Caniadau Hiraethog/At y Derbynwyr
| ← Caniadau Hiraethog | Caniadau Hiraethog gan William Rees (Gwilym Hiraethog) |
Cynnwysiad → |
AT Y DERBYNWYR.
GYFEILLION CAREDIG,
ANGENRHAID yw arnaf ddeisyf genych yr hynawsedd o gyd-ddwyn â mi yn fy meddalwch, tra yn adrodd ychydig o'm profiad a'm teimlad wrth barotoi a threfnu hyn o ganiadau i'r wasg. Yr wyf yn ymwybodol na all y cyfryw adroddiad fod o nemawr ddyddordeb i neb ond i mi fy hunan; ond y mae profedigaeth y cyfleusdra hwn y fath, fel mai anhawdd genyf ei ollwng heibio heb ganiatâu ychydig ryddid i hunanfoddiant arno.
Y mae nifer o'r "Caniadau" yn gynnyrchion blyneddoedd boreuol fy mywyd; a theimlwn megys pe yn adfyw y tymmor hwnw o'm hoes wrth eu hadolygu a'u trefnu i'r argraffwasg. Cofiwn gyda bryd hiraethlawn am yr hen lanerchau ar y meusydd, ar lan Afon Aled, ac ar Fynydd Hiraethog, lle y cyfansoddwn y naill ddernyn a'r llall; ac am yr hyfrydwch bachgenaidd a brofwn pan ddygwyddai i mi gael ambell i linell wrth fy modd; y rhai a dybiwn i, druan, y prydiau hyny, yn gyfryw ag y buasai Milton ei hun yn falch o honynt. Y mae y llinellau hyny megys wedi cyssegru y cyfryw fanau i'w cofio genyf gyda hoffder; nid yn wir ar gyfrif unrhyw ragoroldeb a ymddengys i mi yn awr yn y llinellau eu hunain, ond yn unig ar gyfrif yr adgof am y boddhâd a'r hyfrydwch a deimlwn ar yr achlysuron crybwylledig. Hoffai Solomon awelon a golygfeydd Senir, a Hermon, ac Amana; a'r bardd Groegaidd ddyfroedd ei Helicon, ac awyr ei Barnasus: a dadganai y naill a'r llall eu serch at y mynydd a'r afon, lle y buasent yn myfyrio ac yn cyfansoddi ar eu glanau ac ar hyd eu llechweddi. Pa ham, gan hyny, y gwarafunir i'r bardd Cymreig draethu ei hoffder at yr afonig hono, a'r mynydd hwnw, yn nghymdeithas y rhai y treuliasai oriau difyraf a melusaf ei fywyd? Iddo ef,
"Ni raid awen gymhenog
O drum Parnasus gwlad Roeg;
Ni cheisia, nid ä i dud
Glod o elltydd gwlad alltud:—
Ofer y daith, afraid oedd,
Mwyneiddiach ein mynyddoedd;—
Lle mae awen ddiweniaith,
Gelfydd yn mhob mynydd maith."
Y mae Afon Aled, a Mynydd Hiraethog, i mi, yr hyn ydoedd Cedron a Hermon i'r bardd Hebreig, a Helicon a Parnasus i'r bardd Groegaidd. Y mae yn wir iddynt hwy allu gwisgo enwau eu hoffus fanau âg enwogrwydd ac urddas clasurol, a dyddordeb cyffredinol mwy nag a allodd holl ymdrechion awenyddol Gryffydd Hiraethog a Tudur Aled gynt, a G. Hiraethog ac I. G. Aled yn awr, roddi erioed na byth ar eu mynydd a'u hafon hwy; ond er hyny, ni roddai beirdd Aled a Hiraethog y goreu i feirdd Palestina a Groeg yn eu hymserch at y manau y buont yn cyweirio tannau telyn eu hawenyddiaeth gyntaf erioed ynddynt.
