Neidio i'r cynnwys

Caniadau Hiraethog (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Caniadau Hiraethog (testun cyfansawdd)

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)

Pennod Nesaf
I'w darllen cân wrth gân gweler Caniadau Hiraethog
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Rees (Gwilym Hiraethog)
ar Wicipedia

I
HOLL GOLEDDWYR A CHYFEILLION
Beirdd, Barddoniaeth, a Llenyddiaeth Gymreig,
BOB GRADD A SEFYLLFA YN DDIWAHANIAETH;
AC YN NEILLDUOL
I'R RHAI A DDANGOSASANT EU HEWYLLYS DA TRWY ANFON EU
HENWAU FEL TANYSGRIFWYR AT Y GWAITH HWN, A THRWY
HYNY A GALONOGASANT EI DDYGIAD ALLAN;
Y
Cyflwynir

HYN O LAFURWAITH EI FYFYRDODAU,
GYDA
GWIR SERCH, EWYLLYS DA, A DYMUNIAD DIFFUANT AM
EU LLES A'U CYNNYDD YN MHOB GWYBODAETH,
RHINWEDD, A DAIONI,
GAN
EU HEWYLLYSGARAF WASANAETHYDD,

YR AWDWR.



AT Y DERBYNWYR.

GYFEILLION CAREDIG,
ANGENRHAID yw arnaf ddeisyf genych yr hynawsedd o gyd-ddwyn â mi yn fy meddalwch, tra yn adrodd ychydig o'm profiad a'm teimlad wrth barotoi a threfnu hyn o ganiadau i'r wasg. Yr wyf yn ymwybodol na all y cyfryw adroddiad fod o nemawr ddyddordeb i neb ond i mi fy hunan; ond y mae profedigaeth y cyfleusdra hwn y fath, fel mai anhawdd genyf ei ollwng heibio heb ganiatâu ychydig ryddid i hunanfoddiant arno.

Y mae nifer o'r "Caniadau" yn gynnyrchion blyneddoedd boreuol fy mywyd; a theimlwn megys pe yn adfyw y tymmor hwnw o'm hoes wrth eu hadolygu a'u trefnu i'r argraffwasg. Cofiwn gyda bryd hiraethlawn am yr hen lanerchau ar y meusydd, ar lan Afon Aled, ac ar Fynydd Hiraethog, lle y cyfansoddwn y naill ddernyn a'r llall; ac am yr hyfrydwch bachgenaidd a brofwn pan ddygwyddai i mi gael ambell i linell wrth fy modd; y rhai a dybiwn i, druan, y prydiau hyny, yn gyfryw ag y buasai Milton ei hun yn falch o honynt. Y mae y llinellau hyny megys wedi cyssegru y cyfryw fanau i'w cofio genyf gyda hoffder; nid yn wir ar gyfrif unrhyw ragoroldeb a ymddengys i mi yn awr yn y llinellau eu hunain, ond yn unig ar gyfrif yr adgof am y boddhâd a'r hyfrydwch a deimlwn ar yr achlysuron crybwylledig. Hoffai Solomon awelon a golygfeydd Senir, a Hermon, ac Amana; a'r bardd Groegaidd ddyfroedd ei Helicon, ac awyr ei Barnasus: a dadganai y naill a'r llall eu serch at y mynydd a'r afon, lle y buasent yn myfyrio ac yn cyfansoddi ar eu glanau ac ar hyd eu llechweddi. Pa ham, gan hyny, y gwarafunir i'r bardd Cymreig draethu ei hoffder at yr afonig hono, a'r mynydd hwnw, yn nghymdeithas y rhai y treuliasai oriau difyraf a melusaf ei fywyd? Iddo ef,

"Ni raid awen gymhenog
O drum Parnasus gwlad Roeg;
Ni cheisia, nid ä i dud
Glod o elltydd gwlad alltud:—
Ofer y daith, afraid oedd,
Mwyneiddiach ein mynyddoedd;—
Lle mae awen ddiweniaith,
Gelfydd yn mhob mynydd maith."


Y mae Afon Aled, a Mynydd Hiraethog, i mi, yr hyn ydoedd Cedron a Hermon i'r bardd Hebreig, a Helicon a Parnasus i'r bardd Groegaidd. Y mae yn wir iddynt hwy allu gwisgo enwau eu hoffus fanau âg enwogrwydd ac urddas clasurol, a dyddordeb cyffredinol mwy nag a allodd holl ymdrechion awenyddol Gryffydd Hiraethog a Tudur Aled gynt, a G. Hiraethog ac I. G. Aled yn awr, roddi erioed na byth ar eu mynydd a'u hafon hwy; ond er hyny, ni roddai beirdd Aled a Hiraethog y goreu i feirdd Palestina a Groeg yn eu hymserch at y manau y buont yn cyweirio tannau telyn eu hawenyddiaeth gyntaf erioed ynddynt.

Yr hyn a ddenai fy sylw a'm serch boreuol, yn benaf, ydoedd hanesyddiaeth a seryddiaeth; ond prin iawn oedd fy manteision i borthi y tueddfryd hwn. Cyfyngid fi yn hollol, braidd, at hanesyddiaeth y Beibl; "Drych y Ddaiar a'r Ffurfafen;" "Daiaryddiaeth" R. Roberts o Gaergybi; "Geiriadur Ysgrythyrol" Charles; ac "Amseryddiaeth Ysgrythyrol" Llwyd o'r Bala. Mawr oedd fy awydd am eangiad moddion gwybodaeth yn y cangenau hyny yn neillduol; ac ystyriwn y rhai oedd ganddynt gyflawnder o'r trysorau hyny o wybodaeth yn eu cyrhaedd y dynion hapusaf dan haul; a thybiwn, pe buasent yn fy meddiant i, y buaswn yn gwbl ddedwydd. Ond y mae i bob sefyllfa ei manteision yn gystal a'i hanfanteision. Bu fy anfanteision boreuol hyny yn fanteisiol i minnau mewn un peth—cyfyngodd gylch fy narllenyddiaeth yn benaf oll at yr Ysgrythyrau Sanctaidd; yr hyn a'm dygodd i'r fath gydnabyddiaeth â hwy, na chyrhaeddaswn mo honi, ond odid, pe buasai genyf wrth law ddigonedd o lyfrau ereill cydnabyddiaeth a ystyriaf heddyw y penaf a'r gwerthfawrocaf peth a feddwyf.

Yr oeddwn tuag ugain oed pan dueddid fy meddwl gyntaf i sylwi ar farddoniaeth: cyn hyny, ni theimlaswn nemawr i ddim dyddordeb yn y gelfyddyd. Caniadau Williams o Bant y celyn, yn wir, a roddent i mi fawr hyfrydwch er yn blentyn: ond prin yr edrychwn ar farddoniaeth yn y mesurau caethion, Yr un a fu yn offerynol gyntaf i dueddu fy meddwl yn y ffordd hon ydoedd R. ab Dafydd (Robert Davies), o'r Gilfach lwyd, Llansannan, yr hwn oedd i ni yn gymmydog agos; â chanddo drysorfa led gyfoethog o lyfrau Cymreig, henafiaeth a barddoniaeth: a'r hwn oedd (ac sydd eto) yn dra hyddysg yn ngramadeg yr iaith, a rheolau ei barddoniaeth. Cyrchwn at fy nghyfaill R. Davies bob cyfleusdra a gawn i ddarllen ei lyfrau, ac i dderbyn ei addysgiadau. Ewyllysiai ef wneuthur bardd o honof; ond cafodd waith caled i'm dysgyblu cyn y gallai hyd yn oed gynnyrchu unrhyw awydd ynof at y gelfyddyd; a gwaith caletach na hyny drachefn i'm haddysgu i ddeall rheolau ac adnabod beiau gwaharddedig cerdd dafod; bum yn hir "fel llo heb ei gynnefino â'r iau." Athraw lymfanwl oedd R. Davies; nid oedd trugaredd na maddeuant i'w cael ganddo am wall gramadegol neu gynghaneddol: dwrdiodd fi yn erwindost lawer tro am wallau felly. Byddwn yn arswydo wrth fyned â chyf ansoddiad i'w ddangos iddo : ond yr oedd fy nghyn nydd graddol yn peri iddo fawr foddhâd ; a chredaf yn ddilys bod llwyddiant fy anturiaeth gystadleuol gyntaf yn Aberhonddu wedi peri cymmaint o lawenydd i feddwl fy athraw ag a barodd i mi fy hun. Ystyriaf nad teg fuasai i mi esgeuluso y cyfleusdra hwn i dalu y gydna byddiaeth ddyledus hon i'm cynathraw, a'm hen gyfaill cywirgalon.

Y "Cywydd ar Frwydr Trafalgar, a marwolaeth y pen llyngesydd Nelson," un o destynau yr Eisteddfod freiniol yn Aberhonddu, yn 1826, ydoedd Reuben cyntafanedig fy awen . Erioed o'r blaen ni chynnyg iaswn ar gyfansoddi cywydd, na dim arall o bwys. Cyfansoddid hwnw yn hollol ar annogaeth R. Davies. Cyfansoddais ef ar y meusydd gyda'm gorchwylion, a rhedwn â dernyn ar ol dernyn yn yr hwyr at fy athraw i'w ddiwygio. Nid oedd genyf fi y dysgwyliad lleiaf y buasai iddo ennill y gamp, ond yr oedd ef yn lled obeith iol ; a dirfawr oedd fy syndod pan ddaeth y newydd o Aberhonddu mai yr eiddo fi oedd y buddugol. Derbyniais y wobr—ariandlws, gwerth dau gini, ac wyth gini yn arian—trwy ddwylaw y Dr. W. O. Pughe, yr hwn a safasai i'm cynnrychioli yn yr eisteddfod, ac oedd yn trigo y pryd hwnw gyda 'i fab, y diweddar Aneurin Owen, Ysw., yn Tan y gyrt, gerllaw Nantglyn . Wedi ei ddychweliad adref o Aberhonddu , anfonodd y Doctor wahoddiad i mi fyned i Tan y gyrt, i dderbyn y wobr. Yr oedd Bardd Nantglyn a rhai cyfeillion ereill wedi eu gwahodd yno i'm cyfarfod. Dyna y tro cyntaf i mi weled y doethawr, a bod yn nghyfeillach Bardd Nantglyn. Bu y Doctor yn hynod garedig i mi bob amser wedi hyn, pan ddygwyddwn alw heibio iddo ; a'i fab, Aneurin Owen, a Bardd Nantglyn, yr un modd ; yr hyn a roddai lawer o gyfnerthiad i'm meddwl yr amser hwnw, ac a bâr fod eu coffadwriaethau yn dyner ar fy nghof a'm teimlad hyd y pryd hwn. Ychydig cyn hyny y daethwn i gydnabyddiaeth bersonol gyntaf å Chaledfryn. Yr oedd ef wedi dechreu blodeuo a rhagori fel bardd rai blyneddoedd o'm blaen i. Rhoddai Caledfryn i mi bob addysg, hyfforddiant, a chefnogaeth, pan ddygwyddai i ni gydgyfarfod; yr hyn ni ddygwyddai yn fynych iawn, o herwydd ein bod wyth milltir o ffordd oddi wrth ein gilydd yn byw.

Fy anturiaeth gystadleuol nesaf ydoedd yn mhen dwy flynedd wedi y gyntaf, yn Eisteddfod freiniol Dinbych, yn 1828. Cyfansoddais ar dri o destynau, sef Cywydd "Ar ymdrech Buddug yn erbyn y Rhufeiniaid," yr hwn a fernid yn ail oreu; Cywydd "Ar Orllifiad y Môr dros Gantref y Gwaelod," i'r hwn y dyfernid y wobr―ariandlws, gwerth pum gini; ac "Awdl farwnad i Goronwy Owain." Ni chafodd neb y wobr ar y testyn olaf, er fod rhai o oreufeirdd y dyddiau hyny wedi cyfansoddi arno. Aeth y cyfansoddiad hwn ar goll genyf, onidê cawsai ymddangos gyda'i gyfoedion yn y "Caniadau." Hysbys i lawer o'm darllenwyr ddarfod i'r "Cywydd ar Frwydr Trafalgar" gael ei gyhoeddi gydag ychydig ganeuon ereill, yn fuan ar ol yr eisteddfod yn Aberhonddu; ac i'r "Cywydd ar Gantref y Gwaelod" ymddangos yn y "Gwyneddigion," gyda chyfansoddiadau buddugol ereill yr eisteddfod yn Ninbych. Teg ydyw i mi grybwyll ddarfod i mi gymmeryd fy rhyddid i newid cryn lawer ar y ddau ragor oeddynt yn eu cyflwr cyntaf, fel y gwel y rhai a feddant y fantais i'w cymharu fel y maent yn y llyfr hwn a'r argraffiadau cyntaf o honynt. Un o ysbryd rhyfelgar iawn yw y cyntaf; nid oeddwn yn barnu y buasai yn deg i mi gyfnewid dim ar ei ysbryd a'i dôn, gan y buasai hyny yn dinystrio ei unrhywiaeth. Yr oll a wnaed oedd tynu ymaith linellau gweinion o ran meddwl a chynghanedd, a dodi rhai a olygwn yn gryfach yn eu lle, gan adael ystyr ac ysbryd y cyfansoddiad yr un a'r unrhyw. Am y llall, y "Cywydd ar Buddug," ni bu hwnw "yn wyneb haul a llygad goleuni" trwy y wasg erioed o'r blaen.

Yn mhen o ddwy i dair blynedd wedi yr amser a nodwyd ddiweddaf, ymgymmerais â swydd bwysig y weinidogaeth, a gadewais ardal hoffus fy ngenedigaeth, byth i ddychwelyd i gyfanneddu ynddi mwy, y mae yn debygol. Gyda chalon drom y cenais yn iach y diwrnod hwnw i lanau Aled, a bryniau Hiraethog. Dychymygwn fod yr afon, wrth ymdreiglo danaf pan yn croesi y bont, ar gwr isaf pentref Llansannan, yn sisial cydymdeimlad â mi, ac yn murmur ei ffarweliad olaf; a bod Bron Llywelyn, a'r Foel Bengam, ar Fynydd Hiraethog, yn gwisgo "y niwl oer yn alarwisg," ar achlysur fy ymad- awiad. Teimla y meddwl ryw ddirgel fwynhâd rhyfedd mewn gwneuthur cyfeillion dychymygol o'r mynydd, a'r bryn, a'r afon-manau y buasai yn mynych gymdeithasu âg ef ei hun, ac âg anian, ger eu llaw, ac ar hyd-ddynt. Yr oeddwn y pryd hwnw hefyd yn gadael nifer o gyfeillion hoff, cymdeithion a chynghorwyr fy ieuenctyd, i fyned i gyfanneddu i fysg dyeithriaid, ac i ganol golygfeydd dyeithrol. Yn Heol Mostyn, yr oeddwn yn cyfnewid glan yr afon am lan y môr; a rhodfeydd grugog y mynydd am rodfeydd coediog parc Mostyn; y cymdeithion o'm cwmpas oeddynt y ceirw, yr ysgyfarnogod, a'r pheasants, yn lle y defaid, y rugiar, a'r gylfinhir; swn dwndwr a phrysurdeb y gwaith glo, yn lle tawelwch y maes, y bugail, a'r amaethydd. Er hyny, ymgymmodais a'm sefyllfa newydd yn lled fuan, a daethum i hoffi yr ardal a'r trigolion yn fawr; ac y mae yn dra hoff genyf hyd heddyw am ardal a phreswylwyr Mostyn. Treuliais yma yn agos i chwe blynedd o amser dedwydd, a llwyddiannus hefyd i raddau; ac y mae adgofion y blyneddoedd hyny yn felus genyf.

Ni chafodd yr awen ond ychydig o gymdeithas fy meddwl yn ystod fy nhrigias yn Mostyn. Ychydig o ganiadau byrion—y gân ar "Gwymp Babilon," yr hon a ymddangosodd yn y "Gwladgarwr;" y gân ar "Ymadawiady Cenadau o Madagascar," yr hon a ymddangosodd yn y "Dysgedydd;" "Marwnad y diweddar Barch. J. Roberts, o Lanbrynmair," yr hon a ymddangosodd yn ei "Gofiant;" ac ychydig gyfieithiadau o'r Seisoneg—oedd yr oll a gyfansoddais yn y blyneddoedd hyny.

Ar ddechreu y flwyddyn 1837, symudais i a'm teulu i Ddinbych, i gymmeryd gofal yr Eglwys Annibynol yn Lôn y Swan, wedi marwolaeth fy nghyfaill hybarchus a hoff, y Parch. D. Roberts. Yn ystod yr amser y bûm yn trigo yno y cyhoedd|r Wern,"]] a'r "Traethawd ar Grefydd Naturiol a Dadguddiedig." Yr Hiraethgan yn niwedd y Cofiant ydyw un o'r darnau mwyaf boddhaol genyf o'm holl gynnyrchion awenyddol; ac nid rhyfedd hyny, canys yr oedd ei gwrthddrych genyf yr hawddgaraf a'r anwylaf o ddynion. O fewn corff y tymmor hwn hefyd y cynnaliwyd Eisteddfod y Gordofigion yn Liverpool, testyn cadair yr hon oedd " Cystuddiau ac Amynedd Iob." Meddyliais unwaith gyfansoddi awdl i'w hanfon i'r gystadleuaeth ar y testyn hwn; ond wedi cyfansoddi tua chant a hanner o linellau, rhoddais yr amcan i fyny, mewn rhan o ddiffyg hamdden ato, ac mewn rhan o ddiffyg hyder ynof fy hun i allu cyflawnu gwaith o deilyngdod ar y testyn; canys mewn gwirionedd nid ystyriaswn fy hun erioed yn deilwng o le ac enw yn y dosbarth uchaf o feirdd Cymreig yr oes. Edrychwn ar gadair prif fardd eisteddfod freiniol bob amser fel sefyllfa uwch law galluoedd penaf fy awenyddiaeth i fedru dringo iddi; ac, yn wir, ychydig iawn o eiddigedd a deimlaswn un amser am y ragorfraint. Ac o herwydd y ddau beth hyna, ni chynnygiaswn erioed am dani, na meddwl o ddifrif am hyny chwaith, hyd nes y daeth testyn cadair Eisteddfod Madog allan yn 1851. Teimlais awydd cryf igyfansoddi "Awdl ar Heddwch i'r gystadleuaeth hono, deued a ddelai o honi. Yn gymmaint ag mai Brwydr ydoedd testyn fy nghyfansoddiad cystadleuol cyntaf, y byddai i hwn, yr olaf yn ddiau i mi, ddwyn ei dystiolaeth dros Heddwch, a dadgan rhinweddau a bendithion tangnefedd.

Llefara fy meirniaid yn uchel am deilyngdod yr "Awdl ar Heddwch;" ond dywedant, "Da pe cawsai yr awdwr ychydig mwy o hamdden i'w hadolygu cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth." Ychydig iawn yn wir o hamdden at hyny a allasai gael—yr oedd yn anorphenedig foreu y dydd olaf i'w dodi yn y llythyrdy i'w chludo i law ysgrifenydd yr eisteddfod. Yr oedd ganddo, tra yn ei chyfansoddi, heblaw ei alwadau gweinidogaethol, a golygiaeth yr "Amserau" (yr hwn oedd o dan ei ofal y pryd hwnw), y llyfr Seisonig a gyhoeddodd—"Providence and Prophecy"—yn y wasg; un tudalen o'r hwn a gymmerai gymmaint o'i amser i'w barotoi ag a gymmerasai hanner cant o dudalenau yn y Gymraeg: ac yr oedd yn orchest iddo allu ei ddwyn i ben fel y mae, o dan yr amgylchiadau hyny. Caiff y cyhoedd weithian, ar ol hir ddysgwyl, y cyfleusdra i'w weled a'i . farnu drostynt eu hunain.

Rhaid i mi eto ddychwelyd cam yn ol. Safodd yr "Awdl ar Iob" am lawer o flyneddoedd heb symud cam yn mlaen; ac i sefyll am byth y gadawsid hi, y mae yn bur debyg, ond fel y'm symbylid yn barhaus i'w chwblhau gan fy nghydlafurwr, a'm cyfaill hoff, a'r bardd rhagorol, y Parch. T. Pierce, o'r dref hon. Wedi cyfansoddi uwch law mil o linellau o honi ar y mesurau caethion, o'r naill bryd i'r llall, fel y celwn hwyl a hamdden yn hirnos amryw auafau, teimlwn ei bod wedi myned yn rhy bell i adael iddi sefyll yn anorphenol: ond wrth edrych o'm blaen, a gweled y tir maith oedd genyf i'w deithio cyn y gallaswn ei pherffeithio, yn ol y cynllun y dygasid hi yn mlaen hyd hyny, hollol ddigalonais allu cyrhaeddyd byth i ben yr yrfa, a rhodio yn hualau mesurau caethion, gan nad allaswn hebgor ond ambell seibiant yn awr a phryd arall at y gorchwyl. Teimlaswn awydd lawer gwaith at gyfansoddi ar y mydr anghyfawdl (blank verse), ond erioed ni wnaethwn ddim hyd yn hyn. Fodd bynag, ar ganol y ganiad hon, penderfynais wneyd y prawf arno; gan benderfynu hefyd, os nad allaswn wneyd dim o honi yn y ffordd hon, a myned yn rhwyddach yn mlaen ar hyd-ddi nag y gallwn yn ffordd gyfyng y gynghanedd gaeth, i wneyd aberth llosg o'r holl gyfansoddiad ar y testyn, fel na buasai i'r olwg arno, fel tŵr wedi ei hanner adeiladu, fy mlino ond hyny. Wedi unwaith gychwyn o ddifrif, daethum i hoffi y mydr fwyfwy. Yr oedd fy nghyfaill, Mr. Pierce, yn anfoddlawn iawn i'r peth ar y cyntaf; ond ymgymmododd âg ef i raddau o dipyn i beth. Efallai y senir fi yn ddigofus gan rai beirdd a beirniaid Cymreig am y penrhyddid hwn, a throseddu o honof fel hyn yn erbyn bonedd a deddfau awen Cymru, drwy arwain yr estron Seisonig i gymdeithas teulu diledryw D. ab Edmwnd. Odid nad ystyrir fi fel rhyw ail Wrtheyrn, yn ymgyfathrachu â Hengist, ac yn ei arwain i blith tywysogion y gynghanedd —"Beirdd wrth fraint a defawd beirdd Ynys Prydain;" a dichon yr ofna rhai y dygwydda rhyw gyflafan gwaeth na Brad y Cyllill Hirion mewn canlyniad. Bid a fo, rhaid i mi addef fy mod wedi syrthio mewn cariad a'r Rhonwen hon,—y gerdd ddiawdl. Ond na ddychryned neb: nid oes genyf na gallu nac amcan i wneuthur na deddf na defod i'w thrwyddedogi i fysg mesurau breiniol barddoniaeth Gymreig. Cefais gyfleusdra i ddarllen rhanau o'r dernyn diawdl i glywedigaeth dau o'n prif-feirdd—nid amgen Eben Fardd ac Emrys; a rhoddasant hwy gymeradwyaeth wresog iddo, yr hyn a roddai i mi galondid yn yr anturiaeth i'w gyhoeddi.

Fe wel y darllenydd mai yn nghanol sŵn aflafar a mwg afiachus y dref fawr hon y cyfansoddwyd y gân hirfaith hon agos oll. Yr wyf yn brithdybio, pe y cyfansoddasid hi gan rodio hen lwybrau fy ieuenctyd, ar lan ac yn sŵn murmur tawelfwyn Afon Aled, neu gan anadlu awelon peraidd iachus yn mysg y defaid ar Fynydd Hiraethog, y buasai yn ganiad llawer gloewach a bywiocach nag ydyw.

Y ganig ar "Adgofion Mebyd ac Ieuenctyd," a gyfansoddwyd pan oeddwn yn Ninbych, oddigerth y pennillion a gyfeiriant at y dref Seisonig, a'r pedwar neu 'r pum pennill olaf.

Dyna i chwi, ddarllenyddion caredig, fras olwg ar helyntion gyrfa fy mywyd awenyddol. Gyda chyhoeddiad y "Caniadau" hyn, terfyna fy llafur ar faes yr awen, o leiaf; canys ni fwriadaf ymaflyd eto mewn dim o bwys o'r natur yma. Hyderaf y maddeuwch y myfïaeth (egotism) a welwch yn yr adroddiad blaenorol, er ei fod efallai yn un o'r pethau anhawsaf i gyd-ddwyn âg ef.

Terfynaf, gyda diolchus gydnabyddiaeth o garedigrwydd y cyfeillion a anfonasant eu henwau eu hunain, ac a fuont ymdrechgar i gasglu enwau ereill at y gwaith hwn; a chan obeithio na somir eu dysgwyliadau yn hollol ynddo, ond y cant ddifyrwch a budd wrth ei ddarllen—

Ydwyf, Gyfeillion caredig,

Yr eiddoch yn ddiffuant,

G. HIRAETHOG.

CYNNWYSIAD.


IOB.

PRYDDEST—AWDL:—MEWN CHWECH O RANAU.

Y Ddamcaniaeth.

YR AUR CYN EI BROFI:—NEU IOB YN EI HAWDDFYD A'I LWYDDIANT DECHREUOL.
YR AUR YN Y FFWRN:—NEU IOB YN EI ADFYD A'I FLINDERAU.
YR AUR WEDI EI BURO:—NEU IOB AR OL DYCHWELIAD EI
GAETHIWED, YN EI LWYDDIANT A'I OGONIANT DIWEDDAF.

RHAN I.

DEFNYDD. Iob—ei amser, ei nodwedd, ei gyfoeth a'i lwyddiant, ei ddoethineb a'i ddylanwad yn y wlad, ei glod am haelioni, a'i dalentau ysblenydd. Eiddigedd a malais Satan ato. Meibion Duw yn dyfod i sefyll ger bron yr Arglwydd y fawlgân angelaidd—Satan yn dyfod i mewn ar ganol y gân, ac yn tremygu yr addolwyr—yr Arglwydd yn ei geryddu, ac yn ei alwi gyfrifo'i daith, ac yn ei holi yn nghylch Iob. Ateb Satan—yn dadleu mai ei hawddfyd, a'i lwyddiant, ydoedd gwreiddiau crefydd Iob. Yr Arglwydd yn caniatäu i Satan brofi Iob, trwy ddyfetha ei gyfoeth, a lladd ei blant. Satan yn prysuro ymaith, ac yn galw ei weision yn nghyd, i hysbysu iddynt yr hyn oll a wnaethai ar yr ymdaith hono; ac yn gosod ger eu bron ei gynllun i anrheithio Iob—cydwynfydiad yr ellyllon yn eu rhagddysgwyliad am aflwydd a chwymp Iob.

Bu yn nyddiau borau 'r byd,
Yn hoewfro 'r dwyrain hyfryd,

Hybarch batriarch yn byw—cyfodi
Cofadail wnawn heddyw,
I'r hynod ŵr a hanyw
O wlad Us; ein dyled yw.


2

Ni feddai daîar ŵr ufudd, duwiol,
Un ail gymhar, o dan haul i'w ga'mol;
Hwn oedd â'i nifer rinweddau nefol,
Yn hardd eirianu y fro ddwyreiniol;
Urdd enw i'r natur ddynol,—gem y byd
Ac un oedd hefyd yn gås gan ddiafol.


Tynodd o blith plant annuw
I fyw 'n ddoeth yn ofn ei Dduw—
Gochelai 'r drwg, a chiliodd,
Oddiwrthaw ef draw a drodd.

Rhodiai 'n weddaidd a dichlynaidd,
Ddyn duwiolaidd, yn ei deulu;
Doeth a chyfion enaid union,
Dan ei goron, Duw 'n ei garu.


Duw a roddodd gyflawnder o eiddo,
A da roddion, a bri daiar iddo ;
Heb unrhyw luddiant, bu yn hir lwyddo―
Ion a'i haddurnodd, a gwenodd arno:
Ei hoff was ga'i orphwyso,—mewn heddwch—
A thon o dristwch ni thynai drosto.

Croth yr eurwawr fawr fwriai—rywiog wlith,
Arogl iach a dreiglai;
Ac ar ei frig y trigai,
Aros dros y nos a wnai.


Tywalltai bron gron y graig,
Olew iesin felus-saig;
Gwin a llaeth er gweini lles,
Afonydd o'i chled fynwes,
Ddeillient yn ufudd allan,
Gan loewdeg redeg i'w ran.
Ydd iachus goedydd uchel,
Fri mawr, yn dyferu mêl
Iddo; a'r perthi oeddynt—a da fyr
Yn dyferu hyd-ddynt;

Ac ar wasgar gyda'r gwynt
Eu haroglion per dreiglynt.


O dan ofal a nodded y nefoedd,
Amlhau o hyd yn ddiwyd wnai 'i ddaoedd;
Ei anifeiliaid gynnyddent yn filoedd,
A rhadau dorent ar hyd ei diroedd ;
I'w wlad prif yuad ef oedd,—parchedig,
A gwynfydedig i'w ganfod ydoedd.


Mewn doethineb, neb yn uwch,
Na chyfuwch un ni chafwyd:
Trwy'r dwyreindir randir rydd,
Un o'i eilydd ni welwyd.
Wr clodwych, oracl ydoedd,
Cynghorwr fel Uriel oedd;
Efe yn y dyrfa fawr
Fel ynad, fyddai flaenawr.


Agorai 'i aur enau, a'r gair arweiniol
Barai ddystawrwydd ebrwydd ystyriol:
Ei iaith ber rywiog fel gwlith boreuol,
Hynod a roddai ddylanwad ireiddiol;
E gadwynai 'n gydunol—galonau
Wrth ei wefusau, â'i araith foesol.


Synai, e dawai pob dyn,
Ar y sant heb air o sŵn,
Gwrando mwy wnaent hwy 'n gytûn;
A mad gydsyniad di-son,
Iddo ro'ent, gan adde'i rin;
Ar bob rhyw ddadl hirddadl hen,
E ro'i glo gyda'i air glân.

Llygad deillion oedd, a thirion
Dŵr y gweinion, rhag dirgyni;
Ca'i tylodion truenusion,
A'i elynion, o'i haelioni.


Deuai y gweinion at ei deg annedd
Yno y gwylient am fwyn ymgeledd;
Deuai e allan, newidiai 'u dullwedd,
Drwy agoryd llaw hael ei drugaredd;
A mwynhau a gaent mewn hedd―o'i radau,
Llenwi wnai 'u heisiau yn llawn hynawsedd.

Llwynau y noethion weithion fendithient
Eu cymmwynaswr, ac ymanwesent―
Rhag eira lluchiog, rhag oer ia llechent
O dan ei aden addien ymnoddent,
Yn ei wres ymgynhesent,—a diau
Am ei dda ddoniau cydymddyddanent.

Dylenwid hyd oleunef,
Awyr gwlad Us a'i fawrglod ef.
Oedd lawn o bob rhyw ddawn ddoeth,
Cafodd drysorau cyfoeth;
Cyfoeth meddwl coeth, hael, call,
Pybyrwch uwch pawb arall.

Berwodd o'i enaid hylif barddonol,
Ffrwd o aweniaeth anghyffredinol;
Ni fu doniau yn fwy cryf adeiniol,
Cyn, na gwed'yn i ddyn yn feddiannol:
Yr oedd ei feddwl gwreiddiol,—yn wastad
Dan wych eneiniad dawn uchanianol.

Uwch yr awyr chwareuai,—y bronydd
Wybrenol olrheiniai;
Y wybr i'w chalon, ewybr chwiliai;
Yno am fawrwaith Ion myfyriai;
Yn ei enaid tân ennynai,
A molianwawd yr ymlenwai,
I'r llwch yn greadur llai—d'ai ar frys
Yn ddilys addolai.

Hwyl fanol yr elfenau,—tân a gwynt,
Yn eu gwaith a'u llwybrau;

Traethodd, a naturiaethau,—mellt cochion,
Crych derwynion y croch daranau.

Ymwelodd â'r cymylau;—i'w feddwl
Hwy fyddent gerbydau;
I groth y ddaiar gre hithau—ai'n eon;
I fewn i'w thynion fwn wythïenau.

Troai ei hyddysg olygon treiddiol
Ar gyhoeddus lwybrau y Tragwyddol ;
Rhanau o wyrthiau 'i law gadarn nerthol,
Yn y fodrwy gwmpasog anfeidrol ;
A nodai 'n ddarluniadol,—' r uchel ddysg, —
A thriniai 'i haddysg yn athronyddol.

Satan a'i falais eto,—hen ellyll,
Ni allai 'i niweidio;
Duw ofalodd, daenodd do
Ei adenydd am dano.

Muriodd o'i amgylch, ba'nd mawr oedd ymgais,
A nwyf ei elyn gan dân o falais,
Ef o'i entyrch a wyliai ei fantais,
A brad i'w ddifa, y brudiai ddyfais;
Llunio drwg yn llawn o drais,—a llidio
Ato yn wallgo wnai Satan hyllgais.

Edrychai, gwelai, braidd holl drigolion,
Y ddaiar isod iddo ' n ddewr weision;
Dig oedd weled ychydig dduwiolion,
A Iob yn benaf iawnaf ŵr union;
Hwn pan gwelai poenai'i galon,—llawn gwg,
A hagr olwg, oedd ar ei ael greulon.

Iob anwyl, arab uniawn,
Duwiol ŵr, oedd dawel iawn;
Yn awr heb feddwl fawr fod,
Oerddu ofwy ar ddyfod.


"Yn fy nyth dilyth y daliaf,"―eb ef,
"Heb ofid hir dirgaf;
Mewn henaint y mwyn hunaf
Yn nghôl hedd, ac yn ngwawl håf."

Och! mae cwmwl dwl a du,—addig iawn,
Yn ngwraidd gwynt yn casglu,
Ymlêd y tudded tewddu,
Sarug wedd tros awyr gu.
Galwyd swyddogion gwynion gogoniant―
Y rhaglawyddion, mawr eu rhyglyddiant;
Ger bron yr orsedd, un duedd deuant;
Yn addwyn isel y cyd—ddynesant:

Yma i'w Ner, ymgrymu wnant,―cyfrifon
O'u gorchwylion yn rhwyddion y rhoddant.
Yno y gweision draethent negesau
A holl hanesion eu doethion deithiau;
Hynt y bydoedd, a helynt y bodau,
Yn gywir roddent, yn ol eu graddau;
Gwir agwedd, a nodweddau—trigolion,
A holl dylwythion y pell daleithiau.

Ac yn nesaf hwy a gydganasant,
Ar aur delynau, ganau gogoniant ;
Oroian felus i'w Hior yn foliant,
A pher leisiau eu hoffer eiliasant:
Y swn, pan lefent, "Sant! Sant!"—chwyddai 'n awr,
Fel taran drystfawr, neu fawr lifeiriant.


Y GAN.

"Dduw Dad, wyt anchwiliadwy,―anfarwol,
O fawredd ofnadwy;
Ydwyt yn fwy clodadwy,
Na'n mawl, ac anfeidrawl fwy.

"Gwelsom draw waith dy law lân
Hyd wyneb hyfryd anian.


"Dengys y llen wybrenawl,—ddysg ryfedd,
Hardd ysgrifen ddwyfawl;
Hanesiaeth bery 'n oesawl,
Hon hyd fyth ddadgan dy fawl.

"Llinellau yn llawn hollol—o addysg,
Llenyddiaeth dragwyddol;
Lle medra gallu meidrol,—wel'd doniau
Hylawn wyrthiau'th ddeheulaw nerthol.

"Miliwn o gyflym heuliau,—ffloew emau,
Fflamiant drwy'r wybrenau;
Ac afrifed blanedau—a deithiant,
A rhai ymdroant yn rhwym modrwyau.

"Ereill â llosgyrn hiriawn,—a redant
Mewn rhodau hirgryniawn;
Mal seirff tanllyd enbyd iawn,
Gan rwygo, gwanu 'r eigiawn.

"O! weithredoedd uthradwy,—O! ddyfais
Ddwyfol annirnadwy;
O! allu 'n Por! mor llawn!—Pwy
Edwyn ei rym ofnadwy?

"Dy law sy'n hwyliaw helynt
Y rhai'n ar eu dirfawr hynt:

"Gwyli eu holl drigolion,—o gariad,
Agori'th law dirion;
I roi maeth a lluniaeth llon,—cynhaliaeth
Ewybr helaeth i bob rhyw hilion.

"Holl anian â'i llu heini,—a ganant
Eu gogonedd iti;
A chwardd ei hwyneb hardd hi,—mewn mwynhad,
O ddylanwad dy rydd haelioni.

"Ordeiniaist ddaiar dynion,—i'w llwytho
A llaethog fendithion;

A môr o'th radau mawrion,
A dyr hyd cyfandir hon.

"Mor wylaidd mae'r awelon,—yn edlin
Anadlu cysuron!
Aroglau moethau mwythion,—pob elwch,
Er rhoi dyddanwch rhad i ddynion.

"Perffaith yw dy waith di oll,
O degwch cyflawn digoll;
Deddfau'r nef ydynt hefyd,
Yn uniawn, gyfiawn i gyd.

"Daiar a nef cyd-daro wnant,—a'th fawl
Mewn iaith felus seiniant;
D' ogonedd di a ganant,
A bywyd tôn yn mhob tant.

"O! na fedrem, Ion anfeidrawl!—ganmol,
Yn ugeinmwy doniawl:
Dystawa—metha ein mawl,
Aethom yn fudion fythawl."

Ar ganol yr addoliad,
Wrth ddadgan y fawlgan fâd;
Pwy dybygech, yn llech llwm,
Yno ddelai yn ddulwm
Adyn? Ai Satan ydoedd?
Ië yn wir—Satan oedd!
Efe, hylldad y felldith,
Fodd blwng, a feiddiai i blith
Meibion gwynion gogoniant,
Yn ngrym dig ei chwithig chwant
Hylled oedd hen ellyll dig,
Gan barddu 'r eigion berwddig!
Nwydau dig enaid y diawl
Ddyrwygent ei fron ddreigiawl;
Gwynlasai, newidiai 'i wedd
Elynol, gan greulonedd:

Pan clywai gân gwiwlan gôr,
Anfarwol y nef oror,
A thônau, emynau mad
Fawl Ion, y dwyfol yuad,
A gweled ddedwydded oedd
Holl nifer llu y nefoedd,
Ei hen genfigen a fu
Diau agos i'w dagu;
Chwyddai hon ei ddwyfron ddig
Yn uffernol wŷn ffyrnig:
Llawenydd llu y wiwnef
A dwymnai 'i lid damniol ef.
Gweled purdeb wyneb Ion
Yn ei ras ar ei weision;
Oedd fel haul o ddwyfol hedd,
Yn llenwi yr holl annedd;—
Y lle oedd fwy gwyll i hwn,
Na hyll enwir bwll annwn.
Byw dân trwy 'i gydwybod ef
Enynai cân y wiwnef;
Haws iddo ef dyoddef dig
Nadau y llyn damnedig,
Na sain mawl y dwyfawl Dad,
A'i ddilyth bur addoliad:
A gwyniau dieflig anian,
Gwatwarai a gwawdiai'r gân.

Iehofah alwai 'i hyf elyn,
I ro'i hallt gyfri' o hyn,
"P'le buost, p'le daethost ti,
Satan?—gofynais iti."

E garthai'r ellyll gwrthyn
Ei safn, gan edrych yn syn;

"Tramwyais, rhodiais ar hyd,—y ddaiar,"
Meddai ef,—"Yn ddiwyd;
Ti biau y nef—a hefyd,
Minnau a biau y byd:


"Wele, edrych! mae genyf lywodraeth,
Fi sy'n teyrnasu ar deulu 'r Dalaeth;
O gwymp Eden, lle gwnaethym gamp odiaeth,
Ni chei di undyn i'th syn wasanaeth ;
Rheoli'r ddaiar helaeth,—a wnaf fi,
Yr wy'n ei honi i mi 'n frenhiniaeth."


YR ARGLWYDD.

"Gwyddost mai gwagfost goegfalch,
A dd'wedi 'n dy boethni balch ;
Oni welaist f' anwylyd
Iob, a geir o bawb i gyd;
Yn ofn ei Dduw, a fyn ddal
Ei nod, yn ddianwadal?”


SATAN.

"Walch oedd, pa ddiolch iddo,—ŵr uchel,
Ymdrechu dy foddio?
Cauaist gylch o'i amgylch o,
Ni edit ei niweidio.

"Gwnawn innau, gwn yn union,—weddïo,
Addawaf yr awrhon,
Ond im' gael gwobrau haelion
Am y swydd;—hawdd imi son!

"Estyn dy law draw, rho drwm
Ergydiol arw godwm
Iddo, o'i fawredd i'w fwrw
I lawr, a gwnaf finnau lw
Y gwna dy regi mewn gwyniau dreigaidd,
A daw i'r golwg ei ragrith dirgelaidd,
Ei dda olud a'i gwna yn dduwiolaidd
Cymer hwn ymaith, a gweniaith gwanaidd,
Ei sel a'i grefydd salaidd—ddiflanant,
Yn wael y ffoant megys niwl ffiaidd."


YR ARGLWYDD.

"Rhoddais yr oll o'r eiddo—ar dy law―
Bwrw dy lid arno;
Cofia hyn! i'w erbyn o
Ei hunan, na chwrdd mo'no!"

Yr ellyll droai allan,
O wydd Duw y nefoedd dan
Dyngu, felldigaid angel,—mewn hylldod—
Y gwnai ei osod yn ddigon isel.

"Ha, Ha!" meddai ynddo 'i hun,
"Dialaf, ac nid eilun
O ddinystr a fydd yno ;—ys yn awr,
Pwysau' nwrn gaiff deimlo,
Rhoi dyrnawd sy'n rhaid arno,
A rhwyg fel y rhego fo.

"Cwympais ei well! campus waith—yn Eden,
Pan hudais ddyn perffaith;
Rhoi Iob yn nghors annobaith,
A'i gwympo fo, nid yw gamp faith."

Ei adenydd a daenai,
Disymwth, chwimwth, a chwai,
Fe holltai fel y fellten,
Fry yn wyllt i fro y nen :
Duai'r awyr, a drewodd,
Y tawch oddi wrtho a'i todd.
Yn ynfyd i'w gorn anferth,
Chwythai, anadlai 'i holl nerth ;
Eres oedd, cyrhaeddai'r swn
Hyd enwir waelod annwn.
Ei adenydd a daenai,
Disymwth, chwimwth, a chwai,
Fe holltai fel y fellten,
Fry yn wyllt i fro y nen :
Duai'r awyr, a drewodd,
Y tawch oddi wrtho a'i todd.
Yn ynfyd i'w gorn anferth,
Chwythai, anadlai 'i holl nerth ;
Eres oedd, cyrhaeddai'r swn
Hyd enwir waelod annwn.

A bu wed'yn heb oedi,―y deuai
Duon weis trueni,
O un anian i'w weini,
Ddewraf rawd, yn ddirfawr ri'.


Gwahoddid, gelwid holl gas
Henuriaid y ffwrn eirias,
Holl senedd, lluaws annwn,
Anwir hell, i'r cynghor hwn:
Satan gaeth, penaeth y pair,
Yno geid yn y gadair.
Eb efe, "Clywch! feib y fall,
Duwiau mawrion eu deall!—
Wele ni ar ganol nos,
Ar uchel bwysfawr achos,
Wedi dod y'nghyd ydym,
Yn y lle yma oll ŷm;
O un galon â'n gilydd,
A'r un ddieflig ffyrnig ffydd;
Llawen fi—(pe gallwn fod)—
O gael hon egwyl hynod,
I awchus adrodd ichwi,
Waith mawr, mawr, a wnaethumi!—(Clywch!)

"Heddyw, chwi a wyddoch oedd, enwog ŵyl
Ein gelyn, Duw 'r nefoedd;
A llawen yr ai lluoedd,
I'w foli ef âg un floedd.

"Ger ei fron ynfydion fyrdd,
Ymgryment, ac eilient gerdd,
O fawlhad i ddwyfol urdd,
Y teyrn gormesol—nid hardd.

"Am un waith minnau euthum
I'w plith—ceisio bendith bûm!

"I'ch gelyn, gellwch goelio—na phlygais,
Mewn ffol agwedd yno:
Hyf ytwyf, d'wedaf eto—
Na wnaf byth, byth, tra bo
Efe 'n Dduw a myfi 'n ddiawl,
Er godde'i lid tragwyddawl!

"Ior y nen troai 'n union,
Yn llidiog ei frydiog fron;

A'i olwg pan y'm gwelodd,
Yn ffriw iawn, a ddirgyffrodd;
Ac mewn sarug, haerllug hynt,
Fe holai am fy helynt.

"Iawn atebiad, yr wyf yn tybio,
I'r byw roddais, ar air byr iddo;
Imi fod yn ymrodio—draw ar hyd,
Y ddaiar enyd;—'r wy'n meddu ar hono.

"Yna, wed'yn dannodai
Ei Siob im'—un heb naws bai,
Meddai—ddaliai 'n addolwr,
Duwiol iawn;—a di-ail ŵr.

"Dywedais, hònais innau,—'hwnw a'th
Was'naetha am wobrau;
Ffiaidd front yw ei ffydd frau,
Pwdron, salion ei seiliau.'

"Addef a orfu iddo
Ryw fodd o'i lwyr anfodd o,
Na fedd fawr, nemawr i neb,
Yn awr i'w weini ar wyneb

"Y ddaiar: mai fi 'n ddiau—yw ei duw,
Nad oes ganddo yntau,
Hoff was yn werth ei goffäu,
Ond ei Iob, egwan dybiau.

"Heriais ef i brofi 'r sant
Am dro, drwy luddio 'i lwyddiant;
Dwyn ei olud anwylaidd,
Y gro, lle 'r ymgydia gwraidd
Ei grefydd goegddigrifol,
A rhwygo hug ei ffug ffol;
A throi 'i dân yn union wnai
Y doethwr, a melldithiai.

"Yntau haerai y daliai 'i dir,
Dinacau fel dyn cywir;
Gwrth-haerwn, hònwn innau—
Taerem, croesdaerem ein dau.
Yn niwedd hyn cytunodd o—imi ddod,
Efo dyrnod er profiad arno.

"Fy nghais a gefais yn gyfan;—hollol
Ennillais fy amcan;
Arno gwnaf fawr gyflafan;
Un o'i mwy na bu 'n un man.

"Chwalaf, gogrynaf bob gronyn,—o'i olud,
Dialedd a ddisgyn;
Ac Us, heb ych nac asyn,
Ga'i wel'd ef y gwaela' dyn.

"O fewn Us, efe 'n isaf,
Ei fri o neb yfory wnaf;
Yfory yw dydd ei frad o,
Diwrnod fy ngwynfyd arno.

"Ewch ar unwaith!—brysiwch, wroniaid!
Yn weis bywiog, i geisio 'r Sabeaid;
Ereill i hwylio'n duon Galdeaid,
I ddwyn o'i foelydd ei anifeiliaid;
Enynaf finnau nenaid—o dan chwai,
Acw i ddifa 'i lanciau a'i ddefaid.

"Ei blant ymgasglant i gyd,
Yfory i wledd o fawr lad;
Y' nhy'u brawd hynaf, mi gaf ged.
I'w lladd ar unwaith mewn llid.

"Mor sicr a bod tafod dyn
I'w nwydog ben anhydyn;
Caiff ro'i darlith felldithiawl,
Eitha' dysg yn iaith y diawl.

Rho'f iddo;—ei athro wyf,
Dysgawdwr y dasg ydwyf."

Wedi gorphen o'r penaeth, —bytheirio
Ei boeth erwin araeth;
Llu annwn oll uno wnaeth,
I'w gyfarch, ddieflig afiaeth.

"Hwra i ti, Ior y tân!
Sai eto 'th deyrnas, Satan!
Ein duw wyt, a pharchwn di,
Ateb ufudd—dod iti
A wnawn yn fyddin unol,
Un yn wir ni fydd yn ol;
Bydded teyrn—ben Gehenna
Byth fyw er dystryw pob da.

"Fflamied, enyned tân annwn,—byth, byth,
Yn boeth—boethach, meddwn;
Iddo hil Adda heliwn,
I yfed tost ofid hwn.

"Aed melldith llid a mallder,
I ysu yn noeth deyrnas Ner;
Ac eirian hardd goron hwn,
A dyner dan draed annwn—
Ei hoff le, ei nefoedd fflwch,
Hono elo 'n anialwch!

"Eled ei holl angylion—ar aball,
Yn rheibus wallgofion:
Sereiff oll yn seirff hyllion—
Am ei saint na b'o mwy son!

"Ar ei Siob, gwnawn ffair syber,—druanfab,
Caiff drinfa ysgeler;
E beidia ddyweyd ei bader,
Melldithio wna o ei Ner."


Iob oedd heb un wybyddiaeth,—o orchwyl
Yr erchyll fradwriaeth;
I'w wely yn ddialaeth,
Duwiol ŵr, yn dawel aeth.

Hunai 'r cyfion, heb ofalon,
Neu freuddwydion i'w frawddodi,
Am ellyllon mewn cynllwynion,
Ddu efrydion, i'w ddifrodi.


RHAN II.

DEFNYDD. Toriad gwawr bore dydd y trychineb. Ellyllon y cynghor uffernol yn ymwasgaru at waith y brad yn ol cyfarwyddyd Satan. Satan yn cymeryd ei orsaf ar gorn y lloer i wylio yn canfod colofn o fwg yn dyrchafu oddiar y ddaiar, ac yn deall mai mwg aberth ydoedd—yn craffu, ac yn canfod mai Iob oedd yr aberthwr—ail enyniad ei gynddaredd tuag ato. Cyfodiad yr haul, prydferthwch y wlad yn ei haf ogoniant boreuol. Iob yn dychwelyd oddi wrth ei allor i'w balas—y boreubryd—y weddi deuluaidd y gweision, y gweithwyr, a'r bugeiliaid, yn ymwasgaru at eu gorchwylion. Merched Iob—eu prydferthwch, a'u moesau— y cerbyd yn dyfod i'w cyrchu i dy eu brawd hynaf—Iob yn cusanu ac yn bendithio ei ferched wrth eu harwain i'r cerbyd—pryder y rhianod—eu brodyr yn eu cyfarfod ar gyntedd tŷ y wledd, ac yn eu harwain i mewn—ymgasgliad ac ymdoriad y dymmestl—cenadau yn rhedeg i ddwyn y newyddion i Iob—yntau yn rhwygo ei ddillad, ac yn syrthio i lawr i addoli—somedigaeth yr ellyllon—angelion yn gwylio, ac yn canfod yr oruchafiaeth Satan, gan faint ei somedigaeth a'i gynddaredd, ynllesmeirio—ei weision yn ei gludo i annwn ar elorgerbyd. Herodr nefol yn cyhoeddi y fuddugoliaeth, ac yn galw y nefol gantorion i ganu caniad newydd ar yr achlysur.

Yn awr, agora 'r wawr gain,
Aur ddor yn hawddgar ddwyrain;
A dwg fel rhagredegydd,
Neu genad tros dad y dydd,
Air i'r nos o oror nen,
I hedeg nerth ei haden:
Ffoa heibio i'w phabell,
I gaer ei gorllewin gell;

Y wisg oedd am ysgwyddau
Ellyllon ffeilsion y ffau,
A rwygodd y wawr wiwgain,
A rhoes yn noethion y rhai'n;
Gelynion duon y dydd,
Gwyrent o flaen ei gerydd.
Yna 'u cynghor a dorid,
I'w taith, oll ymaith mewn llid;
Yr aent hwy yr ennyd hon,
Yn ddreigiau cynddeiriogion;
I ddwyn astrus ddinystriad,
I'r byw hwnt ar Iob a'i had.

Efe'r Meistyr o'i gadair frwmstan—gwnai,
Dan gynnyg ymstwyrian;
Bwriai'r hyll ellyll allan,
O'i fol dig ddifaol dân.

Wedi anfon ei weision ysig,
Yn daeog giwdawd felldigedig;
A'u dodi 'n benodedig, —bawb i'w swydd
I beri du aflwydd a bar dieflig;—
Ar gorn oer y lloer uwch llaw,
A hagr drem saif y gŵr drwg;
Gan edrych mewn drych o draw,
Ar ei ael ef mae marwol wg!

Mal pybyr eryr o'i oriel,—rheibus,
Ar gribell craig uchel;
Oddiyno 'n gwylio lle gwel,
Oddi amgylch yn ddiymgel.

Colofn fwg gwel ef yn ferth,—hi ddyrchai
Yn ardderchog brydferth;
A gwybu mai mwg aberth,
I Dduw oedd, ac o dda werth.

Craffai, e welai mai Iob anwylwr,
Oedd y boreuol dduwiol weddïwr;

A byw ail ennyn at Iob a'i Luniwr,
Diau a brydio wnai llid y bradwr;
Meddyliai 'r ymddialwr, —gwnai ddiwedd,
Garw ddialedd ar y gwir addolwr.

Gyru heibio wnai mwg yr aberth:
Ai peth i'w lygaid poethawl hygerth;
A pheth i'w fawr ennynfawr ffroen anferth;
Dallodd, e dagodd yr angel dugerth;
Ei nwyd ennynwyd i'w nerth,—chwyddai cern
Hen athraw uffern gan boen a thrafferth.

Uwch yr aphwys dwys disian,—oer awchiai,
Gyrai wreichion allan;
Nes aeth yn agos weithian,
I'r diawl roi y lloer ar dân!

Gyda hyn e godai haul,
Yn y dwyrain, rod araul;
A gwlad Us hyglodusaf,
O gwsg hi, yn ei gwisg haf,
Yn chwai a ddihunai heb
Waneg ar ei hardd wyneb.
Gwynwridog—ond gwên radawl,
Sy'n ei gwedd cusana y gwawl;
Ei llysiau a'i blodau blith,
Eurliw o dan awyrwlith;
Llu o deg efeilliaid y'nt,
Brodyr o'r un bru ydynt.
Wele 'n awr plant y wawr wen,
Gwenant ar eu mam geinwen;
Hon o'i llys adwena 'n llon
Yn ol ar ei hanwylion;
Yna 'u tad, yr huan teg,
Gwel londer ei feib glandeg;
Heb ri oll, a phob rhyw un,
Ry ei ddelw 'n hardd eilun;
Gwel'd ei rith yn mhob gwlithyn,
Wna i'r haul garu rhai hyn;

A gwena yntau 'n gynnes,
O'i rudd y dyhidla wres;
I'w swyno a'u hanwesu 'nol,
I fynwes eu mam fwynol;
Yn hyfryd gerbyd y gwawl,
Wiw nifer i'w bro nefawl;
Dda engyl hwy ddiangant,
Yn y nos ail ddisgyn wnant;

Awel oer dawel araf,
Y bore hwn o wybr haf,
Delora ar y dail irion,
Ysgwyd frig glasgoed y fron:
Edyn y goedwig ydynt,
Yn dawnsio'n gwingo'n y gwynt;
A'r holl goedydd talwydd teg,
Hudir i geisio hedeg;
Y dail wrth ysgwyd eilwaith,
Ogleisiant, galwant i'w gwaith—

Y dawnus gôr adeiniawl,—i hymiaw
Eu hemyn foreuawl;
Trwy wlad Us melus y mawl,
A ganant yn blygeiniawl.

Iob yn awr wyneba'n ol—i'w balas,
Dan belydr haul siriol;
A'i rywiog wen chwareuol—felynaidd,
Yn wir fwynaidd oedd ar y faenol.

Ebrwydd wedi boreubryd,
Teilwng waith, daw'r teulu 'nghyd;
Iob a rydd wiwbur addysg,
Ragorol, o dduwiol ddysg.


Y da batriarch dibetrus,—a dywallt
Weddi daer a melus;
Hi ddyred yn ffrwd ddirus;
Bêr afon, o bur wefus.


"Iôn, cadarn Duw, ein Ceidwad,—yn foreu
Y cyfeiriwn atad,
Ein gweddi; ti yw ein Tad;
O'n mynwes daw'n dymuniad.

"Trwy y nos tra hunasom,—O!wele
Gofalaist am danom;
Rhag pob haint blin, drychin drom,
I wneyd gormes dig arnom.

"Dedwydd o dan dy aden,—a heinif,
Dihunwyd ni'n llawen;
A dy nodded, Iôn addien,
Fu'n gysgod parod i'n pen.

"Boreuddydd newydd i ni,—estynaist,
Anwyl ei oleuni,
A mawrion roddion di-ri',
Dad, o stôr dy dosturi.

"Rho di d'ofn ar hyd y dydd,—i lenwi
Ein calonau beunydd;
O Dduw byw! heddyw a bydd,
Yn dŵr in', yn Darianydd!

"Tywyna ar ein plant anwyl,—o wenau
Dy wyneb o'th breswyl:
Heddyw yw eu cyhoeddwyl,
Iôn a'i ras fo'n ben yr wyl!

"Cadw'n gweision, dirion Dad,
Heddyw rhag cwrdd â rhwygiad;
Y saeth, yn ehedeg sydd,
Anweledig in' liwdydd;
Gwlith dy fendith a'th fwynder,
Dyro i ni, O dirion Ner!

"Fe allai fod y fall fawr yn llunio
Rhyw gynllwynion bradfawr;

A thrwy lid aruthro i lawr,
I'n tarfu â haint dirfawr.

"Ffwrn dywell uffern a'i düwg, i ti,
Ein Tad, sydd yn amlwg;
Holl hyll drais pob ellyll drwg,
Iawn weli âg un olwg.

"Traidd d' olygon dyfnion di,
Trwy annwn gwlad trueni;
Hyd i eigion y dugoll,
Gweli di i'r gwaelod oll:
O! gwylia'n llidiog elyn—
Ffrwyna lew 'r uffernol lyn!

"Trwy'r dydd d' adenydd yn dyner—rasol,
Rho drosom rhag trawster;
Ninau ganwn i'n gwiwner,
Mewn parch ein hemynau per."

Yna gweision ufuddion y gwiwsant,
Yn ewybr a siriol a gydbrysurant;
Tua'r meusydd mewn hedd y tueddant,
Yn iach a heinif, ac ni achwynant:
O'r buarth ymddosbarthant,—yn llawn hwyl,
Allan i'w gorchwyl y llawen gyrchant.

Y bugeiliaid bywiog a alwant
Eu cwn allan, â'u chwiban cynhullant;
Hwy, dan glustfeinio a sawrio, brysurant,
Ar eu holau yn gyflym yr hwyliant:
Ar ol y praidd areiliant,—drwy y dydd,
Ar y mynydd yn ddifyr eu mwyniant.

Daw rhif o ychen yn dyrfa iachus,
O amryw liwiau, raddau mawreddus;
Allan o'r corau drachefn yn drefnus,
Yn dwyn eu helynt dan ieuau hwylus:
Cnoant eu cilod yn hynod hoenus
Ac mor wareiddiol ryfeddol foddus,


Y dilynant y llanciau rhadlonus,
At yr aradrau, heb antur wrhydrus;
I aredig y ddaear hewydus,
A'i diwylliaw mewn modd deallus;
Ni welid ar waelod Us,—fath wychion,
Ychen mor gryfion, a dynion dawnus.

A rhai o'r llanciau y borau'n barod,
Yn ol y b'ai achos, ar ol y buchod;
Rhai ereill eto i wylio 'r camelod;
A rhai i wasanaeth gyda'r asynod;
Rhai borthant ar y buarthod,—y llon
Ednod mwynion a dofion eu defod.

Yn y palas gwymp eilwaith,
Yr awr hon prysur ar waith;
Yw rhianod gorhoenus,
Merched twysog enwog Us:
Urdd Edom dair heirdd ydynt,
Gemau 'r oes digymar ynt.

Gwyn a gwridog rhieddog eu gruddiau,
Ail i wawr eiliw ael awyr olau;
A gwisgi ydynt eu hysgogiadau,
Fal hawddgarol iachusol iyrchesau:
A gwir addfwyn eu greddfau,—mor wylaidd
A glân beraidd ag awelon borau.

Uwch, a mwy iesin yw harddwch eu moesau,
Na'r un oddiallan, a'i eirian ddulliau;
Gwreiddiodd, ymledodd trwy 'u holl deimladau,
Dirion addysg eu tad a'i rinweddau:
I dlodion rhöent delidau,—heb air ffrom,
Coir hyd Edom fawr glod i'w cardodau.

'N awr daw'r cerbyd hyfryd i
Wyneb y ddor i weini,
A dwyn y glân rianawd,
Yn ewybr i dŷ eu brawd

Hyna':—'i ddydd llawen ddaeth,
Dygwyl ei enedigaeth.
I'r cerbyd mewn hyfryd hwyl,
Arweinid y tair anwyl,
Yn llaw eu tad yn llyw ter,
A'u daionus fam dyner.
O feint eu rhiant yn rhan,
Hwy geisient bob un gusan.
Dagrau 'u tad ar yr adeg,
O serch at ei deirmerch deg,
Ddeillient yn nawsaidd allan,
Iraidd lif, dros ei rudd lân;
A dyd iddynt, dad addwyn,
Drwy ddeigrwlith ei fendith fwyn,
Gynghorion dwysion llawn dysg—
Sylweddol, rasol addysg.
Yna y tair synasant—do—
Weled eu tad yn wylo;
Tristyd dros eu hysbryd aeth,
Yn debyg i ragdybiaeth,
O fod rhyw gawod o gur
Ar eu dal, er eu dolur:
Gwnai eu hofn eu hegwanhau,
I ddarogan rhyw ddrygau;
Ofni fod dwfn ofidion,
I luddio hwyl y wledd hon,
Wnelai y tair anwylaidd,
Yr awrhon, yn bruddion braidd:
At annedd eu brawd tynant,
Tan fyfyriaw'n ddystaw 'ddant.
Fe redai, brysiai 'r saith brawd,
O wirfodd i gyfarfawd,
Y rhianod tirionwedd,
I'w croesawu'n gu eu gwedd.
Hwy ar hyn a'u harweiniant,
I'r palas mewn urddas änt;
Wrth fwrdd y wledd eisteddynt,
Yn llawn hwyl, a llawen hynt:
Melusion breision eu bro,
Yn or lawn arlwy yno;

Ger bron yn ddanteithion teg,
Hon ydoedd lawen adeg
Iddynt oll, a gwleddynt hwy,
Ac yfynt heb ofn gofwy;
A gwin Seir ddigon y sydd
I weini i'w llawenydd;
Gwaed ei grawnwin gydgronai,
Yn ei nerth cynhyrfu wnai.

Ei liw oedd hudol iddyn'—i'w yfed,
Ef nes eu llwyr enyn,
O aur feiliau claer felyn,—
Lawer tro gwnaeth dwyllo dyn.

Yno i'w wel'd 'r oedd anwyldeb,—a brawdol
Buredig gymundeb:
Byw wenau ar bob wyneb,
Un arwydd nwyd ar rudd neb.

Ond Ow! Ow! y du waeon
A nesânt—gofid yw son;
Ymbarotoi mae bryd hwn,
Gwyniau cythreulig annwn,
I hallt ordywallt eu dig,
Yn gafodau gwaefydig,
Ar y wledd, a diwedd du
Fu i hon i'w therfynu.
Y werdd awyr ordduai,
Och! a'i gwedd yn guchiog äi;
Ellyllon poethion y pwll,
O ffwrn—dân yr ufferndwll,
Fel haid o locustiaid cas,
Ddylent y wybr yn ddulas:
Tori allan wnai troellwynt,
Lliw gwae yn esgyll y gwynt.
Lleni dig yn llawn o dân,
Yn y nefoedd yn hofian;
Cochion gymylau'n cuchiaw,
Afiach lid trwy 'r nef uwch law.

Nef a'i hanadl yn hadlyd,
Gan awelon poethion pyd;
Llawch Tophet, lluched diffaeth,
Awyr nef yn ddrygsawr wnaeth.
Yn mol y cwmwl dwl, du,
Hyll uchod, 'roedd yn llechu—

Ddrygionus ddreigiau annwn—yn fawrion
Niferoedd, fyrdd myrddiwn;
Ac hisiai seirff, cas eu swn,
Onid aethus y dwthwn?

Ambell fellten wen wanai,
Drwy ddu niwl, ymdreiddio wnai—
Megys fforch neu dorch o dân,
Deilliai'n ddychrynllyd allan;
Ac ar ol ei gwyllt olau,
Y niwl a geid yn ail gau.

Yna'r daran ar doriad yn sydyn,
Ro'i arswydus ruad:
Uchel lef goruwch y wlad,
Gyrai anian i gryniad.

Uwch ben, y mae elfenau—'n dygyfor
Digofaint drwy'r wybrau;
A moelydd o gymylau,
Eto o hyd yn tewhau.

Dyna genad, dan gwynaw,
At dŷ Iob yn wyllt y daw:—
"O! Meistr! O! Meistr! y mae
Heddyw chwerwedd, Och! oerwae!
Heibio daeth Sabeaid hen
Eu trachwant,—aent â'r ychen.
Pob asyn gyda hyny,
Aeth y rhai'n anrheithwyr hy';
A'r llanciau diau bob dyn,
A ddodent i'r cledd wed'yn

A mi fy hun yn unig
Sydd yn fyw o'r distryw dig!"

E dorai cenad arall,
Dros y lle ar draws y llall,
A gwaeddai—"Tân! gwefrdân gwyllt,
O'r nen las, eirias orwyllt,
A ennynodd—gwae ninnau!
Llid o'n cylch tanllyd yn cau!
Difa y llanciau a'r defaid,
Yn lân oll, yn ulw wnaid;
A mi fy hun yn unig
Sydd yn fyw o'r distryw dig!"

Y trydydd cenad rhedai,
A'i wedd yn wyllt, gwaeddi wnai,
"Wele! duon Galdeaid—
Deuai rhai hyn yn dair haid,
A malais i'r camelod,
A'u dwyn a wnaent dan eu nod;
A'r llanciau, diau bob dyn,
A ddodent i'r cledd wed'yn—
Ni dda'i heddyw'n fyw o'r fan,
Un enaid ond fy hunan."

Yr olaf, mewn mawr alaeth,
A gwaddod y ddiod ddaeth—
Cwynai 'r pedwerydd cenad
Hanes tost i fynwes tad:—
"Ow! Ow! Ow! dyma waeon!
Aeth yw hi, na bu fath hon
Yn braenaru bron araul
Dyn erioed o dan yr haul.
Dy feibion hoewon mewn hwyl,
A'th enwog brydferth anwyl,
Dair merch—mewn cydserch y'u caid,
Yn hoenus iawn eu henaid,
Yn nhŷ 'u brawd hyna' mewn hedd,
Hwy welid mewn gorfoledd.

Truenus! Meistr anwyl!
Heddyw 'r aeth diwedd yr wyl!
Ymdorai, curai corwynt,
Nerthol iawn, dyeithrol wynt:
Dihunodd, trodd mewn llid trwch,
O'i hen wely 'r anialwch:
Torai byrth pob tyrau ban,
Crynent o flaen cawr anian.
Cydiai yn mrig y coedydd,
A thynu 'rhai'n wnaeth yn rhydd,
A'u halltudio â'i wyllt aden,
Fry yn wir i fro y nen.
At dŷ 'r wledd, o'r diwedd daeth,
Fawr elyn, trwm fu 'r alaeth;
Curodd nerth y rhyferthwy
Ar y mur, ni bu fraw mwy;
I'w sail, yr adail, ar hyn,
A grynai oll bob gronyn.

"A rhwnc ing, fel tranc angau—wnai ruddfan
Trwy yddfau 'r simeiau;
A swn gwledd a droes yn glau
I lefain ac wylofau.

" Y tylathau tal weithion—ysigent,
Nes agor adwyon
Yn y tŷ, a'r enyd hon,
Fe âi i lawr yn falurion!

"Muriau y gwaith mawr i gyd
Ymwahanent mewn mynyd.
Yn y lle dy blant oll oedd,
Hwy gladdwyd gyda'u gwleddoedd;
A mi fy hun yn unig
Sydd yn fyw o'r distryw dig!"

Yna y gwaefydus Iob a gyfododd,
Yn llwyr egwan, a'i fantell a rwygodd;
Ei hardd wisg yn brysur a ddiosgodd,
A'i ben, oblegid ei boen, a blygodd.

Y gŵr addwyn, gorweddodd yn y llwch,
Er ei eiddilwch, yno'r addolodd!

Gan dd'wedyd, "Noeth, noeth yn wir,
Y deuais i'r byd dyhir;
A diau noeth, myn'd a wnaf
O dir ingoedd, pan drengaf.
Duw Ior mad a ro'i i mi
Gynnydd, a'r oll fu genni';
A'm Hior drachefn gymmerodd
Yr hyn o'i rad tirion a rodd.
Ufudd wyf tan ei ofwy,
Eiddo ein Tad oeddynt hwy:
Hyd fyth bendigaid a fo
Duw fy Iôn, gwnaed a fyno!"

Edrychai, gwyliai ei daeog alon,
Am ganlyniadau eu bradau brydion;
Hwy ddysgwylient âg awyddus galon,
O'i wall adwythig y do'i melldithion
O enau y gŵr union;—sain ei fawl,
Bu wywdra bythawl i'w budr obeithion.

Troi i'w hannwn a wnai y trueiniaid,
A gwae trywanawl yn gwau trwy 'u henaid;
Ac uthr alaeth, udai y cythreuliaid,
A chanwaith egrach na chwn a theigraid—
Gwarth i'r hen gerth wroniaid,—yr awrhon,
O! ffei! y dewrion droi'n ffoaduriaid.

Angylion dystion dystaw,
A wylient, dremient o draw,
Heddyw i weled a ddaliai
Gwron nef, ai gwyro wnai
Dan y prawf;—dyna y pryd,
E ganfu engyl gwynfyd
Wyrth yr Iôn, a nerth ei ras,
Yn ei anwyl unionwas:

Yn ei gynnal i ganu
Mawl o dan y cwmwl du;
Dal y gwan, bychan dan bwys
Llid uffern, danllyd aphwys—
I guro holl gawri allan,
Y fall fawr i lawr yn lân!
A'u gyru tan ei gerydd,
Oll i ffoi trwy allu ffydd:
Hon oedd y ffon, dafl-ffon deg,
Y taflai, gyrai gareg,
Yn belen i dalcen du
Euogddwl gawr y fagddu.
Cryf arfog enwog annwn,
Gorchfygwyd a hurtiwyd hwn.
Tan ei warth, Satan wrthun
Syrthiai i lawr yn swrth ei lun;
Llewygai'n hyll ei agwedd,
Gwynlasai, newidiai 'i wedd;
Malu ewyn ymliwio
Wnai, gan faint ei gyni fo:
Methiant cais ei ddyfais ddig,
Lanwai ei fron fileinig
Ag arswyd, rhag i'w orsedd
Ysigo, a syrthio o'i sedd.

Ei weision a'i cylchasant,—a'u harwr
Llesmeiriol godasant
Ar eu hesgyll, a rhwysgant,
Ffoi yn awr i'w ffau a wnant.

