Caniadau Gwili/O, Paid a Thorri Brigau'r Coed
Gwedd
| ← Yn y Tro | Caniadau Gwili gan John Jenkins (Gwili) |
Y Gadlef Newydd → |
O, PAID A THORRI BRIGAU'R COED
O PAID â thorri brigau'r coed,
A throi eu gwedd yn wyw;
Mae ysbryd yn yr allt erioed
Mewn myfyr dwys yn byw.
Mae im seiadau mwyn ag ef
Am oriau melys, maith;
A gwin ei dangnefeddus nef
@A'm meddwodd lawer gwaith.
O, paid â thorri cangau'r coed,
O, paid â noethi'r brig;
Pa fodd y meiddi roddi troed
Yr ynfyd yn y wig?
Rhyw gysegr sancteiddiolaf yw
I ysbryd hedd erioed;
Daw dros fy enaid ddychryn byw
Pan af drwy len y coed.
1896.