Yr hyn a ddenai fy sylw a'm serch boreuol, yn benaf, ydoedd hanesyddiaeth a seryddiaeth; ond prin iawn oedd fy manteision i borthi y tueddfryd hwn. Cyfyngid fi yn hollol, braidd, at hanesyddiaeth y Beibl; "Drych y Ddaiar a'r Ffurfafen;" "Daiaryddiaeth" R. Roberts o Gaergybi; "Geiriadur Ysgrythyrol" Charles; ac "Amseryddiaeth Ysgrythyrol" Llwyd o'r Bala. Mawr oedd fy awydd am eangiad moddion gwybodaeth yn y cangenau hyny yn neillduol; ac ystyriwn y rhai oedd ganddynt gyflawnder o'r trysorau hyny o wybodaeth yn eu cyrhaedd y dynion hapusaf dan haul; a thybiwn, pe buasent yn fy meddiant i, y buaswn yn gwbl ddedwydd. Ond y mae i bob sefyllfa ei manteision yn gystal a'i hanfanteision. Bu fy anfanteision boreuol hyny yn fanteisiol i minnau mewn un peth—cyfyngodd gylch fy narllenyddiaeth yn benaf oll at yr Ysgrythyrau Sanctaidd; yr hyn a'm dygodd i'r fath gydnabyddiaeth â hwy, na chyrhaeddaswn mo honi, ond odid, pe buasai genyf wrth law ddigonedd o lyfrau ereill cydnabyddiaeth a ystyriaf heddyw y penaf a'r gwerthfawrocaf peth a feddwyf.
Yr oeddwn tuag ugain oed pan dueddid fy meddwl gyntaf i sylwi ar farddoniaeth: cyn hyny, ni theimlaswn nemawr i ddim dyddordeb yn y gelfyddyd. Caniadau Williams o Bant y celyn, yn wir, a roddent i mi fawr hyfrydwch er yn blentyn: ond prin yr edrychwn ar farddoniaeth yn y mesurau caethion, Yr un a fu yn offerynol gyntaf i dueddu fy meddwl yn y ffordd hon ydoedd R. ab Dafydd (Robert Davies), o'r Gilfach lwyd, Llansannan, yr hwn oedd i ni yn gymmydog agos; â chanddo drysorfa led gyfoethog o lyfrau Cymreig, henafiaeth a barddoniaeth: a'r hwn oedd (ac sydd eto) yn dra hyddysg yn ngramadeg yr iaith, a rheolau ei barddoniaeth. Cyrchwn at fy nghyfaill R. Davies bob cyfleusdra a gawn i ddarllen ei lyfrau, ac i dderbyn ei addysgiadau. Ewyllysiai ef wneuthur bardd o honof; ond cafodd waith caled i'm dysgyblu cyn y gallai hyd yn oed gynnyrchu unrhyw awydd ynof at y gelfyddyd; a gwaith caletach na hyny drachefn i'm haddysgu i ddeall rheolau ac adnabod beiau gwaharddedig cerdd dafod; bum yn hir "fel llo heb ei gynnefino â'r iau." Athraw lymfanwl oedd R. Davies; nid oedd trugaredd na maddeuant i'w cael ganddo am wall gramadegol neu gynghaneddol: dwrdiodd fi yn erwindost lawer tro am wallau felly. Byddwn yn arswydo wrth fyned â chyf ansoddiad i'w ddangos iddo : ond yr oedd fy nghyn nydd graddol yn peri iddo fawr foddhâd ; a chredaf yn ddilys bod llwyddiant fy anturiaeth gystadleuol gyntaf yn Aberhonddu wedi peri cymmaint o lawenydd i feddwl fy athraw ag a barodd i mi fy hun. Ystyriaf nad teg fuasai i mi esgeuluso y cyfleusdra hwn i dalu y gydna byddiaeth ddyledus hon i'm cynathraw, a'm hen gyfaill cywirgalon.
