.
Diberygl yw meddwl am lawer mun,
Ond Ah! pan yw'r meddwl i gyd am un.
****
****
Mor brydferth yw blodau afalau ar goed
Yn gweled yr haul y tro cyntaf erioed:
A chariad—flodeuad cynharaf y fron,
Mae arno ryw naws fel o Eden—fyd llon.
Nid hir y bu Edeyrn cyn credu fod un
Yn llawer mwy gwerthfawr na llawer mun.
A bwriad ei gariad, ei galon, a'i ben,
Oedd chwilio'r golomen â'r aden wen.
Beth os oedd perygl wrth geisio y ferch?
Mae perygl anfarwol yn swynol i serch!
I antur mor wrol ys hawdd ydoedd cael
Gwŷr ieuainc yn barod—heb gyfrif y draul.
"Ni awn, ni awn tua Chlwyd "—meddent hwy
"Mae'r perygl yn fawr, ond mae'r wobr yn fwy.'
Yn Nyffryn Clwyd, O! yn Nyffryn Clwyd
Wedi heulwen haf daw y dymhestl lwyd.
****
Yn Nyffryn Clwyd wedi machlud haul,
A breuddwyd y nos yn tawolu'r dail,
Rhodiai Gwenddolen, heb wybod i'w mham,
A'i chalon yn gryfach na phryder ei cham,
Rhodiai dan gysgod y goedwig werdd,
Lle synodd y blodau wrth wrando ei cherdd.
Prophwydodd rhyw ddewin—delynor i'r ferch
Mai yno—mai heno—boddlonid ei serch.
Prysurai—petrusai: rhwng gobaith ac ofn:
Ei phryder mor uchel, a'i chalon mor ddofn.
Ust! pa ryw dwrf sy'n dihuno y coed?
A phwy sydd yn d'od ar ofalus droed?
Mae'r nos yn y nefoedd yn llonydd a sýn,
A'i haden yn llonydd dros ymyl y bryn:
Mae'r goedwig yn llonydd, a llonydd yw'r byd—
Ond dyma ddwy galon yn erynu'r un pryd!
Yn crynu fel 'deryn yn ymyl ei nyth,
Mewn ofn na chaiff mwy wel'd ei deulu bach byth.
Fe ofnai y bachgen, fe ofnai y ferch—
Ond hawdd ydyw eiriol lle bynag b'o serch.
Daw'r 'deryn fu'n gwylio yn ymyl ei nyth,
Ar ol ef bryderon, i ganu'n ddi-lyth:
Gwenddolen ac Edeyrn gollasant eu braw:
Aeth pobpeth yn annghof yn ngwasgiad y llaw.
(Mor brydferth yw blodau afalau ar bren—
Mor oer yw y cwmwl sy'n duo y nen!)
****
Yn ymyl y llyn!—yn ymyl y llyn!
A'r haf, fel oedd gynt, yn blodeuo y bryn.
Mae ewyn y tònau yn wyn fel y llaeth,
Mor wyn, ag wyth mlynedd yn ol, ar y tracth.
Mae glasliw y nefoedd yn nyfroedd y llyn
Yn lasliw anfarwol, fel cân y Byd Gwyn!—
Pan blyga yr angel y nefoedd fel rhôl,
Bydd glas yr wybrenau yn aros ar ol.
Mae cariad yn ieuanc, yn ieuanc am byth:
Gall hedfan i'r nefoedd pan dorir ei nyth.
Gwenddolen, dy fachgen! O! Edeyrn, dy ferch!
Ar fyd anfarwolion mae golwg eu serch!
(Mor brydferth yw blodau afalau ar bren:
Ond cwmwl y dymhestl—mae'n nesach na'r nen.)
****
Mae bloedd yn y pellder, mae braw ger y llyn,
Mae dychryn yn sangu ar ochrau y bryn.
Pa le mae y darian? pa le mae y cledd?
Pa le mae y cariad sy'n gryfach na'r bedd?
Fechgyn Ardudwy, arfogwch bob un, —
Pob un i roi'i fywyd, i gadw ei fun!
Mae mellten marwolaeth yn frwd ar y cledd —
Ond cusan wna wynfyd yn ymyl y bedd.
Y cusan diweddaf yn ymyl y llyn!—
Ac Angau yn sangu ar ochrau y bryn.
(Mor ofnus yw blodau afalau ar bren,
Pan ruthra y cenllysg o gyfnos y nen!)
****
Mae serch yn gryf, mae serch yn wan:
Gall gredu a chanu a marw'r un man.
Fechgyn Ardudwy, ofer yw'r cledd, —
Mae'r grisiau yn Hithrig i waelod y bedd.
Mae dolef marwolaeth ar ochrau y bryn,
Mae aden marwolaeth yn duo y llyn.
Mae ewyn y tònau yn wyn fel y llaeth,
A'r gwaedlif yn goch ar hyd ymyl y traeth
Gwrolion yw bechgyn Ardudwy bob un,
A syrthiant yn wrol i'r farwol hun.
Ond Edeyrn y dewraf, pa le mae yn awr?
Mae Edeyrn yn welw, yn welw ar lawr!
(Amddifad yw'r blodau, amddifad yw'r pren,
Mae'r cwmwl yn cerdded fel nos dros y nen.)
****
Mae calon Gwenddolen yn oer dan ei bron,
Yn oer fel y lloer yn y gauaf ar dòn.
Mae gobaith yn crymu ei ben heb un gair—
Fel, yn ngolwg ei Mhab ar y Groes, gwnelai Mair!
Mae bywyd yn plygu ei aden mewn braw:
Marwolaeth sydd dano yn agor ei law.
"I'r llyn! i'r llyn!"—ofnadwy yw'r llef:
(Yn y llyn, lle mae glasliw dihalog y nef!)
"Cawn fedd yn y llyn! cawn fedd yn y llyn!"—
A chryna y blodau'n yr haul ar y bryn.
Dyna dwrf—dyna waedd—dyna fedd: dyna'r oll:
Dystawrwydd ddaw heibio y fynwent goll.
A chariad ehedodd o'r llyn tua'r nen—
Fel seren disgleiriai ei aden wen.
O! wynfyd Serch, O! ddolur Serch,
O! nefoedd beryglus mab a merch.
COLL GWYNFA.
