Neidio i'r cynnwys

Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig/Erlidigaethau a Dadleuon

Oddi ar Wicidestun
Corphoriad yr Achosion Wesleyaidd Cymreig yn Dalaeth Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig

gan Thomas Jones-Humphreys

Ad-weithiad a Phrofedigaethau


PENNOD VI.

Erlidigaethau a Dadleuon Athrawiaethol y Cyfnod
Cyntaf yn Hanes Methodistiaeth Wesleyaidd
Gymreig.

YN hytrach na chymysgu hanes yr Erlidigaethau a'r Dadleuon Athrawiaethol gyd â hanes y llwyddiant digyffelyb a nodweddai flynyddoedd cyntaf Wesleyaeth Gymreig, barnasom mai gwell fuasai rhoddi sylw iddynt wrthynt eu hunain. Bydd yn fwy darllenadwy a dyddorol felly, heblaw yn fwy hwylus i'r darllenydd.

Ymddengys na chyfodwyd fawr o erlidigaeth ar ein Cenadon yn eu hymweliadau cyntaf â gwahanol ranau y Dywysogaeth. Yn wir, am y flwyddyn gyntaf, cawsant lawer o garedigrwydd gan y gwahanol Enwadau, ac mewn llawer o engreifftiau cawsant fenthyg eu Capelau i gynal odfaon. Ond pan ddeallwyd eu cenhawdwri, trwy eu gwaith yn pregethu cyffredinolrwydd yr Iawn, amodolrwydd trefn iachawdwriaeth, crefydd brofiadol, a pherffeithrwydd Cristionogol, daethant i wrthdarawiad a'r syniadau Calfinaidd oedd yn y wlad, dechreuwyd edrych arnynt gyd â chryn lawer o amheuaeth, a dywedai rhai yn ddifloesgni eu bod yn hereticiaid, ac yna cyfodwyd cri o wrthwynebiad iddynt yn y pwlpudau a thrwy y wasg. nyni a gawn fod y Parch. Thomas Rees, D.D., yn myned. mor bell a phriodoli i fêsur helaeth y llwyddiant a fu ar lafur y tadau i'r gwrthwynebiad a'r erlidigaeth a gyfarfuasant oddiwrth Grefyddwyr Cymru. Diameu i hyny eu gwneyd yn hysbys ac adnabyddus yn y Dywysogaeth, ond a oedd hyn yn factor yn eu llwyddiant sydd dra amheus. Llwyddwyd hwy o herwydd eu ffyddlondeb i alwad Duw yn ngyflawniad eu gwaith.

I. ERLIDIGAETHAU.

Nodwn ychydig engreifftiau o'r Erlidigaethau yr aeth ein tadau yn yr Efengyl trwyddynt. Rhoddwn yn gyntaf oll adroddiad o'r Erlidigaeth a gymerodd le yn Abergele yn y flwyddyn 1802, pan yr ataliwyd y Parch. Edward Jones, Bathafarn, i bregethu yno. Fel hyn yr adroddir yr hanes gan Mr. Jones ei hun:—"Pan ddaethum i Abergele, yr oedd yno ganoedd (o 3000 i 4000, meddai Mr. Lot Hughes), o bobl wedi ymgynull. Wedi i mi ddisgyn oddiar fy anifail daeth y swyddogion ataf i ofyn i mi fy awdurdod i bregethu: mi a estynais iddynt fy mraint-lythyr. Yn fuan wedi hyn danfonasant ef yn ol gyd â'r swyddog, ac ar yr un pryd fe'm cymerwyd o flaen yr Ynadon. Wrth i mi fyned trwy y dref, yr oedd y bobl yn holi i ba le yr oeddwn yn myned. Atebais inau mai i'r carchar, am a wyddwn. Pan ymddangosais ger eu bronau, gofynasant i mi pa awdurdod oedd genyf i bregethu. Atebais fod fy mraint-lythyr yn rhoi i mi awdurdod. 'Ond,' meddent, pa awdurdod sydd genych i bregethu yn y tŷ neu yn y buarth?' Dywedais nad oedd genyf un awdurdod, yn gymaint nad oedd y lle wedi ei recordio. 'Pa fodd yr ydych yn cymeryd y fath hyfdra,' ebai yr Ynad, 'a phregethu mor agos i dŷ yr offeiriad?' Atebais nad oeddwn yn adnabyddus ei fod yn byw mor agos. wyf yn penderfynu,' ebai yr Ynad, i wrthwynebu pawb sydd yn gwrthwynebu yr Eglwys.' Yr wyf yn gofyn eich nawdd, Syr, ac yn dymuno i chwi ddeall nad wyf fi yn gwrthwynebu yr Eglwys: nid oedd neb yn fwy o blaid yr Eglwys na Mr. Wesley. Dywedais yn mhellach nad y person yw yr Eglwys, na'i phen chwaith. Eglwys yw cynulleidfa o bobl yn proffesu—yn cynal i fyny ei grym hi. Ai dyna yw yr Eglwys!' ebai y person. Dywedais fy mod i wedi darllen yn un o Epistolau Paul fod Eglwys yn nhŷ un o'r cyfeillion. Gofynodd y person i mi a ddarllenaswn y llyfr a'r llyfr, atebais na ddarfum; ond, os rhoddwch ei fenthyg, mi a'i darllenaf. Wrth iddynt fy ngweled mor hyf dros yr achos da, yr oeddynt yn bur waedwyllt a ffyrnig, ac yn penderfynu na chawn bregethu i'r bobl. Am hyny gofynais i'r boneddigion a gawn i fyned i fynegu i'r bobl nad oedd caniatad i mi fyned i bregethu iddynt. Hwy a atebasant, Cewch; ond na ddywedwch fod Griffith o'r Garn yn eich rhwystro.' Dywedais y byddai raid iddynt yn y dydd mawr ag sydd ar ddyfod roddi cyfrif manwl am fy atal i bregethu i'r bobl. Yr oedd y bobl yn daer iawn arnaf i bregethu, ac yn barod i dalu pob traul; ond bernais mai doethach oedd peidio y tro hwn. Bu y tro hwn yn dra llesol i'r achos da yn Abergele; canys cyrhyrfodd hyn y bobl i ymofyn am le cyfleus i addoli Duw."

