Neidio i'r cynnwys

Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig (testun cyfansawdd)

gan Thomas Jones-Humphreys

I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig


METHODISTIAETH WESLEYAIDD

CYMREIG:

SEF TREM

AR EI SEFYDLIAD, EI GWAITH, A'I LLWYDDIANT YN

YSTOD Y GANRIF GYNTAF O'I HANES,

GAN Y

PARCH. T. JONES-HUMPHREYS,

AWDWR "ATHRONIAETH FOESOL Y BEIBL," "DAMCANIAETH
DADBLYGIAD," "ESBONIAD YR EFRYDYDD AR Y PEDAIR
EFENGYL," "YR EPISTOL AT Y RHUFEINIAID," A'R
"EPISTOL A/T YR HEBREAID," &c., &c.


"Yr ARGLWYDD a wnaeth i ni bethau mawrion,"-Psalmydd.


Treffynnon:
ARGRAPHWYD GAN W. WILLIAMS A'I FAB.
1900.




I'M CYFAILL ANWYL,

EDWARD REES, Ysw., U.H.,

MACHYNLLETH,

FEL CYDNABYDDIAETH FECHAN O'R CYNORTHWY

ANMIRISIADWY

A DDERBYNIAIS GANDDO I DDWYN ALLAN

HANES

METHODISTIAETH WESLEYAIDD GYMREIG,

YN OGYSTAL

AC AR GYFRIF ADGOFION MELUS

O GYFEILLGARWCH AM

Y DEUGAIN MLYNEDD DIWEDDAF,

Y CYFLWYNIR Y GYFROL HON.

RHAGYMADRODD.

COSTIODD casglu yn nghyd ddefnyddiau y Gyfrol fechan hon i mi flynyddoedd o lafur, ac nid gorchwyl unddydd oedd dethol ohonynt yr hyn a osodwn yma ar fwrdd y Darllenydd. Fel y gwelir, trem ar Hanes Wesleyaeth Gymreig a gymerais, ac felly ni cheir yn y gwaith hwn Hanes Sefydliad yr Eglwysi nac ychwaith Hanes Blaenoriaid a Swyddogion amlwg fu yn ein plith yn ystod y Ganrif. Cynwysai fy nghynllun ar y cyntaf Bennod ar "Hanes Sefydliad yr Eglwysi," a Phennod hefyd ar "Hanes ein Hen Flaenoriaid." Yn y Bennod ar "Lênyddiaeth Wesleyaidd Gymreig," rhoddwyd i mewn ar y cyntaf Hanes ein Llyfrfa; ond gorfu i ni adael yr holl bethau hyn allan, am y buasent yn chwyddo y Gyfrol i bris anfarchnadol. Bwriadaf fyned yn mlaen i gasglu "Hanes Wesleyaeth Gymreig" os caf fywyd a hamdden, gan hyderu y gallaf trwy hyny, wasanaethu achos yr Arglwydd a bod o fendith i genedlaethau o Wesleyaid a enir wedi i mi ymadael dros y gorwel i'r anweledig mawr.

Dymunaf gydnabod yn ddiolchgar y cynorthwy ewyllysgar a gefais i barotoi y gwaith hwn i'r wasg. Cefais ganiatad Pwyllgor y Llyfrfa Wesleyaidd Gymreig i wneyd defnydd o unrhyw lyfr sydd yn feddiant i'r Enwad. Dymunaf gyflwyno i'r Pwyllgor fy niolchgarwch diffuant. Cynorthwyodd Mr. E. Rees, Machynlleth fi tu hwnt i'm cyfeillion penaf. Cymerodd arno ei hun lafur a thrafferth fawr i'm cyflenwi â gwybodaeth o lawer o fanylion a fu i mi o wasanaeth a chynorthwy anmhrisiadwy. Ac at hyn, bu mor garedig a darllen y copi cyn ei anfon i'r wasg bron yn gyfan, ac awgrymodd amryw welliantau, y rhai i fesur pell a gariwyd allan. Yn nesaf diolchaf o galon i'r Parch. W. H. Evans, am ei barodrwydd yn rhoddi bob cynorthwy a allasai, a chefais doraeth o wybodaeth am yr achos yn ei wahanol agweddau ganddo. Yr wyf o dan rwymedigaeth hefyd i'r Parch. Owen Williams, R. Morgan (A). David Jones (Druisyn), Edward Humphreys, John Hughes (Glan- ystwyth), J. Cadvan Davies, R. Lloyd Jones, J. P. Roberts, D. O. Jones, R. Morgan (B), Philip Williams, Henry Parry, Robert Roberts (Robertus), John Humphreys, W. Caenog Jones, &c. Cefais gynorthwy neillduol gan Mr. Thomas Charles, Brvmbo, mewn llawer dull a modd, a hyny gyd â pharodrwydd a sirioldeb mawr. Diolchaf hefyd. i'r Henadur Peter Jones, Helygain: William Williams, Treffynnon; John Marsden, Treffynnon; R. Delta Davies, Tv Ddewi; T. W. Griffiths, Llandudno; Mr. a Mrs. Williams, Alexandra Road, Manchester, am eu cymhorth.

Gwn caiff llawer flas ar ddarllen y Gyfrol, ac eraill ddifyrwch i'w beirniadu. Gosodaf bris uchel ar feirniadaeth deg, am y gall fod o gynorthwy i mi i berffeithio y gwaith ar gyfer argraffiad arall. Ond ni roddaf unrhyw bris ar feirniadaeth dynion na lafuriasant mewn hanesiaeth, ac na chynyrchasant ddim mewn unrhyw gylch llenyddol o'r fath deilyngdod a rydd iddynt hawl i feirniadu.

Digwyddodd rhai gwallau argraffyddol yn y gwaith, megys cenawdwri yn lle cenadwri yn nheitl Pen. II.; tudalen 39, ofed llinell yn Nghymru yn lle yn Nghonway. Yn y paragraph cyntaf, tudalen 164, darllener fel hyn: "Cyfododd rhif yr aelodau yn y Dalaeth Ddeheuol o 4427 i 5513, cynydd o 1086. Yn y Dalaeth Ogleddol codasant o 12,787 i 15,171, cynydd o 2324." Tudalen 182, yn lle, Y wawr," &c., darllener, 1900 "Y wawr." Gwnaethum bob ymchwiliad er sicrhau cywirdeb, ond gan fy mod y cyntaf i gyhoeddi Hanes Wesleyaeth Gymreig yn iaith fy Ngwlad. mewn trefn amseryddol, yr oedd y tir yn anhawdd ei deithio a'r llwybrau weithiau yn dra dyrus. Gellir disgwyl i'r sawl a deuant ar fy ol i efrydu yn y maes hwn fanteisio ar fy llafur i, a gwneyd eu gwaith yn berffeithiach. Nid casglu pentwr o ffeithiau ac enwau, a'u bwrw at eu gilydd heb na threfn na dosbarth fu fy ngorchwyl, ond yn hytrach cofnodi ffeithiau mewn trefn hanesyddol trwy roddi iddynt eu lle priodol, a dangos dylanwad cyd-berthynol yr holl amgylchiadau â'u gilydd er dadblygu Wesleyaeth Gymreig i'r hyn ydyw heddyw. Cydnabyddaf yr Arglwydd am gymorth ei ras a'i amddiffyniad droswyf yn nghyflawniad y gwaith hwn, ac erfyniaf ei fendith arno.

T. JONES-HUMPHREYS.
BODAWEN,
WYDDGRUG.
Mehefin 30ain, 1900.

CYNWYSIAD.

𝕸𝖊𝖙𝖍𝖔𝖉𝖎𝖘𝖙𝖎𝖆𝖊𝖙𝖍 𝖂𝖊𝖘𝖑𝖊𝖞𝖆𝖎𝖉𝖉
𝕲𝖞𝖒𝖗𝖊𝖎𝖌
.




PENNOD I.

Sefyllfa Cymru ar ddechreu y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg.

AR derfyn y ddeunawfed ganrif a dechreu y bedwaredd. a'r bymtheg, yr oedd sefyllfa wladol, gymdeithasol, a chrefyddol y Dywysogaeth yn un o ddeffröad tra phwysig ar gyfrif amryw ystyriaethau. Os cymerwn olwg ar ei sefyllfa wladol, canfyddwn ei bod yn cael ei chynhyrfu gan ryfeloedd y milwr aflonydd ac uchel-geisiol, Napoleon Boneparte I. Yn wir, yr oedd cad-gyrchoedd y rhyfelwr galluog hwnw, yn cynhyrfu ac yn cyffroi trigolion holl wledydd Cyfandir Ewrop, yn ogystal a gwledydd rhanbarthau eraill y byd. Wrth ddarllen hanes ei ryfelgyrch anffodus yn yr Aipht, a'i ddychweliad rhodresgar i Ffrainc, ofnai rhai, gobeithiai y naill, a synai y lleill yn ngwyneb y gwyhydri a gyflawnai, ac ystyriai pawb ef yn ddyn anghyffredin. Rhyfeddai dynion gwybodus a milwyr profedig at ei wroldeb dihafal yn arwain ei fyddinoedd Iluosog a dewr, megys ar hyd ffordd newydd a disathr ar draws uchel-diroedd yr Alpau i ymosod ar Awstria; a darllenid gyd âg awch hanes llwyddiant ei ryfelgyrch yn erbyn byddinoedd cryfion y deyrnas hono, pan ddisgynodd arnynt ar wastadeddau Itali, gan eu chwalu, eu dinystrio, a'u llwyr orchfygu. Arswydai y Pab a'r Sultan rhagddo, ac ofnent rhag iddo ddyfod a'u dinystrio byth bythoedd. Yn ngwyneb ei lwyddiant, rhoddodd y Pab ffordd i'w ddylanwad, ac aeth i Paris ar yr zil o Ragfyr, 1804, i'w goroni yn Ymherawdwr. Ar y 26ain o Mai, 1805, coronwyd ef yn Frenhin Itali yn Milan, gan Archesgob y ddinas Y pryd hwn yr oedd mewn rhyfel â'r wlad hon, ac yn nghanol ei lwyddiant ar y Cyfandir, cyrhaeddodd y newydd ef, fod Llynges Ffrainc ac Yspaen wedi eu llwyr ddinystrio yn mrwydr fyth-gofiadwy Trafalgar, Hydref 2il, 1805. O hyny hyd i'r flwyddyn 1815, yr oedd Ffrainc fel mynydd. tanllyd gwyllt yn nghanol gwledydd Cred, a'r cenhedloedd mawrion oll fel dyfroedd berwedig o'i chylch, yn fwrlwm a therfysg i gyd." Yn wladol, yr oedd yn amser o gyni, o derfysg, o drallodion, ac o gymylau a thywyllwch, fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd.

Nid oedd nemawr gwell mewn ystyr gymdeithasol. Dylanwadai nerth hen arferion ar fywyd ac ymarweddiad y genedl. Ni chedwid y Sabboth ond mewn rhan, oblegid cam-ddefnyddid ef i ddilyn y mabol-gampau mewn llawer o ardaloedd, er y cyfyngid hwy mewn aml i gymydogaeth i leoedd anghysbell ac anghyfanedd. Ac at hyn yr oedd dylanwad ofergoelion yn fawr-yn wir, yn fwy na dylanwad yr Efengyl mewn llawer o gymydogaethau. Ar yr un pryd mae yn deilwng o sylw, fod ymdrechion egnïol yn cael eu gwneyd, ac i fesur llwyddianus, gan nifer o ddynion da i wella moes y genedl, trwy bregethu iddynt wirioneddau yr Efengyl, a'u hyfforddi yn egwyddorion cyfrifoldeb yn ngoleuni barn a byd tragwyddol. Yr oedd gwaith mawr, eisioes, wedi ei gyflawni; ond ychydig oedd nifer y gweithwyr ar gyfer y cynhauaf.

Wrth gymeryd golwg ar sefyllfa grefyddol ein cenedl ar ddechreu y 1800, canfyddwn fod y wawr wedi tori, goleuni y dydd yn dechreu tywynu, a dynion Duw ar y maes yn gweithio, eto, ar y cyfan, dirywiol ag isel oedd sefyllfa crefydd yn y tir. Gwir, fod yma Eglwys Wladol, a bugeiliaid ysbrydol (mewn enw) i ofalu am bob plwyf. Ond nid oeddynt yn gwneyd eu gwaith. Gyda golwg ar sefyllfa crefydd yn yr Eglwys Wladol yn y cyfnod hwn, nis gallwn wneyd yn well na difynu a ganlyn o anerchiad Esgob Llandaf, yr hwn a draddodwyd ganddo yn Nghyfarfod yr Eglwys Gymreig, mewn cysylltiad a'r Cyngrair Eglwysig, dydd Mercher, Hydref 13eg, 1899. "Dywedai ei Arglwyddiaeth, y dymunai ef, fel Esgob Esgobaeth Gymreig a gynwysa boblogaeth fwy na phoblogaeth haner y Dywysogaeth, angen y rhai oedd o'r pwys mwyaf, a chynydd y rhai, yn sicr, nid oedd yn llai nodedig, ddywedyd ychydig eiriau ar Yr Eglwys yn Nghymru yn y ganrif hon; ei chynydd a'i hangenion." Ni thybiai fod yn ormodiaeth i ddywedyd, fod yr Eglwys yn Nghymru yn nechreu y ganrif hon yn eglur ddwyn arni arwyddion o Eglwys yn dirywio ac yn marw. Yr oedd y rhan fwyaf o'i hadeiladau cysegredig y pryd hwnw, i fesur mwy neu lai, yn adfeilion. Yr oedd safon bywyd moesol yn mhlith ei chlerigwyr yn isel. Peth cyffredin i'r clerigwyr oedd preswylio tu allan i'w bywoliaethau, ac o ganlyniad yr oedd ymweliadau bugeiliol bron yn anmhosibl. Cyfyngid cyfleusterau i addoliad cyhoeddus fel rheol i unwaith yn yr wythnos. Anfynych y gweinyddid y Cymun Sanctaidd yn y plwyfydd gwledig fwy na phedair gwaith yn y flwyddyn. Y clerigwyr, am eu bod eu hunain yn anghyfarwydd âg athrawiaethau gwahaniaethol yr Eglwys, oeddynt analluog i gyfranu gwybodaeth o honynt i'r bobl. Ychydig o barch, trefn, a gweddeidd-dra a nodweddai yr addoliad cyhoeddus. Dan yr amgylchiadau hyn, nid oedd yn beth i'w ryfeddu ato, fod y cynulleidfaoedd yn lleihau yn gyflym trwy ymadawiadau at y naill neu y llall o'r Enwadau Anghydymffurfiol; i syniadau uwch y rhai o gyfrifoldeb, a gofal mwy am ddylanwad ysprydol eu praidd y gellir priodoli yn benaf, y ffaith i lusern crefydd gael ei chadw i losgi. Yr achosion yn ol ei farn ef, y rhai a effeithiasant i ddwyn. oddiamgylch y sefyllfa ddifrifol hon ar bethau, oeddynt, -Yn gyntaf, Fod llywodraeth yr Eglwys y pryd hwnw wedi ei hymddiried yn nwylaw estroniaid; ac nid anfynych, i Esgobion nad oeddynt yn byw yn eu Hesgobaethau— anwybodus o iaith y mwyafrif o'r bobl, heb feddu ond gwybodaeth anmherffaith o'u harferion a'u cymeriad, ac yn fynych yn byw yn rhy bell o'i bywoliaethau, i wasgu disgybliaeth, i gynal trefn, ac i atal afreoleidd-dra. Yn ail, Angen am ysgol leol i gyfranu addysg uwchraddol ac hyfforddiant neillduol i glerigwyr Cymru. Dyddiau tywyll i'r Eglwys oedd y rhai hyn; ond, diolch i Dduw, yr oedd dyddiau gwell gerllaw." Yn ol barn ddatganedig yr Esgob Lewis, yr oedd clerigwyr Cymru fel corph ar ddechreu y ganrif hon yn isel eu moes, ac yn dra anwybodus; ond, eto, yr oedd eithriadau a diolch i Dduw am danynt. Yr oedd yn Nghymru ar ddechreu 1800 nifer weddol. luosog o Annibynwyr a Bedyddwyr. Gellir dyddio cychwyniant Ymneillduaeth mor bell yn ol a'r flwyddyn 1639, ac felly, yr oedd ar y tir dros gant a haner o flynyddoedd cyn cychwyniad Methodistiaeth Wesleyaidd Cymreig, a dioddefodd llawer o'r hen Ymneillduwyr gyni a chaledu, yn nghyd ag erlidigaethau creulawn, o herwydd eu hegwyddorion. Perthynai i'r "Tadau Ymneillduol" ddynion o dalentau disglaer, ac o ddysgeidiaeth uwchraddol, yn Annibynwyr, Bedyddwyr, a Chrynwyr. Ond, yn gynar yn eu hanes, torodd allan yn eu plith anghydwelediad ar athrawiaethau crefydd. Coleddai y naill olygiadau Calfinaidd, a'r lleill olygiadau Arminaidd, a dadleuai pob plaid yn selog dros ei syniadau. Ond dylid cofio mai nid Arminiaeth efengylaidd James Arminius a John Wesley oedd Arminiaeth y dyddiau hyny, ond, yn hytrach, rhyw gymysgedd o Arminiaeth a Pelagiaeth. Gwadai llawer o Arminiaid y cyfnod hwn y "Llygredd Gwreiddiol," a choleddent syniadau llac am yr Iawn, ac elai rhai mor bell a gwadu fod marwolaeth Crist yn lawn o gwbl. Canlyniad hyn oedd ymraniad, a therfynodd nifer o honynt eu gyrfa athrawiaethol yn nhiroedd oerion, sychion, a diffrwyth Undodiaeth a Ariaeth. Ymddengys mai yr Annibynwyr ydyw yr Enwad Ymneillduol hynaf yn y Dywysogaeth. Yn wir, Annibynwyr oedd holl Ymneillduwyr Cymru hyd y flwyddyn 1649, Y pryd hwnw darfu i Meistri John Myles a Thomas Proud gasglu a chorphori Eglwys o Fedyddwyr yn Ilston, ger Abertawe. Ymledodd yr Enwad hwn yn gyflym trwy ranau o Fynwy a chwe' Sir y Deheubarth, ac mewn canlyniad achoswyd llawer o gyffro, a chymerodd dadleuon brwd le ar Fedydd mewn amryw ardaloedd, a theimlai y naill blaid mor sicr a'r llall fod y gwirionedd o'i hochr hi.

Y cyntaf i bregethu Arminiaeth yn Nghymru oedd Mr. Jenkin Jones, o'r Goetre Isaf, rhwng Llanbedr a Llandysul, yn Sir Aberteifi, ac efe a sefydlodd yr Eglwys Arminaidd gyntaf yn Llwyn-Rhyd-Owen, yn y flwyddyn 1726, a bu fyw i weled chwech o Eglwysi wedi ei sefydlu yn y cymydogaethau cylchynol. Glynodd tair o'r Eglwysi a sefydlwyd ganddo yn y credo Arminaidd; ond methodd y tair arall a gwrthsefyll dylanwad y Diwygiad Methodistaidd. Cymreig, ac yn y diwedd cymerodd y Methodistiaid feddiant o honynt. Yn Arminiaeth Cymru y dyddiau hyny, yr oedd hadau cyfeiliornad wedi eu hau, y rhai, erbyn dechreu 1800, oeddynt wedi tyfu i'w cyflawn faint. Aeth yr hen Arminiaid yn Undodiaid. Ond ychydig iawn o lwyddiant fu arnynt, ac y maent bron oll, erbyn heddyw, wedi eu cau wrthynt eu hunain rhwng yr Afonydd Teifi, Aeron, a Cherdin, yn Sir Aberteifi. Ni fu rhif y Crynwyr erioed yn lluosog yn y Dywysogaeth, ac nis gwyddom ond am ychydig o gynulleidfaoedd o honynt yn aros hyd heddyw.

Gellir dyddio dechreuad y Methodistiaid Calfinaidd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1735, ond ni sefydlwyd y Cyfundeb hyd y flwyddyn 1743. Y dyn a ddefnyddiodd yr Arglwydd i fod yn offeryn cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd yn Nghymru oedd y Parch. Griffith Jones, o Landdowror, a hyny trwy fod yn foddion yn llaw yr Arglwydd i argyhoeddi dau o'r tri dynion enwog a ddefnyddiwyd fel offerynau i gyffroi y wlad, ac i ddwyn oddiamgylch y Diwygiad, sef, Howell Davies a Daniel Rowlands, y rhai, yn nghyd â Howell Harris, yr hwn oedd wedi ei argyhoeddi o'r blaen, sef, ar Sul y Pasg, 1735, a gyffroiasant Gymru drwyddi, ac a greuasant gyfnod newydd yn ei hanes.

Efallai na byddai gair yma yn anmhriodol am berthynas Mr. Howell Harris a'r Methodistiaid Wesleyaidd. Yr oedd ef, o gychwyniad ei yrfa fel pregethwr, wedi clywed llawer o sôn am Mr. John Wesley, ac awyddai yn fawr am ei weled, a chael ymddiddan âg ef. Cyfarfyddodd ag ef yn Bristol, Mehefin 18fed, 1739, ac ar ol ei glywed yn pregethu y noson o'r blaen ar y geiriau hyn-" Trowch eich wynebau ataf fi holl gyrau y ddaear, fel eich achuber," dywedodd wrtho, "Mor gynted ag y clywais chwi yn pregethu, myfi a welais o ba yspryd yr ydych, a chyn i chwi haner ddarfod, yr oeddwn wedi fy llenwi â llawenydd. a chariad, fel y cefais lawer o drafferth i gerdded adref." Ymddengys fod Mr. Harris a Mr. Wesley wedi ymuno â'u gilydd y pryd hwn i bregethu yr Efengyl yn nghyd.

Hydref y 9fed, 1741, yr oedd Mr. Howell Harris yn Bristol, a chan ei fod ef yn dymuno yn fawr gael gweled. Mr. Wesley, efe a anfonodd ddyn i Kingswood i ddymuno arno ddyfod ato—ei fod ef yn myned i Gymru am dri o'r gloch boreu dranoeth. Daeth Mr. Wesley ato, a buont yn nghymdeithas a'u gilydd hyd ddau o'r gloch y bore, pryd yr ymadawasant mewn llawer iawn o gariad, a Mr. Harris a benderfynodd aros yn Bristol hyd y dydd Llun canlynol.

Hydref y 10fed, aeth Mr. Harris at Mr. Wesley i'r ystafell newydd, lle y cyfaddefodd ei fod yn gwadu yn hollol yr athrawiaeth o wrthodedigaeth. Ac mewn perthynas i'r athrawiaeth o barhad mewn gras, 1. Yr oedd o'r farn na ddylid crybwyll hyny wrth yr anghyfiawn, nac wrth neb rhydd a difater, llawer llai un yn byw mewn pechod; ond yn unig wrth y difrifol a'r gofidus, o herwydd pechod. 2. Yr oedd ei hun yn credu fod yn bosibl i un gwympo ymaith wedi iddo gael ei oleuo a pheth gwybodaeth o Dduw, a "phrofi y rhôdd nefol, a'i wneyd yn gyfranog o'r Yspryd Glân;" ac yr oedd yn dymuno i bawb allu cyduno, a chadw yn agos at y Gair Sanctaidd. 3. Nid oedd efe yn cyfrif un dyn wedi ei gyfiawnhau mor bell fel nad oedd yn agored i syrthio, hyd nes y byddai ganddo hollol gasineb at bob pechod, a newyn a syched beunyddiol ar ol pob cyfiawnder.

Yr oedd Mr. Howell Harris yn aelod o Gyfundeb y Methodistiaid Wesleyaidd, fel y prawf y ffaith o'i bresenoldeb yn y Gynhadledd, a'i waith yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau. Yr oedd yn bresenol yn y Gynhadledd Wesleyaidd a gynhaliwyd yn Llundain, Mehefin 16eg, 1747, sef, yr amser yr oedd yr athrawiaeth yn cael ei hystyried yn fwy manwl, a'i darnodi yn fwy benodol, fel y gellir gweled yn nhofnodau y Gynhadledd hono. Ac onid yw hyn yn brawf mai yr Athrawiaeth Wesleyaidd oedd ef yn ei chredu a'i phregethu ar hyd Cymru?

Cychwynodd Arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd Cymreig yn gyfamserol; y naill yn Trefecca, a'r llall yn Llangeitho, a hyny heb wybod dim am eu gilydd; ond, o'r ddau, efallai mai Howell Harris oedd y cyntaf o amser. Llithrodd i bregethu megys yn ddiarwybod iddo ei hun, ac er iddo fod am ychydig yn Mhrif-Ysgol Rhydychen, gwrthododd yr Esgob ei urddio, oherwydd ei afreoleidd-dra, yn ol ei dyb ef. Arferai a phregethu ar feddfaen ei dad yn Mynwent Talgarth, ar ol y gwasanaeth ar fore Sabboth. Dyrchafai ei lef yn erbyn annuwioldeb yr oes, aeth sôn am dano trwy yr holl wlad, ac ymgynullai canoedd i wrandaw arno. Dyma yr adeg yr aeth Mr. William Williams, Pantycelyn, i wrando arno, yr hwn, ar y pryd, oedd mewn ysgol yn Cwm-llwyd, dan ofal Mr. Vavassor Griffiths, Gweinidog yr Eglwys Annibynol yn Maes yr Onen. Argyhoeddwyd ef yn ddwys o'i bechod, a dychwelwyd ef at yr Arglwydd dan weinidogaeth Howell Harris, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun yn y penill canlynol—

"Dyma'r bore byth mi gofiaf, clywais inau lais o'r nef,
Daliwyd fi gan wys oddi uchod, wrth ei sŵn dychrynllyd ef;
Wedi teithio ol a gwrthol, anial dyrus, dileshad,
Tra bo anadl yn fy ffroenau, mi a'i galwaf ef yn Dad."


Yr oedd y Parch. Daniel Rowlands mewn urddau eglwysig, ond, er hyny, heb brofi cyfnewidiad cyflwr. Dychwelwyd ef dan bregeth y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn Eglwys Llanddewibrefi, yn y flwyddyn 1735, ac o hyny allan yr oedd geiriau Duw yn llosgi yn ei esgyrn, a phregethai gyd â nerth ac arddeliad mawr. Trwy y tri wyr hyn, Harris, Rowlands, a Davies, y cychwynodd y Diwygiad Methodistaidd yn Nghymru, a chynorthwywyd hwy gan William Williams, Pantycelyn, a Peter Williams, ond erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, yr oedd y tadau anfarwol hyn wedi eu cymeryd oddi wrth eu llafur at eu gwobr, eto, er colli y gweithwyr, aeth y gwaith yn ei flaen.

Ar derfyn y ddeunawfed ganrif, nid oedd ansawdd ysprydol crefydd yn ein gwlad yr hyn allesid ddisgwyl yn mhlith y naill na'r llall o'r Enwadau Anghydymffurfiol. Wedi cyfeirio at addysg, cymeriad moesol prydferth, ac amgylchiadau clyd Arweinwyr yr Annibynwyr, â Dr. John Thomas yn ei flaen, yn Hanes yr Annibynwyr, i draethu am eu sefyllfa foesol tu âg adeg toriad allan y Diwygiad Methodistaidd yn y geirau a ganlyn—"Ond, wedi y cwbl, nid oedd eu nerth ysprydol i gario dylanwad ar y genedl, yr hyn a allesid ddisgwyl, yn ol eu nifer, eu gwybodaeth, a'u cymeriad, a'u safle gymdeithasol. Yr oedd oerder a ffurfioldeb yn ei holl wasanaeth, at yr hyn yr ychwanegid yn fawr trwy eu hirferthder. Ymdrinient a phob gwirionedd yn bynciol a dadleugar, heb ei ddwyn adref gyd â difrifwch at eu gwrandawyr. Cadwent ddrysau eu Capeli yn agored bob Sabboth, fel y bugail yn cadw drws y gorlan yn agored, fel y gallai y ddafad golledig ddychwelyd, os mynai, ond ni anfonid y bugail allan i'r anialwch i chwilio am dani. Ni elent allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i gymell yr esgeuluswyr i mewn, fel y llenwid y tŷ. Gwyddom fod eithriadau anrhydeddus, ond yr ydym yn cymeryd golwg ar bethau yn gyffredinol. Erbyn yr ychwanegir at hyn, yr ymadawiad oddiwrth y ffydd oedd mewn nifer o Eglwysi, nid yw rhyfedd o gwbl fod nerth yr Eglwysi wedi gwanychu, ac nad oedd ynddynt y gallu hwnw y rhaid ei gael i ddarostwng gwlad i'r Efengyl. Nid oeddynt eto wedi cyffwrdd ond ag ymvlon cymdeithas. Yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac anuwioldeb. Nid oedd y Sabboth ond dydd i chwareu ac ymddifyru, i ddilyn oferedd ac anghymedroldeb. Cynhelid ffeiriau gwagedd, a gwyl mabsantau, a'r Sabboth oedd dydd mawr yr wyl. Ni clywid odid un amser o bwlpud yr Eglwys blwyfol lais yn erbyn y pethau hyn, ac yn rhy aml cymerai y clerigwyr ran flaenllaw ynddynt; fel yr oedd yr un fath bobl ac offeiriaid. Cadwai yr hen Ymneillduwyr yn mhell oddi wrth y pethau hyn; ac yr oedd miloedd o honynt yn poeni eu heneidiau cyfiawn o'u herwydd, ond heb feddu y gwroldeb i fyned allan i dystiolaethu i'w herbyn gan fynegu i'r bobl eu camwedd." Er fod yr uchod yn ddarluniad o gyflwr Cymru ar gychwyniad Methodistiaid, eto, cyffelyb oedd pethau ar derfyn y ddeunawfed ganrif, fel y cawn weled ragllaw.

Cyfetyb tystiolaethau haneswyr Methodistiaeth a Dr. J. Thomas ar y mater hwn. Yr oedd y ddeunawfed ganrif yn tynu at y terfyn pan ymunodd y Parch. Thomas Charles, o'r Bala a'r Methodistiaid, sef, yn y flwyddyn 1785. Am y cyfnod hwn, dywedai y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych—"Yr oedd Methodistiaeth (Galfinaidd) yn isel iawn ei gwedd hyd ddyddiau Mr. Charles. Y fath oedd agwedd y Gogledd yn enwedig. Ychydig o addoldai oedd yn mhob sir. Nid oedd nifer y proffeswyr ond ychydig, a'u sefyllfa gan amlaf yn isel. Nid oedd rhif luosocaf o'r cynghorwyr ond bychain eu doniau a'u gwybodaeth, heb neb yn eu plith yn gweinyddu na Bedydd na Swper yr Arglwydd." Yr oedd y gwyr urddedig a'r diaconiaid, Rowlands, Harris, a H. Davies, y ddau Williams, ac eraill, yn nghyd âg amryw bregethwyr heb urddau eglwysig, wedi cael eu tueddu gan yr Arglwydd, ac wedi anog eu gilydd, i fod yn bregethwyr teithiol i'r rhan hon (Gwynedd) o Gymru, lle yr oedd anwybodaeth, anystyriaeth, a llawer math o halogedigaeth, wedi ymdaenu gyd å grym mawr; yr Eglwyswyr dan ddirywiaeth o'r mwyaf, o ran egwyddorion ac arferion; y boneddigion yn ddiymdrech yn mhlaid crefydd a moesau da, ac yn rhoi esiamplau o lawer math o ddrygioni; y werin yn soddedig mewn tywyllwch a choel grelydd, yn nghyd ag amledd o ddrwg-arferion; a'r gweddillion o'r Ymneillduwyr hwythau wedi cysgu mewn ffurfioldeb yn gyffredinol, a chryn nifer o honynt mewn egwyddorion ac arferion llygredig gyd â hyny. Yn fyr, yr oedd cyflwr ac agwedd ein gwlad yn dra gresynus o ran diffyg o wybodaeth a naws grefyddol; y Beibl yn anaml i'w gael (er ymdrechiadau da y Gymdeithas at daenu gwybodaeth Gristionogol); ac mewn llawer o ardaloedd ein gwlad yr oedd yn rhy anhawdd cael deg o bobl a fedrent ei ddarllen mewn unrhyw iaith.' Yr oedd ychydig gyd a deugain mlynedd wedi myned heibio, er pan yr anturiasai Howell Harris i'r Gogledd; ac er grymused yr effeithiau a fu ar ei lafur ef yn ystod y blynyddoedd hyny, prin y canfyddid un newidiad eto yn ngwedd gyffredinol y wlad. Yr oedd cryn niferi o fân Eglwysi bychain yn dechreu britho y siroedd, y rhai a gynhelid gan amlaf, mewn tai anedd, neu ryw adeiladau gwaelion; yr oedd ambell Gapel, hefyd, wedi ei godi; eto, yn ngwedd gyffredinol y wlad, prin y canfyddid nemawr o wahaniaeth ar yr agwedd oedd arni pan gychwynodd y Diwygiad gyntaf, oddi eithr fod erlidigaeth yn llai, a'r rhagfarn yn erbyn y blaid newydd yn dechreu lliniaru." "Methodistiaeth Cymru," Cyf. I., tu. 330.

Yn mhen amser wedi cychwyniad y Diwygiad, sef, yn y flwyddyn 1750, cyfododd anghydwelediad difrifol iawn rhwng Howell Harris a Daniel Rowlands ar bwnc o athrawiaeth a barodd ymraniad yn y corph. Ymneillduodd Harris i Drefecca, lle y sefydlodd gartref i'w ganlynwyr. Nid yw hanes yr ymraniad hwn wedi ei gyhoeddi eto yn Ilawn, ac efallai mai gwell iddo fyned i dir angof. Ond y mae genym le cryf i gasglu fod Howell Harris, y pryd hwn, ac ar ol y flwyddyn 1763, yn tueddu at gofleidio yr Athrawiaeth Arminaidd, fel ei pregethid gan y Parch. John Wesley. Ond, fodd bynag, cyfanwyd yr ymrwygiad yn y flwyddyn 1763, a hyny yn benaf trwy gyfrwng y Diwygiad mawr a gymerodd le y flwyddyn flaenorol, ond parhaodd yr archollion yn agored dymor ar ol hyny.

Y wedd ar athrawiaethau crefydd a bregethid yn Nghymru ar derfyn y ddeunawfed ganrif oedd Calfiniaeth, ie, uchel-Galfiniaeth. Hon oedd yr athrawiaeth a bregethid o bwlpudau yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid, bron yn ddi-eithriad. Dyma dystiolaeth y Parch. John Owen, Wyddgrug-"Nis gellir ameu nad oedd holl sylfaenwyr Methodistiaeth (Galfinaidd) yn galfiniaid heb un eithriad. Byddwn o fewn terfynau gwirionedd os dywedwn, fod ffrwd addysgiad (crefyddol) yn rhedeg mewn rhigol Calfinaidd. Yr oedd Charles o'r Bala, yr hwn a ysgrifenodd yr Holwyddorydd a elwir "Yr Hyfforddydd Cristionogol" a'r "Geiriadur Ysgrythyrol," yn ddiameu yn Galfinaidd yn ei ddysgcidiaeth." Yn mhlith y llyfrau a gymellid i'w darllen y pryd hwnw, yr oedd gwaith Eliseus Cole ar "Ben Arglwyddiaeth Duw," yr hwn a gynwysai uchel-Galfiniaeth. A'r adeg hono yr oedd hyd yn nod yr athrawiaeth erchyll ac anysgrythyrol o "Golledigaeth Babanod" yn cael ei chredu gan lawer yn Nghymru. Bellach, gadawn i'r ffeithiau hyn ddangos i'r darllenydd beth oedd cyflwr Cymru ar derfyn y ddeunawfed ganrif.

PENNOD II.

Cenhawdwri Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru.

FEL y dangoswyd yn y bennod o'r blaen, yr oedd yn Nghymru, ar derfyn y ddeunawfed ganrif, Eglwys Sefydledig, a nifer weddol luosog o Ymneillduwyr. Ond, yr oedd yr Eglwys Wladol wedi syrthio i ddifaterwch a dirywiad, ac yn huno yn dawel yn mhreichiau bydolrwydd. Ni wnai y clerigwyr y gwaith y telid iddynt am ei gyflawni, ac ni oddefent, hyd y medrent, i neb arall ei wneyd. Yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn Nghymru er ys dros gant a haner o flynyddoedd, ac yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd yma er ys dros tri ugain mlynedd, ac wedi gwneyd gwaith mawr a da. Yn ngwyneb y ffeithiau hyn, naturiol ydyw gofyn—Pa angen oedd am Enwad arall? Beth oedd yn galw am i'r Methodistiaid Wesleyaid ddyfod i Gymru ac ymsefydlu ynddi? Beth oedd y diffyg oedd ganddi hi i'w gyflenwi ? Ai onid oedd cyngor Duw yn cael ei bregethu gan yr Enwadau oedd ar y tir yn barod? Ai oni roddid amlygrwydd yn y weinidogaeth i'r bendithion mawrion, oeddynt yn rhagorfraint pob gwir gredadyn i'w mwynhau? Credwn mai yn yr atebiad i'r cwestiynau hyn y llwyddwn i gael allan beth oedd, ac yw Cenhadaeth Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru. Teimlwn fod yn bwysig i ni gadw golwg ar y gwahaniaeth rhwng cenhadaeth arbenig ein henwad yn Nghymru ar ei ddyfodiad yma, a'i ddylanwad ar Gymru wedi bod yn y tir am gàn mlynedd; oblegid mai llawer o'i dylanwad yn effaith dadblygiad Methodistiaeth Wesleyaidd. yn hytrach nag yn effaith ei chenhadaeth ar y cyntaf, Gwyddom iddi symbylu Ymneillduwyr Cymru, yn arbenig y Methodistiaid Calfinaidd i adeiladu Capeli, i fod yn gartref yr Eglwysi a gyfarfyddent mewn tai anedd ac adeiladau di-nôd ac anghyfleus, a dysgodd yr holl enwadau o'r pwysigrwydd i'r holl Eglwysi fod dan ofal bugeiliol gweinidog ordeiniedig. Ar ddechreu y ganrif, nid oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd neb i weinyddu y Sacramentau ond ychydig o wŷr o urddau esgobol. Ac felly y parhaodd pethau yn eu plith hyd y flwyddyn 1811. Amseroedd blinion yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd oedd cyfnodau y dadleu yn nghylch ordeinio dynion wedi eu neillduo gan y corph i weinyddu y Sacramentau. Offeiriaid Eglwysig o urddau esgobol a gyflawnai y gwaith hwn, trwy dde a gogledd, am yr un mlynedd a'r bymtheg a thrigain cyntaf yn hanes y Methodistiaid Calfinaidd, a safent yn benderfynol yn erbyn unrhyw gynygiad a ddygid yn mlaen yn mhlaid cyfnewidiad yn y drefn. Yn wir, yr oedd hyd yn nod y Parch. T. Charles, o'r Bala, yn erbyn y cyfnewidiad ar y cyntaf. Cychwynwyd y cyffro mewn Cymdeithasfa yn Llangeitho, a'r Parch. Mr. Jones, Llangan, yn y gadair. Dirmygai y gŵr a ddygodd y cynygiad y mlaen, a gorchymynai ei droi allan, ac yr oedd wedi cyffroi yn fawr. Bu dadl y neillduad yn cyffroi y corph am rai blynyddoedd, yr offeiriaid bron yn ddieithriad yn erbyn y cyfnewidiad, a'r bobl a'r pregethwyr yn benderfynol drosto. Ac o'r diwedd llais y bobl a orfu, a hyny am mai eu llais hwy yn yr amgylchiad hwn oedd llais Duw. Wedi penderfynu yn Nghymdeithasfa Abertawe yn y flwyddyn 1810, fod y cyfnewidiad i gymeryd lle, bu ymrwygiad. Ymadawodd y rhan fwyaf o'r offeiriaid, rhai pregethwyr, ac amryw aelodau a'r corph, ond glynodd y Parch. Thomas Charles a Simon Lloyd, y Bala; William Lloyd, Caernarfon; John Williams, Pantycelyn; John Williams, Lledrod, a Howell Howells, Tre-hill, yn y corph trwy y cwbl, yr hyn a wna eu coffadwriaeth fyth yn anwyl a bendigedig. Gall gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd ddywedyd "A swm mawr y cefais y ddinas-fraint hwn," tra y gall ei frawd, Gweinidog y Methodistiaid Wesleyaidd ateb, "A minau a anwyd yn freiniol." Yr oedd y ddau weinidog Methodistiaeth Wesleyaidd Cymreig cyntaf erioed yn Nghymru yn ordeiniedig i weinyddu y Sacramentau pan ddechreuasant ar eu gwaith fel gweinidogion Cymreig.

Fel y Cenhadaeth arbenig Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig oedd, rhoddi adgyfodiad gwell i Arminiaeth. nodwyd yn barod, bu yn yr Eglwysi Annibynol, yn nechreu y ddeunawfed ganrif, blaid gref o Arminiaid, ond ni chafodd Arminiaeth chwareu têg oddiar eu dwylaw, oblegid cymysgwyd egwyddorion Pelagiaeth â hi, ac felly dirywiodd i Undodiaeth. Ar ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg, yr oedd dysgeidiaeth y pwlpud a'r Wasg Gymreig ar y cyfan yn sawru uchel-Galfiniaeth. Yn ngoleuni Calfiniaeth yr eglurid y pum' pwnc. Dysgid fod yr Etholedigaeth yn neillduol a diamodol yn ol arfaeth, ac nid yn ol rhagwybodaeth Duw; -Prynedigaeth neillduol, sef, mai dros yr etholedigion yn unig y bu Crist farw,-Pechod gwreiddiol neu anallu moesol dyn-Galwad anorchfygol, neu ddylanwad anwrthwynebol yr Yspryd Glân, a pharhad diamodol mewn gras. Yn ol y ddysgeidiaeth hon ar athrawiaethau yr Efengyl, nid oedd cadwedigaeth neb yn bosibl ond yr etholedigion yn unig, ac nid oedd eu cadwedigaeth hwy yn ymddibynu dim o gwbl, mewn unrhyw fodd arnynt hwy eu hunain. Parhaent mewn gras beth bynag fyddai eu buchedd, ac nis gallent wrthod edifarhau a chredu am fod dylanwad yr Yspryd Glân yn eu gorfodi i wneyd. Wedi syrthio o honynt yn Adda, aeth Crist yn feichiau iddynt, a bu farw drostynt i dalu eu dyled, ac felly cedwir hwy yn annibynol ar gymeriad eu gweithredoedd a natur cu buchedd. Yn ol y ddysgeidiaeth hon, nid ydyw dyn yn rhydd-weithredydd, nac o ganlyniad yn fod cyfrifol yn ol ystyr briodol y gair. Nis gall wneyd ond fel y gwna, ac fel y gwna y rhaid iddo wneyd, Ac felly yn ol Calfiniaeth ddiwedd y ddeunawfed ganrif, nid oedd galwad gyffredinol yr Efengyl ond sham galw pawb er mwyn cael esgus i gospi yr anetholedig am wrthod rhoi ufudd-dod, tra nad oedd ganddo allu i ufudd-hau. Yn ol yr athrawiaeth hon nid oedd galwad gyffredinol yr Efengyl ond ffug, ac nis gall gweinyddiadau y farn ddiweddaf fod yn gyson à hawliau egwyddorion moesoldeb, oblegid nid yw yn gyfiawn cospi neb am wneyd yr hyn yr oedd yn rhaid iddo ei gyflawni, nac am beidio gwneyd yr hyn nas gallasai ei gwblhau.

Hon oedd Calfiniaeth Cymru ar ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg- Calfiniaeth Calfin, Cymanfa Dort, a hi yw Calfiniaeth y "Gyffes Ffydd" heddyw. A rhag i neb dybied ein bod yn camliwio difynwn yr awdurdodau. Yn gyntaf oll dyna Erthygl vi., &c., Cymanfa Dort, yr hon a ddarllena fel y canlyn-"Yn gymaint a bod Duw yn nhreigliad amser, wedi rhoddi ffydd i rai, ac nid eraill -mae hyny yn deilliaw o'i arfaeth dragywyddol ef, yn ol yr hon y mae efe yn tyneru calonau yr etholedigion, ac yn gadael y rhai anetholedig yn eu drygioni a'u caledrwydd." "Ac yn hyn y canfyddir y gwahaniaeth a wneir rhwng dynion cyfartal golledig, yr hyn yw arfaeth, etholedigaeth, a gwrthodedigaeth." Etholedigaeth yw arfaeth ddi- gyfnewid Duw, trwy yr hon y dewisodd efe yn Nghrist er cyn seiliad y byd nifer benodol o ddynion i iachawdwr- iaeth," &c. "Nid yw pob dyn yn etholedig, eithr y mae rhai yn anetholedig, y rhai yr arfaethodd Duw o'i ewyllys ddigyfnewid ei hun eu gadael yn y trueni cyffredinol, a pheidio rhoddi ffydd achubol iddynt, ond gan eu gadael yn eu ffyrdd eu hunain, eu condemnio a'u cospi yn dragywyddol am eu hangrediniaeth a'u pechodau eraill. Dyma arfaeth gwrthodedigaeth." A dyma ddysgeidiaeth John Calfin ei hun-"Wrth rhagluniaethiad yr ydym yn deall arfaeth dragywyddol Duw, trwy yr hon y penderfynodd ynddo ei hun yr oll y dymunai iddo ddigwydd gyd â golwg ar bob dyn. Nid yw pawb wedi eu creu i'r un dyben, eithr mae rhai wedi eu rhagordeinio i fywyd tragywyddol, ac eraill i ddamnedigaeth dragywyddol, ac yn ol fel y mae pob un wedi ei greu i'r naill neu y llall o'r dybenion hyn, y dywedwn ei fod wedi ei ragluniaethu i fywyd neu i farwolaeth." "Fod Duw, trwy ei gyngor tragywyddol a digyfnewid, wedi penderfynu unwaith am byth y rhai yr ewyllysia ryw ddiwrnod eu dwyn i iachawdwriaeth, a'r rhai hyny yr ewyllysia ar y llaw arall eu diofrydu i ddistryw." Ac i brofi mai Calfiniaeth Dort a Geneva oedd Calfiniaeth Cymru ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg, gwrandawn beth a ddywed Cyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd. Difynwn yma y xii. erthygĺ,"Am Etholedigaeth Gras."

"Darfu i Dduw, er tragwyddoldeb, ethol a neillduo Crist i fod yn ben-cyfammodwr, cyfryngwr, a meichnïydd i'w eglwys, i'w phrynu a'i gwaredu. Hefyd, etholwyd gan Dduw yn Nghrist dyrfa nas gall neb ei rhifo, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl, i sancteiddrwydd a bywyd trag- wyddol; a threfnwyd pob moddion i gael hyny yn sicr i ben. Ac y mae'r etholedigaeth hon yn dragwyddol, yn gyfiawn, yn benarglwyddiaethol, yn ddiammodol, yn neillduol neu bersonol, ac yn 'anghyfnewidiol, ac nid yw etholedigaeth gras yn drygu neb; er darfod i Dduw yn gyfiawn adael rhai heb eu hethol, eto, ni wnaeth efe ddim cam â hwynt; y maent yn yr un cyflwr a phe na buasai etholedigaeth yn bod; ac oni buasai etholedigaeth gras, ni buasai cadwedig un cnawd."

Rhoddir datganiad croyw yn yr erthygl hon i'r syniad uchel-Galfinaidd ar Etholedigaeth, oblegid dywedir ei bod yn ddiamodol, yn dragywyddol, a phen arglwyddiaethol, &c. Fel y gwelir, ceisir cuddio gwrthodedigaeth yn yr erthygl hon. Ond os etholedigaeth, rhaid fod gwrthodedigaeth fel y dysga Calfin ei hun —"Llawer, gan broffesu i amddiffyn y Duwdod rhag cyhuddiad atgas, a addefant athrawiaeth etholedigaeth, ond a wadant fod un dyn wedi ei wrthod Ond hyn a wnant yn anwybodus a phlentynwedd, gan nas gall etholedigaeth fod heb wrthodedigaeth yn gyferbyniol iddi." Ond cynwysa y "Gyffes Ffydd erthygl arall, sef y v., "Am Arfaeth Duw," ac felly wrth i ni edrych ar yr erthygl "Am Etholedigaeth Gras," yn ngoleuni yr erthygl "Am Arfaeth Duw," canfyddwn yn eglur mai yr un yw Calfiniaeth y Cyffes Ffydd" a Calfiniaeth Dort a Geneva. Dyma fel y darllena yr erthygl "Am Arfaeth Duw."

"Darfu i Dduw, er tragwyddoldeb, yn ol cynghor ei ewyllys ei hun, ac er amlygiad a dyrchafiad ei briodoliaethau gogoneddus, arfaethu pob peth a wnai efe mewn amser, ac i dragwyddoldeb, mewn creadigaeth, llywodraethiad ei greaduriaid, ac yn iachawdwriaeth pechaduriaid o ddynolryw; eto yn y fath fodd fel nad yw yn awdwr pechod, nac yn treisio ewyllys y creadur yn y cyflawniad o honi; ac nid yw arfacth Duw yn ymddibynu ar ddim mewn creadur, na chwaith ar ragwybodaeth Duw ei hun; ond yn hytrach gŵyr Duw y bydd y cyfryw bethau am iddo ef arfaethu eu bod felly. Y mae arfaeth Duw yn anfeidrol ddoeth, a pherffaith gyflawn; yn arfaeth dragwyddol; yn arfaeth rydd; yn arfaeth cang; yn arfaeth ddirgelaidd; yn arfaeth rasol; yn arfaeth sanctaidd; yn arfaeth dda; yn arfaeth anghyfnewidiol; ac yn arfaeth effeithiol."

Yn ngoleuni yr erthygl, canfyddwn yn eglur nad ydyw gadael rhai i'w colli byth, yn dibynu dim ar ragwybodaeth Duw, ond yn hytrach ei fod ef yn rhagwybod am iddo arfaethu hyny. Nid yw etholedigaeth Duw, ychwaith, yn dibynu dim ar unrhyw wahaniaeth rhwng y rhai a etholir a'r rhai a wrthodir, oblegid dyweder, "Nid yw Arfaeth Duw yn ymddibynu ar ddim mewn creadur," a chanlyniad anocheladwy yr athrawiaeth hon yw, fod achosedigaeth colledigaethau yn ewyllys Duw. Fel hyn y deallai y Parch. Samuel Davies 1af galfiniaeth y cyfnod yr oedd efe yn byw ynddo. Dros hon y dadleuai y Parchn. Christmas Evans, Thomas Jones, Dinbych, ac Evan Evans (Ieuan Glangeirionydd), ac eraill." Tuedd y fath athrawiaeth oedd dwyn difaterwch a dirywiad i fywyd ysprydol yr eglwysi, a'u darostwng i gyflwr diymadferth. Yn ngoleuni y pethau hyn, canfyddwn yn lled eglur beth oedd cenhadaeth arbenig Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru. Yr oedd ei chenhadaeth yn driphlyg. Yn

1. Rhoddi eu lle priodol eu hunain i'r ddwyfol a'r ddynol yn nhrefn cadwedigaeth pechadur. Bu yn Nghymru, fel y nodwyd yn barod, ddosbarth o grefyddwyr a alwent eu hunain yn Arminiaid, ond nid oedd eu Harminiaeth o gwbl yn Efengylaidd. Ac yn raddol llithrasant ar ysglentydd cyfeilionadau nes amddifadu Duw o'i le priodol ei hun yn nhrefn iachawdwriaeth pechadur. Trwy roddi gormod o le i ddyn a rhy fach i Dduw aethant yn Undodiaid. Wrth weled y traethoedd diffaeth ac oerion y glaniodd yr hen Arminiaid ynddynt, dychrynodd Ymneillduwyr Cymru rhag Arminiaeth, ac aethant i'r eithafon gwrthgyferbyniol. Cofleidiodd yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid, Galfiniaeth; gan dybio eu bod wrth wneyd hyny yn rhoddi i Dduw ei le priodol ei hun yn nhrefn y cadw. Ond dan y broffes o roddi i Dduw ei le, esgeulusasant roddi i ddyn ei le fel rhydd-weithredydd moesol, a gwnaethant ef yn beiriant goddefol hollol. Y pryd hwn gan hyny, yr oedd Uchel-Galfiniaeth, fel y dywedodd y diweddar Dr. John Thomas, Liverpool, "wedi dyfod yn genllif dros eglwysi ein gwlad." Gwrthweithio y llifeiriant hwn oedd rhan o genhadaeth arbenig y Methodistiaid Wesleyaidd yn Nghymru, a hyny trwy roi amlygrwydd i ddigonolrwydd darpariadau gras, cyffredinolrwydd galwad yr Efengyl, ac amodolrwydd trefn yr iachawdwriaeth. Mewn gair, rhoddi i Dduw fel Pen Arglwydd, ac i ddyn fel deiliad moesol, eu lle priedol yn nhrefn iachawdwriaeth, oedd un ran, ac, efallai, y bwysicaf, a'i gwnelai yn angenrheidiol am i Enwad arall gyfodi yn Nghymru. Hyd yn hyn nid oedd yr un enwad yn Nghymru yn rhoddi eu lle priodol eu hunain i Dduw a dyn yn ngwaith iachawdwriaeth pechadur. 2. Adfer i'w lle priodol ei hun y fendith o "Dystiolaeth yr Yspryd" yn mhrofiad y credadyn. Yr ydym yn dywedyd "Adfer i'w lle priodol ei hun," &c., oblegid yr oedd "tystiolaeth yr Yspryd" i gymeradwyaeth yr edifeiriol, a gredai am ei fywyd yn Nghrist Croeshoeliedig, yn fendith yr ymchwiliai llawer am dani yn mhlith Ymneillduwyr Cymru, yn enwedig y Methodistiaid. Yn nghyfnod boreuaf Methodistiaeth Galfinaidd, dygai yr Arolygwyr a ofalent am y cymdeithasau gyfrifon i'r Gymdeithasfa, yn cynwys rhif yr aelodau, yn ogystal a'u profiad crefyddol a'u cyflwr ysprydol. Yn yr adroddiad a ddygwyd o Gymdeithasau LLANFAIR-MUALLT, dywedir fod Thomas James yn meddu ar "Dystiolaeth gyflawn ac arhosol"; Evan Evans "wedi cael tystiolaeth, ond yn wan mewn gras;" Sarah Williams a Margaret Lewis "wedi eu cyfiawnhau." Ac yn Nghymdeithas DYFFRYN-SAETH уr oedd Jane John "yn meddu heddwch â Duw;" Jane Rhys "yn meddu ar amlygiad eglur o'i chyfiawnhad," a Sarah Thomas yn "meddu tystiolaeth amlwg o'i hachubiaeth trwy Grist." Meddai y rhai hyn a llawer eraill, dystiolaeth glir o'u cymeradwyaeth gyd â Duw. Ni phetrusai y Parch. William Williams, Pantycelyn, ddatgan yn groyw ei fod yntau yn meddu y Dystiolaeth, ac adnabyddiaeth sicr o berthynas achubol ei enaid â'r Gwaredwr, yn ei gân a elwir "Theomemphus," ac o'i gymeradwyaeth gyd â Duw—

"Ond pan nas gall'sai ddyoddef, dyoddef dim yn hwy
Gan wres a phoen digymhar, ei argyhoeddol glwy',
Danfonwyd gair i waered, fe dal ei gofio ef;
Gair oedd yn fwy na'r ddaear, gair oedd yn well na'r nef.
Rhaid oedd ei gael neu farw, hwn oedd y gair mewn pryd—
"Ha fab mae'th holl aflendid, 'n awr wedi'i faddeu i gyd,
Mae aberth wedi'i gaffael, fe gafwyd perffaith Iawn—
Am bob rhyw fai fu ynot, fe roddwyd taliad llawn.
Mae'n dywedyd, tra ar y ddaear, y cofia am yr awr,
Daeth nerth y nef i waered, i dori ei gadwyn fawr,
Ni red fyth o'i feddyliau, pa beth yw enw'r dydd
'N ol blynyddau maith o garchar, y rhoed ei draed yn rhydd."

Ond fel y rhoddid fwy-fwy o amlygrwydd i Galfiniaeth, yn y weinidogaeth, trwy y wasg, ac yn y gyfeillach Eglwysig, gweithiodd ansicrwydd i mewn i brofiadau y Saint, a syrthiasant i gyflwr o betrusder meddwl yn nghylch perthynas gadwedigol eu heneidiau â'r Gwaredwr. Aeth llawer i ofni nad oeddynt o nifer yr etholedigion, a rhodient yn alarus mewn tywyllwch yn nghylch eu cyflwr, ac arweinid ambell i un i ymylon peryglus anobaith. Fel hyn yr oedd Calfiniaeth wedi cymylu yn fawr grefydd brofiadol yn Eglwysi Cymru ar derfyn y ddeunawfed ganrif, ac yr ydym yn credu ei bod yn rhan o genhadaeth arbenig Methodistiaeth Wesleyaidd i'w hadfer i'w lle priodol yn mhrofiad y credadyn. [1] 3. Rhan arall o Genhadaeth Methodistiaeth Wesleyaidd ydoedd rhoddi amlygrwydd i'r athrawiaeth o Sancteiddhad, neu berffeithrwydd Cristionogol. Ar ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg, nis gwyddom am un pregethwr yn Nghymru a roddai amlygrwydd yn ei weinidogaeth i'r athrawiaeth hon, oddieithr y Parch. John Roberts, Llanbrynmair, ac erlidid ef yn fawr, a chauid rhai o bwlpudau ei enwad yn ei erbyn o'r herwydd. Yn wir, tybiai yr anfarwol Williams o'r Wern, ei fod "yn cyfeiliorni yn ddychrynllyd," er iddo ar ol hyny fabwysiadu yr un golygiadau. Heblaw rhoddi arddangosiadau sicr o gyffredinolrwydd darpariadau gras ar gyfer byd colledig, ac adnabyddiaeth bersonol o gyfnewidiad cyflwr, yr oedd yn rhan o Genhadaeth Wesleyaidd hefyd i ddysgu cenedl y Cymry am gynydd gras yn eneidiau y rhai oeddynt yn barod mewn perthynas gyfamodol â Duw, hyd at santeiddrwydd anian a buchedd, a hyny yn y bywyd sydd yr awr hon. Yn awr, dyma Genhadaeth arbenig Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru. Hi fel Enwad a gyfodwyd gan Dduw i ddysgu cyffredinolrwydd trefn y cadw, crefydd brofiadol, a pherffeithrwydd Cristionogol.

PENNOD III.

Rhagbarotoad ar gyfer dyfodiad Methodistiaeth Wesleyaidd i Gymru.

YN blaenori pob symudiad pwysig ceir yn fynych gyd-gyfarfyddiad o amrywiol rag-barotoadau. Crea y cyfryw ddisgwyliadau am yr hyn sydd a'r ddyfod, fel y crea gwawr y bore ddisgwyliad am gyfodiad yr haul ac ymddangosiad y dydd. Ac fel hyn yr oedd cyn dyfodiad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig i'r Dywysogaeth; ymddangosai arwydd ar ol arwydd, a chlywid llais y naill rag-redegydd ar ol y llall yn llefain fod enwad arall ar gyfodi yn Nghymru, a chreodd hyn ddisgwyliadau yn meddyliau llawer am dano. Yn mhlith y rhag-barotoadau hyn gallwn nodi y rhai canlynol:-

1. Ar derfyn y ddeunawfed ganrif yr oedd cryn lawer o drafodaeth fasnachol yn cael ei chario yn mlaen rhwng gwahanol ranau o Gymru a threfydd mawrion Lloegr, yn y rhai yr oedd Methodistiaeth Wesleyaidd yn cyfodi yn gyflym i fod yn allu crefyddol mawr. Yr oedd y Cymry yn barod wedi cael allan fod gwahaniaeth mawr rhwng athrawiaethau y Methodistiaid Wesleyaidd a'r Methodistiaid Calfinaidd. Dysgai y rhai cyntaf, fod Crist wedi marw dros bawb, fod yr Yspryd Glân yn galw pawb, y gallai pawb trwy gynorthwy gras Duw edifarhau a chredu, ac felly fod yn bosibl i bawb fod yn gadwedig. Ond dysgai y Methodistiaid Calfinaidd, mai dros yr etholedigion yn unig y bu Crist farw, ac mai arnynt hwy yn unig y galwai yr Yspryd Glân yn effeithiol, ac nad oedd yn bosibl i neb ond hwynt- hwy yn unig fod yn gadwedig. Fel rheol, pan fyddai morwyr Cymru wedi glânio yn y porthladdoedd Saesnig, ymwelent âg addoldai y Methodistiaid Wesleyaidd, gwrandawent y gair yn ddi-ragfarn, a dychwelwyd llawer o honynt at yr Arglwydd, ac y mae hwn yn un rheswm fod Methodistiaeth Wesleyaidd wedi llwyddo i fesur helaethach yn rhanbarthau arforawl Cymru nag yn y canolbarthau. Wedi dyfod adref adroddai y morwyr hanes eu hymweliad âg addolda y Sect newydd, beth oedd yr athrawiaeth a bregethid a'r dylanwad cydfynedol, nes codi awydd mewn llawer am gael cyfleustra i glywed y cyfryw drostynt eu hunain. Mae yr un peth yn wir hefyd am y masnachwyr a ymwelent â Llundain, Manchester, Liverpool, a Chaer, &c. Ac at hyn, yr oedd rhai a ddychwelwyd at yr Arglwydd dan weinidogaeth y Methodistiaid Wesleyaidd yn Lloegr pan yn trigianu yno, wedi troi eu gwynebau tu ag adref, ac adsefydlu yn ngwlad eu genedigaeth, ac yn dyheu am weled y dydd i Fethodistiaeth Wesleyaidd i gael ei sefydlu yn Nghymru.

2. Bu ymweliadau mynych y Parch. John Wesley, A.C., â Chymru yn foddion i ragbarotoi y ffordd i sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y Dywysogaeth. Ymwelodd â Chymru gynifer a dwy a deugain o weithiau yn ol y cofnodion a geir yn ei "Ddyddlyfr," ond nis gallwn fod yn sicr mai dyma nifer ei holl ymweliadau. A'r Deheudir yr ymwelodd fynychaf, a daeth yno y tro cyntaf ar wahoddiad taer Howell Harris, yn ol pob tebyg. Yr oedd agosrwydd y rhanbarth hwn, yn enwedig y cyrau pellaf o hono, i Bristol a'r lleoedd cylchynol, lle y treuliai Mr. Wesley lawer o'i amser, yn un rheswm dros ei ymweliadau mynych â'r Dê, ac at hyny, mai yno yr oedd y Diwygwyr Methodistiaid Cymreig yn llafurio. Ymwelodd o leiaf gynifer a phedair-ar-ddeg o weithiau â'r Gogledd; ac yn Ynys Môn y pregethodd gyntaf yn y rhanbarth hwn, a hyny ar ei fynediad a'i ddychweliad o'r Iwerddon. Cawn iddo bregethu dros ddau gant a haner o weithiau yn y Dywysogaeth. Ar rai achlysuron cawn ei fod yn pregethu trwy gyfieithydd. Ei arweinydd fel rheol, pan y teithiai o'r Dê i'r Gogledd, oedd y Parch. Mr. Phillips, periglor, Maesmynys, a naturiol casglu y byddai ef yn gweithredu fel cyfieithydd pan byddai amgylchiadau yn galw, oblegid pa gyfrif arall ellir ei roddi dros ei waith yn anfon Mr. Wesley amryw weithiau ar hyd yr un ffordd. Un arall a ganlynai Mr. Wesley ar ei deithiau yn Neheudir Cymru oedd Harri Llwyd, o Rhydri, a gweithredai ef fel cyfieithydd iddo. Cawn ei hanes yn pregethu ar ben mynydd heb fod yn mhell o Lantrisant, i gynulleidfa fawr, ond gan mai ychydig a'i deallent, traddododd Harri Llwyd sylwedd ei bregeth yn Gymraeg, a hyny yn y fath fodd nes cyffroi cydwybodau y bobl, ac yr oedd effeithiau amlwg yn canlyn. Fel hyn yr oedd ymweliadau efengylydd mor enwog â Chymru yn galw sylw y bobl at Fethodistiaeth Wesleyaidd, ac yn sicr o fod yn parotoi meddyliau llawer i groesawi yr enwad a'r athrawiaeth pan yr ymddangosent mewn gwisg Gymreig. Ac yn ychwanegol at ymweliadau achlysurol Mr. Wesley, gellir nodi hefyd i'r achosion Saesnig oeddynt yn barod wedi eu sefydlu greu awydd mewn llawer am gael achosion Cymreig yn ogystal wedi eu sefydlu. Yn wir, gwnaed cais at Mr. Wesley ei hun i'r dyben hwnw.

3. Yn y flwyddyn 1777 ymunodd Dr. Coke, o Aberhonddu â Mr. Wesley, ac felly a'r Methodistiaid Wesleyaidd. Yr oedd ef yn ŵr mewn urddau eglwysig, ond oherwydd ei onestrwydd yn dynoethi pechadurusrwydd yr oes yn ei weinidogaeth rymus, erlidiwyd ef allan o'r Eglwys Wiadol, a chauwyd ei phyrth yn ei erbyn. Yr oedd ef yn Gymro twym-galon, a theimlai yn angherddol yn achos iachawdwriaeth ei genedl yn ol y cnawd. Efe mewn modd neillduol oedd olynydd yr anfarwol Wesley, ac megys y bu yr Arglwydd gyd â Wesley, felly hefyd y bu gyd â Dr. Coke. Yr oedd yn llawn yspryd cenhadol, a bu yn gyfrwng i sefydlu amryw Genhadaethau ydynt heddyw yn alluoedd cryfion yn Nheyrnas yr Arglwydd Iesu. Teithiodd lawer yn Nghymru, a phregethodd yn fynych ynddi. Adroddwyd i ni gan rai a'i clywsant mai yn Saesneg y pregethai, ond na phetrusai ddarllen ei destyn yn Gymraeg, ond Cymro clapiog ydoedd. Canlynid ef yn fynych yn ei deithiau gan ei briod, yr hon a wisgai ddiwyg hollol Gymreig. Yr oedd y syniad o sefydlu Cenhadaeth Wesleyaidd yn Nghymru yn gweithio yn rymus yn ei feddwl y blynyddoedd olaf o'r ddeunawfed ganrif, ac yn ddiameu yr oedd hyny yn rhagbarotoad i'r gwaith.

4. Yr oedd amryw o Gymry wedi ymuno â'r achos Saesnig yn amser Mr. Wesley, ac yn gydweithwyr âg ef i ddwyn y gwaith yn mlaen. Gallwn nodi yn gyntaf oll Thomas Oliver, o Dregynon, Swydd Drefaldwyn. Yr oedd yn Gymro, ac yn alluog i bregethu yn Gymraeg yn ol tystiolaeth Mr. Wesley ei hun, a diameu iddo bregethu yn yr hen iaith ar ei ymweliadau â'i gartref. Yr oedd ef yn bregethwr nerthol, yn fardd o fri, ac yn llenor cynyrchiol a choeth. Bu am flynyddoedd yn is-olygydd y Methodist Magazine, yr hyn a brawf ei fod yn sefyll yn uchel iawn yn syniad Mr. Wesley.

Un arall o'r rhag-redegwyr oedd Harri Llwyd, o Rhydri, yn Morganwg. Yr oedd yn ddyn duwiol iawn, ac yn hynod ar gyfrif unplygrwydd a thryloywder ei gymeriad. Efe ydoedd y pregethwr cynorthwyol Wesleyaidd cyntaf, galluog i bregethu yn yr iaith Gymraeg, a safai yn uchel iawn yn ffafr Mr. Wesley. Yn ol pob peth allwn gasglu efe a gyhoeddodd y llyfr Wesleyaidd Cymreig cyntaf erioed, sef cyfieithiad o bregeth y Parch. John Wesley, ar farwolaeth y Parch. George Whitefield. Un tro pan yn pregethu yn Cornwall, amgylchynwyd ef gan dyrfa o erlidwyr, ac ymosodent arno yn ffyrnig. Yn nghanol y cynhwrf trodd at Dduw mewn gweddi, gan weddio yn Gymreig. Ar hyny disgynodd ofn ar yr ymosodwyr, gan dybio fod rhyw beth yn oruwchnaturiol yn yr iaith ac yn y swn, a throisant eu cefnau arno, ac felly cafodd ddihangfa yn nghysgod yr hen iaith anwyl.

Yn "Yr Eurgrawn Wesleyaidd" am y flwyddyn 1830, tu dalen 10, adroddir i ni hanes am un William Roberts, yr hwn oedd yn frodor o Ddinbych, ond a ymsefydlodd yn gynar yn ei oes yn Liverpool, ac a ddychwelwyd yno at yr Arglwydd dan weinidogaeth y Methodistiaid Wesleyaidd. Oddeutu y flwyddyn 1779 talodd ymweliad â'i deulu yn Ninbych, a thra yno siaradai yn ddwys a gonest â'i berthynasau a'i gyfoedion am yr angenrheidrwydd o'u haileni, fel yr unig ffordd i fod yn gadwedig am byth. Cafodd ei sylwadau ddylanwad mawr ar feddwl ei frawd, Evan Roberts, yr hwn ar ol hyny a aeth i Liverpool ac a ymunodd a'r Gymdeithas Wesleyaidd. Tra yno cafodd gyfleustra i wrandaw ar Mr. Wesley yn pregethu, a chan fod ei galon yn dyheu am ddychweliad ei genedl a'i gymydogion yn Ninbych at yr Arglwydd, aeth at Mr. Wesley i erfyn arno anfon gyd âg ef un o'i bregethwyr i Ddinbych, ond yr atebiad a gafodd i'w gais oedd, "Nid oes genyf ond un yn alluog i bregethu Cymraeg (sef yr enwog Thomas Oliver), ac y mae ef yn rhy brysur gyd â'r argraff-wasg yn Llundain, fel nas gall ei gadael". Bu Evan Roberts yn bregethwr cynorthwyol llwyddianus, a phregethai yn Gymraeg cyn sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd yn y Dywysogaeth, a gwnaeth ei ran yn ardderchog fel rhag-redegydd yr enwad newydd. Teilynga Mr. Edward Linnell, yr hwn oedd yn gyllidydd yn Llansanan hefyd goffad o'i enw, ar gyfrif y cynorthwy a roddodd efe, ac yntau yn Sais, i barotoi y ffordd ar gyfer sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn Nghymru.

Perthyn i'r un dosbarth a Mr. Evan Roberts, yr oedd Mr. Richard Harrison, o Laneurgain. Dychwelwyd yntau at yr Arglwydd pan ar ymweliad â Liverpool, dan weinidogaeth y Methodistiaid Wesleyaidd. Wedi dychwelyd adref, ymunodd â'r achos bychan oedd wedi ei sefydlu gan y Saeson yn Llaneurgain, a chyn hir dechreuodd bregethu yn y ddwy iaith. Pregethai yn fynych yn mhlith y Methodistiaid Canfinaidd, ond gwrthododd yn bendant ymuno â hwy, er i gais i'r perwyl hwnw gael ei wneyd ato. Bu ei weinidogaeth o fendith i lawer yn Siroedd Dinbych a Fflint. Cafodd y fraint o weithio i barotoi y ffordd ar gyfer dyfodiad Wesleyaeth Gymreig i'r Dywysogaeth, a gwelodd droi yr achos Saesnig oedd yn Llaneurgain yn achos Cymreig. Bydd ei goffadwriaeth yn fyth fendigedig. Un arall a wnaeth wasanaeth i barotoi y ffordd ar gyfer sefydlu Wesleyaeth Gymreig yn Nghymru oedd Mr. Thomas Foulks, o Machynlleth. Yr oedd yn enedigol o Landrillo; ond symudodd oddiyno i Neston, Sir Gaer, a phan yno y dychwelwyd ef at yr Arglwydd dan weinidogaeth y Methodistiaid Wesleyaidd, ac ymunodd ar unwaith â'r achos yn Nghaer. Cyn hir ar ol ei ddychweliad dechreuodd bregethu. Symudodd oddiyno i'r Bala, ac ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, am nad oedd yno Fethodistiaid Wesleyaidd. Oddiyno symudodd i Machynlleth, ac nid esgeulusai yr un cyfleustra i fyned heibio heb ganmol Methodistiaeth Wesleyaidd, a bu ei air da Daliodd iddi a'i ddylanwad o'i phlaid o fantais fawr iddi. Daliodd Mr. Foulks ei aelodaeth gyd â'r Methodistiaid Wesleyaidd Saesnig yn Nghaer tra y bu byw. Bob ffair Caer galwai gyd â'r gweinidog pwy bynag fyddai hwnw, a chyfranai iddo ei roddion wythnosol a chwarterol; ac yn ei EWYLLYS yr oedd wedi gadael swm o arian i'w talu bob blwyddyn tu ag at yr unrhyw achos, y rhai a dalwyd yn gyson hyd oni ddarfu i Mr. Charles, o'r Bala, dalu swm o arian i Eglwys y Methodistiaid Wesleyaidd yn Nghaer (gyd â'u cydsyniad hwy), yn hytrach na thalu swm yn flynyddol.

5. Yn Nghymru hefyd yr oedd llawer yn disgwyl ac yn dyheu am ddysgeidiaeth wahanol i Galfiniaeth ar athrawiaethau crefydd. Bellach, yr oedd y Beibl yn cael ei ddarllen gan llawer, a gwelent ei fod yn dysgu fod galwad yr efengyl ar bawb, a bod iachawdwriaeth yn cael ei chynyg i bob dyn yn ddiwahaniaeth. Nis gallwn ymatal heb ddifynu yma o "John Bryan a'i amserau gan y diweddar Dr. William Davies:-

"Un o'r pethau hynotaf efallai yn holl hanes y symudiad dan sylw, sef cychwyniad Wesleyaeth yn Nghymru, oedd y parodrwydd meddwl a amlygwyd mewn lluaws o engraffau i wneyd derbyniad o Wesleyaeth pan gafwyd cynygiad o honi. Cafodd ein cenadau cyntaf, mewn llawer iawn o fanau, yn ngwir ystyr y gair, bobl barod' iddynt. Cawsant eu 'hamserau' wedi eu rhagddarparu iddynt. Nid plygu eu hamserau' i'w hamcanion eu hunain a wnaethant, ond tystia pob peth fod rhyw law ddirgelaidd ac oll-effeithiol wedi bod ar waith yn rhagbarotoi Cymru i'r Wesleyaid, cyn gwneuthur o'r cenadau eu hymddangosiad yn y wlad. Eu cipio ymaith gawsant hwy, a hyny bron yn ddiarwybod iddynt eu hunain, gan Yspryd yr Arglwydd,' a llifeiriant amgylchiadau. Addefwn yn rhwydd, a dadleuwn hefyd, fod ein tadau hyny wedi eu cymhwyso yn gyflawn, yn hynod o gyflawn, i'r amserau disgynasant arnynt; ond rhaid i ni addef hefyd, yn llawn mor rwydd a hyny, fod y llaw alluog hono fu yn eu cymhwyso i'w hamserau' wedi bod ar waith ar yr ochr arall hefyd yn cymhwyso yr amserau' mewn modd nododig iddynt hwythau. Gwnaeth yr unig ddoeth Dduw yn yr achos hwn fel yn mhob achos arall y naill ar gyfer y llall, a phob peth yn deg yn ei amser.

Fel engraff foddhaol o'r neillduolder hwn, gallwn enwi yma yr afonydd- wch rhyfeddol oedd wedi ymgodi yn meddyliau llawer o bobl ddarllengar, ddifrifol, yr oes, o barthed i athrawiaethau yr Efengyl. Meddyliai llawer un fod pregethau uchel Galfinaidd y dyddiau hyny yn gwneyd cam dirfawr â hen athrawiaeth yr Efengyl am yr iachawdwriaeth gyffredinol.' llechai mewn llawer calon ddisgwyliad hiraethlawn a phroffwydoliaethol bron amgodiad y seren ddydd,' a thywyniad goleuni gwell ar drefn cadw dyn. Mor hynod o amlwg yw hyn yn hanes rhai o hen dduwiolion cyntaf ein heglwysi borcuaf vn Nghymru! Cyn i droed Cenhadwr Wesleyaidd rodio heol Conway erioed, yr oedd yn y dref hono yn byw hen ŵr a hen wraig o'r enw William a Jane Thomas. Yr oedd y ddau o dueddfryd sad a difrifol iawn. Cyrchent yn bur gyson i Gapel y Methodistiaid Calfinaidd, fel gwrandawyr beth bynag, os nad fel aelodau. Yr oedd un o honynt o leiaf, sef y wraig, yn medru darllen; ac yr oedd ol darllen llawer ar yr hen Feibl candryll a adawyd ganddi ar ei hol. Tystiodd un o blant y rhai hyn wrthym, flynyddau yn ol, iddo yn fynych, pan yn hogyn bychan, glywed y naill yn dyweyd wrth y llall ar ol d'od o'r odfaon, a darllen rhyw gymaint o'r gair, Yn wir wel' di, 'tydi petha'r bobl yma ddim yn ol y Beibl, wel' di, ma' r'wbath arall yn siwr o ddwad, gei di welad.' A phan ddaeth Mr. Jones, Bathafarn, a Mr. Bryan yno gyntaf i bregethu, dywedai y ddau, Dyma nhw! Dyma'r bobl i ni yn ddigon siwr!' Ac at y 'bobl' hyny yr ymwasgasant yn gyntaf rhai yn Nghymru. Ychydig yn uwch i fyny, heb fod yn mhell o Lanrwst, yr oedd hen wraig grefyddol iawn yn byw, sef "Dorothy Pierce, o Ribo." Deffrowyd y wraig hon i feddwl am ei chyflwr, ac i ymofyn am iachawdwriaeth. Ond methai yn lân ag ymfoddloni ar athrawiaethau cyfyng y dyddiau boreuol hyny. Yn aml dywedai, mai po fwyaf a wrandawai hi ar yr athrawiaeth, yr hon oeddynt ar y pryd yn ei phregethu, mai mwyaf yn y byd yr oedd hi yn cael ei chymell i beidio a chredu.' Credai yn ddiysgog fod yr iachawdwriaeth yn cael ei chyfyngu ganddynt, ragor yr oedd hi yn ngair Duw. Mawr oedd ei hiraeth am gael clywed rhyw rai yn pregethu Crist yn Geidwad digonol, presenol, a chyffredinol; i ddywedyd yn eglur am dystiolaeth yr Yspryd Glân, megys yr oedd hi yn gweled fod Crist a'i Apostolion yn gwneuthur. Tra yn aros yn y cyflwr hwn, mynych y gofynwyd iddi ei barn am bregethwyr a'u hathrawiaethau, a'i hateb fyddai mai nid Efengyl yr oeddent yn ei bregethu, ond y byddai i DDUW GYFODI ERAILL I SEFYLL DROS Y GWIR YN NGHYMRU. A thra yr oedd yr hen chwaer hon ar Graig Ribo, fel Simeon yn Jerusalem yn disgwyl am ddyddanwch Israel,' ymwelodd y Parch. J. Hughes gyntaf, a Llanrwst. Yn mhlith y dorf ddaeth i wrandaw yr oedd Dorothy Pierce. A bu pan glybu hi athrawiaeth eang, helaeth, rasol y gŵr dyeithr, nis gallodd ymnatal heb lefain allan Dyma y bobl a ddisgwyliais i, a dyma'r athrawiaeth yr wyf fi yn ei chredu canys yr ydwyf yn gallu gweled hon yn fy Meibl,'" (Gwel Eurgrawn 1809, tudalen 370, &c.)

