Neidio i'r cynnwys

Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig/Emynyddiaeth Wesleyaidd Gymreig

Oddi ar Wicidestun
Llenyddiaeth Wesleyaidd Gymreig yn ystod y Ganrif Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig

gan Thomas Jones-Humphreys

Rhai o Bregethwyr Cynorthwyol dechreu y Ganrif


PENNOD XVII.

Emynyddiaeth Wesleyaidd Gymreig.

CREDWN nad oes yn llênyddiaeth yr un genedl y fath gyfoeth o Emynau ag sydd yn eiddo y Cymry. Perthyna i ni fel cenedl gyfansoddiadau barddonol dirif o bob amrywiaeth a theilyngdod. Ceir hwy yn doraeth. enfawr mewn Awdlau, Cywyddau, Englynion, Pryddestau, Pennillion, ac Emynau Mawl. Ond cân Crefydd y Cymry yw gogoniant ei holl ganiadau. Gweithiodd hon i fewn i fywyd y genedl, a bu y prif foddion, nesaf i'r Beibl, i greu yn ei meddwl syniadau ysbrydol, i ddullweddu ei bywyd crefyddol, ac i ddylanwadu er melysu cwpaneidiau chwerwon profedigaethau, ac i beri i filoedd seinio alawon y nef yn nglŷn cysgod angau. Y fath deimladau hyfryd a fwynhawyd gan gynulleidfaoedd Cymru wrth ganu mawl y ne', a seinio clodydd Duw a'r Oen, trwy gyfrwng Emynau, Salmau, ac Odlau Ysbrydol!

Wrth sylwi ar Emynyddiaeth y Cymry heddyw, a'i chymharu â'r hyn oedd yn nyddiau Edmund Prys, Ellis Wynn, o Lasynys, ac eraill, canfyddwn fod ei chynydd. mewn melodedd a swyn ysbrydol yn fawr iawn. Efallai na wnaeth gynydd mor fawr mewn cryfder, ond cynyddodd yn ddirfawr mewn purdeb a phrydferthwch. Perthyna i Emynyddiaeth pob enwad yn Nghymru ei nodweddion gwahaniaethol, er eu bod oll yn dwyn delw o debygoliaeth, ac yn rhai o'u llinellau yn un â'u gilydd. Un o linellau amlycaf Emynyddiaeth Wesleyaidd ydyw, 'yr hyder ffydd a'r sicrwydd gobaith a'i nodwedda. Gellir rhoddi dau reswm am hyn, yn 1af. Y ffurf o athrawiaeth sydd yn sylfaen iddi. Yn 2il. Y ffaith ddarfod i'r Methodistiaid Wesleyaidd ddyfod i gyffyrddiad agosach a'r bywyd crefyddol Saesnig na'r un o'r enwadau eraill yn Nghymru. Ond gan nad oes a fynom ni yn bresenol ond ag Emynyddiaeth Wesleyaidd, awn yn mlaen i nodi ychydig o hanes ein Llyfr Emynau, ac hefyd hanes rhai o'n Hemynwyr ymadawedig. Efallai y gwel y beirniaid cyfarwydd i ni adael allan enwau rhai, y tybia ef ddylasent gael eu crybwyll. Wrth y cyfryw dywedwn—Cyhoeddwch chwi restr ohonynt; ac o bosibl rhwng yr eiddoch chwi a ninau y ceir un led gyflawn a pherffaith. Y cynllun a fabwysiadwn ydyw nodi enwau yr Emynwyr, ac yna engraifft o'u gwaith.

1. PARCH. JOHN HUGHES, ABERHONDDU.

Fel y gŵyr ein darllenwyr yr oedd ef yn un o'r ddau genhadwr cyntaf a benodwyd i Sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru. Yr oedd yn llenor coeth, yn Gymro clasurol, ac yn ysgolhaig gwych. Oddeutu y flwyddyn 1801, dechreuodd gasglu defnyddiau, ar gyfer y Llyfr Emynau fwriadai ei gyhoeddi, a thua diwedd Mai, 1802, cyhoeddodd ef dan y teitl "Diferion y Cyssegr,' &c. Argraffwyd ef gan W. C. Jones, Caerlleon. Hwn oedd Llyfr Emynau cyntaf y Methodistiaid Wesleyaidd yn Nghymru. Yn y flwyddyn 1804, dygwyd allan ail-argraffiad o'r Llyfr hwn wedi ei ddiwygio a'i helaethu. Cynwysa 260 o Emynau, sef 34 yn fwy nag yn yr argraffiad cyntaf. Argraffwyd ef gan J. Hemingway, Caerlleon. Ystyriwn ef yn gasgliad rhagorol. Prawf o'i werth a'i ragoriaeth ydyw y ffaith fod y rhan fwyaf o'r Emynau a geir ynddo, yn aros yn mhob casgliad arall a wnaed, ïe, hyd yn nod yn y casgliad newydd presenol. Er mwyn i'n darllenwyr gael syniad am Mr. Hughes fel Emynydd, nodwn yr Emyn ganlynol fel engraifft o'i waith:

GWEDDI'R CRISTION.

I "TRUGAROG IOR, 'nawr gwrando ar fy nghri,
Dyrchafa'm llais a'm calon atat Ti;
Gwrando fi, Arglwydd, atat doed fy nghwyn,
Tywallta'm henaid yn dy fynwes fwyn.

