Neidio i'r cynnwys

Caniadau Gwili (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Caniadau Gwili (testun cyfansawdd)

gan John Jenkins (Gwili)

Pennod Nesaf
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Caniadau Gwili
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Jenkins (Gwili)
ar Wicipedia





CANIADAU
GWILI



CANIADAU
GWILI

I



WRECSAM
HUGHES A'I FAB
1934



MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN


I
GOFFADWRIAETH
DAVID JONES, B.A.,
"Y MISHTIR BACH."



RHAGAIR

BU'R cyhoeddwyr gystal â thorri ar fy hir ddistawrwydd, a gofyn am gyfrol o'm barddoniaeth. O droi ati, paratoais innau fwy o ganiadau iddynt nag a ddymunent am y tro, eithr os gwelaf fod derbyniad i'r gyfrol hon, dichon y ceir un arall i'w dilyn.

Ceisiais gadw cymaint oll ag a feiddiwn o'm gwaith cynnar, a gallaf ddywedyd i mi roi cryn lawer o'm hamdden i'w wella.

Cyhoeddir Trystan ac Esyllt am y waith gyntaf, a hyderaf y gwelir nad oedd yn ormod gorchest i fardd a brydyddai cyn 1902—o gael ei destun—ganu heb bregethu, nac efelychu Swinburne ac eraill yn wan. O ran hynny, ni allaf lai nag olrhain y mudiad rhamantaidd diweddar yn ôl i Lyn y Morwynion Elfed, a chredaf y dylid cydnabod hynny. Y peth mwyaf a enillwyd yn Eisteddfod Bangor, yn 1902, oedd cywirdeb iaith a phurdeb arddull y cywyddwyr gynt, nid barddoniaeth wreiddiol iawn, neu arbennig ei gweledigaeth. Yn wir, yr oedd gan rai beirdd o ysgol Islwyn, er eu harddull ddiffygiol a'u Cymraeg gresynus, fwy o afael ar bethau pwysicaf cerdd nag oedd gan yr ysgol newydd.

Y bai amlycaf ar lawer o'r farddoniaeth a ddilynodd Ymadawiad Arthur oedd iddi aberthu nerth a diffuantrwydd i geinder a mursendod—colli golwg ar fywyd yn ei ystyr ddyfnaf a'i agweddau difrifol, a'i guddio mewn ffansi ddisylwedd a gwead o hen eiriau'r geiriadur.

Dechreuwyd blino ar y ffasiwn hon eto, ond bellach y mae gennym grefftwyr dan gamp. Y peth sydd yn eisiau yw enaid mawr i greu barddoniaeth fawr; oblegid er y moli disynnwyr a wneir ar rai o'n prifeirdd, fel beirdd pennaf Ewrob, ni bu gan Gymru erioed fardd o'r maintioli mwyaf, ac nid oes ganddi hyd yn hyn gerdd y gellir ei gosod gyd â cherddi mawr dyn. Bydd cydnabod hyn yn well peth inni na chanmol yn ynfyd ein celfyddydwyr gorau, er cystal eu gwaith. Pwy a ŵyr na chaiff Cymru, cyn tranc y Gymraeg, un o feirdd pennaf y byd? Nid oes gyfryw fardd yn y golwg hyd yma, ac ni ddaw'r fath fardd ychwaith nes cyfodi rhywun a ymdrinio'n onestach a dwysach â bywyd yn ei wir hanfodion oll.

Cyhoeddir Y Baledwr drwy ganiatâd caredig Syr E. Vincent Evans, Ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol.

GWILI.
Gwyl Ddewi, 1934.

CYNNWYS



CANIADAU GWILI



CYFRINACH ATGOF

DIM ond gardd a chae a chwm,
Afon fach a bwthyn llwm.

Dyna'r cyfan: ond er hyn,
Mae fy llygad llon yn llyn.

Paid â gofyn imi pam―
Hen gyfrinach mab a mam.

Mae cyfrolau gennyf i
Nas agoraf byth i ti.

1894.


Y CANU MAWR
(Gweddillion Cerdd)

CRWYDRO eto rhwng y bryniau,
Ceisio pabell dyn o hyd,
Y mae'r diymgeledd seiniau
A wirionodd ieuanc fyd.
Adlef wan y gân a gollwyd
Ar ryw ddaear gynnar gain,
Gan yr esgud glust fe'i daliwyd,
Wrth ymwrando rhwng y drain.
Gwyn ei fyd y neb a glybu
Hen gynghanedd fore dyn;
Gwyn ei fyd y neb a wybu
Am freuddwydio ar ddihun.

Mae barddoniaeth Iôr ar dannau
Lleddf fy hen afonig dlos;
Ac mi welais ei feddyliau
Ynddi'n is na sêr y nos.
A dwyn nodau i'm diddanu
O gymanfa llonnach côr
Mae'r hiraethus don sy'n canu
Cerdd ei chartref yn y môr.


Rhua'r gwynt o gylch fy mwthyn,
Chwyth yr haf o frigau'r llwyn;
Ond mi glywaf dreiddgar emyn
Rhyw eneidlef ddistaw fwyn.
Ac mi wn, er mynych ddolef
Ysbryd cerdd ar fryniau coll,
Y daw'r hen delynau adref
Eilwaith â'r gynghanedd oll.

*****
Y mae gwaed y duwiau'n gynnes
Ynom eto, ddwyfol fardd;[1]
Ennyn eirias dân y fynwes
Y mae trem ar feinir hardd.
Dwys edrychiad enaid unig,
Gyfnos mwyn, i galon merch,
A'r briodas anweledig,
Ydyw swyn anniflan serch.

Rhawd eneidiau hoff, yn rhwydau
Tynged ffrom, yn drysu'n lân-
Penyd serch, ar hyd yr oesau-
Roes i fyd angerddol gân.
Y mae Dante'n dal i ganu
I flodeuyn nef o hyd;
Ac mae clwyfau prydydd Lleucu
Eto'n glwyfau calon byd.


******
Meddwl caeth rhwng muriau'i garchar,
Ysbryd dyn am dynnu'n rhydd,
Yw barddoniaeth dristaf daear,
A'r drasiedi fythol brudd.

Aed Promethews fry i'r nefoedd,
Dyged dân y duwiau i lawr,
Ymgynhyrfa Tad y bydoedd,
A datguddia'i ddicter mawr:
Crog y duwddyn ar y creigiau,
Ac ni wrendy ar ei lef
Pan ddyneso brain y gwaeau
I ymborthi arno ef.

O, farddoniaeth erch yr oesoedd,
O, farddoniaeth Tynged brudd!
Y mae Crist ar fryn yr ingoedd,
A Barabas fyth yn rhydd.
O, waredwyr hy dynoliaeth-
Gwŷr a ddug y tân o'r nef-
Caiff y cigfrain hwy'n ysglyfaeth,
Oes yr hil, medd Tynged gref.

Ond mae'r barrau heyrn yn treulio,
Ac mae'r ysbryd yn cryfhau;
Tynga'r nwyd ddiorffwys ynddo
Na chaiff gelyn arno gau.
A daw cadarn fraich i dynnu
Arwr tân y nef yn rhydd;
Ac mae angau'r groes yn mynnu
Trannoeth teg a thrydydd dydd.


******
Clywaf seiniau'r gerdd ddisberod
Oll yn dyfod tua thref,
Fel ehedeg colomennod
I ffenestri nef y nef.
Ac ar ôl eu dyfod adre,
Daw eu hoen yn ôl yn llwyr;
Fel cyd-ganu sêr y bore
Y bydd miwsig mawr yr hwyr.

Awst, 1894.


O VICTOR HUGO

FY merch, a'm bod yn frenin mawr,
Rhown f'ymerodraeth iti'n awr;
Brenhinffon a fai dros y byd,
Fy neiliaid, fy maddonau drud,
Fy nghoron aur a'm llongau lli;—
Fe'u rhown am un o'th wenau di.

Mi rown, pe bawn yn Dduw, fy mun,
Nef, daear, engyl yn gytun;
Wybrennau taen a'r bydoedd fry,
Y lluoedd coll yn uffern sy;
Ie'r tragwyddoldeb maith rown i,
Am gusan melys gennyt ti.

1894.


DIM GWAHANIAETH

"NID oes wahaniaeth," ebe Pyrrho gynt,
"Pa un ai marw a fyddi ai ynteu byw."
"Os felly," ebe rhywun ar ei hynt,
"Syndod nad oes esbonio arno yw,
Paham na fynnit ti, a thi yn hen,
Drwy farw dy hun roi'r sêl ar dy ddamcaniaeth."
"O," ebe'r hen athronydd, ar ei wên,
"Yr wyf yn byw—am nad oes ddim gwahaniaeth."

1894.


YN EI GWYN

CERDDED yn hardd yr oedd y lloer,
Yr olaf nos o'r Rhagfyr oer;
A d'wedai'r eira ar y bryn,
Rhaid claddu'r flwyddyn yn ei gwyn.

Gostegai'r gwynt cyn anterth nos,
Doi rhyfedd ust ar nefoedd dlos;
A d'wedai'r clychau yn y glyn,
Rhaid claddu'r flwyddyn yn ei gwyn.

Er trymed oedd fy nghalon i
Wrth wylio'i gwely angau hi,
Sibrydwn innau'n ddistaw syn,
Rhaid claddu'r flwyddyn yn ei gwyn.

Ac er mor floesg oedd llais y llu
Wrth adrodd helynt blwyddyn ddu,
Gwrando ar fai y nef ni fyn:
Rhaid claddu'r flwyddyn yn ei gwyn.

O'r tragwyddoldeb daeth yn wen,
 golau'r nefoedd ar ei phen;
Ac yn ei ganol, erbyn hyn,
Rhaid claddu'r flwyddyn yn ei gwyn.


******
Ar ddiwedd blwyddyn daw i mi
Feddyliau dwys, fel tonnau'r lli;
Holaf fy hun o hyd yn syn,
A gleddir finnau yn fy ngwyn?

'Rwy'n gwau fy ngwisg ar hyd fy oes,
A gwau yng nghanol ingol loes;
Ai gwen a fydd pan af i'r glyn?
A gleddir finnau yn fy ngwyn?

I'm hangladd daw cyfeillion cu
Yng ngwisg y ddaear-yn eu du;
'Ddaw neb yng ngwisg y nef, bryd hyn,
I'm claddu'n dirion yn fy ngwyn?

Rhagfyr 31, 1894.


YR ANHRAETHADWY

WRTH grwydro ffyrdd y goedwig
Y crwydrwn ynddi gynt,
A dilyn tro'r afonig
Yn araf iawn fy hynt;
A chofio campau gwirion
Fy mywyd bach di-lyw,
Mae rhywbeth yn fy nghalon—
Ond anhraethadwy yw.

Wrth edrych drwy'r hen lyfrau,
Ac oedi rhwng eu dail,
A chofio trem a geiriau
Hen athro heb ei ail;
A meddwl am gyfeillion
Nas gwelais neb o'u rhyw,
Mae rhywbeth yn fy nghalon—
Ond anhraethadwy yw.

Mewn hen adeilad isel
A siglwyd gan yr hwyl,
A lle bu llawer angel
Yn profi blas yr ŵyl;
Yn gymysg â'r atgofion
Am feirwon bythol fyw,
Mae rhywbeth yn fy nghalon—
Ond anhraethadwy yw.


Ar fynwent neilltuedig,
Ymhell o dwrf y dref,
Ar ddaear gysegredig
Gan ymweliadau'r nef;
Pan daeno'r hwyr gysgodion
Dros gysgod ywen wyw,
Mae rhywbeth yn fy nghalon—
Yr anhraethadwy yw.

1895.


MAE'N DOD

MAE'N dod! Mae'n dod!
Mae nawfed ton y llanw yn dod!

Mae'r cychod yn codi yn uwch o hyd,
A chwch fy ngwlad am fôr y byd.
Mae'r cychod, wrth godi, yn dawnsio'n llon,
Ond dod, a dod, y mae'r nawfed ton.

Chwarae ar hyd y glannau yn hir
Y bu cwch fy ngwlad, ac ofni'n glir
Fyned ymhell o olwg y tir.
Ond dod y mae ton â bywyd y byd,
Angerdd a bywyd y byd i gyd.
Mae calon fy ngwlad o dan gynnwrf llon,
Pan genfydd yn dod y nawfed ton.

Mae'n dod! Mae'n dod!
Mae'r nawfed ton o'r diwedd yn dod!
Daw ymchwydd y môr i aberoedd fy ngwlad,
A neidio'r bár y bydd cwch Cymru fad.
Caiff ran gyd â badau'r holl fyd o'r clod—
Mae'r nawfed ton yn dod, yn dod!

Ebrill, 1895.


HUNO

OEDAI goruwch gwely huno ei phlant
A'i gwefus yn cyffwrdd yn bur â phob mant.
Edmygai brydferthwch pob cudyn nos-ddu
O wallt ei hanwylion tra cheinion a chu.
Anadlai i'w bron eu breuddwydiol fwynhad,
A llamai ei chalon o'i mewn gan swyn mad.
Sibrydodd, "O cysgwch, dri blodyn y sir;
Mi'ch gwyliaf yn huno-dof innau cyn hir."

Oedai, nawn arall, â'i hing yn ei gwedd,
Dan gysgod yr hwyrddydd goruwch gwely hedd
Tri gynt y cusanai eu pur, hunol fant,
Y tri a freuddwydiai yn nefoedd y plant.
Tawelwch y llannerch, dan fantell yr hwyr,
A suddodd i'w hysbryd dolurus yn llwyr.
Sibrydodd, "O cysgwch, dri blodyn y sir;
Mi'ch gwyliaf yn huno-dof innau cyn hir."

Medi, 1895.


DAIL YR HYDREF

MAE dail yr Hydref yn syrthio
O goedydd y fforest yn fyrdd;
Ond O, y dail sydd yn cwympo
O goed y Gwanwyn gwyrdd!

Mae dail yr Hydref yn syrthio,
Lu cringoch, ar derfyn eu hoes;
Ond O, y dail sydd yn cwympo
Dan lwydrew'r Ebrill croes!

Mae dail yr Hydref yn syrthio
Mewn tawel arafwch a hedd;
Ond O, y dail sydd yn cwympo
I drist, annhymig fedd!

Mae dail yr Hydref yn syrthio,
A seinio drachefn yn fy nghlyw
Mae geiriau'r enethig honno,
Â'i gwedd fel rhosyn gwyw:

"Mae'r clychau yn anterth gorfoledd,
Cans beddrod i henwr a wnaed;
Pan roer yr ifanc i'r dufedd
Mae'r clychau'n gollwng gwaed."

1895.


YSBRYD Y BEDD

wyt ti, fy ffrind, mewn hedd,
Y mae ysbryd yn dy fedd.

Od yw d'ysbryd gyd â Duw,
Y mae hefyd yma'n byw.

Nid oes guddio ar dy wedd,
Na distewi ar lais dy fedd.

Y mae'r tragwyddoldeb mawr
Yma uwch dy lwch, yn awr.

Y mae'r nef a'n daear ni
Yn cyfarfod ynot ti.

O, mae'r pridd yn llawn o Dduw
Lle mae hun athrylith fyw.

Ac mae engyl ar y maen,
Fel y gwelwyd hwynt o'r blaen.

Od wyt ti, fy ffrind, mewn hedd,
Mae dy ysbryd yn dy fedd.

1895.


Y MILWYR YN YR ARDD

MAE'R hedd cyn deffro gwawr y dydd ar daen,
Ac yn yr ardd mae'r milwyr, fel eu heirf,
Yn ddistaw. Y mae'r maen fel arswyd mud
Ac oer yn fferru eu gwaed, yn gosod sêl
Ar safnau rhwth; ac wele ddrych o'r gŵr
Teyrnaidd ei drem a gwsg o dan y maen
Yn codi o flaen meddyliau araf, pŵl,
Sy'n deffro i fawredd dieithr Iesu Grist.

"A welaist ti ei farw?" ebe llais
Dwfn-dawel. "Onid megis haul brynhawn
Ar daith mewn hunanfeddiant dros y gorwel,
Â'r nef yn wrid o'i ôl, y cerddodd hwn
O blith y byw? Fel duw ac nid fel dyn
Yr ymadawodd ef, gan fynd yn hy
At angau am hawlfraint wedi'r gamp o farw."

Ac ebe ail: "A wyddost ti paham
Y rhodded inni'r wyliadwriaeth hon?
Nid bedd yw diwedd gŵr fel hwn. Mae trem
Rhyw dduw ym myw ei lygaid; y mae nerth
Tawel, anorthrech yn ei wedd a'i air.
Anfeidrol fwy yw hwn na'r gyfyng gell,
Anfeidrol fwy na Rhufain, ac na'r sel
Sy'n olau ar y maen. Ust! gyffro byw!
Codwn! Na, wele ni'n efryddion oll.


Ow, fel yr ysgwyd daear! Pwy a saif?
Ffown! Ffown!—mor ofer yw! Clywch ithfaen graig
Yn rhwygo'n yfflon, ac yn treiglo'n chwyrn!
Fe'n cleddir dan y darnau dig! Mae byd
Mewn gwewyr, a'r tywyllwch yn trymhau.
Mellten! a mellten arall ar ei hol!
Mae'r nos yn olau! A nesáu mae'r mellt!
Mellt? Arwyr nef! Ysbrydion byw!—Ffown! Ffown!
Dihangwn tua'r ddinas! Beth yw llu
Rhufain yn ymyl gwynion feibion nef?
Ffown! Y mae'r sêl yn deilchion! Y mae'r maen,
Wrth deimlo rhin y bys a'i cyffwrdd ef,
Yn treiglo i ffwrdd fel mudan llwfr!—A'r gŵr?
Ha! dacw ef drachefn yn fyw! Mor lân!
Mor ieuanc! Mor hamddenol—gadarn yw!
Digynnwrf fel y duwiau ydyw ef!
Gogoniant rhyfedd sydd o'n cylch yn cau.
Pa fodd y ffown?—y ffown o olwg duw?"

1895.


Y DDAU FRAWD

CODODD rhyw enaid puredig ei lais
Lleddf yn y nef;
Fry i'r orseddfainc esgynnodd ei gais:
Hon oedd ei lef:

"Os deil angylion eu cyngan i'w Rhi
Yma, ar ôl
Colli eu brodyr a lamodd i li
Dinistr y ffôl:
Er na chyfodaf yngŵydd y nef lân
Gŵyn am un cam,
P'odd, O fy Arglwydd, y seiniaf i gân
A'm brawd yn y fflam?

"Mwg ei boenydfan a gyfyd i'r nef
Beunydd at Dduw;
Wylo a glywaf, ac ysa'i ddwys lef
F'enaid yn fyw.
O, y mae'i uffern yn uffern i mi,
Yn uchter y nef;
Onid yw'n uffern i Tithau oer gri
Myrddiwn fel ef?


"Ni allaf aros fan yma yn hwy,
Iesu, fy mrawd;
Mynnaf fynd ato a phrofi ei glwy,
Rhannu ei ffawd.
Daethost ti i waered i uffern ein byd,
Codaist ni'n fyw;
Minnau ar uffern fy mrawd sydd â'm bryd,
Briod fab Duw.

"Pan oedd rhyw arswyd ar wenfro, wrth lef
Cystudd y llawr,
Ni ellaist aros yng ngwynfyd y nef,
Fab y Duw mawr.
Trwy ddioddefaint dy groes yn y cnawd
Y daeth iti nef;
Nef a gaf innau wrth fynd at fy mrawd,
Llonni ei lef."

