Caniadau Gwili/Cysgod Sêr
Gwedd
| ← Efelychiad o Lowell | Caniadau Gwili gan John Jenkins (Gwili) |
Tu Hwnt i'r Llen → |
CYSGOD SER
DOFN oedd afon Gwili
Gynt i'm llygaid syn;—
Cysgod sêr oedd ynddi:
Bas oedd hi, er hyn.
Gwelais ddynion enwog—
Epil bôn y glêr;
Gwŷr a bair im eto
Gofio'r cysgod sêr.
A gaiff Cymru ddynion
A fo'n sêr i'r byd?
Druan, sêr yr afon
Sydd yn mynd â'i bryd.
1896.