2 Tra fyddwyf yma mewn daearol fyd,
O boed i'th degwch dynu'm serch a'm bryd;
Na ad i wael wrthrychau daear lawr,
I lygru mryd, a digio f' Arglwydd mawr.


3 Llewyrcha arnaf Arglwydd, oddifry,
A dywed i'm fy mod yn eiddo i ti;
O dyro im' dystiolaeth gadarn gre'
Fod genyf hawl i drigfan yn y ne'."


2. MR. JOHN BRYAN, CAERNARFON.

Yr oedd Mr. Bryan yn Emynydd rhagorol. Fel cyfieithydd Emynau yr anfarwol Wesley, yr oedd yn ddihafal. Yn yr ystyr yma gwnaeth fwy o wasanaeth na neb i Emynyddiaeth Wesleyaidd Gymreig. Mae genym awdurdod Dr. W. Davies, dros ddywedyd fod bron yr oll o Emynau Wesley a geir yn ein Llyfr Emynau wedi eu cyfieithu ganddo ef. Ond nid cyfieithydd yn unig ydoedd, ond yr oedd hefyd yn Emynydd gwreiddiol, tarawgar ac esmwyth. Gosodwn yma un Emyn fel engraifft o'i waith:—

ANGEU Y GROES.

1 "Yn angeu'r Groes mae bywyd,
Yn angeu'r Groes mac hedd, Yn angeu'r
Groes mae digon
Tu yma a thraw i'r bedd.

2 Trwy angeu'r Groes gwaredwyd
Fi rhag digofaint Duw,
Trwy'r groes ce's hawl i'r gwyn fryd
Sydd yn y nefoedd wiw.

3 Am angeu'r Groes mae canu
Yn mhlith y dorf diri',
Ni bydd yn mhlith y dyrfa
A gân yn uwch na mi.

4 Pan b'wyf yn rhodio'r afon,
Caf ganu yn y glyn,
A'm cân ar fynydd Seion
Fydd Croes Calfaria fryn.


3. Y PARCH. EDWARD JONES, 2il, CORWEN.

Yr oedd Mr. Edward Jones yn fardd awenyddol. Cyfansoddodd lawer yn y mesurau caethion, a chyn ei ddychweliad dan weinidogaeth Mr. Bryan, yr oedd yn enwog fel cyfansoddwr Interlutiau. Brithir cyfrolau cyntaf yr Eurgrawn a'r "Trysor i Blentyn" â'i gyfansoddiadau barddonol. Efe ydyw Awdwr yr Emyn "O cydnabyddwn tra fo'm byw," &c. Fel engraifft o'i waith nodwn yr Emyn canlynol:—

YSTYRIWN EIN FFYRDD.

1 Ystyriwn ni ein ffyrdd yn ol,
Y modd yn ffol eu treuliwyd,
A'r gwerthfawr roddion amal ri,'
Er addysg i ni roddwyd.

2 Trugaredd ac amynedd mawr,
Fod Iesu 'n awr yn eiriol;
A chywir sel, mawr achos sy'
I'w garu yn drag'wyddol.

3 Ein hymdrechiadau fyddo'n fawl
Yn hollawl o hyn allan,
A'n myfyrdodau byth yn fyw
I'r Arglwydd Dduw ei hunan."


Yn y flwyddyn 1805, cyhoeddodd Meistri J. Bryan ac E. Jones Lyfr Emynau bychan ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Ni bu mewn arferiad yn ngwasanaeth y Cysegr, ond yn achlysurol. Daeth trydydd argraffiad o "Ddiferion y Cysegr" allan yn 1807, a phedwerydd argraffiad yn 1809, a'r naill a'r llall dan olygiad y Parch. John Hughes. Dengys hyn i bedwar argraffiad o "Ddiferion y Cysegr," gael eu cyhoeddi dan olygiad Mr. Hughes ei hun. Bydd hyn yn goffawdwriaeth arhosol am dano fel Emynydd. Dygwyd allan bumed argraffiad o'r llyfr hwn yn 1812, a hyny yn ol pob peth allwn gasglu o dan ofal Mr. D. Rogers, a hwn oedd yr argraffiad olaf o'n Llyfr Emynau cyntaf.

Penododd y Cyfarfod Talaethol y Parchn. David Rogers, John Williams, 1af, a William Jones i ddiwygio, ad-drefnu ac i helaethu y Llyfr Emynau. Gwnaethant eu gwaith yn ganmoladwy. Gynwysa y Llyfr hwn oddeutu 50 o Emynau Dafydd Thomas (Dafydd Ddu o Eryri), amryw o eiddo Iolo Morganwg, ac eraill. Cynwysai 421 o Emynau. Cyhoeddwyd ef yn 1817. Yn Llundain ei hargraffwyd gan Thomas Cordeux, yn argraffdy y Wesleyaid Seisnig. Yr oedd hwn yn Llyfr Emynau Newydd, er yn cynwys llawer o'r emynau oedd yn yr un blaenorol. Nid ydym yn gwybod i Mr. Rogers gyfansoddi Emynau, ond yr oedd yn llenor coeth, ac yn gantor rhagorol. Ac yr oedd Mr. William Jones, yn ddyn o chwaeth bur, ac felly yn lled gymwys i fod ar y Pwyllgor. Ymneillduodd o'r weinidogaeth yn 1816, ac ymsefydlodd yn Nghaer, lle y bu yn barchus gan bawb, ac o wasanaeth fawr i'r achos.

