Neidio i'r cynnwys

Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig/Dylanwad Wesleyaeth ar Genedl y Cymry a'i Rhagolygon

Oddi ar Wicidestun
Wesleyaeth a Chwestiynau Cyhoeddus Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig

gan Thomas Jones-Humphreys


PENNOD XX.

Dylanwad Wesleyaeth Gymreig a'i Rhagolygon.

WRTH adolygu gwaith a dylanwad Wesleyaeth Gymreig yn ystod y Ganrif, gallwn ddywedyd yn ddibetrus iddi lafurio yn hunan-ymwadol a'i llygad yn syml ar ogoniant yr Arglwydd, ac iachawdwriaeth eneidiau, ac ar y cyfrif hwn rhaid bod ei dylanwad yn iach a dyrchafol. Ymgysegrodd i'w gwaith dan ddylanwad cymellion Ysbrydol a Dwyfol, a bu Duw gyd â hi yn ei llwyddo. Dechreuodd ar ei gwaith dan anfanteision lawer, ond goruwch-reolodd yr Arglwydd y cyfrw er daioni. Erbyn heddyw, enillodd iddi ei hun safle yn y Dywysogaeth fel un o'r Pedwar Enwad a gydnabyddir gryfaf a chyfaddasaf i wneyd gwaith dros Grist yn y tir. Nis gall Enwad a ymgysegrodd mor lwyr i waith crefyddol, ac a gafodd ei fendithio â rhai o bregethwyr enwocaf y Ganrif, lai na meddu dylanwad ar y genedl. Ond nid yw yn hawdd olrhain yr effeithiau y bu Methodistiaeth Wesleyaidd yn achos o honynt yn nullweddiad bywyd crefyddol y Cymry yn ystod y Ganrif. Diameu i holl Enwadau Cymru deimlo ei dylanwad hi, megys ag y deimlodd hithau ei dylanwad hwy. Bu y naill yn ogystal a'r llall yn offerynau (factors) yn ffurfiad cymeriad crefyddol y genedl trwy gyfrwng y genadwri neillduol oedd gan y naill a'r llall ati.

Cariodd Methodistiaeth Wesleyaidd ddylanwad uniongyrchol ar ugeiniau o filoedd o'r Cymry a ymaelodasant yn Eglwys yr Arglwydd Iesu mewn cysylltiad â hi, ac ar eraill a eisteddasant dan ei gweinidogaeth yn ystod y Ganrif. Tragwyddoldeb yn unig fedr ddatguddio y dylanwad hwn o'i heiddo, am yr hwn y diolchwn benaf i'r Arglwydd.

Perthyna i Wesleyaeth Gymreig heddyw o aelodau yn cynwys rhai ar brawf ac yn rhestrau ieuenctid, 30,326. Ychwaneger y plant a'r gwrandawyr at y cyfryw, a rhifant o leiaf dros 60,000 o eneidiau. Os cymerer y Wesleyaid Seisnig yn Nghymru i'r cyfrif, rhifant rhwng y Cymry a'r Saeson oddeutu 108,731.

Dylanwadodd Wesleyaeth Gymreig hefyd trwy gyfrwng yr Ysgol Sul ar ganoedd o filoedd o'r genedl yn ogystal a thrwy y wasg. Yn ystod y Ganrif cyhoeddodd y Methodistiaid Wesleyaidd dros bedwar cant o lyfrau, a hyny heb gyfrif cyfrolau blynyddol y cyhoeddiadau misol a chwarterol. Nis gall cyhoeddiad y fath doraeth o lênyddiaeth, a hono bron oll yn grefyddol, amgen nag effeithio dylanwad mawr er goleuo a diwyllio meddyliau y darllenwyr.