Ysbrydion, gwyllon y gau,
Welodd engyl nef olau,
Yn ciliaw mewn poen calon
A drych wael o'r ymdrech hon.
Y nef lu a godai floedd,
Dorai trwy 'r eangderoedd,
Oroian fawr drwy wybren fu,
A'r faner fawr i fyny.

Herodr nerthol ro'i ddolef,
Uchelfloedd ar nerthoedd nef:
"Gwelwch y fuddugoliaeth!
Deheulaw'n Hior, dial wnaeth;
I'r gelyn y rho'i gywilydd,
Uffern wedi 'i somi sydd!
Hunanfalch dybiai'n ynfyd,
Ennill y gamp oll i gyd:
Gyru Iob mewn annobaith
I feio Duw, anfad waith.—

"Ei chais oedd—a chas iddi,—ei weled
Yn gwylaidd addoli:
Mawrhau Ior, a'i glodfori,
Wnaeth ef er ei gwaethaf hi!

"Heddyw Duw lacaodd did,
Rhoddodd i Satan ryddid,
A phob manteis a geisiai,
At ei law'n gyflawn gai.
Ca'dd allweddau temlau 'r tân,
A dorau 'r mellt a'r daran;
Gallu ga'i ar gell y gwynt,
Ac i yru y corwynt

"Allan i wneyd ei ewyllys,—a dwyn
Y dinystr mawr echrys—
Ar Iob fad gwnai frad ar frys, a chredai
Heddyw na ddaliai'i grefydd yn ddilys.

"Ond gwelwch! edrychwch draw,
Er allodd Satan ddrylliaw
Arno i lawr â chyrn ei lid,
I ryfedd ddirfawr ofid,
Ac ei erlid â'r curwlaw
Mwya' fu 'rioed o drwm fraw,
Gofidiau yn gafodydd,
Fel hyn yn disgyn trwy'r dydd:—
E gladdwyd gyda 'u gwleddoedd,
Ei blant i gyd-ergyd oedd,

Ai i'r gwaelawd, trwy'r galon,
Rhoddai friw yn ngwraidd y fron.
Ei dda ffydd, ni ddiffoddai
Er hyn oll, ymgadarnhäi:
Yn welw yn y lludw llaith,
E addolai'i Dduw eilwaith!
A'i weled e'n moli Duw,
Ennynai'n Satan annuw,
Ryw ryfedd gynddaredd ddig,
Yn ffwrn ei galon ffyrnig;
Dir grynai dewrgawr annwn,
Rho'i waedd hell—llesmciriodd hwn.
E fylchwyd crib ei falchedd,
Ei ddu warth a dodd ei wedd.
Gwelwch! fe aeth gweilch y fall,
I annobaith mewn aball;
Ffoisant i'w pwll, dwfnbwll du,
Gan ochain a gwaenychu.

"Yn awr, gantorion eirian,
Eiliwch newydd gelfydd gân;
Dihuned eich holl dannau
Ati'n wir i gytun wau,
A seiniwch tros y wiwnef,
Ar delynau nablau'r nef,
Fawl yr Ion, a'i ddwyfol ras
Awenyddiaeth fwyn addas."

Ac yna taro a wnai y cantorion,
Oll gan gydchwarau eu tannau tynion,
Y dôn a chwiwiai ar edyn y chwaon,
Nes ar eiliad y dawnsiai'r awelon,
Y mawl aeth hyd demlau Ion—soniarus
Oroian felus drwy fro nefolion.


RHAN III.

CANLYNIAD o'r stori. Satan yn ymddadebru—ei gynddaredd—ei chwerwgyfarchiad i'w weision—eu sarugrwydd—Satan yn newid ei lais i'w dyhuddo yn gofyn eu cynghor, pa un a ymosodent eilwaith ar Iob. Asmodeus yn cynghori gadael iddo—Satan yn ei lym geryddu am ei lwfrdra—Asmodeus, o'r tu ol i orsedd Satan, yn bwrw ei lid yn erbyn Satan ynddo ei hun. Cynghor Mammon—Satan, tra yn mawr gymmeradwyo ysbryd Mammon, yn gwrthwynebu y dull y mynai ymosod ar Iob—Satan yn gosod ei gynllun ef ei hun o flaen ei lys—Mammon yn tynu ei gynnygiad yn ol—yr holl lys yn cymmeradwyo cynllun Satan.

Er weision ddygent eu llesmeiriol lyw
I'w lys brwmstanllyd; pan y daeth ef i
Awyrgylch ei gynhenid ffwrn ei hun,
Dadebrai'r ellyll—ar y cyntaf fel
Mewn syn bendrondod, ac yn hurt ei wedd.
Agorai'i lygaid tanllyd, tröent o gylch
Yn llawn o gynddeiriogrwydd ac o lid;
Crafangai, fel i geisio gafael yn
Nyrnddol ei hen deyrnwialen haiarn fawr;
Ac yn ei ymdrech, rhoddai ebwch nes
Dirgrynu uffern hyd ei sail i gyd!
Pan gaffai'i anadl, "Moeswch," eb efe,
"Fy hen deyrnwialen i fy llaw yn awr—
Wyf frenin yma, i'm gorseddfainc hon
Y tyngaf, mai teyrnasu byth a wnaf.
Er gwaetha'r nefoedd, byddaf yma'n ben;
Ac os na chaf f' ewyllys a fy rhwysg
Yn hollol yn mysg dynion yn y byd,
Mi fyddaf yma'n deyrn a phenaeth byth.
A byth os un o honoch—cofiwch hyn!
A ddengys duedd i anufuddhau
I fy awdurdod, fel mai byw myfi,
Gwae iddo'i enwi'n gythraul du erioed."

Atebent hwythau ynddynt hwy eu hun,
Mewn chwerw ddirmyg—"Ai nid gwell i ni
Fuasai peidio gwrandaw ar dy lais,
A gochel dilyn dy esampl di?
A gadael iti fyn'd a bod dy hun
Yn gythraul—frenin ar y fflamau hyn—
Yn feudwy dieflig yn dy ogof ddofn,
Heb ond y pryf sy'n cnoi dy fynwes ddu
I ti'n gydymaith trwy'th dragwyddol oes.
Llefari fel pe byddai ar dy law,
Ac yn dy allu di ein gwneyd yn fwy
Truenus nag y gwnaethost eisoes ni,
Trwy'n hudo i wrthryfel yn y nef.
Gwae'n henwi yn gythreuliaid!—ïe 'n wir!
Pa wae y sydd, neu ddichon fod yn fwy?
O'r enw neu'r nodweddiad hwn y tardd
Pob gwae, pob ing, pob poen, pob pang, pob cur
Oddefwn. neu a allwn oddef byth.
Nid oes all suddo'n ddyfnach na nyni
Mewn gwae, ond dyn—yr ynfyd, ynfyd ddyn
Wrthodo gymmod nef, a bywyd rhad,
Trwy gyndyn lynu mewn gwrthryfel dig.
P'un bynag wnelom ynte ufuddhau,
Ai gwrthod rhoi ufudd-dod iti wnawn,
Ni elli wneyd in' dda na mwy o ddrwg
Ychwaith, na'r drwg a wnaethost eisoes in'."

Lled dybiai Satan fod rhyw beth fel hyn
Yn berwi'n eu meddyliau, wrth eu gwedd
Anfoddog, a'u golygon sarug hwy.
Newidiai yntau 'i wedd, a'i lais, a'i ddull.
"Na, Na, fy ngweision!" eb efe, "nid wyf
Yn ammheu dim o'ch gwir ddiefligrwydd chwi;
Ni chefais achos chwaith i'ch ammheu 'rioed.
Er pan sefydlais i y deyrnas hon
O ddistryw, hyd yn awr, mi'ch cefais chwi
Yn ffyddlawn, ufudd, ac ymroddgar iawn
I'm gwasanaethu, ac i ddwyn yn mlaen
Fy holl ewyllys, a'm hamcanion i.

A phe b'ai ynoch heddyw duedd at
Ymgodi'n erbyn fy ngorseddfaine hon,
At bwy?—I b'le ?—Pa ffordd y gallech droi?
Chwi wyddoch oll fod drws y nef y'nghau—
Yn fyth gauedig yn eich erbyn chwi.
Pe gallech deimlo edifeirwch am
Eich hen wrthryfel, a phe byddai modd
Iwch wylo dagrau fel y wyla dyn,
Ac wylo ffrwd a fyddai ddigon i
Ddiffoddi'r tân anniffoddadwy hwn,
Ni fyddech nes—ni faddeu 'ch gelyn byth;
Byth ni faddeua i'r un o honom ni.
Mae'n cadw ei faddeuant oll i ddyn,
I'n herbyn ni, efe a dyngodd lw
Tragwyddol soriant, a thragwyddol farn
O esgymmundod o drigfanau nef.
Wel! dant am ddant, ni a dyngwn ninnau oll
Dragwyddol ryfel yn ei erbyn ef.
Cydgyfranogion o'r un ysbryd ŷm,
I ymladd a chasau'n ddiorphwys byth,
Y'n cydfedyddiwyd yn ein collfarn drom.
Os cariad ydyw rhwymyn undeb nef,
A'r brif egwyddor yn llywodraeth Duw,
Gelyniaeth fydd ein rhwymyn undeb ni,
A phrif egwyddor ein llywodraeth fawr:
Gelyniaeth anghymmodlawn byth at Dduw—
Ei enw, a'i goron, a'i orseddfainc, a
Ei allu, ei gyfiawnder ef, yn nghyd
A phawb a phobpeth berthyn iddo ef,
'Nenwedig dyn, a Iob yn benaf oll
O'r dynion ar y ddaiar sydd yn awr.
Can's er nad allwn garu'n gilydd mwy,
Na charu neb na dim ond pechod, byth,
Fe'n rhwymir gan gasineb at bob da,
I gydweithredu'n rhwydd i wneyd pob drwg.
Ni ellwch chwi gasau mo honof fi,
Na fi chwychwi, i'r graddau mae pob un
O honom oll yn cydgasau Duw'r nef;
A theimlo'r wyf yr ä'r egwyddor hon

Yn gryfach gryfach ynom yn barhaus;
Cynnydda ein galluoedd ni o hyd,
Ac fel cynnyddont hwy, cynnydda'n câs.
Mae cymmaint yn fy nghalon i yn awr
O dân gelyniaeth, ag a allaf fi
Ddymuno fod; ond mi ddymunwn hyn,
I'm calon ymeangu eto'n fwy,
Fel gallai gynnwys mwy o'r llidiog dân.
Ond moeswch gynghor—Beth a wnawn o Iob?
A ymosodwn eto arno, ai
Rhoi' fyny'r ymgyrch fyddai doethaf in'?"

'Rol ennyd o ddystawrwydd, Asmodeus
Gyfodai yn y cynghor:—eb efe,
"Fy arglwydd frenin, Satan, a chwychwi
Holl urddasolion annwn fawr, gwrandewch!
Os caniateir i mi, y gwaelaf un
O honoch oll, i ddwedyd gair yn fyr
Ar bwnc mor fawr a phwysig ag yw hwn
Roes ein hardderchog frenin ger ein bron:
Fy meddwl yw, y dylem gym'ryd pwyll,
A dwys ystyried hefyd mewn gwaed oer
(Pe mewn gwaed oer y byddai'n bosibl bod
Yn nghanol fflamau'r eirias danllyd hon),
Rhag ini ruthro eto mewn rhyw nwyd,
A thynu arnom fwy o warth na chynt;
A chael drachefn ein gyru fel o'r blaen
I ffoi mewn c'wilydd wedi colli'r dydd.
Yr amryfusedd olaf fyddai'n fwy
A gwaeth na'r cyntaf; felly, byddai'n gwarth
A'n gofid ni, a mwy llawenydd nef;
A mwy anrhydedd a ennillai Iob.
Sarhad a cholled uffern felly'n wir
A fyddai'n fawr, a'r canlyniadau'n fwy
Dinystriol nag gall neb ddyfalu 'nawr.
Herwydd pa ham, fy nghynghor i yw hyn,
In' fod yn llonydd—gadael iddo ef,
A gochel rhoddi'n hunain mwyach yn
Agored i'r fath aflwydd a sarhad;

Ac ymfoddloni ar yr hyn y sydd
O feddiant genym eisoes yn y byd,
Ac arfer ein doethineb a'n holl rym,
I gadw hwnw oreu gallom ni.
Ac hefyd ———"

"Taw!—Dyna ddigon!" ebe Satan, "Taw!
Ti ysbryd diog, ofnus, meddal, llwfr,
Diegni, llonydd, marwaidd, isel fryd!
Diog a llonydd oeddyt ti erioed.
Pan sefais i i fyny yn y nef,
I ddadleu tros iawnderau'n natur ni,
Gan gyhwfanu 'nghyfer gorsedd Duw,
Fy maner hon, i herio'i allu ef
I ddyfod allan yn ein herbyn ni:—
Yn nydd y frwydr, beth a wnaethost ti,
Ond ceisio llechu'n un o dyrau'r nef,
Gan feddwl aros hyd nes gwelit pwy
A fyddai trechaf yn yr ymdrech hon:
Meddylit yna lechian allan, ac
Ymuno gyda'r blaid ennillai'r dydd.
Ac am dy ddiogi, a dy ysbryd llwfr,
Ys da rwy'n cofio, damniwyd ti o nef.
Ni raid i uffern ddiolch dim i ti
Am ddim o werth a wnaethost trosti 'rioed;
'Ti wnaethost d' oreu i'm darbwyllo i
I beidio myned i Ardd Eden gynt,
A bod yn dawel yn y fangre hon,
A gadael heibio geisio hudo dyn
I anufudd—dod; a phe ar dy lais
Y gwnaethwn wrandaw, oni weli mai
Amddifad heddyw fuasai 'm coron i
O'r penaf berl, a'r gwerthfawrocaf fedd.
Pan fyddo galwad i fyn'd allan ar
Anturiaeth fyddo'n gofyn dewrder ac
Ymroddiad i'w chyflawnu,'r olaf oll
Bob amser fyddi di, a'r cyntaf oll
I siarad, ac i ddweyd dy farn ar bwnc,
Fel codaist heddyw ar yr achos hwn.

Mi fynwn iti o hyn allan fod
Mor barod, mor awyddus at dy waith,
Ag wyt i siarad ac i ddadleu o hyd;
Neu ynte dewi, a bod yn ddystaw byth.
Ymwâd â'r enw o fod yn gythraul, neu
Ymddyga yn deilwng o yr enw hwn;
A bydd gythreulig mewn gwirionedd mwy,
Ac nid mewn enw'n unig, ac mewn rhith.
Neu ynte d'wedaf iti beth a wnai—
Dos ymaith, os gâd diogi iti fyn'd,
A bydd dywysog dynion diog, llwfr,
Rhai garant fyw yn llonydd fel dy hun,
A threfna ryw fân ddrygau iddynt hwy
I'w gwneyd, heb raid i ti na hwythau chwaith
Anturio, na llafurio i'w cwblhau.
Dos, bellach! Dos ———"

Ymgiliai Asmodeus ar hyny, gan
Lechu tu ol i orsedd Satan draw,
A dystaw sibrwd ynddo'i hun fel hyn:—
"Iawn ydyw 'tad y celwydd,' arnat ti
Yn enw—wyt yn ateb iddo ef.
Pe gwir mai am fy niogi demnid fi,
Ai nid dy falchder a dy gelwydd fu
Dy ddamnedigaeth dithau? A pha fwy
Anrhydedd haeddai bradwr balch, trahaus,
Celwyddog ysbryd megys ti dy hun,
Na rhyw un diog, fel y gelwi fi ?
Ond celwydd dd'wedi, 'nol dy arfer, ti
Gyndad y celwydd—haeraf hyn, fy mod
Yn gystal cythraul a thydi bob dydd;
Ond llawer callach, fel cei eto wel'd.
Ymffrosti yn dy fuddugoliaeth gynt
Ar ddyn yn Eden, pan yr hudaist ef
I goelio 'th gelwydd, ac anghredu Duw;
Ond os nad wyf yn camgymmeryd, try
Y fuddugoliaeth hono eto'n fwy
O warth i ti na'th draha yn y nef.
Can's o'r dydd hwnw allan, uwch dy ben

Y croga megys cwmwl llawn o wefr
Dialedd tanllyd—y bygythiad trwm
O'Had y wraig'—o'r hwn, ryw ddydd a ddaw,
Y saetha taranfolltau ar dy siol;

A phrofi gai mai'n llawer iawn rhy ddrud
Y prynaist berl dysgleiria 'th goron, fel
Yr haeri di, trwy dwyll yn Eden gynt.
Cei wel'd a phrofi y buasai'n well
It' wrandaw ar fy llais a'm cynghor i,
A bod yn llonydd—peidio ail gyffroi
Yr Hollalluog i ddigofaint mwy,
A pheri iddo gau ei ddwrn, a rhoi
Ail ddyrnod iti, trymach nag o'r blaen.
Oni bai mai casach genyf Dduw a dyn
Na thi, er cased wyt, mi garwn wel'd
Dy ben, dan sangiad 'Had y wraig,' yn friw;
Ac agos na ddymunwn weled Iob
Yn bwrw careg eto i'th dalcen balch,
Os cynnyg ail ymosod arno wnai.
Os felly gwnai, mae'n sicr mai felly fydd."

Tra Asmodeus fel yna'n bwrw'i lid
Tu ol i orsedd Satan, wrtho'i hun,
'Roedd Mammon gyfrwys, yntau'n traethu'i farn
Ger bron y cynghor. Meddai ef fel hyn:—
"O Satan, frenin mawr! bydd di fyw byth,
A'th orsedd byth yn gadarn, gadarn boed;
A sicrhäer dy lywodraeth di,
Ac ar d' amcanion bydded llwydd didranc!
Fy meddwl ar y pwnc dan sylw yw,
Na ddylem ddim petruso moment ar
Y cwestiwn, p'un ai ail ymosod ar
Iob, ynte peidio, fyddai doethaf in'.
Ni ddylem, meddaf—dyna 'm meddwl i—
Betruso dim, na gorphwys dim ychwaith,
Nes dial y trychineb a'r sarhad
A daflwyd arnom gan y gŵr o Us.
Mae'n rhaid amddiffyn bri y faner ddu,
Ac enw ac anrhydedd uffern fawr,

A throi buddugol gerddi engyl nef
Yn chwerw dristwch ac wylofain prudd:
Mae adsain eu goroian hwy'n y nef,
Yn disgyn ar fy nghlust y fynyd hon;
Ac ni bydd diwedd i'w llawenydd hwy,
Hyd nes y byddo ini dalu'n ol,

A chladdu'n gwarth mewn buddugoliaeth fwy.
Ond am y llwybr goreu i fyn'd o gylch
Y gorchwyl hwn, a'r modd tebycaf i'w
Effeithiol ddwyn i ben, gwell gwyddost ti,
O Satan frenin! na nyni'n ddiau.
Ond meddwl 'roeddwn i ryw beth fel hyn:—
I un o honom fyn'd at Zimraim,
Tywysog tir Caldea—arall i
Ymwel'd â Sepho, penaeth Seba—ac
Eu hannog hwy i fyn'd at benaeth Seir,
Sef Iob, a chynnyg adfer iddo'n ol
Yr oll o'i olud ladratesid gan
Eu deiliaid hwy oddi arno'r dydd o'r blaen;
A chynnyg hefyd iddo lawer iawn
O aur ac arian, i'w ddyhuddo ef
Am y sarhad a'r golled gawsai; ond
Yn unig ar yr ammod iddo wneyd
A hwy gyfammod sicr, a chynghrair hedd;
A thyngu er cadarnhau'r cyfammod hwn,
Yn enw Bel, a Nebo, 'u duwiau hwy,
Pe gwnelai hyny, byddai cystal llawn
I'n pwrpas ni, a phe melldithiai Dduw.
A chredu'r wyf, pe'r brofedigaeth hon
A roi'd o'i flaen, y syrthiai yn y fagl.
Mor belled hyd yn hyn ag gellais i
Adnabod c'lonau meibion dynion, mae
Gan wen y byd a'i lwydd ddylanwad mwy
A chryfach arnynt hwy nag fedd ei wg
A'i adfyd; ac mai haws eu hudo â'r naill
I ddrwg a phechod, nag eu gyru â'r llall."

"Ha! Mammon, Mammon!" ebe Satan, " mae
Pob gair a dd'wedaist heddyw'n deilwng o

Dy enw a dy ysbryd di erioed.
Mae genyt ffydd a chred ddiysgog yn
Nylanwad aur ac arian—golud byd
I hudo a maglu dynion i bob drwg.
'Run ffordd sydd genyt ti i faglu pawb,
A'u hudo ar gyfeiliorn, ac i wae:—
Aur, arian, golud, elw, parch, a bri,
A fynit osod o flaen pawb'r un wedd:
'Rwy'n addef hyn, mai mewn cant namyn un
O amgylchiadau y gellit lwyddo'n wir,
Gan mor dueddol ydyw calon dyn
I garu hwnw—'r melyn glai, sef aur.
Ond gwyddost fod eithriadau i'r rheol hon,
Ac eithriad iddi'n ddiau ydyw Iob.
Pe ar ei olud buasai'i galon ef,
Rhegasai gyneu, pan y collai'r oll;
A chan na regai wedi colli'r cwbl,
Ni thyngai'n enw Bel a Nebo chwaith,
Er mwyn cael eto'r cwbl a gollai'n ol.
Ti weli, Mammon, nad ar olud mae
Ei galon ef, nac ar ei blant ychwaith;
Mae gwraidd ei grefydd rhaid im' addef hyn—
Yn ddyfnach nag y tybiais i eu bod.
Ond eto, nid wy'n digaloni dim
Nad allaf gloddio tanynt cyn bo hir;
Nid ydynt ddyfnach—credu 'rwyf yn gryf—
Na'i groen a'i gnawd, ond mynaf wybod p'un.
Ond eto'r wyf yn cym'radwyo'n fawr,
Dy wrolfrydedd a'th eiddigedd di,
Tros achos ac anrhydedd uffern, fel
Na fynit ddigaloni a llwfrhau,
Er gorfod ini unwaith gilio'n ol:
Ond adnewyddu'r ymdrech a'i pharhau,
Nes ennill coron buddugoliaeth lawn.
Hyderaf nad oes un o honoch oll
Yn anghytuno'n hyn a Mammon ddewr,
Oddigerth Asmodeus—I b'le'r aeth O?—
Ha! gwelaf ef yn llechu o'r tu cefn
I'm gorsedd i, i sori wrtho'i hun.

Wel, gadewch iddo; arnaf fi gwrandewch;
Mi hoffwn i chwi wneyd a alloch oll,
I ysbrydoli dynion yn mhob man,
Ag ysbrydoliaeth cynghor Mammon gall:
A llenwi fel chwysigen lawn o wynt,
Bob calon ddynol hyd y dalio hi
Ag hunanoldeb, uchelfrydedd, ac
Annioddefgarwch, dialfrydig, nwyd,—
Yr ysbryd losgo mewn cynddaredd, dan
Yr hyn ystyrio yn sarhad i'w fri.
Fe dyf oddiar y gwreiddiau hyn bob drwg—
Ymryson, a chynhenau, terfysg, llid,
Ymddial, a rhyfeloedd yn barhaus
Rhwng gwlad a gwlad; nes llenwi'r ddaiar â
Chelanedd, ac a thrais, fel byddo'i drych
Yn bleser i ni edrych arno ef;
A gwel'd ein delw ynddo, a phob un
O feibion dynion megys cythraul bach
Mewn cnawd. Bydd felly ein llywodraeth ni
Mewn rhwysg a llwyddiant ar y ddaiar mwy.
Bygythiai 'm gelyn gynt, gwnai Had y Wraig
Ysigo 'm pen ryw bryd; ond mi nid wyf
Yn prisio am dano, nac yn ofni dim.
Ysigo 'mhen a raid arwyddocau
Dinystrio fy llywodraeth yn y byd,
Os oes rhyw ystyr hefyd iddo ef.
Ac felly, rhaid i hwnw, Had y Wraig,
Gyhoeddi egwyddorion hollol groes
I'r eiddof fi, a chroes i natur dyn;
Rhaid iddo ddysgu dynion oddef cam,
A phob sarhad yn dawel a digwyn;
A thalu da am ddrwg, a serch am gâs.
Pan welwyf finnau'r egwyddorion hyn
Yn ennill tir, a llwyddo yn y byd,
Bydd hyny'n wir i mi'n ysigiad pen;
Ond hyn ni welaf fi na chwithau byth.
Rhyw orchest fwy nag wnaeth y nef erioed,
Fydd dysgu dyn i 'mostwng i'r fath ddeddf:
Os hawdd y gellais i yn Eden gynt,

I hudo'r cyntaf ddyn i dori'r ddeddf
A rwymai'i galon ef wrth orsedd Duw,
A gwneuthur megys Duw o hono'i hun,
A bod yn annibynol Arglwydd ar
Y ddaear fawr, a'i chreaduriaid oll;
'R oedd genyf fantais fawr i wneuthur hyn,
Fel gellwch weled. Fe ymddengys i
Greadur yn ddymunol iawn i fod
Yn dduw, yn arglwydd annibynol, a
Bod megys yn ganolbwnc iddo'i hun;
A phob awdurdod felly yn ei law.
Ond caffael ganddo 'mwadu ag ei hun,
A goddef anfri, heb roi sen am sen;
A gwrthwynebu drwg trwy wneuthur da,
Sydd yn beth arall hollol, ac yn beth
Na wnaf fi byth, ac na wna dyn ychwaith.
A heriaf hwnw, Had y Wraig, os gall,
Pwy bynag yw, a pha bryd bynag daw—
Os gall, gosoded deyrnas yn y byd,
A llywodraethed feibion dynion ar
Yr egwyddorion annaturiol hyn.
Nes gwnelo hyn, dïogel yw fy mhen,
A chwbl gadarn yw 'm gorseddfainc hon."

"Y ffwl!" ebe Asmodeus ynddo'i hun,
"Ti ge'st ar faes y frwydr heddyw brawf
O allu'r nef i godi a nerthu dyn
I weithio'r egwyddorion yna oll
Mewn ymarferiad allan yn eu grym.
Gwnaeth Iob yn llawer mwy nag Adda gynt
Yn ei berffeithrwydd; ac yn fwy na thi
A'th holl ddichellion a'th ddyfeisiau i gyd.
Y gallu hwnw a adferodd un,
Mae'n gasgliad teg, a hawdd i bawb ei wel'd,
Y dichon adfer mil, a myrdd, a mwy,—
Y byd i gyd, mor hawdd ag adfer un.
Ond nid mor ddall ag gallem dybio wyd;
Ac nid mor ddeillion ydym ninnau chwaith,
Ag tybit tithau'n bod, pan ydwyt yn

Ymdrechu'n twyllo gyda geiriau gwag,
I gredu bod d' orseddfainc di uwchlaw
Pob perygl dadymchweliad bellach byth:
Pan mewn gwirionedd, ofn a barai it'
Lefaru fel y gwnaethost ti yn awr.
Fe suddodd hen fygythiad Eden gynt,
Fel saeth adfachog i dy galon, do;
Ac onide, ni chlywsit di yn son
Am dano air ar yr amgylchiad hwn.
Mae gwaed y clwyf roes hwnw i dy fron,
Yn nawsio allan'n awr ac eilwaith, pan
Daw rhyw amgylchiad i'w gyffyrddyd ef,
Fel heddyw yn amgylchiad Ioby bu.
Ac mor ddolurus ydyw'r archoll hwn,
Fel y llesmeiriaist pan gyffyrddwyd ef!
Nid oedd yr hyn a brofaist heddyw ond
Rhyw ernes fechan o yr hyn y sydd
Yn d'aros di, a ninnau i'th ganlyn oll,
O ddinystr, o gywilydd, gwarth, a gwae;
A hyn nis gelli ei guddio rhagom ni,
Na'i guddio rhagot ti dy hunan chwaith."

Fel yna Asmodeus:—ac yr un pryd,
'R oedd Satan yntau'n traethu'i gynllun ef,
I ail ymosod ar, a threchu Iob.
"Fel hyn, fy ngweision," ebe ef, " y gwnaf:—
Y seithfed dydd, ymgynnull meibion Duw,
I gydymddangos ger ei orsedd ef:
Af finnau hefyd yno yn eu plith,
Mor hyf a hoew ag yr aethum gynt:
Ac odid na edliwia Iôr i mi

Fy methiant gyda Iob y dydd o'r blaen:
A heriaf finnau ef i wneyd un prawf
Yn ychwanegol eto arno ef.
Nad oedd ei waith yn moli fel y gwnai,—
Yn lle melldithio, ddim ond profi'i fod
Yn llawn o hunanoldeb, nid o ras.
Gan iddo ddianc yn groen iach ei hun,
Yn nydd y dystryw, ef ni phrisiai ddim

Am olud, nac am blant, dim oll, na neb,
Ond os cyffyrdda ef a'i groen a'i gnawd,
Cä wel'd yn fuan, fuan, yn ddiau,
Mai yn ei groen a'i gnawd mae'i grefydd oll,
Ac mai'i felldithio yn ei wyneb wna.
Os gwrthyd ef gydsynio i wneyd y prawf
Hwn arno, yna, honaf fi fy mod
Yn gwbl hollol wedi cario'r dydd;
Gan y bydd hyny yn eglur brofi hyn—
Y gwyddai Duw ei hun yn eithaf da,
Na ddaliai'i grefydd brawf o'r natur hwn;
O herwydd hyny y gommeddai wneyd.
Ond os efe a'i dyd ef yn fy llaw
I unwaith eto i'w gystuddio ef,
Bydd gwae i'w esgyrn, ac i'w groen a'i gnawd;
Mi gasglaf hadau pob afiechyd blin,
A haint, a phla, a dolur, sydd yn bod;
A berwaf hwynt yn nghyd i'w gwneyd yn drwyth
Wenwynig gref, i'w thywallt am ei ben,
Nes bo'n gornwydydd llidiog trosto oll,
O'i goryn hyd ei sawdl, a llosgfëydd
A gwewyr tost yn treiddio trwyddo i gyd.
Holl lestri'i gyfansoddiad wnaf yn llawn,
Bob un hyd at yr ymyl o ddirboen;
Ei ferwi wnaf mewn gofid ac mewn ing,
Nes cynddeiriogi'i enaid ynddo ef,
I ladd ei hunan a melldithio Duw.

"Yn awr, fy ngweision, beth dybygech chwi
O'r cynllun hwn a ddodais ger eich bron?"

"Rwy'n codi eto," ebe Mammon gall,
"I dynu fy nghynnygiad i yn ol;
Mae'n harglwydd frenin Satan wedi'm llwyr
Foddloni, mai ei gynllun ef yn wir
Yw'r goreu o lawer iawn; a'r goreu oll
A ellid byth ddyfeisio; ac nid oes
Gan hyny angen am gynllunio mwy.
Y fath gynlluniad,'n ol fy meddwl i,

Ni ddichon fethu yn ei amcan ddim."
A hyn, cytunai'r cynghor oll, a hwy
Ar amnaid Satan, aethant bawb i'w fan.


RHAN IV.

DEFNYDD. Meibion Duw yn dyfod i ymddangos ger ei fron—myrddiynau o angelion, ac yn eu plith ychydig o brynedigion oddi ar y ddaiar, yn ysgub blaenffrwyth cynhauaf mawr o waredigion. Satan yn ymdeithio tua'r cyfarfod, gan ymsynio pa un oedd oreu iddo, ai rhoddi i fyny yr ymdrech yn erbyn Iob, ai peidio—yn penderfynu gwneuthur ail gynnyg, ac yn ymddangos yn y cyfarfod, pan oedd angel a ddaethai y bore hwnw o wlad Us yn adrodd fel yr oedd Iob yn parhau yn ei berffeithrwydd—teimladau Satan ar yr achlysur—yr Arglwydd yn ei holi—ateb Satan—yn cael caniatâd eto i gystuddio Iob. Syndod y nefol deuluat yr oruchwyliaethyr Arglwydd yn eu dysgu i ymdawelu, ac yn addaw terfyniad dedwydd i'r amgylchiad—hwythau yn ymgrymu, ac yn addoli. Satan yn prysuro at dy Iob—yn cyfarfod â mintai o Edomiaid ar y ffordd, y rhaia adroddent wrth eu gilydd hanes trychineb a duwioldeb Iob—hyny yn ffyrnigo Satan yn fwy—efe yn codi cwmwl o niwl, ac yn marchogaeth ynddo at dy Iob, ac yn ei ganfod tan gysgod llwyn yn yr ardd yn cwyno ei ofid wrth Dduw—Satan, wrth ei glywed yn benditbio Duw drachefn, yn ymgynddeiriogi—. yn cymmysgu cyffaith gwenwynig â'r awyr, wrth anadlu yr hwn y mae Iob yn teimlo rhyw iasau dyeithrol yn myned trwyddo yn myned i'r ty—ei boen ddirfawr—ei wraig yn dychrynu—efe, gan ei ysfa boenus, yn myned allan ac yn eistedd yn y lludw—ei wraig, dan ddylanwad Satan, yn dyfod ato, ac yn ei gynghori i felldithio Duw, a marw—ateb Iob iddi—gorsyndod Satan wrth ei glywed—ei chwerwon fyfyrdodau—yn myned adref i annwn, ac yn adrodd fel buasai; ond nad oedd wedi rhoddi ei obaith i fyny na lwyddai—teimladau'r cynghor—Mammon—Asmodeus.

Y DYDD nodedig ddaeth i feibion Duw
I ddyfod i ymddangos ger ei fron;
O holl daleithiau ei lywodraeth fawr,
Ymgasglai'r etholedig deulu 'nghyd,
Yn dorf aneirif ogoneddus iawn,
Mewn gwisgoedd gwynion o sancteiddrwydd pur:
Myrddiynau o fyrddiynau oedd eu rhif—
Rhifedi nas gall neb ei rifo byth:
Angelion, archangelion, sereiff, a
Cherubiaid, thronau, arglwyddiaethau'r nef;

A phrynedigion, rai, o'n daiar ni,
A welid yn eu plith, fel ysgub fach
Cyhwfan blaenffrwyth y cynhauaf mawr
A gasglai dwyfol ras trwy oesau'r byd.
Y blaenaf yn y dyrfa fechan hon,
Oedd Abel gyfiawn—cyntaf un erioed
Brofasai angeu, ac a aethai i'r nef.
'Roedd Adda ac Efa, ein cynriaint ni,
A'r pechaduriaid cyntaf, yno er
Syrthio, wedi 'u codi, a'u cadw trwy
Eu ffydd yn yr addewid—" Had y wraig.".
'Roedd yno un a dynai sylw mwy
Na'r lleill i gyd, sef Enoch, am ei fod
Mewn ffurf a gwedd wahanol iddynt oll—
Yr unig un mewn corff, yn mysg y llu
Hwn o ysbrydion pur; a safai ef
Yn anghraifft a chynddelw ger eu bron,
O'r hyn a fydd y dorf brynedig oll
Yn moreu'r adgyfodiad olaf, pan
Mewn buddugoliaeth llyncir angeu'i hun;
A'r hyn sydd farwol, gan y bywyd pur,
Didrai, didranc, a geid trwy angeu'r groes.
Ychydig nifer ydoedd gyda hyn
Yn gwneyd i fyny gynnulleidfa'r saint;
Hen batriarchiaid cyn y diluw, rai,
A rhai ar ol y diluw—Abraham,
Ac Isaac, Iacob, Ioseph—nifer fach,
Yn ernes torf na ellir rifo byth.
Arweiniai'r dyrfa fechan hon o saint
Y gogoneddus lu o engyl glân,
Yn y gwasanaeth o addoliad pur
Gyflwynid ganddynt heddyw ar allor Duw.

Cychwynai Satan, yntau,'r bore hwn
I'w daith, a'i wedd yn dangos pryder trwm
Ei feddwl e' 'nghylch llwyddiant gwaith y dydd.
Ymdeithiai'n araf ambell ennyd, fel
Mewn cyfyng—gynghor, p' un ai myn'd ymlaen,
Ai troi yn ol, a rhoddi fyny wnai.

Bryd arall, saethai 'mlaen yn gyflym wyllt,
Fel un ar ddirfawr ffrwst, neu fel y gwalch
Pan yn ymsaethu trwy yr awyr at
Ysglyfaeth a ganfydda ar y llawr.
Fel hyn, ymdrechai megys rwygo'i hun
I ffwrdd, a dianc o grafangau'i ofn
A'i bryder dwys; ond glynu ynddo wnaent.
O'r diwedd, safai, ac och'neidiai'n ddwfn—
"Pa beth a wnaf?" eb ef, "P'un oreu im',
Ai myned ac ymddangos ger bron Duw,
Ai troi yn ol i annwn?—Hyn, pe gwnawn,
Mi allwn drwsio stori ddigon teg,
I dwyllo 'm gweision, trwy ddyweyd fel hyn—
I'r Arglwydd wrthod gwrandaw ar fy nghais
I brofi Iob drachefn, fel mynwn i.
Yn wir, nid dwl oedd cynghor Asmodeus,
Can's iacha croen yw croen yr ofnus llwfr;
Ond, na, ni thâl i mi wneyd felly chwaith,
Daw'r hanes allan, a chaiff uffern oll
Wybyddiaeth o'r gwirionedd fel y bu;
Gwanhäi hyny eu hymddiried hwy
Yn fy ngwrolder a'm doethineb i.
Ac heb law hyny, hwy oddiwrthyf fi
Gymerent siampl, i esgeuluso gwaith
A fo anhawdd i'w wneyd, a ffugio rhyw
Gelwyddog esgus; ac ni allwn mo'u
Ceryddu hwy am wneyd, 'rol gwneyd fy hun
Y cyfryw beth; a hyn ddannodent im',
A syrthiai fy awdurdod felly i lawr.
Er nad oes genyf barch na serch i'r gwir,
Rhaid iddi fod yn gyfraith rhyngom ni
Gythreuliaid, bawb i ddweyd y gwir bob pryd
I'n gilydd acw'n uffern, ac i ddweyd
Wrth ddynion ar y ddaiar gelwydd, twyll;
Can's celwydd, ar y ddaiar, ydyw sail
Fy nheyrnas a'm hawdurdod yno—ac
Y gwir yn uffern; can's fel hyn y mae
Y peth yn bod: trwy gelwydd 'rwyf yn lladd
Plant dynion ar y ddaiar, a thrwy'r gwir

Y'u lladdaf yma'n uffern wedi hyn.
Trwy gelwydd, ar y ddaiar, gallaf fi
Gyflawnu f' amcan—damnio dynolryw;
Ac os â'r galon, credu celwydd wnant,
A'r tafod traethant ef yn rhwydd drachefn,
Ac felly hwy a'n cynnorthwyant ni
I ddamnio 'u gilydd, a sarhau y nef.
Ond os trwy gelwydd twyllo'n gilydd wnawn,
Fe saif ein gwaith, a chelwydd felly dry
'N offeryn dinystr i'm hawdurdod i.
Na, na! fel hyn 'rwy'n gwel'd rhaid iddi fod—
I gythraul ddweyd y gwir wrth gythraul; ac
Wrth ddynion, gelwydd faint y fyno ef.

"Pe digaloni wnawn, a throi yn ol,
Ac addef hyny, byddwn byth tan warth,
Fel ysbryd llwfr, digalon: O! na, na!
Rhaid imi fyn'd yn mlaen â'r antur hon,
A bydded y canlyniad fel y bo.
Os methu wnaf, bydd hyny yn sarhad
A cholled, fel y sylwai Asmodeus;
Ond os ar ol ymroi i'r antur hon,
Ger bron fy llys, ei rhoddi i fyny wnaf,
Bydd fy sarhad a'm colled i yn fwy.
Gan hyny, rhaid im' fyn'd—a myn'd yr wyf."

Fe deimlai Satan radd o ysgafnhad
I'w feddwl, wedi iddo unwaith dd'od
I gyflawn benderfyniad beth a wnai;
Can's poenus iawn i gythraul, fel i ddyn,
Yw cyflwr o ammheuaeth, ac o ofn,
Ac ymladd rhwng dau feddwl dan ei fron,
A methu penderfynu beth i'w wneyd.
Mae e'n rhy gall i oddef iddo'i hun
I aros yn y cyflwr hwn yn hir;
Fe wel mai colli amser ydyw hyn,
I wneuthur dim ond ymladd â fo'i hun.
Ond yn y fagl hon y mynai ef ddal
Pob enaid dynol, tra parhão'i oes.

Ni fynai demtio'r dyn i dyngu llw
O anufudd—dod a gwrthryfel, byth
Yn erbyn nef, a phenderfynu byw
A marw yn ei bechod; canys gwel
Y gallai'r fath demtasiwn beri braw
I'r enaid, nes, fe allai, neidiai'n ol
Oddi wrthi am ei fywyd, ac mai ffoi
O'i afael a'i wasanaeth wnai at Dduw
Fodd bynag, Satan yn ei flaen a aeth,
Ac ymddangosai eto ger bron Duw,
Fel gwnaethai gynt, y'mhlith ei feibion ef
Pan aeth i mewn, 'roedd angel ddaethai o
Wlad Us, y bore hwnw,'n adrodd i'r
Cyfarfod, fel y daliai Iob ei dir
I ganmol a bendithio Duw o hyd:
Er maint ei golled ef, a'i alar am
Ei anwyl blant, na dd'wedodd eto air
Grwgnachlyd, ac na roisai'n ynfyd ddim
Yn erbyn Duw; ond bod ei wraig ef braidd
Yn chwerw'i hysbryd, ac yn achwyn peth
Fe ddaliai Satan afael ar y gair
A ddywedasai'r angel am y wraig:
"Wel diolch iti, angel," eb efe,
Yn ddystaw ynddo'i hun: "Ti roddaist im',
Yn ddiarwybod hollol it' dy hun,
Awgrymiad allai fod yn help i mi:
Trwy'r wraig yn Eden, twyllais i y dyn,
I fwyta ffrwyth y gwaharddedig bren
A thrwy ei wraig, fe allai, temtiaf Iob
I wadu'i grefydd, a melldithio Duw
Y mae dylanwad merched Efa fyth
Yr un ar feibion Adda yn parhau,
Ag oedd dylanwad Efa arno ef
Ond bid a fyno, os cyfleusdra gaf,
Mi ymosodaf arno trwy y wraig:
Ond mi gaf weled eto fel y try
Yr amgylchiadau allan—yn mha fodd
A dull y gallaf ei defnyddio hi."

Ar ol i'r angel ddaethai o wlad Us
Adroddi'i genadwri ef am Iob,
Arwyddion o lawenydd welid ar
Wynebau'r dyrfa nefol oll i gyd;
A throes pob un ei wyneb tua'r fan
Y safai Satan; a chawodydd o
Olygon treiddiol syrthient arno ef,
A saethent iasau trwy ei natur, nes
Echrydai drosto, ac y teimlai mai
Rhyw le ofnadwy ydoedd hwnw'n wir!
Ond y golygon Hollwybodol oedd
Yn fwy ofnadwy iddo ef na'r cwbl;
O herwydd ef a deimlai eu bod hwy
'N cynniwair trwy holl gellau'i galon ddofn—
Yn canfod pob dychymyg oedd o'i mewn,
Ac nad oedd dim a allai gelu o'u gwydd.
Prin iawn y gallai'i archangelaidd nerth
Ei ddal rhag suddo i lawr, neu ffoi o'r fan
Lle 'roedd y Duwdod ynddo'n rhoddi'r fath
Danbeidiol amlygiadau o hono ei hun.
Ond ynddo'i hunan, fe ymsyniai hyn:—
"Ni waeth im' yma, na rhyw arall le;
Af fi lle'r elwyf, daw golygon Duw
I'm herlyn, ac i'm herlid i o hyd.
Ni th'wlla'r t'wllwch eithaf rhagddo ddim;
Fe wel trwy dewdwr torau tarian hwn
'Run fath ag yn ngoleuni'r nef ei hun.
Ond hyn o fantais sydd yn uffern ddofn,
Er iddo ef fy ngwel'd i yno, fel
Y gwel fi yma, mi nis gwelaf ef
Yno'r un fath ag gwelaf ef yn awr.
Ofnadwy'n uffern yw; ond llawer mwy
Ofnadwy yw yn nghynnulleidfa'r saint!
Gan imi ddyfod, mi ni thrôf fy nghefn,
Nes gwel'd y diwedd, deued fel y del."

Bu gosteg yn y llys: ac ebe Ior,
"O ba le heddyw, Satan, daethost ti?"
"O dramwy'r hyd y ddaiar, ol a blaen,"

Atebai Satan, "fel'r wy'n arfer gwneyd."
"A ddeliaist sylw heddyw ar fy ngwas,
Sef Iob?" gofynai Ior, " yr hwn y sydd
Yn ei berffeithrwydd eto yn parhau,
Er haeraist ti fel arall dro yn ol,
I'm hannog i'n ei erbyn, ac er cael
O honot dy ewyllys arno ef?"

"O!'r wyf yn gwel'd pa fodd mae'r peth yn bod,"
Atebai Satan, "Croen am groen—pob peth
A fedda gŵr, ef am ei einioes rhydd.
Gan iddo yntau ddianc yn groen iach
Ei hunan, wel, aed pobpeth gyda'r gwynt!
Ei holl addoli, nid yw'n profi dim
Ond hunanoldeb mawr ei galon ef;
Ac os nad yn ei olud nac ei blant
Mae gwraidd ei grefydd, 'rwyf yn sicr mai
Yn ei groen mae hi'n gryno–
Gwn nad yw is na'i gnawd o.
Gyr yn awr trwy ei groen iach
Ddeifiol gornwydydd afiach;
A gwaew i gnoi giau ei gnawd,
Byw weli trwy bob aelawd;
A hen dwyll calon y dyn
A gwyd i'r golwg wed'yn:
Fe reg, yn lle 'th fawrygu,
Rhydd felldith yn ddarlith ddu;
Cableddion yn union naid
I'th wyneb o'i boeth enaid;
A gwelir yn y golau
Mai twyllwr yw'r gwr a gau."

Wel, unwaith eto, Satan," ebe Duw,
" Rho'is ef i'th law i wneuthur arno ' r prawf.
Cei wneyd yr oll a fynit iddo, ond
Yn unig dwyn ei einioes.—Ymaith,—dos."
Edrychai'r nefol deulu fel yn syn,
I'r Arglwydd roddi eilwaith Iob yn llaw
Ei elyn i'w gystuddio; canys hwy

A wyddent mor gynddeiriog oedd ei fryd,
Ac mor alluog, ond cael caniatâd,
Oedd ef i ddrygu a thrallodi dyn.
Edrychent ar eu gilydd gyda gradd
O bryder, a dyfalwch, megys rhai
Yn methu deall y drafodaeth hon.
Deallai 'u Tad fod hyn yn d'rysu'r plant—
"Pa ymresymu'r ydych ?" eb efe,
"Yn eich calonau? Ydyw hyn, fy mhlant,
Yn d'rysu 'ch dealldwriaeth, ac uwch law
Eich holl ddirnadaeth, fel na ellwch wel'd
Mai doeth a da yw'r oruchwyliaeth hon ?
Mi wn ei fod; a'r hyn yr ydwyf fi
Yn awr yn wneyd, chwychwi ni wyddoch ddim;
Ond chwi gewch wybod eto ar ol hyn;
Ac hyd nes delo'r oruchwyliaeth i
Derfyniad, dysgwch chwi ymddiried yn
Fy nghadarn allu a'm doethineb i.
Cewch ganfod yn y diwedd fel y tyr
Goleuni allan o'r tywyllwch hwn:
Gogoniant mawr i'm henw i a'm gras:—
I Satan, warth, a chwilydd mawr, à som:—
Daioni mawr i Iob fy ngwas:—i chwi,
Lawenydd mawr, a thestyn newydd gân:—
Buddioldeb mawr i saint yr oesau ddel:
Bydd hanes Iob yn siampl iddynt hwy
O ddioddefgarwch, ac amynedd, ffydd;
O herwydd bydd yr hanes hwn ar gael
Hyd ddyddiau olaf amser yn y byd,
Fel colofn fawr o goffadwriaeth am
Y fuddugoliaeth a ennillai Iob
Yn nerth fy ngras ar uffern fawr a'i llid."

Ymgrymai'r gwyddfodolion oll i lawr
Mewn gwylaidd barch o flaen gorseddfainc Duw;
A chydatebent o un fryd, gan dd'weyd,
"O Arglwydd Ior! Pwy, pwy sydd fel tydi!
Dy farnau ydynt ddyfnder mawr—dy ffyrdd,
Anolrheinadwy ydynt, a throellog iawn;

A'u gwedd a'u gwaith i'w gweled megys pe
Golygem olwyn fawr yn troi, a'i chant
Yn ogyfuwch a'r nef, a lluaws o
Olwynion mân yn troi o'i mewn, a'r naill
Yn troi yn groes i'r llall, nes ydym ni
Yn synu,'n d'rysu,'n methu dirnad oll
Pa fodd nad ydyw un sy'n troi fel hyn,
A'r llall fel acw,'n hollol anghytun
A'u gilydd; a pha fodd y gallant ddwyn
I ben un amcan mawr a chysson trwy
Eu gwrthdroadau! Gwelwn hyn—eu bod
Yn llawn o lygaid tanllyd, craffus iawn,
Yn gwel'd i lawr, i fyny—ol a blaen—
O amgylch ogylch, fel nas dichon dim
I ddianc sylw eu golygon hwy;
Ac nad oes un or'chwyliaeth a gwblhant,
Yn dyfod o ddygwyddiad damwain ddall;
Can's ysbryd y peth byw'n eu canol sy,
Yn hwylio,'n trefnu, yn rheoli pob
Ysgogiad roddant, er cydweithio i ddwyn
Un dyben mawr, daionus, doeth i ben!
O olwyn fawr! O ddyfais ddofn! Nyni
Addolwn ger dy fron, ein Duw, ein Tad,
Heb ammheu, na rhyfygus farnu 'th ffyrdd;
Ac er nas gallwn ni eu dirnad ddim,
Yr ym yn credu eu bod oll yn iawn!
Y perffeithgwbl o wybodaeth wyt;
Doethineb ddigyfeiliorn feddi di;
Anfeidrol ydyw nerth dy gadarn fraich,
A chraig dragwyddol gadarn yw dy air!
Dy gynghor saif, a'th holl ewyllys wnai,
Gan droi cynddaredd uffern fawr ei llid
Yn gawod danllyd ar ei phen ei hun;
A dwyn gogoniant i dy enw mawr,
Drwy dd'rysu a dattroi'i dyfeisiau hi!
O! rhynged bodd i ti, Iehofah Dad!
I rasol edrych ar ein teyrnged hon
O foliant a gyflwynwn heddyw i ti!"

Aethai Satan allan o
Wydd Ion, ac oddi yno
I Us aeth, ar frys eitha',
Y tro hwn yn llawn traha
A malais. Ei gais gawsai,
A phrysuro'n union wnai,
I dywallt phiol dial,
Ei hen ddig, a oedd yn ddal
At was Ion, gan dybio'n deg
Ond odid, i fod adeg
Ei wynfyd ef (ynfyd oedd)
Wedi dod, ond nid ydoedd:
Yr adeg oedd i'w rwydo
Ef ei hun, a'i somi fo.

Pan ddeuai Satan i gyffiniau Us,
Canfyddai fintai o Edomiaid, draw,
Yn dyfod dan ymddyddan ar y ffordd.
Nesaodd yntau i wrando arnynt hwy—
A thestun eu hymddyddan ydoedd, Iob.
Adroddai'r naill i'r llall ei helynt ef;
Ei dywydd blin, ei alar trwm, ac fel
Yn nyfroedd dyfnion trallod chwerw, ' r oedd
Yn dal yn ei berffeithrwydd fel o'r blaen;
A bod ei grefydd yn dysgleirio mwy
Yn ffwrn ei danllyd brawf, nag oedd erioed
Yn amser goreu'i hawddfyd ef a'i lwydd.
Pan glywai Satan hyn, ffyrnigai ef,
Ac yn ei galon syniai—" Os nad wyf
Yn twyllo 'm hunan heddyw'n llawer mwy
Nag twyllais i neb arall eto erioed,
Cewch achos cyn bo hir i droi eich tôn
Am Iob a'i grefydd, ac i siarad wrth
Eich gilydd ar y ffordd, ac yn eich tai,
Fel bydd yn tyngu ac yn melldithio Duw.
Myfi, o Us nid ymadawaf ddim,
Nes golchi gwarth y dydd o'r blaen oddi ar
Fy enw a fy maner, a sicrhau
F'awdurdod eto'n gyflawn ar y byd;

A throi caniadau engyl nef yn och,
Ac ochain uffern, hithau,'n grechwen gref,
Pan glywont hwy yr hen addolwr mad
Yn rhwygo'r awyr â'i gableddau erch."

Fe godai Satan gwmwl tew o niwl,
A tharth, a thawch afiachus, ac yn hwn
(Fel cerbyd pur gyfaddas iddo ef,
Yr hwn'r oedd t'wllwch a thragwyddol niwl
Yn unig etifeddiaeth iddo byth)—
Yn hwn marchogai 'mlaen at dŷ y sant;
A chynllwyn megys llwynog wnai o'i gylch;
Gan spio ac ymwrando o fan i fan.
A chanfu Iob yn eistedd wrtho'i hun,
Dan gysgod llwyn o helyg yn yr ardd:
A neidiai Satan o'r tu ol i'r llwyn,
I ymglustfeinio, tra yr ydoedd Iob,
A'i ddeheu law yn cynnal pwys ei ben,
A'i wyneb tua'r llawr, yn traethu'i gwyn,
A'i ddygn ofid, wrth ei Dduw fel hyn:—

"Fy Nuw! Fy Nuw! mae'r oruchwyliaeth hon
Yn dywell iawn, a chwerw iawn i mi;
Ti wyddost mor ddrylliedig, ysig yw
Y galon hon—mae'n chwilfriw dan dy law!
Fe rua 'm henaid fel y môr o'm mewn,
Ymgyfyd fel gorllanw o flaen y gwynt;
Fel pe bai am ymdywallt allan oll
Yn ffrwd o gwyn a galar; eilwaith try
Ynol,felmôrardrai,yrhwnayf
Ei ddyfroedd heilltion oll i'w gylla'i hun.
Ymdreigla f'ocheneidiau'n dòn ar dòn―
Y naill yn gyru'r llall yn mlaen, a'r naill
Yn gwthio'r llall yn ol o hyd drachefn
Nes yw fy mynwes fel y traeth, a'r llif
Yn hyrddio trosti, heb orphwyso dim.
Ni ddichon geiriau byth, na dagrau chwaith,
Nac ocheneidiau, na gruddfanau ddim
At ysgafnhau y baich o ofid sydd

Yn llethu 'm hysbryd, gan ei wasgu i lawr.
Fy mhlant! Fy mhlant!—Fy Nuw! Fy Nuw! Pa fodd
Y gallaf ddal? Yr wyf yn methu dal!
'Rw'i'n suddo,'n d'rysu, yn llewygu'n lân—
'Rw'i'n boddi yn y dyfroedd dyfnion hyn!
Y ffrwd a lifodd troswyf—daeth i mewn
Hyd at yr enaid, a'm gorchuddio mae!
Gwnaeth tymmestl fawr yr oruchwyliaeth hon
Fy holl deimladau'n un gymmysgfa fawr;
Yn dryblith fel elfenau'r cread cyn
I Ysbryd Duw ledanu'i esgyll dros
Y dyfnder mawr, i ddwyn tawelwch trefn.
Fy meibion anwyl! a fy merched hoff!
Fy llygaid sydd yn pallu am danynt hwy.
A oes fath ofid a fy ngofid i?
Neu brofodd tad gyffelyb iddo erioed?
O! naddo, naddo!—mi obeithiaf na
Ddaw ei gyffelyb mwy i gwpan neb.
Fe wywai fy ngobeithion hoff bob un,
A fynwesaswn lawer blwyddyn faith;
Anadlodd awel o'r anialwch poeth,
Ac mewn un awr y cydwywasant hwy.
Pe'm hanwyl blant fuasent heddyw'n fyw—
Ond pa'm fel hyn gollyngaf fi y ffrwyn
Im' teimlad drylliog ?—maddeu, O fy Nuw!
Im' ollwng allan o, na goddef yn
Fy meddwl chwaith, syniadau o'r fath hyn;
Can's ti a roddaist, a thydi, fy Nuw,
Gymmeraist ymaith hefyd; a pha ham?
Pa achos sydd im' achwyn ? da, a doeth,
A pherffaith gyfiawn yw dy farnau oll.
Ymgrymaf eto i lawr wrth draed fy Nhad;
Rho'f fyny f'wyllys i'w ewyllys ef;
A d'wedaf eto dan y trallod hwn,
Byth fendigedig fyddo enw Duw!"

Ni allai Satan 'mattal ddim yn hwy;
Ymgynddeiriogai yn ei galon ddu:
"Ai dweyd fel yna eto wnai, ai ie?"

Ebe ef, "myfi a ddysgaf iti ddweyd
Fel arall cyn darfyddwyf a thydi."
Ac yna fe gymmysgai'i gyffaith du,
Gwenwynig, yn yr awyr dew o dawch
A oedd o'i amgylch, a gwasgarodd ef:
Anadlodd Iob, a theimlai achreth flin
Yn treiddio trwy ei gyfansoddiad oll;
Rhyw ias o gryndod, nes y teimlai'i waed
Yn fferu ac yn berwi bob yn ail.
Cyfodai fyny, ac ai rhyngddo a'r tŷ,
Gan roncian megys meddwyn ar ei draed.
Ei wraig a waeddai yn ei wyneb ef,
Gan mor ddyeithrol a dychrynllyd oedd
Yr olwg arno—'r fath gyfnewid gwedd!
Rhyw ysfa boenus gerddai trosto oll,
A thorai crawn dolurus yn ei gnawd;
Ni allai fod yn llonydd—allan ai
Drachefn, ac yn y lludw eistedd wnaeth;
Cymmerai gragen i ymgrafu â hi.
'Roedd Satan, yntau,'n brysur gyda'r wraig,
Yn gweithio ar ei nwydau i'w chyffroi,
A'i llenwi â meddyliau celyd iawn
Yn erbyn Duw, a'i ragluniaethau ef.
Ar ol ei gŵr, yn llawn o'r ysbryd hwn,
Aeth allan:—ar y domen gwelai ef,
Yn ymdrybaeddu mewn cornwydydd cas,
Ac eto yn bendithio Duw o hyd.
Yr olwg arno wywodd yn y fan
Bob serch, a chydymdeimlad—cariad gwraig
A dro'i'n ddygasedd yn ei mynwes hi.
Nesaodd ato, safodd uwch ei ben,
Ac ebai wrtho'n chwerw gas fel hyn:—

"Owr! ffei! a wyt mor ffol ?
A. wnai ddewis byw'n dduwiol?
Ai moli Ior eto'r wyt,
Yn wael adyn, fal ydwyt ?
Taliad go wael, ti weli,
Roes dy Ion i dy ras di;

Doethach yw it' felldithiaw
Yn bigog ei lidiog law;
A marw, yn ol fy marn i,
Ar unwaith o'th drueni."

IOB.


"Anfad iawn, ac ynfyd yw,
Yr addysg a roi heddyw:
Geiriau gelyn gwargaled,
Anwir, o dy enau red.
Nyni, os derbyn a wnawn
O'i ddaioni—Dduw uniawn,
Oni ddylem o ddwylaw
Ion doeth, dderbyn drwg pan daw?
Ac mewn adfyd, blinfyd blwng,
Yma ystwyth ymostwng
I ewyllys, a gallu,
A threfniad ein Ceidwad cu?
Ei gerydd ddaw o gariad—
Yr haint hwn a dry ein Tad
Ini'n win trwy rin ei ras,
O'i fodd mewn pryd cyfaddas.

Fy Ion doeth a fendithiaf,—yn ddilesg,
Doed a ddelo arnaf;
Byth yn Nuw gobeithio wnaf,
Hyd drwy angeu y trengaf!"

Fe safai Satan, pan y clywai hyn,
Fel delw, wedi ei syfrdanu ' n lân:
"Er pan wy'i'n Satan," eb efe, "'r fath beth
Ni welais, ac ni chlywais i o'r blaen!
Wel dyma'r tostaf, a'r cyndynaf oll
O feibion dynion gyfarfüm erioed!
Wel, melldigedig fyddo'r enw Iob!
Ond waeth im' dewi, bendigedig fydd!
Os t'rewais i ef â chornwydydd blin,
Tarawodd yntau finnau'n ol yn waeth
A'r geiriau olaf a lefarodd ef.

Ni wna na dwyn ei olud, lladd ei blant,
Na'i ferwi yn y gofid mwyaf fu;
A gwisgo cwrlid o gornwydydd tost
Am dano, nes yw'n ffiaidd iddo'i hun;
A chyda'r cwbl, ei demtio trwy y wraig:—
Ni lwydda dim, na'r oll o hyn ynghyd,
I beri iddo ymddigio wrth ei Dduw,
A throi ei dôn:—bendithio byth a wna.
Mae rhywbeth ynddo, îs na'i groen a'i gnawd,
Mae'n rhaid, mae'n rhaid i fod, ac onide,
Buaswn wedi'i drechu yn hir cyn hyn.
Beth yw y rhywbeth hwnw, mi nis gwn;
Ond hyn a wn, mae'n gryfach na myfi:
Mae'i wraidd yn ddyfnach yn ei galon nag
Y gallaf gloddio oddi tanynt hwy.
Gwae fi! gwae uffern hefyd! imi erioed,
I herio'r nefoedd i yr ymdrech hon!
Ond pwy allasai ddysgwyl y fath beth?
Tybiaswn, gan im' lwyddo'n Eden gynt
I hudo Adda,'r perffaith ddyn, i'm rhwyd,
Na safai byth drachefn un dyn o'm blaen;
Ond mae yn hwn, er yn anmherffaith, oes,
Rywbeth sy'n gryfach na pherffeithrwydd dyn
Yn ei berffeithrwydd crëedigol gynt.
Pa fodd yn uffern y dangosaf fi
Fy wyneb heddyw? a pha esgus wnaf
Fi dros y methiant anffortunus hwn ?
Mae genyf hyn o wynfyd wedi'r cwbl,
Sef gwel'd ei adfyd, a'i drueni blin;
Ac nid wyf eto'n rhoddi i fyny'n lân,
Na phalla ei amynedd yn y man.
Pan fwydo'i enaid 'chydig eto yn
Y pair o ofid tost mae ynddo'n awr,
Ond odid fawr na chwerwa'i ysbryd ef
Gan ddirdyniadau'i boenau ddydd a nos,
A cholli'i gwsg, a cholli pob mwynhad,
Fe dd'rysa ei synwyrau cyn bo hir,
A throi i gablu, 'rwy'n hyderu wna."

Aeth Satan adref, a deallent oll
Yn annwn, wrth yr olwg gyntaf gaent
Hwy ar ei wedd, nad oedd un newydd da
I'w ddysgwyl ganddo; ond 'roedd arnynt ofn
I ofyn iddo—cilolygon wnaent,
Arwyddent bryder ymofyngar iawn
Am wybod beth fuasai, a pha fodd.
Deallai Satan eu meddyliau hwy,
Ac meddai wrthynt—"Er na allaf ddweyd
Im' lwyddo ' n hollol fel dymunwn i,
Mae gobaith da yn awr mai llwyddo wnaf
Hyd eithaf fy nymuniad cyn bo hir.
Gadewais e'n gornwydydd trosto i gyd,
Yn ysu ac yn dyddfu gan ei boen,
Yn cwyno ac yn ochain yn ei wae,
Fel byddai ' n bleser calon i chwi oll
Ei weled ef, a chlywed sain ei gri.
'Rw'i'n bur hyderus fod y ddogn gref
A roddais iddo,'n dechreu gweithio'n awr;
Y'mhen ychydig amser, try o'i fewn
Fel bustl aspiaid, a thyr allan yn
Llwon a chableddau yn erbyn Duw.
Gadawaf ef am dymmor, fel y gwna
Y meddyg ado'r claf, ac äf yn ol,
Fel yntau, eto i ail ymweld âg ef;
A chredu 'rwyf, bydd genyf newydd da
I'w adrodd i chwi y tro nesaf; ond
Beth bynag, câf ei boeni yn barhaus."
Och'neidio wnaethant, pan y clywsant hyn
Gruddfanai Mammon:—gwenai Asmodeus,
Gan sibrwd ynddo'i hun, "'Does fater ddim—
Mi dd'wedais i mai felly fyddai, ond
Tydi ni fynit wrando ar fy llais.
'Rwy'i'n hŷn mewn synwyr, ac yn hwy o ben
Na thi; a gwell yw gwrando cynghor hen,
Na'i faeddu a'i ddirmygu, fel gwneit ti."


RHAN V.

CYFEILLION Iob, wedi clywed am ei drychineb, yn dyfod ato i gydymdeimlo âg ef, ac i'w gysuro—eu syndod a'u braw pan ddaethant i'w olwg—saith niwrnod o ddystawrwydd. Satan yn sefyll o'r neilldu, i ymwrando ei syndod o herwydd dystawrwydd Iob a'i gyfeillion. Ar fore yr wythfed dydd, y mae Iob yn agoryd ei enau i draethu ei gwynion—ei gân alarus ar ddydd ei enedigaeth. Satan, ar ei dechreu, yn hyderus o lwyddiant ei amcan arno—ei somedigaeth eto. Cyfeillion Iob yn troi yn gysurwyr gofidus iddo, gan ei gyhuddo o fod yn rhagrithiwr, ac yn euog o ryw bechodau ysgeler, fel yr achosion o'i aflwydd efe yn dadleu ei burdeb a'i ddiniweidrwydd. Satan yn gosod Belial i wylio Iob, ac yn ei adael am dymmor, ac yn myned i rodio ar ei ben ei hunan yn Anialwch Arabia—ei fyfyrdodau yno—Belial, yn mhen ysbaid, yn myned ar ei ol, â chenadwri iddo—ymddyddanion y ddau yn nghylch Iob—hwynthwy yn dychwelyd yn ol at Iob drachefn yn canfod Iob o bell yn dyrchafu ei law wrth gyfarch ei gyfeillion, a hwythau yn prysuro i wrando. Cân Iob i'w Brynwr byw—wedi gwrando yr hon y mae Satan yn hollol anobeithio am lwyddiant ei anturiaeth—ei ofid a'i gynddaredd o herwydd hyny—efe a Belial yn ymadael—eu hymddyddanion â'u gilydd ar eu ffordd adref i Annwn.

YMDAENAI'r hanes am drychineb Iob
Drwy'r dwyrain fro yn agos ac yn mhell;
A daeth i glustiau ei gyfeillion ef,
Eliphas, Bildad, Sophar, a hwynthwy,
O serch caredig at eu cyfaill mâd,
A ddaethant ato i gydymdeimlo'n fwyn
Ag ef, yn nydd ei adfyd, ac i roi
Y cysur allent iddo. Pan y do'ent
I'w olwg ef, tarawyd hwy gan fraw,
Rhwygasant eu mantelli'n llawer darn:
A phridd a lludw ddodent ar eu pen;
Ac eistedd ar ei gyfer wnaent yn fud
Heb dd'wedyd gair, gan gymmaint oedd eu braw;
Can's gwelent fod ei ofid yn fawr iawn.
Ni dd'wedai yntau wrthynt hwythau air,
Ond gruddfan ynddo'i hunan yn barhaus;
Gan ing ei enaid, a'i gyfyngder llym.

Ac felly am saith diwrnod buant hwy
Yn dysgwyl iddo 'u cyfarch, a rhoi lle,
A rhyw achlysur iddynt agor eu
Teimladau wrtho, ac amlygu eu
Meddyliau iddo, 'nghylch ei gyflwr trwm.
'R oedd Satan yntau o ddeutu, er ys dau
Neu dri o ddyddiau,'n gwylio'n ddyfal iawn
Pa beth a glywai:—'r maith ddystawrwydd hwn
Oedd boenus enbyd i ei galon ef.
"Mae wedi tewi a bendithio Duw
Beth bynag," eb efe, "mae hyny yn
Un arwydd dda, ond rhyfedd iawn ei fod
Yn cadw'n ddystaw drwy'r holl amser hwn,
A gwel'd ei hen gyfeillion ger ei fron;
'Rwy'n gwybod fod ei dafod ef yn iach;
Gadewais hwnw heb ei gyffwrdd, fel
Y clywswn ef yn cablu enw Duw.
Mae yntau'n gyndyn fud, ni ddywed air:—
Faint, faint o'm hamser gollais i fel hyn!
Un dyn fel hyn yn peri cymmaint poen
A thrafferth i'w drafodi;—'n wir y mae
Yn g'wilydd genyf feddwl am fath beth!
Byth, byth na chyfarfyddwyf mwy a'i fath."
Ar fore'r wythfed dydd, agorai Iob
Ei enau, a llefarai'n drist fel hyn:—
"O! y dydd y'm ganwyd ynddo!
Annedwyddaf ddydd erioed:
T'wllwch dudew a'i gorchuddio,
Cof am dano byth na boed:
Cwmwl du orweddo arno,
Fel na allo haul y nef,
Saethu pelydr o'i oleuni
Ar y ddaear trwyddo ef!

Hithau'r nos druenus hono,
Lyncer gan dywyllwch du;
Na fo mwyach son am dani,
Caued arni yn ei fru;

'Rwy'n tynghedu'r ser a'r lleuad
Na lewyrchont byth ar hon;
Boed ei hwybren drwyddi'n bygddu,
Heb un boglyn ar ei bron.

Almanacwyr oesau'r ddaear,
O hyn allan, cofiwch chwi,
Adael gwagnod, yn lle enwi
Enw'r dydd y'm ganwyd i:
Na ddoed i rifedi'r misoedd,
Ac na chydier mo'no ef
Gydag ereill ddyddiau'r flwyddyn,
Tra fo haul yn tramwy'r nef.

Boed y noson hono'n unig,
Heb orfoledd ac heb fri;
Byth na chlywer adsain telyn
Fwyn, na thympan arni hi:
Caffed ddysgwyl am oleuni,
Dysgwyl dan ei dudew len,
Heb gael un pelydryn arni,
Hyd nes delo'i horiau i ben,

Am na wnaeth â mi'r gymwynas
O gau drysau croth fy mam.
Pa'm na chawswn cyn fy ngeni
Farw'n ddystaw, O! pa ham?
Pa'm y cefais fronau i'w sugno?
Pa'm derbyniodd gliniau fi?
Pa'm rhoed i ofidus enaid
Wel'd goleuni, meddwch chwi?

Pa'm o'r bru, na chawswn ddisgyn
I dawelwch mynwes bedd?
Dianc ymaith cyn i lygad
Dyn erioed i wel'd fy ngwedd?
Yn lle ymladd am flyneddau
A thrallodau celyd iawn,

Ac o ddyfroedd chwerwon gofid
Yfed cwpaneidiau llawn.