WRTH wylio y gorllewin
Yn ngoleu hwyr Mehefin,
Y fron dristhâ;
Fel drain o gylch y lili,
Daw dolur gyda thlysni
Dyfna'r ha'.
O! mae'r cymylau'n dirion—
Fel blodau ar ffyrdd angylion, –
Pam rhaid pruddhau?
Pa hiraeth, heb ei alw,
Pa ofid, ddaw'n ddienw,
I'n dwyshau?
Paham mae dagrau'r awrhon,
Yn araf leithio'r galon,
A'r hwyr mor dlws?
Ai adgof yw o'r dolur,
Pan gauwyd, ar bechadur,
Euraidd Ddrws?
Y DDAU FRAWD.
DAW Cwsg bob nos i gau
Amrantau llaes y byd;
A. swn yr afon dros y gro
Yn murmur heibio o hyd.
Ar ol i'r llygaid gau,
Rhyw Bryder weithiau gwyd;
A gwelir, rhwng rhosynau hedd,
Ei wedd dymhestlog lwyd.
I Gwsg, brawd arall sy,
A chry' fel angel yw:
Ryw hwyrddydd, Hwnw ddaw i gau
Amrantau dynion byw.
Ac yn eu clyw, bydd tòn
Yr afon mwy yn fud;
Ni welant neb, ni theimlant ddim,
Dan lwyni melus hud.
I anedd Hwn ni ddaw,
Ond pethau dystaw, byth:
Nes cerddo Angel drwy y fro,
Gan ddechreu siglo'r gwlith.
DU A GWYN.
WRTH draed yr Alpau yn yr haf
Dwy gornant fechan sy;
A gelwir un y Gornant Wen,
A'r llall y Gornant Ddu.
O fôr o iâ daw'r Gornant Wen,
A:'i llif fel llaeth o wyn:
Ac nid yw'n cychwyn ar ei thaith
Un amser, ond fel hyn.
Fel arall tardda'r Gornant Ddu,
A duach, duach ä:
Pan rewo'r gauaf ffrydiau hon,
Du ydyw lliw yr ia.
Y Gornant Wen i'r Gornant du
A lifa'n hardd ei llun:
Ond Afon Ddu, o hyn i maes,
Yw enw'r ddwy yn un.
Trallod beunyddiol dan y nef
Yw cael y gwir fel hyn—
Mae'n hawddach troi y gwyn yn ddu,
Na throi y du yn wyn!
ROSALIND.
(Gwel "As you like it").
Pwy a geir yn swyno'r coed,
Lle bo'n myn'd?—
O! ni fu'r fath beth erioed—
Rosalind!
Mae pob blodyn glâs a gwyn,
Iddi'n ffrynd:
Ni cheir gan y dail, ond hyn—
Rosalind!
Mae yr adar yn mhob llwyn
Wedi myn'd
I chwedleua am ddim, ond swyn
Rosalind.
Pan ddisgwylia hi yn drist
Am ei ffrynd,
D'wed y dail siaradus: Ust!—
Rosalind.
Bryd yn Arden bu'r fath hwyl,
A'r fath fyn'd?
Mae pob peth yn cadw Gwyl
Rosalind
Ah! pa ryfedd? Swyn y coed
Sy gan hon;
A hudoledd dail a roed
Yn ei bron.
ADNODAU'R MOR.
i.
"A phwy a gauodd y Môr â dorau?"
Duw, rhwng wybrenau di ri,
Geulanodd y goleuni;
I'w lle rhodiai pob seren,
A phob lloer i'w phabell wen:
Ei air drwy'r rhaiadrau oedd
Yn rhoi muriau i'r moroedd;
Nes i'r eigion ymdòni
Yn ufydd, lâs, hafaidd li':—
Ac wele Fôr, gloyw ei fin,
A'i ael iach yn ddilychwin.
ii.
"Y dyfnder hefyd a wnaeth dwrf."
ANADLA'R Môr beroriaeth,
A mwynder yw min ei draeth;
Lle i ochel coll iechyd,
A rhoi heibio beio'r byd:
O oes i oes ceir ei su,
A'i awelon, heb dalu!
Ffraeth yw dewiniaeth y dòn,
A'i haraf haf—furmuron;
Milfil chwerthin ei diluw,
A wnâ'r dydd yn oriau Duw:
Wele ewyn yn loyw—aur,
Ael y dòn yn flodau aur.
Y nos fud ddaw dros y fan,
Yn ei llwyd fantell lydan;
Is y lloer daw maes y lli
Yn wylaidd gan liw'r lili.
Ai'r un môr yw hwn? Y mae rhuthr
Ei ewyn oer o draw'n aruthr!
Y gwynt sy'n gollwng ei gur,
A rhed nos ar dòn asur:
Mae'r dyfnder ar ddisperod
Yn hau alaethau fel ôd;
Mynyddau o dònau'n dal
Barn yn y wybren anial:
Y sêr sy'n ofni siarad—
Trwy y gwyll ciliant o'r gâd!
Y mellt sy'n dangos y Môr,
A'i ogofau'n dygyfor;
A mellten wenfflam wylltwedd
Oleua fab anwyl i'w fedd!
iii.
"Pan gyfodo ei dònau, Ti a'u gostegi."
Y MOR!—pwy all yn un man,
Ddofi llid ei wddf llydan?
Pwy dyr ei nerth, pwy dry'n ol
Ei lanw deddf—ddilynol?
Sobra hwn lais y brenin,
A'r balch ä'n fach, fach, ar ei fin.
Ni fu llef, na gafael llaw,
A wnai'r wendon i wrandaw:
O'r nen daw gair yn unig
I ddweyd ust! wrth foroedd dig:
Yn ddi-dwrf y cerdda Duw
Heolydd gwyn ei ddiluw;
Llef Iôr wna i'r llifeiriaint
Gadw Sul, fel gyda'i saint.
Un noson aeth ein Iesu
Ar daith dros y garwfor du.
Trwy y mellt tramwyai o,
A'r dòn ni wyrai dano;
Gwelai berygl, heb aros,
Ni ofnai wyllt dwrf y nos
Ar ei lef yr awyr lâs
A wawriodd dros Tiberias;
Talai y floesg dymhestl flin
Iddo Ei hawl ar ddeulin:
Ac wele'r dyfnder heb dwrf—
Eigionau yn ddigynhwrf!
iv.