Ond bu i Fethodistiaeth Wesleyaidd Gymreig ei ddylanwad anuniongyrchol ar y genedl. Cyn, ac wedi ei chyfodiad yn Nghymru, Calfiniaeth oedd yr athrawiaeth a bregethid fel rheol gan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid Calfinaidd. Dadleua rhai mai cyfodiad Wesleyaeth a barodd i'r Methodistiaid ac eraill fyned yn Uchel-Galfinaidd. Ond ni saif yr haeriad hwn i reswm nac ymchwiliad, oblegid ni wnaeth hyny ond rhoddi gwedd fwy dadleuol i bregethu y cyfnod. Ni pharhaodd pethau felly yn hir, oblegid canfyddwyd yn fuan arwyddion fod iachawdwriaeth neillduol etholedigaeth bersonol a diamodol, y ndechreu diflanu o'r tir o flaen cyhoeddiad yr Iachawdwriaeth Gyffredinol drefnwyd trwy yr Hwn a brofodd farwolaeth dros bob dyn: a rhaid i bob hanesydd diduedd gydnabod i Wesleyaeth wneyd ei rhan yn effeithiol iawn i ddwyn hyn oddiamgylch. Erbyn heddyw, mae yr athrawiaeth a bregethai ein tadau yn cael ei phregethu yn holl bwlpudau Cymru. Am Wesleyaeth Gymreig, llefarodd y Parch. E. James, Nefyn, o Gadair Undeb yr Annibynwyr fel y canlyn—"Ni ddechreuodd yr Enwad hwn yma hyd y Ganrif bresenol. Bendithiwyd yr Enwad er yn foreu a lluaws o bregethwyr rhagorol, rhai wedi eu gorlenwi â brwdfrydedd crefyddol. Cariasant ddylanwad daionus ar y weinidogaeth yn Nghymru, er ei dwyn i bregethu yr Efengyl yn eangach a mwy rhesymol nag y gwneid yma yn flaenorol. Iddynt hwy y perthyn yr anrhydedd o feddu y y cyhoeddiad misol Cymreig hynaf. Yn ddiweddar ymgymerasant yn egniol a cheisio enill tir newydd yn y De, ac nis gallwn lai na gweddio yn galonog am eu llwyddiant. Mae Wesleyaeth yn drefniant celfydd a nerthol."