Yr engraifft nesaf y cyfeiriwn ati a gymerodd le yr un flwyddyn yn Nghonwy, ac fel hyn yr edrydd Mr. Jones, Bathafarn, yr hanes: "Wedi i ni (sef Mr. Bryan a minau) gyrhaedd Conwy, . . . . nyni a ganfuasom yn fuan nad oedd fawr o arwyddion gwir grefydd o'i mewn, eithr yr oedd pobpeth yn arwyddo fod y trigolion yn hil wargaled ac anufudd. Wedi i ni benderfynu y byddai i ni bregethu mewn buarth o'r neilldu, nyni a aethom o dŷ i dŷ i erfyn ar y bobl i ddyfod i'n gwrandaw. Yr atebiad a gawsom gan lawer oedd, nad oeddent hwy yn dymuno ein gwrandaw. Yn wir, yr oeddem ni yn barnu hyny ein hunain oblegid yr oeddynt yn ymddangos mor neillduol o ddidaro yn nghylch yr achos mwyaf; ond ni ddarfu i hyn ein digaloni; eithr wedi i ni gael benthyg bwrdd i sefyll arno, myfi a ddechreuais yr addoliad trwy ganu a gweddio; yna dechreuodd Mr. Bryan bregethu. Yn mhen oddeutu deg mynud ar ol i Mr. Bryan ddechreu pregethu daeth dau swyddog yn mlaen (wedi eu hanfon gan yr offeiriad fel y deallasom wedi hyny) gan ddymuno arno i roi i fyny, yn gymaint nad oedd y lle hwnw yn addas i bregethu ynddo, am nad oedd wedi ei recordio. Ymdrechais i'w gynghori i ufuddhau, oherwydd nad oedd. genym awdurdod y gyfraith. Ond nyni a hyspysasom ein gwrandawyr y byddai i ni holi am le cyfleus, ac yr aem yn ddioed i gwrt Bangor i'w recordio. Yngymaint ag i ni gael ein rhwystro yr ail waith, penderfynasom i gymeryd lle o dan ardreth; a chyn i ni fyned o'r dref yr ail dro buom yn llwyddianus i gael hen ysgubor gan wraig weddw am bedair punt yn y flwyddyn. Wedi hyn nyni a aethom gyd â'r brys mwyaf i Fangor i'w recordio, ac wedi i ni gael pobpeth yn ddiogel mi a anfonais i Gonwy y byddai i mi bregethu am ddau o'r gloch y Sabboth canlynol yn yr hen ysgubor. Erbyn i mi gyrhaedd yno o Beaumaris yr oedd y bobl wedi ymgynull yn dyrfa fawr iawn, o bell ac agos, i wrandaw y gŵr a rwystrwyd gan yr Ynad. Yn fuan wedi i mi ddechreu pregethu daeth dau swyddog yn mlaen drachefn, gan ddymuno arnaf ddangos fy awdurdod i bregethu yn y lle hwnw. Erfyniais arnynt ymdawelu nes i mi ddarfod pregethu i'r bobl, yna y boddlonwn hwynt- hwy a'r offeiriad; ond nid oedd dim llonyddwch i'w gael nes i mi ddangos fy awdurdod. Yr oedd fy ngwrandawyr wedi cael cryn fraw, ac yr oedd llawer o honynt yn wylo wrth weled fy mod yn cael fy erlid fel hyn gan y person. Cynghorais hwynt i beidio ag wylo; a dywedais, os byddai raid i mi fyned i'r carchar, y deuai Duw Paul a Silas yno gyd â mi. Cefais lawer iawn o hwyl nefolaidd tra yn erfyn. arnynt i gymodi â Duw."

Ar ei ymweliad âg Ynys Môn daeth Mr. Jones i Langefni, ac yno, hefyd, cyfodwyd erlidigaeth yn ei erbyn, ac fel hyn y tystiolaetha—"Cefais gryn wrthwynebiad yn Llangefni. Wedi i mi gael benthyg llofft fawr berthynol i'r lluesty (Inn) benaf yn y lle y pryd hwnw, gorfu i mi droi allan (o herwydd maint y gynulleidfa mae yn debyg), a sefyll ar y gareg-farch wrth y tŷ. Cefais rwyddineb mawr i lefaru; ond tra yr oeddwn yn gofyn bendith Duw ar y gair a'r bobl, cyn ymadael, wele rhuthrodd gŵr bonheddig trwy y dorf, a chymerodd afael ynof, a thynodd fi i lawr, a dywedodd wrthyf y gwnai efe i mi dalu ugain punt, neu y cawn fyned i'r carchar. Llusgwyd fi i'r dafarn, a sicrhawyd y drws; ac wedi fy nghael i ystafell fechan o'r neilldu, gorchymynodd i mi roddi fy enw iddo, ac os na wnawn hyny yr oedd yn rhaid i mi fyned i'r carchar. dywedodd, os gwnawn addaw na ddeuwn mwy i Sir Fòn, y cawn i fyned yn rhydd y tro hwn! Dywedais na allwn wneuthur hyny yn gydwybodol, am fod y gorchymyn i mi fyned i'r holl fyd, a phregethu yr Efengyl i bob creadur; ond y gwnawn addaw na ddeuwn mwyach i'r Sir hono os gwnai yntau addaw rhwymo y Diafol, fel na themtiai drigolion y Sir mwy, ac os gwnai addaw na wnai pobl Môn bechu mwyach. Edrychodd yn syn arnaf, a dywedodd mai dyn da oeddwn. Cymerodd fi o flaen hen berson, Mr. Humphreys oedd ei enw, os da yr wyf yn cofio. Yr oedd ef yn yfed grog yn nhŷ un Mr. Lloyd. Wedi fy nwyn fel hyn o flaen y person, efe a ofynodd i mi gyd â llawer o rwysg, pa fodd yr oeddwn yn meiddio pregethu allan! beth pe buasai i mi a'm teulu fyned heibio mewn cerbyd, ac i'r ceffylau gymeryd braw?' Gyd â'ch cenad, Syr, ebai finau, ni ddygwyddodd hyny. Yna neidiodd Mr. Lloyd i fyny, gan gymeryd fy mhlaid yn wresog; efe a daflodd lyfrau y gyfraith ar y bwrdd, a dymunodd arnynt ddangos iddo ef lle yr oedd y gyfraith yn fy ngwrthwynebu. Ar hyn darfu i Mr. Evans, Trefeilir, y gŵr bonheddig a'm tynodd i lawr, fy nghymeryd yn ol i'r lluesty, ac wedi i ni fyned yno gofynais am ei enw. 'Gwir,' ebai ef, y mae genych chwi yr un hawl i ofyn i mi am fy enw âg oedd genyf finau i ofyn am eich enw chwithau.' 'Addawaf o flaen tystion,' ebai ef, am i chwi ymddwyn fel gŵr bonheddig, os gwelaf chwi yn pregethu allan eto, y bydd i mi fyned heibio fel gŵr bonheddig, heb eich atal. Diolchais iddo; ond dywedais y byddai yn rhaid iddo roi cyfrif i Dduw am ei ymddygiad. Dygwyddodd hyn ar nos Fawrth ddydd Sadwrn o'r blaen yr oedd ef wedi claddu ei dad a'i frawd, a chymerwyd yntau yn glaf yn bur fuan wedi hyn; ac yn ystod ei afiechyd yr oedd yn addef wrth y wraig oedd yn ei wylio fod yn ddrwg ganddo iddo ymddwyn yn y fath fodd tuag ataf."