Dododd ei goron wrth orsedd ei Grist;
Yna fe ddaeth
Gwên dros wynepryd a droesai mor drist;
Yna fe aeth
O'r gorddisgleirdeb i fwrllwch y fall
Ar ei bell rawd;
Suddodd, adwaenodd y llefain di-ball,
Llefain ei frawd.


"Fy mrawd, O fy mrawd yn y fflam," meddai ef,
"Uffern i mi
Oedd byw yn llawenydd diddiwedd y nef,
Yn dy glyw di.
Rhaid im oedd dyfod i waered o gôl
Gwynfyd y pur;—
Lluoedd a gân heb un atgno ar ôl
Gadael eu cur.

"Cyfod i fyny, a dring gyd â mi,
Tyred, fy mrawd;
Dyma a'm tynnodd i lawr atat ti
I rannu dy ffawd.
Tithau a renni fy ffawd yn y nef,
Cyfod i'th daith;
Hyn a wnaeth Iesu, a gwn y dyd Ef
Sêl ar fy ngwaith."

Minnau a welwn y llygaid a brudd
Fflachiai gan wawr
Ddieithr a gwyllt yn gorlenwi gan ddydd
Nefol yn awr.
A'r pelydr newydd o'i lygaid a deifl
Try'r fallgyrch yn wyw;
Ar ei frwmstan sedd, yng nghanol dieifl,
Cwyd allor i Dduw.


"Fy mrawd," meddai ef, â llef oedd leddf lon,
"Troes uffern yn nef
Imi 'n yr affwys, â'r fflam yn fy mron,
A'r ing yn fy llef.
Uffern o uffern fai'r nefoedd i mi,
Pe doi im drwy gam;
Anthem y nefoedd yw deifiol, gras gri
Brodir y fflam.
"Cariad yw'r Duwdod, a'i gariad mawr Ef
Ataf, wael un—
Hyn a wnaeth uffern i'm golwg yn nef
Truan o ddyn.
Na foed fy uffern yn uffern i ti,
Mwy, yn dy nef;
Am na roed nefoedd yn uffern i mi,
Clod iddo Ef."

1895.


"RHAID IDDO EF GYNYDDU"

O GROES anwylyd Duw,
Fy lle i ddechrau byw,
A'm lle i farw yw.

O, fywiol, farwol gri,
Mae bywyd ynot ti
Sy'n angau i'm bywyd i.

Fy mywyd uchaf yw
Marw, i fywyd Duw
Fy nghodi'n farw byw.

Mae angau Calfari
Yn lladd fy hunan i,
I'm gwneud yn fyw i Ti.

O Grist, a fuost gudd
O fewn fy mywyd prudd,
Fy nhranc a'm bywyd bydd;

Ac eled arall Lef
Ar goll yng Ngair y nef,
Fel ffrwd mewn afon gref.

1895.


GWANWYN

GWAN ŵyn sydd ar y twynydd,—a gwena
Teg wanwyn drwy'r meysydd;
A gwan wyn flodeuyn dydd
Sy'n gwenu'n swyn ei gynnydd.

1895.


HOBI NEWYDD Y BABAETH

CYMRU'N ôl i gôl eich gwyw—baganiaeth?
Be' gynnwys ond distryw;
Druan Bab, i drin y byw
Anffaeledig ffŵl ydyw.

1895.



DIWEDD Y GÂN

GORAU 'i gân, y gŵr gwenog,—a roddwyd
Ag arwyddion serchog;
Ond ar hyn daeth nodau rhôg—
Diwedd caniad oedd ceiniog.

1896.


A GEIR YN RHAD

OS cam ddaw â'th law i lwydd,—unioni
D' anianawd fydd afrwydd;
Dy aur fydd diafl dy aflwydd―
A geir yn rhad ger' yn rhwydd."

1896.


Y RHOSYN

CROESO it, ieuanc rosyn,—sy'n dyfod
Yn sŵn difyr gwenyn;
Gwych yw gwedd dy degwch gwyn,
A gwychach gwawr dy gochwyn.

1896.



Y LLONG BAPUR

Y LLONG fach, gollyngaf hi—ar fynwes
Yr afonig Gwili;
Mor hoyw ei llam ar y lli!
A dawns y don sy dani.

Haf, 1896.


CYSGODAU'R GLYN

"He appoints us a meeting-place. It is the Valley of the Shadow, where, in the quietness and seclusion, as in a lover's glade, He will expect us one day." —IAN MACLAREN.

PAID â'm herfyn, paid â'm herfyn, adre'n gynnar,
Mae'r Anwylyd yn fy aros yn y glyn;
Yn y cysgod, lle mae'r afon leddf yn trydar,
Rhoes addewid i'm cyfarfod yn fy ngwyn.

Tan coed caf glywed myrdd o'i bêr sibrydion,
Yn y glyn caf wrando'i serch-ganiadau llon;
Tan y coed cawn adrodd mil o hen gyfrinion,
Yn y glyn mi gaf fynwesu câr fy mron.

Paid â'm herfyn, paid â'm herfyn, na bydd greulon,
Cilia'r oriau fel munudau wrth ei lef;
Ac os awn i lawr i'r rhyd a thros yr afon,
Paid â'm herfyn-byddaf gartref gyd ag Ef.

1896.


CYFFES FFYDD

A FYNNI di ryfeddu
Ac ucheneidio'n brudd
Am nad wyf i yn meddu
Dy gyflawn Gyffes Ffydd?

'Rwy'n galw am y golau
Bob nos yn ddinacád;
A thithau drwy'r blynyddau
Yn byw ar wir dy dad.

Ond gwn, er cred anaeddfed,
Nad ofer im fu byw;
Nid ofer ymdrech galed
Am oes i geisio Duw.

Dewiswn ei wynebu
Heb ddim ond newyn dwys,
Na myned, heb ei chredu,
A Chyffes Ffydd yn bwys.

Ac oni welaf seren
Nes im ei weled Ef,
Yng nghanol nos a niwlen
Caf fwy na thi o nef.

1896.


I GYFAILL

AMYNEDD, fy nghyfaill, ac amser
A fydd yn gyffeiriau i ti;
Fe gilia blynyddoedd dy flinder;
Daw eto'r llawenydd yn lli.

Os ydyw'r cymylau a'r niwlen
Uwch ben dy wirionedd yn cwrdd,
Bydd dawel; fe ddychwel yr heulwen
A chlirir pob caddug i ffwrdd.

Ac os ydyw'r clymau yn ddyrys
Ar geinciau dy gyffes yn awr,
Daw llaw anweledig i'w datrys,
Cei dithau ryddhad a fydd fawr.

Mi welais, cyn hyn, fesuronydd,
A gysgodd cyn gweled y gwir,
Yn deffro dan lygad y wawrddydd,
A'r penclwm a'i poenai yn glir.

1896.


F'ADERYN

O dirion aderyn,
Pa le mae dy nyth?
A minnau'n laslencyn,
Mi ddeliais i'th ddilyn
A ddaliaf di byth?

Yn hardd, ar yr onnen
A ffiniai â'r coed,
Mi a'th welais, a'th bluen
Fel enfys yr wybren
Brydferthaf erioed.

Dilynais di'n ddyfal
Ar siwrnai hirfaith,
Trwy diroedd amryfal,
Yn ardd ac yn anial,
Heb ennill o'r daith.

Ti sefi, rai prydiau,
Er mwyn imi fod
Yn ymyl dy liwiau,
A chlywed dy geinciau,
A chanu dy glod.


Ac yna dyrchefi
I ganol y glas;
Ac yno y sefi,
Ac arnaf y crefi,
Beth annwyl a chas.

Dilynaf, dilynaf,
O'm gwirfodd o hyd;
Y byd a adawaf,
A'i bleser nis ceisiaf—
Tydi aeth â'm bryd.

O, dirion aderyn,
Nid oes iti nyth;
Dilynais di'n llencyn,
A daliaf i'th ddilyn—
Dy ddilyn am byth.

1896.


YN Y TRO

"Do, mi fûm o'r blaen fan hyn,"
Meddwn ynof f'hun;
O b'le daeth yr atgof syn?
Pwy ŵyr hanes dyn?

Llannerch hoff, gynefin im,
Ger fy mron a ymdaen;
Ni newidiodd yma ddim
Er rhyw oes o'r blaen.

Ac mi wn os dof yn ôl,
Mewn rhyw oes a ddaw,
Y bydd coed y maes a'r ddôl
Eto'n codi llaw.

Do, mi fûm o'r blaen fan hyn;
Ac er pallu o'm co',
Daeth i mi ryw atgof syn,
Acw-yn y tro.

1896.


O, PAID A THORRI BRIGAU'R COED

O PAID â thorri brigau'r coed,
A throi eu gwedd yn wyw;
Mae ysbryd yn yr allt erioed
Mewn myfyr dwys yn byw.

Mae im seiadau mwyn ag ef
Am oriau melys, maith;
A gwin ei dangnefeddus nef
@A'm meddwodd lawer gwaith.

O, paid â thorri cangau'r coed,
O, paid â noethi'r brig;
Pa fodd y meiddi roddi troed
Yr ynfyd yn y wig?

Rhyw gysegr sancteiddiolaf yw
I ysbryd hedd erioed;
Daw dros fy enaid ddychryn byw
Pan af drwy len y coed.

1896.


Y GADLEF NEWYDD

CYMRU wen, i fyny!
Ofer yw dy lynu
Yn y ffos, ar fin y nos, a'r byd yn gweiddi am ddydd.
Cynnull dy fyddinoedd,
Brwydra dros y nefoedd;
Colli d'einioes ennyd fer dy gael dy hun a fydd.
Tyrd, ymfwrw i fywyd
Enfawr y cyfanfyd,
A dyd bywyd newydd gwyn ei rosyn ar dy rudd.
Bydd yn ddewr dy galon,
Brwydra â threialon
Dynol ryw, a byddi byw i beidio â bod yn brudd.

Gymru, cais lywyddion
Mwy na'u gwlad o hyd;
Gymru, galw am ddynion
Glew dros heddwch byd.
Cais wleidyddion mawrfryd
Heb y pleidgar gen;
Bydd yn rhan o'r hollfyd,
Ac yn Gymru wen.

Gymru, daeth yr adeg,
Clyw hi'n taro deuddeg!
Chwarae, bellach, ddynol ran yn hanes dynol ryw;
Boed dy lef a'th galon
Dros dangnefedd weithion;
Gwisg yr ysbryd didranc a faidd farw er mwyn byw.

Nid rhaid deffro'r delyn
Mwy â Chwymp Llywelyn:
Crog hi ar yr helyg crin: nid dydd y cleddyf yw.
Heddiw, Gymru, bloeddiwn, "Hedd i'r byd, yn enw Duw!"

Codwch, feibion Gwynedd,
A Deheuwyr mwynwedd;
Deued, deued Cymru gyfan, bellach, o'r un fryd;
Clywch ddiosteg alwad
Crist, a'i ddwyfol gariad
At yr hil i gyd!
Heddiw, ddewrion rhyddid, codwn waedd a glyw'r holl fyd.

1896.


EFELYCHIAD O LOWELL[2]

ADDEWISAIST ti, fy nghenedl,
dros ba blaid y sefi'n glir,
Cyn i dynged o'i sandalau
fwrw'r llwch wrth byrth dy dir?
Er i'r Drwg am dymor lwyddo,
Gwir yn unig ddeil yn gry;
Os yw'n wrthodedig, heddiw,
gwelaf dyrru o'i amgylch lu
O angylion teg a thal,
i'w gadw rhag pob dichell ddu.

Tybiwn nad oes un dialydd,
ar glawr hanes ddim nis cair
Ond un erch angheuol ornest
rhwng hen gyfundrefnau a'r Gair.
Gwir drwy'r oesoedd ar y crocbren,
cam o hyd ar orsedd wen,
Ond i'r crocbren mae'r dyfodol,
ac ynghudd tu ôl i'r llen
Erys Duw i ddirgel wylio
dros ei eiddo sydd ar bren.

Yng ngoleuni fflam merthyri
gwelaf waedlyd draed y Crist;
Dwg y groes na thry'n ei hôl
i lawer pen Calfaria drist;

Ac fe edrydd bryniau'r ing
y modd y dysgodd dynion fyw
Newydd air o'r ddwyfol Gredo
a losgai 'nghalon proffwyd lyw,
Wedi syllu o'r dyn Duw-orchfygedig
cyntaf fry at Dduw.
Rhag ei blaen â'r hil,
a heddiw lle saif merthyr yn ddi-fraw
Yn y bore ymgripia Judas
efo'r arian yn ei law.
Rhag ei blaen mae'r groes yn myned,
ac o hyd enynna'r tân,
A daw gwaedlyd dyrfa ddoe yn ôl
mewn ofnadwyaeth lân,
Fel i gynnulli gawg euraid
hanes byd y lludw mân.

1896.


CYSGOD SER

DOFN oedd afon Gwili
Gynt i'm llygaid syn;—
Cysgod sêr oedd ynddi:
Bas oedd hi, er hyn.

Gwelais ddynion enwog—
Epil bôn y glêr;
Gwŷr a bair im eto
Gofio'r cysgod sêr.

A gaiff Cymru ddynion
A fo'n sêr i'r byd?
Druan, sêr yr afon
Sydd yn mynd â'i bryd.

1896.


TU HWNT I'R LLEN

EISTEDD yr wyf, yn y Gwanwyn gwyrdd,
Yng nghanol aroglau blodau fyrdd.
Gwenaf, yn awr, ar y lili lon,
A gwena hithau, y bur ei bron.
Ond cofiaf am ddoethion y profais eu llên,
A thaeraf, "Myfi sydd yn creu ei gwên."
Saethaf ymholiad yn syth ati hi:
"Onid myfi sy'n dy wneuthur di?"

A'r lili a dremia i'm hwyneb yn syn,
 dwyfol fudandod ei hysbryd gwyn
Yn llenwi fy mron â chyfaredd fyw,
A throi'n huawdledd distawrwydd Duw:
"O ddyn, sy'n deffroi yn fy ngwyddfod i,
Onid myfi sy'n dy wneuthur di?"

O ddyfnder fy ngwrid ei hateb a wnaf:
'Beth ydyw'r gwanwyn, a pheth ydyw'r haf?
Beth ydyw'r blodau, a pheth ydyw'r coed?
Beth ydyw'r adar pereiddiaf erioed?
Beth ond a wna fy meddwl i hwy:
At ddyn y mae'r cread yn dyfod, mwy.
Ef ydyw enaid cyfanfyd a'i nod,
Ac yn ei feddwl mae popeth yn bod.


Ef ydyw hanfod pob lliw a llun:
A fyddai creadigaeth heb feddwl dyn?
Meddwl, O lili, yw'r gallu sydd
Yn creu'r holl fydoedd, yn taenu dydd.
Fel cawod arianlliw trwy gread Duw,
A pheri i fywyd diystyr fyw.

Gwêl acw anifail yn pori'n ddibaid
Y meysydd toreithiog, yn torri ei raid
Ar lasbawr a blodau sy'n hardd fel y nef;
Mae gwelltglas a blodau'r un wawr iddo ef.
Prydferthwch, ni welodd anifail mo'i bryd,
Ar geinder ei borthiant ni roddes mo'i fryd.
Ond deued y meddwl â'i lygaid clir
Goruwch gweledigaeth y meysydd îr,
Rhiniwr yw ef, a thry'r blodau byw
Yn llygaid yng nghorff Prydferthwch Duw.

"Anhraethol harddwch a gwyd ei ben.
O bob blodeuyn tu hwnt i'r llen.
Beth ydyw Solomon yn ei wyn
Yn ymyl y lili d'wysogaidd, bryd hyn!
Gwynder y pannwr, mor llwydwyn yw
Yn ymyl y gwyn sydd ym mantell Duw!
I'r meddwl sy bur y mae'r blodau o hyd
Yn fyrdd o ffenestri i'r anwel fyd;
A thremia i'r sancteiddolaf ei hun
Tu hwnt i len eu petalau bob un."

Eto, unbennes yw'r lili wen,
Ac nid yw f'honiadau'n plygu ei phen.

Etyb yn groywach ei hyder drachefn:
"Os mynni mai'r meddwl yw awdur trefn,
Ac awdur bywyd o filfil ryw
Trwy gread godidog oludog Duw,
D'wed beth a wnelai dy feddwl chwim
Pe bai dy wrthrychfyd iti'n ddim ?
Pe unwaith symudid i'r gwagle mud
Y bydoedd aneirif a bywyd pob byd?
Pe na bai'r un gwrthrych yn bod ond tydi,
Ateb imi, Pa bryd y dywedit Myfi?"

Eistedd yr wyf, yn y gwanwyn gwyrdd,
Yng nghanol aroglau blodau fyrdd,
A gwelaf, yn awr, nad ydoedd fy ngwir,
Cyn clywed y lili, ond hanner clir.
Gwelaf mai harddwch gwrthrychau fel hi
A ddeffry ymwybod yn f'enaid i mi.
Gwelaf mai harddwch y lili a gwyd
Y llenni anhreiddiol o'm hysbryd llwyd.
Clustfeiniwch, gan hynny, y blodau di-ri:
"Myfi wnaeth y lili, a'r lili fyfi."

II
'Bydded goleuni," a seinia'n glir
Uwchben fy myd, wedi'r caddug hir,
Yr aflunieiddiwch a'r gwacter hyll,
Ac wele baradwys yn tyfu o'r gwyll.
Troi y mae'r cread yn ysbryd yn awr ;
A'r wisg o fater, fe'i teflir i'r llawr,
A minnau ganfyddaf fantell wen
Ddiwnïad y Duwdod tu hwnt i'r llen.


Weithion, mi welaf nad ydyw'r byd
Ond llyfr o ddarluniau a daflwyd i grud
Baban a egyr laslygad clir,
A gwrido yn wyneb yr ysbryd cyn hir.

Awenydd, a gofi di'r funud fawr
Y ganwyd dy ysbryd i weled y wawr?
A gofi'r perlewyg a'th wnaeth di'n fardd,
Pan welaist y cread yn ysbryd hardd
A noeth, ryw brynhawn o haf yn y coed,
A'th weled dy hun, y tro cyntaf erioed?
Pan welaist dy Dduw yn dyfod yn ddyn,
A dyn yn Dduw yn dy fywyd dy hun?

"Oll-dduwiaeth! Oll-dduwiaeth!" sibrydir i mi,
Gwylia a gwêl pa ffordd yr éi di.
Nid felly; rhoer imi'r gwirionedd yn noeth,
A phe bai'n Oll-dduwiaeth, y gwir, fel aur coeth,
A garaf yn fwy na'r un gredo ddi-fudd
Na byddo yn tywys fy meddwl i'r dydd.

Mi wn nad Ysbryd y Cread yw Duw,
Ond gwn ei fod Ef ym mhob gronyn yn byw;
Mi wn nad drwy'r cread y daw ato'i Hun,
Ond gwn mai drwy'r cread y cyrraedd at ddyn
Ei briodoleddau anfeidrol Ef;
Gwn mai cyfieithiad o iaith y nef
Yw pob blodeuyn y twyn a'r pant,
A gwn fod dyfnder diwaelod i'r nant
Liw nos, pan gwyno dan ganu drwy'r cwm;

Mi wn fod cyfoeth mewn mynydd llwm,
A myrdd o dafodau ar led drwy'r byd
Sy'n ddwyfol a dynol i'm henaid o hyd.
Ym mhopeth, ym mhobman mae'r cytgan yr un:
"Mae Duw drwy ei gread yn dyfod yn ddyn."
Ym mhopeth, ym mhobman yr allgan un yw:
Mae dyn yn y cread yn dyfod yn Dduw."