Ychydig o ysbryd anturiaethus nodweddai Enwadau crefyddol Cymru ar ddechreu y Ganrif, i adeiladu Capelau a lleoedd cyfleus i addoli. Nid oedd rhif eu haddoldai ond ychydig o'u cymharu â rhif yr Eglwysi a gyfarfyddent mewn anedd-dai, &c. Ond dylanwadodd Wesleyaeth i fagu hunan-hyder a beiddgarwch ynddynt. Yr oedd hi o'i chychwniad yn cyfranogi o ysbrydiaeth anturiaethus y bywyd crefyddol Seisnig, ac felly yn alluocach i drefnu a chynllunio na'r Enwadau eraill. Ar y mater hwn difynwn. a ganlyn o ysgrif y Parch. J. Hughes (Glanystwyth), o Geninen Hydref, 1899:—Yr oedd Ymneillduaeth yn Nghymru, ar ddiwedd y Ganrif ddiweddaf, yn llawn o ysbryd y diwygiadau; ond o ran organyddiaeth a threfnidedd allanol, yr oedd mewn cyflwr digon afluniaidd. Troisai y wlad ei chefn ar y Clerigwyr, ac elai y torfeydd ar ol y pregethwyr. Nid yn unig yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi bod ar y tir am 160 mlynedd, ond buasai y Methodistiaid yn cynhyrfu y wlad am dros 60 mlynedd. Mae yn wir fod Cymdeithasau, neu, os myner Eglwysi, lawer wedi eu ffurfio; ond nid oedd ond ychydig o Gapeli wedi eu hadeiladu. Addolid mewn hen ysguboriau a thai anedd yn gyffredin. Nid oedd yn y Cymro galon i symud yn mlaen, ond fel y cludid ef gan y diwygiadau. Yr oedd angen am i ryw un gael ei anfon i ddywedyd "wrth feibion Israel gerdded rhagddynt." Ymddengys i mi fod y Cenhadon Wesleyaidd wedi eu hanfon i'r perwyl hwn. Yn ystod y pedair blynedd cyntaf o'u hanes adeiladodd y Wesleyaid dros ugain o Gapeli. "Y fath feiddgarwch! a'r fath ysbrydiaeth a dafodd hyn i'r Enwadau eraill . . . . Ni buasai Ymneillduaeth yn Nghymru yr hyn ydyw yn awr oni bai am y Capeli sydd wedi cael eu hadeiladu, ac yr oedd gan Wesleyaeth ran amlwg mewn cynyrchu ysbrydiaeth i ymgymeryd a'r gwaith." Mae rhif ein Capeli a'n meddianau Cyfundebol fel Wesleyaeth Gymreig yn 430, a'u gwerth cyfrifedig yn £320,000. Os ychwanegir at hyn werth meddianau y Wesleyaid Seisnig yn Nghymru, cyfrifa o leiaf 750,000. Ar ddechreu y Ganrif nid oedd ond ychydig o weinidogion ordeiniedig yn perthyn i Ymneillduwyr Cymru, na chymaint ag un yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd. oddieithr clerigwyr o Urddau Esgobol. Yr oedd nifer y gweinidogion a gynhelid yn fugeiliaid gan yr Eglwysi yn ychydig, ac yn eithriadau. Yr oedd y mwyafrif mawr yn gorfod byw ar lafurwaith eu dwylaw, a thrwy gyflawni galwedigaethau bydol, ac felly gofalon y byd yn rhwystr iddynt gyflawni eu gweinidogaeth mewn llwyr-ymroddiad iddi. Ond yr oedd yn wahanol gyd â gweinidogion y Wesleyaid o'r dechreu, ni oddefid iddynt hwy ymrwystro â negesau y bywyd hwn, ond yr oeddynt i gysegru eu holl amser a'u hynni i waith y weinidogaeth. Yr oedd hyn yn beth newydd yn mhlith y Cymry Ymneillduol, ac ar y cyntaf gwrthwynebent y drefn. Ond yn araf enillwyd hwy drosodd i gydnabod ei rhagoriaeth, ac erbyn heddyw mae bron yn gyffredinol yn mhlith holl Enwadau Cymru. Beth fu dylanwad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn yr achos hwn, gadawn i'r darllenydd gasglu.

Bellach, edrychwn i gyfeiriady dyfodol, ac ymofynwn beth yw ein rhagolygon. Nis gallwn lefaru gyda sicrwydd diamheuol ar y cwestiwn hwn, ond gallwn deimlo yn dra diogel i edrych ar ein dyfodol yn ngoleuni ein mynedol, ac yn ngwyneb ein cyfaddasderau i gyflawni gwaith Duw dan unrhyw amgylchiadau allant gyfodi. Ni bu arwyddion bywyd erioed yn amlycach yn ein Cyfundeb nag ydynt yn awr, a rhagfynegant yn eglur yr estyner i ni eto hir ddyddiau i wneyd daioni. Bydd i Wesleyaeth Gymreig cydbarhau a'r iaith Gymraeg. Os i'w hi i farw, dydd ei thranc hi fydd dydd tranc Wesleyaeth Gymreig. Ac os digwydd hyn iddi, digwydda yr un dynged i'r Enwadau Cymreig eraill. Ac os bydd marw yr iaith ryw dro, nid Wesleyaeth Gymreig fel y cyfryw gaiff y golled fwyaf. Gall hi fyw yn well mewn awyr Seisnig na rhai o'i chymydogion. Aif hi trwy y trawsnewidiad heb golli dim o'i nerth na'i defnyddioldeb. Ar y tir hwn mai iddi cystal rhagolygon ag sydd i unrhyw Enwad Cymreig yn y Dywysogaeth. Efallai nas gallwn ddisgwyl dyfod yr Enwad cryfaf yn Nghymru; ond credwn fod i ni safle uwch yn ein haros, ac nas gellir ein hanwybyddu yn y Ganrif nesaf fel un o lwythau Israel. Bu genym o'r dechreuad ddynion cryfion a chymhwys yn y weinidogaeth, a nodweddwyd ein pwlpud à goleuni a gwres yn mhob cyfnod o'n hanes. Ond ni phetruswn ddywedyd fod ein rhagolygon yn y cyfeiriad hwn yn ddisgleiriach nag erioed. Saif yr ymgeiswyr am y weinidogaeth yn uwch mewn diwylliant, a meddant profiad o grefydd a sicrwydd galwedigaeth i'r gwaith. Beth bynag fydd cynydd ein gwrandawyr mewn diwylliant ni raid i ni betruso na cheidw y rhai a draethant i ni Air Duw ar y blaen.