"Pan roddes Efe ei ddeddf i'r môr."
AFLONYDD a diflino,
O draeth i draeth ä ar dro;
Heb ddydd gŵyl er bore'r byd,
Na huno haner enyd.
Llais y gwynt ni all lesgâu,
Na dyn flino, ei dònau;
Ni heneiddia'r blynyddoedd
Ei liw na'i dymhestlog floedd;
Yn ei lasliw a'i oslef,
Ail i anfarwol yw ef.
Y mae dawns a threm y dòn,
A'i thwrf ar draethau Arfon,
Wedi holl loes yr oesoedd,
Heddyw'r un a'r dydd yr oedd
Taliesin yn min y môr
Yn folianus brif-lenor.
Y llanw, heb wall unwaith,
Sy'n myn'd ar ddiderfyn daith;
Diwyd bererin daear,
O hyd i'n byd hoen a bâr:
Dilyn y nef brydlon wna,
A delw'r lleuad wylia:—
Erioed a welwyd ei drai
Yn hwyr, funyd, ar Fenai?
Adwaena'r dòn oriau Duw,
A Duw welir o'i diluw.
v.
" Yno yr ä y llongau."
CELF ddiflin fyn ddodi'n ddèl
Ar y moroedd rwym Ariel:
Y llongau chwim ollyngir,
I fyrhau pellterau'r tir;
Cânt, er eu llwyth, esmwyth hynt,
A'r dòn yn chwareu danynt!
Pe baent frith fel gwenith gwyn,
A'u hwyliau'n toi haul melyn,
Ceid mangre'r dyfnder i'w dwyn
Hwy, a'u beichiau, heb achwyn.
Tyrau mellt a änt i'r môr,
A'u muriau'n cario marwor;
O dan dywyll gestyll gant
Erwau y môr furmurant:
O'r adwy rhuthra'r trydan—
Ac wele'r dyfnder ar dân!
O dan y mellt mae'r dòn mwy,
Ar ymyl beddau'n tramwy:
Chwery hon heb ddychrynu,
Yn holl dwrf y cestyll du;
Ar ei chrwydr chwareua hi,
A dynion meirw dani;
Ni arafa: mor rhyfedd
Yw chwareu byw'n ochr y bedd!
Myn'd, myn'd, yw hanes y môr,
A'i ofid yn dygyfor.
vi
"A'r Môr nid oedd mwyach."
ANHYNAWS Fôr! gwaheni
Yma yn awr rhyngom ni:
Ar y traeth bu, lawer tro,
Anwyliaid yn ffarwelio.
Ah! gwelaist lawer galar,
Cyn hyn, a gofyn am gâr:
Ieuanc a hen, yn eu cur,
Yn ceisio, heb gael, cysur:
Wylent, gan bryder calon,
Berlau eu dagrau i'r dòn;
Yn llwyd, ar ymyl y lli,
Wylent, ac ofnent holi:—
Gwelent, yn mynwent y Môr,
Anwyliaid heb un elor!
O! y fynwent heb feini!
Tywyll, oer, fynwent y lli:
O! feddau, heb gôf iddynt!—
Heb alar, ond galar gwynt.
O! dorf fud—hyd awr y farn!
I'w codi gan y Cadarn:
Adnebydd Llywydd y lli
Fu mynwent, heb help meini:
Cyhoedda, galwa, ar g'oedd
Enwau meirwon y moroedd;
A hwy a ddônt, yn ddïau,
I'w wydd, heb ôl eu beddau.
O ryddhad annhraethadwy!
Ni bydd Môr, nac un bedd mwy.
TRI CHYFNOD.
i.
Boreuddydd yn Eden.
Daw mêl hefo'r awel ar foreuau,
A mwynder ac arogl mandragorau:
Efa'n blygeiniol a ga garolau
Engyl, i'w hebrwng i'w hoyw lwybrau:—
Ah! Eden wen!—rhodiwn ninau—weithion,
Yn wyneb lwydion heb un o'i blodau!
ii.
Prydnawngwaith y Ddaear.
YN mlaen, yn mlaen, ymdeithia'r miliynau
O'u tywyll lysoedd draw at well oesau;
Wedi eu hirion orthrymderau,
Daw, daw, i ddewrion eu dedwydd oriau:
Trŷ yr Oen, trwy riniau—Ei ddwyfol gur,
Hen erwau dolur yn wyn ardalau.
iii.
Boreuddydd Arall.
CHWILIA, fy enaid, ryw uchelfanau,
I weled bröydd Gwlad y Boreuau:
Ehêd i olwg ei phell ardalau—
Ein Eden arall, a'n Eden orau!
Gofynwn am drigfanau—heb un sôn
Yno am eirwon auaf dymhorau!
GHAOIL MA CHREE.[1]
MAE anadl y Gogledd,
Ar y dón,
Yn dilyn hyfrydedd
Hafddydd llon;
Mae'r wylan yn chwareu,
Ar wely'r lli:—
Ddoi di i'r deheu,
Ghaoil ma chree?
Glas yw y Werydd,
Dan lâs y nen;
Ond dros y mynydd
Daw niwlog len;
Golygus yw delw
Carw'n y lli;—
Mae'r deheu yn galw,
Ghaoil ma chree!
Mae diddos goedydd
Yn ddail i'w brig;
A sigla'r rhosydd
Eu clychau grug:
Maent oll ar eu goreu
I'th gadw di;
Ond ddoi di i'r deheu,
Ghaoil ma chree?
Mae aden y wenol
Yn caru'r de:
Mae'n harddu'r rheol
O newid lle:
Newid sy oreu,
Coelia di fi:—
O! tyred i'r deheu,
Ghaoil ma chree!
MEWN TAIR PENNOD.
CWRDDASANT yn y ffair,
Gan wrido ill dau, heb nemor air:
A phrynodd ef, rhwng dall a difri,
Ruban glas yn ffeiryn iddi.
Cwrddasant wedi hyn,
Un boreu, ar gae y gwenith gwyn:
Wrth fyn'd a chwareu rhwng y 'sgubau,
Mêl a gafwyd ar wefusau.
Cwrddasant yn y dref
O Lundain newydd ddod oedd ef:
Fe wridodd hi, fe wenodd yntau, —
Heb na rhuban, na chusanau.
Dan chwiban, elai'n llon,
A berw Llundain dan ei fron:
A hithau adref fu yn wylo—
Rhuban glas oedd dan ei dwylo!
