Caniadau Gwili/O Victor Hugo
Gwedd
| ← Y Canu Mawr | Caniadau Gwili gan John Jenkins (Gwili) |
Dim Gwahaniaeth → |
O VICTOR HUGO
FY merch, a'm bod yn frenin mawr,
Rhown f'ymerodraeth iti'n awr;
Brenhinffon a fai dros y byd,
Fy neiliaid, fy maddonau drud,
Fy nghoron aur a'm llongau lli;—
Fe'u rhown am un o'th wenau di.
Mi rown, pe bawn yn Dduw, fy mun,
Nef, daear, engyl yn gytun;
Wybrennau taen a'r bydoedd fry,
Y lluoedd coll yn uffern sy;
Ie'r tragwyddoldeb maith rown i,
Am gusan melys gennyt ti.
1894.