Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig/Adfywiad y Dadleuon Athrawiaethol
| ← Gwawr Amseroedd Gwell | Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig gan Thomas Jones-Humphreys |
Rhaniad y Dalaeth Gymreig → |
PENNOD IX.
Adfywhad y Dadleuon Athrawiaethol.
WEDI i'r Parchn. Owen Davies a Thomas Jones, Dinbych, ro'i heibio dadleu â'u gilydd ar yr Athrawiaethau, cafwyd ychydig o seibiant oddi-wrth y dadleuon fu yn cynhyrfu ac yn cyffroi yn ystod y deg mlynedd cyntaf o'n hanes fel Enwad yn Nghymru. Ond er i'r dadleuon drwy y wasg beidio i fesur mawr, eto gwneid ymosodiadau parhaus ar Arminiaeth gan brif bregethwyr y tri Enwad, a diameu fod Gweinidogion y Methodistiaid Wesleyaidd yn amddiffyn Arminiaeth ac yn ymosod ar Galfiniaeth yr un mor egniol, ond i fesur yn fwy llwyddianus. Yn ystod y blynyddoedd o 1812 hyd 1818, yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn dechreu anghydweled yn eu plith eu hunain gyd â golwg ar y Gyfundrefn Galfinaidd, ac nid hir y buont heb fyned i ddadleu â'u gilydd. Parhaodd y dadleuon am flynyddoedd lawer yn eu plith, a gorfu i uchel-Galfiniaeth ro'i ffordd i olygiadau eangach a mwy ysgrythyrol ar athrawiaethau mawrion crefydd ein Harglwydd Iesu Grist.
Yn y flwyddyn 1818 cyhoeddwyd pregeth gan y Parch. D. Rogers ar "Gyfiawnhad trwy Ffydd." Pwnc y bregeth ydyw "Mai ffydd ac nid cyfiawnder Crist yw y cyfiawnder ag y mae Duw yn ei gyfrif i'r hwn ag y mae yn ei gyfiawnhau." Yr oedd Mr. Rogers wedi efrydu ei bwnc yn drwyadl a'i ystyried yn ei holl gysylltiadau. Gofalai fod cynseiliau, ei ymresymiadau yn ffeithiau diymwad, ac o ganlyniad y casgliadau yn angenrheidrwydd y gwirionedd. Nid oes o fewn y bregeth gref hon gymaint ag un haeriad di-sail, a hyny am y gochela yr awdwr rhag ymresymu oddiar egwyddorion cyfeiliornus. Nid ydym yn gwybod i neb ymgymeryd ag ateb y bregeth hon—yn wir yr oedd yn anatebadwy. Bu Mr. Rogers cyn hyn yn amddiffyn yr Athrawiaeth Arminaidd, ac, hefyd, yn ymosod ar yr Athrawiaeth Galfinaidd. Yn yr Eurgrawn am 1813 ceir ei adolygiad ar bregeth Mr. G. Lewis, gynt o Lanuwchllyn. Darllena gwyneb-ddalen y llyfr a gynwysai bregeth Mr. Lewis (Dr. Lewis ar ol hyny) fel y canlyn—"Dyledswydd pawb a glywant yr Efengyl i gredu yn Nghrist, neu alwad gyffredinol yr Efengyl mewn cysondeb âg etholedigaeth bersonol, prynedigaeth neillduol, anallu dyn, a galwedigaeth effeithiol; mewn pregeth ar Ioan, Pen. xii. 36." Cynwysa adolygiad Mr. Rogers ar y bregeth hon saith of ysgrifau, yn y rhai yr â ar ol, Dr. Lewis i'w holl lochesfeydd, a gesyd hwy oll ar dân. Ac am y bregeth, llosgwyd hi yn lludw yn y tân y dodwyd hi ynddo i'w phrofi. Oddeutu yr un adeg ysgrifenodd adolygiad galluog a theg ar amryw erthyglau yn Ngeiriadur y Parch. Thomas Charles, A.C., o'r Bala. Ond credwn nad ysgrifenodd ddim yn fwy galluog na'i bregeth ar gyfiawnhad.