Bychan fel y mawr sydd yno
Heb ragoriaeth yn eu gwedd;
Tlawd, cyfoethog, gyfarfyddant
Oll yn gydradd yn y bedd:
Rhydd yw'r gwas oddiwrth ei feistr,
Dim gwahân rhwng gwan a chryf,
Nid oes yno neb yn feistr,
Neb yn arglwydd, ond y pryf.

Yno gorphwys y lluddedig
Truan, wedi'i drafferth fawr;
Bedd yw'r cyfaill goreu iddo,
Yno caiff roi'i ben i lawr;
Yno cyffro'r annuwiolion
A ddystawa, derfydd trais
Y gorthrymwr creulawn, yntau,
Byth ni chlywir yno'i lais.

Minnau gawswn orwedd, huno
A gorphwyso dan y llen,
A helyntion blinion bywyd
Yn ymdreiglo uwch fy mhen:
Fel pysgodyn yn ngwaelodion
Dwfn y môr, mewn tawel le,
Pan fo'r gwynt a'r tonau'n dryllio
R llongau ar ei wyneb e'.

F'unig obaith am ymwared
Yw marwolaeth—adyn gwael,
Dysgwyl 'rwyf yn ddyfal, ddyfal,
Cloddio am dani, methu'i chael.
Tan gawodydd o ofidiau,
Trom yw 'm calon, prudd yw'm gwedd,
Ond mi orfoleddaf eto
Pan ddisgynwy' i byrth y bedd."


Gwrandawai Satan ei ofidus gân
Yn ddyfal iawn; ac ar ei ddechreu, fe
Ddysgwyliai fod ei waith a'i amcan cas
Yn dechreu llwyddo'n ddilys yn ei law.
Pan glywai Iob fel yn melldigo dydd
Ei enedigaeth—"Dyna gychwyn da,"
'Be fe—" Dal ati!—dos ymlaen!—myfi
A wyddwn o'r dechreuad cawn dy ben
I lawr o'r diwedd.—Wele! dyma'r dydd
I'r fuddugoliaeth eto droi o'm plaid.
Wel brysia at y pwynt—y pwynt—y dyn!
Wel dyna ddigon o felldithio dydd
Dy enedigaeth, a gorfoli'r bedd—
Tyr'd at y pwynt, melldithia Dduw y dyn,
Fel y'th annogwyd gan dy wraig i wneyd,
Ac fel y gallwyf finnau bellach fyn'd
A thynu baner goruchafiaeth nef
I lawr, a chodi fyny yn ei lle
Fy maner fawr fuddugol i fy hun;
Yn wir, mae'n bryd i hyny bellach fod,
Mi gollais amser ddigon arnat ti.
Ond ys gad iddo, nid wy'i'n cwyno dim—
Un reg, un llw, un felldith o dy ben—
Un cablaidd air oddiar dy wefus di
Yn erbyn Duw—ystyriaf fi yn dâl
Da iawn yn wir am fy holl drafferth, a'm
Holl amser, a'm holl bryder gyda thi."
Ond hollol ofer fu'i ddysgwyliad ef—
Ni chablodd Iob—ni roes yn ynfyd ddim
Yn erbyn Duw, er ceisiai Satan draws
Esbonio rhai o'i eiriau, a'u gwyrdroi
Hwy yn gableddau; ond nis gallai wneyd
Er un boddlonrwydd iddo ef ei hun.
Ac er i Eliphas, a Bildad, a
Sophar—hwythau, ei gyfeillion, droi
I guro arno'n erwin bob yn ail,
A haeru'n gadarn mai rhagrithiwr oedd,
A'i fod yn euog o ryw bechod mawr—
I fod ei ofid mawr yn profi hyn,

Gan nad oedd hanes am un sant erioed
Yn y fath gyflwr ag yr oedd efe—
Mai'r rhai sy'n hau anwiredd yn ddiau
A fedant flinder yma, a'r byd a ddaw.
Dadleuai ef ei burdeb yn barhaus—
Yn ei berffeithrwydd, glynu wnai o hyd,
Ac ni ollyngai ei gyfiawnder ddim.
Dadleuai ef o hyd yn gryf nad oedd
Croes ragluniaethau chwerwon yn y byd
Yn profi dim bod cyflwr dyn yn ddrwg;
Bod yr annuwiol weithiau—yn aml, yn wir—
Yn gwreiddio,'n tyfu,'n ffrwytho,'n llwyddo'n fawr,
Yn byw mewn hawddfyd llawn, ac yn ymdroi
Yn mrasder holl fendithion daiar Duw—
Yn cael mynedfa esmwyth trwy y byd,
Ac yn y diwedd, disgyn lawr i'r bedd
Mewn henaint teg, a'i goffadwriaeth yn
Cael mawr anrhydedd gan y byd o'i ol:—
A bod y cyfiawn, yntau, lawer pryd,
Yn cwrddyd â blinderau trymion iawn,
Fel pe y byddai Duw yn trochi'i bin
Y'ngwin ei soriant, i ysgrifenu llym
Geryddon ato, gan eu rhoi yn llaw
Pob bore i'w cludo iddo, nes y bydd
Ei ddagrau'n llifo wrth eu darllen hwy:—
Pob dydd yn gwasgu iddo phiol lawn
O ddyfroedd adfyd, nes, wrth yfed hon,
Y bydd yn chwerw'i enaid ynddo ef;
Ond nad oedd hyn yn brawf o gyflwr drwg,
Mwy nag y profa hawddfyd bydol fod
'R hwn a'i mwynhao ef mewn cyflwr da.

Gwir iddo ollwng weithiau ambell air
Anwyliadwrus allan dros ei fin;
Ond dim un gair y gallai Satan gael
Un gafael arno, i'w gyhuddo ef
Wrth orsedd Duw, a'i brofi'n euog o'i
Felldithio, fel haerasai ef y gwnai.
Gadawodd Satan e' 'mhen dyddiau rai,

Daeth un o'i weision—Belial—yn ei le,
I wylio Iob; a Satan archai i hwn
I sylwi'n fanwl ar bob gair a ddo'i
O'i ben, ac adrodd iddo ef yn llawn
Yr hanes—bobpeth fel buasai'n bod.
I rodio ar hyd lleoedd sychion aeth,
Ar ben ei hunan—llosgai ef mewn dig,
A siomedigaeth, gofid, c'wilydd—O!
Mor annyoddefol iddo oedd y peth!
Fath ddarostyngiad i'w fawrhydi, a'r
Fath ergyd ar ei falchder ydoedd hyn!

Ef wrtho'i hun a syniai beth fel hyn:
"I mi nid oedd yn warth i golli'r dydd
Yn mrwydr fawr y nefoedd gynt, pan yr
Ymleddais lawlaw gyda Duw ei hun;
'R oedd yr anturiaeth hòno ' n un mor fawr,
Er cael fy nhrechu, fel y gallaf fi,
Wrth edrych arni, ymorchestu byth,
Im' feiddio ymosod ar ei bath erioed.
Os trechwyd fi yn hòno, nid neb llai
Na Duw a'm trechodd—Hollalluog nerth
Yn unig a'm gorfododd: ond yn awr,
Ow! Ow! a drechir fi gan ddyn!—gan ddyn!!
A raid i mi ymostwng i'r sarhâd
O gael fy mathru i lawr fel hyn dan droed
Abwydyn dynol, sydd annhraethol îs
Na mi mewn natur, urddas, gallu, a
Phob cymhwysderau? Raid i Satan roi
Y goreu i ddyn? Na, na, nid all hyn fod,
Ond fel mae rhywbeth dwyfol yn y dyn
Hwn; a'r peth dwyfol hwnw sy'n rhoi nerth
I'r dyn i wneyd peth na allasai byth
Ei wneuthur yn ei allu a'i nerth ei hun.
Mor annyoddefol ydyw'r meddwl hwn!
Gwneyd dyn yn fwy na Satan, ac yn drech!
Ai hwnw—'Hâd y wraig,'—yw'r Iob hwn? Na:
Yn ol ddeallais i, mae hwnw i dd'od,
A deilliaw eto ' mhen rhyw amser hir,

O'r genedl wael ysgymun yna sydd
Yn gaethion dan law Pharo yn yr Aipht:
Ac yn yr Aipht, os gallaf fi, cânt fod
Am byth; neu hyd nes y darfyddo am
Yr olaf un o'r eppil. Hefyd am
Gyfammod ac addewid Duw i'r hâd—
I Israel oll, ac i addewid Duw,
Yr Aipht yn angeu ac yn fedd a wnaf,
Os gallaf fi! Ond beth a wnaf o Iob?
Mae'n debyg iawn na allaf wneuthur dim
O hono, neu buaswn wedi gwneyd
Rhyw beth cyn hyn:—ei roddi fyny raid;
'Rwy'i'n ofni'n wir mai dal a glynu wna
Yn ffyddlawn yn ei grefydd, ac i'w Dduw.
Gallaswn feddwl oddiwrth ambell air
Ollyngai allan ambell waith, ei fod
Yn dechreu 'mollwng; ond yn union deg
Drachefn, fe ymattaliai—troai'i dôn,
Fel un âg arswyd ar ei galon rhag
Ei fyn'd yn agos i gyffiniau tir
Y cablwr, neu'r annuwiad, mewn un modd.
Mae genyf ddiolch i'w dri chyfaill ef,
Am guro arno mor ddiarbed, a'i
Ddyfarnu yn rhagrithiwr:—rhydd hyn boen
A gofid ychwanegol iddo ef.
Maent hwy yn meddwl mewn gwirionedd mai
Rhagrithiwr ydyw, ond nid ydynt ddim
Yn ei adnabod cystal ag 'rwyf fi:
Na! 'rioed ni ddaliodd un rhagrithiwr, ac
Ni ddeil yr un rhagrithiwr byth ychwaith,
Ei drin a'i drafod fel mae hwn yn dal."

Ymrodiai Satan, tra'n ymsynio hyn,
Yn anial dir Arabia, wrtho'i hun.
Pan ymddadebrai o'i fyfyriol nwyf,
Canfyddai Belial yno ger ei law,
Yr hwn adawsai ef i wylio Iob.
Rhedasai Belial ar ei ol ef i
Ddwyn iddo air pa fodd 'roedd pethau'n bod:

Gadawsai Nergal yno gyda Iob,
Tra y cyflawnai y gwasanaeth hwn.

"Can croesaw, Belial!" ebe Satan, "od
Oes genyt newydd da i'w adrodd im'.
Fodd bynag, gad im' wybod modd mae'n bod."
"'Rwy'i'n ofni, f' arglwydd," ebe Belial," nad
Wiw dysgwyl bellach am un newydd da
I uffern byth yn nghylch y gŵr o Us.
Mae'n cwyno,'n wylo,'n gruddfan yn barhaus,
Mewn chwerwedd enaid, gan ei ofid blin;
Erioed o'r blaen, ni welais ddyn o dan
Fath faich o gystudd, ac ni chlywais i
Un dyn ychwaith yn tywallt allan ei
Deimladau mor gwynfanus ag efe.
Ond yn ei grefydd, glynu mae o hyd,
A dweyd y mae y glyna ynddi byth,
Ac y gobeithia yn ei Dduw'n ddiball
Pe lladdai ef: na ddichon angeu ddim,
Nac einioes chwaith, na thrallod, na dim oll,
Na phob peth oll y sydd, neu ynte a ddaw,—
Pe ymgynghreiriai yn ei erbyn ef
Holl ddynion daiar, ac angelion nen—
A ninnau, arglwyddiaethau uffern fawr—
A rhoi'n dyfeisiau oll ynghyd ar waith
I'w boeni, a'i gystuddio, a'i demtio ef,
A gwneyd ein gwaethaf bawb—na allem byth
Wahanu ei enaid ef oddiwrth ei Dduw!
Ymesyd ei dri chyfaill arno'n dost—
Tri'n erbyn un, ac un yn erbyn tri,
A'r un yn curo'r tri i lawr o hyd!"

"Nid rhyfedd genyf, Belial, glywed hyn,"
Atebai Satan, " Mi wn na waeth i neb
Beth guront arno, canys curais i
E'n dostach nag y curais neb erioed:
Ti weli nad yw hyny ' n tycio dim.
'Rwy'n addef, Belial, rhyngof fi a thi,
Fod ganddo rywbeth na'll na dyn na diawl
Ei guro allan byth o'i galon ef!"

"Wel, f'arglwydd," ebe Belial, "'does mor help
Am dani; ond mae hyn yn gysur mawr
Mai 'chydig iawn o nifer sydd o'i fath
I'w cael yn mysg plant dynion yn y byd:
Ondfelmae'nffawdini,unIobysy
Gan Dduw trwy ' r ddaiar oll: mae genym ni
Filiynau lawer—y cyfanfyd mawr
Dan ein llywodraeth, ac yn ufudd in'.
Hawdd gallem ni, gan hyny, hebgor Iob
I'w Dduw, i wneyd a fyno o hono ef."
"Nid felly, Belial!" ebe Satan, "mae
'N anmhosibl imi fod yn dawel tra
Y gwelwyf ddelw Duw ar ddim ond un
Dyn ar y ddaiar; fy eiddigedd lysg
Fel tân o'm mewn, am gael ei difa hi,
A chael pob enaid dyn yn gwbl ar
Fy nelw i fy hun, yn erbyn Duw,
Ac yn etifedd damnedigaeth byth.
Ti weli fod un enaid yn fwy gwerth
Yn ngolwg Duw, nag ydyw'r bydoedd oll
A greodd ef; a'r golled fyddai'n fwy
Yn ei lywodraeth, golli dim ond un
O'r perlau bywiol hyn, na phe o'r nen
Y collid mil filiynau o heuliau a ser!
Mae'n rhaid i ni, gan hyny,'n wastad fod
Mor lawn ymroddgar i ddistrywio un—
Pob un fel pe bai dim ond un i'w gael.
Ac heb law hyny, byddai ennill Iob,
Yn fuddugoliaeth anmhrisiadwy im'.
Efe yn wir yw'r unig un o werth
I son am dano, fedda Duw'n y byd;
A phe y gallwn innau demtio hwn
I ddigio wrtho, ac i'w gablu ef,
Ni chawn i byth y boen o'i glywed mwy
'N ymffrostio wrthyf am ei ffyddlawn was.
Un reg, un cablaidd air yn erbyn Duw,
O'i enau ef, ystyriwn i yn fwy
O werth i'm teyrnas, na deng miliwn o

Regfeydd, a llwon, a chableiriau serth,
O filiwn o eneuau ereill sydd
Yn arfer cablu Duw bob dydd o'u hoes.
Ond gad in' fyned ato eto, i wel'd
Pa fodd y mae, a beth a ddywed ef."
Ac ymaith aent; a phan y daethant, hwy
O bell a welent Iob yn codi'i law,
Fel gwna areithydd pan yn nghyflawn wres
Ei araeth, a phrysurai'r ddau i'r fan;
A'r geiriau cyntaf glywent ganddo oedd:—

"O! na byddai ysgrifenydd
Cyflym wrth fy llaw yn awr!
Gyda'i bin, ei inc, a'i femrwn,
I roi 'm geiriau hyn i lawr!
O! na ellid eu hargraffu
Hwy mewn llyfr, a'u rhoi dan sel,
Fel y gellid eu trosglwyddo
I wybyddiaeth ocsau ddel.

O! na chawn i heddyw gerfiwr,
I'w traddodi i'r graig yn llawn,
Gyda phin o ddur yn gelfydd,
Mewn llyth'renau dyfnion iawn;
Tywallt plwm toddedig iddynt,
Fynwn gyda hyn i gyd,
Fel y byddont ddarllenadwy
Hyd ddiweddaf oes y byd!"

Fe synai Satan, pan y clywai hyn,
Ac eb efe'n nghlust Belial—"Beth all fod
Yn berwi yn ei galon ef yn awr?
Mi dybiwn i fod rhywbeth mawr yn wir
Ar ddyfod allan.—Ust! wel gwrando—clyw!"

"Canys mi a wn er colli
'R cwbl feddwn yn y byd
Colli'm golud, plant, ac iechyd,
A'm cyfeillion oll yn nghyd;

Gwn, mi wn fod genyf unpeth—
Gwrando, nef—a daiar, clyw—
Uffern, gwrando dithau, os myni—
Gwn fod genyf 'Brynwr byw!'

Saif fy Mhrynwr yn y diwedd
Ar y ddaiar, yn fy nghawd—
Minnau im' fy hun gaf weled
Wyneb Duw i mi yn frawd;
Er i bryfed falu a chwalu
'R babell hon yn llwch y bedd,
Caiff y llygaid hyn eu hunain
Eto edrych ar ei wedd!

Dyma wreiddyn pur y mater
Gafwyd yn fy enaid i;
Nid rhagrithiwr, fy nghyfeillion,
Ydwyf, fel yr haerwch chwi.
Llosgi'm sothach, difa 'm sorod,
Wna y ffwrnes danllyd boeth;
Wedi 'm profi, dyfod allan
Wnaf o honi fel aur coeth."

Och'neidiai Satan—Belial grymai'i ben
A gwenai Raphael, yntau—angel nef,
Oedd yno'n genad dros y llys, i ddwyn
Adroddiad iddo o amgylchiadau'r dydd.
" Tyr'd ymaith, Belial," ebe Satan, " mae
'N rhy galed imi aros yma'n hwy
Mae'r geiriau yna wedi gwywo ' n llwyr
Fy holl obeithion; nid oes dim i'w wneyd
Ond gadael iddo. Hoffwn wybod hyn—
Beth allai fod yn berwi'n mhen y dyn,
Pan wnai ef son am ' Brynwr byw,' ac am
Gael gweled Duw'n ei gnawd ryw ddydd a ddaw?
Mae'n debyg iawn mai Had y wraig, yn wir,
Yw hwnw,'r ' Prynwr byw:' peth rhyfedd iawn
Fod meddwl dyn yn gallu cydio mewn
Rhyw gorsen felly—dim ond gair neu ddau,

Pur dywyll a chuddiedig, dybiwn i.
Mi dd'wedaf iti, Belial, fel y mae:
Ti sylwaist yn y dylif, dro yn ol
Pan gawsom ni y pleser mawr o wel'd
Holl ddynolryw yn boddi, onid wyth—
Ti sylwaist, meddaf, fel gwnai llawer un
Grafangu am eu bywyd—dal yn dyn
Eu gafael mewn rhyw fanwrysg nofient ar
Hyd wyneb y llifeiriant:—angeu'i hun,
Ni allai ddattod eu gafaelion hwy.
Ac felly 'rwyf yn gweled ambell un
(A Iob yn benaf un o honynt oll),
'Rol colli'r bywyd oedd i ddynolryw
Yn Adda gynt, trwy rin fy nyfais i,
Wrth wel'd eu bod ar foddi, beth a wnant,
Ond rhedeg at y gawnen fechan o
Addewid, fel y galwant—' Had y wraig.'
Nid wyf yn tybio 'u bod yn deall fawr
Beth mae'r addewid yn arwyddocau;
Ond dyna'r unig frigyn feddant hwy
I gydio ynddo, yn y parthau hyn
Beth bynag; canys hwy ni wyddant am
Gyfammod Abraham, can's celu wnaeth
Eu cyndad Esau oddi wrth ei blant,
Bob son am hwnw, gan i Iacob ddwyn
Braint y cyfammod oddi arno ef.
Fel yna'n union y mae Iob yn awr
Yn cydio yn y gawnen hòno'n dỳn,
Fel nad yw'n bosibl byth ei chael o'i law;
Gobeithio 'rwyf mai'n somedigaeth try
Ei obaith iddo, ac mai boddi wna.
Beth bynag, gwelaf hyn—nad allaf fi
Wneyd rhagor iddo; ac ni chollaf ddim
Ychwaneg o fy amser gyda'i fath.
Wel cared yntau, a bendithied Dduw
Faint fyno'i galon, o'm rhan i, byth mwy;
Edifar gan fy nghalon i yn awr,
Yw imi ado'i dafod ef yn iach,
A chroen ei ddannedd hefyd; ond myfi
Ni phoenaf ragor yn ei gylch ef byth."

"Roedd Asmodeus yn dal o hyd i ddweyd,"
Atebai Belial, "na allesid byth,
Trwy unrhyw ddyfais, ei orchfygu ef,
A llwyddo i gael ganddo mewn un modd
Felldithio, na dweyd gair yn fach am Dduw."
"Mae Asmodeus yn gythraul digon call,"
Atebai Satan, "ond ei fod yn llwfr;
Ond gwyddwn cystal ag efe, a gwell,
Mai fel hyn fyddai yn y diwedd; ond
Pa beth a wnawn? 'roedd raid im ' wneyd y prawf,
Doed fel delai—nid oedd genyf le
I droi yn ol, heb syrthio i warthrudd mwy.
'Roedd genyf hefyd yr annogaeth hon
I'm gyru 'mlaen—y gall'sŵn lwyddo—ac
Os methu wnawn, y dysgwn lawer gwers,
I'm gwneyd yn gallach a chyfrwysach mwy.
A dysgais eisoes hefyd lawer iawn
'Rwy'n gweled rhywbeth, ond nis gwn pa beth,
Yn ngeiriau'r dyn hwn heddyw—newydd beth,
Na chlywais, na feddyliais chwaith erioed
O'r blaen am dano:—hyny ydoedd, pan
Y soniai ef, er ei falurio'n llwch,
A chwalu'i gyfansoddiad yn y bedd,
A thoddi ei sylwedd, a'i gymmysgu â
Phriddellau'r ddaiar oesau fwy na rhif,
Y caiff ei lygaid eto weled Duw.
Ti sylwaist fel y traethai ' r geiriau hyn—
Fy llygaid i fy hun, nid arall ddim!
Mor benderfynol, gadarn, sicr, a
Phe na buasai lle i ammheu oll.
'Roedd rhyw ddysgleirdeb tanbaid yn ei wedd
Yn gorbelydru, pan lefarai hyn,
A'i gwisgai â gogoniant er ei holl
Gornwydydd cas: yr oedd ei lygaid yn
Ddysgleiriach na'r dysgleiriaf ser y sy'n
Prydferthu gwregys Orion acw yn nen:
Yr ydoedd megys pe buasai holl
Deimladau'i enaid wedi cydgrynhoi,
A chydymgodi mewn angerddol nerth,

I gydymd'wnu'n ei olygon ef!
'Roedd anfarwoldeb fel pe buasai yn
Ymsaethu o honynt, pan ddywedai'r gair—
'FY LLYGAID I FY HUN A'I GWELANT EF!'
Pe angeu'i hun safasai ger ei fron,
'Rwy'n credu llewygasai yn y fan!
Ni welais i y fath olygfa o'r blaen
Erioed ar ddyn; ac ni ddymunwn wel'd
Ei bath hi eto. Belial, sylwaist ti
Ar Raphael yno?—harddaf angel nef;
A dweyd y gwir, yr olwg hòno ar Iob
A arddangosai fawreddigrwydd mwy
Nag welid yn yr angel hwnw'i hun!
A theimlai Raphael hyny ar y pryd,
Can's ymddangosai ' n wylaidd ger ei fron!
Creadur rhyfedd, rhyfedd, ydyw dyn!
A rhyfedd fydd y peth amcanai Duw
Ei wneyd i ddyn, mewn dyn, a'i ddangos trwy
Ddyn hefyd, pan orpheno ef ei waith!
Ai tybed gall fod yn ei gynghor ef
Y bwriad hwnw, o adgyfodi cyrff
Plant dynion rywbryd o briddellau'r bedd?
Nid aethai hyn i'm meddwl i o'r blaen,
Ond saethai heddyw oddi ar lygaid Iob,
Yn nghyd â'i eiriau,'n rymus iawn i'm bryd;
A gallai fod y dyn yn siarad dan
Ryw ddwyfol ysbrydoliaeth ar y pryd—
Mae ' n debyg iawn ei fod, o blegid ni
Allasai ef ddych'mygu o hono ' i hun,
Am beth mor fawr, mor lwyr annhebyg byth
I gym'ryd lle, ag yr ymddengys hyn.
Mae hwn yn awgrym newydd eto i ni,
A goreu oll po fwyaf allom gael
Ei wybod am amcanion meddwl Duw
Yn nghylch y dyn—beth mae ar fedr wneyd;
Bydd hyny ' n help i ninnau dynu ein
Cynlluniau, er ei wrthwynebu ef.
Wel, ar y cyfan, nid wy'n cwyno fawr
O herwydd aflwydd yr anturiaeth hon;

Ennillais eisoes lawer iawn yn wir
O addysg drwyddi, allaf eto droi
'N fanteisiol iawn mewn amser sydd i ddod."
Fel hyn, dan gydymddyddan, aeth y ddau
Hyd at borth Annwn; curai Belial, ac
Agorai'r porthor iddynt, a hwynthwy
A aent i mewn, a chauwyd ar eu hol.


RHAN VI.

CYFARFOD arall meibion Duw, yn yr hwn y mae Raphael, oedd yn genad dros y llys, i wylio amgylchiadau Iob, yn rhoddi adroddiad manwl o'r hanes—llawenydd y cyfarfod wrth ei wrandaw. Elihu yn argyhoeddi Iob a'i gyfeillion; ar ganol un o areithiau yr hwn y mae Iehofah, gyda gos. gordd anrhydeddus o angelion a saint, yn nesäu atynti derfynu y ddadly mellt a'r taranau yn cyhoeddi ei ddynesiad—Elihu yn tewi—y dymmestl daranllyd yn gostegu—Elihu yn ail ymaflyd yn ei bwnc—yn cael ei attal drachefn gan swn corwynt dynesol—efe yn tewi eilwaith—Duw yn llefaru wrth Iob allan o'r corwynt yn ei holi ac yn ei geryddu—Iob yn ymos. twng ac yn edifarhau—Duw yn ceryddu Eliphas a'i ddau gyfaill, ac yn erchi iddynt ddwyn aberth, gan drefnu Iob i fod yn eiriolwr drostynt—yr Arglwydd yn dychwelyd caethiwed Iob yn fwy na'i ddechreuad—ei hen gyfeillion yn ymweled âg ef i'w gysuro—dydd ei adferiad yn cael ei neillduo i fod yn ddydd gwyl. Penaethiaid Caldea a Seba yn anfon eu hysbail yn ol yn ddau ddyblyg—llwyddiant a gogoniant dyddiau diweddaf Iob—ei farwolaeth—terfyniad.

BYTHEFNOS neu dair wythnos wedi hyn,
Daeth dydd arbenig arall meibion Duw
I ddyfod oll ger bron eu Brenin mawr;
Ond ni ddaeth Satan yno yn eu plith
Y diwrnod hwnw, fel y daethai o'r blaen.
Ni feddai wyneb, er mai Satan oedd,
I feiddio yno; gwell oedd ganddo ef
Ymlechu'n ogofeydd ei Annwn ddu,
Na dod i gael ei wneyd yn wrthddrych gwawd
A dirmyg llym y dyrfa nefol oll.


Ar ddechreu y cyfarfod, Raphael ddaeth
Yn frysnegesydd cyflym; llawer cynt
Oedd ei ysgogiad na goleuni'r wawr.
Llawenai tyrfa nef ei wel'd yn dod,
Can's dysgwyl yn bryderus iawn a wnaent
Am wybod helynt Iob—pa fodd yr oedd
Yn dal o dan y prawf diweddaf hwn.
Pob llygad ar Raphael syllai'n awr;
Dyfalent wrth yr olwg ar ei wedd,
Fod ganddo luaws o newyddion da
I'w hadrodd iddynt; a gostegai'r llys.
Ac yntau aeth ar amnaid Ior yn mlaen
I'r hardd esgynlawr o ogoniant pur,
Ddysgleiriai gan oleuni tanllyd iawn,
Dywynai arni o wyneb gorsedd Duw.
Dyrchafai Raphael ei angelaidd law
A'i lais, ac adrodd iddynt wnai yn llawn
Holl hanes amgylchiadau helynt Iob:
Ei gystudd blin, ei gwynion trymion ef;
Ac fel yr ymosodai y naill a'r llall
O'i hen gyfeillion arno yn ddibaid,
Gan haeru mai rhagrithiwr oedd erioed
Ac onidê, na chawsai felly ei drin.
Adroddai fel 'roedd Iob yn dal ei dir,
Heb ballu na diffygio yn ei ffydd;
Er gellid gweled wrth ryw ambell air
A dd'wedai, mewn diffyniad iddo'i hun,
Mai dyn ffaeledig ydoedd ef yn wir.
Pan ddygid cyhuddiadau mor annheg
I'w erbyn gan gyfeillion, diau fod
Ei brofedigaeth yn rhyfeddol gref
I arfer geiriau cryfion iawn, a hyf,
Mewn amddiffyniad o'i gywirdeb; ac
I fod ei ofid blin, ei gystudd trwm,
O'r ochr arall, yn demtasiwn gref
I natur wan, ffaeledig, arfer iaith
Ac ymadroddion cryfion, a chyffröus,
I adrodd ei theimladau, a dweyd'i chwyn.
Ond nad oedd hyny, yn ei olwg ef

Yn esgusodi Iob, a'i gyfiawnhau
Am arfer ambell air rhy gryf, rhy hyf,
A glywsai ganddo yn y ddadl hon.
"Ond," ebe Raphael, "gweddus yw i ni,
Angelion, fod yn gynnil ar ryw bwnc
Fel hwn; o herwydd anmhrofiadol ym.
Ni wyddom ni pa beth yw teimlad tad
Ar ol ei blant, neu beth yw gofid trwy
Golledion—twyll cyfeillion—gwg y byd:—
Chwychwi, y saint sydd yn y dyrfa hon,
A ellwch farnu yn well, a dweyd yn well
Am bethau o'r fath hyn, yn sicr na ni.
Nid oedd y rhai'n ond megys brychau mân
Ar wyneb haul, neu 'chydig sorod gwael
O gwmpas globyn gwerthfawr iawn o aur.
O! nefol dyrfa! beth pe clywsech chwi
Ei ymadroddion ambell waith, pan gai
Ei ben uwch law y don am ennyd fach,
A'i ffydd ei hanadl ati, a rhyw wawr
Yn tori ar ei ysbryd! Byddai'n fwy,
Y prydiau hyn, nag angel!—byddai'n wir!
O hyn mi roddaf anghraifft i chwi'n awr:—
Un diwrnod sylwais arno'i fod yn fwy
Trallodus nag y gwelswn ef o'r blaen;
Ei lais oedd fwy wylofus, chwerwach oedd
Ei gwynion y dydd hwnw, nag erioed,
Nes oeddwn braidd yn ofni am dano'n wir!
Pan drown fy ngolwg, pwy a welwn i,
Ond Satan oddi draw, a Belial gas,
Yn cydnesäu yn brysur, fel dau flaidd
Newynllyd, fel yn sawrio yn y gwynt
Am yr ysglyfaeth; can's deallwch chwi
I Satan fethu dal ei dir, a ffoi
Pan welai Iob yn dal ei dir, o dan
Ei bla a'i flin gorwydydd, fel o'r blaen.
Ar ddechreu'r ddadl, rhyngddo ef a'i dri
Chyfeillion, Satan giliai draw o'r maes,
A'i warthrudd bron a thori'i galon ef;
Gadawsai Belial yno i wylio Iob,

Rhedasai Belial yntau ar ol ei feistr,
A chenadwri iddo, dybiwn i.
Fodd bynag, deuai'r ddau y diwrnod hwn
I ail ymwel'd â Iob, ac edrych oedd
Un gobaith i'w ddymuniad dd'od i ben.
Ar ganol ei gwynfanau, tawai Iob:—
A'r ennyd hon, y gwelwn i ei wedd
Yn gorddysgleirio megys wyneb un
O engyl Duw—ac mor fawreddog oedd
Ei ymddangosiad, fel y tybiwn i,
Ei fod, er yn gornwydydd trosto oll,
Yn ardderchocach bod na mi fy hun:—
Syrthiasai rhyw belydron dwyfol ar
Ei enaid ef, y foment hono, a
Gwisgasid ef â'r nerth y gwyddoch chwi,
Sy'n deilliaw o foddlonrwydd wyneb Duw.
Dyrchafai'i olwg a dyrchafai'i law
Dyrchafai'i lais, ac eb efe, fel hyn:—

[Gwel tudal. 71.]


"Pe gwelsech mor druenus ydoedd gwedd
Wynebpryd Satan—Belial yr un modd:
Ymddelwent ac ymnyddent yn eu hing;
Ac oni bai mai hwy o'ynt hwy, yn wir,
Teimlaswn fawr dosturi wrth eu gwel'd,
'N enwedig Satan, gan mor fawr ei boen.
Ymgilient draw yn araf, araf, nes
Eu myned encyd fawr o ffordd o'r fan,
Gan feddwl dianc heb i mi eu gwel'd;
Ac yna ffrystient ymaith ar fwy brys
Nag daethent yno, eill dau, o lawer iawn.
Mi wyddwn na feiddiasai Satan ddod
I ymddangos heddyw yn y cyfarfod hwn
Fe gafodd ddigon ar yr ymdrech hon;
A sicr wyf na anghofia mo'ni byth.
Ond rhyw belydryn, megys t'wniad haul
Ar ddiwrnod gwlawog, rhwng dau gwmwl du,
Pan fydd y rhei'ny yn ymgau drachefn,
Ac yn ei guddio o'r golwg yn y fan
Eu myned encyd fawr o ffordd o'r fan,
Gan feddwl dianc heb i mi eu gwel'd;
Ac yna ffrystient ymaith ar fwy brys
Nag daethent yno, eill dau, o lawer iawn.
Mi wyddwn na feiddiasai Satan ddod
I ymddangos heddyw yn y cyfarfod hwn—
Fe gafodd ddigon ar yr ymdrech hon;
A sicr wyf na anghofia mo'ni byth.
Ond rhyw belydryn, megys t'wniad haul
Ar ddiwrnod gwlawog, rhwng dau gwmwl du,
Pan fydd y rhei'ny yn ymgau drachefn,
Ac yn ei guddio o'r golwg yn y fan—

Cyffelyb, meddaf, oedd yr adeg hon
Ar brofiad Iob—rhyw gyfamserol nerth
A gafodd ef; arlwyai'n Duw ei ford
Ger bron ei wrthwynebwr, iddo ef;
Enneiniai'i ben, a dyrchai ef uwch law
Ei holl gaseion; ac ymddigient hwy,
A chan 'sgyrnygu dannedd, cilient draw.
Ymgauai'r cwmwl, ac ymguddiai'r haul
Drachefn o'i olwg; ac efe drachefn
A dro'i i gwyno, ac ymofidio'n ddwys:
A sylwais mai pan ddwysaf fyddai'i gwyn
Ef, mai melusaf hefyd fyddai'i gân—
Pan ddygnaf fyddai'i d'wllwch, dyna'r pryd
Tywynai rhyw belydron nefol ar
Ei feddwl ef. Adroddaf eto i chwi
Amgylchiad arall:—Gwnaethai Eliphas
Ryw aracth hir—a'i araeth olaf oedd:
I hon casglasai ei holl nerth yn nghyd,
I ruthro ar ei gyfaill truan, tlawd.
Gwrandawodd Iob ef hyd y diwedd, ac
Yna, heb wneyd nemawr sylw ar
Yr araeth hòno, ebai ef fel hyn:—

'Mae f'ymadrodd heddyw'n chwerw,
Trymach na'm huchenaid i
Yw fy ngofid; ofer imi
Gwyno wrth eich bathau chwi.
O! na wyddwn! O! na wyddwn!
P'le y cawn orseddfa 'Nhad;
Mi awn ati, doed a ddelo,
Gwn y cawn ei ganiatâd.

Mi awn ati, mynwn drefnu
F' achos yno ger ei fron;
Mi fynegwn holl deimladau
Chwerw'r galon ddrylliog hon;
Llon'd fy ngenau o resymau,
A adroddwn wrtho ef—
Dal i ddadleu wnawn, a dadleu,
Nes gwrandawai ar fy llef.


Mynwn wybod pa ryw ateb
Roddai ef i'm dwfn gri;
Mynwn ddeall beth mae'n feddwl
Yn y diwedd, wneyd â mi:
A ddadleua ef i'm herbyn
Yn ei anfoddlonrwydd llym?
Na wna—na wna—ond fe roddai
Yn fy enaid egwan rym.

Dadleu i'm herbyn, a fy nryllio,
Efoch geiriau, fynwch chwi;
Mwy na dengwaith bellach, rhuthrech
Arnaf, a gw'radwyddech fi.
Ofer imi ymresymu
Mwy â chwi, gyfeillion gau;
Ond fe gaiff fy enaid uniawn,
Gan fy Nuw, ei gyfiawnhau.

Os äi 'mlaen i chwilio am dano,
Try fy llafur blin yn ffael;
Troi yn ol drachefn i chwilio—
Chwilio yno, methu'i gael:
Ar fy aswy mae yn gweithio,
Er cyflawnu'i arfaeth gref;
Ar fy nehau, mae'n ymguddio,
Fel na chaf ei weled ef.

Fe ä heibio yn y fellten
Fforchog, saetha trwy y nen;
Gyr ei gerbyd yn y daran,
Trwy y cwmwl uwch fy mhen;
Clywaf swn ei feirch yn prancio
Yn y gwynt a'r ddaiargryn:
Rhy ofnadwy i mi i fyned
Ato, ydyw'r manau hyn.

Ond mae ganddo ei Eisteddfa,
Lle gall enaid tlawd heb fraw,
Nesu yn hyderus ato,
Ac ymaflyd yn ei law;

Ac am hòno 'rwyf yn chwilio,
Ac er methu, chwilio wnaf—
Gafael arni hi o'r diwedd,
'Rw'i'n hyderu'n gryf y caf.

Ond efe a'm gwel i'n amlwg,
Dan gurfeydd y dymmestl hon;
Mae fy ffyrdd a'm dymuniadau
Oll yn eglur ger ei fron:
Wedi iddo'm profi ronyn
Eto yn y ffwrnes dân,
Ceir fy ngwel'd fel aur yn dyfod
Allan, wedi 'mhuro'n lân.

Deil fy nhroed o hyd heb wyro,
I gywir ddilyn llwybrau'r nef;
Mwy na'm hymborth angenrheidiol,
Hoffais eiriau'i enau ef:
Digyfnewid yw ei feddwl,
A chyflawna ef yn llawn
Ei holl gynghor; ac mae ganddo
O'r fath bethau, lawer iawn.'

Cynnygiodd Bildad ateb iddo ef,
Ond collodd hwnw'i anadl yn y fan;
Dystawai'r tri, a rhoent bob un ei law
Yn synllyd ar ei enau, ac nid oedd
Gan un o honynt mwyach air i dd'weyd.
Aeth Iob yn mlaen—parablodd lawer iawn
Am fawredd Duw, ac am ei ryfedd waith—
Ei ddyfnion ffyrdd, a'i ragluniaethau ef;
Am dano'i hun—ei lwydd a'i hawddfyd gynt;
Ei adfyd blin presennol. Llawer iawn
O blentyn Adda, ac o blentyn Duw—
O'r dyn ffaeledig, ac o'r cywir sant
O'r bardd, ac o'r athronydd dwfn ei ddysg—
A ffrydiai allan yn ei eiriau o hyd.
Fodd bynag, tawodd yntau yn y man,
A chodai gŵr ieuangaidd ar ei draed,

Elihu, wrth ei enw, a'r hwn oedd
Yn gwrandaw o'r dechreuad ar y ddadl,
Heb dd'wedyd gair; ond sylwi'n ddyfal iawn
Ar bob ymadrodd dd'wedai'r naill a'r llall.
Ceryddai ef dri chyfaill Iob yn drwm,
Am farnu o honynt ef yn euog heb
Ei brofi'n euog, na'i wrthateb ef.
Ac yna troai ar Iob—ceryddai'n llym
Rai ymadroddion celyd, byrbwyll, a
Ddefnyddid ganddo wrth ymgyfiawnhau.
Ar ganol ei areithiau 'roedd efe,
Pan y gadewais hwy y bore hwn,
I ddyfod yma i adrodd i chwi hyn."
Hyd yna, Raphael. Mawr llawenydd nef,
Wrth wrandaw y newyddion gwerthfawr hyn;
Dechreuai sain goroian dori, pan,
Ar amnaid o'r orseddfainc, gosteg fu.
Arwyddai'r Duwdod iddynt hwy ei fod
Efe ei hun ar fyned allan i
Derfynu'r ddadl, a rhyddhau ei was
O rwymau blin ei gystudd, ac i ddwyn
Ei farn fel hanner dydd, ac amlycau
Gogoniant ei ddoethineb mawr ei hun,
A'i ras, trwy'r oruchwyliaeth ryfedd hon.
A chenad gafodd y nefolion oll
I fyned gyda'u Duw i wel'd ei waith,
A bod yn dystion o'r rhyfeddod fawr.

Pan oedd Elihu'n nghanol gwres ei bwnc,
Yn ceisio argyhoeddi Iob o'i fai,
Cyfodai cwmwl yn yr awyr draw,
Ymdanai'n fantell dew dros gorff yr haul;
Fe dduai'r wybren drwyddi oll i gyd;
Tywyllai'r wlad—pruddhäai y milod oll;
A llechai'r adar yn nghangenau'r coed;
Ac anian a lewygai fel mewn ofn
A phryder am ei bywyd, fel pe dwrn
Ei Chrewr f'ai'n gauedig uwch ei phen.
Llyncasid y dadleuwyr gan eu pwnc,

A nerth hyawdledd mab Barachiel gu
Yn ymresymu ar ei destyn dwys,
Fel na sylwasent hwy ar ddim o hyn.
Ymrwygodd taran groch ddychrynllyd iawn
Yn mynwes boeth y cwmwl uwch eu pen,
Yn hollol ddiddysgwyliad iddynt hwy;
Ymsaethai'r mellt ar ol eu gilydd trwy
Y nwyfre ddu, nes oedd yn lleni o dân.
Cenadau oeddynt o flaen wyneb Duw;
Ac udgorn i gyhoeddi ei fod yn dod
Y daran oedd—wrth nerthol swn yr hon,
Deffroid y pedwar gŵr—dychrynu wnaent.
Gollyngai Elihu ei bwnc o'i law;
A phan y lleddfai sain y daran gref,
A chael o hono ei anadl drachefn,
Ymaflai yn y daran—cymmerth hon
A'r fellten wyllt; pregethai arnynt hwy,
Er dangos mawredd a gogoniant Duw.
Y dymmestl fawr daranllyd giliai draw—
Dystawai'n raddol, megys i roi lle
I fab Barachiel draethu ar ei bwnc.
Cyn iddo orphen traethu'r araeth hon
Drachefn, fe glywid rhyw ddyeithrol dwrf,
O ochr yr anialwch iddynt hwy,
A rhyngddo ag atynt clywent ef yn dod.
Ymaflai arswyd weithian yn eu cnawd;
Ac ebe mab Barachiel, "Tawaf fi—
Mae Duw ei hunan atom yn nesau—
Ei dwrf fynega am dano—mae gerllaw!"
Ac erbyn hyn, yr oedd y corwynt cryf
Yn eu hamgylchu, gan ddiwreiddio'r coed,
A rhwygo'r cregiau'n ddarnau mân o'i flaen,
A siglo'r ddaiar megys dan eu traed.
Ac yn y cerbyd tra ofnadwy hwn,
Marchogai'r Hollalluog, a mil myrdd
O engyl gogoneddus; torf o saint,
A lynent wrth ei gerbyd rhyfedd ef.
Ac er yn nghanol y rhyferthwy mawr
Ofnadwy hwn, mor ddedwydd oeddynt hwy,

Dan nawdd eu Duw, a chydag ef, a phe
Buasent gartref yn nhawelwch nef.
Ond rhy ofnadwy oedd y lle i gnawd—
Fe dawai, fe arswydai, crynai ef,
Ac ar ei enau 'nawr y rhoddai'i law.
O'r corwynt croch, llef ddystaw fain a ddaeth—
Llais dwyfol oedd, tawelai'r corwynt certh.
Yr Hollalluog alwai ar ei was,
Sef Iob, i ddod a sefyll ger ei fron;
Ei holi a'i geryddu wnai ei Dad,
Yn rasol, dyner, ond mawreddig iawn;
Cymmerai'i blentyn megys yn ei law,
Arweiniai ef i wel'd ei fawredd yn
Ngweithredoedd rhyfedd ei ddehenlaw gref
Yn nghreadigaeth nef a daiar lawr.
Gofynai, Pwy a seiliai'r ddaiar? pwy
Osododd ei cholofnau? ar ba beth
Y sicrheusid y colofnau hyn?
A phwy a gauai'r môr cynddeiriog, cryf,
A dorau sicr? pwy a safai o'i flaen,
Pan ruthrai ef o groth y tryblith mawr
Ar fore'i enedigaeth, gyda nerth
Angerddol ac anorfod? pwy ond ef,
Ei Grewr!—Nid neb llai allasai fyn'd
I gwrdd âg ef, a sefyll ar y traeth,
A d'wedyd wrth ei ymchwydd dirfawr, cryf,
"Hyd yma deui, nid yn mhellach gam."
Llonyddai'r ymchwydd, ymorweddai'r don
Yn dawel ar y traeth wrth droed ei Duw.
Arweiniai ef i'r nefoedd fry uwch ben,
Agorai'i rhyfeddodau ger ei fron;
Aent heibio Orion ddysglaer, hòno sydd
Yn gwisgo ei hysblenydd wregys am
Ei lwynau, wedi'i rwymo'n nghyd mor dyn,
Na all ond dwylaw Duw ei ddattod byth;
Ac heibio i Pleiades dlos drachefn
Arcturus fawr, a'i feibion aml ef,
A Massaroth, a llawer gyda hyn.
Wrth dŷ'r goleuni galwent ar eu taith

Yn ol i'r ddaiar, heibio i fangre'r gwyll—
Trysorau'r eira,'r cenllysg oer, a'r tân,
Ac heibio mawrion ystafellau'r mellt
A'r croch daranau. Yna ar y llawr
Disgynent eilwaith—trwy'r anialwch aent:—
Dangosid iddo y behemoth cryf;
Yr unicorn mawreddog, pybyr, ffrom;
Yr asyn gwyllt ysgafndroed, chwimwth, pefr;
Ac yna at yr eryr, teyrn y graig—
Y cryfa'i aden, cryfa'i olwg, ac
Y cryfa'i grafanc o'r asgellog lu;
Y cyfrwys walch, yr estrys ffol, a'r paen
Balch foneddigaidd—amryw ereill o
Dylwythau'r aden:—yna at y march
Rhyfelgar, anwar, lwnc y ddaiar gan
Greulonedd, pan y clywo swn y corn
Yn galw i'r gad; o bell arogla ef
Y rhyfel; a chan dorchi'r llawr â'i draed,
A'i lygaid megys marwor llym o dân,
A'i ffroenau fel ffwrneisiau yn ei ben,
Prysura 'mlaen, a'i syched fel am waed:
Fe brancia 'nghanol eirf yn mhlith y cyrn,
A dywed mewn gweryriad croch, "Ha! Ha!"
I'r môr drachefn, at y lefiathan mawr,
Arweiniodd Duw ei was, gan ddangos hwn
Sydd yno'n chware, ac yn frenin ar
Holl feibion balchder, fel nad ydynt ddim
I'w olwg ef. "Beth meddi, bellach, Iob?"
Gofynai Ior:—" A oes it' fraich fel Duw?
A wnai fel ef daranau â dy lais?
A elli wasgar dy ddigofaint, a
Throi d'olwg ar y balch a'i daflu i lawr?
A chydio'n nghonglau'r ddaiar—ysgwyd hon
Uwch ben y diffwys, nes y llithro pob
Annuwiol oddi ar ei hwyneb hi?
Os gelli wneyd y pethau rhyfedd hyn,
Nas gallodd eto neb ond Duw eu gwneyd,
Addefaf finnau rym dy ddeheu law;
A'th fod yn gymhwys i feirniadu 'm ffyrdd;

Ac nad oes achos it' edifarhau
Am unrhyw air a ddaeth o'th enau di."
Atebai Iob, "Na, na: fy Nuw!—myfi
Nid wyf ond pryf llygredig, egwan, tlawd—
Gwael wyf, pa beth atebaf it'? pa fodd
Y safaf ger dy fron? mi ro'f fy llaw
Mwy ar fy ngenau; dystaw fyddaf byth.
Mi dd'wedais unwaith, ni chwanegaf mwy;
Ac O! na allwn alw'r geiriau'n ol!
Rhy hyf, rhy gnawdol, a rhyfygus fum;
Yn wir, mae'n ffiaidd genyf fi fy hun:
Mewn llwch a lludw 'rwy'n edifarhau;
Ac yn y llwch a'r lludw wrth dy draed,
I gael fy nysgu, y dymunwn fod.
Ti elli bobpeth, mi ni allaf ddim;
Wel cymmer fi i'th law, a threfna, gwna
Fel mynech â myfi; 'rwy'n teimlo'n awr
Yn gwbl foddlawn i'th ewyllys di.
Os rhaid im' aros eto yn y pair
Poeth hwn o gystudd, ni achwynaf air;
Dy eiddo wyf, mae genyt gyfiawn hawl
I wneyd â mi y modd y gweli'n dda;
A da y gwnaethost ti bob peth erioed."

Daeth Iob i'w le, a'r agwedd mynai Duw
Ei weled ynddi. Yna galwai Ior
Y gŵr o Teman—Eliphas—yr hwn
Oedd henaf o'r tri chyfaill, ac efe
A'i llym geryddai e', 'nghyd â'i ddau frawd,
Am eu syniadau cyfeiliornus hwy
Am lwybrau Duw, a'u geiriau celyd iawn
Yn erbyn Iob; ac iddynt ruthro mor
Ddiarbed a dideimlad ar yr hwn
A gystuddiasai Duw. Dylasent trwy
Dosturio, cydymdeimlo—gwneyd yr oll
Allasent i'w gysuro—dal ei ben
I fyny yn lle hyny, gwnaent yr oll
Allasent wneyd i guro'i ben i lawr.
Gorch'mynai Duw am iddynt ddwyn yn mlaen

Eu hebyrth dros eu camwedd—trefnai Iob
I offeiriadu ac eiriol drostynt hwy;
A hyny wnaed. A phan weddïai Iob
Dros ei gyfeillion, t'wnai wyneb Duw
Yn ei foddlonrwydd ar ei anwyl was;
A chyda'r llewyrch dwyfol hwn y daeth
Effeithiol feddyginiaeth iddo ef.
Fe deimlai rwymau ei afiechyd blin
Yn llacio,'n dattod—esmwythäai ei boen;
Fe deimlai nerth ac iechyd, yni, grym,
Yn treiddio trwy ei gyfansoddiad oll;
Dysgwiai'i holl gornwydydd oddi am
Ei groen a'i gnawd, ireiddiach oedd ei bryd
Na bachgen ieuanc; glanach oedd ei wedd
Nag ydoedd yn ei ddyddiau goreu gynt.
A phan dywynai arno wyneb Duw,
A'i wenau ef, fe wenai pawb o'i gylch—
Ei deulu a'i gyfeillion—llenwid eu
Geneuau oll â chwerthin ac â chân.
Ei wraig yn benaf oll, prysurai hi
A'i dwylaw am ei wddf, cofleidiai ef;
Ac a chusanau, taer ymbiliai ei
Faddeuant am ei hoerfelgarwch gynt:—
Cusanai, wylai eilwaith; yntau â
Chusanau, seliai ei faddeuant llawn
Iddi, a'i gariad ati: wylai pawb
O wir lawenydd, ac o wir fwynhad.
Hawdd gall'sai Iob i ddannod iddynt oll
Nad oeddynt ond cyfeillion tywydd teg,
Fel adar haf—pan ddeuai'r gauaf oer,
Ehedeg ymaith oll a wnaethent hwy;
A phan y deuai'n dymmor haf drachefn,
A'r haul i d'wnu, a chynhesu o'r hin,
A'r rhew, a'r eira, a'r cenllysg, gilio draw,
A'r coed i ddeilio, a natur wenu'n fwyn—
Hwynthwythau, fel y gog a'r wennol, a
Ddychwelent, ac a heidient oll o'i gylch,
I'w lawen gyfarch a'i gysuro ef.
Ei ffydd a'i obaith yn ei Dduw, trwy holl

Dymmestloedd cryfion, oerion, gauaf du,
Lynasant gydag ef i ddal ei ben
Uwch law y tonau certh, pan giliai pawb.

Fe hwyliai'r nefol osgordd adre'n awr,
A mawr orfoledd—trwy gynteddau'r nen
Esgynent; a gollyngent hwy oddi ar
Eu tannau, y beroriaeth fwyna' 'rioed
I fynwes yr awelon—cludent hwy
Y sain drwy holl ororau'r wybr fawr.
Cydymatebent, "Cenwch newydd gân,
Nefolion nerthoedd cyd—ddeffrowch yn awr!
Yr Arglwydd sydd ryfelwr; cenwch glod
Y fuddugoliaeth a ennillodd ei
Ddeheulaw gref, a'i hollalluog fraich—
Ei fawr ddoethineb, a'i anfeidrol ras,
Gynnaliai ac a nerthai eiddil gwan,
I drechu holl gynddaredd uffern ddig.
Fe dybiai'r gelyn—d'wedai ynddo'i hun—
'Fy ngwynfyd gâf, erlidiaf, daliaf ef;
Trybaeddaf ei ogoniant yn y llwch;
Ei goron a halogaf—crogaf hon
Ar un o dyrau annwn, yn gof nod
O'm goruchafiaeth ar fy ngelyn mawr."
Ond siomwyd ef; ac â thragwyddol warth,
Yn lle gogoniant, gwisgwyd Satan a'i
Holl ystryw a'i fwriadau—d'ryswyd hwy.
Yr Arglwydd sydd ryfelwr! ef a wnaeth
Yn ogoneddus yn ardderchog iawn!
Gwasgarodd ei elynion; taflodd hwy
I ddyfnder colledigaeth; cauodd hwn
Am danynt, ac i'w geudod suddo wnaent
I lawr, i lawr, fel plwm neu gareg fud.
Ac wele Iob, a'i goron ar ei ben,
A phalmwydd buddugoliaeth yn ei law,
A haul y nef yn ail dywynu ar
Ei babell ef, a'i alar wedi troi
Yn fawr lawenydd, a'i gwynfanau'n gân.
Hwynthwy'r saethyddion a'i casasant ef—

Saethasant ato saethau drochid mewn
Gwenwynig gyffaith, gymmysgesid yn
Fferyllfa uffern, gan ellyllon hon;
Ond ar ei darian tincient, syrthient oll,
Gan lithro ar hyd—ddi, a disgyn ar y llawr
Yn feirwon wrth ei draed. Ei fwa ef
Arhôdd yn gryf, a'i freichiau'n nerthol iawn;
Trwy rymus ddwylaw'i Dduw, gorchfygu wnaeth.
Ac enw a gras ein Duw a biau'r clod,
Ac iddo byddo'r mawl tros byth. Amen."

Ymdanai'r newydd am adferiad Iob
Trwy'r fro yn gyflym iawn, a thrannoeth daeth
Ei hen gyfeillion—pendefigion Us,
I ymwel'd âg ef—pob un a'i dlws o aur,
A'i ddarn o arian, i'w anrhegu ef.
A hwnw'n ddydd o wyl llawenydd mawr,
A gedwid ganddynt; a chyssegrwyd ef
O hyny allan i barhau i fod
Yn un o arbenicaf wyliau'r wlad.
Ar ganol eu llawenydd hwy'n y tŷ,
Fe glywid ar y buarth ddirfawr sŵn—
Brefiadau gwartheg, defaid filoedd, a
Chamelod, ac asynod, lawer iawn.
Ychydig ddyddiau'n ol, syrthiasai rhyw
Flin anesmwythder ar galonau dewr
Benaethiaid Seba, a Chaldea; hwy
Ni allent gael tawelwch ddydd na nos,
Yn nghwsg neu'n effro, ni chaent orphwys dim—
Yr anrhaith a ddygasent oddi ar Iob—
Y cam a'r trawsder wnaethent hwy âg ef—
Ymrithiai o'u blaen y dydd; y nos drachefn,
Yn eu breuddwydion, gwelent, clywent sŵn
Brefiadau'i ddefaid, a beichiadau croch
Ei wartheg a'i asynod, nes y'u llwyr
Syfrdanid ganddynt, ac mewn dychryn tost
Deffroent; ond mor fuan eilwaith ac
Dechreuent huno, hwy a welent un
O hen asynod Iob yn dod yn mlaen,

Gan ddodi'i ffroen ger llaw i borth eu clust,
Ac awchio yn ddychrynllyd; a hwynthwy
Ddychlament yn eu braw—anfonent am
Y brudwyr a'r dewiniaid gyda brys:
Mynegent iddynt eu trueni blin;
Gofynent gynghor iddynt, beth a wnaent
Er cael ymwared o'r blinderau hyn.
Y cynghor roddai'r brudwyr iddynt, oedd—
I anfon, casglu anifeiliaid Iob
Yn nghyd bob un, ac hefyd dyblu 'u rhif;
Ac edfryd iddo yn ddau ddyblyg ei
Feddiannau: gyda hyny, anfon yn
Genadon ato oreu gwŷr eu gwlad,
I erfyn ei faddeuant am y trais,
A'i weddi drostynt, ac ei fendith ar
Eu gwlad a'u heiddo—na chaent lwyddiant byth
Hyd nes y gwnelent hyny:—a hyny a wnaed.
Fel hyn, bendithiai'r Arglwydd ddiwedd Iob
Yn fwy nag ei ddechreuad ef cyn hyn;
Gan Satan ef a gafodd lonydd byth,
Ni ddeuai ef yn agos at y fan
Y trigai'r cyfiawn hwnw ynddo mwy;
A byth hyd heddyw mae'n casau y lle,
Ac nid oes unman ar y ddaiar ond
Calfaria'n gasach gan ei galon ef,
Na'r llanerch hòno y preswyliai Iob.
Ymdrechodd i berswadio dynion da
I gredu ac ysgrifenu mai ffug chwedl,
Ac nid gwirionedd, ydyw hanes Iob;
Gan feddwl felly y gallai guddio peth
O'i warth o wydd y byd. Yn hyn drachefn,
Bu'n llawn mor aflwyddiannus ag o'r blaen;
Ychydig nifer fynent roddi coel
I'r stori hon drwy'r oesau; ond y gred
Gyffredin fu ac yw, ei bod yn ffaith.

Tros gant a deugain mlynedd wedi hyn,
Bu'r patriarch fyw mewn parch, anrhydedd mawr:
Fe anwyd iddo saith o feibion teg,

A thair o ferched prydferth; ac yr oedd
Eu glendid a'u prydferthwch heb ei ail
Drwy'r holl ddwyreindir—haerai llawer mai
Ei deirmerch cyntaf oeddynt, wedi cael
Eu hadgyfodi, a'u hadferu'n ol.
Ond ereill haerent fod y rhai'n yn wir,
Yn tra rhagori yn eu glendid ar
Eu cynchwiorydd: mynai rhai drachefn
Mai angelesau oeddynt, wedi dod
O nef i'r ddaiar i wladeiddio holl
Fenywod byd, fel na falchïai 'rhai'n
Byth mwyach yn eu tegwch, gan nad oedd
Ond hagredd perffaith ar y goreu, mewn
Cymhariaeth i'w prydferthwch nefol hwy.
Fel hyn, tywynai haul prydnawn ei ddydd
Yn fwy ysblenydd na'i foreuddydd ef:
Ni chododd cwmwl mwyach uwch ei ben,
A haul ei fywyd a fachludai mewn
Gogoniant; a disgynai ef i'r bedd
Yn llawn o ddyddiau, ac yn llawn o barch.
O'i ol gadawai goffadwriaeth fydd
Yn fendigedig hyd ddiweddaf oes
Y byd; a bydd ei hanes ef yn brawf
O ryfedd allu gras yn enaid dyn,
Ac mai nid ofer yw gwas'naethu Duw;
Ac na w'radwyddir neb a roddo ei
Ymddiried ynddo:—" Fel y d'wedo dyn,
Diau fod ffrwyth i'r cyfiawn, a diau
Fod Duw a farna ar y ddaiar hon."


HEDDWCH.

TESTYN Y GADAIR YN EISTEDDFOD FREINIOL MADOG, YN 1851.

Barnwyd mai yr awdl hon a deilyngai y wobr.

A GANLYN YDOEDD MYNEGIAD Y BEIRNIAID, SEF Y PARCH. W. WILLIAMS (CALEDFRYN), MR. E. THOMAS (EBEN FARDD), A'R PARCH. M. WILLIAMS (NICANDER), AR Y CYFANSODDIAD HWN.

"Hedd Molwynog." Cymmer yr awdwr hwn olwg eang ar ei destyn yn ei holl gyssylltiadau. Dechreua yn y man y dylasai ddechreu, a diwedda yn y man lle y dylasai ddiweddu. Nis gellir mynegu hyny am bob awdl sydd ger ein bron. Darlunia heddwch cyntaf y byd yn brydferth, pan

"Nid adwaenid trist wyneb,
Eilun o wg yn ael neb:—"

A chyfiawnder yn edrych ar bob cwr o'r greadigaeth, heb weled un bai ynddi, pan oedd

"Haul y wybr yn ymlwybro,
A'i hwyr wawr yn goreuro—bron Eden,
Yr ardd orlawen, a'i hardd orliwio:—"

Y llew,

"Fel hydd gwirion:
Teigrod nid oeddynt egrach
Yn null eu byw na lloi bach."

Darlunia yr awdwr heddwch y nef yn cael ei dori, a Satan yn cael ei droi oddi yno:

"Y du ellyll drow'd allan
Efo'i leng o Wynfa lân:—"


A'r genfigen oedd yn ei fynwes at ddedwyddwch y llys—a'i fod, ar ol gwrandaw caniadau difyrus, wedi disgyn i'r "newyddfyd" i godi ei luman. Darlunir y ddichell a arferodd; ac ar ol y trychineb, dywed y bardd

"Dyna heddwch wedi ei anhuddo,
Ow! y dyn anwyl wedi'i wenwyno;
Ael y nef uchel dawel yn duo,
A'r awelon yn tori i wylo."

Dengys holl elfenau natur yn ymwriaw

"Tân a mellt yn ymwylltio—a'r gwewyr,
Dorai'n yr awyr yn daran ruo."

Holl greaduriaid Duw yn cael eu llenwi & gelyniaeth yn erbyn eu gilydd yr addewid o Had y wraig yn arwyddo heddwch, ac yn tawelu yr ystorm.

Cymmer yr awdwr olwg wedi hyny yn yr ail ran ar heddwch rhwng dynolryw yn cael ei dori y tro cyntaf yn mherson Cain. Rhwysg Nimrod—Llunio pob math o eirf dinystr. Rhyfeloedd yn cael eu hachosi gan bethau bach—llain o dir—menyw. Echryslonrwydd rhyfel. Darluniad o'r march:

"Y meirch a glywant, adwaenant donau
Udgorn y rhyfel, a'i uchel awchiau;
Ymennyn weithian mae 'u hanian hwythau—
'Heda 'u gweryriad hyd y gororau.
***
"Saethau a gwrthsaethau sydd—ar gerdded,
Hwynt heb eu gweled, änt heibio'u gilydd,
Gan gyrchu gwanu trwy'r gwynt,
Dynion a gwympir danynt.
***
"Elychwinir yr irwellt,
Cochliwia'r gwyar y gwellt;
Gwylltio mae'r cadfeirch gwalltawg,
Waethwaeth änt, rhuthrant y rhawg.
***
" A'u llygaid erchyll agwrdd,
Yn eu bar yn wreichion byw,
Fal marwor ufel meryw;
Crynhoi dan eu carnau dig,
Mae aelodau maledig.
***
" A gwaed tros eu hegwydydd,
Yna red yn afon rydd."


Yr haul yn cuddio ei wyneb—y nos yn tanu llen dros warth dynion—y fwlturiaid yn ymgasglu. Menyw yn troi allan yn nghanol ofn a phryder i chwilio am ei hanwylyd—bore y dydd hwnw yr oedd hi wedi cael ei gusan olaf. Bu oriau lawer yn chwilio am dano, a "gwelai, 'n lliw goleuni lloer," y

"Llu o gyrff mewn pyllau gwaed
Orweddynt yn eu rhuddwaed;
Clywai gwynion dyfnion dig,
Adwyth y rhai clwyfedig,
A drengent mewn dir angau—ysgeler,
Rhai 'n bloesg alw 'u mamau—
Rhai eu gwlad, rhai eu tadau—wnaent sisial,
Ow! a llesg fwngial yn llosgfa angau.
Yma nid oedd mam neu dad,
Na chwaer, na brawd, na chariad,
Na phriod yn dyfod i
Ystyried mewn tosturi."


Yr adar yn hofran—lladron yn dysgwyl cyfle i ddisgyn ar eu hysglyfaeth——Mair yn dyferu gwin ar lawer gwefus sych, ac o'r diwedd yn dyfod o hyd i'w hanwylyd—y mae yn sychu y gwaed oddi ar ei ruddiau, ac yn dyfod i'w adnabod yn well—yr effaith—Mair yn llesmeirio, i beidio dadebru mwy. Rhydd yr awdwr olwg helaeth i ni ar ryfeloedd yr Aipht, Assyria, Caldea, Persia, Groeg, a Rhufain. Darluniad o hwrdd Persia, a bwch Groeg :

"Yn y gad corniai gedyrn,
Rhedai gwaed ar hyd ei gyrn."


Rhyfeloedd y groes, a'r holl ryfeloedd hyd faes Waterloo. Y gorthrwm mawr sydd yn dilyn rhyfeloedd, a osodir allan yn yr englyn canlynol :

"Ninnau sydd yn y deyrnas hon—ar ol
Yr helynt echryslon,
Ar lethu dan orlwythion—trwm echrys,
Dyledion erys i dlodi 'n hwyrion."


Wedi hyn â yr awdwr yn mlaen i ddarlunio y genfaint o waeau sydd yn dilyn rhyfeloedd.

Yn y drydedd ran, daw y bardd o'r tân, a'r mwg, a'r gelanedd, i gymmeryd ei anadl; ac y mae fel pe byddai yn eistedd yn hamddenol yn nrws ei babell, ac yn tynu darlun prydferth o heddwch ymdrechion Cymdeithas Heddwch y Palas Gwydr yr awen yn cael ei throi o du heddwch—Ardalydd Môn, a'i nawdd i'r eisteddfod y gof yn cael nifer o hen gleddyfau i'w troi yn sychau—yn gafael

"Yn hyf mewn hen gleddyf glas,
Luniodd lawer galanas.
***
"Rhed ei fawd ar hyd ei fin."

Ac wedi ei ddodi yn y tân

"Fe'i cura nes ä yn swch."

Y mae yr awdl hon yn gyfanwaith teg, yn llawn o dân awenyddol; ac y mae yn wir y gallasai yr awdwr fod yn daclusach gyda llawer llinell, ac yn rymusach. Nid oes ond ychydig o wallau cynghaneddol wedi dianc ynddi. Da pe cawsai yr awdwr ychydig mwy o hamdden i'w hadolygu, cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth. Y mae yn rhagori digon ar bob un o'r lleill; ac yn ein barn ni, teilynga y wobr.

PEACE.

The Chair Prize at the Royal Madoc Eisteddfod, held in 1851, was awarded to the following Poem on the above subject. For the sake of those supporters of the Eisteddfod who do not understand the Welsh language, and who have kindly subscribed for this work, the author prefers giving the programme in English.

THE DESIGN.

THE original peace and harmony of the universe disturbed and destroyed by the machinations of Satan. Wars, and their attendant calamities. Restoration of peace and happiness through the intervention of the Son of God.

CONTENTS.

Part i.

Lamentations over the ruined state of the moral world, in consequence of the first transgression—the pristine glory of the earth departed—the abrupt termination of the happy reign of peace and love—the harpstring of nature brokena retrospect the first Sabbath—the morning stars, and all the sons of God uniting to celebrate the praises of Jehovah, filling the temple of the universe with their melodious sounds—the sweet tones, falling upon the ears of admiring earth—she echoes them back to heaven. Two voices, which proved to be those of our first parents, excel all others in the grand orchestra. God graciously accepts the praise-offerings of his creatures, and baptizes them with his blessings. The atmosphere of the earth, free from all impurity, breathes life, health, and immortality—misery and death not yet known—the administration of the terrestrial world committed to Adam, and secured to him on condition of his perfect obedience to the will of God. The festival of general peace—Justice, looking down from heaven, beholds the beautiful harmony of nature, and anoints it with heaven's own unction—the smiles of the setting sun of that day adorning the bosom of Paradise with beauty—the sweet sleep of nature on that night under the wings of peace and love —its dreams of joy and happiness—carnivorous animals, and beasts of prey, not having yet evinced any disposition to devour. Satan, having escaped from Gehenna on that morning, hears the joyful acclamations of the sons of God, and approaches the court of heaven, in order to pry into the secret of the present rejoicings—he distinguishes two strange voices—his soliloquy on the occasion—his bitter remorse, and malignant determination to persist in his rebellious course. The strange voices again disturb him—he concludes that a new world, and a new order of beings, have been created, which he determines to discover, in order to attempt another rebellion against God, and the happiness of his creatures—he traverses space, and explores its depths alights on the central sun in the milky way—discovers a strange planet—arrives in the moon, from whence he fully explores the earth, and finds Adam and Eve sleeping under the tree of life—their glory and beauty fills him with envy and hatred—listening to their morning conversation, he learns the secret concerning the forbidden tree—returns to Gehenna to announce his discoveries—exhorts his fellow spirits to be courageous, and promises to lead them to conquest and glory—they applaud his sagacity and plan. Angels visiting Adam on that morning after Satan had departed— Jehovah visits him for the last time — Satan re-enters Paradise after God's departure, and succeeds in tempting man to disobey the divine command—the sad consequences —man ruined—peace departed—the aspect of things changed —the elements at war with each other—the Cherubim of heaven, putting away their harps, arm themselves with fiery swords, and chase the legions of hell back to their dark prison—the expulsion of Adam and Eve out of Paradisethe beasts and birds of prey become outrageous—the elements of war and misery possess man—mercy interposes in his behalf—the bow in the cloud, signifying a gracious restoration—the promise of the seed of the woman, the foundation of reconciliation—the malignant designs of Satan are yet to be frustrated.

Part ii.