Yn nghanol Lleyn, yn Sir Gaernarfon, y mae amaethdy golygus yn sefyll, o'r enw COCH-Y-MOEL. Yno o wyl Mihangel, 1792, ac yna am flynyddoedd lawer, yr oedd gwr o'r enw William Jones, yn byw. William Jones, Coch-y-moel' oedd enw adnabyddus iawn trwy yr holl gymydogaeth gynt, a chofir ef yn barchus gan rai yno hyd y dydd heddyw. Gwr synwyrol a phwyllog, ymchwilgar a diragfarn; cyfaill calon i'r Methodistiaid Calfinaidd, gwrandawr selog a chyson arnynt, a'i wraig yn aelod cyfrifol yn eu mysg—gŵr fel hyn oedd William Jones. Ac eto i gyd dyna a ddywedir am dano.--Er ei fod yn dwyn mawr sel dros achos y corph (Methodistaidd), eto nid oedd yn gallu credu eu pregethau; ac am hyny yr oedd yn hiraethu am gael clywed y gwir, sef PREGETHU CRIST YN GYFFREDINOL. Tua'r flwyddyn 1803, clybu Mr. Jones, fod un o'r Wesleyaid i bregethu yn Sarn Folltyrn, gerllaw Coch-y-moel. Aeth yno i wrandaw a chafodd ei foddloni yn gyflawn; do, nes y dywedodd, Dyma fy mhobl i, a'u Duw hwynt gaiff fod yn Dduw i minau. YR OEDDWN yn eu disgwyl yn barhaus er ys llawer dydd. A phan yr ymwelodd y Cenhadau Cymreig gyntaf â Sir Feirionydd, ni a gawn William Jones, Bryntirion (taid Mr. W. J. Morris, Abermaw), un o'r dynion mwyaf pwyllog, meddylgar a dysgedig trwy yr holl wlad, ac un a fuasai am chwe' mlynedd ar hugain yn aelod cyfrifol iawn o Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y lle hwnw (Bontddu), ar unwaith yn cydnabod y gwirionedd ac yn ei gofleidio. Ac felly hefyd y bu gyd â'r craffus a'r doniol Robert Jones, o'r Brithdir, yn Sir Drefaldwyn, a llawer eraill, o ran hyny, y rhai nis gallwn yn awr eu henwi bob yn un ac un. Dyma ddosbarth o ffeithiau sicr ac anwadadwy. Wrth edrych arnynt, nis gallwn lai na'u hystyried yn un o arwyddion mwyaf tarawiadol yr amserau ag y soniais am danynt. Ac y mae yn gwasanaethu, dybygem ni, mewn modd effeithiol iawn, i brofi yn ddiameuol felly, fod amserau Mr. Bryan a'i gydweithwyr wedi cael eu parotoi iddynt yn llawn cyn i un ohonynt ddechreu gweithredu arnynt mewn modd yn y byd. Nid gwthio eu hunain allan cyn cael eu galw wnaeth y Cenhadau Cymreig; nage, nage, ond yr oedd agwedd pethau yn Nghymru, a llais Duw hefyd yn eu galw yn uchel, i ymaflyd yn eu gwaith. Yr oedd meddyliau llaweroedd o rai difrifol y wlad yn dechreu ymrhyddhau oddiwrth yr hen gredoau, dianrhydeddus i Dduw, a digysur i ddynion, ac yr oedd eisiau y GWIRIONEDD yn ei burdeb cariadlawn ac anogaethol i'w cadw rhag drifftio gyda chorwynt llygredigaeth i fôr marw amheuaeth, anffyddiaeth, ac annuwiaeth ymarferol. Cafodd Mr. Bryan, Jones, Bathafarn, a'u cydweithwyr hwy, dir wedi ei arloesi iddynt a'i gymhwyso i'r hâd da. Rhoddes Duw iddynt i fesur mawr bobl barod.'"

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Jones (Bathafarn)
ar Wicipedia

6. Ond o bawb, yr un a ddefnyddiodd Duw benaf, ac a gymwysodd flaenaf oedd Mr. E. Jones, Bathafarn. Ganwyd y gŵr hwn ar y 9fed o Fai, 1777, yn Bathafarn, amaethdy golygus, ger llaw hen balasdy o'r enw, heb fod yn mhell o dref Rhuthyn, yn Nyffryn Clwyd. Enwau ei rieni oeddynt Edward a Jane Jones. Ganwyd iddynt bedwar o blant,- dau frawd a dwy chwaer. Ein gwrthrych oedd yr hynaf yn y teulu, a derbyniodd addysg dda yn ol safon yr oes hono, yn Ysgol Ramadegol Ruthyn, yr hon y pryd hwnw a olygid yn un o'r ysgolion goreu yn Ngogledd Cymru. Wedi treulio ei amser yn yr ysgol, symudodd yn fachgen lled ieuanc i Manchester, gan ddewis yn hytrach drin cotwm na thrin tir. Rhoddodd hyn fantais neillduol iddo i wel'd y byd, ac i raddau helaeth i adnabod ei wagedd a'i ffolineb. Yr oedd (yn ol tystiolaeth Mr. Bryan) o dymer addfwyn a heddychol, o ymddygiad caruaidd a thirion, ac yn enill iddo ei hun serch a pharch cyffredinol. Yn fuan wedi ymsefydlu yn Manchester arferai fyned i wrandaw Dr. Bayley, gweinidog enwog gyda'r Annibynwyr, yn nghyd â'n pregethwyr ninau, yn enwedig Mr. George Marsden, o dan weinidogaeth yr hwn yr ymunodd â'r Methodistiaid Wesleyaidd, ac y profodd faddeuant pechodau, a hyny yn hen Gapel Oldham Street ar nos Sabboth tua diwedd y flwyddyn 1795, pan nad oedd eto ond oddeutu deunaw mlwydd oed. Yn mhlith y dychweledigion y noson hono yr oedd un James Wood (tad y diweddar Dr. Wood, Southport), a Jabez Bunting, wedi hyny Dr. Bunting. Ffurfiwyd cyfeillgarwch anwyl a chryf iawn rhwng Mr. Jones a Dr. Bunting fel cyfoedion yn yr Arglwydd ac fel cydweithwyr am dymor yn Manchester i enill eneidiau at y Gwaredwr. Bu Mr. Jones yn Manchester am bedair blynedd ar ol ei droedigaeth, ac ar hyd yr amser yn meddu ar adnabyddiaeth lawn o'i gymeradwyaeth gyd â Duw. Ei amcan ef yn myned i Fanchester oedd i ddysgu drin cotwm, gan ddisgwyl yn ddiameu dd'od yn Fasnachwr, os nad yn Farsïandwr yn y fasnach maes o law, ond i amcan arall yr anfonodd Duw ef yno, sef i gael ei achub, ac wedi hyny cael ei barotoi a'r gyfer y gwaith mawr o sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y Dywysogaeth. Yn ngoleu y ffeithiau a nodir yn y bennod hon, gwel y darllenydd yn eglur, fel yr oedd yr Arglwydd yn patotoi y ffordd i gyfodi Enwad arall yn Nghymru i gyflanwi gwaith ag oedd hyd yn hyn yn cael ei esgeuluso i fesur mawr iawn.

PENNOD IV.

Sefydliad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y Dywysogaeth

.

WEDI i Mr. Edward Jones, Bathafarn, gael ei ddychwelyd at yr Arglwydd yn hen gapel Oldham Street, Manchester, dechreuodd ef a'i gyd-ddychweledigion at yr Arglwydd i weithio drosto, trwy gynal cyfarfodydd gweddio mewn aneddau, a chymell eneidiau at Grist. Parhaodd felly yn llawn sêl a gweithgarwch yn Manchester am oddeutu pedair blynedd. Ond erbyn diwedd y flwyddyn 1799, yr oedd rhyw anesmwythder meddwl yn ei aflonyddu, ac yn denu ei fryd i ddychwelyd yn ol i'w wlad enedigol ac i dŷ ei dad, a dyma fel yr eglura ef yr amgylchiad,—"Yr achosion a barasant fy nychweliad (i Gymru) oedd marwolaeth fy mrawd, henaint a methiant fy rhieni, a'u bod hefyd o dan gymaint o ofal bydol. Y mae yn wir fod fy iechyd y pryd hwnw yn lled wanaidd, ac wedi bod felly er pan aethum gyntaf i Loegr, a bernid y buasai awyr iach gwlad fy ngenedigaeth yn dra llesol i mi." Ond credwn nad oedd yr hyn a grybwyllir yma fel achosion, yn ddim mwy na chymellion yn unig. Yr achos penaf o'i ddychweliad adref yn ddiameu oedd, galwad ddwyfol arno i fod yn offeryn i sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn ei wlad enedigol. Mor amlwg y canfyddwn yr arweiniad dwyfol yn ei dywys megys gerfydd ei law ar hyd ffordd na wyddai, i gyflawni gwaith nad oedd yn ymwybodol ar y pryd o'i bwysigrwydd a'i fawredd. Cyn gadael Manchester, galwodd gyd âg Arolygwr y Gylchdaith, sef y Parch. Samuel Bradburn, i fynegu iddo ei fwriad, ac i ddatgan ei drallod wrth feddwl tori i fyny ei gysylltiad â'r manteision crefyddol yn Nghapel Oldham Street, a gwynebu ar ardal nad oedd manteision cyffelyb yn perthyn iddi. Derbyniodd Mr. Bradburn ef yn garedig, ymddiddanodd âg ef fel tad, at chyngorodd ef i alw gyd â Gweinidogion Caerlleon ar ei ffordd adref, ac i geisio ganddynt fyned i bregethu yn yn achlysurol i Ruthyn. Ar y 30ain o Ragfyr, 1799, cefnodd ar Manchester, a chyrhaeddodd Caerlleon, ac arhosodd yno y noson hono. Galwodd gyd â'r gweinidogion, ac addawodd y Parchn. Thomas Hutton a George Morley, dalu ymweliad yn achlysurol â Rhuthyn, mor fuant ag y gallasai ef gael drws agored iddynt. Hefyd, tra yn Nhaerlleon, cafodd a'r ddeall fod yno wr ieuanc o Gymro yn ngwasanaeth Misses Williams, (y rhai a gadwent shop yno,) o'r enw John Bryan, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu gyda'r Saeson, ond heb fod ei enw eto ar y plan. Galwodd Mr. Jones gyd âg yntau hefyd, a chan fod y ddau o gyffelyb anianawd, aethant yn gyfeillion yn y fan, ac addawodd Mr. Bryan fyned i Ruthyn i bregethu ar gais ei gyfaill.

Y dydd olaf o 1799, cyrhaeddodd Mr. Jones adref i Bathafarn. Erbyn dranoeth yr oedd y flwyddyn newydd, ïe, yr olaf o'r ganrif wedi gwawrio, a dychymygwn weled y gŵr ieuanc gwelw ei wedd, ond hynod foneddig- aidd ei ymddangosiad, yn llawn pryder meddwl yn gwneyd ei ffordd yn nghyfeiriad Rhuthyn, i chwilio am ddrws agored i'r Methodistiaid Wesleyaidd i bregethu. Ac ar y 3ydd o Ionawr, 1800, cafodd hyd i le cyfleus yn mhen y dref i gynal cyfarfodydd crefyddol, sef ystafell eang oedd yn meddiant Mr. John Edwards, cariwr. Cymerodd hi, ac ynddi y dechreuwyd achos y Methodistiaid Wesleyaidd Cymreig. Y fath sel a beiddgarwch a nodweddai ymddygiad y gŵr ieuanc! Ai onid oedd yr hyn a wnaeth yn profi ei fod o dan yr arweiniad dwyfol ?

Daeth gweinidogion Caerlleon yno i bregethu yn ol eu haddewid, ond ychydig o les allasant ei wneyd, gan na allent bregethu yn iaith y bobl. A chan fod yn anhawdd cael neb i wasanaethu yn rheolaidd, angenrhaid a osodwyd ar Mr. Jones, Bathafarn, i sefyll yn yr adwy ei hunan, a bendithiodd Duw ei ymdrechion a llwyddiant amlwg. Yn mis Ebrill, 1800, daeth tro Mr. Bryan i dalu ymweliad â Rhuthyn, yn ol ei addewid. Aeth Mr. Jones, Bathafarn, yn nghyd â nifer o wŷr ieuainc oedd wedi ymuno âg ef i'w gyfarfod i ben Bwlch y Foel Famau, pellder o dair milldir o Rhuthyn. Wedi iddynt ei gyfarfod, a gwneyd y Ilongyfarchiadau arferol, ymunasant i ganu pennill wedi dyfod at ddisgynfa y mynydd, nes adseiniai y bryniau a'r cymoedd oddiamgylch, sef—

"Newyddion braf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddant gael eu dwyn ar go',
Fod Iesu wedi cario 'r dydd,
Caiff carcharorion fyn'd yn rhydd."

Yn mhlith y gwŷr ieuainc ddaethant gyd â Mr. Jones i gyfarfod Mr. Bryan yr oedd John Jones (nai i Mr. Owen Davies); Thomas Roberts (mab i Mr. Thomas Roberts, o Fonwm, gerllaw Corwen), a Robert Roberts, gŵr ieuanc oedd yn byw gyd â Mr. Roberts, siopwr parchus yn y dref. Wedi iddynt gyrhaedd cŵr y dref, ac wrth fyned i mewn iddi, canasant drachefn, a'r waith hon yr Emyn Seisnig:-

"Let earth and heaven agree,
Angels and men be joined,
To celebrate with me
The Saviour of mankind,
To adore the all-atoning Lamb
And bless the sound of Jesu's name."

Tynodd hyn sylw trigolion y dref, a chafwydd cynulleidfaoedd mawrion am ddau a chwech. Am yr oedfaon hyny fel hyn y dywed Mr. Bryan:—"Pregethais am ddau oddiar Galatiaid iii. 13, ac am chwech oddiar Marc xvi. 15. Aethum i mewn i'r lle mewn ofn a drychryn mawr. oedd yno gynulleidfa liosog, a'r nifer fwyaf o honi yn Gymry. Siaradais yn Saesneg ac yn Gymraeg hefyd. Gelwais y Society ar ol, ar derfyn oedfa'r nos. Yr oedd yr amser hwnw yn un pur hynod: mor amlwg oedd nerth Duw yn y lle, fel mai prin y gellid fy nghlywed i gan sŵn y bobl yn gwaeddi am drugaredd, ac eraill yn clodfori Duw. Cafodd un gwrthgiliwr ei adferyd. Argyhoeddwyd amrai, a chafodd tri neu bedwar heddwch tuag at Dduw, a ymunasant â'r Society." Y Sabboth cyntaf yn Mehefin, 1800, ymwelodd Mr. Bryan drachefn â Rhuthyn, a phregethodd yno yn yr hwyr. Cynhaliwyd Society am chwech o'r gloch bore dranoeth, ac ymunodd pump neu chwech o'r newydd. Yr oedd 31 yn bresenol. Mor eglur y prawf hyn fod yr achos o dan yr arddeliad dwyfol. Calonogai hyn Mr. Edward Jones yn fawr, ac eto yr oedd pryder meddwl yn nghylch dyfodol yr achos yn gwasgu yn drwm arno, nes peri i'w gnawd gurio. Gwnai ei oreu gyd â'r achos, ac ymwelai â'r ardaloedd cylchynol, gan gymell eneidiau yn mhob man at y Gwaredwr.

Bellach, hiraethai Mr. Jones yn fawr am gael gweled Cenhadaeth Wesleyaidd Gymreig wedi ei sefydlu yn y Dywysogaeth. A fu ef mewn gohebiaeth a Dr Coke, neu â'r Parch. Samuel Bradburn ar y mater, nis gwyddom, ac eto y mae genym le i gasglu hyny. Y flwyddyn hon (1800) cynhelid y Gynhadledd yn Nghapel City Road, Llundain. Yr oedd yn ddiweddar ar Dr. Coke yn cyrhaedd yno, am ddarfod ei gadw yn y Werddon gan wyntoedd croesion. Yr oedd rhyw un wedi galw sylw y Gynhadledd at sefyllfa ac anghenion Cymru cyn iddo ef gyrhaedd, ond nid oedd unrhyw ddarpariaeth wedi ei gwneyd ar eu cyfer. Llywydd y Gynhadledd y flwyddyn hono oedd y Parch. James Wood, â'r Parch. Samuel Bradburn yn Ysgrifenydd. Yn fuan wedi cyrhaedd, dygodd Dr. Coke achos y Cymry ger bron y Gynhadledd, a dangosodd yr angenrheidrwydd am anfon Cenhadon i Ogledd Cymru i weinidogaethu i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain. Rhydd y Parch. John Hughes, Aberhonddu, i ni grynhodeb o'i araeth ger bron ei frodyr ar yr achlysur fel hyn—

"Mae fy nghalon yn ymgynhyrfu ynof," medd y Doctor, "o herwydd fy mherthynasau, plant y Cymry, y rhai sydd yn trigo yn mharthau y gogledd. Onid yw tywyllwch yn gorlanw y wlad? ac onid oes llawer yn cael eu dinystrio o eisieu gwybodaeth? canys nid yw y gweinidogion sydd yn eu gwlad yn mynegu iddynt yn llawn gyngor y Goruchaf. Am hyny clust—ymwrandewch a mi, ac ystyriwch, mi a atolygaf arnoch, yr hyn a ddaw allan o'm genau. Bydded i ni wneuthur fel hyn; ymholwn yn ein mysg ein hunain am un a fo ewyllysgar i fyned i dir Cymru, ïe, i blith hiliogaeth Gwynedd; a bydded iddo bregethu i'r bobl yn yr hen iaith, ïe, iaith Gomer; yn ddïau hwy a wrandawant arno, ac a ymostyngant i air yr Arglwydd, ac a ddychwelant oddiwrth eu pechodau."

Cariodd y Doctor y Gynhadledd i'w ganlyn gyd â'r araeth hon, a chyfododd un o'r frawdoliaeth, yr hwn oedd. yn frodor o'r Deheubarth, a llefarodd fel hyn—

"Onid oes yn ein mysg ŵr ieuanc o hil y Cymry, yr hwn all siarad iaith pobl ei wlad? Bydded i ni chwilio allan am un arall i gydymdeithio âg ef; yna ant ac ymdeithiant yn y Dywysogaeth, ac, ysgatfydd, gwrendy y bobl arnynt hwy, ac y deuant i adnabod daioni a thiriondeb yr Arglwydd."

Yr oedd y sylwadau hyn yn dra chymeradwy gan y Gynhadledd, ac ymgynghorwyd â'r Parchn. Owen Davies a John Hughes, a gofynwyd iddynt "A ewch chwi mewn gwirionedd i ymweled a'ch pobl er eu lleshad ?" A hwy a attebasant—"Awn yn ddiau." Ac felly ar ddymuniad Dr. Coke, sefydlwyd y Genhadaeth Wesleyaidd Gymreig, a phenodwyd yn Genhadon, yn

1. OWEN DAVIES, genedigol o Wrexham. Galwyd ef i waith y weinidogaeth yn 1789, ac ar ol bod gyd â'r Saeson am ddeuddeg mlynedd, daeth i Gymru yn 1800. Dychwelodd i'r gwaith Seisnig yn 1816. Bu farw yn Liverpool yn 1830, yn ei 78ain mlwydd o'i oedran, a'r 41ain o'i weinidogaeth.

2. JOHN HUGHES, O Aberhonddu. Dechreuodd ef deithio yn 1796. Bu yn y weinidogaeth yn mhlith y Cymry a'r Saeson am 47ain o flynyddoedd. Hunodd yn orfoleddus yn yr Iesu yn Knutsford Mai 13, 1843, yn 67ain mlwydd oed.

Gosodwyd hwy i lawr yn y Sefydliadau ar Ruthyn. Cymerodd hyn le Awst 6ed, 1800, pan oedd Sefydliadau y Gweinidogion am y flwyddyn ddyfodol wedi eu cwblhau, os nad wedi eu cadarnhau, a'r Parch. O. Davies i lawr ar Gylchdaith Redruth yn Nghernyw, a'r Parch. John Hughes wedi ei benodi i Leek. Credwn nad oedd neb yn perthyn i'r cyfundeb y pryd hwnw a allasai gario penderfyniad i sefydlu Cenhadaeth yn Nghymru dan y fath amgylchiadau ond Dr. Coke.

Wedi cadarnhau y penodiad, ysgrifenodd y Parch. Owen Davies at Mr. Edward Jones, Bathafarn, i'w hysbysu o'r trefniadau a wnaed gan y Gynhadledd ar gyfer Cymru. Cyrhaeddodd y llythyr pan oedd y gŵr ieuanc yn esgyn llechwedd y Foel gyfagos i fyned i fyny i Fwlch-pen-baras, gan feddwl marw yno ar ben y mynydd, megys y bu farw Moses ar ben Pisgah. Ond nid oedd yr amser wedi dyfod iddo ef esgyn mynydd Abarim i farw gerbron yr Arglwydd, oblegid yr oedd gan yr Arglwydd waith mawr iddo i'w gyflawni. Felly, tra yr esgynai fel hyn i'r mynydd yn brudd ei feddwl, rhedai y gwas ar ei ol, gan ei hysbysu fod llythyr wedi dyfod iddo. Ar hyn dychwelodd, a phan gafodd y llythyr, a'i agor, a'i ddarllen, canfyddai ei fod yn cynwys y newydd da a adroddwyd yn barod. A dyma fel yr edrydd Mr. Jones ei hun yr hanes "Parodd y newydd y fath lawenydd i'm calon, fel na theimlwn y nychdod a'r gofid hwn mwy. Mr. Jones, Bathafarn, oedd tad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, ac fel hyn y dywed Mr. Bryan am dano—" Ond Mr. Jones a gafodd y fraint o agor y drws i bregethu ein hathrawiaethau yn gyffredinol yn Nghymru yn yr iaith Gymraeg, ïe, ac i bregethu yn gyntaf mewn llawer o fanau yn y Gogledd â'r Dê," &c. Galwyd ef i waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1802. Yr oedd yn un o'r pregethwyr cyfaddasaf i gyfarfod âg anghenion yr Amserau ag oedd ar y maes ar y pryd. Nid oedd yn ail i neb am egluro—

Dyfnder calon dyn truenus,
Ac anfeidrol ddwyfol ddawn."

Am dano ef y dywedodd y Parch. Owen Davies, yr hwn. oedd wedi cael pob mantais i'w adnabod-

"He points the dying to the living word,
The dying hear, and are to life restored."

Yr oedd y Parch. Hugh Hughes, Llanor, yn adnabod Mr. Jones, Bathafarn, yn dda, ac fel hyn y tystiolaetha am dano—"Bu ef yn un o'r rhai cyntaf i ddechreu y gwaith yn y rhan fwyaf o leoedd yn y Gogledd a'r Deau, yn enwedig yn y trefydd; a dïau ei fod wedi ei gyfodi a'i addasu gan Dduw at y Gorchwyl, fel yr oedd yn dra llwyddianus i ba le bynag yr elai. Dios genyf y bydd rhai miloedd yn molianu Duw yn oesoesoedd am ei anfon allan, nid yn unig yn mysg y Wesleyaid, ond yn mysg pob plaid o grefyddwyr yn Nghymru Diameu fod miloedd wedi ymuno a phleidiau eraill, a gawsant eu hargyhoeddi o dan ei weinidogaeth ef." Bydd enw Mr. Jones, Bathafarn, byth yn anwyl, yn uchel, ac yn anrhydeddus yn mhlith Wesleyaid Cymru.

Bellach, dychwelwn yn ol at y ddau Genhadwr, sef y Parchn. Owen Davies a John Hughes, y rhai a benodwyd gan y Gynhadledd i sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd yn yn y Dywysogaeth. Ymddengys iddynt cyn gadael y Gynhadledd, neu yn fuan wedi hyny, gytuno i gyfarfod a'u gilydd yn Wrexham, Awst 22ain, 1800, ac i ddechreu yno ar y gwaith mawr eu penodwyd iddo. Ac ar y dydd canlynol, sef Awst 23ain, 1800, y digwyddodd y Sabboth cyntaf erioed yn hanes y Weinidogaeth Wesleyaidd Gymreig. Pregethodd Mr. Davies yn Wrexham, ac aeth Mr. Hughes i Brymbo. A'r nos Sul hwnw yn Brymbo y pregethwyd y bregeth Gymreig gyntaf erioed gan weinidog Wesleyaidd o benodiad y Gynhadledd i'r gwaith Cymreig. Ei destyn oedd—"Ymarfer attolwg ag ef, a bydd heddychlawn; o hyn y daw i ti ddaioni," Job xxii. 21. Awst y 27ain, 1800, cyrhaeddodd y Parchn. O. Davies a J. Hughes i Ruthyn, pen tref eu cylchdaith newydd, terfynau yr hon oedd yn ogyfled â'r Dywysogaeth. Y Sul canlynol, sef Awst 30ain, 1800, pregethodd Mr. Davies yn Dinbych, a Mr. Hughes yn Rhuthyn a Llanfair, a phrofiad yr olaf ar derfyn y dydd oedd—"Ni theimlais erioed fwy o bresenoldeb Duw wrth bregethu."

Nis gwyddom yn sicr nifer yr aelodau oedd dan ofal Mr. Edward Jones, Bathafarn, yn Rhuthyn, pan ddaeth y Cenhadon yno, ond yn ol tystiolaeth Mr. Owen Davies nid oeddynt yn llawn haner cant. Fel y nodwyd, yr oedd yn bresenol yn y Society a gynhaliwyd yn Rhuthyn am 6 o'r gloch y bore, Mehefin yr 2il, 1800, oddeutu deg a'r hugain, a dywedir fod amrai yn absenol. Mewn llythyr at Dr. Coke, Ionawr 14eg, 1803, dywed y Parch. Owen Davies—Yr oedd ein cynydd y chwarter diweddaf (sef Chwarter Rhagfyr 1802) yn 350. Fel hyn y mae y fechan nad oedd uwchlaw 46, ychydig amser yn ol, yn awr ddiadell yn rhifo 990." Felly, nid oedd ar y tir pan gychwynodd y Cenhadon lawn 50 o aelodau, ond mae yn debyg na chyfrifid yn y cyfryw yr aelodau oedd yn Ninbych a Llaneurgain, y rhai a drosglwyddwyd oddiwrth y Saeson i ofal y Genhadaeth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o hanes yr achos, ymwelodd y ddau Genhadwr â llawer o fanau yn Nghymru, a chawsant mewn amryw leoedd bobl barod i'w derbyn. Nis gellir cael hyd i'r cynydd a fu yn rhif yr aelodau yn ystod y flwyddyn gyntaf o oes y Genhadaeth, am fod Cenhadaeth Ludlow yn nglyn a Rhuthyn yn y cyfrif a geir yn Nghofnodau y Gynhadledd 1801. Ond yn hanes bywyd y Parch. John Hughes, Aberhonddu, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, ac a barottöwyd i'r wasg gan y Parch. William Rowlands, mae genym seiliau i gasglu eu bod oddeutu 180.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1801 yn Leeds—Y Parch. John Pawson yn Llywydd, a'r Parch. T. Coke, Ll.D., yn Ysgrifenydd. Yn y Gynhadledd hon galwyd allan


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Bryan
ar Wicipedia

MR. JOHN BRYAN i waith y weinidogaeth. Bu o wasanaeth fawr i'r achos Cymreig hyd y flwyddyn 1816, pryd y penodwyd ef i Gylchdaith Seisnig. Yr oedd, er yn fychan o gorpholaeth, o ymddangosiad boneddigaidd, o wroldeb arfeiddiol, yn bregethwr grymus, ac yn Emynydd rhagorol. Ymneillduoedd yn y flwyddyn 1822, ac yn mlynyddoedd olaf ei oes llafuriodd yn gymeradwy iawn fel pregethwr cynorthwyol. Bu farw yn Nghaernarfon Mai 28ain, 1856, yn 87ain oed.

Yn ystod y flwyddyn, o Awst 1801 hyd 1802, eangwyd terfynau y gwaith yn fawr yn gyntaf trwy gymeryd trosodd leoedd a berthynent hyd hyny i Gylchdaith Seisnig Caerlleon, sef, Wrexham, Bangor-is-y-coed, Bersham, Caergwrle, a Brymbo; ac yn ail trwy ychwanegu llawer o leoedd newyddion yn Siroedd Dinbych, Fflint, Meirion, Maldwyn, &c.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1802 yn Bristol, pryd y dewiswyd y Parch. Joseph Taylor yn Llywydd, a'r Parch. T. Coke, Ll.D., yn Ysgrifenydd. Yn ol y cyfrifon a gyflwynwyd o Gymru i'r Gynhadledd hon, yr oedd rhif yr aelodau perthynol i'r Genhadaeth Gymreig wedi cynyddu i 545, ac felly wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn. Yn y Gynhadledd y flwyddyn hon galwyd allan dri o'r newydd i'r gwaith—

1. EDWARD JONES, Bathafarn. Llafuriodd yn Nghymru gyd â llwyddiant mawr am bymtheg mlynedd, ac wedi hyny cymerwyd ef i'r gwaith Seisnig. Bu farw yn Leek yn y flwyddyn 1837 yn ei dri-ugeinfed flwydd o'i oedran a'r 35ain o'i weinidogaeth.

2. JOHN MAURICE, Llanfair, Dyffryn Clwyd. Wedi bod yn y weinidogaeth am wyth mlynedd, ymneillduodd, ac aeth yn bregethwr cynorthwyol. Bu farw yn Ninbych yn 1842 yn 72ain mlwydd oed.

3 JOHN JONES, Corwen. Galwyd ef i'r gwaith ar ol y Gynhadledd. Wedi teithio yn Nghymru am 15 o flynyddoedd, aeth i'r gwaith Seisnig. Bu farw yn Hornsea yn 1851 yn ei 69ain mlwydd o'i oedran a'r 49ain o'i weinidogaeth.

Gwnaed gwaith mawr yn ystod y flwyddyn hon mewn eangu terfynau, sefydlu Eglwysi, ac adeiladu Capeli. Yn ol cofnodau y Gynhadledd am 1802, yr oedd y Parch. Owen Davies wedi ei gynysgaeddu a gallu ac awdurdod i arfer ei ddoethineb i lafurio fel, ac yn y lle a farnai ef oreu er mantais y Genhadaeth. Ác wrth adolygu ei symudiadau ar ol i gan' mlynedd fyned heibio, rhaid cydnabod iddo symud yn bwyllog a doeth gyd â phob rhan o'r gwaith. Gallwn edrych ar y tair blynedd cyntaf, sef o'r Gynhadledd 1800 hyd 1803 fel tymhor prawf Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, ac am y cyfnod hwn nid oedd ond Cenhadaeth yn unig, ac yn perthyn i Dalaeth Seisnig. Ond daeth trwy y prawf yn llwyddianus iawn, ac edrychid arni gan y Gynhadledd fel cangen obeithiol yn y Cyfundeb. Un Gylchdaith oedd y Genhadaeth Gymreig hyd yn hyn, sef,

RHUTHYN—Owen Davies, John Hughes, Edward Jones, John Maurice.

Mewn adgof am y tymhor llwyddianus hwn, cyfansoddodd y Parch. Owen Davies y llinellau canlynol, y rhai a gyfieithwyd i'r Gymreig gan y Parch. John Bryan-

Tegwch dyffrynoedd bryn a bro!
Sain can cantorion lawer tro
D'wedodd haneswyr am dy fri—
Gogoniant Cymru oll wyt ti.

Dy uchel greig, dy frigawg goed,
O'th amgylch i'th amddiffyn roed.
Ffrydiau grisialaidd Afon Clwyd!
Ac adar mân a'r gân a gwyd

Dy glod uwch pob gwael ddoniau dyn;
Coedydd a dolydd yn gytun;
Yn nghyd âg aml balas gwiw,
I fawrion byd o'th fewn gael byw,
Hyfrydaf fro' mal Eden fras.
Ond i berffeithio'th degwch,
Duw Anfonodd it 'r Efengyl wiw,
Heirdd ffrwythau paradwysaidd dir,
A welir ynot cyn bo hir.

MR. JOHN BRYAN.



Aeth allan megys Dafydd "deg,"
Heb ofni'r cawr na'i aml" reg,
A'i "dafl-ffon" rymus yn ei law,
Mae'n brysio i beri i'r gelyn fraw.
Gofyn wna llu'r Philistiaid, gwn,
Pa beth yw'r llencyn gwrid-coch" hwn?
Ond er ei huchel ymffrost hwy,
Mae trwy bob rhwystrau yn tori trwy;
Ac yn cyhoeddi gyd â blas
Anrhaethol olud Crist a'i ras.
"Ei ffon" a'i "gareg [2] oreu gaed
Blyg pob rhyw elyn dan ei draed;
Mae'n clwyfo'r iach, mae'n lladd y byw—
Gorchfyga yn deg trwy allu Duw.

MR. EDWARD JONES.



Daw mab Bathafarn ar ei ol,
A'r Iesu yn ei gynes gôl,
Ei dafod fel marworyn byw,
Roed oll ar dân o allor Duw;
I ddyweyd i'r rhai dan rwymau sydd,
Fod modd i'w gwneyd yn gwbl rydd,
I'r rhai sydd ar lawr dan farwol loes,
Rhydd gordial cryf a balm y groes,
I'r hwn sydd newydd eni-llaeth,
Fel gallo fyw, caiff nefol faeth,
Clyw'r meirw trwyddo lef Mab Duw;
Gwrandawant, clywant, byddant byw.

MR. JOHN HUGHES.



Mewn grym o blaid athrawiaeth gras,
Daw'r bardd o Aberhonddu' maes;
Ei eiriau dwys, a'i fater da,—
Dwfn argyhoeddi dynion wna,

Gras cyffredinol i'r holl fyd,
Yw swm ei holl bregethau i gyd.
Wrth glywed hyn, ca'dd myrdd iachâd,
A gwaredigaeth yn y gwa'd.

MR. OWEN DAVIES.



Yn nesaf daw a llawen wedd,
Wrth wel'd fath lu yn meddu hedd;
Y llwythau 'n d'od i fynydd Duw,
Dan arwydd gwaed eu prynwr gwiw,
Gogoniant" meddant, fawr a mân;
Hyn rydd ei enaid oll ar dân.
O fawl i'r nef ei lef a gwyd,
Wrth weled llwyddiant Dyffryn Clwyd.



PENNOD V.

Eglwysi y Methodistiaid Wesleyaidd Gymreig
yn cael eu Corphori yn Dalaeth, a'r llwyddiant
Di-Gyffelyb a Ddilynodd.

(O 1803 hyd 1811)

ARWEINIR ni yn awr at yr Ail Gyfnod yn hanes Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, ac ar amryw gyfrifon yr hynotaf a'r pwysicaf. Gwneir y cyfnod hwn i fyny o wyth mlynedd, sef o Gynhadledd 1803 hyd Cynhadledd 1811. Ni fu cyfnod yn ein hanes mor lwyddianus a hwn mewn cynydd yn rhif yr aelodau, mewn planu Eglwysi, adeiladu Capelau, ac, hefyd, yn nifer y rhai a alwyd allan i waith y weinidogaeth.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1803 yn Manchester. Etholwyd y Parch. Joseph Bradford yn Llywydd, a'r Parch. Thomas Coke, LI.D., yn Ysgrifenydd. Cafodd yr achos Cymreig sylw neillduol yn y Gynhadledd hon, oblegid ynddi y Corphorwyd y Genhadaeth yn Dalaeth, a galwyd a chysylltwyd â hi hi yn "Dalaeth Gogledd Cymru," Gylchdeithiau Seisnig Trallwm a Wrexham. Rhanwyd, hefyd, faes y Genhadaeth Gymreig yn ddwy Gylchdaith, a galwyd y naill yn Rhuthyn a'r llall Caernarfon; ac at hyn. penodwyd Cenhadwr Cymreig i lafurio yn Liverpool, sef y Parch. John Bryan. Ar y Sefydliadau yr oedd ef i lawr ar Gylchdaith Seisnig Liverpool, ond gyd â'r deall ei fod yn gweinidogaethu i'r Cymry. Rhif yr aelodau y flwyddyn hon oedd 1344, yr hyn a ddangosai gynydd ar y flwyddyn flaenorol o 799. Galwyd tri o'r newydd i'r gwaith y flwyddyn hon—

1. ROBERT ROBERTS, o Fonwm, ger Corwen. Yr oedd ef yn ddyn o dalentau disglaer iawn. Penodwyd ef yn Olygydd yr Eurgrawn yn 1809. Byr fu ei ddiwrnod gwaith. Gorphenodd ei yrfa ddechreu y flwyddyn 1818, yn ei 34ain flwydd o'i oedran a'r 15fed o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM JONES, Llanelidan. Yr oedd ef yn bregethwr poblogaidd. Ond oddeutu y flwyddyn 1808 llithrodd ar lwybr ysglentog temtasiwn, a'i gwymp a fu fawr. Gwasgodd drachefn at yr achos, a bu farw yn glynu wrtho.

3. THOMAS ROBERTS, o Fonwm, ger Corwen. Yr oedd ef yn frawd i Robert Roberts. Galwyd ef allan rywbryd ar ol Cynhadledd 1803, oblegid ni cheir ei enw ar Gofnodau y Gynhadledd hon. Yn mhen ychydig amser torodd ei iechyd i lawr, a gorfu iddo ymneillduo.

Mewn cyfeiriad at y gwaith yn Nghymru, ceir y crybwylliad canlynol yn Ngyfarchiad Bugeiliol Cynhadledd 1803—

"Yn gyffelyb, meddwn yn awr Genhadaeth yn yr iaith Gymreig, yn Nhywysogaeth Cymru; yr hon, ar hyn o bryd, sydd i'w chyfrif y fwyaf llwyddianus o Genhadaethau y dydd. Cyfodwyd amryw bregethwyr, adeiladwyd llawer o Gapelau, a thueddir torfeydd i wrandaw gair y bywyd, fel ag y meddwn yn y rhan hon o'r Ynys ragolygon dymunol am eangiad gwaith yr Arglwydd. O'r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni."

Yn y Gynhadledd hon penodwyd y Parch. Owen Davies yn Gadeirydd y Dalaeth, ac felly efe oedd y Cadeirydd cyntaf mewn cysylltiad a'r achos Cymreig. Yn gysylltiol a'i bennodiad ceir y nodiad canlynol—"Brother Davies has a discretionary power to labour as and where he judges best for the advantage of the Mission, and shall have the Superintendence of the whole Mission, and authority to change the Preachers as he judges best." Dengys hyn fod y Gynhadledd wedi cyflwyno i Mr. Davies awdurdod na chafodd neb arall mo'i gyffelyb yn Nghymru na Lloegr, yr hyn a brawf mor uchel y safai yn nghyfrif ei frodyr, yn enwedig yn nghyfrif Dr. Coke.

Bellach, yr oedd Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn gweithio ar linellau newyddion, a diameu i'r sylw a gafodd gan y Gynhadledd daflu ysprydiaeth newydd i'r rhai oedd yn llafurio ar y tir. Dechreuwyd y flwyddyn hon o ddifrif i sefydlu Ysgolion Sabbothol yn mhob lle y gallesid, a gwnaed defnydd o'r wasg mewn gwahanol foddau i hyrwyddo yr achos. Adeiladwyd amryw Gapelau, a gwnaed ymdrech i gasglu symau sylweddol mewn llawer o fanau i gyfarfod â'r treulion.

Arweinia hyn ni at amgylchiad tra dyddorol, sef at gynheliad y Cyfarfod Talaethol Cymreig cyntaf erioed yn ein hanes fel Enwad. Cynhaliwyd ef yn Ninbych, Mai 24ain, 1804. Yr oedd yn bresenol y Parchn. Owen Davies, John Hughes, Edward Jones, John Maurice, John Jones, William Jones, Robert Roberts, James Gartrell, Stephen Games (y ddau olaf yn weinidogion ar Gylchdeithiau Seisnig Wrexham a Trallwm); Meistri Edward Linnell a George Lawe. Gwelir fod lleygwyr yn bresenol yn ein Cyfarfod Talaethol cyntaf erioed. Gwelir nad yw enw John Bryan ar gael yn mhlith enwau aelodau y Cyfarfod. Y rheswm am hyny yw, ei fod ef yn y gwaith Cymreig yn Liverpool, ac felly yn perthyn i Dalaeth arall. Ychydig o hanes ein Cyfarfod Talaethol cyntaf sydd ar gael, ond canfyddir yn eglur fod llawer o elfenau cysur a llawenydd yn cyd-gyfarfod ar y pryd i galonogi yr ychydig weithwyr oedd yn gwynebu ar y fath gynhauaf mawr. Cymerodd cynydd sylweddol iawn le yn rhif yr aelodau. Yr oeddynt erbyn hyn yn 1709, ac yn dangos cynydd ar y flwyddyn o'r blaen o 365.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1804 yn Llundain, y Parch. H. Moore etholwyd yn Llywydd, a Dr. Coke yn Ysgrifenydd. Daeth amgylchiadau yr achos Cymreig dan sylw y Gynhadledd hon yn naturiol, a diameu y teimlid llawenydd mawr gan lawer, yn enwedig Ysgrifenydd y Gynhadledd, o herwydd ffynniant y gwaith yn ei holl ranau. Yn y Gynhadledd hon ad-drefnwyd y Cylchdeithiau unwaith eto; neu yn hytrach rhanwyd Cylchdaith Rhuthyn yn ddwy, a'r un modd Gylchdaith Caernarfon, ac felly ffurfiwyd dwy o'r newydd, sef Dinbych â Beaumaris. Ychwanegwyd, hefyd, bedwar at rif y Gweinidogion oedd ar y tir—

1. STEPHEN GAMES, o Lanfair-muallt, yn Sir Frycheiniog. Galwyd ef i'r weinidogaeth y flwyddyn flaenorol, a bu yn teithio ar Gylchdaith Seisnig Trallwm am un flwyddyn. Ond yn 1804 cymerwyd ef i'r gwaith Cymreig, a gosodwyd ef i lafurio ar Gylchdaith Dinbych. Ymneillduodd o waith y weinidogaeth yn 1807, ond parhaodd i bregethu ac i flaenori rhestr tra caniataodd ei nerth a'i iechyd. Bu farw yn yr Arglwydd tua diwedd y flwyddyn 1814.

2. EDWARD JONES, 2il, o Gornel-rhedyn, ger Corwen. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth y Parch. John Bryan. Yr oedd yn fardd tra enwog, ac yn Emynydd rhagorol. Bu farw Ebrill 15fed, 1838, yn 63ain oed.

3. WILLIAM BATTEN, o Ddinbych. Efe oedd Cadeirydd cyntaf Talaeth Gogledd Cymru ar ol y rhaniad yn 1828. Bu yn y swydd am bum' mlynedd, a llanwodd hi yn deilwng yn mhob ystyr. Parhaodd i deithio hyd 1842, pryd yr aeth yn uwchrif. Dygodd gyd âg ef serch a pharch canoedd o'i gyfeillion i'w neillduaeth. Bu farw yn Llansantffraid, Maldwyn, Medi, 1864, yn 81ain oed, wedi bod yn ngwaith y weinidogaeth am 51ain mlynedd.

4. GRIFFITH OWEN, o Langybi, Eifionydd, Sir Caernarfon. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd. Gadawodd y gwaith yn 1816. Yr oedd yn awr ar y maes ddeg o wŷr grymus, a theithient i bob cyfeiriad, gan gyhoeddi yr efengyl gyffredinol, ac yr oedd nerthoedd yr yspryd yn cyd-fyned â'u gweinidogaeth i ba le bynag yr elent.

Yn y flwyddyn 1805, cynhaliwyd y Gynhadledd yn Sheffield, pryd yr etholwyd am yr ail waith y Parch. Thomas Coke, LI.D., yn Llywydd. Ymddengys, o bawb a berthynai i'r Cyfundeb y pryd hwnw, mai efe oedd fwyaf ei ddylanwad. Cyfododd rhif yr aelodau y flwyddyn hon i 1532, yr hyn oedd yn gynydd o 823 ar y flwyddyn flaenorol. Rhyfedd fel yr oedd Duw yn bendithio llafur ein tadau â llwyddiant, ac yn rhoddi iddynt destynau llawenydd. Llafuriasant hwy yn deilwng, ac yr ydym ninau yn myned i mewn i'w llafur hwynt. A adawn ni lafur i'n holynwyr i fyned i mewn iddo? Yfwn yn helaeth o'u hysbryd, ac yna cawn y fraint o gario yn mlaen yn llwyddianus y gwaith a gariwyd yn mlaen mor effeithiol ganddynt hwy. Ni bu gyfnewidiad yn rhif y Cylchdeithiau y flwyddyn hon; safasant yn bedair fel o'r blaen; ond er hyny cymerodd cryn gyfnewidiad le yn Sefydliadau y Gweinidogion. Pennodwyd Cenhadwr Cymreig i lafurio yn Manchester. Y flwyddyn flaenorol yr oedd yr achos Cymreig yno dan ofal y Parch. John Hughes, yr hwn oedd yn Genhadwr Cymreig yn Liverpool, ac yn nglyn a'i enw yn y Cofnodau ceir y nodiad a ganlyn "D.S. Mae y brawd Hughes i newid bob tri mis gyd âg un o'r pregethwyr yn Nghylchdeithiau Rhuthyn neu Dinbych.

2. Mae Cenhadwr Liverpool i ymweled â Manchester un Sul o bob mis." Y Cenhadwr cyntaf a bennodwyd i Manchester oedd y Parch. Hugh Carter. Y flwyddyn hon galwyd allan naw o'r newydd, a hyny fel y canlyn—

1. JOHN WILLIAMS, o Lanrwst. Bu yn Gadeirydd y Dalaeth am ddwy flynedd, sef 1820 a 1821. Efe ydoedd awdwr Yr Egwyddorydd Ysgrythyrol." Yr oedd, hefyd, yn Emynydd o fri. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny yn 1834. Daeth i feddiant o gryn swm o gyfoeth, a bu yn oruchwyliwr ffyddlon a haelfrydig arno. Bu farw a'i ymddiried yn yr Arglwydd yn Nghaerfyrddin.

2. EDWARD JONES 3ydd, o Llandysilio, Sir Ddinbych. Yr oedd ef yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau; dygai fawr sêl dros yr Athrawiaeth, a bu yn amddiffynwr pybyr a galluog iddi. Penodwyd ef yn Olygydd yr Eurgrawn o 1829 hyd 1836. Aeth yn Uwchrif yn 1848, a bu farw yn Llanidloes, Gorphenaf z zain, 1855, yn 74ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 51ain o flynyddoedd.

3. WILLIAM HUGHES, O Ddinbych. Yr oedd ef yn hynod am ei arabedd; gwreichionai beunydd yn ei ymddiddanion. Bu ei weinidogaeth yn fendith i lawer. Hunodd yn yr Iesu yn Llechryd, Sir Aberteifi, Tachwedd 12, 1861, yn y 80 flwyddyn o'i oed, a'r 57 o'i weinidogaeth.

4. HUGH CARTER, o Ddinbych. Penodwyd ef y flwyddyn hon i lafurio fel Cenhadwr Cymreig yn Manchester, ac efe oedd y cyntaf a sefydlwyd yno. Aeth i'r gwaith Seisnig yn y flwyddyn 1816. Bu farw yn Northwich, Medi 8, 1855, yn 71 mlwydd oed, wedi bod 50 o flynyddoedd yn y weinidogaeth.

5. WILLIAM DAVIES, O Groes Efa, Dyffryn Clwyd. Yr oedd ef yn ddyn galluog iawn, ac yn bregethwr dylanwadol. Yn y flwydddyn 1815, aeth yn Genhadwr i Sierra Leone, Affrica. Dychwelodd oddiyno yn 1818, a'i iechyd wedi ei anmharu, a'i feddwl i fesur wedi colli ei gydbwysedd. Bu yn Gadeirydd yr Ail Dalaeth Gymreig am bum' mlynedd yn olynol, sef o'r flwyddyn 1821 hyd 1826. Aeth yn Uwchrif yn 1841, a chyd a hen ddyddiau dychwelodd ei anhwyldeb meddyliol, fel nad oedd yn niwedd ei oes ond adfail o'i ardderchogrwydd gynt. Yr oedd yn fardd rhwydd ac yn Emynydd cymeradwy. Gadawodd y gwaith yn 1846.

6. DAVID ROGERS, o'r Garth, Llanfair, Dyffryn Clwyd. Llafuriodd yn mhlith y Cymry hyd 1814, pryd y gosodwyd ef ar Gylchdaith Seisnig, Aberhonddu, lle yr anafwyd ei deimladau yn dost gan y Saeson. Dychwelodd yn ol i'r gwaith Cymreig yn 1815. Bu yn Gadeirydd "Talaeth Rhuthyn yn 1816, ac yn Gadeirydd yr "Ail Dalaeth Gymreig yn 1817 a 1818. Bu, hefyd, yn Olygydd yr Eurgrawn am rai blynyddau mewn cysylltiad âg eraill. Yn y flwyddyn 1819 aeth drosodd i'r gwaith Seisnig, a pharhaodd ynddo hyd Ionawr, 1824, pryd yr hunodd yn yr Arglwydd yn Darlington yn 41 oed, ar ol bod yn ngwaith y weinidogaeth am 19 mlynedd. Tywysog a gŵr mawr yn Israel oedd efe. Yr oedd yn un o bregethwyr blaenaf ei oes, ac yn ysgrifenydd rhagorol.

7. GRIFFITH HUGHES, O Lanor, ger Pwllheli. Yr oedd ef yn bregethwr poblogaidd, a Dirwestwr selog. Safodd o blaid Dirwest yn nydd ei phethau bychain, ac nid oedd. yn Nghymru areithiwr mwy hyawdl o'i phlaid. Aeth yn Uwchrif o herwydd afiechyd yn 1828. Dechreuodd ar ei waith drachefn yn 1829, a pharhaodd i lafurio hyd 1846 yn nghyflawn waith y weinidogaeth. Bu farw Awst, 1864, yn Cefn mawr, yn 81 oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 59 o flynyddoedd.

8. WILLIAM EVANS, o Amlwch, Sir Fôn. Yr oedd yn Athrawiaethwr cadarn, ac yn Ysgrifenydd medrus. Bu yn Olygydd yr Eurgrawn yn 1824 a 1825, ac yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ogleddol am dymor. Daeth yn Uwchrif yn 1844. Bu farw yn Machynlleth, Gorphenaf, 1854, yn 75 oed, wedi bod yn weinidog am 49 o flynyddoedd.

9. ROBERT HUMPHREYS, o Lanelidan, Sir Ddinbych. Safai i fyny yn ddewr dros Arminiaeth, a barddonodd ac ysgrifenodd lawer i'r Eurgrawn ar y pynciau mewn dadl rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid. Bu farw yn Beaumaris o'r Cholera Morbus, Awst, 1832, yn 53 oed, ar ol bod yn ngwaith y weinidogaeth am 27 mlynedd.

Y fath ddynion cryfion oedd y gwyr hyn yn ddieithriad! a'r fath wasanaeth a gyflawnasant i'r achos yn ystod eu bywyd llafurus!! Fel y nodwyd, gwnaed cryn gyfnewidiadau yn Sefydliadau y Gweinidogion Cymreig y flwyddyn hon, am fod amgylchiadau yr achos yn galw am hyny. Dyma'r adeg y dechreuwyd y gwaith Cymreig yn rheolaidd yn Neheubarth y Dywysogaeth, a rhoddwyd y Gweinidogion i lawr ar Gylchdeithiau Seisnig, er mae i lafurio yn mhlith y Cymry y cawsant eu penodi. Yr oedd enw John Hughes i lawr ar Gylchdaith Abertawe, Griffith Owen ar Gylchdaith Caerdydd, Edward Jones 3ydd ar Gylchdaith Merthyr Tydfil, ac Edward Jones yr 2il ar Gylchdaith Trallwm. Beth fu ffrwyth llafur y Gweinidogion Cymreig y flwyddyn hon, nis gallwn gael allan, oblegid yr oedd y rhai a ddychwelwyd o dan weinidogaeth y rhai a lafuriant yn y Deheudir yn cael eu cynwys yn nghyfrifon y Cylchdeithiau Saesnig y llafuriant yn nglyn â hwynt. Ond, a chymeryd pob peth at eu gilydd, yr oedd hon yn flwyddyn nodedig o lwyddianus, ïe, yn un o flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1806 yn Leeds, pryd yr etholwyd y Parch. Adam Clarke, M.A., yn Llywydd am y tro cyntaf. Yr oedd nifer yr aelodau ar y Cylchdeithiau Cymreig yn 3703, yr hyn a ddengys gynydd o 1271 ar y flwyddyn o'r blaen. Diameu y buasai y cynydd yn llawer mwy, pe buasai y rhai a ymunasant â'r achos yn ystod y flwyddyn dan weinidogaeth y Cenhadon yn y Deheudir yn y cyfrif. Yn y flwyddyn hon galwyd allan bedwar o'r newydd i waith y weinidogaeth.

1. EDWARD EDWARDS, O Langoleu-fach. Enciliodd o'r gwaith yn 1809, ac felly cyn gorphen ei dymhor prawf. Nid oedd cwyn o gwbl yn erbyn ei gymeriad moesol, ond ni feddai gymhwyster i gyflawni gwaith y weinidogaeth yn effeithiol.

2. JOHN DAVIES, o Helygain, Sir Fflint. Yr oedd ef yn ddyn a feddai ar dduwioldeb yn ei grym, yn bregethwr grymus ac effeithiol, yn ŵr o gyngor, ac yn sefyll yn uchel yn nghyfrif ei frodyr yn y weinidogaeth a'n pobl yn gyffredinol. Bu yn Gadeirydd y Dalaeth yn 1827 ac 1828. Yn 1833 penodwyd ef yn Ysgrifenydd "Ail Dalaeth Deheudir Cymru," a pharhaodd i lenwi y swydd hyd 1843, pryd, ar ymneillduaeth y Parch. H. Hughes yn Uwchrif, y gosodwyd ef yn Gadeirydd y Dalaeth hono, yr hon swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth yn Merthyr, Rhagfyr 21, 1845. Pregethodd bore y Sabboth hwnw yn Merthyr, a chymerwyd ef i ogoniant pan ar y ffordd i'w gyhoeddiad erbyn yr hwyr, a hyny gan ddywedyd yn hyderus, "Tyred, Arglwydd Iesu." Bu farw yn 61 oed, ar ol gweinidog- aethu am 39 o flynyddoedd.

3. EVAN PARRY, o Helygain, Sir Fflint. Aeth drosodd i'r gwaith Seisnig yn 1817. Gadawodd y fuchedd hon Rhagfyr, 1850, yn 69 oed, ar ol bod yn weinidog defnyddiol am 44 o flynyddoedd.

4. MORRIS JONES, o Langollen. Gadawodd y weindogaeth yn 1818, gan wneyd cais i godi plaid, yr hyn a wnaeth fawr niwed a cholled i'r achos ar y pryd. Cyn diwedd ei oes dychwelodd yn ol i'w hen gorlan yn edifeiriol am y drwg a wnaeth. Ond er galw pedwar allan at yr un a'r hugain oedd yn y gwaith y flwyddyn o'r blaen, eto nid oedd rhif y Gweinidogion ond pedwar a'r hugain y flwyddyn hon, oblegid dychwelodd y Parch. John Hughes, Aberhonddu, i'r gwaith Seisnig, o herwydd rhesymau neillduol a digonol yn ei gyfrif ef. Yn nghynhadledd y flwyddyn hon ffurfiwyd pedair o Gylchdeithiau newyddion, sef, Llangollen, Pwllheli, Dolgellau a Machynlleth. Yr oedd hyn yn benaf yn effaith ad-drefniad, fel y ceid gwell mantais i gario y gwaith yn mlaen yn fwy effeithiol.

Yn y flwyddyn 1807, cynhaliwyd y Gynhadledd yn Liverpool-y Parch. J. Barber yn Llywydd. Yr oedd gan Gynrychiolwyr Talaeth Gogledd Cymru adroddiad ffafriol i'w roddi eto y flwyddyn hon am lwyddiant ar y gwaith, er na bu y cynydd mor fawr a'r flwyddyn flaenorol. Rhifai yr aelodau yn awr 4128, cynydd o 425. Ffurfiwyd dwy Gylchdaith newydd, sef Llanidloes ac Aberystwyth. Galwyd wyth o'r newydd i waith y weinidogaeth. Ond nid oedd yr ychwanegiad yn rhif y Gweinidogion ond saith, a hyny am i Mr. Stephen Games ymneillduo o'r gwaith. Galwyd allan yn

1. DAVID JONES, o Beddgelert. Meddai ar ddawn swynol; deallai, a medrai ganu yn soniarus iawn, a dylifai y bobl yn dyrfaoedd i wrandaw arno. Aeth yn Uwchrif yn 1820, ond ymaflodd yn ei waith drachefn yn 1824. Bu farw yn Liverpool, Ionawr 4ydd, 1830, yn y 50ain mlwydd o'i oed, a'r 23 flwydd o'i weinidogaeth.

2. JOHN ROGERS, o Rhiwabon, ger Wrexham, Sir Ddinbych. Aeth i'r gwaith Seisnig yn 1816, ac yn Uwchrif yn 1841. Bu farw yn Barnstaple, Swydd Devon, Ebrill, 1849, yn 69 mlwydd oed, ac yn yr 42 o'i weinid- ogaeth.

3. EVAN HUGHES, o Langynog, Sir Drefaldwyn. Yr oedd ei weinidogaeth yn llawn dyddanwch i'r Saint, ac wedi ei melysu â mêl yr addewidion. Yr oedd yn Armin Bu farw yn goleuedig ac yn Drefnydd Cydwybodol. Nhreforris, Medi, 1861, yn ei 76 flwydd o'i oed, a'r 54 o'i weinidogaeth.

4. HUGH HUGHES, O Lanor, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Griffith Hughes a alwyd allan y flwyddyn o'r blaen, ac yn daid i'r Parch. Hugh Price Hughes, M.A., Llywydd y Gynadledd 1898. Yr oedd ef yn un o ragorolion y ddaear. Nodweddid ef gan dduwioldeb ddofn ac ymroddiad di-ildio. Gwnaeth wasanaeth ardderchog i'r Achos. Bu yn Gadeirydd "Ail Dalaeth Deheudir Cymru," o'r flwyddyn 1829 hyd 1843. Ni fu Gadeirydd erioed yn ddyfnach yn serch nag ymddiried ei frodyr nag efe. Yr oedd hefyd yn llenor gwych. Bu farw mewn gorfoledd mawr yn Nghaerfyrddin, Rhagfyr, 1855 yn ei 77 flwydd o'i oed, ac yn ei 48 flwydd o'i weinidogaeth.

5. SAMUEL DAVIES, O Cilcain, Sir Fflint. Yr oedd efe yn Dduwinydd o radd uchel, ac yn awdwr cynyrchiol a galluog. Ni chafodd Arminiaeth erioed well amddiffynwr, a chyflawnai ei weinidogaeth yn fanwl a thrwyadl yn ei holl gylchoedd. Llafuriodd yn galed a bendithiodd Duw ei waith â llwyddiant mawr. Bu farw yn Ninbych, Mai, 1854, yn 65 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 47 mlynedd.

6. EVAN EDWARDS, o Langadwaladr, Sir Fôn. Bu arddeliad mawr ar ei weinidogaeth yn mhlith gweithwyr y Deheudir ar un adeg yn ei hanes. Bu farw yn Pwllheli, Ionawr, 1860, yn 75 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 53 o flynyddoedd.

7. ROBERT JONES o Lanerchymedd, Sir Fôn. Gadawodd y weinidogaeth yn 1825.

8. THOMAS ROBERTS, O Fangor. yn Arfon. Cafodd nychdod trwy gysgu mewn gwely damp. Bu farw yn Meifod, Hydref, 1808. Efe oedd y Gweinidog Wesleyaidd Cymreig cyntaf a fu farw. Gosodwyd maen ar ei fedd yn ddiweddar er coffa am dano.

Yn y Gynhadledd a gynhaliwyd yn Bristol, yn 1808—y Parch. James Wood, yn Llywydd; gwnaed gryn gyfnewidiadau yn nhrefniadau y Cylchdeithiau. Cymerwyd Trallwm a Wrexham oddiwrth "Dalaeth Gogledd Cymru," ac unwyd hwy gyd â Chylchdeithiau Seisnig eraill i ffurfio talaeth newydd dan yr enw "Talaeth Amwythig," ac yna unwyd yr holl Gylchdeithiau Cymreig yn y Dywysogaeth i ffurfio "Talaeth Gogledd Cymru," oddieithr Cylchdeithiau Crughywel a Chaerphili yn y Deheubarth, y rhai a gynwysid yn Nhalaeth Seisnig Deheudir Cymru. Yn y Gynhadledd hon ffurfiwyd pedair o Gylchdeithau Cymreig newyddion, sef Crughywel, Caerphili, Llandeilo, a Llanbedr-pont-Stephen. Yr oedd rhif yr aelodau y flwyddyn hon yn 5218, cynydd o 1090. Galwyd allan i waith y weinidogaeth-

1. EDWARD ANWYL, o Lanegryn, Sir Feirionydd. Un o ddynion mawr, ïe, un o ddynion mwyaf ein Henwad oedd efe. Ni fu yn perthyn i unrhyw eglwys mewn unrhyw wlad gymeriad mwy ardderchog. Bu yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru am 16 o flynyddoedd, sef o 1838 hyd 1855. Bu farw yn Treffynnon 1857, yn 70 mlwydd oed, ac yn y flwyddyn 49 o'i weinidogaeth.

2. EDWARD JONES, y 4ydd, o Lanasa. Aeth i'r gwaith Seisnig yn 1819. Bu farw yn Brixham 1821, yn 40 mlwydd oed, wedi llafurio yn y weinidogaeth am 13 o flynyddoedd.

3. DAVID JONES, yr 2il, o Eglwysfach, Sir Aberteifi. Meddai ar ddawn hynod o boblogaidd, a bu yn foddion i ddychwelyd llawer o eneidiau at y Gwaredwr. Bu farw yn Croesoswallt, Awst, 1862, yn 77 mlwydd oed, ac yn ei 54 mlwydd o'i weinidogaeth.

4. JAMES JAMES, o Langwyryfon, Sir Aberteifi Enciliodd o'r gwaith yn 1812.

5. LOT HUGHES, o Abergele, Sir Ddinbych. Yr oedd ef yn Drefnydd gofalus, yn Groniclydd manwl, ac yn Weinidog llwyddianus iawn. Bu farw yn Caerlleon, Gorphenaf, 1873, yn 87 oed, ac ar ol bod yn y weinidog- aeth am 65 o flynyddoedd.

6. THOMAS THOMAS, o Ddolgellau. Bu farw yn Abermaw, Ebrill, 1846, yn 62 mlwydd oed, ac yn ei 38 flwydd o'i weinidogaeth.

7. OWEN JONES, o Llechfraith, Sir Feirionydd. Bu farw yn yr Abermaw, 1843, yn 65 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 35 o flynyddoedd.

8. JOHN WILLIAMS, o Sarn Wilkin. Enciliodd yn 1814.

9. OWEN REES, O Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Aeth yn Genhadwr i Gibralter yn 1819. Dychwelodd i Loegr yn 1821, a llafuriodd o hyny allan, tra y gallodd, yn y gwaith Seisnig. Bu farw yn Nghaerfyrddin, Awst, 1832, yn 44ain mlwydd oed, a'r 24ain o'i weinidogaeth.

10. WILLIAM JONES, O Beaumaris, Sir Fôn. Rhoddodd i fyny y weinidogaeth yn 1816, ac ymsefydlodd yn Nghaer. Parhaodd yn bregethwr cynorthwyol hyd ddiwedd ei oes, ac y mae ei goffawdwriaeth yn perarogli hyd y dydd heddyw. Yr oedd yn gymeriad rhagorol.

Yn y Gynhadledd hon penodwyd Cenhadwr gyntaf i Lundain, sef y Parch. E. Jones y 3ydd, ac, felly, y pryd hwn y dechreuodd yr achos Cymreig yn rheolaidd yn y Brif-ddinas. Yn nechreu y flwyddyn 1809 y cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r Eurgrawn, yr hwn, erbyn heddyw, ydyw y cyhoeddiad hynaf yn y Dywysogaeth.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1809 yn Manchester, o dan lywyddiaeth y Parch. T. Taylor. Gwnaed cyfnewidiadau. eto yn nhrefniadau y Cylchdeithiau, trwy grynhoi yr holl waith Cymreig yn y Dywysogaeth i un Dalaeth. Rhanwyd amryw Gylchdeithiau, a ffurfiwyd pedair o'r newydd, sef, Castellnedd, Caerfyrddin, Caergybi, a Llanfyllin. Collir enw Llangollen o'r Sefydliadau y flwyddyn hon, ond ceir enw Llanrwst yn ei lle. Galwyd chwech allan o'r newydd. i waith y weinidogaeth y flwyddyn hon, sef-

1. JOHN JONES, o Amlwch, Sir Fôn. Bu farw yn Nghaerlleon, Medi, 1855, yn 74 mlwydd oed, ac yn ei 46 o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM DAVIES, O Lanfyllin, Sir Drefaldwyn. Aeth i'r gwaith Seisnig yn 1818. Bu farw yn Bailia, ger Aberhonddu, yn Hydref, 1868, yn 83 mlwydd oed, a'r 59 o'i weinidogaeth.

3. ROBERT JONES, yr 2il, o Lanfyllin. Bu farw yn sydyn ac annisgwyliadwy yn Amlwch, Gorphenaf, 1826, yn ddeugain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth 17 mlynedd.

4. HUMPHREY JONES, O Farchlyn, Pennal, Sir Feirionydd. Yr oedd yn ddyn crefyddol iawn, ac yn llawn sêl tros lwyddiant teyrnas y Gwaredwr. Daeth yn uwchrif yn 1838, a bu farw yn Hydref, y flwyddyn hono, yn Llanfyllin, yn 56 mlwydd oed, a'r 29 o'i weinidogaeth.

5. JOHN WILLIAMS, y 3ydd (ond yr 2il ar ol i John Williams, Sarn Wilkin, encilio), o Llanfair-y-borth, Sir Fôn. Yr oedd yn ddyn o alluoedd anghyffredin. Bu yn golygu "Yr Eurgrawn" am dair blynedd, sef 1826-1828. Ceir ysgrifau ganddo yn fisol yn "Yr Eurgrawn" o Ionawr, 1828, hyd i Gorphenaf, 1830, ar "Hanes Wesleyaeth yn Nghymru." Wrth yr ysgrif olaf a ymddanghosodd ceir "I barhau." Ond paham na pharhaodd, nis gwyddom. Dewiswyd ef yn ysgrifenydd "Ail Dalaeth Deheudir Cymru yn 1831 a 1832. Dan ei weinidogaeth ef, pan yn pregethu yn Nantyglo ar y geiriau "Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," yr argyhoeddwyd y Parch. T. Aubrey. Bu farw mewn llawenydd a "thangnefedd heddychol" yn Nghaerfyrddin, Ionawr, 1834, yn 46 mlwydd oed, ac yn ei 25 flwydd o'i weinidogaeth. Ychydig cyn marw bloeddiodd Y Beibl a rhâd ras a'i piai hi. "I shall soon be rolled in glory."

6. OWEN THOMAS, O Landdeiniolen, Sir Gaernarfon. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny yn 1823, a chartrefodd yn Nghaergybi. Gwasanaethodd yr achos yn ffyddlon of hyny hyd i ddiwedd ei oes fel Pregethwr Cynorthwyol derbyniol iawn, ac fel Swyddog Eglwysig mewn gwahanol gylchoedd.

Yn Llundain y cynhaliwyd Cynhadledd 1810, dan lywyddiaeth yr esboniwr adnabyddus (y Parch. Joseph Benson). Gwnaed cyfnewidiadau eto yn y Cylchdeithiau Cymreig, trwy eu had-drefnu. Ffurfiwyd pedair cylchdaith newydd, sef, Merthyr, Aberhonddu, Aberteifi a Pwllheli. Ond nid oedd ond tair yn ychwanegol at eu rhif, oblegid collir enw Crughywel, a thybiwn mai y gylchdaith hono wedi ei rhanu yn ddwy oeddynt Merthyr ac Aberhonddu. Galwyd allan y flwyddyn hon i waith y weinidogaeth y brodyr canlynol:—

1. DAVID WILLIAMS, o Lanfair-y-borth, Sir Fôn. Yr oedd efe yn frawd i John Williams, a alwyd allan y flwyddyn cynt. Aeth yn uwchrif yn y flwyddyn 1822, ond ail-ymaflodd yn ei waith yn 1823. Safai wrtho ei hun yn mhlith ei frodyr yn y weinidogaeth. Perthynai iddo lawer o hynodion. Yr oedd yn feddyliwr gwreiddiol a chynyrchiol, ac fel rheol nodweddid ei bregethau a'i ysgrifau gan gryfder a newydd-deb. Ni bu yn y weinidogaeth erioed berson o ymddangosiad mwy urddasol, a chafodd lawer o odfaon eithriadol o rymus—mwy, efallai, na neb o'i gyd-oeswyr. O barch i'w alluoedd yn ogystal ag o serch tuag ato, gelwid ef yn "Frenin," weithiau, "Yr Hen Frenin," a phryd arall, "Y Brenin Dafydd." Bu farw yn Liverpoo!, Mehefin, 1862, yn 77 mlwydd oed, ac yn ei 52 flwydd o'i weinidogaeth.

2. PETER PEARCE, o Liverpool. Trodd allan yn siomedig, gan beri peth gofid i'w Arolygwr—y Parch. Hugh Hughes. Enciliodd yn ystod y flwyddyn.

3. LEWIS JONES, O Lanegryn, Sir Feirionydd. Hunodd yn ddedwydd yn yr Arglwydd Tachwedd 15, 1830, yn ei 46 flwydd o'i oed, a'r 20fed o'i weinidogaeth.

4. DAVID EVANS, o Dalysarn, Sir Aberteifi. Yr oedd yn bregethwr tyner ac effeithiol iawn. Bu yn ysgrifenydd. "Talaeth Gogledd Cymru" yn 1832, ac yn 1833 penodwyd ef yn gadeirydd y Dalaeth, yr hon swydd a lanwodd am bum' mlynedd yn olynol. Hunodd yn yr Arglwydd yn Manchester, Mai 11, 1854, yn 64 mlwydd oed, a'r 44 mlwydd o'i weinidogaeth.

5. STEPHEN PARRY, o Lanilar, Sir Aberteifi. Enciliodd yn 1813, ac felly cyn gorphen ei dymhor prawf.

Yn Nghynadledd y flwyddyn hon newidiwyd enw y Dalaeth Gymreig, a galwyd hi Y Dalaeth Genhadol Gymreig," ac nid "Talaeth Gogledd Cymru" fel o'r blaen. Parhaodd dan yr enw hwn hyd 1815. Yr oedd rhif yr aelodau yn Mawrth y flwyddyn hon yn 5649. Elai yr achos mawr ar gynydd o flwyddyn i flwyddyn, a chyfodai Duw beunydd ddynion anghyffredin fel gweinidogion, pregethwyr cynorthwyol, a blaenoriaid i gario yr achos yn mlaen.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1811 yn Sheffield, dan lywyddiaeth y Parch. C. Atmore. Ni ddigwyddodd rhyw lawer o bethau neillduol y flwyddyn hon. Aeth pobpeth yn mlaen ar y llinellau osodwyd i lawr y flwyddyn flaenorol, a hyny yn dra llwyddianus. Ni wnaed unrhyw gyfnewidiadau yn nhrefniadau y cylchdeithiau. Yr oedd rhif yr aelodau yn Mawrth, 1811, yn 5700, sef cynydd o 51. Galwyd dau o'r newydd i waith y weinidogaeth, --

1. ROBERT OWEN, O Lysfaen, ger Abergele, Sir Ddinbych. Yr oedd yn ddyn o ymddangosiad hynod o foneddigaidd. Hoffid ef yn fawr gan ein pobl ar gyfrif ei gyfeillgarwch, a'i garedigrwydd tuag at y plant. Bu yn weinidog defnyddiol. Hunodd yn yr Iesu yn Aberaeron, Awst 3, 1875, yn 94 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 64 o flynyddoedd. Efe o'r gweinidogion Cymreig hyd yn hyn a gyrhaeddodd yr oedran mwyaf.

2. MORGAN GRIFFITHS, o Ddolgellau, Sir Feirionydd. Yr oedd ef yn weinidog ymroddol i'w waith, a bu yn llwyddianus yn ei weinidogaeth. Bu farw yn Aberaeron, Awst 6, 1868, yn 80 mlwydd oed, a'r 57 o'i weinidogaeth.

Dyma ni yn awr wedi cyrhaedd at derfyn yr un mlynedd a'r ddeg cyntaf yn hanes Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig. Ac wrth adrodd yr hanes, ni chyfeiriasom ddim at yr anhawsterau y bu y tadau yn ymgystadlu â hwynt, nac at yr ymosodiadau erlidgar a wnaed arnynt, ac yn enwedig ar yr athrawiaeth a bregethent. Cawsant brofiad chwerw o'r holl bethau hyn, fel y cawn ddangos yn y bennod nesaf.

Gyd âg eithriad o un flwyddyn, bu yr un mlynedd a'r ddeg cyntaf o hanes Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn dymor o gynydd a llwyddiant ar ei hyd. Yn Awst, 1800, nid oedd lawn 50 o aelodau yn perthyn i'r Enwad Cymreig, ond yn Awst, 1811, yr oedd eu rhif yn 5700. Mewn cyfeiriad at lwyddiant Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y cyfnod hwn, dywed un o brif haneswyr Cymru Nid oes, efallai, yn hanes crefydd yn unrhyw wlad o leiaf nid oes yn hanes crefydd yn Nghymru, un engraifft o'r fath lwyddiant cyflym yn dilyn llafur dynion heb ddim neillduol yn eu talentau na'u safleoedd, a'r un a ddilynodd lafur Sylfaenwyr Methodistiaeth Wesleyaidd yn y Dywysogaeth. Dechreuwyd y gwaith yn 1800, ond cyn diwedd y flwyddyn 1810 yr oedd y pregethwyr teithiol yn rhifo 40, y Cymdeithasau a ffurfiwyd ganddynt yn 410, yr aelodau rhwng pump a chwe mil, ac yn ystod naw mlynedd o amser, adeiladwyd dim llai na 80 o Gapelau." Nid ydym yn gallu cyd-weled â Dr. Thomas Rees, pan yn dywedyd, nad oedd dim neillduol yn nhalentau ein tadau. Cydnabyddwn nad oeddynt yn ddynion diwylliedig, yn yr ystyr o fod wedi derbyn addysg uwchraddol; ac mai dynion cyffredin oeddynt o ran eu hamgylchiadau a'u safleoedd. Ond dywedwn yn ddibetrus fod llawer o honynt yn ddynion o athrylith, ïe, yn ddynion anghyffredin o ran eu talentau. Yr oeddynt y rhai tebycaf y gwyddom ni am danynt i'r Apostolion.

PENNOD VI.

Erlidigaethau a Dadleuon Athrawiaethol y Cyfnod
Cyntaf yn Hanes Methodistiaeth Wesleyaidd
Gymreig.

YN hytrach na chymysgu hanes yr Erlidigaethau a'r Dadleuon Athrawiaethol gyd â hanes y llwyddiant digyffelyb a nodweddai flynyddoedd cyntaf Wesleyaeth Gymreig, barnasom mai gwell fuasai rhoddi sylw iddynt wrthynt eu hunain. Bydd yn fwy darllenadwy a dyddorol felly, heblaw yn fwy hwylus i'r darllenydd.

Ymddengys na chyfodwyd fawr o erlidigaeth ar ein Cenadon yn eu hymweliadau cyntaf â gwahanol ranau y Dywysogaeth. Yn wir, am y flwyddyn gyntaf, cawsant lawer o garedigrwydd gan y gwahanol Enwadau, ac mewn llawer o engreifftiau cawsant fenthyg eu Capelau i gynal odfaon. Ond pan ddeallwyd eu cenhawdwri, trwy eu gwaith yn pregethu cyffredinolrwydd yr Iawn, amodolrwydd trefn iachawdwriaeth, crefydd brofiadol, a pherffeithrwydd Cristionogol, daethant i wrthdarawiad a'r syniadau Calfinaidd oedd yn y wlad, dechreuwyd edrych arnynt gyd â chryn lawer o amheuaeth, a dywedai rhai yn ddifloesgni eu bod yn hereticiaid, ac yna cyfodwyd cri o wrthwynebiad iddynt yn y pwlpudau a thrwy y wasg. nyni a gawn fod y Parch. Thomas Rees, D.D., yn myned. mor bell a phriodoli i fêsur helaeth y llwyddiant a fu ar lafur y tadau i'r gwrthwynebiad a'r erlidigaeth a gyfarfuasant oddiwrth Grefyddwyr Cymru. Diameu i hyny eu gwneyd yn hysbys ac adnabyddus yn y Dywysogaeth, ond a oedd hyn yn factor yn eu llwyddiant sydd dra amheus. Llwyddwyd hwy o herwydd eu ffyddlondeb i alwad Duw yn ngyflawniad eu gwaith.