Yr un flwyddyn, sef 1818, cyhoeddodd y Parch. Samuel Davies, y 1af, ei bregeth fawr ar "Crist wedi marw dros bawb." Achlysur traddodiad a chyhoeddiad y bregeth hon oedd fel y canlyn—Pan oedd Mr. Davies yn gweinidogaethu ar Gylchdaith Treffynnon, bu llwyddiant mawr ar yr achos. Ac o herwydd rhyw resymau neu gilydd, ail ddechreuwyd ymosod o ddifrif ar olygiadau Athrawiaethol y Wesleyaid gan uchel-Galfiniaid y wlad, a chyhuddid hwy o fod yn coleddu y syniadau mwyaf gwrthun ac an-ysgrythyrol, a phriodolid iddynt fwriadau isel ac anheilwng. Nis gallasai Mr. Davies oddef hyn, ac felly cyhoeddodd yn Nhreffynnon, y byddai iddo ar nos Sabboth penodol bregethu yn Nghapel Penydref ar "Crist wedi marw dros bawb." Achosodd y cyhoeddiad gynhwrf mawr, a bygythid y cymerai terfysg le os cerid y bwriad allan. Felly, pan ddaeth yr adeg, yr oedd y cyfeillion wedi gwneyd trefniadau i gadw trefn yn, ac o amgylch y Capel. Daeth cynulleidfa anferth yn nghyd, a chafodd y pregethwr amser bendigedig. Ar derfyn yr odfa cyhoeddodd ei fod yn "penderfynu traddodi y bregeth hono ar bob Croes Farchnad yn Sir Fflint, os byddai i'r Calfiniaid i barhau i gamliwio golygiadau Athrawiaethol y Wesleyaid. Aeth sôn am y bregeth hon trwy yr holl wlad, a phenderfynwyd gofyn i Mr. Davies ei thraddodi drachefn ar "Ochr Foel y Parc," lle ar derfyn Siroedd Dinbych a Fflint, rhwng Caerwys ac Ysgeifiog. Ar yr adeg benodedig ymgasglodd miloedd yn nghyd i'r llanerch neillduedig. Wedi darllen a gweddïo a chanu drosodd a throsodd drachefn—
"Dros bawb croeshoeliwyd Arglwydd Nef,
Dros bawb, dros bawb bu farw Ef."
Darllenodd Mr. Davies ei destyn "Ac efe a fu farw dros bawb," 2 Cor. v. 15, ac am yn agos i ddwy awr pregethodd gyd â nerth a gwroldeb un yn argyhoeddedig ei fod yn mynegu y gwirionedd, a chyd â dylanwad mawr. Gwrandawyd arno yn astud gan y dyrfa luosog—yn Galfiniaid yn ogystal ag yn Wesleyaid. Adroddai Mr. John Evans (Ioan Tachwedd) gyd â phleser, ei fod ef yn dychwelyd o'r mynydd ar ol yr odfa gyd â "lot o Galfiniaid," pan ddarfu i un o'r dynion galluocaf o honynt, sefyll ar y ffordd, codi i fyny ei law ddeau, a'i tharaw yn erbyn ei law aswy, a dywedyd yn benderfynol fel un wedi ei lwyr orchfygu—"Waeth tewi, mae y Beibl o'u plaid." Ond nid tewi a wnaeth pawb; eithr yn hytrach aeth yn fwy o ddadleu nag erioed, a hyny rhwng pawb o bob dosbarth. Mewn canlyniad cyhoeddwyd y bregeth yn llyfr yn 1818, ac erys ei dylanwad hyd heddyw er daioni ar lawer.