The seeds of enmity and malice producing their bitter fruits—Cain, the first—born of human kind, a man of blood, and a murderer—Nimrod, the mighty hunter—kings and chieftains, animated by the love of conquest and plunder, wage war against one another. Wars generally occasioned by trifling circumstances—a tract of land the love of women, &c. Description of a battle—the hostile armies approaching each other—the war trumpet sounds—the vanguards engage—the battle becomes general—the awful rage of the war horses—terrible carnage—the swords complete the work of destruction—the sun hides its face, and withholds its light from the combatants—night mercifully interposes between the belligerent armies—vultures, and other birds of prey, feast on the dead and dying—thieves and murderers prowling about the field of death, to rob the bodies of the slain and wounded. A young female, visits the field of battle in search of her lover, the strength of her affection overcoming her fears—the interview of the lovers on the morning of that day—her anxiety during the day—enters the field in the dead of night by the light of the moon—she beholds the terrible scene of carnage—the awful sufferings and distress of the wounded and dying—some feebly pronouncing the name of a father, mother, brother, or sister, &c., with their last breath—the tender—hearted Mary, like an angel of mercy, alleviates the last sufferings of some, by anointing their parched lips with wine; when, in the act of relieving a dying soldier, she hears her own name feebly pronounced in a whisper—she wipes the face of the sufferer, whom she recognises as her own Edwin—her deep distress —he answers her agonizing entreaties with a dying glance full of affection, and expires in her arms—Mary utters one deep groan, and falls down dead on the corpse of her lover. The beaten army retires, and the conquerors rejoice. The ancient history of the world, a history of wars—Egypt, and her ancient kings—Assyria, and the successors of NimrodBelus, Semiramis, and Ninus—the four beasts of Daniel, representing the four monarchies—the Chaldean, the Persian, the Grecian, and the Roman—their chief warriors, Nebuchadnezzar, Cyrus, Darius, Alexander the Great, and his successors—the Roman warriors, Romulus, Regulus, Scipio, Sylla, Marius, Pompey, and Julius Cæsar — the Scythians, and the Parthians—the Saracens, and the Turks —the Crusaders—Art supplying the angel of destruction with a tongue to speak the awful language of death, by the invention of gunpowder and artillery—a reproof to the Muse for having encouraged war by songs in celebration of military glory—the wars of modern times—Napoleon, the archangel of war—his final overthrow at Waterloo—the accumulation of our national debt to an enormous degree, in consequence of the late European wars—description of the awful calamities occasioned by wars.

Part iii.

An address of congratulation to the Muse on the prospect of the restoration of universal peace—ancient prophets rejoicing on beholding from afar the advent of the Messiah's kingdom, and his peaceful reign—David's song to Solomon, as the type of the Messiah and his kingdom—the songs of Isaiah, celebrating the happy state of the world under the dominion of the gospel—the lion and the ox yoked together —the bear and the cow—the wolf and the lamb dwelling together in peace—mountains and hills levelled—arts and sciences prevail—knowledge universally diffused—the influence of the gospel on the nations, inducing them to forget warlike dispositions and habits. The fulness of time—the advent of the Prince of Peace—the angelic hosts visit Bethlehem on the morning of the nativity—the Cherubim of Paradise sheathe their fiery swords, and take their harps to unite with their brother angels in celebrating the birth of the peacemaker—the angelic song. Jesus Christ proclaims peace on earth—the sermon on the mount—his whole life an exemplification of the principles inculcated in that sermon—his dying prayer—he proclaims peace and good will to men after his resurrection his last commission to his disciples. Ancient advocates for peace—Wickliffe—Erasmus —the Moravians, and the Quakers—the signs of the times—Bible, and Missionary societies—the Peace Society, and its advocates—female influence the Great Exhibition—the press—the Marquis of Anglesea, a military hero, the president of the Madoc Eisteddfod, the subject of the chair poem being peace—the weapons of war converted into implements of husbandry—the blacksmith's exploits. A song in celebration of the advent of universal peace on earth, setting forth the happiness of the nations in the enjoyment of its blessings—the triumphal reign of the Messiah. The conclusion.

AWDL AR HEDDWCH.
RHAN I.

O! EIN daiar andwyol—ei chyflwr,
Och! ei haflwydd moesol;
Arni saif truenus ôl
Briwiau y cwymp boreuol.

Dygwyd ei chreadigol—addurniant
Oddiarni yn hollol,
Ei hafddydd newydd yn ol
Droai 'n nos druenusol.

Y chwiorydd, Hedd a Chariad—oedd gwir
Hawddgarwch y cread;
Tirion oes eu teyrnasiad,
Bri hon fu o fyr barhad.

Un Sabbath llawn o seibiant—yn dywydd
O dawel orphwysiant,
Fu i anian yn fwyniant,
Cyn troi 'i thôn, cyn tori 'i thant.

Y bore hwnw, y ser wybrenol
A gydganasant mewn nwyfiant nefol;
Tônau cariad o'u tannau cyweiriol,
A glybu'r ddaiar fwynwar glustfeiniol—
Hon wnai anfon yn ol i lys nef lân
Adseiniau eirian y gân blygeiniol.
Holl feibion Ion a'i weision unasant
Yn thronau fil, a tharanau o foliant,
Orwychaf fiwsig a ddyrchafasant—

"I dy gu enw, O! dod ogoniant!"
Y nefoedd lysoedd siglasant—teml Naf
Hyd gyrion isaf y byd grynasant.

Yn y fwyn berorfa hdno—dau lais
Oedd dlysach yn seinio
Mawl eu Ner, na'r miliwn o
Benceirdd oedd yn cydbyncio.

Adda ac Efa gyfion—yn Eden,
Ro'ent y nodau mwynion;
Fu lleisiau hwy yn llys Ion—wnaent chwyddaw
Yn mhell uwch law i alaw angelion.

Duw Ior uchel edrychodd,
Eu haberth fawl, bu wrth ei fodd;
A derbyniodd wirfoddawl
Offrymiad mwynfad eu mawl.
A'r hael Ior agorai 'i law,
Ei ddihalog ddeheulaw,
A thaenellai ei fendithion allan
Y dydd hwnw i fedyddio anian.
Afon o fywyd ymlifai 'n fuan,
Ymchwyddai, lledai dros y byd llydan;
Dim dolur anmhur yn unman—yn bod,
Neb un i'w ganfod dan boen i gwynfan.

Awyr iach y ddaiar hon—oedd beraidd,
Heb arogl clefydon;
Ar ei chwyl drwy'r uchelion—ymsïai,
Bywyd a chwiwiai drwy'r byd â'i chwaon.

Pob awel dawel deuai—a'i mwyniant
Ei mynwes agorai;
A rhyw fawr drysawr didrai—'n haelionus,
O rad daionus a hyfryd daenai.

Gwenwyn, un defnyn nid oedd—yn natur,
Hon eto, iach ydoedd;

Angeu, a defnydd ingoedd—a gofid,
Hwy ni anesid, nac un o'u iasoedd.

Aroglion per a dreiglynt—ar dyner
Adenydd boreuwynt;
Hyd ogylch y byd dygynt—rin dwyfol,
Bywyd anfarwol oedd dreiddiol drwyddynt.

Adda enwog oedd ynad—hedd anian,
Trwy ddoniau 'r eneiniad,
A roddai Ion ar hardd iad
Y dyn, ddydd ei ordeiniad.

Gras a phurdeb, anfarwoldeb,
Yn ei wyneb—glân a wenent;
Hedd a chariad—yn ei lygad,
Mewn ymdoniad—mwyn ymd'w'nent.

A llonaid ei enaid oedd
O nwyf, a hedd y nefoedd;
Ar amod, mewn cydrwymyn,
'Roedd cydfod Duwdod a dyn;
Ufudd—dod cu o du dyn,
Oedd y nefoedd yn ofyn,
I nef, tra parai 'n ufudd,
Cai wynfyd, bywyd, pob budd.

O tan yr amod hono—addewid
O'r ddaiar ro'id iddo,
A'i holl luoedd i'w llywio
I'w lles wrth 'i ewyllys o.

Gŵyl o hedd fu 'r egwyl hon,
A chariad oedd ei choron;
Ni adwaenid trist wyneb,
Eilun o wg yn ael neb;
Ni welid dig gymylau tân,
Yn awr un yn awyr anian.
O'i lys, cyfiawnder i lawr
Oddi ar ei orsedd eurwawr,

<poem>
Edrychodd, gwelodd o gylch,
Trwy eigion natur ogylch;
Ond un gwall, neu ball, na bai,
Yn ei olwg, ni welai:
Yna hael wenau ei hedd,
Dylanwad ei radlonedd,
Yn wlith o fendith o'i fodd,
Ef yn anwyl ddefnynodd
Yn enaint ar ben anian,
A bodau 'r llawr, mawr a mân.

Haul y wybr a ymlwybrodd—i'w hwyrbarth

Cyferbyn enciliodd;
A'i hwyr wawr a oreurodd—fron Eden,
Yr ardd orlawen, a hardd arliwiodd.
A natur aeth am un tro,
I hun y noson hòno,
Heb ddolur, llafur, na llid
Rhyfel, nac unrhyw ofid.
Mwynaidd yn ei 'menydd hi
Oedd ei breuddwydion iddi,
Breuddwydion hirion o hedd,
Ac o fwyniant cyfanedd.
Mil o anian mileinig,
Nid oedd un o duedd ddig:
Y llew orweddai 'n y llwyn—
Ymarweddai mor addwyn
A'r ddafad, heb frad i'w fron,
A gwar oedd, fel hydd gwirion;
Teigrod, nid oeddynt egrach
Yn null eu byw na lloi bach;
Un dywalgi dialgar
Ei ystryw am fyw drwy far;
Y blaidd mor waraidd wirion,
Ei fryd a'r oen, ar y fron;
Y llwynog ni chynlluniai
Frad i neb, na difrod wnai;
Nid oedd yn y sarff wŷn dig,
Nac anianawd gwenwyngi.

Holl anian oedd yn llonydd—dan nodded
Aden heddwch beunydd;
Hedd ymlifai, rhedai'n rhydd
Yn awyr y byd newydd.

Eithr ryw sut, e ruthrai Satan—obry
O abred, tan lechian;
Y du ellyll drow'd allan
Efo'i leng o wynfa lân,
I dân, o dan gadwynau,
Aethol gosb, i'w bythol gau
Dan orlymder digter Duw,
A'i ddialedd yn ddiluw;
Taliad eu brad—ofnadwy
A fu cosb eu rhyfyg hwy.

Satan a droes, tynai draw—y dydd hwn
O eigionwyll annwn, dan gynllwynaw;
O'i ffau y gwibiai 'n dra phell,
Gan dawchio gŵyn a dichell.
Adsain cân anian unawl—
Y ber dôn a glybu 'r diawl;
Gwrandawai, clustfeiniai 'r fall
Daeog, er mwyn cael deall

Y gwaith, a natur y gân—a'r achos
O'r uchel oroian;
Ai 'n ei flys at lys nef lân,
I chwilio oll, a chael allan.

Deulais geid yn y dlos gân
Suai eto 'nghlust Satan,
Yn doniad, ni adwaenai
Y sain hwn—i synu äi—
Ymsyniai am y seiniad,
O ba lwyth, ac o ba wlad
Y deilliai? pa oedd dullwedd,
Rhyw, a maint y rhai a'i medd?
"Wyf yn adwaen," fe nodawdd,
"Gân nef, y mae'n ddigon hawdd;

O gôr y llys, ysbys wyf,
A dawn pob un adwaenwyf.
Oeddwn yn athraw iddynt
Yn y gân, a'r pena' gynt:
Gan yr Ior i'w glodfori,
Oes un, ond a ddysgais i,
Yn medru mwyn glymu'i glod,
A difyr gân ar dafod ?
A dyma'i daliad imi ?
Gofwy o siom gefais i!
Hwy oll yn awr, llawen înt
Yn y swydd ddysgais iddynt;
Hwy yn cydfwynhau eu cân,
A mi'n greddfu mewn griddfan;
Hwy yn nefol eu golwg—
Wele fi mewn damniol fwg!

"Ond bod yn was allaswn—eto'n nef
Tan Ior, pe mynaswn;
A moli gyda'r miliwn,
Yn ddihaint ar y dydd hwn.

"Nofio mewn gwynfyd nefol—allaswn,
Yn lle ysu'n ddamniol
Adyn hyll, o dan hollol—felldithiad,
Gwae annobeithiad, a gwyniau bythol!

"Y gân hon sy'n dig ennynu—'mhoenau,
I'm henaid mae'n brathu
Y cof am y gwynfyd cu—a pherffaith,
Yn nefoedd unwaith fum yn feddiannu.

"Ond, a fawr edifeiriaf—o herwydd
Im' herio'r Goruchaf?
Hyny'n wir, byth, byth ni wnaf—ymroddais,
A thrwy falais y gwrthryfelaf.

"Ond ha! wel dyna ail doniad—uthrawg
Y ddyeithriol ganiad;

Nodau y don a'i newidiad,
A iaith hon, ni wn, na'i thad.

"Mae'n taro i'm meddwl manwl y munyd
Hwn, i'r Ion, ar ryw ddiweddar enyd,
Lunio anneddfa lân o newyddfyd;
A chreu hil newydd, rai ufydd hefyd,
O fri uchelwawr a difrycheulyd,
Mewn gogoneddus ddifeius fywyd;
A hwy'n eu hoewfro sy'n eilio'r gân hyfryd
Hon yn ddiau, mewn mwynaidd ddyhewyd:
Heddyw gŵyl, berthwyl eu byd—sydd yno,
Rhaid imi am dano i chwilio ddychwelyd.

"Archwiliaf hyd erch waelod—aneglur
Dwfn wagle diddarfod,
O bwnc i bwnc, os yw'n bod,
Af heibio, mynaf wybod.

"Ac felly, os caf allan—newyddfyd,
Caf noddfa a thrigfan—
Lle imi godi'm lluman—i fyny,
I ail enynu rhyfel yn anian.

"A throi dedwydd fyd dyeithr y Duwdod,
Yn lle a maes im' allu ymosod,
Er tori dewrder taer ei awdurdod;
A tharo & melldith uthr a malldod,
Y rhai glân sy'n rhoi'i glod—allan yno,
A'u dwyn oddiarno, wel dyna ddyrnod !"

Y drwg elyn draw giliai
I'w ymdaith, ac ymaith äi.
Fe wylltiai fel llem fellten
Ar ei nawd drwy fro y nen,
A'i olwg craff, treiddgraff trodd,
I'r iselion, arsylwodd
Ar fydoedd afrifadwy
Hwnt oedd—aeth heibio hwynt hwy,


Nes y daeth i'r llwybr llaethog—helaeth,
A'i heuliau tylwythog,
A'r llysoedd tra lluosog,
A gair yn ei grair yn grog.

Ar brif haul yr wybrfa hon,
Disgynodd, safodd yn syn,
Holl ser ewybr y llwybr llon,
A nododd mewn mynydyn.

Gwelodd un, gwyliodd hòno,
Ail graffodd, edrychodd dro,
Uthr oedd a dyeithr iddo,
Ei gwedd yn ei olwg o.
Ymlwybro hyd ymyl wybren
Y llwybr llaeth a wnaeth drwy'r nen.

A'i orsaf nesaf a wnai—ar y lloer,
O'r lle yr arsyllai;
Ac i'w olwg y gwelai—y byd glân,
Llid ei hen anian danllyd enynai.

Fel llew cryf, hyf ar 'sglyfaeth,
Rhoi naid i'r ddaiar a wnaeth,
Chwiliai, olrheiniai bob rhan,
Ysbïwr cyfrwys buan;
A chwai y deuai'n ei daith
I fro Eden ar fradwaith.

A chanfu Adda ac Efa gyfion,
Dan bren y bywyd, hyfryd eu dwyfron,
Yn huno'n wyl, a'r mwyniawn awelon
Yn eu hanwesu eill dau'n hynawsion;
Mawr eu hurddas, mor heirddion—oedd y ddau,
Byd a neuaddau y bodau newyddion!

Satan äi yn nes eto—i'w golwg
Eilwaith, dan glustfeinio;
Ef enyd safai yno—eu tegwch
Hwy a'u dedwyddwch oedd syndod iddo.


Dirgelwch eu heddwch hwy,
Hwn ydoedd annirnadwy
Iddo fe—ni wyddai fod
Hyd yma, un cydamod
Yn Eden, ar y pren praw'
Ar Addaf, ro'i Ior iddaw:
Ddu ellyll, ni ddeallai
Pa fodd i'w tripio i fai.
Adda ar y boreuddydd,
Ag awel dawel y dydd,
Ddeffrodd, a galwodd ei gu
Efa anwyl i fynu.

Clybu Satan eu hymddyddan,
E dd'ai allan yn ddeallol,
Am yr unig bren nodedig,
Gwaharddedig arwyddiadol.

Ca'dd yr allwedd i'w feddiant,
'N ol chwim ei uffernol chwant:
I'w bell daith, tua'i bwll dwfn,
Unionodd i'w hen annwfn,
I ddwyn y newydd yno—
Hanes ei daith hirfaith o.
Pan orphenodd adroddi
Iddynt ei holl helynt hi,
Ei frodyr diofrydawl
Gyfarchai—d'wedai'r pen diawl:—

"O! chwi herodron am wych wrhydri—
Duwiau y trinoedd, tadau trueni,
Na ddigalonwch, fe ddaw goleuni;
Codwch, anturiwch, mae gwawr yn tori,
Llwyddais i gael allweddi—dry gloion,
Egyr byd dynion yn union ini.

"Myn fy ffwrn, mi wnaf fy ffordd,
Er bri uffern—fawr brif-ffordd,
I'ch tywys ar frys i fro
Yr hynod ddaiar hòno;

A mynaf wel'd fy maniar
Bygddu hon yn union ar
Dalaf frig y dawel fro,
A'r annedd urddfawr hòno;
Mynaf y mawl, myn fy myd,
Pren bai fydd pren y bywyd!

"Dyn uniawn a wnawn fel ni—yn filain
Ryfelawg ei yni;
A'i ddaiar i'w hafar hi,
Ys trown yn faes trueni!"

Pan yr aeth penaeth y pwll
Drwy ei araith hirfaith hell,
Cydroi wnai y cedyrn oll,
Gyfarchwaedd ddig, ddieflig ddull.

Griddfanai, adseiniai'r swn
Yn agenau creig annwn—
Tyngent ryfel trybelid
Yn nghwrdd llawn angerdd eu llid,
Yn erbyn nef, ac hefyd
Holl anian gyfan i gyd.

Y dydd hwnw mewn dyddanwch—dreilid,
Rheolai gwir heddwch;
A duwiolaidd dawelwch—dibryder,
Heb arw drawster, a barai dristwch.

Hedd yn dal ei deyrnwialen,
Fyny 'roedd y faner wen.
Ar godiad tywyniad haul
Yn nôr y dwyrain araul,
D'ai angelion, ar awelon,
Yn westeion hynaws duedd;
I'r dyn weithion, ei gymdeithion
Fu hael fwynion nefol fonedd.

Iehofa ddeuai hefyd
I fwyn ymweled â'i fyd,

A'n dedwyddol dad Addaf,
Mewn purdeb yn wyneb Naf,
Llawenhäai yn llawn o hedd,
Addolwr dieiddiledd:
Duw Ion oedd ffynnon hoff hedd,
Digonedd ei deg enaid,
O'r hon yr yfai yn rhydd,
O lawenydd ei lonaid.
Ond wele!'r diwrnod olaf
I ddyn oedd, ac i Dduw Naf,
I'w gweled gyda'u gilydd
Yn Eden fro'n rhodio'n rhydd.
Wedi i'r Ior ado'r ardd,
I hòno, Satan anhardd
A ddaeth mewn bradwriaeth dig,
Lew uffernawl a ffyrnig,—

I lunio rhyfel a'i enyn—a dwyn
Pob dinystr i'w ganlyn—
Nod ei dwyll oedd gwneyd y dyn
Anwylaf i Dduw'n elyn.


Yr awrhon digon yw dweyd,
I Satan aflan ei nwyd
Lwyddo'n wir heb ludd i wneyd
Ei ran, a chael dyn i'w rwyd.


Dyna heddwch wedi ei anhuddo,
Ow! y dyn anwyl wedi'i wenwyno—
Ael y nef uchel dawel yn duo,
A'r awelon yn tori i wylo,
Wel'd lluman Satan gas, O!—yr awrhon,
Yna'n uchafion Eden yn chwifio!

Torai gwewyr trwy natur i'w gwywo,
Ei chaniadaeth a dro'i'n ocheneidio,
Gan loesau mawrion y gwnai lesmeirio,
Doedai'i hagwedd fod Duw wedi digio.
Tân a mellt yn ymwylltio—a'r gwewyr
Dorai'n yr awyr yn daran ruo.

Cerubiaid ar frys a ymwregysent,
O ufudd anian, cydymfyddinent,
Eu telynau'n nghangau helyg hongient,
Yno awelon ar eu tannau wylent.
Yr ethol osgeirdd gornerthol a wisgent
Lurugau gemol, annhreiddiol rai oeddent:
Eu lluon i ryfel allan a rifent,
Ac i fyny eu benyr c'wfanent;
Saethau i'w gorchwyl yn syth a gyrchent,
O gawell y daran, tân attynent;
Yn eu dwylaw yn gleddyfau, dalient
Y mellt ufeliar, a'r llachar lluchient;
A llu y galon mewn gwall a gilient,
Saethau'r cerubiaid i'w henaid wanent,
I'w hannwfn ffiaidd mewn ofn y ffoent
Yn archolledig, ac erchyll udent.
Y milwyr nefol yn ol annelent,
Draw i Baradwys drwy y wybr ehedent;
O fro Eden, y dyn ddiofrydent
Yn noethaf alltud, a'r pyrth a folltient;
Ar Addaf, gwg arwyddent—eu cledd chwyrn,
Diysig gedyrn a gydysgydwent.

Dyna ddiwedd ar heddwch—a dechreu
Oes dychryn a th'wllwch;
Flineiddiaf aflonyddwch,
Gorthrymder, pob trawster trwch.

Yn lle heddwch a llwyddiant—ow! malldod,
A drain melldith dyfant;
A chwyn cenfigen a chwant,
Hyd wyneb y byd daenant.

Llidiai anianawd llewod yn union,
Aent yn gwerylus, rhuent yn greulon;
Llewpardiaid, bleiddiaid, eirth, teigriaid hagron,
Am waed yn awchus ygus ffyrnigion;
Noethi eu dannedd weithion—wnant beunydd,
I herio 'u gilydd, gynddeiriog alon.

A nwydau rhyfel mewn adar hefyd,
Yn awr enynent yn yr un enyd—
Eryr, barcutan, a'r gigfran goegfryd,
A llawer iawn o rai gwydlawn gwaedlyd,
Yn llidiog fradog o fryd—a llawn byw,
Eon haid afryw, i wneyd diofryd.

Ond Ow! dyn! i hwn, do, daeth
Ofnadwy gyfnewidiaeth.

Natur wedi suro—daiar a nen
Droai'n awr i'w hwtio;
Pawb mewn llid i'w ymlid o,
Ac â dwrn cauad arno.

Elfenau rhyfel i'w fynwes—neidient,
Berwai'i nwydau'n ffwrnes;
Prawf fu arno, profai ernes,
O drueni, nid trwy hanes.
Rhuo'n nerthol erwin arthes,
Wnai ei daer gydwybod eres;
Iddo i lechu, nid oedd loches—rhag sain
A germain ei gormes.

Ond Ion a roes hen aden rasol
Ei wir drugaredd rad ragorol,
Yn awr yn noddfa i'r anneddfol,
Y dyn du, euog, tlawd, andwyol.

Yn y dwl gwmwl, ymgamai—y bwa
Uwch ben, ac arwyddai
Gymmod am bechod a bai,
Ael anian ail ymlonai.

Ac o'r addewid, gwawr ddeuai—allan,
A'r t'wllwch a giliai;
Yna llid y storm äi'n llai,
Hael wyneb nef lawenai.


Had y wraig ddai'n graig fawr gref—sylweddol,
Sail heddwch a thangnef;
Ail unir Duw'r oleunef
A dyn eto ynddo ef.

Ail enir holl hil anian—odd' uchod,
Heddychir y cyfan
Yn un oll o hyn allan,
A'r byd mewn gwynfyd a gân.

Hen deyrnas Satan druenus eto
A oresgynir, a daw rhwysg hòno
I is agwedd, ei ben ga'i ysigo;
Ei orsedd enwir dynir o dano
I lawr i annwn—fe'i teflir yno;
Rhyfeloedd gwaedlyd trwy'r byd wnant beidio,
E yr efengyl eu twrf i angho',
A'i dylanwad y byd wna adlunio;
Dedwyddwch, heddwch iddo—a ddwg hon,
Yn loyw afon o hyd i ymlifo.


RHAN II.

AM hirion faith dymmorau,
Had a chwyn y gelyn gau,
A dyfasant hyd feusydd y—ddaiar,
Gan ddwyn chwerwon ffrwythydd;
A meibion dynion bob dydd,
Dan eu cur yn dwyn cerydd.

Nodwyd cyntafanedig—dynoliaeth,
Do'n elyn mileinig
I heddwch; trodd Cain addig
O wydd Duw yn llofrudd dig.

E godai Nimrod gwed'yn,
Egr ei ddull, yn deigr o ddyn:
Y gwron hwnw gryn enyd,
Fu'n poeni,'n dibobli'r byd;
Heliwr, rhyfelwr a fu,
Mawr a thrwm am orthrymu.
Codai ereill cadarwyr
Yn y gwaith—fileinig wŷr,
O hyd, i feithrin a hau
Eu gwenwynig gynnenau.
Bronau enwir breninoedd,
Ar dân gan awyddfryd oedd;
Am rwysg, ac am oresgyn
Yn eu rhaib—mynai rhai hyn
Enw clod am ddwyn y cledd,
I rwygo meibion gwragedd.

Eu synwyr ar wasanaeth—fu oesau,
Dyfeisient ryfelaeth;
Drwy y byd yr ysbryd aeth
I efrydu difrodaeth.

Yn eu bar anwar llunient beiriannau,
Miniog, angeuol, ddeifiol gleddyfau;
Gwaewffyn erchyll, cyllyll, picellau,
Bwaau gwenwynig—hyllig fwyellau;
I roi 'u hannedwydd ryfelgar nwydau
Ar weithrediad yn eu cadruthriadau;
I rwygo 'u gilydd â dreigiog aeliau;
Gwneyd celanedd, gan waedu calonau,
A chreu yn niweidiol ddychryniadau;
Hyrddio'n ingol fyrddiynau i angau:
Ba warth rhoi'r fath aberthau—i astrus
Awydd fyw wancus rhai am orseddfeinciau!

Dau d'wsog yn halog fygylu,
Yn ferwedig gan fradfwriadu;
A gwyn chwerwnaws fel dau gi'n chwyrnu,
A gerwin agwedd dan ysgyrnygu:

Asgwrn barai'r terfysgu—f'ai rhyngddynt,
A hwy ni fyddynt well o'i feddu.

Am lain o dir, milain daerent—dau lyw,
A dwy wlad gynhyrfent;
Dwy genedl a gydgwnent—yn awchus,
Mor ryfygus i'r gad ymarfogent!

Neu o achos y chwennychent—fenyw,
Yn fynych ymgornient;
Am eu Helen ymholent—fel dwy ddraig,
O duedd i wraig, gwledydd a rwygent.

Awch heintus eu trachwantau,
A ferwai ddwfn far y ddau,
I arfogi mawr fagad,
Hyrddio'r gwŷr yn fyrdd i'r gad.

Aberthau dynol i borthi dannedd
Hen Foloch ddygai trawsfalch eiddigedd;
I'w duw offryment—offeiriaid ffromwedd,
Luoedd dirfawr ar ei allawr hellwedd;
A thruenus ddynoliaeth a rhinwedd,
Eu dwy wylent wrth wel'd y dialedd,
Ol y glas angeuol gledd—ar farwol
Ysig elynol faes y gelanedd.

Mynem roddi am unwaith,
Olwg o'u rhyfelawg waith:—
Dwy fyddin mewn gwrthdrin draw,
Yn y gad yn ymgydiaw;
Blaenoriaid tanbaid eu tôn,
I'w gosawd mewn trefn gyson,
Molawd a ro'ent i'w milwyr,
I frydio 'u gwaed—fradawg wŷr;
A rhoi 'u dig nwydau ar dân,
Fal i yfed cyflafan.
Y blaengadau blin gydiant
Yn chwerwon iawn, dechreu wnant.


Cydredeg wna y cadrodau—ereill,
Yn gyforiawg rengau;
Dyna 'u swn yn dynesau,
A thyrfiant eu certh arfau.
Cry' sain yr udgorn, cras yw,
Uwch y wlad uchel ydyw:
Llais angeu'n arllwys ingoedd—
Gwaed! gwaed! yw ei lais ar g'oedd!

Y meirch a glywant, adwaenant donau
Udgorn y rhyfel, a'i uchel awchiau;
Ymenyn weithian mae 'u hanian hwythau;
Heda 'u gweryriad hyd y gororau.
Llidia ffriw anwar eu tanllyd ffroenau,
Yn ail i ffyrnig enynol ffwrnau:
Cloddiant yn addig â'u cyrnig garnau,
Y maes a drychant, dyrchant dywarchau;
Terfysg, a chlanciant arfau—wna 'u hanian,
Mal gwaew trydan rhwng mil o gatrodau.

Saethau a gwrthsaethau sydd—ar gerdded,
Hwynt heb eu gweled, änt heibio 'u gilydd,
Gan gyrchu gwanu trwy'r gwynt,
Dynion a gwympir danynt,
Yn dyrau, fal y cydorwedd
Pabwyr neu wair, pawb'r un wedd,
Wedi i'r bladur ddur ddarwain
Yn ei rhwysg ei min drwy rhai'n.
O! yr alaeth mawr welir!
Dyna waith ofnadwy'n wir!
Archoll i fron erchyll fraw,
Dro'i galon draig i wylaw.
E lychwinir yr irwellt,
Cochliwia'r gwyar y gwellt:
Gwylltio mae'r cadfeirch gwalltawg,
Waeth-waeth änt, rhuthrant y rhawg
I'r aer, dan groch weryru
Treiddiol lais trwy y ddau lu;
Carlamant, hyrddiant mewn twrdd,
A'u llygaid erchyll agwrdd,

Yn eu bar yn wreichion byw,
Fal marwor ufel meryw.
Crynhoi dan eu carnau dig,
Mae aelodau maledig:
Malurion mil o arwyr
A fathrant, hwy wawdiant wŷr:
Y gwaed dros eu hegwydydd
Yna red yn afon rydd.
Y bwa a'r saeth a wnaethant
Eu holl rwysg, a gorphwys gânt:
Awr y cledd o'r diwedd d'ai,
A hwn o'r wain ddihunai,
Fal mileinflaidd hwyrflaidd hyll,
Gyrcha'n newynog erchyll;
Gan ei awydd egniol,
Ceisia fwyd i'w wancus fol.

Hwn a fu ringyll penaf yr angau,
Y mwya'i lwyddiant ar faes ymladdau;
O! wele'i lymion ddurlyfnion lafnau,
Yn loyw wydrog dan haul belydrau:
Hwy gyd—darawant, rhyngant drwy'r rhengau.
A lluchio o'u dannedd wna lluchedenau;
Torant, trywanant trwy y tarianau,
A hyll y rhwygant yr holl lurugau.
Ha! ni ddylenwir y cleddawl wyniau,
Efe wed'yn a fwyty fywydau;
Myn waed dynol i'w elynol enau,
Fe yr i ddinystr heddyw fyrddiynau.
O! clywch alaethus, wylofus lefau
Ei glwyfedigion, fawrion niferau;
Drwy'r awyr uchod, draw rhua'r ochau,
I wrdd fynwes y graig ä'r gruddfanau:
Fel mewn cyd—deimlad â'u dyoddefiadau,
Yna weithian fe adseinia hithau.
O! yr annobaith sy ar wynebau
Y rhai annedwydd mewn dirgryniadau!
Gan syched deifiol, ysol eu loesau,
Gwylltiant a threngant mewn aruthr ingau;

Gwaith anadl a gwythienau—a beidiodd,
Yna dybenodd eu henbyd boenau!

E giliai'r haul o'u golwg,
Ei rudd ef arwyddai wg.

Ni ddaliai'i ganwyll i ddylion—yn hwy,
I wneyd gwaith llofruddion;
Ffodd hwnt, a diffoddai hon,
Tyna'r gwawl tan argelion.

Deuai'r nos i deyrnasu,
Ei mantell dywell a du
A daenai tros waith dynion,
Yn y gad fileinig hon.

Dallai'r trugarog d'wllwch—y ddeulu
Ddaliai mewn llonyddwch;
Llwyddai fel rhingyll heddwch
Er lluddio trais a'r lladd trwch.

Haid o fwlturiaid taerion,
Uwch y tir yn groch eu ton,
Ar gig y lladdedigion,
Nesânt i wledda'r nos hon;
A dynion hyfion yn haid
Fil taerach na'r fwlturiaid,
Y nos hon yn wancus änt,
Weis Belial, cyrff ysbeiliant.
Hwy nis dawr gwynfanus dôn
Degau o glwyfedigion;
Nid ystyriant dosturi
Mwy na'r haid fwlturiaid—dim.

Un a'i grudd yn brudd, a'i bron
Ar dori gan bryderion,
Trwy wyll anturiai allan,
Rhwng ofn maith a gobaith gwan:
Hi dro'i'n ol adre' un waith,
Petruso—wylo eilwaith;

Yna llwyth ei hofn äi'n llai,
Yn wrolach yr elai.
Tua'r maes, y cadfaes certh
Ar redfa, try y brydferth
Fenyw yn hyf ei hwyneb,
Yno aeth heb ofni neb.
Elai, addfwyn wyleiddferch,
I'r maes hyll yn ngrym ei serch;
Ië,'n'i serch, gwnai nesau
Dan ingawl aden angau;
I ganol y farwolaeth
Ddeuai o swydd cledd a saeth.
Yno 'morol wnai Mari,
I wel'd oedd'i hanwylyd hi
Yn y farwol dorf oerwedd,
Acw a las y ffyrnig gledd.
Boreu y gad, hagrgad hon,
Cu rodiai y cariadon
Fraich yn mraich, a baich o boen
I'r ddau a barai ddihoen;
Yna rhaff y serch äi'n rhydd,
Wylent ar yddfau 'u gilydd;
I'w gilydd y ddwy galon
Ymdoddent, rhedent 'rawr hon.
Ond swn corn, llefgorn y llu,
Drwy'u henaid wnai drywanu;
Rhwygai'i dreiddiol dyrfol dôn
I'w gwaelawd y ddwy galon.
E ro'i y dewr filwr da—'n drwm ei fryd,
I ei anwylyd ei gusan ola'!
Loes i Mair, hi lesmeiriai,
Ar ei lin yn farwol äi.
Dybryd ar ol dadebru
O Mair, daeth y tymmor du
I'r ddau gariad ymadaw,
Gyda llef wrth ysgwyd llaw:
Haws nag adrodd pa fodd fu,
O filwaith yw dyfalu.
I'r gad 'roedd ei alwad ef,
Ai yr odrist Fair adref.

Mawredd rheswm ar ddrysu,
Gan drallod y diwrnod du;
Dydd galar nad oedd gelu
Hwnw i Fair fel blwyddyn fu.
Ar hwyr y dydd mawr ei hyd,
Hi ni welai'i hanwylyd;
Enyd ar ol enyd äi,
Gwyliodd, ond ef nis gwelai;
Ymgynnal dan ei halaeth,
Ni allai'n hwy—allan aeth.
Am feithion hirion oriau,
Gwnai'r un ffyddlon hon barhau;
Ei phryder yn nyfnder nos,
A'i thaerni drwy faith oernos,
Ni leihaodd, daliodd, do,
A chalon drom i chwilio,
Trwy anial faes trueni,
Fel hyn am ei Hedwyn hi.
Gwelai'n lliw goleuni lloer,
Gwanllyd belydrau Gwenlloer;
Ddu ol y mawr ddialedd,
Rhwygiadau clwyfau y cledd;
Llu o gyrff mewn pyllau gwaed,
Orweddynt yn eu rhuddwaed.
Clywai gwynion dyfnion, dig,
Adwyth y rhai clwyfedig
A drengent mewn dir ingau —ysgeler,
Rhai'n bloesg alw'u mamau —
Rhai eu gwlad, rhai eu tadau—wnaent sisial,
Ow! a llesg fwngial yn llosgfa angau.
Yma nid oedd mam neu dad,
Na chwaer, na brawd, na chariad,
Na phriod yn dyfod i
Ystyried mewn tosturi.

Ysglyfus wydus adar, —a'u crochlais
Ysgrechlyd i'w gwatwar;
A dynol williaid anwar,
Allan fil yn llawn o far.


E ro'i Mair ar lawer min,
Yn ei loesau, feluswin;
Llaesodd, e ddofodd y dda
Angyles eu hing ola'.
Ar ei gwaith yn rhoi y gwin,
Gu lwysferch, arun glasfin,
Ow! Mair, hi glywai'n y man,
Ei henw hi ei hunan,
O fethiantus wefus wan,
Yn deilliaw'n sibrwd allan!
Mair fad sychai'i llygad llaith,
I sylwi'n graffus eilwaith
Ar wyneb y truanwr,
A'r gwaed oddiar ruddiau'r gŵr
Pan sychai, adwaenai'r dyn,
Hwn ydoedd ei mwyn Edwyn!
Galwodd, hi alwodd eilwaith,
O lef serch, wylofus iaith:—
"O! F'Edwyn!—ai Edwyn wyd?
F' Edwyn anwylaf ydwyd!
O! Edwyn, dy Fair ydwyf,
Clyw hyn! dy Fair, Edwyn, wyf!
Dywed air wrth dy Fair fad,
Yn fy nghur, O! fy nghariad!"
Edwyn oedd yn ymadael,
I Mair nid oedd gair i'w gael;
Hi graffai, tybiai wel'd dor
Ei lygad yn ail agor,
A phelydriad cariad cu
Yno'n anwyl enynu:
Yn ingoedd dyfnion angau,
Tân pur hwn eto'n parhau
Yn ei rym; ond ei dremiad,
Farwol oedd ar ei Fair lad;
Ffagliad fel cyniad canwyll,
A'i gwawr wrth ddiffodd mewn gwyll.
Syrthiai Mair mewn llesmair llym,
Ar y ddae'r yn oer ddirym:

Trallod oedd ormod i'w ddal,
A faeddai'i chalon feddal;
Dyrchodd un farwol ddolef,
Hynod gri, ochenaid gref,
Trengodd, ehedodd ar hyn
O'i hadwyth ar ol Edwyn!

Un fyddin gai drwm faeddiad,
Ysig iawn o faes y gad,
Hi a giliai'n ddigalon,
Hwnt o fawr drwst y frwydr hon.
Yr un fuddugol, yn wrol wnai arwain
Ar ei lliwiedig fanerau llydain,
Arwydd gorfoledd a mawredd mirain,
Mewn uchel afiaeth a mynych lefain;
Mawl croch i'w Moloch milain—a seiniai,
A llawenychai pan oedd llu yn ochain.

Haneswyr yr hen oesau—a dystiant
Am doster eu brwydrau;
Enwau arwyr, gweithwyr gau,
Lanwant eu tudalenau.

Gwlad yr Aipht, am glod yr oedd,
Trwy foliant ei rhyfeloedd;
Ei Pharoaid, deyrniaid dig,
Oll oeddynt yn llu addig.
Bu ereill yn ffreweill ffrom,
A'u llywodraeth yn llawdrom,
I ddal y byd dan dduloes,
A. iau'r Aipht am lawer oes.
Assyria fu draws erwin,
A mawr bla am dymmor blin.

Amryw olynwyr i Nimrod,—yn draws,
A dreisient awdurdod,
A min cledd er mynu clod—Belus,
Semiramis, a Ninus, fu'n hynod.


Wedi hyn, codai hynod—enbydus
Bedwar o fwystfilod;
Pedwar mwya 'u bar yn bod—am rwygaw,
Tynu, a drylliaw y byd tan drallod.

Caldea yn gynta' gaid,
Llew anian oedd ei llonaid!
A'r ail, fel arth yr olwg,
Sef Persia, gwaetha' ei gwg:
Y trydydd, Groeg, fu'n troedio,
Arwa'i drych, fel llewpard, dro.
Yn ola', d'ai i oleu dydd,
Y du arwach bedwerydd;
Rhufain, a'i gallu rhyfedd,
Dig iawn, ac ofnadwy'i gwedd.
Bwystfil hyll, un erchyll oedd,
O lawn nwyd, creulawn ydoedd;
Dannedd heiyrn cedyrn, certh,
Yn ei wgus safn hygerth;
Dannedd i rwygo dynion,
Ai i'w raib y ddaiar hon.
Rhifid ar ei ben rhyfedd
Ddeg o gyrn addig eu gwedd;
Cnoai a chorniai'n dra chwyrn,
Yn ei rwysg, torai esgyrn
Y byd oll; ac ni bu dyn
Wnai arbed godai i'w erbyn.

Dyna y bwystfilod anwar—am oesoedd
Fu'n gormesu'r ddaiar;
A dwyn y byd yn eu bar,
I ofid a thrwm afar.

Nebuchodonosor fu rychor uchel
Ei ddawn i rifo myrddiynau i ryfel;
Hwn ni adewai y byd yn dawel,
Dodai bawb o dan awdurdod Babel;
I'w ogoniant wag anel—cenedloedd,
A theyrnasoedd a fathrai'n isel.

Cyrus, a Darius, wŷr croes a dewrion,
A rhyw lu hefyd o'u hagr olafion;
Lledu galanas, llidiog elynion,
A gwae, a dinystr wnaent yn mysg dynion;
Eu rheolaeth fu greulon—ar wledydd,
A thrwm oer dywydd, orthrymwyr duon.

Yna y Bwch godai'i ben
Llidiog, flewog, aflawen:
Bwch Groeg, y bachog rwygydd,
Un o'i fath ni fu, ni fydd;
A chorniai a thri chernawd,
Rhoes hyd lwch Hwrdd Persia dlawd.
Trystiodd y ddaiar trosti,
Rhoddai waed i'w rhuddo hi;
O flaen ei ddyfal wyneb
Ef yn wir, ni safai neb:
Yn y gad corniai gedyrn,
Rhedai gwaed ar hyd ei gyrn!
Y byd crwn hwn, ef yn hawdd,
Yn ei wanc, a draflyncawdd;
Dyheu 'roedd am fyd arall,
Awyddu cael llyncu'r llall:
Ni bu son am neb is ser
Undyn fel Alecsander.

Ei olynwyr yn fileinion—
Hwy, fel geirwon ryfelgarwyr,
Fu'n ormeswyr, treiswyr trawsion,
Oesau mawrion, gas ymyrwyr.
Codi hirion gadau blinion,
Taenu gwaeon, tân, a gwewyr,
Difa dynion, amlhau gweddwon,
Dwyn yn gaethion lwydion wladwyr.

Mwy rhyfedd fu grym Rhufain,
Ei harwyr hi gurai y rhai'n!
Romulus, yn ngrym ei lid,
Wnai ryfel a mawr ofid.


Chwech ereill chwai a chwerwon, —a hanent
O honi'n dwyn coron;
Ofnadwy fu niweidion
Eu rhwysg ar y ddaiar hon.

Gwyr enwog y weriniaeth,
Fu er hyn wed'yn yn waeth:
Eryr gludai y gwŷr gau
Yn arwydd eu banerau;
Gwir arwydd o'u hawydd hwy,
A'u llid anniwalladwy.
Tros Ewrob, eu traws eryr,
Ar wib aeth mewn amser byr;
Ag ewinedd cigweiniawl,
E dynai hon dan ei hawl.
I dir Asia äi drosodd,
Hwn a'i dew aden a dodd;
Ac i Affrig mewn cyffro,
Yn ei ddig, ehedodd o.

Yn eu certh gynnen â'r Carthaginiaid,
Ymladdent, rhwygent, fal enbyd ddreigiaid;
Codai creulon, flin eirwon flaenoriaid,
I gyd o'u bonedd, fawrion gadbeniaid;
Enwi'r oll yma ni raid—a diles,
Agor ail hanes rhai fu'n greuloniaid.

Profid yn mysg y prifion,
Regulus frydus ei fron;
A Scipio eto fu'n attal—rhwysgwaith,
Curai i anobaith y cawr Hannibal.

Sylla, a Marius, eilwaith,
Yn y byd wnaent waedlyd waith.
Pompey chwai, pwy wympach oedd?
Mawr ei fawl am ryfeloedd.
Y mwyaf oll am ei far
Afiachusol, fu Chaisar;
Hwn i'w nwyd greulon ei nerth,
A dybiai gael gwneyd aberth

O'r byd oll, heb arbed un—wladwriaeth,
Er llwyr alaeth ar allor ei eilun.
Ymladdodd, frad ofnadwy,
Hanner cant, meddant, a mwy,
O gadau tost; a'i fost fu,
A'i fyddin iddo faeddu
Pob gelyn—gwnai pawb gilio
Rhag gwg ei ddu olwg o:
Ei lid trwy'r ddaiar lydan,
A gerddodd, maeddodd bob man.
Hwn yn flaenaf gyntaf gŵr,
Drafaeliai'n gadryfelwr
I Frydain, i'w hafradu,
Gyda'i arfog lidiog lu;
A dwyn henwlad ein tadau
Wnai'n gaeth dan Rufeinig iau.
Un didosturi—do, diystyrodd
Haeddiannau dynol, hedd ni adwaenodd;
I drist angen y darostyngodd
Wledydd lawer o nifer, anafodd;
I dylodi dyludodd—fyrddiynau,
A dirif fywydau o'n daiar fedodd.

Ar ei ol ef, ymerawdwyr lu—godent,
I gadarn lywyddu;
A rhyw filain ryfelu,
Am hir faith dymmor a fu.

Y Scythiaid, a'r Parthiaid pell,
Saraceniaid yn haid hyll,
A'r Tyrciaid diriaid eu dull,
Fu ryfelgar, anwar oll.


Ond eilwaith, mwy fu duloes
A grym rhyfeloedd y groes,
O blaid offeiriaid gau ffydd,
A hagr ofer goelgrefydd:
Mynach dig, dieflig ei dôn,
A daniai nwydau dynion;

Ewrob, yn swn ei araeth,
Oll i gyd, gorphwyllog aeth.

I Asia aent, wallgof seintiau—'n orwyllt,
Aneiri' fyrddiynau;
Fal addig egron fleiddiau—creulonwedd,
Nwydau celanedd lon'd eu calonau.

Enw Iesu wanasant—a'u seintiau
'I groes santaidd gablasant,
Pan yn gas yr honasant—wneyd anrhaith
Hyll y rhyfelwaith oll er ei foliant.

A'i dwyll, y pab a'u dallai—
Addaw nef i'w fleiddiau wnai,
O dygent, lu melldigaid—Ganaan dir
O ddwylaw enwir yr anffyddloniaid.

I lwyddaw rhyfel addig—rho'i dyfais
Ryw dafod nodedig:
Iaith a dawn i draethu dig,
Yn ei enau gwenwynig.

Pylor i luchio pelau—o foliau
Ufelawg gyflegrau:
Ar ddynion yn fyrddiynau—gyr y tân
Ei ddur allan i'w gwneyd yn ddrylliau.

Oer ryngiad gwddf yr angau,—rhu anwar
Brenin dychryniadau;
A bwria hwn i barhau,
Fawr lwythog farwolaethau.

O!'r wedd anaele äi ar ddynoliaeth,
I ddiofrydu ei hun i ddifrodaeth!
Rho'i'i holl synwyr ar hyll wasanaeth
Ei mawr elyn, sef angel marwolaeth.
O! wele! dygai i'w alwedigaeth
Erwin niweidiol rym ei dirnadaeth,

I greu trueni, gweli, ac alaeth,
Iddi ei hunan yn ddiwahaniaeth;
Hi ddodai gelfyddydaeth—i lunio
Ei harfau i lwyddo rhyfelyddiaeth.

Nid dieuog fuost ti, O awen!
Weithiau o ganu i chwythu y gynnen;
Ei fawl nyddaist i ryfel anaddien,
A rhedai yn ebrwydd ei fri dan wybren.
Llawer 'rol Homer, fardd hen—fu'n canu,
Yn wir, gan fagu dialgar genfigen.

Amryw ddynion mawr o ddoniau, oeddynt
Drwy'r diweddar oesau,
A'u bryd ar enyn bradau—rhyfeloedd,
A hyny ydoedd yn tanio 'u nwydau.

Napoleon, eon ŵr,
Hwow fu'r penaf arwr:
I ryfel, prif angel oedd,
A rhuswr mwya'r oesoedd.
Lloriodd holl allu Ewrawb,
Mynai warau penau pawb;
Dymchwelodd, lluchiodd i'r llaid,
A dyrnodd ei holl deyrniaid.
A garw fraw ger ei fron,
Crynent fel deiliach crinion:
Tori i lawr yn Waterlw,
Oedd hanes diwedd hwnw.

Ninnau sydd yn y deyrnas hon—ar ol
Yr helynt echryslon,
Ar lethu dan orlwythion—trwm echrys,
Dyledion erys i dlodi'n hwyrion.

O ryfel! angel ingoedd,
Dy fyw lid, difaol oedd;
Pob melldith yn dryblith drom,
Ddig ornest, ddygi arnom.


Un annhosturiol, Ha! ni ystyri
Boenau trueiniaid ban y'u tryweni;
Dagrau heilltion y gweddwon a'u gweiddi,
Yn dremwgus, tydi a'u dirmygi:
Amddifaid gwirion, taerion, watweri,
Y rhai anwyl, gwnait ladd eu rhieni:
A'th hyddewr galon ni thawdd er gweli
Poenau henaint dan eu penwyni.
Pwyi fabanod—ai rhagod, rhwygi
Y beichiogion, a'u loesion ni lysi;
Trwy anian hau trueni—wnai 'mhob modd,
A garw yw adrodd dy ddig wrhydri.

Dy hyfrydwch erioed yw difrodi
Bywydau dynol, gwae'r byd o d'eni,
Wyd dad'i ofid, ei waed o hyd yfi,
A thoi ei wledydd a wnei a thylodi;
Dinasoedd yn dân ysi, teuluoedd
Wnei heb anneddoedd na neb i'w noddi.
Dygi y newyn wed'yn a nodau,
Hynt annedwydd pob haint a niweidiau;
A thaeni wewyr a phoethion waeau,
A chas anadl dy afiachus enau;
Gan agor y llifddorau—a dwyn dig
Yn ddiluw addig o ddialeddau.


RHAN III.

ADFYWIA, cyfod f'awen,
Dwyre 'nawr hyd awyr nen;
Ymeneinia 'm mun anwyl,
Yna rho'th delyn ar hwyl.
Gwlych dy ddestlus wefus wan
Yn hen wlyboedd gwin Liban:

Yf o ddwfr arafaidd iach
Siloa, nid oes loywach:
Yfa, anghofia ofid
Rhyfeloedd, lluoedd, a'u llid;
Gwybydd'r ä'r gaia' heibiaw,
Haf tawel, gan ddychwel ddaw.
Ha! ha! daw, daw o'r diwedd,
Anwyl haf efengyl hedd.

Hoff ydoedd gan brophwydi—yn eu dydd,
O fryn Duw drwy'r lleni,
Wel'd gwawrddydd ei hafddydd hi,
O'r dwyrain draw ar dori.

Y dydd a ganfu Dafydd yn dyfod,
Yn derfyn camwedd, i drefnu cymod;
I Dduw o'i ras ail greu'r ddaiar isod,
A'i heddychu gyda'r nefoedd uchod;
I gu adfer y byd oll i gyfod,
Ac i'w rwymo dan gyfeillgar ammod:
I dynu beichiau duon ei bechod
Oddi arno, a dryllio ieuau ei drallod:
Awen Dafydd yn fwyn iawn ei defod,
Yn gu o'i holl ingder gai ollyngdod;
Ei lon a difyr delyn a'i dafod,
A hwylus seinient yn felus hynod;
Gan arddatgan glân glod y dydd bo'i waith,
Rhyfeloedd hirfaith, ymrafael ddarfod.


Ei gân ef i Selef sydd,
Na welir un o'i heilydd:
Cân yw hon ar y pwnc hedd,
Iesu hael yw ei sylwedd;
Teyrnasiad tirion Iesu,
Yma gawn yn y salm gu,
'N dwyn cysur pur i bob pau,
A mwyn hedd o'r mynyddau;
Rhyfedd gyfiawnder hefyd
O'r bryniau, hwythau, o hyd;

A gwlith o fendith yn fan
A ollwng y nen allan.
Dynion pob gwlad a dinas,
Ar lwydd fel y ddaiar las;
Tyfant, blodeuant hefyd,
Ffrwythant, amlhant o hyd.
Ei radau, fwyn Waredydd,
O fôr i fôr, yn fawr fydd.

Gweryd y truan gwirion—o'i rwymau,
Tyr ymaith y creulon:
Tery Iesu y trawsion,
A rhydd fraw trwy eu gwrdd fron.

Llywodraeth teyrniaid llawdrom,
Pob iau bleth a'r dreth fawr drom,
Ddiddyma, ddilea'n lân,
Na ellir o hyn allan,
I asiaw nag ail osod
Un o rhai'n o dan y rhod.
Ei enw'n fawr iawn a fydd,
Rhed ei glod'r hyd y gwledydd;
Ei glod fydd yn dreigladwy
Oesau fyrdd, ac erys fwy:
Ys erys tra fo seren,
A haul yn wir ar ael nen:
Yna hedd fydd mewn mwynhad
Tra y dyrch llewyrch lleuad,
Ar y byd, a thra y b'o
Hon ar hyd nen yn rhodio.

Canai Esaia gynes ei awen,
Oroian heddwch, a'i riniau addien:
O gyff Iese, Wele y wialen,
Un iraidd delaid yn werdd ei deilen:
O wreiddyn Dafydd y llywydd llawen,
A ddaw i wir arwedd hedd i'r ddaiaren:
A gwelai yma y nefol golomen,
Arno'n 'hedeg a'i thirion wen aden:

Yn dragywydd bydd yn ben,—a phob pau,
A ddaw yn flodau heirddion fel Eden.

Cu anadla ef ar y cenedloedd,
A hwy a wnan' yfed anian y nefoedd;
'R anwir lewyga, trenga trwy ingoedd,
Yn sawyr anadl iachus ei rinoedd:
Tirion esyd ei farn rhwng teyrnasoedd,
Tery falais, dystawa ryfeloedd:
A holl gleddyfau, tarianau trinoedd,
A yrant, torant yn eirf trin tiroedd:
A deiliaid pob ardaloedd—gant heddwch,
A llonyddwch drwy 'u holl anneddoedd.

Y llew anwar ddaw'n llonydd,
Gwair a bawr, a gwâr y bydd;
Tan yr iau cyd—dynu â'r ych,
Wna o'i fodd, yn ufuddwych:
Bachgen bychan egwan ä
Ar ei fwng, a chrafanga;
A llyfa y llew ufydd
Ei law fach, heddychol fydd.
Yr arth a'r fuwch heb guwchiaw,
Orweddant drwyn wrth drwyn draw
Ar y ddol, a phawr y ddwy
Irwellt, heb angen aerwy:
Llydnod y ddwy hwy a änt
Hyd y bryncyn, cydbranciant:
Y blaidd dig yn ddiddig ddaw
Yn dra hygar i drigaw,
Efo'r oen, heb chwerw fryd,
Rhyfedd y chwery hefyd.
A'r llewpard brych ei wrychyn
Ar y maes, a chwery a'r myn:
Ar dwll yr asb, er ei dig,
A'i hen anian wenwynig,
Bachgen llon y fron heb frad
A chwery heb och irad:
A chwery un bach arall,
Yn ddifraw ger llaw y llall,

Efo'i law'n ddiofal iawn,
Ar wâl y wiber greulawn;
Hon o'i ffau estyn ei phen,
Ni fratha'r wiber frithwen
Y bach, ei groesawi bydd,
Ar ei lin yn bur lonydd!

Daw adgas drigias dreigiau,—dir anial
Dan driniaeth, dwg ffrwythau:
Wele hwn ar ol ei hau,
Dry wed'yn yn dir ydau.

Todda'r mynyddau, bryniau wybrenol,
Wneir yn wastad—dir, frodir hyfrydol:
I'w pwynt e lenwir pantau olynol,
Hefyd unionir yr hollfyd anianol:
Y byd wregysir, dygir yn gym'dogol,
Heb ball hefyd genedloedd pellafol:
Ac wele dygir goleu diwygiol
Trwy rym arfeddyd celfyddyd fuddiol;
E gerdd yr agerdd rwygol—trwy bob man,
Daw'n ddiau allan fyd newydd hollol.

Hen ddreigiau mwy ni ddrygant,
Tueddu'n wir at hedd wnant:
E dawdd nerth annedwydd nod,
Hyll falais y gwyllfilod.

Mewn llwydd ar fynydd dedwydd y Duwdod,
Hynaws eu helfen gwnant eu preswylfod;
Ni ddaw du ragfarn mwy i'w hedd drigfod,
Na llaw camwedd i fallu eu cymod:
Enw glân yr Ion a'i glod—ddyrchefir,
A'i fawl a seinir yn felus hynod.

Gwawr deg y waredigaeth,
Yn nwyrain nef tori wnaeth:
Y'nghyflawnder amser Ion,
Ei ddidwyll addewidion,

Cyflawnwyd, gwiriwyd heb goll,
Eu dygid i hen digoll.
Yn ol y brophwydoliaeth,
Mab Duw'n ddyn y'mhob dawn ddaeth;
I'n dwyn ni a Duw yn ol,
I gu heddwch tragwyddol.

I ddwyn yn un ddynion anwar,—difa
Pob dyfais ryfelgar;
Newid tuedd plant daiar—
Hedd i fyd trwy ladd ei fâr.

Oen Duw, pan y ganed ef,
Llawenodd yr holl wiwnef.
Llu y nefolion llawenaf wylient,
Yn niferoedd i Beth'lem cyfeirient,
Y bore'i genid; a hwy a ber ganent,
I'w Hosanna'r wybrenau a seinient:
Banerau heddwch uwch ben a roddent;
Yn chwa yr awel fwyn y chwareuent:
Cerubiaid Eden wen a ymunent,
Yn yr alaw gyda'u brodyr eilient;
Eu llidiog gleddyf tanllyd a gladdent,
Oll yn y wain am byth, a llon wenent;
Oddi ar helyg y nefoedd yr hwylient;
Eu hen delynau, a'u tannau dylanwent:
Wyneb eu Duw adwaenent—a'i arddel,
Yn ei wael breseb, i'w ganmol brysient.

Uwch Beth'lem eu hanthem hwy,
Ga fod yn fyth gofiadwy:—
"Gogoniant i Naf, trwy'r goruchafion,
Ceidwad a anwyd er codi dynion:
E gaed y Dyddiwr, Heddychwr ddichon
Roddi'i law anwyl ar Dduw a'i elynion:
O wele! i ddaiarolion—hedd a rhad,
O dyna gariad Duw dan ei goron!"

Cyhoeddai T'wysog heddwch,
I dlodion llymion y llwch,

Ewyllys Duw er lles dyn,
A'i waredu, wir adyn;
A dwyn y byd hwn o'i boen,
I gyrhaedd hedd a gorhoen.
Un dydd ar y mynydd mad,
Agorai'r dwyfol gariad:
E ddifynai'r ddeddf union,
A glan hedd o galon hon
A ffrydiodd, deilliodd allan,
Heb gynhwrf, heb dwrf, heb dân;
Na chur taranau a chorwynt,
Seiniau geid ar Sinai gynt;
Pan roid hon ddeddf gyfionaf,
Yno i ni o enau Naf.
Rho'i lawr y rheol euraid
Bur i ni, ar Tabor wnaid;
Dyled pob un i dalu,
Yn ffyddlon o galon gu;
I'w gilydd beunydd heb ball,
Y goreu i hwn ac arall:
Y naill un i wneyd i'r llall—y pethau
Olygai'n oreu i gael gan arall.
Yn ei daith berffaith drwy'r byd,
Ei ddifeius hardd fywyd,
Fu'n ol y rheol bur hon,
O'i ddaioni i ddynion.

Yn ei ing pan y trengodd,—am hedd a
Maddeuant y llefodd;
Dig y ne', efe o'i fodd,
Yn ei weddi anhuddodd.

Ac ef wed'yn pan cyfododd, yn fyw
O'i fedd, ail gyhoeddodd;
Hedd i fyd yn rhydd o'i fodd,—heb wrtheb,
A'i anwyl wyneb yn hael a wenodd.

A chyn iddo esgyn i
Lawenydd gwlad goleuni;

Ordeiniodd wyr, doniodd o
Ei weision heb betruso;
Yn genhadau i hau hedd,
I fynwes byd cyfanedd;
Ac fel hyn y teg Flaenawr,
Ai adref i nef yn awr;
I eiriol tros farwol fyd,
Hyd foreu y ca'i adferyd,
O'i dra anial drueni,
I uchel fraint heddychol fri.
Wedi mawrion dymmorau
O ddu gur rhyfeloedd gau;
I'r maes aeth gwir rymus wyr;
Yn finiog ysgrifenwyr,
Ar ryfel, i'w arafu,
A'i wrthod ef a'i warth du.
Hoff enw, Wicliff uniawn;
Erasmus ddestlus ei ddawn.
Yn eu dydd, hynod oeddynt,
Sai eu gwaith o'r oesau gynt;
Dau enw a gydunir,
Ar lechres hanes yn hir.

Cawri enwog fu'r Crynwyr,—hwy oeddynt
I heddwch yn bleidwyr;
Ni roent chwaith ddiweniaith wyr,
Air o fawl i ryfelwyr.

Daliai'r Morafiaid eilwaith,
Fel un rhag rhyfel a'i waith;
A dwyn y byd trymllyd trwch,
Dan nodded aden heddwch.
E dery pleidiau ereill
Yn awr eu llaw'n help i'r lleill;
Ac i fyny'n gyfunwedd
E fyn y rhai'n faner hedd.

Iesu cu, Tywysog hedd,
Diarswyd gwyd i'w orsedd;

Ei farch gwyn a ferchyg ef,
A heddwch i bob haddef
A daena, rhed dawn ei ras,
Herddir y byd â'i urddas;
Ac o'i olwg y cilia
Yr un coch, ac i dranc ä.

Yn ol siriol arwyddion'r amserau,
Ni a allwn ddeall nad pell yn ddiau
Ydyw y dydd y derfydd ei dyrfau,
A sychir creulon olion ei ddialau:
Mae y doeth ddewisol gymdeithasau
Yn ffrwyno'i aflan ffroen a'i weflau:
At genedloedd y bobloedd mae Beiblau
Acw'n 'hedeg, a hwythau'r cenhadau:
Ellyllon giliant, ffoant i'w ffauau,
A chywilyddir twyll a chelwyddau.
Cymdeithas Heddwch! gwyliwch ei golau
O! chwi herodron a gerwch wrhydrau,
I ffwrdd, O! rhedwch, o ffordd ei rhodau,
Brysiwch! neu wyrwch dan ei banerau:
Addysg ei chynnadleddau—'mhen gronyn,
A dry yn derfyn ar driniad arfau.
Dyna'i gwroniaid & dawngar riniau,
Yn traethu nerthol ethol ddarlithiau;
Elihu Burrit a'i hylaw beiriau,
Saetha wreichion o'i einion a'i enau;
Gwreichion oleuant lanwant galonau,
A gwir wres teimlad o gariad gorau.
Efo'r antur mae Cobden fawr yntau,
Gyda ei enwog foesol gadwynau;
Daw Bright a Burnet, barota 'u barnau,
A Harri Rhisiart,'n arwyr i'w rhesau:
Ac o'r Cyfandir adwaenir doniau
Yn seinio wed'yn yr un syniadau:
Wele o hyd amlhau—mae heb luddiant,
Y llu ymunant dan ei llumanau.

Daw rhianod a rhinwedd
Eu dawn hoff, i daenu hedd;

Mwy ni fydd menyw a fawl,
Neu a gâr filwr gwrawl;
Y wisg goch ä yn gas gan
Enaid holl ferched anian!

A'r Arddangosiad, ymweliad miloedd,
Eleni noddid i'n tawel aneddoedd;
Sy'n sail i'r hyder y daw amseroedd
Diwedd ar filain dywydd rhyfeloedd;
Sain y gynnadliad swynai genedloedd,
O bob parthau, llwythau'r holl ieithoedd,
Yn fywiog lawn dyrfaoedd, —a ddaethant,
Heb wrthluddiant i'n mawrion borthladdoedd.

Un brad yn dodwy'n eu bryd nid ydoedd,
Neu yn eu dwylaw eirf trin dialoedd;
Yma hynawsion caent bawb a'u mynwesoedd
I'w croesawi a'u gweini â gwinoedd;
Y' mhalas hyfryd y celfyddydoedd,
Yn heirdd a llawen y cwrddai y lluoedd:
Yno heb lid y bobl oedd yn gymmysg,
A hwy gaent addysg yn ei gynteddoedd.

Wedi gweled a byw gyda'u gilydd
Dro yn awyr y palas gwydr newydd;
Hwy oll a unid er eu llawenydd,
Yn llawn a didwyll gyfeillion dedwydd;
Heibio rhodient at un o'i barwydydd,
I syllu'n llawen ar len arlunydd,
A roi wych eilun yn gynhrychiolydd,
Ardeb da wyneb hedd a dywenydd;
Yfed ei ysbryd ufydd eu gwelid,
Hwy yno lenwid o'i anian lonydd.

Dysgai y byd dasg heb wg,
Yn y palas gwymp olwg;
Ffoledd rhyfel a welai,
A'i ddu nwyd ffieiddio wnai;
Gwir olwg gai ar waeledd,
Gwarth hwn a rhagoriaeth hedd.


Y wasg hithau wisg weithion—ei nerth
A gwna wyrthiau mawrion;
Hi ryda'r egr gyflegron,
A rhydd daw ar eu gwrdd don.

Rhodder i hon ei rhyddid,
Hi a ladd ryfel a'i lid;
Y fagnel a'i chryf egni,
O'i sedd hell ddiswydda hi.

Daw'r awen o'i dyrywiad,
Cana'i mel acenau mad;
Heddwch a chariad haeddawl,
O hyd mwy fydd nod ei mawl.
Nesaed yr holl deyrnas hon,
Ië, Ewrob, yr awrhon;
I gael trem a gweled drych,
Ewybr wawr, bore eurwych,
A dd'wed ei bod yn dyddhau
Ar fyd y cynhyrfiadau:
Heddyw mae Ardalydd Mon,
Yn arwedd ein llenorion;
I'n hyglod Eisteddfod hon
Y daw'r diarswyd wron;

Etyb i'w glod heb ei gledd—mwyn heb lid,
Myn bleidio tangnefedd;
A daw y' nglod angel hedd—i noddi
A choroni heddwch a rhinwedd.

A llaw'r gwr fu'n llywio'r gad
Yn nydd ei ogoneddiad,
Obrwya fab yr awen,
Y bardd a fernir yn ben;
A difyr ddyd i fardd hedd
Wyrdd lawryf urddol irwedd.

Fe ddygir i'r gof ddigon—o orchwyl,
Erchir ei forthwylion,
Er rhwydd ddarparu'r awr hon,
Eirf at waith maith amaethon.


Cludir cadarfau cledion—i'w efail,
Afrifed bentyrion;
Profant eu haeddiant yn hon,
Dan driniaeth dyn du'r einion.

Chwythu'i dân dan chwibanu,
Ei fyw don wna y gof du;
Un llaw fegina, a'r llall
Faluria'r glo fel arall:
Wedi trefnu taclu'r tân,
Ar bwynt allor ei bentan,
Yn hyf mewn hen gleddyf glas,
Luniai lawer galanas,
Gafaela y gof eilwaith,
Chwery âg ef cyn dechreu'r gwaith;
Rhed ei fawd ar hyd ei fin,
Dewrfodd i brofi'r durfin;
Ffugia'r gwr yn filwr fod,
Neu yn hen gadben hynod:
Areithia, bygythia'n gas
I'w elynion alanas;
Yna try tery e'n y tân,
A chwyth yn gryfach weithian;
A gwreichion fflamgochion gant
Drwy dorchau mwg draw dyrchant;
E dyn allan o dân dig
Ei ffwrn, dan ffrïo'n ffyrnig;
Yr hen gledd mawr iawn ei glod,
Yn y maes mewn ymosod;
A dwg ef yr adeg hon
Yn wynias ar ei einion:
Ac mewn hwyl â'r morthwyl mawr,
Esgud, a nerth grymusgawr,
Fe'i cura nes ä yn swch,
Gywrain ei gwas'naethgarwch,
I aru'r ddaiar iraidd,
A thy' o hon wenith a haidd!

Hen dduw rhyfel a ddiarddelir,
Hwnw ddu eilun mwy ni addolir:

Temlau'i ogoniant gau a geuir,
Allorau'i fawredd i'r llawr a fwrir;
A gwaed had dynol i geudod enwir,
Ei drachwant yn borthiant ni aberthir:
Ei enw a'i nwydau a'i anian wedir;
Mawl a chân swynawl Moloch ni seinir,
Heddwch! wi, heddwch! cyn hir—o'r diwedd,
A gwir rinwedd drwy'r byd a goronir.

Ei faner esyd ar fanau Rwssia,
Heb ofni golwg cilwg Nicola;
Ei ddeiliaid caethion yn rhyddion rhodda,
A nerth y daerwyllt hen arth a dora:
Ei rasau barant wên ar Siberia;
A rhoi cysur wna i Circassia:
Daw hwn a Pholand diau ni ffaelia,
I wiwrydd elfen o'i hir hir ddalfa:
Ei wir addysg wareiddia—'r Cossaciaid,
Ië, a'r Sgythiaid a eres goetha.

Nwyd ormesol ddinystriol hen Awstria,
A'i llid hyddeifiol tanllyd a ddofa;
Rhed ei fendithion dillynion llawna,
Yn lli i'w mynwes, lleinw Allmaenia,
Ei hoen a gyrhaedd i hen Hungaria,
Bro y gwroniaid a ewybr gorona:
Medi o'i ffrwyth a ga tylwyth Italia,
A'i fwyn lewych Rhufain a oleua:
Gwneyd gaethion iselion Sisilia,
Fu'n hir dan waedlyd iau enbyd Bomba:
Cu esponir i Ffrainc a Hispaenia,
Ei anwyl addysg, a hi yno lwydda:
Trwy Dwrci lydan'i anian a una
Y boblogaeth—iddo pawb a blyga:
Ei wersi drwy Athen, a'i ras a draetha,
A hen wlad Awen a ail flodeua:
Prydain o dan ei adain a neidia,
Diogel o olwg pob drwg hi driga:
Iwerddon druenus wallus a wella,

A hon o dan ei goron flagura:
Ei nawdd a goledd fynyddau Gwalia,
A'i hawen gynes hi iddo gana!
Heddwch! wi heddwch! ha, ha!—mwyn helynt:
A hon yw'r hypynt seinia Ewropa!

