Caniadau Gwili/Emyn Gwyl Ddewi
Gwedd
| ← Y Baledwr | Caniadau Gwili gan John Jenkins (Gwili) |
Mair, Ei Fam Ef → |
EMYN GWYL DDEWI
O ARGLWYDD Iôr ein tadau,
I'th breswylfeydd mewn hwyl
Y deuwn â chaniadau,
Fel tyrfa'n cadw gŵyl.
Am bob rhyw ddawn a rodded
Ar randir gras a gwyrth,
Ac am dy ddwyfol nodded,
Clodforwn Di'n dy byrth.
Os dig oedd gwedd y gelyn,
O weld ein newydd fri;
Os mynnai fathru'r delyn
A ganai salm i Ti:
Cyfodaist nawdd i'th lannau
Ym mhroffwyd min y môr;
A dal mae'r tynion dannau
I ganu mawl yr Iôr.
O Arglwydd Iôr ein tadau,
Doed atat fawl dy blant
Am ddisglair lu'r cenhadau
A'r marwor ar eu mant.
Rhoist weision i'n rhybuddio
Yngwydd dy orsedd wen;
Ac oes i oes ddatguddio
Dy ras yng Nghymru'n ben.
Chwefror, 1906.