Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig/Cyfnod o Ad-weithiad a Digalondid
| ← Rhaniad y Dalaeth Gymreig | Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig gan Thomas Jones-Humphreys |
Amseroedd Enbyd—Terfysgoedd ac Ymrwygiadau → |
PENNOD XI.
Cyfnod o Ad-weithiad a Digalondid.
(O 1841 hyd 1849).
AR ol tymhor o lwyddiant mawr am ddeg mlynedd, ac eithrio y lleihad o 287 yn y blynyddoedd 1836 a 1837, dechreuodd y llanw gilio drachefn, a pharhaodd i dreio am wyth mlynedd yn olynol. Mae yn anhawdd cyfrif am y cyfnodau hyn o lwyddiant ac aflwyddiant yn hanes yr eglwys, ac eto safant fel ffeithiau ger ein bron. Cynhaliwyd Cynhadledd 1842 yn Llundain, o dan lywyddiaeth Dr. Hannah. Ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Amlwch, a gwnaed hyny trwy ranu Cylchdaith Beaumaris yn ddwy. Cyn hyn yr oedd holl Ynys Môn yn un gylchdaith. Ni bu yr un gweinidog farw yn ystod y flwyddyn hon; ond ymneillduodd y Parch. William Hughes i restr yr uwchrifiad. Bu cynydd o un yn rhif y gweinidogion trwy i ddau o'r newydd gael eu galw i'r weinidogaeth, sef yn
1. RICHARD HUGHES, o'r Braich, Tregarth, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn ŵr ieuanc o dalentau disglaer iawn, ac yn bregethwr galluog. Collodd ci iechyd, a gorfu iddo adael y gwaith yn 1845. Parhaodd i nychu hyd Mehefin, 1847; yna canodd yn iach â "byd y cystudd mawr," a hedodd "ar aden gref rhyw angel mwyn i'r hyfryd wlad hono lle na chlywir ganddo byth yr hen gwyn claf ydwyf."" Bu farw yn y Braich, Tregarth, Mehefin 20, 1847, yn 27ain mlwydd oed, a'r bumed o'i weinidogaeth.
2. THOMAS HUGHES, 2il, o Langynog, Sir Drefaldwyn. Acth drosodd i'r gwaith Seisnig yn 1846. Yr oedd yn bregethwr uwchraddol, ac yn awdwr galluog a chynyrchiol. Bu farw yn Morton, Ionawr 31, 1884, yn 69 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 42 o flynyddoedd.
Bu y flwyddyn 1843 yn un neillduol ar gyfrif y nifer o weinidogion aethant yn uwchrifiaid, ac felly o ganlyniad i ryw fesur ar gyfrif y nifer a alwyd allan i'r gwaith. Y rhai a aethant yn uwchrifiaid oeddynt y Parchn. William Batten, David Evans, 2il, Hugh Hughes a Thomas Thomas. Llanwodd Mr. Batten y swydd o Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru am bum' mlynedd, a Mr. Hugh Hughes yr un swydd yn y Dalaeth Ddeheuol am bedair-blynedd-ar-ddeg. Yn Nghynadledd y flwyddyn hon penodwyd y Parch. John Davies yn Gadeirydd "Yr Ail Dalaeth Ddeheuol," a galwyd allan bump o wyr ieuainc hynod o addawol i waith y weinidogaeth. Yn
1. SAMUEL DAVIES, o Dinbych. Ni bu yn ein gweinidogaeth erioed ŵr mwy teilwng na Mr. S. Davies. Ymgysegrodd yn llwyr i'r gwaith, ac aeth trwy holl gylchoedd swyddogaethau y Dalaeth, a gosododd urddas arnynt oll. Cododd i sylw ar unwaith fel pregethwr. Ei nodweddion amlycaf fel pregethwr oeddynt: difrifoldeb, maethlonrwydd, ac urddas. Bu yn Ysgrifenydd Cyllidol y Dalaeth Ogleddol am wyth mlynedd, sef o 1858 hyd 1865. Yn Nghynadledd 1865 penodwyd ef yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a bu yn y swydd am un-mlynedd-ar-hugain, y tymor hwyaf i unrhyw un fod yn gadeirydd yn y gwaith Cymreig. Bu yn Olygydd "Yr Eurgrawn" ac yn Oruchwyliwr y llyfrfa am ddau dymor, a llwyddai y llyfrfa dan ei ofal manwl a'i ymroddiad di-ildio. Etholwyd ef yn un o'r cant cyfreithiol yn y flwyddyn 1875. Cafodd ei ethol hefyd yn un o Lywyddion Prifysgol Gogledd Cymru ar ei sefydliad yn Mangor, a bu o wasanaeth fawr yn y cylch hwnw. Yr oedd yn llenor coeth, ac yn gofiantydd dihafal. Bu farw yn Amlwch, Mehefin 7, 1891, yn 73 mlwydd oed, ac yn yr 48ain o'i weinidogaeth.
