Neidio i'r cynnwys

Caniadau Gwili/Y Ddau Frawd

Oddi ar Wicidestun
Y Milwyr yn yr Ardd Caniadau Gwili

gan John Jenkins (Gwili)

Rhaid Iddo Ef Gynyddu

Y DDAU FRAWD

CODODD rhyw enaid puredig ei lais
Lleddf yn y nef;
Fry i'r orseddfainc esgynnodd ei gais:
Hon oedd ei lef:

"Os deil angylion eu cyngan i'w Rhi
Yma, ar ôl
Colli eu brodyr a lamodd i li
Dinistr y ffôl:
Er na chyfodaf yngŵydd y nef lân
Gŵyn am un cam,
P'odd, O fy Arglwydd, y seiniaf i gân
A'm brawd yn y fflam?

"Mwg ei boenydfan a gyfyd i'r nef
Beunydd at Dduw;
Wylo a glywaf, ac ysa'i ddwys lef
F'enaid yn fyw.
O, y mae'i uffern yn uffern i mi,
Yn uchter y nef;
Onid yw'n uffern i Tithau oer gri
Myrddiwn fel ef?


"Ni allaf aros fan yma yn hwy,
Iesu, fy mrawd;
Mynnaf fynd ato a phrofi ei glwy,
Rhannu ei ffawd.
Daethost ti i waered i uffern ein byd,
Codaist ni'n fyw;
Minnau ar uffern fy mrawd sydd â'm bryd,
Briod fab Duw.

"Pan oedd rhyw arswyd ar wenfro, wrth lef
Cystudd y llawr,
Ni ellaist aros yng ngwynfyd y nef,
Fab y Duw mawr.
Trwy ddioddefaint dy groes yn y cnawd
Y daeth iti nef;
Nef a gaf innau wrth fynd at fy mrawd,
Llonni ei lef."

Dododd ei goron wrth orsedd ei Grist;
Yna fe ddaeth
Gwên dros wynepryd a droesai mor drist;
Yna fe aeth
O'r gorddisgleirdeb i fwrllwch y fall
Ar ei bell rawd;
Suddodd, adwaenodd y llefain di-ball,
Llefain ei frawd.


"Fy mrawd, O fy mrawd yn y fflam," meddai ef,
"Uffern i mi
Oedd byw yn llawenydd diddiwedd y nef,
Yn dy glyw di.
Rhaid im oedd dyfod i waered o gôl
Gwynfyd y pur;—
Lluoedd a gân heb un atgno ar ôl
Gadael eu cur.

"Cyfod i fyny, a dring gyd â mi,
Tyred, fy mrawd;
Dyma a'm tynnodd i lawr atat ti
I rannu dy ffawd.
Tithau a renni fy ffawd yn y nef,
Cyfod i'th daith;
Hyn a wnaeth Iesu, a gwn y dyd Ef
Sêl ar fy ngwaith."

Minnau a welwn y llygaid a brudd
Fflachiai gan wawr
Ddieithr a gwyllt yn gorlenwi gan ddydd
Nefol yn awr.
A'r pelydr newydd o'i lygaid a deifl
Try'r fallgyrch yn wyw;
Ar ei frwmstan sedd, yng nghanol dieifl,
Cwyd allor i Dduw.


"Fy mrawd," meddai ef, â llef oedd leddf lon,
"Troes uffern yn nef
Imi 'n yr affwys, â'r fflam yn fy mron,
A'r ing yn fy llef.
Uffern o uffern fai'r nefoedd i mi,
Pe doi im drwy gam;
Anthem y nefoedd yw deifiol, gras gri
Brodir y fflam.
"Cariad yw'r Duwdod, a'i gariad mawr Ef
Ataf, wael un—
Hyn a wnaeth uffern i'm golwg yn nef
Truan o ddyn.
Na foed fy uffern yn uffern i ti,
Mwy, yn dy nef;
Am na roed nefoedd yn uffern i mi,
Clod iddo Ef."

1895.


Nodiadau

[golygu]