Caniadau Gwili/Dim Gwahaniaeth
Gwedd
| ← O Victor Hugo | Caniadau Gwili gan John Jenkins (Gwili) |
Yn ei Gwyn → |
DIM GWAHANIAETH
"NID oes wahaniaeth," ebe Pyrrho gynt,
"Pa un ai marw a fyddi ai ynteu byw."
"Os felly," ebe rhywun ar ei hynt,
"Syndod nad oes esbonio arno yw,
Paham na fynnit ti, a thi yn hen,
Drwy farw dy hun roi'r sêl ar dy ddamcaniaeth."
"O," ebe'r hen athronydd, ar ei wên,
"Yr wyf yn byw—am nad oes ddim gwahaniaeth."
1894.