2. WILLIAM DAVIES, D.D., o Aberystwyth, Sir Aberteifi. Efallai, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, mai Dr. Davies oedd y dyn cyflawnaf a fu erioed yn ngwaith ein gweinidogaeth yn Nghymru. Yr oedd yn bregethwr coeth, eglur, swynol, a chaniadlais ryfeddol. Ni welodd Cymru erioed lenor mwy chwaethus. Meddai y fath lywodraeth dros iaith fel ag yr oedd ei holl gyfoeth a'i hadnoddau at ei wasanaeth yn ol ei ewyllys. Ni bu ei hafal fel dadleuydd fel y cafodd pob un fu yn mesur donia ag ef yn y maes hwn deimlo. Yr oedd yn feirniad yn ol y safonau uchaf fel bardd, cerddor, a llenor. Safodd ar y tŵr i amddiffyn ei enwad mewn amserau enbyd, a llwyddai yn effeithiol i ddistewi magnelau yr ymosodwyr a'u gwisgo â chywilydd a gwarth. Saif ei Euriadur Ysgrythyrol mhlith trysorau llenyddol penaf y genedl ar gyfrif yr ymdriniaeth uwchraddol a geir ynddo ar athrawiaethau mawrion crefydd a phurdeb clasurol yr iaith. Ni wyddom am yr un llyfr Cymreig a'i iaith yn fwy pur a chlasurol na hwn. Dylai fod yn destyn-lyfr i bob efrydydd Cymreig pe ar gyfrif dim ond clasurolder ei iaith. Llanwodd Dr. Davies y swydd o Ysgrifenydd y Dalaeth am dymor, a bu yn Olygydd "Yr Eurgrawn" a'r "Winllan," ac yn Oruchwylydd y llyfrfa. Bu farw yn Bangor, Awst 13, 1875, yn 55 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 32 o flynyddoedd.
3. JOHN JONES, 3ydd, o Llantrisant, Sir Forganwg. Fel pregethwr yr oedd yn drefnus, clir, ysgrythyrol, ac addysgiadol, ac yn gymaint a'i fod yn meddu ar ystorfa lawn ac amrywiol o ddefnyddiau, eglurai y gwirioneddau a bregethai gyd â chymhariaethau tarawgar, nes eu gwneyd yn ddyddorol ac eglur i'r gwrandawyr. Yr oedd yn llenor, ac yn awdwr amrai lyfrau hanesiol. Bu yn Olygydd Yr Eurgrawn" yn y blynyddoedd 1849-1851. Bu farw yn Nghaerdydd, Mawrth 13, 1869, yn yr 51ain o'i oed, a'r 2бain o'i weinidogaeth.
4. WILLIAM JONES, o Mochdre, Sir Ddinbych. Erys Mr. Jones hyd y dydd heddyw. Efe yw y gweinidog hynaf sydd yn y gwaith Cymreig, a pharha i deimlo cymaint o ddyddordeb ag erioed yn yr achos.
