Neidio i'r cynnwys

Caniadau Gwili/Trystan ac Esyllt

Oddi ar Wicidestun
O William Blake Caniadau Gwili

gan John Jenkins (Gwili)

Lleurwg

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Trystan ac Esyllt
ar Wicipedia

TRYSTAN AC ESYLLT

I
"BRANWEN, fy merch, erglyw," ebr mam y fun
A gefnai ar y llys yn deg ei llun,
"Gwn mai d'orfoledd pennaf dithau a fydd
Gweld Esyllt hoff a March dros byth yn un.

"Gwêl yma, ynteu, gostrel lawn o swyn
Feddyglyn a ddarperais er eu mwyn;
Dwg hon i'r llong, a'th ofal drosti boed-
Cans pwy a ŵyr y gwae a fydd o'i dwyn?

"Ac wedi'ch mynd o ofnau'r môr yn rhydd,
A rhwymo deuddyn llon, dy swydd a fydd
Rhoi ger eu bron fy mhriodasol win,
A mesur iddynt anniflannol ddydd."

Fe dderbyn Branwen hithau'r gostrel ddrud,
Â'i gwedd yn adrodd gofal enaid mud;
A daw gorfoledd gwiw i'w llygaid glân
Wrth ddwyn i ddirgel fan y melys hud.

Daeth bore'r cychwyn, ac o Ddulyn daeth
Tyrfa i'r hafan ac i fin y traeth;
A hithau'r fun, fel haul mewn cafod haf,
Ymedy â'r Ynys Werdd, er gwell er gwaeth.


Rhy Trystan ei ystafell hardd ei hun
I Esyllt wen a'i morwyn deg ei llun;
A dwg ei gysur mwyn, ar gyfnos prudd,
I fron hiraethus dwy adfydus fun.

Ond cysur nis myn Esyllt dan ei chlwyf,
Gwell ganddi gur y nos nag ysgafn nwyf;
"Tydi," ebr hi, "yw lleiddiad brawd fy mam,
A gadael erot lys fy nhad yr wyf."

A dydd hyd nos, a nos hyd arall wawr,
Ni phaid ei chynnes ffrwd o ddagrau mawr,
Er maint a edrydd Trystan am y gŵr
A wna o'i dyddiau oll un heulog awr.

Rhyw nos, fe ddeffry'r storm, a Thrystan sydd
Ymhlith ei wŷr, fel gobaith plygain dydd,
Yn daerni oll ac aidd, hyd onid yw
Y storm yn llaesu o flaen ei gadarn ffydd.

Disgyn i'r caban at ei loywon sêr;
Ac er i Franwen huno o hiraeth pêr,
Mae Esyllt wen yn effro, ac ar ei gwedd
Edmygedd dieithr iawn o'r gwron têr.

"Gorchfygwyd dichell ton, y storm a'i rhu;
Ai gormod gofyn llyn, y fanon gu?"
"Elyn a hoffais, hyfryd waith a fydd
Diodi'r gŵr oedd drech na'r corwynt du."


Hi chwilia'r caban am y gwridog win,
A'r geiriau mwyn yn chwerthin ar ei min:
"Trystan, er tosted im dy anfad waith,
Gwych gennyf lawenhau dy loywaf rhin."

Ofer er hyn ei chais, hyd oni ddaw
I'r fan lle cwsg ei Branwen hun ddi-fraw.
"Trystan, bydd lawen eilwaith, wele win,"
Ebr hi, a dwyn y gostrel yn ei llaw.

"I ti y mae yn gyntaf, Esyllt fwyn,
I ti a minnau yr wyt wedi ei ddwyn";
Praw hithau'r melys drwyth, ac yna rhoi
I Drystan flas yr erch feddyglyn swyn.

Ar hyn, fe ddeffry Branwen, ac ni ŵyr
Pa beth a wna, o golli ei phwyll yn llwyr;
Ni all, rhag galw adfyd cyn ei awr,
Ond beichus wylo'i phoen o wawr hyd hwyr.