Y "Cywydd ar Frwydr Trafalgar, a marwolaeth y pen llyngesydd Nelson," un o destynau yr Eisteddfod freiniol yn Aberhonddu, yn 1826, ydoedd Reuben cyntafanedig fy awen . Erioed o'r blaen ni chynnyg iaswn ar gyfansoddi cywydd, na dim arall o bwys. Cyfansoddid hwnw yn hollol ar annogaeth R. Davies. Cyfansoddais ef ar y meusydd gyda'm gorchwylion, a rhedwn â dernyn ar ol dernyn yn yr hwyr at fy athraw i'w ddiwygio. Nid oedd genyf fi y dysgwyliad lleiaf y buasai iddo ennill y gamp, ond yr oedd ef yn lled obeith iol ; a dirfawr oedd fy syndod pan ddaeth y newydd o Aberhonddu mai yr eiddo fi oedd y buddugol. Derbyniais y wobr—ariandlws, gwerth dau gini, ac wyth gini yn arian—trwy ddwylaw y Dr. W. O. Pughe, yr hwn a safasai i'm cynnrychioli yn yr eisteddfod, ac oedd yn trigo y pryd hwnw gyda 'i fab, y diweddar Aneurin Owen, Ysw., yn Tan y gyrt, gerllaw Nantglyn . Wedi ei ddychweliad adref o Aberhonddu , anfonodd y Doctor wahoddiad i mi fyned i Tan y gyrt, i dderbyn y wobr. Yr oedd Bardd Nantglyn a rhai cyfeillion ereill wedi eu gwahodd yno i'm cyfarfod. Dyna y tro cyntaf i mi weled y doethawr, a bod yn nghyfeillach Bardd Nantglyn. Bu y Doctor yn hynod garedig i mi bob amser wedi hyn, pan ddygwyddwn alw heibio iddo ; a'i fab, Aneurin Owen, a Bardd Nantglyn, yr un modd ; yr hyn a roddai lawer o gyfnerthiad i'm meddwl yr amser hwnw, ac a bâr fod eu coffadwriaethau yn dyner ar fy nghof a'm teimlad hyd y pryd hwn. Ychydig cyn hyny y daethwn i gydnabyddiaeth bersonol gyntaf å Chaledfryn. Yr oedd ef wedi dechreu blodeuo a rhagori fel bardd rai blyneddoedd o'm blaen i. Rhoddai Caledfryn i mi bob addysg, hyfforddiant, a chefnogaeth, pan ddygwyddai i ni gydgyfarfod; yr hyn ni ddygwyddai yn fynych iawn, o herwydd ein bod wyth milltir o ffordd oddi wrth ein gilydd yn byw.
Fy anturiaeth gystadleuol nesaf ydoedd yn mhen dwy flynedd wedi y gyntaf, yn Eisteddfod freiniol Dinbych, yn 1828. Cyfansoddais ar dri o destynau, sef Cywydd "Ar ymdrech Buddug yn erbyn y Rhufeiniaid," yr hwn a fernid yn ail oreu; Cywydd "Ar Orllifiad y Môr dros Gantref y Gwaelod," i'r hwn y dyfernid y wobr―ariandlws, gwerth pum gini; ac "Awdl farwnad i Goronwy Owain." Ni chafodd neb y wobr ar y testyn olaf, er fod rhai o oreufeirdd y dyddiau hyny wedi cyfansoddi arno. Aeth y cyfansoddiad hwn ar goll genyf, onidê cawsai ymddangos gyda'i gyfoedion yn y "Caniadau." Hysbys i lawer o'm darllenwyr ddarfod i'r "Cywydd ar Frwydr Trafalgar" gael ei gyhoeddi gydag ychydig ganeuon ereill, yn fuan ar ol yr eisteddfod yn Aberhonddu; ac i'r "Cywydd ar Gantref y Gwaelod" ymddangos yn y "Gwyneddigion," gyda chyfansoddiadau buddugol ereill yr eisteddfod yn Ninbych. Teg ydyw i mi grybwyll ddarfod i mi gymmeryd fy rhyddid i newid cryn lawer ar y ddau ragor oeddynt yn eu cyflwr cyntaf, fel y gwel y rhai a feddant y fantais i'w cymharu fel y maent yn y llyfr hwn a'r argraffiadau cyntaf o honynt. Un o ysbryd rhyfelgar iawn yw y cyntaf; nid oeddwn yn barnu y buasai yn deg i mi gyfnewid dim ar ei ysbryd a'i dôn, gan y buasai hyny yn dinystrio ei unrhywiaeth. Yr oll a wnaed oedd tynu ymaith linellau gweinion o ran meddwl a chynghanedd, a dodi rhai a olygwn yn gryfach yn eu lle, gan adael ystyr ac ysbryd y cyfansoddiad yr un a'r unrhyw. Am y llall, y "Cywydd ar Buddug," ni bu hwnw "yn wyneb haul a llygad goleuni" trwy y wasg erioed o'r blaen.
