Caniadau Gwili/Lleurwg
Gwedd
← Trystan ac Esyllt | Caniadau Gwili gan John Jenkins (Gwili) |
Y Baledwr → |
LLEURWG
LEURWG lewgalon, pa fodd y daeth Angau
Atat â'i gleddyf i'th daro i lawr?
Rhaid bod dy wyneb yn wyw gan dy bangau
Cyn iddo feiddio cyhoeddi dy awr.
Leurwg yr unplyg, mewn oes o ymhonwyr,
Pwy a gawn eilwaith yn neb ond ei hun?
Leurwg y gonest, mewn oes o gynffonwyr,
Pwy a gawn eto heb ofn wyneb dyn?
Gannwyll Llaneurwg, ti losgaist i'r soced,
Fflam ar bob malltod oedd llewych dy wedd;
A'r dwthwn y llithrwn i honni a hoced,
Tybiwn y clywir di'n fflamio'n dy fedd.
1903.