Ond mwynach llanw a ddaw dros ysbryd un,
A chilia'r dig o fron digymod fun;
A Thrystan, harddwch oll a swyn yw ef,
A phur dynerwch moes i'r deg ei llun.

Daw tyner olau serch i'w llygaid glân,
Daw pêr yswildod serch i'w gruddiau tân ;
A dwylo mwynber serch o dan ei bron
A chwery fel ar fil o dannau mân.


A Thrystan sy fel llanc a lwyr ddeffrôdd
O'i hun i ddydd nas câr—sydd wrth ei fodd;
Ei galon lom, ddigân, drwy'r newydd wawr,
Yn nyth i adar cerddgar serch a drôdd.

Ond nid yw'r naill i'r llall yn adrodd loes.
Hyfrydwch sy fel ienctid newydd oes
O fewn eu mynwes, ac am oriau maith
Tyn cariad ac anrhydedd gloyw yn groes.

Ni allaf byth," medd Trystan ynddo'i hun,
Chwennych i mi yn wraig fy mherffaith un;
I Farch y cyrchais hi, a'i eiddo yw,
A March a'i caiff, er maint fy serch at fun."

A thrwy ei dagrau, Esyllt hithau a lef,
Paham y gwelais ac y cerais ef?
Paham y dyd anrhydedd friw i'm bron?—
March yw fy mhriod, Trystan yw fy nef."

Eithr cryf yw cariad, fel yr angau du,
A gwan anrhydedd wrth y swynwr cry;
O'r diwedd, wedi dwyn y gwan i'r llawr,
Dyd serch anrhydedd dan ei archen hy.

Beth yw dy boen, fy Esyllt lwyd dy rudd?"
Ebr Trystan leddf, "D'wed im dy ofid cudd.
Beth sydd yn gwywo rhos dy wanwyn wedd?"
"L'Amer," ebr hithau, â threm yswil a phrudd.


"La Mer," medd ef, "ai'r eigion effro yw?
Paham yr ofni ddim o'i gyffro byw?"
"Na, nid y môr sy'n dwyn y gwrid o'm grân—
"L' Amer," ebr hi, "sy'n troi fy rhos yn wyw."

"L' Amer," medd ef, "ai chwiban chwerw'r chwa,
A'r chwerw gawod ton sydd iti'n bla?"
"Na, nid y chwerw chwa na'r chwerw don—
"L' Amer," ebr hi, "sy'n difa mwynder ha."

"L' Amer," medd ef, "dy ddirnad, fun, yr wy;
L' Amer, yn wir, a ddyry i minnau glwy;
Anwylaf Esyllt, serch fel hunllef hoff
Beunydd a'm blina innau'n fwy na mwy.

"L' Amer, L' Amer, er bore oes y byd,
L' Amer yw'r gorfoleddus boen o hyd."
"L' Amer," medd Esyllt, "yw fy ingol nef,"
A'i gwefus welw ar wefus welw hi ddyd.

Ac wrth nesáu at lan y niwlog dir,
D'wed Esyllt drist i Franwen hanes gwir
Y newydd serch, sy'n ddwysach nef o boen
Dan dywyll gysgod creigiau'i chystudd hir.

"Mi a ddymunwn," medd, "barhau yn bur
I'r gŵr a garaf, er mor ddwys fy nghur;
Nid oes im ddim â'r March nas gwelais, mwy;
Mil gwell yw ing na chrychni henaint sur."


Nid cudd i'r ffyddlon ferch ei meddwl hi,
A pharod yw i roi ei gwyry fri
Yn dâl i Esyllt am ddiofal awr;
A chyfamoda'r ddwy â'u dagrau'n lli.

A nos ei nef, nid edwyn March mo'r fun,
Wrth ymdirioni â meinir hardd ei llun;
Ac ni freuddwydia'r araf deyrn yn hir
Mor bur ei Esyllt lân—i arall un.

