Neidio i'r cynnwys

Caniadau Gwili/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Caniadau Gwili Caniadau Gwili

gan John Jenkins (Gwili)

Cynnwys

RHAGAIR

BU'R cyhoeddwyr gystal â thorri ar fy hir ddistawrwydd, a gofyn am gyfrol o'm barddoniaeth. O droi ati, paratoais innau fwy o ganiadau iddynt nag a ddymunent am y tro, eithr os gwelaf fod derbyniad i'r gyfrol hon, dichon y ceir un arall i'w dilyn.

Ceisiais gadw cymaint oll ag a feiddiwn o'm gwaith cynnar, a gallaf ddywedyd i mi roi cryn lawer o'm hamdden i'w wella.

Cyhoeddir Trystan ac Esyllt am y waith gyntaf, a hyderaf y gwelir nad oedd yn ormod gorchest i fardd a brydyddai cyn 1902—o gael ei destun—ganu heb bregethu, nac efelychu Swinburne ac eraill yn wan. O ran hynny, ni allaf lai nag olrhain y mudiad rhamantaidd diweddar yn ôl i Lyn y Morwynion Elfed, a chredaf y dylid cydnabod hynny. Y peth mwyaf a enillwyd yn Eisteddfod Bangor, yn 1902, oedd cywirdeb iaith a phurdeb arddull y cywyddwyr gynt, nid barddoniaeth wreiddiol iawn, neu arbennig ei gweledigaeth. Yn wir, yr oedd gan rai beirdd o ysgol Islwyn, er eu harddull ddiffygiol a'u Cymraeg gresynus, fwy o afael ar bethau pwysicaf cerdd nag oedd gan yr ysgol newydd.

Y bai amlycaf ar lawer o'r farddoniaeth a ddilynodd Ymadawiad Arthur oedd iddi aberthu nerth a diffuantrwydd i geinder a mursendod—colli golwg ar fywyd yn ei ystyr ddyfnaf a'i agweddau difrifol, a'i guddio mewn ffansi ddisylwedd a gwead o hen eiriau'r geiriadur.

Dechreuwyd blino ar y ffasiwn hon eto, ond bellach y mae gennym grefftwyr dan gamp. Y peth sydd yn eisiau yw enaid mawr i greu barddoniaeth fawr; oblegid er y moli disynnwyr a wneir ar rai o'n prifeirdd, fel beirdd pennaf Ewrob, ni bu gan Gymru erioed fardd o'r maintioli mwyaf, ac nid oes ganddi hyd yn hyn gerdd y gellir ei gosod gyd â cherddi mawr dyn. Bydd cydnabod hyn yn well peth inni na chanmol yn ynfyd ein celfyddydwyr gorau, er cystal eu gwaith. Pwy a ŵyr na chaiff Cymru, cyn tranc y Gymraeg, un o feirdd pennaf y byd? Nid oes gyfryw fardd yn y golwg hyd yma, ac ni ddaw'r fath fardd ychwaith nes cyfodi rhywun a ymdrinio'n onestach a dwysach â bywyd yn ei wir hanfodion oll.

Cyhoeddir Y Baledwr drwy ganiatâd caredig Syr E. Vincent Evans, Ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol.

GWILI.

Gwyl Ddewi, 1934.

Nodiadau

[golygu]