Yn mhen o ddwy i dair blynedd wedi yr amser a nodwyd ddiweddaf, ymgymmerais â swydd bwysig y weinidogaeth, a gadewais ardal hoffus fy ngenedigaeth, byth i ddychwelyd i gyfanneddu ynddi mwy, y mae yn debygol. Gyda chalon drom y cenais yn iach y diwrnod hwnw i lanau Aled, a bryniau Hiraethog. Dychymygwn fod yr afon, wrth ymdreiglo danaf pan yn croesi y bont, ar gwr isaf pentref Llansannan, yn sisial cydymdeimlad â mi, ac yn murmur ei ffarweliad olaf; a bod Bron Llywelyn, a'r Foel Bengam, ar Fynydd Hiraethog, yn gwisgo "y niwl oer yn alarwisg," ar achlysur fy ymad- awiad. Teimla y meddwl ryw ddirgel fwynhâd rhyfedd mewn gwneuthur cyfeillion dychymygol o'r mynydd, a'r bryn, a'r afon-manau y buasai yn mynych gymdeithasu âg ef ei hun, ac âg anian, ger eu llaw, ac ar hyd-ddynt. Yr oeddwn y pryd hwnw hefyd yn gadael nifer o gyfeillion hoff, cymdeithion a chynghorwyr fy ieuenctyd, i fyned i gyfanneddu i fysg dyeithriaid, ac i ganol golygfeydd dyeithrol. Yn Heol Mostyn, yr oeddwn yn cyfnewid glan yr afon am lan y môr; a rhodfeydd grugog y mynydd am rodfeydd coediog parc Mostyn; y cymdeithion o'm cwmpas oeddynt y ceirw, yr ysgyfarnogod, a'r pheasants, yn lle y defaid, y rugiar, a'r gylfinhir; swn dwndwr a phrysurdeb y gwaith glo, yn lle tawelwch y maes, y bugail, a'r amaethydd. Er hyny, ymgymmodais a'm sefyllfa newydd yn lled fuan, a daethum i hoffi yr ardal a'r trigolion yn fawr; ac y mae yn dra hoff genyf hyd heddyw am ardal a phreswylwyr Mostyn. Treuliais yma yn agos i chwe blynedd o amser dedwydd, a llwyddiannus hefyd i raddau; ac y mae adgofion y blyneddoedd hyny yn felus genyf.
Ni chafodd yr awen ond ychydig o gymdeithas fy meddwl yn ystod fy nhrigias yn Mostyn. Ychydig o ganiadau byrion—y gân ar "Gwymp Babilon," yr hon a ymddangosodd yn y "Gwladgarwr;" y gân ar "Ymadawiady Cenadau o Madagascar," yr hon a ymddangosodd yn y "Dysgedydd;" "Marwnad y diweddar Barch. J. Roberts, o Lanbrynmair," yr hon a ymddangosodd yn ei "Gofiant;" ac ychydig gyfieithiadau o'r Seisoneg—oedd yr oll a gyfansoddais yn y blyneddoedd hyny.