Â'r dyddiau heibio fel breuddwydion glân,
A llonnach ydyw'r llys gan ddawns a chân
Nag oedd yn nyddiau telyn Trystan gynt—
A gloywach ydyw fflam y dirgel dân.

Ond mwyn gywely Trystan lawer hwyr,
Ryw nos a ddeffry'n sydyn, ac ni ŵyr
A ddaeth o'i gyfaill; ac er cryfed serch,
Drwgdybiaeth erch a leinw'r câr yn llwyr.

Dilyn drwy'r ôd cyhuddol lun ei droed
Hyd at ystafell fad y lladrad oed;
A gwrendy'n hir ar ddau yn suo'r serch
A'r brad melysa' a glywodd clust erioed.

A mwy na'i serch at Drystan yw ei sel
At Farch, ei deyrn twylledig, ac ni wêl
Fachludo arall haul heb ddwyn i glyw
Ei unben pur ei ffydd fradwriaeth gêl.


Syndod yw'r chwedl i'r brenin, ac nis cred,
Gofid yw iddo ymdaenu'r su ar led;
Ac er i'r newydd gyrraedd hoffus ddau,
Nid March, y priod cu a'r câr, a'i d'wed.

Ond mynych adrodd helynt serch amhur
A bair i deyrn a fu fel astalch ddur
Yn erbyn picell enllib, ennyd wan
Roi praw ar Esyllt deg, er maint y cur.

"Esyllt," ebr ef, "rhaid imi droi i daith
A'm ceidw ymhell o'th wydd dros ddyddiau maith;
Mwynach a fai im aros dan dy wên,
Ond bys dyletswydd sydd at bruddach gwaith.

"Na phoena dithau, er imi droi o'm llys,
Cans rhof i'r teyrnaidd ŵr a garaf wŷs
I'th wylio'n hardd—nes imi droi'n fy ôl;—
 thi yng ngofal Trystan, pa raid brys?"

"Trystan!" medd hithau, yng ngrym cyfrwyster merch,
"Nid digon gennyt sôn am ymdaith erch
Heb roi i'r wraig a geri nawdd ei chas;—
Moes im fod gyd â thi, er mwyn dy serch."

Mae'r llygaid cil-agored eto'n cau,
A March yn curo'i fron am fwriad gau;
Try'r ddau i'r brenin eto'n gannaid wyn,
A newydd ddydd ei wên sydd ar y ddau.


Diofal, dro, yw serch, ond enllib blin
Nis phaid â thywallt gwenwyn yn y gwin;
Nis phaid â dangos dirgel darddle ffrwd
Y dyfroedd lladrad sy'n melysu min.

"Trystan," ebr March, "mae imi helfa fawr
A'm ceidw o'r llys nes torri o ugain gwawr;
A fynnit ti fy nilyn yn y coed,
A'm mintai lon, am lawer hoenus awr?"

Ac etyb Trystan, "Nid oes ynof nwyf;
Ers dyddiau lu rhyw ŵr heb galon wyf;
Ni allaf ddilyn rhuad helgwn chwim
Drwy'r gelltydd gwyrdd lle chwerwir heinus glwyf."

Gwêl yntau March paham y taria'r prudd,
A thry i'w daith yng ngafael dichell gudd;
Ond llama Trystan wrth garlamu'r meirch,
A daw blodeuad tyner dros ei rudd.

Am bedwar hwyr, â'r digllon deyrn i ffwrdd,
A'r gwylwyr ffrom heb le i newydd dwrdd,
Mae Trystan ym mharadwys firain serch

O dan y gwŷdd â'i Esyllt lwys yn cwrdd.
Ond byr yw cwsg yr enllib blin, a gwas
Y pumed hwyr a wylia'r oed ddi-ras.
Carlama'n wyllt i'r coed ar ôl y teyrn
A rwygir gan ei erch genfigen gas.


