Categori:David Samuel (Dewi o Geredigion)
Gwedd

David Samuel, 1856-1921. (Dewi o Geredigion), ysgolfeistr ac awdur, ganwyd yn Aberystwyth a graddiodd o Goleg Clare, Caergrawnt ym 1879. Ym 1887 agorodd ysgol ramadeg breifat yn Aberystywth ac, ym 1896, fe'i penodwyd yn brifathro Ardwyn, ysgol sir newydd y dref. O dan ddylanwad Daniel Silvan Evans, meithrinodd David Samuel ddiddordeb mawr yn yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymreig a chyfrannodd nifer fawr o erthyglau i gyfnodolion Cymraeg. Bu'n beirniadu mewn eisteddfodau ac yn arholwr ar ran Gorsedd y Beirdd, a golygodd hefyd gasgliad o faledi Cymraeg o'r enw Cerddi Cymru.
Erthyglau yn y categori "David Samuel (Dewi o Geredigion)"
Mae'r 1 tudalen canlynol yn y categori hwn, allan o gyfanswm o 1.