MACHLUD HAUL YN IONAWR.
(I D. E. E.)
DAW ffarwel haul
I'r eira gwyn,
A'r coed di ddail,
Ar ochrau'r bryn:
Ah! nid oes neb a ŵyr
Faint yw tosturi'r hwyr!
Mae'r gwyn yn troi
Yn harddach lliw —
Gwneud lle, wrth roi,
I fwy, mae Duw;
A. Duw yw'r unig Un,
All wella'i waith Ei hun.
Mae'r tywyll goed
Yn ysgafnhau;
Arnynt fe roed
Addewid Mai:
'Does neb ond Duw yr haul
Yn cofio'r coed di ddail.
Mae eto fyd
Mwy gwyn gan Dduw;
A'i goed i gyd
Heb ddalen wyw;
Y byd tu hwnt i'r llen,
Lle tyfa'r Bywiol Bren
YN UNIG, CRED!
Yn unig, crêd! a chrêd yn gry';
Crêd rywbeth da, ddaeth oddi fry:
Ond dechreu credu rhyw un ffaith,
Cei ddysgu'r lleill wrth wneud dy waith—
Yn unig, crêd!
Os heibio'r tŷ amheuon ddaw,
Ar edyn nychlyd yn y gwlaw,
Gwell it' eu gyru hwy ar ffô,
Rhag iddynt nythu dan y tô—
Bydd gryf, a chrêd!
Gochel y niwloedd segur sydd
Yn magu diogi yn y dydd,
Gan adael eu diferion llaith
Ar ol, i rydu'r offer gwaith—
Bydd ddyfal, crêd!
Wrth arfer meddwl yn amheus,
Daw pechod weithiau'n rhy gyfleus;
Yr hwn na chredo ddim yn dda,
Darewir gyntaf gan y pla—
Ymgroesa, crêd!
Yn unig, crêd! a chrêd yn dda,
A llaw'r Gwirionedd a'th ryddha;
Tu hwnt i flaenau'r niwl, ryw awr
Cei ddod i uchelfeydd y wawr—
Yn unig, crêd!
Y CREULON BACH.
(BREUDDWYD.)
GRUDDFANAI'R dymhestl drwy y nef,
A rhuai ar fynyddoedd llwyd;
Dolefai derw'r goedwig gref,
Fel adar wedi eu dal mewn rhwyd:
A'r nos a lifai dros bob bryn,
Nes cròni yn nyfnderau'r glyn.
Pob cwmwl oedd yn magu mellt,
Pob mellten oedd yn lâs o lid;
A derw canrif wnaed yn ddellt,
Ac adar haf am byth yn fud:
Rhaiadrau dorent ochrau'r bryn,
Nes chwyddo'r afon yn y glyn.
'Roedd cri ysguthan yn y coed,
A gwaedd dylluan yn y cwm;
A'r llwynog, ar lechwrus droed,
Gyflymai'n ol i'w lety llwm:
Goleuai'r mellt ar ochrau'r bryn,
A throent fel seirph yn nghiliau'r glyn.
O dan y nef, ar waelod gwaun,
Yn unig, unig, safai Un:
Pan wingai'r corwynt yn y drain,
Safai, a chwarddai wrtho'i hun:—
Ai plentyn yr elfenau oedd,
Fagwyd, heb fam, yn swn eu bloedd?
Ei freichiau oedd ei falchder ef,
A drachtiai'r dymhestl megis gwin;
Ei lygaid chwarddent ar y nef,
A daliai'r curwlaw ar ei fin:
Pan welai'r derw'n myn'd yn ddellt,
Cerddai yn falch yn ffordd y mellt.
Ac weithiau, mewn digrifwch hyf,
Holltai y derw drosto'i hun;
A sangai yn y cenllif cryf,
A malai greigiau yn ddi lun:—
Ai brenin y tymhestloedd oedd,
Yn arwain yr ystorm â'i floedd?
Diosgai'r gwynt yr eiddew gwyrdd,
A'r mwswg, ar henafol goed;
A rhuthrai ffrydiau ar hyd ffyrdd
Lle nad aeth ffrwd o'r blaen erioed:
Ond safai Ef a'i hirwallt llaes
Fel baner ar uchelfa'r maes.
Tra gwyliai'r cynhwrf yn ddi fraw,
Heb oleu dim ond goleu'r mellt,
Daeth adlais heibio oddi draw,
Gan ruddfan dweyd—Рob сnаwd sydd wellt!
A therfysg fu: ond safai ef,
Gan bwyso ar ei galon gref.
Clustfeiniai, rhwng gruddfanau'r gwynt,
Drachefn i'w glywed. Nid oedd llef,
Ond dwndwr nentydd ar eu hynt,
Ac adar dryghin yn y nef:
A chwarddai eilwaith wrtho'i hun,
Gan rifo'r mellt o un i un.
Yn sydyn, llamodd plentyn bach
I'w ymyl, fel o freichiau'r nos:
Di-ofn, dienw, a di-ach,
Fel awel drô ar ganol rhôs:—
Ai rhyw ddireidi gwridog yw
Wedi ei eni'n blentyn byw?
'Roedd goleu yn ei lygad glâs,
Fel goleu'r mellt ar fynydd pell;—
Goleu chwareus, di-ofn, di-râs,
Na ddoi, o'i wylio, ddim yn well:
A disglaer ydoedd ei ddwy foch,
A'u gwrid fel pabi'r ŷd o goch.
Ei ruddwallt meddal oedd yn ffluwch
Mursenaidd, dros ei wridog foch;
Ac weithiau gwên, ac weithiau cuwch,
A lithrai dros ei wefus goch:
Gwyn oedd ei fysedd fel y calch,
A'i law ysmaliai a llaw y Balch.
Hwnw, mewn penbleth, yn chwareus
A wyliai, rhwng dau feddwl cloff:
Pan chwarddai, chwarddai yn amheus;
Pan wgai, elai yn fwy hoff:
A chwrdd â'r bysedd gwyn fel calch,
A felus syfrdanai'r Balch.
Gostyngai twrf y dymhestl flin,
Llonyddai'r cyffro yn yr allt;
A'r plentyn ddringodd ar ei lin,
A rhedai ei fysedd drwy ei wallt:
Chwareuai'r bach; a chwarddai'r Llall—
Fel ef, yn Sorec wnaed yn ddall.