Y chweched hwyr, gwna'r du ei drem ei drig,
Cyn taro'r felys awr, yn neiliog frig
Yr olewydden, dan y dirion loer
A fynnai leddfu rhwysg ei chwerwder dig.

Daw Trystan, ar y gyfamodol awr,
I ddechrau arall ddydd yng ngwên ei wawr;
Ond nid oes iddo olau lloer, pan wêl
Y cysgod du rhwng cysgod dail ar lawr.

Pa beth a wna? Cans wele'r fun yn dod
At bren a ddyd ei gysgod ar ei chlod;
Pa beth a wna? Heb amnaid, ceidw'i le;
Hithau a wêl ar lawr y brad sy'n bod.

"Paham," ebr hi, "y ceisit fi fel hyn,
A'r llys yn sathru ar fy enw gwyn
Weithion ers talm? D'wed im dy gais ar frys;
Mi fynnwn daw ar eiriau'r enllib syn.

"Mae'r llys yn nyth i ddichell, a phaham
Y gwneir fel hyn â'm diniweidrwydd gam?
Gwyddost gywired wyf i'm priod March,
Er pured yw fy serch i'w gâr di-nam.

'Paham y gyrrit Franwen ataf i
I drefnu oed, liw nos, dan goed â thi?
D'wed im dy neges, ac fe'm gwêl fy nghell
Cyn cael o neb ddifwyno dim o'm bri."


Ac etyb Trystan ag wylofus lais:
"Urddasol Esyllt, cei'n ddioed fy nghais;
Cans eto wyth-ddydd byr, a Thrystan fydd
Lle nis cyrhaeddo enllib erch ei drais.

"Rho'r newydd hwn i'th ŵr a'm câr ar frys,
Ac adrodd fy nghywirdeb yn y llys;
A chaffed y taeogion weld eu cas
Fel tawch yn chwalu, a chwedl anniwair flys.

"Ac o chaf dreulio wythnos ger eich bron,
I'm taith ddiderfyn af â chalon lon;
A gwenau March ac Esyllt ar y lli,
Er corwynt ing, a'm deil yn uwch na'r don."

Mwy gofid sydd i Farch o'i fwriad du,
A'r cam a wnaeth â dau a garai'n gu;
Drannoeth fe ddyry ar Esyllt fwynach gwên,
A Thrystan ydyw haul ei ddisglair lu.

Eithr cyfrwys serch nis dianc eto'n hir,
Heb i genfigen effro gloddio'r gwir;
Ac wedi mynych chwedl, rhaid yw i Farch
Roi clust a chred i lais tystiolaeth glir.

"Trystan ac Esyllt," meddai ef, â nwyd
Yn torri'n gwmwl ar ei wyneb llwyd;
"Paham y twyllech fi gyhyd, a'ch serch
Beunydd yn gwau o'm cylch ei anfad rwyd?"


"I ffwrdd o'm golwg, ewch ar frys, eich dau!
Ewch a mynweswch mwy eich cariad gau:
Paham y gwnaech fi'n warth a gwawd i'm llys?
Ewch ymaith ac argeisiwch anllad bau!"

I ffwrdd, cyn dydd, o ru fel nwydus don
Yr ânt, â'u gwynfyd stormus yn eu bron.
Trônt i'r anialdir ac i'r coed, lle gŵyr
Trystan am ddeildy cudd i gariad llon.

A thrigant yno mewn paradwys fwyn,
Yn ymyl afon fach o dawel swyn,
Ymhlith y blodau mân yn hedd y coed,
A thrydar adar sy'n bywhau pob llwyn.

Ac wedi nos, adroddant yn eu cell
Chwedlau am ofid serch mewn oesoedd pell;
A gwelant hafau dan aeafau crin,
A gwaed ar flagur tirf y gwanwyn gwell.

Ond March, o golli Esyllt wen ei gwawr,
Ni wêl ond cuwch yr erchyll nos yn awr;
A rhag i dristwch fwyta'i hoen yn llwyr,
Try yntau i'r coed drachefn ar helfa fawr.