I. ERLIDIGAETHAU.

Nodwn ychydig engreifftiau o'r Erlidigaethau yr aeth ein tadau yn yr Efengyl trwyddynt. Rhoddwn yn gyntaf oll adroddiad o'r Erlidigaeth a gymerodd le yn Abergele yn y flwyddyn 1802, pan yr ataliwyd y Parch. Edward Jones, Bathafarn, i bregethu yno. Fel hyn yr adroddir yr hanes gan Mr. Jones ei hun:—"Pan ddaethum i Abergele, yr oedd yno ganoedd (o 3000 i 4000, meddai Mr. Lot Hughes), o bobl wedi ymgynull. Wedi i mi ddisgyn oddiar fy anifail daeth y swyddogion ataf i ofyn i mi fy awdurdod i bregethu: mi a estynais iddynt fy mraint-lythyr. Yn fuan wedi hyn danfonasant ef yn ol gyd â'r swyddog, ac ar yr un pryd fe'm cymerwyd o flaen yr Ynadon. Wrth i mi fyned trwy y dref, yr oedd y bobl yn holi i ba le yr oeddwn yn myned. Atebais inau mai i'r carchar, am a wyddwn. Pan ymddangosais ger eu bronau, gofynasant i mi pa awdurdod oedd genyf i bregethu. Atebais fod fy mraint-lythyr yn rhoi i mi awdurdod. 'Ond,' meddent, pa awdurdod sydd genych i bregethu yn y tŷ neu yn y buarth?' Dywedais nad oedd genyf un awdurdod, yn gymaint nad oedd y lle wedi ei recordio. 'Pa fodd yr ydych yn cymeryd y fath hyfdra,' ebai yr Ynad, 'a phregethu mor agos i dŷ yr offeiriad?' Atebais nad oeddwn yn adnabyddus ei fod yn byw mor agos. wyf yn penderfynu,' ebai yr Ynad, i wrthwynebu pawb sydd yn gwrthwynebu yr Eglwys.' Yr wyf yn gofyn eich nawdd, Syr, ac yn dymuno i chwi ddeall nad wyf fi yn gwrthwynebu yr Eglwys: nid oedd neb yn fwy o blaid yr Eglwys na Mr. Wesley. Dywedais yn mhellach nad y person yw yr Eglwys, na'i phen chwaith. Eglwys yw cynulleidfa o bobl yn proffesu—yn cynal i fyny ei grym hi. Ai dyna yw yr Eglwys!' ebai y person. Dywedais fy mod i wedi darllen yn un o Epistolau Paul fod Eglwys yn nhŷ un o'r cyfeillion. Gofynodd y person i mi a ddarllenaswn y llyfr a'r llyfr, atebais na ddarfum; ond, os rhoddwch ei fenthyg, mi a'i darllenaf. Wrth iddynt fy ngweled mor hyf dros yr achos da, yr oeddynt yn bur waedwyllt a ffyrnig, ac yn penderfynu na chawn bregethu i'r bobl. Am hyny gofynais i'r boneddigion a gawn i fyned i fynegu i'r bobl nad oedd caniatad i mi fyned i bregethu iddynt. Hwy a atebasant, Cewch; ond na ddywedwch fod Griffith o'r Garn yn eich rhwystro.' Dywedais y byddai raid iddynt yn y dydd mawr ag sydd ar ddyfod roddi cyfrif manwl am fy atal i bregethu i'r bobl. Yr oedd y bobl yn daer iawn arnaf i bregethu, ac yn barod i dalu pob traul; ond bernais mai doethach oedd peidio y tro hwn. Bu y tro hwn yn dra llesol i'r achos da yn Abergele; canys cyrhyrfodd hyn y bobl i ymofyn am le cyfleus i addoli Duw."

Yr engraifft nesaf y cyfeiriwn ati a gymerodd le yr un flwyddyn yn Nghonwy, ac fel hyn yr edrydd Mr. Jones, Bathafarn, yr hanes: "Wedi i ni (sef Mr. Bryan a minau) gyrhaedd Conwy, . . . . nyni a ganfuasom yn fuan nad oedd fawr o arwyddion gwir grefydd o'i mewn, eithr yr oedd pobpeth yn arwyddo fod y trigolion yn hil wargaled ac anufudd. Wedi i ni benderfynu y byddai i ni bregethu mewn buarth o'r neilldu, nyni a aethom o dŷ i dŷ i erfyn ar y bobl i ddyfod i'n gwrandaw. Yr atebiad a gawsom gan lawer oedd, nad oeddent hwy yn dymuno ein gwrandaw. Yn wir, yr oeddem ni yn barnu hyny ein hunain oblegid yr oeddynt yn ymddangos mor neillduol o ddidaro yn nghylch yr achos mwyaf; ond ni ddarfu i hyn ein digaloni; eithr wedi i ni gael benthyg bwrdd i sefyll arno, myfi a ddechreuais yr addoliad trwy ganu a gweddio; yna dechreuodd Mr. Bryan bregethu. Yn mhen oddeutu deg mynud ar ol i Mr. Bryan ddechreu pregethu daeth dau swyddog yn mlaen (wedi eu hanfon gan yr offeiriad fel y deallasom wedi hyny) gan ddymuno arno i roi i fyny, yn gymaint nad oedd y lle hwnw yn addas i bregethu ynddo, am nad oedd wedi ei recordio. Ymdrechais i'w gynghori i ufuddhau, oherwydd nad oedd. genym awdurdod y gyfraith. Ond nyni a hyspysasom ein gwrandawyr y byddai i ni holi am le cyfleus, ac yr aem yn ddioed i gwrt Bangor i'w recordio. Yngymaint ag i ni gael ein rhwystro yr ail waith, penderfynasom i gymeryd lle o dan ardreth; a chyn i ni fyned o'r dref yr ail dro buom yn llwyddianus i gael hen ysgubor gan wraig weddw am bedair punt yn y flwyddyn. Wedi hyn nyni a aethom gyd â'r brys mwyaf i Fangor i'w recordio, ac wedi i ni gael pobpeth yn ddiogel mi a anfonais i Gonwy y byddai i mi bregethu am ddau o'r gloch y Sabboth canlynol yn yr hen ysgubor. Erbyn i mi gyrhaedd yno o Beaumaris yr oedd y bobl wedi ymgynull yn dyrfa fawr iawn, o bell ac agos, i wrandaw y gŵr a rwystrwyd gan yr Ynad. Yn fuan wedi i mi ddechreu pregethu daeth dau swyddog yn mlaen drachefn, gan ddymuno arnaf ddangos fy awdurdod i bregethu yn y lle hwnw. Erfyniais arnynt ymdawelu nes i mi ddarfod pregethu i'r bobl, yna y boddlonwn hwynt- hwy a'r offeiriad; ond nid oedd dim llonyddwch i'w gael nes i mi ddangos fy awdurdod. Yr oedd fy ngwrandawyr wedi cael cryn fraw, ac yr oedd llawer o honynt yn wylo wrth weled fy mod yn cael fy erlid fel hyn gan y person. Cynghorais hwynt i beidio ag wylo; a dywedais, os byddai raid i mi fyned i'r carchar, y deuai Duw Paul a Silas yno gyd â mi. Cefais lawer iawn o hwyl nefolaidd tra yn erfyn. arnynt i gymodi â Duw."

Ar ei ymweliad âg Ynys Môn daeth Mr. Jones i Langefni, ac yno, hefyd, cyfodwyd erlidigaeth yn ei erbyn, ac fel hyn y tystiolaetha—"Cefais gryn wrthwynebiad yn Llangefni. Wedi i mi gael benthyg llofft fawr berthynol i'r lluesty (Inn) benaf yn y lle y pryd hwnw, gorfu i mi droi allan (o herwydd maint y gynulleidfa mae yn debyg), a sefyll ar y gareg-farch wrth y tŷ. Cefais rwyddineb mawr i lefaru; ond tra yr oeddwn yn gofyn bendith Duw ar y gair a'r bobl, cyn ymadael, wele rhuthrodd gŵr bonheddig trwy y dorf, a chymerodd afael ynof, a thynodd fi i lawr, a dywedodd wrthyf y gwnai efe i mi dalu ugain punt, neu y cawn fyned i'r carchar. Llusgwyd fi i'r dafarn, a sicrhawyd y drws; ac wedi fy nghael i ystafell fechan o'r neilldu, gorchymynodd i mi roddi fy enw iddo, ac os na wnawn hyny yr oedd yn rhaid i mi fyned i'r carchar. dywedodd, os gwnawn addaw na ddeuwn mwy i Sir Fòn, y cawn i fyned yn rhydd y tro hwn! Dywedais na allwn wneuthur hyny yn gydwybodol, am fod y gorchymyn i mi fyned i'r holl fyd, a phregethu yr Efengyl i bob creadur; ond y gwnawn addaw na ddeuwn mwyach i'r Sir hono os gwnai yntau addaw rhwymo y Diafol, fel na themtiai drigolion y Sir mwy, ac os gwnai addaw na wnai pobl Môn bechu mwyach. Edrychodd yn syn arnaf, a dywedodd mai dyn da oeddwn. Cymerodd fi o flaen hen berson, Mr. Humphreys oedd ei enw, os da yr wyf yn cofio. Yr oedd ef yn yfed grog yn nhŷ un Mr. Lloyd. Wedi fy nwyn fel hyn o flaen y person, efe a ofynodd i mi gyd â llawer o rwysg, pa fodd yr oeddwn yn meiddio pregethu allan! beth pe buasai i mi a'm teulu fyned heibio mewn cerbyd, ac i'r ceffylau gymeryd braw?' Gyd â'ch cenad, Syr, ebai finau, ni ddygwyddodd hyny. Yna neidiodd Mr. Lloyd i fyny, gan gymeryd fy mhlaid yn wresog; efe a daflodd lyfrau y gyfraith ar y bwrdd, a dymunodd arnynt ddangos iddo ef lle yr oedd y gyfraith yn fy ngwrthwynebu. Ar hyn darfu i Mr. Evans, Trefeilir, y gŵr bonheddig a'm tynodd i lawr, fy nghymeryd yn ol i'r lluesty, ac wedi i ni fyned yno gofynais am ei enw. 'Gwir,' ebai ef, y mae genych chwi yr un hawl i ofyn i mi am fy enw âg oedd genyf finau i ofyn am eich enw chwithau.' 'Addawaf o flaen tystion,' ebai ef, am i chwi ymddwyn fel gŵr bonheddig, os gwelaf chwi yn pregethu allan eto, y bydd i mi fyned heibio fel gŵr bonheddig, heb eich atal. Diolchais iddo; ond dywedais y byddai yn rhaid iddo roi cyfrif i Dduw am ei ymddygiad. Dygwyddodd hyn ar nos Fawrth ddydd Sadwrn o'r blaen yr oedd ef wedi claddu ei dad a'i frawd, a chymerwyd yntau yn glaf yn bur fuan wedi hyn; ac yn ystod ei afiechyd yr oedd yn addef wrth y wraig oedd yn ei wylio fod yn ddrwg ganddo iddo ymddwyn yn y fath fodd tuag ataf."

Yn Nghemmes, gerllaw Amlwch, crybwylla Mr. Bryan iddo ef a Mr. John Maurice gael eu trin yn lled angharedig:—"Ond," meddai Mr. Bryan, "nyni a gyfarfuasom a thriniaeth bur wahanol (i'r un a gawsant yn Amlwch), y dydd canlynol, wrth i ni fyned i bentref lled helaeth gerllaw Awlwch, a elwid Cemmes, man llawn o Galfiniaid; ac nis gallwn gael yno fwyd, diod, na stabl i roi ein ceffylau! Mi a brynais dorth o fara, ac a'i cariais hi o dan fy mraich trwy yr heol, er porthi y ceffylau, y rhai oeddem wedi eu troi i gwrt o'r neilldu; a'n ciniaw ninau oedd wy a theisen o flawd haidd a cheirch. Ymddengys eu bod wedi penderfynu ein cadw allan o'r lle. Ond fe bregethodd y brawd Maurice i gynulleidfa led helaeth. Cawsom hanes tŷ yn y gymydogaeth i'n derbyn y tro nesaf. A ydyw yn alluedig fod y bobl yma yn meddu cariad Duw yn eu calonau? Na fydded i'r Hollalluog roi y pechod hwn yn eu herbyn."

Gyd â bod Mr. Bryan wedi dechreu ar waith ei weinidogaethaeth aeth i Lanrhaiadr-yn-Mochnant a'r gyffiniau, Siroedd Maldwyn a Dinbych, i bregethu, ac fel hyn yr adrodda yr hanes:—"Yr oedd y person yno yn llidiog iawn yn erbyn pob Sect. Yr oedd yn ddyn cadarn, nerthol yn ymladdwr mawr hefyd, ac yn feistr ar bawb yn y plwyf ond un dyn ieuanc o Lanfyllin, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw yn Llanrhaiadr. Ar ol cyrhaedd y lle aethum o ddrws i ddrws trwy y pentref i wahodd y bobl i ddyfod i wrandaw arnaf, ond ni roddai neb genad i mi sefyll wrth ei ddrws rhag ofn y person. Y mae yn y pentref afon yn rhedeg drwyddo, yr hon sydd yn gwahanu rhwng Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn. Yr oedd y person sylwer yn Ustus Heddwch yn y Sir flaenaf, ond nid oedd felly yn yr olaf. Gan na wnai neb adael i mi sefyll i fyny wrth ei ddrws yn y pentref, myfi a aethum dros y bont i Sir Drefaldwyn; a daeth y bobl yno hefyd ar fy ol i. Ond gyda i ni ganu pennill, daeth y person yn mlaen a safodd ar ganol y bont, ac a waeddodd, Syr, deuwch i lawr oddi yna.' Atebais inau, Ni waeth i mi ddyfod i lawr na pheidio, gan nad oes yma neb i'm gwrandaw,' canys yr oedd y bobl wedi ffoi fel am ei bywyd pan welsant y person. Pan ddaethum i'w ymyl ef, gofynodd i mi fy enw. Minau a ddywedais wrtho hyny; yr hyn pan glywodd a ddywedodd, O, chwi i'w y gwaethaf o honynt i gyd; mi gymeraf fi ofal gyd â chwi, Syr.' Diolch i chwi,' Syr, ebe finau, ni wnaiff neb arall hyny yma, mi a welaf.' Ar hyn efe a wylltiodd yn ddychrynllyd ac a ddywedodd 'Mi a'ch cymeraf i Ruthyn, Syr.' Bydd yn dda ganddynt fy ngweled i yno,' ebe finau. Mi a'ch hanfonaf chwi i'r gaol yno, Syr, ac a roddaf ben ar eich pregethu.' 'Ond os af i'r gaol yno, mi a bregethaf o hyd, canys bum yn pregethu yno o'r blaen.' Ar hyn daeth y gŵr ieuanc hwnw o Lanfyllin, am yr hwn y crybwyllais eisioes, fel meistr ar y person ei hun fel ymladdwr—daeth hwnw yn mlaen trwy y dorf ag oedd wedi ymgynull erbyn hyn o amgylch y person a minau; a dywedodd wrthyf fi, 'Mr. Bryan, rho'wch genad i mi, ac mi a'i gwnaf ef mewn deg munud, na ddaw ef byth i'ch gwrthwynebu chwi ond hyny.' 'David Davies anwyl,' ebe finau, na wnewch ddim i Mr. Jones, os ydyw dda ganddoch chi fi.' Ac ar hyn peidiodd a'i daraw, yr hyn, ebe fe, yr oedd arno ddymuniad cael cyfleustra idd ei wneyd er ys talm. Ar hyn parodd y person i un yn y dorf fyned i alw y cwnstabl; ond yr oedd hwnw oddi cartref. 'Peidiwch a chynhyrfu, Syr,' ebe fi, 'mi a fyddaf i'm cael bore fory, canys myfi a arhosaf yn y pentref hwn heno; ac yn awr, Syr,' ebe fi yn mhellach, gan edrych yn llawn yn ei wyneb, pa ddrwg a wnaethom ni? Yr ydych chwi wedi fy rhwystro i bregethu i'r bobl, ac y mae dydd yn dyfod pan y bydd i chwi roddi cyfrif am yr hyn a wnaethoch heddyw; byddaf finau yn dyst yn eich erbyn ger bron y frawdle fawr.' Ar hyn newidiodd ei wedd, ac aeth adref ar ol dywedyd, Mi gymeraf fi ofal na ddeuwch byth yma i bregethu, na neb o'ch brodyr.' A gwnaeth ei oreu i gadw ei air, ond yn gwbl ofer."

Ychwanegwn un engraifft arall o ymosodiad hynod o greulon a wnaed ar Mr. Bryan yn ystod ei ail ymweliad â Threffynnon. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes:—"Pan oeddwn yn myned trwy Pentre-Lygan cyfarfu â mi o ugain i ddeg-a'r-hugain o bobl oedd wedi ymuno â ni y Sul o'r blaen, i'm rhybuddio fod llid mawr yn fy erbyn gan rai yn y dref, oherwydd i mi bregethu mor daranllyd y Sul o'r blaen, ac yn enwedig fod y Papistiaid yn son am fy llabyddio am bregethu yn erbyn eu daliadau hwy, a bod yno ddyn ieuanc yn tyngu y saethai efe fi, ac felly yn mlaen. Ac erfynient arnaf beidio âg anturio yno." Ond yn mlaen yr aeth yr efengylwr penderfynol a gwrol. Llanwyd y Five's Court o wrandawyr astud. Ond yn bur fuan dechreuodd yr erlidigaeth. "Tra yr oeddwn yn llefaru," meddai, "disgynodd careg fawr, yr hon a daflwyd gan rywun dros y mur, ar ben merch, gan wastadhau ei bonnet. Yr oeddwn i wedi gweled y gareg yn disgyn, a gofynais a oedd hi wedi ei niweidio? Atebodd hithau nad oedd hi. Ar hyn disgynodd careg arall, oddeutu dau bwys o bwysau, ar ben merch arall, yr hon a waeddodd, Nid wyf finau wedi brifo, Syr! Ar hyn mi a godais fy llais, ac a ddywedais, Ni bydd niwaid i neb o honom heddyw: ni all na dynion na diafliaid ein drygu, yr Hollalluog a attal holl ymgais y gelyn.' Yr oedd y gŵr ieuanc a nodwyd wedi parotoi y gwn i'm saethu, ond ni allai ollwng yr ergyd allan, yr oedd ofn Duw wedi syrthio arno ef a'r erlidwyr eraill, fel ag y bu i ni gael dibenu y cyfarfod mewn heddwch. Pan godwyd y ddwy gareg i fyny yr oedd syndod ar bawb fod y ddwy ferch heb eu lladd. Dydd i'w gofio oedd hwn; a llawer a droisant at yr Arglwydd."

Nid yw yr erlidigaethau hyn ond ychydig engreifftiau, ond ystyriwn eu bod yn ddigon i ddangos y tywydd garw y daeth ein tadau trwyddo, ac mor amlwg y canfyddwn yn yr oll amddiffyniad yr Arglwydd drostynt. Ond cyfodwyd erlidigaethau gwahanol i'r rhai uchod yn erbyn ein cenhadon cyntaf,—erlidiwyd hwy o bwlpudau Cymru, a hyny gan y prif bregethwyr. Yr oedd y Parchn. John Elias a Christmas Evans yn eu herlid yn ddiarbed, ac felly hefyd y Parch. Williams o'r Wern, yn nhymor cyntaf ei weinidogaeth. Byddai y Parch. John Elias yn gwneyd ymosodiadau bryntion ryfeddol ar yr Arminiaid, fel y gelwid y Wesleyaid ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. gallwn wneyd dim yn well yma na difynu Dr. Owen Thomas. Fel hyn y dywed:—"Ac y mae yn ddiamheuol fod lliaws o'r pregethau a draddodid y pryd hwnw yn ein gwlad, yn mhlith y tri enwad Calvinaidd, yn ei gosod allan (sef Arminiaeth) mewn gwedd hagr iawn, ac yn cynwys llawer o eiriau caledion yn ei herbyn. Byddai Mr. Elias yn ei darlunio, weithiau, fel ag i greu dychryn hollol rhagddi yn meddyliau ei wrandawyr. Clywsom un yn adrodd am dano yn pregethu mewn cymanfa yn y Bala, tua y flwyddyn 1808, am Gariad Crist.' 'Yr oedd wedi cael rhyw hwyl anghyffredin i lefaru; a phan yn tynu yn agos i ddiwedd y bregeth, efe a waeddodd allan Un challenge eto i ddiawl ac Armin cyn tewi,'—Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? nes y bu y gair Armin yn fy meddwl i am flynyddoedd yn rhoi yr ystyr agosaf o bob peth i'r gair' diawl.'"

Clywsom amryw yn dywedyd nas gallasai Mr. Christmas Evans, yn y blynyddau hyny, bron bregethu un bregeth na byddai yn bwrw cawodydd o ddifriaeth ar Wesleyaeth. Mewn pregeth o'i eiddo ar Heb. vii. 22, Crist yn Fachniydd y Cyfamod newydd dros ei bobl, yr ydym yn cael yn mysg eraill y cyfeiriadau canlynol—"Mae Wesleyaeth gib ddall yn meddwl nad oedd Iesu yn adnabod y bobl y machniodd drostynt;' Mae Wesleyaeth mor groesed i athrawiaeth Paul ag yw yr angel drwg i'r angel da;' Prynedigaeth wanllyd iawn y mae y Wesleyaid yn bregethu ar hyd y wlad; yn cael eu cynhyrfu a'u harddel gan ddiafol i dduo gras Duw.'

Ychwanega Dr. Thomas—"Ni a glywsom ein hunain. Mr. Williams, o'r Wern, yn dywedyd:—Nid oedd pregeth yn werth dim cynt, os na byddai ynddi rhyw hergwd i Arminiaeth; ac mi fydda' i yn cywilyddio wrth gofio fel y bum fy hunan yn ei phaentio.'

Yn awr, dengys hyn yn eglur yr ysbryd erlidgar oedd yn Nghymru tuag at Wesleyaeth yn nghyfnod cyntaf ei hanes. Os oedd tri chedyrn Cymru—Elias, Evans a Williams, yn ei herlid fel hyn, diameu fod y pregethwyr llai yn dilyn eu hesiampl, ac felly yr oeddynt. Gwnaeth pwlpud Cymru am y deg mlynedd cyntaf bob peth yn ei allu i greu rhagfarn yn meddwl y werin yn erbyn Wesleyaeth, a'r syndod yw, i'r Arglwydd ei bendithio a llwyddiant mor fawr yn ngwyneb y cyfryw.

II. DADLEUON ATHRAWIAETHOL.

Arweinir ni yma at yr erlidigaeth a gyfodwyd ar ein hathrawiaethau trwy y wasg. Ni bu y Parch. Owen Davies. a'i gyd-lafurwyr cyntaf ond ychydig amser ar y tir, nes y gwnaed ymosodiad penderfynol ar yr athrawiaethau a bregethent. Efallai nad oedd hyn ond peth i'w ddisgwyl, pan gofiwn fod llifeiriant uchel-Galfiniaeth wedi gorlifo y wlad ar ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. Ceir hanes lled gyflawn am y dadleuon hyn gan y Diweddar Barch. Owen Thomas, D.D., yn "Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn." Ond rhaid i ni ddywedyd yn onest na ddarllenasom ddim erioed mor unochrog a rhagfarnllyd a'r bennod ar hanes y dadleuon gan Dr. O. Thomas. Mae fel un ar ei oreu yn sarhau y Parch. Owen Davies, yn gwawdio y Parch. John Bryan, yn camliwio y Parch. Edward Jones, Llandysilio, ac yn cam-esbonio y Parch. Samuel Davies. Ceisia Dr. Thomas amddiffyn y Calfiniaid a ymosodent ar Wesleyaeth, ac ar yr un pryd cydnebydd nad oedd neb o honynt yn deall Wesleyaeth fel ei dysgid yn ngweithiau Mr. Wesley a Mr. Fletcher. Yn ol Dr. Thomas ei hun nid Arminiaeth efengylaidd Mr. Wesley oedd yr un a ymosodent arni, ond rhyw Arminiaeth wêllt o'r eiddynt eu hunain. Ac fel hyn, os oeddynt yn ymosod ar athrawiaeth, a hwythau heb ei deall, pa fodd y gellir eu cyfiawnhau am wneyd? Dywed Dr. Thomas am yr enwadau:—Calfinaidd: "Yr oedd eu syniadau hwy am Arminiaeth wedi eu cymeryd oddiwrth yr hyn yr ymddirywiasai iddo yn Holand, wedi marw Arminus, . . . . ac, yn wir, fel yr oedd yn cael ei dysgu ar y pryd yn Neheudir Cymru, yn yr hen gynulleidfaoedd oeddent wedi ymadael â ffydd eu hynafiaid, yn gystal ag yn nifer amlaf o'r llanau plwyfol trwy y wlad yn gyffredinol. A chanddynt hwy nid oedd yn ddim amgen na chyfundrefn yn gwneyd dyn i fesur mawr yn Waredwr iddo ei hun; Iesu Grist yn ddim mwy nag un i gyflenwi diffygion ymdrechiadau y pechadur un y mae edifeirwch a diwygiad a gweithredoedd da y pechadur yn cael, er mwyn ei aberth ef, eu derbyn er cymeradwyaeth iddo ger bron Duw. Dyma yr ARMINIAETH a adwaenent hwy. Ond yr oedd gwahaniaeth hollol rhwng Arminiaeth Wesley, o'r dechreuad, a'r athrawiaeth hon. . . . Yr oedd elfen efengylaidd drwyadl yn rhedeg trwy ei athrawiaeth ef a'r rhai a gydlafurient âg ef, fel y gwelir wrth ei ysgrifeniadau ef a'r eiddo Mr. Fletcher."

Yr ydym yn cyd-weled yn hollol â Dr. O. Thomas, nad oedd y Parchn. John Elias, Christmas Evans, William Williams, o'r Wern, yn nghyd âg eraill a ymosodent ar athrawiaethau Wesleyaidd wedi eu hefrydu o gwbl yn ngweithiau Wesley a Fletcher. Cymerasant yn ganiataol fod Arminiaeth John Wesley yr un âg Arminiaeth ddirywiedig Holand, ac hefyd yr un âg Arminiaeth Belagaidd hen Eglwys Arminaidd Deheudir Cymru. Ni raid bod yn graff iawn i ganfod fod syniad Dr. O. Thomas yn cael ei gadarnhau yn ysgrifeniadau y Parch. Thomas Jones, Dinbych, a'r rhai a gyd-ddadleuent âg ef yn erbyn athrawiaeth y Methodistiaid Wesleyaidd.

O'r ochr arall, nid oes amheuaeth nad oedd y Parchn. Owen Davies, John Hughes, Edward Jones, Llantysilio, &c., yn deall Calfiniaeth fel ei dysgid yn ngweithiau y Parch. John Calvin, yn nhraethawd Eliseus Cole, ar benarglwyddiaeth Duw, ac yn ysgrifeniadau Calfinaidd y Cyfnod, ïe, ac fel ei pregethid o pwlpudau Cymru ar y pryd. Addefir yn awr gan ddynion blaenaf y Methodistiaid Calfinaidd mai uchel Galfiniaeth a ddysgid yn Nghymru ddechreu y ganrif ddiweddaf. Dyma dystiolaeth y diweddar Barch. T. C. Edwards, D.D., Bala, a'r Parch. John Owen, Wyddgrug, a rhoddwn hi i lawr yn yr iaith ei hysgrifenwyd:-

"Though our Confession of Faith is decidedly Calvinistic, yet our position has been that of Moderate Calvinism for at least the last forty years. Several of the men who drew up our Confession of Faith, such, for example, as the great preacher, John Elias were undoubtedly inclined to high Calvinistic views; and during the first half of the present century (the xix), exaggerated and one-sided views of the truth were presented to many of our people. The coming of Wesleyan Methodism to Wales, and the controversies which followed, resulted in making the doctrine more hyper-Calvinistic than before. But in a few years a healthy reaction arose within the Calvinistic Methodist Body itself; and men came to the front who taught and emphasised those aspects of the truth which had been in danger of being forgotten."

Addefir yma fod syniadau llawer o duwinyddion blaenaf y Methodistiaid Calfinaidd, yn uchel-Galfinaidd ar y cyntaf, ac iddynt wedi hyny fyned yn fwy uchel-Galfinaidd. Cadarnha hyn ein gosodiad, fod y tadau Methodistaidd Wesleyaidd yn deall Calfiniaeth yr amseroedd yr oeddynt yn byw ynddynt. Teimlwn fod yn bwysig i'n darllenwyr ddeall y pethau hyn, cyn i ni fyned yn mlaen i adrodd hanes y Dadleuon Athrawiaethol ar ddechreu y ganrif ddiweddaf, Rhoddi hanes y dadleuon hyn, yn hytrach na'u beirniadu fydd ein prif amcan, ond ar yr un pryd nid ymattaliwn rhag gwneyd sylwadau beirniadol, os bydd hyny yn angenrheidiol i egluro yr hanes.

Y cwestiwn cyntaf a gyfyd yw—Pwy gychwynodd y ddadl? Rhydd Dr. O. Thomas y bai ar y Methodistiaid Wesleyaidd. Dyma fel yr ysgrifena—" Hyd y gallwn ni ddeall, y mae yn ymddangos i ni fod yr ymosodiad cyntaf wedi ei wneuthur gan y brodyr Wesleyaidd eu hunain, trwy daenu traethodyn a elwid 'Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol, yr Athrawiaeth Ysgrythyrol yn nghylch Arfaeth, Etholedigaeth, a Gwrthodedigaeth, gan John Wesley, M.A.' Yn ol Mr. Hughes (sef y Parch. John Hughes, Aberhonddu, yn nghofiant Owen Davies), fe ymddengys i'r traethodyn hwn gael ei gyfieithu gan rhyw Lyfrwerthwr yn Neheudir Cymru, ond fod y Gweinidogion Wesleyaidd wedi gwneyd ymdrech neillduol i'w ledaenu, yn enwedig yn Sir Ddinbych; a'i fod wedi ei ddarllen gyd âg awyddfryd mawr gan lawer o bobl. Ni ddigwyddodd i ni erioed weled yr Argraffiad hwnw, a daenwyd felly, ond y mae yn ein meddiant gopi o'r hyn, ni a dybiwn oedd yn ail-argraffiad o hono, a ddygwyd allan yn y Mwythig gan Mr. Wood yn y flwyddyn 1803. Nid yw ond byr—dim ond 18 o dudalenau. Ar ei ddiwedd y mae "Casgliad o waith y Parch. John Wesley, yn dangos y canlyniadau ofnadwy yn nglyn âg etholedigaeth ddiamodol: gan yr un awdwr.' A gyfieithwyd gan John Bryan." Gwel y darllenydd fod holl ymresymiad Dr. O. Thomas yn seiliadwy ar dybiaeth, ac felly nid yw ei gasgliadau yn werth dim. Ond a chaniatau fod y traethawd o dan sylw wedi ei gyhoeddi gan Lyfrwerthwr yn y Deheudir, a bod y Gweinidogion Wesleyaidd wedi gwneyd ymdrech i'w ledaenu, eto, cyfyd y cwestiwn—Paham y cyhoeddwyd ac y lledaenwyd ef? Ni ddywed Dr. O. Thomas hyny, er yr ymddengys i ni y rhaid ei fod yn gwybod yn dda. Dyma y rheswm dros ei gyhoeddi. Yn y flwyddyn 1800, cyhoeddwyd yn Nghaerfyrddin y llyfr Calfinaidd a elwir "Traethawd defnyddiol ar ben arglwyddiaeth Duw, gan Eliseus Cole." Dengys hyn mai y brodyr Calfinaidd oedd y rhai cyntaf i ymosod, oblegid er gwrthweithio dylanwad traethawd Eliseus Cole y cyhoeddwyd cyfieithiad Cymreig o draethodyn Mr. Wesley. Ac felly cyhoeddwyd ef mewn hunan-amddiffyniad, ac nid mewn ffordd o ymosodiad, fel yr haera Dr. O. Thomas. Bu Dr. O. Thomas yn ofalus iawn i guddio y ffaith hon, a hyny, yn ddiameu, am y buasai yn farwol i'r syniad mai y brodyr Wesleyaidd a wnaeth yr ymosodiad cyntaf. Crybwylla am amryw argraffiadau o draethawd Eliseus Cole, ond dim gair am argraffiad 1800 o hono. Tro anheilwng iawn o hono oedd hwn.

Yn y flwyddyn 1802, cyhoeddwyd argraffiad newydd o draethawd Eliseus Cole, gan y Parch. John Humphreys, Caerwys. Cyhoeddwyd hwn, nid fel y dysg Dr. O. Thomas, yn amddiffyniad i'r Athrawiaeth Galfinaidd, ond yn hytrach fel ymosodiad ar yr Athrawiaeth Wesleyaidd. Dyma fel y dywed y Cyhoeddwr—"Diameu fod cymaint achos am fod yn ddiysgog yn yr Athrawiaethau, cedyrn, anwrthwynebol, a drinir ynddo yn y dyddiau hyn, ag a fu un amser; pan y mae cynifer, tan rith o bregethu yr Efengyl, nad ydynt ddim gwell na gelynion i'w gwir athrawiaethau bendigedig hi."

Yn atebiad i hwn ac i lyfr o waith Dr. Owen, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Parch. John Bryan yn 1803 draethawd Mr. Wesley ar yr "Arfaeth Fawr Dragywyddol, gyd âg ychwanegiadau," &c. Yn y traethawd hwn dangosi mewn modd eglur ganlyniadau rhesymegol y Gyfundrefn Galfinaidd, fel y dychrynai hyd yn nod y Calfiniaid eu hunain rhagddi. Bu y traethodyn hwn yn fwy na chyfartal (match) i draethawd Eliseus Cole. Bron yn gyfamserol a chyhoeddiad yr "Arfaeth Fawr Dragywyddol," cyhoeddwyd yn Gymreig draethawd arall o eiddo Mr. Wesley a elwid "Dyrnod at y Gwraidd." Yr oedd Mr. Wesley yn un o'r dadleuwyr tecaf, ac fel ymresymwr yn ddihafal. Yn y traethodyn bychan hwn, dengys Galfiniaeth yn ei lliw priodol ei hun, gan ddysgu fod etholedigaeth o angenrheidrwydd yn golygu gwrthodedigaeth. Dengys hyn ei fod ef yn deall Calfiniaeth yn yr un goleuni a John Calvin.

Tra yr oedd y traethodau hyn yn gwneyd eu gwaith yn effeithiol, daeth y Parch. Christmas Evans allan i geisio ei hateb, trwy gyhoeddi llyfr dan yr enw—"Ffurf yr ymadroddion iachus, yn cael ei gynyg yn Hyfforddydd i Blant Seion; neu Wrth-Feddyginiaeth yn erbyn gwenwyn Arminiaeth; yn yr hwn y gwneir sylwadau teg a diduedd, yn cynwys llawn atebiad i lyfr Mr. Wesley, a elwir 'Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol,' gan Christmas Evans, gyd â rhai nodiadau gan Titus Lewis. Caerfyrddin Argraffwyd gan J. Evans, 1803." Llyfr eithafol a hollol un-ochrog ydyw hwn, a diameu iddo wneyd mwy o lawer o niwed i Galfiniaeth nag i Arminiaeth.

Yn atebiad i hwn cyhoeddodd Mr. Bryan gyfieithiad o draethawd Mr. Wesley ar "Etholedigaeth Ddiamodol, a rhai o ganlyniadau erchryslawn yr athrawiaeth hono, wedi ei gymeryd allan o waith Mr. Wesley ac eraill, yn nghyd âg ychydig ystyriaethau ar y llyfr a elwir Gwrth-feddyginiaeth yn erbyn Gwenwyn Arminiaeth.' Caernarfon: Argraffwyd gan T. Roberts, 1803." Ni ddarllenasom ond ychydig iawn o bethau mwy doniol na'r ystyriaethau ar lyfr Mr. Christmas Evans. Dangosant fod yr awdwr yn meddu y fath argyhoeddiadau dyfnion o wirionedd yr egwyddorion y safai drostynt, a'r fath ddawn i'w hamddiffyn, fel y gellir ystyried ei lyfr yn un o'r pethau mwyaf cyfaddas hyd yn nôd yn ol tyb Dr. O. Thomas i effeithio er sicrhau yr amcan oedd gan yr awdwr mewn golwg gyd â chanoedd o ddarllenwyr. Teimlodd Mr. Christmas Evans yn boenus o dan y fflangell hon, a chyhoeddodd atebiad i Mr. Bryan. Ond nid ydyw yn ddim amgen nag ymgais i bardduo Wesleyaeth, a'i gwneyd yn ddychryn i'w ddarllenwyr. Dywed nad yw dysgeidiaeth Wesleyaeth ar yr athrawiaeth o gyfiawnhâd yn ddim ond atheistiaeth dan orchudd, a defnyddia eiriau fel hyn wrth ysgrifenu am Wesleyaeth "Barn fawr, bobl anwyl, ydyw credu y fath bynciau. Yn wir, bobl, ni waeth lawer gwadu yr holl Feibl, na dal y tybiai hyn." Nid oes dim gwerth yn ymresymiad y llyfr hwn, a hyny am nad oedd yr Awdwr o gwbl yn adnabod Wesleyaeth fel yr ydoedd mewn gwirionedd.

Y llyfr nesaf a gyhoeddwyd oedd—"Athrawiaeth Rhagluniad Dwyfol, wedi ei ddifrifol a'i fanwl ystyried; sef, traethawd ar Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth, ac Helaethder y Prynedigaeth Cristionogol, gan y diweddar Barchedig John Wesley. At ba un ychwanegwyd Dwy Bregeth o waith y diweddar John Wallter. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway, 1803." Cyfieithiwyd y gwaith hwn gan y Parch. John Hughes, Aberhonddu. Parodd cyhoeddiad y llyfr hwn gryn gyffro yn mhlith y rhai a ddalient syniadau Calfinaidd am Athrawiaethau Crefydd, i ba enwad bynag y perthynent. Cyn hir cyhoeddwyd llyfryn swllt yn atebiad iddo, sef "Ffynhonnau Iachawdwriaeth, sef amddiffyniad i athrawiaethau gras, &c., gan B. Jones, Gweinidog yr Efengyl. Pris Swllt mewn papur glâs. Caernarfon: Argraftwyd gan T. Roberts." Gweinidog gyd â'r Annibynwyr yn Pwllheli oedd Awdwr y llyfr hwn. Yr oedd yr ymgais hon eto yn aneffeithiol i wrth- weithio yr Athrawiaeth Arminaidd, oblegid yr oedd dysgeidiaeth yr Awdwr ynddo yn llawn anghysonderau, yn gymaint a'i fod yn credu mewn etholedigaeth bersonol a diamodol, mewn iawn cyffredinol, ac yn gwadu gwrthodedigaeth. Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn 1805.

Tua'r adeg hon, ac efallai yn atebiad i'r llyfr uchod, fe gyhoeddwyd llyfr bychan arall gan un o'n tadau, sef "Gwir Gredo yr Arminiaid; neu atebiad i'r gofyniad beth yw Arminiaeth?" Yr oedd yn hen bryd i'r rhai a ddadleuent yn erbyn Arminiaeth Wesleyaidd i gael gwybod beth oedd, a dyna amcan y llyfr bychan hwn. Gwnaeth wasanaeth fawr i'n pobl, trwy ddangos iddynt mai nid yr Arminiaeth a wrthwynebid gan y Calfiniaid oedd Arminiaeth Efengylaidd John Wesley a'i ganlynwyr.

Yn y flwyddyn 1806, dygwyd allan lyfr arall yn llawn o ymosodiadau ar Wesleyaeth, sef, "Drych Athrawiaethol; yn dangos Arminiaeth a Chalfiniaeth, mewn ffordd o ymddiddan rhwng dau gyfaill, Holydd ac Atebydd. Gan Thomas Jones. Bala: Argraffwyd dros yr Awdwr gan R. Saunderson, 1806." Awdwr y llyfr hwn oedd y Gweinidog adnabyddus hwnw yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, sef y Parch. Thomas Jones, Dinbych. Ei fodd o ymosod ar y Wesleyaid oedd, trwy eu camliwlio a cheisio creu rhag- farn yn eu herbyn, a hyny trwy geisio dangos fod yr Arminiaid yn cytuno â'r Pabyddion yn eu barn ar y pyngciau o wahaniaeth rhwng Arminiaeth a Chalfiniaeth, ac yn mhellach fod eu syniadau o ran eu hanfod yr un ag eiddo yr hen Forganiaid. Dengys hyn ar unwaith nad oedd yn deall Arminiaeth Efengylaidd y Parch. John Wesley o gwbl, ac felly nid oedd yn gymwys i'w hadolygu, ac nid oedd wrth ymosod arni yn gwneyd dim ond saethu at Gyfundrefn o'i ddychymyg ei hun.

Yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd y "Drych Athrawiaethol," cyhoeddodd y Parch. Owen Davies atebiad iddo, sef "Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd, mewn llythyr at Mr. Thomas Jones, yn ateb i'w lyfr a elwir 'Drych Athrawiaethol,' yn dangos Arminiaeth a Chalfiniaeth, &c. Gan Owen Davies. Caerlleon: Agraffwyd gan John Hemingway, 1806." Dechreua Mr. Davies y llythyr hwn fel hyn—"Mae wedi bod yn fater o syndod gyd â myfi, i glywed y Calfinistiaid yn cyhuddo yr Arminiaid o gredu a phregethu Athrawiaethau, pa rai i'm sicr wybodaeth y maent o unfryd yn eu gwadu," &c. Gwna Mr. Davies yn y llyfr bychan hwn fŷr waith ar y "Drych Athrawiaethol," a gesyd Mr. Thomas Jones gerbron y darllenydd fel un tra anwybodus am Arminiaeth, ac yn gwneyd cam dybryd â Mr.Wesley, trwy briodoli cyfieithiad o adnod iddo na bu erioed yn eiddo iddo. Wrth sylwi ar Heb. x. 38, rhydd Mr. Thomas Jones gyfieithiad Mr. Wesley o honi, gan ddywedyd ei fod fel hyn "Mae y cyfiawn sydd yn byw trwy ffydd yn tynu yn ol," &c., a dywed yn mhellach "Ond am gyfieithiad Mr. Wesley, y mae yn ddïau yn ddrwg, a da os nad oedd ei ddyben ynddo yn waeth." Mewn amddiffyniad yn ngwyneb yr awgrym anfrawdol ac anesgusodol hwn, dywed Mr. Davies yn ei lyfr, tudalen 64, "Ond credwch fi, Syr, fod arnaf eisiau mwy na gras cyffredin i gadw fy natur, pan welais yn y lle nesaf (tudalen 54-55) mor genfigenus, mor faleisus, mor anghyfiawn yr ydych chwi yn cyhuddo Mr. Wesley o fod yn euog o roddi camgyfieithiad o Heb. x. 38, a hyny yn fwriadol i rhyw ddyben drwg. Ond yma mi a ddymunwn sylwi ar y naill law, fod Mr. Wesley yn deall yr iaith wreiddiol yn rhy dda i fod yn euog o gyfeiliorni o berthynas iddi; ac yr wyf yn sicr gredu ei fod yn ŵr a chanddo fwy o barch i Dduw a'i air nag yr ai i lygru neu i wyrdroi rhan o hono at unrhyw au-ddybenion; ar y llaw arall, yr wyf yn gweled eich bod chwi wedi cam-adrodd ei eiriau. Mi a fuom yn edrych heddyw mewn tri o lyfrau (Wesley's Notes, Pred. Calmy considered, and Ser. Thoughts on final preseverance), ac yr wyf fi yn gweled nad yw efe yn adrodd y geiriau fel yr ydych chwi yn eu rhoddi i lawr. Ei eiriau ydynt, nid "Y mae y cyfiawn sydd yn byw trwy fydd yn tynu yn ol," &c., eithr Os y cyfiawn sydd yn byw trwy ffydd a dyn yn ol, fy enaid nid ymfoddlona ynddo." Ac y mae eich cyfieithiad chwi yn cadarnhau un Mr. Wesley, ac i ba ddyben (pa un ai da ai drwg) y darfu i chwi gam-adrodd ei eiriau ef sydd fwyaf hysbys i chwi eich hun.

Yn atebiad i'r "Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd," &c., cyhoeddodd Mr. Thomas Jones, Dinbych, "Ymddiddan crefyddol (rhwng dau gymydog) Ystyriol a Hyffordd, mewn ffordd ymresymiadol, hanesiol, ac ysgrythyrol; yn nghyd âg ychydig sylwadau ar Lythyr Mr. Owen Davies at yr awdwr, a phrawf o anghysonedd y diweddar Barch. John Wesley mewn amryw bynciau o athrawiaeth. Gan Thomas Jones, Bala: Argraffwyd gan R. Saunderson, 1807." Yr oedd y gwaith hwn yn gyfrol drwchus, o dros 450 o dudalenau. Ond er fod y gyfrol hon yn llyfr cymharol fawr, eto nid yw ond ymosodiad eiddil ar Wesleyaeth, a hyny am nad oedd yr awdwr, yn ol tystiolaeth Dr. O. Thomas (un o'i edmygwyr penaf) "yn gallu myned i mewn yn hollol i'r neillduolrwydd a berthyn i Wesleyaeth fel athrawiaeth efengylaidd, ac ar yr un pryd yn gorwedd ar egwyddorion Arminaidd. O ddiffyg hyn y mae Mr. Jones yn fynych yn gwneyd y gwahaniaeth oedd rhyngddo ef a Mr. Wesley yn fwy nag oedd mewn gwirionedd, o leiaf yn fwy nag oedd yn ymarferol."

Yn mhen ychydig wythnosau ar ol cyhoeddiad yr "Ymddiddan Crefyddol" gan y Parch. Thomas Jones, ymddangosodd llyfr yn atebiad iddo, sef, "Ymddiddan rhwng dau Gymydog, Hyffordd a Beread, yn dangos cyfeiliornadau Calfinistiaeth, yn nghyd â llythyr at Mr. Thomas Jones, yn gwrthbrofi ei brawf ef o anghysonedd Mr. Wesley, a'i sylwadau ar llythyr Owen Davies. Gan Owen Davies. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway, 1807." Mae y gwaith hwn yn gyfrol drwchus o dros 400 o dudalenau, ac yn sicr y llyfr pwysicaf o lawer a gyhoeddwyd yn ystod y ddadl. Nis gellir ei ddarllen heb ganfod ei fod yn deall Arminiaeth a Chalfiniaeth yn llawer gwell na Mr. Thomas Jones, ac addefodd un o'r Calfiniaid, os nad rhagor fod yr amddiffyniad i Mr. Wesley yn ngwyneb y cyhuddiad o anghysonedd a ddygwyd yn ei erbyn gan Mr. Jones, yn cynwys pethau y dylasai Mr. Jones ei hun fod wedi eu hystyried. Daeth y gwaith hwn allan o'r wasg cyn i gyfrol Mr. Jones gael ei derbyn a'i darllen ond gan ychydig, a phoenai hyny y Calfiniaid yn fawr, ac ar y cyntaf, methent ddeall pa fodd y dygwyd gwaith mor fawr allan mor fuan. Ond y dirgelwch oedd fod Mr. Davies wedi cael copy o lyfr Mr. Jones yn lleni fel ei hargreffid, a mawr y beio fu arno am hyn. Ond pa niwed oedd yn y peth? Ai onid yw yn beth cyffredin i rai sydd yn adolygu llyfrau i gael Advanced Copy? Eithr y drwg oedd, ddarfod i ymddangosiad prydlon llyfr Mr. Davies atal i lyfr Mr. Jones gael y cylchrediad a'r dylanwad a ddisgwylid iddo. gael. A'r modd i ddial ar Mr. Davies oedd ceisio ei ddifrïo, a'i bardduo, ond methiant hollol fu yr ymgais hon hefyd.

Ond ni roddodd y Parch. Thomas Jones i fyny, eithr cyhoeddodd lyfr drachefn, sef "Sylwadau ar Lyfr Mr. Owen Davies, sef ei ymddiddanion rhwng Hyffordd a Beread, yn nghyd a gwobr o bwys yn gynygedig iddo ar amod teg. Gan Thomas Jones, Ruthin. Bala: Argraffedig gan R. Saunderson, 1808." Nid oes dim byd newydd yn y llyfr hwn, ond yr arwyddion fod Mr. Jones yn poethi yn y ddadl, ac i gryn fesur yn dechreu colli ei dymher, ac yn lle dadleu yn deg, yn taeri ac yn herio.

Ond nid dyn i ildio ei dir i'r gelyn oedd y Parch. Owen Davies, na, ond ymgryfhaodd unwaith eto, a chyhoeddodd atebiad i lyfr Mr. Jones, sef, llythyr oddiwrth Owen Davies. at Mr. Thomas Jones. Dolgellau Argraffwyd gan R. Jones, 1811. Gyd â'r llyfr hwn terfynodd y ddadl rhwng y Parchn. Owen Davies a Thomas Jones. Nid atebodd Mr. Jones byth lythyr diweddaf Mr. Davies. Paham na wnaeth? gadawn i'r darllenydd gasglu. Fodd bynag, rhaid addef i'r ddau arfer geiriau lled gryfion, ac i Mr. Jones gamliwio Wesleyaeth mewn modd hollol anesgusodol, eto da genym weled fod y ddau yn barod i gydnabod fod ynddynt ddiffygion. Dyma fel y terfynai Mr. Owen Davies ei lythyr olaf at Mr. Thomas Jones. "Fodd bynag i ddiweddu, lle yr ydych chwi a minau, yn gystal a rhai eraill efallai, wedi bod yn fyr o lywodraethu ein tymherau a'n hysbrydoedd, maddeued Duw ini. A chredwch fy mod eich ewyllysiwr da, a'ch ceryddwr ffyddlawn, Owen Davies." Ac mewn cyfeiriad at y dadleuon y cymerodd ef—y Parch. Thomas Jones ran ynddynt, dywed—"Eto yr wyf yn ameu fy hun, gan feddwl fod poethder ysbryd, fel'y mae yn rhy debygol, wedi ymgynhyrfu ynof, a'i effeithiau i'w ganfod mewn rhai o'm hymadroddion, oddiar achlysuron trymion yn aml, yn nywediadau y blaid a wrthwynebais. Er yr holl anogiadau annhirion a gefais, yn argraffedig, ac yn mhob modd arall, mae yn debygol y dylaswn arfer addfwynder mwy at fy ngwrthwynebwr, ond efallai y'nghyd a llymder mwy at ei gyfeiliornadau. Yn ngwyneb fy holl golliadau, dymunaf erfyn ar Dduw pob gras am faddeuant a meddyginiaeth.

Mewn cysylltiad â'r ddadl, cyhoeddwyd nifer o fân weithiau yn y cyfnod hwn gan Christmas Evans, George Lewis, D.D., John Parry, Caer, ac eraill. Ond nid ydynt o'r fath deilyngdod, fel ag i gael lle amlwg yn hanes y dadleuon. Ar ol hyn cafwyd ychydig o seibiant oddiwrth y "Dadleuon Athrawiaethol," ond nid am fod y Wesleyaid wedi cilio o'r maes, ac wedi rhoddi eu harfogaeth o'r neilldu, fel y cawn weled ragllaw.

PENNOD VII.

Ad-weithiad a Phrofedigaethau yn gosod Methodistiaeth
Wesleyaidd Gymreig dan brawf
llym a chwerw.

(O 1811 hyd 1817).

GYD â'r bennod cyn y ddiweddaf gadawsom yr achos ar derfyn tymor o lwyddiant anghyffredin—llwyddiant na ddarllenir am ei hafal, ond mewn ychydig o engreifftiau yn hanes yr Eglwys, yn neillduol yn Nghymru. Ond yn awr y mae genym i gofnodi tymhor o ad-weithiad a phrofedigaethau. Goddiweddid yr achos y naill flwyddyn ar ol y llall gan anffodion a thrallodion lawer, y rhai y teimlwyd o'u herwydd am amser maith. Yn ystod y chwe' blynedd, sef o 1811 hyd 1817, bu lleihad o 1046 yn rhif yr aelodau. Eu rhif yn 1811 oedd 5700, ond erbyn 1817 yr oeddynt wedi dyfod i lawr i 4654.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1812 yn Leeds, dan lywyddiaeth y duwiolfrydig, y Parch. J. Entwistle. Ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Llangollen. Ceir pedwar o enwau newyddion eraill yn y sefydliadau, sef Caerdydd, Abertawe, Tyddewi, a Threffynnon, ond nid yw y rhai hyn i'w hystyried yn gylchdeithiau ychwanegol, canys collir o'r sefydliadau, Caerphily, Castellnedd, a Llanbedr, a gosodir Dinbych mewn cysylltiad â Rhuthyn, ac felly nid oedd ond un gylchdaith ychwanegol. Yr oedd rhif y cylchdeithiau y flwyddyn hon yn 21, y rhif mwyaf a fu o'r dechreu hyd yn awr. Ni alwyd neb allan o'r newydd i'r weinidogaeth y flwyddyn hon, a safai rhif y gweinidogion yr un a'r flwyddyn flaenorol. Enciliodd James James, ond ail-ymaflodd John Williams, 1af yn ei waith ar ol bod yn uwchrif am dymhor.

Yn y flwyddyn 1813, bu lleihad yn rhif yr aelodau o 130. Safai rhif y Cylchdeithiau fel o'r blaen; ond bu lleihad o un yn rhif y Gweinidogion trwy i Stephen Parry encilio. Ar ol y Gynhadledd y flwyddyn hon, a chyn y Nadolig, galwyd allan i waith y Weinidogaeth—

RICHARD BONNER, o Tyddyn Sach, Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Yr oedd Mr. Bonner yn gymeriad tra neillduol yn ddyn tâl, cyd-nerth, o ymddangosiad difrifol; ond er hyny yn llawn nwyfiant, a'i arabedd yn ddiarbedol. Medrai gynhyrfu cynulleidfa o'r pwlpud, neu oddiar y llwyfan yn ol ei ewyllys. Cyfansoddai ei bregethau yn fanwl, ac efallai mai efe oedd y pregethwr mwyaf modern ei arddull, o'r rhai a gydoesent âg ef. Medrai wneyd defnydd da mewn cwmni o eiriau fel "Cefnygribin," "Penygroes," a "Croesau Gwynion," fel y cafwyd engreifftiau o'i ymddiddan a'r Parchn. Isaac Jones, John Jones (F), ac eraill. Cofia llawer o'r rhai sydd yn aros hyd heddyw, am odfaon anghyffredin a gafodd. Cafodd odfa felly yn Nghyfarfod Talaethol Dolgellau, 1841, pan yn pregethu ar y testyn-"Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist," &c., 1 Petr i. 3. Bu farw yn Nghaernarfon, Gorphenaf 28ain, 1867, yn 80ain mlwydd oed, a'r 53ain o'i weinidogaeth.

Yn Nghynadledd 1814, daeth nifer y Cylchdeithiau yn "Y Dalaeth Genhadol Gymreig" i lawr i 16eg, trwy i 5 o Gylchdeithiau yn y Deheudir gael eu cysylltu â'r achos Saesnig, sef Caerfyrddin, Abertawe, Merthyr, Aberhonddu, a Chaerdydd. Aeth y Parch. David Rogers i'r gwaith Saesnig y flwyddyn hon, a gadawodd John Williams, Sarn Wilkin, y gwaith.

Yn ystod y flwyddyn Gyfundebol a derfynai ar gyfarfyddiad y Gynhadledd yn Bristol, bu farw yr enwog Dr. Coke, o Aberhonddu, ac yn ei farwolaeth ef collodd yr achos Wesleyaidd Cymreig ei noddwr penaf yn y Cyfundeb. Trwy ei offerynoliaeth ef y llwyddwyd gyd â'r Gynhadledd i sefydlu Cenhadaeth Wesleyaidd yn Nghymru, ac i fesur helaeth iawn dibynai ein Gweinidogion Cymreig cyntaf am eu cynhaliaeth ar y Drysorfa Genhadol. Fel Cymro, yr oedd yr achos Cymreig yn agos iawn at ei galon, ac nid oedd ball ar ei gydymdeimlad a'i amgylchiadau. Ond nid oedd Cymru, Iwerddon, Ewrop oll, nag America ychwaith yn ddigon i derfynau eang ei gydymdeimlad ef, ac am hyny efe a osododd ei fryd ar sefydlu Cenhadaeth Gristionogol yn India. Ar y mater hwn difynwn a ganlyn o Ddarlith y diweddar Barch. Samuel Davies ar Thomas Coke, Ll.D.—

"Pan ddeffrowyd sylw Coke at gyflwr truenus paganiaid ac eilunaddolwyr y byd, cafodd yr India Ddwyreiniol le arbenig yn ei feddwl fel maes eang i lafur Cenhadol ffrwythlon; a rhai blynyddoedd cyn i'r enwog William Carey, o fythol goffawdwriaeth, fyned yno, yr oedd of wedi bod yn gwneuthur ymchwiliadau yn nghylch ansawdd y wlad fel man y gellid edrych arni fel lle i sefydlu ynddi Genhadaeth Gristionogol. Ar yr un pryd cyfyngodd ei ymdrechion at gyflwr a sefyllfa gwledydd eraill hyd y Hwyddyn 1813. Yr oedd wedi gosod ei fryd ar India, ac wedi bod yn rhag barotoi ar gyfer myned yno. Yn y Gynhadledd y flwyddyn hono gosododd ei gynlluniau ger bron, a dywedodd Yr wyf yn farw i Ewrop, ac yn fyw i India. Y diwrnod cyntaf y bu yr achos dan sylw yr oedd teimlad y Gynhadledd yn gryf yn erbyn ei gynlluniau. Yr oedd ef y pryd hyny yn tynu at 67 ocd, a cheisiai ei gyfeillion ei berswadio i roddi yr anturiaeth i fyny ar gyfrif ei oedran ef a drudaniaeth angenrheidiol yr anturiaeth. Aeth i'w letty y noson hono yn ddigon digalon, ac i'r Gynhadledd bore dranoeth heb fod wedi cysgu, ond yn ymbil gyd â Duw ar hyd y nos, am wneyd ei ffordd yn rhydd. Y dydd hwnw ymrwymodd i gymeryd arno ei hun draul sefydliad Cenhadaeth i India hyd i chwe' mil o bunnau; a therfynodd ei gynygiad, a'i ddagrau yn llifo dros ei ruddiau, drwy ddywedyd- Os na chaf fyned i India, chwi a dorwch fy nghalon.' Yn ngwyneb apeliadau mor sylweddol ac effeithiol, nis gallai y Gynhadledd ei wrthsefyll yn hwy; ac ar y 30 o Ragfyr, 1813, gyd a'i fraich yn mraich ei gyfaill hoff, Jonathan Edmondson, gwelwyd ef yn cerdded at y cwch yn Portsmouth, yn canu yn iach i Loegr, a chyd â chwech o Genhadon ieuainc dan ei ofal, yn cychwyn am Ynys Ceylon. Yn fore y trydydd dydd yn Mai dilynol, cafwyd ei ddaearol dy yn oer a difywyd ar waelod ei gaban, ei enaid seraphaidd wedi ei adael, ac, yn hollol ddirybudd ac annisgwyliadwy, wedi cymeryd ei hedfan fry, i ymddisgleirio fel y sêr byth ac yn dragywydd.' Bu farw o dan ergyd o'r parlys, fel y tybid, heb neb o'i frodyr na neb arall yn ymyl i fod yn dystion o'i ymadawiad. Cyflwynwyd ci wedd anwyl i'r eigion mawr yn nghanol pryder, ochain, a dagrau y Cenhadon, a difrifoldeb y rhai oll a'i hadwaenai, i aros y dydd pan y bydd raid i'r môr roddi i fyny y meirw sydd ynddo; a phriodol y sylwid fod pob lle, heblaw y môr mawr, llydan, a dwfn, yn rhy gyfyng o gladdfa i galon mor fawr ag eiddo y Doctor. Bu farw cyn cael cyrhaedd y tir yr oedd wedi gosod ei fryd ar gael bod ynddo yn llafurio dros Grist, ond cafodd anadlu ei awelon, a chyda'r awelon hyny anfon i'r nef ei ochenaid olaf am lwyddiant ar yr anturiaeth Genhadol."

Ceir crybwylliad am ei farwolaeth yn "Yr Eurgrawn Wesleyaidd" am 1814, tudalen 425, ac hefyd linellau barddonol ar yr achlysur gan y Parch. William Davies, 1af, yn yr un Eurgrawn, tudalen 428.

Fel y nodwyd yn y Gynhadledd y flwyddyn hon, dygwyd yr Amalgamation i weithrediad yn y Deheudir mewn amryw engreifftiau, ond yn mhob engraifft er anfantais i'r achosion Cymreig. Rhoddwyd y Parch. David Rogers i lawr ar Aberhonddu, i lafurio yn y gwaith Seisnig, a bydd. ymddygiad y Seison yn mhentref y gylchdaith tuag ato yn warth bythol i'w coffawdwriaeth. Cauasant y capel yn ei erbyn heb reswm o gwbl dros hyny.

Yn Nghynadledd y flwyddyn 1815, gynhaliwyd yn Manchester, cyfnewidwyd enw y Dalaeth Gymreig, a galwyd hi "Talaeth Gogledd Cymru" fel cynt. Saif rhif y Cylchdeithiau fel y flwyddyn o'r blaen. Collir enw TYDDEWI o'r "Cofnodau," ond ceir enw PONTFAEN yn lle hyny. Y flwyddyn hon aeth Edward Jones, 2il, yn uwchrif, ac aeth William Davies, 1af yn genhadwr i Sierra Leone. Ond er colli dau nid oedd ond un o leihad yn rhif y Gweinidogion, oblegid dychwelodd y Parch. David Rogers i'r gwaith Cymreig, er llawenydd mawr i'w frodyr yn Nghymru.

Arweinir ni yn awr at Gynhadledd 1816, yr hon a gynhaliwyd yn Llundain, dan lywyddiaeth y Parch. R. Reece. Gwnaeth y Gynhadledd hon ddinystr ofnadwy ar yr achos Cymreig. Chwalwyd y Cylchdeithiau, attaliwyd y cynorthwy o'r Drysorfa Genhadol-at ei gynal, cymerwyd rhai o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd i'r gwaith Seisnig, a gorfu ar eraill roddi y weinidogaeth i fynu. Am y flwyddyn hon dywed Dr. William Davies fel y canlyn"Gwnaed rhyw chwaliad dinystrio! iawn ar y gwaith Cymreig y flwyddyn hon. Nid oedd ond Cylchdeithiau y Gogledd, a thair eraill yn y Deheudir yn rhai Cymreig di-gymysg o'r cwbl a fu unwaith! Unwyd y lleill gyd a'r Cylchdeithiau Seisnig. A mwy na hyny, cyfyngwyd llawer ar y rhai a adawyd. Gwnaed Dolgellau a Machynlleth yn un Gylchdaith, Caernarfon a Pwllheli yn un, a Chaergybi a Beaumaris hefyd yn un. Fel hyn dirlethwyd y gwaith yn y Gogledd i gylch bychan-wyth o Gylchdeithiau. Ffurfiwyd y rhai hyn yn Dalaeth, dan yr enw "TALAETH RHUTHYN," a gosodwyd Mr. David Rogers yn gadeirydd iddi! Blwyddyn ddinystriol i Wesleyaeth yn Nghymru oedd hon. Bu y Dr. Coke farw yn 1814; ac O! mor fuan a chwerw y cafodd Wesleyaid Cymru deimlo hyny. Hyd yr amser yma derbyniai yr achos Cymreig fesur mawr o'i gynhaliaeth o'r Casgliad Cenhadol, ond yn awr taflwyd ef arno ei hun. Disgwylid i'r bachgen 16eg oed ei gadw ei hun bellach. Och, o'r diwrnod! Och, yn wir! Nid oedd ond hyn (sef 1:eg) o Gylchdeithiau yn rhai Cymreig digymysg; unwyd y lleill â Chylchdeithiau Seisnig. Yn ddiau gosodwyd y ddinas yn bentwr, a'r dref gadarn yn garnedd.' Tynwyd rhif y Gweinidogion i lawr o 45 i 39. Cymerwyd y Parchn. John Bryan, John Rogers, Hugh Carter ac Owen Davies i'r gwaith Seisnig, a rhoddodd y Parchn. William Jones a Griffith Owen y weinidogaeth fyny, am fod yn well ganddynt wasanaethu eu cenedl yn ol y cnawd na myned at y Saeson estronol. Efallai yr hoffai y darllenydd weled pa fodd y safai sefydliadau y Gweinidogion Cymreig ar ol y chwaliad mawr hwn yn y flwyddyn 1816.

TALAETH ABERTAWE (SEISNIG)

Abertawe—Thomas Ashton, Owen Recs, John Keeling.
Merthyr— William Woodall, Morgan Griffith, Owen Thomas.
Aberhonddu—George Birley, Evan Parry, William Davies,
Mynwy—William Brocklehurst, William Edwards.
Caerdydd—James Dixon, Griffith Hughes, David Jones, 1af.
Caesnewydd—Simon Day, Joseph Raynor.

SIMON DAY, Cadeirydd.

TALAETH CAERFYRDDIN (SEISNIG).

Caerfyrddin—Thomas Warren, Hugh Hughes, John Williams, Joseph Cole.
Llandeilo—John Jones, hynaf, Robert Jones, hynaf.
Aberteifi—John Davies, Lot Hughes.
Haverford West—William Hayman, John Overton.
Penfro—Thomas Twiddy, John Rogers.
Aberystwyth—Edward Jones, 3ydd, Evan Edwards.

THOMAS WARREN, Cadeirydd y Dalaeth.

TALAETH RHUTHYN (CYMREIG),

Rhuthyn a Dinbych—William Evans, Maurice Jones.
Treffynnon—Samuel Davies, Robert Owen.
Llangollen—William Batten, John Jones, ieu.
Llanfyllin—Lewis Jones, Humphrey Jones.
Machynlleth a Dolgellau—R. Humphreys, Evan Hughes, Owen Jones, ieu.
Caernarfon a Pwllheli—Robert Roberts, David Jones, ieu.; R. Jones, ieu.
Caergybi a Beaumaris——D. Rogers, John Williams, William Hughes.
Llanrwst—David Evans, Richard Bonner.

DAVID ROGERS Cadeirydd.


CENHADAETH CYMREIG YN LLOEGR.

Llundain—Thomas Thomas.
Liverpool—Edward Jones, I; Edward Jones, 2, Uwchrif.
Manchester David Williams.

Fel y nodwyd, nid oedd yn y Dywysogaeth y flwyddyn hon ond un—ar—ddeg o Gylchdeithiau Cymreig, sef wyth yn ffurfio "Talaeth Rhuthyn," a thair, sef, Llandeilo, Aberteifi, ac Aberystwyth, yn perthyn i "Dalaeth Caerfyrddin."

Yn y Gynhadledd a gynhaliwyd yn Sheffield yn y flwyddyn 1817, crynhowyd unwaith eto yr holl Cylchdeithiau Cymreig i un Dalaeth, dan yr enw "Yr Ail Dalaeth Gymreig." Cynwysai ddeuddeg o Gylchdeithiau, sef (1) Merthyr ac Aberhonddu; (2) Caerdydd; (3) Caerfyrddin a Llandeilo; (4) Aberteifi; (5) Aberystwyth; (6) Rhuthyn a Llangollen; (7) Dinbych a Llanrwst; (8) Treffynnon; (9) Llanfyllin; (10) Machynlleth a Dolgellau; (11) Caernarfon a Pwllheli; (12) Caergybi a Beaumaris. Penodwyd y Parch. David Rogers yn gadeirydd y Dalaeth. Y flwyddyn hon cymerwyd y Parchn. E. Jones (Bathafarn), John Jones (Corwen), ac Evan Parry (Helygain), i'r gwaith Seisnig, a gorfu ar y Parch. Robert Roberts ofyn caniatad i fyned yn uwchrif am fod ei iechyd wedi tori i lawr. Yr oedd hyn yn lleihad. o bedwar yn rhif y Gweinidogion. Nis gellir dywedyd yn sicr faint oedd y lleihad yn rhif yr aelodau y flwyddyn derfynai Mawrth, 1817, am nad oes genym gyfrif o'r aelodau Cymreig yn Nghylchdeithiau Seisnig y Deheudir. Fel y gwelir, bu lleihad o ddeg yn rhif y Gweinidogion mewn dwy flynedd, ac fel hyn y dywedodd y diweddar Barch. W. Davies, D.D.—"Canlyniad y cwbl oedd, cyfyngder mawr ar bregethwyr a'u teuluoedd; digalondid fel effaith hyny; cynulleidfaoedd a societies yma a thraw yn dihoeni o eisieu gofal; lleoedd pregethu yn cael eu rhoddi i fyny; a'r hyn y buwyd un ar bymtheg o flynyddoedd yn llafurio i'w godi i fyny, mewn perygl mawr o syrthio yn adfail drachefn. Do, Do, rhoddwyd archoll y pryd hwnw i Wesleyaeth Gymreig, sydd wedi gadael ei ol arni hyd heddyw."

Naturiol gofyn-Beth fu yr achos neu yr achosion o'r aflwyddiant a'r lleihad a gymerodd le yn y blynyddoedd hyn? Tybiwn y gellir nodi amryw achosion i'r cyfryw. Yn

1. Yr oedd yr erlidigaeth a fu ar Wesleyaeth yn y blynyddoedd cyntaf, ac a barhaodd am amser maith, yn sicr o fod yn un achos o'r aflwyddiant. Ymosodid arni yn ddiarbed trwy y wasg, ac o bwlpudau y tri enwad oeddynt yn barod wedi gwreiddio yn Nghymru. Gwnaeth y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, ei oreu trwy y wasg i'w llesteirio, a phob peth yn ei allu o'r pwlpud i greu dychryn yn nghalonau y bobl tuag at Arminiaeth neu Wesleyaeth. Ac felly, hefyd, y gwnaeth y Parch. Christmas Evans. Gosodai ei saethau gwenwynig ar ei fwa, ac anelai hwynt âg un llygad yn nghyfeiriad Wesleyaeth, gan eu gollwng oddiar y llinyn gyd â'i holl rym i'w chlwyfo a'i lladd. Nid ydym yn ameu nad oedd yr enwogion hyn yn ddigon cydwybodol, ac yn tybio eu bod yn cyflawni gwasanaeth i Dduw, ac iddynt gyflawni y gwaith yn eu hanwybodaeth. Diameu i ymosodiadau hyfion y gwŷr nerthol hyn ac eraill ar Wesleyaeth yn ei babandod effeithio i ryw fesur er attal ei chynydd, ac i ddwyn ffrwyth gweledig trwy leihau ei dylanwad.

2. Achos arall o'r lleihad ydoedd ansefydlogrwydd crefyddol llawer o'r rhai a ddalient aelodaeth eglwysig yn y Gyfundeb. Nid oedd iddynt wreiddyn, ond dros amser. Daethant i mewn i ganlyn y llanw mawr yn mlynyddoedd llwyddiant; ond nid oeddynt yn meddu ar wroldeb na gonestrwydd, i fod yn ffyddlon i anhawsterau a chyfrifoldeb y llwyddiant hwnw. Yr oedd yn mhlith ein haelodau cyntaf lawer a deimlant ymlyniad wrth yr Eglwys Wladol, a phan welodd y cyfryw fod baich trwm o gyfrifoldeb yn dyfod i orphwys ar yr enwad yn nglyn a'r nifer luosog o Gapelau a adeiladwyd; yn nydd profedigaeth ciliasant; a phrofasant hwy ac eraill, y disgwylid yn rhesymol iddynt gyd-ddwyn y baich, yn anffyddlon i'w rhwymedigaethau.

3. Diameu i farwolaeth Dr. Coke effeithio, hefyd, i ryw fesur i ddigaloni y rhai a lafurient yn y gwaith Cymreig, ac yn enwedig waith y Gynhadledd yn tynu i lawr swm y cynorthwy a estynid o'r Drysorfa Genhadol i gario yn. mlaen y gwaith yn Nghymru. Paham yr ymddygodd y Gynhadledd fel hyn tuag at yr achos Cymreig sydd i ni i fesur yn ddirgelwch, tra yr ymddygodd mor wahanol tuag at yr achos yn yr Iwerddon. Ai onid oedd gwell maes o lawer i weithio yn Nghymru nag yn yr Ynys Werdd? Ond parhawyd i gynorthwyo y Gwyddel o'r Drysorfa Gen- hadol, tra y gadawyd i'r Cymro i fesur pell i ymdaraw drosto ei hun cystal ag y gallasai. Nid oedd yr achos Cymreig eto ond ieuanc; ac ystyried ei amgylchiadau gweithiai yn rhagorol, yn enwedig mewn adeiladu Capelau ac yn y blaen. Ac yr oedd hyn yn llyncu i fyny holl adnoddau ein pobl ar y pryd. Bu i oerfelgarwch ym- ddygiad y Gynhadledd yn y blynyddoedd 1815 a 1816, yn sicr gyfranu yn effeithiol at achosion lleihad ac aflwyddiant y gwaith yn Nghymru yn y blynyddoedd hyn.

4. Rhaid cymeryd, hefyd, i ystyriaeth mai Crefyddwyr ieuainc oedd y rhan luosocaf o'n haelodau ar derfyn y flwyddyn 1811, ac felly nid oedd yn eu plith ond nifer gymharol fechan o ddynion profiadol i fod yn arweinwyr a blaenoriaid. Bu cynydd yr achos yn y blynyddoedd cyntaf yn gyflymach na chynydd yr adnoddau magwriaethol, ac effeithiau hyny i ryw fesur oedd yr adweithiad a gymerodd le yn y blynyddoedd o 1811 hyd 1817.

5. Ond nis gallwn fyned heibio heb sylwi ar un ffaith arall, a effeithiodd yn anfanteisiol ar lwyddiant yr achos yn y cyfnod hwn, sef, gwaith y Gynhadledd yn cyfuno neu yn cymysgu yr achosion Cymreig â Seisnig. Bu y blynyddoedd hyn yn flynyddoedd cymysgiad (amalgamation) yr achosion Cymreig â Seisnig yn y Deheudir. Bu yr anghenfil corniog a chynffoniog hwn yn y blynyddoedd hyn, fel mewn amryw engreifftiau ar ol hyny, megys yn achos Pontfaen a Chaerfyrddin, yn bwrw iâ marwolaeth a barug angeuol ar yr achosion Cymreig gan geisio eu gwywo o'r tir. Ac mewn blynyddoedd diweddarach bu yn dangos ei ddanedd ysglyfaethus, a'r hyn y rhyfeddem ato oedd, fod dynion a broffesent awydd angherddol am lwyddiant yr achos Cymreig wedi eu hudo i fod yn fraich iddo.

PENNOD VIII.

Gwawr Amseroedd Gwell
(O 1817 hyd 1828).

AR ol trai mawr y blynyddoedd diweddaf dechreuodd y llanw gyfodi drachefn. Pan gyfarfyddodd Cynhadledd 1818 yn Leeds, yr oedd rhif aelodau Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn 4763, yr hyn oedd yn gynydd ar y flwyddyn o'r blaen o 109—cynydd bychan mae yn wir, ond er hyny parodd sirioldeb mawr i'r rhai a deimlent ddyddordeb yn llwyddiant yr achos Cymreig. Cadeirydd y Dalaeth am y flwyddyn hon, hefyd, oedd y Parch. David Rogers. Bu farw y Parch. Robert Roberts a aeth yn Uwchrif y flwyddyn o'r blaen, ac enciliodd Mr. Maurice Jones o'r weinidogaeth, felly daeth rhif y gweinidogion i lawr i 34, sef un yn llai na'r flwyddyn o'r blaen.

Yn ystod y chwarter a derfynai Mawrth, 1818, cymerodd ymraniad le mewn cysylltiad a'r achos yn Liverpool, yr hwn a elwid "Ymraniad y Wesla bach." Gyd â golwg ar yr ymraniad hwnw, gosodwn gerbron dystiolaeth y Parch. Lot Hughes yn yr Eurgrawn am 1872, tudalen 342:—

Mynych cyfeirir at y cyfnod yma (1817 a 1818) fel adeg bwysig iawn i'r achos, gan mai dyma yr adeg y cymerodd yr ymraniad hwnw le, a elwir yn "Ymraniad y Wesla bach." Parodd hyn i ni fanylu cryn lawer ar yr ystadegau am yr amser; ac nid ydym yn gwybod i gymaint o havoc gael ei wneyd ac a ddysgrifir weithiau." (Yma ceir ystadegau gan Mr. Hughes yn dangos i 53 o aelodau gael eu colli yn Chwarter Medi, 1818, ond er hyny fod y cyfraniadau at y Weinidogaeth wedi codi.) Efallai mai prif, os nad unig achos yr ymraniad, oedd cynhaliad y Weinidogaeth. Gwir fod hyny wedi cael ei guddio o'r golwg â phroffes o ofal am wragedd gweddwon, ac â honiad o dra-arglwyddiaeth y gweinidogion. Ond awydd i lymhau cefn, ysgafnhau llogell, a thyneuo bwrdd y gweinidog oedd wrth wraidd yr ymraniad. Niwaid mwyaf y cyffro oedd aflonyddu y rhai cywir a didwyll, ond sydyn, byrbwyll, a chwyrn. Collwyd blaenoriaid felly am dymor. . . . Nid oes â fynom ni a dilyn ar ol yr Ymranwyr. Adeiladasant gapel ar y cyntaf yn Brick Street, allan o James' Street. Yn mhen amser aeth y gymydogaeth yn isel, ac adeiladwyd capel yn Gill Street. Yno y buont yn addoli tra y parhaodd rhyw nifer i dd'od ynghyd. Ond y maent wedi llwyr ddiflanu o'r golwg er ys blynyddoedd. Dylem synio y goreu am bawb, a phriodoli yr amcanion goreu i rai cyfeiliornus mewn barn a gweithrediadau. Ond dylid cofio mai pechod ofnadwy ydyw aflonyddu heddwch Israel Duw, a gosod rhwystrau ar ffordd ymdaith y gwersyll yn mlaen. Bron na ddywedwn mai gwell cael bedd pob rhyw gymeriad na bedd Corah, Dathan, ac Abiram."