4. PARCH. JOHN WILLIAMS, 1AF.

Yr oedd Mr. Williams yn Emynydd rhwydd. Cyfansoddodd lawer o ddarnau barddonol. Ei brif waith ydyw yr Emyn "Darfydded son am wrthod f' mwy," &c. Efe hefyd ydoedd awdwr yr Emyn "Mwy llawn o ras na'r môr o ddwr," &c.

5. PARCH. WILLIAM DAVIES, 1AF.

Bu Mr. Davies yn Genhadwr yn Affrica am dymor, ac adnabyddid ef wedi ei ddychweliad fel "Davies Affrica." Yr oedd yn fardd o fri, ac yn Emynydd da. Cyfieithodd amryw o Emynau Wesley, a chyhoeddodd hwy yn Llyfryn bychan. Gadawn i'r Emyn canlynol wasanaethu fel engraifft o'i waith:—

1 "Efengyl lawn a ddaeth i'r wlad,
Trwy rad ddaioni Iesu;
Mae lle i bawb yn awr gael byw,
Trwy ras Oen Duw fu'n prynu.

2 Ewyllys Duw yw achub dyn,
Sy'n awr yn cyndyn wrthod;
YNghrist mae lle i'n golchi'n lân
Oddiwrth wahanglwyf pechod.

3 Ymrown i ffoi i'r nef heb ffael,
Fel gallwn gael gwir heddwch;
A gras a nerth i rodio'n iawn,
Wrth reol lawn hyfrydwch.

4 Ac yna hyfryd iawn a rhwydd,
Fydd moli'r Arglwydd tirion;
Er gwaetha llid y ddraig a'i llu,
Cawn yn ei dy ddanteithion."


6. MR. OWEN WILLIAMS, WAENFAWR.

Medda Mr. Owen Williams, Waenfawr ar le pwysig yn hanes llenyddiaeth ein gwlad. Ysgrifenodd lawer, ac mewn cysylliad âg un arall cyhoeddodd "Eiriadur Ysgrythyrol," &c., yr hwn oedd yn waith lafurfawr iawn. Bu yn Bregethwr Cynorthwyol yn ein Cyfundeb. Yr oedd yn fardd enwog, a bu am dymor maith yn Arch—dderwydd" Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. At hyny, yr oedd yn Emynydd awenyddol. Efe ydoedd awdwr yr Emyn 80 yn ein Llyfr Emynau, sef "I achub f' enaid tlawd mewn pryd," &c., a gresyn na buasai ei enw wrthi. Cyfansoddodd lawer o Emynau, ac yn eu plith y rhai canlynol:—

TAITH YR ANIAL.

"PA bryd y derfydd imi deithio
'R anial garw lle 'rwyn'n byw;
Ac y derfydd gorthrymderau
A gofidiau o bob rhyw?

O na ddeuai'r amser hyfryd
I mi ganu'n iach i hyn,
A mwynhau tragwyddol heddwch
Yr Oen fu farw ar y bryn."


BUDDUGOLIAETH AR ANGAU

1 "BRENIN y dychryniadau yw
Angau a'i golyn llym;
Ond tra b'wy'n rhodio gyda Duw
Ni wna byth niwaid im'.

2 Pan byddwyf yn wynebu'r glyn,
Fy nychryn byth ni wna;
Canys caf rodio'r dyffryn du,
Heb blygu gan ei bla.

3 Brenin y Saint, fy Mrenin yw
Gorchfygwn angau glas;
Dyma fy nghymorth, dyma'm Duw,
Dyma fanfeidrol ras.'


Yn mis Medi, 1822, cynhaliwyd y Cyfarfod Cyllidol yn Dolgellau, ac yn hwnw dymunwyd ar y Parchn. William Davies, 1af, John Williams, 1af, ac Edward Jones, 3ydd i ddwyn allan ail-argraffiad o'r ail Lyfr Hymnau. Ymgymerasant â'r gwaith ar unwaith, a chyhoeddwyd y Llyfr yn 1823. Yn hwn cyfnewidiwyd rhai Emynau, ac ychwanegwyd amryw dan y penawd " Amrywiaeth." Cynwysai 483 o Emynau, ac felly fwy o 62 nag oedd yn yr argraffiad cyntaf. Yn 1825 cyhoeddwyd trydydd argraffiad o hon dan ofal y Parch. W. Evans yn 1826, pedweryd argraffiad dan ofal yr un, ac yn 1833, cyhoeddwyd pumed argraffiad o hono dan olygiad y Parch. E. Jones, 3ydd Ni fu ond ychydig o gyfnewidiadau yn y tri argraffiad diweddaf. Yn 1837, cyhoeddwyd y chweched argraffiad, a'r olaf o'r ail Lyfr, dan olygiad y Dr. Thomas Jones. Cynwysa hwn 674 o Emynau, sef mwy na'r argraffiadau o'r blaen o tua 90. Cynwysir yr ychwanegiad mewn "Attodiad" i'r Llyfr. Casglwyd y cyfryw gan y Parch. David Evans, 1af, ac yn eu plith ceir amryw o Emynau Mr. Wesley, wedi eu cyfieithu gan Mr. Bryan. Hwn oedd yr argraffiad olaf o'r ail Llyfr Emynau.