Wedi cyhoeddiad y bregeth, penderfynodd y blaid wrthwynebol ddyfod allan i amddiffyn eu safle, ac i ymosod ar yr Athrawiaethau Wesleyaidd, ac yn enwedig ar bregeth Mr. Davies. Yn ei ragymadrodd i'w lyfr a elwir Calfiniaeth yn cael ei dadlenu," &c., dywed fel y canlyn—" Ar ol hyn (sef wedi iddo gyhoeddi ei bregeth) dechreuodd y Calfiniaid i ymgynhyrfu yn aruthrol, a chan ofni y buasai eu dychymygion disail, a'u hamcan-dybiau (hypothises) gwarthaidd yn syrthio o flaen y gwirionedd gloyw-lym, fel Dagon o flaen yr arch; hwy yn ddioed a ymruthrasant i'r frwydr, a chan ymddadweinio eu harfau, a bytheirio melldithion yn enw Arglwydd Dduw byddinoedd Israel (fel blaen-brawf tebygaf i'r hyn sydd i'w ddisgwyl), hwy a gyhoeddasant ddau lyfr nodedig, y naill yn erbyn holl Athrawiaethau y Wesleyaid yn ddiwahan, a'r llall yn fwy uniongyrchol yn erbyn fy mhregeth i. Y cyntaf a ysgrifenwyd gan 'Hen Finer,' a'r diweddaf gan ŵr o'r enw Evan Evans." Gyda fod pregeth y Parch. Samuel Davies wedi ei chyhoeddi, cyhoeddwyd "Ymddiddanion rhwng Thomas y Collier a Dafydd y Miner, yn y flwyddyn 1818, yn nghylch amryw bynciau y Grefydd Gristionogol. Wedi eu hysgrifenu er Addysg Proffeswyr Ieuainc ac eraill. Gan Hen Finer. Trefriw: Argraffwyd gan Samuel Williams." Pwy bynag oedd yr "Hen Finer," ysgrifenai yn ddigon rhwydd. Ond y drwg oedd, mai nid yn erbyn Arminiaeth Efengylaidd y Wesleyaid yr ysgrifenai, ond yn erbyn rhyw Arminiaeth o'i ddychymyg ei hun. Nid oedd wedi ymgydnabyddu, medd Dr. Owen Thomas, âg ysgrifeniadau yr Awdwyr galluocaf ar y testynau dan sylw ganddo. Ac ni feddai ond ychydig o allu i fyned i mewn gyd âg un manylder i ystyr yr ysgrythyrau a ddifynid ganddo er ceisio gwrth-brofi y syniadau yr ysgrifenai yn eu herbyn.
Yn y flwyddyn 1819 cyhoeddwyd atebiad i'r llyfr hwn. dan yr enw "Amddiffynwr y gwir; yn yr hwn y dangosir oferedd ymddiddanion y Collier a'r Miner, ac mor afresymol ac anysgrythyrol yw yr athrawiaethau ag y maent hwy o'u plaid." Awdwr y llyfr hwn oedd y Parch. Edward Jones, Llandysilio. Deallai Mr. Jones Galfiniaeth yn dda, a bu agos iddi fod yn foddion i ro'i terfyn ar ei fywyd pan y cofleidiai hi. Yr oedd y Calfiniaid yn gryn elynion iddo, a hyny am ei fod yn gallu llwyddo mor effeithiol i ddangos yr Athrawiaethau Calfinaidd mor ofnadwy arswydus yn eu canlyniadau rhesymegol. Medrai ysgrifenu yn ddoniol a ffraeth, ac mewn dull digwmpas darluniai Galfiniaeth yn ei lliw priodol ei hun. Nid ydym yn tybio y gallwn roddi gwell darluniad o hono fel dadleuydd na'r un a nodir gan y Parch. Samuel Davies yn Nghofiant y Parch. Samuel Davies, 1af. Buasai yn ddifyr genym, er mwyn ein darllenwyr ieuainc ag y mae dull yr hen bobl o ddadleu yn myned yn ddyeithr iddynt, osod gerbron amryw bigion o'r llyfryn hwn. Ni roddwn, modd bynag, ond un engraifft. Cyfiawnder cyfrifol ydyw pwnc yr ymddiddan sydd dan sylw, lle y mae Thomas yn dywedyd—
"Beth a feddyliet ti am y bobl yma pan ddelont i farw? Mae arnaf ofn y bydd llawer o honynt heb y wisg briodas." "Felly finau," meddai Dafydd.