Ar lasiad dydd, ei bennaf heliwr ef,
Ryw fore, a ddaw i ymyl tawel nef
Y ddau sy'n huno ar wely o risial clir,
A rhed yn ôl at Farch â'i ddychryn lef.


"Unben, mae swyndy yn y gelltydd hyn,
Ac mi a welais ŵr, yn awr mor wyn
 meib y duwiau, ac yn ei ymyl ef
Dduwies o fun yn llawn prydferthwch syn!"

March yntau a'i canlyn ef hyd at ryw bau
Yn hollt y coed, ac yno cenfydd ddau
Mewn hyfryd hun, a chleddyf awchlym glân
Rhyngddynt, yn anwireddu'r cariad gau.

Cenfydd ei Esyllt yn fwy prydferth brudd
Na bun a welsai erioed; ar wywder grudd
Blodeua'n egwan ei rhosynnau pêr,
A'i phurdeb pefr sy'n wawl ar ofid cudd.

Carlama'n ôl i'w lys, a llef heb oed:
"Â'r pur y gwneuthum gam; a doed a ddoed,
Daw Esyllt yma'n ôl fel heulwen dêr,
Caiff Trystan fwy anrhydedd nag erioed."

Ymchwel y ddau drachefn, o'u hoen a'u hedd,
I'r llys a fu gyhyd i'w rhin yn fedd;
Ond ni ddaw haf a'i des, er mwynder March,
At wanwyn a ddygasai'r coed i'w gwedd.

Rhyw heulog awr, â Esyllt, oll yn hardd,
I wely o flodau Mai is coed yr ardd;
Ac enfyn Franwen ddoeth ar ddirgel hynt
At gell telynor serch a'i thyner fardd.


Ond yntau March, daw ef cyn hir am wledd
Ym mwyn ystafell Esyllt lwys ei gwedd;
A Branwen, gan ei braw, a lef ar frys:
"Mae Esyllt yn ei gardd mewn hun o hedd."

Cerdd yntau dros y lawnt hyd at y pren
Lle gŵyr am wely blodau Esyllt wen;
Ac yno-o'r diwedd!-cenfydd huno dau
Wefus ar wefus yn eu nwyd ddi-len.

Ymaith y cerdd yr unben ffrom ar wŷs
I gyrchu uchel fonedd chwyrn ei lys.
Ar hyn, fe ddeffry Trystan; cwyd ei fun,
A chân yn iach â'i Esyllt wen ar frys.

"Fe'n daliwyd, Esyllt, a rhaid imi ffoi,"
Ebr ef: "o'th wydd am byth rhaid imi droi;
Fy mun, fy mun! fy ingol, gyfrgoll nef!-
Dyrnod oedd fwy ni allai'r fall mo'i rhoi."

"Trystan anwylaf, ba ryw ansiawns hyn!
Paham y daeth y nos, ganolddydd gwyn?
Yn iach, yn iach, fy ngŵr, fy nef, fy nuw!"
A'r olaf win sy ar fin anwyliaid syn.

II
Gwêl y cyflychwyr Drystan ar y lli,
Yn ffoi yn niwl y gwarth sydd ar ei fri;
Yn ffoi mewn ing; ac wrth wynebu'r cefnfor
Nid ydyw'r awel hwyr yn lleddfu'i gri.


Rhed Esyllt drist o'i diflanedig nef
I ben y tŵr, o flaen y dymestl gref
A gyfyd March drwy'r llys, a gwylia'i Thrystan
Yn hwylio i ffwrdd â'i bywyd gydag ef.

Cwynfana'r ysig fel colomen fad:
'Paham y gwelais hon o ddryslyd wlad?
Paham y brysi ymaith, nef fy mywyd?
Gostwng dy hwyl, arafa ruthr y bad.

"Pa fodd y gelli fyw, o fod yn un
A'r drist sy'n ôl drwy anfad ffawd ddi-lun?
Pa fodd y dychwel cân i hanner enaid
A'r nodau coll ym mron d'amddifad fun?"