III
Damhegion, damhegion! Maent o bob tu
I'm henaid chwilfrydig, p'le bynnag y try.
Mae'r Iôr yn llefaru drwy'r oesoedd wrth ddyn
Mewn myrdd o ddamhegion cyn dyfod ei Hun
Mewn Un yr adnebydd y byd yn ei rawd
Holl wir y nefoedd o'r diwedd mewn cnawd.
Gwirionedd y nef yn ddamhegion clir
A gododd Hwnnw o'r môr ac o'r tir.
Dadrithiodd y gwir a ddisgynnodd o'r nen
Ers oesoedd, pan dreiddiodd tu arall i'r llen.

A minnau a fynnwn, ar ei ôl Ef,
Dreiddio i gyfrin damhegion y nef,
Nes gweled y ddameg yn peidio â bod,
Ac ysbryd y gwir i'm hymyl yn dod;
Mynnwn deneuo'r bridd-babell im sydd,
A chaffael i'm henaid ddihangfa rydd,
A darfod â bod yn ddameg wyw,
Ond bod yn wirionedd noeth fel Duw.


Pa le y mae Horeb? Ai dim ond un berth
A welodd Iehofa erioed yn werth
Ei ddyfod i'w brig yn fflamau byw?
Mae pob un o'r perthi yn llosgi gan Dduw.
Mae perth o eithin mewn diffaith le
Y bûm i ganwaith yn llanc yn nhre
Mewn difyr fyfyrdod uwch murmur ton
Yr afon sy'n sisial drwy f'oes yn fy mron.
A gwelais y berth, yn ei blodau byw,
Yn llosgi gan ryfedd ogoniant Duw.
Mynych y clywais ryw fewnlef gre
Yn tonni drwy f'ysbryd, "Sanctaidd yw'r lle!"
Tynnwn esgidiau'r gŵr lleŷg i ffwrdd,
A theimlwn fy mod â'r Creawdwr yn cwrdd.
Ai yn y nefoedd mae Duw uwch ben?
Y mae'n yr holl berthi tu hwnt i'r llen.

IV.
Ysbrydion, ysbrydion gwynfyd gwell,
Maent yma yn byw er y bore pell
Y clywyd gorfoledd sêr y wawr;
A seiniau eu cyngan, ar lawer awr,
Sy'n cadw'r byd-bruddgerdd, sy'n cadw fy ngwe
Rhag myned yn fawlgerdd i Niobe.
Mi glywaf eu siffrwd, mi welaf eu gwedd,
O amgylch y crud, ac ar gyrrau'r oer fedd,
A mynych y rhodiaf yn eu plith,
Heb wybod dim mwy am dreialon chwith.


Ai Simon yn unig a gipiwyd o'i gell
A'i gadwyn i gerdded mewn rhyddid gwell?
Na, daeth yn fynych ryw angel pur
I'm gwyddfod innau, ar lawr dan gur
Cadwynau anorthrech haearnaidd fyd,
I'm dwyn, er y muriau a'r milwyr i gyd,
I'w ddilyn i ganol ysbrydoedd glân
A ganai yn rhyddid eu byd o gân.

Gwelaf, yn awr, beth yw hanfod y gwir
A ymgragennodd, flynyddoedd hir.
Beth ydyw mater ei hun, erbyn hyn,
Ond gwisg weledig yr ysbryd gwyn.
Y pethau a welir, amserol ynt hwy-
Tai unnos i'r ysbryd tragwyddol a mwy.
Tu hwnt i'r llen, tu hwnt i'r llen,
Lleda fy ysbryd ddwy adain wen,
A gwêl y cyfanfyd fel mantell hardd
Am feddwl tragwyddol y dwyfol Fardd.
Eheda ar daith heb luddedu i blith
Brodyr ysbrydoedd, a chenfydd y rhith
Wedi ei blygu'n ôl gan Dduw,
I ddangos dim namyn yr ysbryd byw
A erys yn ieuanc a noeth fel y nef,
Ac fel y bu unwaith cyn cychwyn o dref.

Fychaned yw hwnnw nas gwêl y byd
Yn ddim ond pelennig farw o hyd
Yn cylchu o gwmpas yr haul, neu'n ffoi
Oddi wrth ei ganolbwynt, neu ynteu troi
Fel meddwyn yr awyr am byth arno'i hun-
Rhyw beiriant o gread i beiriant o ddyn.


Ha! gwelais y byd, o unigedd y bryn,
Fel dwyfol golomen y dilyw, cyn hyn,
Yn lledu dwy adain flinedig a gwyw,
Yn cychwyn dros for yr ehangder at Dduw.
Yn ôl at Dduw yr ehedai ef,
Fel ysbryd afradlon yn troi tua thref.

O ganol nwyfreoedd mor ddisglair eu gwyn
Holaf fy hunan yn llawen a syn:
Mae, enaid, dy gyfnewidioldeb yn awr,
Oni suddodd i'r Digyfnewid mawr?
Rhyw ysgol Iacob yw'r byd i gyd
I'm codi i ganol ysbrydol fyd.
Tu hwnt i'r llen nid oes imi mwy
Gyfnewidioldeb; dihengais drwy
Dwyll ymddangosiad, a'r Ysbryd dilyth
Sydd mwy imi'n Un dinewid tros byth.

V
Gamgymeriadau! dônt ataf i,
P'le bynnag y trof, yn dorf ddi-ri.
I'm hysbryd yn fore truenus fu'r ffawd;
Sylla o'i anfodd drwy wydrau o gnawd,
Rhoed lliw'r materol i'r gwydrau hyn,
Ac nid wyf yn canfod y golau gwyn-
Y dilyw trybelid sy'n dyfod o Dduw-
Ac mewn ffug-oleuni y gorfydd im fyw.
Ond weithiau, pan dreiddiwyf tu hwnt i'r llen,
Pan welwyf o'r gliriach ysbrydol nen,
Canfyddaf wirionedd yng ngolau fy nef,
A dawnsia fy ngharchar pan ddelwyf i dref.


Pa beth ydyw Amser, sydd yma o hyd
Am lynu wrth enaid nad ydyw o'i fyd?
Beth ydyw mewn ysbrydolfyd gwyn?
Derfydd ei orthrwm yn llwyr, bryd hyn.
I'm carchar fy amnaid a wna iddo ddod,
Tywyllwch fy llygaid a bair iddo fod.
Onid wyf fwy na'r blynyddoedd a'u lli?
Onid ydyw'r tragwyddol yng nghudd ynof i?

Caeaf fy llygaid, a daw ger fy mron
Gewri'r holl oesoedd, y funud hon.
Weithion, mae nos yr hen oesoedd ar ffo;
Wyf lawn o arwriaeth gwroniaid Caer Dro.
Llamaf i'r freithell â'm cleddyf dur,
Neu syllaf ar Helen ar ben y mur
Fel haul yn tywynnu ar arfau ei gwlad,
Neu eilun anfarwol o farwol dristad.

Yn awr 'r wyf ym mwlch Thermopylae
Yn ennill fy mri wrth atal y gwae.
Ac weithion yn ysbryd difarw yn dod,
Simonides, atat am goron clod.
Rhyfeddaf wroldeb Caradog, ar hyn,
Ac yna, wroniaeth John Penry, yn syn.
Dônt mewn amrantiad i gyd yn fy mron,
A minnau, o'u gweled, sy'n drist ac yn llon.
Amrantiad! Beth ydyw amrantiad, ni'm dawr:
Golygfa yw'r oesoedd i'm meddwl, yn awr.
Pa le y mae Amser? Ni thraidd i nen
Ysbrydoedd anfarwol, tu hwnt i'r llen.


Mil o flynyddoedd i'r Duwdod sydd,
Wedi'r ânt heibio, oll fel un dydd;
Ac un dydd iddo, mewn gloywach nen,
Fel mil o flynyddoedd, tu hwnt i'r llen.
Nid ydyw Amser yn bod iddo Ef—
Un dydd tragwyddol yw dydd y nef.
Eithr, onid yw mil o flynyddoedd i mi
Fel undydd, pan gyfyd fy ysbryd i'w fri?
Pan gyfyd o'i garchar i brofi'r wledd
A'r perffaith ddigrifwch sy 'mroydd yr hedd?
Oni bydd imi un Heddiw, bryd hyn—
Heddiw tragwyddol yr ysbryd gwyn?
Ac onid yw f'enaid yr un, yn awr,
Pan gyfyd o'i nos i roi croeso i'r wawr,
Ag a fydd pan ymsuddo i'r dilyw gwyn
Sy'n llenwi'n ddiatal geulannau'r glyn?
Yn awr, ambell dro, ni ddaw Amser i nen
Ysbrydoedd a dremio tu hwnt i'r llen.

A pheth ydyw Lle, er i'm meddwl o hyd
Ddewis ei le i bob peth ym mhob byd?
Onid enaid sy'n methu â gweled yn glir
Wrth syllu o d'wyllwch ei garchar yn hir?
Canys, pan godwyf ar f'adain wen,
Rai prydiau, i gliriach, ehangach nen,
O ganol goleuni ysbrydol ne
Mi welaf mai lledrith cyfeiliorn yw Lle:
Lledrith i'r plentyn sy'n dechrau byw,
Heb weld ar amrantiad ehangder Duw;
Lledrith i ysbryd sy'n dal yn wan,
Heb ddechrau ei deimlo'i hun ym mhob man.


Yng nghanol y nos, pan fo'r byd mewn hedd,
Mae f'ysbryd tragwyddol yn codi o'i fedd.
Daw angel y nos, yn sobrddwys ei bryd
Hen ysbryd yr annherfynol—o hyd
Yn sanctaidd a noeth i mewn drwy fy nôr,
Ac yn ei wynepryd mae wyneb yr Iôr.
A'r cread yn sanctaidd fud, yn awr,
Daliaf yr angel hyd doriad y wawr.
Codaf len y ffenestri mewn cyffro byw,
Ac wele im gysegr â lampau Duw
Fil myrddiwn yn dangos dieithriol wawl
Seceina'r cread—ogoniant di-dawl.

Dilynaf hen ysbryd yr wybren fry
I ganol ei nos-neuaddau lu;
Dwg fi i ganol gwindy mwynhad,
Ac ni chais fy ysbryd am arall benllâd.
Dilynaf y sêr ar ddiderfyn daith,
Dilynaf blanedau ar gylchdro maith;
Yn ôl ac ymlaen, ar hyd llwybrau'r ne,
Llamaf heb wybod am Amser na Lle.
A suddaf, o'r diwedd, i ganol y môr
Lle sudda aneirif sêr yr Iôr.

I Dduw, nid yw Lle. Pe cymerwn yn awr,
Fel arall awenydd, adenydd y wawr;
Pe trigwn ddyfnderoedd eithafoedd y môr,
Yng nghanol fy mhabell preswyliai'r Iôr.
A phe cyweiriwn fy ngwely o dân
Yng ngwaelod y pwll, y llygaid glân
A threiddgar-dyner a wyliai fy nghur,
Yn llawn o gyfiawnder a chariad pur.


Ond os yw fy meddwl yn camu ffyrdd
Heuliau anghysbell a'u bydoedd fyrdd;
Os yw fy meddwl yn dilyn Iôr
I waelod y llynclyn ac eithaf y môr,
Heb wybod am rwystrau, mwy na Duw'r ne,
Ai rhywbeth i minnau'i achlesu yw Lle?
Onid wyf i, pan ymdorrwyf drwy
Fy nghnawdlen, na Lle a'i gaethiwed yn fwy?
Onid wyf yn arwain fy meddwl hyd ffyrdd
Sy'n dal yn fy nghalon yn fythol wyrdd?

Tu hwnt i'r llen, nid oes Amser na Lle:
Fe baid pob cyfnewid ger ei fron E.
A lleda fy ysbryd ei adain wen,
Preswylia'r Tragwyddol, tu hwnt i'r llen.

VI
Tu hwnt i Amser a Lle, yn awr,
Ymsuddaf i'r Tragwyddoldeb mawr.
Tu hwnt i'r cread a'i filfil sêr
Syllaf yn wylaidd ar noethni Nêr—
Ar noethni'r Ysbryd tragwyddol hardd,
A noethni meddyliau'r dwyfol Fardd.
Gwelaf yr Ysbryd anfeidrol ddoeth
Yn gwrido o'i weled ei Hun yn noeth.
Clywaf ei lef uwch meddyliau heb ri:
"Corff a gymhwysaf ohonoch i Mi.
Mae im awyddfryd am ganfod fy llun.


P'le mae im ddrych im fy ngweled fy Hun?
Duw wyf mewn enw yn unig, â nerth
Braich anfeidroldeb heb ddangos ei gwerth.
Oni chaf weled fy ngallu yn nrych
Cread godidog amrywiol a gwych?
A all y Duw sydd yn Gariad fyw
Am byth iddo'i Hun—a bod yn Dduw?"

Beth ydyw'r cread ond corff i Dduw—
Corff y mae'i feddwl fel gwaedlif byw
Tragwyddol yn rhedeg drwyddo o hyd?
Onid yw hawddgar wyneb pryd
Y cread yn fyw gan huawdledd bardd
Sy'n datgan prydferthwch ei Ysbryd hardd?
Onid yw Duw yn ei weled ei Hun
Yn ei fyrddiwn creadigaethau bob un?

Beth ydyw cread—ymdaith Duw?
Pa fodd y mae Ef yn ei gorff yn byw—
Ei gorff amserol? A yw'r Duw mawr
Yn ymwybodol mewn cread yn awr?
Wedi gadael tragwyddol ddydd y nef,
Beth am ei bererin fywyd Ef?

Dilynaf yr Ysbryd ar hyd ei daith
O'r diddim i ganol ei gread maith,
Nes gweled gyfodi'r gerddi pêr,
A'r blodau sy fel disgynedig sêr;
A thegwch y ddaear—ei choed a'i dail
Ar fynydd a dyffryn mewn lifrai di—ail.
Eithr os ydyw'r Ysbryd mewn coed yn byw,
D'wed y distaw—symudiad: "Yng nghwsg y mae Duw."


Rhyw ymdrech am ymwybodolrwydd o hyd
Yw huawdl fudandod y gwyrddlas fyd;
Ac nid yw'r carolau o'r goedwig bêr
Ond hyglyw freuddwydion hyfryd Nêr.

Ond ai breuddwydio'n am byth a wna Ef,
Heb ddeffro eilwaith i fywyd ei Nef?
Heb ddyfnder o ymwybodolrwydd byw
O'r cread i alw ar ddyfnder yn Nuw,
Sy fyth-ymwybodol, ac eto sydd
Am ei gael ei Hun eilwaith drwy'r cread, ryw ddydd?

Daw, diau daw dydd, heb ei ail yr un,
Pan ymchwel yr Ysbryd ato'i Hun.
O dan y coed yn Eden ardd
Cyfyd yr enaid ieuanc hardd;
A dawnsia goleuni glân y nef
Yn ei lygad disglair-danbaid ef.
Mae'r niwl oedd ar lygad yr Ysbryd yn hir
Yn awr yn gwasgaru, a threiddgar o glir
Yw llygad y dyn deffroedig, doeth,
A'i cenfydd ei hun gerbron Duw yn noeth.

Mae Duw wedi deffro o'i gwsg mewn dyn,
A'r Ysbryd mawr yn ei weled ei Hun.
Mae ymwybodolrwydd yr enaid byw
Fel ail ymwybod ym mywyd Nuw.

1895.


GWEDDNEWIDIAD

GWELAIS lindisyn, tu hwnt i'r llen,
A'i fywyd yn weddi am adain wen:
Gwelais yr eilir yn awyr y nef—
Y weddi a'i gweddnewidiodd ef.

Gwelais weledydd ar ben y bryn
Wyneb yn wyneb â'r Mawredd gwyn.
Gwelais ddisgyniad y proffwyd byw,
A gwedd ei wynepryd fel wyneb Duw.

1896.


SYNTAX LLWYD, OFFEIRIAD
(Ob. 1734)

AETH cyn i daran y nef
Ddeffro Gwyllt Walia o'i hun;
Aeth cyn i fellten y farn
Wanu cydwybod ei wlad.
Mwynach i'w enaid oedd hedd—
Hedd ei fyfyrion—na thwrf
Cenedl yn codi o'i chwsg,
Cenedl yn cerdded o sŵn
Seina i Galfari fryn.
Aeth o ddistawrwydd ei gell,
Aeth mewn distawrwydd i'w fedd
Distaw, dan allor y llan.

Gŵr oedd a syllai ar fyd
Trwy ddrychau Arcadia, a gŵr
A farnai drin clasur yn fwy
Mwynwaith nag arail ei braidd.
Carodd, ym mlodau ei oes,
Fiwsig, pêr dristwch a hoen
Fferyll a Horas, fel llanc.
Tynnai felyster i'w fron,
Ac yntau'n ŵr crinllwyd a llesg,
O'i Homer a'i Sophocles hoff—
Awenau tir Groeg oedd ei Feibl.


Ac er y mawr gŵyn ar ei rawd,
Ac yntau'n offeiriad i Grist,
Cryf fel cerdd seiren yw swyn
Pennod ei fywyd i mi,
Deled im encyd o saib
Yng nghanol y trabludd a'r rhuthr.

Pa bryd y daw'r dyddiau yn ôl,
 Homer a Fferyll yn byw
Mewn tawel ystafell, a thŷ
Cysgodol ym mherfedd y glyn,
Fel hen frenhinoedd oes bell;
A'r coed, yn y cyfnos o hedd,
Yn estyn eu pennau i'r gwydr,
I wrando diferiad y dil,
A gweled mwynhau o'r hen win?

Gweled a rhannu'r mwynhad:
Hyn fo i mi cyn fy medd.

1897.


Y DIDDANYDD

HYFRYD i mi yw meddwl am y dydd
Y cefais ei gymdeithas felys, fwyn,
I lawenhau fy ieuanc ddyddiau trist.
Hir y bu f'ysbryd gwyl heb ufuddhau
I'r glân orchymyn; dalm yr oedd y Gair
Yn suddo megis cleddyf ynof i.
Ni allwn ganu'r emyn yn y côr
Â'r geiriau oll yn dwyn y gwaed i'm grudd;
A gwyddwn fod rhyw gwmwl uwch fy mhen
Yn aros, a bod Duw'n melltennu barn.

Ond daeth yr ufuddhau, a daeth y dydd,
Ac O, 'r gorfoledd newydd yn fy mron—
Gorfoledd ysig ysbryd wedi'r nos!
Erys ei ôl, fel ôl y llanw mawr,
Ar lan fy enaid byth.
Hyfrydwch pur,
Cymdeithas gyntaf y Diddanydd mwyn!
Pell, pell oedd cwsg ac agos iawn y nef,
Y noson gyntaf honno; a phan ddaeth hun,
Fel diliau mêl im oedd, a'm dwyfol Ffrind
Yn dangos llawer ysgol hyd y nen,
Ac engyl glân yn disgyn ataf i
I'm cymell i'r gymdeithas newydd, fawr,
A'm harwain i orfoledd meibion Duw.
Mor effro oedd fy nghalon, minnau 'nghwsg!