7. MR. THOMAS WILLIAMS, CEFNMAWR.

Ceir Cofiant i Mr. Williams, yn "Eurgrawn" Chwefror, 1831. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth yr anfarwol Williams o'r Wern, ond Mr. E. Williams, Llangollen, yn mhen tua dwy flynedd ar ol hyny a'i harweiniodd at Oen Duw. Yr oedd efe yn ŵr duwiol iawn; a bu farw wedi cystudd blin yn nodedig o ddedwydd, Rhagfyr 17eg, 1829, yn 35ain mlwydd oed. Cyfansoddodd lawer o Emynau rhagorol. Efe ydyw Awdwr yr Emyn: "De'wch bechaduriaid mawrion," &c. Ceir hwn yn yr ail Lyfr Hymnau, rhif 416, ac yn y trydydd (1845) rhif 296, ac y mae i mewn yn y pedwerydd Llyfr (1900) rhif 256. Efe oedd Awdwr yr Emynau canlynol:

DUWIOLDEB YN ELW.

1 "DUWIOLDEB sydd yn elw mawr
Gyd â boddlonrwydd ar y llawr;
Pa les i ddyn, pe 'nillai'r byd
A cholli ei enaid gwerthfawr drud?

2 Addewid i dduwioldeb sydd,
A'r bywyd hwn a'r hwn a fydd;
Mae hon yn fuddiol yn mhob lle
Ac i bob peth o dan y ne'.

3 Nesau yr wyf o awr i awr,
O hyd i dragwyddoldeb mawr;
O rho' dduwioldeb yn ei grym,
Fel y bydd marw yn elw im'."


PA LE Y BYDDI?

1 Ystyria f'enaid gwerthfawr drud,
Pa le ryw bryd y byddi:
Pa un ai yn y nefoedd fry,
Ai obry mewn trueni.

2 O chwilia'n ddyfal ac yn ddwys,
Am Iesu i bwyso arno;
A rho d' ymddiried ynddo Ef;-
Cei nef dragwyddol ganddo."


8. MR. WILLIAM THOMAS, CAERGYBI.

Un o Emynau mwyaf anfarwol Mr. W. Thomas ydyw: "Pan ddelo'r pererinion i gwrddyd yn y nef," &c. Cawn hi yn yr ail Lyfr Emynau (arg. 1825), rhif 479, ac yn y trydydd (1845), rhif 915. Cadwyd hi i mewn yn y Llyfr Emynau Newydd (1900), rhif 821. Yr oedd Mr. William Thomas yn ddyn nodedig o dduwiol, ac yn Emynydd melus. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i weithiau, sef "Ffrwyth Myfyrdodau," &c., ac "Ehediad y Meddwl." Cyhoeddwyd Cofiant iddo yn nglyn a'r diweddaf, wedi ei ysgrifenu gan y Parch. W. H. Evans. Bu farw yn Nghaergybi, Medi 8, 1861, ac y mae ei goffawdwriaeth fel gwin Libanus yn Môn hyd heddyw. Wele yn canlyn ychydig engreifftiau o'i Emynau

DYMUNIAD AM IACHAWDWRIAETH.

1 "BYW yn awyr iachawdwriaeth
A ddymunwn ddydd a nos,
Dwys ryfeddu ac ymborthi
Ar haeddianau angeu loes;
Pe cawn gyfoeth mawr y moroedd,
A'r trysorau goreu gaed
Mi 'madawn â hwy ar unwaith
Am yr iachawdwriaeth rad.

2 Dim nid oes mewn aur nac arian
Pe bai'r cyfan at fy llaw,
Rydd i'm gysur, os heb grefydd,
Yn y tywydd mawr a ddaw;
Pan fo'r synwyr oll yn drysu,
Minau'n methu dywedyd dim,
Ar Iorddonen mor chwyddedig
Angeu'n sarug ac yn llym.

3 Cyn y tywydd caled hyny
Bydded i mi gyrchu mwy,
Draw i'r mynydd am ddiangfa
I gysgodfa marwol glwy';
Caru'r gwr a'm carodd inau,
Dilyn ol ei gamrau glân,
Trwy'r anialwch maith a'r drysni
Y'ngoleuni'r golofn dân."


TWYLL Y BYD

1 FY nhwyllo gefais hyd yn hyn
Yn holl wrthrychau'r llawr,
Yr un nid oes a ddeil fy mhen
Yn yr lorddonen fawr.

2 Ni welir gwrthrych mewn un man
O'r ddaear faith ei hyd,
A ddeil yn ddigyfnewid i'm
Tra byddwyf yn y byd.

3 Nid yn yr anial dyrus hwn
Y trefnwyd i mi fod;
Fy nghartref a'm preswylfa yw
Caersalem uwch y rhod.

4 Siomedig oll yw pethau'r byd,
I gyd yn gyflym iawn,
Os gwenu yn y bore wnant,
Fe gefnant y prydnawn.

5 O! fenaid, pa'm y rhoddi'th fryd
Ar bethau byd mor wael,
Gan fod goludoedd gwell yn awr
Na phethau'r llawr i'w cael.

6 Trysorau gwaedlyd Calfari
Yn fawr eu bri a fo;
Ac O! na bai y perlau hyn
Yn llanw bryn a bro."


9. MR. DAVID GRIFFITH (CLWYDFARDD)

Hawlia Clwydfardd safle uchel yn mhlith y Beirdd. yn Arch-dderwydd am flynyddoedd. Yr oedd yn Emynydd medrus fel y prawf ei waith yn diwygio ac adgyweirio "Y Salmau Cân," gan yr Hybarch Archddiacon Prys. Erys y gwaith hwn yn golofn anfarwol iddo fel Emynydd. Efe hefyd a gyfansoddodd yr Emynau canlynol:

Y GROES I'R BYD.

