Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Y Wennol

Oddi ar Wicidestun
Cwyn y Gwynt Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Fy Ngardd

Y WENNOL

Mae 'nghariad fel y wennol,
Hed honno dros y don,
A gado'i hen gynefin
Sydd yn yr ynys hon;
Ond nid a'r wennol dros y lli
Heb ei hanwylyd gyda hi.

Gadawwyd finnau 'n unig,
A'm llygaid fyth a deifi
Ryw olwg ddwys hiraethus
Dros leision drumau'r Eifl;
Tu hwnt i'r rhain mae'r môr a'i li,
A thros y môr mae 'nghariad i.


Nodiadau

[golygu]