Ym min y dydd, rhy araf oedd fy ngham,
Wrth lamu'n llaw'r Diddanydd dros y waun,
Hyd lan y nant, ac unigfeydd y wig,
Im lawenhau ym mhresenoldeb Duw.
Gwelwn y cread wedi troi drachefn
Yn Eden newydd imi, a phob pren
O'r goedwig uwch fy mhen fel baner hedd;
Gwelwn y nef yn las, a gwanwyn mawr
Yn torri o'm calon newydd dros y byd.

1898.


Y LLYTHYR

YSGRIFENNAIST uwch y dôn,
Eneth lon;
A daeth cennad bychan, hardd,
At dy fardd.
Edau arian loyw a chref,
A ddug ef;
Ac mae gwifren dros y lli,
Mwy, rhwng meinir wen a mi.

"O'r cyhydedd," medd fy merch,
"Y daw'r serch;
Lle mae nefoedd las, ddilen,
Byth uwch ben;
Lle mae'r môr yn gân i gyd,
Fel fy myd."
Haul a nefoedd las a chân
Yw dy ged, fy Luned lân.

Murmur môr oedd yn dy glyw,
Eneth fyw;
Murmur dyfnach môr na'r lli
A ddaeth i mi.
Clywais furmur eigion serch,
Fwynaf merch;
Ac fe eilw yn fy mron
Ddyfnder ar dy ddyfnder llon.

1898.


NATUR A DUW

I
MEWN byd heb swyn, gan dwrf peiriannau croes,
Dolefais, lawer awr, dan ddycnaf gloes;
"Paham na roesai Ffawd fy nydd i mi
Yn Helas effro a'r wyryfol oes.

Paham na chawswn fyw pan oedd y wig
I dduwiau a duwiesau mân yn drig?
A marw yn ddedwydd cyn gweld trengi Pan
A phob rhyw nymff a naead tan y brig!

Ni ddaw'r lân Aphrodite mwy i'r coed,
Na'r perchen bwa perboenusa' erioed;
Ni daw Demeter eurwallt mwy i'r yd
A wridai o'i blaen a thonni dan ei throed.

Ni chlywaf Philomela mwy a'i chân
Fel dwsmel bruddber mewn ogofau mân;
Na'r cerddor gwallgof-leddf a drôi'r holl fyd
Yn wallgof-lon ar ôl ei briod lân:

Na gweld Proserpina, cyn awr ei chur,
Ar feysydd Enna'n casglu'r blodau pur;
Hithau'n flodeuyn harddaf dyn a duw,
Cyn tyfu o'r ddwyfol Helen dros y mur.

Oferedd im freuddwydio am gael yn ôl
Fireindeb cain a dybiai f'oes yn ffôl;
Er hyn, mwy filwaith im na gwybod oer
Fy nydd yw'r hud a wisgai bryn a dôl.


II
Ti, Nasarethiad, a fu'n codi'r llen
A dangos imi'r offeiriades wen
Yn arogldarthu i'w Chreawdwr glân,
Rhyngot a Natur cefais ymdrech den.

Ni wn pa beth fai Natur hardd i mi
Heb olau glân dy enaid crisial di;
Ond er im bara i ddod i'th byrth â chân,
Na chais im gadw draw o'i chysegr hi.

Mi dybiais droeon, pan ddoi f'ysbryd gwyw
Ar fynwes dyner Natur eto'n fyw,
Mai aros ar ei bron adfywiol hi
Oedd ystyr ymddigrifo yn fy Nuw.

A syndod a'm meddiannodd, ambell awr,
O weled, wedi torri o'r sanctaidd wawr,
Luoedd yn oedi 'nhemlau bychain tref,
A mi fy hunan yn y cysegr mawr.

Ond hyfryd ydoedd aros yn yr hedd,
Aros ac aros-plygu glin uwch bedd
Fy naearoldeb; derbyn llif o Dduw,
A gwybod bod ysblander ar fy ngwedd.

III
Ar lawer bore, wrth rodio dan y brig,
Dychryn i mi oedd sancteiddiola'r wig;
A mynych dro, yn heddwch dwfn y coed,
Gwelais yr Anweledig mawr lle trig.


Gwelais ei wedd ar lawer haf brynhawn,
Pan arosasai'r cread, a phan awn
I fin y nant, a chanfod nefoedd fwy
Na'r nef a oedd yn llenwi'r llif yn llawn.

Gwelais ei drem yn unigfeydd yr hwyr,
Yn hedd ai ynteu'n fraw, pwy sydd a'i gŵyr?
Ac nid oes ddim fel Natur sanct a ry
Gyffro a gerdd fy nyfnaf fod yn llwyr.

IV
Gwelaf y wennol wedi dod drachefn
I 'hedeg uwch ei llun mewn afon lefn:
Gwyddai ei thymp a'i hadeg i droi'n ôl;
Duw ffyddlon a'i ddeffroes i gofio'i drefn.

Duw ffyddlon sydd yn cofio coed y tir
A fu drwy'r gaeaf llwm mewn gweddi hir;
Ei hudlath Ef sydd yn eu cyffwrdd hwy,
A throi pob noeth yn hardd, pob crin yn ir.

V
Olwynion mewn olwynion fyrddiwn sydd
Yn troelli yn y cread, nos a dydd ;
A llygad Duw sydd ym mhob olwyn lân,
Ac nid oes olwyn byth yn treiglo'n rhydd.

Ni allaf olrhain ei Ddoethineb Ef;
Doethineb marwol ddyn yw codi llef
A d'wedyd, "Ffôl yw llewych wyneb gŵr,
Tydi sy ddoeth, Lywiawdwr byd a nef."


VI
Duw prydferth wnaeth y wawr a'r bysedd rhos
A welai Homer, er ei ddidor nos;
Duw prydferth wisgodd gorsydd mall â swyn,
Duw prydferth blannodd flodau yn y ffos.

Ef guddiodd noethni'r graig â blodau mân,
Ef roes i'r ddraenen bigog wenwisg lân;
A'r Ysbryd Mawr sydd yn brydferthwch byw,
Ef droes yr eithin yn dafodau tân.

Duw prydferth wnaeth y cwmwl golau a ddyd
Ei gysgod ysgafn ar y glasfor mud;
Duw prydferth wnaeth i'r paun adenydd heirdd,
A llawer wyneb angel yn y byd.

A wnelai Natur im ei ddisgwyl Ef
A oedd Flodeuyn Enwog yn y nef,
Nis gwn; ond wedi ei ganfod rhwng y drain,
Mae gennyf fwy ymddiried yn ei llef.

Blodeuodd harddwch Duw yn ysbryd dyn;
Ac awgrymiadau Natur bob yr un
A wêl eu hateb mewn ieuengwr hardd,
Lle cenfydd dyn ei Dduw, a Duw ei Hun.


VII
Nid ydyw Natur fawr yn mynd yn hen,
Ac nid oes grychni henaint yn ei gwên;
A sibrwd wrthyf mae am ieuanc Fardd
Sy'n gosod ar ei dail ei ddidranc lên.

Duw ieuanc ydyw Duw: Duw'r gwanwyn clir;
Y Duw sy'n cyffro calon oer y tir
I guro'n gyflym, ac yn galw cân
Yn ôl i neuadd fawr y goedwig ir.

Duw ieuanc sydd yn gwisgo'r ddôl fel gardd,
A ieuanc law fu'n llunio'i mantell hardd;
Duw ieuanc drwy enfysau'r glomen lân
Fel Ysbryd wedi perlesmeirio a chwardd.

Curiad ei galon Ef yw'r cyffro pêr
Sy'n cerdded Natur, ac yn llonni'r sêr;
Ac nid yw chwarae'r oen sydd ar y bryn
Ond cyffro curiad calon ieuanc Nêr.

Angylion hynaf nefoedd, hwy a fydd
Ieuengaf creaduriaid bythol ddydd;
A Thad Ysbrydoedd, y Tragwyddol Fod,
Yw'r Ysbryd hynaf a'r ieuengaf sydd.


VIII
Nid ydyw Natur ond cerddorfa fwyn
Yn canu cynganeddion llawn o swyn
Alawydd anweledig; gostwng glust
A chlyw'r athrylith ddwyfol ym mhob llwyn.

Nid ydyw Natur namyn mantell hardd
I guddio a datguddio'r dwyfol Fardd.
Cais newydd lygad clir, a gwêl y llen
Yn rhwygo, a'r Seceina ar lawr yr ardd.

Dameg yw Natur: stori nefol yw
Yn iaith y ddaear, i bob enaid byw;
A hyd na welom heb y ddameg hon,
Deil Natur yn sagrafen sanctaidd Duw.

1899.


Y SICRWYDD

PAHAM, Amheuaeth oer, yr ymofynni
 mi am gadarn sail fy sicrwydd ffydd?
Ysbryd di-dostur, erch, paham y mynni
Ysigo'r ymddiriedaeth ynof sydd,
A'm henaid, bellach, am fod byth yn rhydd
O'i lym gaethiwed? Gollwng d'afael den,
A gad im fyw mewn hyder llawn, di-len.

Ai twyll i gyd y sanctaidd gyffroadau
Annisgwyl dros fy ysbryd briw a ddaw?
Ai twyll i gyd y dieithr bur brofiadau
A bair im deimlo'r anwel fyd gerllaw?
A gerdd fy enaid ofnus fel rhyw fraw
Cysurlawn? Na, nid twyll a gwegi i gyd
Yw'r cwbl a guddiaf ynof rhag y byd.

Mi wn fod arall fyd, a bod ysbrydoedd
Yn llywio f'oes, yn ysgafnhau fy mhwn;
Ac nid oes un o'r myrdd gweledig fydoedd
Yn bod im fel yr anweledig hwn.
Ac os fy nhwyllo f'hun yr wyf, mi wn
Nad oes, na ddaw, un uffern waeth i ddyn
Nag uffern twyll yr ysbryd arno'i hun.


Mae deddf tuhwnt i ddeddf i'm dirgel reddfau,
Na chais im godi'r llen ar f'anwel fod:
Ni ddichon llinyn byr d'anianol ddeddfau
Dros fyd sy'n fwy na hyd ei fesur ddod.
Ac os wyt tithau'n ddall i buraf nod
Fy mywyd, estron ydwyf byth i ti:
Yr hyn sy gudd ohonof ydwyf i.

Nid yw i ti amgyffred iaith y galon,
Na gwybod am ei sicrach sicrwydd hi;
Ni chlywaist ti erioed mo bêr sisialon
Yr Ysbryd Mawr, a'r anhraethadwy li
O fiwsig sy'n hyfrydwch f'enaid i.
Minnau, erioed ni chlywais beraidd sain
Os twyll im ydyw'r fewnllef ddistaw fain.

1899.


TROEDIGAETH WILLIAMS, PANTYCELYN.

Y MAE proffwyd Duw'n Nhrefeca,
a'r marworyn ar ei enau
Wedi gwneud ei fin yn fflam
a lysg rhwng dynion a'u pechodau.
Nid oes iddo urddau esgob,
ond myn Duw ei arddel beunydd.
Ac y mae ei wisg yn wen
fel gwisg y Saer ar ben y mynydd.
Wedi mil o lefau oerion
a thafodau di-awdurdod,
Wele un â chawod fellt
yn disgyn dros ei danllyd dafod.
Y mae'r dyrfa yn ymgynnull,
fel i glywed sŵn y farn;
Dyry yntau gledd yr Ysbryd
yn ei bywyd hyd y carn.
Arswyd, syndod, dychryn
ddalia yr holl werin fawr a mân;"
Howel Harris sydd yn ŷd Philistia
heddiw'n rhoddi tân.
Sôn amdano sydd yn cerdded
dros y wlad fel dychryn byw,
A rhyw arswyd ac atyniad
rhyfedd sydd ym mhroffwyd Duw.

Ar ryw fore Sul hirfelyn,
wele'n cerdded yn y dyrfa
Heibio'r beddau i wasanaeth marw
yr eglwys yn Nhrefeca,
Wr yn ienctid glân ei ddydd,
bonheddig drem, bonheddig osgo;
Y mae llygaid y plwyfolion
yn hoeliedig ennyd arno.
A chyn nemor, wele arall un
drwy'r porth i'r hen adeilad,
Ac o'i ganfod, dacw gyffro byw
drwy'r dyrfa mewn amrantiad.
Try pob llygad ato'n union,
cyfyd gwanc i'r llygaid barus,
Ac nid rhaid i ddieithr holi-
gwrendy'r sibrwd, "Howel Harris!"
Howel Harris! Ai Elias Brychan
dir yw'r gennad hoyw
Sydd o'i flaen, â'r mellt yn aros
yn ei lygad bychan gloyw?
Howel Harris yn y dyrfa,
fel llosgfynydd wedi arllwys
Tân fel afon dros y wlad,
a barn fel llif wrth ddôr yr eglwys?
"A oes obaith am ei glywed, heddiw?"
medd y llanc di-ddychryn,
Heb ddychmygu am y farn
a'r fendith fawr y mae'n eu gofyn.

Eir yn fuan drwy'r gwasanaeth dof
yn eglwys lwyd Trefeca;
Nid oes fywyd yn y dorf
nas cafodd fywyd o'r areithfa.
Rhed y llu'n awyddus allan
am y genadwri fyw,
A gwrandawant fel eneidiau'n
trengi am gael clywed Duw.
Dacw'r Gŵr yngŵydd y dorf:
ymledodd heddwch fel y bedd;
Mae goleuni'r byd a ddaw'n
ymdaenu'n sblander ar ei wedd.
Dacw'i enau yn agored:
dacw lif o lafa i lawr
Ar aflendid gwlad,
sy'n llosgi megis sorod erch yn awr.
Y mae'r gliniau'n llwyr ymollwng
o dan daran fawr y nef,
Ac ni chlywir Howel Harris:
Duw ei Hun sydd yn y llef.

A'r gŵr ieuanc-beth a ddarfu iddo yntau?
Pam y mae
Fel ar lawr gan farwol saeth,
a'i wyneb glân yn ddrych o wae?
Pam y mae fel aethnen ofnus
yn dirgrynu dan yr yw?
A yw'r cleddyf llym, dau-finiog
wedi rhwygo'i ysbryd byw?

Beth yw'r golau gwyllt sy'n torri
dros ei dyner lygad glas?
Pam y try fel un â'i falchter
wedi newid iddo'n gas?
Ha, nid ofer, Harris, heddiw,
y cyfodaist ddychryn lef;
Trwyddi clywodd Perganiedydd Cymru
dreiddgar lais y nef.
Ac os cyfyd cwmwl soriant uwch dy ben,
Apostol gwlad,
Y mae Williams, Pantycelyn,
byth i ddal i'th alw'n Dad.

1900.


GWELEDIGAETHAU UFFERN

I
MI mewn myfyr hir o flaen fy nhân,
A Hwyrddydd hydref,
Hwyrddydd o'r hydref, esmwyth lithrodd cwsg
Hyd ataf, a rhoes arnaf bwys ei law.
Ac yn fy hun mi welwn ŵr â'r gwawl
Yn harddu ei lygaid;—gŵr nas gwelai ddim
Ond cadau a bydoedd anweledig. "Tyrd,"
Ebr ef, "a rhwym dy wregys, fab, at daith
Bellach o'r ddaear nag yw hi o'r nef."
A chyn ei dewi, nwyd anturiaeth hy
A lanwai f'ysbryd, a dilynais ef.

I lawr, i lawr yr aem, â mynych fyd
Yn gwibio heibio i ni fel pryfed tân;
I lawr, i lawr, ar gyflym, gyflym hynt,
A phrofwn rym rhyw air ar ddalen hen
Bardd a ddarllenswn cyn nesau o gwsg:
Rhwydd ydyw disgyn i'r uffernol bwll,
Ond galw'r traed yn ôl yw'r gwaith, yw'r gamp."

O'r diwedd, daethom i ryw fyd lle'r oedd
Y nos fel cysgod dydd, a'r dydd ymrig
Yr hwyr; a gwelwn rithiau fwy na rhi
Heb arwydd gofid, heb un llef o boen.
"Ai dyma'r carchar llwyd lle dygit fi?"
Meddwn heb gryndod, "nid oes yma wae."


Medd yntau'n fwyn, "Nid yw dy daith ar ben:
Ni ddaethost eto ond hyd yn Hades, fab,
Trigle'r ysbrydoedd gwymp sy'n disgwyl dydd
Gwynnach ar ben Olympcs fry, pan ddaw
Eu hawr i esgyn at y duwiau glân.
Gorffwys am ennyd; yna paratô
Dy ysbryd eofn at enbytach taith."

Heb oedi i gyfarch neb o'r dyrfa fud,
Codasom ar adenydd chwim drachefn;
Ac yna disgynasom tua'r byd
A yrrai gaddug trwm a braw ymhell.
Duach a duach fyth oedd graen y nos,
A ninnau'n torri drwyddi, heb obaith gwawr,
At nos dragwyddol llynclyn erch y gwae.
Brawychais, a gofidiwn ymdaith ffôl,
Ond ef a oedd gerllaw'n ddiysgog gryf
A ddywad i'm bywhau: "Rhaid it, fy mab,
Bellach gael trem ar Tartaros a'i lu.
Minnau a'th gadwaf, a thi'n tramwy'r fro,
O deli'n agos, o dilyni'n daer."

Yn sydyn, mi ddychmygwn glywed sŵn
Tonnau o dân yn llifo'n gerrynt llawn;
A chodai tawch sylffuraidd uwch y lli.
"Na laesed d'adain," medd f'arweinydd hen;
"Hon ydyw Phlegethon, yr afon dân
A lif o gylch yr anobeithiol bau,
Gan ysu gobaith ei phreswylwyr trist
A sŵn ei thonnog lanw a'i gwelwlas fflam.


Croeswn hi'n ddiogel ar adanedd buain,
Ac wele ni ar drothwy Tartaros.
A weli di'r colofnau adamant,
A'r tyrau a'r pyrth a'r muriau beilch o bres
Yng ngolau glaswyn Phlegethon yn glaer,
Er nos nad oes nos arall onid hi?
Ehedwn drostynt, a thros arall fur,
Ac arall gyfled a chadarned un,
A deuwn at y rhai diobaith. Pwy
A wyla am wae ei oes, o weld y rhain?
Edrych—heb ofal calon."

Tybiwn weld
Y bryniau'n ysgwyd, ac am dreiglo'n rhydd,
Ond heb ymsymud. Llefwn,
Llefwn, "Beth yw hyn?"
"Edrych o dan eu sail," ebr ef, "a gwêl."
Tanynt mi welwn mewn cadwynau heyrn
Gewri neu dduwiau, ac ar ei gwedd y gwae
A'r diysgogrwydd amhlygadwy sydd
Yng ngwron Miltwn. "Pwy drachefn y rhain?"
A chyn im dewi, "Dyma'r duwiau gynt
A safai'n erbyn cynnydd dyn a duw,
A safai'n erbyn geni'r newydd oes;—
Duwiau a daflodd Iau y Tad a grym
Y duwiau ieuainc i dragwyddol nos,
Ac ni ddônt, er eu nerth, drachefn i'r dydd.
Fe grŷn y bryniau, ond ni threiglant ddim
O'u lle; a dyma it uffern duwiau brith
A roes i eraill lunio'r newydd oes,
A hwythau gyd â'u gordderchadon fry."