Ei fwynder esyd gyfandir Asia,
Yn wir baradwys, ei dir a brioda:
O'i holl ardaloedd yn llwyr y deola,
Bob achosion o greulon gweryla,
A thir Emanuel ail ymwela,
A hwnw elwir yn ardal Beula:
Ei anian durturaidd leinw Dartaria;
Arabia Ddedwydd yn ddedwydd ddoda:
China,'r wlad nefol, a wir nefola,
Dan ei winwydden daw hon anedda:
Ac mwy ni chlywir ar randir India,
Swn ymrafaelion, son am ryfela;
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha!—yr awr hon,
A lleisiau ceinion holl Asia cana.

Ysbryd Affrig addig a ddyhudda,
Hen lawruddion hon a lareiddia:
Llwynwyr duon, elynion creulona,
Oedd megys llewod neu deigrod egra;
Anian nwydwyllt y rhai'n a newidia,
Mor fwyn ddiniwaid a'r defaid dofa.
Ei ddawn a'i rad i bob gwlad gluda,
Ar ei hynysoedd hefyd teyrnasa;
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha!—fydd hyd nen,
Yn effro acen dwg hen Affrica.

Dan ei gysgod, Amerig a driga,
Yn war ei hanian, diofal yr huna;
Trosti ei faner dyner a daena,
Ei aden addfwyn ry i Indiaid noddfa:
Y drefn gaethwasaidd ffiaidd a ffoa,
O bresennoldeb ei wyneb yna;
A'r caethwas truan a lawen gana,

A'i holl ingoedd dros gof ollynga.
Ei loyw afon drwy'r cyfandir lifa,
Ei ras dyr eilwaith dros dir Awstralia:
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha!—o'r hen fyd,
A'r newydd hefyd o hyd eheda!

Ei fwyn lywodraeth ef a helaetha
Dros yr holl foroedd, a'u lluoedd llywia;
Uwch y dyfnder, ei faner anfona,
A chysgod hon yn y don dywyna:
E dderfydd dynion geirwon Algeria,
A'u hofer duedd i herw fordwya;
A'r fasnach gaeth, a aeth o dan eitha
Gwarth i'w hadwaen, pawb a'i gwrthoda;
Uwch yr eigion mwyach ni chroga,
I boen rhyw filoedd, baner rhyfela:
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha!—yn un floedd,
O'r tir a'r moroedd hyd nefoedd nofia—
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha!—eto'n ol,
I lon fyd swynol y nef adseinia!

Iesu mawr deyrnasa mwy,
Waredydd clodforadwy;
Nofia'r byd mewn hyfryd hedd,
Yn afon ei dangnefedd;
Duw a dyn, yn rhwymyn rhad
Ei ragorol fawr gariad,
Wneir yn un drwy rin a nerth
Diball ei waedlyd aberth:
Wele, daw angel a dyn
I heddwch yn y Duwddyn!
Hen Iuddewon yn ddiau,
Cenedloedd, pobloedd pob pau,
Ufuddion iddo fyddant,
Oll yn ei hedd, llawenhant;
E dodda 'u hysbryd addig,
Ei waed ef a ladd eu dig:
Nef a daiar a'i carant,
Iddo o hyd, ufuddhant.

Ar ei orsedd eistedda,
A bri hon hyd byth barha;
Rhyfel maith, a'i waith yn wir,
A'i ing hefyd, anghofir;
Ni fydd drwy'r byd ynfyd ŵr,
Mwy i'w weled y'ngwisg milwr.
Yna hedd fydd mewn mwynhad,
Tra y dyrch llewyrch lleuad
Ar y byd, a thra y b'o
Hon ar hyd nen yn rhodio.


CYWYDD
AR FRWYDR TRAFALGAR,
A MARWOLAETH Y PEN LLYNGESYDD, ARGLWYDD NELSON.

Un o destynau yr Eisteddfod Freiniol a gynnelid yn Aberhonddu, yn 1826. Bernid mai y Cywydd hwn a deilyngai y wobr.

RHO anadl, ber awenydd,
Yn ewybr rhed, myn lwybr rhydd,
I wir adrodd gwrhydri
Campwrion ein Nelson ni:
Hen arwr Prydain eirioes,
Ni bu'r un mewn neb rhyw oes
O'i wrolach, ar alwad
I dori 'lawr fradwyr'i wlad.
Hwn oedd dwrn, nawdd y deyrnas,
Dychryn gelyn cyndyn cas.
Pan oedd anferth ryferthwy
Rhyfelgar, na fu far fwy;
Ewrob yn syn ddirgrynu,
Bob gronyn mewn dychryn du;
A braw yn ysgwyd ei brig,
Arswyd y blaidd o Gorsig:
Hwn fel erchyll ellyll, a
Ga'i haniad yn Gehena,
Dda'i allan a gwedd hyllig,
Yn llawn o dân o'r llyn dig.[1]
Mynai'r byd i gyd o'i gwr
I'w grafangau, gryf wingwr:
A'i dân astrus dinystriai,
Ewrob faith yn oddaith wnai.

Braw yn enaid breninoedd,
Fu'i enw ef, a'i ofn oedd
Yn gwelwi'r cryfa'i galon,
A du fraw a döai'i fron.
Ond Nelson eon a wnaeth
Ar ei elyn wrolaeth;
Ei wŷr enwog arweiniai
Heb ofn, ac i'w wyneb äi:
Ffrwynai efe ei ffroen falch,
A'i daer ysfa drahausfalch.
Ei alon blinion a blwng,
Daflai i'r eigion duflwng:
Rhoes dranc ar rwysg y Ffranciaid,
Llonyddodd, blinodd y blaid;
O flaen ei nerth, yn gerth gynt,
Eu llongau ymollyngynt.
Bu acw yn Aboukir,
Ymladd, a lladd, a gwall hir;
Magnelau am oriau maith,
A bytheirient boeth araith:
Anadl angeu dwy lynges,
Dyrchai yn niwldorchau nes
Pruddhau wyneb hardd anian,
Enyn y dig donau'n dân!
Ein cawr ni, curo a wnaeth
Ei alon direolaeth;
Llaw angeu ar eu llynges,
Estynai, rhoddai yn rhes,
Eu llongau'n ddarnau i ddig
Danneddawl y don addig.
Bwriodd i'r ddofnwleb oror,
Eu dynion mawrion i'r môr;
C'weiriai 'u gwely, lletty llaith,
Yn y dylif dwfn duliaith.
Erys ar go'r oesau'r gair
A roddai yn arwyddair:—
"Prydain wyl ddysgwyl yn ddwys
Y gwelir ei meib gwiwlwys,
Yn gwneyd oll, oll a allont,
Lle bynag, bynag y b'ônt."

A hyny a wnaeth e'i hunan,
Yn mhob modd, ac yn mhob man.
Tra bu'r gŵr yn milwrio,
Gorchfygodd, trechodd bob tro.
Ei hanes, arwr hynod,
A'i haeddawl ryglyddawl glod,
Byth, byth, ni all awen ber
Yma henwi mo'u hanner.

Y gorwych gampau gwrol,
Yn awr a adawn yn ol,
I adrodd hynt ei helynt â
Ei alon y tro ola'—
Tro a gofir, trig hefyd
Gof am dano tra b'o byd.

Arhwyliai i'r fawr helynt,
Flin ei gwedd, o flaen y gwynt;
Angorau'r llongau'n llengoedd,
Godai y blaid gyda bloedd;
Dyrchafent, lledent yn llon,
Yr hwyliau i'r awelon;
A'r llynges eres yrai
Dros y Werydd, rhydd yr äi;
A'r môr mawr a'i laswawr li'
Tonog yn berwi tani:
Gwnai lwybrau trwy ei frau frig,
Ei rodiaw a'i aredig.
Anafai wyneb Neifion,
Chwalai'r dŵr, a chiliai'r don:
Trwy wybr Ner, y banerau,
Yn tryliwiawg, wibiawg wau—
Ysgydwent, a'u cysgodion
Ar rydd adenydd y don,
Roddai wawr, eurwawr orwych,
Ar ddyfrlli y weilgi'n wych.

Ond yn awr, rhaid myn'd yn nes,
I hynod adrodd hanes

Diwedd helynt yr hynt hon,
A'i thradewr faith weithredion.
Ar y don am lawer dydd,
Mordwyai mewn mawr dywydd;
Ac i olwg y gelyn,
Hi a ddaeth, a pharodd hyn
Lawenydd i galonau,
Ni fu i wŷr hon lwfrhau;
E daniai y Prydeinwyr,
I waith y gad, eitha gwŷr.
Mawr far wrth Trafalgar fu,
A rhyw filain ryfelu;
Anfad ryfelgad ar fôr,
Rwyg anfad ar eigionfor.
'Spain a Ffrainc yn ddwygainc ddig,
Yno oeddynt yn addig
Ddwy 'mhen un yn gytun gerth,
I'n dyrnu a'u cadarn—nerth.
Nelson wron wnai araith
Wrth ei wŷr, i'w nerthu i waith
Yr ofidus drafodaeth—
Eu hannog yn enwog wnaeth:—

"Brydeinwyr, arwyr eiroes,
Goreu o rym fagai'r oes;
Meib gwrawl y'mhob goror,
Penaethiaid, meistriaid y môr—
Mae adeg deg wedi dod,
I'ch dewrder a'ch awdurdod
I gael ei ddangos ar g'oedd,
A'i weled yn nghwymp miloedd
O'ch gelynion creulon, cras,
Wrth eu trechu, eirth trachas.
Er i ddwy genedl or ddig,
I ymroddi mor addig
Fel hyn yn ein herbyn ni,
Trechwn, curwn y cawri.
Bydd trechu'r ddwy yn fwy o fawl,
Erys i'wch glod anfarwawl:

Enw'n Ewrob y'mhob man,
Ennillwch o hyn allan;
Hanes a ddyd oesau ddaw,
Am ein camp yma'n cwympaw
Nerth yr hen unben enbyd,
Sy'n dychrynu,'n baeddu'r byd.
D'owch i'r gad â'ch ergydion,
Effeithiol, cyfeiriol f'on';
Lluniwch foliau'r gynau i gyd,
Oergwymp angeu y'mhob ergyd;
Anelwch ag iawn olwg,
At eich galon, drawsion drwg:
Ar fyrder, dyfnder y don,
Hen ogof y dwfn eigion,
Fyddo iddynt fedd heddyw,
Un na foed ar ol yn fyw.
Diammheu afraid imi,
Wyr enwog, eich annog chwi;
Pa raid dyweyd? parod ydych
Yn awr i'r gwaith, arwyr gwych.
Coeliaf mai dewr pob calon
Y sydd yn y llynges hon;
'Rwy'n darllen yn eich gwen gu,
Y gwroniaid digrynu,
Mai sawdwyr grymus ydych,
Llwyr ddiofn, ac eofn ych."

Gan wres eres ei araith,
Y gwŷr a daniwyd i'w gwaith;
Yna twrf yr arfau tân,
Echrysawl ddechreuasan'
Yn dra uchel fagnelu,
Drwy oror y dyfnfor du:
Swn enbyd tanllyd bob tu,
Tybiwn, yn gwrthatebu
Eu gilydd, mewn dig alaeth,
Gan ruo mewn cyffro caeth.
Pylor yn lluchio peli
Tros wyneb maith, llaith y lli':

Mellt gwreichionllyd, enbyd oedd
Yn dewfrith hyd y dyfroedd,
Nes bai'r môr oror eirian,
A thonau'r dyfnderau'n dân.
Creuloni wnai'r weilgi wyllt,
A ffrio yn gyffrowyllt;
Dinystr ar ddinystr a ddaeth,
Ddu afradwyllt ddifrodaeth;
Dynion mewn ing rhwng dannedd
Marwolaeth yn gaeth eu gwedd:
Angeu hyf, a'i gleddyf glas,
A luniai'r mawr alanas.
Gwaed, wrth erchyll bistylliaw,
Dro'i'r eigion yn drochion draw—
Och, afar! Ow! Och hefyd!
Glasfor yn gochfor i gyd!
A chur, anian ddychrynid,
Yr oedd ar ei hwyneb wrid;
A Thrafalgar yn waraidd
A siglid, grynid i'r gwraidd.
Swn anfad yr hellgad hon,
Rwygai y dwfnfawr eigion:
Fe orwylltiai'i ddeifr heilltion,
Cythruddodd, digiodd y don:
Twrf aflawen bob enyd,
Hwylbreni'n hollti o hyd:
Llongau'n gorwag ymagor,
Yn ddrylliawg i ferwawg fôr.
Mwg a niwl o'r magneloedd,
Yn wylldyrch trwy'r entyrch oedd:
Pan f'ai'r pelau'n gwau o gylch,
Hwy rwygent y môr ogylch,
O'u holau yn gwysau i gyd,
Ail i ar ar ol eryd!
Rhag twrf, a rhwyg y terfysg,
O'r hell bau, ffoai'r holl bysg!
Ni fu o'r blaen ferw blwng,
Na helynt mor annheilwng;
Na'r fath gyflafan ar fôr,
I'w chanfod ar drochionfor.

Wedi i'r mwg, oedd d'wllwg du,
O'u goror ymwasgaru,
Gwelid llyngesau'r galon
Yn ciliaw, a braw i'w bron;
Dan boenus, boenus benyd,
A'u llongau yn agenau i gyd;
A'u milwyr wedi 'u malu
Mewn digter i'r dyfnder du.

Och! mae ini gyni ac aeth,
Galar, a buddugoliaeth:
Ing ysol! ein llyngesydd,
O! fraw son, yn farw sydd!
Pan oedd llwyddiant tyciant teg
Anrhydedd, iddo'n rhedeg,
A hael fraint buddugol fri
Ar ei enwog goroni,
Dyna gwmwl dwl yn dod,
A du ofwy yn dyfod—
Aeth yn nos faith arosol,
Ciliai'r wawr yn awr yn ol.
A'r gân yn gwynfan dig aeth,
A. miloedd mewn trwm alaeth;
Ac i'r llynges hanes hon
Drydanai drwy y dynion;
Toai tristwch tew trosti,
Dyryswyd a hurtiwyd hi.
Haf ei chlod a fachludodd,
Yn ofid trist aiaf trodd;
Yna äi tewi'n anhawdd
Drwy hyn, a wylo'n dra hawdd.

Yn ol i Brydain eilwaith,
Yr hwyliai, deuai ar daith;
Gwylwyr y lan a'i gwelynt
Draw yn dod o'i hynod hynt,
Yna, fe roent i enyn,
Bylor i gyhoeddi hyn.
A Phrydain hoff a redodd
I gyfarch drwy barch o'i bodd,

Ei meibion hoewon, gwnai hi
Am eu helynt ymholi.
Ethryb eu gwel'd yn athrist,
Gan boen drom, gwynebau'n drist,
Hi a ddelwai'n eiddilaidd,
A'i bron yn frawychus braidd.

PRYDAIN.


"Ah! fy meibion gwychion, gwar,
Gwelaf eich bod mewn galar—
Mynegwch, na chelwch chwi,
Ba ryw achos bair ichwi
Heddyw i fod mor bruddion?
Ba helynt fu i'r hynt fawr hon?"

Hwythau yn eu dagrau, do,
Wnaen' ateb i hon eto:—
"Bu golidiawg ferwawg far,
Rhyfelgad ger Trafalgar,
Rhyngom a'r Ffrancod drengaidd,
Na bu erioed ei bath, braidd.
Rhoisom ddial i'w calon,
A gwae tost, yn y gad hon;
Ond ennill fu ddrud ini—
Costio wnaeth ein concwest ni
Einioes ein llywydd anwyl,
Hyn a wnaeth ddifwyno'n hwyl."

Hithau droes mewn aethau draw,
Do, yn welwaidd, dan wylaw;
Oer gwynodd mewn mawr gyni,
"Ow! Ow! fy mab arab i,
Megais ddewrion feibion fil,
Hynod oeddynt, nid eiddil,
Ac arwyr yn rhagori,
Nid tebyg, tebyg i ti,
Rhoist ddau aelod hyglod ŵr
Gynt o'm plaid, euraid arwr,

Rho'i d'eirioes enioes union
A wnait ti yn yr hynt hon;
Am dy faith iawnwaith ini,
A allaf, talaf i ti:
Cei orwedd y cu wron
Yn St. Pawl, a hawl yn hon,
Cofadail it cyfodaf,

Yn hon, a'i heneinio wnaf:
Dy enw ar dal fy nghalon
Pery o hyd, pur yw hon,
Bydd Nelson mewn gwiwlon gof,
Tra anian yn troi ynof."


CYWYDD AR YMDRECH BUDDUG YN ERBYN Y RHUFEINIAID.

Un o destynau Eisteddfod Freiniol Dinbych, yn 1828.

O'n gwrolion gwychion gaid,
Yn nifer ein henafiaid,
Fu'n gwarchad ein henwlad hon
Rhag distryw rhwygiad estron;
E fu unwaith gain fanon,
Yn dra chwai'n yr ymdrech hon:
Baeddai gad, Buddug ydoedd,
Gwraig Brasydog enwog oedd.
Meddai hon ar galon gwr,
A dewrwych ysbryd arwr;
Ei chalon gron yn llawn gwres,
Oedd o mewn idd ei mynwes;
Gwladgarwch gloewdeg eres,
Ynddi'n chwai enynai nes,
Na oddefai'n fain i fyw
Yn yr hen wlad yr hanyw,
Dan lywodraeth den lawdrom
Estron hyll a'i ffrewyll ffrom.

Pan oedd Rhufain filain far,
Arbenig ei rhaib anwar;
A'i hesgyll tywyll bob tu,
Mal adwyth, yn ymledu:
Treisio ac ymreibio 'roedd,
Barus arswydus ydoedd:
A mawr rwysg am oresgyn,
Boed a fo y byd a fyn,

Dan eryraidd ddewraidd ddig
Faner y llys Rhufeinig.
Lluchiai goronau llachar
Teyrniaid byd trwy nwyd a bar;
Darniai a lloriai mewn llid
Orseddau; llwyr y soddid
Wledydd, a'u goludoedd oll,
I'w mawrchwant, er trwm archoll.
Dwrn awdurdod hynod hon
Ysigai dywysogion;
Rhoddai, hi blethai ei blin
Ieuau ar warau'r werin,
Griddfan wnai'r ddaiar tani,
Tra hallt oedd ei thrawster hi.

'Nol treisio rheibio pob rhan,
O'r liwdeg ddaiar lydan;
D'ai âg arfog lidiog lu
I Frydain i'w hafradu:
Dwyn anwyl—wlad ein tadau,
A thynu hon i'w then iau,
Ei bwriad oedd, a bryd addig,
Ei llyw dwl efo llu dig.
D'ai'r dewrion Frython drwy fri,
Eirf allan i'w harfolli;
Caswallon yn ddigllon ddaw,
A'i gedyrn tan ergydiaw,
Cawodau saethau, nes oedd
Du alanas, gwaed lynoedd:
Arafwyd llengau Rhufain,
D'ryswyd a rhwystrwyd y rhai'n;
Dyna'r croesaw sur gawsant,
Yna'n ol i Rhufain änt.
Ond Och! eilwaith dychwelynt,
Dyrfa gas, fwy na'r dorf gynt;
A thiriasant uthr weision,
Yn eitha hyf y waith hon;
Gan ruthro i'n bro heb rus,
I'w dygyd yn haid wgus:

Ymryson amryw oesau
A'u holl nerth am ein berth bau,
Nes dwyn ein hynys danynt;
Dyna chwedl y genedl gynt.
Ond caid ein henafiaid ni
Eilwaith yn ymwroli:
Eilwaith ac eilwaith gwelid
Ar y prawf eu dewrder prid:
Eu rhyddid a gerid gan
Brydeinwyr â brwd anian.

Ai Paulinus ddyrus ddyn,
Yn ei rwysg i oresgyn,
Ynys Fôn, hynaws a fu,
Yn enwog iawn cyn hyny,
Derwyddon dyfnion eu dysg
Weinyddent yno 'u haddysg;
Ac mewn hedd yr aneddynt
Diwael gor yn dawel gynt.
Yr eryr leda'r awrhon
Aden fawr tros Eden Fôn;
Cymylodd, t'wllodd y tir,
A'i hyfrydwch ddifrodir:
Gwaew du fu rhoi gwaed i Fôn
I'w yfed, lawer afon:
Gwaed derwyddon tirionwawr,
Ruddgochai y Fenai Fawr!
Yn anialwch Môn welir
Gwaed a thân trwy goed ei thir:
E aeth hon yn aberth hedd
I gynddeiriog gynddaredd,
Y Rhufeinig dorf anwar,
Wele i Fôn anaele far!
Wele y mwg, gwmwl mawr,
Yn dyrchafu'n dorch hyfawr;
I'r awyr fflamau ruant,
Rhuddo y nen drwyddi wnant:
Meib Môn hynawsion ysir,
A theg wyryfon ei thir;

Anwylion, gan dân hylosg
Wneir yn ulw'n y lludw llosg!
Taniwyd yn bentewynion
Ieuaint a henaint yn hon.

Tra y bu y llu hyll hwn
Yn troi Môn fel trem annwn;
Llu arall creulon lloerig
Oedd yn Lloegria'n dala dig;
A chadw o dan warcheidiaeth
Y Brython mewn cyffion caeth:
Lladd y mawrion dynion doeth,
Ac hefyd dwyn eu cyfoeth;
Hwy a rwygant y gwragedd,
A'r plant a wanant un wedd:
Wrth hyn ffyrnigai certh haid,
A thaniai'r hen Frythoniaid:
Codent yn unllu cadarn,
Uthr a byw i wneuthur barn,
Ac ymddial ar alon,
A thal i'r eitha'r waith hon.
Ni fu 'rioed, addefir hyn,
Ymosodiad mwy sydyn:
Rhuthrent, ymladdent am lwydd
Yn deigrod mewn llidiawgrwydd;
Rhufeinwyr â'u heirf wenid,
Yn y lle mewn gwŷn a llid,
Heb arbed gradd o naddun,
Yn eu bâr darnient bob un,
Gwae! gwae! i Rufeinig wyr!
E dorid eu mad arwyr
Yn dyrau, fel y cydorwedd
Pabwyr neu wair, pawb'r un wedd,
Wedi'r bladur ddur ddarwain,
Yn ei rhwysg ei min drwy'r rhain!
Rhai fföent geisient ymgau
Yn ysig mewn dinasau;
A'r Brythion yn eon änt,
Hwt yno, ac a'u taniant:

Dacw hwynthwy wedi eu cau,
Ni ffoant o'r tân ffauau;
Dyna ddial i'w calon
Yn awr am ddinystr mawr Môn!

D'ai'r haid arall fall o Fôn,
Yn fagad o arfogion:
Gwelent erchyllaf golwg,
Celanedd gerth anferth wg;
Darnau aelodau hyd lawr,
A chronfa dra dychrynfawr,
O fwg yn dywyllwg du
Drwch ufel yn dyrchafu;
Dinasoedd yn dân ysol—
Ni cheir un mwyach ar ol.
Buddug uwch ben ei byddin
Barod, i drafod y drin;
Dydd dial yn ei chalon—
Chwydda a brydia ei bron.
Byddin oedd heb ddyn eiddil,
Ar y maes yn llawer mil:
Gwŷr enwog calonog clau,
A thân yn eu gwythenau:
Ag awydd yn mhob gewyn
I ruthro, darnio pob dyn
O'r ddig Rufeinig dorf hon,
A'i heryrod yr awrhon.

Buddug enwog frydiog fron
Gwelid yn llawn o galon;
Gwaew o awydd trwy'i giau,
Dewr nwyd, am gael darnio iau
Rhufain—rhoi ei gwŷr hefyd,
Addig wedd i'r cledd i gyd.
Troad ei llygad lliwgu,
Effro, llon, gyffroai y llu;
Mantell o borffor meinteg
Yn toi ei hysgwyddau teg;
Ei gwallt oedd megys gwellt aur,
Meinaidd, un lliw a mwnaur,

Crogai'n glau fodrwyau dros
Ei hedlin feinael hoewdlos;
A'i dwyferch hynod ufydd,
Coron bri Iceni rydd,
Ar gadfeirch gwylltfeirch gwalltfawr,
Gyda nerth i'r gad yn awr,
A'r ddwyoedd yn llwyr ddiofn,
Hwynthwy nid adwaenent ofn.

Y loewddewr gad lywyddes,
Yn awr äi i flaen y rhes;
Yn ngolwg ei blwng alon,
Eitha hyf, areithiai hon
I agwrdd galonogi
Y milwyr, ei harwyr hi.
Meddai hi yn y modd hwn:—
"Wyr anwyl, yn awr unwn;
Dacw'r gwilliaid gwrthblaid gas,
Y gwaedgwn melldigeidgas,
Rhufeinwyr a'u heryr hyll
Yn ysgwyd ei hen esgyll;
A'i lygaid 'sglyfiol agwrdd,
Dal gwg mae ei olwg wrdd;
Efo'i engyrth grafangau,
Erch wedd, gan agor a chau,
Gan ei awydd egnïawl,
Nwyd hell, am ein cnawd i'w hawl.
Ni a wnawn frad ei ddwy aden,
T'rawn ei big, torwn ei ben;
Tynwn ei lygaid taniol
Heddyw i ffwrdd o'i lechwedd ffol:
A'i ewinedd cigweiniol
Dynwn, heb ado yn ol
Un o honynt 'rol heno,
I flino byd—fal hyny b'o:
Ni a'i pluwn bob blewiach
Yn foel, yn mhen enyd fach.
Ewch i'r maes, chwi rymusion,
Fel corwynt ar yr hynt hon;

Rhowch i'r lladron trawsion trwch,
Eu haedd am ddwyn ein heddwch
Deirt llymion, wyr dewrion da,
Bywiog rhowch ar y bwa;
A rhowch i'w hergydio 'n rhwydd,
Esgud nerth braich ac ysgwydd
Hynod yr ych yn hanu
O lin areib feib a fu
Ar y maes yn rymusol,
Iesin wŷr, ryw oesau 'n ol,
Yn chwalu â dymchweliad
Elynion glewion eu gwlad;
Gwronwaed a geir ynoch,
Ac ysbryd da fryd di froch,
O blaid rhyddid dwysbrid da
Eled y defnyn ola':
Mynwch heb ffael gael pob gwr
Yn y fan-pob Rhufeinwr,
Yn gelain i frain y fro,
Yn rhan i'w swper heno:
Y maes hwn gochwn a'u gwaed,
Ië, rhoddwn eu rhuddwaed
I'n saethau rif dafnau'r don;
Oni fyddant yn feddwon.
Ar gig calon galon gau
O'i ddifiant bo'ch cleddyfau
Yn lythion, nes ymlwythant,
A chael digonedd i'w chwant!"

Ei diwael arawd eon,
Ail daniai brydiai pob bron,
Canaid oedd llygaid y llu
O awch dan lechedenu.
Wrth wel'd eu ter hyder hwy,
A'u nodawl wedd ofnadwy;
Treiddiai fraw trwodd i fron
Galonog llu'r gelynion:
Ac weithion y dynion dewr,
A doddynt yn wŷr diddewr;

I'w mysg äi'n derfysg dirfawr,
Hwynt yn ol gilient yn awr.

Dyna 'u cadben yn enyn,
A'i wedd yn cochi gan wŷn;
A'i lygaid diraid yn dân
Ysol, a wreichionasan':
Ac edlym waeddai'r cadlew
A llais rhuadwy fel llew:—

"A dry'n anwyr filwyr fel
Gwŷr Rhufain o gae'r rhyfel?
Y son ar led eheda,
I'r byd yn ddiareb ä,
I'n byddin gael ei baeddu
Gan Frythonaidd lesgaidd lu:
Hyn, yn wir, fydd ini'n warth,
Ac hefyd, pawb a'n cyfarth;
A meddant, 'Merch a'u maeddai,
Curo'n ol y cawri wnai;
Brathu wnaeth Brython noethion,
Darnio teg gadernid hon.'
Ni hoffych, wŷr dewrwych, da,
Y garw anair hagr yna;
Gwell na'r gair, gwarthair gwrthyn,
Iwch heno 'ch darnio bob dyn.
Na, f'arwyr, o un fwriad,
Prysurwch, gwaeddwch i'r gad;
Ewch yn ddewrion eon, a
Gwanwch yr haid wag yna:
Ant mewn twrdd i ffwrdd ar ffo,
Weis anwyl, cyn nos heno."

Yna y gwŷr yn ffyrnig iawn
A enynent yn uniawn;
At eu heirf, eto a hwy,
Hynodawl lu ofnadwy;
Tynu i'r gad tan ergydiaw,
O un fryd a wnaent heb fraw.

Llawn gwg yw'r olwg welir,
Dial tost hyd ael y tir:
Saethau a gwrthsaethau sydd
I'w gweled heibio 'u gilydd
Yn brysio heb arosiad,
I ddwyn i fron myrddiwn frad.
Cyflymu, gwanu trwy'r gwynt,
Dynion a gwympir danynt;
Ymladd a lladd ar bob llaw,
Ow! ac addig gigyddiaw;
E lychwinir yr irwellt,
Coch—liwia'r gwyar y gwellt:
O wele awr marwolaeth,
Anwar ddu, yn awr a ddaeth.

Ha! Buddug ga'dd ei baeddu,
A llwyr orthrechwyd ei llu;
Y Brython, foelion filwyr,
A orfu gan arfog wŷr,
Adael y maes gwaedliw mall,
Diengynt, ac nid anghall;
Wyth ddengmil o'u hepil hwy
Draw yna a drywanwyd.
Is addig dristwch soddai
Buddug wech, ei baeddu gai;
A rhoes ar ei hoes yn ei hing
Derfyn trwy wenwyn dyrfing.

Dyna fel y bu helynt
Naws a gwedd hen oesau gynt.
Wele yma,'n awr, tawel ym ni,
Anwyl ein heddwch ini:
Darfu'r terfysg cymysg caeth,
A diwreiddiwyd Derwyddiaeth:—
Duw a gadwo i'n bro brid,
Ei Air, Heddwch, a Rhyddid,
Hyd i'r dydd'r ä byd ar dân,
Diwedd einioes dydd anian.


CYWYDD AR
ORLLIFIAD Y MOR TROS GANTRE'r GWAELOD.

Testyn y Gwyneddigion yn Eisteddfod Freiniol Dinbych, yn 1828. Bernid mai hwn a deilyngai yr ariandlws.

OLRHEINIAF, holaf helynt,
Hanes a gwaith hen oes gynt:
Rhodder im' lawer o lwydd,
I olrhain i fanylrwydd.
Rho anian o dy dân di,
Dy gymhorth, O! dwg imi,
I roi yn awr, drwy iawn nod,
Golwg ar Gantre'r Gwaelod.
Hyfryd wlad o Leyn fad fwyth,
Wastad, hyd Aberystwyth;
Llain hir o amaethdir mad,
A morfa eang mawrfad:
Y môr oedd fal mur iddi,
Neu wregys i'w hystlys hi;
Iach afon Mawddach hefyd,
Ai trwyddi i'w gweini i gyd;
Ei dwfr melus iachus oedd
I'w diodi, da ydoedd:
Dolenai'r ardal lonwawr,
Yna myn'd wnai i'r eigion mawr.
Dynion celfyddgar doniol,
Oedd yn wir oesoedd yn ol
I'w hanneddu, iawn wyddynt
Arwain gwaith yn gywrain gynt.


Hwy wnaynt yn gadr Sarn Badrig,
I ddal o'r fro'r dyfnfor dig;
Cadwynynt acw donau
Y môr certh gyda mur cau:
Gwregysent ei gry gesig—
Ffrwyno, dal, eu ffroenau dig.
Iawn y mynwn am unwaith
Roi amlwg olwg o'r gwaith:
Mi ddych'mygaf eu llafur
Yn llunio gwaith maith y mur:
Swn eirf yn synu Arfon,
Yn rhwygo hyll greigiau hon:
Mawrion wŷr yn Meirion oedd,
Yn naddu ei mynyddoedd,
Nes agorent yn 'sgyrion,
I rwymo dig rym y don.
Hyd y traethoedd,'r oedd mawr ri'
'N gyru tynion gertweni:
Meni llwythog yn myned,
Fawr lu, hyd y morfa ar led;
Cludo defnyddiau cledion,
Er attal a dal y don.
Gwnai y seiri meini mad,
Wŷr dilesg, yr adeilad;
Gan roi'r brwd gymrwd i'r gwaith,
I'w gyfuno'n gyfanwaith
Mor erfai nad allai'r don,
Mawr agwrdd rym yr eigion,
I syflyd hon o'i safle,
Hi darfai'i rym dirfawr e.
Hwy ar ben gorphen y gwaith,
Agorent enwog araith,
A rho'ent her i gerhynt hyll,
Anturiawl y môr teryll;
Gofyn gwaethaf, gwaethaf gau
Dannedd ei ffyrnig donau:—
"Ha! tyr'd yma, dringa dros
Ein mur yn ddiymaros!
Croesaw iti, os medri, y môr,
Draws gyrhaedd dros y goror;

Ymwrola,'n mawr elyn,
Yma rhed drwy'r muriau hyn,
Brysia, brocha, rhua, rhed,
Anturia trostynt, tyred—
Gormod gwaith ddwywaith i'th ddig,
Aflonydd don fileinig;
Er cryfed, garwed dy gur,
Un dyrnfedd o'n cadarnfur
Ni syfl byth, dilyth y deil
Y furiedig fawr adeil:
Er i'th eigion greuloni
'N ddiderfyn i'w herbyn hi,
A'i churo yn dra chwerw—wyllt,
Gwaetha'i galon, hon ni hyllt;
Try'n ol dwrw, llanw, llif,
Du ddialedd dy ddylif."

A hedd a gawsant fwynhau,
Do, am hirion dymmorau,
Heb wrthryfel, dawel dir,
Neu frad o fewn y frodir.
Hyderai y brodorion
Heb ofn her digter y don,
Gael byw'n eu diogel bau,
O oes i oes, heb naws eisieu.
Gwlad oludog enwog oedd,
Yr Ynys Eden, ydoedd:
Llwyni coed llawn cauedig,
Irleision, breisgion eu brig;
Adar mân, â'u cyngan cu,
Yno uwch ben yn chwibanu;
Adlais eos, dlos awen,
Gynt ro'i wawd trwy'r Gantre wen.
Palasau a llysau llon,
Adeiladau teleidion—
Muriau a gwawr marmor gwyn
Addurnawl, ydoedd arnyn':
A hwynthwy ar fachlud haul
Oreurent y fro araul,

Hi a liwid fel gloewaur,
I'w gwel'd oll fel gwlad o aur.
Helaeth oedd toraeth y tir,
Hyfrydaf dawel frodir,
Perlleni, gerddi gwyrddddail,
O hardd—ddull pob rhyw o ddail;
A'i dolydd, O! mor delaid!
Yn feillion gwynion a gaid.
Iachusol heirdd fuchesoedd,
Llaethog iawn; a llwythog oedd
Y wlad o dda, golud i ddyn;
A moethau, pob amheuthyn,—
A ddygai, a llawn ddigon,
I ddiwallu ei llu llon.
Dyfyr y porai defaid,
A'r wyn yn y gwanwyn gaid
Yn chwarae'n hoenwych yroedd,
Yn y waen, mor dirion oedd!
Ac anwyl deg ganol dydd,
Gwelid yn mreichiau'u gilydd,
Heirdd rianod yn rhodiaw
Yna i drum y bryn draw;
I gael trem a gweled drych,
Trwy wydrau hwnt er edrych
Ar y sarn erfawr y sydd
Fawr warant i For Werydd,
Na ddelai 'i don, ddial dig,
Ymhellach a'i grym hyllig.
Gwelent y'mhell, bell o'r bau,
Lengoedd o lwythog longau;
Yn dwyn tramor drysorion,
A golud teg i'w gwlad hon.

Ond daeth arni gyni a gwall,
Ddu erwin dywydd arall;
Rhyw egwyl gai 'r mawr eigion,
I dywallt dwr hallt ar hon:
Seithionyn, offeryn ffol,
O hen feddwyn anfuddiol,

Adawai wedi diod,
Folerwr rhwth, glwth, di glod,
Y dyfr ddor yn agored,
I fôr lif dirfawr ei led
Dd'od trosti, a'i soddi yn serth
I'w eigionfol dig anferth.
Y mawr weilgi, dyfrlli dig,
A'i chwai ddadwrdd chwyddedig,
Llifeirio dan ruo'r oedd,
Ai'r dolef trwy'r ardaloedd.
Yn ei hiaith, gwaeddi weithion,
Yn erchyll wnai'r deryll don;
A d'wedyd gyda dadwrdd,—
"Wŷr! deffrowch, a ffowch i ffwrdd!
Fi piau'r traeth, ni waeth weithion
I chwi ffoi, ei doi â'r dôn
A wnaf, a honaf fy hawl,
O hyn allan, yn ollawl;
I'm hen wely obry, äf
Iddo, ac ymorweddaf;
Ni chaiff mwyach legach lu,
O ddynion ei feddiannu;
Ond morfeirch, dewrfeirch y don,
Fyddant ei etifeddion:
Clywch chwithau! ciliwch weithion,
Bob gŵr o le dwr y don.
Ewch ar frys, rhedwch o'r fro,
Neu fygwch yn fy eigion,
Ha! ple mae'ch sarn gadarngau,
Dorau heiyrn cedyrn cau,
Muriau gwych oedd genych gynt,
I'm atal? dirym ytynt.
Taerech mewn ymffrost orwael,
A herion gweigion a gwael,
Y daliai eich mur dilyth,
Egni a bar f' eigion byth;
Muriau i ddal llif moryd?
Pw! ffoledd, gwagedd i gyd:
Un fath a phe buaswn farch,
Ni chymmer môr eich a'mharch;

Drylliaf eich sarn gadarnaf,
A thrwyddi ar egni'r äf."

Tros yr oror äi'r môr maith,
Fe redai, gwnai ddifrodwaith:
Ac O! gyni, gwaeddi gwyllt,
O flaen y don fileinwyllt!
Gwrolion yn hagr welwi,
Yn llwfr, yn nghanol y lli';
A babanod, bawb yno,
A gwedd wyllt, yn gwaeddi, O!
Er eu gwaeddi egnïol,
Ni throi ton Neifion yn ol;
Chwerw unllef ddychrynllyd,
Dolef trwy'r gantref i gyd;
Ni phrisiai dwr cyffrous dig,
Ieuaint na henaint unig;
Ni ddawr gwŷn, ni ddyry ged,
I foneddig fwy nodded;
Na'r tylotaf waelaf wedd;
Neu yr annoeth dirinwedd.
Nid erys wrth fun dirion;
Ei lif hyll ni chlyw lef hon.
Seithionyn feddwyn foddawdd,
Yn hyn mae cwyno 'nanhawdd.
Gallai fod rhai'n priodi
Yn llon, pan ruthrodd y lli,
A throi'r gwleddoedd yn floedd flin,
Angeu oer, a'i ing erwin.
Ceisio dianc wnai'r llanciau,
Heb rus o'r enbydus bau;
A buain am eu bywyd,
Y rhedent, gwylltient i gyd.
Rhedeg wnai'r môr rhuadwy,
Llifeiriol, ar eu hol hwy.
Llawer gadd eu cyd gladdu,
Tan drochion y ddofndon ddu;
O flaen hon yn flin eu hynt,
O ddu ing, rhai ddiengynt.

Un o'r dewrwych frodorion
Yn ei fraw'n drwm iawn ei fron,
Golygai oddiar glogwyn
Y dystryw chwai, safai'n syn.
Golwg a dorai'i galon
Ganfyddai, fe holltai hon;
Crochlefai, e waeddai'n wyllt,
Llefarai a llef orwyllt:—
"Ow! O! mae'n hoewfro hyfryd,
Er ei gwae, yn fôr i gyd!
Mae nerth y môr certh yn cau
Ein dynion rhwng ei donau:
Fy nhad, a'm mam fad, gwae fi!
A ddaliwyd gan ei ddyli'.
O! fy mrodyr, wŷr teg wedd,
A'm dwy chwaer, mae du chwerwedd
I feddwl, O! feddwl fod
Eu gwely yn nig waelod
Yr eigion garw'i agwedd,
Hwn a fu iddynt yn fedd!
Anwylion, hwy ni welaf
Byth yn wir, O! beth a wnaf!
Wele don Neifion mewn nerth,
Yn gyru acw, at Gricerth;
Trwy ofid, aeth ein trefi,
Do, yn llwyr o dan y lli';
A'u llon drigolion i gyd,
I far y duaf weryd.
Caer Wyddno a amdowyd
Dan y llif a'i donau llwyd.
Hen gaer enwog Garanhir,
E droes y don dros ei dir.
Soddi cair Cadair Cedawl,
Môr hyll a'i cymer i'w hawl."

Try wedd laith unwaith yno,
A'i drem am yr olaf dro,
A chwai fe redai i'r aig,
Ei ddagrau tros y ddugraig;

Ac fel hyn yn syn o'i serch,
Seiniai'i alarus anerch:—
"O! fy ngwlad fad ddifodwyd,
Ow! ein du wae! mwy nid wyd!
Ni bu wlad dan d'wniad haul
Mor eirian a 'mro araul.
Aethost ti'n llyn heli hallt,
Y môr du mawr a dywallt
Ddyfroedd trwy 'th ddyffrynoedd ffraw,
Gan eu haddig anhuddaw:
O, ddylif! O, ddialedd!
Mae'n flin bod ar fin dy fedd.
Tywod sy'n llenwi'n teiau,
A'r pysg yn gymysg yn gwau;
Morfeirch, dihefeirch hyfion,
Llymriaid arw haid'r awr hon,
Sy'n heigiau'n amlhau y'mhlith
Y gweunydd fu'n dwyn gwenith:
Lle porai defaid dofion,
Yn y lle pranciai wyn llon,
Cynnulla morgwn hyllion,
A môr gathod—syndod son!
E geir lle bu yd a gwin,
Fawr grugiau o fôr gregin.
Hoff lysoedd a phalasau,
Gan nerth y môr certh mawr cau,
Eu cydiawl furiau cedyrn
Ddatodid, chwelid yn chwyrn:
Ni ddorid eu gwedd eirioes,
Tan eu traed, tonau a'u troes;
A'n holl stôr, y môr mawrwanc,
A fwriai i wyllt far ei wanc.
O! fy ngwlad, rhaid im' d'adu
Dan y dwr, a'i donau du:
Llwybrau rodiwn, garwn gynt,
I'm mawr dristwch, môr drostynt
A lifeiria lafoerion
Oerion dig ei erwin don.
O! hen eigion creulon, cred,
Y gelyn calongaled—

Ni bu un â'i raib yn bod
Debyg mor ddigydwybod
A thydi, weilgi mawr wanc!
Didoraeth yw dy daerwanc;
Llyncu'r byd i gyd ar gais
I dy fol, mewn du falais,
Wnait unwaith ar hynt anwar,
Hyn ni fu ddigon o far—
Llyncu mad wlad fy nhadau,
Wnait i'th grombil, gawrfil gau:
Daw arnat dal diwyrni,—
Dial tân—y fo dâl i ti!"

Felly'r aeth y dalaeth deg,
A'i chyfoeth, anwych ofeg,
Wlad hardd yn orweddle ton
Yr erys hyd yr awrhon.
Gwelir eto'i thrigolion,
Bob cnawd, fore brawd ger bron;
E rwygir bol yr eigion,
Chwelir croth, dyfngroth y don;
Gwewyr esgor ar fôr fydd,
Rhy' fawr waedd ryw foreuddydd:
Pob ton a'i dynion yn dod,
Codant yn fyw o'r ceudod;
Gelwir hwy at eu gilydd
O bob carn i'r farn a fydd:
Y dydd hwn, e dawdd anian,
Llosgir môr a thir a thân.


CYWYDD, I ANERCH YR HEN BRIF-FARDD ENWOG,
R. AB GWILYM DDU, O EIFION,
ΥΝ 1846.

O LYNLLEIFIAD lawn llafur,
Awen bach, i Eifion bur,
Dianc yn ddystaw dawel,
O dre y mwg i dir mel;
A chai yno iach anadl,
Wych o hyd yn lle tawch hadl.
O hagr swn a chlegr y Sais,
Crochlef y Gwyddel crychlais,
A'r Ysgotyn, tordyn tew,
Crintach, ystyfnig, croentew,
Ymorol—cai ymwared,
Yn chwai, chwai—hai, hai! ehed!
A bydd, o dygwydd y daw
Un dyn wrth it' fyn'd ynaw,
Neu ferch deg, a'th gyfarch di,
Na ateb, archaf iti,
I yru ymlaen heb eiriach,
Hyd borth y Mynachdy bach.[2]
Cura'r ddor, cai agoriad,
Yno i ti bydd caniatâd.
Yna, wed'yn, heb oedi,
I fewn dos—ymofyn di,
Ai byw hen esgob awen,
'Rhwn a'i wallt yn goron wen
Uwch ei ael yn gylch welir,
Cysgodlen i'w awen îr.
Mae fal doeth dderwydd, coeth, call,
Eres ŵr o oes arall:

Peraidd iawn yn nawn einioes,
Yw ei gân, fel y' mrig oes;
Parchus iawn y' mhrydnawn einioes,
Ei wedd ef yn niwedd oes.
Llais ei gerdd, felusgerdd lon,
Ymlid ofid o Eifion;
Cana fel hedydd ceinwych,
Uwch ben yn y wybren wych,
Neu geiliog bronfraith gwiwlon,
O'r dail fry ar dal y fron.
Ei awen, hon yn ei henaint,
Iraidd yw heb arwydd haint;
Eos yw—pan dery sain
Beroriaeth byw arwyrain,
Arwydd i'r adar ereill
Dewi, a'n llesg dawn y lleill.
Am un waith, minnau euthum
Drwy Ardd[3] y bardd, ar dro bum:
Gardd awen, a'i gwyrdd wiail,
Ni bu un ardd hardd o'i hail.
Eirian law yr awen lwys
Fu'n brodiaw'r fwyn baradwys.
Lluosog ceir llysiau cain,
A blodau wyneb lydain;
Rhosynau aml—liwiau'n lwys,
Urddolant yr ardd wiwlwys:
Coedlwyni cauad lawnion,
Irion, heirdd, a geir yn hon;
Ac adar lu, mwynwar mân,
Ar gangau yn per gyngan;
Ac o'r tewfrig lle trigant,
Ein swyno ni â'u sain wnant.

Difyr yw gweled Dwyfach,[4]
Esgud wedd, a'i physgod iach,

Yn chwarae rhwng ei cherig,
Hynaws ddull, heb un naws ddig.
Yr afon lon ddolena
Drwy'r ardd, gan ymdroi yr ä;
A'r Ddwyfawr, loewrydd afon,
A iraidd lif drwy'r ardd lon;
Ar hyd mân raian hi red,
Yn fwyna' dim wrth fyned—
Y sia hon â naws heini,
"Y môr! y môr mawr i mi!"
Ar y lan ddyfyr lonydd,
Y bardd du yn syllu sydd,
Efo'i "fwyn lawforwyn fach,"
Awenydd, fu ei mwynach?
Hyfryd hynod yw rhodio
Gyda'r bardd drwy ei ardd o;
Ac eistedd ar lawr gwastad,
Neu ar fryn, heb un oer frad;
Ac esgyll coed yn gysgod
Uwch ben—onid iach yw bod
Yno yn gorphwys enyd,
O boen a thrafferth y byd?
Trin y dail, troi â'n dwylaw
Flodau tlysion, llon â'r llaw;
Sawru y llysiau irion,
Hel llu o'r briallu llon.
Addefir bod Gardd Eifion
Heb ei hail, mae wyneb hon
Dan d'wniad gwen heulwen ha',
Un wedd ag Eden Adda.
Mwy yw helaeth doraeth da
Gardd Eifion na gardd Efa;
A cheir melusach aeron
Ar Bren Bywyd hyfryd hon,
Nag oedd ar un hòno gynt,
A rhinwedd geir o honynt:
Eli i ofid y cleifion,
Esmwythder i brudd—der bron;
Eli iachâ elwch hen
Niweidiau trymion Eden,

Ddeuai arnom ryw ddiwrnod,
Nod o farn ofnadwy i fod:
"Drwy goeliaw y drwg elyn,
Marwolaeth a ddaeth i ddyn."

Ba'nd rhyfedd yn niwedd oes,
Oedd i'r hen brif—fardd eirioes,
Yn Eifionydd droi'n fynach!
"Och di byth, Fonachdy bach!" [5]
Yno hwyliodd cyn elawr,
Ys ei fyn'd o'r Bettws Fawr.[6]

Myned sy raid i minau,
Canu'n iach bellach i bau
Gwerdd Eifion, a'i gardd hefyd,
A'i hardd hen brif—fardd—mae'n bryd:
A'i gu Efa, deg hefyd,
Enau ffraeth, dirion ei phryd:
Hoen ddyddan i'w hen ddyddiau,
A hedd fo 'u diwedd eu dau:
A phan del gorpheniad oes,
Dirwyniad edau'r einioes,
Eiddunaf i'r ddau anwyl,
Anniwedd oes, newydd ŵyl.


CYWYDD I ANERCH EIFION AR ACHLYSUR
Marwolaeth y tri Bardd godidog,
DEWI WYN, PEDR FARDD, AC R. AB GWILYM DDU.

EIFION lân, ba ryw ddofn loes
Fraenarodd dy fron eirioes?
Ba frathiad, arteithiad dig,
Wanai dy enaid unig?
Dy lewych, ardal awen,
D'wllodd, newidiodd dy wen;
Ai'r llawenydd o'r llwyni,
Trist drydar mae d' adar di.
Ydyw'n wir, mae dy wyn haf
Wedi newid yn aiaf!
Dy ddydd yn annedwydd nos,
Daeth arnad adwyth oernos.
Darfu 'th gerdd, mwy ni chwerddi,
Aeth gelyn a'th delyn di:
Bryn Engan weithian a wisg
Y niwl oer yn alarwisg;
Syn yw'r Garn fawr yr awrhon,
Y llwyd darth yw dillad hon;
Y Ddwyfach lathr sy'n athrist,
Drwy'r fro yn ymdreiglo'n drist;
Rhyw riddfan drwy'r lydan wlad,
Mae y Ddwyfawr amddifad.
Beth fu? beth ddarfu 'th orfod?
Ddichwaen fawr, beth ddichon fod?

EIFION.

"Fy enw yn Eifionydd,

Na alwer, tra dalia dydd;

Ond anial, neu ardal nos,
Mara, neu ynte Meros.
Difri 'nawr yw 'm dwyfron i,
Oer yw 'm cwyn, mawr yw 'm cyni;
Yfed ing gofid angau
A barodd im' gwedd bruddhau.
Marw 'm beirdd, mawr im' y boen,
Mwy ni cheir mwyniach orhoen:
Marw Dewi, mawr dywydd,
A'i for dawn, gwae fi o'r dydd!
Oedd o elfen ddieilfath,
Cawr o fardd, p'le ceir ei fath?
Cawr enaid, cry' ewynau,
Wyddai gerdd, a'r modd i'w gwau.
Perchid mawr gawr y Gaerwen,
Addefai'n beirdd ef yn ben;
Ni wiw i Fon am Oronwy
Owen mawr, i wneyd son mwy:
F' Owen ydwyf yn nodi
'N fwy'i awen na'i Howen hi;
Owen y Gaerwen gurawdd
Ei Howen hi'n ddigon hawdd.
O! ni bu gan neb Owen
Gu erioed fel y Gaer wen!
Na Dewi chwaith—d'weda' i chwi,
Ar y gŵr wnai ragori;
Na Gwyn na Du, gwn nad oedd,
Allasai drwy'r holl oesoedd
Guro hwn, 'rwy'n gwir hòni
Un iawn oedd 'y Newi Wyn i!
Ond Ow! Ow! y mae Dewi
Wyn yn fud, a gwan wyf fi!

"Dyna erwin dôn arall,
Godai o'r llif gwedi'r llall;
Oer ddamchwa ei gwrdd ymchwydd,
A'm trechai, llethai fy llwydd;
Newydd oedd, anhawdd ei ddal,
I mi oedd wan a meddal:

Deuai'r llef o dre' Lleifiad,
Draw i fôr, farw Pedr fad.
Pedr Fardd, pa awdwr fu
O'i amgenach am ganu?
A fu waith o dan nef wen
O loewach ei 'Fel Awen?'
O honof fi yr hanyw;
Ow! myn'd a wnaeth, mwy nid yw!
O! na chawswn lochesu,
Rhoddi corff fy mhrif—fardd cu
'N rhyw fan yn nhir Eifionydd
I'w guddio, nes delo dydd
O adferiad i feirwon,
O feddrod, ollyngdod llon.
Oedd astrus i bridd estron,
Brwnt, oer, i fyn'd â'm braint hon;
Ar ei fin, win awenydd,
Daiar Sais yn do oer sydd:
Rho'i hyn frath i'm tirion fron,
Ganwaith a barai gwynion.
Ond cyn edfryd, cawn adfrath,
Angeuol friw, ingol frath;
Cur oedd im' orfod cau arch
Robert ab Gwilym hirbarch:
Ddyfyr batriarchfardd Eifion,
Y bardd du bereiddia'i don;
Athraw a thad mad fy meirdd,
Ynad iawnfad Prydeinfeirdd;
Brenhinbren awen, hwn oedd,
A'r hynotaf bren ytoedd;
'R ucha'i frig yn y wig werdd,
Urddiant y goedwig harddwerdd.
Ond cymynydd ryw ddydd ddaeth,
Hen elyn coed dynoliaeth,
Torai'n gerth fy mhren gwerthfawr,
A hyll fiin ei fwyall fawr:
Wele, prudd ar ol y pren,
Heddyw yw pinwydd awen.
Ni welaf fyth f' anwylaf fardd,
Hen awenfwyn benwynfardd,

Yn dyfod i fin Dwyfach,
Gyda'i fwyn lawforwyn fach,
I eilio cerdd bob yn ail cainc
Esgud, a'r ffrwd felusgainc:
Dyfyr oedd ei dwfr iddo,
Gwnai'n llawen ei awen o.
Llidiog a fu 'm trallodion,
Gofid hallt o'r gafod hon
A brofais; ni bu ryfedd
Orlwydo a gwywo 'm gwedd."

Y BARDD.

Rhyw edrych yn rhy odrist

'Rwyt, Eifion, rhy drymion drist
Dy gwynion; gwn fod genyd
Eto feirdd sy'n fraint i fyd.
Cofia Eben sy'n ben bardd,
Un a brofwyd yn brif-fardd;
Awen fawr hwn a ferwa,
Tawdd â'i rhin gynteddau'r ia.
Ac Emrys, fedrus fydrydd,
Un a swyn ei awen sydd
Braidd yn tynu a'i gu gân,
Engyl i wrando'i gyngan.
Ioan Madog, enwog iawn,
Nyddwr y cynghaneddiawn;
Awen a gerdd yn ei gân,
Nes tery fel llais taran.
Awen Elis Owen sydd
A'i miwsig yn Nghefn meusydd;
Ac ereill feirdd rhagorol
A raid im' adaw ar ol.
Na achwyna ychwaneg,
Na ofna di, Eifion deg,
Mwy o'th feibion feirddion fo
Hynotach na'r rhai'n eto:
Rhai uwch ben Eben hybarch,
A beirdd uwch Emrys o barch;

Rho iddynt gywir addysg,
E goda dawn gyda dysg.
Ac O! Eifion, hyn cofia,
Ceir dysg yn well nac aur da!
Eifion, dysg hwy i ofni Duw,
Na thynont at waith annuw;
Ac felly'th lon feirddion a fydd
Yn gryfion mewn gwir grefydd.


ENGLYNION MARWNADOL, &c.


Ar farwolaeth y diweddar
BARCHEDIG W. WILLIAMS, O'R WERN.

WILLIAMS anwyl! mae synu—ar ei ol,
Mawr yw alaeth Cymru!
Cleddyf trwy'i bron oedd claddu,
Anhuddo'i dawn yn y bedd du.

Oedd enwog arch dduwinydd—iachusol,
A chyson athronydd;
Cyfaill, pwy wel hefelydd?
Brawd o wir hael ysbryd rhydd.

Dododd hen draddodiadau—do, ar dân,
Dirdynodd gredoau;
Chwiliodd, eglurodd yn glau,
Groth aur yr Ysgrythyrau.

Sain ei ddawn swynai ddynion—e ddrylliai,
Toddai rewllyd galon;
Deigr heillt, wedi agor hon, :
Ymlifent yn aml afon.

Hyd dannau'r enaid dynol—äi'i fysedd,
Gwnai fiwsig berseiniol;
Taro wnai ddawn naturiol
At y nwyd heb dant yn ol.

Ei goron a flagurai—ar ei ben,
A'i fawr barch gynnyddai;
Hyd ei elor y daliai
Yn ei swydd, a'i barch a sai.


Ar farwolaeth y diweddar
BARCHEDIG RICHARD JONES, O RUTHYN,

Gweinidog ieuanc, a phregethwr tra rhagorol.

O! GYMYLOG ymweliad!—wyf yn glaf,
Dwfn glwyfwyd fy nheimlad;
Tarawai loes trwy y wlad,
Bair ochain a brawychiad.

Do, gwanwyd enaid Gwynedd—gwna achwyn
Gwanychwyd hi'n rhyfedd;
Fe dorwyd tafod irwedd
Ei dawn, i byrth duon bedd.

Jones anwyl! per y seiniai—ei glod ef,
A'n gwlad oll a'i carai;
Ar ei ol man yr elai,
Y fro o serch, ar frys äi.

Rhwyg a loes i'r eglwysi,—er niwed,
Fu'r newydd o'i golli;
Un gweinidog i'w nodi,
O'i ddawn ef, ni feddwn ni.

Dygai ei weinidogaeth—oleuni,
A dylanwad helaeth;
Pob calon yn union wnaeth
Dyneru dan ei araeth.

Ymadroddwr ymdreiddiai—i'r gwaelod,
Oedd, a'r galon chwiliai;
A'i hyawdledd ddyhidlai
Fendith megys mwynwlith Mai.

Seraph o nef brysurai, a'r ufel
Ar ei wefus ddodai;
Hwn o'i fewn e'n fuan äi,
Yn ei enaid enynai.

At yr Iawn o'u trueni—tro'i wyneb
Trueiniaid mewn tlodi;
Dygai i enaid o'i gyni
Fôr o hedd o Galfari.

Fe lwydodd yn ei flodau,—a hunodd
Cyn hanner ei ddyddiau;
Ehedodd uwch niweidiau,
I fywyd gwell o fyd gau.

O! frathiad i dref Rhuthyn—fu y tro!
Fe'i t'rawyd â dychryn;
Hi ni chodai'n iach wed'yn,
I hybu o'r haint barai hyn.

O! fy mrawd, y mae fy mron—wan innau
Yn enynus weithion;
Glyn haint yn y galon hon,
Galar ac afar gofion.

Hiraethaf pan gofiaf gynt
Am ein hwyl a'n mwyn helynt;
Lawer tro'n cyd—deithio'n dau,
A dyddan oedd y dyddiau.
Difyr iawn hyd y fro iach,
Fu yr anwyl gyfrinach:
Dau enaid wedi uno,
A'u dwyn i glwm serch dan glo.
O bai un dan ryw benyd,
Yn salw'i fron, isel ei fryd;
Ei oreu wnai'r un arall,
I godi a lloni'r llall.
Cu iawn a fuost ceni,
Cu genyt gwn oeddwn i.
Teithio raid hebot weithian,
A hiraeth dwys ar waith dan
Fy mron am danad, fy mrawd,
Anhoff oerder a fferdawd:
Yn hon trig ysig iasau
Gwyniau o hyd i'w gwanhau.

Fi eto ddeuaf atad
Ryw ddydd i'r lonydd bur wlad;
Ac felly cawn gyfeillach
Bery o hyd mewn bro iach.


Ar farwolaeth y diwrddar
BARCHEDIG W. WILLIAMS, O LANDEILO FAWR,
SWYDD GAERFYRDDIN,

Yr hwn a fu farw Medi 6ed, 1846.

DIWREIDDIWYD y gedrwydden,—hardd o dwf,
Iraidd deg ddewisbren;
Wele prudd ar ol y pren,
Diau ydyw coed Eden.

Am Williams mae trwm alaeth—ymgwyno
Mae Gwynedd mewn hiraeth,
Wele, ar ol ei farwolaeth,
Ydyw'n wir, mae'r Dehau'n waeth!

Llawn dolur yw Llandeilo, —a phoenus
Am hoff enwog athro:
Ysigdod y dyrnod do,
Synodd yr eglwys hono.

Athraw doeth, pregethwr da—diegwan,
Diwygiwr pob afrad;
Llafurio a'i holl fwriad,
Wnai i les Sion a'i wlad.

Efengylwr fu yn ngolau—nefoedd
Nifer o flynyddau;
Llaeth y gwir, nid llithiau gau,
Ddefnynodd o'i fwyn enau.

Dawn fyw enynol dan nef eneiniad,
Ferwai, lifeiriai, yn ei lefariad:
Allan y ffrydiai yn llawn hoff rediad,
Croni dylenwi wnai y dylanwad;
Rhedai lif ar hyd y wlad—grymus oedd,
Tynerai miloedd tan yr ymweliad.

Fe draethai fywyd o areithfaoedd,
A rhoes allan ei lef trwy'n gwersylloedd;
Troai ei fwa at y tyrfaoedd,
A thrwy nifer äi saethau'r nefoedd;
Y galon a'i dirgeloeddwnai'n ysig,
A briwedig oedd llu o ysbrydoedd.

Gwin ac olew i gyni y galon
A ddyferai i wella'i harchollion,
A llaeth i gynnal y llwythog weinion,
O rinwedd odiaeth bronau addewidion,
Eli i glwyfau gwael gleifion—ro'i beunydd,
A nerth crefydd i borthi y cryfion.

Ei gu leferydd oedd am Galfaria,
A haelwiw haeddiant gwaed yr Ail Adda;
Yr hwn yr awrhon mor wyn a'r eira,
Wna lu andwyol o'r aflan dua;
A'r addfwyn drugareddfa—tragwyddol
Le i anneddfol gael tawel noddfa.

Yn llawn llafur bu droiau'n Llynlleifiad,
A'i weinidogaeth a fu yn fendigaid;
Dywedai rinwedd y gwaed i drueiniaid;
A iachawdwriaeth i bechaduriaid:
Chwythai, e ruai wrth raid—udgorn
Ion I godi dynion at Geidwad enaid.

Canwyll oedd ef yn cynu—ei lewyrch
Oleuodd tros Gymru:
Angau hyll ro'i'r ganwyll gu
Allan, mae wedi t'w'llu.


Byr dyniad gai'r brawd anwyl—buan daeth
I ben dydd ei orchwyl;
Ei was i gadw noswyl,
Alwai Ion i'r nefol wyl.

Diengodd uwch brad angau
I awyr iach, purach pau;
At frodyr ynt hyfrydawl,
Mewn gwynfyd yn myd y mawl.
Tyrfa o saint, rif y ser,
Lu nefol uwchlaw nifer—
Rhai adwaenai garai gynt
Dan haul yn dwyn eu helynt.
Jones Tygwyn,[7] hynaws tegwedd,
Jones o Rhuthyn wyn ei wedd:
Williams, yr efengylwr,
Y Wern gynt, orenwog wr,
A Breeze[8] bybyr eryr oedd,
A'i aden mor gre' ydoedd,
Heibio 'rai i bob rhyw wr,
At ei fad rad Waredwr.
I'w ogoneddu gan addef,
"Y mawl a fo iddo ef."


Ar farwolaeth y diweddar
BARCHEDIG MORGAN HOWELLS, TREDEGAR,

Gweinidog enwog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd,
Yr hwn a fu farw Mawrth 21ain, 1852.

ERCHYLL frath! archollai fron—Sion wael,
Hi sy'n welw 'rawrhon;
Fe wanai saeth fynwes hon,
Ocha o waelod ei chalon.

Gwae ni! Ha! Morgan Howell—a fu ddyn,
Feddiannai ddawn uchel;
Ei enau sydd o dan sel,
Oer y tywod, dir tawel.

Gwr oedd o feddwl gwreiddiol—a doniau
Danient yn rhyfeddol;
Athraw o ddull dyeithriol,
Un o'i ryw ni cheir o'i ol.

Dyn â'i enw yn dwyn eneiniad—y nef,
Nofio wnai mewn teimlad;
Uchel oedd yn mharch ei wlad,
A mawr iawn ei gymmeriad.

E ro'i fywyd mewn tyrfaoedd—dyn Duw,
A dynai dân o'r nefoedd;
Ei wedd a'i lais treiddiol oedd,
Yn eu lle crynai lluoedd.

Gyda'i lef pan goda'i law—deneu fach,
Dyna fyrdd yn ddystaw;
Dagrau geir yn llifeiriaw—
Rhedai lif fel ffrwd o wlaw.

Iachawdwriaeth pechaduriaid—yr Iawn
A'i rinwedd bendigaid,
Oedd ei destun, bu'n ddi baid
Yn berwi yn ei bur enaid.

Ciliai i fynwes Calfiniaeth—bur uchel,
Brochai rhag Arminiaeth,
Us a swynion Sosiniaeth,
A'i sŵn oer, gasäai'n waeth.

Wedi ei fyn'd mae odwy fawr—oes, oes,
Mae dwys eisiau'r blaenawr;
Wylwyd ar ol ei elawr,
A wylo wna mil yn awr.

Wylo wna Cymanfäoedd o'i herwydd
Gan hiraeth eu lluoedd,
Sy yn flin am swn y floedd,
Adfywiai 'u cyn'lleidfaoedd.

Ebrwydd aeth at ei obrwy,
Ar y maes nis ceir e mwy.
Wedi hau mewn dagrau daeth,
Awr i fedi'r orfodaeth;
A llon ger bron ei Brynydd,
A holliach bellach y bydd.
Y lle nad oes boen na llid,
Nachwyn dan fynych wendid.
Dirgelwch, harddweh, urddas,
Angeu'r grog, a chyngor gras.
Arfaeth Ior a'r drefn fore
Wêl yn awr yn ngoleu ne':—
Ar ei ol ofer wylo,
Yn nef wen canu wna fo.


Ar farwolaeth y diweddar
MR. THOMAS GEE, HENAF, DINBYCH.

TROS Ddinbych dunych a daenodd—ei wg,
Gee hygar a gollodd:
Ei llonder yn drister drodd,
A'i thegwch a waethygodd.

Yn ei oes un hynawsach—ni chafwyd,
Na chyfaill cywirach;
Dyn o enaid unionach,
Ni bu erioed dan wybr iach.


E swynai'i hynaws wyneb—ni'n hollol,
Ennillai anwyldeb,
Rho'i gwarth anair gwrthwyneb,
Iddo'n wir ni feiddiai neb.

Delw'i enaid a lanwai—ei wyneb
A'i wen a arwyddai,
Y dymer lân feddiannai,
Bur a mwyn fel bore Mai.

Gŵr Duw oedd, geirda iddo—a'i enw
Heb un anaf arno:
Anrhydedd lle bu'n rhodio;
A'i goffâd mewn parch gaiff o.

E ddiweddodd ei ddyddiau mewn heddwch
Mwyneiddiaf, heb ofnau;
Y mae yn awr yn mwynhau,
Ei delyn mewn gwlad olau.


Ar farwolaeth y diweddar
MR. RICHARD JONES, O LWYNGWRIL,
Pregethwr tra chymmeradwy gyda'r Annibynwyr.

HA! hen gerub Llwyngwril—ydyw, mae
Wedi myn'd ar encil:
Yma cwynir mai cynil
Rhai o'i fath—nid gŵr o fil.

Ni 'dwaenai ddichell, dyn heddychol—fu
Drwy fywyd gwastadol;
A gair da y gŵr duwiol,
Yn hir iawn bery o'i ol.


A hir y cedwir mewn co'—oludog
Sylwadau wneid ganddo;
Heriai undyn i'w wrando,
A'i ddwy glust dan farwaidd glo.

Athraw oedd ef dieithr ei ddawn,—oedd enwog
Dduwinydd pur gyflawn;
Traethu gwir toreithiog iawn
Dan eneiniad wnai 'n uniawn.

Hynod ei ddull ydoedd o,—a gwreiddiol
Gwir addysg geid ganddo;
Caem werth ein trafferth bob tro,
Heb wiriondeb i'w wrando.

Agor ini 'r gwirionedd,—a'i adrodd
Wnai 'n fedrus mewn symledd;
Fe roi i lu ddifyr wledd,
Gwersi o olud, gwir sylwedd.

Dwthwn ei gylchymdeithio—oedd hirfaith
Ddarfu, mae'n gorffwyso;
Hiraeth gyfyd wrth gofio
I ddu fedd ei guddio fo.


Ar farwolaeth y ddiweddar
MRS. A. HUGHES, HEOL Y LLYN, CAERNARFON,
Yr hon oedd wraig rinweddol a duwiol iawn, ac aelod ffyddlawn dros lawer o flyneddoedd yn yr Eglwys Annibynol yn Mhendref. Bu farw yn nhy ei merch a'i mab yn nghyfraith , Mr. a Mrs. D. Davies, Catherine street, Liverpool.

E GEIR yn y gwirionedd—air da iawn
I ryw dorf o wragedd—
Rhai enwog am eu rhinwedd,
A'u gwir barch ni lygra bedd.


Sara, a Miriam eirioes—dwy buraidd,
A Debora wenfoes;
A Hanna yn ei heinioes,
Geir yn hardd goron i'w hoes.

Pedair ddiwair Fair a fu—enwog iawn,
Yn gweini i'r Iesu;
Hwy o ffyddlon galon gu,
Hwnt y gwŷr wnaent ei garu.

Ein chwaer Ann gai'i choroni—yn addurn
Rhinweddau y rhei'ni—
Dilynai 'u hol, dal wnai hi
Tan ei henaint yn heini.

Hir yrfa yn Nghaerarfon—a redai
Mewn anrhydedd cyson;
E gofir y chwaer gyfion
Yn dra hir yn y dre' hon.

Ar ras ei Phrynwr Iesu—'i hyder oedd,
Wrth ei draed gwnai lynu;
Hyd ei bedd, diwyd y bu
'N ei addas ogoneddu.

Yn nwylaw'r gelyn olaf—yn hyf iawn,
Hi ofynai'i waethaf;
Tywynai gwên heulwen haf
Ar ei hwyneb tirionaf.

Trwy y glyn gartre' glaniodd—yn eon,
Dim niwed ni phrofodd:
Ei hanwylyd glân welodd,
Hithau byth fydd wrth ei bodd.


I Weithiau a Choffadwriaeth
DAFYDD IONAWR.

EGINYN a ddug Ionawr—i Feirion,
A fwriai ffrwyth gwerthfawr:
Aeron aeddfed rhinweddfawr,
Athrylith o fendith fawr.

Dewi Ionawr, fad awenydd—a gaiff
Ei goffa'n dragywydd;
Ei enw fo a'i awen fydd
Yn fawr enw i Feirionydd.

Godidog ehediadau—ei feddwl
A fyddant yn berlau,
A thrysor gwerth i'r oesau
I fynu hwn i'w fwynhau.