Yn Nghemmes, gerllaw Amlwch, crybwylla Mr. Bryan iddo ef a Mr. John Maurice gael eu trin yn lled angharedig:—"Ond," meddai Mr. Bryan, "nyni a gyfarfuasom a thriniaeth bur wahanol (i'r un a gawsant yn Amlwch), y dydd canlynol, wrth i ni fyned i bentref lled helaeth gerllaw Awlwch, a elwid Cemmes, man llawn o Galfiniaid; ac nis gallwn gael yno fwyd, diod, na stabl i roi ein ceffylau! Mi a brynais dorth o fara, ac a'i cariais hi o dan fy mraich trwy yr heol, er porthi y ceffylau, y rhai oeddem wedi eu troi i gwrt o'r neilldu; a'n ciniaw ninau oedd wy a theisen o flawd haidd a cheirch. Ymddengys eu bod wedi penderfynu ein cadw allan o'r lle. Ond fe bregethodd y brawd Maurice i gynulleidfa led helaeth. Cawsom hanes tŷ yn y gymydogaeth i'n derbyn y tro nesaf. A ydyw yn alluedig fod y bobl yma yn meddu cariad Duw yn eu calonau? Na fydded i'r Hollalluog roi y pechod hwn yn eu herbyn."

Gyd â bod Mr. Bryan wedi dechreu ar waith ei weinidogaethaeth aeth i Lanrhaiadr-yn-Mochnant a'r gyffiniau, Siroedd Maldwyn a Dinbych, i bregethu, ac fel hyn yr adrodda yr hanes:—"Yr oedd y person yno yn llidiog iawn yn erbyn pob Sect. Yr oedd yn ddyn cadarn, nerthol yn ymladdwr mawr hefyd, ac yn feistr ar bawb yn y plwyf ond un dyn ieuanc o Lanfyllin, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw yn Llanrhaiadr. Ar ol cyrhaedd y lle aethum o ddrws i ddrws trwy y pentref i wahodd y bobl i ddyfod i wrandaw arnaf, ond ni roddai neb genad i mi sefyll wrth ei ddrws rhag ofn y person. Y mae yn y pentref afon yn rhedeg drwyddo, yr hon sydd yn gwahanu rhwng Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn. Yr oedd y person sylwer yn Ustus Heddwch yn y Sir flaenaf, ond nid oedd felly yn yr olaf. Gan na wnai neb adael i mi sefyll i fyny wrth ei ddrws yn y pentref, myfi a aethum dros y bont i Sir Drefaldwyn; a daeth y bobl yno hefyd ar fy ol i. Ond gyda i ni ganu pennill, daeth y person yn mlaen a safodd ar ganol y bont, ac a waeddodd, Syr, deuwch i lawr oddi yna.' Atebais inau, Ni waeth i mi ddyfod i lawr na pheidio, gan nad oes yma neb i'm gwrandaw,' canys yr oedd y bobl wedi ffoi fel am ei bywyd pan welsant y person. Pan ddaethum i'w ymyl ef, gofynodd i mi fy enw. Minau a ddywedais wrtho hyny; yr hyn pan glywodd a ddywedodd, O, chwi i'w y gwaethaf o honynt i gyd; mi gymeraf fi ofal gyd â chwi, Syr.' Diolch i chwi,' Syr, ebe finau, ni wnaiff neb arall hyny yma, mi a welaf.' Ar hyn efe a wylltiodd yn ddychrynllyd ac a ddywedodd 'Mi a'ch cymeraf i Ruthyn, Syr.' Bydd yn dda ganddynt fy ngweled i yno,' ebe finau. Mi a'ch hanfonaf chwi i'r gaol yno, Syr, ac a roddaf ben ar eich pregethu.' 'Ond os af i'r gaol yno, mi a bregethaf o hyd, canys bum yn pregethu yno o'r blaen.' Ar hyn daeth y gŵr ieuanc hwnw o Lanfyllin, am yr hwn y crybwyllais eisioes, fel meistr ar y person ei hun fel ymladdwr—daeth hwnw yn mlaen trwy y dorf ag oedd wedi ymgynull erbyn hyn o amgylch y person a minau; a dywedodd wrthyf fi, 'Mr. Bryan, rho'wch genad i mi, ac mi a'i gwnaf ef mewn deg munud, na ddaw ef byth i'ch gwrthwynebu chwi ond hyny.' 'David Davies anwyl,' ebe finau, na wnewch ddim i Mr. Jones, os ydyw dda ganddoch chi fi.' Ac ar hyn peidiodd a'i daraw, yr hyn, ebe fe, yr oedd arno ddymuniad cael cyfleustra idd ei wneyd er ys talm. Ar hyn parodd y person i un yn y dorf fyned i alw y cwnstabl; ond yr oedd hwnw oddi cartref. 'Peidiwch a chynhyrfu, Syr,' ebe fi, 'mi a fyddaf i'm cael bore fory, canys myfi a arhosaf yn y pentref hwn heno; ac yn awr, Syr,' ebe fi yn mhellach, gan edrych yn llawn yn ei wyneb, pa ddrwg a wnaethom ni? Yr ydych chwi wedi fy rhwystro i bregethu i'r bobl, ac y mae dydd yn dyfod pan y bydd i chwi roddi cyfrif am yr hyn a wnaethoch heddyw; byddaf finau yn dyst yn eich erbyn ger bron y frawdle fawr.' Ar hyn newidiodd ei wedd, ac aeth adref ar ol dywedyd, Mi gymeraf fi ofal na ddeuwch byth yma i bregethu, na neb o'ch brodyr.' A gwnaeth ei oreu i gadw ei air, ond yn gwbl ofer."

Ychwanegwn un engraifft arall o ymosodiad hynod o greulon a wnaed ar Mr. Bryan yn ystod ei ail ymweliad â Threffynnon. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes:—"Pan oeddwn yn myned trwy Pentre-Lygan cyfarfu â mi o ugain i ddeg-a'r-hugain o bobl oedd wedi ymuno â ni y Sul o'r blaen, i'm rhybuddio fod llid mawr yn fy erbyn gan rai yn y dref, oherwydd i mi bregethu mor daranllyd y Sul o'r blaen, ac yn enwedig fod y Papistiaid yn son am fy llabyddio am bregethu yn erbyn eu daliadau hwy, a bod yno ddyn ieuanc yn tyngu y saethai efe fi, ac felly yn mlaen. Ac erfynient arnaf beidio âg anturio yno." Ond yn mlaen yr aeth yr efengylwr penderfynol a gwrol. Llanwyd y Five's Court o wrandawyr astud. Ond yn bur fuan dechreuodd yr erlidigaeth. "Tra yr oeddwn yn llefaru," meddai, "disgynodd careg fawr, yr hon a daflwyd gan rywun dros y mur, ar ben merch, gan wastadhau ei bonnet. Yr oeddwn i wedi gweled y gareg yn disgyn, a gofynais a oedd hi wedi ei niweidio? Atebodd hithau nad oedd hi. Ar hyn disgynodd careg arall, oddeutu dau bwys o bwysau, ar ben merch arall, yr hon a waeddodd, Nid wyf finau wedi brifo, Syr! Ar hyn mi a godais fy llais, ac a ddywedais, Ni bydd niwaid i neb o honom heddyw: ni all na dynion na diafliaid ein drygu, yr Hollalluog a attal holl ymgais y gelyn.' Yr oedd y gŵr ieuanc a nodwyd wedi parotoi y gwn i'm saethu, ond ni allai ollwng yr ergyd allan, yr oedd ofn Duw wedi syrthio arno ef a'r erlidwyr eraill, fel ag y bu i ni gael dibenu y cyfarfod mewn heddwch. Pan godwyd y ddwy gareg i fyny yr oedd syndod ar bawb fod y ddwy ferch heb eu lladd. Dydd i'w gofio oedd hwn; a llawer a droisant at yr Arglwydd."