Ond wele ni o wydd y duwiau'n troi,
Ac at y llu galarus sydd â'u cri
Fel cri myrddiynau o Raheliaid lleddf
Yn treiddio drwy'r canrifoedd. Gwelwn hwynt
Yn gwibio heibio i'w gilydd, heb un cais
I sibrwd cyfarch, rhag mor fawr eu poen,
Ac mor hunangar eu bywydau trist.
"Dyma," medd ef, "y gynulleidfa fawr
Bruddaf, amhuraf, fab, a weli byth;
Uffern pob oes sydd yma'n uffern aruthr.
Yma mae'r bryntion wrth rieni hoff
Yn curo ar galon galed, nos a dydd;
Yma mae'r godinebwyr sydd â'u nwyd
Anfarwol effro am ddirgelu bedd
Eu pleser â golygon llawn o wŷn
Ffromllyd. Ac yma mae'r gwleidyddion fil
A dwyllai wledydd, wedi gweld ers talm
Mai hwy eu hunain a dwyllasant hwy.
Yma mae'r llu na chodant byth eu pen
A aeth i gadau creulon er mwyn clod,
Ac nid ymhlaid cyfiawnder, a chreu myrdd
O weddwon ac amddifaid mewn un dydd
I godi'r gri sy'n rhwygo nos eu gwae.
Yma mae'r rhai a garodd aur yn fwy
Na'r einioes; gwêl hwy'n suddo'u dwylo i'r fflam
A dry ar lun y melyn aur o hyd
I'w hudo ac i'w gwatwar, ebyrth pridd
Lliwiedig; gwêl hwy'n cuddio'u cydau o dân,
Yna'n ymuno â'r llu ar gyfrwys wên.


"Gwel yma eto," ebr f'arweinydd llwyd,
"Ddau a fu'n syndod cynfyd yn eu gwae:
Nis gwelodd uffern ond a'u canfu hwy."

Mi drois i hir ryfeddu at ingol ŵr
A ledai lygaid awchus, gwyllt eu treigl,
A safn newynnog at y melys rawn
A blygai ato—ond nid i'w profi byth.
Dyrchafent cyn ei ddal onaddunt hwy,
Ac yna doent drachefn i'w demtio ef.
"Wele'r glwth Tantalos," ebr Homer im,
A'i druan drem a dreiddiodd drwof i.

A heb fod nepell gwelwn arall un
Yn treiglo maen i goryn mynydd serth,
A'r maen am dreiglo'n ôl, bob cam o'r daith.
Mi a'i gwelwn ef yn cyrraedd pen y bryn,
O ddal i wylio'n hir ei wthio maith;
Ac yna, gwelwn faen yn treiglo'i dreiglwr
I lawr yn greulon gyflym i'r gwastadedd,
A'r gwaed yn llif ar Sisyphos a'i faen.
Ac yna, gwelwn ef yn dechrau'i waith
Diderfyn eto, heb un sôn am saib.
"Wele," medd Homer, "it gynlluniwr ffals
A dreuliodd oes i dwyllo dyn a Duw."
Eilwaith dilynais ef i ben y bryn,
A gwelais eto'r maen yn treiglo'n ôl,
A'r gwaed yn bistyll rhuddgoch. Dodais lef
I'm braw; ac wrth ei dodi, mi ddeffrois
O hun a oedd fel uffern, oesoedd fyrdd.


II
Hwyr hirnos arall, gweledigaeth lawn
Mor erch a ddaeth i'm dychryn wrth fy nhân;
Cans, yn fy nghwsg, mi dybiwn weled gŵr
Mewn mantell laes yn disgyn ataf i,
Ac yn fy nghymell ar hyd dieithr ffyrdd.
Cyfodais a dilynais, nid heb ofn,
A thybiwn dreiddio drwy ryw denau len
Ar gant y byd, i fyd lle na ddaeth dydd
Na nos erioed i gynnau haul na ser—
I fyd lle nad oedd drwg na da, na neb
A wyddai am bleser, neb a brofodd ing;
I fyd di-wên, di-alar, a di-sŵn.

"Beth ydyw hyn, f'arweinydd?" meddwn i;
"Ai dyma hydref creadigaeth Iôr?
Ai byd o fodau wedi deifio'n grin
Yw'r uffern hon? Ai uffern, tybed, yw?"

"Dyma," medd ef, "yr anweledig fyd
A ddaeth i olwg Israel Duw, pan oedd
Heb lwyr ddeffroi ar lwydlas doriad gwawr."

"Yma 'does neb a ŵyr mai byw yw ef:
Hunrodwyr oesol yw'r myrddiynau hyn."

"Gwir, gyfaill, canys Sheol ydyw'r lle,
Ac nid oes neb yn effro yma, mwy.
Ar ôl blinderau bywyd, wele'u cwsg
Heb freuddwyd am a fu.


Ond tyrd a gwel
Israel yn suddo pwll drwy Sheol fas
I ddyfnder nad oes fesur ar ei faint.
A allai hil a welsai nad oedd dydd
Y cyfrif ar y ddaear rwymo'i chred
Wrth fyd heb iawnder ynddo ddim na barn,
Na chosb ddigymysg mewn digymysg fyd?
Disgyn a dilyn fi, a gwêl yn awr
Y drist Gehenna o dân a greodd hi."

"Gehenna!" meddwn; "onid dyma'r lle
Y teflid iddo ysgarthion Salem gynt,
A lle pentyrrid brynti Seion lân?
Ac onid dyma'r lle y llosgai'r tân
Heb losgi'n llwyr o fod y cynnud budr,
Er golau o'r fflam ganrifoedd hir i'w bedd?"

"Gwir, fab, ond trwy'r Gehenna anfad hon
Gwelodd rhyw lygaid glân Gehenna fwy,
Nad oedd a welaist ond ei chysgod gwan:
Disgyn a gwêl Gehenna'r anwel fyd."

Suddais i'r dyfnder yn ei ymyl ef;
A'r cwymp a'r tawch, fe'm llwyr orchfygent i,
A hir ddychrynid f'enaid wrth nesáu
I'r lle, gan wae a rhincian dannedd trist
Cynefin ing. Llewygais; ond y gŵr
Yr oedd ei adain yn goleuo'r gwyll
A'm daliodd, ac a lefodd, "Bydded cryf
Dy benderfyniad, canys nid yw hyn
Namyn pell sŵn y gwae: od ydwyt lew
Disgyn a gwêl. Ni ellais droi'n fy ôl—


Och na fynaswn—cyn im weled trem
Ar fynwent enaid; cyn im weled llun
Ysbrydion noeth anobaith, arswyd, ing!
Mi welais fyrddiwn yn yr ail farwolaeth,
Yn methu â marw, ac eto'n marw o hyd;
A'r pryf yn byw i'w hysu, ond heb wanc
I'w difa; a'r tân fel ysgorpionnau hagr
Yn rhwymau a thafodau gwynias, hir,
Yn llunio'u dinistr, heb ddinistrio byth.
Gwelwn y llygaid lle cartrefai dig
Ac anniddigrwydd, ing a bythol siom;
Ac ym mhob enaid gwelwn lun y farn
A yrrai'r gwaed o'm gwedd ar ffo. Ebr ef,
"Onid a weli yw'r Gehenna o dân?

"Ond tyrd drachefn, cans yn eu caethglud flin,
O fyw yn sŵn afonydd Babilon,
Clywsai plant Seion am archelyn Iôr,
Ac am y dyrfa fawr o engyl drwg
Sy'n osgordd iddo, ac yn dwyn ei waith
I ben ar ddaear dyn, gan flino Duw
A newid drych y byd. A gwelodd un,
Onaddunt a oedd broffwyd Satan falch
A'i lu, aneirif dorf, yn syrthio o'r nef,
A throi o wynder glanach fil na'r gwawl
I dduwch adamantaidd yn y pwll
Y disgynasant iddo, luoedd coll.
Tyrd, canlyn fi: gwêl hanfod uffern, tyrd."
Suddais i'w ganlyn, yn fy mraw, drwy'r gwyll
Ddyfnderoedd anfesurol yn yr affwys,
A gwelais uffern yn ei noethni oll.


Pa fodd y soniaf air amdani wrth ddyn?
Gwelais y dyrfa o angylion brych;
Ond pwy a ddeil na buont yn y gwawl?
A phwy nad oent yn uffern? Yn eu trem
Canfum ddwyfoldeb nas dinistriai'r fall,
A rhyw fileindra a'u llwyr bellhai o'r nef
Hyd dragwyddoldeb. Gofid dwyfol oedd,
Dan falchter dieflig, ar bob wyneb du;
A rhoddai sŵn y gadwyn iddynt ias
O atgof am Goll Gwynfa, ennyd fer,
Ac yna, rhincient ddannedd ar yr Iôr
A'u gwnaeth yn ddigon mawr i syrthio am byth.

Yn frenin arnynt, yn eu canol hwy,
Gwelais ddyfeisydd damnedigaeth dyn
Ac angel—hen archelyn byd a nef;
Ni allai Satan yntau guddio'i wae,
Cans nid oes neb a ddwg ei boen fel un
Sy'n llunio gofid cread, uffern myrdd.
Tybiwn ei weled fel y gwelwyd ef
Gan Filtwn, pan ymsuddodd ar ei ôl
I gydymdeimlo ag ef ym mwg y pwll;
A llosgai'r geiriau ar len fy meddwl oer:
Er wedi ei dduo gymaint, mwy na'r cwbl
Ddisgleirdeb yr archangel; eithr ei ael,
Fe'i creithiodd taranfolltau, ac ar ei lwyd
Wywedig wedd eisteddai gofal mud."
Tybiwn ei weld yn tynnu ataf i,
A chrynai'r fro wrth sŵn ei gadwyn drom.
Hyfrytaf sŵn—cyn nesu o'r Du, deffrois.


III
Darllenswn gerdd y gŵr a fu'n y pwll,
A chanol nos, daeth ataf freuddwyd erch,
A chlywn ddwys lef y tristaf bardd erioed:
"Mi a'th dywysaf, megis Fferyll fi,
I weled Cantau erchyll uffern fawr."

Dilynais ef yn fud hyd at y porth,
A gwelwn eto'r gair a welsai ef
Mewn pwl lythrennau'n llosgi yn y gwyll:
"Trwof yr ewch i ddinas brudd y gwae;
Trwof y cerddwch i dragwyddol boen";
A'r sôn am roddi heibio obaith mwy.
O gylch y porth, mi glywn wylofain croch
Myrdd na chaent uffern wedi colli'r nef—
Y dorf ddi—dda, ddi—ddrwg, sydd yno byth;—
Angylion oer na phleidient Fichael gynt
Na Satan, yn nydd rhyfel meibion Duw;
A'r dynion nad ymrestrent gyd â'r gwir
Na chyd â'r gau drwy'u siwrnai yn y cnawd.
Crefent yn ddibaid am dderbyniad dig
Yr affwys eithr yn ofer oll.

Ymlaen
Drwyddynt yr euthum at y merfaidd li,
Lle gwelwn fyrdd yn disgwyl am y bad
A'r rhwyfwr gwelw i'w dwyn dros Acheron;
A Charon, oll yn grychni llwyd, a ddaeth

O ddwyn ei dorf i ddwyn y newydd lwyth
A dyrrai o gylch y fan i'w ddisgwyl ef,
Fadwr diorffwys uffern. Er rhegfeydd,
Rhoed inni dirio fel y gŵr a ddaeth
Wrth air a gofal Fferyll drwy bob Cant.

Yn sŵn taranau croch ac wylo lleddf
I Limbo—gyntaf Cant—y daethom ni;
Ond nid oedd yno waeau, namyn poen
Araf y gofid sydd yn troi'n wylofain
Isel a phrudd drwy'r oesoedd. "Pwy yw'r rhain?"
Meddwn, "a pheth yw ystyr hyn?"Ebr ef,
"Nid uffern briod le'r cyfiawnion hyn,
Wŷr a ddifuddiwyd o'r ddedwyddach oes.
Ni chawsant hwy drwy fedydd, porth y Ffydd,
Fynediad i fwynderau teyrnas Dduw
Am nad oedd Crist i'w pobl yn wrthrych cred."

Gwelwn ysbrydoedd glanaf cynfyd hen—
Homer a Socrates a Seneca,
Plato a Horas, Fferyll lary, a mil
O'r sawl a garai buraf gwir eu hoes.
Ni ellid uffern dduach i'r rhai hyn;
Gofidiwn innau gymaint colled nef
O'u colli, oleuadau gwawr y byd.

Ond rhaid oedd dilyn at y tywyll Gant
Lle gwelir uffern gyntaf. Gwelwn ef

Sy farnwr ar y myrdd eneidiau coll,
Minos—ddeddfroddwr Creta gynt a'i theyrn―
Yn rhannu'r gosb a weddai i'r neb a ddôi
Gerbron ei fainc; a chlywn y gwyntoedd dig
Yn gyrru eneidiau coll a'u llefain gwyllt
A'u tyngu chwerw, megis heintiau, o'u blaen
Drwy fro'r anobaith. O, mor brudd eu cri,
Fel cri ehedfa o adar yn y storm
Yn llanw'r nef ag arall storm o wae!

"Pwy ydynt?" meddwn; ac yn ateb daeth,
"Gwêl yma'r rhai a aberthwyd ar wyllt dân
Eu nwydau trythyll; gwêl mor hawddgar yw
Athrylith mab ac anfad degwch merch."
A gwelwn yn mynd heibio ger fy mron
Filoedd o wŷr a ddamniwyd gan eu dawn,
Fyrdd o lancesi ail eu drych i'r fun
A lediai'r lluoedd—Helen aflan, hardd.

Ond tros y terfyn troi i'r nesaf Cant,
A gweled newydd boenau newydd dorf.
Gwelwn gawodydd budr o eirlaw oer
Cesair a dwfr amhur drwy gydol nos
Yn disgyn, a halogi'r wlad a'r llu
Oedd danynt oll. A chlywn ei gyfarth hyll
Ef, Gerberus dri-gwddf, ddidostur, flin,
Uwch truan epil, wrth eu darnio hwy,
A mynnu gwledd. "Y glythion ydyw'r rhain,"
Ebr llef f'arweinydd," gwêl eu huffern erch!"


I lawr dros risiau tywyll disgyn fyth,
I diriogaethau Plwto, elyn dyn,
I weld mwy tyrfa nag a leinw Gant
Arall ym mro'r anobaith. Fel y don
Yn codi'n erbyn ton ar ben Charybdis,
A hollti hwrdd ei gilydd, gwelwn lu
Yn dod yn erbyn arall lu mewn nwyd,
Yn torri, ac yn cilio i ennill nerth,
A dod drachefn, â'u safnau'n ewyn llid.
"Pwy ydynt?" meddwn, ac ebr ef, "Y rhain,
Afradlon gethern ydynt; a'r rhai hyn,
Cribddeilwyr pennaf daear. A, fy mrawd,
Amled y gwŷr mewn urddau sanctaidd, gwêl!"

Dyfod, o ddisgyn at y nesaf Cant,
Hyd at y ffynnon ferw a'r Stygiaidd lyn;
A gweled torf heb abid onid un
O laid, heb wên ond gwên o wawdus nwyd.
Gwrthdrawai'r naill y llall, ond nid â dwrn
Namyn â phen a deudroed; ac â safn
Darnio ei gilydd, fel rhyw waedlyd gŵn.
"Wele it wŷr," ebr ef, "a guddiai ddig
Fel mygdarth yn eu mynwes; wele'r rhai
A godai stormydd tanllyd yn y byd
Trwy ollwng allan dymestl dân eu bron."

Heibio Medwsa, heb edrych arni hi,
Rhag imi droi yn garreg dan ei threm,
Y deuthum hyd at wlad o feddau llosg,
A gwelwn fyrddiwn ar welyau o dân.


Gofynnais yn fy mraw: "Pwy eto'r rhain?"
Ac meddai ef, "Yr hereticiaid dall;
A thebyg sydd ar debyg ym mhob bedd
Golosg yn heidiau. Nid yr un y gwres
Drwy'r fangre, er ei brofi'n eirias wyn
O fewn i'r oeraf cell. Eithr tyrd ymlaen
I weled y llofruddion yn eu poen,
A'r rhai a fu'n gloywi'r arf i agor ffordd
I ffrwd eu bywyd o'u mynwesau eu hun."
Ac er y tarw-ddyn, y Minotawr,
A wyliai'r lle, disgynnais at y pwll
Lle cyson lifai afon fawr o waed,
A'r holl lofruddion dan ei chenlli coch
Wedi eu bythol suddo. A gwelais hwy,
Lunwyr eu tranc eu hunain wedi eu troi
Yn goedydd cnotiog, lle'r adeiliai llu
O'r dialeddau nythod byw o seirff.

Ond p'odd y soniaf am fy ingol daith
Drwy'r Cantau oll? y soniaf am y rhai
A droesai'n erbyn gwiw gelfyddyd gain
A Natur? am y rhai a chwipiai'r dieifl
Am droi morynion o'u diweirdeb glân?
Ac am lu'r tafod teg, hyd at eu safn
Yn nhom y fall? P'odd am ragrithwyr llwyd,
Pob un dan gap o blwm a ffugiai'r aur
Tu allan, ac mewn gwisg—nid euraid oll?
Ni allwn ond lletroi at Gaiaffas
A hoeliwyd ar y ddaear, ac sydd mwy
Â'i gorff yn rhan o briffordd cethern ddu.


A gwych oedd gennyf lithro heibio'r garn
O ladron a boenydid gan y seirff
Sy'n hisian arnaf, heddiw, draw o'r pwll.
Ac nid oedd oed im yn y nawfed Cant,
Fferllyd gan oesol ia'r dyfnderoedd uthr,
Lle gwelais lu a fradychasai wŷr
Da i'w heneidiau mewn cyfyngder certh;
Lle gwelais Lwsiffer, â golau'r wawr
A ddygai gynt yn trengi ar ei wedd.

Digonwyd fi ar weled Cantau'r fall,
A hanner nefoedd im oedd troi'n fy ôl
A chanu'n iach i'r bardd ar gyrrau'r gwae.


IV
Suddais i beraidd gwsg ar fin y nant
A lif yn un â'm bywyd, haf brynhawn;
A chyd â'r gŵr ar geulan Hafren gynt
A welsai'r fallgyrch codais uwch y sêr
Hyd at derfynau'r anferth dragwyddoldeb.
Ond wedi esgyn uwch Tŵr Tewdws glaer,
Disgynnais tua'r gwagle hyll, i'r wlad
Ddi-drefn oedd weithiau'n oer, ac weithiau'n boeth,
Ac weithiau'n ddistaw, weithiau'n synio'n groch
Gan gerth raeadrau'n disgyn ar y tân,
A gwelais finion gwylltoedd distryw o'm blaen.
Clywn fflamau dig echryslon, beunydd byth
Yn clecian, ac ymsaethu i'r geulan ddu;
A'r mellt, ysgethrin ddreigiau, 'n rhwygo'r mwg
A fwriai'r anferth safn i fyny heb baid.


Yna, o ben y geulan echrys hon
Ymollyngasom, fel dwy seren nef,
I lawr fil miliwn o filltiroedd maith
Dros greigiau brwmstan a rhaeadrau tân,
A llawer clogwyn eirias oedd â'i wg
Crogedig ar i waered fyth heb gwymp.
Cyn i mi orffwys, clywn grochlefau fyrdd—
Bonllefau, gweiddi ac ucheneidio cryf,
Tyngu a rhegi a chablu a synnai'r fall.
A phrin im symud na ddisgynnai'n syth
Gannoedd o rai anhapus ar fy mhen,
A yrrai ellyll lu'n ddioed o'u blaen
Dan watwar bellach, wedi'r hudo hir.
Mi a'u gwelwn hwy dan lif yr afon fawr
Yn eu cymhwyso'u hunain fyth i'r fro,
A throi'r un wedd â'r diafliaid du eu trem.
Chwenychai rhai onaddunt ddyfrllyd fedd
Yn nyfnder dyfroedd rhag enbytach lle,
Ond gyrrid hwynt ymlaen gan ringyll erch
Hyd eu dihenydd bythol, druain coll.

