Caniadau Gwili/Y Gadlef Newydd
| ← O, Paid a Thorri Brigau'r Coed | Caniadau Gwili gan John Jenkins (Gwili) |
Efelychiad o Lowell → |
Y GADLEF NEWYDD
CYMRU wen, i fyny!
Ofer yw dy lynu
Yn y ffos, ar fin y nos, a'r byd yn gweiddi am ddydd.
Cynnull dy fyddinoedd,
Brwydra dros y nefoedd;
Colli d'einioes ennyd fer dy gael dy hun a fydd.
Tyrd, ymfwrw i fywyd
Enfawr y cyfanfyd,
A dyd bywyd newydd gwyn ei rosyn ar dy rudd.
Bydd yn ddewr dy galon,
Brwydra â threialon
Dynol ryw, a byddi byw i beidio â bod yn brudd.
Gymru, cais lywyddion
Mwy na'u gwlad o hyd;
Gymru, galw am ddynion
Glew dros heddwch byd.
Cais wleidyddion mawrfryd
Heb y pleidgar gen;
Bydd yn rhan o'r hollfyd,
Ac yn Gymru wen.
Gymru, daeth yr adeg,
Clyw hi'n taro deuddeg!
Chwarae, bellach, ddynol ran yn hanes dynol ryw;
Boed dy lef a'th galon
Dros dangnefedd weithion;
Gwisg yr ysbryd didranc a faidd farw er mwyn byw.
Nid rhaid deffro'r delyn
Mwy â Chwymp Llywelyn:
Crog hi ar yr helyg crin: nid dydd y cleddyf yw.
Heddiw, Gymru, bloeddiwn, "Hedd i'r byd, yn enw Duw!"
Codwch, feibion Gwynedd,
A Deheuwyr mwynwedd;
Deued, deued Cymru gyfan, bellach, o'r un fryd;
Clywch ddiosteg alwad
Crist, a'i ddwyfol gariad
At yr hil i gyd!
Heddiw, ddewrion rhyddid, codwn waedd a glyw'r holl fyd.
1896.