"Dygi fy einioes ymaith dros y don,
Gadewi fi ar ôl yn drist fy mron;
Yn iach, annelwig fad, yn iach, fy Nhrystan,
Yn iach, orfoledd brau pob hafddydd llon."

Ar daith ddiamcan crwydra yntau'n hir
Heb weled nac argeisio glesni tir;
A'i ofid sy fel maith ddygyfor eigion
Yn athrist gwyno am yr heulwen glir.

Ac wedi gweled glan, nid oes i'r prudd
Dawelwch rhag ystorm ei alaeth cudd;
Ac wedi crwydro llawer bro hyfrydwch,
Ni ddychwel gwrid i'w gystuddiedig rudd.


Dreiglwaith, fe dry i Lydaw, bri ar wlad,
O glywed chwedl ar fôr am greulon frad
A wnaethpwyd ar bendefig a'i etifedd,
A thyner fun y Dwylo Gwynion mad.

Cais saib i'w ofid yn ei fore waith,
A hyfryd ganddo yw sŵn yr ornest faith;
Ennill y wlad yn ôl i'w hetifeddion,
A gorffwys, dro, ar ôl helbulus daith.

Ond Esyllt lân y Dwylo Gwynion sydd
Yn codi'r Esyllt gynt i'w gof, bob dydd;
Ac er y nwyfus hedd a ddwg ei brawdmaeth,
Swyn fel y mwyn orffennol dim nis rhydd.

Rhyw newydd wae yw'r newydd fun i'w fron;
Deisyf ei mwynder trem â mynwes don,
Er mwyn ei wynfyd cyfrgoll, ond ei hiraeth
Sydd ar ei gynnydd dan ei hwyneb llon.

"Esyllt a glywaf enwi, o fore hyd hwyr,"
Medd llais y lleddf; "ond nid oes neb a ŵyr
Y modd y try'r swyn-enw yn fy mynwes
Yn aethus wayw a ladd fy hoen yn llwyr!

"Mi gefais Esyllt, ac nis cefais hi;
Mae'r Ddwylo Gwynion yma gyda mi;
Dwg syllu arni im yr hen orfoledd,
Ond cilia'r swyn, a chwerwach yw fy nghri.


"Eithr anrhydeddaf hi, er mwyn y fun
A wnaethpwyd, ryfedd nos, â mi yn un;
A rhed fy nghalon eirias allan ati,
Er mwyn y deg sy'n enaid im fy hun."

Fe wêl y Ddwylo Gwynion faint ei gur,
A lleinw'i bron â'r cydymdeimlad pur
Sy'n newid yn ei wydd yn dyner gariad,
A throi'n ymlyniad cadarn fel y dur.

"Mae f'enw'n wastad ar ei fin," ebr hi;
"Ond pam y mae ei sibrwd serch fel cri?
A pham y daw rhyw londer dros ei ruddiau
Sy'n treio'n ôl yn wae, o'm gweled i?"

Ac fel i'w llawenhau, a'i throi yn brudd,
Y dwthwn hwn gwna Trystan lwyd ei rudd
Ei ryfedd gân i ddolef serch yr oesoedd,
I gwynion mwynion mad y cariad cudd.

A'r gobaith sydd ar gynnydd yn y llys
Am weled blodau Cernyw a Llydaw ar frys
Yn tyfu 'nghyd; ni chreffir ar y byrdwn:
"Angau a bywyd yw i mi'n ddi-lys."

Gwywo mae Trystan, yn ei newydd nef,
Heb air o Gernyw'n crwydro ato ef;
Pa beth a wna, nis gŵyr; a ddeifiodd cariad
Ei Esyllt bur, yn nydd y dymestl gref?


Hir oedi eto ond, ryw wallgof awr,
I'r Ddwylo Gwynion, sy fel tyner wawr,
Fe edrydd barabl serch; a'i wridog fanon
Ni chudd o'i ŵydd ei morwyn gariad mawr.