"Beth! ofn y bydd y dynion sydd yn credu yn Nghrist a ffydd Abraham, ac yn rhodio yn llwybrau y ffydd hono hyd farw, heb y wisg briodas yn y diwedd!! Ond y mae hwn, fel pob peth sydd yn perthyn i Galfiniaeth, yn ddisail. A dywedyd y gwir, y mae ef yn beth hollol afresymol clywed Calfin yn dyweyd fod arno ef ofn bod neb yn golledig, oblegid os dywed fod arno ofn i'r etholedig fod yn golledig, dyna fe yn gwadu sicrwydd yr hyn a eilw yn gyfamod tragywyddol. Ac os dywed fod arno ofn i'r gwrthodedig fod yn golledig, dyna fe yn dangos ei fod yn anfoddlon i'r hyn a eilw yn arfaeth foreu. Ac yn wir, ni welwn i yn fy myw fod gan Galfin ddim i'w ofni ond ei athrawiaeth ei hun, neu yn hytrach ddim i'w ofni yn fwy na hono; ond y mae ganddo bob peth i'w ofni tra byddo yn credu hono. Y gwir ydyw hyn, fod yn rhaid i bob un, tra byddo yn credu Calfiniaeth, syrthio naill ai i ryfyg ai i anobaith. Os meddylia ei fod ef wedi ei ethol, RHYFYG yw hyny, canys nis gall ei wybod; tudalen 18. Os meddylia nad ydyw, fe syrth i anobaith; a deg cant i un na ladd efe ei hun. Ac nid wyf yn ameu nad oes llawer yn Nghymru yn dystion byw eu bod yn adnabod rhai a wnaeth hyn. A bydded hyn yn hysbys i'r holl fyd, y buaswn i yn uffern cyn bod yn ddeunaw oed, oni buasai i mi gael cymhorth gan Dduw i gredu mai celwydd oedd Calfiniaeth." Mewn ffordd fel yna y mae y Collier a'r Miner yn cael eu trin gan Mr. Jones drwy gorff y llyfryn.
Yn y flwyddyn 1819 cyhoeddwyd Prynedigaeth neillduol, neu Grist yn rhoi ei hun dros yr Eglwys, lle y cadarnheir yr Athrawiaeth, ac y gwrthbrofir yr holl resymau a arferir yn ei herbyn mewn pregeth a gyhoeddodd Mr. Samuel Davies ar Brynedigaeth Gyffredinol." Enw Mr. Evan Evans (Ieuan Glangeirionydd) sydd wrth y llyfr hwn. Ond y mae cryn amheuaeth ar gwestiwn ei awdwraeth. Y dybiaeth yw iddo gael ei gyhoeddi gan y Parchn. John Elias, o Fôn, a John Parry, Caer, ac na wnaeth Ieuan Glangeirionydd ddim ond ei barotoi i'r wasg a'i gyhoeddi fel llyfr o'i eiddo ei hun. Cymerai Mr. Elias arno fod Arminiaeth is-law ei sylw ef, ac eto ergydiai ati byth a hefyd o'r pwlpud. Ac am Mr. Parry, nid oedd ef wedi anghofio y driniaeth a gafodd yn sylwadau Mr. Games ar ei "Ddrychau Cywir," ac ni fuasai yn hoffi cael triniaeth gyffelyb drachefn. Ac felly dewisodd y ddau ddyfod allan i ymosod ar Bregeth Mr. Davies, yn nghysgod y bardd a'r llenor ieuanc. Yn fuan wedi i Ieuan Glangeirionydd adael Caer, a hyny yn y flwyddyn 1820, gofynodd Mrs. Bartley, Bydrochwyn, iddo, "Wel, beth yw eich barn yn awr ar bwnc yr hen ddadl?" Atebodd, yn ei ddull rhydd ac agored, "Wel, yn wir, mi gefais fy ngorchfygu yn lân gan Mr. Davies. Yr wyf fi yn credu yn Nghyffredinolrwydd yr lawn, ac nid oedd genyf fi ddim i wneyd a'r achos ond fel twlsyn yn nwylaw rhai eraill." Gadawn i'r darllenydd gasglu, pwy oedd y rhai eraill hyny. Yn nechreu y flwyddyn 1820, cyhoeddodd y Parch. Samuel Davies "Calfiniaeth yn cael ei dadlenu, a'r gwirionedd ei amddiffyn, lle y gwrthbrofir yr holl ffug—resymau a arferir o blaid Prynedigaeth neillduol mewn llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Evan Evans, ac y cadarnheir Cyffredinolrwydd y Prynedigaeth, trwy resymau ac Ysgrythyrau anwadadwy, gan Samuel Davies. Caernarfon: Argraffwyd gan J. Hulme."