Cyfarfyddodd Cynhadledd 1819 yn Bristol, ac yr oedd rhif yr aelodau perthynol i'r Dalaeth Gymreig wedi codi i 5170, cynydd ar y flwyddyn o 407. Diameu i'r llwydd- iant hwn fod yn destyn llawenydd mawr i'r Parch. D. Rogers, yn ogystal ag i'r gwŷr galluog a ffyddlon a gyd-lafuriant âg ef. Ond gwnaeth y Gynhadledd ddifrod ychwanegol ar yr achos Cymreig trwy gymeryd i'r gwaith Seisnig y Parch. D. Rogers, a hyny yn groes iawn i'w deimladau ef ei hun, ac er siomedigaeth i'r Wesleyaid Cymreig. Cymerwyd ymaith, hefyd, dri eraill i'r gwaith Seisnig y flwyddyn hon, sef y Parchn. Owen Rees, William Davies, yr 2il, ac Edward Jones, y 4ydd, ac felly rhif y Gweinidogion yn y gwaith Cymreig bedwar yn llai. Yn y Gynhadledd hon penodwyd y Parch. John Williams, 1af, yn Gadeirydd y Dalaeth, a pharhaodd yn y swydd am ddwy flynedd. Galwyd ef i waith y Weinidogaeth yn 1805. Deallai athrawiaethau crefydd yn dda, a meddai safle barchus fel duwinydd ac awdwr. Yn ystod dwy flynedd ei swyddogaeth ef parhaodd y gwaith da i lwyddo, fel y prawf y ffaith, fod rhif yr aelodau yn 1821 yn 5629, cynydd yn ystod y ddwy flynedd o 459. Yn y flwyddyn 1820 aeth y Parch. David Jones, 1af, yn Uwchrif, ac felly bu lleihad o un yn rhif y Gweinidogion. Ffurfiwyd tair Cylchdaith newydd, sef Aberhonddu, Llandeilo, a Llanrwst.

Yn y flwyddyn 1821, penodwyd y Parch. W. Davies, 1af, yn Gadeirydd y Dalaeth, ac efe a barhaodd yn y swydd am bum' mlynedd yn olynol. Aeth y Parch. J. Williams, 1af, yn Uwchrif y flwyddyn hon, ond trwy i'r Parch. W. Davies, 1af, ddychwelyd i'r gwaith Cymreig, cadwyd rhif y Gweinidogion yn 29 fel y flwyddyn o'r blaen. Bu ychydig o gynydd yn ystod y flwyddyn hon yn rhif yr aelodau.

Yn Nghynadledd 1822 gorfu i'r Parch. David Williams ofyn am ganiatâd i fyned yn Uwchrif o herwydd gwendid ei iechyd. Dyma y flwyddyn, hefyd, y peidiodd Mr. Owen Thomas a theithio, trwy roddi i fyny y Weinidogaeth ac ymsefydlu yn Nghaergybi. Ond cadwyd rhif y Gweinidogion yn 29 fel y flwyddyn o'r blaen, trwy i'r Parch. John Williams, af, ail-ymaflyd yn ei waith, ar ol bod yn Uwchrif am flwyddyn, ac, hefyd, trwy i un o'r newydd gael ei alw allan i waith y Weinidogaeth. Ni alwyd neb allan er y flwyddyn 1813 o'r blaen, a hwn yw y cyfnod mwyaf i hyny ddigwydd yn hanes yr enwad o'r dechreu hyd yn awr.

Yr un a alwyd allan oedd

DAVID MORGAN, o Langadog, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy. Tynai gynulleidfaoedd mwy na chyffredin, a byddai y gair o'i enau "fel gwlaw ar gnu gwlân, ac fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear." Meddai lais cwmpasog a da, "a chafodd ei lafur ei arddelwi yn helaeth, a'i fendithio yn fawr gan Dduw er dychwelyd pechaduriaid, ac adeiladaeth credinwyr." Bu farw yn Mhontfaen, Morganwg, Rhagfyr 3, 1848, yn 55 mlwydd oed, ar ol bod yn y Weinidog- aeth am 26 o flynyddoedd.

Yn y flwyddyn 1823, bu cynydd sylweddol iawn yn rhif yr aelodau. Yr oedd eu rhif y flwyddyn hon yn 6136- cynydd o 504. Safai rhif y Cylchdeithiau yn 13 fel y flwyddyn cynt, ond bu un o gynydd yn rhif y Gweinidogion trwy i'r Parch. David Williams ail-ymaflyd yn ei waith. Naw ar hugain fu rhif y Gweinidogion am y tair blynedd diweddaf, ond ant ar gynydd bellach o flwyddyn i flwyddyn.

Nid oes ond ychydig i'w gofnodi am y flwyddyn 1824. Bu cynydd o 224 yn rhif yr aelodau, cynydd o ddwy yn rhif y Cylchdeithiau, sef Llanidloes a Pwllheli, a chynydd o un yn rhif y Gweinidogion trwy i'r Parch. David Jones cyntaf, ar ol bod yn Uwchrif am bedair blynedd, gael adferiad iechyd fel ag i'w alluogi i ail-ymaflyd yn ei waith. Erbyn hyn yr oedd y gwaith yn sirioli ac yn dechreu llwyddo yn ei holl adranau.

Llwyddiant, hefyd, ydyw hanes y flwyddyn 1825. Bu cynydd o dros 150 yn rhif yr aelodau, ac o un yn rhif y Gweinidogion. Y flwyddyn hon enciliodd Robert Jones, 1af, o Llanerchymedd, o'r gwaith, ond galwyd dau allan o'r newydd, sef yn 1. JOSEPH JONES, o Ysgeifiog, Sir Fflint. Bu raid iddo ef adael y gwaith yr un flwyddyn, ac mewn canlyniad aeth drosodd i Eglwys Rhufain, ac yn mhen amser ordeiniwyd ef yn offeiriad ynddi.

2. JOHN L. RICHARDS, o Lanfair isaf, ger Harlech, Sir Feirionydd. Dychwelwyd ef at grefydd yn ieuanc, a dechreuodd bregethu cyn ei fod yn ddeunaw mlwydd oed. Bwriadai ei dad ei anfon i Rydychain i'w barotoi ar gyfer y Weinidogaeth yn yr Eglwys Wladol; ond gwell oedd ganddo oddef adfyd gyd â phobl ei ddewisiad, na chael mwynhau bywoliaeth frâs dros amser. Yr oedd yn wylaidd a mwyn ei ysbryd, yn meddu synwyr naturiol cryf, ac yn bregethwr rhagorol. Byddai ei bregethau wedi eu myfyrio a'u trefnu yn dda, a thraddodai hwynt gyd â difrifoldeb a gwres. Etholwyd ef yn Ysgrifenydd Cyllidol y Dalaeth Ogleddol yn 1833, a pharhaodd yn y swydd hono am dair a'r hugain o flynyddoedd. Mor bell ag y gallwn gael allan efe fu hwyaf yn yr un swydd o bawb a fuont yn swyddogion yn y Dalaeth. A diameu mai efe a ddewisasid yn Gadeirydd ar ymneillduad y Parch. Edward Anwyl oni buasai iddo wrthod yr anrhydedd yn benderfynol. Datganodd ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ei hyder sicr y byddai "yn wastadol gyd â'r Arglwydd." Bu farw yn Llansantffraid-yn-Mechain, Mawrth 18fed, 1865, yn 65 mlwydd oed, ac yn y 40fed o'i Weinidogaeth.

Cynhaliwyd y Cyfarfod Talaethol 1826 yn Llanidloes—y Parch. W. Davies, 1af, yn Gadeirydd. Hwn oedd y Cyfarfod Talaethol olaf iddo ef fod yn yn y gadair. Bu tymor ei swyddogaeth yn un tra llwyddianus. Cyfododd rhif yr aelodau o 5410 i 6744, sef cynydd o 1334. Fel hyn canfyddwn fod Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig erbyn yn awr wedi mwy nag enill y tir a gollodd yn y blynyddoedd, o 1811 hyd 1817. Nid oes lawer i'w ddywedyd am y blynyddoedd hyn amgen nag i waith mawr gael ei gyflawni gan y tadau, mewn adfeddiannu tiroedd a gollwyd, adeiladu Capelau, a chasglu tuag at glirio eu dyledion.

Yr oedd yn bresenol yn Nghyfarfod Talaethol y flwyddyn hon, heblaw Gweinidogion y Dalaeth a Chynrychiolwyr y Gynhadledd, y Parch. Edward Jones, gynt o Bathafarn. Diameu mai un rheswm dros ei bresenoldeb ef oedd yr helyntion blin y dygwyd ef iddynt mewn cysylltiad â dyledion Gapelau ag yr oedd ef yn ymddiriedolwr iddynt. Teifl y difyniad canlynol o'i gofiant, gan y Parch. William Evans, oleuni ar hyn—

"Er fod Mr. Jones wedi ymadael a Chymru, ni chafodd ymadael a'i rwymedigaethau (responsibilities) ag oedd ef wedi myned oddi tanynt tra yn Nghymru, a hyny yn benaf yn achos Capelydd a fu yn foddion i'w hadeiladu mewn amryw fanau, yn ei gariad a'i sel am fyned a'r achos da yn ei flaen. Parodd y rhai hyn iddo ofid mawr am flynyddau, os nad ar hyd ei oes. Heblaw y boen, y drafferth, a thraul a gafodd tra yn eu hadeiladu, yr oedd wedi dyfod yn ymddiriedolwr (trustee) i amrai o honynt; ac o herwydd hyny, bu gorfod arno dalu llawer o ganoedd o bunau yn eu hachos. A da fu iddo gael chwe' chant neu saith ar ol ei rieni, onidê, y mae yn anhawdd gwybod yn mha le y buasai ei ofid yn dybenu. A rhwng bod ei deulu yn fawr ac yn gostus i'w dwyn i fyny, ac yntau wedi gorfod talu cymaint, yr oedd y naill beth gyd â'r llall wedi ei wasgu i amgylchiadan anghysurus ac isel. Ac yn y cyfyngder yma, nid oedd ganddo ddim i'w wneyd ond dyweyd ei gwyn a'i sefyllfa wrth y Gynhadledd, a chafodd ganiatad i ddyfod i Gymru i gasglu yr arian a dalodd felly, os gallai. Daeth i Gymru ddwy waith ar yr achos hyny; a bu ddiwyd iawn, ac yn pregethu yn fynych, a chasglu o ddrws i ddrws, am wythnosau bob tro yn Ngogledd a Deheudir Cymru; mae yn sicr nad oedd dim yn ddigonol reswm i ŵr o'i fath ef gymeryd y fath waith arno, ond ei gyfyngder, yn achos bod eiddo ei blant wedi eu talu fel hyn ymaith, a dim gobaith i'w cael yn ol heb hyny."

Gwnaeth y Cyfarfod Talaethol y flwyddyn hono un peth neillduol allan o'r ffordd gyffredin, sef anfon Cyfarchiad at y Gynhadledd, wedi ei arwyddo gan y Cadeirydd. Dengys y cyfryw fod y tadau yn fyw i'w gwaith a'u cyfrifoldeb. Buasai yn dda genym allu rhoddi y Cyfarchiad i mewn yn gyflawn, ond prinder gofod a'n lluddia. Ymddangosodd yn yr Eurgrawn am 1826, tudalen 410. Difynwn a ganlyn—

Yn y rhan hon o winllan yr ARGLWYDD, y mae genym achos i fod yn llawen a chymeryd cysur; oblegid y mae genym bob sail ysgrythyrol i gredu fod yr ARGLWYDD o'n plaid. Pan yr ydym yn cymeryd golwg ar ddechreuad y gwaith mawr yn y Dywysogaeth, yn meddwl am yr offerynau parchus a ddefnyddiwyd, rhai o'r cyfryw sydd yn parhau hyd y dydd hwn, wedi ei harianu gan amser, ac yn edrych arnom ni ein hunain ag sydd yn awr yn ymgydio â'r gwaith, hawdd y gallwn gael ein colli mewn syndod, a distaw fawrhau, a dywedyd, Pa beth a wnaeth Duw? Dechreu- asom, bawb o honom o'r braidd, ein pererindod grefyddol, a'n milwriaeth efengylaidd, ar yr un amser; ac er i ni gael gelynion grymus a nerthol i ymwneyd â hwy, eto, er gwaned ydym, er llesged y buom, yr ydym yn dilyn; ac i Dduw y byddo yr holl ogoniant, wedi cael help gan Dduw, yr ydym yn aros hyd y dydd hwn; ac er ein bod mewn llafur yn ehelaeth, trwy bregethu ar y cyfan naw gwaith yn wythnosol, ac weithiau lawer amlach, eto, pan ofynwyd y gofyniad syml a phwysig, 'Pa bregethwyr (o honom) a fuont feirw yn ystod y flwyddyn.' Yr atebiad ydoedd, Neb; a dim ond un yn analluog i gyflawni ei alwad'—Gogoniant i Dduw yn y goruchafion. Mae ein hachos yn cyfodi yn raddol ac yn effeithiol yn y Dywysogaeth. Yn mhob tref o'r bron y mae eisiau lleoedd helaethach i addoli."

"Mae ein Hysgolion Sabbothol yn parhau yn llwyddianus, yn y rhai y mac gerllaw 15000 o blant, pobl, a dysgawdwyr. Yr ydym yn canfod fod ym- arferiadau egwyddorol yn dra defnyddiol, nid yn unig wrth hyfforddi ein miloedd yn y ffordd y dylent rodio, ond, hefyd, wrth bregethu i eraill wirioneddau mawrion ein crefydd sanctaidd."

"Mae ein pethau tymhorol ar wellhad o flwyddyn i flwyddyn, ac y mae Duw yn cyfodi dynion ieuainc, o gymwysderau defnyddiol, er ymledaenu y gorchwyl mawr hwn. Cafodd tri eu holi yn y cyfarfod hwn gan ein Llywydd, a rhoddasant lawn foddlonrwydd ar y pyngciau mawrion gofynol i wyr ieuainc eu gwybod cyn cael eu cynyg i waith y Weinidogaeth yn ein plith. Ac yr ydym yn taer obeithio gwna y Gymanfa ganiatau i ni eu cymeryd allan, gan fod amryw leoedd pwysig wedi cael eu rhoddi i fyny pryd y lleihawyd nifer y pregethwyr yn Nghymru; ac, yn y cyffredin, nis gallwn ni gymeryd rhagor o leoedd i mewn nag sydd genym yn bresenol."

"Athrawiaeth Croes CRIST yn ei llawn helaethrwydd—Efe a brofodd farwolaeth dros bob dyn sydd yn enill tir yn Nghymru. Yr Athrawiaeth fawr hon, ynghyd â thystiolaeth yr YSBRYD, yn y pregethiad o iachawdwriaeth gyffredinol, lawn, bresenol, a thragywyddol, a wna yn y diwedd attal cenllif Antinomiaeth, gyd â pha un yr oedd y wlad hon wedi ei gorlenwi yn ddychrynllyd."

"Mewn llawer lle cawsom lawer i wneyd gyd a'r Capelydd a adeiladwyd ar ddechreuad y gwaith yn Nghymru, ond y mae rhai o'r rhai gwaethaf ar wellhad; a gellid eto wneyd mwy trwy ymchwiliadau yn y cymydogaethau lle y mae y cyfryw, â help Trysorfa y Capelydd. Y mae genym docynau wedi eu parotoi i gasglu yn wythnosol, misol, chwarterol, neu flynyddol. Yr ydym yn anog y dull hwn yn mhob man y gallwn."

Rhydd y difyniadau hyn o'r Cyfarchiad olwg led glir i ni ar sefylla yr achos ar y pryd. Yn y Gynhadledd a gynhaliwyd yn Liverpool dan lywyddiaeth yr anfarwol Barch. R. Watson, hysbyswyd fod un Gweinidog yn y gwaith Cymreig wedi marw, sef y Parch. Robert Jones, 2il, a bod un arall wedi cael ei attal, sef Joseph Jones, o Ysgrifiog. Ond cadwyd rhif y Gweinidogion i fyny trwy i ddau o'r newydd gael ei galw allan i'r gwaith, sef, yn

1. THOMAS AUBREY, o Nantyglo, Sir Frycheiniog. Yr oedd Mr. Aubrey yn un o ser disgleiriaf y Weinidogaeth a welodd Cymru erioed, ac yr oedd yn ddyn llawn yn mhob cylch. Meddai alluoedd meddyliol o'r dosbarth uchaf. Nid yn fynych y magodd Cymru na'r un wlad arall ddyn o allu amgyffredol mor nodedig gyflym a threiddgar, gallu rhesymiadol mor anarferol o gryf a deifiol, a darfelydd mor gyfartal fyw a beiddgar. Cynwysai ei anerchiadau a'i bregethau esgynebau, sylfaen y rhai fyddent gyfansawdd o ymresymiadau gafaelgar a chryno, a'u huchaf-bwynt yn ffaglu gan areithyddiaeth lawn o dân a goleuni. Yr oedd ei hyawdledd yn ofnadwy ysgubol, ac at y cwbl meddai ar lais ardderchog ac ymddangosiad tywysogaidd. Safodd ar uchelfanau'r maes am yn agos i ddeugain mlynedd, a chyflawnodd waith aruthrol. Yn y flwyddyn 1854 penodwyd ef gan y Gynhadledd yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru, ac yn y swydd hono ad-drefnodd sylfeini Trysorfeydd y Genhadaeth Gartrefol â'r Capelydd, a hyny er mantais anrhaethol i'r achos. Er fod genym bregeth- wyr galluog yn Nghymru o'i flaen, eto credwn mae efe a roddodd i'r pwlpud Wesleyaidd safle yn mhlith pwlpudau yr enwadau eraill yn y Dywysogaeth, a safle a gadwyd hyd heddyw. Llanwodd y swydd o Gadeirydd y Dalaeth am un mlynedd ar ddeg, sef o 1854 i 1865, a gwelodd lwydiant mawr ar ei waith. Bu farw yn Rhyl, Tachwedd 15fed, 1867, yn 60 mlwydd oed, ac yn ei 41 flwydd o'i Weinidogaeth.

2. JOHN LLOYD, o Lanidloes, Sir Drefaldwyn. Yr oedd ef yn fab dyddanwch, ac yn Weinidog da i Iesu Grist. Cyflawnodd ei swydd yn gymeradwy, a gwelodd lwyddiant ar ei lafur. Bu farw yn Liverpool, Medi 2, 1869, yn 67 mlwydd oed, ar ol bod yn y Weinidogaeth am 43 o flynyddoedd.

Etholwyd y Parch. John Davies, o Helygain, yn Gadeirydd y Dalaeth y flwyddyn hon, yn olynydd i'r Parch. William Davies, 1af.

Ni ddigwyddodd dim neillduol mewn perthynas â'r achos Cymreig yn Nghynadledd 1827, yr hon a gynhaliwyd yn Manchester. Bu cynydd o 134 yn rhif yr aelodau.

Cynhaliwyd y Cyfarfod Talaethol Cymreig yn Dinbych, Mehefin 16eg, 1828, a'r dyddiau canlynol. Y Cadeirydd oedd y Parch. John Davies. Yr oedd y Parch. J. Stephens, Llywydd y Gynhadledd, hefyd, yn bresenol. Ychwanegwyd dros ddau gant at rif yr aelodau yn ystod y flwyddyn, heblaw y canoedd oedd ar brawf. Difynwn a ganlyn o adroddiad y Cyfarfod hwnw—"Adeiladwyd amrai Gapelydd, a helaethwyd eraill; mae lluaws eto i gael eu hadeiladu a'u helaethu eleni. Y mae y cynulleidfaoedd yn lluosogi, a'r Ysgol Sabbothol yn flodeuog, ac y mae amryw Weinidogion newyddion yn cael eu galw allan i'r gwaith." Nid oes air o grybwylliad yn yr adroddiad gyd a golwg ar raniad y Dalaeth.

Cyfarfu y Gynhadledd y flwyddyn hon (1828) yn Llundain—y Parch. J. Bunting, M.A., yn Llywydd am yr ail waith. Yr oedd hon yn Gynhadledd bwysig yn hanes Wesleyaeth Gymreig, am mai ynddi hi y rhanwyd y Dalaeth Gymreig yn ddwy. Yr oedd yr holl Gylchdeithiau Cymreig yn y Dywysogaeth er y flwyddyn 1817 yn un Dalaeth, ac yn cael ei hadnabod wrth yr enw Yr Ail Dalaeth Gymreig." Nid oedd dim ond Saesneg yn cael ei bregethu yn Y Dalaeth Gymreig Gyntaf," a dim ond Cymraeg yn yr Ail. Fodd bynag, fel y nodwyd, trefnodd y Gynhadledd hon y Cylchdeithiau Cymreig yn ddwy Dalaeth, a galwyd y naill "Yr Ail Dalaeth Ddeheuol" a'r llall Y Dalaeth Ogleddol." Yr oedd ar y pryd 16 o Gylchdeithiau Cymreig yn y Dywysogaeth, a rhanwyd hwy yn gyfartal trwy roddi wyth i wneyd i fyny y naill Dalaeth a'r llall. Ceir golwg ar y rhaniad yn Sefydliadau y Gweinidogion y flwyddyn hono a geir ar derfyn y bennod hon. Yn y Gynhadledd hon aeth dau yn Uwchrifiaid, sef y Parchn. John Williams, 1af, a Griffith Hughes, ond cadwyd i fyny rif y Gweinidogion fel y flwyddyn cynt trwy i ddau gael cu galw allan i'r gwaith o'r newydd, sef, yn

1. HUMPHREY JONES, o Ynys Capel, Tre'rddol, ger Aberystwyth, Sir Aberteifi. Yr oedd ei feddwl wedi ei ddiwyllio a'i eangu trwy efrydiaeth ddyfal, a'i ysbryd yn fwyn a gwir Gristionogol. Bu yn foddion i droi llawer i gyfiawnder, ac i adeiladu yr Eglwysi. Fel bugail yr oedd yn ddiwyd, serchus, a ffyddlon. Ei eiriau diweddaf oeddynt, Crist yw fy Iachawdwriaeth;

Dedwydd wrth farw os cai'r fraint
Gael am ei enw sôn;
A gwaeddu yn ngwyneb angau dû,
O wele, wele'r Oen."

Bu farw yn dra di-symwth yn Beaumaris, Mai 24, 1861, yn y 55 flwydd o'i oedran, a'r 33 o'i Weinidogaeth.

2. THOMAS JONES, o Mydreilyn, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn naturiol yn ddyn o ddoniau a thalentau disglaer. Cafodd fanteision addysg gwell na llawer. Darllenai lawer, ac yr oedd yn efrydydd diwyd ac ymroddol. Cyhoeddoedd rai llyfrau. Efe oedd awdwr "Elfenau Duwinyddiaeth." Ac mewn cysylltiad â'r Parch. Samuel Davies, raf, cyhoeddodd "Y Drysorgell Efengylaidd," sef Corph o Dduwinyddiaeth ar Athrawiaethau Crefydd. Hwn ydoedd y gwaith pwysicaf a gyhoeddwyd gan y Wesleyaid Cymreig ar Dduwinyddiaeth yn ystod y ganrif. Mae yn gyfrol drwchus ac yn waith o deilyngdod uchel iawn. Ar gyfrif ei ragoriaethau fel Duwinydd, derbyniodd y gradd o Doctor of Divinity, ac yr oedd yn mhob ystyr yn deilwng o hono. Bu yn Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol am ugain mlynedd, sef o 1846 hyd 1866. Yr oedd ef yn mhob ystvr yn ddyn anghyffredin. Bu farw yn Tyddewi, Gorphenaf, 1891, yn ei 88 mlwydd o'i oedran, a'r 63 o'i Weinidogaeth.

Gosodwn yma Sefydliadau y Gweinidogion am y flwyddyn 1828-29 fel eu trefnwyd yn y Gynadledd y gwnaed y Cylchdeithiau Cymreig yn ddwy Dalaeth. Dylem nodi fod ychwanegiad o un yn y Gylchdeithiau y flwyddyn hon, sef Abertawe.

"YR AIL DALAETH DDEHEUOL."

MERTHYR TYDFIL—Edward Anwyl, Owen Jones.

CAERDYDD—Robert Humphreys, John Lloyd.

LLANDEILO AC ABERHONDDU—William Hughes, Evan Edwards.

ABERTAWE—William Davies, Iaf.

CAERFYRDDIN—Hugh Hughes, Thomas T. Jones, John Williams, 1af, Uwchrif.

ABERTEIFI—John Davies, 2il; Humphrey Jones, 1af.

ABERYSTWYTH A MACHYNLLETH—David Evans, John Jones, 2il.

LLANIDLOES—David Jones, 2il: John Williams, 2il, Golygydd.

JOHN DAVIES, 2il Cadeirydd y Dalaeth.

"TALAETH GOGLEDD CYMRU."

RHUTHYN A LLANGOLLEN—William Batten, Lewis Jones.

DINBYCH A LLANRWST—Edward Jones, 3ydd; David Williams.

TREFFYNNON—Thomas Thomas, Lot Hughes.

BEAUMARIS—Morgan Griffith, Humphrey Jones, 2il; G. Hughes, Uwchrif.

CAERNARFON—Evan Hughes.

PWLLHELI—Richard Bonner.

DOLGELLAU—William Evans, Thomas Aubrey.

LLANFYLLIN A LLANFAIR—Samuel Davies, Robert Owen, Edward Jones, 2il, Uwchrif.

WILLIAM BATTEN, Cadeirydd y Dalaeth.

LLUNDAIN—David Morgan.

LIVERPOOL—David Jones, 1af.

MANCHESTER—John L. Richards.

PENNOD IX.

Adfywhad y Dadleuon Athrawiaethol.

WEDI i'r Parchn. Owen Davies a Thomas Jones, Dinbych, ro'i heibio dadleu â'u gilydd ar yr Athrawiaethau, cafwyd ychydig o seibiant oddi-wrth y dadleuon fu yn cynhyrfu ac yn cyffroi yn ystod y deg mlynedd cyntaf o'n hanes fel Enwad yn Nghymru. Ond er i'r dadleuon drwy y wasg beidio i fesur mawr, eto gwneid ymosodiadau parhaus ar Arminiaeth gan brif bregethwyr y tri Enwad, a diameu fod Gweinidogion y Methodistiaid Wesleyaidd yn amddiffyn Arminiaeth ac yn ymosod ar Galfiniaeth yr un mor egniol, ond i fesur yn fwy llwyddianus. Yn ystod y blynyddoedd o 1812 hyd 1818, yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn dechreu anghydweled yn eu plith eu hunain gyd â golwg ar y Gyfundrefn Galfinaidd, ac nid hir y buont heb fyned i ddadleu â'u gilydd. Parhaodd y dadleuon am flynyddoedd lawer yn eu plith, a gorfu i uchel-Galfiniaeth ro'i ffordd i olygiadau eangach a mwy ysgrythyrol ar athrawiaethau mawrion crefydd ein Harglwydd Iesu Grist.

Yn y flwyddyn 1818 cyhoeddwyd pregeth gan y Parch. D. Rogers ar "Gyfiawnhad trwy Ffydd." Pwnc y bregeth ydyw "Mai ffydd ac nid cyfiawnder Crist yw y cyfiawnder ag y mae Duw yn ei gyfrif i'r hwn ag y mae yn ei gyfiawnhau." Yr oedd Mr. Rogers wedi efrydu ei bwnc yn drwyadl a'i ystyried yn ei holl gysylltiadau. Gofalai fod cynseiliau, ei ymresymiadau yn ffeithiau diymwad, ac o ganlyniad y casgliadau yn angenrheidrwydd y gwirionedd. Nid oes o fewn y bregeth gref hon gymaint ag un haeriad di-sail, a hyny am y gochela yr awdwr rhag ymresymu oddiar egwyddorion cyfeiliornus. Nid ydym yn gwybod i neb ymgymeryd ag ateb y bregeth hon—yn wir yr oedd yn anatebadwy. Bu Mr. Rogers cyn hyn yn amddiffyn yr Athrawiaeth Arminaidd, ac, hefyd, yn ymosod ar yr Athrawiaeth Galfinaidd. Yn yr Eurgrawn am 1813 ceir ei adolygiad ar bregeth Mr. G. Lewis, gynt o Lanuwchllyn. Darllena gwyneb-ddalen y llyfr a gynwysai bregeth Mr. Lewis (Dr. Lewis ar ol hyny) fel y canlyn—"Dyledswydd pawb a glywant yr Efengyl i gredu yn Nghrist, neu alwad gyffredinol yr Efengyl mewn cysondeb âg etholedigaeth bersonol, prynedigaeth neillduol, anallu dyn, a galwedigaeth effeithiol; mewn pregeth ar Ioan, Pen. xii. 36." Cynwysa adolygiad Mr. Rogers ar y bregeth hon saith of ysgrifau, yn y rhai yr â ar ol, Dr. Lewis i'w holl lochesfeydd, a gesyd hwy oll ar dân. Ac am y bregeth, llosgwyd hi yn lludw yn y tân y dodwyd hi ynddo i'w phrofi. Oddeutu yr un adeg ysgrifenodd adolygiad galluog a theg ar amryw erthyglau yn Ngeiriadur y Parch. Thomas Charles, A.C., o'r Bala. Ond credwn nad ysgrifenodd ddim yn fwy galluog na'i bregeth ar gyfiawnhad.

Yr un flwyddyn, sef 1818, cyhoeddodd y Parch. Samuel Davies, y 1af, ei bregeth fawr ar "Crist wedi marw dros bawb." Achlysur traddodiad a chyhoeddiad y bregeth hon oedd fel y canlyn—Pan oedd Mr. Davies yn gweinidogaethu ar Gylchdaith Treffynnon, bu llwyddiant mawr ar yr achos. Ac o herwydd rhyw resymau neu gilydd, ail ddechreuwyd ymosod o ddifrif ar olygiadau Athrawiaethol y Wesleyaid gan uchel-Galfiniaid y wlad, a chyhuddid hwy o fod yn coleddu y syniadau mwyaf gwrthun ac an-ysgrythyrol, a phriodolid iddynt fwriadau isel ac anheilwng. Nis gallasai Mr. Davies oddef hyn, ac felly cyhoeddodd yn Nhreffynnon, y byddai iddo ar nos Sabboth penodol bregethu yn Nghapel Penydref ar "Crist wedi marw dros bawb." Achosodd y cyhoeddiad gynhwrf mawr, a bygythid y cymerai terfysg le os cerid y bwriad allan. Felly, pan ddaeth yr adeg, yr oedd y cyfeillion wedi gwneyd trefniadau i gadw trefn yn, ac o amgylch y Capel. Daeth cynulleidfa anferth yn nghyd, a chafodd y pregethwr amser bendigedig. Ar derfyn yr odfa cyhoeddodd ei fod yn "penderfynu traddodi y bregeth hono ar bob Croes Farchnad yn Sir Fflint, os byddai i'r Calfiniaid i barhau i gamliwio golygiadau Athrawiaethol y Wesleyaid. Aeth sôn am y bregeth hon trwy yr holl wlad, a phenderfynwyd gofyn i Mr. Davies ei thraddodi drachefn ar "Ochr Foel y Parc," lle ar derfyn Siroedd Dinbych a Fflint, rhwng Caerwys ac Ysgeifiog. Ar yr adeg benodedig ymgasglodd miloedd yn nghyd i'r llanerch neillduedig. Wedi darllen a gweddïo a chanu drosodd a throsodd drachefn—

"Dros bawb croeshoeliwyd Arglwydd Nef,
Dros bawb, dros bawb bu farw Ef."

Darllenodd Mr. Davies ei destyn "Ac efe a fu farw dros bawb," 2 Cor. v. 15, ac am yn agos i ddwy awr pregethodd gyd â nerth a gwroldeb un yn argyhoeddedig ei fod yn mynegu y gwirionedd, a chyd â dylanwad mawr. Gwrandawyd arno yn astud gan y dyrfa luosog—yn Galfiniaid yn ogystal ag yn Wesleyaid. Adroddai Mr. John Evans (Ioan Tachwedd) gyd â phleser, ei fod ef yn dychwelyd o'r mynydd ar ol yr odfa gyd â "lot o Galfiniaid," pan ddarfu i un o'r dynion galluocaf o honynt, sefyll ar y ffordd, codi i fyny ei law ddeau, a'i tharaw yn erbyn ei law aswy, a dywedyd yn benderfynol fel un wedi ei lwyr orchfygu—"Waeth tewi, mae y Beibl o'u plaid." Ond nid tewi a wnaeth pawb; eithr yn hytrach aeth yn fwy o ddadleu nag erioed, a hyny rhwng pawb o bob dosbarth. Mewn canlyniad cyhoeddwyd y bregeth yn llyfr yn 1818, ac erys ei dylanwad hyd heddyw er daioni ar lawer.

Wedi cyhoeddiad y bregeth, penderfynodd y blaid wrthwynebol ddyfod allan i amddiffyn eu safle, ac i ymosod ar yr Athrawiaethau Wesleyaidd, ac yn enwedig ar bregeth Mr. Davies. Yn ei ragymadrodd i'w lyfr a elwir Calfiniaeth yn cael ei dadlenu," &c., dywed fel y canlyn—" Ar ol hyn (sef wedi iddo gyhoeddi ei bregeth) dechreuodd y Calfiniaid i ymgynhyrfu yn aruthrol, a chan ofni y buasai eu dychymygion disail, a'u hamcan-dybiau (hypothises) gwarthaidd yn syrthio o flaen y gwirionedd gloyw-lym, fel Dagon o flaen yr arch; hwy yn ddioed a ymruthrasant i'r frwydr, a chan ymddadweinio eu harfau, a bytheirio melldithion yn enw Arglwydd Dduw byddinoedd Israel (fel blaen-brawf tebygaf i'r hyn sydd i'w ddisgwyl), hwy a gyhoeddasant ddau lyfr nodedig, y naill yn erbyn holl Athrawiaethau y Wesleyaid yn ddiwahan, a'r llall yn fwy uniongyrchol yn erbyn fy mhregeth i. Y cyntaf a ysgrifenwyd gan 'Hen Finer,' a'r diweddaf gan ŵr o'r enw Evan Evans." Gyda fod pregeth y Parch. Samuel Davies wedi ei chyhoeddi, cyhoeddwyd "Ymddiddanion rhwng Thomas y Collier a Dafydd y Miner, yn y flwyddyn 1818, yn nghylch amryw bynciau y Grefydd Gristionogol. Wedi eu hysgrifenu er Addysg Proffeswyr Ieuainc ac eraill. Gan Hen Finer. Trefriw: Argraffwyd gan Samuel Williams." Pwy bynag oedd yr "Hen Finer," ysgrifenai yn ddigon rhwydd. Ond y drwg oedd, mai nid yn erbyn Arminiaeth Efengylaidd y Wesleyaid yr ysgrifenai, ond yn erbyn rhyw Arminiaeth o'i ddychymyg ei hun. Nid oedd wedi ymgydnabyddu, medd Dr. Owen Thomas, âg ysgrifeniadau yr Awdwyr galluocaf ar y testynau dan sylw ganddo. Ac ni feddai ond ychydig o allu i fyned i mewn gyd âg un manylder i ystyr yr ysgrythyrau a ddifynid ganddo er ceisio gwrth-brofi y syniadau yr ysgrifenai yn eu herbyn.

Yn y flwyddyn 1819 cyhoeddwyd atebiad i'r llyfr hwn. dan yr enw "Amddiffynwr y gwir; yn yr hwn y dangosir oferedd ymddiddanion y Collier a'r Miner, ac mor afresymol ac anysgrythyrol yw yr athrawiaethau ag y maent hwy o'u plaid." Awdwr y llyfr hwn oedd y Parch. Edward Jones, Llandysilio. Deallai Mr. Jones Galfiniaeth yn dda, a bu agos iddi fod yn foddion i ro'i terfyn ar ei fywyd pan y cofleidiai hi. Yr oedd y Calfiniaid yn gryn elynion iddo, a hyny am ei fod yn gallu llwyddo mor effeithiol i ddangos yr Athrawiaethau Calfinaidd mor ofnadwy arswydus yn eu canlyniadau rhesymegol. Medrai ysgrifenu yn ddoniol a ffraeth, ac mewn dull digwmpas darluniai Galfiniaeth yn ei lliw priodol ei hun. Nid ydym yn tybio y gallwn roddi gwell darluniad o hono fel dadleuydd na'r un a nodir gan y Parch. Samuel Davies yn Nghofiant y Parch. Samuel Davies, 1af. Buasai yn ddifyr genym, er mwyn ein darllenwyr ieuainc ag y mae dull yr hen bobl o ddadleu yn myned yn ddyeithr iddynt, osod gerbron amryw bigion o'r llyfryn hwn. Ni roddwn, modd bynag, ond un engraifft. Cyfiawnder cyfrifol ydyw pwnc yr ymddiddan sydd dan sylw, lle y mae Thomas yn dywedyd—

"Beth a feddyliet ti am y bobl yma pan ddelont i farw? Mae arnaf ofn y bydd llawer o honynt heb y wisg briodas." "Felly finau," meddai Dafydd.
"Beth! ofn y bydd y dynion sydd yn credu yn Nghrist a ffydd Abraham, ac yn rhodio yn llwybrau y ffydd hono hyd farw, heb y wisg briodas yn y diwedd!! Ond y mae hwn, fel pob peth sydd yn perthyn i Galfiniaeth, yn ddisail. A dywedyd y gwir, y mae ef yn beth hollol afresymol clywed Calfin yn dyweyd fod arno ef ofn bod neb yn golledig, oblegid os dywed fod arno ofn i'r etholedig fod yn golledig, dyna fe yn gwadu sicrwydd yr hyn a eilw yn gyfamod tragywyddol. Ac os dywed fod arno ofn i'r gwrthodedig fod yn golledig, dyna fe yn dangos ei fod yn anfoddlon i'r hyn a eilw yn arfaeth foreu. Ac yn wir, ni welwn i yn fy myw fod gan Galfin ddim i'w ofni ond ei athrawiaeth ei hun, neu yn hytrach ddim i'w ofni yn fwy na hono; ond y mae ganddo bob peth i'w ofni tra byddo yn credu hono. Y gwir ydyw hyn, fod yn rhaid i bob un, tra byddo yn credu Calfiniaeth, syrthio naill ai i ryfyg ai i anobaith. Os meddylia ei fod ef wedi ei ethol, RHYFYG yw hyny, canys nis gall ei wybod; tudalen 18. Os meddylia nad ydyw, fe syrth i anobaith; a deg cant i un na ladd efe ei hun. Ac nid wyf yn ameu nad oes llawer yn Nghymru yn dystion byw eu bod yn adnabod rhai a wnaeth hyn. A bydded hyn yn hysbys i'r holl fyd, y buaswn i yn uffern cyn bod yn ddeunaw oed, oni buasai i mi gael cymhorth gan Dduw i gredu mai celwydd oedd Calfiniaeth." Mewn ffordd fel yna y mae y Collier a'r Miner yn cael eu trin gan Mr. Jones drwy gorff y llyfryn.

Yn y flwyddyn 1819 cyhoeddwyd Prynedigaeth neillduol, neu Grist yn rhoi ei hun dros yr Eglwys, lle y cadarnheir yr Athrawiaeth, ac y gwrthbrofir yr holl resymau a arferir yn ei herbyn mewn pregeth a gyhoeddodd Mr. Samuel Davies ar Brynedigaeth Gyffredinol." Enw Mr. Evan Evans (Ieuan Glangeirionydd) sydd wrth y llyfr hwn. Ond y mae cryn amheuaeth ar gwestiwn ei awdwraeth. Y dybiaeth yw iddo gael ei gyhoeddi gan y Parchn. John Elias, o Fôn, a John Parry, Caer, ac na wnaeth Ieuan Glangeirionydd ddim ond ei barotoi i'r wasg a'i gyhoeddi fel llyfr o'i eiddo ei hun. Cymerai Mr. Elias arno fod Arminiaeth is-law ei sylw ef, ac eto ergydiai ati byth a hefyd o'r pwlpud. Ac am Mr. Parry, nid oedd ef wedi anghofio y driniaeth a gafodd yn sylwadau Mr. Games ar ei "Ddrychau Cywir," ac ni fuasai yn hoffi cael triniaeth gyffelyb drachefn. Ac felly dewisodd y ddau ddyfod allan i ymosod ar Bregeth Mr. Davies, yn nghysgod y bardd a'r llenor ieuanc. Yn fuan wedi i Ieuan Glangeirionydd adael Caer, a hyny yn y flwyddyn 1820, gofynodd Mrs. Bartley, Bydrochwyn, iddo, "Wel, beth yw eich barn yn awr ar bwnc yr hen ddadl?" Atebodd, yn ei ddull rhydd ac agored, "Wel, yn wir, mi gefais fy ngorchfygu yn lân gan Mr. Davies. Yr wyf fi yn credu yn Nghyffredinolrwydd yr lawn, ac nid oedd genyf fi ddim i wneyd a'r achos ond fel twlsyn yn nwylaw rhai eraill." Gadawn i'r darllenydd gasglu, pwy oedd y rhai eraill hyny. Yn nechreu y flwyddyn 1820, cyhoeddodd y Parch. Samuel Davies "Calfiniaeth yn cael ei dadlenu, a'r gwirionedd ei amddiffyn, lle y gwrthbrofir yr holl ffug—resymau a arferir o blaid Prynedigaeth neillduol mewn llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Evan Evans, ac y cadarnheir Cyffredinolrwydd y Prynedigaeth, trwy resymau ac Ysgrythyrau anwadadwy, gan Samuel Davies. Caernarfon: Argraffwyd gan J. Hulme."

Profodd Mr. Davies yn y llyfr hwn ei fod yn Dduwinydd uniongred yn ol Gair Duw—Yr oedd efe yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yr oedd mîn ei resymeg yn ddeifiol i'r eithaf. Difynwn adran neu ddwy o lyfr Mr. Davies, er mwyn i'r darllenydd gael engreifftiau o'i arddull o amddiffyn ei safle, ac ymosod ar ei wrthwynebwyr. Ar y tudalenau 34 a 35 ceir y feirniadaeth lem a ganlyn—

"Ei ail reswm sydd yn rhedeg fel hyn, Tros y rhai y bu Crist farw, bu farw yn eu lle a throstynt fel eu Meichniydd i dalu eu dyled, ac os felly, pwy a'u gofyn mwy. Mae y rheswm hwn yn drylawn o Antinomiaeth ddigymysg, ac yn arwain yn syth i benrhyddid echrydus. Os talodd Crist ein dyled yn yr ystyr Galfinaidd, yna, nid yw edifeirwch, na ffydd, nac ufudd-dod efengylaidd, yn ofynedig oddiwrthym mwy. A oes caniatâd i'r etholedigion uchel-freiniog i wneyd fel y mynont? Oes, medd E. E., er iddynt odinebu, a llofruddio, a thyngu, a rhegu, a chribddeilio, a gwaeuthur pob aflendid, plant anwyl ydynt o hyd; y maent yn sicr o fwynhau bendithion y cyfamod; a phwy a'u gofyn mwy? Gwarchod pawb rhag y fath gabledd ofnadwy! Ond y mae E. E. yn chwanegu, Pe meddyliem,' ebai ef, 'am ddrwg-weithredwr wedi ei gondemnio i farw yn ein teyrnas ni, ac i fab i'r brenin ei hun feichnio dros yr adyn hwnw i farw yn ei le, i ddyoddef y gosp ddyledus am ei drosedd, ai tybed y rhoddid y drwg-weithredwr hwnw i farwolaeth wedi i fab y brenin farw yn ei le er mwyn iddo gael byw? Na, ni fyddai dynion mor anghyfiawn a hyny, a sicr yw na bydd Duw chwaith.' Felly, pe byddai i'r adyn hwn, ar ol iddo gael estyniad o'i oes, i ail droseddu y gyfraith, i ladd dyn, neu gant o ddynion, mewn gwaed oer, fe fyddai yn anghyfiawnder i'w gospi; wnai neb dynion mo hyny, nid ydynt mor anghyfiawn! Felly yn uniawnwedd gyda'r etholedigion, gan fod eu Meichniydd wedi marw yn eu lle, y mae caniatâd iddynt i wneyd fel y mynont; gallant dyngu, a rhegu, lladd, a godinebu, meddwi a gwneuthur pob ffieidd—dra; nis gelwir hwynt i gyfrif, ni bydd Duw, medd E. E., mor anghyfiawn a'u cospi, gan fod ei Fab wedi dyoddef y gosp ddyledus am eu trosedd. * * Mae y rheswm hwn yn eglur a phenderfynol yn profi fod Calfiniaeth ac Antinomiaeth yn ddwy law-forwyn lled serchog, a'u bod yn canlyn eu gilydd yn o agos; ond nad yw yn eglur a phenderfynol yn profi gwirionedd yr athrawiaethau uchod sydd yn dra eglur, tybygaf, i'r darllenydd mwyaf anneallus. Ond y mae gan E. E. amryw o resymau eto; gan hyny, prysuraf i'w hystyried."

Mor gryf ac eglur y llefara. Teimla o hyd ei fod yn sefyll ar graig gadarn gwirionedd, a bod yr Ysgrythyr o'i blaid. Difynwn engraifft arall o'r tudalenau 65 a 66.

"Wrth sylwi ar fy negfed rheswm, E. E. a ddywed, Nid wyf yn deall mai fod Crist wedi marw dros bawb sydd yn cymhell gwir weinidogion y gair i bregethu'r efengyl i bawb, ond yn hytrach ofn yr Arglwydd. Oddí. yma ni a ganfyddwn fod E. E. yn addef fod gwir weinidogion y gair yn cael eu cymhell i bregethu'r efengyl i bawb. Gwrandawer yn awr pa fodd y maent i'w phregethu hi. Medd E. E., Dyledswydd pregethwyr yw gosod Crist allan yn ol tystiolaeth yr efengyl am dano,—"Mae efe yw yr unig Gyfryngwr, nad oes iachawdwriaeth yn neb arall,' &c Yn mlaen eto, efe a ddywed, 'Dyledswydd gweinidogion y gair yw galw pechaduriaid yn gyffredinol, a chyhoeddi Crist iddynt fel yr unig Geidwad. Dyma eto brawf fod E. E. yn credu mai dyledswydd gwir weinidogion y gair ydyw cyhoeddi Crist i bechaduriaid yn gyffredinol, a hyny fel eu hunig Geidwad. Atolwg, Ai ydyw yn alluadwy i Grist fod yn Geidwad i bechaduriaid yn gyffredinol, heb iddo farw dros bechaduriaid yn gyffredinol?z Onid yw y Calfiniaid wrth bregethu fel hyn yn pregethu cyfeiliornad, os na bu Crist farw ond dros rai? Ac a feiddía E. E. ddywedyd mai ofn yr ARGLWYDD sydd yn eu cymhell i wneuthur felly? Os felly, fe gasgla pob dyn rhesymol fod ofn yr Arglwydd yn cymhell dynion i gyhoeddi cyfeiliornadau, ac i bregethu celwydd!!! Yn mlaen eto y mae E. E. yn dywedyd mai gorchymyn Duw yw sail pregethwyr i bregethu yr efengyl i bob creadur, sef i bob math o bechaduriaid (Marc xvi, 15); ac nid am fod Crist wedi marw dros bawb, canys nid hyn oedd sail yr apostolion, na neb o wir weinidogion y gair, i bregethu yr Efengyl.' Aroswch bellach, syr, i gymeryd eich gwynt am ychydig. Onid marwolaeth Crist yw yr achos haeddianol o roddiad yr efengyl a'i phregethiad? A fuasai efengyl i'w chael i un dyn heb i Grist farw drosto? Ac onid yw yn eithaf afresymol i bregethu yr efengyl i bawb, os na bu Crist farw dros bawb, ac felly wedi dwyn y bendithion a gymwysir yn yr efengyl o fewn cyraedd pawb? Os na ddarfu i Grist wneuthur hyn, onid ydoedd yn gorchymyn i'w apostolion i bregethu anwiredd i ryw gyfran o'u gwrandawyr?"

Eto, ar y tudalen 67 ceir y paragraph grymus ac argyhoeddiadol a ganlyn—

Ychydig yn mlaen y mae E. E. yn ceisio rheswm dros paham geilw y Calfiniaid ar bechaduriaid yn gyffredinol, a phaham y maent yn cyhoeddi Crist iddynt fel eu hunig Geidwad, sef am na wyddant pwy a etholwyd nac a brynwyd, ac ni roddwyd gwybod hyn chwaith i'r Apostolion, medd E. E. Os felly y mae, pa fodd y daeth ef i wybod na phrynwyd pawb, gan na wyr efe pwy a brynwyd. Pa fodd y meiddia ddyweyd yn ei anwybodaeth na phrynwyd ond rhai? Gall hefyd eu bod oll wedi eu geni ac wedi marw er's talm (nis gwyr E. E. a'i frodyr i'r gwrthwyneb), neu, na enir yr un o honynt tan yr oes nesaf. O athrawiaeth erchyll, dlawd, ac ofnadwy! Ar ol y cyfaddefiad synwyr—gall uchod, y mae E. E. yn lled ymffrostgar yn gwaeddi, Yn awr, gan bwy y mae'r sail oreu i alw dynion i edifeirwch, barned y darllenydd. Boddlon fi. Doed pob darllenydd a phob gwrandawydd hefyd i'r farn, a boed i bawb farnu yn ol y clywer gan y tystion, sef E. E. ar un tu, o blaid anwybodaeth; a St. Paul yn ei erbyn, o blaid sicrwydd dadguddiedig. Medd E. E., 'Ni roddwyd gwybod hyn, sef, pwy a etholwyd, i'r apostolion.' Ond beth a ddywed St. Paul?—Gan wybod, FRODYR anwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.' Clywch eto beth a ddywed y tyst Calfinaidd, Ni roddwyd gwybod hyn, sef pwy a brynwyd i'r apostolion.' Ond clywed pob calon beth a ddywed y tyst apostolaidd ar hyn; Yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth dros BAWB!!' Yn awr gofynaf finau, Pa un ai gan y Wesleyaid, y rhai ydynt o'r un farn a Phaul, neu gan y Calfiniaid anwybodus, y mae y sail oreu i alw dynion i edifeirwch? Rhyfedd mor debyg i'r Pabyddion ydyw'r Calfiniaid o blaid anwybodaeth! Dywed y Pab mai anwybodaeth yw mamaeth duwioldeb, a dywed y Calfiniaid, er eu gwarth, mai anwybodaeth yw sail eu pregethu. Na fynegwch hyn yn Gath, ac na chyhoeddwch ef yn heolydd Askelon.'" !!! .

Gwnaeth y llyfr hwn ei waith yn effeithiol, ac ni chyhoeddwyd yr un atebiad uniongyrchol iddo, a hyny yn ddiameu am y teimlid ei fod yn anatebadwy. Ar ol cyhoeddiad y llyfr hwn diflanodd uchel—Galfiniaeth o bwlpudau Cymru i raddau helaeth iawn, a phrawf o hyn ydyw fod y Calfiniaid wedi myned i ddadleu a'u gilydd ar yr athrawiaeth. .C Yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd Calfiniaeth yn cael ei dadlenu," &c., dygwyd allan "Amddiffyniad i'r Athrawiaeth Ysgrythyrol o Brynedigaeth neillduol, yn cael ei gosod allan a'i chadarnhau mewn pedair o bregethau a bregethwyd yn Lime Street, Llundain, gan y Parch. John Hurrion, un o weinidogion yr Ymneillduwyr, yn nghyd å byr hanes o fywyd yr Awdwr. Wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Evan Evans. Trefriw: Argraffwyd gan J. Jones, 1820.' Am y llyfr hwn dywed y Parch. O. Thomas, D.D., fel y canlyn:—

"Ar anogaeth y Parch John Elias yr ymgymerodd Mr. Evan Evans a chyfieithu a chyhoeddi y pregethau hyn, yn hytrach na dwyn allan atebiad o'i eiddo ei hun i lyfr Mr. Davies, ac felly fe ysgrifenwyd rhagymadrodd byr iddynt gan Mr. Elias. Yr oedd y rhagymadrodd hwn yn amlwg yn cael ei fwriadu nid yn unig yn erbyn y syniadau Arminaidd ar brynedigaeth, a amddiffynid gan y Wesleyaid, ond hefyd, ac yn arbenig yn erbyn y golygiadau eang ar Ddibenion Marwolaeth Crist,—y dadleuid drostynt erbyn hyn yn Nghymru gan liaws a gydnabyddid yn Galfiniaid, ac y mae yr awdwr ynddo, yn ol ei arfer, yn defnyddio faith gref, mewn tôn braidd yn anffaeledig, i osod allan ei olygiadau ei hunan ar y pwnc, ac er condemnio y rhai a wahaniaethant oddiwrtho. Anaml braidd y gwelsom, mewn cyn lleied cylch, awgrymiadau mwy anfrawdol nag a geir yma: nid ydym yn synu iddo, trwy y rhagymadrodd hwn, lwyddo mwy i ddolurio teimladau dynion da o olygiadau gwahanol, nag a wnaeth i gadarnhau eraill ynddo, heb son am enill neb o'r newydd drosodd, i'w syniadau ei hun."

Ar ol hyn cyhoeddwyd "Llythyr at y Parchedig John Elias, yn cynwys sylwadau ar ei ragymadrodd i bregethau y diweddar Mr. Hurrion ar Brynedigaeth. Gan John Griffiths, o Dinbych;" a chyhoeddwyd atebiad iddo gan Edward Roberts, o'r Berthengron. Yr oedd John Griffiths yn Wesleyad selog ac yn bregethwr cynorthwyol, a phrawf ei lythyr at Mr. Elias ei fod yn deall Arminiaeth yn dda, ac yn hyddysg iawn yn yr Athrawiaethau Calfinaidd. Cyhoeddodd y Parch. William Evans hefyd yn y flwyddyn 1822 Ymddiffynwr y Gwir," &c. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn pwyllog, yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ymresymwr cryf, a gwnaeth wasanaeth fawr trwy gyhoeddi y llyfr hwn. Dengys yn eglur beth yw y gwahaniaeth rhwng Arminiaeth a Chalfiniaeth. Ni ddigwyddodd i ni weled yr un atebiad iddo.

O hyn allan cyfyngwyd y ddadl i'r cylchgronau, megys "Yr Eurgrawn Wesleyaidd," "Goleuad Cymry," Seren Gomer," ac yn enwedig y "Dysgedydd Crefyddol." Mae ysgrifau "Sion y Wesley" yn y cyfnod o'r 1824 hyd 1833, yn deilwng iawn o ystyriaeth, ac ymddengys ei fod ef ei hun yn ddigon i gyfarfod â holl wrthwynebwyr Arminiaeth.

Yn y flwyddyn 1830 cyhoeddwyd y "Lladmerydd, yn cynwys sylwadau eglurhaol ar Dabl (os gwir a glywais) gan y diweddar Dr. Gill, yn dangos trefn yr achosion o Iachawdwriaeth Damnedigaeth yn ol gair Duw." Awdwr Y Lladmerydd" oedd y Parch. Edward Jones, Llandysilio. Bu cyhoeddiad y llyfr hwn yn achos o gyffro mawr yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, a chyd âg ef dygwyd y "dadleuon athrawiaethol" i derfyniad. Nid atebodd neb y "Lladmerydd," oblegid gwelwyd yn eglur mai tawi oedd oreu. Ond fe gyhoeddodd Mr. Edward Jones, o Faesyplwm, gân athrodol iddo dan yr enw "Gwialen i gefn yr ynfyd." Credwn nad oes yn yr iaith Gymraeg yr un engraifft gyffelyb i hon o "Athrod tafod-ddrwg." Pe buasai yr hen fardd wedi cael benthyg holl ddoniau ellyllon y pydew du i ddifrio ac athrodi, mae yn amheus genym a allasai cynyrchu dim aflanach na ffieiddiach na'r gân hon. Ceisiodd Dr. Owen Thomas amddiffyn Edward Jones, o Faesyplwm, am gyfansoddi y fath gân i Edward Jones, Llandysilio, ond talodd Dr. W. Davies y pwyth hyd adref iddo yn yr "Eurgrawn' am 1871, tudalen 332. Mae'r gân hon yn rhy aflan genym i gymaint a difynu llinello honi. Alan, aflan yw, a dylid cilio oddi wrthi fel oddiwrth y gwahanglwyf. Da genym i deulu y Bardd ei hystyried yn rhy aflan i'w chyhoeddi i ganlyn ei Weithiau, a pharchwn eu synwyr a'u chwaeth am hyny. Gwnaeth Dr. Owen Thomas gam dybryd a'r hen ddadleuwyr Wesleyaidd, yn ei adolygiad ar y dadleuon yn Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn. Ond beirniadwyd ef yn dêég a phwyllog mewn cyfres o ysgrifau gan y diweddar Dr. W. Davies, yn Yr Eurgrawn 1871, dan yr enw "Wettyn, Min-y-wendon." Ystyriwn yr ysgrifau hyn y rhai galluocaf o'u natur a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. Y fath feistrolaeth feirniadol ganfyddir yn mhob cyfresymiad, a'r fath sŵn dymchweliad byrddau a glywir yn mhob paragraph. Myned ein darllenwyr, os yn bosibl, hamdden a chyfleustra i ddarllen yr ysgrifau hyn o eiddo Dr. Davies drostynt eu hunain.

Fel y dywedwyd, rhoddodd cyhoeddiad y "Lladmerydd" derfyn ar y dadleuon-ni fu ar ol hyny ond rhyw fân ysgarmesoedd yma a thraw. O hyny hyd yn awr enillodd yr athrawiaeth Arminaidd dir lawer, ac nis gall y Wesleyaid amgen na llawenychu, am fod yr athrawiaethau a gredir ganddynt yn cael eu derbyn heddyw bron yn gyffredinol gan bob cangen efengylaidd o Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist.


PENNOD X.
Rhaniad y Dalaeth Gymreig yn ddwy, a'r llwyddiant a ddilynodd.

(O 1828 hyd 1841).

FEL y nodwyd yn y Bennod viii., trefnwyd y Cylchdeithiau Cymreig yn ddwy Dalaeth, yn y flwyddyn 1828. Credwn fod y trefniant ar y cyfan, yn un doeth. Ond ei ddiffyg oedd, na buasai yn cynwys rhyw ddarpar— iaeth i sicrhau undeb parhaol rhwng y ddwy Dalaeth â'u gilydd. Penodwyd y Parch. William Batten yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a'r Parch. John Davies, yn Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol.

Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Gogledd yn Wyddgrug. Bu yn flwyddyn o lwyddiant yn y Dalaeth, fel y dengys y difyniad canlynol o'r adroddiad a geir o'i hanes yn "Yr Eurgrawn" am 1829, tudal. 210—

"Wrth iddynt chwilio i mewn i'r achosion perthynol i'r amrywiol Gylchdeithiau ag oedd mewn undeb â'r Dalaeth Ogleddol, cawsant bob sicrwydd fod yr achos goreu yn llwyddo yn eu llaw. Gyda golwg ar eu Capelydd, er bod rhai o honynt mewn cyflwr lled annymunol, eto, ar y cwbl, gellir dywedyd eu bod yn gwellhau. Mewn amrai fanau mae yr hen Gapelydd wedi eu tynu i lawr, a rhai newyddion lawer helaethach wedi eu hadeiladu yn eu lle, a'r rhai hyny yn cael eu llenwi yn dda—yn wir, y mae rhai o honynt yn gymaint rhy fach yn awr ag oeddynt cyn eu helaethu! Mewn manau eraill, y mae rhif yr aelodau braidd yn lluosocach na rhif y gynulleidfa flwyddyn yn ol! Onid yw hyn yn cynwys yr arwyddion mwyaf sicr o adfywiad a llwyddiant yr achos da?

Pan edrychwyd dros rif yr aelodau trwy y Dalaeth, a'i gydmaru â'r un y flwyddyn ddiweddaf, cafwyd bod eu cynydd, wedi cau pob adwy a bwlch i fyny (sef gwneuthur i fyny le y rhai a fuont feirw yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, y rhai a symudasant i Loegr a manau eraill, a'r rhai a droisant eu cefnau ar Dduw a'i achos) yn agos i bum' cant, heblaw ugeiniau lawer ar brawf. Y mae cynydd y Dalaeth Ogleddol y flwyddyn hon yn rhagori ar lwyddiant holl Gymru y flwyddyn o'r blaen."

Yn Aberhonddu y cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Dalaeth Ddeheuol, ac ymddengys fod y frawdoliaeth yno yn llawenychu yr y llwyddiant a gymerodd le ar y gwaith yn ystod y flwyddyn, fel y gwelir oddiwrth y difyniad canlynol a geir o hanes y cyfarfod yn "Yr Eurgrawn" am1829, tudalen 273:

Edrychwyd i ansawdd ac amgylchiadau yr eglwysi, a chafwyd fod y gwaith da yn myned rhagddo yn dra llwyddianus, a'r ychwanegiad yn rhif yr aelodau yn nghylch 300, heblaw yr ugeiniau sydd ar brawf, ac eraill a symudwyd, a'r rhai a fuont feirw, ac a aethant i'r nefoedd i orphwys oddiwrth eu llafur."

Yr oedd rhif yr aelodau yn y ddwy Dalaeth Gymreig yn 1829 yn 7,947. Rhif yr aelodau yn y Dalaeth Ogleddol yn 4,648, ac yn y Dalaeth Ddeheuol yn 3,299. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn Aberhonddu dewiswyd y Parch. Hugh Hughes yn gynrychiolydd i'r Gynhadledd, neu fel y dywedir yn awr i "Bwyllgor y Sefydliadau;" ac yn Nghynadledd y flwyddyn hono penodwyd ef yn gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol. Galwyd allan y flwyddyn hon ddau o'r newydd i waith y weinidogaeth, sef yn

1. WILLIAM POWELL, o Benderyn, yn Sir Frycheiniog. Yr oedd ef wedi ei eni yn bregethwr, ac yr oedd pregethu mor naturiol iddo ag ydyw i'r dwfr redeg. Yr oedd ei bregethau yn fwy o ffrwyth sylwadaeth na darlleniadaeth. Byddai y gynulleidfa fel rheol yn hollol yn ei law, a gallai chwareu ar ei theimladau fel y chwareua y cerddor medrus ar danau ei delyn. Poenid ef yn fynych gan y ddieg (fel y galwai ef y melancholy). Ond hyd yn nod ar yr adegau y poenid ef fwyaf, anghofiai y cwbl yn y pwlpud, a phregethai fel pe na buasai dim yn ei boeni. Meddai rhyw oslef treiddiol o'i eiddo ei hun, ac er ei bod yn gwynfanus a lleddf, eto effeithiai yn rhyfedd ar brydiai ar y gwrandawyr. Un o fil oedd efe. Bu farw yn Llangollen Hydref 15, 1887, yn ei 8Oain flwydd o'i oed, a'r 58 o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM ROWLANDS, o Lleyn, yn Sir Caernarfon. Dyn ardderchog oedd Mr. Rowlands. Ni bu yn y weinidogaeth erioed ddyn mwy ymroddol nag efe. Llafuriodd hyd eithaf ei allu, ac yn aml tu hwnt i hyny. Yr oedd ei sel yn danllyd, ac yn aml yn gwreichioni mewn eiddigedd tros ogoniant yr Arglwydd. Safodd yn ddewr dros achos Dirwest, ac yr oedd yn wrthysmygydd cydwybodol. Pregethai yn darawgar ac effeithiol. Yr oedd yn awdwr o fri, ond ei brif orchestwaith ydyw "Llyfryddiaeth y Cymry." Costiodd hwn iddo flynyddoedd o chwilota, yn ogystal a llafur dibaid. Bu yn olygydd yr "Eurgrawn" yn 1842-1844, ac hefyd yn 1853-1856. Bu felly yn Olygydd am saith mlynedd oddi eithr ychydig fisoedd; a bu hefyd am dymhor yn Oruchwylydd. Yr oedd yn gyfaill pur, ac elai yn mhell o'i ffordd i gynorthwyo pregethwyr ieuainc. Bydd ei goffawdwriaeth byth yn fendigedig genym ni yn bersonol, ar gyfrif y caredigrwydd a dderbyniasom ganddo. Meddai argyhoeddiadau dyfnion ar Ryddid Crefyddol. Credai fod crefydd i fod yn rhydd fel awyr y bore, a thaflodd lawer o belenau trymion a llosgedig at gaerau yr Eglwys Wladol. Pan yn yr ymdrech â galluoedd angau mawr cododd ei law fel arwydd o fuddugoliaeth, chwifiodd hi mewn afiaeth fuddugoliaethus, a dywedodd, O, angau! pa le y mae dy golyn? Bu farw yn Nghroesoswallt, Mawrth 21, 1865, yn 63 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth 36 o flynyddoedd.

Yn y flwyddyn 1830, cynhaliwyd y Gynhadledd yn Leeds. Bu cynydd yn y ddwy Dalaeth Gymreig yn rhif yr aelodau o 568. O'r flwyddyn 1818, hyd y flwyddyn hon, bu cynydd difwlch bob blwyddyn yn rhif yr aelodau. Rhif yr aelodau yn 1817 oedd 4062, ond yn 1830, rhifant 8515, yr hyn a ddengys gynydd o 4453. Yr oedd y tymhor hwn, mewn gwirionedd, yn "flynyddoedd deheulaw y Goruchaf." Yn y flwyddyn hon y bu farw David Jones (1af), Beddgelert, yn Liverpool. Galwyd allan ddau o'r newydd, yn

1. JOHN BARTLEY, o Bodrochwyn, Sir Gaernarfon. Yr oedd efe yn ddyn hynaws a charuaidd, yn weinidog gofalus, ac yn bregethwr effeithiol iawn. Bu farw yn Nghaergybi, Chwefror 19eg, 1884, yn 78 mlwydd oed, a'r 54 o'i weinidogaeth.

2. ROBERT JONES, o Lanarmon-yn-Ial, Sir Ddinbych.—Llafuriodd yn ffyddlon hyd ddiwedd 1848, yna ffaelodd yn lân,—parhaodd i waelu hyd y 18fed o Ebrill, 1849, pryd yr ymollyngodd natur, ac yr hunodd yn yr Iesu, yn Nhrefriw, ger Llanrwst, yn yr 48ain flwydd o'i oes, a'r 19eg o'i weinidogaeth. Ffarweliodd â'r ddaear yn siriol. Llefodd o ganol dyfroedd ymchwyddol ут afon y mae pob peth yn dda,' ac aeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd."

Yn Nghynadledd 1831, ffurfiwyd dwy Gylchdaith newydd, sef Aberhonddu a Machynlleth. Bu lleihad o 395 yn rhif yr aelodau ar ol 13eg o flynyddoedd o gynydd. Bu farw y Parch. Lewis Jones, 1af, a galwyd allan i waith y weinidogaeth un o'r newydd, sef

JOHN HUGHES, o Dreffynnon, Sir Fflint. Gŵr boneddigaidd ei vmddangosiad oedd efe, a bu yn bregethwr poblogaidd iawn pan yn anterth ei nerth. Bu farw yn Liverpool, Mawrth 17eg, 1884, yn 76 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 53 o flynyddoedd.

Erbyn Cynhadledd 1832, yr oedd rhif yr aelodau wedi codi i 8541, cynydd o 331 ar y flwyddyn cynt. Bu un gweinidog farw yn ystod y flwyddyn, sef y Parch. R. Humphreys. Galwyd pedwar o'r newydd allan i'r gwaith, yr hyn oedd yn gynydd o dri yn rhif y gweinidogion ar y flwyddyn o'r blaen. Galwyd allan, yn

1. ROWLAND HUGHES, o Dolgellau, Sir Feirionydd. Tywysog a gŵr mawr yn Israel oedd efe. Enillodd safle pan yn ŵr ieuanc fel un o brif bregethwyr y genedl, a chadwodd hi hyd y diwedd. Y pwlpud oedd ei orsedd, a gosododd urddas arno. Bu farw yn Ninbych, Rhagfyr 25, 1861, yn 51 mlwydd oed, a'r 30ain o'i weinidogaeth.

2. RICHARD PRICHARD, o Fangor, Sir Gaernarfon. Dyn llawn, pwyllog, a diogel ei symudiadau oedd efe. Gwasanaethodd yr achos fel pregethwr, llenor, awdwr, a Swyddog Talaethol, yn effeithiol a ffyddlon dros ben. Bu farw yn Rhyl, Mai 13, 1882, yn y 71ain mlwydd o'i oes, a'r 50ain o'i weinidogaeth.

3. METHUSELAH THOMAS, o Langadog, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yntau hefyd yn ŵr o awdurdod a dylanwad yn ei enwad. Yr oedd yn bregethwr taranllyd. Safai ar Sinai yn nghanol y mellt, y taranau, y tân a'r mwg, a chyhoeddai fygythion ofnadwy ar bechaduriaid difraw. Bryd arall dygai ddychrynfeydd y golledigaeth dragywyddol i mewn i'w weinidogaeth, nes peru cyffro a braw i lawer o'i wrandawyr. Ond уг oedd hefyd yn efengylydd, ac arweiniai yr edifeiriol yn llwyddianus at droed y Groes, i gael iachawdwriaeth trwy faddeuant pechodau. Bu farw yn Meifod, Ebrill 30, 1875, yn y 72ain o'i oedran, a'r 43ain o'i weinidogaeth.

4. ROBERT WILLIAMS, o Bodffari, ger Dinbych. Profodd Mr. Williams ei hun yn weinidog da i Iesu Grist. Yr oedd yn hynod o efengylaidd fel pregethwr, yn ofalus fel bugail, yn fardd gwych, yn emynydd naturiol, ac yn gerddor rhagorol. Bu farw yn Llandeilo, Mehefin 7fed, 1855, yn 51 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 23ain o flynyddau.

Yr oedd y pedwar hyn yn wyr cryfion, ac oll yn bregethwyr poblogaidd. Gwnaethant wasanaeth fawr i achos Duw yn ein Cyfundeb. Ac erys hyd heddyw gofion parchus ac anwyl am y naill a'r llall. Cododd rhif y gweinidogion y flwyddyn hon o 36 i 39—cynydd o dri. Bu cynydd hefyd yn rhif yr aelodau y flwyddyn hon o 331, er calondid a chysur i'r rhai a lafurient yn y winllan.

Bu y flwyddyn 1833 yn un neillduol yn ein hanes fel enwad yn Nghymru, o herwydd y cynydd a gymerodd le yn rhif yr aelodau. Bu y cynydd y flwyddyn hon yn 1482. Gellir edrych arni fel blwyddyn y cynydd mawr. Ychwanegwyd dau yn rhif y gweinidogion trwy alw allan ddau o'r newydd, sef yn

1. THOMAS HUGHES, o Rhiwgam, ger Machynlleth. Llafuriodd yn ddyfal hyd haf 1845, pryd y collodd ei iechyd yn llwyr. Bu farw yn Llanrwst, Ebrill 13, 1846, yn 38 mlwydd oed, ar ol bod yn weinidog am 13 o flynyddoedd.

2. LEWIS JONES, o'r Pwllgloyw, Sir Frycheiniog. Ni fu yn ein gweinidogaeth erioed ddyn mwy unplyg, gonest, a chydwybodol na Mr. Jones. Yr oedd yn bregethwr grymus ac efengylaidd, a hynod o ysgrythyrol. Bu farw yn Llundain, Gorphenaf 28, 1883, yn 72 mlwydd oed, ac yn ei 50ain o'i weinidogaeth.

Yn Nghynadledd y flwyddyn hon, dewisiwyd y Parch. David Evans yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol yn lle y Parch. William Batten.

Yn Nghynadledd 1834 yn hon a gynhaliwyd yn Llundain ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Llanrwst. Bu farw Mr. John Williams, yr 2il, yn nechreu y flwyddyn 1834. Galwyd dau allan yn y Gynhadledd hon, ac felly cynydd o un yn rhif y gweinidogion. Galwyd allan yn

1. JOHN REES, o Llangurig, Sir Drefaldwyn. Nodweddid ef â llawer o serchowgrwydd, a bu yn un o'r pregethwyr mwyaf llwyddianus fu erioed yn ein gweinidogaeth. Bu farw yn Pontypridd, Medi 24, 1898, yn 88 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 64 o flynyddoedd.

2. JOHN RICHARDS, o Aberystwyth. Gellir dywedyd am dano ef, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes twyll." Yr oedd yn bregethwr melus, ac yn gyfaill dyddan dros ben, ac yn ddyn hynod haelfrydig ei yspryd, ac hynod ymroddol i'w waith. Bu farw yn Castellnedd, Hydref 2, 1880, yn y 71 flwydd o'i oedran, a'r 46ain o'i weinidogaeth.

Yn y blynyddoedd diweddaf hyn achoswyd cryn gyffro, ac hefyd ymraniad yn ein heglwysi, gan y Cynhyrfwyr a adweinid wrth yr enw "Wesla Bach." Prif arweinydd y terfysg direol hwn oedd Mr. Owen Owen, o Amlwch. Ar yr 2il o Hydref, 1831, ymadawodd a'r Methodistiaid Wesleyaidd, a hyny medd ef, am fod ugeiniau o ddynion doniol, &c. yn gaethweision i ychydig o bregethwyr teithiol, ac am nad oedd yr Eglwysi yn gofalu yn briodol am danynt. Taenai ef a'i gymdeithion anwireddau trwy y wlad fod y gweinidogion yn tra-rglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, yn derbyn cyflogau mawrion, ac yn dilyn bywyd segur. Ond y ffaith yw, nid oedd y gweinidogion mewn un modd yn tra-arglwyddiaethu, eto hawlient fod pob peth yn cael ei ddwyn yn mlaen yn gyson â rheol a threfn. Ac am yr haeriad fod yr hen dadau yn y weinidogaeth yn derbyn cyflogau mawrion, yr oedd yn hollol ddisail. Ni raid ond edrych dros gyfrifon byrddau chwarterol y Cylchdeithiau yn y blynyddoedd hyny, na tharewir ni a syndod fod eu dognau mor fychain, a pha fodd y gallasant fyw fel y gwnaethant. Nid oedd cyflog gweinidog ieuainc y pryd hwnw yn Nghymru ond deuddeg swllt yn yr wythnos. Ac o hyny yr oedd ganddo i dalu am letty, ymborth, dillad, treulion teithio, llyfrau, &c. Ac nid oedd amgylchiadau gweinidogion mewn oed fymryn gwell. Ni fu gyhuddiad mwy afresymol erioed, na'r un a ddygid yn erbyn y gweinidogion, sef eu bod yn segura. Yr oedd ganddynt i bregethu dair gwaith bob Sabboth, ac fel rheol bob noson yn ystod yr wythnos, ac mewn trefn iddynt i wneyd hyny, yr oedd yn rhaid iddynt deithio ugeiniau o filldiroedd. Bywyd o dlodi o ran amgylchiadau, ac o lafur a lludded o ran gwaith oedd eiddo ein gweinidogion yn y dyddiau boreuol hyn.

Cefnodd Mr. Owen Owen ac ychydig eraill ar ein Cyfundeb heb reswm, amgen na'u mympwy ddilywodraeth eu hunain, a gwnaethant eu goreu i drawsfeddianu Capelau, rhwygo Eglwysi, ac aflonyddu ar braidd Duw yn mhob cyfeiriad. Trawsfeddianasant gapelau Bodedyrn, Trefor, &c., yn Ynys Môn; Shiloh, Tregarth; Siloam, Bethesda; Capelau Nefyn, Tyddyn, ac Aberdaron yn Lleyn. Efallai na byddai o unrhyw fudd i gofnodi yma eu gweithredoedd barbaraidd ac annuwiol tu a Nefyn a Lleyn. Pethau i'w claddu ydynt, yn hytrach na'u hadgyfodi.

Ond nid anfantais i gyd i'n Cyfundeb, fu ymadawiad y Cynhyrfwyr hyn; oblegid ymddengys yn ol y llythyr canlynol a anfonwyd i'r "Eurgrawn" gan Mr. O. Thomas, Caergybi, eu bod yn rhwystr ar ffordd llwyddiant yr achos. Ar gais y Cyfarfod Chwarterol a gynhaliwyd yn Maelog, Hydref 9fed, 1832, anfonwyd yr adroddiad canlynol i'r Eurgrawn am y flwyddyn hono. Gwel tudalen 340.

"Flwyddyn i ddydd Iau diweddaf y bu i rai o'r brodyr cynorthwyol ymadael â ni a'n hachos yn llwyr. Yr oedd y cyfarfod hwnw yn un tra anghysurus, megys ag bu amryw o'r cyfarfodydd cyn hyny, oherwydd yr ysbryd cas ag ydoedd wedi eu meddianu hwy. Ond diolch i Dduw, pan ymadawsant hwy, fe ymadawodd y rhwystrau ag oeddynt er's blynyddau ar ffordd llwyddiant yr achos yn Môn. Diau i ni ddioddef llawer o warth, gwaradwydd a chelwyddau am yr haner blwyddyn cyntaf wedi eu hymadawiad hwy. Nid oedd llwyddiant ar wersylloedd Israel tra yr oedd y llafn aur, a'r fantell Fabiloneg, ac Acan a'r teulu yn y gwersyll; ond wedi cael allan y llafn a'r fantell, a llabuddio Acan a'r teulu, fe aeth y gwersyll yn mlaen yn ddi-rwystr. Felly gyd â ninau yn Môn,

'Mae'r gwaith yn myned rhagddo
Er maint yw llid y ddraig,' &c.