A rhwymir dau yn un-os un yw'r glân
A'r fun a geidw'n wyry ar lwyr wahân
Bob nos, gan sibrwd am ddiofryd blwyddyn
A wnaeth i'r Ffydd, a chelu'r cynnar dân.

I frawdmaeth Esyllt y mae cariad cu
At riain a ddygasai marchog du
I'w garchar, a thry Trystan draw ar antur,
Ryw hwyrnos, gyd â'i gâr a bychan lu.

A'r cawr o'i lys, mae i Gahedin oed
Hir oriau gyd â'r fun felysa' erioed;
Ond dychwel dydd, ac wele'r cawr o'i ymdaith
I weld ei frad, o'i suddo 'ngwyll y coed.

Dilyn y gwŷr ar fuan farch, a daw
Yn ebrwydd arnynt, a rhoi arnynt fraw;
Eithr heria Trystan ef yn hy, a ddymchwel
Y cryf ond nid heb deimlo'i farwol law.

Daw'n ôl o dan ei glwyf, ac ofer yw
Serch-ofal Esyllt wen i'w gadw'n fyw;
Cannwyll marchogaeth, y mae'n gwelwi beunydd,
A phyla'r llygaid dan amrannau gwyw.


"Cahedin," ebr y llesg, ryw galed hwyr,
"Mi wn am un a fedr fy ngwella'n llwyr;
Cans od oes swyn yn gryf yn erbyn angau,
Esyllt Iwerddon, priod March, a'i gŵyr.

"Cyfod, a cherdd i'r porthladd, gâr di-fai,
A dos i Gernyw gyd â'r llanw chwai;
Adrodd i Esyllt nesed angau Trystan,
Ac ymchwel yma cyn y trydydd trai.

"Ac o daw'r fanon loywdrem dros y lli
I drin fy archoll, wrth dy gymell di,
Rho ar dy fad obeithiol hwyliau gwynion,
Ac, onid e, rai duon f'arwyl i."

A'r Ddwylo Gwynion y tu ôl i'r llen
Sy'n gwrando'i gais, ac yn ei mynwes wen
Y mae eiddigedd megis sarff wenwynig
Yn tanio'r llygaid tyner yn ei phen.

"A honno yw'r Esyllt sy'n ei galon ef!
Am honno y mae ei hiraeth!" yw ei llef;
"Myfi nid wyf ond priod enw a fynnodd
I'w ymgeleddu, yn nydd ei dymestl gref!

Ddichellgar ŵr, a fydd i'w Esyllt hon
A roddes iddo gariad gorau'i bron
Roi tyner ofal alaeth uwch ei wely,
A'i briod fun yn dyfod tros y don?


"Na, ni chaiff Trystan weld mo honno mwy
A fu gyhyd i'w fron fel cledd y clwy;
Ni wêl mo'r hwyliau gwynion ddod i'r porthladd,
Nac Esyllt Llydaw mo'u haduno hwy."

I'r hafan try Cahedin ddwys ei fron,
A chwifia'r fuan hwyl fel baner lon;
A dwndwr llanw sy fel canu gobaith,
A'r sér fel llygaid hyder yn y don.

Ond pan fydd ef yn croesi'r llawen li,
Esyllt Iwerddon lwydrudd, y mae hi
Mewn myfyr dwys yn holi helynt hwnnw
A roddes iddi ddyddiau maith ei chri.

"Ai byw fy Nhrystan hawddgar," ebr y fun,
"Er nawnddydd brad y cariad? F'annwyl un,
Paham na chrwydrai gair o'i fin i'w fanon?
A raid dihoeni yma mwy, fy hun?

A dorrodd clwm y rhyfedd swyn a'n gwnaeth
Yn un, cyn inni weled min y traeth?
Ai mwynach iddo arall fun na'i Esyllt?
Na ddeuai gair, pe bai i'm bron fel saeth!"