Nid yw yr erlidigaethau hyn ond ychydig engreifftiau, ond ystyriwn eu bod yn ddigon i ddangos y tywydd garw y daeth ein tadau trwyddo, ac mor amlwg y canfyddwn yn yr oll amddiffyniad yr Arglwydd drostynt. Ond cyfodwyd erlidigaethau gwahanol i'r rhai uchod yn erbyn ein cenhadon cyntaf,—erlidiwyd hwy o bwlpudau Cymru, a hyny gan y prif bregethwyr. Yr oedd y Parchn. John Elias a Christmas Evans yn eu herlid yn ddiarbed, ac felly hefyd y Parch. Williams o'r Wern, yn nhymor cyntaf ei weinidogaeth. Byddai y Parch. John Elias yn gwneyd ymosodiadau bryntion ryfeddol ar yr Arminiaid, fel y gelwid y Wesleyaid ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. gallwn wneyd dim yn well yma na difynu Dr. Owen Thomas. Fel hyn y dywed:—"Ac y mae yn ddiamheuol fod lliaws o'r pregethau a draddodid y pryd hwnw yn ein gwlad, yn mhlith y tri enwad Calvinaidd, yn ei gosod allan (sef Arminiaeth) mewn gwedd hagr iawn, ac yn cynwys llawer o eiriau caledion yn ei herbyn. Byddai Mr. Elias yn ei darlunio, weithiau, fel ag i greu dychryn hollol rhagddi yn meddyliau ei wrandawyr. Clywsom un yn adrodd am dano yn pregethu mewn cymanfa yn y Bala, tua y flwyddyn 1808, am Gariad Crist.' 'Yr oedd wedi cael rhyw hwyl anghyffredin i lefaru; a phan yn tynu yn agos i ddiwedd y bregeth, efe a waeddodd allan Un challenge eto i ddiawl ac Armin cyn tewi,'—Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? nes y bu y gair Armin yn fy meddwl i am flynyddoedd yn rhoi yr ystyr agosaf o bob peth i'r gair' diawl.'"

Clywsom amryw yn dywedyd nas gallasai Mr. Christmas Evans, yn y blynyddau hyny, bron bregethu un bregeth na byddai yn bwrw cawodydd o ddifriaeth ar Wesleyaeth. Mewn pregeth o'i eiddo ar Heb. vii. 22, Crist yn Fachniydd y Cyfamod newydd dros ei bobl, yr ydym yn cael yn mysg eraill y cyfeiriadau canlynol—"Mae Wesleyaeth gib ddall yn meddwl nad oedd Iesu yn adnabod y bobl y machniodd drostynt;' Mae Wesleyaeth mor groesed i athrawiaeth Paul ag yw yr angel drwg i'r angel da;' Prynedigaeth wanllyd iawn y mae y Wesleyaid yn bregethu ar hyd y wlad; yn cael eu cynhyrfu a'u harddel gan ddiafol i dduo gras Duw.'

Ychwanega Dr. Thomas—"Ni a glywsom ein hunain. Mr. Williams, o'r Wern, yn dywedyd:—Nid oedd pregeth yn werth dim cynt, os na byddai ynddi rhyw hergwd i Arminiaeth; ac mi fydda' i yn cywilyddio wrth gofio fel y bum fy hunan yn ei phaentio.'

Yn awr, dengys hyn yn eglur yr ysbryd erlidgar oedd yn Nghymru tuag at Wesleyaeth yn nghyfnod cyntaf ei hanes. Os oedd tri chedyrn Cymru—Elias, Evans a Williams, yn ei herlid fel hyn, diameu fod y pregethwyr llai yn dilyn eu hesiampl, ac felly yr oeddynt. Gwnaeth pwlpud Cymru am y deg mlynedd cyntaf bob peth yn ei allu i greu rhagfarn yn meddwl y werin yn erbyn Wesleyaeth, a'r syndod yw, i'r Arglwydd ei bendithio a llwyddiant mor fawr yn ngwyneb y cyfryw.

II. DADLEUON ATHRAWIAETHOL.

Arweinir ni yma at yr erlidigaeth a gyfodwyd ar ein hathrawiaethau trwy y wasg. Ni bu y Parch. Owen Davies. a'i gyd-lafurwyr cyntaf ond ychydig amser ar y tir, nes y gwnaed ymosodiad penderfynol ar yr athrawiaethau a bregethent. Efallai nad oedd hyn ond peth i'w ddisgwyl, pan gofiwn fod llifeiriant uchel-Galfiniaeth wedi gorlifo y wlad ar ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. Ceir hanes lled gyflawn am y dadleuon hyn gan y Diweddar Barch. Owen Thomas, D.D., yn "Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn." Ond rhaid i ni ddywedyd yn onest na ddarllenasom ddim erioed mor unochrog a rhagfarnllyd a'r bennod ar hanes y dadleuon gan Dr. O. Thomas. Mae fel un ar ei oreu yn sarhau y Parch. Owen Davies, yn gwawdio y Parch. John Bryan, yn camliwio y Parch. Edward Jones, Llandysilio, ac yn cam-esbonio y Parch. Samuel Davies. Ceisia Dr. Thomas amddiffyn y Calfiniaid a ymosodent ar Wesleyaeth, ac ar yr un pryd cydnebydd nad oedd neb o honynt yn deall Wesleyaeth fel ei dysgid yn ngweithiau Mr. Wesley a Mr. Fletcher. Yn ol Dr. Thomas ei hun nid Arminiaeth efengylaidd Mr. Wesley oedd yr un a ymosodent arni, ond rhyw Arminiaeth wêllt o'r eiddynt eu hunain. Ac fel hyn, os oeddynt yn ymosod ar athrawiaeth, a hwythau heb ei deall, pa fodd y gellir eu cyfiawnhau am wneyd? Dywed Dr. Thomas am yr enwadau:—Calfinaidd: "Yr oedd eu syniadau hwy am Arminiaeth wedi eu cymeryd oddiwrth yr hyn yr ymddirywiasai iddo yn Holand, wedi marw Arminus, . . . . ac, yn wir, fel yr oedd yn cael ei dysgu ar y pryd yn Neheudir Cymru, yn yr hen gynulleidfaoedd oeddent wedi ymadael â ffydd eu hynafiaid, yn gystal ag yn nifer amlaf o'r llanau plwyfol trwy y wlad yn gyffredinol. A chanddynt hwy nid oedd yn ddim amgen na chyfundrefn yn gwneyd dyn i fesur mawr yn Waredwr iddo ei hun; Iesu Grist yn ddim mwy nag un i gyflenwi diffygion ymdrechiadau y pechadur un y mae edifeirwch a diwygiad a gweithredoedd da y pechadur yn cael, er mwyn ei aberth ef, eu derbyn er cymeradwyaeth iddo ger bron Duw. Dyma yr ARMINIAETH a adwaenent hwy. Ond yr oedd gwahaniaeth hollol rhwng Arminiaeth Wesley, o'r dechreuad, a'r athrawiaeth hon. . . . Yr oedd elfen efengylaidd drwyadl yn rhedeg trwy ei athrawiaeth ef a'r rhai a gydlafurient âg ef, fel y gwelir wrth ei ysgrifeniadau ef a'r eiddo Mr. Fletcher."