Pwy edrydd am eu hingoedd chwerwon hwy?
Cans clywn gan mil o ebychiadau hyllgryg,
Ac ucheneidiau cryfion, a thrachefn
Wylofain croch yn ateb aruthr gri.
Gwelwn y diafliaid dig â'u pigffyrch llym
Yn taflu'r damniaid truain fry i'r nen
I ddisgyn ar hislanod geirwon, llawn
O wenwyn, yno i wingo dan eu hing.

Gwelwn hwy'n boethfel ar y creigiau llosg
Dros ennyd; yna, wedi eu cipio ymhell
I bennau'r bylchau rhew a'r oesol ôd,
Ac eto i lifeiriant anferth bair
O frwmstan berw, i'w trochi mewn llosgfeydd.
Dilynais hwy, a gweld eu gyrru'n chwyrn
I siglen erch y pryfed, lle cofleidient
Ymlusgiaid yr oedd lân yr aflan seirff
Wrthynt, a gwelwn hwy, dan danllyd ddur
Y gwiail clymog, yn dirgrynu'r pwll
Â'u hubain oer.

Wrth fyned rhagom fyth
Daethom hyd at y gell y clywswn sôn
Amdani ganwaith. Clywn y cytgan trist
Yn codi o fil o safnau cryg-" Gwae fi
Na b'aswn." Yna cofiais fod y ffordd
I uffern wedi ei cherigo'n llyfn
 dymuniadau heb weithredoedd da.
Heibio i gell yr Edifeirwch Hwyr,
A chell yr Oedwyr a'r Camhyder ffôl,
A chell y Gwawdwyr a'r Athrodwyr cas:
A phwy a ry lef i'r gwae a welais i?
Mi glywais oedfa senedd fawr y fall,
A Lwsiffer yn rhegi ei ddiwyd weis,
Er dwyn i uffern nawdyn o bob deg.

Mi glywais ateb Moloch, greulon ddiafl,
A dig orchymyn teyrn y pwll i fwy
Gweithgarwch; ac mi welais gadarn fraich
Cyfiawnder nef yn hyrddio'r pennaeth du
Yn ôl, pan godai ef ei hun i'r gwaith
A esgeulusid gan ei ddyfal griw.

Gwelais ddyrchafu'r ddamchwa o fflamau rhudd,
A'r waedd fel petai fil o ddreigiau ar dranc
A glywais, wrth ysgubo'r ddiriaid dorf
I'r sugndwll mawr a agorai'n llawr y llys,
I'w cau'n yr Uffern Eitha, hyd ddydd brawd.

Mi glywais ryfel uffern rhwng y fall
A'r Tyrciaid a gelynion ffrom y bardd
A'm t'wysai, a'r osteg ennyd wedi'r twrf,
Cyn dyfod torf gymysgryw tua'r pwll
Mor ddu eu gwisg â'u gwedd, i chwilio'u lle
Eu hunain yn y dyfnder.

Clywais deyrn
Yn galw ei lu am gyfarwyddyd doeth
I lunio dinistr Prydain Fawr; a hir
Wrandewais amlder cyngor: Cerberus
Yn moli'r cetyn du; Apolyon
Yn canmol balchter byd a'i ryfedd swyn;

Mamon yn moli arian, wraidd pob drwg;
Ismodai'n huawdl dros anlladrwydd hen;
Balphegor groch yn sôn am ddiogi, gwas
Diwytaf uffern; Satan yn rhoi'r mawl
Pennaf am lenwi'r lle i syfrdan chwith.
Ac ar eu hôl erglywais Lwsiffer,
Heb dderbyn cyngor neb, yn rhoddi'r hawl
I Hawddfyd gyrchu cyrrau Prydain Fawr,
A chodi gorsedd, nid ar donnau'r môr,
Ond ym mhob calon ddiofalus, wan,
A throi yr Ynys Wen yn ynys ddu.

"Digon o uffern bellach," meddwn i,
O weld mileindra'r affwys ar bob gwedd;
Ond ebr f'arweinydd, "Pa beth ydyw hyn
A welaist wrth a drig yn Uffern Eitha?"
"Ni fynnwn," meddwn innau, "ar honno drem."
"Ni chawsit weld mo honno chwaith," ebr ef;
"Gwallgofrwydd fai dy wobr o'i gweled hi."
A chyd â'r gair fe'm cipiodd tua'r nef,
Drwy Ddinas Distryw a'r Tir Angof oll.
Minnau, wrth godi, a welwn anferth ffurf
Na welswn ond ei thraed o'r blaen yn glir.
Pa fodd y soniaf am y Gawres fawr
Dri-wyneb, a dry wyneb at y nef
I gyfarth honno a chwydu ati byth;

Ac wyneb gwenog at y ddaear chwidr,
I ddenu dyn i gysgod fel y pwll;
Ac wyneb haearn at yr Annwn drist
I danio'r lle à llewych glas ei threm?

"Hon yw mam Angau," ebr f'arweinydd hy,
"A mam drygioni a thrueni'r byd."
Eithr nid oedd raid, cans gwelswn ar ei thâl
Argraff fil dyfnach na barnargraff Cain:
"Myfi yw Pechod." Ac ni phaid rhyw ias
O'i harswyd â bod arnaf hyd fy medd.

Rhagfyr, 1900.


O WILLIAM BLAKE[3]

DELIAIS ddig at gyfaill im,
Sôn amdano a'i gwnaeth yn ddim;
Deliais ddig at elyn du,
Cuddio'r dig a'i gwnaeth yn gry.

Maethais ddig, er ofnau cudd,
A'm dolefain, nos a dydd ;
T'wynnais arno, yn ddi-ball,
Haul-belydrau ffeils y fall.

Tyfai'n gyson yn fy ngardd,
Yna dwyn rhyw afal hardd;
Gwelai 'ngelyn hwn ar goedd—
Gwyddai mai fy eiddo oedd.

Dringo'r mur i mewn gan bwyll,
Pan oedd nos yn cuddio'r twyll;
Yn y bore bach, heb len,
Wele'i gorff o dan fy mhren.

1901.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Trystan ac Esyllt
ar Wicipedia

TRYSTAN AC ESYLLT

I
"BRANWEN, fy merch, erglyw," ebr mam y fun
A gefnai ar y llys yn deg ei llun,
"Gwn mai d'orfoledd pennaf dithau a fydd
Gweld Esyllt hoff a March dros byth yn un.

"Gwêl yma, ynteu, gostrel lawn o swyn
Feddyglyn a ddarperais er eu mwyn;
Dwg hon i'r llong, a'th ofal drosti boed-
Cans pwy a ŵyr y gwae a fydd o'i dwyn?

"Ac wedi'ch mynd o ofnau'r môr yn rhydd,
A rhwymo deuddyn llon, dy swydd a fydd
Rhoi ger eu bron fy mhriodasol win,
A mesur iddynt anniflannol ddydd."

Fe dderbyn Branwen hithau'r gostrel ddrud,
Â'i gwedd yn adrodd gofal enaid mud;
A daw gorfoledd gwiw i'w llygaid glân
Wrth ddwyn i ddirgel fan y melys hud.

Daeth bore'r cychwyn, ac o Ddulyn daeth
Tyrfa i'r hafan ac i fin y traeth;
A hithau'r fun, fel haul mewn cafod haf,
Ymedy â'r Ynys Werdd, er gwell er gwaeth.


Rhy Trystan ei ystafell hardd ei hun
I Esyllt wen a'i morwyn deg ei llun;
A dwg ei gysur mwyn, ar gyfnos prudd,
I fron hiraethus dwy adfydus fun.

Ond cysur nis myn Esyllt dan ei chlwyf,
Gwell ganddi gur y nos nag ysgafn nwyf;
"Tydi," ebr hi, "yw lleiddiad brawd fy mam,
A gadael erot lys fy nhad yr wyf."

A dydd hyd nos, a nos hyd arall wawr,
Ni phaid ei chynnes ffrwd o ddagrau mawr,
Er maint a edrydd Trystan am y gŵr
A wna o'i dyddiau oll un heulog awr.

Rhyw nos, fe ddeffry'r storm, a Thrystan sydd
Ymhlith ei wŷr, fel gobaith plygain dydd,
Yn daerni oll ac aidd, hyd onid yw
Y storm yn llaesu o flaen ei gadarn ffydd.

Disgyn i'r caban at ei loywon sêr;
Ac er i Franwen huno o hiraeth pêr,
Mae Esyllt wen yn effro, ac ar ei gwedd
Edmygedd dieithr iawn o'r gwron têr.

"Gorchfygwyd dichell ton, y storm a'i rhu;
Ai gormod gofyn llyn, y fanon gu?"
"Elyn a hoffais, hyfryd waith a fydd
Diodi'r gŵr oedd drech na'r corwynt du."


Hi chwilia'r caban am y gwridog win,
A'r geiriau mwyn yn chwerthin ar ei min:
"Trystan, er tosted im dy anfad waith,
Gwych gennyf lawenhau dy loywaf rhin."

Ofer er hyn ei chais, hyd oni ddaw
I'r fan lle cwsg ei Branwen hun ddi-fraw.
"Trystan, bydd lawen eilwaith, wele win,"
Ebr hi, a dwyn y gostrel yn ei llaw.

"I ti y mae yn gyntaf, Esyllt fwyn,
I ti a minnau yr wyt wedi ei ddwyn";
Praw hithau'r melys drwyth, ac yna rhoi
I Drystan flas yr erch feddyglyn swyn.

Ar hyn, fe ddeffry Branwen, ac ni ŵyr
Pa beth a wna, o golli ei phwyll yn llwyr;
Ni all, rhag galw adfyd cyn ei awr,
Ond beichus wylo'i phoen o wawr hyd hwyr.

Ond mwynach llanw a ddaw dros ysbryd un,
A chilia'r dig o fron digymod fun;
A Thrystan, harddwch oll a swyn yw ef,
A phur dynerwch moes i'r deg ei llun.

Daw tyner olau serch i'w llygaid glân,
Daw pêr yswildod serch i'w gruddiau tân ;
A dwylo mwynber serch o dan ei bron
A chwery fel ar fil o dannau mân.


A Thrystan sy fel llanc a lwyr ddeffrôdd
O'i hun i ddydd nas câr—sydd wrth ei fodd;
Ei galon lom, ddigân, drwy'r newydd wawr,
Yn nyth i adar cerddgar serch a drôdd.

Ond nid yw'r naill i'r llall yn adrodd loes.
Hyfrydwch sy fel ienctid newydd oes
O fewn eu mynwes, ac am oriau maith
Tyn cariad ac anrhydedd gloyw yn groes.

Ni allaf byth," medd Trystan ynddo'i hun,
Chwennych i mi yn wraig fy mherffaith un;
I Farch y cyrchais hi, a'i eiddo yw,
A March a'i caiff, er maint fy serch at fun."

A thrwy ei dagrau, Esyllt hithau a lef,
Paham y gwelais ac y cerais ef?
Paham y dyd anrhydedd friw i'm bron?—
March yw fy mhriod, Trystan yw fy nef."

Eithr cryf yw cariad, fel yr angau du,
A gwan anrhydedd wrth y swynwr cry;
O'r diwedd, wedi dwyn y gwan i'r llawr,
Dyd serch anrhydedd dan ei archen hy.

Beth yw dy boen, fy Esyllt lwyd dy rudd?"
Ebr Trystan leddf, "D'wed im dy ofid cudd.
Beth sydd yn gwywo rhos dy wanwyn wedd?"
"L'Amer," ebr hithau, â threm yswil a phrudd.


"La Mer," medd ef, "ai'r eigion effro yw?
Paham yr ofni ddim o'i gyffro byw?"
"Na, nid y môr sy'n dwyn y gwrid o'm grân—
"L' Amer," ebr hi, "sy'n troi fy rhos yn wyw."

"L' Amer," medd ef, "ai chwiban chwerw'r chwa,
A'r chwerw gawod ton sydd iti'n bla?"
"Na, nid y chwerw chwa na'r chwerw don—
"L' Amer," ebr hi, "sy'n difa mwynder ha."

"L' Amer," medd ef, "dy ddirnad, fun, yr wy;
L' Amer, yn wir, a ddyry i minnau glwy;
Anwylaf Esyllt, serch fel hunllef hoff
Beunydd a'm blina innau'n fwy na mwy.

"L' Amer, L' Amer, er bore oes y byd,
L' Amer yw'r gorfoleddus boen o hyd."
"L' Amer," medd Esyllt, "yw fy ingol nef,"
A'i gwefus welw ar wefus welw hi ddyd.

Ac wrth nesáu at lan y niwlog dir,
D'wed Esyllt drist i Franwen hanes gwir
Y newydd serch, sy'n ddwysach nef o boen
Dan dywyll gysgod creigiau'i chystudd hir.

"Mi a ddymunwn," medd, "barhau yn bur
I'r gŵr a garaf, er mor ddwys fy nghur;
Nid oes im ddim â'r March nas gwelais, mwy;
Mil gwell yw ing na chrychni henaint sur."


Nid cudd i'r ffyddlon ferch ei meddwl hi,
A pharod yw i roi ei gwyry fri
Yn dâl i Esyllt am ddiofal awr;
A chyfamoda'r ddwy â'u dagrau'n lli.

A nos ei nef, nid edwyn March mo'r fun,
Wrth ymdirioni â meinir hardd ei llun;
Ac ni freuddwydia'r araf deyrn yn hir
Mor bur ei Esyllt lân—i arall un.

Â'r dyddiau heibio fel breuddwydion glân,
A llonnach ydyw'r llys gan ddawns a chân
Nag oedd yn nyddiau telyn Trystan gynt—
A gloywach ydyw fflam y dirgel dân.

Ond mwyn gywely Trystan lawer hwyr,
Ryw nos a ddeffry'n sydyn, ac ni ŵyr
A ddaeth o'i gyfaill; ac er cryfed serch,
Drwgdybiaeth erch a leinw'r câr yn llwyr.

Dilyn drwy'r ôd cyhuddol lun ei droed
Hyd at ystafell fad y lladrad oed;
A gwrendy'n hir ar ddau yn suo'r serch
A'r brad melysa' a glywodd clust erioed.

A mwy na'i serch at Drystan yw ei sel
At Farch, ei deyrn twylledig, ac ni wêl
Fachludo arall haul heb ddwyn i glyw
Ei unben pur ei ffydd fradwriaeth gêl.


Syndod yw'r chwedl i'r brenin, ac nis cred,
Gofid yw iddo ymdaenu'r su ar led;
Ac er i'r newydd gyrraedd hoffus ddau,
Nid March, y priod cu a'r câr, a'i d'wed.

Ond mynych adrodd helynt serch amhur
A bair i deyrn a fu fel astalch ddur
Yn erbyn picell enllib, ennyd wan
Roi praw ar Esyllt deg, er maint y cur.

"Esyllt," ebr ef, "rhaid imi droi i daith
A'm ceidw ymhell o'th wydd dros ddyddiau maith;
Mwynach a fai im aros dan dy wên,
Ond bys dyletswydd sydd at bruddach gwaith.

"Na phoena dithau, er imi droi o'm llys,
Cans rhof i'r teyrnaidd ŵr a garaf wŷs
I'th wylio'n hardd—nes imi droi'n fy ôl;—
 thi yng ngofal Trystan, pa raid brys?"

"Trystan!" medd hithau, yng ngrym cyfrwyster merch,
"Nid digon gennyt sôn am ymdaith erch
Heb roi i'r wraig a geri nawdd ei chas;—
Moes im fod gyd â thi, er mwyn dy serch."

Mae'r llygaid cil-agored eto'n cau,
A March yn curo'i fron am fwriad gau;
Try'r ddau i'r brenin eto'n gannaid wyn,
A newydd ddydd ei wên sydd ar y ddau.


Diofal, dro, yw serch, ond enllib blin
Nis phaid â thywallt gwenwyn yn y gwin;
Nis phaid â dangos dirgel darddle ffrwd
Y dyfroedd lladrad sy'n melysu min.

"Trystan," ebr March, "mae imi helfa fawr
A'm ceidw o'r llys nes torri o ugain gwawr;
A fynnit ti fy nilyn yn y coed,
A'm mintai lon, am lawer hoenus awr?"

Ac etyb Trystan, "Nid oes ynof nwyf;
Ers dyddiau lu rhyw ŵr heb galon wyf;
Ni allaf ddilyn rhuad helgwn chwim
Drwy'r gelltydd gwyrdd lle chwerwir heinus glwyf."

Gwêl yntau March paham y taria'r prudd,
A thry i'w daith yng ngafael dichell gudd;
Ond llama Trystan wrth garlamu'r meirch,
A daw blodeuad tyner dros ei rudd.

Am bedwar hwyr, â'r digllon deyrn i ffwrdd,
A'r gwylwyr ffrom heb le i newydd dwrdd,
Mae Trystan ym mharadwys firain serch

O dan y gwŷdd â'i Esyllt lwys yn cwrdd.
Ond byr yw cwsg yr enllib blin, a gwas
Y pumed hwyr a wylia'r oed ddi-ras.
Carlama'n wyllt i'r coed ar ôl y teyrn
A rwygir gan ei erch genfigen gas.


Y chweched hwyr, gwna'r du ei drem ei drig,
Cyn taro'r felys awr, yn neiliog frig
Yr olewydden, dan y dirion loer
A fynnai leddfu rhwysg ei chwerwder dig.

Daw Trystan, ar y gyfamodol awr,
I ddechrau arall ddydd yng ngwên ei wawr;
Ond nid oes iddo olau lloer, pan wêl
Y cysgod du rhwng cysgod dail ar lawr.

Pa beth a wna? Cans wele'r fun yn dod
At bren a ddyd ei gysgod ar ei chlod;
Pa beth a wna? Heb amnaid, ceidw'i le;
Hithau a wêl ar lawr y brad sy'n bod.

"Paham," ebr hi, "y ceisit fi fel hyn,
A'r llys yn sathru ar fy enw gwyn
Weithion ers talm? D'wed im dy gais ar frys;
Mi fynnwn daw ar eiriau'r enllib syn.

"Mae'r llys yn nyth i ddichell, a phaham
Y gwneir fel hyn â'm diniweidrwydd gam?
Gwyddost gywired wyf i'm priod March,
Er pured yw fy serch i'w gâr di-nam.

'Paham y gyrrit Franwen ataf i
I drefnu oed, liw nos, dan goed â thi?
D'wed im dy neges, ac fe'm gwêl fy nghell
Cyn cael o neb ddifwyno dim o'm bri."


Ac etyb Trystan ag wylofus lais:
"Urddasol Esyllt, cei'n ddioed fy nghais;
Cans eto wyth-ddydd byr, a Thrystan fydd
Lle nis cyrhaeddo enllib erch ei drais.

"Rho'r newydd hwn i'th ŵr a'm câr ar frys,
Ac adrodd fy nghywirdeb yn y llys;
A chaffed y taeogion weld eu cas
Fel tawch yn chwalu, a chwedl anniwair flys.