Profodd Mr. Davies yn y llyfr hwn ei fod yn Dduwinydd uniongred yn ol Gair Duw—Yr oedd efe yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yr oedd mîn ei resymeg yn ddeifiol i'r eithaf. Difynwn adran neu ddwy o lyfr Mr. Davies, er mwyn i'r darllenydd gael engreifftiau o'i arddull o amddiffyn ei safle, ac ymosod ar ei wrthwynebwyr. Ar y tudalenau 34 a 35 ceir y feirniadaeth lem a ganlyn—
"Ei ail reswm sydd yn rhedeg fel hyn, Tros y rhai y bu Crist farw, bu farw yn eu lle a throstynt fel eu Meichniydd i dalu eu dyled, ac os felly, pwy a'u gofyn mwy. Mae y rheswm hwn yn drylawn o Antinomiaeth ddigymysg, ac yn arwain yn syth i benrhyddid echrydus. Os talodd Crist ein dyled yn yr ystyr Galfinaidd, yna, nid yw edifeirwch, na ffydd, nac ufudd-dod efengylaidd, yn ofynedig oddiwrthym mwy. A oes caniatâd i'r etholedigion uchel-freiniog i wneyd fel y mynont? Oes, medd E. E., er iddynt odinebu, a llofruddio, a thyngu, a rhegu, a chribddeilio, a gwaeuthur pob aflendid, plant anwyl ydynt o hyd; y maent yn sicr o fwynhau bendithion y cyfamod; a phwy a'u gofyn mwy? Gwarchod pawb rhag y fath gabledd ofnadwy! Ond y mae E. E. yn chwanegu, Pe meddyliem,' ebai ef, 'am ddrwg-weithredwr wedi ei gondemnio i farw yn ein teyrnas ni, ac i fab i'r brenin ei hun feichnio dros yr adyn hwnw i farw yn ei le, i ddyoddef y gosp ddyledus am ei drosedd, ai tybed y rhoddid y drwg-weithredwr hwnw i farwolaeth wedi i fab y brenin farw yn ei le er mwyn iddo gael byw? Na, ni fyddai dynion mor anghyfiawn a hyny, a sicr yw na bydd Duw chwaith.' Felly, pe byddai i'r adyn hwn, ar ol iddo gael estyniad o'i oes, i ail droseddu y gyfraith, i ladd dyn, neu gant o ddynion, mewn gwaed oer, fe fyddai yn anghyfiawnder i'w gospi; wnai neb dynion mo hyny, nid ydynt mor anghyfiawn! Felly yn uniawnwedd gyda'r etholedigion, gan fod eu Meichniydd wedi marw yn eu lle, y mae caniatâd iddynt i wneyd fel y mynont; gallant dyngu, a rhegu, lladd, a godinebu, meddwi a gwneuthur pob ffieidd—dra; nis gelwir hwynt i gyfrif, ni bydd Duw, medd E. E., mor anghyfiawn a'u cospi, gan fod ei Fab wedi dyoddef y gosp ddyledus am eu trosedd. * * Mae y rheswm hwn yn eglur a phenderfynol yn profi fod Calfiniaeth ac Antinomiaeth yn ddwy law-forwyn lled serchog, a'u bod yn canlyn eu gilydd yn o agos; ond nad yw yn eglur a phenderfynol yn profi gwirionedd yr athrawiaethau uchod sydd yn dra eglur, tybygaf, i'r darllenydd mwyaf anneallus. Ond y mae gan E. E. amryw o resymau eto; gan hyny, prysuraf i'w hystyried."
Mor gryf ac eglur y llefara. Teimla o hyd ei fod yn sefyll ar graig gadarn gwirionedd, a bod yr Ysgrythyr o'i blaid. Difynwn engraifft arall o'r tudalenau 65 a 66.