Ei ddawn ufudd oedd yn nefol—ei chwaeth,
A choethus ragorol;
Diwair un, nid äi ar ol
Sal addysg ansylweddol.

Awen oedd ei awen e—un gywair
Ag awen mab Iesse;
Gwnai edryd y gân adre',
I eilio'n wir fawl y ne'.

Pan äi Ionawr lawr dan len—tew orchudd
Tywarchog ddaiarlen,
Du niwl amdoai y nen,
A deuai machlud awen.

Mae ei odidog ddihalog feddyliau,
A mydr ei awen, megys modrwyau,
Neu waith o gymysg aur a thegemau:
Ni fu prydferthach glanach foglynau;

Pob un o'i fad ganiadau—a fyddant
Eto o lesiant i blant oloesau.

O rinwedd ei ber rawnwin—heb w'rafun,
De'wch i brofi'n ddibrin;
Rhydd y wasg yn rhwydd o'i win[9]
E flysir ei feluswin.


I GYFARCH Y PARCHEDIG J. ROBERTS, A MRS. ROBERTS, O LANBRYNMAIR, YN AWR O RUTHYN,
Ar enedigaeth John Thomas—eu cyntafanedig.

LLANBRYNMAIR gair dan goron,
A llawenha llu yn hon:
Byw anwyd harddfab yno.
Llawenydd o'i herwydd o,
Deued i ei dad Ioan,
A bri i'w deg briod Ann;
Iddyn' hwy yn wreiddyn hedd,
Da tyfed eu hetifedd:
Enw a delw'i ddau daid,[10]
Da, teilwng, a'i dad telaid,
A ddygo—ddalio'n ddilyth,
Hyd y bedd heb beidio byth.
Caed ryfedd rinwedd i'w ran,
Da, duwiol, ei daid Ioan;
Ei ŵyr mwyn gaffo'i synwyr mad,
A'i lenwi â'i ddylanwad.
Dewraidd oedd ei daid arall,
Gwrol a rhagorol gall;

Tymer wrolddewr Tomas,
Yn ei ŵyr, rhoed Ion o'i ras.
Holl dalentau, doniau'i dad,
A'i ystwyth barabl wastad,
A'i deg hyawdledd fo'n dod
I dyfu ar ei dafod.

Rhesymwr fel ei ewythr Sam'wel—a fyddo,
Gan feddu'i ddawn uchel,
Ei ras, a'i dymer isel,
Ei wen fwyn, a'i awen fel.

Enwog weinidog hynodol—a fo,
Hir fywyd defnyddiol,
Bid i'w ran; boed ar ei ol
Fawredd, a chlod anfarwol.




Fel ia un-nos diflanodd—Ioan bach,
O'n byd ymadawodd;
Ei ben draw o'i boen a drodd,
Nefoedd wen a feddiannodd.


DOETHINEB.

PUR oleuni, perl enaid—y'th enwir,
Ddoethineb fendigaid;
Peth penaf, rhagoraf gaid,
Fyw gynneddf o nef ganaid.


BEDDERGRYFF.

AR GOFGOLOFN Y DIWEDDAR IEUAN GWYNEDD,
YN MYNWENT Y GROES WEN, SIR FYNWY.

Y GOLOFN yma gyhoedda haeddiant
IEUAN GWYNEDD, i'w wlad fu 'n ogoniant:
Haul oedd i'w genedl; miloedd a gwynant,
Ai 'n nos o'i golli-tewi nis gallant.
Llanwodd swydd Llenydd a Sant-sai'i weithiau
Ef i'r oloesau yn ddirfawr lesiant.


AR FEDD BABAN.

DEUAI y bychan dibechod—drwy weithred,
I'r athrist fedd isod;
Yn y dydd eto sy'n d'od,
Daw i iach wynfyd uchod.



AR FEDD MRS. MARTHA EVANS,
Priod y Parch. D. Evans, Tredegar.

Er rhodiad fu 'n anrhydedd—yn y byd,
Ca'i barch am ei rhinwedd;
Enw da hon, a'i diwedd,
O go'r byw ni ddyga'r bedd.



AR FEDD MR. JAMES DAVIES, MANCHESTER,
YN MYNWENT HENLLAN.

FE dynodd fywyd uniawn—hyd elor
Y daliodd yn ffyddlawn;
Gŵr Duw oedd, a gair da iawn
Gafodd, fel Iago gyfiawn.


MARWNADAU.


I'R DIWEDDAR BARCHEDIG JOHN ROBERTS, O LANBRYNMAIR.

O ANGEU! O angeu! ysbeilydd dideimlad,
Hen lofrudd cysuron dynoliaeth a'i hedd,
Wyt frenin y dychryn, a'th arfau yn wastad
Sydd barod i ymladd rhyfeloedd y bedd.

Ti droaist y ddaiar yn gladdfa i'w thrigolion,
Ti dynaist och'neidiau o g'lonau mil myrdd;
Achosaist aberoedd o ddagrau tra heilltion
I redeg, gan wneuthur y gruddiau eu ffyrdd.

'Tydi sydd yn cauad yr auraidd eneuau,
O'r rhai y dyhidlai'n felusach na mel,
Gyhoeddiad o ryddid i'r caethion o'u rhwymau,
Dan ddwyfol awdurdod y nefoedd a'i sel.

Ha! wele ferch Sïon mewn drylliog deimladau,
Yn gwisgo galarwisg, â phridd ar ei phen;
A chanwyll ei llygad yn boddi mewn dagrau—
Gŵr mawr a thywysog a gwympodd dan len.

Ni all diniweidrwydd, na bywyd defnyddiol,
Na gras, na duwioldeb, i droi angeu draw;
Neu Roberts yn sicr fuasai anfarwol,
A byth ni theimlasai mo fferdod ei law.

Hen wron ardderchog! gorphenodd ei lafur,
A'i ymdrech filwraidd — terfynodd ei ddydd;
Diosgodd ei arfwisg, 'nol ennill y frwydr,
A choron cyfiawnder gwobrwywyd ei ffydd.


Bu ganwyll yn llosgi, bu lamp yn goleuo,
Bu fugail gofalus yn eglwys yr Oen;
Bu'n draed i'r rhai cloffion, yn llygad i'r deillion,
Bu'n gryfdwr a chysur i'r gwan dan ei boen.

Aberthodd ei hunan i fywyd defnyddiol,
Y nod oedd o'i flaen, fu gogoniant ei Dduw;
A gwneuthur daioni i eneidiau anfarwol,
Ei fwyd ef a'i ddiod fu hyn tra fu byw.

Cyflogodd yn foreu, a gweithiodd yn ddiwyd
Yn ngwinllan ei Arglwydd tros ddiwrnod maith iawn;
Gorphenodd ei waith, a noswyliodd yn hyfryd,
A'i haul, pan yn machlud, dywynai yn llawn.

Terfynodd ei yrfa mewn urddas a mawrfri,
A choron penwyni'n blodeuo ar ei ben;
Ei gorff yn llawn aeddfed i fyn'd i'r priddelli,
A'i enaid yn aeddfed i wynfyd y nen.

Mor esmwyth, mor dawel yr huna'n y dyffryn!
Cyweiriodd ei wely cyn gorwedd i lawr;
Mae'n llechu mewn llygredd, heb lygredd i'w ganlyn,
A melus yr huna hyd doriad y wawr.

Fe'i perchid, fe'i cerid gan bawb a'i hadwaenai,
Hyd oesau dyfodol ei goffa a wnair;
Bydd son am ei fywyd a'i dduwiol rinweddau,
Tra haul yn pelydru ar fro Llanbrynmair.

Duwioldeb, callineb, diwydrwydd, ffyddlondeb,
A hardd ostyngeiddrwydd yn wyneb pob croes;
Belydrent yn ddysglaer a phrydferth ar wyneb
Ei fywyd a'i fuchedd trwy ystod ei oes.

Dadleuai, myfyriai, gweddïai, ac wylai,
Er cael y gwirionedd, cymmerai fawr boen;
Ac yn ei ddadleuon yn wastad ymddygai
Yn ysbryd a thymer efengyl yr Oen.


Yr athraw hybarchus sy'n awr yn gorphwyso,
Ar ol ei hir lafur yn 'stafell y bedd;
Ond er wedi marw, llefaru mae eto,

Fe glywir ei lais, er na welir ei wedd.

Gadawodd yr eglwys, ond nid yn amddifad—
Ei feibion a godwyd i'r adwy'n ei le;
Y rhai ynt fel dau lwdn iwrch o efeilliaid,
Cariadus ac anwyl gan deulu y ne'.

Iehofah eu tad a'u helaeth fendithio,
A llwydd a'u dilyno'n mhregethiad y gair;
Gogoniant Duw Israel yn wastad aroso,
Tra haul yn tywynu, yn eglwys Brynmair.


Hiraethgan ar ôl
Y PARCHEDIG WILLIAM WILLIAMS, O'R WERN.

"WRTH im' eiste' i lawr i ddechreu
Ysgrifenu'r ganiad hon,
Mae rhyw lawer o deimladau
'N ymgynhyrfu dan fy mron,
Fel am redeg draws eu gilydd,
Am y cynta'i flaen y bys;
Ar y papyr, maent mewn awydd
Cael ymddangos gyda brys.

Cariad, hiraeth, tristwch calon,
:Digter, llonder, yn gytun,
Ni fedd iaith ar eiriau ddigon
I roi enw ar bob un;
Buont fel yn gwresog ddadlu
Enw p'un roid ar y gân;
Rhoddwyd ar yr awen farnu—
Hiraeth aeth â'r dydd yn lân.


'R achos barai'r ymrysonfa
Ddwys, ddiniwed, ddystaw hon,
Ydoedd colli tad anwyla',
Gormod yw ei enwi 'mron;
"Ardderchowgrwydd Israel" glwyfwyd
Frathwyd gan angeuol gledd—
Holl ffurfafen Cymru dduwyd,
Pan roed Williams yn ei fedd.

Dyna'r testyn! canu arno
Sydd yn orchwyl caled, trwm;
Anhawdd canu—haws yw wylo
Pan fo'r galon fel y plwm;
Pan fo gwrthdeimladau 'n berwi
Yn y fynwes, megys pair,
Ton ar ol y llall yn codi,
Anhawdd iawn rhoi gair wrth air.

Hoffai cariad gael desgrifio
Rhagoriaethau'r athraw cu;
Hiraeth, yntau fynai lwytho
'R gân, drwy adrodd pethau fu;
Mynai tristwch droi'n gwynfanau
Gwlychu'r gân â dagrau i gyd;
Ceisiai digter senu angeu,
Am ei waith yn 'speilio'r byd.

Teimlad arall ymresymai
Gan wrth'nebu'r lleill yn nghyd;
D'wedai mai llawenydd ddylai
Sain y gân fod trwyddi'i gyd;
"A fyn cariad genfigenu
Wrth ddedwyddwch WILLIAMS gu?
Fynit, hiraeth ffol, ei gyrchu
Eto 'nol i'r ddaear ddu?

Dig wrth angeu am drosglwyddo
Aeddfed sant i'r nefoedd wen!
Beio arno am ei gludo
At ei Brynwr hwnt y llen;

Dig fod Williams uwch pob gelyn
Wrth ei fodd yr ochr draw;
Dig ei fod yn awr â thelyn
Buddugoliaeth yn ei law!

Dristwch, fynit tithau wylo,
Gwisgo llaes wynebpryd prudd,
Pan mae'r hwn y wyli am dano
Heb un deigryn ar ei rudd?
Pan mae ef mewn môr o wynfyd,
Ac heb arno unrhyw glwy'?
Cadw, sycha'th ddagrau ynfyd,
Taw, a phaid a chwyno mwy.

Ust! dystawrwydd! fy nheimladau,
Cewch bob un gyfiawnder glân,
Os caiff awen iaith a geiriau,
I'ch cyfleu chwi yn y gân;
Rhaid i Gariad dynu darlun
Williams—Hiraeth ddweyd ei gwyn;
Goddef raid i Dristwch wed'yn
Dywallt deigryn er ei fwyn.

Anhawdd myned heibio angeu,
Heb ro'i iddo air o sen;
Rhy anhawdd yn wir yw maddeu
Lladd gwrolion Seion wen;
Rhaid yw llawenychu hefyd,
Wrth alaru'r golled hon—
Cafodd WILLIAMS goron bywyd,
Pwy all beidio bod yn llon?

"Haeddai WILLIAMS," (meddai cariad,)
'Ryw gofgolofn uchel iawn,
Rhagoriaethau ei nodweddiad
Wedi'u cerfio arni'n llawn;
Haeddai'i enw ei drosglwyddo
Draw i oesau pell i dd'od,
Fel bo parchus son am dano,
Tra bo Cymru a Chymro'n bod.


Pan ei ganwyd yn Nghwmhwyswn
Nid oedd gan ei fam a'i dad
Fawr o feddwl, mi dybygwn,
Fod fath fendith fawr i'w gwlad;
Hwy ni wyddent, wrth ei fagu,
Fod rhyw drysor mawr o ddawn
Ynddo, dorai'n llif dros Gymru,
I ddylanwad nerthol llawn.

'Roedd y nef â'i llygad arno
Pan yn sugno bron ei fam,
Angel wrth ei gryd yn gwylio
Rhag i William bach gael cam;
Pan fel Samson wedi tyfu
'N fachgen gynt yn ngwersyll Dan,
Ysbryd Duw ddechreuai'i nerthu
A chynhyrfu'i feddwl gwan.

Ca'dd ei ddwyn yn more'i fywyd,
Cyn ei lygru â beiau'r oes,
Dan yr iau, i brofi hyfryd
Wleddoedd crefydd bur y groes;
Taran Sinai a'i dychrynodd,
A'r cymylau'n duo'r nen,
Ffodd yn nghysgod Craig yr Oesoedd
Cafodd fan i guddio'i ben.

Eglwys Penystryt, Trawsfynydd
Ga'dd y fraint o'i dderbyn ef,
Ac i fod yn famaeth ddedwydd
Un o gedyrn gwych y nef;
Prin y tybiai, pan yn derbyn
William bach i'w breichiau, 'i fod
Yn un y byddai'n fuan wedy'n
Drwy eglwysi'r wlad ei glod.

Pan agorodd ei alluoedd,
Ac y lledodd hwyliau'i ddawn,
Aeth y son drwy'r holl ardaloedd
Am ei enw'n gyflym iawn;

'Roedd swynyddiaeth yn ei enw,
A phan y cyhoeddid e',
Gwlad o ddynion y pryd hwnw
A gydgyrchent tua'r lle.

O! 'r fath olwg fyddai arno,
Pan uwchben y dyrfa fawr—
Delw'i enaid yn dysgleirio
Yn ei wedd ac ar ei wawr;
Myrdd o glustiau wedi'u hoelio
Wrth ei enau'n ddigon tyn,
A phob llygad syllai arno
Pawb yn ddystaw ac yn syn.

Yntau'n tywallt allan ffrydiau
O'r hyawdledd pura'i flas,
Agor ger eu bron wythienau
Hen drysorau Dwyfol ras,
Arg'oeddiadau'r nef yn cerdded,
Cydwybodau deimlent loes—
Ni chai'r euog un ymwared
Nes y deuai at y groes.

Egwyddorion gair y bywyd
A bregethai'n hyfryd iawn,
Cymhariaethau bywiog hefyd,
Er ei eglurhau yn llawn;
Natur fawr, a'i holl wrthddrychau,
Oedd agored iddo ef;
Gwnai forthwylion o'i helfenau
Oll i hoelio'r gwir i dref.

Byddai'r galon ddynol hithau,
Megys telyn yn ei law;
Chwarae'i fysedd ar ei thanau
Wnai, a'i holrhain drwyddi draw;
Fel y gwlith disgynai'i eiriau,
Mor effeithiol oedd ei ddawn,
Nes bai'r dyrfa'n gwlawio dagrau
Dan ei weinidogaeth lawn.


Weithiau byddai yn ymwisgo
A chymylau Sinai draw—
Mellt yn saethu, t'ranau'n rhuo,
Nes y crynai'r dorf mewn braw;
Wedi hyny, i Galfaria,
Enfys heddwch am ei ben,
Yna'r storom a ddystawa,
T'w'na'r haul yn entrych nen.

Fe ddynoethai gellau'r galon
Gyda rhyw ryfeddol ddawn—
Pethau celyd, tywyll, dyfnion,
Wnelai'n oleu eglur iawn;
Llosgai'n ulw esgusodion
Y pechadur oll i gyd,
Nes gorfyddai blygu'n union,
Neu fod dan ei warth yn fud,

Oedd ei ofal dros yr achos
Yn cyrhaeddyd i bob lle,
Yr eglwysi pell ac agos
Fyddent ar ei galon e';
Oedd fel tad i'r rhai amddifaid,
Fe wrandawai ar eu cwyn,
I'r canghenau t'lodion gweiniaid,
Ef oedd gyfaill pur a mwyn.

Bugail diwyd a gofalus,
Anwyl iawn o ŵyn y gail,
Doeth geryddwr, athraw medrus,
Cyfarwyddwr heb ei ail,
Ymgeleddwr gweiniaid Sïon,
Cydymdeimlad lon'd ei fron;
Esmwythau y trwm ei galon
Wnai, a'i godi uwch y don.

Addfwyn, siriol, gostyngedig,
Gonest, gwrol, yr un pryd;
Cyfaill cywir, ëangfrydig,
Oen, ac ych, a llew yn nghyd;

Natur fu fel ar ei goreu
'N ffurfio ei gyneddfau ef,
Cawsant wed'yn eu tymheru
A dylanwad gras y nef.

Byddai'n blentyn wrth weddïo,
Ai at draed ei Dad i lawr;
Symledd, taerni, ffydd yn cydio,
Yn y drugareddfa fawr;
Breichiau'i enaid yn dyrchafu
Megys i gofleidio'r nen,
Hithau arno yntau'n gwenu,
Tynu'i llaw ar hyd ei ben!

"Gad i minau le," medd Hiraeth,
"Yn fy mynwes teimlaf dan;
Hawl sy' genyf 'does amheuaeth,
F'enw i sydd ar y gân;
Gallwn adrodd myrdd o bethau
Sy'n dylifo i'm cof yn awr,
Ydynt megys llym awelau
Yn cynhyrfu'r tan yn fawr.

Delw'i wedd sy'n argraffedig
Ar fy nghof yn berffaith lawn;
Ac mae llygad fy nychymyg
Yn ei wel'd yn amlwg iawn;
Cofiaf dôn ei lais pereiddgu,
Clust dychymyg fyth a'i clyw,
Nes y'm hudir bron i gredu
I fod WILLIAMS eto'n fyw.

Myn'd i ganlyn fy nychymyg
Wamal, tua'r Wern a'r Rhos;
Dysgwyl cael yn anffaeledig,
Weled WILLIAMS cyn y nos;
Holi'r areithfaoedd wyddynt
Ddim o'i hanes, gyfaill cu,
Ni chawn un atebiad ganddynt,
Awgrym roddai'r brethyn du!


Gwel'd y Beibl mewn galarwisg
Ar yr astell, fel yn syn;
Ato â theimladau cymysg
Awn dan holi, Beth yw hyn?
Wedi'i agor, gwelwn olion
Dwylaw WILLIAMS ar y dail—
Gwel destynau, meddai'r plygion,
'Hen bregethwr heb ei ail!"

Y mae rhywbeth wedi dygwydd,
Meddwn, ag y sy' o bwys—
Mae y brethyn du yn arwydd
Colled fawr, a galar dwys;
Ofni 'rwyf i fod gwirionedd
Yn y son ei farw ef,
Ac nad ydyw ond oferedd
Ceisio'i wel'd tu yma i'r nef.

Ac fel hyn dan ddwys fyfyrio,
I dŷ cyfaill oedd gerllaw—
Awn, ond ofnwn holi am dano,
Rhag cael dyfnach clwyf a braw;
Coffa'i enw wnaethum unwaith,
A deallwn ar y pryd
I mi gyffwrdd tanau hiraeth,
Yn nghalonau'r teulu i gyd.

Tua'r Talwrn yn fy mhryder,
Y cyfeiriwn ar fy hynt,
Lle treuliaswn oriau lawer
Yn ei gwmni'n ddedwydd gynt
Myn'd yn mlaen dan ymgysuro
At y ty, fel lawer gwaith
Gynt; ond erbyn cyrhaedd yno,
Och! nid oedd ef yma chwaith.

Aethum wed'yn i Lynlleifiad,
Dyeithr holi hwn a'r llall—
Taflent ataf syn edrychiad,
Tybient hwy nad oeddwn gall:—

Aeth oddi yma'n ol i Gymru,
'Clywsoch hyn a gwyddoch chwi,
Ei fod wedi —— tewch a haeru,
Meddwn, yna ffwrdd â mi,
O gyfarfod i gyfarfod
Awn dan holi yn mhob lle,
Ydyw WILLIAMS wedi dyfod,
Yma'n wastad gwelid e'?
Gwel'd ei le yn mhlith y brodyr
Heb ei lanw gan yr un,
Ail ymholi mewn trwm ddolur,
'I b'le'r aeth yr anwyl ddyn?'
 
Dyfod adref yn siomedig
Wedi'r daith drafferthus hon;
Eiste'i lawr yn dra lluddedig,
Codi cyn gorphwyso 'mron;
Myn'di chwilio fy mhapyrau
Rhag y gallai oddiwrtho dd'od
Lythyr, pan o'wn oddicartre'
Gwelais hyny'n dygwydd bod.
 
Wedi troi a chwilio gronyn
Ar y rhei'ny yma a thraw,
Gwelwn yn y man lythyryn,
Meddwn, 'Dyma'i 'sgrifen—law!'
Ei agoryd wnawn yn fuan,
Och! y chwerw siom a ges,
Yr oedd hwnw'n ddwyflwydd oedran
Mi nid oeddwn ronyn nes.
 
Yna i'r gwely i orphwyso
Wedi'r drafferth flin yr awn,
Cwsg yn fuan ddaeth i'm rhwymo,
Gorwedd yn ei freichiau wnawn;
Gwelwn WILLIAMS draw yn dyfod
Tuag ataf yn ei flaen,
Rhedwn inau i'w gyfarfod
Fel yr ewig ar y waun.


Gwenai ef, a gwenwn inau,
At ein gilydd wrth neshau,
Estynwn i, estynai yntau,
Ddwylaw i ymgofleidio'n dau;
Pan yn agor fy ngwefusau
I'w gyfarch ef â llawen floedd,
Cwsg ddatodai'n rhydd ei g'lymau,
Och! y siom! can's breuddwyd oedd !

WILLIAMS, ni chaf mwy dy weled
Byth yr ochr yma i'r bedd;
Byth y pleser o dy glywed
Mwy ni cheir, hen angel hedd;
Ofer teithio i chwilio am danat
Mwyach ar y ddaear hon,
Ofer yw breuddwydion anfad,
Ni wnant ond archolli'r fron.

"Gwn lle mae ei gorff yn huno,"
Ebai Tristwch, "minau äf
Yno uwch ei ben i wylo,
Gwlychu'i fedd â'm dagrau wnaf;
Yn y Wern gerllaw'r addoldy,
Lle bu'n efengylu gynt,
Rhoes ei ben i lawr i gysgu
Islaw cyrhaedd haul a gwynt.

Dyna'r fan mae'r tafod hwnw,
Gynt ro'i Gymru oll ar dân;
Wedi'i gloi yn fudan heddyw,
Yn isel—fro'r tywod mân;
Ar y wefus fu'n dyferu
Geiriau fel y diliau mel,
Mae hyawdledd wedi fferu,
Clai sydd arni, mae dan sel.

Cwyno wna dy frodyr gweiniaid,
WILLIAMS, heddyw am danat ti,
Megys eiddil blant amddifaid,
Am eu tad yn drwm eu cri;

Mae dy enw'n argraffedig
Ar galonau myrdd a mwy,
Mae dy goffa'n fendigedig
Ac yn anwyl ganddynt hwy.

Son am danat mae'r eglwysi
Bob cyfarfod d'ont yn nghyd;
'R hen bregethau fu'n eu toddi
Gynt, sydd eto yn eu bryd;
Merched Seion, pan adgofiant
D'enw a'th gynghorion call,
Ceisiant adrodd, buan methant,
Wyla hon, ac wyla'r llall.

Pe bai tywallt dagrau'n tycio
Er cael eilwaith wel'd dy wedd,
Ni chait aros, gallaf dystio,
Haner munyd yn dy fedd;
Deuai'r holl eglwysi i wylo,
A gollyngent yn y fan,
Ffrwd ddigonol i dy nofio
O waelodion bedd i'r lan.

WILLIAMS anwyl! llecha dithau
Mewn dystawrwydd llawn a hedd—
Boed fy neigryn gloyw inau
Byth heb sychu ar dy fedd;
Haul a gwynt! mi a'ch tynghedaf,
Peidiwch byth a'i gyffwrdd ef,
Caffed aros haf a gauaf
Nes rhydd udgorn barn ei lef.

Cysga gyda'th blant a'th briod,
Yn 'stafellau'r dyffryn du,
Melus fydd priddellau'r beddrod,
Mwyach i chwi, bedwar cu;
Minau dawaf—teimlad arall
Sydd yn dysgwyl am fy lle,
Gwn ei fod mewn awydd diwall—
Dig wrth angeu ydyw e'.


Nid oes gen'i ond gair i'w dd'wedyd
Wrthyt, angeu creulon, mawr,
Hen anghenfil brwnt a gwaedlyd,
Ceir dy gopa dithiau i lawr;
Dydd sy'n d'od, cawn weled claddu
Dy ysgerbwd hyll ei wedd,
Minau ddeuaf yno i ganu
Haleluia ar dy fedd.

Dydd sy'n d'od i'th laddedigion
Ydynt dan dy draed yn awr,
Godi'n fyw, a sathrant weithion
Dithau dan eu traed i lawr;
Ni bydd wed'yn son am farw,
Gair o son am frenin braw,
Nid oes m'o lyth'renau d'enw
Yn ngeirlyfrau'r byd a ddaw.

"Nawr 'rwy'n gweled,' medd Llawenydd,
'Mai myfi a bia'r gân,
Fi yw'r môr, chwi yw'r afonydd
Rhedech i mi'n ddiwahan;
Cariad ddystaw 'mdoddai'n Hiraeth,
Hiraeth yntau'n Dristwch trwm,
Tristwch droes yn Ddigter eilwaith,
At y bedd ac angeu llwm.

Digter droai'n ddiarwybod
Iddo 'i hun, y gân i mi;
Pan yn senu angeu—syndod!
Llawen gân y troes ei gri;
Yn llawenydd pur ei Arglwydd
Y mae WILLIAMS heddyw'n byw,
Nid ä galar yn dragywydd
Ato i'r trigfanau gwiw.

Darfu'r llafur a'r gofalu,
Teithio drwy y gwlaw a'r gwynt,
Fel bu wrth bregethu a chasglu
At addoldai Cymru gynt;

Darfu'r llafur, darfu'r cystudd,
Darfu'r peswch, darfu'r boen,
Darfu marw—ond ni dderfydd
Ei lawenydd gyda'r Oen.
Ca'dd yr orsedd, ca'dd y goron,
Ca'dd y delyn yn ei law;
Byth y bydd wrth fodd ei galon
Gyda'r dyrfa'r ochr draw;
Caiff ei gorff o'r bedd i fyny,
Foreu'r adgyfodiad mawr,
Bydd ar ddelw'i briod Iesu,
Yn dysgleirio fel y wawr.


Marwnad
F'EWYTHR TOMOS, Y CAETHWAS.

O "AELWYD F'EWYTHR ROBERT."

CHWI arwyr rhyfelgar, dychwelwch
Am unwaith, a chlustymwrandewch;
Arefwch, rhyfeddwch, a dodwch
Eich llaw ar eich genau, a thewch!
A welwch chwi'r gwron ymladdodd
Ei frwydrau, a chariodd y dydd,
Heb gleddyf na bwa? Gorchfygodd—
Ei arfau oedd cariad a ffydd!

Chwychwi gawsoch glod ac anrhydedd
Drwy gochi y ddaiar a gwaed,
A mathru ar feusydd celanedd,
Blant dynion yn filoedd tan draed;
Beth dal eich rhyfelgar orchestion,
Eich rhwysg, a'ch gwrhydri, a'ch ffawd,
I'w dangos yn ymyl gorchestion,
F'Ewythr Tomos— y Cristion tylawd?


Adseiniwyd eich enwau a'ch clodydd,
Yn llŷs ac yn senedd eich gwlad;
Ymryson wnai'r bardd a'r areithydd,
I ddadgan eich bri a'ch mawrhad;
Ond ni all na dyfais, na doniau,
Na dim peraroglau a gaed,
I gadw rhag pydru, yr enwau,
Halogodd celanedd a gwaed.

Cyn hir bydd yr uchel golofnau,
Fwriadwyd i ddadgan eich bri;
I'r oesoedd i dd'od—yn garneddau,
O warth a gwaradwydd i chwi.
Daw dynion i'w pwyll, a ffieiddiant
Anfadwaith y fagnel a'r cledd;
Ac enwau gwroniaid ni pharchant,
Fe 'u cleddir yn ddyfnach na'r bedd.

Hoff enw F'Ewythr Tomos ni phydra,
Ond byth fendigedig a fydd;
Ac oes ar ol oes a ryfedda,
Wrth hanes gorchestion ei ffydd;
Eneinir ei bur goffadwriaeth,
A dagrau'n henafgwyr a'n plant;
Cyfodi wna llawer cenedlaeth,
I hyfryd fendithio'r hen sant.

I lawer ffwrn danllyd fe'i bwriwyd,
Fel aur y daeth allan bob tro;
A blewyn o'i ben ef ni ddeifiwyd,
Dim sawyr y tân arno fo;
Llifddyfroedd a gwyntoedd ruthrasant,
Ond daliai'n ddiysgog a chry';
Ei gwympo i lawr ni allasant,—
Ar graig sylfaenesid ei dŷ.

Diangodd o rwymau caethiwed,
I ryddid, gogoniant, a bri,
Lle nad oes sŵn fflangell i'w glywed,
Lle na ddaw 'run Haley a Legree;

'Roedd Efa ar riniog porth dinas
Y nef, yn ei ddysgwyl, pan ddaeth;
A gwisgo'i hen gyfaill—F'Ewythr Tomos,
A blodau Paradwys a wnaeth.

Ymlaen at orseddfainc ei Brynwr
Trwy ganol goroian y nef;
Arweiniwyd y buddugoliaethwr,
Can's heddyw nid caethwas oedd ef;
Y goron dragwyddol dderbyniodd,
O ddwylaw ei Arglwydd yn awr,
Ac yntau yn ebrwydd a'i dododd,
Wrth draed ei Waredwr i lawr.

Ei gorff, oedd yn ddu—'n archolledig—
A gwaedlyd yn disgyn i'r bedd;
A gyfyd yn iach—anllygredig,—
Yn wyn—ogoneddus ei wedd;
Ond O! y dydd hwnw, gaethfeistriaid,
Pa olwg a fydd arnoch chwi?
Ond trymach eu gwae na chythreuliaid,
Fydd dynion fel Haley a Legree.

Amerig! Amerig! O, gwrida!
Cywilydd orchuddio dy wedd;
Ymostwng, galara, diwygia,—
Neu ynte, Dos, cloddia dy fedd;
Aeth gwarth dy gaethiwed o'r diwedd,
Yn chwydiad ar gylla'r holl fyd,
A'i arogl mor heintus a ffiaidd,
Na ellir ei oddef o hyd.

Mae melldith dy ddeddfau caethwasiaeth,
Fel cancr yn ysu dy dir,
O'th blegid fe wyla dynoliaeth, —
Crist'nogaeth a'th wada cyn hir;
O! brysia, tòr raffau gorthrymder,
Tafi fflangell creulondeb o'th law;
Neu, fel mai byw d' enaid, —ar fyrder,
Dialedd! dialedd, a ddaw!

Mae trymion och'neidiau'th drueiniaid,
Yn esgyn i fyny i'r nef;
A Barnwr a Thad yr amddifaid,
Yn gwrando o hyd ar eu llef;
Arswyda! mae'r daran yn rhuo;
Cymylau yn duo'r holl nen,
Ffo! ffo! mae rhagluniaeth am daro,
Mae'n ysgwyd ei dwrn uwch dy ben."


Marwnad
MODRYB ELIN, O HAFOD Y CEILIOGWYDD.

Ο "AELWYD F'EWYTHR ROBERT."

"Agorodd ei llygaid, a symmudodd ei golygon o'r naill i'r llall o amgylch yr ystafell, hyd nes dysgynent ar F'Ewythr Robert: craffodd arno enyd, ac eisteddodd gwên siriol ar ei hwyneb, ac oddi ar y wên hono, ehedodd ei henaid dedwydd i wlad y gogoniant, a'r canu, a'r digrifwch tragwyddol;—Ac:—

FELLY'r hunodd Modryb Elin,
A sirioldeb ar ei gwedd;
Felly cauodd ei hamrantau,
Dan belydrau haulwen hedd;
Fel y gwelsoch ar fachludiad,
Haul Mehefin hirddydd llawn,
Lygaid mân y dydd yn cauad
Eu hamrantau'n dawel iawn.

Felly daeth i lan yr afon,
Trwy y glyn heb deimlo braw,
Codai'i ffon, tarawai'r dyfroedd,
Cilient hwythau ar bob llaw;
Felly aeth yn droedsych drosodd,
Ca'dd y lan yn Nghanaan dir;
Ni fu'r ymdrech, ni fu'r ymdaith,
Ddim yn galed, ddim yn hir.


Felly'r wên oedd ar ei genau,
A arwyddai'r teimlad llon,
Ydoedd yn gorlenwi'i henaid,
Wrth ymado â'r fuchedd hon;
Mewn gorfoledd yr ehedai,
'I hysbryd i dragwyddol hedd,
A gadawai'r wên i herio,
Gwaethaf angeu du a'r bedd!

Os sychedai'i hysbryd unwaith,
Yn y dyffryn sychlyd cras,
Ffrydiodd iddi trwy'r addewid,
Ddwr o'r graig, o nefol flas;
Yfodd hithau lon'd ei henaid,
Ac adfywio'n fuan wnaeth,
Ac i'w thaith ymlaen dan ganu,
Wedi hyny'n llon yr aeth.

Mae hen Feibl Peter Williams,
Yn yr Hafod, fel yn syn,
Beth a allai fod yr achos,
O'r llonyddwch gaiff fel hyn;
Ni bu diwrnod er ys hanner
Canrif o flyneddau maith,
Na b'ai dwylaw Modryb Elin,
Yn troi'i ddalenau lawer gwaith.

Ar ei ddail mae dotiau crynion,
Ol ei dagrau—i ffwrdd ni ddaw;
A dalenau blygwyd ganddi
Ar destynau, yma a thraw;
Gwlychwyd ganddi lawer canwaith,
Addewidion fwy na mwy,
Fel yr wylai o orfoledd,
Pan yn gwledda arnynt hwy.

F'Ewythr Robert druan, heddyw,
Sydd yn weddw, prudd'i wedd;
Mynych iawn yr ä i anfon,
Ffrwd o ddagrau ar ei bedd;

Wrth droi adref eilwaith, chwydda
Hiraeth dwys ei dyner fron,
Teimla fel un wedi'i adael,
Heb gydymaith ond ei ffon.

Gwag yw "Aelwyd F'Ewythr Robert,"
Fe ysbeiliwyd hon o'i bri;
Collodd y dodrefnyn harddaf,
Gwerthfawrocaf, feddai hi;
Gwag yw'r gader wellt, a'r gornel,
Oer yw'r teulu bob yr un,
Oer yw'r ty, ac oer yw'r aelwyd,
Ië, oer yw'r tân ei hun!

Colli Modryb Elin ydoedd
Golled ddirfawr yn y fro,
Bydd ei henw a'i rhinweddau,
Tra bo'r Aran mwy mewn co';
Fel Debora gynt yn Israel,
Ca'i wrandawiad dinacâd;
Barn a chynghor Modryb Elin
Oedd fel cyfraith yn y wlad.

Hafod y Ceiliogwydd, ydoedd
Abelbethmaaca'r cwm;
Yno ceisid cyfarwyddyd,
Ar bob achos dryslyd trwm:
"Ymgynghori wnant âg Abel,
A dybenant," meddynt hwy;
Felly, ar ol bod yn yr Hafod,
Ni ofynid cynghor mwy.

Os athrodwr ar ei ymdaith,
Droai yno unrhyw bryd,
Wyneb digllon Modryb Elin,
A wnai dafod hwnw'n fud;
Casaf peth ei henaid ydoedd,
Gwaith absenwr gwael ei fri,
Ni cha'i ef â'i chwedlau budron,
Un derbyniad ganddi hi.


Ond os truan, tlawd, anghenus,
Ddeuai yno i ddyweyd ei gŵyn,
C'ai ei chlust yn llawn agored,
I'w dosturiol wrando'n fwyn;
Nid dywedyd, "Ewch mewn heddwch,
Bwyt'wch, ymddigonwch chwi,"—
Ond cyfranu i'w gyfreidiau,
Yn haelionus, wnelai hi.

Ac os enaid cystuddiedig,
Dd'ai dan faich cydwybod flin,
Hi dywalltai i'w archollion
Olew, a rhinweddol win;
Llawer gliniau llesg a gweinion,
Ddarfu iddi hi gryfhau;
Llawer calon drom ofidus,
Ddarfu iddi esmwythau.

Mrs. Evans, Mrs. Harris,
Sydd (a hawdd yw gwybod pam)
Ar ei hol mor wir alarus
A phe buasai hi eu mam;
Llawer deigryn dreigla'n ddystaw,
Tros eu gruddiau serchog hwy,
Am na chant fwynhau'i chyfeillach,
Byth tu yma i'r nefoedd mwy.

Bron yr eglwys sydd yn glwyfus,
Ac o hiraeth dwys yn llawn,
Wrth adgofio'i hen brofiadau,
Efengylaidd, melus iawn;
Pan f'ai'n dywyll sych yn Sion,
Hi gyfodai yn eu plith,
A dyferai'i geiriau arnynt
Megys y boreuol wlith.

Hi agorai ryw addewid,
Gyda nerth a newydd flas,
Nes dylenwi'r lle ar unwaith,
Ag aroglau'r nefol ras;

Pan chwareuai hi ei thannau,
Gwnai peroriaeth fwyn y rhai'n
Lenwi Sion o orfoledd,
Gan mor hyfryd fyddai'r sain.

Ond mae'n canu'n fwynach heddyw
Nag y canodd ar y llawr,
Rhed ei dwylaw yn gyfarwydd
Ar hyd tannau'r delyn fawr;
Ust! dystawa fyd, am enyd,
Tybiais imi glywed sain
Ei pheroriaeth yn dyhidlo
Oddi rhwng ei bysedd main.

Credu 'rym fod gan F'Ewythr Robert
'R un gyffelyb werthfawr ffydd,
Ac daw yntau yn ddiangol,
Ac yn iach i'r lan ryw ddydd:
Haul y'nef fo ar ei babell
Yn tywynu hyfryd hedd,
Nes disgyno ei benwyni
Mewn anrhydedd llawn i'r bedd.


CANEUON.



ADGOFION MEBYD AC IEUENCTYD.

AWEN! telyn fwyn fy ieuenctid,
Ti felusaist lawer awr,
Fuasent hebot ti yn ofid
Prudd, ac annifyrwch mawr:
Chwarae ar dy dannau mwynion,
A'm difyrai pan yn syn;
Gyrodd fyrdd o ddrwg ysbrydion
Ymaith lawer gwaith cyn hyn.

Sibrwd rhediad afon Aled,
Tros y ceryg llyfnion mân,
A dy demtiai wrth ei glywed,
Lawer gwaith i eilio cân:
Tyner fysedd yr awelon,
Pan chwareuent ar y dail,
A'th ennynent dithau'n union
I wneyd pennill bob yn ail.

Pan y byddai blinder llwythog,
Neu ryw nychdod dan y fron,
Awel iachus hen Hiraethog,
A adferai iechyd llon;
Llawer hafddydd ar ei fryniau,
Dreuliais yn dy gwmni gynt,
Lle ni safai ein gofidiau
Mwy na'r us o flaen y gwynt.

Mae'm dychymyg yn delweddu
Hen lanerchau'r fynyd hon,
Buost, Awen fwyn, yn tynu
Llawer pigyn o fy mron;

Wrth adgofio hen linellau,
Mae myfyrdod yn fy nwyn
Eto'n ol i'r hyfryd fanau
Cefais bob rhyw linell fwyn.

Nid oes heddyw ond yr adgof
Am y pethau hyny gynt—
Adgof sŵn y ffrwd risialog,
Si y dail wrth chwarae a'r gwynt:
Adgof awel iach y mynydd,
Adgof bref y defaid mân,
Adgof hen deimladau dedwydd—
Adgof ydyw'r oll o'm cân.

Adgof sydd yn ennyn hiraeth—
Hiraeth! d'wedwch pa beth yw?
Math o ddelw, neu ddrychiolaeth?
Nage, mae yn deimlad byw!
Drach ei gefn, a thros ei ysgwydd,
Syllu mae ar bethau fu,
Heb ofalu beth a ddygwydd,
Beth a ddaw, neu beth y sy.

Chwilia holl gilfachau'r galon,
Am ad-gof o bethau gynt,
Cwyd hwy i fyny fel ysbrydion,
O'r dyfnderau ar eu hynt;
Chwydda'r fynwes gan deimladau
Drylliog iawn, a llwythog fydd,
Eto'r ocheneidiau a'r dagrau
Roddant ryw hyfrydwch prudd.

Un fu'n chwarae'n moreu'i fywyd
Ar Hiraethog, fynydd iach,
Un fu'n byw ar lanau hyfryd
Afon loew Aled fach—
Ewch â hwnw o'i gynnefin,
I ryw Seisnig, fyglyd dre',
Os oes dan yr awyr undyn
Edwyn hiraeth—dyna fe!


Hiraeth a'm dych'mygol huda
Dros y môr a thros y wlad,
I roi tro i Chwibren Isa',
Hen dreftadaeth teulu 'nhad:
Awn i'r hen ystafell hòno
Lle tarawai'r galon hon
Guriad cyntaf bywyd yno.
Yn y fynwes dan fy mron.

Awn i rodio hyfryd fryniau
Hen gynnefin praidd fy nhad,
Lle bu Tango'r ci a minnau,
'R ddau ddedwyddaf yn y wlad:
Mi ni wyddwn, mwy na Thango,
Am ofidiau bywyd gau,
On' bai'r ddafad ungorn hdno,
Buasem berffaith ddedwydd ddau.

Y mae crybwyll Tango'n peri
Imi gofio llawer ci
Enwog arall, allwn enwi,
Yn eu hoes, adwaenwn i:—
Cwrt, y Wern, a Mot, yr Acrau,
Bute hynafgi Sion y go'—
Hedger fawr y Priddbwll, yntau,
Heliwr cadarn ydoedd o.

Keeper, Chwibren Isaf hefyd,
Gi cyfrwysddrwg, mawr ei ddawn,
Dygodd hwnw yn ei fywyd
Gig a bara, lawer iawn;
Hefyd, Toss, cydymaith Tango,[11]
Ein defeidgi ffyddlon ni,
Credu'r wyf na bu yn rhodio
Daiar ddiniweitiach ci.

Catch, o Ddeunant, filgi hynod,
Ystwyth, ysgafn iawn ei droed,

Llawer iawn o 'sgyfarnogod,
Ddaliai'r helgi hwnw 'rioed:
Gallwn rhoddi rhestr o enwau
Cŵn gyfrifid gynt yn gall,
Ac'r oedd, meddid, ragoriaethau
Yn perthynu i'r naill a'r llall.

Maddeu, fy narllenydd synllyd,
Hyn o wendid; dal mewn co'
Mai adgofion dyddiau mebyd
Yw fy nhestyn hyn o dro:
 Ffol blentynaidd ydyw hiraeth;
A phan gaffo ryddid llawn,
'Tywallt allan wna yn helaeth
Ryw ffolineb rhyfedd iawn!

Hoff yw ganddo son a syllu
Ar hen bethau dyddiau fu;
Enwau cŵn y dyddiau hyny,
'N gyssegredig ganddo sy:
Ef ar reswm byth ni wrendy,
Teimlad yw yr unig iaith
Fedr ddeall a llefaru,
Nid oes arno reol chwaith.

Dyna ryw fras ebargofiad
Am Lansannan wen ei gwawr,
Nid oes yno gi na dafad
A adwaenwn i yn awr;
Ambell un o'm hen gymdeithion
A geir yno, trwm yw'r co',
A tho arall o drigolion
Gyfanneddant yn y fro.

Hunodd Tango gyda'i dadau,
Mewn bodolaeth mwy nid yw;
A'r hen ddafad ungorn, hithau,
Nid yw chwaith ar dir y byw.

Mae y llwybrau gynt a rodiwn
Wedi llwyr anghofio 'm troed,
Ond mae'r bryniau lle chwareuwn,
Eto'n aros fel erioed.

Fyth y defaid mân a borant
Ar Hiraethog, fel o'r blaen,
Fyth y grug a'r brwyn a dyfant
Ar y bryn ac ar y waen;
Fyth e dreigla afon Aled,
Gan ddolenu megys gynt,
Fyth mae swn y dail i'w glywed
Uwch ei phen wrth chwarae â'r gwynt.

Minnau ddygwyd, megys Dafydd,
O fugeilio'r defaid mân,
I fugeilio ar Sion fynydd,
Braidd yr Ion—ei eglwys lân:
Mi gyfarfum, gallaf gwyno,
Ambell ddiriad ddyn di ras,
Barai imi fynych gofio
Am y ddafad ungorn gas.

Ni feddyliwn fod bryd hyny
Gan Ragluniaeth ddoeth y nen,
Law mewn amgylchiadau felly,
A bwriadau i'w dwyn i ben—
Gosod croesau ysgeifn, hynod,
Ar fy ysgwydd fechan, wan,
Er fy mharotoi i gyfarfod
Croesau trymach yn y man.

Hi a drefnai'r groes a'r adfyd,
Un yn llai, a'r llall yn fwy;
Trefnai waredigaeth hefyd,
Gyferbyniol iddynt hwy:
Os y ddafad barai flinder,
Poen a phryder fore a hwyr,
Trefuid Tango ar ei chyfer,
Rhag fy nigaloni'n llwyr.


Er y diwrnod y gadewais
Lanau Aled, hyfryd fro,
Llawer blinfyd chwerw brofais,
Yn y byd o dro i dro;
Gwell yw tynu lleni trostynt,
Gwell yw peidio i go' eu dwyn,
Ond yn unig un o honynt—
Colli fy Angharad[12] fwyn.

Fy ngholomen fwyn ddiniwed,
Hoffder llygaid mam a thad,
Ergyd trwm in' oedd ei cholli,
Hir fu'n hiraeth ei barhad;
Heilltion ddagrau tros ein gruddiau,
A dreiglasant lawer tro,
Nid aeth ugain o flynyddau,
Ag Angharad fach o'n co'.

Buasai'n deilwng ferch i Moses,
Yn llarieidd-dra'i thymer fwyn,
Hudai'i gwedd a'i llygad serchus
Bawb i'w charu, gan eu swyn;
Oedd ry dyner i anialwch
Oer a garw'n daiar ni,
Ac i wlad o ddiogelwch,
Angel ddaeth, a chipiodd hi.

Bellach wyf ar oriwared
Gyrfa bywyd is y nen,
Byddaf cyn bo hir yn myned
Ati i orphwys dan y llen;
Tad a mam, a brawd a phlentyn,
Aent o'm blaen i'r dystaw dir,
Minnau'n brysur sy'n eu dilyn—
Byddaf yno cyn bo hir!


CWYMP BABILON.

AETH Babilon fawr yn drigfa cythreuliaid,
O uchder gogoniant y syrthiodd i lawr;
Bwystfilod yr anial, llwynogod a bleiddiaid,
A drigant o fewn ei phalasau yn awr.

Bu unwaith yn eiste'n arglwyddes teyrnasoedd,
A gwaraidd ymgrymai y byd ger ei bron;
Hi fynai warogaeth a pharch y cenedloedd,
Eu gosod dan ardreth a theyrnged wnai hon.

Pan godai o'i gorsedd, y byd a arswydai,
Y ddaiar a grynai pan deimlai ei thraed;
A nodai bob amser y llwybr a gerddai,
Drwy'i liwio âg afon lifeiriol o waed.

'R oedd ganddi freninoedd yn rhwym mewn caethiwed,
A rhai wedi tynu eu llygaid i ffwrdd;
Hi wawdiai 'u trueni, a chwarddai eu gweled
Yn dysgwyl am friwsion fel cwn dan ei bwrdd.

Yn uchder ei llwydd, hi a dd'wedai, "Mi fyddaf
Yn ddinas goronog y ddaiar i gyd;
Sefydlaf fy ngorsedd rhwng ser y Goruchaf,
Yn ol fy ewyllys y llywiaf y byd."

Iehofah a glybu hyll adlais ei balchder,
A chwarddai mewn dirmyg—" Na, na!" eb efe,
"Er iti roi 'th orsedd rhwng ser yr uchelder,
Ystlysau y ffos cyn hir fydd dy le.

"Ag anadl fy ngenau y'th hyrddir oddiyna,
I lawr i ddyfnderau y pwll a thydi;
A holl ardderchogrwydd dy falchder a beidia,
Yn mynwent gwaradwydd y cleddir dy fri."

Daw'r Fabel ysbrydol, yr un modd a hithau,
I lawr; mae ei dydd yn prysur nesau,

Pan esgyn mwg llosgiad yr hon i'r wybrenau,
Bydd nefoedd a daiar yn cydlawenhau.

Yn ofer y cyfyd ei themlau ysblenydd,
Mae diwrnod ei dystryw trag'wyddol gerllaw;
Mae angel yr Arglwydd yn trwsio'i adenydd,
A'i udgorn yn barod yn awr yn ei law.

Yn fuan fe'i gwelir yn lledu ei esgyll,
Gan hedeg yn gyflym trwy ganol y nen;
Wrth fyned, udgana, cyhoedda'i chwymp erchyll,
Nes adsain y ddaiar a'r awyr uwch ben.

Mae gwaed y merthyron dywalltodd yn erfyn
O'r ddaiar am ddial—mae'r llais yn y nen;
Mae dwrn yr Anfeidrol yn gauad i'w herbyn,
A disgyn y dyrnod cyn hir ar ei phen.

Yn ofer ymdrwsia—ei dinystr a dyngwyd
Yn arfaeth a bwriad tragwyddol yr Ior;
A phan ddaw ei dydd, hi a sodda mewn mynyd,
Un fath a maen melin yn nyfnder y môr.

Bydd llawer o herwydd ei chwymp yn alarus,
Ac ereill a ganant ei marwnad yn llon;
Holl saint y Goruchaf yn fuddugoliaethus,
Lawenant am ddinystr y BUTAIN FAWR hon!


FFOEDIGAETH Y PAB, YN 1848.

Y PAB a gadd ddychryn yn sydyn fel saeth,
Y gŵr anffaeledig i ddirmyg a ddaeth;
Ar ol ei holl ymffrost, bu'n dost i'r hen dad
I redeg fel bwtler[13] yn egr ei nad.

Daeth ar "ei Sancteiddrwydd" ddu aflwydd i ddwyn
Ei fri i derfyniad, oer syniad a'i swyn
F' aeth o a'i athrawiaeth i'r traeth ar eu trwyn.
O Rufain diangodd, a d'rysodd ei drefn,
Fe ffodd am ei fywyd, a gorfu droi'i gefn;
A byth na ddychwelo'n iach yno drachefn.

Fe'i taflwyd o gader St. Pedr i'r pwll,
Yn gatwrdd i Gaeta, a dyna fu'i dwll;
Fe droi'n ei drueni a'i gyni'n o gas,
I regi fel adyn, heb rithyn o ras;
Ond er ysgymuno a dwrdio'n ddidawl,
Rhoi'i blant yn boethoffrwm neu ddegwm i dd——l,
Ni roddant wrandawiad i'w honiad a'i hawl.
Gwatwarant a gwawdiant, hwy boerant am ben
Ei deirw didoriad anynad dan nen—
Fe aeth ei ogoniant a'i lwyddiant dan len.

Gynt, pan y llefarai, e grynai pob gradd,
Fe doddai gwŷr cryfion mor weinion a'r wadd;
Ei felldith dro'i'n falldod, oer wywdod ar wedd
Breninoedd coronog—äi'n siglog eu sedd!
'N awr ei ysgyrnygu, a nadu yn uwch,
'D oes neb yn dychrynu nac ofni mo'i guwch
Ddim mwy na bygunad neu fwrnad hen fuwch!
Fe wnaeth y Rhufeiniaid a'i ddeiliaid yn ddoeth,
Ei daflu i'w burdan yn egwan a noeth—
Yn wir mae'r dyn pechod a'i bendod yn boeth!


SYNIADAU ATHRONYDD ELLMYNAIDD
AR
Eangder y Greadigaeth,
WEDI EU TROI AR GAN.

GALWODD DUW o'i nos freuddwydion,
Farwol ddyn i drothwy'r ne'—

"Dring i fyny, gwel ogoniant
Mawr fy mhalas," eb efe.
Archai i'r gweision gylch ei orsedd
"Tynwch gnawdol wisg y dyn,
A rhowch anadl yn ei ffroenau
O'r fath a feddwch chwi eich hun.

"Golchwch ei olygon eto,
Er eu puro a'u nerthu'n fwy,
Yn y ffynnon lle'r arfera
Engyl olchi 'u llygaid hwy;
Ond, ei galon ddynol dyner,
Fedr grynu dan ei fron,
Wylo, ac ymdoddi'n ddagrau—
Na newidiwch ddim ar hon."

Hyny wnaed; a'r dyn a safai
'N barod i'r anfeidrol daith;
Angel cadarn yn arweinydd
Iddo trwy'r eangder maith:
Oddiar fur ganllawiau'r nefoedd,
Can cyflymach golau'r wawr,
'Hedai'r ddau fel am y cyntaf,
I'r diderfyn wagle mawr.

Weithiau treiddient trwy ororau
Meithion o dywyllwch mawr,
Lle na thywynasai goleu
Haul na seren hyd yn awr:
Anial diroedd o farwolaeth,
Na threiddiasai "BYDDED," Duw
Eto 'rioed i'w bru, i roddi
Ffurf, na delw bod, na byw.

Wed'yn deuent i gyffiniau
Lle'r oedd gallu Duw ar waith,
Yn cenedlu creadigaeth
Newydd, i'w ogoniant maith:
Heuliau newydd eni'n fflamio,
A phlanedau fwy na mwy

Yn ymsaethu i fodolaeth
Megys i'w cyfarfod hwy.

Ar y dde a'r aswy iddynt,
Heb na diwedd fyth na rhi',
Cydser yn osgorddion dysglaer,
Lefent arnynt, "Wele ni!"
Pyrth tragwyddol yn ymagor,
O bob maint, a ffurf, a llun,
Pyrth, a meini'r adeiladaeth
Yn blanedau a ser bob un!

Arianrodau cyferbyniol,
A ymffurfient yn fwäau,
A'u rhychwantau anfesurol,
Am y nefoedd yn ymgau;
Dirif dyrau a cholofnau
O anfeidrol nerth a maint,
A'u copäau'n ymddyrchafu
Cu'wch a nefoedd wen y saint.

Oddi mewn oedd megys grisiau
I esgyn i'r uchelder draw;
Neu i ddisgyn i'r dyfnderau
Anfesurol oedd is law!
Dyfnder lyncid yn yr uchder,
Uchder yn y dyfnder maith,
Fel nas gellid fyth adnabod
Dyfnder nac uchelder chwaith.

Fel y saethent ar eu gyrfa
Ymaith drwy'r eangder gwyrdd,
Dyna ddolef yn eu cyfarch,
Adsain uchel bydoedd fyrdd—
Fod cysawdau dirifedi,
Ffurfafenau fwy na mwy,
Eto, eto, yn eu haros,
Ar ymddangos iddynt hwy!

Yna'r dyn och'neidiai, safai,
Crynai, wylai gyda hyn;

Suddai'i galon orlethedig,
Ac ymdoddai ynddo'n llyn:
"Angel! nid äf gam yn mhellach,"
Eb efe, "ni allaf fyw—
Annyoddefol ydyw'r olwg
Ar ogoniant mawredd Duw!

"Ysbryd dyn ni all ymgynnal
Dan fath anfeidroledd mawr;
Angel! Angel! gad im' farw,
Cladd fi yn fan hon yn awr!
Tyn y lleni tros fy llygaid,
Digon! Digon! Digon yw!
Nid oes diwedd, nid oes derfyn
Byth ar greadigaeth Duw!"

Ac oddi wrth y ser cylchynol,
Fyrdd myrddiynau, adsain glir
A ddychwelai, gan arddadgan,
"Y mae'r dyn yn dweyd y gwir!
Nid oes diwedd, nid oes derfyn
Ar y creadigol waith,
Anfeidroldeb heb ei chwilio
Fydd i dragwyddoldeb maith."

"Ai am nad oes derfyn iddi,
Y'th ddychrynir, druan ddyn?"
Eb yr angel—neb ni 'tebodd,
Fel cai ateb iddo'i hun.
Yna'i freichiau gogoneddus
A ddyrchafai i nef y nef,
Gwaeddai allan, "Nid oes derfyn
Ar ei greadigaeth ef!"


Ar yr un testyn,
AR SYNIADAU O'R YSGRYTHYRAU.

"TI, YN Y DECHREUAD, ARGLWYDD, A SEILIAIST Y DDAIAR."

Tı yn y dechreuad, Arglwydd,
Greaist ddaiar lawr a'r nen;
Taenaist dros eu 'sgwyddau'n brydferth,
Awyr las yn ddysglaer len:
Rhyfedd iawn a gogoneddus
Yw'th weithredoedd bob yr un,
Ond gogoniant mwy ofnadwy
Sy'n dy hanfod di dy hun.


"AC YN CYNNAL POB PETH TRWY AIR EI NERTH."

Gair dy nerth yw'r golofn gadarn,
Dan y greadigaeth fawr;
Arno, megys ar obenydd,
Anian ddoda'i phen i lawr:
Bydoedd dreiglent dros yr erchwyn
I ddiddymdra, wrth ymdroi
Yn eu gwely, oni byddai
D'air i'w cadw rhag osgoi.


"GWNAETHOST IDDYNT BARHAU BYTH YN DRAGYWYDD."

Dy saernïaeth a gyssylltai
'R nef fel pabell gled ddilyth,
Fel na all dylanwad oesau
Syflyd un o'i hoelion byth:
Gorchest ddwyfol ydoedd hoelio
Bydoedd ddirifedi ynghyd—
Gorchest fwy oedd rhoi dy hunan
Yn hoeliedig tros y byd!


"A PHWY A GAUODD Y MOR A DORAU?"

Y rhuadwy fôr cynddeiriog,
Drinit megys baban gwan,
Pan o groth y tryblith rhedai,
Gan ddyrchafu'i donau i'r lan;

Ar dy lin gorweddai'n dawel,
Rho'it y cwmwl iddo'n bais,
A'r tew niwl yn rhwymyn tyner
Am ei wasg, heb unrhyw drais.


"A'R TYWOD MAN YN GADWYN IDDO."

Gweüit dywod mân yn gadwyn
Am ei lwynau rhwth yn glyd;
Dodi'r lleuad fel llawforwyn
Ufudd iawn i siglo'i gryd:
D'wedit "Ust!" yn nghlust y dymestl,
Hi ddystawai—hunai ef
Ar ei gefn, a'i wyneb gwastad,
Esmwyth, llydan, tua'r nef.


"EFE A ORCHYMYN, A CHYFYD TYMMESTLWYNT, YR HWN A DDYRCHAFA EI DDORAU."

Weithiau gyri'r gwynt i'w ddeffro,
A deffroad ebrwydd bair—
Egyr ei amrantau mawrion,
Gan ymstwyrian wrth dy air;
Chwydda'i donau fel mynyddau,
Rhua megys taran fawr,
Hyrddia'i freichiau preiff, ac egyr
Anferth safn i lyncu'r llawr.


"PAN EDRYCHWYF AR Y NEFOEDD, GWAITH DY FYSEDD."

Pan edrychwyf ar dy nefoedd
Uchel, annherfynol draw,
A'r aneirif ffurfafenau
Grogaist yn ei bru uwchlaw:—
Heuliau fyrdd myrddiynau'n fflamio,
Ac yn tywallt gwres a dydd
Ar filiynau maith o fydoedd,
Yn daenedig ynddynt sydd.


"BETH YW DYN I TI EI GOFIO?"

Beth yw dyn i ti i'w gofio?
Beth yw dyn? Iehofah mawr,

Pan feddylit ti am dano,
Bryfyn isel ar y llawr?
Beth yw'r ddaiar? dim ond llwchyn
Llai na dim yw dyn a'i fri;
Eto, rywfodd, dyn a daiar
Demtiai i lawr dy sylw di!


"AC YN LLAWENYCHU YN NGHYFANNEDDLE EI DDAIAR EF."

Pan y gelwid yn y boreu
Restr enwau ser y nen,
Deuent oll dan ganu a dawnsio,
Heibio i'r orseddfainc wen:
Yn ei thro, ymhlith y lluaws,
Ymddangosai'n daiar ni—
Cododd gwrid i wyneb cariad
Dwyfol, pan y gwelodd hi!


Ar Ymlidiad
Y CENADAU CRISTIONOGOL O MADAGASCAR,
Yn y flwyddyn 1835.

Ow! Ow! Madagascar, dy haul a fachludodd,
Pan newydd ei godi uwch terfyn dy fro;
Cysgodau y nos tros y tir a ymdaenodd,
Galluoedd y nefoedd a yrwyd ar ffo!

Fe gauwyd, fe seliwyd geneuau'r cenadau,
A ddygent i'th glustiau newyddion o hedd,
A balm efengylaidd i wella dy glwyfau,
A chyfoeth i'th dlodion newynog, a gwledd.

Galluoedd y t'wllwch yn awr orfoleddant,
Mae crechwen yn uffern o blegid y tro;
Cenadon tangnefedd yn chwerw a wylant,
Am attal masnachaeth y nef yn y fro.


Cyfoder cofadail ar derfyn yr ynys,
A meini cloddedig o Ebal, hen fryn
Y felldith, er nodi yr adeg anhapus
Dygwyddai'r trychineb gofidus a syn.

Ac arni argraffer, Ichabod, er galar,
Mewn cymysg lyth'renau o waed ac o dân
"Gogoniant Duw Israel o wlad Madagascar,
'Madawodd, 'madawodd, 'madawodd yn lân!"

Fe drowyd dy gyfddydd dymunol yn gyfnos,
Mor bygddu fygythiol ddychrynllyd yw'r nen!
Ni welir gwawl haul na ser yn ymddangos,
Ond cysgod tew angeu sy'n toi uwch dy ben.

Dy haf aeth yn auaf, dy gân yn gwynfanau,
Dy harddwch yn warth, yn ddwr aeth dy win;
Llym oeraidd ogleddwynt a wywodd dy flodau,
Dy bla sy'n anaele, dy helynt yn flin.

Dechreuai d' anialwch flodeuo'n dra siriol,
A blodau paradwys i dyfu'n hardd lwyn;
A hen orweddleoedd y dreigiau uffernol,
A dd'oent yn gyfleoedd corsenau a brwyn.

'R eilunod ger bron yr efengyl fu'n crynu,
A syrthient fel Dagon i lawr yn ddibarch;
Adgodant drachefn, a safant i fyny —
Pwy bellach a'u syfla? ymadawodd yr arch!

Ein gobaith a dd'wedodd buasent yn ddifrod
I gyd oll yn fuan—y cawsent eu troi
I fod yn deganau i'r wadd a'r ystlumod,
A dynion oddiwrthynt mewn mawrfrys yn ffoi.

Ond yn y gwrthwyneb i hyny dygwyddodd
Yn awr, ac o'r herwydd, galarus yw'n gwedd;
Ein hyder a gollwyd, a'n gobaith a wywodd,
A'n dagrau dywalltwn yn llif ar ei fedd.


A raid iddo farw? a raid in' ei gladdu?
A ddarfu, a ddarfu am dano yn lân?
"Do, do," meddai uffern, "mae wedi llwyr drengu,
Rhowch bridd ar ei wyneb, a gwnewch alar gân."

Na: peidiwch: mae seren adfywiol ei golau
'N amneidio gan edrych yn siriol i lawr
Na: peidiwch a'i gladdu, mae eto'n rhy forau,
Mae gobaith am fywyd ein gobaith yn awr.

Cwyd, obaith llesmeiriol, dy olwg i fyny,
At orsedd y bydoedd, a gwel pwy sy ben—
Iehofah, Iehofah, efe sy'n teyrnasu
Ar bawb ac ar bobpeth o'r ddaiar i'r nen.

Freninoedd y ddaiar! wel byddwch synwyrol,
Cymmerwch ddysgeidiaeth, chwi farnwyr y byd!
Neu dyd ar eich gwarau y wialen haiarnol,
A chwithau fel priddlestr a ddryllir ynghyd.


MADAGASCAR, YN Y FLWYDDYN 1854.

O! CENWCH i'r Arglwydd, fe wnaeth bethau rhyfedd,
Diosgodd ei fraich, a dangosodd ei fawredd;
I'r pydew gloddiasai ei hunan y syrthiodd
Y gelyn, a'i amcan yn hollol a fethodd.
Wel chwythwch yr udgorn, dadblygwch y faner,
A seiniwch y delyn a'r dympan felusber—
Dywedwch wrth Sion, "Dy Dduw sy'n teyrnasu,
Crechwena a chana, mae'n bryd gorfoleddu."
Y gelyn a dd'wedodd, "Mi gefais fy ngwynfyd,
Cenadau'r nef yrais i ffoi am en bywyd:
Os syrthiodd fy Nagon i lawr gynt yn Asdod,
O flaen Duw'r Hebreaid, ac arch ei gyfammod,
Mae'r rhod wedi troi—mae'r arch wedi syrthio
Yn awr o flaen Dagon, a gwarth i'w gorchuddio.

Cyhoedder trwy demlau eilunod y ddaiar,
Yr orchest ennillais yn ngwlad Madagascar;
Mae genyf yn eistedd ar orsedd yr ynys,
Lawforwyn sy'n ffyddlon i wneyd fy ewyllys.
Mi ges y benywod bob amser yn burach,
I mi a'm gwasanaeth, ac yn alluocach
Na'r gwyr; pan f'ai achos a gwaith mawr yn galw;
Angenrhaid cael benyw yn wastad at hwnw;
Un Iezebel gynt, wnaeth fwy o wrhydri,
Nag wyth gant a hanner o weigion brophwydi,
Ac Ahab y brenin i'w canlyn; gwnaeth hono
I'r Thesbiad ei hunan i grynu ac arswydo,
A ffoi am ei fywyd, yr hwn ar ben Carmel,
Y diwrnod o'r blaen, yn ngolwg holl Isr'el,
A wnaethai'r prophwydi, a'r brenin gwan druan,
A'u crefydd a'u duwiau'n wrthddrychau ei ogan:
A gwaed y prophwydi dywalltodd i Cedron,
A'i brenin yn edrych fel hurtyn gwangalon.
Ond Iezebel dalodd y pwyth iddo'n union,
Dychrynodd drwy'i enaid pan glywodd ei llwon;
A ffoes i'r anialwch rhag ofn ei hawdurdod,
Dymunodd gael marw gan faint oedd ei drallod.
"A haeddol o'i choffa yw ei merch Athalia,
Yr hon a ddyfethodd freninol hâd Iuda
Ond un; a bu agos a llwyddo yn hollol
I dori, diddymu,'r cyfammod tragwyddol.
Yn mrawdlys Caiaphas, morwynig bert dafod,
A drechodd y dynion i gyd â'i dawn barod:
Y penaf apostol a feddai yr Iesu,
A yrodd i'w wadu dan regi a thyngu.
Mae deuparth o ysbryd fy hen lawforwynion,
Ar Ranavolona[14] yn gorphwys yr awrhon;
Gwnaeth cystal gwasanaeth i'm teyrnas i weithion,
A'r oreu o rheini, fy hen lawforwynion.
A'i hallwedd freninol, rhoes glo ar eneuau
'R cenhadau, a gyrodd hwy oll o'i gororau;
Fe drow'd dysgwyliadau cyfeillion Crist'nogaeth,
Am lwyddiant eu hantur, yn drom somedigaeth;

Anrheithiwyd y babell a gododd merch Sïon,
A chefais ar hono ewyllys fy nghalon:
Do, heddyw ce's weled fy ngwynfyd yn helaeth,
Ha! dyma fi'n sefyll ar fedd Cristionogaeth!"
Ryw bymtheg a dwy o flynyddau ae'nt heibio,
Fel yna'n ddiau'r oedd y gelyn yn tybio;
Ond ef ni ddeallai mo gynghor Iehofa,
A bwriad ei galon, ei maint, ei gyfrwysdra:
Fe droes y peth allan yn hollol wahanol,
I awchus ddysgwyliad a meddwl y diafol,
Yn llawer rhagorach na chryfaf obeithion,
Tu hwnt dysgwyliadau helaethaf plant Sion;
Fe ddyryswyd y gelyn, fe rwystrwyd ei amcan,
Trywanwyd ei galon â'i gleddyf ei hunan.
Ni ffoes yr efengyl, pan giliau'r cenadau,
Croesawiad a gafodd i fil o galonau:
Er ymlid yr heuwyr o'r maes, fe arosodd
Yr had a heuasant, a gwreiddiodd a thyfodd,
A dygodd ryw ffrwythau rhyfeddol doreithiog,
O'r pur rawn addfetaf, ar dymmor tymhestlog;
Po uchaf cyfodai ystorm erlidigaeth,
Mwyaf oll yn yr ynys dwfnwreiddiai Crist nogaeth;
Po fwyaf o seintiau a rifid i angau,
Mwyaf oll fyddai'r rhif i'w gwneyd yn aberthau;
O lwch un credadyn a leddid yn ferthyr,
Cyfodai'n ddiattreg ryw gant o gyffeswyr;
A nerth y tân sanctaidd o hyd a gynnyddodd,
Po fwyaf o ddyfroedd dywelltid i'w ddiffodd.
Ac yn Madagascar dangosodd y nefoedd,
Mai 'run yw'r efengyl o hyd trwy'r holl oesoedd;
Bod nerth ei hathrawiaeth, a grym ei chysuron,
Yn dal ei chredinwyr dan bob rhyw drallodion,
Rhyw nerth sy'n eu gwneyd yn fwy na choncwerwyr,
Ar gnawd, ac ar ddiafol, a bydol lywiawdwyr.
Atebwch chwi, wadwyr ei rhin a'i dwyfolder,
O b'le daeth y grefydd, a wna'r fath rymusder?
Y grefydd ennilla galonau paganiaid,
I adael defodau, a duwiau 'u henafiaid;
Am y rhai ymglymasai 'u tyneraf serchiadau,
Mewn parch cysegredig ar gyfrif eu tadau:

Y grefydd sy'n troi rhai mor anwar a bleiddiaid,
A chreulon fel llewod, fel ŵyn yn ddiniwaid:—
Y grefydd a'u nertha, 'rol unwaith ei chredu,
I oddef merthyrdod yn hytrach na'i gwadu?
Rho'wch gyfrif am hyn, os nad yw yn ddwyfol,
Pa fodd y mae'i dylanwad a'i nerth mor ryfeddol?
Rh'owch gyfrif am hyn, chwi ddoethion anffyddiol,
Neu dodwch eich llaw ar eich genau'n dragwyddol.
A thithau, O Satan! rhy gynnar oedd iti
Ymffrostio, ti weli, fe droes dy wrhydri,
Yn golled a gw'radwydd, a throm somedigaeth;
I ti, i'r efengyl yn fawr oruchafiaeth.
Ar ol ei hir brofi mewn pair o drallodion,
Cyfododd y nefoedd Waredwr i Sion:
Ar liniau merch Pharo', eu creulawn orthrymwr,
Y mynai Duw feithrin i Israel Iachawdwr.
A'r fleiddes fu'n meddwi ar waed y Crist'nogion,
Yn ngwlad Madagascar, a fagodd y gwron
Sy'n awr yn amddiffyn y saint erlidiedig,
Ac hefyd ei hunan yn Gristion profedig.
Addawyd i Sion, cai plant ei chystuddwyr
Eu troi, a'u gwneyd iddi yn wir ymgeleddwyr;
Fe ga'dd yr addewid lyth'renol gyflawniad,
Yn awr yn ein gwydd ar yr hynod amgylchiad;
Fe wnaed y frenines fu'n erlid mor greulon,
O anfodd ei chalon yn famaeth i Sion;—
O! cenwch i'r Arglwydd, fe wnaeth bethau rhyfedd,
Dadgenwch ei wyrthiau, rho'wch iddo glodforedd.