Er dangos i Gymru fod y drain wedi myned o'r llwybrau, ac Acan o'r gwersyll, gwelwch rif yr aelodau yn Mon. Yn Rhagfyr, 1831, ei nifer oedd 566, ond yn Hydref, 1832, yn mhen y tri chwarter blwyddyn, y mae ei nifer yn 762, heblaw 149 ar brawf, yn gwneyd yn y cyfan 911. Fel hyn y gwelwch fod ein ychwanegiad er diwedd y flwyddyn ddiweddaf yn 345. Ond nid yr eglwysi yn unig sydd wedi cynyddu, eithr y mae y cynulleidfaoedd a'r Ysgolion Sabbothol yn lluosog. I Dduw y byddo y clod am oruwchlywodraethu pethau mor ryfedd, tu hwnt i'n disgwyliadau yn mhell iawn.

Y mae heddwch yn mhob eglwys, a chariad brawdol yn teyrnasu yn mhob Cyfarfod Chwarterol, er pan ymadawsant hwy â ni; y mae pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus. Diolch i Dduw. Dioddefodd ein parchus frodyr, E. Hughes a D. Morgan, lawer o anwireddau cas; ond y maent yn dychwelyd yn helaeth i gwpanau y rhai a'u lluniasant."

Ni fu fawr o llwyddiant ar achos y "Wesla Bach," ac nid rhyfedd hyny, oblegid nid oedd eu hamcanion yn uniawn, sanctaidd, a da. Diflanodd yr achosion fu dan eu gofal, neu dychwelasant i'w hen gynefin, ond mewn ychydig iawn o engreifftiau.

Yn 1835, Cynhaliwyd y Gynhadledd yn Sheffield, dan lywyddiaeth y Parch. R. Reece. Ffurfiwyd dwy Gylchdaith Newydd, sef Crughywel a Llangollen. Yn ystod y flwyddyn ychwanegwyd tri at nifer y gweinidogion. Cyfrifent yn awr 45. Galwyd allan bedwar o'r newydd i waith y weinidogaeth, sef yn

1. DAVID GRAVEL, o Landaf, Sir Forganwg. Dyn bychan o gorpholaeth oedd efe, ond yr oedd yn ffraeth ei ymadroddion, yn bert ei atebion, ac yn bregethwr melus odiaeth. Bu farw yn Rhuthyn, Ebrill 28, 1857, yn ei 48 flwydd o'i oes, a'r 22ain o'i weinidogaeth.

2. ROBERT ROBERTS, o Gwyddelwern, Sir Feirionydd. "Yr oedd yn ddyn ieuanc gobeithiol iawn." Bu farw Mehefin, 1836, yn yr 28ain o'i oedran, ac yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth.

3. ISAAC JENKINS, o Ystymtuen, Sir Aberteifi. Cafodd fanteision addysg foreuol gwell na llawer o'i gyfoedion, a bu yn yr Athrofa Dduwinyddol yn Llundain am dymhor. Yr oedd yn ddyn llawn ac hynod amlochrog a gwir foneddigaidd. Meddai safle barchus fel llenor, bardd, ac emynydd. Yr oedd yn bregethwr coeth ac urddasol. Bu yn gyd-olygydd "Yr Eurgrawn" â Dr. T. Jones yn 1839, ac yna ei hun yn 1840-1841. Yn 1843 dewiswyd ef yn ysgrifenydd Ail Dalaeth Deheudir Cymru," yr hon swydd a lanwodd hyd 1866, sef am dair—blynedd-ar-hugain. Y flwyddyn hono dewiswyd ef yn gadeirydd y Dalaeth yn lle Dr. T. Jones. Bu o wasanaeth fawr i'r Cyfundeb, a safai yn uchel yn ffafr ei frodyr a'n bobl yn gyffredinol. Bu farw yn Merthyr, Awst 25, 1877, yn ei 65ain flwydd o'i oed, a'r 42ain o'i weinidogaeth.

4. WILLIAM OWEN, o Amlwch, Ynys Môn. Treuliodd ei flwyddyn gyntaf yn yr Athrofa Dduwinyddol yn Llundain, a gwnaeth ddefnydd da o'r manteision a gafodd yno. Bu yn Ysgrifenydd Cyllidol y Dalaeth Ogleddol am dymhor. Yr oedd yn ddyn o athrylith anghyffredin, a chaffai ar adegau odfäon neillduol o rymus. Nid grymusder y gwynt nerthol yn rhwygo oedd yr eiddo ef, ond grymusder tynerwch yr haf yn adfywio bryn a bro. Ni chlywsom neb erioed yn meddu ar fwy o allu i roddi telynau y saint mewn hwyl i orfoleddu yn eu Brenin. Yr oedd ei weinidogaeth yn felusach na'r mêl, ïe, na diferiad diliau mêl. Bu farw yn Nghaerlleon, Ebrill 17, 1860, yn ei 48ain o'i oedran, a'r 25ain o'i weinidogaeth.

Nid oes ond ychydig o ffeithiau i'w cofnodi am y flwyddyn a derfynai yn Nghynadledd 1836. Bu lleihad bychan yn rhif yr aelodau, ac fel y nodwyd bu farw y Parch. Robert Roberts. Yr oedd rhif yr aelodau yn 6 yn llai na'r flwyddyn o'r blaen. Galwyd un allan i'r gwaith, sef

JOHN MILLWARD, o Cadoxton, Sir Forganwg. Fel hyn yr ysgrifenodd y diweddar Dr. W. Davies, am dano: "Yr oedd Mr. Millward yn hynod yn ei ddydd fel cantor rhagorol a gwych. Yr ydwyf yn cofio ei glywed unwaith, sef yn Abermaw, yn ystod y District Meeting a gynhaliwyd yno yn yr hâf, 1837. Tarawodd ati ar y platform, ar ol yr odfa ddau, diwrnod y pregethu i ganu Od oes yma neb, &c., a byth nid anghofiodd yr argraff a wnaeth ar fy meddwl ar y pryd. Nid wyf yn gwybod i mi erioed glywed llais a chymaint o rym, o gwmpas, ac o bereidd-dra ynddo, a'r eiddo ef. Rhyfedd mor hyf, nerthol, a melus, y chwareuai nodau uchaf ei gân y prydnawn hwnw. Ymddangosai wrth ei fodd, mewn seiniau digon uchel i ddwyn anadl y goraf o'i wrandawyr! Crwydrai yn yr uchelion mwyaf anhygyrch yn berffaith ddedwydd, a phob symudiad o'i eiddo mor esmwyth a naturiol, mor soniarus a swynol, a phe buasai yn Arglwydd 'holl ferched cerdd.' Ond er pob peth tawodd, do, tawodd yma; ond y mae wrthi eto mewn gwlad sydd uwch a gwell. Ychydig ddyddiau cyn cymeryd yr afon, canodd yr hen bennill melus: O fryniau Caersalem caf weled,' &c. yno y mae yn awr, yn y Gaersalem' gu, a hwythau heirdd fryniau y fro yn adscinio ei foliant gwir i Dduw a'r Oen mewn hedd."

Bu farw yn Llangollen, Ionawr 7fed, 1838, yn 27ain mlwydd oed, ac yn ei eilfed flwyddyn o'i weinidogaeth.

Erbyn Cynhadledd 1837 yr oedd lleihad o 226 wedi cymeryd lle yn rhif yr aelodau, ond bu cynydd o dri yn rhif y gweinidogion. Lleihawyd un yn rhif y Cylchdeithiau, trwy i Gylchdeithiau Rhuthyn a Dinbych gael eu huno â'u gilydd. Ail ymgymerodd y Parch. William Owen â'r gwaith ar ol gorphwys am flwyddyn. Galwyd allan ddau o'r newydd i'r gwaith, sef yn

1. DAVID EVANS, o Abercegir, Sir Drefaldwyn. Bu am ddwy flynedd yn yr Athrofa Dduwinyddol, a gwnaeth ddefnydd da o'r manteision a gafodd yno. Yr oedd yn bregethwr sylweddol ac yn llenor gwych. Yn 1845 a 1846, bu yn Olygydd Yr Eurgrawn." Bu farw yn Aberystwyth, Medi 12fed, 1847, yn ei 34ain flwydd o'i oedran a'r ddegfed o'i weinidogaeth.

2. HENRY WILCOX, o Dyddewi, Sir Benfro. Yr oedd Mr. Wilcox yn ddyn llawn, ac wedi cael manteision yr Athrofa Duwinyddol am dymhor. Darparai ei bregethai yn ofalus, a thraddodai hwynt yn wresog a hwyliog. Yr oedd yn foneddwr trwyadl, ac yn gyfaill ffyddlon dros ben. Cyhoeddodd amryw lyfrau, ac ysgrifenodd nifer luosog iawn o erthyglau i'r "Eurgrawn' a'r "Winllan," yn ystod tymhor ei weinidogaeth. Bu farw yn ddedwydd yn yr Arglwydd yn Defynog, Medi raf, 1876, yn 63 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 39 o flynyddoedd.

Yn Nghynadledd y flwyddyn 1838 aeth y Parchn. D. Jones, 2il, a Humphrey Jones, 1af yn uwchrifiad. Bu 415 o gynydd yn rhif yr aelodau yn ystod y flwyddyn hon.

Ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Ty Ddewi. Bu lleihad o un yn rhif y gweinidogion, trwy i'r ddau a nodwyd fyned yn uwchrifiaid, ac i un farw, sef John Millward. Collwyd tri o'r gwaith, ond ni alwyd allan ond dau o'r newydd. Yn y Gynhadledd hon penodwyd y Parch. Edward Anwyd yn gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru yn lle y Parch. D. Evans, 1af. Y ddau a alwyd allan o'r newydd oeddynt, yn

1. JOHN R. CHAMBERS, o Lanbedr-Pont-Stephan. Perthynai llawer o hynodion i Mr. Chambers, y rhai a'i gwnelent yn gymeriad neillduol. Pregethai yn aml yn hynod o effeithiol. Bu farw yn Llandysil, Mehefin 10, 1864, yn 52 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 26ain o flynyddoedd.

2. LEWIS WILLIAMS, o Lanegryn, Sir Feirionydd. Yr oedd yn bregethwr tra dylanwadol, a meddai ar lais ardderchog. Bu farw yn Newport, Awst 29, 1884, yn 75 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 46ain o flynyddoedd.

Yn Nghynhadledd 1839, ffurfiwyd pedair o Gylchdeithiau Newyddion, sef y Wyddgrug, Llanasa, Abermaw, a Llanfair. Cymerwyd y ddwy flaenaf o hen gylchdaith eang Treffynnon. Abermaw oddi wrth Dolgellau, a Llanfair oddi wrth Llanfyllin. Ychwanegwyd dau at rif y gweinidogion, ac yr oedd gynydd yn rhif yr aelodau yn 773Cyfrifir fel yn dechreu teithio y flwyddyn hon ddau ŵr ieuanc, er mae yn 1840 yr aethant i'r gwaith, sef yn

1. BENJAMIN ROBERTS, o Beaumaris, Sir Fôn. Bu farw yn Caerlleon, 1866, yn 51 mlwydd oed, a'r 27ain o'i weinidogaeth.

2. ROBERT JONES, o Aberdyfi, Sir Feirionydd. Bu raid i Mr. Jones roi i fyny y weinidogaeth yn 1841 oherwydd gwendid ei iechyd. Ymsefydlodd yn Merthyr, a bu yn pregethu yn achlysurol am amser.

Bu y flwyddyn gyfundebol a derfynai yn Nghynadledd 1840 yn un o lwyddiant mawr ar yr achos Cymreig. Cododd rhif yr aelodau o 11,017 i 11,926, yr hyn a ddangosai gynydd o 909. Cafodd y Parch. Morgan Griffiths ganiatad i ddyfod yn uwchrif yn y Gynhadledd hon, a thrwy i ddau o'r newydd gael eu galw o'r newydd i'r gwaith bu cynydd o un yn rhif y gweinidogion. Y ddau a alwyd i'r gwaith oeddynt, yn

1. TIMOTHY JONES, o Landysil, Sir Aberteifi. Bu farw yn Abertawe, Chwefror 15fed, 1890, yn 78 mlwydd oed, ac yn y 50ain o'i weinidogaeth.

2. OWEN OWEN, o Lanegryn, Sir Feirionydd. Hanai Mr. Owen o deulu tra pharchus ya Meirionydd, ond lled ddiofal am bethau crefyddol. Cafodd addysg led dda pan yn fachgen, a threuliodd ei oes yn efrydydd diwyd. Darllenodd lawer a thalodd sylw manwl i wahanol ganghenau gwybodaeth, ond yn arbenig i Athroniaeth Feddyddiol a Moesol. Enillodd iddo ei hun safle barchus fel athronydd. Yr oedd yn bregethwr nerthol a hwyliog iawn, a bu yn boblogaidd hyd derfyn ei oes. Bu farw yn Pontypridd, yn 75 mlwydd oed, a'r 47 o'i weinidogaeth.

Bu y flwyddyn 1841 yn un lwyddianus iawn yn hanes ein henwad yn Nghymru. Cyfododd rhif yr aelodau y flwydd- yn i 13,344, sef cynydd ar y flwyddyn o'r blaen o 1,418. Nid yw yr adroddiadau a geir yn yr "Eurgrawn" am 1841 o hanes y Cyfarfodydd Talaethol Cymreig, a Chofnodau y Gynhadledd am y flwyddyn hon yn cyfateb. Yn ol y cyntaf, yr oedd y cynydd yn 1,518, ond yn ol yr olaf, 1,418 ydyw. Yn yr adroddiad a geir o hanes Cyfarfod Talaethol y De yn yr yn yr Eurgrawn" am 1841, tudalen 222, dywedir—"Wrth edrych y pryd hyn dros rif yr aelodau yn mhob cylchdaith, cawsom achos i ddiolch a chymeryd cysur, wrth weled fod y cynydd eleni yn y Dalaeth hon yn 222 0 aelodau, ac ar brawf, 280, a bod yr achos yn gyffredin ar wellhad."

Yn yr un Eurgrawn," tudalen 285 ceir adroddiad o hanes Cyfarfod Talaethol y Gogledd, yn yr hwn y dywedir "Ar ol chwilio yn fanwl i sefyllfa yr Eglwysydd sydd dan ein gofal ni yn Ngogledd Cymru, cawsom fod heddwch a chariad yn eu llywodraethu. Mae llwyddiant mawr wedi bod yn mhob Cylchdaith (dim un yn ddiepil) 1,296, ac ar brawf, 558. Ffurfiwyd un gylchdaith newydd y flwyddyn hon, sef Corwen. Daeth y Parch. W. Davies, 1af yn uwchrif, a gadawodd Mr. R. Jones, 2il, y weinidogaeth o herwydd gwendid ei iechyd. Bu cynydd o dri yn rhif y gweinidogion. Galwyd o'r newydd i waith y weinidogaeth bump o frodyr ieuainc, sef yn

1. JAMES JONES, o Dre'rddol, Sir Aberteifi. Bu farw yn Aberystwyth, Gorphenaf 22, 1880, yn 67 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 39 o flynyddoedd.

2. ROBERT JONES, o Benmachno. Bu Mr. Jones yn weinidog llwyddianus iawn, a pherchid ef yn fawr yn y cylchdeithiau y llafuriai arnynt. Bu farw yn Beaumaris, Awst 25, 1878, yn 59 mlwydd oed, ac yn ei 37 o'i weinidogaeth.

3. THOMAS JONES, 3ydd, o Pennal, Sir Feirionydd. Yr oedd ef yn bregethwr neillduol o effeithiol a phoblogaidd iawn, ond torodd ei iechyd i lawr tra nad oedd ond dyn ieuanc. Bu farw yn Tre'rddol, Mehefin 19, 1849, yn 34 mlwydd oed, a'r 8fed o'i weinidogaeth.

4. THOMAS MORRIS, o Aberffraw, Sir Fôn. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn o ymddangosiad hardd a boneddigaidd. Meddai ar arddull neillduol o dderbyniol fel pregethwr. Gwnelai chwareu têg â'r gwirionedd trwy ei osod allan i'r fantais oreu, a chyd â llais treiddiol soniarus cariai adref ei apeliadau i galonau a chydwybodau ei wrandawyr. Bu farw yn Dinbych, Ebrill 30, 1888, yn ei 77 flwydd o'i oed, a'r 47 o'i weinidogaeth.

5. EVAN RICHARDS, o Bwllheli, Sir Caernarfon. Yr oedd yn bregethwr sylweddol a choeth. Bu yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ddeheuol am dymhor, a llanwodd y swydd yn gymeradwy iawn. Bu farw yn Merthyr, Mai 13, 1873, yn ei 56 flwydd o'i oed, a'r 32 o'i weinidogaeth."

Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd i derfyn tymor arall o lwyddiant mawr ar y gwaith yn Nghymru. Yn ystod y pum' mlynedd diweddaf, bu y cynydd yn rhif yr aelodau yn 3,515. Yn y blynyddoedd olaf hyn, y Parch E. Anwyl oedd Cadeirydd Talaeth Gogledd Cymru. Gŵr grymus oedd efe yn gadarn fel y graig, ac eto yn dyner fel y blodeuyn. Llenwid Cadair Dalaethol Deheudir Cymru gan y Parch. Hugh Hughes, yr hwn oedd yn dywysog ac yn ŵr mawr yn ein Hisrael. Yr oedd yn gadeirydd cymeradwy a llwyddianus iawn. Yr oedd genym yn y ddwy Dalaeth bregethwyr o dalentau anghyffredin, ac o ymroddiad di—ildio. Rhif y Cylchdeithiau yn y Dalaeth Ddeheuol yn 1841 oedd, 12, ac yn y Dalaeth Ogleddol, 14. Y cyfanrif yn chwech ar hugain.

PENNOD XI.

Cyfnod o Ad-weithiad a Digalondid.
(O 1841 hyd 1849).

AR ol tymhor o lwyddiant mawr am ddeg mlynedd, ac eithrio y lleihad o 287 yn y blynyddoedd 1836 a 1837, dechreuodd y llanw gilio drachefn, a pharhaodd i dreio am wyth mlynedd yn olynol. Mae yn anhawdd cyfrif am y cyfnodau hyn o lwyddiant ac aflwyddiant yn hanes yr eglwys, ac eto safant fel ffeithiau ger ein bron. Cynhaliwyd Cynhadledd 1842 yn Llundain, o dan lywyddiaeth Dr. Hannah. Ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Amlwch, a gwnaed hyny trwy ranu Cylchdaith Beaumaris yn ddwy. Cyn hyn yr oedd holl Ynys Môn yn un gylchdaith. Ni bu yr un gweinidog farw yn ystod y flwyddyn hon; ond ymneillduodd y Parch. William Hughes i restr yr uwchrifiad. Bu cynydd o un yn rhif y gweinidogion trwy i ddau o'r newydd gael eu galw i'r weinidogaeth, sef yn

1. RICHARD HUGHES, o'r Braich, Tregarth, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn ŵr ieuanc o dalentau disglaer iawn, ac yn bregethwr galluog. Collodd ci iechyd, a gorfu iddo adael y gwaith yn 1845. Parhaodd i nychu hyd Mehefin, 1847; yna canodd yn iach â "byd y cystudd mawr," a hedodd "ar aden gref rhyw angel mwyn i'r hyfryd wlad hono lle na chlywir ganddo byth yr hen gwyn claf ydwyf."" Bu farw yn y Braich, Tregarth, Mehefin 20, 1847, yn 27ain mlwydd oed, a'r bumed o'i weinidogaeth.

2. THOMAS HUGHES, 2il, o Langynog, Sir Drefaldwyn. Acth drosodd i'r gwaith Seisnig yn 1846. Yr oedd yn bregethwr uwchraddol, ac yn awdwr galluog a chynyrchiol. Bu farw yn Morton, Ionawr 31, 1884, yn 69 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 42 o flynyddoedd.

Bu y flwyddyn 1843 yn un neillduol ar gyfrif y nifer o weinidogion aethant yn uwchrifiaid, ac felly o ganlyniad i ryw fesur ar gyfrif y nifer a alwyd allan i'r gwaith. Y rhai a aethant yn uwchrifiaid oeddynt y Parchn. William Batten, David Evans, 2il, Hugh Hughes a Thomas Thomas. Llanwodd Mr. Batten y swydd o Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru am bum' mlynedd, a Mr. Hugh Hughes yr un swydd yn y Dalaeth Ddeheuol am bedair-blynedd-ar-ddeg. Yn Nghynadledd y flwyddyn hon penodwyd y Parch. John Davies yn Gadeirydd "Yr Ail Dalaeth Ddeheuol," a galwyd allan bump o wyr ieuainc hynod o addawol i waith y weinidogaeth. Yn

1. SAMUEL DAVIES, o Dinbych. Ni bu yn ein gweinidogaeth erioed ŵr mwy teilwng na Mr. S. Davies. Ymgysegrodd yn llwyr i'r gwaith, ac aeth trwy holl gylchoedd swyddogaethau y Dalaeth, a gosododd urddas arnynt oll. Cododd i sylw ar unwaith fel pregethwr. Ei nodweddion amlycaf fel pregethwr oeddynt: difrifoldeb, maethlonrwydd, ac urddas. Bu yn Ysgrifenydd Cyllidol y Dalaeth Ogleddol am wyth mlynedd, sef o 1858 hyd 1865. Yn Nghynadledd 1865 penodwyd ef yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a bu yn y swydd am un-mlynedd-ar-hugain, y tymor hwyaf i unrhyw un fod yn gadeirydd yn y gwaith Cymreig. Bu yn Olygydd "Yr Eurgrawn" ac yn Oruchwyliwr y llyfrfa am ddau dymor, a llwyddai y llyfrfa dan ei ofal manwl a'i ymroddiad di-ildio. Etholwyd ef yn un o'r cant cyfreithiol yn y flwyddyn 1875. Cafodd ei ethol hefyd yn un o Lywyddion Prifysgol Gogledd Cymru ar ei sefydliad yn Mangor, a bu o wasanaeth fawr yn y cylch hwnw. Yr oedd yn llenor coeth, ac yn gofiantydd dihafal. Bu farw yn Amlwch, Mehefin 7, 1891, yn 73 mlwydd oed, ac yn yr 48ain o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM DAVIES, D.D., o Aberystwyth, Sir Aberteifi. Efallai, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, mai Dr. Davies oedd y dyn cyflawnaf a fu erioed yn ngwaith ein gweinidogaeth yn Nghymru. Yr oedd yn bregethwr coeth, eglur, swynol, a chaniadlais ryfeddol. Ni welodd Cymru erioed lenor mwy chwaethus. Meddai y fath lywodraeth dros iaith fel ag yr oedd ei holl gyfoeth a'i hadnoddau at ei wasanaeth yn ol ei ewyllys. Ni bu ei hafal fel dadleuydd fel y cafodd pob un fu yn mesur donia ag ef yn y maes hwn deimlo. Yr oedd yn feirniad yn ol y safonau uchaf fel bardd, cerddor, a llenor. Safodd ar y tŵr i amddiffyn ei enwad mewn amserau enbyd, a llwyddai yn effeithiol i ddistewi magnelau yr ymosodwyr a'u gwisgo â chywilydd a gwarth. Saif ei Euriadur Ysgrythyrol mhlith trysorau llenyddol penaf y genedl ar gyfrif yr ymdriniaeth uwchraddol a geir ynddo ar athrawiaethau mawrion crefydd a phurdeb clasurol yr iaith. Ni wyddom am yr un llyfr Cymreig a'i iaith yn fwy pur a chlasurol na hwn. Dylai fod yn destyn-lyfr i bob efrydydd Cymreig pe ar gyfrif dim ond clasurolder ei iaith. Llanwodd Dr. Davies y swydd o Ysgrifenydd y Dalaeth am dymor, a bu yn Olygydd "Yr Eurgrawn" a'r "Winllan," ac yn Oruchwylydd y llyfrfa. Bu farw yn Bangor, Awst 13, 1875, yn 55 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 32 o flynyddoedd.

3. JOHN JONES, 3ydd, o Llantrisant, Sir Forganwg. Fel pregethwr yr oedd yn drefnus, clir, ysgrythyrol, ac addysgiadol, ac yn gymaint a'i fod yn meddu ar ystorfa lawn ac amrywiol o ddefnyddiau, eglurai y gwirioneddau a bregethai gyd â chymhariaethau tarawgar, nes eu gwneyd yn ddyddorol ac eglur i'r gwrandawyr. Yr oedd yn llenor, ac yn awdwr amrai lyfrau hanesiol. Bu yn Olygydd Yr Eurgrawn" yn y blynyddoedd 1849-1851. Bu farw yn Nghaerdydd, Mawrth 13, 1869, yn yr 51ain o'i oed, a'r 2бain o'i weinidogaeth.

4. WILLIAM JONES, o Mochdre, Sir Ddinbych. Erys Mr. Jones hyd y dydd heddyw. Efe yw y gweinidog hynaf sydd yn y gwaith Cymreig, a pharha i deimlo cymaint o ddyddordeb ag erioed yn yr achos.

5. EBENEZER MORGAN, o Felinygraig, Cwmbrwyno, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn ddyn siriol a gweithgar, ac yn bregethwr dyddorol a phoblogaidd. Yr oedd hefyd yn awdwr amrai lyfrau da a buddiol. Bu farw yn Manchester, Mawrth 12, 1871, yn 53ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 28ain o flynyddoedd.

Ychwanegwyd un gylchdaith newydd, sef Bangor, trwy ranu cylchdaith eang Caernarfon yn ddwy. Nid oes dim neillduol iawn i'w gofnodi am y flwyddyn 1844.

Aeth y Parch. William Evans yn uwchrif, ac ymsefydlodd yn Machynlleth; ac ail-ymaflodd y Parch. David Evans, 2il yn ei waith. Galwyd un allan o'r newydd, sef

JOHN HERBERT, o'r Borth, Sir Aberteifi. Bu farw yn Tredegar, Tachwedd 21, 1884, yn 68 mlwydd oed, ac yn ei 40fed flwydd o'i weinidogaeth.

Yn y flwyddyn 1845 aeth y Parch. John Jones, 2il yn uwchrif, a gorfu i Mr. Richard Hughes roddi i fyny deithio, oherwydd i'w nerth gael ei ddarostwng ar y ffordd gan gystudd blin a diymollwng. Galwyd allan un o'r newydd i'r gwaith yn ystod y flwyddyn hon mewn canlyniad (fel y casglwn) i farwolaeth sydyn y Parch. John Davies, yn Merthyr, Rhagfyr 21, 1845. Y brawd ieuanc a alwyd allan oedd

JOSEPH AUGUSTUS JONES, o Dregaron, Sir Aberteifi. Erys ef yn ein plith hyd yr awr hon yn henafgwr cryf ac urddasol.

Bu amryw gyfnewidiadau yn mhlith y gweinidogion y flwyddyn gyfundebol a derfynai'n Nghynadledd 1846. Fel y nodwyd, bu farw y Parch. John Davies—yr hwn oedd ar y pryd yn Gadeirydd y Dalaeth—Rhagfyr 21, 1845, a bu y Parch. Thomas Hughes, 1af hefyd farw, Ebrill 13, 1846. Daeth dau yn uwchrifiaid, sef y Parchn. Griffith Hughes a Samuel Davies, 1af, ac aeth y Parch. T. Hughes, 2il drosodd i'r gwaith Seisnig. Felly collwyd o'r gwaith bump o weinidogion, a galwyd allan bump o'r newydd i lanw y bylchau, sef Joseph Augustus Jones a nodwyd yn barod, ac yna, yn

1 EVAN DAVIES, o Lanbedr, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn ddyn o ddifrif gyd â phob gorchwyl a gymerai mewn llaw. Meddai ar lais rhagorol, a phregethai yn aml gyd â nerth a dylanwad mawr. Bu farw yn Llangollen, Ionawr 11, 1877, yn 57ain mlwydd oed, ac yn yr 31ain flwydd o'i weinidogaeth.

2. JOHN EVANS, 2il, o Lanrwst, Sir Ddinbych. Yr oedd Mr. Evans yn drefnydd gofalus, yn sylwedydd craff, ac yn bregethwr melus. Bu yn dra llwyddianus yn ngwaith y weinidogaeth. Bu farw yn y Wyddgrug, Rhagfyr 29, 1882, yn 63ain oed, ac yn ei 37ain flwydd o'i weinidogaeth.

3. DANIEL JONES, o Mochdre, Sir Ddinbych. Bu farw yn Llanrhaiadr, Medi 1, 1853, yn ei 34ain flwydd o'i oedran, ac newydd ddechreu y 7fed o'i weinidogaeth.

4. EVAN PUGH, o Bryncrug, Sir Feirionydd. Canolbwyntiai Mr. Pugh ei holl nerthoedd mewn pregethu. I hyn y bu byw, ac y treuliodd ei nerth. Yr oedd cryfder a melusder yn nodweddion amlwg yn ei weinidogaeth. Bu farw yn Rhyl, Awst 13, 1879, yn ei 55ain flwydd o'i oedran, a'r 33ain flwydd o'i weinidogaeth.

Ar gais Llywydd y Gynhadledd, ymgymerodd y Parch. Hugh Hughes a llanw y swydd o Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol o adeg marwolaeth y Parch. John Davies hyd y Gynhadledd, pryd y penodwyd y Parch. T. Jones, 2il i'r swydd, yr hon a lanwodd am ugain mlynedd. Ffurfiwyd un gylchdaith newydd yn Nghynadledd 1847, sef Pontfaen. Gwnaed hyny trwy ranu cylchdaith eang Caerdydd yn ddwy. Aeth y Parch. E. Edwards yn uwchrif y flwyddyn hon. Ni bu neb o'r gweinidogion farw, ac ni alwyd neb allan o'r newydd i'r gwaith y flwyddyn hon, felly bu lleihad o un yn rhif y gweinidogion. Bu farw y Parch. David Evans, 2il ar ddechreu y flwyddyn gyfundebol a derfynai yn Nghynadledd 1848. Ac yn y Gynhadledd hono aeth tri yn uwchrifiaid, sef y Parchn. Thomas Jones, 3ydd, E. Jones, raf, ac E. Hughes. Yr oedd hyn yn golled o bedwar, ond ni alwyd allan ond tri, ac felly yr oedd rhif y gweinidogion yn llai o un y flwyddyn hon na'r flwyddyn cynt. Galwyd allan, yn

1. RICHARD EVANS, o Cwmbelan, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn ddyn hynaws a duwiol iawn, ac yn bregethwr ysgrythyrol ac ymarferol. Bu farw yn Cwmbelan, Gorphenaf 18, 1868, yn ei 48ain o'i oes, a'r 20fed o'i weinidogaeth.

2. ROBERT JONES, o Bryncrug, Sir Feirionydd. Da genym ei fod ef yn aros yn ein plith fel dolen gydiol rhwng yr oes hon a'r un o'r blaen. Mae efe yn ddyn llawn, ac ni fu neb mwy dyddan mewn cwmni erioed. Llanwodd holl swyddogaethau y Dalaeth Ogleddol. Bu yn Ysgrifenydd y Dalaeth, yna yn Gadeirydd. Bu hefyd yn Olygydd "Yr Eurgrawn" ac yn Oruchwyliwr y Llyfrfa am ddau dymhor.

3. DAVID JONES 2il, o Lanegryn, Sir Feirionydd. Bèr fu ei yrfa weinidogaethol ef. Bu farw yn Aberhonddu, Medi 12, 1861, yn ei 38ain flwydd o'i oes, a'r 13eg o'i weinidogaeth.

Yn ystod y flwyddyn gyfundebol a derfynai yn Nghynadledd 1849, bu farw y Parchn. David Morgan a Robert Jones 1af, ond ni alwyd ond un allan o'r newydd, ac felly dyma leihad o un eto yn rhif y gweinidogion yn y gwaith teithiol. Yr un a alwyd allan oedd

ISAAC JONES, o Cnwch Coch, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn un o'r cymeriadau hynotaf a fu erioed yn y weinidogaeth Gymreig. Yr oedd ei serch tuag at Fethodistiaeth Wesleyaeth yn angerddol, a gwnaeth ei oreu i wasanaethu ei Dduw a'i genedl mewn undeb a hi. Pregethai ar brydiau gyd â nerth ofnadwy, a bendithiodd Duw ei lafur yn nychweliad canoedd o eneidiau at Grist, y rhai a fyddant yn goron ei ogoniant yn y dydd hwnw. Bu farw mewn gorfoledd yn Llangollen, Gorphenaf 3ydd, 1895, yn ei 70ain flwydd o'i ocs, a'r 46ain o'i weinidogaeth.

Arweinia hyn ni at derfyn y cyfnod hwn yn hanes ein henwad yn y Dywysogaeth. Rhoddwn yma restr o rif yr aelodau, a'r lleihad a gymerodd le y naill flwyddyn ar ol y llall:

Aelodau. Lleihad.
1842 13,172 172
1843 12,891 281
1844 12,433 458
1845 12,135 298
1846 11,348 787
1847 11,142 206
1848 11,010 132
1849 10,996 14
Lleihad mewn 8 mlynedd 2348

Yr oedd y blynyddoedd hyn yn dymhor o bryder mawr i holl garedigion achos yr Arglwydd. Nis gwyddom yn iawn pa gyfrif i'w roddi am aflwyddiant y gwaith yn y blynyddoedd hyn. Nid oedd y Cyfundeb fel y cyfryw yn gyfranogol o'r ad-weithiad a deimlid yn Nghymru, er fod dyddiau blin gerllaw iddo yntau i fyned trwyddynt. Mae yn debyg fod a fyno iselder masnach âg aflwyddiant achos yr Arglwydd i fesur, ac nid oedd yn gyfnod prysur ar fasnach yn y Dywysogaeth y pryd hwn. Gyr prinder gwaith lawer allan o'r wlad, yn enwedig o'r dosbarth gweithiol, a pheidia eraill oherwydd tlodi a mynychu moddion gras. Ymfudodd llawer o'r wlad hon yn y blynyddoedd hyn i'r America, ac ymsefydlasant yno, ac yn eu plith yr oedd llawer o Wesleyaid. Ond a chaniatau fod i'r amgylchiadau hyn eu dylanwad anfanteisiol, eto nid ydynt yn ddigon i gyfrif am aflwyddiant y cyfnod hwn. Syrthia yr eglwys weithiau, ar ol adegau o lwyddiant, i gyflwr o ddifaterwch ac hunanddigonoldeb. Ac efallai mai dyma y rheswm penaf dros sefyllfa ddigynydd yr achos yn y blynyddoedd hyn. Yn ystod y blynyddoedd hyn cynyddodd rhif y cylchdeithiau o 26 i 29, ond daeth rhif y gweinidogion i lawr o 52 i 50. Am y cyfnod hwn ysgrifenodd y diweddar Barch. S. Davies yn Ngholofn y Jubili" fel y canlyn,—"Eithr y cyfnod dilynol (dilynol i'r cyfnod a derfynai yn 1841) a fu yn gyfnod o iselder mawr: ein llawenydd a drowyd yn dristwch, ac nid yn ddiachos, o'r naill Gyfarfod Talaethol i'r llall yn ystod y cyfnod hwn, edrych yn lled ddigalon yr oedd amgylchiadau yr achos bron yn ddieithriad trwy y Dalaeth **** Nid ydym yn gwybod am un amgylchiad neillduol a'n cynysgaedda â rhesymau neillduol am y lleihad. Dichon fod llwyddiant mawr y blynyddoedd blaenorol wedi achlysuro i'r eglwysi syrthio i ddifrawder a diofalwch, ac i hyderu gormod mewn braich o gnawd, a thrwy hyny esgeuluso edrych i'r mynyddoedd, o'r lle yr oedd eu cymorth i ddyfod, a chyda hyny esgeuluso talu sylw dyladwy i'r dychweledigion a roddodd yr Arglwydd iddynt yn y blynyddoedd blaenorol."

Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol yr "Ail Dalaeth Ddeheuol" 1849 yn Merthyr Tydfil, y Parch. Thomas Jones, 2il yn gadeirydd. Nid oes ond ychydig o hanes y cyfarfod hwn ar gôf a chadw. Yr oedd ychydig o leihad yn rhif yr aelodau, yr hyn a barai ofid i'r frawdoliaeth. Ar wahan i hyn ymddengys ei fod yn gyfarfod llwyddianus a dedwydd. Edrychid yn mlaen at Jubili Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, a dechreuwyd gwneyd trefniadau i ddathlu yr amgylchiad.

Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Dalaeth Ogleddol yn Llanrwst, Mehefin 4ydd, a'r dyddiau canlynol, y Parch. Edward Anwyl yn y gadair. Daeth cais i'r cyfarfod hwn o Gylchdaith Gymreig Liverpool am gael ei dadgysylltu oddi wrth Dalaeth Liverpool a'i huno gyd â Thalaeth Gogledd Cymru, a phenderfynodd y cyfarfod yn unfrydol y byddai hyny yn fwy manteisiol o'r ddwy ochr, a'i fod yn argymell y cyfnewidiad i'r Gynhadledd. Ond ni wrandawodd y Gynhadledd ar y pryd ar y cais rhesymol hwn.

Cymeradwyodd y Cyfarfod Adroddiad y Pwyllgor fu yn trefnu ar gyfer dathliad Jubili Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn y Dywysogaeth, a phenderfynwyd fod dydd Mawrth, yr 28ain o Awst y flwyddyn hono (1849), yn GOF-WYL o ddechreuad yr Achos Cymreig. "Diwrnod o hyfrydwch, llawenydd a chân yn mhyrth Wesleyaid Cymru oedd hwnw diwrnod i goffau Awst yr 28ain, 1800, pan y rhoddodd y ddau genhadwr Cymreig eu traed ar Ogledd Cymru (hyny yw pan ddaethant i Ruthyn) i ddechreu cyhoeddi yn iaith y bobl iachawdwriaeth râd ar gyfer pob dyn. Am y diwrnod hwnw dywed y Parch. Dr. T. Jones

Y Canmlwyddiant o Drefnyddiaeth Wesleyaidd:' Mae genym i edrych ar 1800 fel cyfnod gwerthfawr, yn yr hwn yr ymddangosodd ein pobl ni yn y Dywysogaeth i weinidogaethu yn y Gymraeg—blwyddyn ag y bydd miloedd lawer yn molianu Duw am dani wedi darfod dyddiau y ddaear. Bydded y flwyddyn etholedig hon byth mewn coffawdwriaeth gerbron yr Arglwydd, canys ynddi dechreuwyd gwaith na dderfydd tra pery haul a lloer." Yr hyn a'n tery yn hynod yw i'r Cyfarfod Talaethol Llanrwst benderfynu ar Awst 28, 1849, i ddathlu Jubili Wesleyaeth yn Nghymru. Ai onid oedd flwyddyn cyn yr amser ? Ond felly y bu. Yn Nghyfarfod Talaethol y Gogledd cafwyd fod 141 o gynydd yn rhif yr aelodau (er mai lleihad oedd yn eu rhif, a chymeryd y ddwy Dalaeth i'r cyfrif). "Ar ol blynyddoedd o sychder mawr yr oeddynt yn gallu dywedyd, Dyhudlant wlaw graslawn, O, Dduw, ar dy etifeddiaeth; ti a'i gwrteithiaist hi wedi ei blino.' Penderfynwyd yn y Cyfarfod Talaethol Fod y dydd ympryd chwarterol nesaf i gael ei gadw mewn modd neillduol, gwybodaeth yn cael ei roddi i'n pobl o'r cynydd a fu, a'u bod yn cael deisyfu arnynt i ddychwelyd diolchiadau i'r Hollalluog.'" Felly daeth y cyfarfod hwn i derfyn mewn sain cân a gorfoledd, a dyrchafwyd clodydd, "yr hwn sydd yn cyfaneddu yn moliant Israel" yn "holl breswylfeydd Jacob," y Methodistiaid Wesleyaidd yn y tir.

PENNOD XII.

Amseroedd enbyd—terfysgoedd ac ymrwygiadau.
(O 1849 HYD 1854).

YN Nghynadledd 1849, a gynhaliwyd yn Manchester diarddelwyd y Parchn. Everett, Dunn, a Griffiths. Ymddygasant am amser yn herfeiddiol ac anheyrngarol, ac erbyn y Gynhadledd yr oeddynt wedi ymbarotoi i herio awdurdod ddisgyblaethol y Cyfundeb, a bygythient os diarddelid hwy y rhwygid y Cyfundeb drwyddo draw. Fodd bynag eu diarddel gawsant, ac ni pherthyn i ni yn awr fyned i mewn i ddoethineb ymddygiad y Gynhadledd, ond cyfeirio yn unig at ffeithiau. Wedi eu diarddeliad, teithiasant y wlad o ben-bwy-gilydd i gynhyrfu a rhwygo yr Eglwysi. Cyrhaeddasant eu hamcan i fesur pell, oblegid yn ystod y flwyddyn 1850, a'r pedair dilynol cymerodd leihad le yn rhif yr aelodau yn ein Cyfundeb o yn agos i gan' mil (100,000). O blith y nifer fawr hon gwnaethant ymdrech i sefydlu Enwad Newydd dau yr enw "Diwygwyr Wesleyaidd" (Wesleyan Reformers), ac yn y flwyddyn 1857, ffurfiwyd undeb rhyngddynt â'r "Gymdeithasfa Wesleyaidd" (Wesleyan Association), a galwyd yr Enwad a gyfododd o'r undeb hwn yn "Unol Eglwysi Rhydd Methodistaidd " (United Methodist Free Churches). Ond rhyfedd mor ddigynydd fuont. Nid oedd rhif aelodau y Cyfundeb hwn yn 1898 ddim ond 91,428. Gofynwn gyd a'r diweddar Barch. Samuel Davies—"Beth a ddaeth o'r degau o filoedd o eneidiau a rwygwyd ymaith oddiwrth y Cyfundeb Wesleyaidd, dros ben y rhifedi yna, drwy gynhyrfiadau drygionus blaenoriaid y cangenau a enwyd? Ac i ba le y gellir edrych am ffrwythau llafur y swyddogion lluosog a hudwyd ymaith oddiwrth eu gwaith? O pa le, pa le hefyd?"

Teimlodd achos y Methodistiaeth Wesleyaidd Cymreig oddiwrth y terfysgoedd a'r ymrwygiadau hyn i fesur helaeth. Gwelwyd eu heffeithiau gyntaf yn Liverpool. Yn "Drem" ar ddechreuad a chynydd yr achos yno yn yr "Eurgrawn" am 1872, tudalen 466, dywedir fel y canlyn: Yn y flwyddyn 1849 sefydlwyd y Parchn. Lot Hughes a Thomas Aubrey ar y gylchdaith **** Fel y cafwyd achos i grybwyll fwy nag unwaith, dyma y pryd y bu i Everett, Dunn, a Griffith gynhyrfu y Cyfundeb, yn aflonyddu ysbrydoedd diniwaid, yn porthi awyddfrydau rhai newynog am awdurdod, ac hoff o derfysg ac annhrefn. Cynhelid Cyfarfodydd yn Liverpool i gydymdeimlo gyda hwy. Yr oeddynt yn gyfarfodydd hynod o gynhyrfus. Tra yr oedd rhai yn gweled trwy y gynhyrfwyr a'u hachos, yr oedd eraill, naill ai oddiar flinder naturiol eu hysbryd, neu oblegid anwybodaeth a diniweidrwydd, yn cael eu henill drosodd i gymeryd eu plaid. Effeithiodd yn ddwys ar yr achos. Yr oedd y rhai a restrid yn wrthgilwyr yn ystod y tair blynedd yn rhifo 160, ac yr oedd y rhai a gyfrifid yn symud i gylchdeithiau eraill yn ystod yr un amser yn 310."

Bu y Parch. Thomas Aubrey o wasanaeth ddirfawr i'r achos yn Liverpool yn yr argyfwng hwn. Safodd dros, ac amddiffynodd Fethodistiaeth Wesleyaidd mewn modd hyawdl a galluog, a diameu i'r Ddarlith a draddododd yn Concert Hall, Lord Nelson Street, ar "Wesleyaeth fel y mae wneyd llawer o les." Cafodd amser ardderchog, a chariodd y dyrfa fawr bron yn ddieithriad i'w ganlyn, ac i gredu mai "Wesleyaeth fel y mae" ydoedd y Gyfundeb Eglwysig oreu yn y byd.

Erbyn hyn yr oedd y terfysgwyr wedi cyrhaedd Cymru, a'i theithio drwyddi draw i gamliwio Wesleyaeth, ac yr oeddynt wedi cael cefnogaeth Golygydd "Yr Amserau" i'w cyfnerthu yn eu camddarluniau o'r Cyfundeb Wesleyaidd, ac i feirniadu y Gynhadledd am y modd y diarddelodd y Cynhyrfwyr. Ymddangosodd ysgrif faith iawn ynddo Ion. 9fed, 1850, gan y Golygydd i'r perwyl uchod. Atebwyd ef gan "Bugail Troed y Moelwyn" (Dr. W. Davies). Ond gan na fynai y Golygydd gael ei orchfygu yn ei Newyddiadur ei hun, cauodd y drws yn erbyn y Bugail, "a gorfu arno apelio at Olygydd " Yr Eurgrawn am ganiatad i'w lythyr at Olygydd "Yr Amserau" gael ymddangos yn ei Gyhoeddiad ef, yr hyn a ganiatawyd iddo yn rhwydd. Ymddangosodd ei lythyr yn "Yr Eurgrawn," 1850, tudalen 112, ac y mae yn fflangell o reffynau mewn gwirionedd, a gesyd hi ar gefn Golygydd "Yr Amserau" gyd â grym ofnadwy. Rhoddodd gweirfa ddidrugaredd iddo, ond dim trymach na'i haeddiant, ac ymddengys nad anghofiodd hi yn fuan. Os yn bosibl myned ein darllenwyr weled yr ysgrif.

Symudodd y Parch. T. Aubrey o Liverpool i Bangor yn niwedd Awst, 1852. Y pryd hwnw yr oedd y "Diwygwyr " yn teithio Cymru, i geisio gwneuthur niwaid i'n heglwysi. Y Cenhadon a anfonwyd i beru dinystr oeddynt: Thomas Thomas, Penycae, Deheudir Cymru; Robert Jones, ac Edward Hughes, Treffynnon. Ceisiasant rwygo a niweidio yr achos yn Siloam, Bethesda; ond torwyd eu Cyfarfod i fyny mewn annhrefn, fel nas gallasant wneuthur dim ond niweidio eu hunain. Dranoeth wedi bod yn Bethesda, aethant i Fangor, pryd y cyfnerthwyd hwy gan y Parch. W. Griffith, un o'r tri a ddiarddelwyd gan y Gynhadledd. Cynhaliwyd Cyfarfod yn yr awyr agored yn York Place. Cymerodd Mr. Thomas Lewis, Gartherwen, y Sais mewn llaw, a dynoethodd ef yn enbyd, a gwnaed yr un peth â'r lleill, ac mewn canlyniad torwyd y Cyfarfod i fyny mewn annhrefn.

Ar ddymuniad Mr. Aubrey, gofynwyd i'r "Diwygwyr" fyned i'r Rechabite Hall i gael siarad wyneb yn wyneb ar y mater, ac felly y bu. Canlyniad y Cyfarfod hwn oedd cadarnhau Wesleyaid Bangor yn eu hymlyniad wrth y Cyfundeb, ac aeth y dymhestl heibio heb wneuthur iddynt unrhyw niwaid, ond yn hytrach gryn lawer o les.

Y noson hono aeth y "Diwygwyr" i fyny i Dregarth yn ol y cyhoeddiad a roddwyd allan y noson flaenorol yn Bethesda. Aeth Mr. Aubrey yno i'w cyfarfod, ac ar ei gais ef cafwyd myned i'r Capel i gynal y Cyfarfod. Nid oedd neb yn bresenol yn y gynulleidfa fawr a ddaeth yn nghyd i'r Capel mewn cydymdeimlad â'r terfysgwyr, ond ychydig o rai a berthynent i enwadau eraill. Nis gallwn wneyd yn well na rhoddi yma adroddiad y Parch. Lewis Meredith (Lewys Glyn Dyfi), o hanes y ddadl. Yr oedd ef a'r Parch. John Jones (Vulcan), yn bresenol.

Fel hyn y dywed:

"Un peth sydd amlwg ac eglur ar fy nghôf yw hyn: Yr annghyfartalwch chwerthinus rhwng y ddau ddadleuwr. Yn y rhan flaenaf o'r cwrdd, llwyddai Thomas i lenwi ei chwarter awr yn lled weddol; ond yn mhell cyn y diwedd, gorchest fawr oedd cael rhyw beth i'w ddywedyd. Ond am Aubrey,—dyn byw; yr oedd llinell derfyn y pymtheg munud fel argau ar draws y rhyferthwy iddo ef; a gwaith anhawdd oedd ymatreg hyd nes y deuai ei wrthwynebydd i'r pen. Unwaith, yr wyf yn cofio, galwyd amser i fyny' arno; edrychodd yn synedig ar ei oriawr, a dywedodd, y mae genyf funud eto!' a gafaelodd yn y funud weddilledig fel pe buasai yn haner awr, a gorlwythwyd hi a baich cyfoethog o hyawdledd aruchel ac anwrthwynebol. Yr adgôf sydd genyf am Thomas druan ar ol y cwrdd yw, y rhaid ei fod yn teimlo fel dyn wedi cael mwy na'i haner foddi; ac y cwynai yn grintachlyd wrtho ei hun, tra yn edrych tuag at Aubrey, a phrin yn gallu anadlu, Dy holl—donau—a'th lifeiriant—a—acthant—droswyf. 'Afon a dywalltwyd ar ei sylfaeni,' ebe un o'r Ysgrifenwyr Ysbrydoledig. Felly yn ddiau y bu hi gyda'r ddau Ddiwygiwr hyn y tro hwn. Os bwriadent osod sylfaeni eu hadeiladaeth yn mhlith bechgyn y chwareli, anffawd anfeddyginiaethol oedd iddynt gytuno i gyfarfod Mr. Aubrey. Yn nerth gorthrechol ei resymeg a'i hyawdledd, i lawr ar eu gwarthaf y daeth ei ryferthwy; yn

Uchel gadr raiadr dŵr ewyn—hydrwyllt
Edrych arno'n disgyn!
Crochwaedd ei redlif crychwyn
Synu pensyfrdanu dyr.'

{{c|"Afon a dywalltwyd ar ei sylfaeni, a golchwyd y cwbl ymaith."

O Dregarth aeth Mr. Thomas a'i gyfeillion drosodd i Ynys Môn, ond ni fynai Wesleyaid yr Ynys henafol unrhyw gyfathrach â hwynt, oblegid nid oeddynt eto wedi anghofio ystrywiau y "Wesla Bach," na'r blinderau a gawsant oddiwrthynt. Ymwelsant hefyd âg amryw drefydd eraill y ngwahanol Siroedd y Gogledd, ond siomedig iawn y trodd eu cenhadaeth allan yn Gwynedd a Powys. Yn ystod y cynhwrf bu cynydd sylweddol yn rhif yr aelodau yn y Dalaeth Ogleddol.

Cafodd y "Diwygwyr " fwy o ddylanwad niweidiol o lawer yn y Deheudir nag yn y Gogledd. Torodd y terfysg allan yn Penycae, Cylchdaith Brynmawr, pan oedd y Parch. W. Rowlands yn weinidog arni. Yn nghofiant y Parch. W. Rowlands yn "Yr Eurgrawn" am 1868, ceir y desgrifiad canlynol o'r cynhwrf:

"Yr oedd y Reform Fever wedi meddianu yn llwyr un gŵr neillduol yn yr Eglwys hono (Penycae), ac ar ol hyny nid oedd dim a wnai y tro gyd âg ef, ond cael diwygiad yn y Gyfundrefn Wesleyaidd heb oedi. A chan ddechreu gartref,' mae y gŵr hwn ar unwaith yn peidio a chyfranu tuag at y weinidogaeth, ac yn gwneyd ei oraf i geisio perswadio eraill i ddilyn ei esiampl yn hyny. A thrwy ddefnyddio pob cyfleustra i lefaru yn galed yn erbyn y Gynhadledd a'i gweithrediadau, yn nghyda threfniadau eglwysig y Cyfundeb, yr oedd y diwygiwr hwn yn hau hadau terfysg ac anghydfod yn y Gymdeithas yn Mhenycae. Wedi ei ddioddef felly dros amser, a gweled nad ellid gwneyd hyny yn hwy heb beryglu heddwch yr Eglwys, penderfynwyd ei ddiarddel yn rheolaidd mewn cyfarfod blaenoriaid. Y Sabboth nesaf wedi ei dori allan, yr oedd y terfysgwr yn y capel yn gwrandaw ar Mr. Rowlands yn pregethu; a phan alwyd y gymdeithas yn ol, arosodd yntau yn eu plith. Gwelodd Mr. Rowlands ei fod wedi aros yn y Society, a dywedodd wrtho nad oedd ef yn aelod, ac felly y byddai yn well iddo fyned allan. Atebodd yntau ei fod yn ei seat, a chyhyd ag y byddai yn talu am dani, nad oedd gan neb hawl i'w droi ef allan. Aeth Mr. Rowlands ato, ac ymaflodd yn ei fraich, gan amcanu ei arwain allan; ond wrth ei weled yn gyndyn, galwodd am help rhai o'r blaenoriaid. Llwyddodd y rhai hyny i'w berswadio i fyned ymaith ei hun, a chauwyd y drws. Ond parhau i flino Israel yr oedd y gŵr hwn ar ol hyny; a chafodd Mr. Rowlands yr un drafferth gyd ag ef ryw foreu Sabboth yn fuan drachefn, pan y gorfuwyd ei droi allan o'r gymdeithas grefyddol oedd wedi ymgynull mewn tỷ anedd yn y gymydogaeth. Yn union gyda hyny, dyma i'r gweinidog summons yn gorchymyn iddo ymddangos gerbron Ynadon y Sir, yn Nhredegar, y dydd Mercher canlynol, i ateb i'r cyhuddiad o assault ar Mr. T.! Ufuddhaodd yntau i'r wys, gan fod yn gwbl hyderus, os mai Llys Cyfiawnder' oedd hwnw i fod, y byddai iddo ddianc yn anrhydeddus gan ei farnwr. Felly, ar yr amser apwyntiedig, gwnaeth ein gwron ei ymddangosiad yn y llys, er difyrwch i rai, a dyddordeb i lawer iawn, oherwydd newydd-deb y case. Pa fodd bynag, wedi holi yr achwynydd a'i dystion, penderfynwyd y prawf ar unwaith yn ffafr Mr. Rowlands, heb ofyn cwestiwn iddo ef o gwbl. A phan apeliodd am amddiffyniad y llys yn mhellach yn erbyn ymwthiad yr achwynydd i gyfarfodydd eglwysig yn y gylchdaith, addawyd hyny iddo yn rhwydd; ac felly y terfynodd yr helynt rhyfedd hwnw."

Yn fuan wedi hyn cyhoeddodd y Parch. Wm. Rowlands lyfr dan yr enw "Annibyniaeth a Wesleyaeth," yr hwn y deil yr awdwr y ddwy Gyfundrefn Eglwysig a gweinidogaethol yn wynebau eu gilydd, ac yn ngwyneb rheswm ac Ysgrythyr, er mwyn dangos rhagoriaeth yr olaf ar y gyntaf. Darllenwyd ef yn awyddus gan filoedd o Wesleyaid Cymru, a bu o wasanaeth i'w cadarnhau yn y gyfundrefn y lleferid cymaint yn ei herbyn yn y dyddiau hyny.

Heblaw y rhwygiadau a gymerasant le trwy y terfysg hwn yn Nghylchdaith Brynmawr; yr oedd hefyd yn helynt o honi yn Nghylchdaith Merthyr Tydfil. Yr anfarwol Barch. Rowland Hughes oedd yn weinidog yno ar y pryd, a gwnaeth ei oreu i gyflawni ei ddyledswydd yn ffyddlon yn ngwyneb terfysgoedd yr amseroedd blinion hyny. Yr oedd ar y Gylchdaith yn yr ail flwyddyn i Mr. Hughes ei theithio ŵr ieuanc hynod o addawol yn gyd-lafurwr iddo, sef sef Mr. Griffith Roberts, o Gylchdaith Pwllheli. Ond ymddengys y byddai yn esgeuluso ei ddyledswyddau gweinidogaethol yn barhaus yn ngwahanol leoedd y Gylchdaith, a dygwyd cyhuddiadau i'r perwyl yn ei erbyn i'w Arolygwr. Wedi cyd-ddwyn âg ef am amser, penderfynodd Mr. Hughes ei gael ef a'i gyhuddwyr i wynebau eu gilydd. Ond yn hytrach na dyfod yn mlaen i sefyll ei brawf, ymddiswyddodd o fod yn weinidog Wesleyaidd. Ond cyn gwneyd hyny llwyddodd i greu rhagfarn yn meddyliau llawer o deuluoedd. Wesleyaidd yn erbyn Mr. Hughes. Gyd à fod hyn wedi digwydd torodd terfysg y Reformers allan, ac enillwyd rhai o ddynion blaenaf Cylchdaith Merthyr i gydymdeimlad â hwy. Cawn gyfeiriad at yr adeg yma yn Nghofiant y Parch. Rowland Hughes, gan y diweddar Barch. Dr. Davies.

Gwnaethant rwyg anaele yn ein hen Gyfundeb hybarch. Collwyd ugeiniau o filoedd o aelodau o'n heglwysi mewn ychydig iawn o flynyddoedd ; a hyny hefyd heb i neb arall elwa ond pur ychydig yn wir oddiwrth y difrod i gyd. Cadwyd y gwenwyn yn rhyfeddol o dda allan o Gylchdeithiau Cymru. Ond methwyd a gwneyd hyny yn hollol. Dioddefodd dwy neu dair ohonynt yn bur drwm oddiwrtho, ac yn mhlith y cyfryw yr oedd Cylchdaith Merthyr Tydfil yn flaenaf, ac yn benaf bron. Enillwyd rhai o'i dynion blaenaf hi i gydymdeimlad â'r terfysgwyr. Yr oedd y brodyr hyny cyn yr anffawd hono, yn ddynion da ac anwyl iawn; ond yn y cynhwrf hwnw, rhyfedd mor bigog ac mor dra chwerw yr aethant."

Ar ol crwydro fel hyn o'n llwybr i gymeryd cip-olwg ar dyrfysg y Diwygwyr dychwelwn i edrych sefyllfa yr achos yn 1850, &c. Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Gogledd y flwyddyn hono yn Cefnmawr. Trefnwyd i gael y pregethu ar Ddydd yr Uchelwyl yn yr awyr agored, ac adeiladwyd llwyfan eang at wasanaeth y pregethwyr ac eraill. Wedi dechreu yr odfa foreuol, ac i'r Parch. Edw. Anwyl gymeryd ei destyn i draddodi pregeth y Jubili, rhodd y llwyfan ffordd a syrthiodd i'r llawr er dychryn mawr i bawb oedd yn bresenol. Wedi cael tawelwch, esgynodd Mr. Anwyl i wagen oedd gerllaw, a phregethodd gyd â hwyl ac arddeliad. Yn Llandeilo Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Deheu, a chafwyd yno gyfarfod rhagorol. Bu hon yn flwyddyn o gynydd neillduol ar yr achos yn y ddwy Dalaeth. Yn ol y cyfrifon a ddarllenwyd yn y Cyfarfodydd Talaethol yr oedd y cynydd yn y De yn 698, ac yn y Gogledd yn 611, ond nid yw hwn yn hollol gyson â'r cyfrif a geir yn Nghofnodion y Gynadledd. Fodd bynag, yr oedd dros ddeuddeg cant o gynydd yn rhif yr aelodau yn y ddwy Dalaeth.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1850 yn Llundain. Nid oedd effaith diarddeliad Everett, Dunn, a Griffith wedi dyfod i ddyweyd ond ychydig ar y Cyfundeb eto, oblegid bu cynydd o dros fil yn rhif yr aelodau. Galwyd allan i waith y weinidogaeth y flwyddyn hon y personau canlynol:

1. DAVID EVANS, o Dredegar. Yr oedd yn weinidog galluog a chymeradwy. Bu yn Gadeirydd Talaeth Deheudir Cymru am chwe' blynedd, sef o 1874 hyd 1880. Yr oedd yn hynod o gymeradwy yn mhlith ci frodyr. Bu farw yn Abertawe, Medi 29ain, 1884, yn ei 59ain mlwydd o'i oed, ac yn ei 35ain o'i weinidogaeth.

2. JOHN HUGHES (B), o Beaumaris, Sir Fôn. Dyn caredig iawn a chyfaill dyddan dros ben. Bu farw yn Nhgaernarfon Tach. 21ain, 1886, yn ei 65ain mlwydd o'i oedran a'r 37ain o'i weinidogaeth.

3. CHARLES NUTTAL, o Dyserth,Sir Fflint. Bu farw yn Towyn, Mai 3ydd, 1887, yn 65ain mlwydd o'i oedran, a'r 37ain o'i weinidogaeth.

4. HENRY PARRY, o Abercegir, Sir Drefaldwyn. Erys ef hyd yn awr, a phregetha yn fynych ar Gylchdaith Abertawe. Bu ef am dymor yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ddeheuol.

5 GRIFFITH ROBERTS, o Pwllheli, Sir Gaernarfon. Gadawodd y gwaith tra nad oedd eto ond ar ei brawf.

Nid oes genym ond ychydig i'w gofnodi am y flwyddyn 1851, mor bell ag y mae y gwaith Cymreig yn y cwestiwn. Bu yn flwyddyn ddifriol iawn yn hanes y Cyfundeb, oblegid rhwygwyd ef yn erchyll gan y terfysgwyr. Yr oedd y lleihad yn rhif yr aelodau y flwyddyn hon yn 56,068. Ni alwyd ond un i waith y weinidogaeth yn Nghymru y flwyddyn hon. Yr un hwnw oedd :

ROBERT JONES (C), o Lanfechan, Sir Drefaldwyn.

Yr oedd yn bregethwr nerthol a phoblogaidd a bu yn foddion i ddychwelyd llawer o eneidiau at Grist. Bu farw yn Manchester, Maw. 15fed, 1883, yn ei 56ain flwydd o'i oedran a'r 32ain o'i weinidogaeth.

Yn Sheffield, cynhaliwyd Cynhadledd, 1852. Ni alwyd neb allan y flwyddyn hon, ac mor bell ag y gallwn gasglu oddiwrth yr adroddiadau a geir yn yr Eurgrawn" o hanes y Cyfarfodydd Talaethol ni chynygiwyd neb fel ymgeiswyr am y weinidogaeth, gan fod cryn nifer o'r rhai a gymeradwywyd mewn Cyfarfodydd o'r blaen heb gael eu galw allan. Ni alwyd neb allan o'r newydd i waith y weinidogaeth, yn Nghynadledd 1853. Ond yn mis Medi canlynol bu farw y Parch. Daniel Jones, yn Llanrhaiadryn—Mochnant, ac i lanw yr adwy, galwyd allan

OWEN EVANS, o Langefni, Sir Fôn. Yr oedd ef yn ddyn caredig ac hynod o ymroddol i'w waith, ac yr oedd llwyddiant yr achos yn agos at ei galon bob amser. Bu farw yn Llanrwst, Hydref 1ofed, 1864, yn ei 39ain o'i oedran, a'r 11eg o'i weinidogaeth.

Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Deheu am 1854, yn Nantyglo. Prif digwyddiad y Cyfarfod hwnw oedd yr anerchiad a draddodwyd gan y Parch. Isaac Jenkins, i'r Parchn. C. Nuttal, D. Evans a H. Parry, ar derfyn eu tymor prawf wedi iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cyfarfod i gael eu hordeinio yn y Gynhadledd nesaf. Y testyn oedd Luc xii. 34, a sylwyd ar gymeriad, gwaith a gwobr y gweision ffyddlon.

Yn Nghaernarfon y cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Gogledd. Yr oedd hwn yn gyfarfod neillduol iawn Penodwyd pwyllgor ganddo i ystyried pa lyfrau i recommendio i'w darllen i'r pregethwyr ar brawf y flwyddyn gyntaf, yr ail, y drydedd, a'r bedwaredd. Yn y cyfarfod hwn hefyd y cafodd y Parch. T. Aubrey y fath hwyl a dylanwad i draddodi ei ddarlith ar "Drefnyddiaeth Wesleyaidd" nes synu pawb. Ond efallai mai prif ddigwyddiad y cyfarfod oedd ymneillduad y Parch. Edward Anwyl o'r gwaith rheolaidd i fod yn uwchrif, ar ol llafurio yn galed am 46ain o flynyddoedd. Fel hyn yr rhydd y Parch. Samuel Davies yr hanes Fel ei gyfoed y Parch. David Williams dan amgylchiadau cyffelyb, methodd a dywedyd ond ychydig eiriau, torodd i wylo, ac eisteddodd i lawr, tra yr oedd llygaid yr holl frawdoliaeth o'i amgylch yn ffynnonau of ddagrau. Pa ryfedd wrth weled hen gadfridog na bu arno ofn na dyn na diafol pan yn ymladd brwydrau y groes wrth ddiosg ei arfogaeth oddiamdano am nad allai ymladd yn hwy oherwydd ei wendid, yn tori i lawr ac yn wylo? Dilynwyd ef gan yr un cais gan y Parch. R. Bonner, ond yr oedd ef yn fwy hunan-feddianol. Nid allan o le fyddai crybwyll yn y fan yma fod deall lled gyffredin yn mhlith y brodyr fod Mr. Anwyi yn bwriadu ymneillduo y flwyddyn hono, ac oddiar ystyriaeth iddo fod am 16eg o flynyddoedd yn gwasanaethu y Dalaeth fel cadeirydd, gofalus, &c., penderfynwyd cyflwyno iddo ei ddarlun yn anrheg, yn nghyd a phwrs hardd a phwysig o aur." Cymerwyd rhan yn y cyfarfod a gynhaliwyd i'r perwyl gan y Parchn. J. L. Richards, John Bartley, M. Thomas, a Thomas Aubrey. Siaradai yr oll yn uchel iawn am ragoriaethau Mr. Anwyl. Dewiswyd y Parch. T. Aubrey i fod yn gynrychiolydd i'r Gynhadledd, yr hyn oedd gystal a'i enwi i fod yn gadeirydd yn lle Mr. Anwyl.

Yn y Gynhadledd penodwyd y Parch. T. Aubrey yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a'r Parch. John L. Richards yn Ysgrifenydd. Y flwyddyn hon galwyd allan bedwar o'r newydd i'r weinidogaeth, sef yn

1. JOHN JONES (c), o Bethesda, Sir Caernarfon. Yr oedd ef yn un o'r dynion mwyaf fu erioed yn y weinidogaeth Wesleyaidd. Safai yn uchel fel athronydd, bardd, cerddor, duwinydd, ac yn hollol wrtho ei hun fel ymresymwr. Bu cyfnod yn ei hanes na feddai neb gymaint o ddylanwad dros bregethwyr ieuainc yr enwad yn Nghymru ag efe. Ysgrifenodd lawer, ac yn alluog iawn. Nis gwyddom am neb a dalodd fwy o sylw i egwyddorion llywodraeth foesol, ac a ddysgodd athrawiaeth yr lawn cystal âg ef. Yr oedd hefyd yn bregethwr gafaelgar, yn fugail gofalus, ac yn un o'r dynion mwyaf anymhongar a gerddodd y ddaear erioed. Yr oedd yn foneddwr trwyadl ac yn gristion gwirioneddol. Pallodd ei gôf i fesur helaeth tua therfyn ei ocs, yr hyn a brofodd yn gryn anfantais iddo. Bu farw yn Mangor, Rhagfyr 17, 1889, yn ei 64ain mlwydd o'i oedran, a'r 35ain o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM MORGAN, o Melinygraig, Sir Aberteifi. Mae efe eto yn fyw, ac yn teimlo cymaint o ddyddordeb ag erioed yn llwyddiant y gwaith. Parhaed ei brydnawn yn hir ac yn glir.

3. RICHARD WILLIAMS, o Llwyngwril, Sir Feirionydd. Yr oedd ef yn bregethwr sylweddol, a gweithiodd yn neillduol o galed am dymor lled faith. Bu o wasanaeth fawr i'r achos yn ei amgylchiadau allanol, ac yn yr ystyr yma gadawodd pob Cylchdaith yn well nag y cafodd hi. Bu farw yn Rhyl, Awst 29ain, 1895, yn ei 68ain oed, a'r 41ain o'i weinidogaeth.

4. ROWLAND WHITTINGTON, o Penegoes, Sir Drefaldwyn. Ar ol llafurio yn dra chymeradwy am rai blynyddoedd gadawodd y gwaith. Yn mhen amser ymfudodd i'r America, ac yno y bu farw.

Gyda hyn, dygir ni i derfyn cyfnod arall yn hanes Wesleyaeth yn Nghymru, a chyfnod lled brofedigaethus i'r achos, yn enwedig yn y Deheudir. Dodwn yma gyfrif yr aelodau am y pum' mlynedd, sef o 1850 hyd 1855.

. Deheudir Gogledd
1850 4,869 . 7376 .
1851 4,596 273 lleihad 7607 231 cynydd
1852 4,253 343 lleihad 7443 164 lleihad
1853 4,094 159 lleihad 7473 30 cynydd
1854 3,978 116 lleihad 7854 381 cynydd

Dengys hyn 891 o leihad yn y Dalaeth Ddeheuol, ond 478 o gynydd yn y Dalaeth Ogleddol. Yn 1851 ffurfiwyd un gylchdaith newydd, ond gan i Gylchdaith Corwen gael ei huno â Chylchdaith Rhuthyn a Dinbych yn ystod y cyfnod hwn, safai eu rhif yr un ar ei therfyn ag ydoedd ar ei dechreu.

Adeiladodd y Reformers gapelau yn Merthyr, Tredegar, Aberdare, a Mill Street, ond ychydig iawn o lwyddiant fu arnynt. Buont yn llwyddianus i dynu i lawr, ond pan aethant i adeiladu cawsant eu siomi. Yn lle ymuno â'r Diwygwyr, aeth y rhan liosocaf o'r rhai a hudwyd ganddynt oddiwrthym at enwadau eraill i wneyd eu cartref, ond yn y diwedd dychwelodd amrai o honynt yn ol i'w hen gorlan.


PENNOD XIII.

Ad-drefnu a chyfaddasu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig i
gyfarfod ag angenhion yr amserau yn fwy effeithiol.
O 1855 hyd 1865.

CYNHALIWYD Cyfarfod Talaethol Gogledd Cymru am 1855, yn Treffynnon, ac un y Dalaeth Ddeheuol yn Aberteifi, a chynhaliwyd Cynhadledd y flwyddyn. hon yn Leeds. Ni alwyd allan y flwyddyn hon ond un, sef

JOHN ROBERTS, o Penegoes, Sir Drefaldwyn. Bu farw yn Machynlleth, Medi 1ofed, 1875, yn 47ain mlwydd oed, ac yn yr 20fed o'i weinidogaeth.

Wedi i'r Parch. T. Aubrey gael ei benodi yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru, ymgysegrodd i wasanaeth y swyddogaeth â'i holl egni. Gwelodd fod sefyllfa ysbrydol yr achos yn mhell islaw yr hyn ddylasai fod, a theimlai fod y Trysorfeydd yn mhell o fod yn gyfartal âg anghenion yr amgylchiadau. Yr oedd tai y gweinidogion mewn cyflwr gwael, a bron yr oll o'r capelau yn adfeiliedig, a llawer o dan feichiau trymion o ddyledion, Cafodd y materion hyn sylw cyn i Mr. Aubrey dd'od i'r gadair. Penodwyd Pwyllgor yn Nghyfarfod Talaethol 1853 i gymeryd i ystyriaeth gyflwr isel cyllid y Dalaeth. Cyfarfyddodd y Pwyllgor hwnw yn Abergele, a theimlai fod eisiau diwygiad gyd â golwg ar y Genhadaeth Gartrefol, ac argymellwyd fod cynyg yn cael ei wneyd i'r Gynhadledd i roddi i fyny y rhad-roddion a dderbyniai y Dalaeth o'i Thrysorfa yn mhen cyfnod penodol; ac apeliad yn cael ei wneyd at ein cyfeillion trwy y Dalaeth i godi swllt yn y flwyddyn ar gyfer pob aelod fod ymdrech yn cael ei wneyd y flwyddyn hono i'w codi, a bod Mr. Aubrey i ymweled a'r Parchn. Dr. Bunting a John Scott i egluro y cynllun, ac i geisio eu cydsyniad a'u cydweithrediad o'i blaid. Ymwelodd Mr. Aubrey a'r boneddigion uchod, a chafodd dderbyniad siriol ganddynt, a chydnabyddent fod yn y cynllun elfenau gwerth eu hystyriaeth ffafriol, ond ni wnaethant unrhyw addewid iddo.

Cyfarfu ail Bwyllgor yn Abergele, Medi 25 a 26, 1855, i gymeryd i ystyriaeth ffurfiad Trysorfa y Genhadaeth Gartrefol a Thrysorfa Fenthycol Capeli y Dalaeth. Argymellwyd fod y ddwy Drysorfa i gael eu sefydlu, a bod y Parch. T. Aubrey i ymweled â holl Gylchdeithiau y Dalaeth i egluro y cynllun o godi Trysorfa Fenthycol. Cynwysai y cynllun fod mil o bunnau i gael eu codi yn y Dalaeth, a chais am echwyn o ddwy fil o'r Drysorfa Seisnig yn cael ei wneyd i ffurfio Trysorfa o dair mil at wasanaeth y Dalaeth. Yn Hydref y flwyddyn hono cyfarfu Cyfarfod Cyllidol y Dalaeth yn Llanrhaiadr, ac yno y penderfynwyd sefydlu Trysorfa y Genhadaeth Gartrefol yn ei ffurf bresenol,

Yn y cyfarfod hwn hefyd yr eglurodd Mr. Aubrey ei gynllun er gwaredu y Capelau o'u dyledion trymion, sef trwy sefydlu Trysorfa Fenthycol. Cymeradwywyd y cynllun yn galonog, a gweithiwyd ef allan yn llwyddianus gan y Dalaeth. Cymeradwywyd y cynllun gan Bwyllgor Capelau y Cyfundeb, a chymeradwywyd ef yn derfynol yn Nghyfarfod Talaethol Bangor, 1856. Yr oedd y cynllun yn cynwys fod y £2000 a fenthycid o Drysorfa y Cyfundeb i gael eu dychwelyd yn rhan—daliadau blynyddol o £200 yr un. Ac i alluogi y Dalaeth i wneyd hyn sefydlwyd casgliad yr Ysgol Sul, sef dimeu yn y mis ar gyfer pob aelod, ac ymgymerodd Ysgolion Sabbothol y Dalaeth â hyn yn ewyllysgar a chalonog.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1856 yn Bristol, ac упо у cadarnhawyd sefydliad y Trysorfeydd a nodwyd. Gan y Gynhadledd hono galwyd allan ddau o'r newydd i waith y weinidogaeth, sef yn

1. WILLIAM HUGH EVANS, o Ysceifiog, Sir Fflint. Daeth yn uwchrif yn 1895. Mae ef yn awr yn trigo yn Rhyl, ac mor fyw ac erioed i amgylchiadau ei enwad a'i wlad.

2. OWEN WILLIAMS, o Llangoed, Sir Fôn. Aeth yn uwchrif yn 1890, a phreswylia yn awr yn Nghaernarfon, a hyny er mantais i achos addysg yn y dref, ac yn neillduol i achos crefydd a rhinwedd.

Yn Liverpool y cynhaliwyd Cynhadledd 1857, ac yn y Gynhadledd hon galwyd allan bedwar o'r newydd i waith y weinidogaeth.

1. OWEN LLOYD DAVIES, o Lanrwst, Sir Ddinbych. Aeth yn uwchrif yn y flwyddyn 1893. Preswylia yn Liverpool, a pharha i wasanaethu yr achos yn ol ei allu. Pregetha mor alluog ag erioed.

2. GRIFFITH JONES, o Aberdaron, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn feddyliwr galluog, yn bregethwr coeth, ac yn Armin mawr iawn. Bu farw yn Porthmadog, Hydref 7fed, 1897, yn ei 67ain flwydd o'i oedran, a'r 40fed o'i weinidogaeth.

3. THOMAS MORGAN, o Tŷ Ddewi, Sir Benfro. Bu o wasanaeth fawr i'r Dalaeth Ddeheuol. Cymerodd yr arweiniad yn erbyn uniad (amalgamation) yr Achosion Cymreig a Seisnig yn y Deheudir. Bu yn Ysgrifenydd y Dalaeth am dymhor, ac yn Gadeirydd am saith mlynedd. Aeth yn uwchrif yn 1895, a phreswylia yn awr yn Brynmawr.

4. JOHN PIERCE, o Gaernarfon. Aeth yn uwchrif yn y flwyddyn 1898, ar ol teithio am 41ain o flynyddoedd. Preswylia yn awr yn Llangollen, a pharha i wasanaethu yr achos yn ffyddlon.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1858 yn Hull. Ni alwyd neb allan o'r newydd yn y Gynhadledd hon. Yr oedd Mr. Aubrey wrthi a'i holl egni yn y blynyddoedd hyn, nid yn unig gyd âg amgylchiadau allanol yr achos, ond rhoddai ef ac eraill ystyriaeth ddwys i sefyllfa ysbrydol yr achos yn yr holl gylchdeithiau. Cynhelid cyfarfodydd cylchdeithiol i edrych i mewn i sefyllfa ysbrydol yr eglwysi, a gwahoddid y blaenoriaid a'r swyddogion i roddi eu presenoldeb ynddynt. Talai Mr. Aubrey ymweliad â'r cyfarfodydd hyn, ac yr oedd ei anerchiadau amserol yn gwneyd argraff dda arnynt. Yn y cyfnod hwn hefyd y trefnwyd i gynal Cyfarfodydd Adfywiol yn y gwahanol gylchdeithiau, y rhai fuont yn foddion effeithiol i adeiladu. y saint a dychwelyd llawer o eneidiau at Grist.