5. EBENEZER MORGAN, o Felinygraig, Cwmbrwyno, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn ddyn siriol a gweithgar, ac yn bregethwr dyddorol a phoblogaidd. Yr oedd hefyd yn awdwr amrai lyfrau da a buddiol. Bu farw yn Manchester, Mawrth 12, 1871, yn 53ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 28ain o flynyddoedd.
Ychwanegwyd un gylchdaith newydd, sef Bangor, trwy ranu cylchdaith eang Caernarfon yn ddwy. Nid oes dim neillduol iawn i'w gofnodi am y flwyddyn 1844.
Aeth y Parch. William Evans yn uwchrif, ac ymsefydlodd yn Machynlleth; ac ail-ymaflodd y Parch. David Evans, 2il yn ei waith. Galwyd un allan o'r newydd, sef
JOHN HERBERT, o'r Borth, Sir Aberteifi. Bu farw yn Tredegar, Tachwedd 21, 1884, yn 68 mlwydd oed, ac yn ei 40fed flwydd o'i weinidogaeth.
Yn y flwyddyn 1845 aeth y Parch. John Jones, 2il yn uwchrif, a gorfu i Mr. Richard Hughes roddi i fyny deithio, oherwydd i'w nerth gael ei ddarostwng ar y ffordd gan gystudd blin a diymollwng. Galwyd allan un o'r newydd i'r gwaith yn ystod y flwyddyn hon mewn canlyniad (fel y casglwn) i farwolaeth sydyn y Parch. John Davies, yn Merthyr, Rhagfyr 21, 1845. Y brawd ieuanc a alwyd allan oedd
JOSEPH AUGUSTUS JONES, o Dregaron, Sir Aberteifi. Erys ef yn ein plith hyd yr awr hon yn henafgwr cryf ac urddasol.
Bu amryw gyfnewidiadau yn mhlith y gweinidogion y flwyddyn gyfundebol a derfynai'n Nghynadledd 1846. Fel y nodwyd, bu farw y Parch. John Davies—yr hwn oedd ar y pryd yn Gadeirydd y Dalaeth—Rhagfyr 21, 1845, a bu y Parch. Thomas Hughes, 1af hefyd farw, Ebrill 13, 1846. Daeth dau yn uwchrifiaid, sef y Parchn. Griffith Hughes a Samuel Davies, 1af, ac aeth y Parch. T. Hughes, 2il drosodd i'r gwaith Seisnig. Felly collwyd o'r gwaith bump o weinidogion, a galwyd allan bump o'r newydd i lanw y bylchau, sef Joseph Augustus Jones a nodwyd yn barod, ac yna, yn
1 EVAN DAVIES, o Lanbedr, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn ddyn o ddifrif gyd â phob gorchwyl a gymerai mewn llaw. Meddai ar lais rhagorol, a phregethai yn aml gyd â nerth a dylanwad mawr. Bu farw yn Llangollen, Ionawr 11, 1877, yn 57ain mlwydd oed, ac yn yr 31ain flwydd o'i weinidogaeth.
2. JOHN EVANS, 2il, o Lanrwst, Sir Ddinbych. Yr oedd Mr. Evans yn drefnydd gofalus, yn sylwedydd craff, ac yn bregethwr melus. Bu yn dra llwyddianus yn ngwaith y weinidogaeth. Bu farw yn y Wyddgrug, Rhagfyr 29, 1882, yn 63ain oed, ac yn ei 37ain flwydd o'i weinidogaeth.
3. DANIEL JONES, o Mochdre, Sir Ddinbych. Bu farw yn Llanrhaiadr, Medi 1, 1853, yn ei 34ain flwydd o'i oedran, ac newydd ddechreu y 7fed o'i weinidogaeth.