"Wrth sylwi ar fy negfed rheswm, E. E. a ddywed, Nid wyf yn deall mai fod Crist wedi marw dros bawb sydd yn cymhell gwir weinidogion y gair i bregethu'r efengyl i bawb, ond yn hytrach ofn yr Arglwydd. Oddí. yma ni a ganfyddwn fod E. E. yn addef fod gwir weinidogion y gair yn cael eu cymhell i bregethu'r efengyl i bawb. Gwrandawer yn awr pa fodd y maent i'w phregethu hi. Medd E. E., Dyledswydd pregethwyr yw gosod Crist allan yn ol tystiolaeth yr efengyl am dano,—"Mae efe yw yr unig Gyfryngwr, nad oes iachawdwriaeth yn neb arall,' &c Yn mlaen eto, efe a ddywed, 'Dyledswydd gweinidogion y gair yw galw pechaduriaid yn gyffredinol, a chyhoeddi Crist iddynt fel yr unig Geidwad. Dyma eto brawf fod E. E. yn credu mai dyledswydd gwir weinidogion y gair ydyw cyhoeddi Crist i bechaduriaid yn gyffredinol, a hyny fel eu hunig Geidwad. Atolwg, Ai ydyw yn alluadwy i Grist fod yn Geidwad i bechaduriaid yn gyffredinol, heb iddo farw dros bechaduriaid yn gyffredinol?z Onid yw y Calfiniaid wrth bregethu fel hyn yn pregethu cyfeiliornad, os na bu Crist farw ond dros rai? Ac a feiddía E. E. ddywedyd mai ofn yr ARGLWYDD sydd yn eu cymhell i wneuthur felly? Os felly, fe gasgla pob dyn rhesymol fod ofn yr Arglwydd yn cymhell dynion i gyhoeddi cyfeiliornadau, ac i bregethu celwydd!!! Yn mlaen eto y mae E. E. yn dywedyd mai gorchymyn Duw yw sail pregethwyr i bregethu yr efengyl i bob creadur, sef i bob math o bechaduriaid (Marc xvi, 15); ac nid am fod Crist wedi marw dros bawb, canys nid hyn oedd sail yr apostolion, na neb o wir weinidogion y gair, i bregethu yr Efengyl.' Aroswch bellach, syr, i gymeryd eich gwynt am ychydig. Onid marwolaeth Crist yw yr achos haeddianol o roddiad yr efengyl a'i phregethiad? A fuasai efengyl i'w chael i un dyn heb i Grist farw drosto? Ac onid yw yn eithaf afresymol i bregethu yr efengyl i bawb, os na bu Crist farw dros bawb, ac felly wedi dwyn y bendithion a gymwysir yn yr efengyl o fewn cyraedd pawb? Os na ddarfu i Grist wneuthur hyn, onid ydoedd yn gorchymyn i'w apostolion i bregethu anwiredd i ryw gyfran o'u gwrandawyr?"
Eto, ar y tudalen 67 ceir y paragraph grymus ac argyhoeddiadol a ganlyn—
Ychydig yn mlaen y mae E. E. yn ceisio rheswm dros paham geilw y Calfiniaid ar bechaduriaid yn gyffredinol, a phaham y maent yn cyhoeddi Crist iddynt fel eu hunig Geidwad, sef am na wyddant pwy a etholwyd nac a brynwyd, ac ni roddwyd gwybod hyn chwaith i'r Apostolion, medd E. E. Os felly y mae, pa fodd y daeth ef i wybod na phrynwyd pawb, gan na wyr efe pwy a brynwyd. Pa fodd y meiddia ddyweyd yn ei anwybodaeth na phrynwyd ond rhai? Gall hefyd eu bod oll wedi eu geni ac wedi marw er's talm (nis gwyr E. E. a'i frodyr i'r gwrthwyneb), neu, na enir yr un o honynt tan yr oes nesaf. O athrawiaeth erchyll, dlawd, ac ofnadwy! Ar ol y cyfaddefiad synwyr—gall uchod, y mae E. E. yn lled ymffrostgar yn gwaeddi, Yn awr, gan bwy y mae'r sail oreu i alw dynion i edifeirwch, barned y darllenydd. Boddlon fi. Doed pob darllenydd a phob gwrandawydd hefyd i'r farn, a boed i bawb farnu yn ol y clywer gan y tystion, sef E. E. ar un tu, o blaid anwybodaeth; a St. Paul yn ei erbyn, o blaid sicrwydd dadguddiedig. Medd E. E., 'Ni roddwyd gwybod hyn, sef, pwy a etholwyd, i'r apostolion.' Ond beth a ddywed St. Paul?—Gan wybod, FRODYR anwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.' Clywch eto beth a ddywed y tyst Calfinaidd, Ni roddwyd gwybod hyn, sef pwy a brynwyd i'r apostolion.' Ond clywed pob calon beth a ddywed y tyst apostolaidd ar hyn; Yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth dros BAWB!!' Yn awr gofynaf finau, Pa un ai gan y Wesleyaid, y rhai ydynt o'r un farn a Phaul, neu gan y Calfiniaid anwybodus, y mae y sail oreu i alw dynion i edifeirwch? Rhyfedd mor debyg i'r Pabyddion ydyw'r Calfiniaid o blaid anwybodaeth! Dywed y Pab mai anwybodaeth yw mamaeth duwioldeb, a dywed y Calfiniaid, er eu gwarth, mai anwybodaeth yw sail eu pregethu. Na fynegwch hyn yn Gath, ac na chyhoeddwch ef yn heolydd Askelon.'" !!! .