Yr ydym yn cyd-weled yn hollol â Dr. O. Thomas, nad oedd y Parchn. John Elias, Christmas Evans, William Williams, o'r Wern, yn nghyd âg eraill a ymosodent ar athrawiaethau Wesleyaidd wedi eu hefrydu o gwbl yn ngweithiau Wesley a Fletcher. Cymerasant yn ganiataol fod Arminiaeth John Wesley yr un âg Arminiaeth ddirywiedig Holand, ac hefyd yr un âg Arminiaeth Belagaidd hen Eglwys Arminaidd Deheudir Cymru. Ni raid bod yn graff iawn i ganfod fod syniad Dr. O. Thomas yn cael ei gadarnhau yn ysgrifeniadau y Parch. Thomas Jones, Dinbych, a'r rhai a gyd-ddadleuent âg ef yn erbyn athrawiaeth y Methodistiaid Wesleyaidd.

O'r ochr arall, nid oes amheuaeth nad oedd y Parchn. Owen Davies, John Hughes, Edward Jones, Llantysilio, &c., yn deall Calfiniaeth fel ei dysgid yn ngweithiau y Parch. John Calvin, yn nhraethawd Eliseus Cole, ar benarglwyddiaeth Duw, ac yn ysgrifeniadau Calfinaidd y Cyfnod, ïe, ac fel ei pregethid o pwlpudau Cymru ar y pryd. Addefir yn awr gan ddynion blaenaf y Methodistiaid Calfinaidd mai uchel Galfiniaeth a ddysgid yn Nghymru ddechreu y ganrif ddiweddaf. Dyma dystiolaeth y diweddar Barch. T. C. Edwards, D.D., Bala, a'r Parch. John Owen, Wyddgrug, a rhoddwn hi i lawr yn yr iaith ei hysgrifenwyd:-

"Though our Confession of Faith is decidedly Calvinistic, yet our position has been that of Moderate Calvinism for at least the last forty years. Several of the men who drew up our Confession of Faith, such, for example, as the great preacher, John Elias were undoubtedly inclined to high Calvinistic views; and during the first half of the present century (the xix), exaggerated and one-sided views of the truth were presented to many of our people. The coming of Wesleyan Methodism to Wales, and the controversies which followed, resulted in making the doctrine more hyper-Calvinistic than before. But in a few years a healthy reaction arose within the Calvinistic Methodist Body itself; and men came to the front who taught and emphasised those aspects of the truth which had been in danger of being forgotten."

Addefir yma fod syniadau llawer o duwinyddion blaenaf y Methodistiaid Calfinaidd, yn uchel-Galfinaidd ar y cyntaf, ac iddynt wedi hyny fyned yn fwy uchel-Galfinaidd. Cadarnha hyn ein gosodiad, fod y tadau Methodistaidd Wesleyaidd yn deall Calfiniaeth yr amseroedd yr oeddynt yn byw ynddynt. Teimlwn fod yn bwysig i'n darllenwyr ddeall y pethau hyn, cyn i ni fyned yn mlaen i adrodd hanes y Dadleuon Athrawiaethol ar ddechreu y ganrif ddiweddaf, Rhoddi hanes y dadleuon hyn, yn hytrach na'u beirniadu fydd ein prif amcan, ond ar yr un pryd nid ymattaliwn rhag gwneyd sylwadau beirniadol, os bydd hyny yn angenrheidiol i egluro yr hanes.

Y cwestiwn cyntaf a gyfyd yw—Pwy gychwynodd y ddadl? Rhydd Dr. O. Thomas y bai ar y Methodistiaid Wesleyaidd. Dyma fel yr ysgrifena—" Hyd y gallwn ni ddeall, y mae yn ymddangos i ni fod yr ymosodiad cyntaf wedi ei wneuthur gan y brodyr Wesleyaidd eu hunain, trwy daenu traethodyn a elwid 'Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol, yr Athrawiaeth Ysgrythyrol yn nghylch Arfaeth, Etholedigaeth, a Gwrthodedigaeth, gan John Wesley, M.A.' Yn ol Mr. Hughes (sef y Parch. John Hughes, Aberhonddu, yn nghofiant Owen Davies), fe ymddengys i'r traethodyn hwn gael ei gyfieithu gan rhyw Lyfrwerthwr yn Neheudir Cymru, ond fod y Gweinidogion Wesleyaidd wedi gwneyd ymdrech neillduol i'w ledaenu, yn enwedig yn Sir Ddinbych; a'i fod wedi ei ddarllen gyd âg awyddfryd mawr gan lawer o bobl. Ni ddigwyddodd i ni erioed weled yr Argraffiad hwnw, a daenwyd felly, ond y mae yn ein meddiant gopi o'r hyn, ni a dybiwn oedd yn ail-argraffiad o hono, a ddygwyd allan yn y Mwythig gan Mr. Wood yn y flwyddyn 1803. Nid yw ond byr—dim ond 18 o dudalenau. Ar ei ddiwedd y mae "Casgliad o waith y Parch. John Wesley, yn dangos y canlyniadau ofnadwy yn nglyn âg etholedigaeth ddiamodol: gan yr un awdwr.' A gyfieithwyd gan John Bryan." Gwel y darllenydd fod holl ymresymiad Dr. O. Thomas yn seiliadwy ar dybiaeth, ac felly nid yw ei gasgliadau yn werth dim. Ond a chaniatau fod y traethawd o dan sylw wedi ei gyhoeddi gan Lyfrwerthwr yn y Deheudir, a bod y Gweinidogion Wesleyaidd wedi gwneyd ymdrech i'w ledaenu, eto, cyfyd y cwestiwn—Paham y cyhoeddwyd ac y lledaenwyd ef? Ni ddywed Dr. O. Thomas hyny, er yr ymddengys i ni y rhaid ei fod yn gwybod yn dda. Dyma y rheswm dros ei gyhoeddi. Yn y flwyddyn 1800, cyhoeddwyd yn Nghaerfyrddin y llyfr Calfinaidd a elwir "Traethawd defnyddiol ar ben arglwyddiaeth Duw, gan Eliseus Cole." Dengys hyn mai y brodyr Calfinaidd oedd y rhai cyntaf i ymosod, oblegid er gwrthweithio dylanwad traethawd Eliseus Cole y cyhoeddwyd cyfieithiad Cymreig o draethodyn Mr. Wesley. Ac felly cyhoeddwyd ef mewn hunan-amddiffyniad, ac nid mewn ffordd o ymosodiad, fel yr haera Dr. O. Thomas. Bu Dr. O. Thomas yn ofalus iawn i guddio y ffaith hon, a hyny, yn ddiameu, am y buasai yn farwol i'r syniad mai y brodyr Wesleyaidd a wnaeth yr ymosodiad cyntaf. Crybwylla am amryw argraffiadau o draethawd Eliseus Cole, ond dim gair am argraffiad 1800 o hono. Tro anheilwng iawn o hono oedd hwn.