I TRADDODWYD Crist dros bawb,
Dros bawb o ddynolryw;
Cysegrodd ffordd drwy'i waed
I bawb ddod at eu Duw;
Agorwyd porth trugaredd rad,
Mae'r ddawn ar bawb i gyfiawnhad.

2 Wynebwch bawb yn hyf,
Gan hyn at orsedd Duw ;
Yn edifeiriol dew'ch
Gan gredu 'n Iesu gwiw;
Paham tristewch yr Ysbryd Glân,
Sy'n galw pawb yn ddiwahan."


HOFF FYD Y SAINT.

I "O DDUW Hollalluog, Tŵr enwog wyt Ti,
Fy Nghraig a fy Nghrewr, fy Mhrynwr a'm Mri;
Dy Ysbryd Glân mirain f'o im' harwain o hyd
Am tynfa feunyddiol f'o i ganmil gwell byd."

2 Mewn byd drwg trallodus, helbulus 'rwyn byw,
Er hyn ymwrolaf, ymnerthaf yn Nuw;
Er gwaetha' ngelynion anhylon o hyd
Mae tynfa fy enaid i ganmil gwell byd.

3 Rho im' gael adnabod gwir gymod trwy'r gwaed,
A chorff y farwolaeth tra helaeth dan draed,
Fel byddwyf heb oedi yn profi bob pryd,
Fod tynfa fy enaid i ganmil gwell byd.

4 Yn ing afon angau, Duw mau, d'od i mi
Gael cyfaill i'm cofio, i'm llywio trwy'r lli;
A myrdd o'th brydferthion angelion yn nghyd,
I'm dwyn i'r tragwyddol anfarwol nef fyd.'


Yn y flwyddyn 1845, cyhoeddwyd y trydydd Llyfr Emynau. Casglwyd y Llyfr hwn yn ol penodiad Cyfarfod Talaethol y Gogledd, gan y Parchn. David Evans, 1af, a Rowland Hughes, ac yn ol penderfyniad Cyfarfod Talaethol y Deau, cyfarfyddodd y Parchn. Robert Williams ac Isaac Jenkins â hwy i'w adolygu a'i barotoi i'r wasg. Y Parch. David Evans, 1af a gasglodd ac a drefnodd y Llyfr hwn bron i gyd, ac felly ffrwyth ei lafur diflin ef ydoedd yn benaf. Nis gwyddom ddim am Mr. Evans a Mr. Hughes fel Emynwyr, ond yr oedd ganddynt chwaeth dda i ddethol Emynau priodol at wasanaeth y Cysegr. Yr oedd y ddau eraill yn Emynwyr chwaethus a melus.

10. PARCH. ROBERT WILLIAMS, BODFFARI.

Fel Emynydd a Cherddor gwnaeth Mr. Williams wasanaeth anmhrisiadwy i ganiadaeth y Cysegr yn mhlith y Wesleyaid Gymreig. Efe ydyw Awdwr yr Emyn "Cyn canfod y dwyrain yn gwenu," &c.—Rhif 70 yn y Llyfr Emynau Newydd. Ac efe a gyfieithodd Emyn Wesley: "O am dafodau fil mewn hwyl,"—Rhif 7, ac hefyd Emyn anfarwol Y Parch. T. Oliver: Duw Abra'm molwch Ef," &c.—Rhif 43, 44 a 45, ac amryw eraill. Diameu y bydd yn dda gan ein darllenwyr gael yr Emyn canlynol o'i waith:—

"GAN EDRYCH AR IESU."

1 ER amled yw ngelynion
Af yn mlaen, &c.;
A'm gwyneb tua Seion,
Af yn mlaen.
Os rhaid i mi ymdrechu
A rhodio dan alaru,
A goddef fy mradychu,
Af yn mlaen, &c.,
Gan edrych ar yr Iesu,
Af yn mlaen.

2 Aeth cwmwl mawr o dystion
O fy mlaen, &c.;
Trwy lawer o helbulon
O fy mlaen:
Goddefodd rhai'u fflangellu
Ac eraill eu merthyru;
Hwy gawsant nerth er hyny
O fy mlaen, &c.,
I edrych ar yr lesu
O fy mlaen.

3 Yn awr trwy ddrych 'rwy'n canfod
Is y rhod, &c.;
Mewn rhan 'r wyf yn adnabod,
Is y rhod.
O Dduw rho nerth i gredu
Nes uno gyda'r teulu
Am waed y groes sy'n canu
Uwch y rhod, &c.
Yn nghwmni f' anwyl Iesu
Uwch y rhod.


11. PARCH. ISAAC JENKINS.

Credwn fod yn ein Llyfr Emynau amrai a gyfansoddwyd gan Mr. Jenkins. Ond ni wyddom gyd â sicrwydd ond am un, sef Arglwydd grasol, dyro'th Ysbryd," &c.Rhif 368. Yn yr Emyn canlynol cawn engraifft dda o'i waith fel Emynydd:

Y JERUSALEM NEFOL.

1 "Jerusalem fy nghartref hoff!
O na bawn yna'n byw!
O na chawn dd'od i'r hyfryd fan
I drigo gyd â'm Duw!

