Caniadau John Morris-Jones/Pa fodd, a mi'n fyw eto
Gwedd
| ← Pan fyddwyf yn y bore | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Mewn breuddwyd tywyll safaf → |
XV
Pa fodd, a mi'n fyw eto,
Y tawel gysgi di?
Daw'r hen ddigofaint ataf,
Fy iau a dorraf fi.
A glywaist am y bachgen
A ddaeth o'i fedd ryw dro
Am hanner nos i gyrchu
Ei gariad wen i'r gro?
Cred dithau, eneth fwynaf,
A'r eneth lana 'i phryd,
Mai byw wyf fi, a chryfach
Nag ydyw'r meirw i gyd.