Yn y flwyddyn 1802, cyhoeddwyd argraffiad newydd o draethawd Eliseus Cole, gan y Parch. John Humphreys, Caerwys. Cyhoeddwyd hwn, nid fel y dysg Dr. O. Thomas, yn amddiffyniad i'r Athrawiaeth Galfinaidd, ond yn hytrach fel ymosodiad ar yr Athrawiaeth Wesleyaidd. Dyma fel y dywed y Cyhoeddwr—"Diameu fod cymaint achos am fod yn ddiysgog yn yr Athrawiaethau, cedyrn, anwrthwynebol, a drinir ynddo yn y dyddiau hyn, ag a fu un amser; pan y mae cynifer, tan rith o bregethu yr Efengyl, nad ydynt ddim gwell na gelynion i'w gwir athrawiaethau bendigedig hi."

Yn atebiad i hwn ac i lyfr o waith Dr. Owen, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Parch. John Bryan yn 1803 draethawd Mr. Wesley ar yr "Arfaeth Fawr Dragywyddol, gyd âg ychwanegiadau," &c. Yn y traethawd hwn dangosi mewn modd eglur ganlyniadau rhesymegol y Gyfundrefn Galfinaidd, fel y dychrynai hyd yn nod y Calfiniaid eu hunain rhagddi. Bu y traethodyn hwn yn fwy na chyfartal (match) i draethawd Eliseus Cole. Bron yn gyfamserol a chyhoeddiad yr "Arfaeth Fawr Dragywyddol," cyhoeddwyd yn Gymreig draethawd arall o eiddo Mr. Wesley a elwid "Dyrnod at y Gwraidd." Yr oedd Mr. Wesley yn un o'r dadleuwyr tecaf, ac fel ymresymwr yn ddihafal. Yn y traethodyn bychan hwn, dengys Galfiniaeth yn ei lliw priodol ei hun, gan ddysgu fod etholedigaeth o angenrheidrwydd yn golygu gwrthodedigaeth. Dengys hyn ei fod ef yn deall Calfiniaeth yn yr un goleuni a John Calvin.

Tra yr oedd y traethodau hyn yn gwneyd eu gwaith yn effeithiol, daeth y Parch. Christmas Evans allan i geisio ei hateb, trwy gyhoeddi llyfr dan yr enw—"Ffurf yr ymadroddion iachus, yn cael ei gynyg yn Hyfforddydd i Blant Seion; neu Wrth-Feddyginiaeth yn erbyn gwenwyn Arminiaeth; yn yr hwn y gwneir sylwadau teg a diduedd, yn cynwys llawn atebiad i lyfr Mr. Wesley, a elwir 'Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol,' gan Christmas Evans, gyd â rhai nodiadau gan Titus Lewis. Caerfyrddin Argraffwyd gan J. Evans, 1803." Llyfr eithafol a hollol un-ochrog ydyw hwn, a diameu iddo wneyd mwy o lawer o niwed i Galfiniaeth nag i Arminiaeth.

Yn atebiad i hwn cyhoeddodd Mr. Bryan gyfieithiad o draethawd Mr. Wesley ar "Etholedigaeth Ddiamodol, a rhai o ganlyniadau erchryslawn yr athrawiaeth hono, wedi ei gymeryd allan o waith Mr. Wesley ac eraill, yn nghyd âg ychydig ystyriaethau ar y llyfr a elwir Gwrth-feddyginiaeth yn erbyn Gwenwyn Arminiaeth.' Caernarfon: Argraffwyd gan T. Roberts, 1803." Ni ddarllenasom ond ychydig iawn o bethau mwy doniol na'r ystyriaethau ar lyfr Mr. Christmas Evans. Dangosant fod yr awdwr yn meddu y fath argyhoeddiadau dyfnion o wirionedd yr egwyddorion y safai drostynt, a'r fath ddawn i'w hamddiffyn, fel y gellir ystyried ei lyfr yn un o'r pethau mwyaf cyfaddas hyd yn nôd yn ol tyb Dr. O. Thomas i effeithio er sicrhau yr amcan oedd gan yr awdwr mewn golwg gyd â chanoedd o ddarllenwyr. Teimlodd Mr. Christmas Evans yn boenus o dan y fflangell hon, a chyhoeddodd atebiad i Mr. Bryan. Ond nid ydyw yn ddim amgen nag ymgais i bardduo Wesleyaeth, a'i gwneyd yn ddychryn i'w ddarllenwyr. Dywed nad yw dysgeidiaeth Wesleyaeth ar yr athrawiaeth o gyfiawnhâd yn ddim ond atheistiaeth dan orchudd, a defnyddia eiriau fel hyn wrth ysgrifenu am Wesleyaeth "Barn fawr, bobl anwyl, ydyw credu y fath bynciau. Yn wir, bobl, ni waeth lawer gwadu yr holl Feibl, na dal y tybiai hyn." Nid oes dim gwerth yn ymresymiad y llyfr hwn, a hyny am nad oedd yr Awdwr o gwbl yn adnabod Wesleyaeth fel yr ydoedd mewn gwirionedd.