2 Dy furiau ynt o feini teg,
A gemau gwerthfawr oll;
Dy byrth o berlau disglaer pur,
Digymhar a digoll.


3 Mor fendigedig yw y lle!
Anhebyg i'n byd ni:
Ei theml fawr yw Duw a'r Oen
A'i gwiw ogoniant hi.

4 Oddeutu glànau'r afon lwys
Mae pren y bywyd pur,
A'i gangau ffrwythlon lledu wnant
Dros holl derfynau'r tir.

5 Peroriaeth y Seraffiaid sy'n
Cydgordio gyd â llef
Y gwaredigion yn gyttun,—
Yn Haleliwia gref.

6 Y beraidd gân a chwydda'n mlaen
Dros y dragwyddol oes,
A'r testyn penaf fydd o hyd,
Y Gŵr fu ar y groes.

7 Jerusalem fy nghartref hoff!
O na bawn yna'n byw,
O na chawn dd'od i'r hyfryd fan
I drigo gyd â'm Duw."


12. MR. WILLIAM JONES, LLANFYLLIN.

Cyfansoddodd Mr. Jones amryw Emynau. Efe ydoedd Awdwr yr Emyn "Pan yn gaeth yn mysg gelynion." Gwel rhif 610 yn y Llyfr Emynau Newydd. Efe hefyd gyfansoddodd yr Emyn canlynol:

Y PERERIN AR EI DAITH.

1 "Pererin wyf mewn anial fyd,
Yn teithio tua'r Ganaan glyd,
Y freiniol nefol fro:
Yn mhlith estroniaid 'rwyf yn byw,
Er hyny am fy nghartref gwiw
Meddyliaf lawer tro.

2 Cyfarfod 'rwyf a chroesau blin,
Gwlawogydd a thynhestlog hin,
A rhwystrau mawrion maith:
A rhag i'm' wyro ar un llaw,
Fy nghalon bruddaidd sy' mewn braw
Yn fynych ar fy nhaith.

3 Ond tra bwy'n teithio dan y nef,
O gwisg fi a'th arfogaeth gref,
Fy ffyddlon dirion Dad:
Fel un a fyddo dan dy nod,
Yn amyneddgar gad im' fod,
Nes d'od i'r hyfryd wlad."


13. MR. JOHN EVANS (IOAN TACHWEDD), YSCEIFIOG.

Gallwn ddywedyd heb betruso fod Ioan Tachwedd yn fardd o fri, ac yn Emynydd da iawn. Yr oedd hefyd yn Bregethwr Cynorthwyol meddylgar a galluog. Efe ydoedd tad y Parchn, W. H. a J. Hugh Evans; a phrofasant yn feibion teilwng o'u tad yn mhob ystyr. Bydd Wesleyaeth Gymreig dan rwymedigaeth fythol iddo am fagu iddi ddau Weinidog mor enwog a defnyddiol. Wele yn canlyn ddau Emyn o'i waith:

HIRAETH AM YR HYFRYD WLAD.

I Galaru'r wyf, och'neidio'n brudd,
Yn myd y cystudd mawr;
Fy hiraeth poenus sy'n parhau
Am weled goleu gwawr.

2 Mae'r hen elynion, yn y nos
Yn aros, bron o hyd,
Am rwystro pob pererin gwael
I gael gorphwysfa glyd.


3 O am gael gwel'd yr hyfryd wlad
Lle mae fy Nhad a' Nuw;
Ac hefyd glywed newydd braf
Y caf fyn'd yno i fyw.

4 Gelynion sy 'n yr anial dir,
A minau'n wir yn wan;
Os caf ond grym o waed y Groes
Mi ddof o'r loes i'r làn.

5 O Haul Cyfiawnder pur caf faeth
Caf feddyginiaeth rad:
Yn ei oleuni dysglaer fry
Caf fyw yn nhŷ fy Nhad!


GOGONEDDU'R GWAREDWR.

1 Fe welwyd ein Crist yn ngardd Gethsemane
A'i wyneb yn drist, mewn chwys pan yn dyodde',
Gwynebodd y frwydr boeth hynod ei hunan
Er mwyn cadw'i frodyr rhag yfed o'r cwpan;
Angylion nef wen, nesewch â'ch telynau!
Fe roir ar Ei ben fil myrdd o goronau.

2 Tra byddwyf fi byw mi gofiaf olygfa
Dyoddefaint Mab Duw ar fynydd Calfaria,
Tair teyrnas, tri gallu, oedd arno'n ymosod
Efe a orchfygodd, gorphenwyd y Cymod!
Angylion nef wen, &c.

3 Pan glywyd y gair hoff anwyl Gorphenwyd
O enau Mab Mair, nerth uffern orchfygwyd;
Yn lle cleddyf effro yn taro'r Messiah
Llais heddwch sy'n adsain ar ochrau Golgotha.
Angylion nef wen, &c.

5 Gogoniant i Dduw am drefn iachawdwriaeth
I'n cadw ni'n fyw, o afael marwolaeth;
Fe gospwyd y Meichiai i arbed pechadur;
Ar fynydd Calfaria rhyddhaodd ei frodyr!
Angylion nef wen, nesewch â'ch telynau!
Fe roir ar Ei ben fil myrdd o goronau.