"Ac o chaf dreulio wythnos ger eich bron,
I'm taith ddiderfyn af â chalon lon;
A gwenau March ac Esyllt ar y lli,
Er corwynt ing, a'm deil yn uwch na'r don."

Mwy gofid sydd i Farch o'i fwriad du,
A'r cam a wnaeth â dau a garai'n gu;
Drannoeth fe ddyry ar Esyllt fwynach gwên,
A Thrystan ydyw haul ei ddisglair lu.

Eithr cyfrwys serch nis dianc eto'n hir,
Heb i genfigen effro gloddio'r gwir;
Ac wedi mynych chwedl, rhaid yw i Farch
Roi clust a chred i lais tystiolaeth glir.

"Trystan ac Esyllt," meddai ef, â nwyd
Yn torri'n gwmwl ar ei wyneb llwyd;
"Paham y twyllech fi gyhyd, a'ch serch
Beunydd yn gwau o'm cylch ei anfad rwyd?"


"I ffwrdd o'm golwg, ewch ar frys, eich dau!
Ewch a mynweswch mwy eich cariad gau:
Paham y gwnaech fi'n warth a gwawd i'm llys?
Ewch ymaith ac argeisiwch anllad bau!"

I ffwrdd, cyn dydd, o ru fel nwydus don
Yr ânt, â'u gwynfyd stormus yn eu bron.
Trônt i'r anialdir ac i'r coed, lle gŵyr
Trystan am ddeildy cudd i gariad llon.

A thrigant yno mewn paradwys fwyn,
Yn ymyl afon fach o dawel swyn,
Ymhlith y blodau mân yn hedd y coed,
A thrydar adar sy'n bywhau pob llwyn.

Ac wedi nos, adroddant yn eu cell
Chwedlau am ofid serch mewn oesoedd pell;
A gwelant hafau dan aeafau crin,
A gwaed ar flagur tirf y gwanwyn gwell.

Ond March, o golli Esyllt wen ei gwawr,
Ni wêl ond cuwch yr erchyll nos yn awr;
A rhag i dristwch fwyta'i hoen yn llwyr,
Try yntau i'r coed drachefn ar helfa fawr.

Ar lasiad dydd, ei bennaf heliwr ef,
Ryw fore, a ddaw i ymyl tawel nef
Y ddau sy'n huno ar wely o risial clir,
A rhed yn ôl at Farch â'i ddychryn lef.


"Unben, mae swyndy yn y gelltydd hyn,
Ac mi a welais ŵr, yn awr mor wyn
 meib y duwiau, ac yn ei ymyl ef
Dduwies o fun yn llawn prydferthwch syn!"

March yntau a'i canlyn ef hyd at ryw bau
Yn hollt y coed, ac yno cenfydd ddau
Mewn hyfryd hun, a chleddyf awchlym glân
Rhyngddynt, yn anwireddu'r cariad gau.

Cenfydd ei Esyllt yn fwy prydferth brudd
Na bun a welsai erioed; ar wywder grudd
Blodeua'n egwan ei rhosynnau pêr,
A'i phurdeb pefr sy'n wawl ar ofid cudd.

Carlama'n ôl i'w lys, a llef heb oed:
"Â'r pur y gwneuthum gam; a doed a ddoed,
Daw Esyllt yma'n ôl fel heulwen dêr,
Caiff Trystan fwy anrhydedd nag erioed."

Ymchwel y ddau drachefn, o'u hoen a'u hedd,
I'r llys a fu gyhyd i'w rhin yn fedd;
Ond ni ddaw haf a'i des, er mwynder March,
At wanwyn a ddygasai'r coed i'w gwedd.

Rhyw heulog awr, â Esyllt, oll yn hardd,
I wely o flodau Mai is coed yr ardd;
Ac enfyn Franwen ddoeth ar ddirgel hynt
At gell telynor serch a'i thyner fardd.


Ond yntau March, daw ef cyn hir am wledd
Ym mwyn ystafell Esyllt lwys ei gwedd;
A Branwen, gan ei braw, a lef ar frys:
"Mae Esyllt yn ei gardd mewn hun o hedd."

Cerdd yntau dros y lawnt hyd at y pren
Lle gŵyr am wely blodau Esyllt wen;
Ac yno-o'r diwedd!-cenfydd huno dau
Wefus ar wefus yn eu nwyd ddi-len.

Ymaith y cerdd yr unben ffrom ar wŷs
I gyrchu uchel fonedd chwyrn ei lys.
Ar hyn, fe ddeffry Trystan; cwyd ei fun,
A chân yn iach â'i Esyllt wen ar frys.

"Fe'n daliwyd, Esyllt, a rhaid imi ffoi,"
Ebr ef: "o'th wydd am byth rhaid imi droi;
Fy mun, fy mun! fy ingol, gyfrgoll nef!-
Dyrnod oedd fwy ni allai'r fall mo'i rhoi."

"Trystan anwylaf, ba ryw ansiawns hyn!
Paham y daeth y nos, ganolddydd gwyn?
Yn iach, yn iach, fy ngŵr, fy nef, fy nuw!"
A'r olaf win sy ar fin anwyliaid syn.

II
Gwêl y cyflychwyr Drystan ar y lli,
Yn ffoi yn niwl y gwarth sydd ar ei fri;
Yn ffoi mewn ing; ac wrth wynebu'r cefnfor
Nid ydyw'r awel hwyr yn lleddfu'i gri.


Rhed Esyllt drist o'i diflanedig nef
I ben y tŵr, o flaen y dymestl gref
A gyfyd March drwy'r llys, a gwylia'i Thrystan
Yn hwylio i ffwrdd â'i bywyd gydag ef.

Cwynfana'r ysig fel colomen fad:
'Paham y gwelais hon o ddryslyd wlad?
Paham y brysi ymaith, nef fy mywyd?
Gostwng dy hwyl, arafa ruthr y bad.

"Pa fodd y gelli fyw, o fod yn un
A'r drist sy'n ôl drwy anfad ffawd ddi-lun?
Pa fodd y dychwel cân i hanner enaid
A'r nodau coll ym mron d'amddifad fun?"

"Dygi fy einioes ymaith dros y don,
Gadewi fi ar ôl yn drist fy mron;
Yn iach, annelwig fad, yn iach, fy Nhrystan,
Yn iach, orfoledd brau pob hafddydd llon."

Ar daith ddiamcan crwydra yntau'n hir
Heb weled nac argeisio glesni tir;
A'i ofid sy fel maith ddygyfor eigion
Yn athrist gwyno am yr heulwen glir.

Ac wedi gweled glan, nid oes i'r prudd
Dawelwch rhag ystorm ei alaeth cudd;
Ac wedi crwydro llawer bro hyfrydwch,
Ni ddychwel gwrid i'w gystuddiedig rudd.


Dreiglwaith, fe dry i Lydaw, bri ar wlad,
O glywed chwedl ar fôr am greulon frad
A wnaethpwyd ar bendefig a'i etifedd,
A thyner fun y Dwylo Gwynion mad.

Cais saib i'w ofid yn ei fore waith,
A hyfryd ganddo yw sŵn yr ornest faith;
Ennill y wlad yn ôl i'w hetifeddion,
A gorffwys, dro, ar ôl helbulus daith.

Ond Esyllt lân y Dwylo Gwynion sydd
Yn codi'r Esyllt gynt i'w gof, bob dydd;
Ac er y nwyfus hedd a ddwg ei brawdmaeth,
Swyn fel y mwyn orffennol dim nis rhydd.

Rhyw newydd wae yw'r newydd fun i'w fron;
Deisyf ei mwynder trem â mynwes don,
Er mwyn ei wynfyd cyfrgoll, ond ei hiraeth
Sydd ar ei gynnydd dan ei hwyneb llon.

"Esyllt a glywaf enwi, o fore hyd hwyr,"
Medd llais y lleddf; "ond nid oes neb a ŵyr
Y modd y try'r swyn-enw yn fy mynwes
Yn aethus wayw a ladd fy hoen yn llwyr!

"Mi gefais Esyllt, ac nis cefais hi;
Mae'r Ddwylo Gwynion yma gyda mi;
Dwg syllu arni im yr hen orfoledd,
Ond cilia'r swyn, a chwerwach yw fy nghri.


"Eithr anrhydeddaf hi, er mwyn y fun
A wnaethpwyd, ryfedd nos, â mi yn un;
A rhed fy nghalon eirias allan ati,
Er mwyn y deg sy'n enaid im fy hun."

Fe wêl y Ddwylo Gwynion faint ei gur,
A lleinw'i bron â'r cydymdeimlad pur
Sy'n newid yn ei wydd yn dyner gariad,
A throi'n ymlyniad cadarn fel y dur.

"Mae f'enw'n wastad ar ei fin," ebr hi;
"Ond pam y mae ei sibrwd serch fel cri?
A pham y daw rhyw londer dros ei ruddiau
Sy'n treio'n ôl yn wae, o'm gweled i?"

Ac fel i'w llawenhau, a'i throi yn brudd,
Y dwthwn hwn gwna Trystan lwyd ei rudd
Ei ryfedd gân i ddolef serch yr oesoedd,
I gwynion mwynion mad y cariad cudd.

A'r gobaith sydd ar gynnydd yn y llys
Am weled blodau Cernyw a Llydaw ar frys
Yn tyfu 'nghyd; ni chreffir ar y byrdwn:
"Angau a bywyd yw i mi'n ddi-lys."

Gwywo mae Trystan, yn ei newydd nef,
Heb air o Gernyw'n crwydro ato ef;
Pa beth a wna, nis gŵyr; a ddeifiodd cariad
Ei Esyllt bur, yn nydd y dymestl gref?


Hir oedi eto ond, ryw wallgof awr,
I'r Ddwylo Gwynion, sy fel tyner wawr,
Fe edrydd barabl serch; a'i wridog fanon
Ni chudd o'i ŵydd ei morwyn gariad mawr.

A rhwymir dau yn un-os un yw'r glân
A'r fun a geidw'n wyry ar lwyr wahân
Bob nos, gan sibrwd am ddiofryd blwyddyn
A wnaeth i'r Ffydd, a chelu'r cynnar dân.

I frawdmaeth Esyllt y mae cariad cu
At riain a ddygasai marchog du
I'w garchar, a thry Trystan draw ar antur,
Ryw hwyrnos, gyd â'i gâr a bychan lu.

A'r cawr o'i lys, mae i Gahedin oed
Hir oriau gyd â'r fun felysa' erioed;
Ond dychwel dydd, ac wele'r cawr o'i ymdaith
I weld ei frad, o'i suddo 'ngwyll y coed.

Dilyn y gwŷr ar fuan farch, a daw
Yn ebrwydd arnynt, a rhoi arnynt fraw;
Eithr heria Trystan ef yn hy, a ddymchwel
Y cryf ond nid heb deimlo'i farwol law.

Daw'n ôl o dan ei glwyf, ac ofer yw
Serch-ofal Esyllt wen i'w gadw'n fyw;
Cannwyll marchogaeth, y mae'n gwelwi beunydd,
A phyla'r llygaid dan amrannau gwyw.


"Cahedin," ebr y llesg, ryw galed hwyr,
"Mi wn am un a fedr fy ngwella'n llwyr;
Cans od oes swyn yn gryf yn erbyn angau,
Esyllt Iwerddon, priod March, a'i gŵyr.

"Cyfod, a cherdd i'r porthladd, gâr di-fai,
A dos i Gernyw gyd â'r llanw chwai;
Adrodd i Esyllt nesed angau Trystan,
Ac ymchwel yma cyn y trydydd trai.

"Ac o daw'r fanon loywdrem dros y lli
I drin fy archoll, wrth dy gymell di,
Rho ar dy fad obeithiol hwyliau gwynion,
Ac, onid e, rai duon f'arwyl i."

A'r Ddwylo Gwynion y tu ôl i'r llen
Sy'n gwrando'i gais, ac yn ei mynwes wen
Y mae eiddigedd megis sarff wenwynig
Yn tanio'r llygaid tyner yn ei phen.

"A honno yw'r Esyllt sy'n ei galon ef!
Am honno y mae ei hiraeth!" yw ei llef;
"Myfi nid wyf ond priod enw a fynnodd
I'w ymgeleddu, yn nydd ei dymestl gref!

Ddichellgar ŵr, a fydd i'w Esyllt hon
A roddes iddo gariad gorau'i bron
Roi tyner ofal alaeth uwch ei wely,
A'i briod fun yn dyfod tros y don?


"Na, ni chaiff Trystan weld mo honno mwy
A fu gyhyd i'w fron fel cledd y clwy;
Ni wêl mo'r hwyliau gwynion ddod i'r porthladd,
Nac Esyllt Llydaw mo'u haduno hwy."

I'r hafan try Cahedin ddwys ei fron,
A chwifia'r fuan hwyl fel baner lon;
A dwndwr llanw sy fel canu gobaith,
A'r sér fel llygaid hyder yn y don.

Ond pan fydd ef yn croesi'r llawen li,
Esyllt Iwerddon lwydrudd, y mae hi
Mewn myfyr dwys yn holi helynt hwnnw
A roddes iddi ddyddiau maith ei chri.

"Ai byw fy Nhrystan hawddgar," ebr y fun,
"Er nawnddydd brad y cariad? F'annwyl un,
Paham na chrwydrai gair o'i fin i'w fanon?
A raid dihoeni yma mwy, fy hun?

A dorrodd clwm y rhyfedd swyn a'n gwnaeth
Yn un, cyn inni weled min y traeth?
Ai mwynach iddo arall fun na'i Esyllt?
Na ddeuai gair, pe bai i'm bron fel saeth!"

Ac ar y wawr, Cahedin sy'n y llys
Yn holi am unbennes Cernyw ar frys;
Caiff hithau'r newydd sy fel saeth i'w chalon,
Ac yn ei hing erglyw yr olaf wŷs.


Maith ydyw'r fordaith fer i'r ysig fron,
Ac ni ddwg dawns y gwenyg neges lon;
Maith ydyw'r fordaith fer i Drystan farwol,
A genfydd Angau yntau ar y don.

Ymson y clwyfus, yn ei gyfyng awr,
Sy'n chwerwach na'i gwynfanau am y wawr;
A pheidiodd gwedd a gwên y Ddwylo Gwynion
A thorri ar ei drwm unigedd mawr.

"A ddaw fy Esyllt?" meddai'r trist, a'r trai
Yn gwneuthur llanw ei fywyd fyth yn llai;
"Mwyn a fai marw, pe cawn weled glesni
Tyner ei llygad prudd, fy mun ddi-fai.

"Na, ni ddaw Esyllt dirion ac ni bydd
Ond cysgod hwyliau duon ar fy nydd;
A chyn ymachlud heulwen dros fy mywyd,
Ymachlud gobaith têr a phyla ffydd.

"Enbydus nefoedd serch! Paham mae'r min
Nas ddethyl dyn na duw yn profi'r gwin?
A raid i Dynged ddod i beraidd erddi
Bywyd, a'u newid oll yn ddiffaith crin?

"Trystan y'm gelwaist, fam fy ngwyrgam oes,
Gyfddydd y ganed fi i siom a loes;
Gyfddydd y cerddaist ti i Dir y Gwyllon,
Ac ni newidia, mwy, fy nghytser croes."


Ond gyd â phelydr cyntaf gwawrddydd, daw
Arlliw o wrid dros welwder oedd yn fraw,
A golau tyner bur i'r llygaid tirion,
A gobaith sy fel gwennol yn y glaw.

"Fy Esyllt lân, ni allit ti ond dod,"
Medd llef y marwol, "ac mi welaf nôd
Dy fad a'th hwyliau gwynion ar y cefnfor
At Lydaw, loywach ewyn, loywach ôd.

"Pa fodd y gellid byth ein hysgar ni?
Mor llawen yw dy fad ar lawen li!
Fy hanner enaid arall wyt, fy Esyllt,
Â'm banon, nid ag Angau, oedais i.

"Chwified dy hwyliau gwynion yn y glas,
Tywynned heulwen ar dy dyner ras;
Chwythed awelon fad fy meinir wenlliw,
Poed urdd ar fôr fod iti'n fuan was!"

Ar hyn, daw'r Ddwylo Gwynion ddu drwy'r llen,
A choron concwest dichell ar ei phen;
Ebr hi: "Mae'r bad a'r hwyliau ar y gorwel,
Ond swrth yw'r eigion, swrth yw'r wawr a'r nen."

"Yr hwyliau?" ebr y marwol. "Duon ynt,
Ac fel adanedd Angau yn y gwynt!"
Try'r marchog drylliog draw, â'i ddolef drymllyd
Yn agor iddo borth yr hirfaith hynt.


Esyllt Iwerddon, daw i'r porthladd cu
A'r storm yn newid glas yr wybr yn ddu;
Rhed ag uniongyrch greddf hyd at ei Thrystan,
A dagrau gobaith mawr yn syrthio'n llu.

Daw i'r ystafell, ond mor welwlas yw
Y gŵr a wisgai gynt writgochni byw!
'Trystan!" medd hi; ond nid oes glust i wrando,
Nac ateb arall ond yr wyneb gwyw.

"Fy Nhrystan, oni chlywi lef dy fun?
Trystan, y mae dy Esyllt yma'i hun!..
Ai marw yw?-Och finnau!" . . . Yna llewyg;
A'r ddau, yn rhwym eu Tynged, mwy yn un.

1901-2.


LLEURWG

LEURWG lewgalon, pa fodd y daeth Angau
Atat â'i gleddyf i'th daro i lawr?
Rhaid bod dy wyneb yn wyw gan dy bangau
Cyn iddo feiddio cyhoeddi dy awr.

Leurwg yr unplyg, mewn oes o ymhonwyr,
Pwy a gawn eilwaith yn neb ond ei hun?
Leurwg y gonest, mewn oes o gynffonwyr,
Pwy a gawn eto heb ofn wyneb dyn?

Gannwyll Llaneurwg, ti losgaist i'r soced,
Fflam ar bob malltod oedd llewych dy wedd;
A'r dwthwn y llithrwn i honni a hoced,
Tybiwn y clywir di'n fflamio'n dy fedd.

1903.


Y BALEDWR

HA, dacw'r hen faledwr
Yn dyfod ar ei hynt!
Bu yma droeon yn y fro
Yn hoyw a thalsyth gynt.
Ond, heddiw, cefngrwm ydyw,
Dan faich blynyddoedd hir;
Ac mor grynedig ydyw llais
Yr utgorn arian clir!

Mae gennyf gof amdano
Yn canu yn y ffair,
A galw rhes o gerddi hen
A miwsig ym mhob gair.
Ymdyrrai'r dyrfa ato
I geisio'r "Gwenith Gwyn,"
A "Morgan Bach," a'r "Ferch o'r Sger,"
A gwrando arno'n syn.

A daliai yntau i ganu,
Â'i sypyn dail ar ffo;
Canu, a dal ei gerddi chwim,
A gwerthu, yn ei dro;
Canu a dal i ganu,
Yn glir ei dinc a'i air—
"Y Ferch o Langyfelach lon,"
A "Ffanni, Blodau'r Ffair."


Mae gennyf gof amdano,
Nos Sadwrn, yn y cwm,
A 'nhad yn dod ag ef, liw nos,
I mewn i'n bwthyn llwm.
Nid llwm oedd bwthyn melyn
 Lefi'n codi'r hwyl;
Yr hen "Gyfamod" ar ei fin,
A'r teulu'n cadw gŵyl.