4. EVAN PUGH, o Bryncrug, Sir Feirionydd. Canolbwyntiai Mr. Pugh ei holl nerthoedd mewn pregethu. I hyn y bu byw, ac y treuliodd ei nerth. Yr oedd cryfder a melusder yn nodweddion amlwg yn ei weinidogaeth. Bu farw yn Rhyl, Awst 13, 1879, yn ei 55ain flwydd o'i oedran, a'r 33ain flwydd o'i weinidogaeth.
Ar gais Llywydd y Gynhadledd, ymgymerodd y Parch. Hugh Hughes a llanw y swydd o Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol o adeg marwolaeth y Parch. John Davies hyd y Gynhadledd, pryd y penodwyd y Parch. T. Jones, 2il i'r swydd, yr hon a lanwodd am ugain mlynedd. Ffurfiwyd un gylchdaith newydd yn Nghynadledd 1847, sef Pontfaen. Gwnaed hyny trwy ranu cylchdaith eang Caerdydd yn ddwy. Aeth y Parch. E. Edwards yn uwchrif y flwyddyn hon. Ni bu neb o'r gweinidogion farw, ac ni alwyd neb allan o'r newydd i'r gwaith y flwyddyn hon, felly bu lleihad o un yn rhif y gweinidogion. Bu farw y Parch. David Evans, 2il ar ddechreu y flwyddyn gyfundebol a derfynai yn Nghynadledd 1848. Ac yn y Gynhadledd hono aeth tri yn uwchrifiaid, sef y Parchn. Thomas Jones, 3ydd, E. Jones, raf, ac E. Hughes. Yr oedd hyn yn golled o bedwar, ond ni alwyd allan ond tri, ac felly yr oedd rhif y gweinidogion yn llai o un y flwyddyn hon na'r flwyddyn cynt. Galwyd allan, yn
1. RICHARD EVANS, o Cwmbelan, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn ddyn hynaws a duwiol iawn, ac yn bregethwr ysgrythyrol ac ymarferol. Bu farw yn Cwmbelan, Gorphenaf 18, 1868, yn ei 48ain o'i oes, a'r 20fed o'i weinidogaeth.
2. ROBERT JONES, o Bryncrug, Sir Feirionydd. Da genym ei fod ef yn aros yn ein plith fel dolen gydiol rhwng yr oes hon a'r un o'r blaen. Mae efe yn ddyn llawn, ac ni fu neb mwy dyddan mewn cwmni erioed. Llanwodd holl swyddogaethau y Dalaeth Ogleddol. Bu yn Ysgrifenydd y Dalaeth, yna yn Gadeirydd. Bu hefyd yn Olygydd "Yr Eurgrawn" ac yn Oruchwyliwr y Llyfrfa am ddau dymhor.
3. DAVID JONES 2il, o Lanegryn, Sir Feirionydd. Bèr fu ei yrfa weinidogaethol ef. Bu farw yn Aberhonddu, Medi 12, 1861, yn ei 38ain flwydd o'i oes, a'r 13eg o'i weinidogaeth.
Yn ystod y flwyddyn gyfundebol a derfynai yn Nghynadledd 1849, bu farw y Parchn. David Morgan a Robert Jones 1af, ond ni alwyd ond un allan o'r newydd, ac felly dyma leihad o un eto yn rhif y gweinidogion yn y gwaith teithiol. Yr un a alwyd allan oedd
ISAAC JONES, o Cnwch Coch, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn un o'r cymeriadau hynotaf a fu erioed yn y weinidogaeth Gymreig. Yr oedd ei serch tuag at Fethodistiaeth Wesleyaeth yn angerddol, a gwnaeth ei oreu i wasanaethu ei Dduw a'i genedl mewn undeb a hi. Pregethai ar brydiau gyd â nerth ofnadwy, a bendithiodd Duw ei lafur yn nychweliad canoedd o eneidiau at Grist, y rhai a fyddant yn goron ei ogoniant yn y dydd hwnw. Bu farw mewn gorfoledd yn Llangollen, Gorphenaf 3ydd, 1895, yn ei 70ain flwydd o'i ocs, a'r 46ain o'i weinidogaeth.