Ar ddechreu y flwyddyn 1837, symudais i a'm teulu i Ddinbych, i gymmeryd gofal yr Eglwys Annibynol yn Lôn y Swan, wedi marwolaeth fy nghyfaill hybarchus a hoff, y Parch. D. Roberts. Yn ystod yr amser y bûm yn trigo yno y cyhoedd|r Wern,"]] a'r "Traethawd ar Grefydd Naturiol a Dadguddiedig." Yr Hiraethgan yn niwedd y Cofiant ydyw un o'r darnau mwyaf boddhaol genyf o'm holl gynnyrchion awenyddol; ac nid rhyfedd hyny, canys yr oedd ei gwrthddrych genyf yr hawddgaraf a'r anwylaf o ddynion. O fewn corff y tymmor hwn hefyd y cynnaliwyd Eisteddfod y Gordofigion yn Liverpool, testyn cadair yr hon oedd " Cystuddiau ac Amynedd Iob." Meddyliais unwaith gyfansoddi awdl i'w hanfon i'r gystadleuaeth ar y testyn hwn; ond wedi cyfansoddi tua chant a hanner o linellau, rhoddais yr amcan i fyny, mewn rhan o ddiffyg hamdden ato, ac mewn rhan o ddiffyg hyder ynof fy hun i allu cyflawnu gwaith o deilyngdod ar y testyn; canys mewn gwirionedd nid ystyriaswn fy hun erioed yn deilwng o le ac enw yn y dosbarth uchaf o feirdd Cymreig yr oes. Edrychwn ar gadair prif fardd eisteddfod freiniol bob amser fel sefyllfa uwch law galluoedd penaf fy awenyddiaeth i fedru dringo iddi; ac, yn wir, ychydig iawn o eiddigedd a deimlaswn un amser am y ragorfraint. Ac o herwydd y ddau beth hyna, ni chynnygiaswn erioed am dani, na meddwl o ddifrif am hyny chwaith, hyd nes y daeth testyn cadair Eisteddfod Madog allan yn 1851. Teimlais awydd cryf igyfansoddi "Awdl ar Heddwch i'r gystadleuaeth hono, deued a ddelai o honi. Yn gymmaint ag mai Brwydr ydoedd testyn fy nghyfansoddiad cystadleuol cyntaf, y byddai i hwn, yr olaf yn ddiau i mi, ddwyn ei dystiolaeth dros Heddwch, a dadgan rhinweddau a bendithion tangnefedd.
Llefara fy meirniaid yn uchel am deilyngdod yr "Awdl ar Heddwch;" ond dywedant, "Da pe cawsai yr awdwr ychydig mwy o hamdden i'w hadolygu cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth." Ychydig iawn yn wir o hamdden at hyny a allasai gael—yr oedd yn anorphenedig foreu y dydd olaf i'w dodi yn y llythyrdy i'w chludo i law ysgrifenydd yr eisteddfod. Yr oedd ganddo, tra yn ei chyfansoddi, heblaw ei alwadau gweinidogaethol, a golygiaeth yr "Amserau" (yr hwn oedd o dan ei ofal y pryd hwnw), y llyfr Seisonig a gyhoeddodd—"Providence and Prophecy"—yn y wasg; un tudalen o'r hwn a gymmerai gymmaint o'i amser i'w barotoi ag a gymmerasai hanner cant o dudalenau yn y Gymraeg: ac yr oedd yn orchest iddo allu ei ddwyn i ben fel y mae, o dan yr amgylchiadau hyny. Caiff y cyhoedd weithian, ar ol hir ddysgwyl, y cyfleusdra i'w weled a'i . farnu drostynt eu hunain.
Rhaid i mi eto ddychwelyd cam yn ol. Safodd yr "Awdl ar Iob" am lawer o flyneddoedd heb symud cam yn mlaen; ac i sefyll am byth y gadawsid hi, y mae yn bur debyg, ond fel y'm symbylid yn barhaus i'w chwblhau gan fy nghydlafurwr, a'm cyfaill hoff, a'r bardd rhagorol, y Parch. T. Pierce, o'r dref hon. Wedi cyfansoddi uwch law mil o linellau o honi ar y mesurau caethion, o'r naill bryd i'r llall, fel y celwn hwyl a hamdden yn hirnos amryw auafau, teimlwn ei bod wedi myned yn rhy bell i adael iddi sefyll yn anorphenol: ond wrth edrych o'm blaen, a gweled y tir maith oedd