Ac ar y wawr, Cahedin sy'n y llys
Yn holi am unbennes Cernyw ar frys;
Caiff hithau'r newydd sy fel saeth i'w chalon,
Ac yn ei hing erglyw yr olaf wŷs.


Maith ydyw'r fordaith fer i'r ysig fron,
Ac ni ddwg dawns y gwenyg neges lon;
Maith ydyw'r fordaith fer i Drystan farwol,
A genfydd Angau yntau ar y don.

Ymson y clwyfus, yn ei gyfyng awr,
Sy'n chwerwach na'i gwynfanau am y wawr;
A pheidiodd gwedd a gwên y Ddwylo Gwynion
A thorri ar ei drwm unigedd mawr.

"A ddaw fy Esyllt?" meddai'r trist, a'r trai
Yn gwneuthur llanw ei fywyd fyth yn llai;
"Mwyn a fai marw, pe cawn weled glesni
Tyner ei llygad prudd, fy mun ddi-fai.

"Na, ni ddaw Esyllt dirion ac ni bydd
Ond cysgod hwyliau duon ar fy nydd;
A chyn ymachlud heulwen dros fy mywyd,
Ymachlud gobaith têr a phyla ffydd.

"Enbydus nefoedd serch! Paham mae'r min
Nas ddethyl dyn na duw yn profi'r gwin?
A raid i Dynged ddod i beraidd erddi
Bywyd, a'u newid oll yn ddiffaith crin?

"Trystan y'm gelwaist, fam fy ngwyrgam oes,
Gyfddydd y ganed fi i siom a loes;
Gyfddydd y cerddaist ti i Dir y Gwyllon,
Ac ni newidia, mwy, fy nghytser croes."


Ond gyd â phelydr cyntaf gwawrddydd, daw
Arlliw o wrid dros welwder oedd yn fraw,
A golau tyner bur i'r llygaid tirion,
A gobaith sy fel gwennol yn y glaw.

"Fy Esyllt lân, ni allit ti ond dod,"
Medd llef y marwol, "ac mi welaf nôd
Dy fad a'th hwyliau gwynion ar y cefnfor
At Lydaw, loywach ewyn, loywach ôd.

"Pa fodd y gellid byth ein hysgar ni?
Mor llawen yw dy fad ar lawen li!
Fy hanner enaid arall wyt, fy Esyllt,
Â'm banon, nid ag Angau, oedais i.

"Chwified dy hwyliau gwynion yn y glas,
Tywynned heulwen ar dy dyner ras;
Chwythed awelon fad fy meinir wenlliw,
Poed urdd ar fôr fod iti'n fuan was!"

Ar hyn, daw'r Ddwylo Gwynion ddu drwy'r llen,
A choron concwest dichell ar ei phen;
Ebr hi: "Mae'r bad a'r hwyliau ar y gorwel,
Ond swrth yw'r eigion, swrth yw'r wawr a'r nen."

"Yr hwyliau?" ebr y marwol. "Duon ynt,
Ac fel adanedd Angau yn y gwynt!"
Try'r marchog drylliog draw, â'i ddolef drymllyd
Yn agor iddo borth yr hirfaith hynt.


Esyllt Iwerddon, daw i'r porthladd cu
A'r storm yn newid glas yr wybr yn ddu;
Rhed ag uniongyrch greddf hyd at ei Thrystan,
A dagrau gobaith mawr yn syrthio'n llu.

Daw i'r ystafell, ond mor welwlas yw
Y gŵr a wisgai gynt writgochni byw!
'Trystan!" medd hi; ond nid oes glust i wrando,
Nac ateb arall ond yr wyneb gwyw.

"Fy Nhrystan, oni chlywi lef dy fun?
Trystan, y mae dy Esyllt yma'i hun!..
Ai marw yw?-Och finnau!" . . . Yna llewyg;
A'r ddau, yn rhwym eu Tynged, mwy yn un.

1901-2.


Nodiadau

[golygu]