14. MR. EVAN JONES, RHUDDLAN.

Ceir llawer iawn o gynyrchion awen yr hen bererin duwiol, Evan Jones, Rhuddlan yn yr hen Eurgrawniau, ac yn eu plith nifer dda o Emynau. Gosodwn yma ddwy engraifft o'i waith:

EWCH I'R HOLL FYD.

I Ewch i'r holl fyd medd Arglwydd nef
Cyhoeddwch Ef a'i waed
Yn feddyginiaeth gyflawn, rad,
I'r enaid duaf gaed.

2 Cyhoeddwch y bendithion hael
I'r gwael r'un modd a'r gwych,
Gan ddyweyd nad oes neb ynddo ei hun
Ond truan yn y drych.

3 Pregethwch yr Efengyl hon,
Bydd goron ar eich gwaith,
Gan ddywed fod gorphwys eto' ol
I oes dragwyddol faith.

4 Hyd ddiwedd byd preswylio wnaf
Heb anaf yn eich plith,
Gan roi trugaredd ryfedd rad:
'Run bwriad feddaf byth.

5 Amen, bod felly, medd y llw,
I hwnw ddaw ar hyd
Y llwybr sydd i'r hyfryd làn
O bedwar ban y byd.


GRAS YN BOB PETH I'R ENAID.

1 Nid oes trysor i fy enaid
Mewn un rhoddiad dan yr haul,
Ond mae cyfoeth mawr ei sylwedd
Im' yn rhinwedd Adda'r ail:
Pwysaf arno dan drallodion
A gwasgfeuon chwerwon chwith;
Y mae digon er fy nerthu
Yn y gras a beru byth.

2 Gras im' dwyn o fyd y stormydd
Fry i'r broydd mawr eu braint;
Gras im' gwisgo gyda'r ddelw,
Gras fydd sylwedd cân y saint;
Gras yn rhad i'r cynar hedyn,
Nes daw terfyn ar y dydd;
Ac am ras yr hyfryd genir
Pan orphenir gyrfa'r ffydd.


15. PARCH. WILLIAM DAVIES, D.D.

Bu Dr. Davies ar gyfrif ei amrywiol dalentau yn un o addurniadau penaf Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig. Yr oedd yn fardd awenyddol, ond gan brysurdeb mewn cylchoedd eraill, ni chafodd fawr o hamdden i ymgaredigo a'r awen. Ond pan eisteddai yn ei chwmni ildiai iddo ei holl gyfrinion swynol mewn delfrydau pur, ogystal a cheinion prydferthaf iaith i'w gwisgo yn ad-dynol a gogoneddus. Yn ei weithiau ef ceir cyfuniad o arogledd Libanus a godidawgrwydd Carmel a Saron. Nis gwyddom am na Llenor na Bardd fedrai droi allan ei gynyrchion gyd â'r fath orpheniad perffaith ag efe. Wele, yma ddau Emyn o'i eiddo:—

GWEDDI'R EDIFEIRIOL.

1 "O Arglwydd, clyw fy llef,
A gwel fy eisiau mawr;
O doed i nef y nef
Fy ngweddi attat nawr:
Gostwng dy glust a chlyw fy nghri
O'th fawr drugaredd gwrando fi.

2 Pechadur wyf, O Dduw,
Pechadur mawr a drwg,
Pechadur gwaetha'n fyw
Yn haeddu'th gyfiawn wg;
O maddeu mai, o maddeu'n rhad,
O maddeu 'nawr, drugarog Dad!

3 'Rwy'n halogedig iawn,
Yn aflan oll i gyd,
O lygredd du yn llawn
Tan orthrwm faich o hyd;
O golch fi'n lân, o golch fi'n wyn
Yn ffynnon fawr Calfaria fryn.

4 Ac yna dal fi'n lân
Tra b'wyf mewn anial fyd,
Nes cefnwyf yn y man
Ar groesau'r llawr i gyd,
Ac esgyn fry ar aden gref,
I'th ganmol byth yn nheyrnas nef."


HOSANNA I FAB DAFYDD.

1 "Dyrchafwn yn gyttun
Fawl teilwng Frenin nef;
Ein Ceidwad Iesu, Duw a dyn,
Rhown foliant iddo Ef.

2 I'n hachub ni rhag gwae,
Bu farw ar y Groes,
A throsom eto eiriol mae
Ar sail ei angau loes.

3 Y cariad at y byd
Ddangosodd gynt mor gry',
A leinw 'i fynwes fawr o hyd
Yn ei ogoniant fry.

4 Er bod yn destyn cân
Holl gorau'r nefol fyd
Yn uwchder ei frenhinllys glân
Fe'n cofia ni o hyd.


5 Tra'n lliwio'r cydfyd mawr,
Yn Frenin llawn o fri,
O'i wychedd oll edrycha i lawr
Yn serchog arnom ni.

6 Boed moliant iddo byth,
Goruwch ac is y nen;
Rhoed nef a daear yn ddilyth
Goronau ar ei ben."


16. PARCH. LEWIS MEREDITH (LEWYS GLYN DYFI).

Cyfansoddodd Lewys Glyn Dyfi amrai ddarnau barddonol prydferth a swynol iawn. Cyhoeddodd Lyfr o'i weithiau barddonol dan yr enw "Blodau Glyn Dyfi," yn y flwyddyn 1852. Yr oedd yn bregethwr melus odiaeth, a cholled fawr i Gymru fu ei ymfudiad i'r America. Ysgrifenodd Mr. Edward Rees Gofiant rhagorol iddo, yn hwn a ymddangosodd yn "Yr Eurgrawn" am y flwyddyn 1894. Rhoddwn yma ddau o'i Emynau:

TREFN GRAS.