genyf i'w deithio cyn y gallaswn ei pherffeithio, yn ol y cynllun y dygasid hi yn mlaen hyd hyny, hollol ddigalonais allu cyrhaeddyd byth i ben yr yrfa, a rhodio yn hualau mesurau caethion, gan nad allaswn hebgor ond ambell seibiant yn awr a phryd arall at y gorchwyl. Teimlaswn awydd lawer gwaith at gyfansoddi ar y mydr anghyfawdl (blank verse), ond erioed ni wnaethwn ddim hyd yn hyn. Fodd bynag, ar ganol y ganiad hon, penderfynais wneyd y prawf arno; gan benderfynu hefyd, os nad allaswn wneyd dim o honi yn y ffordd hon, a myned yn rhwyddach yn mlaen ar hyd-ddi nag y gallwn yn ffordd gyfyng y gynghanedd gaeth, i wneyd aberth llosg o'r holl gyfansoddiad ar y testyn, fel na buasai i'r olwg arno, fel tŵr wedi ei hanner adeiladu, fy mlino ond hyny. Wedi unwaith gychwyn o ddifrif, daethum i hoffi y mydr fwyfwy. Yr oedd fy nghyfaill, Mr. Pierce, yn anfoddlawn iawn i'r peth ar y cyntaf; ond ymgymmododd âg ef i raddau o dipyn i beth. Efallai y senir fi yn ddigofus gan rai beirdd a beirniaid Cymreig am y penrhyddid hwn, a throseddu o honof fel hyn yn erbyn bonedd a deddfau awen Cymru, drwy arwain yr estron Seisonig i gymdeithas teulu diledryw D. ab Edmwnd. Odid nad ystyrir fi fel rhyw ail Wrtheyrn, yn ymgyfathrachu â Hengist, ac yn ei arwain i blith tywysogion y gynghanedd —"Beirdd wrth fraint a defawd beirdd Ynys Prydain;" a dichon yr ofna rhai y dygwydda rhyw gyflafan gwaeth na Brad y Cyllill Hirion mewn canlyniad. Bid a fo, rhaid i mi addef fy mod wedi syrthio mewn cariad a'r Rhonwen hon,—y gerdd ddiawdl. Ond na ddychryned neb: nid oes genyf na gallu nac amcan i wneuthur na deddf na defod i'w thrwyddedogi i fysg mesurau breiniol barddoniaeth Gymreig. Cefais gyfleusdra i ddarllen rhanau o'r dernyn diawdl i glywedigaeth dau o'n prif-feirdd—nid amgen Eben Fardd ac Emrys; a rhoddasant hwy gymeradwyaeth wresog iddo, yr hyn a roddai i mi galondid yn yr anturiaeth i'w gyhoeddi.
Fe wel y darllenydd mai yn nghanol sŵn aflafar a mwg afiachus y dref fawr hon y cyfansoddwyd y gân hirfaith hon agos oll. Yr wyf yn brithdybio, pe y cyfansoddasid hi gan rodio hen lwybrau fy ieuenctyd, ar lan ac yn sŵn murmur tawelfwyn Afon Aled, neu gan anadlu awelon peraidd iachus yn mysg y defaid ar Fynydd Hiraethog, y buasai yn ganiad llawer gloewach a bywiocach nag ydyw.
Y ganig ar "Adgofion Mebyd ac Ieuenctyd," a gyfansoddwyd pan oeddwn yn Ninbych, oddigerth y pennillion a gyfeiriant at y dref Seisonig, a'r pedwar neu 'r pum pennill olaf.
Dyna i chwi, ddarllenyddion caredig, fras olwg ar helyntion gyrfa fy mywyd awenyddol. Gyda chyhoeddiad y "Caniadau" hyn, terfyna fy llafur ar faes yr awen, o leiaf; canys ni fwriadaf ymaflyd eto mewn dim o bwys o'r natur yma. Hyderaf y maddeuwch y myfïaeth (egotism) a welwch yn yr adroddiad blaenorol, er ei fod efallai yn un o'r pethau anhawsaf i gyd-ddwyn âg ef.
Terfynaf, gyda diolchus gydnabyddiaeth o garedigrwydd y cyfeillion a anfonasant eu henwau eu hunain, ac a fuont ymdrechgar i gasglu enwau ereill at y gwaith hwn; a chan obeithio na somir eu dysgwyliadau yn hollol ynddo, ond y cant ddifyrwch a budd wrth ei ddarllen—
Ydwyf, Gyfeillion caredig,
Yr eiddoch yn ddiffuant,
G. HIRAETHOG.