Gwynebwn ar yr Ail Ganrif yn ein hanes yn allu cryfach nag erioed. Erbyn hyn mae y Gymanfa yn ffaith, ac yn ganolbwynt undeb rhwng holl Wesleyaid Cymreig y Deyrnas Gwna hyn ni yn Enwad mwy Cymreig, a bydd genym fwy o ymreolaeth a chyfaddaster i symud yn mlaen ar llinellau y deffroad cenedlaethol. Caiff nifer o'n hefrydwyr eu lefeinio ag ysbryd Cymreig yn ein prif Ysgolion, ac felly eu dwyn i gyd-ymdeimlad llawn â phob ymdrech, i ddyrchafu ein cenedl yn mhob rhinwedd a dawn a esyd arni anrhydedd a mawredd. Canfyddwn arwyddion y gwneir gwaith mawr yn y Ganrif nesaf mewn sefydlu Gweinidogion i gadarnhau ein safleoedd yn y wlad, ac i ofalu mewn modd arbenig am yr Eglwysi gweiniaid, trwy fagu y plant a meithrin y bobl ieuainc, a'r canlyniad fydd sicrhau y cyfryw i Grist a Wesleyaeth, fel na wiw i Eglwys Loegr na'r un Eglwys arall geisio eu hud-ddenu a'u proselytio. Yn ngoleuni ein diffygion yn y mynedol, gallwn gael manteision i symud yn mlaen yn y dyfodol at berffeithrwydd. Un o'n hanfanteision mawr ar hyd y Ganrif hon fu diffyg meithriniad y rhai a roddodd yr Arglwydd i ni i'w magu, fel na lwyddasom i'w cadw mor llwyr yn ein corlan ag y dylasem. Ond credwn na welir y diffyg hwn ynom mwy, ond y bydd i ni trwy blanu egwyddorion crefydd Crist yn meddyliau ein plant eu cadw nes y delont yn golofnau o gryfder a phrydferthwch yn ein Heglwys.

Ni raid i ni ofni am ein hegwyddorion a'n hathrawiaethau; safant yn ddiysgog ar graig gadarn y gwirionedd tragwyddol. Ac felly yn ngwyneb nerthoedd aflonydd a chyffroadau ysgytiol yr amser a ddaw, safant hwy yn dalgryf a dylanwadant ar gymdeithas nes gwedd-newid miloedd ar filoedd i ddelw gogoniaut yr Arglwydd Iesu.

Bellach, ar ol tymor maith o galedwaith-ar ol càn mlynedd o lafur ymroddol ac hunan-ymwadol, gwawriodd arnom "flwyddyn gymeradwy yr Arglwydd" i Ddathlu ein Canmlwyddiant. Gwnawn hyny trwy ymadnewyddu yn ysbryd ein meddwl, ac ymgysegriad ffyddlawn a llwyrymroddol i waith yr Arglwydd. Gwnawn hyny hefyd mewn teimlad dwfn o barch i goffawdwriaeth ein hyn afiaid, ac mewn cyfranogi o'u hysbryd ardderchog a rhagorol, gan osod ein hymddiriedaeth yn mhob ymgymeriad. o'r eiddom ar "Obaith Israel a'i Geidwad," gan gofio bob amser mai "yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys Efe a sathr ein gelynion." Am yr oll a wnaethom, ac am yr oll ydym heddyw, rhoddwn ogoniant i'r Arglwydd ein Duw. "A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni; a threfna weithred ein dwylaw ynom ni, ïe, trefna waith ein dwylaw."

Nodiadau

[golygu]