Yn sydyn, megys ergyd saeth,
Y bach afaelia'n mreichiau'r Balch;
Heb ddim i'w dal ill dwy yn gaeth,
Ond grym y bysedd gwyn fel calch:
Chwarddai y Cryf chwerthiniad cras
Ond mellt oedd yn y llygaid glâs.
Fe drôdd y chwareu'n chwareu mawr,
Dechreuai'r Balch gyffroi yn ddig:
Ysgydwai—rhegai—rhwygai'r llawr,
A'i chwerw floedd a lanwai'r wig;
Ond trech na grym a rhêg y Balch
Fu'r bysedd gwynion fel y calch.
Deffrôdd—fel hwnw aeth â'r pyrth,
Un boreu teg, i ben y bryn:
Ond Ah! ni wyddai ffordd y wyrth,
A nychai dan y dwylaw gwyn;
Ei waed ddiferai ar y brwyn,
A'r ceunant ail-ruddfanai ei gwyn.
Ymbiliai—wylai: chwarddai'r llall;
Rhegai—gweddïai: gwawdiai'r bach!—
Gwae'r rymus fraich, heb galon gall!
Gwae gryfion byd, heb enaid iach!—
Ar fab y cedyrn nychdod ddaeth,
Gwnaed brenin yr elfenau'n gaeth.
Colfenau blygodd yn ei aidd,
A chreigiau falodd gynt dan draed;
Ond bellach, heb anadlu braidd,
Gorweddai'n ysig yn ei waed;
A chwerwder oedd yn llidio'i fron—
Fel gwarthrudd Pharao yn y dòn.
Goleuodd mellten frig yr allt—
Rhyw fellten olaf oedd o'r nef—
A fflamiodd dros ei frychlyd wallt,
A deifiodd flaen ei fysedd ef;
Tra clywid Angel coeth y mellt
Wrth fyn'd yn dweyd—Pob cnawd sydd wellt!
Morwynig ddaeth, ar doriad gwawr,
O'i bwthyn gwyn yn min yr allt;
A thyner, wedi'r dymhestl fawr,
Oedd blodau'r heulwen yn ei gwallt;
'Roedd yn ei llygaid foreu Mai,
A'i gwedd yn glir fel dyfroedd crai.
Hi gerddai'n ddèl, ar ysgafn droed,
A'r adar a'i hadwaenent hi:
Ei threm liniarai noethni'r coed,
Fel c'lomen Noah ar y lli:—
Chwaer iddi wnaeth, un boreu hardd,
I Danté fyn'd dan grynu'n fardd.
Diddanai, heb ddywedyd gair;
Ni chanai—ond yr oedd yn gân:
Yn debyg yr edrychai Mair
Wrth gofio geiriau'r angel glân:
A gwell na mwynder boreu Mai
Oedd gwawr ei henaid yn dyddhau.
Ar ol y mellt fu'n deifio'r waun,
Bendith y gwlith oedd gweled hon;
Goleuai heibio'r llwyni drain,
A murmur hafddydd dan ei bron:
Ac at y Ddau, mewn syndod, daeth—
A'i syndod yn dosturi aeth!
'Roedd un mor fawr, ond
O! mor friw, A'r llall mor fach, ond
O! mor gâs;Newid a wnaeth ei gwridog liw,
A llenwi wnaeth ei llygad glas:
Wylodd dros un, wrth wel'd ei glwy'
Am fryntni'r llall gofidiodd fwy!
Os trôdd rhosynau'r angel pur
I Mephistopheles yn dân,
Ei deigryn hithau aeth yn gur
I'r bysedd creulon, gwynion, mân:
Yn ei gynddaredd ati trodd;
Crynodd—dychrynodd gwelwodd—ffödd.
A chlwyfau'r llall a driniodd hi
Nes aeth ei balm i'w enaid tlawd;
Ei gwedd, fel Mair ar Galfari,
Aeth rhyngddo ef a gwaetha'r gwawd:
Cododd; penliniodd dan y nen!
A'r dydd ddisgynai ar ei ben.
EMYNAU
I.
Ymdrech deg.
YMDRECHWN ymdrech deg
Dros athrawiaethau'r Oen;
Gan fyw i wneud y byd yn well,
Ac esmwythâu ei boen.
Gwnaer ni fel Mab y Dyn,
Yn addfwyn yn mhob man;
Rhag troi y cloff o lwybrau'r nef,
Na digaloni'r gwan.
Trwy wadu'n hunain, bawb,
Dangoswn Grist i'r oes:
Caed eraill drwy ein haberth ni
Wel'd aberth gwell y Groes.
II.
Rhagorfreintiau'r Nefoedd.
I'R nefoedd ni ddaw nos,
Nac achos i ymado:
Câ pawb fwynhad yn ngwaith y wlad—
Mae'r gwaith yn gariad yno.
I'r nefoedd ni ddaw cur,
Rhy bur fydd pawb i flino:
A phwy all lai na llawenhau
Ni chollir dagrau yno.
Ni ddaw un pechod mwy
I'w poeni hwy'n y nefoedd:
Yn nghariad Duw mae'r teulu'n byw
Heb fraw na briw'n oes oesoedd.
O! dwg ni, Fugail Da,
I Wynfa i breswylio:
Ni welir bedd yn ngwlad yr hedd—
Cawn wledd heb ddiwedd yno,
III.
"Megys yn y Nef, felly ar y Ddaear."
MOLIANED Uchelderau'r nef
Yr Arglwydd am Ei waith;
A cherdded swn Ei foliant Ef,
Trwy'r holl ddyfnderau maith.
Canmoled disglaer sêr di ri'
Ddoethineb meddwl Duw;
Ac yn ein dagrau d'wedwn ni
Mai doeth a chyfiawn yw.
Am Ei sancteiddrwydd moler Ef
Gan gôr seraphaidd fyrdd:
Atebwn ninau âg un llef
Mai sanctaidd yw Ei ffyrdd.
Cyduned yr angylion glân
Ei ddeddfau i fawrhau:
Gweddïwn ninau gyda'r gân
Am râs i'w ufuddhau.
Trwy'r nefoedd wen o oes i oes
Canmoler cariad Duw:
Fe ganwn ninau wrth y Groes
Mai Duw y cariad yw.
