Caru Cyntaf (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Nyth Robin
Nesaf – Chwythu

Mae Caru Cyntaf yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


Pan eis i gynta i garu,
Nid own ond bachgen bach,
Yn methu cyrraedd cusan
Heb fynd i ben stôl fach;
Pan es i garu wedyn,
Yr own yn fachgen mawr,
Yn gallu cyrraedd cusan
A 'nwy droed ar y llawr.