Neidio i'r cynnwys

Categori:Goronwy Jones, Prestatyn

Oddi ar Wicidestun

Roedd Goronwy Jones (1849-1915) yn enedigol o'r Bala. Roedd yn drafeiliwr masnachol ac yn rhan berchennog gwaith brics ym Mhrestatyn. Ei waith brics oedd yn bennaf gyfrifol am droi Prestatyn o fod yn bentref bach glan môr i un o brif gyrchfannau gwyliau ar arfordir y gogledd. Roedd yn ŵr amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a'r Ysgol Sul. Bu'n aelod o Gyngor Dinesig Prestatyn a bwrdd ysgol y dref. Fel llenor bu'n awdur tri llyfr a degau o erthyglau yn y cylchgronau Cymraeg. Roedd yn frawd i'r llenor John Williams Jones (Andronicus)[1]

Cyfeiriadau

[golygu]

Is-gategorïau

Mae gan y categori hwn yr 1 is-gategori canlynol, allan o gyfanswm o 1.

Erthyglau yn y categori "Goronwy Jones, Prestatyn"

Mae'r 3 thudalen canlynol yn y categori hwn, allan o gyfanswm o 3.