Molianed uchelderau'r nef
Yr Arglwydd am Ei waith;
A cherdded swn Ei foliant Ef
Trwy'r holl ddyfnderau maith.
IV.
GWEINIDOGAETH MAB Y DYN.
"O Jesu Christi, wahres Licht."—J. HEERMANN.
O! IESU, y Goleuni Gwir,
Ar nos eneidiau gwawria'n glir;
Y rhai sydd heb dy adwaen, dwg
I'th gorlan cyn y dyddiau drwg.
O! tywys Di eneidiau ffôl,
A gamarweiniwyd, eto'n ol:
A'r rhai sy'n dilyn ofer hynt,
Gâd iddynt gofio'r dyddiau gynt.
Yn dirion ceisia, Iesu cu,
Yr enaid a'th adawodd Di:
lachâ'r gydwybod glwyfus, wan,
Dod iddi'th nefol hedd yn rhan.
Y byddar glywo'th hyfryd lêf,
A dysg i'r mudan iaith y nef;
A galw Dy ddisgyblion cudd
I'th ddilyn mwy yn ngoleu'r dydd.
Goleua'r deillion oddi fry,
A dwg wrthgilwyr 'nol i'th Dây;
Ail-una'r rhai sydd ar wahân;
A'r rhai sy'n cloffi, nertha'n mlaen.
Cânt hwy a ninau felly flas
Ar ganmol rhyfeddodau grâs:
Os melus dechreu'r gân yn awr,
Yn Salem bydd gorfoledd mawr!
V.
Llawenydd yn ngwaith Duw.
Na foed cydweithwyr Duw
Byth yn eu gwaith yn drist
Wrth ddwyn y meini byw
I'w dodi'n nheml Crist:
Llawenydd sydd, llawenydd fydd
I bawb sy'n gweithio'n ngoleu ffydd.
Pa'm mae'r telynau draw
Ar helyg Babel bell,
Pan eilw Duw bob llaw
A thant at amcan gwell?
Ar furiau Seion, gweddus yw
Swn mawl wrth weithio gyda Duw.
Mae gweithwyr goreu'r ne'
Yn marw yn eu gwaith;
Ond eraill ddaw'n eu lle
Ar hyd yr oesoedd maith:
A ffyddlawn i'w addewid fry
Yw'r Hwn a fu'n sylfaenu'r Ty!
Mae'r Iesu eto'n fyw!
A'r gwaith sydd dan Ei law:
Ar gyfer gweithwyr Duw
Mae bendith oesau ddaw:
Llawenydd mawr yn nghyd a gawn,
Ryw ddydd, wrth wel'd y Ty yn llawn!
VI.
Angau'r Iesu.
PAN ddisgynodd grym yr Ysbryd
Fore'r Pentecost i lawr,
Yn eu dagrau edifeiriol
Fe achubwyd tyrfa fawr:
Angau'r Iesu
Wnaeth i deirmil fyn'd yn rhydd.
Yn Nghalfaria mae y fendith
Yn parhau o oes i oes;
Etifeddiaeth anllygredig
I'r holl fyd, yw ing y Groes:
Angau'r Iesu,
Cân bereiddiaf daear yw,
Cofio'r Groes dan bwys euogrwydd
Ddaw a gobaith i'r rhai pell;
Cofio'r Groes ar fryniau tawel
Wna i'r goreu fyw yn well:
Angau'r Iesu,
Coron dwyfol gariad yw.
Yn y nef mae myrdd myrddiynau,
Oll dan aur goronau'r wlad:
Nid oes neb yn llai na brenin,
Erbyn cyrhaedd Ty ein Tad!
Angau'r Iesu—
Dyna'r gân frenhinol fry.
VII.
Ymhyfrydu yn Nuw.
MOR hyfryd yw canu,
Dad nefol, i Ti;
Mor hyfryd yw meddwl
Mai'th eiddo wyf fi;
Awelon Dy gariad
Sy'n llòni pob man;
A goleu'th drugaredd
Yw gobaith y gwan.
Pob meddwl dymunol
Sy'n llanw fy mryd,
Anadliad Dy yspryd
Yw'r cyfan i gyd:
Gorphwysfa fy enaid
Yw profi Dy hedd;
A'm gobaith diddarfod
Yw gweled Dy wedd.
Mewn rhyddid nefolaidd
Dymunwn gael byw;
O wirfodd yn dilyn
Ewyllys fy Nuw:
Ononof fy hunan
Yn dewis y da;
Nes cael y llawenydd
Am byth a barha.
Boed meddwl yr Iesu
Yn feddwl i ni;
I'n gwneud ni, Dad nefol,
Yn debyg i Ti:
Perffeithrwydd y nefoedd
Fydd gweled Dy wedd,
A gwynfyd heb ddarfod
Fydd byw yn dy hedd,
VIII.
Dyoddefaint Crist yn gysur i'w Bobl.
CYSUR meddwl ar ein taith,
Dan bob aflwydd,
Bu'n galetach lawer gwaith
Ar ein Harglwydd:
Pan yn cwyno lawer awr
Mewn cyfyngder,
Cofiwn Un fu'n îs i lawr
Yn y dyfnder.
Moliant byth i'w enw Ef
Am Ei drallod;
Gŵyr y Gwr sy'n Frenin nef
Waethaf pechod:
Gethsemane ddaw â ni
Yn nês adref;
Wedi gofid Calfari
Hawddach goddef.
Am i'r Iesu fyn'd i'w fedd,
Fel y gwanaf,
Agor mwy mae blodau hedd
Ganol gauaf:
Pan gyrhaeddwn dros y lli'
Fynydd Seion,
Canwn eto am i ni
Ofni'r afon.
IX.
Pwyso ar Iesu.
TYDI, adewaist gynt,
I'th was, mewn hedd,
Gael pwyso ar Dy fron,
Wrth fwrdd y wledd,—
Er gwaetha'r gwynt a'r lli',
O fewn Dy fynwes Di,
Dod hefyd noddfa i ni,
Sy'n ofni'r bedd.
Cawn help ar bwys Dy fron,
I'th ddeall Di;
A dilyn ffordd y Groes
Hyd Galfari:
Os dwys ofyniad ddaw,
I beri ini fraw,
Cyffyrddiad lleia'th law
A'n hadfer ni.