Gwnaeth y llyfr hwn ei waith yn effeithiol, ac ni chyhoeddwyd yr un atebiad uniongyrchol iddo, a hyny yn ddiameu am y teimlid ei fod yn anatebadwy. Ar ol cyhoeddiad y llyfr hwn diflanodd uchel—Galfiniaeth o bwlpudau Cymru i raddau helaeth iawn, a phrawf o hyn ydyw fod y Calfiniaid wedi myned i ddadleu a'u gilydd ar yr athrawiaeth. .C Yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd Calfiniaeth yn cael ei dadlenu," &c., dygwyd allan "Amddiffyniad i'r Athrawiaeth Ysgrythyrol o Brynedigaeth neillduol, yn cael ei gosod allan a'i chadarnhau mewn pedair o bregethau a bregethwyd yn Lime Street, Llundain, gan y Parch. John Hurrion, un o weinidogion yr Ymneillduwyr, yn nghyd å byr hanes o fywyd yr Awdwr. Wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Evan Evans. Trefriw: Argraffwyd gan J. Jones, 1820.' Am y llyfr hwn dywed y Parch. O. Thomas, D.D., fel y canlyn:—
"Ar anogaeth y Parch John Elias yr ymgymerodd Mr. Evan Evans a chyfieithu a chyhoeddi y pregethau hyn, yn hytrach na dwyn allan atebiad o'i eiddo ei hun i lyfr Mr. Davies, ac felly fe ysgrifenwyd rhagymadrodd byr iddynt gan Mr. Elias. Yr oedd y rhagymadrodd hwn yn amlwg yn cael ei fwriadu nid yn unig yn erbyn y syniadau Arminaidd ar brynedigaeth, a amddiffynid gan y Wesleyaid, ond hefyd, ac yn arbenig yn erbyn y golygiadau eang ar Ddibenion Marwolaeth Crist,—y dadleuid drostynt erbyn hyn yn Nghymru gan liaws a gydnabyddid yn Galfiniaid, ac y mae yr awdwr ynddo, yn ol ei arfer, yn defnyddio faith gref, mewn tôn braidd yn anffaeledig, i osod allan ei olygiadau ei hunan ar y pwnc, ac er condemnio y rhai a wahaniaethant oddiwrtho. Anaml braidd y gwelsom, mewn cyn lleied cylch, awgrymiadau mwy anfrawdol nag a geir yma: nid ydym yn synu iddo, trwy y rhagymadrodd hwn, lwyddo mwy i ddolurio teimladau dynion da o olygiadau gwahanol, nag a wnaeth i gadarnhau eraill ynddo, heb son am enill neb o'r newydd drosodd, i'w syniadau ei hun."
Ar ol hyn cyhoeddwyd "Llythyr at y Parchedig John Elias, yn cynwys sylwadau ar ei ragymadrodd i bregethau y diweddar Mr. Hurrion ar Brynedigaeth. Gan John Griffiths, o Dinbych;" a chyhoeddwyd atebiad iddo gan Edward Roberts, o'r Berthengron. Yr oedd John Griffiths yn Wesleyad selog ac yn bregethwr cynorthwyol, a phrawf ei lythyr at Mr. Elias ei fod yn deall Arminiaeth yn dda, ac yn hyddysg iawn yn yr Athrawiaethau Calfinaidd. Cyhoeddodd y Parch. William Evans hefyd yn y flwyddyn 1822 Ymddiffynwr y Gwir," &c. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn pwyllog, yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ymresymwr cryf, a gwnaeth wasanaeth fawr trwy gyhoeddi y llyfr hwn. Dengys yn eglur beth yw y gwahaniaeth rhwng Arminiaeth a Chalfiniaeth. Ni ddigwyddodd i ni weled yr un atebiad iddo.
