Caniadau John Morris-Jones/Seren y Gogledd
Gwedd
← Yn y Cwch | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Ar Hyd y Nos → |
SEREN Y GOGLEDD
Fe grwydra llawer seren wen
Yn y ffurfafen fry;
Ac i bob seren trefnwyd rhod,
Ac yn ei rhod y try.
O amgylch rhyw un seren wen
Y trônt uwchben y byd;
Ym mhegwn nef mae honno 'nghrog,—
Diysgog yw o hyd.
Mae gennyf innau seren wen,
Yn fy ffurfafen i;
Holl sêr fy nef sydd yn eu cylch
Yn troi o'i hamgylch hi.