Wedi gosod y ddwy Drysorfa a nodwyd mewn sefyllfa weithiadwy, y gwaith mawr i'w wneyd bellach oedd cario allan eu darpariadau yn y cylchdeithiau, a thrwy yr oll i fod yn fantais ysbrydol i'r achos. Yn yr "Eurgrawn 1858, ymddangosodd cyfres o ysgrifau gan y Parchn. Thomas Aubrey a Dr. Jones, ar "Adfywiad Crefyddol," a diameu iddynt symbylu ein pobl i gydymffurfiad âg amodau adfywiad, ac i'w parotoi i dderbyn bedydd yr Yspryd Glân.

Yn nechreu y flwyddyn 1858 dechreuodd Diwygiad Mawr Crefyddol 1859 a 1860 dori allan, a hyny yn Llanfairfechan, Sir Caernarfon. Nos Lun, Chwefror 15, 1858, a'r nosweithiau dilynol, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd adfywiol yn Nghapel y Wesleyaid, Llanfairfechan, pryd y pregethwyd gan y Parchn. T. Aubrey a M. Thomas. Y Sul canlynol yr oedd Mr. Michael Roberts, gynt o Eglwysfach, yn pregethu, a dychwelwyd pump o dan ei weinidogaeth. Y Sabboth canlynol i hyny, sef Chwefror 28, 1858, yr oedd y Parch. M. Thomas yno yn pregethu. Ei destyn oedd Job i. 5. “Ar ddiwedd yr odfa daeth y dylanwad ysbrydol ar yr holl wrandawyr fel gwynt nerthol yn rhuthro, nes yr oedd pawb wedi eu taenellu â'r gwlith ysbrydol. Yr adeg ryfedd yma gallasech weled y dagrau yn gorlifo yn brysur dros ruddiau pawb heb wahaniaeth pawb yn wylo yn hidl ac yn ocheneidio, rhai yn gwaeddi am drugaredd, ac eraill yn diolch am Waed y Groes." Ar ddiwedd yr odfa arhosodd 25 ar ol yn wir edifeiriol, ac yn wylo yn chwerw dost. Mawrth 25 yr oedd y Parch. M. Thomas yma eilwaith yn pregethu. Ymunodd â'r Eglwys o'r newydd y tro hwn eto ugain o ddynion a merched ieuainc gobeithiol, ac arwyddion edifeiriol iawn arnynt. Fe gofir ac fe genir ar fryniau anfarwoldeb am y nosweithiau hyfryd hyn. Yn ystod dau fis O amser ymunodd 134 â'r Eglwys Wesleyaidd a 60 âg Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Ymledodd y Diwygiad hwn i Aber, Penmaenmawr, Conwy a Llandudno, a cychwanegwyd ugeiniau at yr Eglwysi, ac hyny yn benaf trwy weinidogaeth y Parch. M. Thomas.

Yn y flwyddyn 1859 torodd y Diwygiad mawr a aeth fel tòn dros Gymru allan yn y Deheudir, ac fel hyn y bu. Yr oedd gŵr ieuanc o bregethwr o'r enw Mr. Humphrey Jones, genedigol o Dre'rddol, Sir Aberteifi, wedi ymfudio i'r America. Yn lled fuan wedi iddo gyrhaedd yno torodd allan ddiwygiad crefyddol a ysgydwodd y wlad drwyddi draw. Yfodd Mr. Jones ar unwaith o ysbryd y diwygiad hwnw, a gwisgwyd ef a nerth o'r uchelder. Ymwelai â'r Eglwysi Cymreig yn yr Unol Dalaethau, a bendithid ei weinidogaeth yn mhob lle er dychwelyd eneidiau. Pan yn anterth ei lwyddiant yn America teimlodd fod Ysbryd yr Arglwydd yn ei gymell i ddychwelyd i'w wlad, er deffroi ei genedl yn ol y cnawd. Glaniodd yn y wlad hon ddiwedd yr haf, 1858, a dechreuodd ar ei waith ar unwaith yn Tre'rddol, ac yn fuan gwelwyd ugeiniau wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd. Ar ol bod am wythnosau yn Tre'rddol aeth i Ystumtuen, yna i'r Mynyddbach, ac oddiyno i Bontrhydygroes. Tra yno, daeth Mr. David Morgan, Ysbytty, i gyffyrddiad ag ef, a gwisgwyd yntau a nerth o'r uchelder, a bu yn offeryn i gael canoedd at yr Arglwydd. Trwyddo ef yn benaf y torodd y diwygiad allan yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Yn Ngwanwyn 1859 y daeth ef i gyffyrddiad â Mr. Humphrey Jones.

Yn awr, tra yr oedd y Diwygiad yn myned yn mlaen fel hyn yn Sir Aberteifi gyd â Mr. H. Jones, yr oedd pethau cyffelyb yn cymeryd lle yn nglyn â gweinidogaeth y Parch. Isaac Jones, yn Sir Feirionydd. Daeth ef i Gylchdaith Dolgellau yn niwedd 1858. Gyda'i fod yno dechreuodd yr Arglwydd fendithio ei weinidogaeth mewn modd. neillduol er dychwelyd pechaduriaid. Yn ystod y wyddyn gyntaf i Mr. Isaac Jones yn Nolgellau yr oedd bron yr oll o'r gwrandawyr yn mhob lle wedi ymuno â'r Eglwysi. Felly gwelwn mai y rhai a ddefnyddiodd yr Arglwydd gyntaf fel offerynau i ddwyn oddiamgylch Ddiwygiad 1859 a 1860 oeddynt y Parch. M. Thomas, Parch. Humphrey Jones, a'r Parch. Isaac Jones y tri yn Wesleyaid; ac yna, pan oedd y gwaith wedi dechreu a'r tân yn ymledu, arddelwyd mewn modd neillduol weinidogaeth y Parch. David Morgan. Ymdaenodd y Diwygiad hwn dros Gymru, ac ychwanegwyd miloedd at yr Eglwysi. Cofiwn yr adeg yn dda.

Yr oedd sŵn gorfoledd yn mhyrth merch Sion, a bu y cyfnod hwnw yn flynyddoedd deheulaw y Goruchaf i Eglwysi Duw yn y wlad.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1859 yn Manchester, a dyma y pryd y galwyd allan y brodyr canlynol i waith mawr y weinidogaeth, sef yn

1. EVAN EVANS, o Dinas Mawddwy, Sir Feirionydd. Yr oedd ef yn nai i'r efengylydd enwog, Mr. Edmund Evans. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy iawn, a bendithiwyd ei weinidogaeth er dychweliad llawer o bechaduriaid. Meddai synwyr cyffredin cryf iawn, a gallu neillduol i adnabod natur ddynol. Bu farw yn Liverpool, Gorphenaf 21, 1897, vn 64ain mlwydd oed, ac yn ei 38ain o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM EVANS, o Amlwch, Sir Fôn. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn o dalentau dysglaer iawn, yn bregethwr nerthol a dylanwadol, ac yn llenor cynyrchiol a galluog. Yr oedd hefyd yn gerddor da. Bu farw yn Nghaergybi, Medi 6ed, 1897, yn 63ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 38ain o flynyddoedd.

3. HUGH JONES, o Gaernarfon. Gallwn ddywedyd am dano ei fod yn un o brif bregethwyr ein cenedl. Llanwodd amryw swyddau yn nglyn a'r Dalaeth Ogleddol yn effeithiol. Efe yw Cadeirydd presenol y Dalaeth.

4. RICHARD MORGAN (A), o Lanrhaiadr, Sir Drefaldwyn. Mae efe yn ddyn llawn iawn, yn llenor uwchraddol, ac yn bregethwr efengylaidd. Aeth yn uwchrif yn 1898, a phreswylia yn awr yn Nghroesoswallt.

5. EDWARD PARRY, o Groesoswallt, Sir Amwythig. Aeth i'r gwaith Seisnig yn 1865, a pharha yn nghyflawn waith y weinidogaeth hyd yn awr.

6. THOMAS GRIFFITH PUGH, o Lanelwy, Sir Fflint. Bu farw yn Pwllheli, Awst 4, 1894, yn 60ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 35ain o flynyddau.

7. WILLIAM THOMAS, o Langefni, Sir Fôn. Bu farw yn orfoleddus yn Porthmadog, Rhagfyr 16, 1896, yn 63ain mlwydd oed, ac yn ei 37ain o'i weinidogaeth.

Tra y gweithiai y cyfeillion yn egniol i gyfodi a gwella yr achos yn y Gogledd, ymdrechai y cyfeillion hefyd yn y Dalaeth Ddeheuol yn yr un cyfeiriad. Ffurfiasant yno Drysorfa Fenthycol ar yr un llinellau a'r un yn y Gogledd, er ysgafnhau dyledion y Capelau, a choronwyd eu hymdrechion a chryn fesur o lwyddiant. Yn ol eu rhif a'u gallu gwnaethant yn rhagorol iawn.

Yn y flwyddyn 1860 galwyd tri o frodyr ieuainc o'r newydd i waith y weinidogaeth:

I. JOHN HUGH EVANS, o Ysgeifiog, Sir Fflint. Yr oedd ef yn gymeriad nodedig ac yn sefyll yn hollol wrtho ei hun. Ni feddyliai ac ni phregethai fel neb arall. Torai lwybrau iddo ei hun i ba gyfeiriad bynag yr elai. Yr oedd yn fawr fel athronydd, fel bardd, fel llenor, ac fel pregethwr. Ond credwn fod dirgelwch penaf ei nerth yn perthyn iddo fel Beirniad. Yr oedd ganddo lygad i weled, nid yn unig y gwallau a'r diffygion, ond y prydferthion a'r rhagoriaethau yn blith dra—phlith a'r cyfryw. Bu yn foddion i godi safon beirniadaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i safle uwch. Dylanwadodd fwy na'r un gweinidog arall i symud y Cyfundeb Wesleyaidd yn Nghymru i ymdeimlad o'i Rwymedigaethau Gwleidyddol, a bu ei ddylanwad o blaid Dirwest o anrhaethol werth. Bu farw mewn afiaeth a gorfoledd yn Llanrwst, Mehefin 24ain, 1886, yn ei 53ain flwydd o'i oes, a'r 26ain o'i weinidogaeth.

2. PHILIP WILLIAMS, o Lanelwy, Sir Fflint. Parha ef i deithio hyd yn hyn gyd a chymeradwyaeth. Mae yn awr yn ei 40ain flwydd o'i weinidogaeth.

3. JOHN THOMAS, o'r Mynyddbach, Sir Caerfyrddin. Bu farw Ionawr 11eg, 1868, yn Mynyddbach, yn ei 31ain flwydd o'i oes, a'r 6ed o'i weinidogaeth.

Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol Gogledd Cymru yn y flwyddyn 1861 yn Nghaergybi, ac un y Dalaeth Ddeheuol yn Llandeilo. Ni chofnodir yn yr adroddiadau sydd yn "Yr Eurgrawn" o'r Cyfarfodydd hyn i ddim neillduol iawn ddigwydd yn y naill na'r llall. Yn Nghynadledd y flwyddyn hon galwyd i waith y weinidogaeth yn Nghymru, yn

1. JOHN EVANS, o Eglwysbach, Sir Dinbych. Daeth ef i sylw fel pregethwr yn adeg y Diwygiad. Cyfododd i boblogrwydd mawr ar unwaith, a chadwodd ef hyd y diwedd. Yr oedd ef yn sefyll wrtho ei hun yn hollol fel pregethwr poblogaidd. Yr oedd rhyw swyn yn ei weinidogaeth i'r genedl Gymreig, na bu erioed yn neb arall, mor bell ag y gwyddom ni. Yr oedd yn ddyn cenedl. Gwnaed bwlch yn ein gweinidogaeth pan ei cymerwyd ef ymaith, na lenwir mohono efallai yn hir iawn. Perthynai iddo gyfuniad o bob peth i'w wneyd yn bregethwr poblogaidd. Yr oedd yn llenor uwchraddol, ac yn awdwr cynyrchiol. Bu yn Cadeirydd Talaeth Deheudir Cymru am ddwy flynedd. Bu farw yn sydyn yn Liverpool, Hydref 23ain, 1897, yn ei 57ain flwydd o'i oedran, a'r 37ain o'i weinidogaeth.

2. ROBERT HUGHES, o Bodffari, Sir Dinbych. Aeth yn uwchrif yn 1899, a phreswylia yn awr yn Rhyl, gan fod yn ddefnyddiol yn ei gylch.

3. DAVID JONES (B), o Cerrigydruidion, Sir Dinbych. Teithia yn awr ar Gylchdaith Mynydd Seion, Liverpool.

4. WILLIAM WILLIAMS, o Dregarth, Sir Gaernarfon. Bu farw yn Brymbo, Ionawr 1ofed, 1862, yn 26ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth ychydig fisoedd.

5. DAVID LEWIS, o Arthog, Sir Feirionydd. Yr oedd yn bregethwr tanllyd ac effeithiol. Bu farw yn Preston, Hydref 30ain, 1888, yn 49ain mlwydd oed, ac yn ci 27ain o'i weinidogaeth.

Yn y flwyddyn 1862, Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Gogledd yn Amlwch, ac un y Deheu yn Dowlais, a chynhaliwyd y Gynhadledd yn Camborne, Cornwall. Yn Rhygfyr blaenorol hunodd y Parch. Rowland Hughes yn yr lesu, ac yn ei symudiad collwyd un o brif bregethwyr Cymru. Galwyd allan y flwyddyn hono, yn

1. JOHN WILSON EVANS, o Gylchdaith Aberystwyth. Yn mhen ychydig enciliodd o'r gwaith.

2. ISAAC JENKINS, 2il, o Ystumtuen, Sir Aberteifi. Teithiodd ychydig o flynyddoedd, yna gadawodd y gwaith, ac ymfudodd i'r America.

3. PETER JONES (A), o Penisa'rwaen, Sir Gaernarfon. Wedi teithio tair blynedd, ymadawodd a'r enwad ac aeth i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig.

4. PETER JONES (B), o Gaerwys, Sir Fflint. Parha ef yn nghyflawn waith y weinidogaeth.

5. ROBERT THOMAS OWEN, o Corris, Sir Feirionydd. Yr oedd ef yn ŵr ieuanc talentog iawn, pregethai gyd â nerth anarferol, ac esgynodd yn uchel iawn yn syniad ac i ifafr pawb a'i hadwaenai. Byddai yn fynych yn cael odfaon anghyffredin o rymus a dylanwadol. Bu farw, er galar mawr i'r Cyfundeb yn Nghymru, yn Felinheli, Hydref 1, 1871, yn 30ain oed, a'r 9fed o'i weinidogaeth.

6. ROBERT JONES (D), o Llanegryn, Sir Feirionydd. Aeth yn uwchrif yn 1898. Parha i wasanaethu achos crefydd ac addysg yn gymeradwy yn Towyn, Meirionydd.

7. THOMAS THOMAS (A), o Gaernarfon. Yr oedd ef yn llenor rhagorol, ac yn awdwr cynyrchiol iawn. Bu yn Olygydd y "Winllan am dair blynedd. Wedi bod yn y gwaith Cymreig am rai blynyddoedd, aeth drosodd i'r gwaith Seisnig. Bu farw yn Ulverston, Mai 1. 1888, yn 50ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 26ain o flynyddoedd.

8. DANIEL ANWYL WILLIAMS, o Mostyn, Sir Fflint. Aeth yn uwchrif yn 1897. Preswylia yn awr yn y Wyddgrug, a phregetha yn achlysurol yn y dref ac yn y wlad.

9. FREDRICK GWYNNE, o Merthyr, Sir Forganwg. Wedi teithio ychydig o amser yn Nghymru, aeth i'r gwaith Seisnig; a chyn hir iawn gadawodd yr enwad a'r wlad hon i geisio cysgod mewn gwlad arall.

Nid oes ond ychydig o bethau i'w cofnodi fel pethau neillduol wedi digwydd yn 1863. Yr unig un a alwyd allan y flwyddyn hon ydoedd :

EVAN PARRY EVANS, o Tregarth, Sir Gaernarfon. Bu yn yr Athrofa am dwy flynedd. Teithiodd ar Gylchdaith Abergele am un flwyddyn; yna aeth i'r gwaith Saesnig; penodwyd ef i rai o gylchdeithiau pwysig y Cyfundeb; aeth ar gyfeiliorn, a bu farw allan o'r weinidogaeth.

Aeth y flwyddyn 1864 heibio heb i ddim neillduol ddigwydd. Gweithid yn egniol yn y Dê a'r Gogledd gyd âg amgylchiadau allanol yr achos y pryd hwn, ond tymor digalon ydoedd mewn ystyr ysbrydol. Daeth ad—weithiad ar ol llwyddiant y Diwygiad mawr a fu yn 1859 a 1860. Yn y flwyddyn hon y galwyd allan, yn

1. JAMES EVANS, O Corris, Sir Feirionydd. Yr oedd ef yn ddyn siriol a chyfeillgar iawn. Bu am dymor o dan addysg yn Ngholeg Dr. Evan Davies, Abertawe, a gwnaeth gynydd mawr mewn ychydig amser. Meddai alluoedd meddyliol o radd uchel, a phregethai yr Efengyl yn eglur ac effeithiol. Yr oedd hefyd yn gerddor rhagorol. Bu farw yn Dolgellau, Hydref 15fed, 1874, yn ei 34ain flwydd o'i oed, a'r 11cg o'i weinidogaeth.

2. JOHN HUGH MORGAN, o Aberystwyth, Sir Aberteifi. Aeth drosodd i'r gwaith Seisnig yn fuan wedi dechreu teithio, a pharha yn y gwaith hyd heddyw.

3. THOMAS PHILLIPS, o Rhymni, Sir Fynwy. Bu farw yn Aberystwyth, Ionawr 14eg, 1893, yn 56ain mlwydd oed, a'r 29ain o'i weinidogaeth.

4. DANIEL RODRICK, o Ferthyr Tydfil, Sir Forganwg. Gadawodd ein gweinidogaeth heb unrhyw gwyn yn ei erbyn, ac ymunodd âg Eglwys Loegr.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1865 yn Birmingham, a'r bryd hwn gorfu ar y Parch. Thomas Aubrey ofyn am ganiatad i fyned yn uwchrif. Penodwyd y Parch. Samuel Davies yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru yn ei le. Y flwyddyn hon y galwyd allan, yn

1. HENRY HUGHES, o Lanrwst, Sir Ddinbych. Parha i lafurio yn nghyflawn waith y weinidogaeth.

2. THOMAS JONES-HUMPHREYS, o Tŷ Cerrig, Darowen, Sir Drefaldwyn. Erys hyd yn hyn yn nghyflawn waith y weinidogaeth.

3. THOMAS THOMAS (B), o Gaergybi, Sir Fôn. Meddai ar ddawn melus, ac nid oedd dichell yn ei ysbryd. Bu farw yn Llanbedr, Meirionydd, Awst 18fed, 1896, yn 54ain mlwydd oed, a'r 31ain o'i weinidogaeth.

Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd terfyn cyfnod arall yn hanes ein Cyfundeb yn Nghymru, sef yr un mlynedd ar ddeg y bu y Parch. Thomas Aubrey yn gadeirydd. Dyma gyfnod yr ad-drefnu, tynu cynlluniau, a'u dygiad i weithrediad ymarferol. Yr oedd nifer o ddynion galluog yn cyd-weithio—Y Parch. T. Aubrey yn gosod y cynlluniau gerbron yn eu heangder a'u cyfaddaster i gyfarfod yr amgylchiadau, a hyny gyd â'r fath frwdfrydedd a sêl nes cario pawb i'w ganlyn:—y Parch. Samuel Davies yn dullweddu y cynlluniau i ffurf ymarferol, a chyda dygnwch di-ildio. yn eu rhoddi mewn ymarferiad: y Parch. Dr. Davies yn rhoddi i'r cynlluniau ffurf lenyddol ddengar a dealladwy: y Parch. R. Prichard yn sefyll dros symud yn bwyllog a diogel, a'r Parch. M. Thomas yn gorchymyn pawb at eu gwaith gyd âg awdurdod, ac at y cwbl, pawb yn weinidogion a swyddogion yn cyd-weithio i ddwyn yn mlaen yr achos yn egniol a llwyddianus.

Fel y sylwyd, daeth y cyfnod hwn i mewn pan oedd y Reformers yn drygu yr Eglwysi. Wedi hyny cafwyd Adfywiad mawr ar grefydd, ac yn dilyn hwn daeth ad-weithiad i mewn, ac i ddangos y pethau hyn gosodwn yma gyfrif yr aelodau am flynyddoedd y cyfnod hwn.

. Deheudir. Gogledd.
1855 4016 38 cynydd 7894 40 cynydd
1856 3928 88 lleihad 7824 70 lleihad
1857 3825 103 lleihad 7876 52 cynydd
1858 3886 61 cynydd 7953 77 cynydd
1859 4114 228 cynydd 9267 1314 cynydd
1860 4938 821 cynydd 11,450 2183 cynydd
1861 4862 76 lleihad 11,901 451 cynydd
1862 4900 38 cynydd 11,528 373 lleihad
1863 4655 245 lleihad 11,034 494 lleihad
1804 4528 127 lleihad 10,661 373 lleihad
1865 4317 211 lleihad 10,329 342 lleihad
Yn ystod y cyfnod hwn bu cynydd o 301 yn rhif yr aelodau yn y Dalaeth Ddeheuol, a chynydd o 2434 yn y Dalaeth Ogleddol. Ond dylid cofio i Gylchdaith Gymreig Liverpool gael ei huno â'r Dalaeth Ogleddol yn ystod y cyfnod hwn, ac yr oedd yn perthyn iddi hi ar y pryd 664 o aelodau eglwysig.

Bu cryn gyfnewidiadau yn nhrefniad y Cylchdeithiau yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1856, gwnaed Rhuthyn a Chorwen yn Gylchdaith, ac unwyd Dinbych gyd â Chylchdaith Llanasa, a galwyd hi yn Gylchdaith "Llanasa a Dinbych." Yn 1857, ffurfiwyd un Gylchdaith Newydd yn y Dalaeth Ddeheuol, sef Aberdare. Ffurfiwyd un Gylchdaith Newydd hefyd yn y Dalaeth Ogleddol, sef Tregarth. Gwnaed hyny trwy ranu Cylchdaith Bangor. Yn 1858, unwyd Cylchdaith Gymreig Liverpool â'r Dalaeth Ogleddol. Yn 1860, ad-defnwyd i fesur helaeth y Cylchdeithiau yn y Dalaeth Ogleddol. Cymerwyd rhai ĺleoedd oddiwrth Gylchdaith Llanasa a Dinbych, ac unwyd hwy â Chylchdaith Treffynnon; a chymerwyd nifer o Eglwysi oddiwrth Gylchdaith Treffynnon, a ffurfiwyd o honynt Gylchdaith newydd, sef Bagillt. Y flwyddyn hon hefyd y ffurfiwyd Cylchdaith Coedpoeth, Caergybi, a Llanrhaiadr. Yn 1861 ffurfiwyd un Gylchdaith Newydd yn y Dalaeth Ddeheuol, sef Ystumtuen. Yn 1862 ffurfiwyd dwy Gylchdaith Newydd yn y Dalaeth Ogleddol, sef Penmachno a Blaenau Ffestiniog, a Chonwy. Yn 1863, ffurfiwyd un Gylchdaith Newydd yn y Dalaeth Ogleddol, sef Corwen. Y flwyddyn hon rhoddwyd enw Dinbych yn gyntaf ar y Sefydliada yn lle Rhuthyn. Pa reswm oedd am hyn nis gwyddon, Ond gwyddom mai Rhuthyn fedda'r hawl i'r lle cyntaf, am mai "Rhuthyn" oedd enw y Gylchdaith Wesleyaidd Gymreig gyntaf erioed. Yn 1864, ffurfiwyd dwy Gylchdaith Newydd yn y Dalaeth Ddeheuol, sef Tredegar ac Aberaeron.


PENNOD XIV.

Ymdrechion adnewyddol i gyfnerthu a llwyddo y gwaith yn Nghymru.
(O 1865 HYD 1886).

YN Nghyfarfod Talaethol Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Liverpool, Mehefin 6ed, &c., 1866, yr oedd y Parch. S. Davies yn y gadair am y tro cyntaf. Yr oedd wedi llenwi y gadair yn Nghyfarfod Cyllidol y Dalaeth a gynhaliwyd yn Dolgellau, Hydref 3ydd, &c., 1865 o'r blaen, a phrofodd yno ei gymhwyster i'r swydd. Ond yn Liverpool y cawsom ni y fraint o'i weled ef yn y gadair am y tro cyntaf. Hawdd oedd canfod ei fod yn llawn yni a gwaith. Yr oedd y Parch. T. Aubrey yn bresenol yn y cyfarfod hwnw, ac yn teimlo dyddordeb mawr yn yr holl weithrediadau. Tri pheth mawr y Cyfarfod hwn mor bell ag y cofiwn ni oeddynt,—Cyflwyno tysteb i Mr. Aubrey ar ei neillduad o waith rheolaidd y weinidogaeth; Pregeth y Parch. John Evans, Eglwysbach, yn Nghapel Brunswick, Moss Street; a'r Cynllun a ddygwyd gerbron y Cyfarfod i berffeithio Trysorfa Capelau y Dalaeth, a'i chael i'w ffurf bresenol. Cyflwynwyd y dysteb i Mr. Aubrey mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Nghapel Brunswick, ac hefyd anerchiad. Cynwysai y pwrs a estynwyd iddo gan y Cadeirydd y swm o £425 45. 1c., fel cydnabyddiaeth fechan o serch a pharch ar gyfrif ei wasanaeth dihafal i achos yr Arglwydd yn y Dalaeth. Prif araeth y Cyfarfod oedd eiddo Mr. W. Bridge, Conwy.

Yn yr hwyr y diwrnod hwnw traddododd y Parch. John Evans, Eglwysbach, ei bregeth boblogaidd ar "Ogoniant Digyffelyb Dinas Duw," seiliedig ar Salm lxxxvii. Yr oedd hen gapel enwog Brunswick dan sang, a'r pregethwr (ieuanc y pryd hwnw) wedi ei godi i afiaeth ysbrydol. oedd y gynulleidfa fawr fel pe mewn perlewyg dan ddylanwad swyn goruwch—naturiol. Nid anghofiwn byth yr odfa hon—yr odfa fwyaf effeithiol, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, a gawsom erioed. Teimlai canoedd yn ddiolchgar, os oedd "Aubrey Fawr" yn cilio o'r golwg, fod yr Eglwysbach" yn dyfod fwy—fwy i'r amlwg, ac na phallai i ni ŵr i sefyll dros yr Arglwydd yn ein huchelwyliau.

Fel y nodwyd, yr oedd y Parch. S. Davies erbyn hyn yn y gadair, ac yn yr ychydig fisoedd y bu yn y swydd yr oedd wedi bod yn dyfalu beth a ellid ei wneyd er estyn cynorthwy pellach i'r Dalaeth trwy ad-drefnu a helaethu Trysorfa y Capelau. Credai ef y gallesid sefydlu Trysorfa yn y Dalaeth er cynorthwyo trwy rad-roddion yn ogystal a thrwy echwynion i adeiladu a helaethu capelau, &c., a hyny yn gyson â rheolau y cyfundeb, sef eu gadael yn rhydd oddiwrth ddyled yn mhen deg mlynedd, ond cael cydsyniad y Gynhadledd, a chaniatad i gadw y "casgliad cyhoeddus" at y Capelau, cyd-roddion y Trusts a chasgliad yr Ysgol Sul. Ymgynghorodd ar y mater gyd â'r Parchn. T. Aubrey a W. Davies, D.D. Ond ofnent hwy na roddai Pwyllgor y Capelau a'r Gynhadledd gymeradwyaeth i'r fath gynllun; ond ar yr un pryd gwnaethant eu goreu i gynorthwyo eu cadeirydd. Fodd bynag, tynwyd allan gynllun llawn, a gosodwyd ef gerbron y Cyfarfod Talaethol yn Liverpool. Yr oedd yn eglur fod y Parch. John Bedford, Ysgrifenydd y Capelau, yn ei erbyn, ond safai Dr. Osborn o'i blaid, a phenderfynwyd fod y cynllun i gael ei gyflwyno i sylw y Gynhadledd nesaf. Pan ddaeth y Gynhadledd, dygwyd y cynllun gerbron, a phenodwyd "pwyllgor neillduol" i'w ystyried. Wedi i'r pwyllgor hwn eistedd, a chymeradwyo egwyddor y cynllun, dygwyd y mater drachefn gerbron y Gynhadledd a chymeradwywyd ef. Ar ol llawer o ddadleu a llawer o bryder dygwyd y cynllun yn llwyddianus trwy Bwyllgor Capelau y Cyfundeb, ac yn Nghynadledd 1867 cymeradwywyd ef yn derfynol. Ac o hyny allan mae Trysorfeydd y Capelau yn Nhalaeth Gogledd Cymru yn cael eu gweinyddu gan bwyllgor o ddewisiad y Dalaeth ei hun.

Gwnaed symudiadau drachefn i gyfnerthu Trysorfeydd y Capelau. Ychwanegwyd at gyfalaf y Drysorfa Fenthycol y swm o £800 trwy gyfrwng Cymdeithas a ffurfiwyd yn y Dalaeth dan yr enw "Cymdeithas Fenthycol Capelau Wesleyaid Gogledd Cymru." Cafwyd hefyd o'r "Drysorfa Diolchiadol" y swm o £2,000 at ychwanegu Cyfalaf y Drysorfa Fenthycol, ac ar ol hyny chwyddwyd hi gan gymun—roddion.

Tra y symudid yn mlaen fel hyn yn y Dalaeth Ogleddol, gwneid ymdrech gyffelyb yn y Dalaeth Ddeheuol. Yr oedd gan y Dalaeth hon fel ei chwaer Dalaeth ei Thrysorfa Fenthycol, cyn i "Drysorfa Capelau" yn ei gwedd bresenol gael ei ffurfio. Cofiwn yn dda fod y Parch. T. Jones, D.D. yn casglu at ffurfio ei chyfalaf cyn i ni erioed. adael cartref.

Yn mhen blwyddyn wedi i'r Parch. T. Aubrey fyned yn uwchrif, cawn y Parch. T. Jones, D.D. yn gwneyd cais yn Nghynadledd Leeds, 1866, am caniatad i ymneillduo o waith reolaidd y weinidogaeth, ar ol teithio am 38ain o flynyddoedd, ac ar ol bod yn gadeirydd am 20ain mlynedd. Y Parch. Isaac Jenkins a etholwyd yn gadeirydd yn ei le—gŵr boneddigaidd a llariaidd iawn ei ysbryd a'i foes, ac yn llawn caredigrwydd. Fodd bynag, yn nhymor ei swyddogaeth ef y dechreuodd yr AMALGAMATION rwygo a dinystrio yr achos yn y Dalaeth Ddeheuol.

Yn 1872, rhanwyd Cylchdaith Gymreig Pontfaen. Cymerwyd rhai lleoedd oddiwrthi at Gylchdaith Caerdydd, a ffurfiwyd o'r lleill Gylchdaith Gymysg, a throsglwyddwyd hi i Dalaeth Bristol. Penodwyd gweinidog dwyieithawg iddi am dymor, ac yna yn y flwyddyn 1880, penodwyd gweinidog Seisnig iddi, gan ddiystyru yn hollol hawliau y Cymry i weinidogaeth yn eu hiaith eu hunain, ac y mae rhai yn aros hyd heddyw a gwynant o herwydd y camwri trahaus hwn.

Yn ystod tymhor swyddogaeth Mr. Jenkins dullweddwyd Trysorfeydd Capelau Talaeth Deheudir Cymru i'w ffurf bresenol. Maent o ran eu cyfansoddiad yn debyg i Drysorfeydd Capelau y Dalaeth Ogleddol.

Yn Nghynadledd 1875, ymneillduodd y Parch. Isaac Jenkins o gyflawn waith y weinidogaeth, ar ol llafurio am 40ain mlynedd, ac ar ol bod yn gadeirydd am wyth mlynedd. Yn y flwyddyn hono penodwyd y Parch. David Evans (Degar) yn Gadeirydd y Dalaeth, a pharhaodd yn y swydd am chwe' blynedd. Bu cynydd o 305 yn rhif yr aelodau yn ystod tymor ei swyddogaeth ef, ac ataliwyd yr amalgamation i wneyd rhwyg a difrod.

Yn Nghynadledd 1880 penodwyd y Parch. D. Young yn Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol, a bu yn y swydd am wyth mlynedd, ac yna aeth i weinidogaethu i blith y Saeson. Yn ystod yr wyth mlynedd hyn bu lleihad o 50 yn rhif yr aelodau. Ymddengys mai y prif achos o hyny oedd. gwaith y Dalaeth yn rhoi i fyny yr achosion Cymreig yn Aberhonddu a Chaerfyrddin i'r Saeson. Yr oedd hyn yn gamgymeriad dirfawr ar ran y Dalaeth Ddeheuol, yn enwedig rhoddi i fyny Caerfyrddin, fel y gwelir yn ngoleuni yr ymdrech a wneir yn bresenol i adfeddianu y lle. Yn ystod swyddogaeth Mr. Young, aflonyddid yn barhaus ar y Dalaeth gan y symudiad oedd ar droed i geisio uno yr achosion Cymreig a Seisnig yn y Deheudir. Yn Nghynadledd 1883, a cynhaliwyd yn Hull, penodwyd pwyllgor i wylio buddianiau Methodistiaeth Wesleyaidd yn Neheudir Cymru. Gwnaeth y pwyllgor hwn aml ddrygau i'r achos Cymreig, ac am bum' mlynedd bu yn aflonyddu ar heddwch yr eglwysi, trwy ddwyn adroddiadau y naill flwyddyn ar ol y llall i'r Gynhadledd yn argymell fod yr achosion Cymreig a Seisnig i gael eu huno (yn anghymarus), ac yn Nghynhadledd 1887 cyflwynodd y pwyllgor hwn adroddiad neillduol iddi, yr hwn a gymeradwywyd ac a gymellwyd i ystyriaeth Cyfarfod Talaethol y Deheu. Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i sylw y Cyfarfod Talaethol a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 1888. Ond gwrthodwyd ef gan fwyafrif gorthrechol. Safodd y Parchn. T. Morgan a W. Morgan yn benderfynol yn ei erbyn. Traddodwyd araeth alluog ac argyhoeddiadol yn yr un cyfeiriad gan Mr. Edward Rees, Machynlleth, ac felly hefyd gan y Parch. T. Manuel ac eraill. Safodd y gwyr hyn yn benderfynol dros hawliau yr achos Cymreig, a gwrandawodd y cyfarfod arnynt, ac felly rhoddwyd maen melin am wddf yr amalgamation a bwriwyd ef i eigion y môr.

Ar ol y gonewest hon, cafodd y Dalaeth Ddeheuol heddwch i fyned yn mlaen gyd â'i gwaith, a bu cynydd ar yr achos bob blwyddyn yn olynol, oddeithr un, sef 1894. Yn 1888, rhif yr aelodau oedd, 4,381, ond yn 1898, 5617, sef cynydd o 1,236.

Yn Nghyfarfod Talaethol Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Blaenau Ffestiniog, 1886, gofynodd y Parch. Samuel Davies am ganiatad i fyned yn uwchrif, ac yn y Gynhadledd ddilynol caniatawyd ei ddymuniad iddo, ar ol bod yn y gwaith am 43ain o flynyddoedd, ac yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru am 21ain o flynyddoedd.

Ac yn y Cyfarfod Talaethol a gynhaliwyd yn Rhyl, cyflwynwyd anerchiad a thysteb iddo fel cydnabyddiaeth fechan o'i lafur ymroddol ac hunan-ymwadol, ac hefyd llwyddianus, er hyrwyddo yr achos yn ei holl ranau. Yr oedd ef yn weithiwr difefl yn ystyr lawnaf y gair, a bydd ei goffawdwriaeth byth yn fendigedig yn ei berthynas â Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig.

Y gweinidogion a alwyd allan i waith y weinidogaeth yn ystod y blynyddoedd hyn oeddynt y rhai canlynol:

1866.—1. ISHMAEL EVANS, o Colwyn, Sir Ddinbych; 2. HUGH HUGHES, o'r Braich, Tregarth, Sir Caernarfon; 3. DANIEL MARRIOTT, o Helygain, Sir Fflint; 4. HENRY PRITCHARD, o Glan Conwy, Sir Dinbych. Yr oedd ef yn ddyn ymroddol i'w waith, yn hynod o gydwybodol gyd â phob peth, ac wedi ei gynysgaeddu âg amryw dalentau disglaer. Yr oedd yn bregethwr mawr, ac yn y pwlpud fel yn mhob man arall yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Llanwodd y swydd o Ysgrifenydd y Dalaeth Ddeheuol am dymhor. Bu farw yn Liverpool, Awst 3, 1897, yn ei 53ain flwydd o'i oes, a'r 31ain o'i weinidogaeth.

1867.—1. JOHN EVANS (C), o Eglwysfach, Sir Aberteifi; 2. Edward Humphreys, o Cefnblodwel, Sir Amwythig. Efe a etholwyd yn Gadeirydd cyntaf y Gymanfa Wesleyaidd Gymreig, ac y mae ar hyn o bryd yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ogleddol; 3. Charles M'Cann, o Coedpoeth, Sir Ddinbych. Enciliodd; 4. John Jones (F), o'r Bontddu, Sir Feirionydd. Yr oedd yn bregethwr hwyliog, a bendithiwyd ei weinidogaeth er dychweliad llawer o bechaduriaid. Bu farw yn Llansantffraid, Sir Drefaldwyn, Ebrill 7, 1897, yn ei 55ain flwydd o'i oes, a'r 30ain o'i weinidogaeth.

1868.—1. THOMAS GRIFFITHS, o'r Braich, Tregarth, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn weinidog cymeradwy a galluog. Daeth yn uwchrif yn ieuanc, a bu yn gystuddiol am flynyddoedd. Bu farw yn Felinheli, Mehefin 16, 1883, yn ei 36ain flwydd o'i oes, a'r 15fed o'i weinidogaeth; 2. John Hughes (C), Glanystwyth, o Cnwch Coch, Sir Aberteifi. Efe yw Goruchwyliwr y Llyfrfa, a Golygydd yr Eurgrawn ar hyn o bryd; 3. Rice Owen, o Cwmbrwyno, Sir Aberteifi. Efe yw Cadeirydd y Dalaeth Ddeheuol yn bresenol; 4. David Young, o Rhymni. Yn 1888 aeth i weinidogaethu at y Saeson.

1869.—1. JOHN JONES (G), o Dinas Mawddwy. 2. Moses Roberts, o'r Cwm, Sir Fflint.


1870.—1. ROBERT LEWIS, o'r Wyddgrug, Sir Fflint. 2. Thomas Roberts, o Penmachno. Bu farw yn Bettws, Abergele, Ionawr 31, 1872, yn ei 28ain flwydd o'i oed, a'r 2il o'i weinidogaeth. 3. Peter Roberts (neu Peter Roberts Williams), o Lanrwst. Aeth yn uwchrif yn 1896.

1871.—1. JOHN CADVAN DAVIES, o Langadfan, Sir Drefaldwyn. 2 Griffith Griffith. Enciliodd. 3. John Griffiths, o Cwmbrwyno, Sir Aberteifi. Yr oedd efe yn ddyn anwyl, yn weinidog cymeradwy, ac yn bregethwr rhagorol. Bu yn Olygydd y "Winllan ac yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ddeheuol am dymor. Bu farw yn Abertawe, Rhagfyr 19, 1894, yn 47ain mlwydd oed, ac yn y 23ain o'i weinidogaeth. 4. Richard Jones. Enciliodd. 5. Joseph Owen, o Felinheli, Sir Gaernarfon.

1872. 1. ROBERT CURRY, o Amlwch, Sir Fôn. 2. William Evans (B), o'r Wyddgrug. Aeth drosodd i'r gwaith Seisnig. 3. Owen Hughes, o'r Braich, Tregarth, Sir Gaernarfon. 4. David Jones (Dewi Mawrth). Yr oedd ef yn fardd rhagorol ac yn bregethwr tarawgar. Bu farw yn sydyn yn Mangor, Medi 17, 1891, yn ei 46ain o'i oes, a'r 20fed o'i weinidogaeth. 5. Richard Lloyd Jones, o Rhuthyn, Sir Ddinbych. 6. John Morris Owen, o Corris, Sir Feirionydd. Bu yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol a godwyd erioed i waith ein gweinidogaeth. Ar ol byr gystudd caled, bu farw yn Mountain Ash, Ionawr 16, 1899, yn 51ain mlwydd oed, ac yn ei 27ain o'i weinidogaeth.

1873.—1. WILLIAM DAVIES (D), o Bontrhydygroes, Sir Aberteifi. Bu farw yn Llangollen, Gorphenaf 12, 1888, yn ei 37ain mlwydd o'i oes, a'r 15fed o'i weinidogaeth. 2. William Griffith, o Dalsarnau, Sir Feirionydd. Enciliodd, ac ymfudodd i'r America. 3. David Gwilym. Enciliodd. 4. Hugh Owen, o Dinorwic, Sir Caernarfon. Bu farw yn Llanfairfechan, Chwefror 31, 1899, yn ei 51ain flwydd o'i oes, a'r 26ain o'i weinidogaeth. 5. Lewis Owen, o Dalsarnau, Sir Feirionydd. 6. Thomas John Pritchard, o Blaenllechau, Sir Forganwg. 7. David Richards, o Dinas Mawddwy, Sir Feirionydd. Nodweddid Mr. Richards ag ymroddiad diseibiant i waith mawr y weinidogaeth: gweithiai mewn amser ac allan o amser, a gwnaeth waith mawr mewn oes gymharol fer. Yr oedd yn nodedig am ei dduwioldeb a'i awydd i achub eneidiau. Tybiwn mai gorlafur a ddygodd arno y cystudd derfynodd ei yrfa ddisglaer. Bu farw yn Nghaernarfon, Mawrth 31, 1892, yn ei 41ain flwydd o'i oes, a'r 19eg o'i weinidogaeth. 8. Robert Owen Jones, o Benmachno. Bu farw yn Penmachno, Awst 14, 1874, yn ei 25ain flwydd o'i oedran, ar derfyn y gyntaf o'i weinidogaeth. 9. John Roberts (C), o Llanasa, Sir Fflint. 10. Robert Roberts, o Pentre Helygain, Sir Fflint. 11. William Rowlands, o Conwy, Sir Caernarfon. Gorfu iddo roddi y weinidogaeth i fyny oherwydd anhwylder meddyliol.

1874.—1. RICHARD EVANS, o Aberystwyth. Aeth drosodd i'r weinidogaeth Seisnig. 2. Richard Hopwood, o Treuddyn, Sir Fflint. 3. David P. Roberts, o Cwm Prysor, Sir Feirionydd. Enciliodd. 4. John Williams, o Coedpoeth, Sir Ddinbych. Yr oedd ef yn ŵr ieuanc duwiol ac yn weinidog cymeradwy. Bu farw yn Coedpoeth, Ionawr 30, 1881, yn ei 31ain flwydd o'i oed, a'r 7fed o'i weinidogaeth. 5. John Howell Jones, o Lanrwst, Sir Ddinbych.

1875.—1. HUGH CURRY, o Amlwch, Sir Fôn. 2. John Davies (B), o Abergele. Aeth drosodd i'r gwaith Seisnig. 3. David Owen Jones, o Benmachno. 4. Evan Jones, o Blaenau Ffestiniog. 5. Peter Jones (C), o Newmarket, Sir Fflint. 6. Evan Lloyd, o Llanbedr, Sir Aberteifi. Gadawodd y Cymry, ac aeth at y Saeson.

1876.—1. THOMAS P. EDWARDS, o Gaerwys, Sir Fflint. Enciliodd. 2. Hugh Owen Hughes, o Fflint. 3. Samuel Parry Jones, o Gwespyr, Sir Fflint. Yr oedd ef yn bregethwr neillduol o alluog, a meddai alluoedd meddyliol uwchraddol. Bu farw yn Wyddgrug, Hydref 19, 1899, yn ei 48ain flwydd o'i oes, a'r 23ain o'i weinidogaeth. 4. Thomas Jones (C), o Bontrhydygroes, Sir Aberteifi.

1877.—1. EDWARD JONES, o Pwllheli. 2. Owen Morgan Jones, o Penmachno. Bu farw yn Llandinorwic, Awst 12, 1882, yn 29ain oed, a'r 5ed o'i weinidogaeth. 3. William Owen Jones, o Aber, Sir Gaernarfon. Gadawodd y weinidogaeth yn 1881, ond y mae yn parhau yn bregethwr cynorthwyol. 4. Jacob Pritchard, o Blaenllechau, Sir Forganwg. 5. John Price Roberts, o Benmachno. 6. Isaiah Jones, o Lanrwst. 7. Thomas Wynne Jones, o Bethesda, Sir Gaernarfon, Llafuria ddau ddiweddaf yn mhlith y Saeson er ys rhai blynyddoedd bellach.

Bu farw yn

1878.—1. EVAN DAVIES, o Bontrhydygroes, Sir Aberteifi. Corwen, Chwefror 7, 1897, yn ei 39ain o'i oedran, a'r 19eg o'i weinidogaeth. 2. Thomas Manuel, o Cnwch Coch, Sir Aberteifi. 3. Richard Morgan (B), o Dre'rddol, Sir Aberteifi. 4. John Evan Roberts, o Benmachno.

1879.—1. THOMAS HUGHES (B), o Rhuddlan, Sir Fflint. 2. John Price, o Ferthyr Tydfil. Aeth yn Genhadwr i'r India. 3. David Angel Richards, o Bryncrug, Sir Feirionydd. 4. Rowland Rowlands. o Cnwch Coch, Sir Aberteifi.

1880.—1. ANEURIN LLOYD HUGHES, Ddinbych. Dechreuodd ef deithio yn y flwyddyn 1878, ond wedi bod yn y gwaith am un flwyddyn aeth i'r Athrofa, a daeth allan i'r gwaith drachefn yn 1881, felly yn 1880 y cyfrifir ei fod yn dechreu teithio. 2. John Thomas. Aeth drosodd i Awstralia oherwydd i'w iechyd dori i lawr. 3. Lewis Thomas, o Dre'rddol. Aeth drosodd i'r gwaith Seisnig.

1881.—1. OWEN EVANS, o'r Cwm, Penmachno. 2. Thomas Owen Jones, o Rhostryfan, Sir Caernarfon. 3. John Rowlands (A), o Aberdare, Sir Forganwg.

1882. DAVID MORGAN, o Dre'rddol, Sir Aberteifi. 1883. JOHN ROBERT ELLIS, o Treffynnon, Sir Fflint.

1884.—I. DAVID JONES, o Pennal, Sir Feirionydd. 2. William Caenog Jones, o Clocaenog, Sir Ddinbych. 3. David Thomas (B), o Dre'rddol, Sir Aberteifi.

1885.—1. JOHN FELIX, o Machynlleth, Sir Drefaldwyn. 2. John Humphreys, o Tŷ Cerrig, Darowen, Sir Drefaldwyn. 3. Alfred Colin Pearce, o Tŷ Ddewi, Sir Benfro. 4. Peter Jones Roberts, o Abermaw, Sir Feirionydd. 5. John Rowlands (B), o Cnwch Coch, Sir Aberteifi. Bu farw yn Llanbedr, Ionawr 16, 1900, yn 40ain mlwydd oed, a'r 14eg o'i weinidogaeth.

Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd terfyn cyfnod arall yn hanes Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, ac un hynod o bwysig, ac ar y cyfan tra llwyddianus, yn enwedig yn y Dalaeth Ogleddol, fel y dengys y daflen ganlynol o rif yr aelodau o 1866 hyd 1886.

Deheudir. Gogledd.
1866 4215 102 lleihad 10,390 61 cynydd
1867 4363 148 cynydd 10,493 103 cynydd
1868 1260 103 lleihad 10,354 139 cynydd
1869 4095 165 lleihad 10,409 55 cynydd
1870 4116 21 cynydd 10,373 36 lleihad
1871 4139 23 cynydd 10,100 27 cynydd
1872 4082 57 lleihad 10,459 57 cynydd
1873 3955 127 lleihad 10,581 122 cynydd
1874 4036 81 cynydd 10,875 294 cynydd
1875 4126 90 cynydd 11,257 382 cynydd
1876 4392 266 cynydd 12,579 322 cynydd
1877 4508 116 cynydd 13,028 449 cynydd
1878 1520 12 cynydd 13,019 9 lleihad
1879 4453 67 lleihad 13,044 21 cynydd
1880 4431 22 lleihad 12,922 122 lleihad
1881 4577 146 cynydd 12,812 110 lleihad
1882 4501 76 lleihad 12,767 45 lleihad
1883 4518 17 cynydd 12,908 141 cynydd
1884 4595 77 cynydd 13,004 96 cynydd
1885 4443 152 cynydd 13,227 223 cynydd
1886 4442 1 lleihad 13,034 193 lleihad

Dengys y cyfrifon hyn i gynydd o 125 gymeryd lle yn y Dalaeth Ddeheuol, a chynydd o 2705 yn y Dalaeth Ogleddol. Nid ydym yn alluog i roi cyfrif am y gwahaniaeth mawr yn y cynydd a fu yn rhif aelodau y ddwy Dalaeth.

Bu cryn gyfnewidiadau yn nhrefniant y Cylchdeithiau yn ystod y cyfnod hwn, a hyny fel y canlyn:—Yn 1866 ffurfiwyd un gylchdaith newydd yn y Dalaeth Ogleddol, sef Rhyl. Yn 1867 cymerwyd Penmachno a'r Cwm oddiwrth Blaenau Ffestiniog, ac unwyd hwy â Chylchdaith Llanrwst; a chymerwyd Festiniog, Trawsfynydd a Maentwrog oddiwrth Gylchdaith Abermaw, ac unwyd hwy â Blaenau Ffestiniog, i ffurfio Cylchdaith Blaenau Ffestiniog. Yn 1868 ffurfiwyd un gylchdaith newydd yn y Dalaeth Ddeheuol, sef Treherbert a Ferndale. Yn 1869 ffurfiwyd Cylchdaith Genhadol yn Hanley, mewn cysylltiad â Thalaeth Gogledd Cymru. Yn 1871 rhanwyd Cylchdaith Cymreig Liverpool yn ddwy, a galwyd y naill yn "Liverpool (Shaw Street)" a'r llall yn "Liverpool (Mynydd Seion)." Yn 1872 bu lleihad o un gylchdaith yn y Dalaeth Ddeheuol trwy i Pontfaen gael ei throsglwyddo i'r Saeson. Ychwanegwyd dwy gylchdaith yn y Dalaeth Ogleddol, sef Llanberis a Stockton-on-Tees. Yn 1873 ffurfiwyd un gylchdaith newydd yn y Dalaeth Ddeheuol, sef Ferndale, ac un yn y Dalaeth Ogleddol, sef Llanasa. Yn 1874, un gylchdaith newydd wedi ei ffurfio yn y Dalaeth Ogleddol, sef Birmingham. Yn 1875 ffurfiwyd un gylchdaith newydd yn y Deheu, sef Llwynypia. Yn 1876 cyfnewidiwyd Cylchdaith Llwynypia, a galwyd hi yn Penygraig. Yn 1878 y ffurfiwyd Cylchdaith y Cefn, Ruabon. Yn 1879 ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Pontrhydygroes, ac yn y Gogledd ad-drefnwyd Cylchdeithiau Blaenau Ffestiniog, Abermaw, a Dolgellau, a galwyd y cylchdeithiau yn ol y trefniant newydd yn Porthmadog, Dolgellau ac Abermaw, a Towyn. Yn 1881, dwy gylchdaith yn llai yn y Dalaeth Ddeheuol, trwy i Treherbert a Penygraig gael eu huno yn un gylchdaith dan yr enw Treorci," ac i Gylchdaith Pontrhydygroes gael ei huno âg Ystumtuen. Yn 1883, un gylchdaith newydd yn y Deheu, sef Pontycymer. Yn 1884, un gylchdaith yn llai yn y Deheu, trwy i Gaerfyrddin gael ei rhoddi i fyny i'r Saeson. Pa fodd y bu yr amryfusedd hwn? Un gylchdaith yn llai yn Nhalaeth Gogledd Cymru, trwy i'r eglwysi a ffurfient Gylchdaith Llanberis gael eu cysylltu à Chylchdeithiau Caernarfon a Tregarth. Yn 1885 rhoddodd y Dalaeth Ddeheuol Aberhonddu i fyny i'r Saeson, a ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Llanelli.


PENNOD XV.

Llwyddiant Wesleyaeth Gymreig yn Mlynyddoedd Olaf y Ganrif.
(O 1886 hyd 1899).

FEL nodwyd, penodwyd y Parch. D. Young yn Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol yn 1880, ac efe oedd yn y swydd pan ymneillduodd y Parch. S. Davies o fod yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol yn 1886. Yn y flwyddyn hon etholwyd y Parch. R. Jones (B) yn olynydd i'r Parch. Samuel Davies i gadair Talaeth Gogledd Cymru. Gwnaeth ef cyn hyn wasanaeth anrhaethol werthfawr i'r achos. Bu yn Oruchwyliwr y Llyfrfa am ddau dymhor, yn Olygydd yr "Eurgrawn," ac yn Ysgrifenydd y Dalaeth. Ac ni fu o'i flaen, a chredwn na ddaw ar ei ol, well Ysgrifenydd Cyllidol.

Wedi taflu yr amalgamation dros y bwrdd yn y Dalaeth Ddeheuol, etholodd y Cyfarfod Talaethol y Parch. Thomas Morgan yn Gynrychiolydd y Dalaeth i Bwyllgor y Sefydliadau, a hyny am y rheswm fod Mr. Young wedi addaw myned i gylchdaith tuallan i'r Dalaeth y flwyddyn ganlynol. Gwnaeth Mr. Young ei oreu i geisio dwyn oddiamgylch uniad yr Achosion Cymreig a Seisnig yn y Deheudir, ac na thybied neb ein bod yn ei feio am hyny, oblegid diameu ei fod yn eithaf cydwybodol Felly yr edrychai y Cyfarfod Talaethol ar ei ymgais, a phasiwyd gan y frawdoliaeth ddeisyfiad cryf i'r Gynhadledd am iddi ei gadw yn y Dalaeth, a'i benodi yn gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol.

Pan ddaeth y Gynhadledd, gwelodd yn ddoeth benodi Mr. Young i Gylchdaith Seisnig, ac etholwyd y Parch. T. Morgan yn gadeirydd yn ei le. Llanwodd y swydd yn gymeradwy iawn gan yr holl frawdoliaeth, yn weinidogion a swyddogion. Siriolodd yr achos yn fawr yn ystod tymhor ei swyddogaeth. Cododd rhif yr aelodau o 4381 i 5527, sef cynydd o 1841.

Yn y flwyddyn 1893 dychwelodd y Parch. John Evans (B) i'r gwaith Cymreig er dirfawr lawenydd i'r holl genedl. Yn Nghynadledd y flwyddyn hono sefydlwyd "Cenhadaeth Deheudir Cymru," a phenodwyd ef i'w harolygu, a Phontypridd yn ganolbwynt ei gweithrediadau. Ymgymerodd Mr. Evans a'r gwaith gyd ag ymroddiad dihafal. Llafuriodd yn ddibaid ddydd a nos, a chafodd brofion amlwg fod yr Arglwydd yn bendithio ei ymdrechion. Ymgynullai torfeydd lliosog i'r Town Hall i wrandaw ar ei weinidogaeth swynol: hongiai cynulleidfaoedd wrth ei wefusau, cariai Yspryd Duw ei apeliadau grymus i galonau y gwrandawyr, ac eithriad oedd i odfa fyned heibio heb ddychweledigion. Pan aeth i Bontypridd nid oedd yno ond oddeutu dwsin o aelodau eglwysig.

Ond yn y Gynhadledd a gynhaliwyd yn Leeds yn mhen pedair blynedd ar ol ei benodiad, yr oedd rhif yr aelodau mewn cysylltiad â'r Genhadaeth yn 249. Ac erbyn hyn y mae yn Pontypridd gapel newydd er coffawdwriaeth am dano wedi ei adeiladu, ac ynddo gynulleidfa dda, ac eglwys siriol a gweithgar. Ymgymerodd Mr. Evans â gweithio y Genhadaeth ar linellau eang a threulfawr, a phrofodd y llafur a'r pryder yn ormod iddo. Rhoddodd ei gyfansoddiad cadarn ffordd dan y llafur a'r baich o ofalon a thorodd i lawr. Ymwelodd a'r Aipht a Chanaan i geisio adferiad nerth, ond ni ddychwelodd fel o'r blaen. phan gofiwn iddo fod ar uchel-fanau y maes am yn agos i 40ain mlynedd, ac am y gwaith a gyflawnodd, nis gallwn amgen na synu iddo barhau cyhyd. Bu ei symudiad yn sydyn—ni chafodd hamdden i gymaint a sylweddoli ei fod yn cael ei gymeryd ymaith, nes y cafodd ei hun mewn gogoniant gyd â'r dyrfa waredigol gerbron gorseddfainc Duw a'r Oen. Yn ei symudiad collodd Wesleyaeth Gymreig ei blodeuyn harddaf a'i rhosyn prydferthaf. Diolchwn i Dduw am dano—diolchwn am ei gael cyhyd, a diolchwn am y dylanwad da a adawodd ar ei ol. ymneillduad y Parch. T. Morgan yn 1895, dewiswyd ef yn Gadeirydd Talaeth Deheudir Cymru, a llanwodd y swydd am ychydig dros ddwy flynedd gyd â chymeradwyaeth mawr, ar gyfrif ei hynawsedd, ei foneddigeiddrwydd, ei allu, a'i boblogrwydd dihafal.

Yn Nghynadledd 1893, dewiswyd y Parch. Hugh Jones (B) yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru. Gwasanaethodd Mr. Jones yr achos yn y Dalaeth mewn amryw gylchoedd cyn hyn, a hyny yn fedrus ac ymroddol. Medda ar safle barchus fel llenor ac awdwr. Yn y pwlpud mae ar ei orsedd. Hir y parhao ei brydnawn, a bydded ei awyr yn glir hyd i'r terfyngylch eithaf.

Wedi marwolaeth y Parch. John Evans, penodwyd y Parch. Rice Owen yn Gadeirydd y Dalaeth yn ei le, ac efe sydd yn y swydd ar hyn o bryd. Mae yn bregethwr coeth, ac nid oes neb yn y Dalaeth yn ddyfnach yn serch ac ymddiried ei frodyr. Rhodded yr Arglwydd iddo nerth ac iechyd i gyflawni y swydd am flynyddoedd lawer.

Yn Nghynadledd 1898, cyflwynwyd i sylw y Gynhadledd gynllun wedi ei dynu allan gan y Parch. Hugh Price Hughes, M.A., ac a gymeradwywyd i fesur helaeth gan y Cyfarfodydd Talaethol Cymreig, i sefydlu "Cymanfa y Methodistiaid Wesleyaidd Gymreig," a chymeradwyodd ef. Cynhaliwyd y Gymanfa gyntaf yn Machynlleth, Mehefin, 1899. Credwn y bydd i sefydliad y Gymanfa fod yn gychwyniad cyfnod newydd yn ein hanes yn Nghymru. Gwneir ymdrechion mawr ar hyn o bryd i godi "Trysorfa yr Ugeinfed Ganrif a Chanmlwyddiant Wesleyaeth Gym- reig.' Gweddïwn am i'r canmlwyddiant cyntaf yn ein hanes gael ei ddathlu âg adfywiad crefyddol, nerthol, a chyffredinol.

Saif cyfrifon yr aelodau am y cyfnod hwn fel y canlyn:—

1887 4427 15 lleihad 12,787 247 lleihad
1888 4381 46 lleihad 13,062 275 cynydd
1889 4469 88 cynydd 13,360 258 cynydd
1890 4638 169 cynydd 13,482 122 cynydd
1891 4715 77 cynydd 13,469 13 lleihad
1892 4825 110 cynydd 13,345 124 lleihad
1893 5176 351 cynydd 13,651 206 cynydd
1894 4937 239 lleihad 13,571 80 lleihad
1895 5385 449 cynydd 13,856 285 cynydd
1896 5529 144 cynydd 14,159 303 cynydd
1897 5550 21 cynydd 14,536 387 cynydd
1898 5617 67 cynydd 14,785 249 cynydd
1899 5516 101 lleihad 15,111 326 cynydd
1900 5513 3 lleihad 15,171 60 cynydd


Yn ystod y cyfnod olaf o'r ganrif gyntaf yn ein hanes canfyddwn i gynydd sylweddol iawn gymeryd lle. Cyfododd rhif yr aelodau yn y Dalaeth Ddeheuol o 4427 i 5516, cynydd o 1084. Yn y Dalaeth Ogleddol codasant o 12,787 i 15,111, cynydd o 2324. Ac ar hyn o bryd mae golwg addawol iawn ar yr achos mawr yn y ddwy Dalaeth Gymreig.

Yn y blynyddoedd diweddaf hyn galwyd nifer liosog o frodyr teilwng i waith mawr y weinidogaeth, a dymunwn iddynt oll ddyfodol llwyddianus a ffrwythlawn. Galwyd hwy allan fel y canlyn:—

1887.—1. William Owen Evans, mab y Parch. W. H. Evans. Ganwyd yn Llanfaircaereinion, Sir Drefaldwyn. 2. Robert Emrys Jones, o Fflint. 3. Thomas Nicholls Roberts, o Corris, Sir Feirionydd.

1888. Richard Môn Hughes, o Langoed, Sir Fôn.

1889.—1. D. Darley Davies, o Llandinorwic, Sir Gaernarfon. 2. Philip Price, o Bwlchgwyn, Sir Ddinbych. 3. John D. Jones, o Llanrwst, Sir Ddinbych.

1890.—1. Thomas Isfryn Hughes, o Clocaenog, Sir Ddinbych. 2. David Williams, o Shirowy. 3. Richard W. Jones, o Dregarth, Sir Caernarfon.

1891.—1. Evan Isaac, o Taliesin, Sir Aberteifi. 2. David Morris, o Lanrhaiadr, Sir Drefaldwyn. 3. O. Madoc Roberts, o Porthmadog.

1892.—1. Hugh Evans, o Amlwch, Sir Fôn. 2. John Wesley Hughes, o Conwy. 3. Thomas Charles Roberts, o Soar, Llanfyllin, Sir Drefaldwyn.

1893.—1. John Kelly, o Gwynfryn, Coedpoeth, Sir Ddinbych. 2. Edward Mostyn Jones, o Mostyn, Sir Fflint. 3. Robert Garrett Roberts, o Lanrwst, Sir Ddinbych.

1894.—1. Thomas Davies, o Tregeiriog, Sir Ddinbych, 2 William Thomas Ellis, o Treffynnon, Sir Fflint. 3. D. Gwynfryn Jones, o Ben-y- graig, Sir Forganwg. 4. Llewelyn A. Jones, o Llanrwst, Sir Ddinbych. 5. Morris E. Jones, o Rhiwlas, Sir Gaernarfon. 6. Robert William Jones, o Nefyn, Sir Gaernarfon. 7. John Smith, o Ferndale, Sir Forganwg. 8. Thomas Henry Williams, o Pentre Broughton, Coedpoeth, Sir Ddinbych.

1895.—1. David Meurig Jones, o Bontrhydygroes, Sir Aberteifi, Emanuel B. Roberts, o Rhewl, Sir Ddinbych. 3. Thomas Rowlands, o Benygraig, Sir Forganwg.

1896.—1. Arthur W. Davies, o Benygroes, Sir Gaernarfon. 2 DCorris Davies, o Corris, Sir Feirionydd. 3. Francis E. Jones, o Lanfair— fechan, Sir Gaernarfon. 4. John Lloyd, o Cwmtwrch, Sir Drefaldwyn. 5. David Roberts, o Lanelidan, Sir Ddinbych. 6. Richard Jones Williams, o'r Abermaw, Sir Feirionydd.

1897.—1. Edward Davies, o Benygroes, Sir Gaernarfon. 2. William Ll. Davies, o'r Cefn, Sir Ddinbych. 3. William John Jones, o Tregarth, Sir Gaernarfon. 4. T. Glyn Roberts, o Harlech, Sir Feirionydd. 5 William Richard Roberts, o Brontecwyn, Sir Feirionydd.

1898.—1. H. Meirion Davies, o Corris. 2. Rhys Jones, o Bethesda, Sir Gaernarfon. 3. William Owen, o Wrexham. 4. David Pughe, o Lansantffraid, Sir Drefaldwyn. 5. Llewelyn Morgan, o Benygraig, Sir Forganwg.

1899.—1. Hugh Jones Davies, o Tŷ Cerrig, Sir Drefaldwyn. 2. John Williams Davies, o Lanfair, Dyffryn Clwyd. 3. John Maelor Hughes, o Bentre Broughton, Sir Ddinbych. 4. D. Greigfryn Jones, o Tŷ Cerrig, Sir Drefaldwyn. 5. Edward Owen, o Brontecwyn, Sir Feirionydd.


PENNOD XVI.

Llenyddiaeth Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn ystod y Ganrif Gyntaf o'i Hanes.

NI buom fel enwad na segur na diffrwyth mewn ymdrechion i gyfoethogi llenyddiaeth ein gwlad yn ystod y ganrif gyntaf o'n hanes. Ni phetruswn ddywedyd ein bod yn y cyfeiriad hwn wedi llafurio yn helaethach nag unrhyw enwad Cymreig arall yn nghan' mlwydd cyntaf ein hanes. Cymerwn yr Annibynwyr, er engraifft, yn gyntaf, a chwiliwn i mewn i'w cynyrchion llenyddol o 1639 hyd 1739, yna eiddo y Bedyddwyr o 1649 hyd 1749, ac eiddo y Methodistiaid Calfinaidd o 1735 hyd 1835, a chymharwn hwy âg eiddo y Methodistiaid Wesleyaidd o 1800 hyd 1900, a chanfyddir ar unwaith na chynyrchodd yr un enwad Cymreig, yn ystod y can' mlynedd cyntaf o'i hanes, y fath doraeth o lenyddiaeth amrywiol, er dwyn oddiamgylch ddiwylliant meddyliol ac ysprydol, ag a wnaeth Wesleyaeth Gymreig. Gosodwn i lawr yma restr o'r llyfrau a gyhoeddwyd genym yn ystod y ganrif, cyn belled ag y buom alluog i gael allan eu hanes. Gwyddom fod rhai llyfrau wedi eu gadael allan, a diameu i eraill gael eu cyhoeddi na chynysgaeddwyd ni â gwybodaeth am danynt. Hefyd, y mae dyddiad cyhoeddiad rhai o'r llyfrau sydd yn y rhestr yn anhysbys i ni, am nad oedd wedi ei argraffu ar y wyneb-ddalen nac mewn unrhyw le arall yn y llyfr. Gyd â'r cyfryw nid oedd genym ddim i wneyd ond ceisio dyfalu y dyddiad yn rhinwedd tystiolaethau amgylchiadol. Os gwyr ein darllenwyr am lyfrau Wesleyaidd Cymreig nad ydynt yn y rhestr hon, diolchwn yn fawr os rhoddant i ni wybodaeth am. danynt.

I fyny hyd i 1800, ni wyddom ond am ychydig o gynyrchion llenyddol Wesleyaidd a gyhoeddwyd yn Gymraeg. Y rhai canlynol ydynt yr oll sydd hysbys i ni:— "Gair i Fethodistiaid," gan J. Wesley, a gyfieithwyd gan Mr. E. Caergybi (1748); "Pregeth gyntaf Mr. Wesley ar 'Bregeth Crist ar y Mynydd"" (Bristol, 1750); "Y Prif Phisygwriaeth," cyf. J. Evans a T. Foulkes (1758); "Dwy Bregeth gan y Parch. C. Wesley, cyf. gan Mri. J. Evans a T. Foulkes; "Rheolau y Cymdeithasau Wesleyaidd" (1761); "Pregeth y Parch. John Wesley ar Farwolaeth y Parch. G. Whitfield,'" cyf. gan Harri Llwyd, Pontfaen (1771). Bellach, cyflwynwn i sylw y darllenydd y rhestr ganlynol o lyfrau a gyhoeddwyd genym fel Wesleyaid yn ystod y ganrif, gan nodi y flwyddyn y cyhoeddwyd y naill a'r llall cyn belled ag y gallwn.

1802. Diferion y Cysegr,' crynhodeb o Hymnau, &c., wedi eu casglu gan John Hughes. Caerlleon: Argraffwyd gan W. C. Jones."

"Natur a Dyben Rheolau Cyffrediniol Cymdeithas y Methodistiaid Wesleyaidd, gan John Hughes."

Pregeth ar Ephesiaid v. 14," gan C. Wesley, cyf. gan John Hughes. Wrexham Argraffwyd gan A. Tye."

1803.—Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol, &c. A gyfieithwyd gan John Bryan. Mwythig: Argraffwyd gan M. Wood."

Etholedigaeth Ddiamodol, a rhai o ganlyniadau echryslon yr athrawiaeth hono. Wedi ei gymeryd allan o waith Mr. Wesley ac eraill, yn nghyd âg ychydig ystyriaethau ar y llyfr a elwir Gwrthfeddyginiaeth i Wenwyn Arminiaeth. Caernarfon: Argraffwyd gan T. Roberts."

"Athrawiaeth Rhagluniaethiad Dwyfol, &c., gan John Wesley, a dwy bregeth gan John Walter. Cyf. gan John Hughes. Caerlleon: Argraffwyd gan John Hemingway."

Prynedigaeth Gyffredinol, neu Grist wedi marw dros bawb, gan y Parch. John Hughes. Caernarfon: Argraffwyd gan T. Roberts."

1804. "Argraffiad newydd o'r Llyfr Emynau, gyd â diwygiadau ac ychwanegiadau, gan J. Hughes. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

"Llyfr Croniclau y Methodiaid, a'u hymdaith yn Nhir Cymbri, gan John Hughes. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

"Gwir Gredo yr Arminiaid, neu ateb i'r gofyniad—Pa beth yw Arminiad? Cyfieithiedig i'r Gymraeg. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

1805. "Casgliad o Emynau, gan John Bryan ac E. Jones, 2il. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

"Yr Athrawiaeth Ysgrythyrol yn nghylch Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth, &c., at ba un ychwanegwyd ychydig o ystyriaethau ar y llyfr a elwir Gwrthfeddiginiaeth yn erbyn Gwenwyn Arminaidd. Gan John Bryan. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

"Dyrnod at Gwraidd, neu Crist yn cael ei archolli yn nhŷ ei gyfeillion. O waith J. Wesley. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway.'

1806.—"Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd, mewn llythyr at Mr. T. Jones, yn ateb i'w lyfr a elwir Drych athrawiaethol yn dangos Arminiaeth a Chalfiniaeth,' &c., gan Owen Davies; wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan John Bryan. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

"Esboniad ar yr Hen Destament, gan Thomas Coke, LI.D.—Llyfr I. o Genesis hyd 2. Cronicl xxxvi. Argraffwyd yn Cacrlleon, gan J. Hemingway."

1807.—"Diferion o'r Cysegr, crynodeb o Hymnau o waith amrywiol awdwyr. I'w arfer gan y bobl a elwir Methodistiaid Wesleyaidd. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway." Yr oedd hwn y trydedd argraffiad.

"Ymddiddanion rhwng dau gymydog—Hyffordd a Beread, yn dangos Cyfeiliornadau Calfiniaeth; yn nghyd â dau lythyr at Mr. Thomas Jones, yn gwrthbrofi ei brawf ef o anghysonedd Mr. Wesley, a'i sylwadau ar lythyr Owen Davies. Gan Owen Davies. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

1808.—"Sylwadau ar lyfryn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Mr. Thomas Jones, gynt o Ruthin, &c. Gan Owen Davies. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway.'

"Esboniad ar yr Hen Destament, gan Thomas Coke, Ll.D.—Llyfr II. o Ezra hyd Malachi. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

Sylwadau ar ddrychau cywir Mr. John Parry. Gan S. Games. Caer— lleon: Argraffwyd gan J. Hemingway."

1809.—" Diferion y Cysegr, crynhodeb o Hyminau, &c. J. Hughes. Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones." Pedwerydd argraffiad.

"Yr Eurgrawn Wesleyaidd, &c. Dolgellau: Argraffwyd gan Richard Jones." Daeth y rhifyn cyntaf o'r "Eurgrawn allan Ionawr 1af, 1809, a pharhaodd i ymddangos bob mis o hyny hyd yn awr.

1810.—" Theological Essays and Discourses on Public Worship and the Christian Religion. By John Hughes."

1811.—"A Plea for Religious Liberty. By John Hughes."

"Y Catecism Byr. Gan y Parch. Owen Davies."

Pregeth ar Ddechreuad Natur, cynheddfau a defnydd gyfraith. Gan y Parch. John Wesley. Dolgellau: Argraffwyd gan Richard Jones."

1812. "Deuddeg o Bregethau ar wahanol destynau, gan Owen Davies, gweinidog yr efengyl. Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones."

"Pumed argraffiad o'r Llyfr Hymnau (dan olygiad Mr. D. Rogers). Llundain: Argraffwyd gan Thomas Cordeux."

1813. "Esboniad ar y Testament Newydd, gan T. Coke, LI.D. Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones."

1816.—"Egwyddorlith, yn cynwys cwestiynau ac atebion cymwys i addysgu plant. Gwedi ei fwriadu i deuluoedd neillduol a'r Ysgolion Sabbothol. Gan y Parch. T. Wood; a gyfieithwyd allan o'r pedwerydd argraffiad Saesoneg gan Edward Jones, Llantysilio. Gomerian Press,' Dolgellau Argraffwyd gan R. Jones."

1817.—"Llyfr Hymnau, wedi ei olygu a'i barotoi i'r Wasg gan y Parchn. D. Rogers, J. Williams, 1af, a W. Jones. (Chweched argraffiad). Llundain: Argraffwyd gan T. Cordeux."

"Horae Britannicae, or Studies in Ancient History. By John Hughes." Two vols.

1818. "Prynedigaeth gyffredinol, neu Grist wedi marw dros bawb, sef pregeth ar 2 Cor. v. 15. Gan S. Davies, Iaf. Treffynnon: Argraffwyd gan E. Carnes."

Cyfiawnhad trwy ffydd, sef Pregeth gan D. Rogers. Dolgellau: Argraffwyd gan Richard Jones."

1819.—"Amddiffynwr y gwir, yn yr hwn y dangosir ofer ymddiddanion y Collier a'r Miner; ac mor afresymol ac anysgrythyrol yw yr athrawiaeth ag y maent hwy o'i phlaid. Gan E. Jones, Llantysilio."

"Perffeithrwydd yr Oruchwyliaeth Gristionogol, gan Dafydd Williams. Dolgellau Argraffwyd gan R. Jones."

1820. Calfiniaeth yn cael ei dadlenu a'r gwirionedd ei amddiffyn, &c. Gan Samuel Davies. Caernarfon: Argraffwyd gan J. Hulme."

1821. Llythyr at y Parch. John Elias, yn cynwys sylwadau ar ei ragymadrodd i bregeth y diweddar Mr. Hurrion ar Brynedigaeth. Gan John Griffiths, o Dinbych. Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones."

"Lewis Owen, y llofrudd edifeiriol. Gan y Parch. Hugh Hughes."

1822. "Amddiffynwr y gwir, &c. Gan W. Evans, gweinidog Machynlleth. Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones."

"Gwirionedd a chyfeiliornad yn cael eu cyfwynebu, &c. Gan John Griffiths, Dinbych. Argraffwyd dros yr Awdwr gan R. Jones, Dolgellau."

"Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol, neu amlygiad ysgrythyrol o etholedigaeth, a gymerwyd allan o waith y Parch. John Wesley. Gan John Williams. Merthyr Tydfil: Argraffwyd gan J. James."

1823. "Y Llyfr Hymnau. Dan olygiad y Parchn. W. Davies, raf, J. Williams, raf, ac E. Jones, 3ydd, trwy benodiad y Cyfarfod Talaethol. (Seithfed argraffiad). Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones." "Amddiffynwr y gwir, &c., gan E. Jones. (Ail argraffiad). Dolgellau:Argraffwyd gan R. Jones.

"Crynodeb, yn cynwys gofyniadau ac atebion byrion, neu Catecism cyntaf er addysg i blant, &c. Gan Richard Edwards, Machynlleth. Aberystwyth: Argraffwyd gan Esther Williams."

1825.—"Trysor i Blentyn, sef cyhoeddiad misol at wasanaeth y plant." Parhawyd i'w gyhoeddi o Ionawr, 1825, hyd Rhagfyr, 1840.

"Y Llyfr Hymnau, plyg bychan. Dan olygiad W. Evans. (Yr wythfed argraffiad). Llanfaircaereiníon: Argraffwyd yn argraffdŷ y Methodistiaid Wesleyaidd."

"Y Llusern Yrgrythyrol, gan John Williams, 2il. Treffynnon: Ar graffwyd gan E. Carnes."

1826.—"Llong-ddrylliad y Maria Mail Bont. Gan y Parch. Hugh Hughes

"Y Llyfr Hymnau, plyg mawr. Dan olygiad W. Evans." (Y nawfed argraffiad).

"Ebenezer, sef pregeth ar 1 Samuel i. 12, a bregethwyd gyntaf erioed yn Nghapel newydd Caernarfon. Gan y Parch. William Davies, 1af."

Adolygiad byr ar y Drugareddfa, neu eglurhad o'r athrawiaeth o lawn Crist, &c. Gan David Evans."

1827. Y Goleuad Dwyreiniol, sef hanes gwlad Canaan, &c. Gan y Parch. John Williams, 2il, a Hugh Hughes."

1828.—"Cyflawn wrth—brawf i'r athrawiaeth o Barhad Diamodol mewn Gras, &c. Gan Thomas Oliver (a Gymreigiwyd er mwyn y gwirionedd gan E. Jones, Llantysilio). Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones." Nid ydym yn sicr o ddyddiad gyhoeddiad y llyfr hwn, ond gwyddom ei fod mewn cylchrediad yn 1828.

Rhagarfaethwr a'i gyfaill."