Arweinia hyn ni at derfyn y cyfnod hwn yn hanes ein henwad yn y Dywysogaeth. Rhoddwn yma restr o rif yr aelodau, a'r lleihad a gymerodd le y naill flwyddyn ar ol y llall:
| Aelodau. | Lleihad. | |
| 1842 | 13,172 | 172 |
| 1843 | 12,891 | 281 |
| 1844 | 12,433 | 458 |
| 1845 | 12,135 | 298 |
| 1846 | 11,348 | 787 |
| 1847 | 11,142 | 206 |
| 1848 | 11,010 | 132 |
| 1849 | 10,996 | 14 |
| Lleihad mewn 8 mlynedd | 2348 | |
Yr oedd y blynyddoedd hyn yn dymhor o bryder mawr i holl garedigion achos yr Arglwydd. Nis gwyddom yn iawn pa gyfrif i'w roddi am aflwyddiant y gwaith yn y blynyddoedd hyn. Nid oedd y Cyfundeb fel y cyfryw yn gyfranogol o'r ad-weithiad a deimlid yn Nghymru, er fod dyddiau blin gerllaw iddo yntau i fyned trwyddynt. Mae yn debyg fod a fyno iselder masnach âg aflwyddiant achos yr Arglwydd i fesur, ac nid oedd yn gyfnod prysur ar fasnach yn y Dywysogaeth y pryd hwn. Gyr prinder gwaith lawer allan o'r wlad, yn enwedig o'r dosbarth gweithiol, a pheidia eraill oherwydd tlodi a mynychu moddion gras. Ymfudodd llawer o'r wlad hon yn y blynyddoedd hyn i'r America, ac ymsefydlasant yno, ac yn eu plith yr oedd llawer o Wesleyaid. Ond a chaniatau fod i'r amgylchiadau hyn eu dylanwad anfanteisiol, eto nid ydynt yn ddigon i gyfrif am aflwyddiant y cyfnod hwn. Syrthia yr eglwys weithiau, ar ol adegau o lwyddiant, i gyflwr o ddifaterwch ac hunanddigonoldeb. Ac efallai mai dyma y rheswm penaf dros sefyllfa ddigynydd yr achos yn y blynyddoedd hyn. Yn ystod y blynyddoedd hyn cynyddodd rhif y cylchdeithiau o 26 i 29, ond daeth rhif y gweinidogion i lawr o 52 i 50. Am y cyfnod hwn ysgrifenodd y diweddar Barch. S. Davies yn Ngholofn y Jubili" fel y canlyn,—"Eithr y cyfnod dilynol (dilynol i'r cyfnod a derfynai yn 1841) a fu yn gyfnod o iselder mawr: ein llawenydd a drowyd yn dristwch, ac nid yn ddiachos, o'r naill Gyfarfod Talaethol i'r llall yn ystod y cyfnod hwn, edrych yn lled ddigalon yr oedd amgylchiadau yr achos bron yn ddieithriad trwy y Dalaeth **** Nid ydym yn gwybod am un amgylchiad neillduol a'n cynysgaedda â rhesymau neillduol am y lleihad. Dichon fod llwyddiant mawr y blynyddoedd blaenorol wedi achlysuro i'r eglwysi syrthio i ddifrawder a diofalwch, ac i hyderu gormod mewn braich o gnawd, a thrwy hyny esgeuluso edrych i'r mynyddoedd, o'r lle yr oedd eu cymorth i ddyfod, a chyda hyny esgeuluso talu sylw dyladwy i'r dychweledigion a roddodd yr Arglwydd iddynt yn y blynyddoedd blaenorol."
Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol yr "Ail Dalaeth Ddeheuol" 1849 yn Merthyr Tydfil, y Parch. Thomas Jones, 2il yn gadeirydd. Nid oes ond ychydig o hanes y cyfarfod hwn ar gôf a chadw. Yr oedd ychydig o leihad yn rhif yr aelodau, yr hyn a barai ofid i'r frawdoliaeth. Ar wahan i hyn ymddengys ei fod yn gyfarfod llwyddianus a dedwydd. Edrychid yn mlaen at Jubili Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, a dechreuwyd gwneyd trefniadau i ddathlu yr amgylchiad.
Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Dalaeth Ogleddol yn Llanrwst, Mehefin 4ydd, a'r dyddiau canlynol, y Parch. Edward Anwyl yn y gadair. Daeth cais i'r cyfarfod hwn o Gylchdaith Gymreig Liverpool am gael ei dadgysylltu oddi wrth Dalaeth Liverpool a'i huno gyd â Thalaeth Gogledd Cymru, a phenderfynodd y cyfarfod yn unfrydol y byddai hyny yn fwy manteisiol o'r ddwy ochr, a'i fod yn argymell y cyfnewidiad i'r Gynhadledd. Ond ni wrandawodd y Gynhadledd ar y pryd ar y cais rhesymol hwn.
Cymeradwyodd y Cyfarfod Adroddiad y Pwyllgor fu yn trefnu ar gyfer dathliad Jubili Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y Dywysogaeth, a phenderfynwyd fod dydd Mawrth, yr 28ain o Awst y flwyddyn hono (1849), yn GOF-WYL o ddechreuad yr Achos Cymreig. "Diwrnod o hyfrydwch, llawenydd a chân yn mhyrth Wesleyaid Cymru oedd hwnw diwrnod i goffau Awst yr 28ain, 1800, pan y rhoddodd y ddau genhadwr Cymreig eu traed ar Ogledd Cymru (hyny yw pan ddaethant i Ruthyn) i ddechreu cyhoeddi yn iaith y bobl iachawdwriaeth râd ar gyfer pob dyn. Am y diwrnod hwnw dywed y Parch. Dr. T. Jones
Y Canmlwyddiant o Drefnyddiaeth Wesleyaidd:' Mae genym i edrych ar 1800 fel cyfnod gwerthfawr, yn yr hwn yr ymddangosodd ein pobl ni yn y Dywysogaeth i weinidogaethu yn y Gymraeg—blwyddyn ag y bydd miloedd lawer yn molianu Duw am dani wedi darfod dyddiau y ddaear. Bydded y flwyddyn etholedig hon byth mewn coffawdwriaeth gerbron yr Arglwydd, canys ynddi dechreuwyd gwaith na dderfydd tra pery haul a lloer." Yr hyn a'n tery yn hynod yw i'r Cyfarfod Talaethol Llanrwst benderfynu ar Awst 28, 1849, i ddathlu Jubili Wesleyaeth yn Nghymru. Ai onid oedd flwyddyn cyn yr amser ? Ond felly y bu. Yn Nghyfarfod Talaethol y Gogledd cafwyd fod 141 o gynydd yn rhif yr aelodau (er mai lleihad oedd yn eu rhif, a chymeryd y ddwy Dalaeth i'r cyfrif). "Ar ol blynyddoedd o sychder mawr yr oeddynt yn gallu dywedyd, Dyhudlant wlaw graslawn, O, Dduw, ar dy etifeddiaeth; ti a'i gwrteithiaist hi wedi ei blino.' Penderfynwyd yn y Cyfarfod Talaethol Fod y dydd ympryd chwarterol nesaf i gael ei gadw mewn modd neillduol, gwybodaeth yn cael ei roddi i'n pobl o'r cynydd a fu, a'u bod yn cael deisyfu arnynt i ddychwelyd diolchiadau i'r Hollalluog.'" Felly daeth y cyfarfod hwn i derfyn mewn sain cân a gorfoledd, a dyrchafwyd clodydd, "yr hwn sydd yn cyfaneddu yn moliant Israel" yn "holl breswylfeydd Jacob," y Methodistiaid Wesleyaidd yn y tir.