Os myn'd fydd raid, ryw ddydd,
Ar ddyrys daith,
I ryw unigrwydd mawr,
Er mwyn Dy waith,
Rho yno wel'd y côr
Sy'n cadw Sabboth Iôr,
Ar lànau'r grisial fôr,
Trwy'r oesoedd maith.
Dros lawer niwlog fryn,
Dwg ni mewn hedd,
O'r diwedd, atynt hwy,
Sy'n gwel'd Dy wedd:
'Nol gado'r gwynt a'r dòn,
Cystuddiau'r ddaear hon
Annghofir, ar Dy fron,
Wrth fwrdd y wledd.
Χ.
Er mwyn yr Oen.
O! Nefol Dad, Dy gariad Di,
Sydd wedi dysgu'n cariad ni;
Gwrando'n drugarog ar ein cri,
Er mwyn yr Oen.
O! rho Dy law i'r ieuanc sydd
Yn colli'r ffordd ar ganol dydd,
I'w ddwyn yn ol i lwybrau ffydd,
Er mwyn yr Oen
Mae llawer heddyw'n rhodio'n dlawd
Ar ol bradychu eu hanwyl Frawd;
O! achub hwy rhag gwarth a gwawd,
Er mwyn yr Oen.
Mae ofnau rhywrai'n eu llesghau,
Rhag dod, a chael y Drws yn nghau
O! dyro iddynt râs parhau,
Er mwyn yr Oen.
Bydd Di yn gysgod i rai gwan,
Ac i rai addfwyn bydd yn Rhan;
A dwg o'r newydd fyrdd i'r làn,
Er mwyn yr Oen,
ΧΙ.
Y Deyrnas Newydd.
MAE sain yr udgorn arian clir
Yn cerdded dros y gwledydd;
Ceir byd heb bechod cyn bo hir,
Ceir nef a daear newydd:
Bydd geiriau'r Oen yn eiriau'r byd,
Efe fydd yn teyrnasu:
Fe ddaw'r cenedloedd o un fryd
I gyd dan faner Iesu.
I'r gwan daw cymhorth gwell wrth raid,
A rhyddid llawn i'r caethion;
Cawn fyw mewn hedd, a Duw o'n plaid, —
Un enaid ac un galon:
Fe beidia'r llid, fe dderfydd trais,
Bydd pawb yn un yn mhobman;
Gwrandewir ar yr hyfryd lais,
Lle'r elo'r udgorn arian.
Bydd cyfoeth byd a meddwl dyn
Yn eiddo Brenin Seion;
Fe roir coronau'r llawr bob un
I'r Gwr fu dan yr hoelion;
Bydd pawb yn canu am y Groes,
Wrth gofio'r loes fu yno;—
O! tyred bellach, ddedwydd oes,
A theyrnas hardd y Seilo!
CERDDI CYMRU.
PA'M na ganwn ni gerddi Cymru,
Gwlithoog gerddi boreuau Mai?
Hen alawon fu'n tadau'n ganu,
A'r coed yn eu blodau o flaen y tai.
Pa'm na ganwn ni gerddi Cymru,
Rhwng y briallu ar lwybrau serch?
Hiraeth a hawddfyd oesau o garu
Ddaw gyda'r alaw i fab a merch.
Pa'm na ganwn ni gerddi Cymru,
Ddydd yr Eisteddfod, a dyddiau gwyl?
Pa'm rhaid troi y delyn o'r neilldu —
Colli'r delyn fydd colli'r hwyl!
Pa'm na ganwn ni gerddi Cymru?
Wrth ddod i drothwy y llydan fyd?
Bywyd melusach gawn wrth eu canu;
Cawn farw'n well, gyda cherddi'r cryd.
PENYD Y BARDD.
DAETH heibio aderyn wylofus,
Disgynodd o flaen fy nhŷ;
A gwnaeth i mi brofi'n anfoddus
O chwerwder pob gofid y sy.
Fe'm swynai, fe'm clwyfai, fe'm digiai,
Ond tewi nis gwnelai er dim:
Llawenydd yr hirddydd ddyrysai,
A'i ofid ei hun roddai im'.
Fel curwlaw'n andwyo y lili,
Pob meddwl dymunol wnai'n wan;
Ac nid oedd na goleu na glesni
Yn aros fel cynt yn un man.
O'r diwedd, rhwng pryder a digter,
Anelais at fywyd y peth:
A chwarddwn, mewn munyd o falchder,
Wrth ddilyn yr ergyd di fêth.
Ei aden a glwyfais—ei aden, —.
Ond rhyngom ein dau bernwch chwi:—
Dychwelodd yr ergyd aflawen
Yn ofid dau ddyblyg i mi!
Yr aden a glwyfais a'i ceidw
Byth mwyach yn ymyl fy nhŷ:
Mae'n trydar, yn trydar mor chwerw,
Nes gwn am bob gofid y sy.
ARTHUR GYDA NI.
MAE Arthur Fawr yn cysgu,
A'i ddewrion sy o'i ddeutu,
A'u gafael ar y cledd:
Pan ddaw yn ddydd yn Nghymru,
Daw Arthur Fawr i fynu
Yn fyw yn fyw o'i fedd!
Pan ddeffry gwlad o ddynion
I frwydro'n gywir—galon,
O blaid y nef a dyn;
Daw anfarwolion oesau
I sefyll wrth eu hochrau—
I sefyll yn ddi grŷn.
Pan fydd y wlad yn barod,
A glendid mwy yn ddefod,
Bydd Arthur gyda ni:
Lle ceir y galon lathraidd,
Fe geir y Greal Sanctaidd,
Ac fe geir dyn mewn bri.
Gwae fydd i Medrawd elyn,
A'r boblach sy'n ei ddilyn,
Pan gyfyd Arthur Fawr:
Bydd digon o gosp iddo
Gael gwel'd ei hunan yno,
Yn ngoleu glân y wawr.
Gwyn fyd y galon anwyl,
Sy'n caru, ac yn disgwyl
Am weled Cymru'n rhydd:
Caiff hono'r fendith oreu,
Pan fydd goleuni'r boreu
Yn dangos CYMRU FYDD.
GOLEU'R BRYN YN Y GLYN.