O hyn allan cyfyngwyd y ddadl i'r cylchgronau, megys "Yr Eurgrawn Wesleyaidd," "Goleuad Cymry," Seren Gomer," ac yn enwedig y "Dysgedydd Crefyddol." Mae ysgrifau "Sion y Wesley" yn y cyfnod o'r 1824 hyd 1833, yn deilwng iawn o ystyriaeth, ac ymddengys ei fod ef ei hun yn ddigon i gyfarfod â holl wrthwynebwyr Arminiaeth.
Yn y flwyddyn 1830 cyhoeddwyd y "Lladmerydd, yn cynwys sylwadau eglurhaol ar Dabl (os gwir a glywais) gan y diweddar Dr. Gill, yn dangos trefn yr achosion o Iachawdwriaeth Damnedigaeth yn ol gair Duw." Awdwr Y Lladmerydd" oedd y Parch. Edward Jones, Llandysilio. Bu cyhoeddiad y llyfr hwn yn achos o gyffro mawr yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, a chyd âg ef dygwyd y "dadleuon athrawiaethol" i derfyniad. Nid atebodd neb y "Lladmerydd," oblegid gwelwyd yn eglur mai tawi oedd oreu. Ond fe gyhoeddodd Mr. Edward Jones, o Faesyplwm, gân athrodol iddo dan yr enw "Gwialen i gefn yr ynfyd." Credwn nad oes yn yr iaith Gymraeg yr un engraifft gyffelyb i hon o "Athrod tafod-ddrwg." Pe buasai yr hen fardd wedi cael benthyg holl ddoniau ellyllon y pydew du i ddifrio ac athrodi, mae yn amheus genym a allasai cynyrchu dim aflanach na ffieiddiach na'r gân hon. Ceisiodd Dr. Owen Thomas amddiffyn Edward Jones, o Faesyplwm, am gyfansoddi y fath gân i Edward Jones, Llandysilio, ond talodd Dr. W. Davies y pwyth hyd adref iddo yn yr "Eurgrawn' am 1871, tudalen 332. Mae'r gân hon yn rhy aflan genym i gymaint a difynu llinello honi. Alan, aflan yw, a dylid cilio oddi wrthi fel oddiwrth y gwahanglwyf. Da genym i deulu y Bardd ei hystyried yn rhy aflan i'w chyhoeddi i ganlyn ei Weithiau, a pharchwn eu synwyr a'u chwaeth am hyny. Gwnaeth Dr. Owen Thomas gam dybryd a'r hen ddadleuwyr Wesleyaidd, yn ei adolygiad ar y dadleuon yn Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn. Ond beirniadwyd ef yn dêég a phwyllog mewn cyfres o ysgrifau gan y diweddar Dr. W. Davies, yn Yr Eurgrawn 1871, dan yr enw "Wettyn, Min-y-wendon." Ystyriwn yr ysgrifau hyn y rhai galluocaf o'u natur a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. Y fath feistrolaeth feirniadol ganfyddir yn mhob cyfresymiad, a'r fath sŵn dymchweliad byrddau a glywir yn mhob paragraph. Myned ein darllenwyr, os yn bosibl, hamdden a chyfleustra i ddarllen yr ysgrifau hyn o eiddo Dr. Davies drostynt eu hunain.
Fel y dywedwyd, rhoddodd cyhoeddiad y "Lladmerydd" derfyn ar y dadleuon-ni fu ar ol hyny ond rhyw fân ysgarmesoedd yma a thraw. O hyny hyd yn awr enillodd yr athrawiaeth Arminaidd dir lawer, ac nis gall y Wesleyaid amgen na llawenychu, am fod yr athrawiaethau a gredir ganddynt yn cael eu derbyn heddyw bron yn gyffredinol gan bob cangen efengylaidd o Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist.