1829.—Yr oedd y Llyfrau canlynol mewn cylchrediad yn y flwyddyn 1829, ac felly llawer o honynt wedi eu cyhoeddi cyn hyny:—

  • "Y Morwynion Call a Ffol. Gan y Parch. W. Davies, 1af."
  • Crynodeb o holl elfenau neu gyntafedigion y Gymraeg. Gan W. Jones."
  • "Llyfr Hymnau. Gan y Parch. R. Humphreys."
  • "Dameg y Talentau. Gan y Parch. W. Davies, 1af."
  • "Arweiniad i'r Gymraeg. Gan E. Jones, 3ydd."
  • "Hanes Bywyd a Marwolaeth Elizabeth Jones. Gan E. Jones, 3ydd."
  • "Pregeth ar y Gyfraith. Gan y Parch. John Wesley."
  • "Hanes Bywyd John Haime."
  • Catecism John Williams, Rhan i., ii., a iii."
  • "Y Silliadydd. Gan E. Jones, 3ydd."

1830.—"Gwobr i Blentyn, neu Catecism mewn Ysgolion Sabbothol er hyfforddi plant yn athrawiaethau crefydd."

"Lladmerydd, yn cynwys sylwadau eglurhaol ar Dabl (os gwir a glywais), gan y diweddar Dr. Gill, yn dangos trefn yr achosion o Iachawdwriaeth a

1831. Cydymaeth yr Athraw, neu gyfarwyddiadau i'r Ysgolor Sabbothol ddarllen yn gywir. Gan J. Jones."

"Corph o Dduwinyddiaeth, neu draethawd ar Etholedigaeth a Rhag— arfacthiad. Gan R. Williams. Bangor: Argraffwyd gan J. Brown."

"Esboniad ar y Testament Newydd. Gan y Parch. J. Wesley, A.C. (Cyfieithiedig gan y Parchn. Hugh Hughes a J. Williams, 2il."

1832.—Yr Egwyddorydd Duwinyddol. Gan y Parch. J. Williams, 1af. Ail argraffiad. Cyhoeddwyd ef gyntaf dan yr enw Catecism Athrawiaethol.'"

"Pregeth ar farwolaeth Dr. Clarke. Gan W. Davies, 1af."

1833. Y Llyfr Hymnau. Degfed argraffiad. Dan olygiad Edward Jones, 3ydd."

Pregethau ar wahanol achosion, gan John Wesley, A.C. Llanidloes: Cyfieithwyd, argraffwyd a chyhoeddwyd dan olygiad E. Jones."

"Y Cristion ar Fynydd Basan: Pregeth ar y posiblrwydd i syrthio oddiwrth ras, &c. Gan W. Rowlands. Merthyr: Argraffwyd gan Benjamin Morgan."

1834. "Golwg ar waith mawr ein Hiachawdwriaeth. Gan y Parch. David Williams. Argraffwyd yn Caerdydd, gan W. Bird."

"Cydymaith Buddiol—Catecism bychan. Gan y Parch. John Davies." 1835. "Yr Hyfforddydd Teuluaidd. Gan y Parch. Samuel Davies, 1af."

"Y Geirlyfr Cymreig, yr hwn sydd yn cynwys geiriadur ysgrythyrol, &c. Gan Owen Williams, Waenfawr, ac Isaac Jones, Aberystwyth. Llanfair— caereinion: Argraffwyd gan R. Humphreys, dros E. Jones."

1836.—Dydd-lyfr y Parch. W. Davies, 1af, pan yn genhadwr yn Affrica."

"Athrawiaeth Etholedigaeth Gras, &c.: Pregeth gan Richard Prichard. Aberystwyth: Argraffwyd gan E. Williams."

Pregeth, yn dangos y modd y cyfiawnheir dyn gerbron Duw yn nydd gras, a'r angenrheidrwydd am weithredoedd, &c. Gan William Evans. Crughywel: Argraffwyd gan Hugh Jones."

1837—Y Llyfr Hymnau. Yr unfed argraffiad ar ddeg. Dan olygiad y Parch. Thomas Jones, 2il."

Yr Esboniad Beirniadol ar bum' Llyfr Moses. Wedi ei olygu a'i gyfieithu gan John Jones (Idrisyn)."

Traethawd ar Rhagluniaeth, gan y Parch. W. Rowlands. Crughywel: Argraffwyd gan T. Williams."

Darlith ar Ddirwestiaeth, gan y Parch. Richard Prichard."

"Y Dydd-lyfr Cristionogol, &c., wedi ei gyfieithu a'i gyhoeddi gan John Jones. Albion Press, Llanidloes." Daeth allan yn rhanau.

1838. "Y Pwysigrwydd o Gymundeb Cristionogol, &c., gan y diweddar Barch. Daniel Isaac; cyfieithiedig gan Amphys. Ail argraffiad."

1839. "Emynau y Parch. John Wesley, A.C. Wedi eu Cymreigio gan y Parch. William Davies, 1af."

Llythyr ar Golledigaeth Babanod, wedi ei gyfeirio at Mr. Edward Ellis, Bangor. Gan R. M. Preece, Ysw. Ail argraffiad."

"Elfenau Duwinyddiaeth, neu addysgiadau ysgrythyrol, mewn ffordd o holiadau ac atebion, er budd i'r Ysgol Sabbothol. Gan y Parch. Thomas Jones, 2il."

Etholedigaeth Ddiamodol yn cael ei gwrthbrofi, sef Esboniad ar Rhufeiniaid ix. Gan Samuel Davies, gweinidog yr efengyl. Llanidloes, Albion Wasg: Argraffwyd gan John Jones."

"Perygl y Cristion, sef pregeth gan y Parch. Hugh Hughes, gweinidog Wesleyaidd. Albion Wasg: John Jones, argraffydd, Llanidloes.

"Traethawd yn erbyn yr athrawiaeth o barhad diamodol mewn gras, gan y Parch. W. Evans, Abertawe. Albion Wasg: John Jones, Llanidloes." "Diffyniad Bedydd Babanod, gan y Parch. R. Prichard, gweinidog Wesleyaidd. John Jones, Albion Wasg, Llanidloes."

Pregeth ar Salm xlviii. 14, gan y diweddar Barch. Robert Roberts, gweinidog ieuanc yn Nghyfundeb y Wesleyaid. Cyhoeddwyd gan David Davies, Llanrwst. Llanrwst: Argraffwyd gan Hugh Jones."

"Pregeth ar yr achlysur o Ddathliad Canmlwyddiant Trefnyddiaeth Wesleyaidd. Gan Thomas Jackson. Wedi ei chyfieithu gan Rowland Hughes. Albion Wasg, Llanidloes: Argraffwyd gan John Jones."

1840. Traethawd ar Fedydd, gan y Parch. Thomas Aubrey." "Yr Esboniad Beirniadol, Matthew-Actau, gan J. Jones, Idrisyn."

"Canmlwyddiant o Drefnyddiaeth Wesleyaidd, gan Thomas Jones, 2il. Llanidloes: Argraffedig gan J. M. Jones."

"Yr Esboniedydd Hanesiol, &c., gan Isaac Jenkins a J. Jones. Albion Wasg, Llanidloes."

Duwdod priodol yr Arglwydd Iesu Grist, &c., gan David Evans, 2il. Llanidloes: Argraffwyd dros yr awdwr gan J. M. Jones."

1841.Cyfiawnhad trwy ffydd: Pregeth gan y Parch. Jabez Bunting, D.D. Cyfieithwyd gan W. Davies. Aberystwyth: Argraffwyd gan D. Jenkins."

"Sylwad ar atebiad a gafodd yr Awdwr i'w draethawd yn erbyn yr athrawiaeth o barhad diamodol mewn gras. Gan W. Evans. Albion Wasg: J. Jones, Argraffydd, Llanidloes."

"Llawnder Gras: Pregeth ar Diar. ix. 1—6. Gan y Parch. Griffith Hughes."

"Aralleg, neu Rybudd i Wrthgilwyr, gan W. Davies, 1af. Abertawy: Argraffwyd gan J. Williams."

"Pwnc Ysgol—Bedydd, gan Richard Prichard. Albion Wasg, Llanidloes: Argraffwyd dros yr awdwr gan John Jones."

"Yr Hauwr Cristionogol, sef Pregeth ar Salm cxxvi. 6, gan y Parch. John Hughes, 2il. Crughywel: Argraffwyd gan T. Williams."

Adgyfodiad y Corph, sef Pregeth ar Actau xxvi. 8, gan y Parch. John Bartley. Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys.'

1842.—"Egwyddorion y Grefydd Gristionogol, &c., gan Thos. Hughes, gweinidog yn Nghyfundeb y Wesleyaid. Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys."

"Eos Cymru, sef casgliad o donau, &c., gan William Jacob, Treffynnon. Llanidloes: Argraffwyd gan J. M. Jones."

"Anfoddineb Duw i Gwymp y Credadyn, &c., gan y Parch. T. Morris, gweinidog Wesleyaidd. Dolgellau: Argarffwyd gan Richard Jones."

"Gwobr i Blentyn. Gan John Jones, Ail-argraffiad. Albion Wasg: John Jones, Argraffydd, Llanidloes."

"Achan yn y Gwersyll, sef Traethawd ar Gybydd-dod, &c., gan y Parch. John Hughes, 2il (A). Crughywell: Argraffwyd gan J. Williams."

"Sacramentau yr Eglwys, &c. Llanidloes: Argraffwyd gan J. M. Jones (Ail-argraffiad)."

"Cyfarwyddiadau i rai Edifeiriol, &c., i adnewyddu eu cyfamod â Duw. Llanidloes: Argraffwyd gan J. M. Jones (Ail-argraffiad talfyredig)."

"Pymtheg a Deugain o Bregethau ar wahanol destynau, gan bregethwyr yn Nghyfundeb y Wesleyaid. Caernarfon: Cyhoeddedig ac argraffedig gan Hugh Humphreys, Castle Square."

1843.—"Gwobr i Blant Da, &c., gan John Jones, Amseriadurwr, Bethesda. Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys."

Ffrwyth Myfyrdod, neu crynodeb o Hymnau, &c., gan William Thomas, gynt o Aberffraw, yn Môn. Caernarfon: Argraffwyd gan Hugh Humphreys."

"Holwyddoreg Genhadol, &c., gan William Powell, gweinidog yn Nghyfundeb y Wesleyaid. Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys.'

Cynyrch Awenyddol, &c., gan Henry Parry (H. Ddu). Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones."

Ugain o Resymau dros paham yr wyf yn Drefnydd Wesleyaidd. Gan XX. Wedi ei gyfieithu gan Drefnydd. Crughywel: Argraffwyd gan T. Williams."

"Trefn Duw yn Cyfiawnhau pechadur euog, &c., gan y Parch. John Goodwin. Wedi ei gyfieithu gan Robert Humphreys, Caernarfon. Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys."

"Arfaeth a Gras, sef Pregeth ar 2 Tim. i. 9., gan Thomas Thomas, Penycae. Crughywel: Argraffwyd gan T. Williams."

1844. "Coffadwriaeth o ras ein Harglwydd Iesu Grist fel ei hamlygwyd yn mywyd a marwolaeth Miss Mary M'c Owen, &c. Gan ei thad. A gyffeithwyd gan T. Jones, 2il. Albion Wasg, Argraffwyd dros y Cyhoeddwr gan John Jones."

"Eos Cymru, sef casgliad o donau, &c.; gan William Jacob, Treffynnon. Llanidloes: Argraffwyd dros y Cyhoeddwr gan J. M. Jones. (Cyhoeddwyd ef yn gyntaf yn rhanau).

Hanes Bywyd y Parch. John Wesley, A.C.; gan y Parch. R. Watson. A gyfieithwyd gan Robert Jones (Bardd Mawddach)." Nis gwyddom a gyhoeddwyd mwy na thri o rifynau o'r gwaith hwn.

Adroddiad Blynyddol (cyntaf) Cymdeithas Genhadol y Trefnyddion Wesleyaidd yn y Dalaeth Ddeheuol, am y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 1843. Crughywel: Argraffwyd gan T. Williams."

Pump o Bregethau Byrion ar wahanol destynau. Gan Benjamin Williams, Nant y glo. Argraffwyd dros yr awdwr gan Isaac Francis Jones, Machynlleth."

Trysorfa yr Athrawon, sef crynodeb o'r pethau mwyaf angenrheidiol eu gwybod, &c. Gan Arfonwyson. Llanrwst: Argraffwyd a chyhoeddwyd gan John Jones."

1845.—Atebiad i'r gofyniad—Pa beth yw Wesleyaeth; gan y Parch. T. Hughes, 2il."

"Crefydd Foreuol, a Llywodraeth Duw, sef dwy Bregeth, y gyntaf ar Preg. xii. 1.—yr ail ar Salm cxvii. Gan Richard Hughes, Wyddgrug, gweinidog yn Efengyl yn Nghyfundeb y Wesleyaid. Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys.'

Casgliad o Hymnau at wasanaeth y Methodistiad Wesleyaidd. Llanidloes a gyhoeddwyd gan David Evans." Casglwyd a golygwyd y Llyfr hwn gan y Parchn. David Evans, Rowland Hughes, Robert Williams ac Isaac Jenkins. Aeth trwy lawer o argraffiadau.

Athrawiaeth y Beibl, &c. Gan A. Clarke, LI.D., &c. Albion Wasg: Cyhoeddedig ac ar werth gan J. Jones, Llanidloes."

Yr Esboniad Beirniadol. Rhuf. Dat. Gan J. Jones (Idrisyn)." "Mynag Cenhadol cyntaf y Trefnyddion Wesleyaidd yn Nhalaeth Gogledd Cymru."

"Y Cantor, yn cynwys detholion barddonol, &c. Gan Evan Breece (Ieuan Cadvan)."

1847 Y Drysorgell Efengylaidd, sef eglurhad ar Athrawiaethau y Grefydd Cristionogol, &c. Gan Samuel Davies a Thomas Jones, Gweinidogion yr Efengyl (yn ddwy gyfrol). Albion Wasg, Llanidloes: Argraffedig dros yr Awdwyr gan John Jones."

Gramadeg Cymreig, &c. Gan J. Mendus Jones. Llanidloes: Ac ar werth gan J. Mendus Jones."

"Cofiant Bywyd a Marwolaeth y diweddar Barch. John Davies, Gweinidog Wesleyaidd. Gan W. Rowlands. Argraffwyd gan J. Jones, Llanidloes."

Cyfeiliornadau y Grefydd Babaidd yn cael eu dynoethi. Gan Henry Wilcox, Gweinidog yr Efengyl. Argraffwyd gan John Jones, Llanidloes."

"Traethawd ar Ddyled Tai Addoliad. Gan John Morris, Pregethwr yn Nghyfundeb y Wesleyaid."

1848. Y Winllan.' Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn Ionawr, 1848, a daeth allan yn gyson o hyny hyd yn awr."

"Pregeth—Yr Athrawiaeth o Etholedigaeth Ysgrythyrol yn ei hegwyddor. Esay xlii. 1. Gan y Parch. David Williams. Llanidloes: Argraffwyd gan John Jones, Albion Wasg."

1849.—"Esboniad ar y Testament Newydd; gan y Parch. J. Wesley, A.C. Cyfieithiad Diwygiedig gan y Parch. Rowland Hughes. Caernarfon Cyhoeddwyd gan H. Humphreys.'

"Cofiant Mr. David Jones, Cefnbrith. Gan ei fab D. Jones. Llanidloes: Argraffwyd, &c. gan J. Mendus Jones."

"Llyfrgell Safadwy. Bywgraffiad y Testament Newydd, &c. gan y Parch. Edward Jones. Llanidloes: Cyhoeddwyd gan J. Mendus Jones.'

"Y Deonglydd Beirniadol, sef Esboniad manwl ar bob adnod yn y Testament Newydd. Gan John Jones (Idrisyn)."

"Y Beibl Amlieithawg, wedi ei gasglu a'i gyfieithu yn ofalus i'r iaith Gymraeg. Gan Weinidog yr Efengyl (sef y Parch. H. Carter), Llanidloes: Argraffedig gan John Jones, Gan y Albion Wasg.'

"Dyben ymddangosiad Mab Duw, sef Pregeth ar 1 Ioan iii. 18. Parch. Hugh Hughes, Caerfyrddin. Albion Wasg, Llanidlocs."

"Rhwystrau sydd yn ffordd yr Efengyl, a'u symudiad, &c. Gan John Jones, Penrhuddlan. Llanidloes."

"Diarddeliad Meistri Everett, Dunn a Griffith, &c. Gan B.—J."

Cyfarchiad caredig i rai newydd ddychwelyd. Gan y Parch. R. Young. Cyfieithwyd gan Rowland Hughes. Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys."

"Awdl y Greadigaeth: Prif Destyn Eisteddfod Freiniol Aberffraw, 1849. Gan R. M. Williamson (Bardd Du Môn)."

Udgorn y Jubili, sef Tonau a Hymnau i'w harfer yn Nghyfarfodydd Jubili Wesleyaeth yn Nghymru. Aberystwyth: Argraffwyd gan D. Jenkins." Cyfansoddwyd y Emynau gan y Parch. Henry Parry, a'r Tonau gan Mr. John Morgan.

1850.—"Amddiffyniad Disgybliaeth y Methodistiaid Wesleyaidd. Gan William Evans, gweinidog Wesleyaidd, Machynlleth. Machynlleth: Argraffwyd dros yr awdwr, gan Adam Evans."

"Hanes Bywyd a Marwolaeth y Parch. E. Jones, Bathafarn, gan y Parch. W. Evans. Machynlleth: Argraffwyd dros y Cyhoeddwr gan Adam Evans."

1851." Merthyrdod Esgob Hooper, gan y Parch. R. Roberts, gynt o Fachynlleth."

Arweinydd Cymreig i Ryfeddodau Llundain, gyd â Map. Gan Hugh Humphreys, Caernarfon."

"Cydymaith yr Addolydd yn cynwys casgliad o Donau detholedig a gwreiddiol i wahanol fesurau, Salmau, a Hymnau yn Llyfr Hymnau y Trefnyddion Wesleyaidd. Gan Robert Williams, gweinidog yr Efengyl.'

"Dwy Ganiad, sef y fynedfa trwy y Môr Coch, gan Heber, a Moses ar ben Pisgah, gan Lewis Meredith. Machynlleth: a Argraffwyd gan Adam Evans.'

"Awdl ar y Diwygwyr Wesleyaidd. Gan Robert Davies. Llanrwst: Argraffwyd gan W. Jones."

Mene Tecel, sef Cyhuddiadau Mr. T. Thomas, Penycae, yn erbyn Wesleyaeth, &c. Gan B. James. Crughywell: Argraffwyd gan T. Williams.'

"Yr Hyfforddydd. Gan y Parch. David Evans."

'Amddiffyniad i'r Mene Tecel yn erbyn adolygiad golygydd Y Seren Gomer,' ac anerchiadau Mr. T. Thomas, Penycae. Crughywel: Argraffwyd gan Thomas Williams."

1852. Blodau Glyn Dyfi, &c. Gan Lewis Meredith (Lewys Glyn Dyfi). Machynlleth: Argraffedig gan Adam Evans."

Annibyniaeth a Wesleyaeth. Gan William Rowlands. Crughywel: Argraffwyd gan T. Williams."

Y Sabboth Cristionogol; gan William Aubrey."

Y Sabboth, ei Awdurdod Ddwyfol a'i les, sef Pregeth ar Marc ii. 27. Gan y Parch. J. Jones, 2il. Albion Wasg: Argraffwyd gan J. Jones."

Y Weinidogaeth Gristionogol, &c., sef cyfarchiad i'r Parchn. D. Jones a Richard Evans ar eu derbyniad i gyflawn waith y weinidogaeth. Gan Thomas Jones, 2il. Hwlffordd: Gan John E. Joseph."

1853—Y Diodydd Meddwol a Llwyrymattaliaeth, &c. Rees, Machynlleth. Machynlleth: Argraffwyd gan Adam Evans."

'Dadleniad Annibyniaeth ac Amddiffyniad Wesleyaeth, &c. Gan W. Rowlands. Caernarfon: Argraffwyd a chyhoeddwyd gan H. Humphreys."

Amddiffynydd y Ffydd a'r Cyfansoddiad Wesleyaidd. Dan olygiad y Parch. W. Rowlands. Rhan I., II. Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys." Nis gwyddom a gyhoeddwyd mwy na dau rifyn o'r llyfr hwn.

Diffyniad Wesleyaeth. Traethawd ar Athroniaeth y Cyfansoddiad Wesleyaidd, &c. Gan Rowland Hughes. Caernarfon: H. Humphreys."

Anghyfod a Rhwystrau. Pregeth ar Rhuf. xvi. 17. Gan William Aubrey. Dolgellau: Argraffwyd gan R. Jones."

1854. Y Masnachwr Llwyddianus, &c. Wedi ei gyfieithu gar. John Jones (Humilis). Gan y Parch. W. Arthur. Crughywel: T. Williams."

Elfenau Crefydd ar Gynghanedd, &c. Gan Isaac Jenkins. Caernarfon: H. Humphreys.

"Trefnyddiaeth Wesleyaidd. Gan y Parch. T. Jackson. Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn."

Anerchiad difrifol i Ieuenctid yr Oes. Gan Weinidog yr Efengy!."

"Cyfiawnder Cyfrifol. Dadl rhwng Gweinidog Wesleyaidd a Gweinidog o'r Eglwys Sefydledig (Parch. Ebenezer Morgan)."

Prif Phisygwriaeth. Gan J. Wesley. Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn.

"Traethawd ar Ddinystr Jerusalem. Gan y Parch. H. Wilcox."

Esboniad Dr. Adam Clarke, ar yr Hen Destament a'r Newydd. Wedi ei gyfieithu gan y Parch. Isaac Jones, gynt o Goleg Dewi Sant."

Gwobr-lyfrau i'r Ysgolion Sabbothol. Caernarfon: H. Humphreys."

"Pedwar ar Hugain o Ddarluniau Ysgrythyrol. Caernarfon: H. Humphreys."

"Allwedd yr Athraw. Gan Isaac Jenkins. Llanidloes: W. Rowlands."

Y Drych Teuluaidd. Gan Lewis Williams. Gweinidog yr Efengyl. Crughywel: T. Williams."

Y Cofnodau Mawr. Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn."

"Darlith ar Rwssia a'r Rhyfel. Gan y Parch. John Jones (Humilis). Machynlleth: Adam Evans."

1855. Dau Gyd-ymddiddan; y cyntaf ar Ddwyfoldeb a Sancteiddrwydd y Beibl, a'r ail ar Amrywiaeth a Phrydferthwch y Beibl. Gan y Parch. Isaac Jenkins."

"Hunangyfarwyddid i Gymro ddysgu Saesonaeg. Gan Bardd Du Môn. Caernarfon: H. Humphreys."

"Y Cerddor Gwreiddiol. Gan Thomas Jones (Canrhawdfardd). Treffynnon: Argraffwyd gan D. Prichard."

"Dwfr y Bywyd, sef Deg o Bregethau, gan Bregethwyr Wesleyaidd. Cyhoeddedig gan Edmund Evans, Meirionydd."

Traethawd ar Dwrci. Gan y Parch. John Jones (Humilis)."

"Elfenau Duwinyddiaeth. Gan y Parch. T. Jones, 2il (Argraffiad Newydd). Llanidloes: Argraffwyd gan J. Mendus Jones."

"Darlith ar Seryddiaeth. Gan J. W. Thomas (Arfonwyson). Caernarfon: H. Humphreys."

1856. Cadwraeth y Sabboth. Gan Ebenezer Morgan, gweinidog yr Efengyl. Caernarfon: H. Humphreys."

"Duwioldeb Foreuol, sef Cofiant Miss Owen, Beaumaris. Gan R. Prichard. Llanidloes: W. Rowlands."

Diwygiad yn yr Ysgol Sul (Traethawd Arobryn). Gan Rd. Hughes, Llawryglyn. Llanidloes: J. Mendus Jones."

"Y Swydd Weinidogaethol. Gan John Wesley. Tremadoc: R. J. Jones."

"Yr Eglwys a'r Ysgol Sabbothol. Gan Isaac Thomas. Llanidloes: W. Rowlands.'

Bywyd a Gweinidogaeth y Parch. Hugh Hughes. Wedi ei ysgrifenu ganddo ef ei hun, a'i olygu gan Isaac Jenkins. Caerfyrddin: W. Spurrell."

1857. Traethawd ar Resymeg. Gan y Parch. John Jones (Vulcan)." "Caniadau Glyndwr." Blaenau Ffestiniog."

"Holwyddorydd Duwinyddol. Gan y Parch. Richard Prichard."

"Cyfaill yr Ysgolor, yn cynwys Sylwadau ar Ddarllenyddiaeth, ac eglurhad ar droellegau yr Ysgrythyrau. Gan Clwydfardd. Caernarfon: H. Humphreys,"

1858. Geiriadur Ysgrythyrol, &c. Gan y Parch. W. Davies, D.D. Caernarfon: H. Humphreys."

"Hanes Dic Aberdaron. Gan H. Humphreys. Caernarfon: H Humphreys."

"Goleuni o'r Alpau. Gan y Parch. Henry Parry."

"Darlith ar India. Gan y Parch. John Jones (Humilis).

"Y Gwrthryfel yn India. Gan y Parch. R. Whitington (Egwisyn).

'Dwy Bregeth—Trysorau y Ddaear a Thrysorau y Nef. Matt. vi. 14—21; a Phrofiad Job yn ei adfyd, Job xix. 25—27. Gan y Parch. J. R. Chambers. Dinbych: Argraffwyd gan Thomas Gee.'

1859. Greddf a Dealltwriaeth. Gan y Parch. Robert Rees."

Arddechog lu y Merthyri. Caernarfon: H. Humphreys."

Mynag Blynyddol (cyntaf) Cymdeithas Genhadol Gartrefol y Methodistiaid Wesleyaid Talaeth Gogledd Cymru. Cyhoeddir yn flynyddol."

Gweinidogaeth gymhwys y Testament Newydd. Gan y Parch. Win. Powell."

"Yr Olyniaeth Apostolaidd. Gan y Parch. W. Davies, D.D."

1860. Sylwadau Difrifol ar Fedydd y Testament Newydd, mewn llythyr at gyfaill. Gan Pelagius (Parch. Ebenezer Morgan).

Hyfforddwr y Ffarmwr. Gan John Rees, Machynlleth. Machynlleth: Argraffwyd dros y Awdwr gan Evan Jones."

"Tair Pregeth, gan Mr. Thomas Owen, Pentre'r Dwr, Pregethwr Cynorthwyol yn Nghylchdaith Llangollen. Llangollen: Hugh Jones."

Agoriad i'r Ysgrythyrau. Gan y Parch. W. Davies, D.D. Caernarfon: H. Humphreys.'

'Dwyfol Darddiad y Beibl. Gan y Parch. Ebenezer Morgan."

1861. Y Crefyddwr Sefydlog, &c. Gan y Parch. W. H. Evans. Caernarfon: Argraffwyd ac ar werth gan H. Humphreys."

Sylwadau ar Fedydd. Gan Ebenezer Morgan. Treffynnon: Argraffwyd gan William Williams."

"Athrawiaeth yr lawn,' o waith y Parch. Lewis Edwards, M.A. Gan y Parch. J. Jones (Vulcan). Caernarfon: H. Humphreys."

"Awdl Dafydd Brenin Israel. Gan Hebog, Llanfyllin."

Diffyniad Bedydd Babanod, &c. Gan y Parch. R. Prichard. Ail argraffiad, gyd â llawer o chwanegiadau."

"Testament y Cyfeiriadau. Y Testament Newydd gyd â chyfeiriadau wedi eu hargraffu yn llawn, a'u dethol er eu gwneuthur yn Esboniad Ysgrythyrol. Gan Adam Evans, Machynlleth."

Pryddest ar Bechod, &c. Gan William Williams (Gwilym ap Gwilym, Lleyn)."

Traethawd ar Bum' Synwyr y Corff. Gan Isaac Thomas, Witton Park, Durham. Merthyr Tydfil: Argraffwyd gan T. Howell."

Cydymddiddanion, er gwasanaeth yr Ysgolion Sabbothol, gan y Parch. Isaac Jenkins."

"Siars Weinidogaethol. Gan W. Rowlands. Machynlleth A. Evans." 1862.——Traethawd ar Bechod Gwreiddiol, Gan y Parch. Ebenezer Morgan. Treffynnon: Argraffwyd gan William Williams."

Byr-Gofiant a Galareb am y diweddar Barch. Rowland Hughes. Gan y Parch. G. Jones. Argraffwyd gan J. M. Jones, Bangor."

Etholedigaeth Gras yn Amodol. Gan R. L. Herbert.'

Golud vr Oes. Cyhoeddiad Misol Cenedlaethol ydoedd hwn, dan olygiad Mr. Hugh Humphreys, Caernarfon."

1863. "Parhad y Saint mewn Gras." Gan Parch. R. Pritchard. gyda Rhagdraith gan y Parch. W. Powell."

Yr Allor Deuluaidd. Dan olygiad Henry Parry. Bangor: Argraffwyd a chyhoeddwyd gan J. M Jones."

"Yr Henaduraeth Gristionogol. Gan y Parch. Ebenezer Morgan. Treffynnon: Argraffwyd gan W. Williams."

1864.—Rhyddid yr Ewyllys, &c. Gan y Parch. O. Williams. Bangor: Argraffwyd gan J. M. Jones."

"Yr Efengylydd: sef Casgliad o Bregethau gan y diweddar Barch. Samuel Davies, 1taf. Cyhoeddedig gan ei Fab, ac wedi eu harolygu gan y Parchn. W. Owen a J. H. Evans. Treffynnon: A. E. Pritchard.'

"Traethawd ar Iawn Crist. Gan y Parch. Ebenezer Morgan. Treffynnon: Argraffwyd gan W. Williams."

Vulcanyddiaeth. Adolygiad ar Ysgrifau Vulcan, ar Sail Rhwymedigaeth Foesol, &c. Gan Degar. Machynlleth: Argraffwyd, &c., gan Adam Evans."

"Y Carolydd. Gan Cadvan."

Cydymddiddanion (yr ail gyfres), er gwasanaeth yr Ysgolion Sabbothol a Chyfarfodydd Llenyddol. Gan Isaac Jenkins."

Gramadeg Areithyddiaeth. Gan y Parch. T. Thomas. Caernarfon: H. Humphreys.'

Ysgrif Darluniad o'r Parch. R. Roberts, gweinidog Wesleyaidd (gynt o Machynlleth). Gan y Parch. R. Wrench. Yn nghyda Pregeth a Darlith, &c. Wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, gan S. Jenkins (Manodfab). Caernarfon: Argraffwyd gan H. Humphreys.'

1865.—"Buddugoliaethau Gwirionedd. Gan y Parch. W. H. Evans. Bangor: Argraffwyd gan J. Mendus Jones."

Holwyddorion y Wesleyaid. Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn.' Pigion o'r Beibl Amlieithawg, gyd â Rhagdraith. Gan y Parch. W. Davies, D.D."

Traethawd ar Berffeithrwydd Cristionogol. Gan y Parch. Ebenezer Morgan. Treffynnon: Argraffwyd gan Wm. Williams."

Pregeth ar Wrthgiliad. Gan y Parch. Ebenezer Morgan. Treffynnon: Argraffwyd gan Wm. Williams."

1866. Trefn Achubol yr Efengyl. Gan y Parch. Ebenezer Morgan. Treffynnon: Argraffwyd gan Wm. Williams."

Dwy Farwnad, ar ol y Parchn. R. Williams, Aberdyfi, a W. Rowlands (Gwilym Lleyn). Gan Edward Edwards, Aberystwyth."

Geirlyfr yr Ysgol Sul. Gan E. Davies (Caerfallwch), Wyddgrug. Wedi ei olygu gan y Parch. Samuel Davies. Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn.'

"Y Cawell Lloffion. Gan Edward Jones (Noddfanyn), Penygraig, Dorowen. Machynlleth: Argraffwyd gan J. Williams.'

"Myfyrdodau yr Awen ar y Bôd o Dduw a'i weithredoedd. Gan Robert Tannett, Abertawy. Abertawe: Argraffwyd gan E. Griffiths."

Samuel Davies a'i Amserau. Gan Samuel Davies. Bangor: Cyhoeddedig ac ar werth gan R. Jones."

Cyfarchiad i'r Parchn. John Thomas, F. Gwynne, a Thomas Thomas, Caernarfon: H. yn Amser eu harholiad. Gan y Parch. H. Wilcox. Humphreys."

"Y Bywgraffydd Wesleyaidd. Gan y Parch. J. Jones (Humilis). Machynlleth: Argraffedig a chyhoeddedig gan J. Williams."

1867.—Moliant Israel, sef Casgliad o Donau, &c.; gan T. Jones (Canrhawdfardd)."

"Ehediad y meddwl; gan William Thomas, Caergybi. Yn nghyda Chofiant gan y Parch. W. H. Evans. Caernarfon: H. Humphreys.'

Cydymddiddanion ar wahanol Destynau (y trydydd gyfres); gan y Parch. Isaac Jenkins. Abertawe: E. Griffiths."

Mynag Pwyllgor Capeli Wesleyaid Talaeth Gogledd Cymru."

1868.—Clustnodydd, neu Gydymaith y Bugail, &c.; gan Richard Jones, Henfache, Llanrhaiadr. Caernarfon: H. Humphreys."

Geiriau y Groes; gan y Parch. Henry Parry. Gweinidog yr Efengyl."

"Y Chwedleuydd; gan John Jones (Humilis). Machynlleth: Argraffwyd gan J. Williams."

1869.—Llyfryddiaeth y Cymry, o 1546 hyd 1800. Gan y diweddar Barch. W. Rowlands (Gwilym Lleyn). Llanidloes: John Pryse."

"Y Llusern Ysgrythyrol. Gan y Parch. Humphrey Jones. Caernarfon: Cyhoeddedig gan H. Humphreys."

Cyfeiliornadau y Grefydd Babaidd yn cael eu dynoethi; gan Henry Wilcox. Ail argraffiad. Machynlleth: J. Williams.'

"Gweinidog Crist,—Pryddest ar ol y diweddar Barch. Thomas Aubrey. Gan y Parch. John Hugh Evans. Liverpool: Swyddfa'r Tyst."

Mynag (cyntaf) y Genhadaeth Gartrefol yn y Dalaeth Ddeheuol. Llanbedr: Argraffwyd gan J. Davies."

1870. Y Lloffydd: dan olygiad y Parch. T. Jones-Humphreys. Blaenau Ffestiniog: Thomas." Un rhifyn gyhoeddwyd.

"Manna Ysbrydol, sef nifer o Bregethau: gan y Parch. Charles Nuttall. Bala: Argraffwyd gan Lewis Williams."

1871. Pregethau, Darlithau, &c.; gan y Parch. William Powell, gweinidog gyd â'r Wesleyaid. Caernarfon: H. Humphreys."

1872. Adolygiad ar Ymchwiliad Edwards i Ryddid yr Ewyllys: gan Dr. Tappan. Cyfieithedig gan John Evans, Eglwysbach, gyda Rhagdraeth gan y Parch. John Jones (Vulcan). Blaenau Ffestiniog: Argraffwyd gan Jones ac Evans."

'Y Pen Teulu, sef Pregeth gan y Parch. Samuel Davies."

Casgliad o Donau, &c. Cyfaddasol i Lyfr Hymnau y Wesleyaid Cymreig. Bangor: Cyhoeddedig yn y Llyfrfa Wesleyaidd."

1873. Penarglwyddiaeth Duw, &c. Cyfres o Bregethau ar Rhuf. Bennod ix. Gan y Parch. J. Jones (Vulcan).'

"Athrawiaeth yr Iawn. Darlith gan y Parch. W. Davies, D.D. Bangor Cyhoeddedig yn Swyddfa yr Eurgrawn."

Pregeth ar yr angenrheidrwydd a'r anogaethau i weddio, &c.; gan D. Young. Machynlleth: Adam Evans."

1874. Cristionogaeth a Deddfau derbyniad Crefydd; gan y Parch. J. H. Evans. Bangor: Cyhoeddedig yn Swyddfa yr Eurgrawn."

"Ysbrydoliaeth yr Ysgrythyrau; gan y Parch. Isaac Jenkins. Bangor: Cyhoeddedig yn Swyddfa yr Eurgrawn."

"Actau Cynhadledd yr Ysgol Sul a gynhaliwyd yn Ninbych, Mawrth 16cg a'r 17eg, 1874. Treffynnon: Argraffwyd gan W. Williams.

1875. Y Beibl, sef Pryddest; gan y Parch. John Jones (Vulcan). Caernarfon: H. Humphreys."

"Cofiant y diweddar Barch. R. T. Owen, &c.; gan y Parch. Hugh Jones. Argraffwyd gan y David Davies Williams, Machynlleth."

"Y Bugail. Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Wyddgrug. Dan olygiad y Parch. W. H. Evans."

Y Cenhadydd. Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Coedpoeth. Dan olygiad y Parch. D. Jones (Druisyn)."

1876. Odlau Moliant, sef Casgliad o Emynau, &c.; gan y Parch. John Evans (Iota Eta). Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn."

1877. Pregethau, &c.; gan y Parch. T. Aubrey. Cyf. II. Y Llyfrfa Wesleyaidd."

Ameuyddiaeth, sef Darlith, gan y Parch. John Jones (Vulcan). Bangor: Cyhoeddedig yn Swyddfa yr Eurgrawn.'

"Y Ddwy Dduwinyddiaeth; gan y Parch. Owen Owen. Bangor: Cyhoeddedig yn Swyddfa yr Eurgrawn.'

"Person Crist; gan y Parch. David Evans (Degar). Bangor: Cyhoeddwyd ac ar werth yn Swyddfa yr Eurgrawn."

Pregethau, Darlithiau, &c.; gan y Parch. Rowland Hughes. Gweinidog gyda'r Wesleyaid. Wedi eu golygu, yn nghyd â Darlith gan y Parch. J. H. Evans. Caernarfon: H. Humphreys."

1878.—"Caneuon Cadvan. Rhosymedre: Cyhoeddwyd gan D. Jones."

Mynag (cyntaf) Pwyllgor Capeli Wesleyaidd, Talaeth Ddeheuol Cymru. Machynlleth: Argraphwyd gan Adam Evans."

"Yr Allwedd; gan y Parch. W. H. Evans. Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

1879. Hymnau a Chaniadau, gan y Parch. W. H. Evans. Treffynnon: Argraphwyd gan W. Williams."

Adenedigaeth; gan y Parch. Owen Williams. Bangor: Cyhoeddwyd ac ar werth yn Swyddfa yr Eurgrawn."

Holwyddorydd ar Hanesiaeth y Beibl, &c., gan y Parch. R. Prichard; gyda Rhagymadrodd gan y Parch. Roger Edwards. Treffynnon: P. M. Evans a'i Fab."

Esboniad Dr. Clarke ar y Testament Newydd. Dan olygiad y Parch. T. Thomas. Gweinidog Wesleyaidd. Machynlleth: Adam Evans.

"Actau Cynhadledd yr Ysgolion Sabbothol a gynhaliwyd yn y Wyddgrug, 1879."

Penyffordd; gan y Parch. W. H. Evans. Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

1880.—Rhagoriaeth Moesoldeb y Beibl; gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Machynlleth: Cyhoeddwyd gan Adam Evans."

"Damcaniaeth Dadblygiad; gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Bangor: Argraffwyd gan J. Mendus Jones.'

Crefydd Deuluaidd; gan y Parch. Hugh Jones. Rhyl: Argraffwyd gan Amos Bros."

Aflwyddiant ac Anallu Gwyddoniaeth Naturiol i gyfrif am ddechreuad pethau; gan y Parch. John Evans. Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn." Y Pregethwr Wesleyaidd. Dan olygiad y Parch. Rice Owen. Machynlleth: Adam Evans."

"Yr Apostol Paul fel Pregethwr; gan y Parch. W. Evans (Monwyson). Cyhoeddwyd gan yr Awdwr.

"Anerchiadau a draddodwyd yn y Gynhadledd Grefyddol a gynhaliwyd gan y Wesleyaid yn Nghapel Shiloh, Merthyr Tydfil, Ionawr 22ain, 1880. Machynlleth: Argraffwyd gan D. Davies Williams."

Pregethau, &c.; gan y Parch. T. Aubrey. Cyf. III. Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

"Casgliad o Salm-donau, gyd â geiriau cyfaddas at wasanaeth cynulleidfaoedd y Wesleyaid Cymreig. Liverpool: Argraffwyd gan D. Roberts & Co."

"Natur a Dyben y Cyfansoddiad Teuluaidd. &c.; gan y Parch. Thomas Jones, D.D. Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn."

"John Wesley: ei Fywyd a'i Lafur; gan John Evans, Eglwysbach. Treffynnon: P. M. Evans.

1881. —Sain Cân, sef Casgliad o Donau, &c.. cyfaddasol i'r Hymnau a geir yn Odlau Moliant.' Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

Cydymaith Sain Cân. Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

"Y Tafod Tân, sef gwir nerth Cristionogaeth; gan W. Arthur, M.A. Caernarfon: H. Humphreys."

1882. Howell Harris; gan y Parch. John Evans (Eglwysbach). Treffynnon: P. M. Evans "

"Hanes William Aubrey, a'i Oes, yn nghyd â rhai o'i bregethau. Wedi eu hysgrifenu ganddo ei hun; yn nghyd â Rhagdraith gan y Parch. John Evans (Eglwysbach). Rhyl: Amos Bros."

1883.—Man Draethodau, &c. Rhosymedre: Cyhoeddwyd gan D. Jones."

Caneuon Cadvan. Llyfr II. Dolgellau; W. Hughes.'

"Athroniaeth Foesol y Beibl; gan y Parch. T. Jones—Humphreys. Bangor: J. Mendus Jones."

1884. Yr Efengylydd. Dan olygiad y Parch. John Hughes (C). Cyhoeddedig gan R. Owen, Llanberis."

Llythyr Cyfarfod Cyllidol Talaeth Gogledd Cymru."

Pwlpud Cymreig City Road, Cyf. I. Gan y Parch. John Evans (Eglwysbach). Treffynnon: P. M. Evans."

"Pregethau yr Uwchrifiaid Wesleyaidd Cymreig, 1881, 1882. Dan olygiad y Parch. J. Davies (B). Machynlleth: Adam Evans."

Gweithiau Barddonol a Llenyddol O. Gethin Jones, Ysw., Penmachno. Llanrwst: Argraffwyd a chyhoeddwyd gan W. J. Roberts."

1885. Y Rheoliadur, &c.; gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Bangor: Samuel Hughes.'

"Cofiant a Phregethau Mr. John Morris, Caernarfon; gan y Parch. Evan Evans (A). Bangor: Samuel Hughes."

"Hanesion Byrion; gan y Parch. D. Jones (Dewi Mawrth). Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

Cadwen o Berlau; gan y Parch. Evan Evans (A). Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

"Y Perganiedydd; gan E. Jones (Gwaenys).

"Pwlpud Cymreig City Road. Cyt. II.; gan John Evans (Eglwysbach). Treffynnon: P. M. Evans."

1886. Athroniaeth Foesol y Beibl; gan y Parch. T. Jones—Humphreys (Ail-argraffiad) gyda Rhagdraith gan y Parch. Owen Williams. Bangor: J. Mendus Jones."

"Geiriadur Ysgrythyrol, &c.; gan y Parch. T. Thomas (A). Wrexham: Hughes a'i Fab."

1887. John Penri (Arwrgerdd); gan y Parch. John Hughes (Glanystwyth."

"Pregethau, &c.; gan y Parch. Thomas Aubrey. Cyf. I. Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd.' (Cyhoeddwyd cyf. II. a'r III. o flaen y gyntaf).

Cofiant y Parch. Thomas Aubrey; gan y Parch. Samuel Davies. Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

Cylchgrawn Chwarterol Cylchdaith Wyddgrug. Dan olygiad y Parch. Owen Hughes.

1888. Sylwadau ar yr Epistol at y Rhufeiniaid; gan David Pritchard, Brynhyfryd, Tregarth. Bangor: J. Mendus Jones."

Cyfrol Goffawdwriaethol Cynfaen. Darlith ar Job, a 22ain o Bregethau. Gan y diweddar Barch. John Hugh Evans (Cynfaen). Dan olygiad ei frawd——William Hugh Evans. Treffynnon: P. M. Evans."

"Cymru gynt. Gan y Parch. T. O. Jones (Tryfan)."


Cylchgrawn Chwarterol Cylchdaith Coedpoeth. Dan olygiad y Parch. R. Lloyd Jones."

"Lamp yr Ysgol Sul. Gan y Parch. T. Thomas (A). Wrexham: Hughes a'i Fab."

1889.—"Esboniad yr Efrydydd yr Epistol at y Rhufeiniaid. Gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Machynlleth: Adam Evans."

"Neillduolion Athrawiaethol y Trefnyddion Wesleyaidd. Gan y Parch. R. Lloyd Jones. Rhosymedre: D. Jones."

"Braslun o Fywyd ac Epistolau Paul. Gan y Parch. John Evans (Eglwysbach). Treffynnon: P. M. Evans."

Yr Adfywiadur.—Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Conwy. Dan olygiad y Parch. E. Davies."

Cofiant Mr. John Owen, Corris, Blaenor a Phregethwr Cynorthwyol yn Nghylchdaith Machynlleth; gan Edward Rees, Machynlleth. Bangor: Argraphwyd gan J. Mendus Jones."

"Testament yr Efrydydd. Cyfieithiad Diwygiedig o'r Testament Newydd; gan y Parch. O. Williams. Caernarfon: H. Humphreys."

1890. "Yr Athronydd Cymreig. Dan olygiad y Parch. W. Evans (Monwyson)."

"Cyfansoddiadau Barddonol Ioan Glan Menai. Gyda Rhagdraith gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Llyfr II."

"Esboniad yr Efrydydd—Yr Epistol at y Rhufeiniaid; gan y Parch. T. Jones—Humphreys (ail argraffiad). Machynlleth: Adam Evans."

1891.—"Y Cawell Lloffion, sef Detholiad o weithiau Mr. Thomas Belton, Gwynfryn. Wedi ei olygu gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Rhosymedre: D. Jones."

Teyrnged Goffawdwriaethol Canmlwyddiant y Parch. J. Wesley. Gan Parchn. T. Jones-Humphreys a P. Jones Roberts. Rhosymedre: D. Jones."

Canmlwyddiant Marwolaeth y Parch. J. Wesley, A.C. Gan y Parch R. Lloyd Jones. Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd.'

"Cofadail Canmlwyddiant Marwolaeth y Parch. J. Wesley, A.C. Dan olygiad y Parchn. T. Jones-Humphreys, T. Hughes (B), a P. Jones Roberts. Machynlleth: Adam Evans."

"Esboniad yr Efrydydd—Efengyl Ioan. Gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Bala: H. Evans.'

"Hymnau a Thonau at wasanaeth yr Addoliad, &c Gan T. Jones. (Canrhawdfardd). Rhosymedre: David Jones."

"Bywyd Crist. Gan y Parch. John Hughes (Glanystwyth). Treffynnon: P. M. Evans."

"Yr Eglwysi Ymneillduol ac Eglwys Loegr yn eu perthynas â'r Llywodraeth. Gan y Parch. T. Jones-Humphreys, Bala: H. Evans.'

Diarhebion y Cymry. Gan y Parch. T. O. Jones, F.R.H. S. (Tryfan), gyd â Rhagdraith gan y Parch. J. Hughes, D.D. Conwy: R. E. Jones a'i Frodyr."

Yr Hysbysydd,—Cylchgrawn Wesleyaidd Cylchdaith Llanrhaiadr. Dan olygiad y Parch. E. Humphreys."

1892.—"Gweithiau Ioan Mai. Wedi eu trefnu a'u golygu gan John Lloyd Pierce, yn nghyda Byr Gofiant gan Dr. Jenkin Lloyd. Portmadoc: E. Jones."

Hanes Dechreuad a Chynydd yr Achos Wesleyaidd yn Brymbo. Gan Mr. Thomas Charles, Brymbo.'

Dyledswydd yr Eglwys tuag at yr Ysgol Sul, a Dylanwad boreu Oes.' Gan y Parch. John Evan Roberts."

"Esboniad yr Efrydydd—Yr Epistol at yr Hebreaid. Gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Bala: H. Evans."

"Offeiriadaeth a Gweinidogaeth y Testament Newydd. Gan y Parch. W. H. Evans. Rhyl: Amos Bros.'

"Oesau Boreu y Byd, neu Gydymaith i Lyfr Genesis. Gan y Parch. J. Hughes (Glanystwyth). Treffynnon: P. M. Evans."

"Cylchgrawn Chwarterol Cylchdaith Towyn. Dan olygiad y Parch. J. Cadvan Davies."

1893.—"Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid. Gan y Parch. Owen Williams. Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

"The Origin and History of Methodism in Wales; by the Rev. D. Young. London: C. H. Kelly."

"Y Banerydd: Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Mynydd Seion, Liverpool."

"Y Cyngor,' ar Ordeiniad Gweinidogion Cymreig mewn cysylltiad â Chynhadledd Wesleyaidd Caerdydd, a draddodwyd yn Merthyr Tydfil; gan y Parch. John Evans (Eglwysbach)."

"Dinas Mawddwy a'i hamgylchoedd; gan T. Davies (Tegwyn), Dinas Mawddwy. Machynlleth: Adam Evans."

"Y Cofiadur. Cylchgrawn Chwarterol Cylchdaith Llanfaircaereinion. Treffynnon: W. Williams a'i Fab."

Caneuon Cadvan. Llyfr III."

1894. Adroddiad Cyngor Wesleyaidd Dwyreinbarth Sir Ddinbych. Wrexham R. Jones."

"Cylchgrawn Chwarterol Cylchdaith Bagillt. Dan olygiad y Parch. Ph. Williams. Treffynnon: W. Williams a'i Fab."

"Dydd Coroniad; gan Cadvan. Treffynnon: W. Williams a'i Fab." 1895. Esboniad yr Efrydydd—Efengyl Matthew; gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Treffynnon: W. Williams."

"Yr Epistol at y Galatiaid; gan y Parch. Owen Evans. Treffynnon: W. Williams."

"Y Fwyell. Dan olygiad y Parch. John Evans (Eglwysbach).

"Y Mynegydd. Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Gymreig Manchester. Dan olygiad y Parch. T. Jones—Humphreys. Treffynnon: W. Williams."

1896.Hyfforddydd Dirwestol, &c. Gan y Parch. J. Hughes (Glanystwyth). Bangor: Y Swyddfa Wesleyaidd."

"Y Cydymaith. Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Wesleyaidd Dolgellau ac Abermaw. Dolgellau: E. W. Evans.

1897. "Ymneillduaeth Cymru; gan y Parch. H. Jones. Treffynnon: W. Williams."

Cyfeiriadur Duwinyddol; gan y Parch. W. H. Evans. Rhan I. Rhyl: Y Brodyr Amos."

"Caneuon Cadvan. Llyfr IV."

Eurgrawn Coffa am y Parch. John Evans (Eglwysbach). Dan olygiad y Parch. John Hughes (C). Bangor: Y Swyddfa Wesleyaidd."

"Y Tremydd. Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Wyddgrug. Dan olygiad y Parch. T. Jones—Humphreys. Treffynnon: W. Williams a'i Fab."

"Esboniad ar Epistolau Ioan; gan y Parch. Hugh Jones (B). Treffynnon: W. Williams a'i Fab."

1898.—"Esboniad yr Efrydydd—Efengyl Marc; gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Treffynnon: W. Williams a'i Fab.'

"Frances Willard; gan T. R. Marsden (D. ap Gwilym). Treffynnon: P. M. Evans & Son."

"Y Trefnydd Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Caernarfon."

"Caneuon Gwilym Dyfi."

Pregethau a Darlithau. Gan y diweddar Parch. John Evans (Eglwys bach). Dan olygiad y Parchn. J. P. Roberts a T. Hughes (B). Bangor: Y Llyfr Wesleyaidd."

Bywyd y Parch. Isaac Jones (gweinidog Wesleyaidd). Gan y Parch. J. Hughes (Glanystwyth. Liverpool: T. Amos Hughes & Co."

"Blodau Iâl: neu Gynyrchion Barddonol William Jones (Ehedydd Ial). Wedi eu casglu a'u trefnu gan y Parch. John Felix. Treffynnon: W. Williams a'i Fab."

"Oriau Myfyr. Gan Dafelog. Bala: Swyddfa yr Eryr."

1899.Esboniad ar yr Ephesiaid. Gan y Parch. R. Morgan (B). Bangor: Swyddfa yr Eurgrawn."

Pregeth ar Ganmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig; gan y Parch. Hugh Jones.'

"Straeon Hynod Sylfaenedig ar Ffeithiau; gan Agur (sef Mr. T. R. Marsden). Wrexham: Hughes a'i Fab."

"Esboniad yr Efrydydd—Efengyl Luc. Gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Treffynnon: W. Williams a'i Fab."

Cofnodau y Gamanfa Wesleyaidd Gymreig gyntaf. Bangor: Evan Thomas."

"Trysorfa yr Ugeinfed Ganrif. Gan y Parch. R. Roberts (Robertus)."

"Y Wawr: Cyhoeddiad Chwarterol Cylchdaith Treorky. Dan olygiad y Parch. R. Roberts (Robertus)."

Delw y Nefol, sef Cyfres o Bregethau. Gan y Parch. John Hughes (C) (Glanystwyth). Treffynnon: Argraffwyd gan W. Williams a'i Fab."

Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, sef Trem ar ei Hanes, &c. Gan y Parch. T. Jones-Humphreys. Treffynnon: Argraffwyd gan W. Williams a'i Fab."

Llyfr Emynau y Methodistiaid Wesleyaidd at wasanaeth yr Addoliad Cyhoeddus, &c. (Casgliad Newydd). Bangor: Y Llyfrfa Wesleyaidd."

Buasai yn dda genym allu rhoddi i mewn yma Gynyrchion ein Llênorion a ymddangosasant yn y gwahanol Gylchgronau, ac mewn Gweithiau eraill, ond nis gallwn o herwydd prinder gofod.


PENNOD XVII.

Emynyddiaeth Wesleyaidd Gymreig.

CREDWN nad oes yn llênyddiaeth yr un genedl y fath gyfoeth o Emynau ag sydd yn eiddo y Cymry. Perthyna i ni fel cenedl gyfansoddiadau barddonol dirif o bob amrywiaeth a theilyngdod. Ceir hwy yn doraeth. enfawr mewn Awdlau, Cywyddau, Englynion, Pryddestau, Pennillion, ac Emynau Mawl. Ond cân Crefydd y Cymry yw gogoniant ei holl ganiadau. Gweithiodd hon i fewn i fywyd y genedl, a bu y prif foddion, nesaf i'r Beibl, i greu yn ei meddwl syniadau ysbrydol, i ddullweddu ei bywyd crefyddol, ac i ddylanwadu er melysu cwpaneidiau chwerwon profedigaethau, ac i beri i filoedd seinio alawon y nef yn nglŷn cysgod angau. Y fath deimladau hyfryd a fwynhawyd gan gynulleidfaoedd Cymru wrth ganu mawl y ne', a seinio clodydd Duw a'r Oen, trwy gyfrwng Emynau, Salmau, ac Odlau Ysbrydol!

Wrth sylwi ar Emynyddiaeth y Cymry heddyw, a'i chymharu â'r hyn oedd yn nyddiau Edmund Prys, Ellis Wynn, o Lasynys, ac eraill, canfyddwn fod ei chynydd. mewn melodedd a swyn ysbrydol yn fawr iawn. Efallai na wnaeth gynydd mor fawr mewn cryfder, ond cynyddodd yn ddirfawr mewn purdeb a phrydferthwch. Perthyna i Emynyddiaeth pob enwad yn Nghymru ei nodweddion gwahaniaethol, er eu bod oll yn dwyn delw o debygoliaeth, ac yn rhai o'u llinellau yn un â'u gilydd. Un o linellau amlycaf Emynyddiaeth Wesleyaidd ydyw, 'yr hyder ffydd a'r sicrwydd gobaith a'i nodwedda. Gellir rhoddi dau reswm am hyn, yn 1af. Y ffurf o athrawiaeth sydd yn sylfaen iddi. Yn 2il. Y ffaith ddarfod i'r Methodistiaid Wesleyaidd ddyfod i gyffyrddiad agosach a'r bywyd crefyddol Saesnig na'r un o'r enwadau eraill yn Nghymru. Ond gan nad oes a fynom ni yn bresenol ond ag Emynyddiaeth Wesleyaidd, awn yn mlaen i nodi ychydig o hanes ein Llyfr Emynau, ac hefyd hanes rhai o'n Hemynwyr ymadawedig. Efallai y gwel y beirniaid cyfarwydd i ni adael allan enwau rhai, y tybia ef ddylasent gael eu crybwyll. Wrth y cyfryw dywedwn—Cyhoeddwch chwi restr ohonynt; ac o bosibl rhwng yr eiddoch chwi a ninau y ceir un led gyflawn a pherffaith. Y cynllun a fabwysiadwn ydyw nodi enwau yr Emynwyr, ac yna engraifft o'u gwaith.

1. PARCH. JOHN HUGHES, ABERHONDDU.

Fel y gŵyr ein darllenwyr yr oedd ef yn un o'r ddau genhadwr cyntaf a benodwyd i Sefydlu Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru. Yr oedd yn llenor coeth, yn Gymro clasurol, ac yn ysgolhaig gwych. Oddeutu y flwyddyn 1801, dechreuodd gasglu defnyddiau, ar gyfer y Llyfr Emynau fwriadai ei gyhoeddi, a thua diwedd Mai, 1802, cyhoeddodd ef dan y teitl "Diferion y Cyssegr,' &c. Argraffwyd ef gan W. C. Jones, Caerlleon. Hwn oedd Llyfr Emynau cyntaf y Methodistiaid Wesleyaidd yn Nghymru. Yn y flwyddyn 1804, dygwyd allan ail-argraffiad o'r Llyfr hwn wedi ei ddiwygio a'i helaethu. Cynwysa 260 o Emynau, sef 34 yn fwy nag yn yr argraffiad cyntaf. Argraffwyd ef gan J. Hemingway, Caerlleon. Ystyriwn ef yn gasgliad rhagorol. Prawf o'i werth a'i ragoriaeth ydyw y ffaith fod y rhan fwyaf o'r Emynau a geir ynddo, yn aros yn mhob casgliad arall a wnaed, ïe, hyd yn nod yn y casgliad newydd presenol. Er mwyn i'n darllenwyr gael syniad am Mr. Hughes fel Emynydd, nodwn yr Emyn ganlynol fel engraifft o'i waith:

GWEDDI'R CRISTION.

I "TRUGAROG IOR, 'nawr gwrando ar fy nghri,
Dyrchafa'm llais a'm calon atat Ti;
Gwrando fi, Arglwydd, atat doed fy nghwyn,
Tywallta'm henaid yn dy fynwes fwyn.

2 Tra fyddwyf yma mewn daearol fyd,
O boed i'th degwch dynu'm serch a'm bryd;
Na ad i wael wrthrychau daear lawr,
I lygru mryd, a digio f' Arglwydd mawr.


3 Llewyrcha arnaf Arglwydd, oddifry,
A dywed i'm fy mod yn eiddo i ti;
O dyro im' dystiolaeth gadarn gre'
Fod genyf hawl i drigfan yn y ne'."


2. MR. JOHN BRYAN, CAERNARFON.

Yr oedd Mr. Bryan yn Emynydd rhagorol. Fel cyfieithydd Emynau yr anfarwol Wesley, yr oedd yn ddihafal. Yn yr ystyr yma gwnaeth fwy o wasanaeth na neb i Emynyddiaeth Wesleyaidd Gymreig. Mae genym awdurdod Dr. W. Davies, dros ddywedyd fod bron yr oll o Emynau Wesley a geir yn ein Llyfr Emynau wedi eu cyfieithu ganddo ef. Ond nid cyfieithydd yn unig ydoedd, ond yr oedd hefyd yn Emynydd gwreiddiol, tarawgar ac esmwyth. Gosodwn yma un Emyn fel engraifft o'i waith:—

ANGEU Y GROES.

1 "Yn angeu'r Groes mae bywyd,
Yn angeu'r Groes mac hedd, Yn angeu'r
Groes mae digon
Tu yma a thraw i'r bedd.

2 Trwy angeu'r Groes gwaredwyd
Fi rhag digofaint Duw,
Trwy'r groes ce's hawl i'r gwyn fryd
Sydd yn y nefoedd wiw.

3 Am angeu'r Groes mae canu
Yn mhlith y dorf diri',
Ni bydd yn mhlith y dyrfa
A gân yn uwch na mi.

4 Pan b'wyf yn rhodio'r afon,
Caf ganu yn y glyn,
A'm cân ar fynydd Seion
Fydd Croes Calfaria fryn.


3. Y PARCH. EDWARD JONES, 2il, CORWEN.

Yr oedd Mr. Edward Jones yn fardd awenyddol. Cyfansoddodd lawer yn y mesurau caethion, a chyn ei ddychweliad dan weinidogaeth Mr. Bryan, yr oedd yn enwog fel cyfansoddwr Interlutiau. Brithir cyfrolau cyntaf yr Eurgrawn a'r "Trysor i Blentyn" â'i gyfansoddiadau barddonol. Efe ydyw Awdwr yr Emyn "O cydnabyddwn tra fo'm byw," &c. Fel engraifft o'i waith nodwn yr Emyn canlynol:—

YSTYRIWN EIN FFYRDD.

1 Ystyriwn ni ein ffyrdd yn ol,
Y modd yn ffol eu treuliwyd,
A'r gwerthfawr roddion amal ri,'
Er addysg i ni roddwyd.

2 Trugaredd ac amynedd mawr,
Fod Iesu 'n awr yn eiriol;
A chywir sel, mawr achos sy'
I'w garu yn drag'wyddol.

3 Ein hymdrechiadau fyddo'n fawl
Yn hollawl o hyn allan,
A'n myfyrdodau byth yn fyw
I'r Arglwydd Dduw ei hunan."


Yn y flwyddyn 1805, cyhoeddodd Meistri J. Bryan ac E. Jones Lyfr Emynau bychan ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Ni bu mewn arferiad yn ngwasanaeth y Cysegr, ond yn achlysurol. Daeth trydydd argraffiad o "Ddiferion y Cysegr" allan yn 1807, a phedwerydd argraffiad yn 1809, a'r naill a'r llall dan olygiad y Parch. John Hughes. Dengys hyn i bedwar argraffiad o "Ddiferion y Cysegr," gael eu cyhoeddi dan olygiad Mr. Hughes ei hun. Bydd hyn yn goffawdwriaeth arhosol am dano fel Emynydd. Dygwyd allan bumed argraffiad o'r llyfr hwn yn 1812, a hyny yn ol pob peth allwn gasglu o dan ofal Mr. D. Rogers, a hwn oedd yr argraffiad olaf o'n Llyfr Emynau cyntaf.

Penododd y Cyfarfod Talaethol y Parchn. David Rogers, John Williams, 1af, a William Jones i ddiwygio, ad-drefnu ac i helaethu y Llyfr Emynau. Gwnaethant eu gwaith yn ganmoladwy. Gynwysa y Llyfr hwn oddeutu 50 o Emynau Dafydd Thomas (Dafydd Ddu o Eryri), amryw o eiddo Iolo Morganwg, ac eraill. Cynwysai 421 o Emynau. Cyhoeddwyd ef yn 1817. Yn Llundain ei hargraffwyd gan Thomas Cordeux, yn argraffdy y Wesleyaid Seisnig. Yr oedd hwn yn Llyfr Emynau Newydd, er yn cynwys llawer o'r emynau oedd yn yr un blaenorol. Nid ydym yn gwybod i Mr. Rogers gyfansoddi Emynau, ond yr oedd yn llenor coeth, ac yn gantor rhagorol. Ac yr oedd Mr. William Jones, yn ddyn o chwaeth bur, ac felly yn lled gymwys i fod ar y Pwyllgor. Ymneillduodd o'r weinidogaeth yn 1816, ac ymsefydlodd yn Nghaer, lle y bu yn barchus gan bawb, ac o wasanaeth fawr i'r achos.

4. PARCH. JOHN WILLIAMS, 1AF.

Yr oedd Mr. Williams yn Emynydd rhwydd. Cyfansoddodd lawer o ddarnau barddonol. Ei brif waith ydyw yr Emyn "Darfydded son am wrthod f' mwy," &c. Efe hefyd ydoedd awdwr yr Emyn "Mwy llawn o ras na'r môr o ddwr," &c.

5. PARCH. WILLIAM DAVIES, 1AF.

Bu Mr. Davies yn Genhadwr yn Affrica am dymor, ac adnabyddid ef wedi ei ddychweliad fel "Davies Affrica." Yr oedd yn fardd o fri, ac yn Emynydd da. Cyfieithodd amryw o Emynau Wesley, a chyhoeddodd hwy yn Llyfryn bychan. Gadawn i'r Emyn canlynol wasanaethu fel engraifft o'i waith:—

1 "Efengyl lawn a ddaeth i'r wlad,
Trwy rad ddaioni Iesu;
Mae lle i bawb yn awr gael byw,
Trwy ras Oen Duw fu'n prynu.

2 Ewyllys Duw yw achub dyn,
Sy'n awr yn cyndyn wrthod;
YNghrist mae lle i'n golchi'n lân
Oddiwrth wahanglwyf pechod.

3 Ymrown i ffoi i'r nef heb ffael,
Fel gallwn gael gwir heddwch;
A gras a nerth i rodio'n iawn,
Wrth reol lawn hyfrydwch.

4 Ac yna hyfryd iawn a rhwydd,
Fydd moli'r Arglwydd tirion;
Er gwaetha llid y ddraig a'i llu,
Cawn yn ei dy ddanteithion."


6. MR. OWEN WILLIAMS, WAENFAWR.

Medda Mr. Owen Williams, Waenfawr ar le pwysig yn hanes llenyddiaeth ein gwlad. Ysgrifenodd lawer, ac mewn cysylliad âg un arall cyhoeddodd "Eiriadur Ysgrythyrol," &c., yr hwn oedd yn waith lafurfawr iawn. Bu yn Bregethwr Cynorthwyol yn ein Cyfundeb. Yr oedd yn fardd enwog, a bu am dymor maith yn Arch—dderwydd" Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. At hyny, yr oedd yn Emynydd awenyddol. Efe ydoedd awdwr yr Emyn 80 yn ein Llyfr Emynau, sef "I achub f' enaid tlawd mewn pryd," &c., a gresyn na buasai ei enw wrthi. Cyfansoddodd lawer o Emynau, ac yn eu plith y rhai canlynol:—

TAITH YR ANIAL.

"PA bryd y derfydd imi deithio
'R anial garw lle 'rwyn'n byw;
Ac y derfydd gorthrymderau
A gofidiau o bob rhyw?

O na ddeuai'r amser hyfryd
I mi ganu'n iach i hyn,
A mwynhau tragwyddol heddwch
Yr Oen fu farw ar y bryn."


BUDDUGOLIAETH AR ANGAU

1 "BRENIN y dychryniadau yw
Angau a'i golyn llym;
Ond tra b'wy'n rhodio gyda Duw
Ni wna byth niwaid im'.

2 Pan byddwyf yn wynebu'r glyn,
Fy nychryn byth ni wna;
Canys caf rodio'r dyffryn du,
Heb blygu gan ei bla.

3 Brenin y Saint, fy Mrenin yw
Gorchfygwn angau glas;
Dyma fy nghymorth, dyma'm Duw,
Dyma fanfeidrol ras.'


Yn mis Medi, 1822, cynhaliwyd y Cyfarfod Cyllidol yn Dolgellau, ac yn hwnw dymunwyd ar y Parchn. William Davies, 1af, John Williams, 1af, ac Edward Jones, 3ydd i ddwyn allan ail-argraffiad o'r ail Lyfr Hymnau. Ymgymerasant â'r gwaith ar unwaith, a chyhoeddwyd y Llyfr yn 1823. Yn hwn cyfnewidiwyd rhai Emynau, ac ychwanegwyd amryw dan y penawd " Amrywiaeth." Cynwysai 483 o Emynau, ac felly fwy o 62 nag oedd yn yr argraffiad cyntaf. Yn 1825 cyhoeddwyd trydydd argraffiad o hon dan ofal y Parch. W. Evans yn 1826, pedweryd argraffiad dan ofal yr un, ac yn 1833, cyhoeddwyd pumed argraffiad o hono dan olygiad y Parch. E. Jones, 3ydd Ni fu ond ychydig o gyfnewidiadau yn y tri argraffiad diweddaf. Yn 1837, cyhoeddwyd y chweched argraffiad, a'r olaf o'r ail Lyfr, dan olygiad y Dr. Thomas Jones. Cynwysa hwn 674 o Emynau, sef mwy na'r argraffiadau o'r blaen o tua 90. Cynwysir yr ychwanegiad mewn "Attodiad" i'r Llyfr. Casglwyd y cyfryw gan y Parch. David Evans, 1af, ac yn eu plith ceir amryw o Emynau Mr. Wesley, wedi eu cyfieithu gan Mr. Bryan. Hwn oedd yr argraffiad olaf o'r ail Llyfr Emynau.

7. MR. THOMAS WILLIAMS, CEFNMAWR.

Ceir Cofiant i Mr. Williams, yn "Eurgrawn" Chwefror, 1831. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth yr anfarwol Williams o'r Wern, ond Mr. E. Williams, Llangollen, yn mhen tua dwy flynedd ar ol hyny a'i harweiniodd at Oen Duw. Yr oedd efe yn ŵr duwiol iawn; a bu farw wedi cystudd blin yn nodedig o ddedwydd, Rhagfyr 17eg, 1829, yn 35ain mlwydd oed. Cyfansoddodd lawer o Emynau rhagorol. Efe ydyw Awdwr yr Emyn: "De'wch bechaduriaid mawrion," &c. Ceir hwn yn yr ail Lyfr Hymnau, rhif 416, ac yn y trydydd (1845) rhif 296, ac y mae i mewn yn y pedwerydd Llyfr (1900) rhif 256. Efe oedd Awdwr yr Emynau canlynol:

DUWIOLDEB YN ELW.

1 "DUWIOLDEB sydd yn elw mawr
Gyd â boddlonrwydd ar y llawr;
Pa les i ddyn, pe 'nillai'r byd
A cholli ei enaid gwerthfawr drud?

2 Addewid i dduwioldeb sydd,
A'r bywyd hwn a'r hwn a fydd;
Mae hon yn fuddiol yn mhob lle
Ac i bob peth o dan y ne'.

3 Nesau yr wyf o awr i awr,
O hyd i dragwyddoldeb mawr;
O rho' dduwioldeb yn ei grym,
Fel y bydd marw yn elw im'."


PA LE Y BYDDI?

1 Ystyria f'enaid gwerthfawr drud,
Pa le ryw bryd y byddi:
Pa un ai yn y nefoedd fry,
Ai obry mewn trueni.

2 O chwilia'n ddyfal ac yn ddwys,
Am Iesu i bwyso arno;
A rho d' ymddiried ynddo Ef;-
Cei nef dragwyddol ganddo."


8. MR. WILLIAM THOMAS, CAERGYBI.

Un o Emynau mwyaf anfarwol Mr. W. Thomas ydyw: "Pan ddelo'r pererinion i gwrddyd yn y nef," &c. Cawn hi yn yr ail Lyfr Emynau (arg. 1825), rhif 479, ac yn y trydydd (1845), rhif 915. Cadwyd hi i mewn yn y Llyfr Emynau Newydd (1900), rhif 821. Yr oedd Mr. William Thomas yn ddyn nodedig o dduwiol, ac yn Emynydd melus. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i weithiau, sef "Ffrwyth Myfyrdodau," &c., ac "Ehediad y Meddwl." Cyhoeddwyd Cofiant iddo yn nglyn a'r diweddaf, wedi ei ysgrifenu gan y Parch. W. H. Evans. Bu farw yn Nghaergybi, Medi 8, 1861, ac y mae ei goffawdwriaeth fel gwin Libanus yn Môn hyd heddyw. Wele yn canlyn ychydig engreifftiau o'i Emynau

DYMUNIAD AM IACHAWDWRIAETH.

1 "BYW yn awyr iachawdwriaeth
A ddymunwn ddydd a nos,
Dwys ryfeddu ac ymborthi
Ar haeddianau angeu loes;
Pe cawn gyfoeth mawr y moroedd,
A'r trysorau goreu gaed
Mi 'madawn â hwy ar unwaith
Am yr iachawdwriaeth rad.

2 Dim nid oes mewn aur nac arian
Pe bai'r cyfan at fy llaw,
Rydd i'm gysur, os heb grefydd,
Yn y tywydd mawr a ddaw;
Pan fo'r synwyr oll yn drysu,
Minau'n methu dywedyd dim,
Ar Iorddonen mor chwyddedig
Angeu'n sarug ac yn llym.

3 Cyn y tywydd caled hyny
Bydded i mi gyrchu mwy,
Draw i'r mynydd am ddiangfa
I gysgodfa marwol glwy';
Caru'r gwr a'm carodd inau,
Dilyn ol ei gamrau glân,
Trwy'r anialwch maith a'r drysni
Y'ngoleuni'r golofn dân."


TWYLL Y BYD

1 FY nhwyllo gefais hyd yn hyn
Yn holl wrthrychau'r llawr,
Yr un nid oes a ddeil fy mhen
Yn yr lorddonen fawr.

2 Ni welir gwrthrych mewn un man
O'r ddaear faith ei hyd,
A ddeil yn ddigyfnewid i'm
Tra byddwyf yn y byd.

3 Nid yn yr anial dyrus hwn
Y trefnwyd i mi fod;
Fy nghartref a'm preswylfa yw
Caersalem uwch y rhod.

4 Siomedig oll yw pethau'r byd,
I gyd yn gyflym iawn,
Os gwenu yn y bore wnant,
Fe gefnant y prydnawn.

5 O! fenaid, pa'm y rhoddi'th fryd
Ar bethau byd mor wael,
Gan fod goludoedd gwell yn awr
Na phethau'r llawr i'w cael.

6 Trysorau gwaedlyd Calfari
Yn fawr eu bri a fo;
Ac O! na bai y perlau hyn
Yn llanw bryn a bro."


9. MR. DAVID GRIFFITH (CLWYDFARDD)

Hawlia Clwydfardd safle uchel yn mhlith y Beirdd. yn Arch-dderwydd am flynyddoedd. Yr oedd yn Emynydd medrus fel y prawf ei waith yn diwygio ac adgyweirio "Y Salmau Cân," gan yr Hybarch Archddiacon Prys. Erys y gwaith hwn yn golofn anfarwol iddo fel Emynydd. Efe hefyd a gyfansoddodd yr Emynau canlynol:

Y GROES I'R BYD.

I TRADDODWYD Crist dros bawb,
Dros bawb o ddynolryw;
Cysegrodd ffordd drwy'i waed
I bawb ddod at eu Duw;
Agorwyd porth trugaredd rad,
Mae'r ddawn ar bawb i gyfiawnhad.

2 Wynebwch bawb yn hyf,
Gan hyn at orsedd Duw ;
Yn edifeiriol dew'ch
Gan gredu 'n Iesu gwiw;
Paham tristewch yr Ysbryd Glân,
Sy'n galw pawb yn ddiwahan."


HOFF FYD Y SAINT.

I "O DDUW Hollalluog, Tŵr enwog wyt Ti,
Fy Nghraig a fy Nghrewr, fy Mhrynwr a'm Mri;
Dy Ysbryd Glân mirain f'o im' harwain o hyd
Am tynfa feunyddiol f'o i ganmil gwell byd."

2 Mewn byd drwg trallodus, helbulus 'rwyn byw,
Er hyn ymwrolaf, ymnerthaf yn Nuw;
Er gwaetha' ngelynion anhylon o hyd
Mae tynfa fy enaid i ganmil gwell byd.

3 Rho im' gael adnabod gwir gymod trwy'r gwaed,
A chorff y farwolaeth tra helaeth dan draed,
Fel byddwyf heb oedi yn profi bob pryd,
Fod tynfa fy enaid i ganmil gwell byd.

4 Yn ing afon angau, Duw mau, d'od i mi
Gael cyfaill i'm cofio, i'm llywio trwy'r lli;
A myrdd o'th brydferthion angelion yn nghyd,
I'm dwyn i'r tragwyddol anfarwol nef fyd.'


Yn y flwyddyn 1845, cyhoeddwyd y trydydd Llyfr Emynau. Casglwyd y Llyfr hwn yn ol penodiad Cyfarfod Talaethol y Gogledd, gan y Parchn. David Evans, 1af, a Rowland Hughes, ac yn ol penderfyniad Cyfarfod Talaethol y Deau, cyfarfyddodd y Parchn. Robert Williams ac Isaac Jenkins â hwy i'w adolygu a'i barotoi i'r wasg. Y Parch. David Evans, 1af a gasglodd ac a drefnodd y Llyfr hwn bron i gyd, ac felly ffrwyth ei lafur diflin ef ydoedd yn benaf. Nis gwyddom ddim am Mr. Evans a Mr. Hughes fel Emynwyr, ond yr oedd ganddynt chwaeth dda i ddethol Emynau priodol at wasanaeth y Cysegr. Yr oedd y ddau eraill yn Emynwyr chwaethus a melus.

10. PARCH. ROBERT WILLIAMS, BODFFARI.

Fel Emynydd a Cherddor gwnaeth Mr. Williams wasanaeth anmhrisiadwy i ganiadaeth y Cysegr yn mhlith y Wesleyaid Gymreig. Efe ydyw Awdwr yr Emyn "Cyn canfod y dwyrain yn gwenu," &c.—Rhif 70 yn y Llyfr Emynau Newydd. Ac efe a gyfieithodd Emyn Wesley: "O am dafodau fil mewn hwyl,"—Rhif 7, ac hefyd Emyn anfarwol Y Parch. T. Oliver: Duw Abra'm molwch Ef," &c.—Rhif 43, 44 a 45, ac amryw eraill. Diameu y bydd yn dda gan ein darllenwyr gael yr Emyn canlynol o'i waith:—

"GAN EDRYCH AR IESU."