Mor felys ydyw'r atgof
Am ddyddiau crwydr a chân
Yr hen faledwr diddan, tlawd,
A lonnodd Ddyfed lân!
Mor felys ydyw atsain
Y llu baledau mwyn
Sy'n dal i ganu yn fy nghof,
A'u su'n ddiddiwedd swyn!

Ond dyma Lefi eto
Yn dyfod ar ei daith!
Mae yma un i'w dderbyn ef,
Ar ôl ei grwydro maith.
Mae 'nhad yn gorwedd heno
Yn llonydd erw Duw;
Ond fe gaiff Lefi'r croeso gynt,
Er mwyn ei goffa byw.


Yr hen faledwr llwydwyn,
Ei gi a'i tywys ef,
Cans dall yn awr yw'r llygad mawr
A syllai'n wyneb nef.
Mae'r dwyster sy'n ei ysbryd
Yn welwder ar ei rudd;
Ac O, mor dyner yw ei lais
Yn canu "Toriad Dydd!"
*****
Fe groesodd dros yr hiniog
I'w hen ddymunol fan;
A rhoddwn innau ysgwydd gref
Dan fraich yr henwr gwan.
Ond, ar y wawr, rhoes angau
Ail wrid i'w welw raen;
A thybiwn glywed yn y nef
Adlais ei olaf faled ef,
Drwy'i hawyr dêr ar daen.

Haf, 1904


EMYN GWYL DDEWI

O ARGLWYDD Iôr ein tadau,
I'th breswylfeydd mewn hwyl
Y deuwn â chaniadau,
Fel tyrfa'n cadw gŵyl.
Am bob rhyw ddawn a rodded
Ar randir gras a gwyrth,
Ac am dy ddwyfol nodded,
Clodforwn Di'n dy byrth.

Os dig oedd gwedd y gelyn,
O weld ein newydd fri;
Os mynnai fathru'r delyn
A ganai salm i Ti:
Cyfodaist nawdd i'th lannau
Ym mhroffwyd min y môr;
A dal mae'r tynion dannau
I ganu mawl yr Iôr.

O Arglwydd Iôr ein tadau,
Doed atat fawl dy blant
Am ddisglair lu'r cenhadau
A'r marwor ar eu mant.
Rhoist weision i'n rhybuddio
Yngwydd dy orsedd wen;
Ac oes i oes ddatguddio
Dy ras yng Nghymru'n ben.

Chwefror, 1906.


MAIR, EI FAM EF

HENFFYCH well, fendigaid Fam yr Iesu,
Ave nef a daear fo i ti!
Gad im, wedi mudan oes, ddynesu
Ger dy fron â'm hwyrol fawl i'th fri.

Fe fu dydd ar Walia pan oedd moliant
Mam fy Arglwydd ar bob tafod pur;
O bob glyn dyrchafai thus addoliant,
Ar bob mynydd cofid bryn dy gur.

Clywaist fil o erddyganau awen
Bennaf beirdd i'th dirion fin a'th wedd;
Pa sawl tant a gant dy fawl yn llawen.
Gynt, o lannau Clwyd hyd Ddyffryn Nedd?

Brodyr urddol, hawddgar ac eosber,
Mwyn goleddwyr pob tiriondeb syw,
Oesoedd maith yng Nghymru, wawr hyd osber-
Rhoent eu dawn ar allor Mam ein Duw.

Bu dy burdeb ar Gymreig leianod
A geisiasai'n hir dy firain rad,
Wyry fam, sancteiddiach fil na'r manod
Ar ddiamsang lethrau tir fy ngwlad.


Llysiau gwâr a blodau gwynfydedig,
Buont dlws i'm bro ar enw Mair;
Ac ymlonnai'n llannau cysegredig
Dan dy nodded, forwyn Fam y Gair.

Sŵn dy hwyrgloch, wrth i wŷr adrefu,
Blygai 'nhadau ŵyl ar barth a dôr;
Ac nid elai long o borth heb grefu
Nawdd a ffyniant Seren Wen y Môr.

Weithion, darfu'r llawen chwedl wrth ddorau
Llawer llan a fu'n fangreoedd swyn;
Ac ni chyfyd mwy o'r llu allorau
Beraroglau drwy d'eiriolaeth fwyn.

Maddau, dyner Forwyn, os dysgasom
Roi it leiparch nag a hoffai'r nef;
Cans ar Fab dy draserch y serchasom,
Rhag dy barchu di yn fwy nag Ef.

Dysger inni, Forwyn fendigedig,
Eilchwyl dalu dyled fawl ein tud;
A phan alwo Cred di'n wynfydedig
Na foed mant yng Nghymru wen yn fud.

Wele'n nesu uchel ŵyl Nadolig,
Tithau ar uchel sedd y nefoedd lân,
Derbyn Ave lon y byd Catholig,
Derbyn Ave lon o Wlad y Gân.


II
Ave Maria! Cilia'r dydd,
A'r nos yn esmwyth ddisgyn sydd.
Ac fel o fyd morwynol lân
Fe ddistaw ddisgyn eira mân.
Fe gerdd y niwlog loer uwch ben
Fel lledrith loer hyd lwybr y nen,
Heb agos wên y seren gu
A'i llonnodd lawer noson ddu.
Ond ust! Er llymed awel finiog,
Mae canu ieuanc ar yr hiniog,
A charol hoyw a ddaw i'm clyw—
Dechreunos y Nadolig yw!

O deuwch, ffyddloniaid,
Llawen, gorfoleddus,
O deuwch, O deuwch, i Fethlehem dref!
Wele, fe aned
Brenin yr angylion;
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn Grist o'r nef!"

Ave Maria! Hawdd yn awr
Yw dychwel i'r Nadolig mawr,
A chofio'r angel mad ei drem
A wynnodd feysydd Bethlehem,
A'r gwawl a ddug y doethion pell
At lewych y ddoethineb well.


Hawdd clywed yn y fawlgerdd hon
Atsain i fawl yr engyl llon;
Cans cyffry'r plant sydd wrth fy nrws
Gymanfa'r hen feddyliau tlws
A gadwodd fyd rhag mynd yn hen,
A phlant yr oesoedd ar eu gwên.
Clywaf y canu ar ei hynt
Yn dod fel salm o'r oesoedd gynt:

Adeste fideles,
Laeti triumphantes,
Venite, venite in Bethlehem;
Natum videte
Regem angelorum;
Venite adoremus,
Venite adoremus,
Venite, adoremus Dominum."


Ave Maria! Mwyn yw byw―
Dechreunos y Nadolig yw;
A heno nid oes golli ffydd
Mewn chwedl a fu im, lawer dydd,
Yn ddim ond breuddwyd ieuanc hoen
Dilynwyr bore'r addfwyn Oen.
Addolaf gyda'r doethion pell
Ddisgleirdeb y ddoethineb well;
Ac ymddisgleiria ar fy nhrem
Seceina preseb Bethlehem.
Ac yn y llewych gwelaf i
Ddifesur ddyled Cred i ti.


Annisbur Forwyn, addfwyn fryd,
A gedwaist yn dy galon cyd
Bereiddiaf sôn a ddaeth i glyw,
Gan guddio'r ing, a thawel fyw
Heb yngan wrth dy ŵr dy hun
Hanner a glywodd diwair fun;
A'r gŵr a'th noddodd dan y groes
Heb wybod am ddirgelu d'oes.
Rhyw awgrym prin i'r arall Fair,
Aci Salome gyfrin air
A roddit; ond dy fynwes fud
Oedd bywiol fedd dy drysor drud.

Os duai'r cas dy wyry fri,
Gan droi dy Fab yn warth i ti,
Dy lariaidd fant a gadwai sêl
Ar genadwri Gabriel.
Os mynych sant â'i huawdl fin
A geid yn eirias dros dy rin,
Ti guddit ti dy boen yn llwyr,
Nes dyfod sanctaidd gysgod hwyr;
Ac ymnesáu o'r meddyg mad
A fedodd buraidd gof y wlad,
A chynnull nawn-ysgubau drud
I lawenhau pob oes a thud.
I Luc, yn awr, mewn henaint gwyw,
Y rhoist dy drysor, Fam fy Nuw.
Golud i fyd a gafodd ef,
Ddigyffro nawn yn Salem dref.


Adroddaist iddo eiriau pêr
Yr angel a wêl wyneb Nêr;
A'th ddychryn tyner am y "Peth
Sanctaidd wrth ffynnon Nasareth.
Mewn tor acenion, pan oedd llen
Yn araf newid glas y nen,
Ti genaist gathl berffeithiaf bun,
Dy wyl Fagnificat dy hun.
Luc yntau, yn sŵn y canu llon,
Anghofiodd ei efengyl bron.

Ave Maria! Pwy a ŵyr
Feddyliau'r meddyg hoff, fin hwyr,
Wrth wrando mabinogi mam,
A meddwl am yr un ddinam
A wybu frath y cledd a'r loes
Flynyddoedd hir cyn llunio'r groes?
A gadwodd yn ei bron y cledd
Pan roed ei Mab o'i groes i'w fedd?
Ni bu ail d'ofid, Fam fy Nuw,
Ond gofid Un a fethai â byw
Wrth gario gofid dynol ryw.

Ond wele felys fawl y plant
Yn dod o lawer peraidd fant;
A thrwy eu carol daw i mi
Ran o'r gorfoledd oedd i ti,
I'th gynnal yn nhywyllwch oes
O Alilea heibio'r groes.


III
Os gorhoffedd mam yw troi'n awenydd
Gorau'r bychan ŵr a'i ryfedd hynt,
Freiniol Fam! O, gymaint dy lawenydd
Yn dy Fab yng Ngalilea gynt!

Eto, ni châi rhodres na dychymig
Gerfio anwir ar dy galon fwyn;
Ni chroniclit air am wyrth annhymig,
Er i'r yrfa fod yn wyrth o swyn.

Digon it ei wylied yn cynyddu
Yn noethineb a gwybodaeth dyn;
Digon it, fin hwyr, wrth dawel nyddu,
Weld y bychan yn ei weld ei Hun.

Plentyn hoffus oedd ymysg y seiri,
Plentyn hoff plant Nasareth i gyd;
"Ond ymhlith ysbrydoedd glân aneiri,"
Brudiai rhywbeth ynot, "y mae'i fyd."

Yntau a dalai ddyled barch gwastadol
I'th dawedog briod, fel i'w dad;
Ac fe wisgai Ioseph urddas tadol
Uwch llawenydd mawr y pentref mad.

Ond ddaeth deuddeg oed, â'r bachgen Iesu
Heb fod yn y fintai, Fair ddiseml;
Tithau a wyddit, wrth ei ail-achlesu,
Ddod o'i Dad i'w arddel yn y deml.


Dychwel yn dy law i Alilea,
Glân yng ngweithdy'r saer ei arf a'i foes;
Eto, wawr hyd hwyrnos, fe ddwyrea
Ar ei ysbryd weledigaeth oes.

Sanctaidd oedd ei fyd fel byd rhianedd,
Ni ddoi cysgod tros ei fynwes fad;
Clywit Ef, wrth deimlo'r faith gynghanedd,
Yn mynegi undod cudd â'r Tad.

Clywit sylwedd tlws ei bêr ddamhegion
Cyn eu rhoi i synllyd dorf erioed;
Dôi o'r maes â'i dusw o brid anrhegion,
Dygai wir fel gwull o hedd y coed.

Gwylit â rhyw lawen fraw ei gynnydd,
Clywit ei ddirgelion glân i gyd;
Gwelit Ef a'r bore haul ar fynydd,
Clywit awgrym am Oleuni'r Byd.

Gwyddit pwy ddeffroai glust dy Broffwyd,
Gwyddit am Un mwy a welai'i rin;
Ofnit golli Mab dy fron a hoffwyd
Gan y sawl a harddai wedd a min.

Pwy a ŵyr dy frud, y Fam hawddgara,
Pan aeddfedodd dirgel gyngor nef,
Ac y seiniodd llef o Fethabara
A oedd wŷs y nefoedd arno Ef?


Daeth yr awr! Â yntau dros yr hiniog;
Cerdd â gwawr seraffaidd yn ei diem;
Tithau, Forwyn hoff, a welai'r miniog
Gledd a'th wyliai 'mhorth Ieriwsalem.

Mwyn it gynt, yng ngwawr dy serch morwynol
Weled, rywbryd, ei gydnabod Ef;
Ac nid dieithr it y gair cyflwynol
Uwch y llifddwr gloyw a lefair nef.

Gwyddit mwy mai eiddo'r Tad dy Iesu,
Llawenychit am ei gadw cyd;
Gwelit deyrnas nefoedd yn dynesu,
Mab dy fynwes yn Oleuni'r Byd.


IV
Fwyn Forwyn Fam y Proffwyd
A ddeffry'r wlad yn awr,
I fro a chysgod angau
Fe gerdd goleuni mawr
O lygaid fel y wawr.

A thithau mewn unigedd
A'i gwyli Ef o bell;
A chlywi lân leferydd—
Mad sain efengyl well—
A glywsit yn dy gell.


Disgwylit am ei ddyfod
Drachefn i'w fro ei Hun;
Ni welit yno'n elyn
I'r Nasarethiad un-
Y mwynach fil na bun.

Eithr ow, dy siom a'th bryder!
Nid oedd i'th Broffwyd ffydd
Mewn man lle bu ei fywyd
Mor hoff â'r awel rydd,
Mor dêr ag anterth dydd.

Ond rhoes llawenydd Cana
Ail-fywyd ar dy fin,
Pan welaist ddwfr yn gwrido
O ganfod gloywach rhin-
Yn gwrido'n felys win.

A gwelaist gŵr gogoniant
Un a ddug londer nef
I gwpan chwerw daear,
A godai aethus lef
Gyhyd amdano ef.

O fin y môr ei eiriau
A ddygid draw i'th glyw;
Ac nid oedd mwy llawenydd
Nag oedd i'th galon wyw,
Ond mawr lawenydd Duw.


Y gwanwyn oedd yng Nghanaan
Ar fryn a dôl a llwyn;
A'r gwanwyn ir i'th galon
A ddoi fel llif o swyn
O'r huawdl feysydd mwyn.

Ti welaist lân wynfydau
Yn gawod ar y bryn,
A'r llu yn ymwynfydu
O wrando'r mwynder syn—
A'th wanwyn ydoedd hyn.

Ti welaist gloff yn llamu
A marw yn ymfywhau;
A gwelaist dir addewid
Yn orfoleddus bau,
A mwyn oedd llawenhau.

Ond gwelaist dorf yn tynnu
Heb ball o'i rinwedd cudd,
A'r Mab, a fu fel heulwen,
Yn troi yn ysig brudd,
Wrth rannu mor ddi-ludd.

A mynnit iddo ddychwel
I ben y bryniau mad,
Lle gwisgodd gynt yn fachgen
Writgochni teg y wlad
A oedd ei faith ystad.


Arswydit i'r afradedd
Gymylu ei feddwl Ef;
A sefaist yn y dyrfa
A wasgai Fab y nef,
I'w ddwyn drachefn i dref.

Ond Ef ni fynnai wrando
A gwyddit tithau pam;
Ymgroesit rhag i alwad
Ei Dad ddioddef cam
Drwy alwad pryder Mam.

Ymgiliodd tlysni gwanwyn,
A deifiodd mwynder haf;
A chiliodd Galilea,
Ymrig yr hydref claf,
Ar Anfonedig Naf.

I unigeddau'r gogledd
Y troes dy Fab yn drist;
Ac yn unigedd pabell
Ti glywaist dan y dist
Sŵn blaendon gofid Crist.

Ti glywaist am y newid
Ar wedd a fu ar fryn;
Ac am y sôn am bridwerth
A siomodd ddeuddeg syn—
A'th hydref ydoedd hyn.


Dilynaist i Gaersalem
Yn sŵn arwyrain gref—
"Hosanna i Fab Dafydd!"—
Ond nid heb glywed llef
O draw"—Croeshoelier Ef!"

Fe edrydd hen brydyddion
Dy ofid yn y cudd;
Myfi nis gallaf syllu
Ar dristwch llym dy rudd,
A brath dy enaid prudd.

Nid yw i mi, pes gwyddwn,
Ddatguddio ingoedd mam,
Yn ymyl cabl y llysoedd
Yn ymyl croes y cam—
A gŵyr dy Fab paham.

Mil dymunolach imi
Y gosteg dwys a bair
I genllif gofid wrando
Ei olaf dyner air
I ti, y firain Fair.

A'th weld yn araf ddychwel
O swn yr angau mawr
I gynnes gariad Ioan,
A wnaeth dy Fab, yn awr,
Yn addfwyn fel y wawr.


A gweled serch yr Eglwys—
Gwyry fel ti dy hun—
Yn dyner glwm amdanat
Hyd fore Mab y Dyn,
A dod o'th annwyl Un.

A'th esgyn i ogoniant,
I ganol dydd d-len;—
Ave, Maria, Ave!
A'th wisg yn gannaid wen,
A'th euriol ar dy ben.


V
Henffych eto, Fam y Bendigedig,
Er mai'r Mab a hoeliwyd ar y pren,
Mwyn i mi'r rhamantau cysegredig—
Chwedlau pêr d'ogoniant, Forwyn wen.

Er na ddringaist ti i'r nef heb farw
Pan ddeffroes yr erledigaeth gref,
Pwy warafun, wedi'r hirnos arw,
Mwy dy alw'n lân Frenhines nef?

Er na phlygwn lin yn llys y Mawredd
Ond gerbron y Dyrchafedig Dduw,
Erys swyn dy enw di'n bersawredd
Mil pereiddiach na'r thus-offrwm gwyw.

Ac yn ymyl gwawr y glân Nadolig
A ŵyr anrhydeddu Mab dy fron,
Gorfoleddaf, gyda'r byd Catholig,
Ynot, Fam, a wnaeth y byd yn llon.


Cofiaf am y melys leddf brydyddion
A'th emynodd yn y ddistaw gell;
Canaf salmau moliant awenyddion
A ddisgynnodd o ganrifoedd pell.

Cofiaf ddyfais bur y llunwyr llonna'
A roes liw ar len i'th fywyd gwyn;
Trof hir drem ar lawer glwys Fadonna,
Ac ni wn a blyg fy nglin, bryd hyn!

Gwelaf di â'th rawd ymysg y meillion,
Gwelaf wanwyn newydd dros y byd;
Ac ni chaf o'm mewn a farn yn ddeillion
Wŷr a roddes degwch Mai i'th bryd.

Hir y bo dy serch yn nwyd rhianedd,
Hir yr wylo'r oesoedd uwch dy glwy;
Hir y bo dy fawl fel pêr gynghanedd—
Ond i fawl fy Arglwydd fod yn fwy.

Maddau i ninnau 'Nghymru, os dysgasom
Roi it leiparch nag a hoffai'r nef;
Cans ar Fab dy draserch y serchasom,
Rhag dy barchu di yn fwy nag Ef.

Gad in, wedi mudan oes, ddynesu
Ger dy fron â'n hwyrol fawl i'th fri;
Henffych well, Fendigaid Fair, mam Iesu—
Ave nef a daear fo i ti!

Rhagfyr, 1906.




Nodiadau

[golygu]
  1. Aeschylos, meddir, yn ei Niobe, drama goll. Gweler Gweriniaeth Plato, III, 391 E, am y llinellau.
  2. Once to Every Man and Nation gan James Russell Lowell ar Wikisource
  3. A Poison Tree gan William Blake

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.