Categori:William Thomas (Cenhadwr)
Gwedd

Roedd y Parch William Thomas (1859-?) yn genhasdwr Gymreig yn Affrica. Ganwyd yn San Clêr, Sir Gaerfyrddin. Bu'n efrydydd yng Ngholegau Caerfyrddin a Swydd Gaerhirfryn a gwasanaethodd fel gweinidog yn Oldham. Wedi'i ysbrydoli gan y Mudiad Hunanwadu, fe'i penodwyd i Genhadaeth Canolbarth Affrica a gadawodd Loegr ar 9 Mai, 1893 . Cyrhaeddodd Fwambo ym mis Hydref 1894 ac ymsefydlodd yn Niamkolo. Oherwydd afiechyd dychwelodd i Loegr, gan gyrraedd ar 27 Ebrill, 1896. Ymddiswyddodd o'r Gymdeithas Genhadol ac aeth i wasanaethu fel gweinidog capel Wilbraham Rd., Manceinion.
Erthyglau yn y categori "William Thomas (Cenhadwr)"
Mae'r 1 tudalen canlynol yn y categori hwn, allan o gyfanswm o 1.