Caniadau Hiraethog/Cywydd i anerch Eifion, ar achlysur marwolaeth tri bardd
| ← Cywydd i anerch R. ab Gwilym Ddu, o Eifion, yn 1846 | Caniadau Hiraethog gan William Rees (Gwilym Hiraethog) |
Ar farwolaeth W. Williams, o'r Wern → |
CYWYDD I ANERCH EIFION AR ACHLYSUR
Marwolaeth y tri Bardd godidog,
DEWI WYN, PEDR FARDD, AC R. AB GWILYM DDU.
EIFION lân, ba ryw ddofn loes
Fraenarodd dy fron eirioes?
Ba frathiad, arteithiad dig,
Wanai dy enaid unig?
Dy lewych, ardal awen,
D'wllodd, newidiodd dy wen;
Ai'r llawenydd o'r llwyni,
Trist drydar mae d' adar di.
Ydyw'n wir, mae dy wyn haf
Wedi newid yn aiaf!
Dy ddydd yn annedwydd nos,
Daeth arnad adwyth oernos.
Darfu 'th gerdd, mwy ni chwerddi,
Aeth gelyn a'th delyn di:
Bryn Engan weithian a wisg
Y niwl oer yn alarwisg;
Syn yw'r Garn fawr yr awrhon,
Y llwyd darth yw dillad hon;
Y Ddwyfach lathr sy'n athrist,
Drwy'r fro yn ymdreiglo'n drist;
Rhyw riddfan drwy'r lydan wlad,
Mae y Ddwyfawr amddifad.
Beth fu? beth ddarfu 'th orfod?
Ddichwaen fawr, beth ddichon fod?
EIFION.
Na alwer, tra dalia dydd;
Ond anial, neu ardal nos,
Mara, neu ynte Meros.
Difri 'nawr yw 'm dwyfron i,
Oer yw 'm cwyn, mawr yw 'm cyni;
Yfed ing gofid angau
A barodd im' gwedd bruddhau.
Marw 'm beirdd, mawr im' y boen,
Mwy ni cheir mwyniach orhoen:
Marw Dewi, mawr dywydd,
A'i for dawn, gwae fi o'r dydd!
Oedd o elfen ddieilfath,
Cawr o fardd, p'le ceir ei fath?
Cawr enaid, cry' ewynau,
Wyddai gerdd, a'r modd i'w gwau.
Perchid mawr gawr y Gaerwen,
Addefai'n beirdd ef yn ben;
Ni wiw i Fon am Oronwy
Owen mawr, i wneyd son mwy:
F' Owen ydwyf yn nodi
'N fwy'i awen na'i Howen hi;
Owen y Gaerwen gurawdd
Ei Howen hi'n ddigon hawdd.
O! ni bu gan neb Owen
Gu erioed fel y Gaer wen!
Na Dewi chwaith—d'weda' i chwi,
Ar y gŵr wnai ragori;
Na Gwyn na Du, gwn nad oedd,
Allasai drwy'r holl oesoedd
Guro hwn, 'rwy'n gwir hòni
Un iawn oedd 'y Newi Wyn i!
Ond Ow! Ow! y mae Dewi
Wyn yn fud, a gwan wyf fi!
"Dyna erwin dôn arall,
Godai o'r llif gwedi'r llall;
Oer ddamchwa ei gwrdd ymchwydd,
A'm trechai, llethai fy llwydd;
Newydd oedd, anhawdd ei ddal,
I mi oedd wan a meddal:
Deuai'r llef o dre' Lleifiad,
Draw i fôr, farw Pedr fad.
Pedr Fardd, pa awdwr fu
O'i amgenach am ganu?
A fu waith o dan nef wen
O loewach ei 'Fel Awen?'
O honof fi yr hanyw;
Ow! myn'd a wnaeth, mwy nid yw!
O! na chawswn lochesu,
Rhoddi corff fy mhrif—fardd cu
'N rhyw fan yn nhir Eifionydd
I'w guddio, nes delo dydd
O adferiad i feirwon,
O feddrod, ollyngdod llon.
Oedd astrus i bridd estron,
Brwnt, oer, i fyn'd â'm braint hon;
Ar ei fin, win awenydd,
Daiar Sais yn do oer sydd:
Rho'i hyn frath i'm tirion fron,
Ganwaith a barai gwynion.
Ond cyn edfryd, cawn adfrath,
Angeuol friw, ingol frath;
Cur oedd im' orfod cau arch
Robert ab Gwilym hirbarch:
Ddyfyr batriarchfardd Eifion,
Y bardd du bereiddia'i don;
Athraw a thad mad fy meirdd,
Ynad iawnfad Prydeinfeirdd;
Brenhinbren awen, hwn oedd,
A'r hynotaf bren ytoedd;
'R ucha'i frig yn y wig werdd,
Urddiant y goedwig harddwerdd.
Ond cymynydd ryw ddydd ddaeth,
Hen elyn coed dynoliaeth,
Torai'n gerth fy mhren gwerthfawr,
A hyll fiin ei fwyall fawr:
Wele, prudd ar ol y pren,
Heddyw yw pinwydd awen.
Ni welaf fyth f' anwylaf fardd,
Hen awenfwyn benwynfardd,
Yn dyfod i fin Dwyfach,
Gyda'i fwyn lawforwyn fach,
I eilio cerdd bob yn ail cainc
Esgud, a'r ffrwd felusgainc:
Dyfyr oedd ei dwfr iddo,
Gwnai'n llawen ei awen o.
Llidiog a fu 'm trallodion,
Gofid hallt o'r gafod hon
A brofais; ni bu ryfedd
Orlwydo a gwywo 'm gwedd."
Y BARDD.
'Rwyt, Eifion, rhy drymion drist
Dy gwynion; gwn fod genyd
Eto feirdd sy'n fraint i fyd.
Cofia Eben sy'n ben bardd,
Un a brofwyd yn brif-fardd;
Awen fawr hwn a ferwa,
Tawdd â'i rhin gynteddau'r ia.
Ac Emrys, fedrus fydrydd,
Un a swyn ei awen sydd
Braidd yn tynu a'i gu gân,
Engyl i wrando'i gyngan.
Ioan Madog, enwog iawn,
Nyddwr y cynghaneddiawn;
Awen a gerdd yn ei gân,
Nes tery fel llais taran.
Awen Elis Owen sydd
A'i miwsig yn Nghefn meusydd;
Ac ereill feirdd rhagorol
A raid im' adaw ar ol.
Na achwyna ychwaneg,
Na ofna di, Eifion deg,
Mwy o'th feibion feirddion fo
Hynotach na'r rhai'n eto:
Rhai uwch ben Eben hybarch,
A beirdd uwch Emrys o barch;
Rho iddynt gywir addysg,
E goda dawn gyda dysg.
Ac O! Eifion, hyn cofia,
Ceir dysg yn well nac aur da!
Eifion, dysg hwy i ofni Duw,
Na thynont at waith annuw;
Ac felly'th lon feirddion a fydd
Yn gryfion mewn gwir grefydd.