Y llyfr nesaf a gyhoeddwyd oedd—"Athrawiaeth Rhagluniad Dwyfol, wedi ei ddifrifol a'i fanwl ystyried; sef, traethawd ar Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth, ac Helaethder y Prynedigaeth Cristionogol, gan y diweddar Barchedig John Wesley. At ba un ychwanegwyd Dwy Bregeth o waith y diweddar John Wallter. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway, 1803." Cyfieithiwyd y gwaith hwn gan y Parch. John Hughes, Aberhonddu. Parodd cyhoeddiad y llyfr hwn gryn gyffro yn mhlith y rhai a ddalient syniadau Calfinaidd am Athrawiaethau Crefydd, i ba enwad bynag y perthynent. Cyn hir cyhoeddwyd llyfryn swllt yn atebiad iddo, sef "Ffynhonnau Iachawdwriaeth, sef amddiffyniad i athrawiaethau gras, &c., gan B. Jones, Gweinidog yr Efengyl. Pris Swllt mewn papur glâs. Caernarfon: Argraftwyd gan T. Roberts." Gweinidog gyd â'r Annibynwyr yn Pwllheli oedd Awdwr y llyfr hwn. Yr oedd yr ymgais hon eto yn aneffeithiol i wrth- weithio yr Athrawiaeth Arminaidd, oblegid yr oedd dysgeidiaeth yr Awdwr ynddo yn llawn anghysonderau, yn gymaint a'i fod yn credu mewn etholedigaeth bersonol a diamodol, mewn iawn cyffredinol, ac yn gwadu gwrthodedigaeth. Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn 1805.

Tua'r adeg hon, ac efallai yn atebiad i'r llyfr uchod, fe gyhoeddwyd llyfr bychan arall gan un o'n tadau, sef "Gwir Gredo yr Arminiaid; neu atebiad i'r gofyniad beth yw Arminiaeth?" Yr oedd yn hen bryd i'r rhai a ddadleuent yn erbyn Arminiaeth Wesleyaidd i gael gwybod beth oedd, a dyna amcan y llyfr bychan hwn. Gwnaeth wasanaeth fawr i'n pobl, trwy ddangos iddynt mai nid yr Arminiaeth a wrthwynebid gan y Calfiniaid oedd Arminiaeth Efengylaidd John Wesley a'i ganlynwyr.

Yn y flwyddyn 1806, dygwyd allan lyfr arall yn llawn o ymosodiadau ar Wesleyaeth, sef, "Drych Athrawiaethol; yn dangos Arminiaeth a Chalfiniaeth, mewn ffordd o ymddiddan rhwng dau gyfaill, Holydd ac Atebydd. Gan Thomas Jones. Bala: Argraffwyd dros yr Awdwr gan R. Saunderson, 1806." Awdwr y llyfr hwn oedd y Gweinidog adnabyddus hwnw yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, sef y Parch. Thomas Jones, Dinbych. Ei fodd o ymosod ar y Wesleyaid oedd, trwy eu camliwlio a cheisio creu rhag- farn yn eu herbyn, a hyny trwy geisio dangos fod yr Arminiaid yn cytuno â'r Pabyddion yn eu barn ar y pyngciau o wahaniaeth rhwng Arminiaeth a Chalfiniaeth, ac yn mhellach fod eu syniadau o ran eu hanfod yr un ag eiddo yr hen Forganiaid. Dengys hyn ar unwaith nad oedd yn deall Arminiaeth Efengylaidd y Parch. John Wesley o gwbl, ac felly nid oedd yn gymwys i'w hadolygu, ac nid oedd wrth ymosod arni yn gwneyd dim ond saethu at Gyfundrefn o'i ddychymyg ei hun.

Yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd y "Drych Athrawiaethol," cyhoeddodd y Parch. Owen Davies atebiad iddo, sef "Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd, mewn llythyr at Mr. Thomas Jones, yn ateb i'w lyfr a elwir 'Drych Athrawiaethol,' yn dangos Arminiaeth a Chalfiniaeth, &c. Gan Owen Davies. Caerlleon: Agraffwyd gan John Hemingway, 1806." Dechreua Mr. Davies y llythyr hwn fel hyn—"Mae wedi bod yn fater o syndod gyd â myfi, i glywed y Calfinistiaid yn cyhuddo yr Arminiaid o gredu a phregethu Athrawiaethau, pa rai i'm sicr wybodaeth y maent o unfryd yn eu gwadu," &c. Gwna Mr. Davies yn y llyfr bychan hwn fŷr waith ar y "Drych Athrawiaethol," a gesyd Mr. Thomas Jones gerbron y darllenydd fel un tra anwybodus am Arminiaeth, ac yn gwneyd cam dybryd â Mr.Wesley, trwy briodoli cyfieithiad o adnod iddo na bu erioed yn eiddo iddo. Wrth sylwi ar Heb. x. 38, rhydd Mr. Thomas Jones gyfieithiad Mr. Wesley o honi, gan ddywedyd ei fod fel hyn "Mae y cyfiawn sydd yn byw trwy ffydd yn tynu yn ol," &c., a dywed yn mhellach "Ond am gyfieithiad Mr. Wesley, y mae yn ddïau yn ddrwg, a da os nad oedd ei ddyben ynddo yn waeth." Mewn amddiffyniad yn ngwyneb yr awgrym anfrawdol ac anesgusodol hwn, dywed Mr. Davies yn ei lyfr, tudalen 64, "Ond credwch fi, Syr, fod arnaf eisiau mwy na gras cyffredin i gadw fy natur, pan welais yn y lle nesaf (tudalen 54-55) mor genfigenus, mor faleisus, mor anghyfiawn yr ydych chwi yn cyhuddo Mr. Wesley o fod yn euog o roddi camgyfieithiad o Heb. x. 38, a hyny yn fwriadol i rhyw ddyben drwg. Ond yma mi a ddymunwn sylwi ar y naill law, fod Mr. Wesley yn deall yr iaith wreiddiol yn rhy dda i fod yn euog o gyfeiliorni o berthynas iddi; ac yr wyf yn sicr gredu ei fod yn ŵr a chanddo fwy o barch i Dduw a'i air nag yr ai i lygru neu i wyrdroi rhan o hono at unrhyw au-ddybenion; ar y llaw arall, yr wyf yn gweled eich bod chwi wedi cam-adrodd ei eiriau. Mi a fuom yn edrych heddyw mewn tri o lyfrau (Wesley's Notes, Pred. Calmy considered, and Ser. Thoughts on final preseverance), ac yr wyf fi yn gweled nad yw efe yn adrodd y geiriau fel yr ydych chwi yn eu rhoddi i lawr. Ei eiriau ydynt, nid "Y mae y cyfiawn sydd yn byw trwy fydd yn tynu yn ol," &c., eithr Os y cyfiawn sydd yn byw trwy ffydd a dyn yn ol, fy enaid nid ymfoddlona ynddo." Ac y mae eich cyfieithiad chwi yn cadarnhau un Mr. Wesley, ac i ba ddyben (pa un ai da ai drwg) y darfu i chwi gam-adrodd ei eiriau ef sydd fwyaf hysbys i chwi eich hun.

