Caniadau John Morris-Jones/Fy Ngardd
Gwedd
← Y Wennol | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Rhieingerdd → |
FY NGARDD
Mae gennyf fi ryw geinaf ardd
Bereiddied byth a breuddwyd bardd;
Ni welwyd dan yr heulwen,
Er Eden, un mor hardd.
Mae lili'n gylch o amgylch hon,
A rhos sydd ynddi'n llwyni llon,
A mefus aeddfed hefyd
Mor hyfryd ger fy mron.
Dwy ffynnon welir, glir a glan,
Yn loyw 'mysg y lili man;
O'u goleu, pan eu gwelais,
Y cefais ysbryd cân.
A goelit hyn pe gwelit ti
Y geinaf ardd sy gennyf fi?
Dy ddrych a rydd it ateb
Dy wyneb ydyw hi.