1 ER amled yw ngelynion
Af yn mlaen, &c.;
A'm gwyneb tua Seion,
Af yn mlaen.
Os rhaid i mi ymdrechu
A rhodio dan alaru,
A goddef fy mradychu,
Af yn mlaen, &c.,
Gan edrych ar yr Iesu,
Af yn mlaen.

2 Aeth cwmwl mawr o dystion
O fy mlaen, &c.;
Trwy lawer o helbulon
O fy mlaen:
Goddefodd rhai'u fflangellu
Ac eraill eu merthyru;
Hwy gawsant nerth er hyny
O fy mlaen, &c.,
I edrych ar yr lesu
O fy mlaen.

3 Yn awr trwy ddrych 'rwy'n canfod
Is y rhod, &c.;
Mewn rhan 'r wyf yn adnabod,
Is y rhod.
O Dduw rho nerth i gredu
Nes uno gyda'r teulu
Am waed y groes sy'n canu
Uwch y rhod, &c.
Yn nghwmni f' anwyl Iesu
Uwch y rhod.


11. PARCH. ISAAC JENKINS.

Credwn fod yn ein Llyfr Emynau amrai a gyfansoddwyd gan Mr. Jenkins. Ond ni wyddom gyd â sicrwydd ond am un, sef Arglwydd grasol, dyro'th Ysbryd," &c.Rhif 368. Yn yr Emyn canlynol cawn engraifft dda o'i waith fel Emynydd:

Y JERUSALEM NEFOL.

1 "Jerusalem fy nghartref hoff!
O na bawn yna'n byw!
O na chawn dd'od i'r hyfryd fan
I drigo gyd â'm Duw!

2 Dy furiau ynt o feini teg,
A gemau gwerthfawr oll;
Dy byrth o berlau disglaer pur,
Digymhar a digoll.


3 Mor fendigedig yw y lle!
Anhebyg i'n byd ni:
Ei theml fawr yw Duw a'r Oen
A'i gwiw ogoniant hi.

4 Oddeutu glànau'r afon lwys
Mae pren y bywyd pur,
A'i gangau ffrwythlon lledu wnant
Dros holl derfynau'r tir.

5 Peroriaeth y Seraffiaid sy'n
Cydgordio gyd â llef
Y gwaredigion yn gyttun,—
Yn Haleliwia gref.

6 Y beraidd gân a chwydda'n mlaen
Dros y dragwyddol oes,
A'r testyn penaf fydd o hyd,
Y Gŵr fu ar y groes.

7 Jerusalem fy nghartref hoff!
O na bawn yna'n byw,
O na chawn dd'od i'r hyfryd fan
I drigo gyd â'm Duw."


12. MR. WILLIAM JONES, LLANFYLLIN.

Cyfansoddodd Mr. Jones amryw Emynau. Efe ydoedd Awdwr yr Emyn "Pan yn gaeth yn mysg gelynion." Gwel rhif 610 yn y Llyfr Emynau Newydd. Efe hefyd gyfansoddodd yr Emyn canlynol:

Y PERERIN AR EI DAITH.

1 "Pererin wyf mewn anial fyd,
Yn teithio tua'r Ganaan glyd,
Y freiniol nefol fro:
Yn mhlith estroniaid 'rwyf yn byw,
Er hyny am fy nghartref gwiw
Meddyliaf lawer tro.

2 Cyfarfod 'rwyf a chroesau blin,
Gwlawogydd a thynhestlog hin,
A rhwystrau mawrion maith:
A rhag i'm' wyro ar un llaw,
Fy nghalon bruddaidd sy' mewn braw
Yn fynych ar fy nhaith.

3 Ond tra bwy'n teithio dan y nef,
O gwisg fi a'th arfogaeth gref,
Fy ffyddlon dirion Dad:
Fel un a fyddo dan dy nod,
Yn amyneddgar gad im' fod,
Nes d'od i'r hyfryd wlad."


13. MR. JOHN EVANS (IOAN TACHWEDD), YSCEIFIOG.

Gallwn ddywedyd heb betruso fod Ioan Tachwedd yn fardd o fri, ac yn Emynydd da iawn. Yr oedd hefyd yn Bregethwr Cynorthwyol meddylgar a galluog. Efe ydoedd tad y Parchn, W. H. a J. Hugh Evans; a phrofasant yn feibion teilwng o'u tad yn mhob ystyr. Bydd Wesleyaeth Gymreig dan rwymedigaeth fythol iddo am fagu iddi ddau Weinidog mor enwog a defnyddiol. Wele yn canlyn ddau Emyn o'i waith:

HIRAETH AM YR HYFRYD WLAD.

I Galaru'r wyf, och'neidio'n brudd,
Yn myd y cystudd mawr;
Fy hiraeth poenus sy'n parhau
Am weled goleu gwawr.

2 Mae'r hen elynion, yn y nos
Yn aros, bron o hyd,
Am rwystro pob pererin gwael
I gael gorphwysfa glyd.


3 O am gael gwel'd yr hyfryd wlad
Lle mae fy Nhad a' Nuw;
Ac hefyd glywed newydd braf
Y caf fyn'd yno i fyw.

4 Gelynion sy 'n yr anial dir,
A minau'n wir yn wan;
Os caf ond grym o waed y Groes
Mi ddof o'r loes i'r làn.

5 O Haul Cyfiawnder pur caf faeth
Caf feddyginiaeth rad:
Yn ei oleuni dysglaer fry
Caf fyw yn nhŷ fy Nhad!


GOGONEDDU'R GWAREDWR.

1 Fe welwyd ein Crist yn ngardd Gethsemane
A'i wyneb yn drist, mewn chwys pan yn dyodde',
Gwynebodd y frwydr boeth hynod ei hunan
Er mwyn cadw'i frodyr rhag yfed o'r cwpan;
Angylion nef wen, nesewch â'ch telynau!
Fe roir ar Ei ben fil myrdd o goronau.

2 Tra byddwyf fi byw mi gofiaf olygfa
Dyoddefaint Mab Duw ar fynydd Calfaria,
Tair teyrnas, tri gallu, oedd arno'n ymosod
Efe a orchfygodd, gorphenwyd y Cymod!
Angylion nef wen, &c.

3 Pan glywyd y gair hoff anwyl Gorphenwyd
O enau Mab Mair, nerth uffern orchfygwyd;
Yn lle cleddyf effro yn taro'r Messiah
Llais heddwch sy'n adsain ar ochrau Golgotha.
Angylion nef wen, &c.

5 Gogoniant i Dduw am drefn iachawdwriaeth
I'n cadw ni'n fyw, o afael marwolaeth;
Fe gospwyd y Meichiai i arbed pechadur;
Ar fynydd Calfaria rhyddhaodd ei frodyr!
Angylion nef wen, nesewch â'ch telynau!
Fe roir ar Ei ben fil myrdd o goronau.


14. MR. EVAN JONES, RHUDDLAN.

Ceir llawer iawn o gynyrchion awen yr hen bererin duwiol, Evan Jones, Rhuddlan yn yr hen Eurgrawniau, ac yn eu plith nifer dda o Emynau. Gosodwn yma ddwy engraifft o'i waith:

EWCH I'R HOLL FYD.

I Ewch i'r holl fyd medd Arglwydd nef
Cyhoeddwch Ef a'i waed
Yn feddyginiaeth gyflawn, rad,
I'r enaid duaf gaed.

2 Cyhoeddwch y bendithion hael
I'r gwael r'un modd a'r gwych,
Gan ddyweyd nad oes neb ynddo ei hun
Ond truan yn y drych.

3 Pregethwch yr Efengyl hon,
Bydd goron ar eich gwaith,
Gan ddywed fod gorphwys eto' ol
I oes dragwyddol faith.

4 Hyd ddiwedd byd preswylio wnaf
Heb anaf yn eich plith,
Gan roi trugaredd ryfedd rad:
'Run bwriad feddaf byth.

5 Amen, bod felly, medd y llw,
I hwnw ddaw ar hyd
Y llwybr sydd i'r hyfryd làn
O bedwar ban y byd.


GRAS YN BOB PETH I'R ENAID.

1 Nid oes trysor i fy enaid
Mewn un rhoddiad dan yr haul,
Ond mae cyfoeth mawr ei sylwedd
Im' yn rhinwedd Adda'r ail:
Pwysaf arno dan drallodion
A gwasgfeuon chwerwon chwith;
Y mae digon er fy nerthu
Yn y gras a beru byth.

2 Gras im' dwyn o fyd y stormydd
Fry i'r broydd mawr eu braint;
Gras im' gwisgo gyda'r ddelw,
Gras fydd sylwedd cân y saint;
Gras yn rhad i'r cynar hedyn,
Nes daw terfyn ar y dydd;
Ac am ras yr hyfryd genir
Pan orphenir gyrfa'r ffydd.


15. PARCH. WILLIAM DAVIES, D.D.

Bu Dr. Davies ar gyfrif ei amrywiol dalentau yn un o addurniadau penaf Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig. Yr oedd yn fardd awenyddol, ond gan brysurdeb mewn cylchoedd eraill, ni chafodd fawr o hamdden i ymgaredigo a'r awen. Ond pan eisteddai yn ei chwmni ildiai iddo ei holl gyfrinion swynol mewn delfrydau pur, ogystal a cheinion prydferthaf iaith i'w gwisgo yn ad-dynol a gogoneddus. Yn ei weithiau ef ceir cyfuniad o arogledd Libanus a godidawgrwydd Carmel a Saron. Nis gwyddom am na Llenor na Bardd fedrai droi allan ei gynyrchion gyd â'r fath orpheniad perffaith ag efe. Wele, yma ddau Emyn o'i eiddo:—

GWEDDI'R EDIFEIRIOL.

1 "O Arglwydd, clyw fy llef,
A gwel fy eisiau mawr;
O doed i nef y nef
Fy ngweddi attat nawr:
Gostwng dy glust a chlyw fy nghri
O'th fawr drugaredd gwrando fi.

2 Pechadur wyf, O Dduw,
Pechadur mawr a drwg,
Pechadur gwaetha'n fyw
Yn haeddu'th gyfiawn wg;
O maddeu mai, o maddeu'n rhad,
O maddeu 'nawr, drugarog Dad!

3 'Rwy'n halogedig iawn,
Yn aflan oll i gyd,
O lygredd du yn llawn
Tan orthrwm faich o hyd;
O golch fi'n lân, o golch fi'n wyn
Yn ffynnon fawr Calfaria fryn.

4 Ac yna dal fi'n lân
Tra b'wyf mewn anial fyd,
Nes cefnwyf yn y man
Ar groesau'r llawr i gyd,
Ac esgyn fry ar aden gref,
I'th ganmol byth yn nheyrnas nef."


HOSANNA I FAB DAFYDD.

1 "Dyrchafwn yn gyttun
Fawl teilwng Frenin nef;
Ein Ceidwad Iesu, Duw a dyn,
Rhown foliant iddo Ef.

2 I'n hachub ni rhag gwae,
Bu farw ar y Groes,
A throsom eto eiriol mae
Ar sail ei angau loes.

3 Y cariad at y byd
Ddangosodd gynt mor gry',
A leinw 'i fynwes fawr o hyd
Yn ei ogoniant fry.

4 Er bod yn destyn cân
Holl gorau'r nefol fyd
Yn uwchder ei frenhinllys glân
Fe'n cofia ni o hyd.


5 Tra'n lliwio'r cydfyd mawr,
Yn Frenin llawn o fri,
O'i wychedd oll edrycha i lawr
Yn serchog arnom ni.

6 Boed moliant iddo byth,
Goruwch ac is y nen;
Rhoed nef a daear yn ddilyth
Goronau ar ei ben."


16. PARCH. LEWIS MEREDITH (LEWYS GLYN DYFI).

Cyfansoddodd Lewys Glyn Dyfi amrai ddarnau barddonol prydferth a swynol iawn. Cyhoeddodd Lyfr o'i weithiau barddonol dan yr enw "Blodau Glyn Dyfi," yn y flwyddyn 1852. Yr oedd yn bregethwr melus odiaeth, a cholled fawr i Gymru fu ei ymfudiad i'r America. Ysgrifenodd Mr. Edward Rees Gofiant rhagorol iddo, yn hwn a ymddangosodd yn "Yr Eurgrawn" am y flwyddyn 1894. Rhoddwn yma ddau o'i Emynau:

TREFN GRAS.

1 "Y drefn i gadw dyn,
A'i wneyd yn hardd ei lun,
Heb unrhyw goll,
Sy'n destyn syn bob awr
Gan feibion boreu'r wawr,
A dyma syndod mawr
Y bydoedd oll.

2 I wneyd y gorchwyl mawr
Er achub teulu'r llawr
Rhag bythol gur;
Trwy boenau o bob rhyw
Yr aeth ein Iesu gwiw,
Gan flam angerddol, fyw,
Ei gariad pur.

3 Rhown ninau oll yn awr
Am gariad sy' mor fawr
Bereiddiaf glod;
O deued pawb yn nghyd
I gysgod Prynwr byd;
Cawn drwyddo noddfa glyd,
Tra nef yn bod."


EMYN CENHADOL.

1 "Dos yn gyflym fwyn Efengyl,
I waredu llwythau'r llawr;
Ffy dywyllwch byd ar encil
Fel y nos o flaen y wawr;
Llanw'r ddaear,
A disglaerdeb nefol ddydd.

2 Llais erfyniol pell ynysoedd
Gyda'r gwyntoedd atom ddaw;
Disgwyl mae yr holl genhedloedd
Am y diwrnod sy' gerllaw,
Pan gyflawnir,
Hen addewid fawr y nef.

3 Ffrydiau gras yn llawn a lifant
Nes cyrhaeddant dros y byd;
Yn y fan fu'n drigfa dreigiau
Tyf perlysiau teg eu pryd,
Pur sancteiddrwydd,
A fantella'r ddaear faith.

4 Yn ngwynebpryd hardd-deg Seion
Ymddisgleiria delw Iôr;
Bydd ei heddwch fel y afon,
A'i chyfiawnder fel y môr;
Dedwydd ddyddiau!
O na wawria'r hyfryd awr.


17. MR. WILLIAM JONES (EHEDYDD IAL), LLANDEGLA.

Cyhoeddwyd Cyfrol fechan yn ddiweddar gan y Parch. John Felix, dan yr enw "Blodau Iâl," yn cynwys Cofiant a Gweithiau Mr. William Jones. Wrth ymgynghori â'r Gyfrol hon canfyddir yn eglur ei fod yn Emynydd cryf ac urddasol. Peru ei Emyn "Er nad yw'm cnawd ond gwellt" tra peru yr iaith Gymraeg. Ceir amryw o'i gyfansoddiadau yn y Casglad Newydd o Emynau at wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd, a chyfeiriwn y darllenydd at y cyfryw.

18. MR. T. R. MARSDEN (DIDYMUS AP GWILYM), TREFFYNNON.

Esgynodd D. ap Gwilym i safle barchus fel Llenor a Bardd yn mhlith goreugwyr ein henwad. Brawd ydoedd i Mr. John Marsden (Y Llyfrbryf Wesleyaidd).—Wesleyad nad oes yn ein Cyfundeb yr un mwy selog a ffyddlon. Cyfoethogodd lawer ar ein Misolion gyd â'i gyfroddion gwerthfawr yn llenyddol a barddonol. Medrai Emynu yn naturiol a tharawiadol. Efe a gyfansoddodd yr Emyn canlynol:

1 "Neb, Iesu, ond Tydi,
Ddymuna f'enaid i,
Mewn nef na llawr;
Tydi, Oen addfwyn Duw,
Hoff Geidwad dynolryw,
Tydi fy Mhrynwr byw,
A'm Brenin mawr.

2 Iachawdwr Calfari,
O gwrando ar fy nghri,
O'r nefoedd clyw!
'Rwyn erfyn wrth dy draed,
O golch fi'n awr yn ngwaed
Yr aberth mwyaf gaed,
A gad i'm fyw.'


Gofod a palla i ni fynegu am y Parch. Robert Humphreys, Bardd Du Môn, Mr. Griffith Williams (Gutyn Peris) a'i fab, Mr. E. G. Williams (E. G. Peris), Mr. R. Jones (Bardd Mawddach), Iolo Fardd Glas, Parch. Lewis Williams (Lewys Egryn), Miss Owen (Mair Hydref), Mr. Elias Edwards, Tregarth, y Parch. Griffith Jones, Aberdaron, y Parch. Evan Evans (Y Bugail), y Parch. David Jones (c), (Dewi Mawrth), O. Cethin Jones, ac eraill.

Pan yn ysgrifenu, mae ein Llyfr Emynau Newydd ar ddyfod allan o'r wasg. Casglwyd ef gan y Parchn. John Hughes (Glanystwyth), John Cadvan Davies, T. J. Pritchard, John P. Roberts a John Humphreys, a hyny trwy benodiad Cyfarfodydd Talaethol y Gogledd a'r Deau. Hwn ydyw y pedwerydd Llyfr Emynau a gasglwyd at ein gwasanaeth fel Enwad yn Nghymru. Gadawr i'n darllenwyr ffurfio barn am dano yn annibynol ar unrhyw ddatganiad o'r eiddom ni am dano. Fel y gwel ein darllenwyr, nid ydym wedi dywedyd dim am ein Hemynwyr sydd eto yn aros yn mhlith y byw.

PENNOD XVIII.

Pregethwyr Cynorthwyol Deg mlynedd Cyntaf y Ganrif.

NI fu, ac nid oes yn perthyn i Eglwys y Methodistiaid Wesleyaidd yn Nghymru, un dosbarth o weithwyr Cristionogol, a ddangosodd fwy o sel ac ymgysegriad o blaid, ac er llwyddiant gwaith yr Arglwydd na'r Pregethwyr Cynorthwyol. Nis gallasai yr Enwad yn nydd ei fychander a'i wendid, gynal ond ychydig bregethwyr teithiol llwyr-ymgyflwynedig i waith y Weinidogaeth. Yn ngwyneb yr amgylchiadau hyn, galwodd Duw ddynion o bob cylch yn y bywyd cymdeithasol, yn amrywio yn ddidderfyn yn eu sefyllfaoedd, yn eu doniau, yn niwylliant eu meddyliau, ac yn eu hymroddiad i gyflenwi y diffyg. Yn rhengau ardderchog lu y fyddin enwog hon o filwyr Iesu, cawn rai a deithient i'w cyhoeddiadau yn eu cerbydau, eraill ar feirch, eraill ar asynod, ond y mwyafrif mawr yn ŵyr traed. Yr oedd rhai yn meddu ar safleoedd cymdeithasol anrhydeddus, eraill yn llenwi galwedigaethau uchel mewn bywyd, tra y dilynai y lleill eu goruchwylion yn nghylchoedd y bywyd gwerinol. Yn y dosbarth hwn y tlawd a'r cyfoethog a gyfarfyddant yn nghyd, a chydnabyddant eu gilydd yn frodyr yn yr Arglwydd, ac yn gydweithwyr yn yr un cynhauaf mawr. Diolchwn i Dduw am ein Pregethwyr Cynorthwyol, a gogoneddwn Dduw ynddynt. hwy. Nis gallwn wneyd dim byd debyg i gyfiawnder â'u hanes o fewn terfynau y gofod sydd at ein gwasanaeth, pan gofiwn am yr hunanymwadiad a wnaethant yn nghyflawniad eu gwaith, a'r llwyddiant mawr fu ar eu llafur. Ai onid oes un o honynt hwy eu hunain a ymgymer a chyhoeddi Cyfrol fechan ar "Hanes Pregethwyr Cynorthwyo! y Methodistiaid Wesleyaidd Cymreig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Dywedwn yn ddibetrus na fu gan yr un Enwad yn Nghymru gynifer o Bregethwyr Cynorthwyol talentog a defnyddiol yn ol ei rif a'r Cyfundeb Wesleyaidd. Da iawn genym ddwyn tystiolaeth fod y dosbarth hanfodol hwn o weithwyr Cristionogol yn parhau yn llwyddianus yn ein plith.

Bu o leiaf dri neu bedwar o Bregethwyr Cynorthwyol a fuant o wasanaeth fawr i'n cenedl cyn i Wesleyaeth Gymreig gael ei sefydlu, megys Mr. Harri Llwyd, o Rhydri, Sir Forganwg. Efe yn ol pob tebyg oedd y Pregethwr Cynorthwyol Wesleyaidd Cyntaf erioed i bregethu yn yr iaith Gymraeg. Er iddo farw cyn sefydlu Wesleyaeth Gymreig, eto cafodd y fraint o barotoi y ffordd o'i blaen. Mr. Richard Harrison, o Laneurgain, oedd ddyn nodedig am ei dduwioldeb a'i ymroddiad i waith yr Arglwydd. Efe oedd y Pregethwr Cynorthwyol Cyntaf yn mhlith y Wesleyaid Cymreig yn y Gogledd. Yn nesaf ato gallwn enwi Mr. Evan Roberts, Dinbych. Dyn crefyddol iawn oedd. efe yn fwy o athrawiaethwr na Mr. Harrison, ond nid. mwy defnyddiol a chymeradwy. Mr. Edward Linnell hefyd, er ei fod yn Sais a garai ein cenedl ni. Bu ef yn y weinidogaeth am bum' mlynedd, ac yn Bregethwr Cynorthwyol weddill ei oes. Gwnaeth aberth mawr er mwyn yr achos yn Ninbych. Teithiodd yn gyson o Lansanan yno i foddion gras am flynyddoedd.

Gyd â bod Wesleyaeth Gymreig wedi ei sefydlu yn y dywysogaeth, cyfododd Duw megys ar unwaith, lu o bregethwyr a fuont o wasanaeth anrhaethadwy. Llawn fwriadem ar y cyntaf i roddi crynhodeb o'u hanes yn y Bennod hon, casglasom ddefnyddiau i'r dyben hwnw, a gosodasom y cyfryw yn nghyd. Ond oherwydd cyflawnder y defnyddiau, a'r anhawster i gael y manylion am amryw fu yn gweinyddu yn y Weinidogaeth Gynorthwyol gorfu i ni roddi ein hymgymeriad i fyny am y presenol, a newid ein cynllun. Os cawn hamdden, efallai y bydd i ni mewn cylch arall, wneuthur rhyw beth yn y cyfeiriad hwn eto. Rhaid boddloni am y presenol ar gyfeirio at rai o'n Pregethwyr Cynorthwyol cyntaf, a lafuriasant yn hunanymwadol mewn cysylltiad â Sefydliad ein hachos yn Nghymru.

Un o flaenffrwyth ein gweinidogaeth oedd Mr. David Jones, Cefnbrith, taid y Parch. David Jones (Druisyn). Dychwelwyd ef dan weinidogaeth Mr. Bryan, yn 1801, a dechreuodd bregethu yn 1802. Cafodd ei alw i'r weinidogaeth fel dyn ieuainc yn 1803, a phenodwyd ef yn Nghyfarfod Talaethol Abertawy i gydlafurio âg eraill ar Gylchdaith Merthyr Tydfil. Teithiodd yn y Deheudir am o ddwy i dair blynedd, ond trwy gael gwely llaith, collodd ei iechyd, a bu yn wael am amser maith, a dywedai y meddyg nad oedd ond gobaith gwael am ei adferiad. Yn annisgwyliadwy i bawb gwellhaodd yn fawr, ond dywedai y meddyg ei fod yn rhy wan i bregethu, ac mai y peth goreu er ei les fyddai myned i'w wlad enedigol. Bu yn wael am amser wedi cyrhaedd adref, a dioddefodd i fesur effeithiau y gwely llaith ar hyd ei oes. Pan y daeth yn alluog, ymroddodd i bregethu heb feddwl troi allan mwy fel Pregethwr Teithiol. Ond cafodd gynyg ar hyny. Dyma ei eiriau ef ei hun mewn dadl âg un o'r enw "Wesle' Bach." "Ar ol gwella a myned i'r ystad briodasol, cynygiodd Mr. Owen Davies i mi fy lle yn ol yn y weinidogaeth, ond gwrthodais ef am fy mod yn ofni na allwn o ran fy nghorff ateb i'r llafur oedd yn angenrheidiol y pryd hwnw.' Yr oedd ef yn bregethwr rhagorol, yn gymeriad ardderchog, ac yn hollol deyrngarol i'w enwad. Efe fu yn offeryn i ddechreu yr achos yn Cerrygydruidion ac i gael Capel yno. Yr oedd ei briod yn un o'r aelodau cyntaf a ymunodd â'r achos pan dan ofal Mr. Edward Jones, Bathafarn, yn ystafell John Edwards, yn Rhuthyn. Llafuriodd Mr. Jones yn gymeradwy hyd y diwedd. Bu farw yn Cefnmawr, Tachwedd 28ain, 1841, yn 64 mlwydd oed.

Yn mis Ebrill, 802, dechreuodd Mr. John Foulks, o Pantifan, ger Tremeirchion bregethu, cyn ei fod yn llawn 15eg oed. Yr oedd rhywbeth yn anghyffredin o nerthol ac Ysgrythyrol yn ei bregethau. Byddai galw mawr am ei wasanaeth i gynal Cyfarfodydd, a byddai rhyw arddeliad neillduol ar y genadwri o'i enau. Galwyd ef allan i waith y Weinidogaeth, ond pallodd ei iechyd, a bu farw yn ddedwydd Awst, 1809.

Un o'n Pregethwyr Cynorthwyol Cyntaf yn Maldwyn, oedd Mr. John Lloyd, Meifod. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth y Parch. Owen Davies. Profodd holl nerth dymhestl yr argyhoeddiad, a hyfryd oedd iddo gael glànio i hafan dymunol heddwch â Duw ar ol tywydd mor arw. Dechreuodd bregethu yn mlynyddoedd cyntaf y Ganrif, ac ymroddodd i'r gwaith gydag egni a ffyddlondeb mawr. Nid oedd genym Gapelau yn y wlad pan ddechreuodd efe bregethu, felly "safai i fyny yn ddewr a galluog yn yr awyr agored o flaen tyrfa o gellwerwyr cyhoeddus, fel Petr ar ddydd y Pentecost, gan gyhuddo eu beiau yn eu gwynebau gyd â grym ac eondra mawr, nes y byddai yn gyffredin ar ddiwedd yr odfa fel ar for Galilea, pan y gostegodd y gwyntoedd, y llonyddodd y tonau, ac y bu tawelwch mawr; ac yn aml, sibrwd i'w glywed pa beth i'w wneyd i fod yn gadwedig." Bu farw mewn heddwch mawr, Gorphenaf 29ain, 1836, yn 59 mlwydd oed.

Un arall o'n Pregethwyr Cynorthwyol Cyntaf yn Maldwyn oedd Mr. Robert Jones, Fron Goch (wedi hyny Abercegir). Ymunodd ef â'r achos yn Cwmbychanmawr, Plwyf Darowen, dan weinidogaeth y Parch. Edward Jones, Bathafarn, a hyny pan yn fachgen ieuanc 18 mlwydd oed. Efe oedd blaenor cyntaf yr Eglwys a sefydlwyd yn Tŷ Cerrig, ac a gyffyrddai mewn ystafell berthynol i Mr. Thomas Humphreys, taid ysgrifenydd yr hanes hwn. Yn fuan wedi ymuno â'r achos dechreuodd bregethu, cyfododd i gryn boblogrwydd, a byddai galw mawr am ei wasanaeth. Teithiodd lawer yn y Cylchdeithiau cyfagos yn y Gogledd a'r Dê. Yr oedd yn ddyn o dduwioldeb ddiamheuol, ac yn ŵr mawr gyd â Duw mewn gweddi. Dyma fel y dywedodd y Parch. Henry Parry, am dano, yr hwn a'i hadwaenai yn dda—"Pan mewn hwyl, a than arddeliad, diferai ei ymadroddion fel gwlith-wlaw ar îr-wellt, tra y gwnai geiriau gwirionedd a sobrwydd' o'i enau i'r annuwiol grynu.

Pan yn meddwl am dano yn ei hwyliau a'i amserau goreu, tueddir fi i gymhwyso ato eiriau a gymhwyswyd at eraill, tebyg i hyn:

"Soniarus oedd ei eiriau pan fyddai'r gwynt o'i du,
Ac awel nef yn chwythu yn nerthol oddifry;
Gallesid meddwl weithiau pan roddai maes ei lef,
Y buasai'r creigiau yn hollti gan rym ei daran gref."


Bu farw yn yr Arglwydd, Mawrth 28ain, 1876, yn 88 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am oddeutu 68ain o flynyddoedd.

Un arall o Bregethwyr Cynorthwyol Cyntaf y Ganrif, oedd Mr. William Parry, o Llandegai, ger Bangor. Yr oedd ef yn llawn o ysbryd y gwaith, a theithiai lawer ar hyd alled y wlad i gyhoeddi yr Iachawdwriaeth Gyffredinol, i alw pechaduriaid i edifeirwch, ac i sefydlu achosion newyddion. Cawn ef mor foreu a'r flwyddyn 1804 gyd â Mr. Jones, Bathafarn, yn teithio trwy gyrau o Sir Feirionydd, a Sir Aberteifi, a Duw yn bendithio ei lafur mewn modd neillduol,

Yr oedd Mr. R. Jones, Llwyngyffri yn un o flaenffrwyth Wesleyaeth yn Dyffryn Ardudwy. Ymunodd â'r achos yn 1804, ac yn mhen ychydig o amser dechreuodd bregethu, ac yr oedd yn ddyn Duw mewn gwirionedd. Wyr iddo ef ydyw y Parch. R. Jones (B), Cyn-Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru. Yr oedd yn ŵr rhagorol, yn bregethwr grymus, ac yn flaenor ffyddlon. Meddai hefyd ar graffter i adnabod talent, fel y prawf yr amgylchiad canlynol—Pan oedd Mr. Rowland Hughes yn Bregethwr Cynorthwyol ar Blan Cylchdaith Dolgellau, bu agos iddo gael tynu ei enw oddiarno, gan nad oedd neb y gweled dim cymhwyster ynddo i fod yn bregethwr, ond cymerodd Mr. R. Jones ei blaid, a llwyddodd i gael cadw ei enw ar y Plan am chwarter arall. Felly, iddo ef yr ydym i ddiolch am gadw Rowland Hughes i ni fel Wesleyaid. Perarogla coffawdwriaeth Mr. R. Jones, yn Nyffryn Ardudwy hyd heddyw, ac erys yn fendigedig byth.

Un arall o ddynion y cyfnod hwn oedd Mr. Edward Thomas, Tyddyn Du, Dyffryn Ardudwy. Ymunodd â'r achos yn y Dyffryn yn y flwyddyn 1805, ac yn mhen naw mis ar ol hyny dechreuodd bregethu. Fel hyn y desgrifir ef fel pregethwr gan y Parch. Samuel Davies, yn ei Gofiant:—"Yr oedd y dwysder anghyffredin a deimlodd cyn dechreu ar y gwaith, wedi cael y fath argraff arhosol ar ei feddwl, fel na feiddiai am foment edrych ar y swydd bwysig ond gyd â chryndod sanctaidd, ac ni ddringai byth i'r areithfa ond fel cenad dros Dduw, a thraddodai ei genadwri nid fel gair dyn, ond fel yr oedd yn wir Air Duw. Yr oedd yn gwybod ofn yr Arglwydd, ac yn perswadio dynion gyd â llawer o symledd a difrifwch. Yn fuan ar ol iddo ddechreu ar ei bregeth, gwelid cynhwrf ei ysbryd byw yn dyfod i'r amlwg—tâniai ei lygaid, ysgydwai ei holl gyfansoddiad, disgleiriai ei wyneb; ac yn y man, ffrydiai y chwys drwyddo, a disgynai yn fargodion breision oddiwrtho tua'r llawr. Yr oedd ei ffyddlondeb i'w gyhoeddiadau yn ddiarebol, a gwasanaethodd yn ddiwyd fel Goruchwyliwr ar amryw ras Duw." Cafodd yr achos dirwestol ynddo ef bleidiwr selog, ac felly bob achos da arall. Bu farw mewn tangnefedd heddychol yn Tyddyn Du, Awst 1af, 1852, yn 79 mlwydd oedd.

Dyn rhagorol oedd Mr. Edward Jones, Helygain, a adwaenid hefyd fel Edward Jones, Penrhyn Du, yn Lleyn. Dechreuodd bregethu oddeutu yr un adeg a Meistri John Davies ac Evan Parry, a aethant i waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1806. Gwnaeth ef a'i fab aberth er mwyn Wesleyaeth, a chawsant eu talu gan yr Arglwydd am hyny. Bu gweinidogaeth Mr. Edward Jones o wasanaeth fawr i'r achos yn ei gychwyniad yn Nghylchdaith Pwllheli.

Dechreuodd Mr. Joseph Matthews, Ysceifiog, bregethu yn y flwyddyn 1803. Ymddengys y byddai yn hoff iawn o chwareu ar y Sabboth pan yn fachgen. Daliwyd ef dair gwaith gan y Warden, ac nid oedd ganddo ddim i ddywedyd mewn ffordd o esgus wrtho, ond Fy Ewythr Humphrey bach, os rhowch chwi Feibl i mi, ni welwch chwi byth mohonwyf eto gyd â'r gwaith hwn." Addawodd yntau ymofyn am Feibl iddo; ac er prined oeddynt, llwyddodd i gael un. Cymerodd yr anrheg gyd âg ef i'r gwaith, ac a'i cyflwynodd iddo, gan ddywedyd, "Dyma fo i ti Joseph, yr Arglwydd a'i bendithio i ti." Daeth ar Joseph Matthews ddiwygiad amlwg o'r dydd hwnw allan, a rhoes brawf fod dymuniad Humphrey Owens wedi ei ganiatau, canys bu Joseph Matthews yn bregethwr gwresog gyd â'r Wesleyaid tra fu byw. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth Mr. Jones, Bathafarn yn Caerwys, yn 180z, a bu farw yn 1818. Cyfoed iddo ef hefyd oedd Mr. William Roberts, Ysceifiog, yr hwn oedd yn sant ardderchog, ac yn was ffyddlon i'r Arglwydd Iesu Grist. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1808, a bu farw Ebrill 3ydd, 1818, yn 48 mlwydd oed.

Yr oedd Mr. Richard Jones, Trawsfynydd yn hen bregethwr galluog a defnyddiol, ac yn ddyn rhagorol, ac felly hefyd Mr. Richard Jones, Talhaiarn Farm; taid y Parch. Richard Lloyd Jones, ac eraill yn Nyffryn Clwyd a lleoedd eraill.

Un o flaenffrwyth ein Gweinidogaeth yn Arfon, oedd Mr. Edward Roberts, Llandwrog. Ganwyd ef yn Nhyddyn yr Oerfel, yn Mhlwyf Niwbwrch, yr ochr ddeheuol i Ynys Môn, Iau Dyrchafael, 1779. Enillwyd ef at yr Arglwydd yn y flwyddyn 1802, dan weinidogaeth Mr. Edward Jones, Bathafarn. Yn niwedd mis Mawrth, 1805 cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol Caernarfon, yn yr hen Chwareudy, yn Mhenyrallt, ac yn mhlith pethau eraill a wnaed yno, holwyd Edward Roberts, Llandwrog gan Meistri Edw. Jones, Bathafarn, a John Morris, a phenderfynwyd ei dderbyn ar brawf fel Pregethwr Cynorthwyol. Mae yn ymddangos fod rhyw rai wedi bod yn dywedyd wrth y Gweinidogion na fedrai y Cynghorwr ddim darllen ei Feibl,' a'r canlyniad fu, i'r holi fu arno yn y Cyfarfod Chwarterol fyned mor bell, nes cynwys y ddwy elfen bwysig yma; yn gyntaf, darllen pennod o'r Beibl; ac yn ail, pregethu pregeth there and then, heb air o rybudd blaenorol, gerbron y Cyfarfod Chwarterol. Er hyny aeth trwy y cwbl yn hynod o gymeradwy. Ei farn ei hun oedd hon, 'os pregethais i, ac os darllenais erioed, dyma'r adeg y gwneis i hyny.'" Dioddefodd gryn erlidigaeth am ei fod wedi ymuno â'r Wesleyaid, ond gofalodd Duw am dano yn rhyfedd. Fel Pregethwr yr oedd ganddo ddawn naturiol, gynhes, ac effeithiol; ac ambell dro, pan mewn hwyl ysbrydol dda, llefarai yn gynhyrfus iawn. Bu o wasanaeth fawr i'n hachos yn nydd ei bethau bychain. Gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd, Ebrill 19eg, 1866, yn 87 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am 61ain o flynyddoedd. Wŷr iddo ef ydyw Mr. Edward Roberts, sydd yn byw yn awr yn Gwernafalau, Llandwrog, ac yn un o ffyddloniaid ein henwad yn Nghymru.

Gyda bod yr achos Wesleyaidd Cymreig wedi ei Sefydlu yn Liverpool, ymunodd un Mr. Edward Evans âg ef, yr hwn oedd ar y pryd yn bregethwr gyda'r Ymneillduwyr, a bu yn ddiwyd iawn fel pregethwr gyd â ni. Ymunodd â ni am ei fod yn Armin egwyddorol. Bu farw Ebrill 21ain, 1809, a mawr oedd y galar ar ei ol yn mhlith aelodau ei restr.

Dechreuwyd yr achos yn Liverpool gan Meistri Richard. Davies a William Lewis. Yr oedd y cyntaf yn frodor o Dinas Mawddwy, a'r llall o gymydogaeth Corwen, fel y tybid. Saer oedd Mr. Richard Davies yn ol ei gelfyddyd. Perthynai iddo lawer o hynodion. Ond yr oedd yn hynod o gymeradwy gan y frawdoliaeth, ac yn ymroddedig iawn i waith yr Arglwydd. Wrth farw gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol. Dechreuodd bregethu gyd â'r Cymry yn 1801. Dychwelwyd William Lewis at grefydd yn y flwyddyn 1800, yn mhlith y Saeson, ond mae yn debyg mai gyd â'r Cymry y dechreuodd bregethu ar gychwyniad yr achos yn 1801. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac yn weddiwr mawr. Medda y ddau hen wron uchod le amlwg yn hanes sefydliad Wesleyaeth Gymreig yn Liverpool.

Wedi i'r Parch. Edward Jones, Bathafarn, sefydlu yr achos Cymreig yn Manchester, yn Mawrth 1804, cymerwyd ei ofal ef yn benaf gan frawd ffyddlawn iawn, o'r enw Edward Jones, brodor o Lanasa, yr hwn oedd yn Bregethwr Cynorthwyol hynod gymeradwy. Bu ei wasanaeth o fendith anrhaethadwy i'r Eglwys fechan oedd newydd ei sefydlu, a bu o dan fendith Duw yn offeryn i ddwyn llawer o eneidiau at y Gwaredwr. Dilynai ei alwedigaeth ar hyd yr wythnos, a phregethai bron yn rheolaidd bob Sul, a hyny gyd âg arddeliad neillduol. Torodd ei iechyd i lawr cyn hir gan orlafur, a gwynebodd yn ol i'w wlad enedigol am adferiad yn ei hawyr a'i hawelon adfywiol.

Dyma i'r darllenydd hanes ychydig o'n Pregethwyr Cynorthwyol cyntaf, y rhai a dechreuasant bregethu o 1801 hyd 1810. O 1810 cyfododd llu o bregethwyr enwog, a chroes fawr ydyw i ni roddi ein hysgrifell heibio heb cyfeirio at rai o honynt. Ond rhaid ei chodi, oblegid nis gwyddom yn mha le i dynu y linell derfyn rhwng y rhai i'w nodi a'r rhai i'w gadael yn ddisylw. Bendithiwn Dduw am y gweision ffyddlon y Pregethwyr Cynorthwyol, a gallwn yn hawdd gymell ein darllenwyr yn ngeiriau Awdwr y Llythyr at yr Hebreaid—"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi Air Duw; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."

PENNOD XIX.

Safle Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn ei pherthynas a Chwestiynau Cyhoeddus, &c., y Ganrif.

NIS gallwn ni y Methodistiaid Wesleyaidd mwy na'r Methodistiaid Calfinaidd hawlio yr un safle yn ein perthynas â Chwestiynau Cyhoeddus ag a fedr yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Hwy a ymladdasant y brwydrau mawrion ac a wnaethant aberth ac hunan-ymwadiad personol er mwyn sicrhau y graddau helaeth o ryddid a chydraddoldeb crefyddol a feddwn fel Ymneillduwyr yn awr. Yn ein llysoedd uchaf buom ni a'r Methodistiaid Calfinaidd ar y cyntaf yn hynod o araf i symud ac i ymdrechu yn gyhoeddus o blaid mesurau gwleidyddol i sichau cyfiawnder a dyrchafiad cymdeithasol. Yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr a lafuriasant yn y cyfeiriadau hyn, a ninau y ddau gorph Methodistaidd a aethom i mewn i'w llafur hwynt. Eto, dywedwn yn hyf na buom ni fel Enwad mor ddisymud gyd â Chwestiynau Cyhoeddus yn Wleidyddol a Moesol ag y myn rhai i ni fod.

Dygwyd llawer o gyhuddiadau yn ein herbyn fel Wesleyaid, am na buasem yn cydweithredu yn fwy calonog âg Enwadau eraill i ymladd brwydrau Cwestiynau Cyhoeddus a Gwleidyddol, oeddynt yn cyffroi ein gwlad ar wahanol brydiau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhuddwyd ni o'r trosedd hwn gan y Parch. Thomas Rees, D.D., yn ei Lyfr ar "Hanes Anghydymffurfiaeth Brotestanaidd yn Nghymru," a hyny yn y geiriau canlynol:—"Tra yr ydym fel hyn yn ei hystyried yn ddyledswydd arnom i roddi i'r Wesleyaid Cymreig bob credid sydd ddyledus iddynt am eu gweithgarwch canmoladwy a'u defnyddioldeb, eto, nis gallwn amgen na datgan ein hanghymeradwyaeth i'w difaterwch a'u hwyrfrydigrwydd beius, a ddangosasant bob amser pan y gelwid arnynt i gydweithredu â'u brodyr Anghydffurfiol yn eu hymdrechion i sicrhau yr iawnderau hyny, y rhai a ganiatawyd iddynt gan ddeddfwrfa y wlad o bryd i bryd. Mae ein cyfeillion Wesleyaidd mor barod â neb i grafangu y rhagorfeintiau a gafwyd trwy lafur y sawl a lys—enwir yn Ymneillduwyr Politicaidd,' ond cadwant draw yn ofalus oddiwrth yr ymdrechion angenrheidiol i'w sicrhau. Yn hyn ni bu iddynt erioed gyflawni rhan brodyr ffyddlon," tudalen 423. Gwnaed Cyhuddiadau cyffelyb hefyd yn "Y Dysgiedydd," ac yn "Y Cronicl" Bach. Ac ni bu "Baner ac Amserau Cymru" ychwaith na segur na diffrwyth yn ei hymosodiad ar, a'i chyhuddiadau di-sail yn erbyn Wesleyaeth. Yn y rhifyn am Chwefror 20fed, 1867, ceir erthygl ynddi dan y penawd, "Y Cyfundeb Wesleyaidd; a'i berthynas & Mesurau Cyhoeddus Gwladol a Chrefyddol." Ceir ynddi y cyhuddiad hwn yn erbyn Wesleyaeth—" Mae yn perthyn i Gyfundebau eu dyledswyddau gyd â golwg ar y byd hwn, a chyd â golwg ar y byd a ddaw. Y mae y Cyfundeb Wesleyaidd yn barod iawn i addef ei rwymedigaeth gyd â golwg ar y dosbarth olaf o ddyledswyddau, ond nid mor barod i addef eu cyfrifoldeb gyd â golwg ar y dosbarth blaenaf. Dyledswyddau y byd a ddaw' sydd yn myned â sylw mawr y Cyfundeb.' Ond yr ydym yn tybied fod yn rhaid addef mai esgeulus iawn ydyw o'i ddyledswyddau gyd â golwg ar y byd hwn. Mae yn ddiwyd i barotoi dynion i ogoniant,' ond yn araf iawn i'w dysgu pa fodd i etifeddu y ddaear.' Am y cyntaf mae i'w ganmol yn fawr, ond y mae y Cyfundeb Wesleyaidd wedi myned yn hynod yn mhlith yr holl Gyfundebau ar gyfrif y pellder a'r difrawder anesboniadwy sydd yn nodweddu holl ymddygiadau yr Enwad yn ei berthynas â chwestiynau pwysig y wlad a'r amseroedd.... Mae yn rhaid i'r Cyfundeb ymuno (âg Enwadau eraill) neu golli y gronyn olaf o gydymdeimlad Cyfundebau Ymneillduol eraill."

Dyma y cyhuddiadau, ond credwn y gallwn ddangos fel yr awn yn mlaen, eu bod yn hollol ddisail. Cydnabyddwn nad oedd Wesleyaid Cymreig y dyddiau gynt yn cydweithio âg Enwadau eraill yn Nghymra i hyrwyddo Mesurau Cyhoeddus, ond er hyny gweithient gyd â'r Cyfundeb y perthynent iddi o blaid y cyfryw. Ond ar bwy yr oedd y bai? Am flynyddoedd wedi i'r Wesleyaid ymsefydlu fel Enwad yn Nghymru, dywed Dr. Thomas Rees, fod yr Enwadau eraill yn edrych arnynt gyd â math o arswyd, "ac yn enwedig fod y Methodistiaid Calfinaidd wedi cadw draw oddiwrthynt am flynyddoedd," fel cofleidwyr y cyfeiliornadau mwyaf dychrynllyd a gwrthwyneb i Air Duw oedd yn bosibl. Ai oni ddengys y ffeithiau hyn yn eglur fod yr Enwadau eraill yn cau eu drysau yn erbyn y Wesleyaid i ddyfod i mewn i gylch cyd-weithgarwch? Heblaw hyny ymosodid arnynt yn barhaus trwy y wasg, ac o bwlpudau y gwahanol Enwadau. A phan y goddiweddwyd y Cyfundeb gan ddydd y dymhestl a'r ddrycin yn y blynyddoedd 1830 a 1850, pwy gafodd gydymdeimlad yr Enwadau Ymneillduol Cymreig—Y Wesleyaid teyrngarol a ffyddlon i'w hegwyddorion; ynte eu henllibwyr a lladron eu Capelau? Gadawn i Dr. William Davies ateb y cwestiwn hwn yn y geiriau canlynol:—"Pob parch i bersonau unigol caredig, Cristionogol, a boneddigaidd yn perthyn i bob Enwad; gwelsom gydymdeimlad ychydig o rai felly, ac nis gallwn ei anghofio; ond ychydig iawn oeddynt. Am. y mwyafrif mawr o weinidogion a phobl y Cyfundebau Ymneillduol yn Nghymru, cawsom oddiar eu llaw gas yn lle cariad, dirmyg yn lle parch, a phob peth oedd groes iddo yn lle cydymdeimlad. . . . Gellir dyweyd am y Cyfundeb Wesleyaidd yn Nghymru fel y dywedodd Jacob am ei fab Joseph—'Y saethyddion a fuont chwerw wrtho ef, ac a'i saethasant ac a'i casasant ef;' 'Ond i Dduw y bo y diolch,' gallwn ychwanegu a dywedyd, 'Er hyny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw ef a gryfhasant, trwy ddwylaw grymus Duw Jacob;' a myned rhagom drachefn i ddywedyd ei fod er gwaethaf pob tywydd wedi bod hyd yma yn gangen ffrwythlawn, cangen ffrwythlawn wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded hyd y mur.'"

Ond a ydyw y cyhuddiad yn wir ein bod ni fel Wesleyaid wedi dangos difrawder a difaterwch yn nghylch Cwestiynau Cyhoeddus, a'n bod yn fwy parod i grafangu y breintiau nag i ymladd y brwydrau er eu cael? Mae y Wesleyaid Cymreig yn rhan o'r Cyfundeb Wesleyaidd a gymer i mewn yr holl Wesleyaid yn Lloegr, Cymru a Scotland. Felly, pa beth bynag a wnaeth y Cyfundeb er sicrhau y breintiau sydd yn awr yn etifeddiaeth gyffredinol yr Ymneillduwyr, mae i'r Wesleyaid Cymreig ran o'r clod, oblegid cydweithiasant â'r Cyfundeb er eu sicrhau. Ac yr ydym heb betruso yn dywedyd, beth bynag a gafodd y Wesleyaid fel breintiau yn ystod y can' mlynedd diweddaf trwy ymdrechion yr Enwadau Ymneillduol, fod yr Enwadau Ymneillduol wedi cael, a dyweyd y lleiaf, llawn cymaint o freintiau trwy ymdrechion y Wesleyaid.

Yr oedd y Parch. John Wesley, A.C., yn hynod effro i bynciau cyhoeddus y dydd, ac ysgrifenodd lawer o erthyclau ar bynciau politicaidd ei oes.. Ac ni fu y Cyfundeb a Sefydloedd yn ddifater na difraw yn nghylch mesurau i wella sefyllfa y wlad, ac i ddyrchafu dynoliaeth. Ond ni ddarfu i'r Cyfundeb erioed rwymo ei hun i gefnogi gwleidyddiaeth plaid, a gweddiwn am iddo gael ei gadw byth rhag gwneyd y fath beth. Diameu y cadwa byth yr hawlfraint iddo ei hun i benderfynu y Cwestiynau a'r Mesurau ddylent gael ei gefnogaeth a'i holl ddylanwad er eu hyrwyddo.

Gwnaeth y Wesleyaid eu rhan yn deilwng o honynt eu hunain er dwyn oddiamgylch ryddhad y Caethion; ac os safasant yn erbyn rhyddfreiniad y Pabyddion, eto pleidiasant Ddadgysylltiad yr Eglwys yn yr Iwerddon; ac o hyny hyd yn awr nid oes neb a wnaeth fwy i sicrhau i'r Ymneillduwyr eu hiawnderau, a safant i fyny yn selog dros gydraddoldeb crefyddol. "Ac yna, pan oedd canoedd o Gapeli Ymneillduol y deyrnas wedi myned yn eiddio personol ychydig o ddynion a elwid yn Trustees, oherwydd fod eu Gweithredoedd heb eu henrolio o fewn cylch yr amser penodedig gan gyfraith y wlad, i bwy y mae Ymneillduwyr y deyrnas yn gyffredinol yn ddyledus am yr Act yn awdurdodi yr Enrolment Office i enrolio hen weithredoedd fel ag i wneyd yr eiddo a gynrychiolid ganddynt yn Charities mewn gwirionedd, ac nid yn private properties? Atebaf yn hyf, i'r Wesleyan Chapel Committee, yn fwy nag i neb ryw gorphoriaeth arall o fewn y Deyrnas Gyfunol' (Dr. W. Davies, gwel Eurgrawn 1867, tudalen 167).

Ni buom ar ol i neb yn ein sel a'n gweithgarwch gyd â'r Ysgol Sabbothol o ddyddiau y Parch. Owen Davies, hyd yn awr. Rhoddwyd sylw neillduol i "Faes Llafur " yr Ysgol Sul, a gweithir ef allan yn dra llwyddianus yn y gwahanol Gylchdeithiau. Ni buom ar ol i'r un Enwad yn ein hymdrechion o blaid Dirwest, o ddyddiau y Parch. Griffith Hughes, Llanor, y Parch. R. Bonner, a'i frawd William, y rhai oeddynt yn ddirwestwyr selog, ac felly hefyd y Parchn. William Rowlands a Richard Prichard, a llawer eraill. Gwnaethom ein rhan er puro bywyd Cymdeithasol y genedl, ac i sefydlu Cartrefi i "Blant Amddifaid," ac i "Arabiaid Crwydredig yr Heolydd." Nid oes yr un o'r Enwadau o flaen y Wesleyaid mewn ymdrechion i efengyleiddio y trefydd mawrion, ac i ddarparu ar gyfer anghenion ysbrydol y môrwyr a'r milwyr.

Ni buom ar ol ychwaith i neb yn ein sêl a'n hymdrech o blaid addysg y genedl. Pan gynhaliwyd Cynhadledd Addysg yn Aberhonddu, Mai 9fed, 1845, yr oedd yn bresenol amryw weinidogion perthynol i'r Annibynwyr, deg o weinidogion Wesleyaidd, dau o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd, ac un gweinidog i'r Bedyddwyr. Yn mhlith gweinidogion y Wesleyaid yr oedd y Parchn. Hugh Hughes, Caerfyrddin, ac Isaac Jenkins. Prif fater y Gynhadledd hono oedd, trefnu pa fodd i godi Trysorfa er cynal y Normal College oedd wedi ei sefydlu yn Aberhonddu. Yn ol eu rhif a'u gallu gwnaeth y Wesleyaid gymaint os nad mwy na'r un Enwad arall tuag at y sefydliad hwnw. Gwnaethant eu rhan hefyd gydag Addysg Elfenol rydd, Addysg Canolraddol, ac Addysg Uwchraddol. Gwnaeth y Parch. Dr. William Davies wasanaeth werthfawr mewn cysylltiad â "Deddf Addysg," 1870. Hefyd pan oedd Syr Hugh Owen wrthi o ddifrif yn sefydlu Prif-Ysgol yn Aberystwyth, rhoddodd y Wesleyaid bob cefnogaeth iddo, ac felly gyd â Phrif Ysgolion Bangor a Chaerdydd. Yn mhlith Llywodraethwyr Cyntaf yr Ysgolion hyn ceir enwau amrai Wesleyaid adnabyddus.

Yr ydym fel Wesleyaid yn cymeryd ein safle ochr yn ochr â'r Enwadau eraill mewn Cynadleddau a Chyngorau, ac nis gall neb gwyno ein bod yn esgeuluso yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bellach, mae Enwadau Ymneillduol Cymru wedi nesu lawer agosach at eu gilydd nag oeddynt, ac y maent erbyn hyn yn meddwl mwy am y pwyntiau o gyttundeb rhyngddynt â'u gilydd nag am y pwyntiau o anghydwelediad. Perthyna i bob Enwad yn ddiameu ei ragoriaethau a'u diffygion; ond credwn fod y rhagoriaethau a berthyn i bob un o'r Pedwar Enwad yn gorbwyso i'r llawr eu diffygion. Ac yn awr, ymddengys i ni ein bod fel gwahanol Enwadau ar ddechreu Canrif Newydd yn tueddu i edrych llawer mwy ar ragoriaethau ein gilydd nag ar ein diffygion, a thra y byddwn yn edrych felly, fe ddiflana y diffygion yn mhresenoldeb y rhagoriaethau.


PENNOD XX.

Dylanwad Wesleyaeth Gymreig a'i Rhagolygon.

WRTH adolygu gwaith a dylanwad Wesleyaeth Gymreig yn ystod y Ganrif, gallwn ddywedyd yn ddibetrus iddi lafurio yn hunan-ymwadol a'i llygad yn syml ar ogoniant yr Arglwydd, ac iachawdwriaeth eneidiau, ac ar y cyfrif hwn rhaid bod ei dylanwad yn iach a dyrchafol. Ymgysegrodd i'w gwaith dan ddylanwad cymellion Ysbrydol a Dwyfol, a bu Duw gyd â hi yn ei llwyddo. Dechreuodd ar ei gwaith dan anfanteision lawer, ond goruwch-reolodd yr Arglwydd y cyfrw er daioni. Erbyn heddyw, enillodd iddi ei hun safle yn y Dywysogaeth fel un o'r Pedwar Enwad a gydnabyddir gryfaf a chyfaddasaf i wneyd gwaith dros Grist yn y tir. Nis gall Enwad a ymgysegrodd mor lwyr i waith crefyddol, ac a gafodd ei fendithio â rhai o bregethwyr enwocaf y Ganrif, lai na meddu dylanwad ar y genedl. Ond nid yw yn hawdd olrhain yr effeithiau y bu Methodistiaeth Wesleyaidd yn achos o honynt yn nullweddiad bywyd crefyddol y Cymry yn ystod y Ganrif. Diameu i holl Enwadau Cymru deimlo ei dylanwad hi, megys ag y deimlodd hithau ei dylanwad hwy. Bu y naill yn ogystal a'r llall yn offerynau (factors) yn ffurfiad cymeriad crefyddol y genedl trwy gyfrwng y genadwri neillduol oedd gan y naill a'r llall ati.

Cariodd Methodistiaeth Wesleyaidd ddylanwad uniongyrchol ar ugeiniau o filoedd o'r Cymry a ymaelodasant yn Eglwys yr Arglwydd Iesu mewn cysylltiad â hi, ac ar eraill a eisteddasant dan ei gweinidogaeth yn ystod y Ganrif. Tragwyddoldeb yn unig fedr ddatguddio y dylanwad hwn o'i heiddo, am yr hwn y diolchwn benaf i'r Arglwydd.

Perthyna i Wesleyaeth Gymreig heddyw o aelodau yn cynwys rhai ar brawf ac yn rhestrau ieuenctid, 30,326. Ychwaneger y plant a'r gwrandawyr at y cyfryw, a rhifant o leiaf dros 60,000 o eneidiau. Os cymerer y Wesleyaid Seisnig yn Nghymru i'r cyfrif, rhifant rhwng y Cymry a'r Saeson oddeutu 108,731.

Dylanwadodd Wesleyaeth Gymreig hefyd trwy gyfrwng yr Ysgol Sul ar ganoedd o filoedd o'r genedl yn ogystal a thrwy y wasg. Yn ystod y Ganrif cyhoeddodd y Methodistiaid Wesleyaidd dros bedwar cant o lyfrau, a hyny heb gyfrif cyfrolau blynyddol y cyhoeddiadau misol a chwarterol. Nis gall cyhoeddiad y fath doraeth o lênyddiaeth, a hono bron oll yn grefyddol, amgen nag effeithio dylanwad mawr er goleuo a diwyllio meddyliau y darllenwyr.

Ond bu i Fethodistiaeth Wesleyaidd Gymreig ei ddylanwad anuniongyrchol ar y genedl. Cyn, ac wedi ei chyfodiad yn Nghymru, Calfiniaeth oedd yr athrawiaeth a bregethid fel rheol gan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid Calfinaidd. Dadleua rhai mai cyfodiad Wesleyaeth a barodd i'r Methodistiaid ac eraill fyned yn Uchel-Galfinaidd. Ond ni saif yr haeriad hwn i reswm nac ymchwiliad, oblegid ni wnaeth hyny ond rhoddi gwedd fwy dadleuol i bregethu y cyfnod. Ni pharhaodd pethau felly yn hir, oblegid canfyddwyd yn fuan arwyddion fod iachawdwriaeth neillduol etholedigaeth bersonol a diamodol, y ndechreu diflanu o'r tir o flaen cyhoeddiad yr Iachawdwriaeth Gyffredinol drefnwyd trwy yr Hwn a brofodd farwolaeth dros bob dyn: a rhaid i bob hanesydd diduedd gydnabod i Wesleyaeth wneyd ei rhan yn effeithiol iawn i ddwyn hyn oddiamgylch. Erbyn heddyw, mae yr athrawiaeth a bregethai ein tadau yn cael ei phregethu yn holl bwlpudau Cymru. Am Wesleyaeth Gymreig, llefarodd y Parch. E. James, Nefyn, o Gadair Undeb yr Annibynwyr fel y canlyn—"Ni ddechreuodd yr Enwad hwn yma hyd y Ganrif bresenol. Bendithiwyd yr Enwad er yn foreu a lluaws o bregethwyr rhagorol, rhai wedi eu gorlenwi â brwdfrydedd crefyddol. Cariasant ddylanwad daionus ar y weinidogaeth yn Nghymru, er ei dwyn i bregethu yr Efengyl yn eangach a mwy rhesymol nag y gwneid yma yn flaenorol. Iddynt hwy y perthyn yr anrhydedd o feddu y y cyhoeddiad misol Cymreig hynaf. Yn ddiweddar ymgymerasant yn egniol a cheisio enill tir newydd yn y De, ac nis gallwn lai na gweddio yn galonog am eu llwyddiant. Mae Wesleyaeth yn drefniant celfydd a nerthol."

Ychydig o ysbryd anturiaethus nodweddai Enwadau crefyddol Cymru ar ddechreu y Ganrif, i adeiladu Capelau a lleoedd cyfleus i addoli. Nid oedd rhif eu haddoldai ond ychydig o'u cymharu â rhif yr Eglwysi a gyfarfyddent mewn anedd-dai, &c. Ond dylanwadodd Wesleyaeth i fagu hunan-hyder a beiddgarwch ynddynt. Yr oedd hi o'i chychwniad yn cyfranogi o ysbrydiaeth anturiaethus y bywyd crefyddol Seisnig, ac felly yn alluocach i drefnu a chynllunio na'r Enwadau eraill. Ar y mater hwn difynwn. a ganlyn o ysgrif y Parch. J. Hughes (Glanystwyth), o Geninen Hydref, 1899:—Yr oedd Ymneillduaeth yn Nghymru, ar ddiwedd y Ganrif ddiweddaf, yn llawn o ysbryd y diwygiadau; ond o ran organyddiaeth a threfnidedd allanol, yr oedd mewn cyflwr digon afluniaidd. Troisai y wlad ei chefn ar y Clerigwyr, ac elai y torfeydd ar ol y pregethwyr. Nid yn unig yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi bod ar y tir am 160 mlynedd, ond buasai y Methodistiaid yn cynhyrfu y wlad am dros 60 mlynedd. Mae yn wir fod Cymdeithasau, neu, os myner Eglwysi, lawer wedi eu ffurfio; ond nid oedd ond ychydig o Gapeli wedi eu hadeiladu. Addolid mewn hen ysguboriau a thai anedd yn gyffredin. Nid oedd yn y Cymro galon i symud yn mlaen, ond fel y cludid ef gan y diwygiadau. Yr oedd angen am i ryw un gael ei anfon i ddywedyd "wrth feibion Israel gerdded rhagddynt." Ymddengys i mi fod y Cenhadon Wesleyaidd wedi eu hanfon i'r perwyl hwn. Yn ystod y pedair blynedd cyntaf o'u hanes adeiladodd y Wesleyaid dros ugain o Gapeli. "Y fath feiddgarwch! a'r fath ysbrydiaeth a dafodd hyn i'r Enwadau eraill . . . . Ni buasai Ymneillduaeth yn Nghymru yr hyn ydyw yn awr oni bai am y Capeli sydd wedi cael eu hadeiladu, ac yr oedd gan Wesleyaeth ran amlwg mewn cynyrchu ysbrydiaeth i ymgymeryd a'r gwaith." Mae rhif ein Capeli a'n meddianau Cyfundebol fel Wesleyaeth Gymreig yn 430, a'u gwerth cyfrifedig yn £320,000. Os ychwanegir at hyn werth meddianau y Wesleyaid Seisnig yn Nghymru, cyfrifa o leiaf 750,000. Ar ddechreu y Ganrif nid oedd ond ychydig o weinidogion ordeiniedig yn perthyn i Ymneillduwyr Cymru, na chymaint ag un yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd. oddieithr clerigwyr o Urddau Esgobol. Yr oedd nifer y gweinidogion a gynhelid yn fugeiliaid gan yr Eglwysi yn ychydig, ac yn eithriadau. Yr oedd y mwyafrif mawr yn gorfod byw ar lafurwaith eu dwylaw, a thrwy gyflawni galwedigaethau bydol, ac felly gofalon y byd yn rhwystr iddynt gyflawni eu gweinidogaeth mewn llwyr-ymroddiad iddi. Ond yr oedd yn wahanol gyd â gweinidogion y Wesleyaid o'r dechreu, ni oddefid iddynt hwy ymrwystro â negesau y bywyd hwn, ond yr oeddynt i gysegru eu holl amser a'u hynni i waith y weinidogaeth. Yr oedd hyn yn beth newydd yn mhlith y Cymry Ymneillduol, ac ar y cyntaf gwrthwynebent y drefn. Ond yn araf enillwyd hwy drosodd i gydnabod ei rhagoriaeth, ac erbyn heddyw mae bron yn gyffredinol yn mhlith holl Enwadau Cymru. Beth fu dylanwad Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn yr achos hwn, gadawn i'r darllenydd gasglu.

Bellach, edrychwn i gyfeiriady dyfodol, ac ymofynwn beth yw ein rhagolygon. Nis gallwn lefaru gyda sicrwydd diamheuol ar y cwestiwn hwn, ond gallwn deimlo yn dra diogel i edrych ar ein dyfodol yn ngoleuni ein mynedol, ac yn ngwyneb ein cyfaddasderau i gyflawni gwaith Duw dan unrhyw amgylchiadau allant gyfodi. Ni bu arwyddion bywyd erioed yn amlycach yn ein Cyfundeb nag ydynt yn awr, a rhagfynegant yn eglur yr estyner i ni eto hir ddyddiau i wneyd daioni. Bydd i Wesleyaeth Gymreig cydbarhau a'r iaith Gymraeg. Os i'w hi i farw, dydd ei thranc hi fydd dydd tranc Wesleyaeth Gymreig. Ac os digwydd hyn iddi, digwydda yr un dynged i'r Enwadau Cymreig eraill. Ac os bydd marw yr iaith ryw dro, nid Wesleyaeth Gymreig fel y cyfryw gaiff y golled fwyaf. Gall hi fyw yn well mewn awyr Seisnig na rhai o'i chymydogion. Aif hi trwy y trawsnewidiad heb golli dim o'i nerth na'i defnyddioldeb. Ar y tir hwn mai iddi cystal rhagolygon ag sydd i unrhyw Enwad Cymreig yn y Dywysogaeth. Efallai nas gallwn ddisgwyl dyfod yr Enwad cryfaf yn Nghymru; ond credwn fod i ni safle uwch yn ein haros, ac nas gellir ein hanwybyddu yn y Ganrif nesaf fel un o lwythau Israel. Bu genym o'r dechreuad ddynion cryfion a chymhwys yn y weinidogaeth, a nodweddwyd ein pwlpud à goleuni a gwres yn mhob cyfnod o'n hanes. Ond ni phetruswn ddywedyd fod ein rhagolygon yn y cyfeiriad hwn yn ddisgleiriach nag erioed. Saif yr ymgeiswyr am y weinidogaeth yn uwch mewn diwylliant, a meddant profiad o grefydd a sicrwydd galwedigaeth i'r gwaith. Beth bynag fydd cynydd ein gwrandawyr mewn diwylliant ni raid i ni betruso na cheidw y rhai a draethant i ni Air Duw ar y blaen.

Gwynebwn ar yr Ail Ganrif yn ein hanes yn allu cryfach nag erioed. Erbyn hyn mae y Gymanfa yn ffaith, ac yn ganolbwynt undeb rhwng holl Wesleyaid Cymreig y Deyrnas Gwna hyn ni yn Enwad mwy Cymreig, a bydd genym fwy o ymreolaeth a chyfaddaster i symud yn mlaen ar llinellau y deffroad cenedlaethol. Caiff nifer o'n hefrydwyr eu lefeinio ag ysbryd Cymreig yn ein prif Ysgolion, ac felly eu dwyn i gyd-ymdeimlad llawn â phob ymdrech, i ddyrchafu ein cenedl yn mhob rhinwedd a dawn a esyd arni anrhydedd a mawredd. Canfyddwn arwyddion y gwneir gwaith mawr yn y Ganrif nesaf mewn sefydlu Gweinidogion i gadarnhau ein safleoedd yn y wlad, ac i ofalu mewn modd arbenig am yr Eglwysi gweiniaid, trwy fagu y plant a meithrin y bobl ieuainc, a'r canlyniad fydd sicrhau y cyfryw i Grist a Wesleyaeth, fel na wiw i Eglwys Loegr na'r un Eglwys arall geisio eu hud-ddenu a'u proselytio. Yn ngoleuni ein diffygion yn y mynedol, gallwn gael manteision i symud yn mlaen yn y dyfodol at berffeithrwydd. Un o'n hanfanteision mawr ar hyd y Ganrif hon fu diffyg meithriniad y rhai a roddodd yr Arglwydd i ni i'w magu, fel na lwyddasom i'w cadw mor llwyr yn ein corlan ag y dylasem. Ond credwn na welir y diffyg hwn ynom mwy, ond y bydd i ni trwy blanu egwyddorion crefydd Crist yn meddyliau ein plant eu cadw nes y delont yn golofnau o gryfder a phrydferthwch yn ein Heglwys.

Ni raid i ni ofni am ein hegwyddorion a'n hathrawiaethau; safant yn ddiysgog ar graig gadarn y gwirionedd tragwyddol. Ac felly yn ngwyneb nerthoedd aflonydd a chyffroadau ysgytiol yr amser a ddaw, safant hwy yn dalgryf a dylanwadant ar gymdeithas nes gwedd-newid miloedd ar filoedd i ddelw gogoniaut yr Arglwydd Iesu.

Bellach, ar ol tymor maith o galedwaith-ar ol càn mlynedd o lafur ymroddol ac hunan-ymwadol, gwawriodd arnom "flwyddyn gymeradwy yr Arglwydd" i Ddathlu ein Canmlwyddiant. Gwnawn hyny trwy ymadnewyddu yn ysbryd ein meddwl, ac ymgysegriad ffyddlawn a llwyrymroddol i waith yr Arglwydd. Gwnawn hyny hefyd mewn teimlad dwfn o barch i goffawdwriaeth ein hyn afiaid, ac mewn cyfranogi o'u hysbryd ardderchog a rhagorol, gan osod ein hymddiriedaeth yn mhob ymgymeriad. o'r eiddom ar "Obaith Israel a'i Geidwad," gan gofio bob amser mai "yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys Efe a sathr ein gelynion." Am yr oll a wnaethom, ac am yr oll ydym heddyw, rhoddwn ogoniant i'r Arglwydd ein Duw. "A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni; a threfna weithred ein dwylaw ynom ni, ïe, trefna waith ein dwylaw."



TREFFYNNON:
ARGRAPHWYD GAN W. WILLIAMS A'I FAB, HEOL. FAWR.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ar ddechreu y bedwaredd ganrif a'r bymtheg ystyrid y neb a feiddiai ddywedyd ei fod mewn cymod â Duw, ac mewn cyflwr cadwedigol yn rhyfygu ac yn berson i'w ochelyd bron fel heritic, a dirmygid y Methodistiaid Wesleyaidd yn fawr gan yr enwadau eraill am ei bod yn dysgu yr athrawiaeth hon. Fel prawf o hyn, nodwn y ddwy ffaith ganlynol fel engreifftiau. Yn nghofiant y Parch. Hugh Hughes, tudalen 33, ceir y ffaith gyntaf a nodwn yn y geiriau canlynol "Y peth mwyaf rhyfedd a ddigwyddodd i ni y flwyddyn hon (1808) ydoedd mewn cysylltiad â marwolaeth ddedwydd un o'n cyfeillion, sef, Mr. Rees, Ty-thrichrug, gerllaw Cilcenin. Yr oedd y dyn hwn wedi bod o nodweddiad lled wyllt, ac yr oedd efe a'i frodyr yn ymladdwyr anghyffredin, fel nad oedd mo'u bath yn y plwyf. Pan ddaeth y Wesleyaid i'r ardal gyd â'u gweinidogaeth danllyd, ond llawn o anogaethau i'r pechadur mwyaf i droi a dychwelyd at Dduw; a phan glywodd y gŵr y fath newyddion a hyn am gariad y Tad, helaethrwydd rhinweddau marwolaeth y Mab, a gallu ac ewyllysgarwch yr Yspryd Glan, i gynorthwyo pechaduriaid, cafodd ei argyhoeddi o'i angen mawr am Waredwr, ac unodd â'n Cymdeithas fechan oedd yn cyfarfod yn Plas, Cilcenin. Daeth yn ddyn newydd ac yn Gristion trwyadl. Byddai yn cyflawni ei ddyledswyddau crefyddol gyda'u deulu, a hyd yn nod y boreu cyn ei gymeryd yn glâf, yr oedd amryw o'i gymydogion wedi dyfod gyda'u menau (carts) i'w gynorthwyo i gludo coed, ond nid â'i efe o'r tŷ ar ol boreu-bryd heb ddarllen cyfran o air Duw a phlygu ar ei liniau gyda'i deulu a'r dyeithriaid oedd yno, i ofyn bendith ei Dduw ar waith y dydd. Yn yr hwyr, pan yn dyfod i fy ngwrandaw i'r Pennant, cafodd ei daraw yn glaf o'r clefyd y bu farw o hono yn mhen ychydig o wythnosau. Yr oedd hyn yr un pryd a phan oedd Mr. Williams yn glaf yn Rhiwlas, gerllaw Ty-thrichrug, a phan y byddwn yn dyfod i ymweled a Mr. Williams, byddwn yn myned i ymweled â'r brawd Rees, ac yn ymddiddan cryn lawer âg ef am ei gyflwr. Byddwn yn ei gael yn hynod o gysurus a dedwydd yn ei feddwl bob amser, a'i dystioliaeth yn hynod o eglur a chadarn am eu gymer- adwyaeth gyd â Duw, trwy haeddiant Crist. Wedi darllen cyfran o air Duw, a gweddio gyd âg ef, byddwn yn ei adael, yn gorfoleddu yn Nuw ei iachawdwriaeth. Byddai y cyfeillion yn ymweled âg ef yn bur fynych, yn enwedig dau o flaenoriaid oedd genym yn yr ardal. Aeth son trwy'r wlad mor ddedwydd yr oedd Rees o Dy-thrichrug yn ei gystudd! Y mae yn bur debyg fod peth o'r natur yma yn dra dyeithr yn y dyddiau hyny yn mhlith unrhyw blaid o Gristionogion, oddieithr y Wesleyaid. Dyma un o'r cyfeiliornadau mawr oeddym yn cael ein cyhuddo o'u plegid, sef, ein bod yn pregethu, ac yn gwasgu at ein haelodau, yr angenrheidrwydd o gael tystiolaeth o faddeuant pechod, a chymeradwyaeth gyda Duw trwy Grist! Ac y mae yn dra thebyg i hyny yn nghyda bod ei wraig yn aelod gyda'r Annibynwyr fod yn achos i'r Annibynwyr ddyfod yno yn fynych i'w weled, a darllen a gweddio gyd âg ef. Dywedodd y brawd ei hun wrthyf, ar un tro pan oeddwn yn ymweled ag ef, ddarfod i un o honynt, tra yn gweddïo, ddywedyd yn ei weddi, Os yw bosibl gyda thi, Arglwydd achub a goleua y dyn hwn.' Gwedi iddo godi oddiar ei liniau, gofynodd Rees iddo, a oedd efe yn ameu a allai Duw ei achub, gan chwanegu, Yr wyf fi, trwy drugaredd anfeidrol Duw yn haeddiant Crist, wedi fy achub, canys mi a wn i bwy y credais, ac y mae yn abl i gadw yr hyn a roddais iddo i gadw erbyn y dydd hwnw.' Ond ar un tro, tra yr oeddynt yn ymweled ag ef, ac yntau yn ol tyb pawb bron, bron a therfynu ei daith ddaearol, rhoddwyd y gair allan fod Rees wedi newid ei farn. Pan glywodd ein dau flaenor ni hyny, aethant i ymweled âg ef mor fuan ag y gallasant, a chyrhaeddasant yno cyn iddo farw; ac wedi ymddiddan ychydig gydag ef, gofynasant iddo am eu deimladau crefyddol, a pha beth oedd ei farn yn awr, yn ngwyneb angau, am yr athrawiaeth oedd wedi ei chredu a'i phroffesu? I hyn yr atebodd, Nid oes mo'i gwell, ac ni ddylai yr un gwaeth fod. A ddywedais i yn iawn?' ebe fe—Hyn wyf yn ei feddwl, fy mod i wedi mentro fy enaid arni, ac yr wyf yn ddiogel.' Yna dywedodd ein dau gyfaill wrtho yr hyn oedd y cymydogion wedi ei ddywedyd. Yntau a atebodd, Cymaint a ddywedais i wrthynt, oedd y byddwn i byw fel cymydog gyda hwy, os cawn i fyw; hyny oeddwn ni yn ei feddwl, peidio a dadleu gyd â hwy, a dim mwy na hyny, canys y maent yma wrthyf mor daer eisiau i mi newid fy marn.'
    Ar y tudalen 72 o'r un llyfr, cofnodir ffaith arall yn y geiriau hyn—Byddwn yn pregethu yn achlysurol yn y Dyffryn (Ardudwy) ar ganol dydd ar ddiwrnod gwaith. Ar ol yr odfa un tro, digwyddodd fod nai, neu ryw berthynas agos i wraig dduwiol iawn oedd gyda ni, yn glaf, ac aeth y wraig hon i ymweled âg ef. Yr oedd y claf yn isel iawn, bron a marw, ond yr oedd yn broffeswr crefydd. Dygwyddodd fod yno amrai o'i gydgrefyddwyr yn yr ystafell gyd âg ef. Pan aeth y wraig hon i mewn, y claf a ddywedodd Dyma y geiriau sydd yn fy mlino yn fawr, Ti a bwyswyd yn y glorian, ac a'th gaed yn brin.' Ar hyn dywedodd ein cyfeilles, Mi a welaf yn eglur na thâl dim yn ngwyneb marw ond crefydd brofiadol. Wedi hyn daeth y rhai oedd yno ati, gan ofyn iddi, pa beth oedd yn ei feddwl with grefydd brofiadol.' Hithau a atebodd mai adnabyddiaeth fod y pechod wedi ei faddeu, a'i bod yn ffafr Duw. Gofynasant a oedd hi yn gwybod am ryw un oedd yn profi hyny yn yr oes hon. Hithau a atebodd ei bod, ac nad oedd arni gywilydd dywedyd ei bod hi ei hunan, trwy ras Duw, yn gwybod hyny. Hwy a atebasant, nad oeddynt wedi clywed fod modd i neb wybod hyny. Hithau a ddywedodd Wel, nid yw ein pregethwyr a'n blaenoriaid yn ein cyfrif ni yn Gristionogion hyd nes y byddwn yn profi hyn; nid ydym yn ddim ond yn unig ein bod fel rhai yn ymofyn am grefydd.' Hwythau a ddywedasant, nad oedd neb yn gwasgu hyn arnynt hwy. Ac eto y mae yn bur debyg na allasant ameu dywediadau y wraig hon, canys un ragorol yn ei hardal ydoedd."
  2. sef, Crist

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.