Yn atebiad i'r "Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd," &c., cyhoeddodd Mr. Thomas Jones, Dinbych, "Ymddiddan crefyddol (rhwng dau gymydog) Ystyriol a Hyffordd, mewn ffordd ymresymiadol, hanesiol, ac ysgrythyrol; yn nghyd âg ychydig sylwadau ar Lythyr Mr. Owen Davies at yr awdwr, a phrawf o anghysonedd y diweddar Barch. John Wesley mewn amryw bynciau o athrawiaeth. Gan Thomas Jones, Bala: Argraffwyd gan R. Saunderson, 1807." Yr oedd y gwaith hwn yn gyfrol drwchus, o dros 450 o dudalenau. Ond er fod y gyfrol hon yn llyfr cymharol fawr, eto nid yw ond ymosodiad eiddil ar Wesleyaeth, a hyny am nad oedd yr awdwr, yn ol tystiolaeth Dr. O. Thomas (un o'i edmygwyr penaf) "yn gallu myned i mewn yn hollol i'r neillduolrwydd a berthyn i Wesleyaeth fel athrawiaeth efengylaidd, ac ar yr un pryd yn gorwedd ar egwyddorion Arminaidd. O ddiffyg hyn y mae Mr. Jones yn fynych yn gwneyd y gwahaniaeth oedd rhyngddo ef a Mr. Wesley yn fwy nag oedd mewn gwirionedd, o leiaf yn fwy nag oedd yn ymarferol."

Yn mhen ychydig wythnosau ar ol cyhoeddiad yr "Ymddiddan Crefyddol" gan y Parch. Thomas Jones, ymddangosodd llyfr yn atebiad iddo, sef, "Ymddiddan rhwng dau Gymydog, Hyffordd a Beread, yn dangos cyfeiliornadau Calfinistiaeth, yn nghyd â llythyr at Mr. Thomas Jones, yn gwrthbrofi ei brawf ef o anghysonedd Mr. Wesley, a'i sylwadau ar llythyr Owen Davies. Gan Owen Davies. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway, 1807." Mae y gwaith hwn yn gyfrol drwchus o dros 400 o dudalenau, ac yn sicr y llyfr pwysicaf o lawer a gyhoeddwyd yn ystod y ddadl. Nis gellir ei ddarllen heb ganfod ei fod yn deall Arminiaeth a Chalfiniaeth yn llawer gwell na Mr. Thomas Jones, ac addefodd un o'r Calfiniaid, os nad rhagor fod yr amddiffyniad i Mr. Wesley yn ngwyneb y cyhuddiad o anghysonedd a ddygwyd yn ei erbyn gan Mr. Jones, yn cynwys pethau y dylasai Mr. Jones ei hun fod wedi eu hystyried. Daeth y gwaith hwn allan o'r wasg cyn i gyfrol Mr. Jones gael ei derbyn a'i darllen ond gan ychydig, a phoenai hyny y Calfiniaid yn fawr, ac ar y cyntaf, methent ddeall pa fodd y dygwyd gwaith mor fawr allan mor fuan. Ond y dirgelwch oedd fod Mr. Davies wedi cael copy o lyfr Mr. Jones yn lleni fel ei hargreffid, a mawr y beio fu arno am hyn. Ond pa niwed oedd yn y peth? Ai onid yw yn beth cyffredin i rai sydd yn adolygu llyfrau i gael Advanced Copy? Eithr y drwg oedd, ddarfod i ymddangosiad prydlon llyfr Mr. Davies atal i lyfr Mr. Jones gael y cylchrediad a'r dylanwad a ddisgwylid iddo. gael. A'r modd i ddial ar Mr. Davies oedd ceisio ei ddifrïo, a'i bardduo, ond methiant hollol fu yr ymgais hon hefyd.

Ond ni roddodd y Parch. Thomas Jones i fyny, eithr cyhoeddodd lyfr drachefn, sef "Sylwadau ar Lyfr Mr. Owen Davies, sef ei ymddiddanion rhwng Hyffordd a Beread, yn nghyd a gwobr o bwys yn gynygedig iddo ar amod teg. Gan Thomas Jones, Ruthin. Bala: Argraffedig gan R. Saunderson, 1808." Nid oes dim byd newydd yn y llyfr hwn, ond yr arwyddion fod Mr. Jones yn poethi yn y ddadl, ac i gryn fesur yn dechreu colli ei dymher, ac yn lle dadleu yn deg, yn taeri ac yn herio.

Ond nid dyn i ildio ei dir i'r gelyn oedd y Parch. Owen Davies, na, ond ymgryfhaodd unwaith eto, a chyhoeddodd atebiad i lyfr Mr. Jones, sef, llythyr oddiwrth Owen Davies. at Mr. Thomas Jones. Dolgellau Argraffwyd gan R. Jones, 1811. Gyd â'r llyfr hwn terfynodd y ddadl rhwng y Parchn. Owen Davies a Thomas Jones. Nid atebodd Mr. Jones byth lythyr diweddaf Mr. Davies. Paham na wnaeth? gadawn i'r darllenydd gasglu. Fodd bynag, rhaid addef i'r ddau arfer geiriau lled gryfion, ac i Mr. Jones gamliwio Wesleyaeth mewn modd hollol anesgusodol, eto da genym weled fod y ddau yn barod i gydnabod fod ynddynt ddiffygion. Dyma fel y terfynai Mr. Owen Davies ei lythyr olaf at Mr. Thomas Jones. "Fodd bynag i ddiweddu, lle yr ydych chwi a minau, yn gystal a rhai eraill efallai, wedi bod yn fyr o lywodraethu ein tymherau a'n hysbrydoedd, maddeued Duw ini. A chredwch fy mod eich ewyllysiwr da, a'ch ceryddwr ffyddlawn, Owen Davies." Ac mewn cyfeiriad at y dadleuon y cymerodd ef—y Parch. Thomas Jones ran ynddynt, dywed—"Eto yr wyf yn ameu fy hun, gan feddwl fod poethder ysbryd, fel'y mae yn rhy debygol, wedi ymgynhyrfu ynof, a'i effeithiau i'w ganfod mewn rhai o'm hymadroddion, oddiar achlysuron trymion yn aml, yn nywediadau y blaid a wrthwynebais. Er yr holl anogiadau annhirion a gefais, yn argraffedig, ac yn mhob modd arall, mae yn debygol y dylaswn arfer addfwynder mwy at fy ngwrthwynebwr, ond efallai y'nghyd a llymder mwy at ei gyfeiliornadau. Yn ngwyneb fy holl golliadau, dymunaf erfyn ar Dduw pob gras am faddeuant a meddyginiaeth.

Mewn cysylltiad â'r ddadl, cyhoeddwyd nifer o fân weithiau yn y cyfnod hwn gan Christmas Evans, George Lewis, D.D., John Parry, Caer, ac eraill. Ond nid ydynt o'r fath deilyngdod, fel ag i gael lle amlwg yn hanes y dadleuon. Ar ol hyn cafwyd ychydig o seibiant oddiwrth y "Dadleuon Athrawiaethol," ond nid am fod y Wesleyaid wedi cilio o'r maes, ac wedi rhoddi eu harfogaeth o'r neilldu, fel y cawn weled ragllaw.

Nodiadau

[golygu]