1 "Y drefn i gadw dyn,
A'i wneyd yn hardd ei lun,
Heb unrhyw goll,
Sy'n destyn syn bob awr
Gan feibion boreu'r wawr,
A dyma syndod mawr
Y bydoedd oll.

2 I wneyd y gorchwyl mawr
Er achub teulu'r llawr
Rhag bythol gur;
Trwy boenau o bob rhyw
Yr aeth ein Iesu gwiw,
Gan flam angerddol, fyw,
Ei gariad pur.

3 Rhown ninau oll yn awr
Am gariad sy' mor fawr
Bereiddiaf glod;
O deued pawb yn nghyd
I gysgod Prynwr byd;
Cawn drwyddo noddfa glyd,
Tra nef yn bod."


EMYN CENHADOL.

1 "Dos yn gyflym fwyn Efengyl,
I waredu llwythau'r llawr;
Ffy dywyllwch byd ar encil
Fel y nos o flaen y wawr;
Llanw'r ddaear,
A disglaerdeb nefol ddydd.

2 Llais erfyniol pell ynysoedd
Gyda'r gwyntoedd atom ddaw;
Disgwyl mae yr holl genhedloedd
Am y diwrnod sy' gerllaw,
Pan gyflawnir,
Hen addewid fawr y nef.

3 Ffrydiau gras yn llawn a lifant
Nes cyrhaeddant dros y byd;
Yn y fan fu'n drigfa dreigiau
Tyf perlysiau teg eu pryd,
Pur sancteiddrwydd,
A fantella'r ddaear faith.

4 Yn ngwynebpryd hardd-deg Seion
Ymddisgleiria delw Iôr;
Bydd ei heddwch fel y afon,
A'i chyfiawnder fel y môr;
Dedwydd ddyddiau!
O na wawria'r hyfryd awr.


17. MR. WILLIAM JONES (EHEDYDD IAL), LLANDEGLA.

Cyhoeddwyd Cyfrol fechan yn ddiweddar gan y Parch. John Felix, dan yr enw "Blodau Iâl," yn cynwys Cofiant a Gweithiau Mr. William Jones. Wrth ymgynghori â'r Gyfrol hon canfyddir yn eglur ei fod yn Emynydd cryf ac urddasol. Peru ei Emyn "Er nad yw'm cnawd ond gwellt" tra peru yr iaith Gymraeg. Ceir amryw o'i gyfansoddiadau yn y Casglad Newydd o Emynau at wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd, a chyfeiriwn y darllenydd at y cyfryw.

18. MR. T. R. MARSDEN (DIDYMUS AP GWILYM), TREFFYNNON.

Esgynodd D. ap Gwilym i safle barchus fel Llenor a Bardd yn mhlith goreugwyr ein henwad. Brawd ydoedd i Mr. John Marsden (Y Llyfrbryf Wesleyaidd).—Wesleyad nad oes yn ein Cyfundeb yr un mwy selog a ffyddlon. Cyfoethogodd lawer ar ein Misolion gyd â'i gyfroddion gwerthfawr yn llenyddol a barddonol. Medrai Emynu yn naturiol a tharawiadol. Efe a gyfansoddodd yr Emyn canlynol:

1 "Neb, Iesu, ond Tydi,
Ddymuna f'enaid i,
Mewn nef na llawr;
Tydi, Oen addfwyn Duw,
Hoff Geidwad dynolryw,
Tydi fy Mhrynwr byw,
A'm Brenin mawr.

2 Iachawdwr Calfari,
O gwrando ar fy nghri,
O'r nefoedd clyw!
'Rwyn erfyn wrth dy draed,
O golch fi'n awr yn ngwaed
Yr aberth mwyaf gaed,
A gad i'm fyw.'


Gofod a palla i ni fynegu am y Parch. Robert Humphreys, Bardd Du Môn, Mr. Griffith Williams (Gutyn Peris) a'i fab, Mr. E. G. Williams (E. G. Peris), Mr. R. Jones (Bardd Mawddach), Iolo Fardd Glas, Parch. Lewis Williams (Lewys Egryn), Miss Owen (Mair Hydref), Mr. Elias Edwards, Tregarth, y Parch. Griffith Jones, Aberdaron, y Parch. Evan Evans (Y Bugail), y Parch. David Jones (c), (Dewi Mawrth), O. Cethin Jones, ac eraill.

Pan yn ysgrifenu, mae ein Llyfr Emynau Newydd ar ddyfod allan o'r wasg. Casglwyd ef gan y Parchn. John Hughes (Glanystwyth), John Cadvan Davies, T. J. Pritchard, John P. Roberts a John Humphreys, a hyny trwy benodiad Cyfarfodydd Talaethol y Gogledd a'r Deau. Hwn ydyw y pedwerydd Llyfr Emynau a gasglwyd at ein gwasanaeth fel Enwad yn Nghymru. Gadawr i'n darllenwyr ffurfio barn am dano yn annibynol ar unrhyw ddatganiad o'r eiddom ni am dano. Fel y gwel ein darllenwyr, nid ydym wedi dywedyd dim am ein Hemynwyr sydd eto yn aros yn mhlith y byw.

Nodiadau

[golygu]