SAFWN ar y gwyrddlas Fryn,
Yn hyfrydle'r goleu gwyn:
Llon'd y wybren oedd o hedd,
Heb un cwmwl ar ei gwedd;
Sacramentau'r nef a roed
Ar y dyfroedd, ar y coed:
Cwpan sanctaidd o oleuni
Oedd wrth wefus pob gwyrddlesni.
Goleu, goleu oedd pob man—
Gwin y nef i'r ddaear wan;
Ac fe lawenychai'r Glyn,
Yn ngoleuni pen y Bryn.
Cês fy hunan wedi hyn
Yn nghilfachau pella'r Glyn;
Niwl oedd yno'n oeri'r dail,
Ac yn difa mwynder haul;
Swn yr afon yn yr hesg
Llwyd, oedd wedi myn'd yn llesg:—
O! 'r fath gystudd yno brofais,
Nes im' gofio'r Bryn adewais.
Cofio'r Bryn, a'i oleu ef,
Ddaeth â mi i wyneb nef:
Wedi cael goleuni'r Bryn,
Ni raid ofni niwl y Glyn.
BARA AR Y DYFROEDD.
BWRW dy fara, O! ddyn,
Ar wyneb y dyfroedd llwydion:
Rhag i ti gael dy hun
Heb ddim i borthi'r tlodion.
Os pleser heddyw brinheir,
Bydd dy yfory yn llawnach:
Gobaith deufyd a geir,
Wrth wneud un byd yn llonach.
Crêd y dyfodol drud,
A chrêd yr haf sy o'r golwg:
Mae Duw yn y pellder mud,
I ddwyn y goreu i'r amlwg.
Onid yw'r byd o hyd
Yn fyr o fara beunyddiol?
Gwell bod yn hael mewn pryd,
Nag ini golledu'r dyfodol.
Bwrw dy fara, O! ddyn,
Ar wyneb llydan y dyfroedd
Rhag mai newynu dy hun
A wnei di—yn oes oesoedd!
SUB ROSA.
GYMRU ieuanc! gwrando
Air bach yn dy glust, —
Ti, sydd am roi heibio
Rhodio'n drist:—
Mae dy wyneb weithion
At y llydan fyd;
Cadw wres dy galon
Yr un pryd.
Dante—dos i'w ddilyn;
Shakespere—tro i'w fyd:
Cofia Bantycelyn
Yr un pryd.
Daeth dy ddiwrnod gweithio,
'Nol breuddwydio'n hir—
Gweithia: daw breuddwydio
Yn fwy clir.
Morfydd wyt ti, Gymru,
Cariad beirdd, a'u bri;
Mỳn pob Dafydd ganu
Cerdd i ti.
Mwyn yw cywydd, Morfydd;
Caru, melus yw—
Dywed di wrth Dafydd
Fod rhaid byw!
NODIADAU.
Hanes Gweddi Monica (t.d. 11).—Mam Augustine, yr hwn fu byw i ysgrifenu un o'r clasuron Cristionogol—Civitas Dei, "Dinas Duw."
Peidiwch holi Heddyw (t.d. 25).—Gwêl hanes oriau diweddaf Golyddan yn Y Geninen, Gorphenaf, 1894.
Fy Arglwydd yn yr Ardd (t.d. 33). — Awgrymwyd y gân hon gan linell gyntaf cân fechan Americanaidd o ddau benill.
Yr Eiger (t.d. 35). Un o fynyddoedd Switzerland, yn cysgodi Grindelwald.
Ar lanau y Towy (t.d. 42). Ceir yr alaw yn y Cambrian Minstrelsie: yn gystal a'r alaw i Golled y Bardd {t.d. 45) a Ddolur Disgwyl" (t.d. 50).
Olion Hanes (t.d. 52). —Y mae olion ffordd Rufeinig gerllaw yr afon Llwchwr, ac adfeilion castell, lle y rhêd i'r môr, tra y croesir hi heddyw gan y ffordd haiarn.
Y Drws Cauedig (t.d. 83). — Yn y Fabinogi dywedir fod deuddrws yn agored, a'r trydydd yn nghauad, a'i wyneb tua Chernyw. "Yno y treuliasant y pedwar ugain mlynedd, hyd na wybuant hwy erioed ddwyn yspaid ddigrifach na hyfrydach na honno." Heilyn ddywedodd un dyddgwaith"Mefl ar fy marf i onid agoraf y drws!" Wedi ei agor cofiasant am bob drwg a cholled fu iddynt —"ac yn benaf am eu harglwydd."CYFRES Y CEINION.—PRIS 1s. yr un.
1. Helyntion Bywyd Hen Deiliwr.
2. Llythyrau yr Hen Ffarmwr.
3. Cyfrinach yr Aelwyd.
Gan y Parch. W. REES, D.D.
Y Tri Llyfr wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 4s.
4. Gardd Eifion: sef Barddoniaeth ROBERT AB GWILYM DDU O EIFION.
5. Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol.
6 Gwaith Beirdd Mon: sef, LEWIS MORYS Y BARDD COCH (Hugh Hughes), a ROBIN DDU O FON.
7. John Blackwell. Ei Waith Barddonol.
Y pedwar llyfr uchod wedi eu cydrwymo mewr. llian, Pris 5s.
8. Yr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD JONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BREN), ac EDMUND JONES O Bontypwl.
10.Diliau Barddas: sef, Cyfansoddiadau Barddonol BARDD NANTGLYN.
9 ac 11. Pigion Englynion fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r Iaith. Detholedig gan EIFIONYDD.
12. Rheinallt ab Gruffydd. Gan LLYFRBRYF.
13 Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Gan ELIS WYN O LASYNYS.
14. "Christmasia," gan BRUTUS.
15. J. Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith. Gan LLYFRBRYF.
16. Yr Oriau Olaf: gan JOHN CEIRIOG HUGHES, sef Caneuon, Rhiangerddi, &c. wedi eu cymeryd o Lawysgrif y Bardd.
15 a 16 wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian, Pris 2/6.
17. Llyfr y Tri Aderyn. Gan MORGAN LLWYD O WYNEDD. Gyda NODIADAU gan y Parch O. JONES, B.A.
18. Llythyrau Goronwy Owen. Wedi eu manwl gydmaru a chopiau mewn ysgrif. Dan olygiaeth Proff. J. MORRIS JONES, M.A., Bangor.
19. Caniadau Elfed
LERPWL: I. FOULKES.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Ghaoil (seinier gôl) ma chree—Anwylyd fy mron.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.