ENAID BLINDERUS YN YMOFYN GORPHWYSFA.

Bum yn chwilio'r greadigaeth,
Am orphwysfa i'm henaid gwan;
Ond ni ches ond somedigaeth,
Yn mhob gwrthddrych, yn mhob man;

Cefais fil o addewidion
Gan y cnawd, a chan y byd;
Wrth eu profi, ce's mai gweigion,
A thwyllodrus oe'nt i gyd.

Holi y'mhlith y dorf angelaidd,
Gofyn a oedd yno un,
Gydymdeimlai yn garuaidd,
A phechadur gwael ei lun?
Nac oes yma; atebai Gabriel,
Nac oes, un o honom ni,
Gydymdeimla ag adyn isel,
Brwnt ac euog fel tydi.

Suddai 'm henaid mewn anobaith,
Gwaeddais mewn wylofus gri,
"Ciliodd pob ymwared ymaith,
Darfu am danaf o'm rhan i;"
Cyfraith Sina yn gwgu arnaf,
Minau'n crynu ger ei bron,
Tra fw'i'n berchen anadl, cofiaf,
Am y wasgfa galed hon.

Dyfrllyd olwg tua'r nefoedd,
Droais, ar yr orsedd wen,
Gwelwn mewn cyfryngol wisgoedd,
'R Oen fu farw ar y pren:
"Dacw fe," eb' f' enaid gwirion,
Medraf ddarllen yn ei wedd,
Fod maddeuant yn ei galon,
I bechadur brwnt, a hedd.

Yna nesais at ei orsedd,
Ac ymdreiglais wrth ei draed,
A dadleuais am drugaredd,
Yn haeddiannau mawr ei waed;
Meddwn, "Mi dywallta'm calon,
Mi agora'm hysbryd briw,
A dadguddiaf fy archollion,
Pa'm yr ofnaf? Iesu yw!"


Ac wrth imi agor iddo
Fynwes euog, ffiaidd iawn;
Fe agorai i'm cofleidio,
Fynwes oedd o ras yn llawn;
Tynodd ef fy meichiau trymion,
A gwaredodd fi yn rhad,
Ac â'i wên faddeuol dirion,
Rhodd i'm henaid esmwythâd.

Bellach, caiff yr oll a feddwyf,
Gorff a chalon, teilwng yw;
Ar y ddaiar tra anadlwyf,
Er ei glod, dymunwn fyw;
Pan y delw'i blith y dyrfa,
Sydd o flaen yr orseddfainc,
Fy nigrifwch byth fydd canu—
Canu'r brynedigol gainc..


I'R TRALLODUS EI FEDDWL.

WEL, y truan trallodedig,
Er i'r hesg amgylchu 'th ben;
Ton ar don ymgyrchu trosot,
Dal dy olwg tua'r nen:
Cwyd dy lygaid ar i fyny,
Sylla trwy y cwmwl mawr;
Dysgwyl drwy yr hirnos dywell,
Fel y gwyliwr, am y wawr.

Er i ofnau ac ammheuon,
Gloddio'n ddyfal dan dy sail,
Anghrediniaeth câs ac ofnau,
Guro arnat bob yn ail;
Cura dithau borth trugaredd,
Glŷn yn galed wrth ei dôr,
Mae cyflawnder ei haelioni,
':N anherfynol fel y môr.


D'wed fel Dafydd, "Pa'm cymeraf
Gynghor yn fy enaid prudd?
Tra gwnaf hyny, blinder beunydd,
Yn fy nghalon drom a fydd:
Pa'm y caiff y gelyn creulon,
Fathru f' enaid yn y llaid,
Edrych, Arglwydd, ar fy nghystudd,
Brysia, gwrando,—saf o'm plaid."

Ffo oddi wrthyt ti dy hunan,
At gyfiawnder mawr y groes;
Caiff dy enaid archolledig,
Iechyd ynddo dan ei loes;
Pan y metho dawn a geiriau,
Cwyd ochenaid tua'r nef;
Myrdd o ocheneidiau drylliog,
A wrandawyd ganddo ef.

Dafydd, Asaph, llawer ereill,
O hen seintiau'r Beibl mawr,
Fuant megys tithau'n soddi,
Yn nyfnderau'r pwll i lawr:
O waelodion maith y pydew,
O hen nwydau câs y ddraig,
Gras a'u cododd, a gosodai
Eu traed yn sicr ar y graig.

Caniad newydd yn eu genau,
Roes yr iachawdwriaeth râd,
Cân o foliant a gorfoledd,
Am faddeuant, am ryddhad:
Mae'r drugaredd a'u dyrchafodd
Hwy o'r pydew du i'r lan,
Eto'n fyw i'th godi dithau,
Na lwfrhaed dy enaid gwan.


"A CHAN SEFYLL O'I DU OL EF AC WYLO."

MAE'n wylo! mae'n wylo! yr hon bu ei gwenau,
Yn rhwydau a maglau i lawer cyn hyn;
Mae'n wylo! mae'n wylo! yn awr mae ei dagrau
'N hudoliaeth i engyl—edrychant yn syn.

Mae'n wylo! mae'n wylo! tu ol i'w Gwaredwr,
A'i chalon yn chwilfriw, cusana'i ddau droed;
Mae golwg obeithiol yn awr ar ei chyflwr,
A'r olwg brydfertha' ga'i'r nefoedd erioed.

Mae'n wylo! mae'n wylo! a'i bron yn glwyfedig, —
A'i meddwl yn ofnus, a'i henaid yn drist;
Mae'n wylo—pob deigryn sy'n gyd—gymysgedig,
O alar am bechod, a chariad at Grist.

Mae'n wylo! ond sylwch, mae'r Ceidwad yn gwenu,
Mae'r nefoedd yn maddau—mae Simon yn ddig—
Mae teulu'r gogoniant yn cyd—lawenychu,
Ond braw ac eiddigedd yn uffern a drig.

Mae'n wylo! "a weli di Simon? mae'n wylo!
A wyddost ti pa'm? mi a dd'wedaf i ti
Maddeuwyd ei phechod, a'i dagrau sy'n tystio,
Ei gwir edifeirwch, a'i serch ataf fi."

Mae'n wylo!—"Nac wyla," eb'r addfwyn Waredwr,
"Maddeuwyd dy bechod, iachawyd dy glwy';
Ond ofer i Simon, a Satan gyhuddwr,
I ddanod dy feiau, ni chofir hwynt mwy."

Mae'n canu! mae'n canu! dyrchafwyd ei chyflwr,
Yn mynwes trugaredd faddeuol i'r lan;
Hi gladdai'i heuogrwydd wrth draed ei Gwaredwr;
Yn nhŷ'r Pharisead, bydd côf am y fân.


"PAN WELODD EFE Y DDINAS, EFE A WYLODD DROSTI."

Ef a wylodd! pwy a wylodd?
Wylodd Iesu mawr ei hun:
Wylodd myrdd o'i flaen; ond heddyw,
Wyla Duw yn natur dyn.

Ef a wylodd! pa'm yr wylodd?
Nid o'i achos ef ei hun;
Ond fe wylodd o dosturi,
Uwch ben cyflwr euog ddyn.

Ef a wylodd! pan oedd tyrfa
Fawr, yn cyd-ddyrchafu'i llef,
Hyd y nefoedd, i'w foliannu,
Gwenai pawb, ond wylai ef.

Ef a wylodd! pan y gwelai,
Salem fawr ar fyn'd yn sarn,
A dialedd ar ei dryllio;
"A churfeydd y chwerwaf farn."

Ef a wylodd! rhyfedd gariad,
At elynion drwg eu rhyw,
Yn ei ddagrau, cawn esboniad,
Ar deimladau calon Duw.

Ef a wylodd! do, bechadur,—
Gwel ei ddagrau, clyw ei gri;
Wylodd drosot o dosturi,
Bellach, ai ni wyli di?


CYFARCHIAD I WENOL GYNTAF Y TYMMOR.

WENOL fwyn, ti ddaethost eto,
I'n dwyn ar go' fod haf ar wawrio,
Wedi bod yn hir ymdeithio,
Croeso, croeso iti;
Nid oes unrhyw berchen aden,
Fwy cariadus, na'r wenfolen,
Pawb o'th weled sydd yn llawen:
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Ha! mi wela'th fod yn chwilio
Am dy nyth, o dan ein bondo,
Y mae hwnw wedi syrthio,
Wenol, coelia di;
Nid myfi yn wir a'i tynodd,
Gwynt a gwlaw a gaia' a'i curodd,
Yntau o ddarn i ddarn a gwympodd:
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Wenol dirion, paid a digio,
Gelli wneyd un newydd eto;
A phe gallwn, gwnawn dy helpio—
Aros gyda ni:
Casglaf glai, cei dithau'i weithio,
A chymeraf ofal trosto,
Rhag i'r 'deryn to ddod iddo:
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

P'le gadewaist, wenol heini',
Dy gymdeithion, dorf aneiri',
Oedd y llynedd yn ein lloni
Yma gyda thi?
A fu'r oll o honynt feirw,
A'th adael di'n amddifad weddw?
Byddai hyny'n chwedl arw:
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.


Wenol bach, pa ham diengi
Draw oddiwrthyf? paid ag ofni;
Aros, bydd yn gyfaill imi—
'Rwy'n dy garu di.
Credu'r wyf fod genyt galon
Bur, ddiniwed, gywir, ffyddlon—
Peth anfynych yn mhlith dynion:
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Llawer blinder chwerw brofais,
Er y tro o'r blaen y'th welais,
Wenol fwyn, a llawer gwynais—
P'odd ymd'rewaist ti?
A fyddwch chwi, wenoliaid, weithiau
Yn cyfarfod â blinderau,
Nes troi 'ch twi, twi, twi,'n gwynfanau?
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Mi ddymunais, wenol lawen,
Ganwaith feddu ar dy aden,
I allu hedeg yn y wybren,
Uwch y byd a'i gri:
Ymryddhau oddiwrth helbulon
Bywyd dynol, a'i ofalon,
Ac fel tithau,'n iach fy nghalon,
Canu uwch eu pen—Twi, twi!

Mae'th ddyfodiad, addfwyn wenol,
Ini'n dysgu gwersi buddiol,
Ar bob tymmor yn olynol,
Yr ymweli â ni.
Wyt yn adwaen dy dymorau,
Ac yn cadw dy amserau—
"Cym'rwch rybudd, gwnewch fel finau,"
Ydyw'r llais yn mhob twi, twi!

Dyna gamp a ddysgi eto—
Cadw 'th wisg yn lân a chryno,
A thithau'n trin y clai a'i ddwbio,
Wrth wneyd dy waith.

Hoffwn inau ddysgu hòno—
Trin y byd, a myned trwyddo,
Heb halogi 'm gwisgoedd ynddo,
Na rhoi arno 'm calon chwaith.


AR FWRDD YR AGERLES, AR YMWELIAD I GYMRU.

Gymru anwyl! mae fy nghalon
Yn dychlamu dan fy nwyfron,
Wrth arogli'r iach awelon
Oddi ar dy dir:
Cael dod i yfed iechyd,
Ar dy fryniau hyfryd,
O fwg y dre', afiach le,
A'i nwyfre gas anhyfryd;
A chael treulio gweddill einioes,
Olaf oriau'r freuol feroes,
Yn dy oror, fy ngwlad eirioes,
Wy'n ddymuno'n wir.

Gosteg, fôr! bydd di yn dawel,
Na chyfoda 'th donau'n uchel,
Tra bwy'n hwylio o flaen yr awel
Tua Chymru fad.
Pa'm yr wyt yn brochi?
Beth a wnaethum iti?
Pa'm mae stwr dig y dwr
A'i gynwr' yn gweini?
Nid rhyw Ionah'n ffoi i Darsus,
Ydwyf fi, boed hyn yn hysbys
Iti fôr, bydd dangnefeddus
Gad im' fyn'd i'm gwlad.


Henffych well! mi welaf lanau
Menai deg, a hen fynyddau
Oesol Arfon, a ffynonau
Ar eu penau dardd:
Treigla gloewon ffrydiau
Tros eu serthion ochrau,
Chwery'n llon ar eu bron,
Belydron haul boreu;
Natur fel y daeth hi allan
O dan law y Crewr ei hunan,
Heb ddim ol llaw dyn yn unman—
Dyna'r lle i fardd.

Henffych well i'r dydd a'm dygo
Eto i Gymru fwyn i drigo,
A chael byw ac aros yno
Hyd i derfyn oes:
Gado'r Fabel Seisnig,
A'i thwrw cas anniddig,
I fwynhau tawelwch clau
Bro'n tadau—le breintiedig;
Dianc ymaith o afaelion
Pla anfelus blin ofalon,
Llechu rhwng ei bryniau tirion,
Heb na chri na chroes.

Anghlod fyth i'r dynion diffaeth,
Cyflog-weision y llywodraeth,
A ddygasant gamdystiolaeth
Am fy hoffus wlad.
Er hyny, Gymru dirion,
Cymer di rybuddion;
Cofia gais y tri Sais,
Clyw lais eu llyfrau gleision;
Dilyn sobrwydd a diweirdeb,
Yn mhob ardal, cynal burdeb,
Cadw eirda mewn cywirdeb,
Gochel dwyll a brad.


Bendith nef orphwyso arnad,
Tra fo llewyrch haul a lleuad,
Cyd-deyrnased hedd a chariad,
Rhwng dy fryniau di.
Meithrin ddysg a rhinwedd,
A rhodia mewn anrhydedd;
Gochel ffol fyn'd ar ol
Wag farwol goeg oferedd.
Tra bo'r môr yn golchi 'th lanau,
Tra Eryri ar ei gwadnau,
Nac anghofia iaith dy dadau—
Cadw, coledd hi.


EMYNAU.



GWEITHREDOEDD A GAIR YR ARGLWYDD.

Dy holl weithredoedd, Arglwydd Ior,
Drwy'r awyr faith, y tir, a'r môr,
Sy'n dadgan dy ogoniant maith
Yn uchel uchel yn eu hiaith.

Yr haul a'r bydoedd oll uwch ben,
Aneirif lu sy'n britho'r nen,
A gydosodant allan glod
Yr hwn a roddodd iddynt fod.

Ond yn ei air dadguddia ef
Ei gariad a'i drugaredd gref,
Ac yma gwel pechadur trist
Ogoniant Duw'n llewyrchu y' Nghrist.


"FELLY Y CARODD DUW Y BYD."

FELLY carodd Duw'r gwrthddrychau
Anhawddgara' erioed a fu;
Felly carodd, fel y rhoddodd
Briod Fab ei fynwes gu;
Ni arbedodd, ond traddododd,
Ef tros ein pechodau i gyd:
Taro'r cyfaill, arbed gelyn,
"Felly carodd Duw y byd!"

Felly carodd, gan dosturio
'N rhad wrth hunan ddamniol ddyn:
Felly carodd, yn anfeidrol
Deilwng byth o hono'i hun;

Er mwyn arbed gwrthryfelwyr
Gwnaeth ei fab yn aberth drud;
Maddau iddynt, a'u cofleidio,
"Felly carodd Duw y byd!"

Felly carodd, ond ni ddichon,
I dafodau nef y nef;
Draethu i oesau tragwyddoldeb,
Hyd a lled ei gariad ef;
Dyfnach yw na dyfnder daear,
Uwch na'r nefoedd fawr i gyd;
Rhaid yw tewi i gyd a dywedyd,
"Felly carodd Duw y byd!"

Felly carodd, hyfryd newydd,
Aed ar aden awel gref;
Nes i'r adsain gyrhaedd clustiau
Pob pechadur dan y nef;
"Felly carodd!" felly carodd!"
Seinied pob creadur byw,
Fel bo i'r dylanwad nerthol
Danio'r byd a chariad Duw!


CARIAD CRIST.

DYMA gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli';
Tywysog bywyd pur yn marw,
Marw i brynu'n bywyd ni:
Pwy all beidio cofio am dano,
Pwy all beidio canu'i glod,
Dyma weithred nad ä'n anghof,
Tra fo nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynonau'r dyfnder mawr
Torodd holl argaeau'r nefoedd,
Oedd yn gyfain hyd yn awr:
Gras a chariad megys diliw,
Yn ymdywallt yma'n nghyd;
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd!


HAWDDGARWCH CRIST.

MARCHOG yn dy degwch dwyfol,
A dadguddia'th hawddgar wedd;
Mae'th hawddgarwch yn dychrynu
Angeu, uffern fawr, a'r bedd;
A chalonau meibion dynion
A lesmeiriant ger dy fron,
Wedi 'u trechu gan belydrau
Cariad dy wynebpryd llon.

Tecach yw na meibion dynion,
Fe dywalltwyd gras a rhin,
Ar ei wefus; melus odiaeth,
Yw ei enau, fel y gwin,
Ar ei ruddiau mae lledneisrwydd,
P:urdeb ac addfwyndra 'nghyd,
Yn rhyw hyfryd gydgymysgu,
Iesu, tegwch wyt i gyd!


EFE A'I DIBRISIODD EI HUN.

CYMERODD arno agwedd gwas,
A natur marwol ddyn,
A melldith drom ein beiau cas
A ddygodd ef ei hun.

Yr Hollgyfoethog ddaeth yn dlawd,
Fel cyfoethogid ni;
Daeth Brenin nefoedd i ni'n frawd,
Wel dyma ryfedd fri!

Tywalltai'i werthfawrocaf waed,
I olchi ffwrdd ein bai;
Ac yn ei gleisiau mae iachâd,
I glwyfau euog rai.

Estynai'i ddwylaw pur ar led,
I dderbyn angeu loes;
A llyncodd angeu pawb a gred,
Yn angeu mawr ei groes.


DYRCHAFIAD A GOGONEDDIAD CRIST.

DYRCHAFODD o waelodion bedd
Goruwch y nefoedd wen;
Lle'r eistedd ar orseddfainc hedd,
A'i goron ar ei ben.

Ei glod a'i barch ni dderfydd mwy
Drwy faith drag'wyddol oes;
Am ddiystyru a myned trwy
Waradwydd angeu'r groes.

"Yr Oen a laddwyd, teilwng yw,"
Medd holl dafodau'r nef;
Ac uned pob creadur byw
I'w foli âg uchel lef.

Am iddo oddef marwol glwy,
A'n prynu trwy ei waed;
Caiff holl goronau'r nefoedd mwy
Eu bwrw wrth ei draed.

Boed peraroglau'i enw drud,
Yn llenwi daiar lawr;
A chladder enwau'r byd i gyd
Yn enw Iesu mawr.


IDDO EF.

O IESU mawr ei ddawn,
Tydi wyt ffynon lawn
O ras a hedd, ond gwel'd dy wedd,
Gorfoledd pur a gawn;
Dy enw mawr drwy'r nef a'r llawr,
Sy'n glodfawr iawn erioed,
Ti faeddaist lu uffernol hy,
Ar Galfari, ac angeu du,
Ga'i drechu dan dy droed.

Ei waed rhinweddol e,
Wrth farw yn ein lle,

Dywalltai 'n lli ar Galfari
Heddychodd ni â'r ne';
O'i galon friw daeth dyfroedd byw,
Wna 'r dua'i liw yn lân,
Ei foli wnawn yn felus iawn ,
Ei ras a'i ddawn yw ' n testun llawn,
Mae'n gyfiawn iddo'r gân.


Y NEF YN AGORED.

AGORWYD y nef,
Daeth arch y cyfamod
I'r golwg yn awr,
Trwy aberth y cymod:
At Dduw ar ei orsedd
Mae croesaw a rhyddid
I'r euog truenus
Nesau am ei fywyd;
Ca'dd uffern ei maeddu,
Y ddaiar cydganed
Ber anthem o foliant,
Mae'r nef yn agored.

Agorwyd y nef,
Yr orsedd daenellwyd
A gwaed y Machnïydd,
Y cymod a seliwyd;
Taranau a lleisiau
Digofaint dawelwyd,
A'r mellt yn yr iawn
I gyd a ddiffoddwyd:
Cyfiawnder sy'n edrych
O'r nefoedd dan wenu,
Gwirionedd a heddwch
Yn cydymgusanu.

Agorwyd y nef,
Mae afon rinweddol
O fywyd, yn rhedeg
O'r orsedd dragwyddol:

Maddeuant i'r truan,
Cyfiawnder i'r euog,
Adferiad i'r afiach,
A gwledd i'r newynog;
Adfywia'r sychedig,
Y tlawd gyfoethoga,
A gylch yr aflanaf
Yn wynach na'r eira.


GWLEDD YN Y MYNYDD HWN.

ARLWYODD dwyfol ras,
Ar fynydd Seion,
Ryw wledd ddanteithiol fras
O basgedigion;
Puredig loew win,
O anghymharol rin,
Adfywia'r enaid blin,
Bywhâ farwolion.

Mae'r udgorn arian mawr
Yn seinio yn llafar,
I'r wledd mae'n galw'n awr,
Efengyl hawddgar;
Gwasgared gwynt y nef
Ei adsain beraidd ef
Nes b'o i'w hyfryd lef
Amgylchu'r ddaiar.

Mae'r aberth wedi'i ladd,
Pob peth sy'n barod;
Llawn groeso i bob gradd
Yn awr i ddyfod:
Caiff gleifion wir iachâd,
Rhai noethion wisgoedd rhad,
A'r euog gyfiawnhâd,
Yn ngwaed y cymod.



SALM XCV.

CYDGANWN foliant rhwydd
I'r Arglwydd, gweddus yw,

Yn nerth ein iechyd llawenhawn,
Mawr ydyw dawn ein Duw.

O! deuwn oll yn nghyd
Yn unfryd ger ei fron;
Offrymwn iddo ddiolch clau
Mewn salmau llafar llon.

Anfeidrol fwy yw Ion
Na'r duwiau meirwon mân,
A brenin uwch breninoedd byd,
I'w enw i gyd bo'r gân.

Mae gorddyfnderau'r llawr,
Oll, yn ei lesfawr law;
Ac uchelderau mawrion serth,
Y bryniau anferth draw.

Y môr a'i deulu maith,
Hwy ydynt waith ein Duw;
A'i eiddo ef yw'r ddaiar gron,
A phawb ar hon sy'n byw.

Wel, plygwn bawb ei lin
O flaen ein Brenin mawr;
Addolwn ef, ein dyled yw,
'R y'm arno'n byw bob awr.


SALM CXXX.

ARGLWYDD, gwaeddais o ddyfnderau
Eitha'r ddaiar, tua'r nef;
Gostwng glust, dosturiol, ystyr,
Wrth fy nhrom ddrylliedig lef.
Os ar anwireddau creffi,
Pwy a ddeil yr olwg hon?
F' enaid euog a lewyga
Yn dragwyddol ger dy fron.

Ond mae gyda thi faddeuant,
Rho ei brofi, dyna fi

O'r dyfnderau yn dyrchafu
'N union i dy fynwes di;
Tywallt yma'r balm rhinweddol,
I iachau fy enaid claf;
Yna 'th ofni, a dy garu,
A'th foliannu byth a wnaf.

Dysgwyl f' enaid wrth yr Arglwydd,
Craffa 'th lygaid arno ef;
Cymer afael gadarn sicr,
Yn ei hen addewid gref:
Mae fy enaid wrtho'n dysgwyl,
Fel y gwyliwr am y wawr,
Ië,'n fwy, drwy'r hirnos dywell,
Sylla tua'r nefoedd fawr.

Israel, dysgwyl dithau wrtho,
Mae'i drugaredd fel y môr;
Dysgwyl wrtho yn dragywydd,
Pwysa ar dy gadarn Iôr:
Ef a'th wared o gadwynau
D' anwireddau, fawr a mân,
Ceni dithau'n felus iddo,
Am ei gariad, newydd gân.


CAN HANNAH.

YN Nuw fy nghalon lawenha,
Dyrchafu 'm corn i fyny wna',
Eangwyd ar fy ngenau'n awr:
Fy holl elynion ae'nt yn fud,
A gorfoleddaf finnau o hyd,
Yn nerth ei iachawdwriaeth fawr.

Anfeidrol berffaith, sanctaidd yw,
Nid oes gyffelyb neb i'n Duw,
Efe sy'n deilwng o bob clod:
Ni lwydda'n dawn na'n llafur chwaith,
Os heb ei fendith ar ein gwaith,
Craig fel efe nid oes yn bod.


Nac ychwanegwch, feilchion byd,
Lefaru mwy mewn uchel fryd,
Pob cnawd dystawed ger ei fron:
Can's Arglwydd pob gwybodaeth yw,
Ei gynghor saif, a gwna ein Duw,
Ei ewyllys ar y ddaiar hon.

Fe dyr fwäau y cedyrn certh,
Gwregysu'r gweiniaid wna a nerth,
Rhydd fara i'r newynog rai:
Yr aml ei meibion a lesgâ,
A'r anmhlantadwy'n fam a wna,
Gwna'r bach yn fawr, a'r mawr yn llai.

Yr Arglwydd sydd yn marwhâu,
Yr Arglwydd hefyd sy'n bywhâu,
Yn ol ei gynghor doeth a da;
Efe sy'n dwyn i lawr i'r bedd,
Yn codi i fyny yr un wedd;
Ei arfaeth gadarn a gwblha.

Fe gwyd y tlawd o lwch y byd,
A'r un angenus isel fryd
I fyny o domenau'r llawr;
A gesyd hwy yn hardd eu drych
I eiste'n mhlith t'wysogion gwych,
Mewn urddas a gogoniant mawr.

Y Duw a wnaeth golofnau'r byd,
A geidw draed ei saint yn glyd,
Ac iddynt bydd yn gadarn dwr;
A'r annuwiolion, gyr hwynthwy
I d'w'llwch, a dystawant mwy,
Can's nid trwy nerth gorchfyga gŵr.

Rhai ymrysonant â'r Duw mawr
A ddryllir, bwrir hwynt i lawr,
I'w herbyn fe darana o'r nef;
Fe ddyry i'w frenin nerth a dawn,
Ei ras, a'i iachawdwriaeth lawn,
Corn ei Eneiniog ddyrcha ef.


HOLLTAU'R GRAIG.

PAN oedd Sinai yn melltenu,
A'i tharanau'n rhwygo'r nen,
Cwmwl tanllyd ei melldithion
Ar ymrwygo uwch fy mhen,
Nef a daiar yn fy ngwrthod,
F'erlid wnai'r uffernol ddraig,
Yn fy mherygl a'm cyfyngder,
Ces ymguddfa'n holltau'r graig.

Dyma'r fan y gwnaf fy noddfa,
Yma llecha f'enaid gwan,
Pan fo'r gwynt a'r tonau'n curo,
Dyma'r unig dawel fan.
Rhued byd ac uffern greulon
Yn eu llid i'm herbyn mwy,
Minau'n holltau'r graig a ganaf,
Ac nid ofnaf mo'nynt mwy.

Ac yn nydd y farn ofnadwy,
Pan y ffy'r mynyddau mawr,
Ac y syrthia ser y nefoedd,
Megys ffigys ir i lawr,
A'r elfenau'n cydymdoddi,
Gwres yn berwi tonau'r aig,
Dewrion fyrdd yn bloeddio'n chwerw,
Canaf fi yn holltau'r graig.


LLYWODRAETH CRIST.

MAE agoriadau nef y nef
Yn crogi wrth ei wregys ef—
Angeu ac uffern fawr yn nghyd;
Yr orsedd fawr a'r goron wen,
Sy'n awr yn ddysglaer ar ei ben,
Enillodd drwy ei angau drud.

Am waith ei gariad ar y groes,
Moliennir ef o oes i oes,
Tra byddo rhifo oesau'n bod;

Digrifwch pur y nef, a'i gwaith
Hyd eithaf tragwyddoldeb maith,
Fydd traethu ei ras a chanu ei glod.


YR HYFRYD WLAD.

MI welaf gyrau'r hyfryd wlad,
Trwy darth a niwl y glyn,
A haul cyfiawnder yn ei nerth,
Yn t'wnu ar bob bryn.

Mae afon bur o ddyfroedd byw,
Fel grisial gloew clir,
Yn dod o orsedd Duw a'r Oen,
I ddyfrhau ei thir.

Ac ar ei glanau tyfa pren
Y bywyd—dwyfol, hardd,
Anfeidrol well na hwnw oedd
Yn tyfu yn Eden ardd.

Ac ar ei ffrwythau nefol pur,
Y gwledda nef y nef,
I dragwyddoldeb heb ddim trai—
Mae digon arno ef.

Yr Oen a laddwyd ydyw'r haul,
Ei ras yw'r afon fyw;
A phren y bywyd mawr ei rin,
Efe ei hunan yw.

Pob melldith mwyach, byth ni bydd,
Na thrallod, gwae, na phoen;
Nac angau chwaith, ni ddaw i wlad
Gorseddfainc Duw a'r Oen.

Awn, awn tan ganu tua'r wlad,
Awn, a meddiannwn hi;
Fe'i rhoddwyd mewn addewid rad,
Mae'r ffordd yn rhydd i ni.


BUDDUGOLIAETH Y GROES.

CYDUNED holl dafodau'r oes,
A doniau nef a llawr,
I ganu concwest angeu'r groes,
A haeddiant Iesu mawr.

Hen felldith Eden ar ei ben
Yn goron ddrain a roed,
Ac fe droes hòno ar y pren
Yn fendith fwya' erioed.

Holl awdurdodau uffern fawr,
Ysbeiliodd dan ei glwy';
Yn noeth ger bron y nef a'r llawr,
Fe'u harddangosodd hwy.

O'i fodd tywalltai'i enaid pur
I safn marwolaeth ddu;
A'i angau dan yr hoelion dur,
Yn angau i angau fu.


RHAN II,

LLEWYGAI'r haul yn entrych nen,

Pan oedd ei Grëwr mawr
Yn natur dyn, yn crymu'i ben
Yn angau loes i lawr.

Fe grynai'r ddaiar, rhwygai'r graig,
Yr awr ryfedda' erioed—
Pan oedd e'n dryllio pen y ddraig
Yn chwilfriw dan ei droed.

Lle'r benglog mwyach fydd y lle
Enwocaf ar y llawr;
Can's yno drylliwyd penglog hen
Lefiathan uffern fawr.

Fe rwygai llen y deml yn ddwy
Pan y gogwyddai'i ben,
I ddangos fod y llwybr mwy
Yn rhydd i'r nefoedd wen.


RHAN III.

DYCHRYNAI angau yn ei ffau

Yn swn ei angau ef;
A methu dal ei 'sglyfaeth wnai,
Gollyngai'i afael gref.

Disgynwyd ef oddiar y groes,
I garchar bedd yn nghudd;
Ond tranc tragwyddol arno roes
Ar fore'r trydydd dydd.

Fe ddrylliodd farau'r carchar du,
Yn chwilfriw mân bob un;
A chrogodd lampau bywyd cu
Yn 'stafell angau'i hun!

Allweddau'r bedd, allweddau'r byd,
Allweddau'r nef yn awr,
Sy'n crogi wrth wregys auraidd drud
Ein Harchoffeiriad mawr.

Ar orseddfainc y nefoedd, a
Enillodd trwy ei waed,
Teyrnasa mwyach hyd nes câ
'I elynion dan ei draed.


PEN CARMEL.
[ALAWDRAITH.][15]

ELIAS.

HEDDYW ceir gweled pwy sy Dduw,
Ac Israel oll gânt wybod hyn—
Ai Baal ai Iehofah yw:
Yn ngwydd yr haul ar Carmel fryn,
Dygir y ddadl fawr i ben.

Yr hwn atebo trwy roi tân
I ddifa'r aberth roir o'i flaen,
Efe, efe, gaiff fod yn Dduw.
A'r hwn aroso heddyw'n fud,
Ei enw elo'n warth trwy'r byd—
Na chaffed ei brophwydi fyw.

Dewch, chwi brophwydi Baal, yn awr,
A'ch aberth ar ei allor fawr;
Ac os rhydd Baal dân i lawr,
Coroner Baal yn Dduw."


Y BOBL.

"Wel da yw'r peth, ac eithaf cyfiawn yw—
Os Baal rydd dân, caiff Baal fod i ni'n Dduw.


OBADIAH.

Mae'r aberth ger bron Baal yn awr,
A'i holl brophwydi'n dyrfa fawr
Yn galw'n daer am dân i lawr;
Ond nid oes argoel tân yn d'od.


PROPHWYDI BAAL.

O Baal! gwrando, dyro dân—
O! dyro dân yn awr:
Tro weddi dy brophwydi'n gân,
Anadla dân i lawr.

Os na chawn dân y fynyd hon,
Fe syrth dy enw i lawr ger bron,
I warth a dirmyg mawr.


Rhag siomi ein brenin, d' ufuddwas ffyddlonaf,
A Iesebel hithau, 'th lawforwyn anwylaf—
O Baal! yr awrhon arddangos dy fawrnerth,
Er mwyn dy fawrhydi, rho dân ar ein haberth.
O! agor dy glustiau, a gwrando ein gweddi,
Rhag syrthio o honom dan warth a thrueni:—
Merch Sidon a ostwng ei phen dan alaru,
Merch Sion a gyfyd ei phen balch dan ganu,
Os na roddi dân; ac Elias dy elyn,
A ymorfoledda mewn ymffrost i'th erbyn.


O Baal! cau ei enau â thân,
A chwymped ef a'i Dduw o'th flaen—
O! ysa hwy; a ninau'n awr,
Ganwn y fuddugoliaeth fawr.


OBADIAH.

Ond nid oes llef, na llais, na thân,
Na neb yn ateb gair.


Y BOBL.

Mae'n dywyll ar Baal, ai ni fedd i'w roddi
Wreichionen o dân, neu ddyferyn o ddwfr?
O! druain o honoch, ei dlodion brophwydi,
A ninnau,'i addolwyr, a aethom yn llwfr.


ELIAS.

A oes dim arwyddion am dân i'w gwel'd eto?
Rhaid ydyw fod Baal yn hwyrdrwm ei glyw!
Mae brasder eich aberth yn fferu ar eich allor—
Rhag c'wilydd! rhag c'wilydd i Baal eich Duw!"


Y BRENIN A'I WEISION YN GWEDDIO O'R NEILLDU.

O! tosturia wrthym heddyw,
Baal, a dyro dân o'r nen;
Clyw y Thesbiad cas yn cablu,
Tro'i waradwydd ar ei ben:

Saetha dân i ddifa'n haberth,
Ennill fuddugoliaeth lân,
Ninau oll â genau llafar,
Seiniwn iti newydd gân.


BARDD TEULU AHAB.

Mae'r gân o ogoniant i Baal yn barod
I'w dadgan yn union pan gaffom ni dân.


AHAB.

Mae pawb yma'n barod ond Baal ei hunan—
Os na rydd dân ini, wel cadw dy gân!


ELIAS, WRTH BROPHWYDI BAAL.

Wel! gwaeddwch yn uwch, canys duw yw efe,
Rhag dygwydd ei fod ar ryw drafod o dre'—
Daeth arno ryw alwad neu ddwnad na ddo'i,
Mae hwyrach yn cysgu, a rhaid ei ddeffroi;
Fe allai gan henaint fod ei glyw yn trymhau,
Neu ei dân wedi diffodd, neu bob un o'r ddau—
Rhowch ddolef anfeidrol, nes siglo'r holl nef,
A mynwch o allan â'i dân gydag ef.


OBADIAH.

Hwy gyrchent eu hanadl, a rhoddent waedd gref,
Nes griddfan o'r creigiau mewn adsain i'w llef:—
"O, Baal! os na wrandewi di arnom,
Pa beth ddaw o honom?—fe ddarfu am danom!"

Ond nid oedd llef, na llais, na thân,
Na neb yn ateb gair.


Y BOBL.

Darfu achos Baal am dano,
Cafodd heddyw farwol glwy;
Pallodd dân, na chaed ei allor
Aberth yn dragwyddol mwy.


RHAN II.

OBADIAH.

Elias ddaw 'mlaen yn awr i gyweirio
Hen allor Iehofah,'r hon oedd wedi syrthio:
Dyfrffosydd o amgylch ei allor a dorodd,
A lladdodd ei aberth, ac arni fe'i dododd;
A galwodd am ddwfr, ar ei aberth tywalltodd,
Nes rhedodd o amgylch, a'r ffosydd a lanwodd:
Dangosodd a phrofodd i holl Israel yno
Nad oedd lle i ddichell a thwyll i ymguddio.


Ac yna at ei allor nesäai,
A'i benwisg ddiosgodd efe;
A'i laeswallt cydunog a chwalai,
Gan chwyfio'n awelon y ne':
Yn ngwydd yr holl dyrfa fawr hòno,
Ymgrymodd, penliniodd i lawr,
A chododd ei lygaid a'i ddwylo,
Ar gyhoedd i'r nefoedd yn awr.


GWEDDI OBADIAH A MINTAI O FFYDDLONIAID, WRTHYNT EU HUNAIN O'R NEILLDU.

Ymddyrcha, O Dduw! y nef uwchlaw,
Oddiyno daw d' arwyddion;
A bydded dy ogoniant ar
Y ddaiar a'i thrigolion.

Gwrando di weddi dy was,
Rho lewyrch ar Elias.

Nid yw'r greadigaeth eang,
Awyr, daiar, tân, a môr,
Gyda 'u llwythau maith, lluosog,
'Nghyd â'u hannherfynol stôr,
Ond dy weision, gyda'u gilydd—
Fel y mynost, felly gwnânt;
I'th ewyllys ymostyngant,
I'th orchymyn ufuddhânt.


GWEDDI ELIAS.

Duw Abraham, Isaac, a Iacob,
Duw nefoedd a daiar, O clyw!
A gostwng dy glust i fy ngwrando,
Ti'r unig Iehofah,'r Duw byw!
O! dangos dy fawredd anfeidrol,
Yn ngolwg y dyrfa fawr hon—
Rho dân ar fy aberth prydnawnol,
Sy'n awr ar dy allor ger bron.


OBADIAH.

Can cyflymach nag y saetha
Mân belydrau goleu'r wawr,
Saethai gweddi'r hen Elias
Rhag ei blaen i'r nefoedd fawr:
Ca'dd ei neges, rhoed gwrandawiad
Ebrwydd iawn i'w rymus lef,
Archai Ior i'r tân yn union
Ddisgyn ar ei aberth ef.


Tra'i lygaid a'i ddwylaw yn gyd-ddyrchafedig,
Cyn gorphen ei weddi, fe welai y nen
Yn agor ei dorau, a'r tân cyssegredig
Fel saeth yn ymdreiddio trwy'r awyr uwch ben.


Y FFYDDLONIAID YN Y DYRFA.

Wel llawer a ddichon taer weddi y cyfion,
Mae'r fraich Hollalluog wrth alwad ei llef;
Gorchfyga bob rhwystrau, ac egyr bob cloion,
A than ei hawdurdod mae'r ddaiar a'r nef.


Edrychai'r dyrfa tua'r nef,
Dychrynent, cilient draw;
Eu cydwybodau euog hwy
A lenwid oll â braw.


Y BOBL.

Gwae ni! gwae ni!—mae'r tân!—mae'r tân
Yn disgyn!—darfu am danom!


OBADIAH.

Ond ar yr aberth syrthiai'r tân,
Diangai'r dorf yn fyw;
A gwelodd Israel oll yn awr
Mai'r Arglwydd 'fe sy Dduw!


Y BOBL.

Nyni a haeddasom i fyned yn ddifrod
I'r tân—nyni bechodd, ond wele ni'n fyw!
Yr aberth a yswyd, a ninnau'n ei gysgod
A gawsom ddiangfa—gogoniant i Dduw!


OBADIAH.

Fe losgai'r aberth oll i gyd,
A'r allor hefyd yr un pryd—
Ei choed a'i cheryg heb wahân:
Y dwfr oedd yn y ffos bob dafn,
A leibiai'r elfen gref i'w safn—
Ni safai dim y nefol dân.

Y gynnulleidfa fawr
A gwympent oll i lawr,
Gan godi 'u llef.


CYDGAN Y BOBL.

Iehofah! Ef sy Dduw!
Iehofah! Ef sy Dduw!
Duw Ior Elias yw,
Addolwn Ef!

Iehofah sy Dduw, efe biau'r clod,
Fe ddarfu am Baal yn dragwyddol;
Y Duw roddodd dân, yn Dduw sydd i fod,
Mawrygwn ei enw anfeidrol.

Duw ein tadau, molwn ef!
Trwy y ddaiar lawr a'r nef,
Bendigedig f'o ei enw—
Haleluia! mawl i Dduw!


CWYMP BABILON.
[ANTHEM.]

Pwy, pwy yw ef sy'n dod i lawr
Trwy auraidd byrth y nef yn awr,
Mewn gallu a gogoniant mawr?
Mae'n bur ei wedd, fel bore wawr;
Mae'n hardd yn wir:
Mae'n dod, mae'n dod, yn nes, yn nes,
Fe wrida'r nefoedd fel y pres,
Tawdd y cymylau gan ei wres;
Ai melldith ddwg, ai ynte lles?
Genadwr pur.

Beth, beth sydd ganddo yn ei law?
Ai udgorn yw?— mae'n peri braw!
A ydyw diwedd byd ger llaw?
Ai dedryd olaf natur ddaw
O'i enau ef?
Mae'n dodi'r udgorn wrth ei fin,
Gan dynu anadl iddo'i hun,
I'w dywallt allan yn gytun
Mewn udgorn floedd, na bu'r fath un
O dan y nef.

Gwrandewch! gwrandewch! holl luoedd nef,
Ac ystyr dithau ddaiar gref,
Ar swn ei lais, a sain ei lef;
Pob gair a ddaw o'i enau ef,
Sy'n bwysig iawn:
Dystawrwydd dwfn deyrnasa'n awr,
Ac astud wrendy nef a llawr,
Y ryfedd genadwri fawr,
Sy'n dod o'i enau, angel gwawr,
Mewn nerthol ddawn.


YR ANGEL.

Syrthiodd, syrthiodd, Babilon,
I lawr, i lawr, i lawr aeth hon,
Dan farn a gwg yr Iôr:
O'i mawr ogoniant hyrddiwyd hi,
A nerth anfeidrol ruthr cry',
Fel melin faen i'r dyfnder du;
Mae tonau'r môr
Yn golchi dros ei gwedd;
A llw Iehofah'n sicrhau,
Na chyfyd byth o'i bedd!

Wel, byddwch lawen, lawen iawn,
Chwi nef y nef yn awr;
Ac unwch chwithau yn y gân
Holl luoedd daiar lawr.


CYDGAN NEF A DAIAR.

Addolwn, moliannwn, crechwenwn, fe ddaeth
Dydd dial ar Babel, fe'i daliwyd yn gaeth;
Dwrn Duw Hollalluog i'r llawr a'i tarawodd,
Ac anadl ei enau fel brwmstan a'i taniodd.
Haleluiah—y mae ei mwg yn dyrchafu,
A'i lludw ar aden y corwynt yn chwalu:
Addolwn, moliannwn, crechwenwn, fe ddaeth
Dydd dial ar Babel, fe'i daliwyd yn gaeth.


GRAS A GOGONIANT CRIST.
GAN HEBER.

FE deimlai y tryblith y' more'r greadigaeth,
Ryfeddol effeithiau awdurdod gair Duw;
Ar fynwes y ddaiar äi'n amser bywiolaeth,
O drymgwsg marwolaeth dihunodd yn fyw.


Ofnadwy y llais a rwygai'r wybrenau
Pan ar droellau'r daran ac esgyll y gwynt;
Iehofah ddisgynai mewn tân a chymmylau
I roddi ar Sinai ei gyfraith lân gynt.

Effeithiol leferydd priodfab y Duwdod,
Er gwaeled ei wedd, pan yn ein byd gynt;
'Rhwn dd'wedai wrth y trist "Maddeuwyd dy bechod," "
Bydd iach"—wrth y claf; "Bydd dawel"—y gwynt!

O Farnwr y byd! pan wisgi dy fawredd,
Dy wys roddi allan, holl anian a'i clyw,
Sai i ddysgwyl mewn cryndod yn fud o flaen d'orsedd,
Ei thynged dragwyddol i farw neu fyw.

Pan wylltffy y nefoedd rhag sŵn dy daranau,
A'r haul rhag dy fellt yn troi'n welw a gwan;
A'r môr yn rhoi'i feirw i fyny—a'r beddau
Yn awr dy ddigofaint, trugaredd fo'n rhan.


Y FARN.
GAN MILLMAN.

Y Cerbyd! y Cerbyd! mewn tân try ei droellau,
I lawr fel daw Ior yn rhwysgfawredd ei lid;
Ymsymmud mae'n gyflym trwy ganol cymmylau,
A'r nefoedd gan Dduwdod a blygir y'nghyd.

Gogoniant! Gogoniant! oddi wrtho danbeidia,
Myrdd fyrddiwn o engyl i'w weini'n gytûn;
A saint a merthyron, aneirif y dyrfa,
Yn ysgwyd eu palmwydd buddugol bob un.

Yr Udgorn! yr Udgorn! glyw'r meirw o'u beddau,
Oddi arnynt ysgydwir pob cofadail faen;

O'r môr ac o'r ddaiar, o'r gogledd a'r dehau,
Daw holl genedlaethau yr oesoedd ymlaen.

Barn! Barn! y gorseddau osodir yn ebrwydd,
Lle'r eiste'r gwynwisgawg henuriaid mewn hoen,
A phob cnawd ar unwaith y'ngwyddfod yr Arglwydd,
Pob cyflwr sefydlir ar amnaid yr Oen.

Trugaredd! Trugaredd! O edrych i wared,
Ein Prynwr, tro atom, a gwrando ein llef;
Pan droir y drygionus i'w fythol gaethiwed,
Croesawer ein henaid yn mynwes y nef.


PRIODASGERDD YR OEN.
GAN QUARLES.

HOSANAH i'r Goruchaf, llawenydd pur a chân,
I'r nefol hardd Briodfab, a'i briodasferch lân;
Caniadau lanwo'r nefoedd, nes siglo muriau hon,
Cyduno mewn gorfoledd a wnelo daiar lon.

Tafodau'r dynion dawont yn awr f'ont fudion mwy,
Yn nhaflod eu geneuad tros byth y glynont hwy;
Tynghedaf chwi, O greigiau! a meini oll yn nghyd,
I dori y dystawrwydd, os dynion saif yn fud!

Chwychwi, y rhai sy'n meddu y gyssegredig ddawn,
Yn awr, neu byth, doed allan yn ffrwd lifeiriol lawn;
Na soniwch fod eich awen o hwyl ar hyn o bryd,
O blegid dyma destyn sy'n creu caniadau o hyd.

O deffro, deffro, ddaiar! gwel y rhyfeddod fawr,
Yr undeb priodasol a gymmer le yn awr;
Y nefoedd adgymmodawl, a phechadurus fyd,
Er cymmaint fu'r elyniaeth, sy'n ymgofleidio 'nghyd.


Disgynwch, gôr angelaidd, oddi ar eich meinciau i lawr,
Cydunwch mewn gorfoledd â dynion ar y llawr;
Erioed y fath Briodfab, ni arddangosai'r nef,
Na'r ddaiar chwaith gyffelyb i'w briodasferch ef.


Y CROESHOELIAD.
GAN J. MONTGOMERY.

GOFYNAIS i'r nefoedd, Pa elyn i'r Duwdod
A wnai'r fath gyflafan? Atebent, "Ond dyn;
A ninnau a gipiem yr haul mewn brawychdod,
Rhag gwel'd y fath ddrych o gywilydd a gwŷn."

Gofynais i'r môr—a chan ferwi'n gynddeiriog,
Atebai, dan ruo'n fygythiol, "Pwy?—dyn!
A'm tonau o'r herwydd a gilient yn ofnog,
A chythrudd a lanwai 'u mynwesau bob un."

Gofynais i'r ddaiar—a'r ddaiar atebai,
"Pwy arall ond dyn wnelai weithred fel hon?
A rhwygai fy mynwes gan yr aeth a'm trywanai,
A'm creigiau riddfanent gan guro 'u dwy fron."

Ac at y dyn ynfyd, cellweirus, dideimlad,
Yn nesaf yr aethum, —gofynais, "Ai ti?"
Tro'i olwg ddirmygus, ysgydwai'i ben anfad,
A'r adyn ni roddodd un ateb ini!


BEIRDD A BARDDONIAETH
Gymreig.

Y NESAF o ran henafiaeth at y gelfyddyd o drin ac amaethu y ddaiar ydyw barddoniaeth; swydd yr hon ydyw amaethu y meddwl, a choethi teimladau y galon. Y mae yn nodedig mai hiliogaeth Cain a fuont dadau boreuaf amryw o'r gwyddorion a'r celfyddydau ceinion. Lamech, y bummed genedlaeth o hono, ydoedd awdwr y dernyn cyntaf o brydyddiaeth a gyfansoddwyd erioed, y mae yn llwyr debygol. Jabal, ei fab, ydoedd "dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail." Jubal, mab arall iddo, "oedd dad pob teimlydd telyn ac organ;" ac un arall o'i feibion, Tubal Cain, oedd gweithydd cyntaf "pob cywreinwaith pres a haiarn." Nid oedd y gwyddorion a'r celfyddydau hyn yn ddim gwaeth am ddarfod eu cael allan a'u cychwyn gan ddynion drygionus—had y gwrthgiliwr, yr erlidiwr, a'r llofrudd cyntaf. Gosododd y dynion hyny holl oesoedd dilynol y byd dan rwymedigaeth i anrhydeddu eu henwau, a mawrhau eu hathrylith, ar gyfrif y gwasanaeth gwerthfawr a wnaethant; a gwelodd ysbrydoliaeth ddwyfol yn werth coffäu y ffeithiau hyn yn yr hanesyddiaeth sanctaidd; fel, wedi y dilëid holl hiliogaeth Cain oddi ar wyneb y ddaiar trwy y dylif, y caffai enwau a choffadwriaethau y dynion hyn o'r teulu hwnw barhau, a chael y gradd o anrhydedd dyledus iddynt fel darganfyddwyr cyntaf gwyddorau a chelfyddydau a weinyddant mor helaeth er eangu buddion a chysuron tymmorol plant dynion.

Y mae barddoniaeth yn gangen bwysig iawn o lenyddiaeth pob cenedl wareiddiedig, o ddyddiau Lamech hyd yn bresennol; ac y mae y beirdd bob amser wedi bod yn brif offerynau yn ffurfiad ansawdd a nodwedd llenyddiaeth gyffredinol eu gwlad a'u hoes. Eu beirdd, yn benaf, a gynnyrchasant ac a gyfoethogasant lenyddiaeth y Groegiaid a'r Rhufeiniaid; ac nid oedd gan y Seison yn eu hiaith ddim yn deilwng o'r enw llenyddiaeth nes y dechreuodd barddoniaeth Seisonig flodeuo yn Gower a Chaucer: ac i'r beirdd, Shakespeare, Milton, Dryden, Addison, Pope, Johnson, ac ereill, yn fwy nag i un dosbarth arall o lenyddion, y mae yr iaith Seisonig yn ddyledus am y graddau uchel o berffeithrwydd a choethder y mae wedi ei dwyn iddynt.

Yr oedd yr holl brophwydi Hebrëig yn feirdd; ac mewn barddoniaeth y gwelodd anfeidrol ddoethineb yn dda gyfarwyddo y prophwydi hyny i draddodi eu cenadwri, gan mwyaf, wrth ddynion. Efe, yr hwn a luniasai galon dyn, ac a'i hadwaenai yn berffaith, a gymhwysai fel hyn ranau helaeth iawn o'i air i'r ffurf a'r dull tebycaf i fyned ati, ennill ei sylw, a chael dylanwad arni.

Y mae barddoniaeth pob oes a gwlad yn gyfrifol, i raddau helaeth iawn, am ansawdd nodwedd moesol a chymdeithasol y cenedloedd. "Rhoddwch i mi ganiadau y genedl," ebe un, ac ni waeth genyf pwy a luniont ei chyfreithiau." Y mae llawer o wir athronddysg yn y dywediad. Y mae y caniadau yn myned at galonau a theimladau y bobl, tra yr eistedda y cyfreithiau megys uwch eu penau, ar orseddfainc awdurdod, i orchymyn ufudd—dod, ac i fygwth am anufudd—dod. Archai yr Arglwydd i Moses wneyd cân, a'i dysgu i feibion Israel, cyn ei farw, i fod yn "dystiolaeth dros Dduw yn eu herbyn," os byddai iddynt ei adael ef, a myned ar ol duwiau ereill. Buasai yn haws iddynt gofio y pethau, a buasent yn debycach o ymaflyd yn eu teimladau yn y ffurf o gân, na phe buasent yn cael eu cyfleu mewn rhydd—draith. Yr oedd cân Moses i fod yn wasanaethgar i gyfraith Moses; fel y moddion mwyaf effeithiol i weithio a chadw ysbryd ufuddgar iddi yn fyw yn nghalonau y bobl.

Dengys yr anghraifft uchod mai gwir ddyben a swyddogaeth y ddawn farddonol ydyw meithrin rhinwedd yn y galon ddynol—meithrin ysbryd i ufuddhau, parchu, ac addoli y Bod Goruchaf, a'r teimladau sydd briodol tuag at bob dyn, ynddi. Mewn geiriau a sain cân, yn benaf, y cyflwynai addolwyr Duw eu mawl iddo yn mhob oes; ac fe'n dysgir fod mawl y nefoedd hefyd yn cael ei offrymu ar yr allor hon. Trueni ydoedd ddarfod i'r ddawn ragorol hon gael erioed ei darostwng a'i halogi i wasanaethu anwiredd a nwydau llygredig. Os bydd y dyfroedd a darddant allan o'r ffynnonell hon—barddoniaeth gwlad—yn llygredig, bydd ansawdd meddwl a moesau dynion y wlad yn llygredig hefyd. O'r tu arall, os gesyd y brydyddiaeth ei hwyneb yn erbyn beiau a llygredigaethau yr oes, bydd yn ofn ac attalfa effeithiol "i weithredoedd drwg," ac yn annogaeth rymus i rinwedd a "gweithredoedd da." Nid gwaith priodol yr awen ydyw creu byd ac elfenau dychymygol iddi ei hunan; gwahodd ei charedigion i edrych arni yn coeg—chwareu yn y ffug greadigaeth hono; eu swyno a'u synu âg arddangosiadau o'i rhyfeddol gampau, fel y gwna camp—chwareuwyr ar esgynlawr y drychfa (theatre), yn unig er mwyn difyru ac ennill clod yr edrychwyr. Y mae ganddi genadaeth bwysig at y meddwl i'w thraddodi:—cyfleu "pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau bynag sydd gyfiawn, pa bethau bynag sydd bur, pa bethau bynag sydd hawddgar, pa bethau bynag sydd ganmoladwy, pa bethau bynag sydd rinweddol," yn y dulliau a'r delweddau mwyaf cyffrous a deniadol, o flaen y meddwl; eu portreiadu ger bron, a'u dwyn at y galon yn y moddau tebycaf i'w hennill i'w caru a'u cofleidio, a dangos adgasrwydd y beiau gwrthdarawiadol iddynt yn y modd mwyaf effeithiol i gynnyrchu casineb yn yr enaid tuag atynt.

Rhaid i'r neb a fyno fod yn fardd fedru cymdeithasu âg anian, a deall ei harwyddion, a meddu adnabyddiaeth o, a dwfn gydymdeimlad â'r galon ddynol, cyn y byddo yn deilwng o'r enw. Gall fod yn deall holl "Gyfrinach Beirdd Ynys Prydain," holl ddeddfau a rheolau mesurau gwarantedig cerdd—dafod; gall gyfansoddi cynghaneddion diwall, rif y ser; gall wneyd pennillion ac odlau ar bob cyhydedd a mesur caeth a rhydd—heb ynddo fwy o deilyngdod i'w alw yn fardd, wedi'r cwbl, nag a fedda clochdy. Y mae yn mhen clochdy efydd i seinio a thincian; gall gadw digon o swn, ond swn ydyw'r cwbl—tincian i'r glust yn unig y mae. Daeth allan o bryd i bryd lawer o gyfrolau dan yr enw barddoniaeth, heb fod ynddynt nemawr i ddim amgen na swn geiriau a llythyrenau yn tincian yn erbyn eu gilydd. Cuddiad cryfder y wir awen ydyw, ei bod yn gallu llefaru wrth y galon, a llefaru yn y fath fodd ag y dealla ag y teimla y galon—yn gallu dyferu olew a myrr ar hyd hespenau clo y meddwl, nes yr ymagoro iddo, fel drws carchar Pedr, megys o'i waith ei hun. Y medr i gael y twll—y guddfynedfa i ystafell y fynwes—ac i estyn ei fysedd tyner trwyddo i ogleisio a chyffroi yr holl ymysgaroedd â'i ddylanwad: y rhywbeth hwnw ydyw, a ddena, a dynera, ac a dodda yr enaid yn ddiarwybod iddo. Ond ei amcan yn ei holl ymdriniaeth â'r galon bob amser, a ddylai fod, ei dyrchafu, ei choethi, a'i hadeiladu mewn gwirionedd a rhinwedd. Y mae at ei rhyddid i ddefnyddio ffugrau, rhoddi tafodau yn mhenau holl wrthddrychau anian i lefaru trwyddynt; i lefaru dammegion, a llunio hanesion heb fod yn wirionedd yn yr ystyr llythyrenol, ond fod ganddi ysbryd gwirionedd i'w gyfleu i'r meddwl trwyddynt. Amcan awdwr prifgampwrwaith awenyddol yr oesoedd ["Coll Gwynfa"], medd efe, ydoedd

"Cyfiawnhau i ddynion lwybrau Duw"

yn y gân hono: a dygodd ei awen holl naturiaeth weledig ac anweledig dan deyrnged a threth i wasanaethu yr amcan hwnw. Y mae yr holl gân yn seiliedig ar y ffaith bwysigfawr—Cwymp dyn; ond er fod gwirionedd, yn ystyr llythyrenol y gair yn sylfon, y mae yr adeiladaeth arni gan mwyaf yn gyfansoddedig o feini wedi eu codi allan o gloddfa crebwyll y bardd ei hun, a'u naddu a'u caboli gan ei athrylith. Er nad ydynt yn ffeithiau hanesyddol, y maent oll yn llawnion o wirioneddau moesol. Y mae yr holl feini yn cydwasanaethu i amcan proffesedig yr archadeiladydd, o wneyd pyramid oesol o dystiolaeth i ddynion dros wirionedd a chyfiawnder "llwybrau Duw," ac o ddrygedd ac euogrwydd anufudd—dod a gwrthryfel dynion ac angelion syrthiedig. Y mae yr ysbrydiaeth a red trwy "Cain" Byron, yn dra gwahanol i'r eiddo "Coll Gwynfa" Milton. Anadla Byron trwy enau Lucifer yn y gân hòno y syniadau mwyaf culion a chelyd am lwybrau Duw, i feddwl ei ddarllenydd. Y mae yn wir y cynnygia ddognau meddygol hefyd, drwy gynnygatebion i syniadau Lucifer: ond y maent yn rhy weinion o lawer wrthynt eu hunain i wrthladd nerth gwenwyn cryf y syniadau hyny. Ymddengys y bardd fel un yn cydymdeimlo â'i "Gain," ac fel yn dirgel ewyllysio cynnyrchu yr unrhyw gydymdeimlad yn ei ddarllenwyr hefyd. Rhydd yr agwedd fwyaf golygus ar ddadleuon Lucifer, tra y mae y gwrthddadleuon iddynt yn weinion a methedig, mewn cymhariaeth.

Yr oedd hamddenau dymunol ar awen Byron hefyd, fel y byddai ar Saul brenin Israel gynt; ac fel yntau, yr oedd rhyw ddrwg ysbryd yn ei flino yn fynych. Yn ei "Hebrew Melodies," ac ambell i gân arall, y mae Byron yn gyffelyb i Saul yn mysg y prophwydi, yn addoli a moliannu; ond yn ei "Childe Harold," y mae yn fynych fel Saul yn ei natur ddrwg yn ceisio lladd Dafydd; ac yn ei "Gain" y mae yn debyg i Saul yn ei anobaith yn myned i ymgynghori a'r ddewines yn Endor. Gellid dethol rhai darnau o'i waith a roddent foddhâd i angel eu darllen; a darnau ereill o gyfryw ysbryd a thuedd ag a ddymunai cythraul eu bod! Y mae "Faust" Goëthe, ïe, a "Festus" Bailey, yn dwyn gormod o'r un ddelw ac ysbryd.

Ond yr ydym wedi rhedeg yn wysg y ffroen yn llawer iawn pellach nag yr amcanem fyned yn y ffordd hon wrth gychwyn. "Beirdd a Barddoniaeth Gymreig" a nodasom yn destyn; ac y mae yn hen bryd i ni erbyn hyn ddychwelyd ato. Y mae llawer iawn o feirniadu wedi bod yn ddiweddar ar feirdd a barddoniaeth Cymru. Pwyswyd a mesurwyd beirdd hen a diweddar gan wahanol awdurdodau; ac yr oedd y canlyniadau, fel y gallesid dysgwyl, yn lled amrywiol yn yr adroddiadau a gyhoeddid. Y mae dau eithafedd i'r pwnc hwn, barddoniaeth Gymreig, fel i bob mater arall; ac y mae dau ddosbarth lled luosog o'r rhai a ymdrinent âg ef wedi rhedeg yn mhell i'r eithafoedd hyny. Dyrchafa un feirdd a barddoniaeth Cymru hyd y nefoedd. Nid oes mo'u cyffelyb i'w cael, meddant, mewn un wlad, yn mysg un genedl arall dan haul. Cymru ydyw unig wlad, a'r Gymraeg ydyw unig iaith yr awen; ni ŵyr y Seison na'r Seisoneg ddim oll am dani; ni ellir cynghanedd o'r Seisoneg, a lle ni ellir cynghanedd ni ellir barddoniaeth. Er, hwyrach nad elai y dosbarth hwn mor bell a haeru mai cydfantoliad a chyd-darawiad cywir llythyrenau mewn cynghaneddiad ydyw yr unig elfen angenrheidiol yn nghyfansoddiad barddoniaeth, ystyriant y gynghanedd, o leiaf, yn elfen anhebgorol i'w chyfansoddiad. Traethwyd cymmaint o bryd i bryd, o goegfoledd i'n hiaith, fel y iaith buraf, y iaith gryfaf, y iaith gyfoethocaf, iaith Adda, iaith Gwynfa, &c.; ac i'n barddoniaeth fel yr odidocaf, y felusaf, a'r ragoraf yn mhob ystyr, ar yr eiddo un genedl—ag oedd yn ddigon i yru pob dyn o synwyr i laru arno. Dyna fyddai swm a sylwedd yr areithiau a'r englynion a draethid mewn cyfarfodydd Cymreigyddol yn wastad, rai blyneddoedd yn ol. Cyhoeddid y rhai hyny drachefn yn ein misolion; ac ni all un Cymro deallus a gwladgarol fwrw golwg drostynt heb wrido a dwys ofidio hefyd o herwydd fod gorwagedd plentynaidd o'r fath wedi cael ei oddef erioed i warthruddo argraffwasg a llenyddiaeth ei wlad. Yr unig esgusawd a gynnygir drostynt yw, nad oedd y cwbl ddim ond er difyrwch diniwed i feddyliau y rhai a ymgasglent yn nghyd i'r cyfryw gyfarfodydd ar y prydiau hyny. Ond ai ni allesid gweinyddu difyrwch ar achlysuron felly drwy addysgu y naill y llall mewn pethau a dueddent i adeiladu yn fuddiol, yn lle â gwynt a gwagedd o'r fath? A gwaeth fyth oedd eu cyhoeddi trwy y wasg, i fod yn frychau a meflau parhaus ar wyneb ein llenyddiaeth. Drwy eu cyfleu ar eu tudalenau, rhoddai ein misolion sel cymmeradwyaeth wrthynt fel pethau teilwng, a deuent felly yn rhan o athrawiaeth ac addysg y wasg i'r genedl; a darbwyllid meddyliau diniwed darllenwyr unieithog i'w derbyn a'u credu fel geiriau gwirionedd a sobrwydd. Tueddai y fath addysg i gymylu a chrebychu meddyliau ehud, yn hytrach na'u goleuo a'u eangu. Trueni ydoedd i Dewi Wyn o Eifion, ymollwng erioed i gyfansoddi llinellau o fath y rhai a ganlyn:

"Lle'r el profion barddoni
Ein beirdd a'n iaith beraidd ni;
Y beirdd Groeg braidd a grygant,
A'r Lladin wyr, llwydion änt;
Wrth y ddwy, rhyw wyrth ydd ym,
Rhy ddiwerth yw'r ddwy wrthym,
Mae'r cyfrai wynebai 'nawr
Fyddinoedd Dafydd Ionawr?
Mae a drin dant, a gânt gerdd,
Ar organ ei arwrgerdd,
Dim o'r fath drwmp yn nhwmpan,
Vyrsil a mil o'r sil mân,
Neb ail (ar sail o wir son)
Nyddwyr y Cynganeddion,
Wrthynt am wau pynciau per,
Bwhwman y bu Homer:
Ac i'w hodiau cyhydlef,
Mal y dim ei 'Iliad' ef.
Penial a phrif ysgrif ym
Pendodau pwy nad ydym?

Gorymffrost a bost y beirdd,
Ein peryfon a'n prif-feirdd.
I'n hawduron ni deiryd,
Gweini barn ar ganu byd,
Ys oedd neb oesoedd yn ol
Awdwyr enwog dwyreiniol,
A geir yn mysg eu gwyr mawr,
Fyth yn unman fath Nanmawr?
A allai Groeg a holl gred,
Eilydd i Dudur Aled?
A fu erioed o fawr rym,
Neb o Golofn ab Gwilym?
Na fu 'run o'u nifer hwy
Werth rhawnen wrth Oronwy:
Heriaf Homer a Horas,
Ni bu a'i trech neb o'u tras:
Trwy Dduw a'i ddawn treiddiodd ef,
O dan sail doniau Selef,
Gwych am Roeg a Chymreigiaith,
Rhyw dduw oedd ar y ddwy iaith."


Wel, dyna yru eithafedd i'w eithafion pellaf! Y mae trwst carlamiad march awen Dewi Wyn i'w glywed drwy y dernyn uchod. Y mae y meddyliau, a'r iaith, a'r gynghanedd yn gryfion ac arddunol; ond y mae gwirionedd wedi cwympo yn yr heol, ac yn cael ei fathru dan garnau y march ffromwyllt. Haera y bardd yn wyneb goreufeirdd Groeg a Rhufain, nad oedd eu caniadau hwy yn werth dim mewn cymhariaeth i eiddo "nyddwyr y cynghaneddion" Cymreig;— nad oedd cerddi Homer a Horace, a'u cyffelyb, ond "bwhwman," yn "werth rhawnen," yn ymyl cyfansoddiadau ein beirdd ni! Y mae rhyw derfynau i bob goddefgarwch, nad ellir caniatau trwydded hyd yn oed i fardd i fyned drostynt. Nid yw dywedyd nad oedd Dewi o ddifrif, nac yn meddwl yn ei galon yr hyn a ddywedai, yn ddigon o esgusawd drosto. Ni ddylasai ollwng y ffrwyn ar war ei awen gref i redeg ar draws crimogau gwirionedd a chyfiawnder, fel y gwnaeth: trueni na buasai y fath ganu da yn cynnwys athrawiaeth dda hefyd.

Y mae Mr. Sharon Turner yn dwyn tystiolaeth anrhydeddus iawn i onestrwydd a geirwiredd ein gogynfeirdd:

"Yr wyf yn mawr barchu geirwiredd y beirdd Cymreig," medd efe, "ac yn ystyried eu ffeithiau yn deilwng o gred fel hanesiaeth."

Ychwanega Mr. E. Parry:—

"Y mae yn wir ein bod yn cael llawer iawn o guddchwedlau yn y gweddillion sydd ar gael o waith y cynfeirdd, ond ni fwriadwyd y rhai hyny erioed i'w cymmeryd fel hanesiaeth. Y ffugadroddion hyny a gawn yn ein croniclau ydynt mewn rhyddiaith, ac a ddygwyd drosodd oddi wrth Frythoniaid y Cyfandir. Oddi yno y cawsom ni y chwedlau hyny a'n halltudiant megys i fröydd ellyllon, y tu hwnt i derfynau pob tebygolrwydd hanesyddol. Y ffugchwedlau Armoraidd am y brenin Arthur, a'i Galiburn, ei Syr Launcelot, a'i Syr Tristram, a holl farchogion ereill y bwrdd crwn, nid ydynt i'w cael yn ngweddillion symlion ein barddoniaeth henafol.

