Neidio i'r cynnwys

Categori:Zachary Mather

Oddi ar Wicidestun

Zachary neu Zechariah Mather (1843-1934) Gweinidog Annibynnol Abermaw, dramodydd a llenor. Fe'i ganwyd ym Modfari, bu'n dysgu crefft saer coed ym Miwmares cyn cael ei dderbyn i Athrofa Michael D. Jones yn y Bala fel efrydydd am weinidogaeth yr Annibynwyr. Cafodd ei ordeinio yng Nghapel Saron Ffestiniog ym 1867, lle fu'n gwasanaethu hyd 1876. Ym 1876 derbyniodd alwad i wasanaethu eglwysi'r Abermaw, y Cutiau a Dyffryn Ardudwy. Wrth i'r Bermo datblygu i fod yn dref gwyliau, bu pwysau arno i ddarparu gwasanaethau Saesneg yn y capel. Gan fod cynnal dau wasanaeth yr un yn y ddwy iaith mewn un capel yn anymarferol ac yn creu pwysau gwaith enfawr iddo casglodd i agor achos Saesneg yn y dref. Adeiladwyd capel Saesneg ar ddechrau'r 1890au a rhoddodd Mather y gorau i'w fugeiliaethau Cymraeg i ddod yn weinidog yr achos Saesneg. Mae ei fedd ym mynwent Llanaber.

Is-gategorïau

Dim ond yr is-gategori sy'n dilyn sydd yn y categori hwn.