Y beirdd hefyd oeddynt warcheidwaid gwybodaeth yr hen Frythoniaid; hwynt hwy oeddynt yr offeiriaid, dysgawdwyr crefydd a gwyddor. Cân ydoedd un o'u prif foddion i gynnal ar gof a chadw eu sefydliadau a'u defodau traddodiadol. Y brif elfen yn marddoniaeth henafol y Cymry ydoedd, ei bod yn gyssegredig fel pibell i gyfleu gwirionedd; tra yr oedd cenedloedd ereill wedi ei haberthu i addurno ffugion."[16]

Gellid dwyn yn mlaen lawer o brofion a thystiolaethau dros eirwiredd gofalus yr hen feirdd Cymreig. "Y gwir yn erbyn y byd," ydoedd eu harwyddair; a chyfraith gwirionedd oedd yr unig un a barchent: a da pe buasai eu holynwyr yn y dyddiau presennol wedi dilyn eu hesiampl yn hyn.

Ond i fyned rhagom. Y dosbarth arall a nodasom a red i'r eithafedd cyferbyniol, ac a haera nad oes dim teilwng o'r enw barddoniaeth wedi ymddangos erioed yn Gymraeg hyd yma—dim na byddai yn gywilydd ei ddangos i estron:—mewn cymhariaeth i farddoniaeth y Seison, a chenedloedd ereill, nid yw yr eiddom ni yn werth ei godi o'r domen, &c. Digon tebygol ydyw ddarfod i oferfost y dosbarth a fu o dan ein sylw yn flaenorol, effeithio, mewn rhan, i beri i lawer un redeg i'r eithafedd hwn. Rhy anhawdd, yn wir, fyddai genym ddywedyd, "Y dystiolaeth hon sydd wir;" canys pell iawn ydym o feddwl felly. Dodwn yma dystiolaeth estron —Sais, yr esgob dysgedig Percy, un o feirniaid craffaf ei oes —ar y mater:—

"Gallem yn hawdd lenwi cyfrol," medd Mr. E. Parry, "achyffelyb anghreifftiau o gyfansoddiadau campus ein hen feirdd, a flodeuasant tua mil o flyneddoedd yn ol; ond mewn perthynas i'w teilyngdod cynhenid, cyfeiriwn ein darllenwyr at y dysgedig esgob Percy, yr hwn, yn un o'i lythyrau at y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), awdwr y Dissertatio de Bardis, a wna y sylwadau canlynol:—'Oddi wrth y cyfieithiad (allan o'r hen farddoniaeth Brydeinig) y caniatasoch i mi y ffafr o gael edrych drosto, yr wyf yn ffurfio tybiaeth bur uchel am deilyngdod eich hen feirdd; a byddai yn ddrwg iawn genyf i'w gweddillion gwerthfawr gael eu llyncu i fyny a'u colli yn nghagendor amser. Gallaf ddirnad yn hawdd nas gellir trosglwyddo llawer o'u neillduolion mwyaf prydferth i iaith arall trwy gyfieithiad; ond hyd yn oed trwy gyfrwng cyfieithiad rhyddieithol, gellir canfod gwythien gyfoethog o farddoniaeth, ac hyd yn oed o goethder clasurol, annhraethol uwch law unrhyw gyfansoddiadau yn yr oes hono, ag yr ydym ni yn adnabyddus o honynt. Yr wyf yn eithaf sicr na ddarfu i'n cenedl ni (y Seison), yn yr oes hono, gynnyrchu dim a ddeil y gymhariaeth leiaf au teilyngdod: bûm yn ddiweddar yn casglu anghreifftiau o farddoniaeth Seisonig, o amser y Saxoniaid i lawr hyd amser Elizabeth, a byddai yn gywilydd genyf ddangos i chwi y sothach truenus a gynnyrchai ein rhimynwyr, ar yr un tymmor ag yr oedd eich beirdd chwi yn arddadgan clod Llywelyn gyd âg yni prin y gellir dywedyd ei fod is law Pindar. Yn amgauedig, yr wyf yn anfon i chwi alareb ar farwolaeth Edward y Cyntaf yr Edward creulawn hwnw a wnaeth y fath hafog ar feirdd Cymru. Nis gwn pa un a ellwch ddeongli yr ysgrifachau anolygus hyn, a'u gwahaniaethu oddi wrth y nodion ar ymylau y dail a ysgrifenais arnynt, ai peidio, ond chwi a welwch ddigon i'ch argyhoeddi o anfeidrol ragoroldeb eich beirdd chwi: ac nid wyf yn gwybod fod unrhyw un o genedloedd y Cyfandir (oddi gerth yr Eidal, hwyrach; yr hon oedd weithian yn dechreu cael ei dyrchafu gan Dante) yn alluog i ysgrifenu dim yn well na'r Seison, ar y pryd hwnw. Yr wyf yn sicr nad oedd y Ffrancod ddim. Un peth sydd yn hynod yn yr alareb i Edward y Cyntaf; hyny yw, bod y prydydd, mewn trefn i anrhydeddu ei arwr, yn gosod ei folawd yn ngenau y pab, mewn ffugddull cyffelyb ag a ddefnyddiai bardd diweddar i godi Britannia, neu athrylith Ewrop, i osod allan ei glodydd. Ac ystyried y dinystr a wnaeth ein penadur didrugaredd ar feibion olaf athrylith henafol, gellir edrych arni fel barnedigaeth arno na chafodd neb gwell na'r rhimynwyr hyn i anrhydeddu ei goffadwriaeth."[17]

Y mae cenedlgarwch rhai dynion yn eu dallu yn lân rywfodd, fel na welant, ac na fynant weled, teilyngdod mewn dim y tu allan i derfynau eu gwlad a'u hiaith eu hunain. Ac y mae ereill, drachefn, yn gweled pob peth estronol yn tra rhagori ar eu pethau cartrefol. Eu pwnc hwy, fel y crybwyllwyd, ydyw diystyru a dirmygu pob peth a berthyn i'w cenedl, eu hiaith, a'i llenyddiaeth.

Ond y mae achos arall, heblaw yr un a nodwyd eisoes, yn peri i lawer un o'r dosbarth dan sylw i redeg i'r eithafoedd hyn o ddiystyru llenyddiaeth eu hiaith eu hunain, a thramawrygu yr eiddo ieithoedd a chenedloedd ereill; a hyny ydyw, yr hyn a eilw y Sais, vanity—y coegawydd am arddangos eu dysgeidiaeth; y gwagrodres o geisio argraffu ar feddyliau y cyffredin eu bod hwy wedi darllen, chwilio, a myfyrio, gweithiau awdurol yr ieithoedd estronol; ac yn alluog, ac mai hwynt—hwy yn unig sydd yn alluog, i ffurfio barn ar deilyngdod ein llenyddiaeth; ac y dylai pawb arall gymmeryd y gyfraith o'u genau hwy ar y pwnc. Chwareuwyd cryn lawer o'r coegrodres hwn gan ambell i ysgrifenydd yn ein cyfnodolion yn ddiweddar:—rhyw ysfa boenus am roddi ar ddeall i'w cydwladwyr eu bod hwy yn ddynion dysgedig, dwfnfeddylgar, a chydnabyddus â dirgeledigaethau anadnabyddus i'r cyffredin. Camgymmerodd Ffestus yn ddiau pan dybiodd fod llawer o ddysg wedi gyru Paul yn ynfyd; ond y mae yn ddigon gwir fod ychydig o ddysg wedi gyru llawer yn ynfyd erioed. Hen sylw ydyw, fod yfed ychydig o ffynnon dysgeidiaeth yn meddwi dyn, ond fod yfed yn helaeth yn ei sobri. Y mae ychydig iawn yn wir yn ddigon i feddwi penglog lled feddal; ac y mae y cyfryw benglogau i'w cael yn aml yn mhlith pob cenedl.

Bu teilyngdod cymhariaethol llenyddiaeth henafol baganaidd Groeg a Rhufain, a llenyddiaeth ddiweddar gwledydd cred, yn gwestiwn o ymdriniaeth a dadleuaeth galed laweroedd o weithiau. Ychydig flyneddoedd yn ol, cymmerodd y llenorydd penigamp hwnw, Thomas de Quincey,[18] y pwnc i fyny yn "Tait's Magazine"—gwr sydd wedi treulio hir oes bellach i ymrwyfo drwy lenyddiaeth gwahanol ieithoedd, ac wedi ennill iddo ei hun y teilyngdod i eistedd yn un o'r cadeiriau uchaf ac anrhydeddusaf yn mysg llenorion ei oes, ac un y darllenir ei weithiau yn ddiau tra y byddo yr iaith Seisonig mewn ymarferiad. Wedi crybwyll fod y ddedfryd yn gyffredin bob amser, ar y pwnc uchod, yn troi o du llenyddiaeth baganaidd yr hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid, efe a sylwa fod hyny i'w briodoli i fod y rhai a ymdrinent â'r pwnc, gan mwyaf, yn proffesu cydnabyddiaeth â'r ieithoedd hyny; a'u bod dan anfantais, mewn un ystyr, i roddi barn deg, o herwydd hyny:

"Y mae y dyn a gynnygia ar y dyrys-bwnc hwn, yn ysgolhaig clasurol—neu nid yw," medd efe. "Os ydyw, yna y mae eisoes wedi cael gogwyddiad i'w farn ar y mater; y mae yn ddyn llwgrwobrwyedig—wedi ei lwgrwobrwyo gan goegfalchedd ei galon; ac y mae yn agored i wrthddadl yn ei erbyn fel un o'r barnwyr. Os nad ydyw, y mae o ran ei gymhwysderau yn ddiffygiol—yn ddiffygiol gyda golwg ar ei wybodaeth a'i gymhwysder i allu deall y pwnc; a chyda golwg ar ei ewyllys a'i ddymuniadau hefyd, gellir hòni ei fod o dan ddylanwad a duedda i roddi gogwyddiad unochrog i'w farn. Y mae yn amlwg y chwennychai efe ddibrisio llenyddiaeth; yr hon, iddo ef, sydd dan glo, ac allan o'i gyrhaedd, yn gystal ag y chwennychai y llall osod y crogbris ar y wybodaeth, yr hon, y mae yn bur debygol ydyw yr unig nod o wahaniaeth rhyngddo ef a'i gymmydogion. Gallem grybwyll amgylchiad yn hanesiaeth llenyddiaeth Ffrengig i egluro hyn. Bu gan bob cenedl ei ffrwgwdau yn y cweryl mawr hwn; yr hwn, mewn ffaith, sydd yn gydhanfodol â'r dadleuon ar y natur ddynol ei hun. Bu gan y Ffrancod, hwythau, wrth reswm, eu ffrwgwd—gwerylon, eu gornest—ymladdau, a'u brwydrau rheolaidd. Yr un fwyaf hynod o honynt a ddygwyddodd yn nechreuad y canrif diweddaf; pan, yn mysg ereill, yr ymladdodd dau arwron nodedig gryn nifer o frwydrau, gan guro eu gilydd yn bur galed, nes oedd y naill a'r llall, erbyn diwedd yr ornest, yn ddolurus ac archolledig. Y ddau hyn oeddynt M. la Motte a Madame Dacier. Cafodd Motte y goreu ar y cyntaf ar Madame yn lân, unwaith neu ddwy, nes oedd hi yn wrthddrych o dosturi i edrych arni. Ond dyma lle yr oedd y gwahaniaeth—yr oedd Motte yn ymladdwr caled; yr oedd yn ddyn hyfedr; ac heb law hyny (yr hyn nis gellir ei ddyweyd am bob dyn medrus), yr oedd yn ddyn synwyrol: ond nid oedd ganddo Roeg, mwy na Shakespeare. O'r tu arall, nid oedd gan Madame Dacier ddim ond Groeg. Darfu i un, Abad, yr amser hwnw, beri difyrwch mawr i ddinasyddion Paris, â'r gwawdluniau a dynodd o'r Madame Dacier hon; 'yr hon,' medd efe, 'a ddylasai goginio ymborth ei gŵr, a thrwsio ei hosanau, yn lle ysgwyd a chwareu gwaewffyn Groegaidd; o blegid, wedi y cwbl, y mae hi yn ysgolhaig mor dlawd a gwael, ag ydyw ei gŵr, o'r tu arall, o ysgolhaig cyflawn a gwych.' Ac yr oedd Abad yn ei le yn hyn; fel y gwelir wrth gymharu ei 'Horace' ef, mewn naw cyfrol, a'i 'Homer' hi. Ond nid oedd y cyffredin yn deall hyn, fodd bynag. Yr oedd y foneddiges, fel y tybid, wedi ymlwybro hyd wasg ei phais trwy glofer y llenyddiaeth Roegaidd; gan hyny, ar faes dadlyddiaeth Roegaidd, rhaid mai hi oedd yn iawn, yn gyferbyniol i ddyn na wyddai ond yn unig ei iaith ei hun, ac ychydig Ladin. Tybiai y rhan fwyaf ddarfod i Motte gael y gwaethaf yn yr ymdrech. Mor gynted ag y dywedodd efe gymmaint a hyn—'Madame, y mae yn ymddangos, yn ol synwyr cyffredin, a phriodoldeb pethau, y dylasai y bardd Groegaidd yn y fan hon. . . . .' Yn y fan, heb wrandaw ar ei reswm, tyr yr wrones hyddewr allan—'Chwi ynfytyn! Y dyn penwan! Y rheswm yw, am na wyddoch chwi ddim yn amgenach!—am nad ydych yn deall ton d' apameibomenos fel yr wyf fi.' Disgynodd ton d' apameibomenos fel cawod o danbelenau ar bapyrau Motte, ac andwywyd ef yn gwbl yn marn y lluaws. Nid oedd waeth beth a ddywedai mewn atebiad —nid oedd o bwys pa mor resymol ac anatebadwy fyddai ei ddadleuon. Yr un gair, 'Ni ŵyr Roeg! Ni ŵyr Roeg!' a wasanaethai yn effeithiol i'r foneddiges fel arf amddiffynol ac ymosodol; a gwrthbrofai bob cyfreswm â hyawdledd mor effeithiol a'r cri a la lanterne! yn yr un wlad, yn mhen tua phedwar ugain mlynedd wedi hyny.

Felly y mae, ac y bydd yn wastad. Y rhai hyny (fel Madame Dacier) nad oes ganddynt unrhyw ardduniant ond Groeg, a osodant o angenrheidrwydd bris goruchddynol ar y llenyddiaeth hono yn ei holl ranau, yr hon yw yr unig amddiffynfa a feddant i redeg iddi. * * *

Y mae yn olygfa druenus mewn gwirionedd i un dyn o synwyr, yr hwn a ddygwyddo fod yn wir gydnabyddus a thrysorau euraidd llenyddiaeth ei henafiaid ei hun, a golygfa a gynnyrcha gymmysg deimladau o soriant a dirmyg, i weled dynion ieuainc yn gwastraffu eu hamser a'u myfyrdodau ar ysgrifenwyr nad oeddynt deilwng i ddattod carai esgidiau llawer yn mysg eu cydwladwyr yn gwneyd môrdeithiau meithion a llafurus i gyrchu yr alcam, gan esgeuluso yr aur pur ar lawr sydd wrth eu traed."

Penderfyna De Quincey y ddadl o du llenyddiaeth Seisonig, yn erbyn llenyddiaeth Groeg. Cymhara farddoniaeth y ddwy genedl, a gesyd yr un Seisonig annhraethol raddau uwch law yr un Roegaidd. "Nid oes dim yn Homer," medd efe, "yn dyfod yn agos i Canterbury Tales,' 'The Knight's Tale,' 'Man of Law's Tale,' a 'Tale of the Patient Griseldis,' Chaucer." Ac am Milton, prin y goddefa ein hawdwr i enw Homer gael ei grybwyll mewn cymhariaeth iddo. Gesyd Homer yn llawer uwch na'r holl feirdd Groegaidd ar ei ol, ond yn llawer iawn is na'r lle a roddid iddo gan feirniaid yn gyffredinol. Cynnygia brofi nad oes dim yn marddoniaeth y Groegiaid yn werth y llafur o ddysgu yr iaith er ei fwyn, oddigerth y Drychfarddiaeth (Drama) yn unig. Yna ä yn mlaen at yr athronwyr, a dywed—

"Mewn perthynas i'r athronwyr, nid oes ond dau yn unig a hawliant ddim dyddordeb—Plato, ac Aristotle; o blegid nid yw Xenophon yn ddim mwy o ysgrifenydd athronyddol nag ydyw ein Addison ni ein hunain. Yn awr, yn y gangen hon, y mae yn amlwg fod y mater yn rhagori mewn gwerth ar y dull o'i osod allan. Ni chynnygia un dyn fyfyfrio athronydd dwfn, ond yn unig oddi ar ryw ddyddordeb blaenorol a deimlodd yn ei egwyddorion; ac os trwy ryw foddion y dygwyd dyn i deimlo felly, gall ddilyn ei efrydiaeth yn burion trwy gyfrwng cyfieithiadau. Y mae yn wir na wnaeth Sydenham, na Taylor, gyfiawnder â Plato, gyda golwg ar brydferthion ei ddullwedd cydymddyddanol; ond pan mai yr amcan mewn golwg ydyw cael gafael yn yr egwyddorion a'r addysgiadau, ni raid i'r efrydydd gwyno llawer ddarfod iddo golli prydferthion y cydymddyddan, a gorwycheddau yr arddull. Nid am y pethau hyny yr oedd yn ymofyn: ac y mae y pethau a geisiai efe iddo i'w cael.

Ond, fodd bynag, os nad yw yr athroniaeth Roegaidd yn cyflwyno unrhyw brofedigaeth gref i ddysgu yr iaith, llawer llai y mae yr Hanesyddiaeth Roegaidd yn gwneyd hyny. Os gadewch yr haneswyr diweddaraf, megys Diodorus, Plutarch, Appian, Dionysius, Dion Cassius, y rhai a ysgrifenasant am bethau Rhufeinig, a phersonau Rhufeinig yn nhir Groeg; a Polybius, yr hwn oedd yn perthyn i'r un dosbarth mewn amser llawer boreuach;—yn arddull yr un o'r rhai, oddigerth Plutarch, nid oes dim yn ddyddorol. Wel, a gadael y rhai yna o'r neilldu, nid oes ond tri a allant hòni gorsaf fel haneswyr clasurol Groegaidd—tri a fyddent yn colli yn eu teilyngdod trwy gyfieithiad. O'r tri hyn, y mae yr henaf, Herodotus, hwyrach o wir werth. Geilw rhai ef yn dad hanesyddiaeth: ereill a'i galwant yn dad y celwydd. Gwnaeth Amser, a Major Rennel, lawn cyfiawnder åg ef. Yma eto, chwi a welwch pa leied o eisieu Groeg sydd er gwneyd y defnydd goreu o awdwr Groegaidd. Aethai dwy ganrif ar hugain heibio, a rhagor, er pan fuasai yr hen ŵr gwych yn darllen ei hanesyddiaeth yn nghampau Groegaidd Olympus—un gŵr yn unig a allodd wneyd cyfiawnder âg ef, a gosod ei elynion dan ei draed; ac eto, nid oedd y dyn hwnw yn deall Groeg. Darllenasai Major Rennel 'Herodotus' yn unig yn nghyfieithiad Beloe o hono—efe ei hun a ddywedodd hyny i ni. Y mae hon, gan hyny, fy mechgyn Groegaidd, yn ffaith fechan i chwi, na ellwch yn rhwydd iawn fyned drosti. Cafodd tad hanesyddiaeth—yr henaf o'r ysgrifenwyr rhyddieithol—ei esbonio, ei egluro, ei amddiffyn, ei ryddhau oddi wrth ddirmyg a diraddiad, a'i orseddu yn ei gadair fangorawl, fel deon yr haneswyr yn gyntaf oll erioed gan ŵr milwraidd, yr hwn nid oedd yn deall Groeg mwy na Shakespeare, neu, fe allai, chwi eich hun, fy narllenydd."

Cymmer ein hawdwr fras olwg ar holl faes y llenyddiaeth Roegaidd yn ei holl gangenau, y naill ar ol y llall; ac i'r un penderfyniad y mae yn dyfod o hyd. Cofied ein darllenwyr nad gŵr heb ganddo "fwy o Roeg na Shakespeare," yw De Quincey, yn ffurfio ei farn trwy gyfrwng cyfieithiadau; ond un fel Madame Dacier, a "ymlwybrodd hyd wasg ei bais" trwy glofer meusydd llenyddol yr iaith hòno. Gwnaethom y detholion uchod o'r traethawd, i ddangos fod yr un cyffelyb ysbryd yn mysg y Seison, a chenedloedd ereill, ag a welir yn ein mysg ninnau yn Nghymru yr ysbryd o ddibrisio yn ormodol nwyfau llenyddol eu hiaith a'u gwlad eu hunain, ac o orbrisio yr eiddo ieithoedd a chenedloedd estronol. Y mae dosbarth lled luosog yn Lloegr y dyddiau hyn, nad oes dim o werth yn eu golwg ond a geir o'r Almaen. Ni fedd Prydain, nac America, na'r iaith Seisonig, na beirniaid, nac esbonwyr, nac athronwyr, a dâl i son am danynt mewn cymhariaeth i'r Ellmyn. Yn yr iaith hòno y mae yr holl feddwl gwreiddiol, dwfn, i'w gael i gyd. Dichon fod llawer o hyn yn tarddu o'r ffynnon a noda De Quincey—yr awydd wagrodresgar i arddangos eu dysgeidiaeth, a pheri i'r rhai nad ydynt yn deall yr iaith hono i feddwl eu bod hwy, sydd yn ei deall, ryw raddau annhraethol uwch law iddynt mewn gwybodaeth a galluoedd meddyliol.

Y mae yr iaith Seisonig, erbyn hyn, yn ddiau, y gyfoethocaf ei llenyddiaeth o un iaith yn y byd, hen a diweddar; ac y mae y darnau goreu o farddoniaeth a gyfansoddwyd erioed (a gadael heibio farddoniaeth ysbrydoledig yr Ysgrythyr), wedi eu cyfansoddi ynddi. Nid yw hyn ond y gydnabyddiaeth sydd yn gyfiawn ddyledus iddi; ond nid rhaid i ni, wrth dalu ein dyledus foes i lenyddiaeth y Seison, ddibrisio a gwadu llenyddiaeth ein hiaith ein hunain. Y mae yn teilyngu parch ar gyfrif ei henafiaeth, pe na byddai dim arall. Yr oedd dysgeidiaeth, a gwybodaeth o'r gwyddorion, yn flodeuog yn mhlith ein cyndadau pan ddaeth Julius Cæsar drosodd yma gyntaf, tua hanner can mlynedd cyn geni Crist, fel yr addefa ef ei hun: a Derwyddon Ynys Prydain oedd athrawon dysgeidiaeth Ffrainc, a gwledydd ereill ar y cyfandir, yn yr oesoedd boreuol hyny.

"Rhydd ysgrifenwyr Groegaidd a Rhufeinig dystiolaeth uchel iawn am ddysgeidiaeth y Prydeinwyr. Gesyd Diogenes Laertius hwy yn gydraddol mewn dysg ac athroniaeth & Chaldeaid Assyria, Magi Persia, a Brahminiaid India. Sylwa Cæsar a Mela, fod ganddynt gyfundraethau eang iawn o seryddiaeth, ac athronddysg naturiol; a bod y cyfundraethau hyn, yn nghyd â'u nodiadau ar gangenau ereill o ddysgeidiaeth, mor helaethfawr, fel yr oedd yn cymmeryd ugain mlynedd o amser i'w hysgoleigion i'w meistroli, a thraddodi i'w cof a'u dealldwriaeth y nifer gorluosog o wersi a'u cynnwysent."[19]

Yr oedd genym feirdd a barddoniaeth hefyd, hafal i Pindar y Groegiaid, yn ol barn yr esgob Percy (ac nid oes eisieu gwell awdurdod), pryd nad oedd gan un genedl adnabyddus arall ddim o'r enw yn deilwng o'i goffäu. Achwynwyd lawer gwaith na chynnyrchodd Cymru yr un Milton na Shakespeare erioed. Addefwn hyny: ond dylid cofio hefyd fod athrylith Milton a Shakespeare yn hollol wahanol i'w gilydd yn mhob ystyr; ac na chynnyrchodd Lloegr chwaith, hyd yma, ond un Milton, ac un Shakespeare; ac na chynnyrchodd un wlad arall, mwy na Chymru, feirdd gogyfartal â'r ddau hyny. Ond a ydyw yn canlyn nad yw barddoniaeth un genedl o unrhyw werth o blegid hyny? Cynnyrchodd Lloegr luoedd o feirdd ag y bydd eu henwau a'u gweithiau yn anfarwol, er na ddaeth yr un o honynt i fyny yn mhob peth â'r ddau gedyrn; ac felly cynnyrchodd yr Eidal, Ffrainc, a'r Almaen, a gwledydd ereill yr un modd. Yr ydym yn hyf hòni fod genym ninnau yn ein iaith, laweroedd o gyfansoddiadau barddonol, hen a diweddar, teilwng o'u dynodi â'r cylymair (epithet) anfarwol, ac y deil barddoniaeth Cymru, a'i chymmeryd gyda'i gilydd, o ddyddiau Aneurin a Thaliesin hyd yn awr, gymhariaeth gyffredinol â barddoniaeth unrhyw genedl dan haul am yr un tymmor, heb achos iddi ostwng ei phen a gwladeiddio.

Y mae barddoniaeth Gymreig yn llawer iawn henach na'i chynghanedd. Nid oes ond y braidd gyffwrdd o honi, fel y syniai Goronwy Owain, a hyny yn hollol ddygwyddiadol, i'w weled yn ngweithiau y cynfeirdd: Aneurin, Taliesin, Myrddin Wyllt, a Meigant. Nid oeddynt hwy yn gofalu dim oll am dani, oni ddamweiniai iddynt syrthio arni—cynnalient y mesur a'r odliad, dyna y cwbl. Helyntion blinion eu gwlad a'u hoes, oedd y testynau y canent arnynt, gan mwyaf—a barnu oddi wrth hyny o weddillion o'u gweithiau sydd ar gael—oddigerth Taliesin, yr hwn yn wir a gyfansoddodd rai darnau ar y Bydysawd, ac ar athroniaeth natur a meddwl. Yr oeddynt yn oesi pan oedd yr ymryson gwaedlyd rhwng y Cymry a'r Seison yn ei gynddeiriogrwydd mwyaf, a rhai o honynt, megys Aneurin, Llywarch Hen, a Myrddin, yn ymdrechwyr glewion ar faes y gwaed dros ryddid a breiniau eu cenedl. Dynion yn canu o ddifrif oeddynt; canys yr oedd eu holl galon yn yr achos y traethent arno.

Beirdd y cyfnod nesaf a elwir weithiau, y Gogynfeirdd. Cyfrifir Meilir Brydydd yn gyntaf yn y rhestr, a Gwalchmai, ei fab, y penaf o'r Gogynfeirdd. "Y mae pedair ar ddeg o ganeuon Gwalchmai ar gael," medd Mr. E. Parry, "a da fuasai gan edmygwyr barddas henafol y Cymry, pe buasai y nifer yn ychwaneg; o blegid ni osodwyd grym yr iaith Gymreig allan erioed gan feistr mor gyfarwydd â'i hadnoddau." A thrachefn, dywed—"Ni fu barddonineth a phurdeb iaith erioed mewn cyflwr perffeithiach yn Nghymru nag ydoedd ychydig cyn, ac ychydig wedi, y Goncwest Normanaidd; ac y mae rhanau hanesiol pryddestau y tymmor hwn yn oleuni mawr i haneswyr Seisonig a Chymreig, Gwyddelig ac Ysgotaidd."[20] Heb law y ddau a nodwyd, perthynai i'r cyfnod hwn, Cynddelw, Daniel Llosgwrn, Dafydd Benfras, Owen Cyfeiliog, Llygad Gwr, Myryw, Llywarch Prydydd Moch, Casnodyn, ac amryw ereill. Chwanegodd y rhai hyn at nifer y mesurau arferedig gan y cynfeirdd; ond nid oeddynt hwythau chwaith yn feirdd cynghaneddion, er fod rhyw gymmaint yn fwy o'i naws i'w weled yn nghyfansoddiadau ambell un o honynt nag a geir yn y cynfeirdd. Yr oeddynt yn cyffwrdd y Braidd Gyffwrdd yn fynychach. Ymddengys ddarfod i Casnodyn, un o feirdd olaf y cyfnod hwn, syrthio mewn cariad â'r gynghanedd, a chynnyg ati yn fwy na neb o'i flaen. Ond yr oedd fel pe buasai yn ymrithio i'r beirdd o hyd yn ddygwyddiadol, megys yn y Braidd Gyffwrdd: a cheisiodd Casnodyn ei dal, a'i thynu allan o'i dirgelwch. Efe, medd ein beirniaid, a gyfluniodd yr englyn unodl union gyntaf, ac a ddodwodd felly wy cyntaf y gynghanedd gaeth, yn ei farwnad i'r Tywysog Madawg; a dyma fo

"Bu oerchwedl cenedl, cwyn enwawg—tristlawn,
Camp Meirchiawn, cwymp Marchawg,
Byd a fydd—ry-gudd yr hawg,
Byd heb fyd, bod heb Fadawg."


Casnodyn a ddodwodd yr wy, ond Dafydd ab Gwilym a'i deorodd. Fel hyn y dywed y prif-fardd, y llenor, a thywysog anrhydeddus beirniaid Cymreig—y diweddar Barch. Walter Davies (Gwallter Mechain):—"Nid oedd Casnodyn ond prin gwedi oeri yn ei feddrod, pan ddifyrwyd trigolion De a Gwynedd â phersain cywyddau a thoddeidiau Dafydd ab Gwilym. Efe a ddygodd ar arfer gyffredin y mesur mwyaf sathredig o'r pedwar ar ugain; a'i gywyddau ef ydynt yn mhlith y rhai melusaf yn yr iaith. Am ddychymyg, neu grebwyll, ni bu, ac efallai ni bydd, yn Nghymru, neb yn ail i Dafydd ab Gwilym. Efe a ddysgai hyd yn oed i ddylluan ac i bioden siarad yn Gymraeg glân gloew; a rhoddai leferydd yn ngeneu drychiolaethau, ac ymgomiai a'i gysgod ei hun." Gyda phob dyledus barch i awdurdod oruchel Gwallter Mechain yn mhob peth a berthyn i feirdd a barddoniaeth y Cymry, rhaid i ni, gan foesymgrymu ger ei fron, gael caniatâd i ddywedyd na allwn lyncu y tamaid yna. Canys credwn i Dafydd ab Gwilym ddarostwng a halogi awenyddiaeth ei wlad, a dwyn mawr ddirywiad a llygredigaeth i'w hysbryd a'i nodwedd foesol. O'r blaen yr oedd bob amser yn ddifrifol; llosgai yn wastad gan eiddigedd dros ryddid ei gwlad; gwgai ar ei gelynion a'i gormeswyr, ceryddai bob bradwr i'w genedl yn llymdost, ac anrhydeddai goffadwriaeth pob un a ymdrechai dros ei hiawnderau. Rhoddai ei dylanwad i dawelu pob ymryson cartrefol, i heddychu pleidiau ymrafaelgar, ac i iachau pob teimladau tramgwyddus a digofus rhwng blaenoriaid y genedl, ac i'w clymu mewn undeb calon i gydymdrechu â'u gilydd er dwyn yn mlaen ddaioni cyffredinol y wladwriaeth. Yr oedd yr awen fel hyn yn ffyddlawn i'w swydd, ac yn ddifrifol yn nghyflawniad ei dyledswyddau, yn ol fel yr oedd amgylchiadau y genedl yn yr oesau hyny yn galw arni; a chyflawnodd hwynt yn effeithiol hefyd i raddau helaeth. Ond dechreuodd cyfnod newydd ar ei nodwedd foesol, yn gystal ag ar ei gwedd allanol, gyda Dafydd ab Gwilym. Aeth ei harian yn sothach, a chymmysgwyd ei gwinoedd â dyfroedd lled afiachus. "Hynodir y cyfnod hwn," medd awdwr "Tafol y Beirdd," td. 27, "â rhieingerddi, a chaniadau serch, a mynych y cyfarfyddwn a chywydd ac awdl i ferch; ïe, canodd D. ab Gwilym ei hun,—

"Saith gywydd i Forfydd fain,
Seth hoewgorff, a saith ugain."

Nid ydym yn haeru bod y testyn (Serch) yn anweddaidd ynddo ei hun i ganu yn achlysurol arno, neu i fod yn anmhosibl i fardd gyfansoddi dim teilwng o wir awenyddiaeth ar y fath destyn; ond gwaith cynnilbwyll a gofalus iawn a fyddai. Ond haerwn fod caniadau D. ab Gwilym, a'i olynwyr, yn mhell iawn o fod felly; canys er y dichon nad oes mewn llawer o'r serchganiadau hyny ddim yn anweddaidd a thrythyll iawn, nid oes yn odid un o honynt ddim a duedda i ddyrchafu a choethi calon y darllenydd; ond yn hytrach, tueddant o leiaf i gynnyrchu meddyliau gwammal—gwagsawrwydd digymmysg yn mron ydynt. Ni cheisiwn wadu nad oedd D. ab Gwilym yn gelfyddydwr campus yn y gynghanedd, a'i fod yn meddu ar ddychymyg fywiog, gref, a chyfoethog; ond dychymyg wammal gellweirus ydoedd. Y mae yn wir y dysgai i'r dylluan a'r bioden ymgomio, ac y dodai leferydd yn eu cilfynau; ond gwnelai hyd yn oed i'r ddylluan sobrddwys ei hun siarad ysmaldod. Cymharer lleferydd y ddylluan a'r bioden yn nghywyddau D. ab Gwilym, a lleferydd y llwynog yn nghywyddau Huw Llwyd o Gynfal, er anghraifft; a gwelir annhraethol wahaniaeth rhwng ysbryd y ddau fardd. Y mae cywyddau Huw Llwyd yn athronyddol a thra addysgiadol drwyddynt oll. Yn y cyntaf, rhydd y llwynog y cynghor mwyaf llwynogaidd i wr ieuanc pa fodd i fyw, gan agor iddo gyfrinach ei fywyd ef ei hunan. Yn yr olaf, y mae yr un gŵr yn cyfarfod â'r un llwynog drachefn, pan oedd wedi heneiddio a gwanychu cymmaint nes prin y gallai y gwr ei adnabod. Yn y cyflwr methedig hwn y mae y llwynog wedi dyfod i ystyriaeth ac ymdeimlad o'i fuchedd ddrygionus gynt, yn adrodd ei brofiad galarus: dyma ran o hono:

"Fy nerth di'madferth yw'r modd,
Bellach i gyd a ballodd;
F' amser yn ofer un wedd,
A weriais mewn anwiredd;
Chwimwth fu'm droed a chymal,
Heddyw'n wir hawdd iawn yw 'nal;
Pob gwr, pob bachgen, pob gwas,
Pob dyn o gylch pob dinas,
Pawb a rydd is glaswydd glyn,

Ar fol waedd, (oerfel iddyn';)
Pob ci sydd yn fy spio,
Pob bran o amgylch pob bro,
Ar dir pob rhyw aderyn
A'm dengys, hysbys yw hyn,
Mae dialedd a'm dilyd,
Er hyn gwaeth na'r rhai'n i gyd;
Fy nghydwybod sy'n codi,
Mawr boen waith i'm erbyn i;
I'm hir gyhuddo mae hon
Yn dost fel mil o dystion,
Ni chaf hun, Och fi! heno;
Na drych dychymyg dros dro,
Na bwy'n gweled lle rhedwn,
F' aelodau'n garpiau gan gwn;
Cefaist gynghor os cofi,
Gyneu i fyw genyf fi;
Ystyria holl ystryw hwn,
Llai oedd na'r oll a wyddwn;
Ni fynwn a wn enyd,
I bawb ei wybod o'r byd;—
Cywir i bawb car ei bod
Diball dilwgr gydwybod;
Trysor ar gael ni ffaelia,
I ddyn yw cydwybod dda;
Os anesmyth yw llwyth llog;
Deuwaeth cydwybod euog,
Swmbwl dibwl cydwybod,
Sydd flin ei feithrin a'i fod;
Gwna'r tro a weddo i wr,
Hon a wna ddyn yn brudd wanwr,
Madwys bellach ymadael,
Cyn ffoi i'r allt, can ffarwel,
Wyf yn ofnog o'm gogylch,
Mae swn y cwn fyth o'm cylch."


Yn y cyntaf, dysgrifir egwyddorion calon a buchedd bydolddyn, yr hwn a wylia ar ei fantais a'i les personol, bid cam bid cymhwys, ac ni phetrusa fyned ar draws iawnderau a theimladau pawb arall, os ca y fantais i hyny. Ac yn yr olaf, dysgrifir ffrwyth chwerw bywyd y gorthrymwr hunanol, wedi iddo gael ei ddal gan nychdod natur, ac edliwiadau cydwybod euog. Y mae yn y ddau gywydd hyn fwy o wir farddoniaeth nag a gynnwysai deng mil o gywyddau o fath rhai D. ab Gwilym; ac yn ein bryd ni, y maent yn arddangos gan gryfed crebwyll a'r eiddo yntau, yn gystal a'u bod yn cynnwys athrawiaeth dda.

Ni allai D. ab Gwilym ganu hyd yn oed ar y fellten ddychrynllyd, a'r daran ofnadwy fawreddog, heb gellwair yn iselwael gyda hwy. Er anghraifft:

"A phoeri mellt yn ffrom iawn."

I'r daran:

"Gwrach hagr yn curo'i chawgiau."

Eto:—

"Breferiad y wybr ferydd."

A llawer o'r cyffelyb. Eto i'r eira:—

"Oes un ŵyr ar fis Ionawr,
Pa ryw lu sy'n poeri i lawr?
Angelion gwynion nid gwaeth,
Sy o'r ne yn saerniaeth;
Gwelwch dynu o'r gwaelawd,
Lifft y blanc o lofft y blawd!"


Wedi hyn, dyfala bod y saint yn y nefoedd yn parotoi gwledd, ac yn pluo gwyddau yno, ac mai pluf eu gwyddau hwy oedd yr eira. Yn gyffelyb yr ymdrinia â phob testyn y canai arno.

Yn awr, os, fel y dywed "Cyfrinach y Beirdd," mai "Dyben Cerdd yw gwellhau Deall, helaethu Gwybodau, gwellhau Myfyrdod ac Athrylith, a llawenhau y Galon a'r Meddwl yn ddibech feddylfryd, a dyddanu'r Bryd a'r Ysbrydiaeth, a sirioli y Nwyf, a bywiogi Arial, ac Ynni, ac Awen, heb fod yn achos na drwg feddwl, na drwg foes, na drygnaws, na drygnwyf; eithr helaethu Doethineb, a Gwynfyd, a Dedwyddwch, a Brydwaith, a Myfyrbwyll; a hyn a ddaw o Fawl ar y Da, ac o Anfawl ar y Drwg; a pherffaith ddyfalu ar y pethau a f'ont hardd, a thirion, ac ardderchog, a serchus, a daionus i Gorff ac Enaid: ac onis ceir ar fardd un o'r prif ddybenion hyn, beius o herwydd ei hamcan a'i dyben y bydd, ac nis teirdd o gyfiawn a dwyfol Awen; càn onis pair Cerdd annogiad ar ddaioni, a dedwyddyd a gwynfyd, a gwrthladdiad ar ddrygioni, ac anwybodaeth a gofid; nis dylit ei goddef mewn bod nag ar gof, rhag y mawr afles acaflwydd o honi:" —os, meddwn, yw awdurdod "Cyfrinach y Beirdd" yn gywir ar y mater yn y dysgrifiad a rydd uchod, yna, beth a ddaw o farddoniaeth D. ab Gwilym? Pa beth a ganodd yn deilwng o'i gadw ar gof ac ar gael? Ac eto, cafodd ei foli a'i ddyrchafu y tu hwnt i un bardd o'i flaen nac ar ei ol, gan feirdd a beirniaid yn gyffredinol, rywfodd. Nid peth bychan yn ein golwg ydyw rhedeg fel hyn yn erbyn ffrwd barn a theimlad oesoedd o feirdd a beirniadon; ac ond odid na chyfrifir hyn i benglogrwydd, neu hunanolrwydd, neu rodresgarwch, neu i wagawydd am yr hynodrwydd o haeru yn erbyn pawb, neu i rywbeth o'r fath. Wel, gwneler hyny ynte: byddwn dawel a dystaw, wedi i ni ddywedyd ein rhan, a dangos ein meddwl fel hyn yna.

Dafydd ab Gwilym a fu un o'r rhai cyntaf i chwerwi ysbryd yr awen Gymreig, a dysgu iddi ganu gogan a duchangerddi hefyd. Bu cecraeth hir a throm rhyngddo a Rhys Meigen; a hono oedd yr ornest duchanol gyntaf, hyd a ddeallwn, ag y mae hanes am dani, a gymmerodd le yn Nghymru: ond bu llawer un ar ei hol; a'r un fwyaf hynod oedd yr un rhwng Edmund Prys, archddiacon Meirionydd (cyfansoddydd y Salmau Cymreig), a William Cynwal o Benmachno; i'r hon, meddir, y syrthiodd bywyd Cynwal yn aberth. Temtiwyd awen bur, foneddigaidd, Dafydd Ionawr yntau, unwaith, i'r tir anghyfreithlawn hwn; ond edifarhaodd, a diangodd o hono yn fuan.

Fodd bynag, i athrylith D. ab Gwilym y dylid priodoli cynlluniad y mesur Cywydd Deuair Hirion; yr hwn, o'i ddyddiau ef hyd y dydd hwn, a fu yn un o hoff fesurau beirdd y gynghanedd gaeth, ac yn un o rai hoffaf darllenwyr barddoniaeth Gymreig yn gyffredinol.

Yn yr eisteddfod fawr a gynnelid yn Nghaerfyrddin, dan nawddlywiaeth Syr Gruffydd Nicolas, o Ddinefor, yn 1451, y dodwyd iau Pedwar Mesur ar ugain Cerdd Dafod D. ab Edmwnd am wddf awen Cymru: a rhaid i ni fyned heibio, heb ond ei grybwyll, i'r gynhen a'r gwrthymdrin a fu wedi hyn rhwng dysgyblion hen Ddosbarth Morganwg, yr hwn a elwid hefyd Dosbarth Llawdden, am mai efe a'i darbododd, a Dosbarth Caerfyrddin, sef yr eiddo D. ab Edmwnd. sawl a ewyllysiont weled, ymofynantâ "Chyfrinach y Beirdd," gan Iolo Morganwg; neu "Tafol y Beirdd," gan Cynddelw (y Parch. R. Ellis, Sirhowy). Llawer a felldithiwyd ar Ddosbarth Caerfyrddin erioed; ac yn yr eisteddfod fawr a gynnelid yn yr un dref yn 1819, rhoddwyd dedfryd gondemniol arno, a darn grogwyd ef, o herwydd ei gael yn euog, meddid, "o gyfyngu awen y bardd o fewn llyffetheiriau rhy gaethion; a bod yn rhy fynych, o'r achaws, synwyr a rhwyddineb iaith yn cael eu hoffrwm ar allawr gwagorchest egwanbwyll a diansawdd. Herwydd hyn, barn yr eisteddfod hon ydyw—bod o hyn allan ryddid i feirdd Ynys Prydain gyfansoddi caniadau ar y mesurau mwyaf teilwng a chyfaddas i eu testynau; ac na byddo rhagllaw wahaniaeth o barth teilyngdawd i ei roddi i fesurau yr un dosbarth, na'r hen na'r newydd, ragor neu uwch na eu gilydd; ond bod urddas cerdd neu awdl uwch ereill i gael ei farnu wrth gymhwylliadau synwyr, a phwyll, a chynghanedd rywiog a diledryw, yn hytrach nag wrth amrywiaeth y mesurau."

Cwynai amryw bod y darbodiad uchod yn Nghaerfyrddin yn dywyll ac aneglur; a rhoddid esboniadau gwahanol arno gan wahanol feirniaid. Mynai rhai ei fod yn cyhoeddi llwyr ollyngdod i'r awen, os myn, oddi wrth rwymau y gynghanedd gaeth. Mynai ereill nad yw ei fod yn gofyn cynghanedd rywiog a diledryw: ond a addefai ef gyfryw gynghanedd ag a eiliai y diweddar Edward Jones, o Faes y plwm, er anghraifft, yn "gynghanedd rywiog a diledryw," a chyfansoddiad ar y cyfryw fesurau rhyddion ag yr arferai efe gyfansoddi arnynt, yn deilwng a chyfreithlawn o gadair eisteddfod freiniol, sydd yn ammhëus.

Fodd bynag, ymddyheurodd un o'n prif feirdd, y diweddar hyglod Ieuan Glan Geirionydd, yn erbyn y gynghanedd gaeth yn y "Gwladgarwr" amryw flyneddoedd yn ol; a daeth Gytun Peris allan yn ei erbyn, mewn amddiffyniad iddi. Bu gosteg ar y ddadl o hyny hyd yn ddiweddar, pan yr ailennynodd ar yr achlysur o adael testyn cadair Rhuddlan yn rhydd i'r ymgystadleuwyr i ddewis a fynent ai awdl gaeth ynte pryddest ddigynghanedd i ganu arno. Dyfernid y gadair i bryddest gan Ieuan Glan Geirionydd, a'r ail wobr i awdl gaeth gan Caledfryn. Rhoddodd amryw feirdd yn Rhuddlan nag a gwrthneu ar waith y pwyllgor yn caniatâu i fraint y gadair i fod yn agored i'r bryddest, ac ar waith y beirniaid yn ei rhoddi iddi, fel trosedd yn erbyn deddfau yr awen Gymreig. Bu dadleuaeth frwd ar hyn yn yr "Amserau" a'r "Carnarvon Herald," yn yr hon y cymmerodd Ieuan Glan Geirionydd, a Ieuan Gwynedd, ochr y bryddest; a'r Parch. D. James, Kirkdale, Liverpool, a Gweirydd ab Rhys (Mr. R. J. Prys, Llanrhyddlad, Mon), ochr yr awdl gaeth. Gwnaed cynnyg at wneyd deddf ac awdurdod i gyfreithloni hawl pryddest i'r gadair farddawl yn Eisteddfod Madog, wedi hyny; ond rywfodd neu gilydd, methodd y cais, ac y mae y pwnc yn aros yn anmhenderfynol hyd yma.

A ydyw cynghanedd yn elfen hanfodol i farddoniaeth Gymreig, ai nid yw? Dyna, dybygem, ydyw enaid y pwnc sydd i'w benderfynu. Dadleua llawer yn dost ac yn dỳn iawn ei bod. Y mae dysgyblion Dosbarth Caerfyrddin a dysgyblion Dosbarth Llawdden, y naill fel y llall, yn gosod "cynghanedd rywiog a diledryw" yn un o'r hanfodion; tra y dadleua dysgyblion y bryddest yn erbyn hyn. Y mae ysgrifenydd y rhagdraith i "Dafol y Beirdd" (ysgrifenydd grymus) fel un wedi meddwi ar y gynghanedd; a gwae i'r bryddest a'i phleidwyr o deuant yn agos ato. Y mae wedi yfed yn helaeth o ysbryd chwerw Iolo Morganwg, yn erbyn beirdd Gwynedd a Dosbarth Caerfyrddin. Hen ŵr gwych oedd Iolo, odid ei hafal mewn un oes mewn cydnabyddiaeth & henafiaethau, llenyddiaeth, iaith, a barddoniaeth y Cymry: sarugrwydd ei dymmer a'i iaith oedd ei brif goll; ac yn hyny y mae yr ysgrifenydd crybwylledig yn bur debyg iddo. Cymmaint yw ei hoffder at "swn cydseiniaid yn clecian," fel nad oes i bennill ar fesur rhydd un ffafr yn ei olwg, oni chlyw sain cydodliadau, o leiaf, yn rhedeg trwyddo.

Yr oedd y diweddar Barch. Walter Davies yn bleidiwr i gynghanedd, ac yn ei hystyried fel un o anhebgorion barddas Gymreig, er yn wrthwynebwr cryf i Ddosbarth D. ab Edmwnd, neu yn hytrach i amryw o fesurau ei ddosbarth. "Yr oedd Goronwy Owain yn bleidiwr diysgog i'r gynghanedd," medd awdwr "Tafol y Beirdd;" ac felly yn wir yr ymddengys ei fod oddi wrth rai ymadroddion yn rhai o'i lythyrau : ond y mae yn ymddangos hefyd fod arno awydd yn ei galon i gael gwared o honi, oddi wrth ei ymadroddion brydiau ereill. Fel hyn y dywed unwaith:—

"Meddyliais yn fynych mai rhwyddaf a lleiaf o lyffetheiriau cynghanedd yn y mesurau, goreu rhaid yw bod y gerdd. Nid yw mydryddiaeth y Groegiaid yn agos mor ddarostyngedig i ddognaeth sillau ag ydoedd un y Rhufeiniaid; ac y mae un y Seison yn fwy rhydd no phob un onaddynt, gan nad oes iddo na rhif sefydledig, na dognedd sillau, na hefyd odlaeth yn y diwedd, chwaethach hualau cynghanedd, yr hwn ni bu prin ormes yn y byd i ieithoedd ereill, ond sydd yn mron a llethu ein iaith ni. Dyma yr achaws yr hoffir Homer o flaen Virgil, a Milton yn gyfiawn o flaen pob un o'r ddau. Eto, ni chwennychwn luniaw fy mydr ar ddull Seisonig, na dull un iaith arall a adwaenwn. Mynwn fod iddo rywfaint o debygolrwydd i'r mydrau sy genym eisoes, ond yn hirach nag yr un o honynt," &c. cynghanedd, yr hwn ni bu prin ormes yn y byd i ieithoedd ereill, ond sydd yn mron a llethu ein iaith ni. Dyma yr achaws yr hoffir Homer o flaen Virgil, a Milton yn gyfiawn o flaen pob un o'r ddau. Eto, ni chwennychwn luniaw fy mydr ar ddull Seisonig, na dull un iaith arall a adwaenwn. Mynwn fod iddo rywfaint o debygolrwydd i'r mydrau sy genym eisoes, ond yn hirach nag yr un o honynt," &c.

Dyna ddigon i brofi y teimlai y bardd godidog hualau y gynghanedd yn gloffrwym trwm ar ei awen. Addefa "yr hoffir Milton, yn gyfiawn hefyd, o flaen Homer a Virgil," yn un peth, o leiaf, am ei fod yn canu yn rhydd ddiodl, heb son am ddigynghanedd. Digalonid Goronwy i geisio cyfansoddi arwrgerdd, neu unrhyw waith mawr ar destyn dyrchafedig, o herwydd caethder y mesurau a'r gynghanedd Gymreig:—y fath golled ydyw hyn i'n llenyddiaeth! Yr unig beth sydd genym i gwyno o'i herwydd yn Goronwy Owain ydyw, fod ei ganiadau yn rhy fyrion, yn rhy fach o nifer; ac na buasai wedi ymosod ar ryw brif gampwriaeth awenyddol: ond yn hyn fe'i digalonid gan gaethder ein mesurau a'n cynghanedd, fe ymddengys. Wel, yr archlod iddynt! ynte, meddwn ni. Yspeiliasant ein llenyddiaeth yn ddiau o drysor anmhrisiadwy; canys pe cymmerasai Goronwy Owain arno y gorchwyl o gyfansoddi arwrgerdd, neu ganiad faith ar ryw destyn dyrchafedig, nid oes le i ammheu na buasai yn waith teilwng i'w gystadlu & goreuon barddoniaeth unrhyw genedl. Rhoddodd Goronwy, dan anfanteision dirfawr, dôn newydd i awenyddiaeth Cymru. Yr oedd ei gyfodiad ef yn ddechreuad cyfnod newydd arni. Y mae ei gywyddau yn berlau gwerthfawr o farddoniaeth bur, goethedig, o'r iawn ryw; ond ber yw anadl ei awen, gan mor dyned rhwymau y gynghanedd am ei gwddf, a chan mor drymed y gwasgai gofalon y bywyd hwn ar ei ysgwyddau. Alltudid ef o'i hoffus wlad i weinidogaethu fel curad tlawd yn Lloegr, gan frynti trahaus esgobion Seisonig Cymru—ffei o honynt! Nid yw eu holynwyr yn y dyddiau presennol fymryn yn well na'u tadau; canys trinwyd y diweddar Ieuan Glan Geirionydd ganddynt hwythau yn yr un cyffelyb fodd! Ond gorfu i Goronwy, druan, o'r diwedd, adael Lloegr hefyd, a cheisio rhyw offeiriadaeth yn anialdir Virginia, yn America, er cael tamaid o fara iddo ei hun a'i deulu.

Y mae braidd yn rhyfedd fod awenyddiaeth Goronwy mor goeth-ddiwair ei nodwedd, ac ystyried y feithriniaeth foreuol a gafodd. Ei athraw barddonol oedd Llewelyn Ddu o Fon, yr hwn a ragorai ar D. ab Gwilym yn ngwammalrwydd ei gyfansoddiadau. Yr oedd Llewelyn Ddu yn ddyn dysgedig a gwir fawr ar lawer o ystyriaethau, yn anrhydedd i'w wlad a'i genedl; ond trugaredd i'w enw a'i goffadwriaeth fuasai i'w ganiadau, gan mwyaf o honynt, gael eu cuddio oddi wrth lygaid pob dyn byw: ond nid oes nemawr linell yn ngwaith Goronwy a dramgwyddai y coethaf ei archwaeth, ac a ddoluriai y tyneraf ei deimlad.

Y mae sylwadau Llewelyn Ddu ar brydferthion Goronwy yn hynod o darawiadol; gan dybio y gallant fod yn newydd i lawer o'n darllenwyr, nyni a'u dodwn i mewn yma fel y maent yn yr iaith eu cyfansoddwyd, rhag eu hanurddo trwy gyfieithiad. Ysgrifenwyd hwynt yn y flwyddyn 1752, mewn llythyr at W. Vaughan, Ysw., Cors y Gedol a Nannau.

"I wrote to you a good while ago, in behalf of Goronwy Owen—the greatest genius, either of this age, or that ever appeared in our country; and perhaps few other countries can show the like of him for universal knowledge.

I showed you Cywydd y Farn, and some other pieces of his, when I was last at Nannau; and I have three or four pieces of his since, that are the best that ever were wrote in our language; and will endure while there is good sense, good nature, and good learning in the world. It is a pity, and the greatest of pities, that such a man as this, who is, not only the greatest of poets, but a great master of languages, should labour under the hardship of keeping a school and serving a curacy in the middle of Carn Seison, and all for the poor income of £26 a year; when at the same time, many a fat parson, whom their neighbours say have hardly common understanding, makes the earth groan under him when he treads it, because he hath some hundreds for not keeping a school, or serving his Church! But however, let them contrive it, all I want is, that our countryman, Goronwy Owen, should have meat to his mouth, and to his wife, and two children. * * *

My next shall bring you Cywydd y Gem, which is the last poem he hath wrote; the subject is a search for happiness. Dedwyddyd is the gem he hath searched for in all corners of the world; and after a great many fine descriptions and researches, with the help of philosophy, and all kinds of learning—after consulting Solomon's works, &c., he finds that that gem is not to be had among the jewels on crowns, mitres, and caps, nor in short anywhere in the world. Then he finds a book of another son of David, which tells him where it is to be found, and gives a lively description of that countryheaven: that is the subject. But nothing can come up with the beautiful terms and expressions throughout the whole, which makes the writer not only worthy of a paltry living, but of the favour of all men of sense in our country, and is really not only an honour to the Ancient Britons, but to human nature in general. I do not remember that I have sent you a copy of his cywydd, entitled Bonedd ac Achau'r Awen; a most excellent piece. The subject of that, as well as all his other subjects, hath something new and surprising in it. He first examines the Greek and Roman writers, and finds the accounts they give of their feigned muses to be only the dreams of the poets—'Breuddwydion y beirdd ydynt.' Then he finds out an original, far more ancient than the father of their music, &c.; he finds that the stars of the morning sang the praises of God, and all the host of heaven—they sang so loud that the comets, or wandering stars, heard them, and jumped into their orbs again, to join in the chorus:—

'Fe'i clywai'r ser disperod,
Llemain a wnai'r rhai'n i'w rhod.'

Adam heard them out of Paradise, and joined in the song: his wife, so well pleased with his singing, that she came a proficient in it—and they sang together the praises of God, all day long.

Here we have an original of poetry, which the superstitious Grecians and Romans knew nothing of—from hence he carries it to Moses and David, and gives some charming specimens of David's poetry:

'Deffro fy nabl parabl per,
Ni ganwn emyn gwiwner.'

Then he comes to the great poet, Solomon, the author of the Song of Songs:

'Fe gânt gân gwiwlan y gwau,
Cân odiaeth y Caniadau;
Pwy ni châr ei Ros Saron,
Lili a'r drainllwyni llon?'

These lines will last for ever, in spite of enemies; neither fire nor water can destroy them, nor will they perish till the world falls in pieces, and man is no more. I had forgot to give a specimen of the song of songs by the morning stars in the creation of the world:

Ser bore a ddwyrëynt
Yn llu i gydganu gynt;
Perffaith yw dy waith, Duw Ion,
Dethol dy ffyrdd a doethion;
A mad ac anchwiliadwy,
Dduw mawr, ac ni fu ddim mwy!'


When I see in Milton, Dryden, and Pope, such nervous lines, and grand expressions, as this poem contains, I shall admire them as much as I do Goronwy Owen—and not till then, &c. &c.

LEWIS MORRIS."

Teimlir yn hawdd i faddeu y rhy a'r gormod yn yr adran olaf o'r llythyr uchod, wrth ystyried achos, amcan, ac amgylchiadau ei ysgrifeniad. Yr oedd calon yr ysgrifenydd wedi ei llenwi hyd yr ymylon gan gymmysg deimladau o edmygedd at gyfansoddiadau ei fardd, o eiddigedd a soriant o herwydd ei fod yn cael ei gywilyddus esgeuluso gan freinolion yr Eglwys, a boneddion ei wlad, ac o awyddfryd am ei waredu a'i ddyrchafu o'r sefyllfa helbulus ac anghenus yr oedd ynddi. Ond ofer fu pob ymdrech—i ochain o "dan ei bwn du," chwedl yntau, y cafodd Goronwy ei adael hyd ei fedd.

Y mae llawer o ddarnau yn ngweithiau Goronwy Owain, ag y gwna eu gweled, neu eu clywed unwaith, effaith a bair gofio am danynt byth. Buaswn yn hoffi dodi rhai o honynt i mewn yma; ond rhag chwyddo y traethawd i ormod meithder, ni a ymattaliwn. Trueni na chymmerai rhywun a fedd gymhwysder a hamdden, arno i gasglu cynnifer o weithiau barddonol a llythyrau Goronwy y sydd ar gael, yn nghyd â chymmaint ellir gasglu o hanes ei fywyd trafferthus, a'u cyhoeddi yn llyfr cryno, i fod ar gof, ac ar gael, hyd ddiweddaf oes ein hiaith. Byddai bywyd, athrylith, a gweithiau Goronwy Owain, dybiem ni, yn destun traethawd gwobrwyol rhagorol i un o'n heisteddfodau breiniol, a byddai yr un llwyddiannus yn briodol iawn i'w gyhoeddi gyda'i gynnyrchion awenyddol. Hyderwn y cymmerir ni yn esgusodol am ymdroi cyhyd gyda Goronwy, ar yr ystyriaeth o deilyngdod y gwrthddrych. Dichon y bydd ein darllenwyr wedi anghofio erbyn hyn ar ba achlysur y dygwyd enw Goronwy Owain i mewn genym ar y cyntaf; ac mai angenrheidiol yw crybwyll mai fel tyst yn erbyn caethder mesurau y gynghanedd y gwnaed hyny: ac oddi wrth yr hyn a gofnodwyd yn flaenorol o'i lythyrau, gallwn gasglu, pe buasai efe byw yn yr oes hon, y buasai yn bleidiwr cryf dros adael y gadair farddol yn rhydd i bryddest ddigynghanedd, os nad i'r gerdd anghyfawdl hefyd, i esgyn iddi.

I fod yn gysson â'u hathrawiaeth, dylai y dadleuwyr dros y gynghanedd, fel nod anhebgor i farddoniaeth Gymreig, fwrw yr holl gynfeirdd a'r gogynfeirdd allan o restr beirdd Cymru; canys ni adwaenent hwy y gynghanedd ond megys yn ddamweiniol hyd amser Casnodyn a D. ab Gwilym. Dylai ein cyfeillion, gan hyny, ddyddio genedigaeth awen a barddoniaeth ein gwlad yn y cyfnod diweddar hwnw. Ond nid felly y gwnant. Y maent mor uchel eu clod a neb pwy bynag i'r hen feirdd boreuaf, a ganasant oesoedd lawer cyn genedigaeth y gynghanedd. "Canfyddwn," medd awdwr "Tafol y Beirdd," "fod 'cynghanedd rywiog a diledryw' yn hanfodol bob amser i fydryddiaeth genedlaethol y Cymry." Pa fodd felly, atolwg? Os oedd beirdd a barddoniaeth yn hanfodi yn Nghymru oesoedd cyn bod son am gynghanedd, ni allasai ei bod yn "hanfodol bob amser i'n mydryddiaeth genedlaethol. Os ydyw felly yn awr, yr oedd raid ei bod yr un modd yn nyddiau Aneurin, Taliesin, Meilir, a Gwalchmai, &c. Y mae yn rhaid i chwi naill ai gwadu nad oeddynt hwy yn deilwng o'r enw beirdd, na'u cyfansoddiadau yn deilwng o'r enw barddoniaeth, neu ynte ollwng yr haeriad uchod i lawr, a chaniatäu nad yw "cynghanedd rywiog a diledryw," nac un afrywiog a lledrywiog yn awr, ac na bu erioed, ac na bydd byth, "yn hanfodol i fydryddiaeth genedlaethol y Cymry." Drachefn, medd yr un awdwr—"Ni chafwyd awdurdod gorsedd na chadair eisteddfod dros bryddestau digynghanedd yn y Dywysogaeth." Cafwyd awdurdod cadair Eisteddfod Rhuddlan, fodd bynag, "dros y bryddest ddigynghanedd;" canys cadeiriwyd hi yno, a rhoddodd cadeirfardd dihafarch Clynnog ei bleidlais trosti hefyd, drwy gyfansoddi ei bryddest ddigynghanedd benigamp ar destyn yr unrhyw gadair. Canodd tri o'n cadeirfeirdd ar destyn cadair Rhuddlan, a dewisodd dau o honynt y bryddest ddigynghanedd i gyfansoddi arno. Ni feiddia neb o bleidwyr y mesurau caethion haeru mai o eisieu gallu i gyfansoddi awdl, y canai y ddau uchod Bryddestau yr Adgyfodiad, canys y mae eu hawdlau cadeiriol ar "Ddinystr Ierusalem," "Iob," a "Gwledd Belshasar," yn dystion oesol o'u galluoedd cynghaneddol. Rhaid bod y ddau brif-fardd yn cyd-deimlo bod mesurau yr awdl, a'r gynghanedd, yn cloffi y gân, ac yn attalfa ar eu ffordd i osod allan eu syniadau fel y dymunasent; ac y gallasent wneyd mwy o gyfiawnder â'r testyn, ac â hwy eu hunain, mewn pryddest ddigynghanedd. Credu yr ydym, yr ystyria y ddau brif-fardd bod eu pryddestau hyny yn rhagori ar ddim a gyfansoddasent ar y mesurau caethion erioed, er bod yr awdlau crybwylledig yn sefyll yn rhestr uchaf barddoniaeth ein cenedl. Ond meddyliem, ar yr un pryd, na chytunai nifer fawr o feirniaid a hoffwyr barddoniaeth ein gwlad a hwy yn hyn. Y mae gafael gref gan y gynghanedd ar deimladau a serch ein cydwladwyr darllengar; ac nid yw y bryddest, hyd yma, wedi ennill llawer o boblogrwydd; ac y mae fod cynnifer o bryddestau diansawdd a dienaid wedi eu bwrw allan trwy y wasg yn y blyneddoedd diweddaf yn peri hyn i raddau helaeth, ac yn peri fod y rhai gwir deilwng dan anfantais i weithio eu ffordd i sylw a serch y genedl ddarllengar.

Ni fynem ni, ar un cyfrif, ddiarddel, a llwyr fwrw ymaith o ymarferiad y mesurau caethion, oddigerth rhyw bedwar neu bump o'r rhai gwrthunwael a berthynant i ddosbarth D. ab Edmwnd. Y mae genym laweroedd o gyfansoddiadau teilwng o fod ar gof a chadw oesol wedi eu mydryddu arnynt. Y mae cynghanedd, yn llaw awenydd teilwng, yn "cloi synwyr mewn clysineb," yn rhagorach nag a ellir mewn rhyddiaith na mydryddiaeth rydd, yn fynych. Gellid nodi allan luaws o englynion, toddeidiau, a breichiau o Gywydd Deuair Hirion, a ymddangosant megys pe byddent wedi tyfu yn yr iaith yn naturiol, ac o honynt eu hunain. Ni ellir dywedyd yr un pethau mewn unrhyw ddull arall yn hanner mor brydferth ac effeithiol. Ond yr eithriadau i'r rheol gyffredin ydynt. Mewn cyfansoddiad maith, ar destyn dyrchafedig, profa y bardd y mesurau a'r gynghanedd gaeth yn gaethiwed mewn gwirionedd. Gorfydd iddo docio a chwtogi llawer meddylddrych, nes ei anmharu yn fawr, cyn y gall ei stwffio i'r mesur a'r gynghanedd; ac erbyn yr esgoront hwy arno, bydd ei wedd a'i waith yn llawer gwaelach a gwanach nag ydoedd yn y meddwl pan ymddygodd arno. Gwelir ambell feddylddrych fel yn ymrwyfo ac yn ymgripio ar hyd parwydydd y mesur a'r gynghanedd yn rhincian ac yn gwichian wrth geisio gweithio ei ffordd allan, ac yn erthylu yn y diwedd. Y mae yn wir, ar yr un pryd, y gwelir ambell un yn ymdeithio yn hoew, ddisgloff, fel cawr cadarn, yn llefaru yn groew a difloesg mewn cynghanedd gywrainglöedig, gyda grym ac awdurdod a bair i bawb a edrycho ac a wrandawo arno edmygu ei fawrhydi; ond cloffi a wna yr athrylith gryfaf yn lled fuan yn y rhwymau hyn, er hyny.

Ond i derfynu—gan adael heibio lawer iawn o bethau yr hoffasem eu crybwyll—yr hyn a ddymunem ni yw, fod i orsedd prif eisteddfod ddarbodi bod y Gadair Farddas, o hyn allan, i fod yn rhydd: bod i bwyllgor pob cyfryw eisteddfod ryddid i gyhoeddi, yn ol ei ddewisiad, pa un ai awdl, ai pryddest, ai cerdd ddiodl, a wobrwyir ar y prif destyn. Ond gocheler amryfusedd Rhuddlan, i adael i'r beirdd ryddid i ganu ar yr un a fynont hwy; ond gosoder hwy bob amser i redeg yr yrfa ar yr un tir, ac wrth yr un deddfau. Wedi dywedyd ein rhan, a dangos ein meddwl fel yna, dyma ni yn terfynu.

GWELLIANT GWALLAU.

Diangodd rhai gwallau argraffyddol yn y gwaith hwn, y rhai y dymunir

TUDAL
14 yn lle 'r Sabeaid, dylai fod y Sabeaid.
16 " yn hawddgar, " yr hawddgar.
19 " ddirus " ddi rus.
21 " aruthro " ar ruthro.
23 " eu rhiant, " eu rhieint.
105 " gwenwyngi, " gwenwynig.
110 " ar y pren, " am y pren.
129 " a'u seintiau, " au seintiau
132 " i gyfod, " i gydfod.
136 " hen digoll, " ben digoll.
136 " â'i arddel, " â'i ardeb.
142 " dechreu'r gwaith, " dechreu gwaith.
143 " gwneyd gaethion, " gweryd gaethion.
144 " dwg hen Affrica, " drwy hen Affrica.
148 " duliaith, " Culaith.
151 " Lluniwch, " Llanwch.
161 " Iseni rydd, " Iseni sydd.
167 " Ynys yr Eden ydoedd, " Eden yr ynys ydoedd.
189 " mae odwy fawr, " mae adwy fawr.
233 " ei ddorau, " ei donau.
238 " pan giliau'r " pan giliai'r

Dodid dwy n weithiau yn lle un, megys ennyn, yn lle enyn, &c.; ac ambell waith, un yn lle dwy. Dodid dwy m weithiau yn lle un, megys cymmeriad, yn lle cymeriad, &c.—yr hyn a ddygwyddodd trwy fod yr argraffydd yn arfer orgraff wahanol i'r awdwr.

Gwel y craffus rai gwallau attalnodol hefyd.

CLWYD-WASG: DINBYCH, ARGRAFFWYD GAN T. GEE.

Nodiadau

[golygu]
  1. Y Chwyldroad yn Ffrainc.
  2. Enw cartref y bardd.
  3. "Gardd Eifion." Gwaith barddonol R. ab Gwilym Ddu, a gyhoeddwyd dan arolygiaeth Caledfryn.
  4. Cyfeiriad at Gywydd "Myfyrdod y bardd ar lan Dwyfach." Gwel "Gardd Eifion."
  5. Ar ei ddyfodiad i fyw i'r Monachdy bach, cyfarchodd y bardd ei drigle newydd yn yr englyn canlynol:

    "Ni allaf fyw yn holliach—am orig,
    Rhwng muriau hen fonach;
    A wnaeth Ion le gwrthunach?
    Och di byth, Fonachdy bach!"
  6. Enw cartref blaenorol y bardd.
  7. Gweinidog ieuanc enwog iawn, yn y Tŷ Gwyn, sir Gaerfyrddin, a fuasai farw ychydig flyneddoedd o flaen Mr. Wililiams.
  8. Sef y diweddar Barch. J. Breeze, o Gaerfyrddin.
  9. Yr argraffiad diweddar o holl weithiau y bardd, yn un gyfrol radlawn, gan Mr. R. O. Rees, Dolgellau.
  10. Sef y diweddar Roberts, o Lanbrynmair, a Jones, o Lansantsior.
  11. Yr oedd teulu y bardd wedi symmud o Chwibren Isa', i'r Rhydloew, yn nyddiau y cŵn a goffeir yma.
  12. Geneth fechan, chwech mlwydd oed, a gladdasom yn Heol Mostyn.
  13. Yn niwyg bwtler gŵr boneddig y diangodd "ei Sancteiddrwydd" o'r ddinas ar yr amgylchiad.
  14. Brenines Madagascar.
  15. Cyfansoddwyd yr Alawdraith ar gais y Parch. E. Stephens, Dwygyfylchi, yr hwn sydd yn cyfansoddi Alaw arni.
  16. "Parry's Royal Visits and Progresses to Wales;" td. 40.
  17. "Parry's Royal Visits;" td. 164, 165.
  18. Geilw Gilfillan ef, "y dysgedicaf a'r hynotaf o lenorion yr oes."
  19. "Parry's Royal Visits;" td. 4.
  20. "Parry's Royal Visits;" td. 162.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.